Y Selar - Mawrth 2020

Page 1

Rhif 58 // MAWRTH // 2020


www.aber.ac.uk

Diwrnodau Agored 2020

PANTYCELYN Drysau’n agor Medi 2020

0502-103737

> Dydd Mercher, 8 Gorffennaf > Dydd Sadwrn, 12 Medi > Dydd Sadwrn, 10 Hydref > Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd


y Selar Rhif 58 // MAWRTH // 2020

Golygyddol

cynnwys

W

el, dyma oedd rhifyn anodd i’w olygu! Prinder deunydd yw’r broblem fel arfer yr adeg yma o’r flwyddyn. Ond nid felly’r tro hwn, gyda llawer o enwau mawr y sin yn rhyddhau albyms yn ogystal â digonedd o artistiaid newydd gweithgar yn creu argraff. Ac mae digon ar y gweill dros y misoedd nesaf hefyd felly mae’r rhifyn nesaf eisoes yn dechrau ffurfio yn fy mhen. Anodd, efallai, ond pleser o’r mwyaf, “problem braf” fel y maen nhw’n ei ddweud! Ac hyn i gyd heb hyd yn oed sôn am y Gwobrau. Cue y trafod, y cwyno a’r anghytuno. Wrth gwrs, ni fydd yr enillwyr ym mhob categori at ddant pawb ond fel yr ydan ni i gyd yn gwybod, tydi democratiaeth ddim yn gweithio i bawb bob tro! Ond mae trafodaeth yn beth iach a gadewch i ni ddathlu’r ffaith mai cryfder ac amrywiaeth ein sin gerddorol sydd yn bwydo ac annog y drafodaeth. Fel y dywedodd rhywun rywdro, mae’n well dadlau rhywbeth heb ateb y cwestiwn na ateb y cwestiwn heb ei ddadlau. Gwilym Dwyfor

Fleur de Lys

4

Sgwrs Sydyn - Yr Eira

8

Enillwyr Gwobrau’r Selar 2019 10 Georgia Ruth

12

10 Uchaf Albyms 2019

16

Newydd ar y sin

18 24

Adolygiadau

Llun clawr: Rhodri Brooks

4

10

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

20

facebook.com/cylchgrawnyselar

HYSBYSEBION yselar@live.co.uk CYFRANWYR Lois Gwenllian, Bethan Williams, Ifan Prys, Aur Bleddyn, Gethin Griffiths, Dylan Huw, Elain Llwyd, Marged Tudur

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


Caiff “hir ddisgwyliedig” ei or ddefnyddio ond mae tyrchu trwy hen negeseuon DM Twitter Y Selar yn datgelu ein bod wedi holi Fleur de Lys am albwm newydd a oedd ar y gweill yn ôl yn Hydref 2017! Ddwy flynedd union yn ddiweddarach fe gafodd y record hir ei rhyddhau ac roedd Gethin Griffiths wrth law i holi’r hogia’.

M

ae hi’n wythfed o Ionawr. Mae hi’n flwyddyn newydd. Mae’n bryd cyhoeddi rhestr fer Band y Flwyddyn Gwobrau’r Selar. Arni, mae Gwilym a Lewys - dau o fandiau ifanc poblogaidd y blynyddoedd diweddar. Y trydydd enw, fodd bynnag, yw Fleur de Lys. Dydy Rhys, Huw, Carwyn a Siôn ddim yn hen, o bell ffordd, ond maen teimlo fel eu bod nhw wedi bod o gwmpas yn hirach na’r gweddill, rhywsut. ’Nôl yn Haf 2013 - faint oedd oed criw Gwilym a Lewys, tybed?! Bum mlynedd ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf, Bywyd Braf, mae’r band o Fôn yn parhau i fod yn enw cyfarwydd i gynulleidfa’r Selar, ond mae dipyn wedi newid yn ystod y blynyddoedd hynny. Eisteddodd Rhys Edwards a Huw Harvey fel dau athro parchus gyda diodydd meddal o’u blaenau mewn tafarn nid anenwog ym Mangor Uchaf, gan ddechrau drwy drafod eu halbwm cyntaf a ryddhawyd llynedd, O Mi Awn Ni Am Dro.

O Mi Aw n N i A m S g w r s (efo Fleur De Lys)...

4

yselar.cymru


Lluniau: ffotoNant

Pan gafodd yr albwm ei lansio yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa (neu Tafs i’r hogia’), roedd y band wedi rhoi ychydig o amser i’w dilynwyr ddysgu’r caneuon. Eglurodd Rhys... “Roedd pobl wedi dod i’r lansiad yn ’nabod y caneuon. Mi ’naethon ni ryddhau’r albwm a disgwyl pythefnos i roi cyfle i bobl wrando, cyn lansio’r copïau caled.” Er nad yw’r diwydiant yn ddibynnol ar gopïau caled bellach, mae’n amlwg eu bod yn hoff o gael gafael ar eu cynnyrch yn eu dwylo. Gallai’r cydbwysedd rhwng rhyddhau’n ddigidol ac yn gorfforol fod yn anodd, ac mae nifer o fandiau a labeli wedi treialu tactegau gwahanol. Cytuna’r ddau fod y pythefnos o ryddhau ar Spotify’n unig wedi eu galluogi i fesur llwyddiant y caneuon cyn eu chwarae’n fyw. Ond beth ydi ymateb da iddyn nhw? Beth sy’n gwneud iddyn nhw feddwl eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn iawn? Daw i’r amlwg mai ymateb y gynulleidfa mewn gigs yw’r llinyn mesur i Huw. “Os wyt ti’n gweld pobl yn canu’r geiriau yn ôl, mae hynny’n arwydd da. Ym Maes B flwyddyn dwytha, dwi’n cofio pan oeddan ni’n canu ‘Cofia Anghofia’, ’nath pobl ddechrau canu honno hefo ni. ’Di hi erioed wedi bod yn un o’r rhai sy’n cael yr ymateb mwyaf. Hyd yn oed yn ystod caneuon fel ‘Wyt Ti’n Sylwi?’ - roedd ’na ymateb i honno hefyd. Mi’r oeddan nhw jyst iawn yn canu bob cân.”

Fel canwr, mae Rhys yn dal i gael ei synnu gan yr ymateb. “Pan ti’n stopio canu a ma’ nhw’n dal i fynd, ma’ hwnna’n class o deimlad. ’Eith hynny byth yn hen.”

Rhywbeth sy’n bachu Nid pob band sydd yn cael cynulleidfa mor niferus i gyd ganu pob gair. Y gyfrinach iddyn nhw, yw ysgrifennu caneuon bachog. Mae Huw’n troi at Rhys gan honni mai’r canwr sy’n bennaf gyfrifol am hyn. “Dyna ’dw i’n licio” ateba Rhys. “Dwi’n euog o licio petha’ bachog. Boed o’n riff gitâr, yn eiriau neu’n neges, ’dw i o hyd yn chwilio am rywbeth sydd yn bachu. Does gen i ddim syniad be’ sy’n y charts. ’Dwi’n licio be’ dwi’n licio. Beth bynnag ydi’r gân, os ydy hi’n gân werin neu roc, pop neu jazz, y bachyn sydd yn sefyll allan i fi. Mae hynny’n sicr yn amlwg yn y pethau ’dwi’n ’sgwennu.” Mae natur y caneuon hyn wedi ennill cynulleidfa ifanc niferus iddynt dros y blynyddoedd diwethaf. Er i’r gynulleidfa honno gofleidio’r caneuon newydd gyda breichiau agored, mae un gân yn parhau i sefyll ar ei thraed ei hun o ran poblogrwydd fel yr eglura Rhys.

yselar.cymru

5


“‘Haf 2013’. Mae’r gân ’na’n nyts de. ’Da ni’n dod ar draws lot o bobl sydd ’mond ’di gwrando ar honna. Mae ’na rai eraill sydd wedi cychwyn efo honna, ond wedi cael eu harwain i wrando ar ganeuon eraill wedyn. I feddwl mai cân ’naethon ni sgwennu’n sydyn oedd hi i lenwi bwlch ar yr EP cyntaf, mae’n anhygoel i feddwl mai honna ydy’r un fwya’ poblogaidd. Mae ’na key change ynddi hi, hyd yn oed!” Ers y sgwrs yma, mae’r gân bellach wedi ymuno â’r ‘Clwb Can Mil’ ar Spotify, eu cân fwyaf poblogaidd ar y cyfrwng hwnnw o bell ffordd. Efallai mai dyma un o’r rhesymau sydd wedi achosi i Fleur De Lys gael ymdriniaeth negyddol gan ambell un dros y blynyddoedd, fodd bynnag. Er i ambell fand adael i’r math yma o feirniadaeth eu heffeithio nhw’n fawr, dydi Huw ddim yn meddwl gormod am hyn. “Mae ’na rai bandiau yn poeni mwy am y bobl sy’n eu barnu nhw. Mae ’na rai gigs ’sa ni byth yn ffitio mewn iddyn nhw, ond ’da ni ddim yn meindio hynny. Rhaid i chdi gofio faint o bobl sydd yn gwrando ar dy gerddoriaeth di, yn hytrach na’r rhai sydd ddim”. Mae Rhys yn adnabod rhyw fath o dueddiad deublyg yn y sin ar hyn o bryd, sy’n golygu, efallai, bod bandiau yn ffitio i un o ddau gategori. “Ella bo’ gen ti ddau deip o fandiau rŵan. Wedi dweud hynny, dwi erioed wedi teimlo pwysau i newid y ffordd ’da ni’n swnio. Dwi’n ffrindiau efo hanner y bobl sy’n y bandiau eraill. Mae pobl yn licio drama ac yn meddwl bo’ ’na ryw fath o barrier, ond does ’na ddim! Mae’n ddoniol - ’da ni ’di rhannu llwyfan efo bob mathau o fandiau, oherwydd bod y sin mor fach”. Ychwanega bod angen i artistiaid o bob math

sylweddoli bod cynnyrch sydd wedi ei ryddhau i’r byd yn gwbl agored i feirniadaeth. “Os wyt ti mewn band, neu’n fardd, neu ’neud llun, hyd yn oed, mae’n rhaid i chdi dderbyn hynny. Rhaid i chdi gymryd pethau hefo pinsiad o halen. Rhaid iddo fo blesio ni gyntaf, ac wedyn pobl eraill.”

Môn-pop Un label arall oedd yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn golau negyddol ar un adeg, oedd y label daearyddol ‘Band Sir Fôn’. “Yn y dechrau, roedd pobl ella’n troi eu llygada’ ar y ffaith ein bod ni’n fand o Sir Fôn. Ond pwy oedd gen ti pan oeddan ni’n cychwyn allan? Moniars? Meinir Gwilym? Elin Fflur? Mi oedd gen ti’r bandiau ysgol fel Crwydro. Ti’n cofio Crwydro? Band Richard Holt sy’n gwneud cacennau rŵan.” Yn fuan ar ôl iddyn nhw ddechrau, fodd bynnag, sylweddolodd y band eu bod nhw’n rhan o ryw fath o symudiad. “Dwi’m yn dweud ein bod ni wedi sbarcio rhywbeth, ond mi oedd ’na nifer o fandiau yn codi o gwmpas y lle wedyn, fel Gwilym. Ydi Gwilym yn cyfri fatha Sir Fôn? Mi oedd Terfysg yn un enw arall hefyd, mewn rhyw fath o don gyffrous.” Ond hyd yn oed wrth i enwau newydd ddod i’r amlwg ar hyd a lled yr ynys, roedd y nifer o gigs oedd yn digwydd yno’n parhau i fod yn isel. Creda’r ddau fod pethau’n newid yn raddol, a rhoddodd Huw restr o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd. “Tafarn y Rhos, yr Iorwerth ym Mryngwran, y Ffowndri

“Mae pobl yn licio drama...” 6

yselar.cymru


yn Llangefni ydi’r llefydd, mae’n siŵr. Er, wedi dweud hynny, yr Iorwerth ydy’r unig le hefo llwyfan go iawn.” Cofia Rhys fynd o gwmpas tafarndai flynyddoedd yn ôl i geisio lledaenu enw’r band, a chael ymateb oeraidd iawn. “Dwi’n cofio mynd o gwmpas pybs yn ifanc hefo CDs a lincs Soundcloud, a doedd ganddyn nhw ddim llawer o ddiddordeb. Yn sicr, doeddan nhw ddim am dalu ni i chwarae yna. Erbyn hyn, dwi’n teimlo bod yna nifer o dafarndai sy’n cefnogi cerddoriaeth Gymraeg ac isio gweld cynulleidfa Gymraeg yno.” Yr hyn sydd yn parhau i fod yn broblem, efallai, yw absenoldeb un lleoliad nodedig. “Does gen ti ddim y lle i fynd i wylio band Cymraeg. Does gen ti ddim dy Glwb Canol Dre, er enghraifft.” Mae’n debyg mai’r newid mwyaf yng ngyrfa’r band yw eu penderfyniad nhw i arwyddo ar label Côsh. I fand oedd wedi sefydlu’n barod ac wedi denu dilyniant heb gefnogaeth label, roedd yn rhaid gofyn iddyn nhw beth y maen nhw’n ei ennill drwy gytundeb o’r fath. Ateba’r ddau fel deuawd llefaru – “Proffesiynoldeb”, cyn i Huw ymhelaethu: “Trefn. Mae’n boost i ni. Doeddan ni ddim y gorau am hyrwyddo ein hunain. Er enghraifft, pan oeddan ni isio rhyddhau EP ein hunain, doedd ganddo ni ddim y gefnogaeth i bwshio’r cynnyrch yn bellach. Mae cael cefnogaeth Yws Gwynedd yn golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar y pethau sy’n cyfri.”

Mae’r cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r gerddoriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn nwylo’r band, ac maen nhw wedi sylwi ar un tueddiad dros y blynyddoedd diwethaf. “’Da ni’n cael ymateb gymaint gwell ar Instagram na unrhyw le arall. Gan fod ein cynulleidfa ni’n ifanc, yr unig beth maen nhw’n ei wneud ydi dilyn pobl ar hwnnw. ’Sa ni’n cael gymaint mwy o ymateb arno fo na union yr un post ar Facebook neu Twitter. Er dy fod di ar label - ti’n dal i orfod bod on the ball hefo petha’ fel ’na.” I gymharu ag ambell un o’r bandiau eraill sy’n rhannu’r un math o lwyfan â nhw, mae’n teimlo fel bod Fleur De Lys wedi bod hefo ni ers tipyn. Gyda Côsh yn rhoi glo ffres ar y tân, a’r gynulleidfa ifanc yn parhau i gyd ganu’r senglau newydd yn ogystal â ‘Haf 2013’, mae’n amlwg nad ydy hynny’n mynd i newid yn fuan. Os nad yw eu statws newydd fel aelodau o’r Clwb Can Mil yn brawf o hynny, mae’r ffaith eu bod nhw’n hawlio eu lle ar restr fer Gwobrau’r Selar fel Band y Flwyddyn yn sicr yn awgrymu bod yna gryn awydd am glywed mwy gan y band o’r tu draw i’r pontydd.

“Pan ti’n stopio canu a ma’ nhw’n dal i fynd, ma’ hwnna’n class o deimlad.”

yselar.cymru

7


I far yn Harbwr Sydney o bob man yr aeth Y Selar am beint (drud) efo prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn, yn ddiweddar a chael Sgwrs Sydyn efo fo am albwm newydd y band. Gwd-dê mêt. Albwm newydd allan mis Ebrill, oes yna enw? Map Meddwl - sy’n cyfeirio ar lyric allan o ‘Blaguro’ sy’n crynhoi syniadau’r albwm yn eitha’ da “Does dim ffordd hawdd o ddilyn map fy meddwl i”. Ma’ map meddwl yn wbath lle ti’n taflu llwyth o syniadau ar ddarn o bapur, ac mewn ffordd, dyma ydi’r albwm. Edrych ymlaen at ryddhau? Mae o ’di bod yn broses gweddol sydyn i fod yn onest, ’da ni ond ’di bod yn gweithio arni ers mis Awst 2019 so ’di o ddim yn teimlo fel bod yr albwm wedi dragio, sy’n amlwg yn beth da, mae o’n berthnasol i heddiw! Edrych ymlaen yn fawr i bawb gael clywed! Lle a phryd fuoch chi wrthi’n recordio? Mewn dwy sbel - un ym Medi a’r llall yn Rhagfyr - yn Stiwdio Sain hefo hogia’ Candelas! Ifan ac Osian yn cynhyrchu felly? Ia, ac Ed Boogie (cynhyrchydd Boy Azooga) yn cymysgu a mastro. Sut brofiad oedd hynny? Profiad hynod easy going a lot o hwyl! Ma’ hi’n bwysig bod mewn awyrgylch lle ti’n teimlo ddigon cyfforddus i allu

8

yselar.cymru

malu cachu yn ogystal â gallu rhoi pen lawr a gweithio. ‘Odd pawb yn bownsio’n bositif oddi wrth ei gilydd, ac Ifan ac Osh yn cyfrannu gymaint â ni at y caneuon. Wedi gweithio efo Rich Roberts a Steff Pringle yn y gorffennol, ydi hi’n bwysig arbrofi efo pobl wahanol? Dwi’n meddwl fod newid yn beth pwysig ym mhob agwedd o fywyd, a ’di hynny ddim yn wahanol wrth recordio, mae o’n dangos dy fod di fel band ddim yn aros yn llonydd ac yn cadw’r gwrandawyr ar flaenau’u traed. Ma’ hefyd yn cadw dy ddiddordeb di yn y gerddoriaeth. Sna’m pwynt i bob albwm fod r’un peth. A rhyddhau gydag I Ka Ching? Ia, ma’ nw’n sortio bob dim yn hawdd. Rhyddhau CDs ac online gobeithio a hefyd ychydig o merch i gydfynd, mashwr fydd’na ryw becyn yn cael i ryddhau ond sgen’aim mynadd meddwl am hynna ’wan! A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Dwi’n meddwl fod yna aeddfedrwydd i’r caneuon, ma’ mwy o feddwl tu ôl iddynt na just caneuon indie pop. Lot o harmonis clos, lot o synths, a lot o anthemau dwys. Tair blynedd ers rhyddhau Toddi – record na chafodd y sylw a’r clod haeddiannol - sut mae’r sŵn wedi esblygu yn y cyfamser? Ma’ agweddau pobl yn symud oddi wrth y 4-piece indie band sydd wedi bod yn dominyddu dros y blynyddoedd felly dwi’n meddwl fod angen addasu ychydig. Ma’r albwm ychydig yn fwy polished na’r dwytha, llai o gitârs jangly a mwy o synnau cynnes a llawn! Mae ’na aeddfedrwydd yn perthyn i’r caneuon a ’da ni’n gobeithio ’gall bawb berthnasu efo rhain. ’Da ni hefyd wedi buddsoddi mewn offer gwahanol felly ma’ ‘na ddefnydd o synths, pads a gitârs ychydig yn wahanol. Ma’ Tryst yn dipyn o foi ar sbotio bargen!


Scaggs, o The Lemon Twigs i Mac Miller. Dwi a Tryst yn dueddol o wrando ar yr un math o betha’ a gan mai ni nath rhan fwya’ o’r gwaith sgwennu odd y trywydd yn un cyfarwydd i’r ddau ohonom

Mae si am ambell sypreis a gwestai arbennig, alli di ddatgelu unrhyw beth? Ma’ bandiau’n dueddol o edrych yn bell am westai arbennig ar albwm. Gafo ni think am ambell berson i ymuno ond weithia’ does na’m angen edrych yn bellach na ’chydig gamau fyny grisha’r tŷ yng Nghaerdydd. Dwi a Gwyn Rosser (Los Blancos) ’di bod yn sgwennu hefo’n gilydd ac yn malu cachu ar y gitârs ers dyddia’ coleg felly ’odd o’n naturiol ei gael o i ganu ar un o’r traciau! ’Da ni wedi aeddfedu hefo’n gilydd ac mae o’n syniad lot gwell defnyddio rywun sy’n rhannu’r un profiadau dyddiol â chdi ar gân nag edrych at rywun ti ddim wir yn ’nabod. Ydi’r hen ystrydeb am “yr ail albwm anodd” yn wir? I’r gwrthwyneb, lot llai o pressure a lot mwy o bethau i sgwennu amdanynt! Pa fath o gerddoriaeth oeddech chi’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Bob math o betha’ i ddeud y gwir, o Twin Peaks i Boz

Hoff albyms I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff ail albwm? We Are the 21st Century Ambassadors of Peace & Love - Foxygen Hoff albwm y degawd sydd newydd orffen? Blonde gan Frank Ocean (sydd hefyd yn ail albwm) Hoff albwm gan artist neu fand sydd ag enw yn ymwneud â’r tywydd? Ydi Muddy Waters yn cyfri’?

Oes ’na rai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Dwi wir methu clywed gormod o neb yn y caneuon, sy’n beth da! Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Y ddwy ola’ – ‘Corporal’ a ‘Caru Cymru’ – ma’ rhaid gwrando arni fel un gân mewn gwirionedd - felly neb i roi shuffle! Ma’r enw’n cysylltu hefyd, Corporal Caru Cymru, cyfeiriad at bawb sy’n mynd ar away days Cymru. Diweddglo bywiog. Hefyd yn ffan o un ddistaw, ‘Newid’, lle nath Carwyn Eckley ysgrifennu’r geiriau fel y gnath o i ‘Toddi’ ar yr albwm ddwytha – ma’ ganddo ddawn hefo geiriau! Pa un fydd yr “hit”? Mwy na thebyg ‘Pob Nos’ fydd y sengl fwya’ boblogaidd, sef y gân lle ma’ Rosser yn gneud appearance. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un ydach chi fwyaf balch ohoni? Cwestiwn da, dwi’m yn hollol siŵr, falla ‘Esgidiau Newydd’ oherwydd yr holl waith harmonîs! Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion difyr neu droeon trwstan? Rhys Tomos yn dod mewn i neud ychydig o vocals ar y rhai o’r caneuon, llais falsetto nath orfodi ni stopio recordio am tua awr. Edrych ymlaen at ei glywed o’n canu’r rhain yn fyw. Odd defnyddio’r Rhodes ar bron bob cân yn dipyn o brofiad hefyd! Mae elfennau socio-political eithaf amwys yn dy lyrics di fel arfer. Allwn ni ddisgwyl mwy o hynny ar Map Meddwl? Deffinet, ma’r geiria fel ma’r enw’n ei awgrymu’n grynodeb o syniadau sy’n digwydd o fewn fy map meddwl bach i, syniadau yn datblygu o dor calon i lymder bywyd Cymreig, dim byd rhy bositif. Oes yna gynlluniau lansio a gigio? Taith mis Ebrill gobeithio. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gyd-fynd â gwrando ar yr albwm? Unrhyw weithgaredd unig mewn gwirionedd i allu perthnasu efo rhai o’r alawon a’r geiria’. Cerdded, neu ddreifio neu hyd yn oed gysgu. Caewch eich llygaid a gwrando, dwi’n gobeithio ’gnewch chi ddarganfod elfennau newydd pob tro. Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Gwell na albwm newydd Sŵnami. yselar.cymru

9


Enillwyr Gwobrau’r Selar 2019 Yn ystod wythnosau olaf mis Rhagfyr casglwyd bron i fil o bleidleisiau gan ddarllenwyr Y Selar i benderfynu ar enillwyr Gwobrau’r Selar eleni. Dyma pwy ddaeth i’r brig...

Cân Orau (Noddir gan PRS for Music) RHESTR FER: • Babi Mam – Alffa • \Neidia/ – Gwilym • Dan y Tonnau – Lewys ENILLYDD: \Neidia/ – GWILYM Doedd dim albwm gan Gwilym eleni, ond roedd ‘na gwpl o senglau bachog oedd yn hits mawr ar y tonfeddi ac mewn gigs byw. Mae’r synths ar ‘ \Neidia/’ yn awgrymu esblygiad i sŵn albwm cyntaf Gwilym, ac os ydy hon yn arwydd o’r hyn sydd i ddod yna all Gwilym ond tyfu mewn poblogrwydd.

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau

(Noddir gan Hansh)

(Noddir gan Technegol)

RHESTR FER: • Dan y Tonnau – Lewys • Dyma Ni – Fleur de Lys • Gwalia – Gwilym

RHESTR FER: • Clwb Ifor Bach • Sesiwn Fawr Dolgellau • Recordiau Côsh

ENILLYDD: Gwalia - GWILYM Dyma gategori sydd wedi dod yn fwyfwy cystadleuol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i raglenni cerddoriaeth S4C gynhyrchu mwy o fideos caneuon ar y naill law, a bandiau’n creu rhai’n annibynnol ar y llall. Dau fideo annibynnol ac un gan y BBC sydd ar y rhestr fer, a’r Gorfforaeth sy’n mynd â hi!

ENILLYDD: CLWB IFOR BACH Mae gwaith hyrwyddo Clwb yn ymestyn ymhell y tu hwnt i furiau a llwybrau Stryd y Fuwch Goch bellach. Nhw sy’n gyfrifol am ŵyl aml-leoliad fawr y brifddinas, Sŵn, ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am brosiectau gwych fel Merched yn Gwneud Miwsig.

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) Gruff Rhys

10

Llun: ffotoNant

yselar.cymru

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rownd a Rownd) RHESTR FER: • Elis Derby • Mared Williams • Rhys Gwynfor ENILLYDD: Elis Derby Da gweld tri enw newydd ar y rhestr, a thri sydd wedi dechrau sefydlu eu hunain o ddifrif dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Elis Derby’n gwybod sut i sgwennu tiwn, a thrwy gigio’n rheolaidd mae’n amlwg wedi creu cryn argraff ar bleidleiswyr Gwobrau’r Selar.


Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis) RHESTR FER: • Tafwyl • Gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Steddfod Llanrwst • Sesh Maes Barcar ENILLYDD: Tafwyl Gyda hanner y nosweithiau’n cael eu canslo, dim Maes B ar y rhestr fer eleni, er bod presenldeb gigs amgen y Steddfod yn amlwg, gan gynnwys gig munud olaf ardderchog Sesh Maes Barcar yn Llanrwst. Er hynny, yr ŵyl ddinesig fawreddog sy’n cipio’r wobr.

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa) RHESTR FER: • ORIG! – Gai Toms a’r Banditos • Chawn Beanz – Pasta Hull • Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig – Alffa ENILLYDD: Chawn Beanz – Pasta Hull Gweithiau celf gwych gan Justin Davies (ORIG!), Carl Tango (Chawn Beanz) a Steff Dafydd (Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig). Clawr albwm Pasta Hull gan Carl Tango sy’n mynd â’r wobr am yr eildro, gan efelychu ei gamp gydag Achw Met ddwy flynedd yn ôl.

Cyflwynydd Gorau

Seren y Sin

Band Gorau

(Noddir gan Ochr 1)

(Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

RHESTR FER: • Aled Hughes • Ffarout • Yws Gwynedd ENILLYDD: Yws Gwynedd Tri enw haeddiannol iawn o glod ar y rhestr fer eleni, a’r tri’n gwneud gwaith ardderchog mewn gwahanol ffyrdd gan amlygu pwrpas a phwysigrwydd y categori yma. Wrth gwrs, mae pawb wrth eu bodd ag Yws Gwynedd ac mae ei arweiniad gyda Recordiau Côsh wedi helpu sefydlu rhai o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion) RHESTR FER: • Ynys • Spectol Haul • Kim Hon ENILLYDD: Kim Hon Lot o fandiau ac artistiaid newydd da iawn wedi ymddangos yn ystod 2019 a difyr gweld cwpl ohonyn nhw ar y rhestr fer sy’n cael eu ffryntio gan wynebau profiadol. Er fod Ynys, prosiect newydd Dylan Huws wedi ffrwydro i amlygrwydd, caneuon cofiadwy a setiau byw arbennig band newydd Iwan Fôn, Kim Hon, sy’n mynd a hi eleni.

RHESTR FER: • Lewys • Gwilym • Fleur de Lys ENILLYDD: GWILYM Mae ‘na shifft amlwg wedi bod yn y categori yma dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i enwau mawr y blynyddoedd blaenorol gamu fymryn i’r neilltu a gwneud lle i fandiau newydd cyffrous. Tri o grwpiau mwyaf poblogaidd y sin ar y rhestr fer, a dim syndod gweld y mwyaf poblogaidd ohonyn nhw oll ar hyn o bryd yn dod i’r brig am yr ail flwyddyn yn olynol.

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) RHESTR FER: • Diwedd y Byd – I Fight Lions • Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal • Tafla’r Dis – Mei Gwynedd ENILLYDD: Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal Diolch i’r arfer o ryddhau mwy o senglau’n ddigidol, mae recordiau byr, neu EPs yn mynd yn bethau prin ond mae ‘na dal le pwysig iddyn nhw yn ein barn ni. Fe wnaeth Papur Wal fanteisio’n llawn ar gyfrwng yr hen EP, gan adeiladu naratif cryf o gwmpas eu record gyntaf...ac mae’n chwip o record dda sydd wastad yn help!

Kim Hon

(Noddir gan Heno) RHESTR FER: • Tudur • Garmon ab Ion • Huw Stephens ENILLYDD: TUDUR Yr union un rhestr fer a llynedd digwydd bod...a’r union un enillydd hefyd! Does dim modd dadlau gyda phoblogrwydd Tudur Owen - boi doniol, boi da. yselar.cymru

11


Lluniau: Rhodri Brooks

yselar.cymru

12


M A I , F I S D I FA I , Y N DY F O D Saith canrif ers i Dafydd ap Gwilym ganu clodydd mis Mai, dyna’n union a wna un arall o artistiaid Aberystwyth, Georgia Ruth, ar ei halbwm diweddaraf. Lois Gwenllian fu’n holi mwy ar ran Y Selar. hithau’n brynhawn oer, gwlyb o Ionawr, peth rhyfedd yw trafod y gwanwyn a’r hyn sy’n ei wneud mor arbennig. Mae’n teimlo’n rhy bell i ffwrdd i fod yn cyffroi am y peth. Ond fedra’ i ddim llai ’na chyffroi wrth glywed y cerddor, Georgia Ruth, yn siarad am y tymor sy’n gweld byd natur yn ailddeffro yn ei holl wyrddni. Eglura hi wrtha’i pam mai hon yw’r ddelweddaeth sy’n ganolog i’w albwm newydd, Mai, fydd allan ym mis Mawrth. “Yn fras, heb fod yn hollol explicit, ro’n i eisiau cyfleu’r profiad o fod yn fam eitha’ newydd achos cerddoriaeth yw’r ffordd i mi gael pethe mas.” Mae gan Georgia a’i gŵr, Iwan, fab bach a anwyd ym mis Medi 2017. “Felly [pan ganwyd ef] ro’n i’n mynd mewn i ddiwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf, a ’nath y gwanwyn droi mewn i rywbeth o’n i’n obsessed gyda fe. O’n i’n gwybod fod e’n dod, achos o’n i’n cerdded gyda phram rownd parcie Caerdydd bob dydd, ro’n i’n gweld y tymhore’n newid ac o’n i’n sylwi ar natur mewn ffordd do’n i ’rioed wedi o’r blaen. O’n i’n gweld y lliwiau’n fwy cryf, roedd y gwyrdd yn fwy cryf wrth i’r coed newid. Roedd popeth fel ei fod e’n eitha’ psychedelic. “Felly, dechreues i edrych ar garolau haf, sef ffurf draddodiadol o gyfarch y gwanwyn. Caneuon fel ‘Mae’r Ddaear yn Glasu’. Mae llyfr gwych gan Arfon Gwilym a Sioned Webb, ‘Canu Haf’, sef casgliad o’r carolau haf ’ma. Maen nhw i gyd yn sôn am yr union bethe o’n i’n gweld, fel lliwiau’r dail a’r elfen ysbrydol ’na o fyd natur. O’n i jyst isie gwneud

natur a bod ’na rhyw ddinistrio bydeang sy’n digwydd. “Ie, so, themâu eitha’ trwm! Ond ’dw i ddim yn meddwl ei fod e’n albwm trwm. Mae’n albwm positif. Gobaith yw’r prif beth amdano.”

Rhywbeth greddfol

albwm oedd efo’r teimlad yna, sef Mai. Roedd mis Mai jyst yn rhywle o’n i wastad yn anelu amdano fe yn oerni’r gaea’.” Ac wrth gwrs, wrth dalu teyrnged i dymor y gwanwyn mae’n anodd osgoi’r argyfwng hinsawdd sy’n digwydd ar hyn o bryd. Felly a fentrodd i fynd i’r afael â hynny hefyd? “Wrth gwrs, mae ’na gymaint o sôn wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf am newid hinsawdd. A gydag un bach adre, o’n i’n meddwl lot am hynna. Be’ ’dyn ni wedi’i wneud i’r blaned? Be’ ’dw i wedi’i wneud i’r blaned? O’n i’n trio meddwl am y ddeuoliaeth ’na o addoli natur, bron, ac eto ni’n gwybod ni ddim yn addoli

Eleni, mae saith mlynedd ers i Week Of Pines gael ei rhyddhau, record a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig i Georgia, a phedair blynedd ers Fossil Scale a gafodd ei henwebu am yr un anrhydedd. I unrhyw un sy’n gyfarwydd â cherddoriaeth Georgia, byddwch yn gwybod fod y ddau albwm yn wahanol iawn i’w gilydd. Gofynnaf iddi felly, a fedrwn ni ddisgwyl rhywbeth gwahanol eto gyda Mai? “’Dw i’n meddwl pan fydd pobl yn clywed y record bydd e’ dal yn swnio fel be’ maen nhw’n disgwyl, sydd falle ddim yn wir am y ddiwethaf. Felly tasen i’n gorfod disgrifio, fydden i’n dweud ei bod hi rhyw hanner ffordd rhwng y ddwy. “O’n i’n teimlo efo’r ail record, roedd rhywbeth yndda i oedd isie torri mas. Fi’r teip ’na o berson, fi’n mynd yn stressed os ’dw i’n gwybod bod rhywun yn disgwyl rhywbeth penodol gen i. Mae rhywbeth greddfol yndda i i ddweud ‘na’ a dyna oedd y ddiwetha’ mewn ffordd. Doedd e ddim yn albwm hawdd i’w wneud, lle gyda Week Of Pines ’nath e’ jyst llifo mas yn reddfol. A’r tro ’ma roedd e’n teimlo fel bod fi’n mynd nôl i rywbeth greddfol. Oedd e’n rili braf; bron fel ffeindo dy hunan eto. ’Dw i’n credu bo’ fi ’di llwyddo gyda hynny.” yselar.cymru

13


“CE R D D O R I A E T H Y W ’R F F O R D D I M I G A EL P E T H E MA S.” Hyd yma, un sengl sydd wedi’i rhyddhau oddi ar yr albwm sef ‘Close For Comfort’ sy’n teimlo’n fwy fel y Georgia Ruth glywson ni am y tro cyntaf. Ai albwm gwerinol allwn ni ei ddisgwyl? “’Dw i wedi mynd yn fwy gwyliadwrus o roi label neu gategori i’r gerddoriaeth oherwydd y syniad ’na o adael pobl i lawr. ’Naeth hwnna rili effeithio arna’ i efo’r ail record achos o’n i’n gwneud be’ oedd yn teimlo’n iawn i mi. Pan fi’n gwneud record, fi’n taflu’n hunan i mewn a gweld beth sy’n digwydd. Do’n i ddim yn ystyried ’mod i’n gwneud rhywbeth yn wahanol iawn i’r record gynta’. “Ond wrth gwrs, i bobl oedd wedi mwynhau’r gynta’ roedd e’n wahanol iawn. Oedd pobl yn dweud ‘O, ti ’di symud i ffwrdd o gerddoriaeth werin…’, ac o’n i fel ‘O reit, ie, falle bo’ fi wedi.’ Ond mae cerddoriaeth werin yn rhywbeth sy’n rhan ohona’ i ac ddim yn rhywbeth i gael ’madael arno fe. Mae’n rhywbeth sydd yndda’ i ac mae’n mynd a dod. “Mae’r traddodiadau dal mor bwysig i mi, yn enwedig efo offeryn fel y delyn yng Nghymru. ’Dw i’n credu ei bod hi’n amhosib chwarae heb droi un glust i’r gorffennol. Mae hi mor bwysig i wybod o le ti wedi dod. I mi, mae’r delyn yn rhan o bwy ydw i. Os yw’r gerddoriaeth yn swnio’n werin? ’Dw i ddim yn gwybod, ‘na i adael hwnna i’r gwrandawyr benderfynu. Ond, y tro hwn mi oeddwn i eisiau cael y teimlad gwlad yn ôl, o’n i isie’r Americana eto. Trwy’r tair blynedd ddiwetha’ ’dw i wedi bod yn gwrando ar lot o stwff canu gwlad fel Gram Parsons a Townes Van Zandt. A Kath Bloom - roedd hi’n artist ’naeth rili ddylanwadu arna’ i.

14

yselar.cymru

“Mae caneuon yr albwm yn eitha’ syml mewn ffordd, yn ganeuon noeth. Do’n i ddim isie gormod o or-gynhyrchu a gorfeddwl. Roedd rhywbeth eitha’ pleserus am jyst dweud, ‘reit, dyma’r offerynnau sy’ gynnon ni ac mae wythnos gyda ni i recordio a beth bynnag sy’n digwydd, dyna fydd ar y record.’ Felly, dim lot o amser cynllunio, ond roedd gen i’r ffydd ’ma mewn rhoi’r grŵp o’r cerddorion ’ma mewn ’stafell am wythnos efo Iwan Morgan sydd yn gynhyrchydd mor sensitif - mae e’n deall ac yn darllen pobl, ti ’mod? - y bydden ni’n creu rhywbeth o’n i’n hapus efo fe.”

Mynd adre bob nos Y cerddorion roddodd hi ei ffydd ynddyn nhw oedd, Dafydd Hughes yn drymio, Iwan Huws yn chwarae gitâr, organ a mwy, a Steve Black ar y bas: mae Georgia’n dweud wrtha i “’dw i ’di bod wrth fy modd efo Steve ers blynyddoedd, gyda Sweet Baboo, mae ’na ryw bounce i’r ffordd mae e’n chwarae”. Ar y ffidil mae Angharad Davies, sy’n chwarae cerddoriaeth arbrofol a minimalistaidd. Cyfarfu’r ddwy ar raglen wythnosol Georgia ar Radio Cymru, cyn mynd ymlaen i gyd-weithio ar brosiect Edrica gan Gwenno Saunders yng Ngŵyl y Llais yn 2018. Yna, mae cerddor o Fachynlleth, Ailsa Mair Hughes, yn chwarae’r soddgrwth a’r fiol. Eglura Georgia; “Mae’r fiol fel proto-cello. Mae’n offeryn oedd yn eitha’ poblogaidd yng nghyfnod y Baroc. Felly pan ’wedodd hi ei bod hi’n chwarae’r offeryn ’ma, ddywedes i ‘plîs der’ â fe!’ Fe ddaeth e’ â sŵn rili gwahanol i’r albwm.”

Ac i gwblhau’r “crack team” fel galwodd hi nhw, mae Rhodri Brooks ar y pedal steel, Laura J Martin, o Lerpwl, ar y ffliwt a’r piano ac wrth gwrs Georgia ei hun. Roedd hi’n broses wahanol iawn o fynd ati i recordio yn ôl Georgia. “Y ’stafell lle ’naethon ni recordio oedd Neuadd Joseph Parry ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n un o’r ’stafelloedd ’ma lle ti’n cerdded mewn ac mae’n edrych yn Jane Austen-aidd, efo rhyw luniau ar y wal ymhob man a’r lliwiau i gyd yn eitha’ Georgian. Oedd e’n wahanol iawn i mi, achos ’dw i wedi arfer bod mewn stiwdios. Roedd y neuadd yn arfer cael ei defnyddio, drwy’r ganrif dd’wetha i recordio cyngherddau siambr. Rwy’n caru stiwdios, ond doedd e’ ddim yn bosib i mi y tro hyn achos oedd babi bach ’da fi ar y pryd. Felly dd’wedes i wrtha i fy hun, bydd rhaid i mi fod yn Aber a gallu mynd adre bob nos a bydd e’ ddim fel y records ’dwetha lle ti’n cau dy hun off o’r byd a bwyta a chysgu yn y stiwdio. Roedd popeth yn wahanol tro ’ma.” Mae’n amlwg o’r ffordd mae Georgia’n siarad am Mai ei bod hi wedi cyffroi amdano, ac mae’r cyffro hwnnw’n heintus. Wrth orffen fy nghoffi a ffarwelio gyda Georgia mae’r haf yn teimlo’n bell i ffwrdd, ond yn y cyfamser gallaf o leiaf wrando ar Mai, cau fy llygaid ac am gyfnod a dianc i’r gwanwyn.

Bydd Mai allan ym mis Mawrth a bydd Georgia yn gwneud taith hyrwyddo fer i gyd-fynd.


“R O E D D P O P E T H YN WA H A N O L T R O ’MA.”

yselar.cymru

15


Prin fod wythnos yn pasio bellach heb i ni weld o leiaf cwpl o senglau Cymraeg newydd yn cael eu rhyddhau ar lwyfannau digidol. Ydy, mae’n oes y sengl ddigidol a’r sin Gymraeg yn dilyn y don yn ddigon llwyddiannus chwarae teg. Er hynny, mae bywyd yn yr hen LP o hyd ac roedd 30 o albyms wedi eu cynnwys ar bleidlais ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar 2019, a da o beth am hynny. Mae defnyddio senglau i sefydlu eich hunain yn iawn, ond daliwch i anelu at albyms yn y tymor hir plîs artistiaid – dyma fydd eich gwaddol.

Dyma ddeg uchaf albyms 2019 ym marn pleidleiswyr Gwobrau’r Selar Y Cyhuddiadau – Dafydd Hedd Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Awst Albwm cyntaf y cerddor ifanc poblogaidd o Fethesda, ac mae’n amlwg ei fod wedi llwyddo i greu argraff. Mae’r canwr-gyfansoddwr addawol yn rhestru The 1975, Panic at the Disco a Twenty One Pilots ymysg ei brif ddylanwadau, ac mae adlais o hynny i’w glywed ar y caneuon. Gŵr ifanc, ond themâu aeddfed sydd i’r casgliad gan gynnwys cariad, tristwch, cymuned a bywyd modern.

10

Arenig – Gwilym Bowen Rhys Label: Sbrigyn Ymborth Rhyddhawyd: Mehefin Trydydd albwm unigol Gwilym Bowen Rhys, ac un sy’n debycach i’w record hir gyntaf, O Groth y Ddaear, na’r ail. Yng ngeiriau Gwil, mae’r casgliad yn ceisio gwthio ffiniau cerddorol ond gan gadw’n driw i’w ddaliadau acwstig. Mae ‘Byta Dy Bres’ a’r trac teitl, ‘Arenig’ yn uchafbwyntiau.

9

Pang! - Gruff Rhys Label: Rough Trade Records Rhyddhawyd: Medi Chweched albwm unigol canwr a gitarydd poblogaidd y Super Furry Animals a Ffa Coffi Pawb, ac yr un cyfan gwbl Gymraeg cyntaf ers Yr Atal Genhedlaeth a rhyddhawys yn 2005. Albwm a ddatblygwyd yn ‘annisgwyl’ yn ôl Gruff, ac un

8

16

yselar.cymru

sydd wedi’i gynhyrchu gan yr artist electroneg a chynhyrchydd uchel ei barch o Dde Affrica, Muzi. Fel y byddech chi’n disgwyl gan Gruff, casgliad o draciau pop cwyrci ond bachog sy’n mynd yn sownd yn eich pen, gyda ‘Bae Bae Bae’ a ‘Niwl o Anwiredd’ yn ddwy sy’n sefyll allan. Joia! — Carwyn Ellis & Rio 18 Label: Banana & Louie Records Rhyddhawyd: Mehefin O un o gerddorion pwysicaf ei genhedlaeth i un arall – Carwyn Ellis. Dyma chi foi sydd wedi perfformio dros y byd i gyd mewn gyrfa liwgar, a sydd bob tro’n dod a syniad unigryw a dyfeisgar i’r bwrdd pan ddaw at ei gynnyrch unigol. Y tro hwn mae’n mynd i’r afael a’i obsesiwn â cherddoriaeth Brasil ac yn llwyddo i greu casgliad cysyniadol sy’n beryglus o heintus. “Mae’r cyfieithiad Portiwgaleg o ‘joia’ yn crisialu’r casgliad – groovy. Dyma drac sain 2019, ac yn fy marn i, un o albyms gorau’r flwyddyn.” [Ifan Prys, Y Selar, Awst 2019]

7

Blodau Papur — Blodau Papur Label: I KA CHING Rhyddhawyd: Awst Wedi cyfnod yn perfformio dan enw Alys Williams a’r Band penderfynwyd i ail-enwi’r ‘siwpyr grŵp’ yma’n Blodau Papur ar ddechrau 2019. A gyda chasgliad o gerddorion mor ddawnus ag Osian

6

Williams, Branwen Williams, Aled Hughes a Gwion Llewelyn yn ategu llais anhygoel Alys, mae’n siŵr bod hynny’n benderfyniad da. Wedi ambell sengl, cafodd eu halbwm cyntaf groeso cynnes yn yr haf. “Yma ceir casgliad cryf o ganeuon amrywiol sy’n amlygu talent pob un ohonynt fel cantorion, offerynwyr a chyfansoddwyr.” [Lois Gwenllian, Y Selar, Awst 2019] Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig — Alffa Label: Recordiau Côsh Rhyddhawyd: Tachwedd Mae Alffa wedi creu enw go iawn i’w hunain diolch i boblogrwydd eu senglau ar y prif lwyfannau digidol – ‘Gwenwyn’ a ‘Pla’ yn arbennig. Canlyniad llwyddiant ffrydio ‘Gwenwyn’ oedd ariannu albwm cyntaf y grŵp roc o Lanrug, ac wele ymddangosiad yr albwm hwnnw ar feinyl lliw ym mis Tachwedd – ac mae’n bangar! “Waw. Dyma i chi beth maen nhw’n ei alw’n gampwaith cerddorol! Mewn un gair – syfrdanol.” [Megan Tomos, Y Selar, Mawrth 2020]

5

Hip Hip Hwre – 3 Hwr Doeth Label: Recordiau Noddfa Rhyddhawyd: Rhagfyr Rhyddhawyd albwm cyntaf 3 Hwr Doeth heb fath o rybudd, na chwaith o wybodaeth am fodolaeth y grŵp, ar ddydd Nadolig 2017. Roedd tipyn mwy o edrych ymlaen at ryddhau ail albwm y cymundod hip-hop yma o Gaernarfon ac mae’n amlwg nad yw

4


10

9

8

7

6

5

4

3

2

wedi siomi. “Drwy wthio’r ffiniau’n gyson gyda’u geiriau amrwd a’u curiadau heintus, mae 3 Hwr Doeth yn sicr yn llwyddo bod yn wreiddiol, heriol ac anarferol.” [Rhys Ifor, Y Selar, Mawrth 2020]

Sbwriel Gwyn – Los Blancos Label: Recordiau Libertino Rhyddhawyd: Medi Trwy ddamwain bron mae Los Blancos wedi llwyddo i sefydlu eu hunain fel un o brif fandiau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae personoliaeth ddi-hyd yr aelodau’n gweddu eu sŵn slacyr diog, ond peidiwch cael eich twyllo – dyma fand sydd o ddifrif am eu cerddoriaeth a sy’n cynnig rhywbeth arbennig iawn i’n sin ar hyn o bryd. Er bod llawer o’r caneuon wedi eu rhyddhau fel senglau eisoes, maent yn cyfuno â’r traciau llai cyfarwydd i ffurfio cyfanwaith taclus fydd yn dal ei dir am flynyddoedd i ddod. Vamos Los Blancos!

Iaith y Nefoedd – Yr Ods Label: Lwcus T Rhyddhawyd: Tachwedd Mae trydydd albwm llawn Yr Ods yn brosiect cysyniadol uchelgeisiol sy’n eu gweld yn cydweithio â’r awdur gwych o Gaerdydd, Llwyd Owen. Mae’n drac sain i gyd-fynd â nofela dywyll Owen sy’n porteadu Cymru ddystopaidd anobeithiol. Er y thema tywyll mae melodiau cryf cyfarwydd Yr Ods yn treiddio trwy’r casgliad, gyda’r canlyniad yn gasgliad cofiadwy arall. “Dyma albwm pwerus tu hwnt, a chyfanwaith sy’n boddi mewn dychymyg sy’n annisgrifiadwy o apelgar.” [Ifan Prys, Y Selar, Mawrth 2020]

3

2

O Mi Awn Am Dro – Fleur De Lys Label: Recordiau Côsh Rhyddhawyd: Hydref Er gwaethaf safon uchel y recordiau hir a ryddhawyd yn ystod 2019, mae’r albwm sydd ar frig y rhestr, ac yn cipio teitl ‘Record Hir Gorau’ Gwobrau’r Selar, wedi denu dros ddwywaith gymaint o bleidleisiau’r cyhoedd ag unrhyw un arall! Does dim amau poblogrwydd Fleur De Lys pan ddaw at gigs byw, ac mae’n amlwg fod albwm llawn cyntaf y grŵp o Fôn yr un mor boblogaidd. Tiwns bachog, llwyth o hwyl, a chydig bach o lwch hudol Rich Roberts – ryseit berffaith am albwm roc da. I ddyfynu canwr y grŵp, Rhys, yn y rhifyn hwn “’Dwi’n licio be’ dwi’n licio”… ac mae’n amlwg bod llawer iawn o bobl yn licio Fleur De Lys!

1


N ear w y yd dSin

Chwe mis ers ein rhifyn diwethaf, mae tomen o stwff newydd wedi denu sylw Y Selar yn y cyfnod hwnnw. Tri phrosiect cyffrous sydd yn Newydd ar y Sin y tro hwn, un deuawd swynol, un artist wedi ail ddyfeisio’i hun ac un hen wyneb yn dychwelyd gyda cherddoriaeth a band newydd.

Priøn Hanes Bydd un hanner Priøn yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Selar, Arwel Lloyd (Gildas, Al Lewis Band) yw un o gerddorion mwyaf gweithgar y sin. Yr un mor brysur ar y sin eisteddfodol, bydd sawl un ohonoch yn adnabod wyneb Celyn Cartwright hefyd. Arwel sy’n egluro sut y daeth y ddau fyd ynghyd i greu Priøn. “Mi nath Celyn ofyn i mi gyfeilio iddi ar gyfer cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar ddiwedd 2018, ath cwpl o ymarferion yn sesiynau sgwennu. O hynny mi ddath ’na gwpl o ganeuon ac odde ni’n gweld fod y sain yn reit neis. Erbyn dechrau 2019 roedd ’na fanc o ganeuon ac mi benderfyno’ ni ddechre recordio nhw.” Mae’n teimlo fod Priøn wedi ymddangos allan o unman ac er eu bod wedi gwneud “cwpl o gyfweliadau radio a sesiynau byw” eglura Arwel eu bod wedi canolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu a recordio’r deunydd. “Mi ’yda ni wedi rhyddhau tair sengl [‘Bur Hoff Bau’, ‘Bwthyn’ a ‘Poced Cot’] sydd wedi cael ymateb ffafriol iawn hyd yn hyn a ’da ni’n hapus iawn hefo’r sain.” Rhyddhawyd yr albwm ar Ddydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror ac mae’r casgliad cyfan eisoes yn ennyn ymateb cadarnhaol iawn a gobaith y

ddau yw trosglwyddo’r caneuon hyn i’r llwyfan dros y misoedd i ddod. “O ran gigs, ’da ni yn dal i chwilio ac yn barod i neud wbeth rili felly cysylltwch gyda ni!” Sŵn Disgrifia Arwel y sain “fel rhyw fath o americana / alt-country Cymraeg”. Lleisiau Celyn ac Arwel sy ond yn gyfeiliant iddynt mae llu o gerddorion profiadol. “Ma’ ’na bobl fel Matt Ingram (Laura Marling, The Staves) ar y dryms, Sion Llwyd (Elin Fflur, Al Lewis Band) ar y bas a Gareth Thorrington ar y keys. Ma’ llinynnau hudolus y Mavron Quartet ar hanner yr albwm hefyd o dan drefniant Geraint Cynan.” “Bandiau fel The Civil Wars a Lewis & Leigh sydd wedi ysbrydoli ni i fentro fel hyn, o’n i’n gweld deuawdau yn bethe prin yn y sin yng Nghymru, ac mae ’na wastad gysylltiad cryf wedi bod gyda deuawdau a chanu gwlad yma.” Beth nesaf? Canolbwyntio ar hyrwyddo’r albwm yw blaenoriaeth Priøn yn y tymor byr gyda’r ddau’n “gobeithio gigio cymaint ag y gallwn ni dros yr haf - mae ’na dipyn yn y dyddiadur yn barod!” Ond ni fydd hynny’n golygu anghofio’r stiwdio’n gyfan gwbl fel yr eglura Arwel, “Mi fasa’n syniad i ni sgwennu mwy hefyd i gyfoethogi ein set byw!”

Magi Hanes Roedd Magi Tudur yn un o ser ifanc y sin nôl yn 2015/16 ond teg dweud ei bod wedi bod yn gymharol ddistaw ers hynny. Wel... hawdd y gellir meddwl hynny. Gydag enw newydd, delwedd newydd a cherddoriaeth gwbl wahanol, mae hi nôl. “Neshi ddechrau newid fy sŵn yn haf 2019. ’Odd fy hen ganeuon wedi’u sgwennu pan o’n i’n 15 felly mae fy nhast wedi newid erbyn hyn (dwi’n 20 rŵan). Mae fy nghaneuon newydd yn cyd-fynd yn fwy efo be’ dwi’n licio gwrando arno. Felly neshi ryddhau’r sengl gyntaf efo sŵn gwahanol, ‘Blaguro’, ddiwedd Awst 2019. Neshi 18

yselar.cymru

grêt oherwydd ma’ Ceiri i mewn i’r un miwsig â fi ac felly mae o’n berffaith ar gyfer y job o recordio a chynhyrchu fy ngherddoriaeth yn ei stiwdio.”

newid fy enw i jest “Magi” i roi llechen lân fel petai. Ym mis Rhagfyr, nes i ryddhau fy ail sengl, ‘Golau’, ac mae wedi cael ymateb da.” Yn gweithio’n agos gyda Magi ar y sain newydd mwy electronig y mae Ceiri Humphreys (Pys Melyn). “Mae’n

Sŵn Nid ail-ddyfeisio’i hun dim ond o ran gwneud y mae Magi wedi ei wneud, mae yna newid nodedig yn y steil, fel yr eglura ei hun. “Oedd fy sŵn pan oni’n 15 neu 16 yn fwy gwerinol ac acwstig. Rŵan mae fy sŵn ella mwy electronig a seicedelig masiwr. Dwi’n chwarae efo Pys Melyn, felly mae Ceiri yn rhoi’r marc alternative ’na ar fy nhraciau sy’n debyg i steil Pys Melyn ar adegau. Dwi’n ffan mawr o Gwenno a ’swn i’n deud ei bod hi’n


Llun: Gruff Owen

Mêl Hanes Cofio Jen Jeniro, hoff fand pob mîwso o werth? Mae colled ar eu hôl ond y newyddion da yw, wedi blynyddoedd o fygwth gwneud rhywbeth, mae’r prif leisydd enigmatig, Eryl Prys Jones (Pearl) yn ôl gyda phrosiect newydd. “Roedd gen i ambell gân wedi hanner recordio’n hynod flêr ers cwpl o flynyddoedd,” eglura. “Nes i feddwl ei bod yn hen bryd i mi sortio fy hun allan a chael go ar ddechra’ band eto! Nes i’r pethau o chwith braidd: mynd at Llŷr Pari gynta’ i recordio dwy gân tua mis Medi llynedd, ac yna ffurfio band a dechra’ ymarfer tua Tachwedd; nid y ffordd orau na hawsaf, ond mae pethau’n dod at ei gilydd reit daclus erbyn hyn.” Rhyddhawyd y sengl ‘Mêl i Gyd’ ar label Libertino ym mis Tachwedd ac mae mwy ar y ffordd yn fuan. “Bydd ail sengl o’r enw ‘Plisgyn’ allan tua cychwyn Mawrth efo cyfres o gigs i gydfynd. Yna, gobeithio, bydd mwy o sylw radio a theledu ac felly fideo a rhagor o gigs... cawn weled.”

Llun: Betsan Haf Evans

un o fy nylanwadau yn sicr. Pobl eraill dwi’n lecio gwrando arnynt ydi Cate Le Bon a Gruff Rhys.” Beth nesaf? Cyd-bwyso ei hastudiaethau a chreu cerddoriaeth fydd yr her i Magi yn y dyfodol ond mae’n amlwg ei bod yn awyddus i roi ei stamp ar y sin gyda’i cherddoriaeth newydd. “Dwi’n astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd felly ma’ fy amserlen yn eithaf llawn. Ar y funud, dyna yw fy mlaenoriaeth ond dwi’n trio cyfansoddi yn fy amser sbâr, mae gen i keyboard yn fy ’stafell yn Senghennydd. Gobeithio ga’i wneud dipyn dros y Pasg a’r Haf ac yn y dyfodol ’swn i’n licio rhyddhau albwm o dan label Ceiri, ski-whiff.”

Sŵn Mae seicedelia Dyffryn Conwy bron a bod yn genre ynddi’i hun gyda Jen Jeniro yn rhan annatod o’i hanes. Ond sut sain sydd i stwff newydd Pearl? “Mae’n anodd crynhoi’r sŵn cyffredinol ar hyn o bryd... mae yna gwpl o ganeuon eitha’ ‘poppy’ a chonfensiynol (e.e. ‘Mêl i Gyd’ ) ac ambell un arall dipyn tywyllach, hirach a chyfoes. Fyswn i ddim yn ei ddisgrifio fel ‘psychedelia’, ond mae ‘na sicr rhywbeth rhyfedd yna! Rhestra Eryl Beta Band, Pink Floyd (cynnar), Datblygu ac MC Mabon fel rhai o’i ddylanwadau cerddorol ond daw ei ysbrydoliaeth o du hwnt i gerddoriaeth hefyd. “Amryw o feirdd a cherddi (o’r gorffennol pell yn fwy na dim) a hefyd sefyllfa Cymru a’r achos am Weriniaeth Drofannol Annibynnol!” Beth nesaf? Wedi “cryn newid, re-shuffles a thrafferth” mae band Mêl bellach wedi ffurfio gydag Eryl yn cael cwmni Rhodri Owen a Morgan Jones ar y gitârs, George Amor ar y bas a’r allweddellau a Chris Hopwood ar y dryms. “Rŵan bod y line-up wedi ei gadarnhau a setlo o’r diwedd, y bwriad ydi parhau i ymarfer a jamio bob wythnos er mwyn bod yn barod i wneud argraff go iawn erbyn i’r ail sengl gael ei lansio. Yna, gigio mwy a gwneud albwm nes ymlaen yn y flwyddyn. Yn y tymor hir, duw a ŵyr... dibynnu sud eith’i!” yselar.cymru

19


Llun: Ani Saunders

20

yselar.cymru


Mewn eitem newydd sbon byddwn yn dysgu mwy am ysbrydoliaeth a dylanwadau rhai o wynebau cyfarwydd y sin. Pa berson, digwyddiad a lle sydd wedi eu dylanwadu? Pa gyfnod sydd wedi eu hysbrydoli? Pam eu bod yn gwneud cerddoriaeth?

Y

n ymgymryd â’r her y tro hwn y mae Ani Glass. Mae’r artist electronig o Gaerdydd ar fin rhyddhau ei halbwm cyntaf, Mirores, ar Recordiau Neb ym mis Mawrth. Dair blynedd ers rhyddhau’r record estynedig, Ffrwydrad Tawel, mae Ani wedi bod yn hynod brysur yn datblygu ei sain a chrefft unigryw i wasanaethu ei gweledigaeth. Yn ogystal â theithio Cymru a thu hwnt yn perfformio, mae Ani wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn dysgu crefft recordio a chynhyrchu gan alluogi ei hun i hunan-gynhyrchu’r record newydd. Gwnaeth hyn i gyd tra’n astudio am radd feistr a doethuriaeth ym maes datblygu trefol a gwladol, ac mae’r astudiaethau hynny wedi dylanwadu’n fawr ar themâu’r albwm. Ond... beth arall sydd wedi dylanwadu a llywio gyrfa gerddorol Ani...?

Pwy? Heb os, y person mwya’ dylanwadol i mi oedd y cynhyrchydd Martin Rushent. Fe weithies i gydag e tra yr oeddwn i mewn band - sawl blwyddyn yn ôl nawr - a dysgu llawer am y broses o recordio a chynhyrchu. Roedd ei agwedd tuag at gerddoriaeth bop a’i ymroddiad i’r broses o greu wedi cael cryn argraff arnaf. Nid oedd e’n un i ruthro drwy ei waith, yn wir, roedd yna adegau pan deimlwn ei fod yn eithriadol o araf, ond y gwir amdani oedd ei fod yn berffeithydd. Gan fy mod wedi cael y profiad o ysgrifennu, recordio a chynhyrchu fy albwm fy hun erbyn hyn, mi ydw i nawr yn llwyr ymwybodol fod y pethau hyn yn dueddol i gymryd llawer iawn (iawn iawn) o amser.

Beth?

Ges i brofiad gwbl wallgo’ un tro pan oeddwn yn aelod o’r band The Pipettes; fe gawsom wahoddiad gan Dywysoges Caroline o Monaco i’r ‘Rose Ball’ - sef ei pharti blynyddol i ddathlu dechrau’r gwanwyn. O’r dechrau hyd at y diwedd, mi oedd yr holl beth yn boncyrs. Fe wnes i beth gwaith ymchwil cyn mynd ac felly’n ymwybodol y byddai Karl Lagerfeld (prif gynllunydd Chanel ar y pryd) yn y gynulleidfa. Fel cynfyfyrwraig ffasiwn, roedd hyn yn freuddwyd! Un rheswm roeddwn yn awyddus iddo fod yno oedd achos fi wnaeth greu’r ffrogiau wnaethon ni wisgo ar gyfer y perfformiad. Wel! Fe fues i’n ddigon ffodus i gwrdd ag e, a chi’n gwybod be’ ddwedodd e wrtha’i...? “You wear silly dresses”. A dwi’n dal i wneud Karl, dal i wneud! Ond doedd dim byd fwy boncyrs na’r cyfuniad o’r bandiau a ddewiswyd i chwarae ar y noson, The Pipettes, The Fratellis a Chuck Berry! Ar ben hyn i gyd, fe gawsom y cyfle i ganu gyda Chuck Berry, rhywbeth dwi’n dal i feddwl amdano bob tro y byddaf yn clywed ‘Johnny B. Goode’.

Lle? Efallai ei fod yn ddewis amlwg i’w wneud ond un lle dwi wir yn caru yw Efrog Newydd. Mae e mor bresennol a dylanwadol o fewn diwylliant fel na ellir ei osgoi mewn gwirionedd. Yn debyg i ddinasoedd mawr fel Llundain, Paris a Berlin, mae NYC wedi bod yn ganolbwynt i ddatblygiadau a chwyldroadau celfyddydol felly mae mynd yno yn rhoi rhyw gyd-destun i mi o’r cyfnodau hyn. Un o fy hoff gyfansoddwyr yw Philip Glass (dyna le ges i’r enw) ac mi oedd e, ynghyd ag un o fy hoff artistiaid yn y byd – Arthur Russell - yn rhan o’r sin avant-garde yn ystod yr 1980au cynnar, a phan fyddai’n gwrando ar eu cerddoriaeth fe allaf glywed, a bron gweld prysurdeb y ddinas.

Pryd?

O ran dylanwad cerddorol, fydda’i bob tro’n dewis yr 1980au cynnar pan roedd cerddoriaeth electroneg yn dechrau cyrraedd y brif ffrwd. Rwy’n hoff iawn o waith Martin Rushent (Human League, Altered Images, Pete Shelley), Giorgio Moroder (Donna Summer), Trevor Horn (Frankie Goes to Hollywood, t.A.T.u), Jean-Michel Jarre (fy hoff albwm yw Équinoxe) a Vangelis (fi’n caru ei sgôr ar gyfer Blade Runner) ymhlith eraill. Ond i gyfeirio nôl am eiliad at Efrog Newydd ar ddechrau’r 80au gyda phobl fel Philip Glass, Steve Reich ac Arthur Russell - mae’r ffordd roedden nhw’n datblygu syniadau o’r amgen a chreu digwyddiadau ag allbynnau eu hunain i’w gwaith yn rhywbeth sy’n fy ysbrydoli ac yn siapio fy ffordd o weithio.

Pam?

Mae’n anodd esbonio pam yn union dwi’n neud cerddoriaeth. Wrth gwrs, mae’n braf iawn pan fod pobl yn clywed dy gerddoriaeth ac yn mwynhau, mae’n lot o hwyl neud gigs a pherfformio ar hyd y lle ac mae’n deimlad go arbennig meddwl dy fod â’r gallu i neud pobl yn hapus. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen (a dwi’n credu y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio o fewn y celfyddydau yn cytuno) dwi ‘di dod i’r casgliad fy mod yn creu achos fod yn rhaid i mi. Mae’n fwy o obsesiwn nag unrhyw beth arall mewn gwirionedd. Y tu hwnt i resymau personol, dwi’n credu’n gryf mewn ysgogi pobl eraill – yn enwedig merched ifanc – i fynegi ei hunain drwy’r celfyddydau a chreu naratif eu hunain. Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn teimlo fod lle iddyn nhw, bod eu llais yn bwysig a’u bod yn rhydd i ddehongli’n diwylliant ym mha bynnag ffordd sy’n atebol iddyn nhw a’u cyfoedion. Dyddiadau Teithio ‘MIRORES’ Ani Glass 2020 6 Mawrth Clwb Ifor Bach, Caerdydd 7 Mawrth Pontio, Bangor 13 Mawrth Siop Recordiau Spillers, Caerdydd 14 Mawrth Tŷ Pawb, Wrecsam 21 Mawrth Siop Recordiau Tangled Parrot, Caerfyrddin. yselar.cymru

21


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Yn falch o noddi Gwobrau’r Selar www.ydds.ac.uk

Am eich holl anghenion diogelwch a digwyddiadau cysylltwch efo Emlyn Jones ar 07980 714019 Swyddogion a Stiwardiaid Cymraeg ar gyfer pob math o ddigwyddiad ar draws Cymru! www.diogelevents.weebly.com


Llun: ffotoNant

Gyda’i albwm cyntaf, 3, allan ers cwpl o wythnosau, Elis Derby yw mochyn cwta Y Selar mewn eitem newydd sbon danlli. Y sialens i’r cerddor o’r Felinheli, mewn dim ond brawddeg yr un, ydy cyflwyno’r albwm, Drac Wrth Drac.

1. Laru Trio dynwared The Strokes, original title – ‘Dwisho Bod Yn Ffrindia Efo Glyn Wise’. 2. Sut Allai Gadw Ffwrdd Cân Saesneg yn wreiddiol, a fy sengl gynta’ erioed. 3. Rhywle ‘Blaw Fan Hyn Y trac ‘Brother’ gan Mac DeMarco yn ddylanwad mawr ar hon. 4. Nostalgia FM Ysgrifennwyd wrth fwrdd y gegin rhyw ddiwrnod glawog ym Manceinion, dylanwad The Smiths/Y Cyrff.

Wrth iddi ryddhau ei sengl Gymraeg/Punjabi newydd, ‘Deud y Gwir’, y seren Bhangra, yr YouTubewraig a’r flogwraig sy’n wreiddiol o Gricieth, Nesdi Jones, sy’n sôn am gydbwyso hynny oll gyda bod yn fam newydd. “Dyna’r canu ’di mynd ’de?” “Diwedd Nesdi rŵan ia?” Dyna’r brawddegau nes i ’glywed pan gyhoeddais y newyddion fy mod i’n feichiog. O edrych yn ôl, ie, dylsa fi fod yn flin. Ond i fod yn onast? Roeddwn i’n teimlo’r un peth. Pan welais y ddwy linell mi griais, a naci, dim mewn hapusrwydd ond mewn sioc llwyr. ’Da chi’n gweld, dwi’n gantores newydd orffen “mental health sabbatical” ac o dan bwysau i gadw i fyny gyda chyflymder y diwydiant cerddoriaeth, roeddwn i’n poeni y bysa egwyl arall yn beryg i fy ngyrfa. Tra’n feichiog roedd gweithio mewn cerddoriaeth yn hawdd. Mi wnes i recordio caneuon, perfformio a ffilmio music video! Ond pan gyrhaeddodd Cadi-Glyn? Wel, roedd hynny’n stori wahanol. Fe wnaeth

gorbyrder cymryd gafael arna i felly wnes i ddim gig am amser hir. Roedd pobl yn gofyn “So Nesdi Jones has quit music now?”. Roeddwn i’n gorfod gwasgu gwaith i mewn i ‘nap times’ neu pan oedd nain a taid yn mynd â’r bychan am dro. Roedd fy gig cyntaf i yng Nghaerdydd gyda thîm YouTube Prydeinig, profiad anhygoel ond dwi’n siŵr bod fy mam yn blino cael neges gen i’n gofyn am updates a lluniau bob awr! Wrth gwrs dwi wrth fy modd bod yn fam. Dwi wedi gwirioni’n lân gyda fy merch, OND dwi yn methu gallu jyst cymryd day off a mynd i’r stiwdio, cael amser i fi fy hun i ysgrifennu caneuon ayyb. Ar rai adegau roeddwn i wedi troi prosiectau munud olaf i lawr oherwydd bod neb yn gallu gwarchod. Roeddwn i’n gorfod newid fy ffordd o feddwl i wneud pethau’n haws i ni fel teulu a bod y fam orau i CadiGlyn. Ar adegau mae’r plant yn dod efo ni i gigs. Yn lle recordio munud olaf, nawr mae gen i ddyddiadur a rhifau ffôn fy nheulu ar stand by! Mae o wedi cymryd dros flwyddyn i ffeindio’r balance ond ’da ni wedi ffeindio ffordd i wneud o weithio,

ac yndi, mae o’n gallu bod yn chaotic dros ben! Mae Cadi yn ddwy oed mis Mai. Rydw i newydd ryddhau cân (fersiwn Gymraeg/Punjabi a Saesneg/Punjabi) heb label, jyst help gan ffrindiau a theulu. Rydw i wedi cychwyn sianel arall ar YouTube a dwi’n gweithio llawn amser. Dwi’n cael y “ti ddim yn gall” trwy’r amser a dwi newydd gychwyn astudio iechyd meddwl mewn coleg yn Birkenhead felly mae’r “ti ddim yn gall” yn dod yn amlach nawr! Ydw i’n stressed weithiau? Yn amlwg. Ydw i’n mwynhau fy mywyd? Wrth gwrs. Dwi ’di dysgu, gyda help gan dy deulu/ffrindiau, dyddiadur da ac amser i edrych ar ôl chdi dy hun; mae unrhywbeth yn bosibl. Dwi yn gallu bod yn fam dda ac yn gantores lwyddiannus.

Colofn wadd

Nesdi Jones

5. (Pe Taswn I’n Gallu ) Hedfan Lyrics quirky, hoffi’r gytgan, un o fy ffefrynnau. 6. Cwcw Cyfansoddwyd ddiwrnod neu ddau cyn mynd i’r stiwdio i ddechrau ar yr albwm. 7. Gwydred Arall Sôn am noson geshi yn y Glôb ym Mangor rhyw dair blynedd nôl. 8. Disgwyl Am Yr Alwad Cân bop syml, cyfeirio at y diffyg signal ffôn yn tŷ ni. 9. Yn Y Bôn Aaah ah-ah ah, ah ah-ah aaah! 10. Sgrifen Ar Y Walia Sôn am blaid wleidyddol benodol dwi rili rili rili ddim yn licio.


adolygiadau Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig/ Freedom from the Poisonous Shadows Alffa Waw. Dyma i chi beth maen nhw’n ei alw’n gampwaith cerddorol! Mae Dion a Siôn wedi bod yn brysur yn gosod safon yn yr SRG, ac mae’n rhaid i mi ddweud, dwi jyst eisiau mwy a mwy. Mae’r wlad gyfan yn browd o lwyddiant y ddau yma hyd yn hyn, ac mae’r albwm yma wir yn destament i ba mor haeddiannol ydyn nhw o’r clod. Mae Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig/Freedom from the

Poisonous Shadows yn hynod o bwerus. Drwy riffiau trwm a churiadau grymus, mae Dion a Siôn yn llwyddo i fynd â chi i fyd tywyll a chyffrous old school rock. Mi ydw i’n synnu sut mae’r fath sŵn yn dod allan o ddim ond deuawd! Mae’r albwm yn plethu synau craff ac egnïol gyda lyrics sy’n delio gyda phynciau dwys megis perthnasau ac iechyd meddwl dynion. Dydw i erioed wedi gwrando ar drac mor bwerus yn y Gymraeg a ‘Babi Mam’ – mae’n iasol, mae’n ddychrynllyd

Hip Hip Hwre 3 Hwr Doeth Wedi sefydlu eu hunain fel un o berfformwyr byw mwyaf cyffrous Cymru bellach, hwn yw’r ail albwm 3 Hwr Doeth ar label Recordiau Noddfa. Nid yw 3 Hwr Doeth yn dal nôl, a rhoddant bortread o realiti byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Cyffyrddai’r albwm ar lawer o faterion cymdeithasol cyfredol. Ceir agwedd wleidyddol yn ‘Anatomy’, lle soniant am sefyllfa anffyniannus Cymru ym Mhrydain Fawr heddiw dros guriadau aeddfed. Maent yn ategu’r agwedd hon yn ‘Jôc y Wlad’, sydd wedi’i henwi’n addas wrth ystyried sut y beirniadent wleidyddion anghymwys a barus y wlad. Daw ‘SlingDick Droppin’ The Bassline’ â llinell fas ffynci sy’n dod ag atgofion o gerddoriaeth I-Dot. Yma trafodir y gymdeithas bresennol sy’n gaeth

ac yn trafod neges hynod o bwysig. Yn sicr mae’r albwm yn profi gallu’r ddau yma i ysgrifennu cerddoriaeth gydag urddas ac angerdd – rhywbeth sy’n gallu bod yn brin iawn yng ngherddoriaeth heddiw. Dwi’n licio bod ambell beth i’r digymraeg ar yr albwm hefyd. Mae rhywbeth i bawb yn hwn i ddweud y gwir, hyd yn oed os nad ydych yn ffans roc fel arfer! Mewn un gair – syfrdanol. MEGAN TOMOS

i’r cyfryngau cymdeithasol a cheir llawer o gymariaethau pwerus, megis pobl yn gweld likes fel maeth angenrheidiol i deimlo’n dda. Ceir alawon bachog a RHAID churiadau melfedaidd yn ‘Ol GWRANDO Yella’ a ‘Gwymab Tîn’, a geiriau chwareus yn ‘Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi’ a ‘CONT FM’. Daw’r albwm i glo gydag un o ganeuon byw mwyaf poblogaidd y grŵp, ‘Biji Bo’. Anodd iawn yw cwffio’r reddf naturiol i nodio’ch pen gyda thraciau’r albwm hwn. Drwy wthio’r ffiniau’n gyson gyda’u geiriau amrwd a’u curiadau heintus, mae 3 Hwr Doeth yn sicr yn llwyddo bod yn wreiddiol, heriol ac anarferol. Os nad ydych wedi’u gweld yn perfformio’n fyw eto – ewch. Os nad ydych wedi gwrando ar yr albwm ’ma eto – gwnewch! RHYS IFOR


Gosodir y dirwedd ddinesig i albwm cyntaf Ani Glass o’r dechrau’n deg gyda gwichian trên yn cyrraedd gorsaf ar ddechrau’r gân gyntaf, ‘The Ballet of a Good City’. Daw’r recordiadau hyn o fywyd bob dydd yn mynd rhagddo yn llinyn wedi hynny sydd yn ein harwain trwy’r traciau ar daith o amgylch Caerdydd. Os mai ‘The Ballet of a Good City’ sydd yn gosod y dirwedd, ‘Peirianwaith Perffaith’ sy’n gosod y naws ar gyfer y casgliad, naws dywyll, ddirgel a sinistr, arallfydol bron. ‘Ynys Araul’ sy’n dilyn gyda’i churiadau trwm trwchus yn eich gorfodi i symud yn anwirfoddol (peidiwch â gwrando trwy glustffonau ar drafnidiaeth gyhoeddus!) Gyda’r llwyfan wedi’i osod, fel y caneuon yn unigol, parhau i adeiladau yn ddidrugaredd a wna’r albwm wedi hynny, yn drosiad addas o un o brif themâu’r gwaith, datblygu/gor-ddatblygu dinesig, “Coedwig o

adeiladau yn codi... Ond ni’n gaeth i gerrynt cynnydd”. Nid yw’r defnydd effeithiol o samplo wedi ei gyfyngu i synau, clywir llawer o leisiau trwy gydol y record, rhai cyfarwydd fel Huw Edwards a Ron Davies a rhai dieithr fel ryw foi randym yn gofyn “what are you recording for?” ar deitl-drac y casgliad, ‘Mirores’. Ond efallai mai’r uchafbwynt yn hynny o beth yw recordiad munud o hyn o Gôr Cochion Caerdydd yn canu’r gân brotest o Dde Affrica, ‘Freedom is Coming’. Y peth sy’n eich taro wrth wrando ar y casgliad yn ei gyfanrwydd yw’r ôl gwaith sydd arno. Mae posib gwneud caneuon electronig eitha’ syml ond does dim o hynny ar Mirores, maent i gyd yn llawn haenau cymleth o guriadau, seiniau, melodïau, samplau a lleisiau. Mantais hyn wrth gwrs yw ein bod fel gwrandawyr yn mynd i gael profiad gwahanol bob tro wrth wrando. Taith wahanol. GWILYM DWYFOR

Iaith y Nefoedd Yr Ods

Mai Georgia Ruth

Er yn gyfanwaith tywyllach ei naws o’i gymharu â chynnyrch blaenorol, does dim dwywaith fod melodïau iasol Yr Ods yn treiddio eto fyth yn eu trydydd albwm. Wedi’i ysbrydoli gan nofel fer Llwyd Owen, dyma brosiect cysyniadol sy’n berwi o drychineb ac anobaith y Gymru ddystopaidd sy’n ganolog i’r casgliad. Yn sgil hynny, ceir tinc o hiraeth yn y gerddoriaeth yn amlach na dim, gyda sawl hook yn codi gwallt eich pen. Elfen sy’n atgyfnerthu’r ing hiraethus hwnnw ydi’r ymdeimlad barddonol sy’n perthyn i’r geiriau. Yn drwm o themâu sy’n ymdrin â thristwch a chasineb, llwydda’r cysyniad apocalyptaidd i’n tynnu mewn i’r byd dychmygol hwnnw sy’n adlewyrchiad o ddyfodol pydredig ein gwlad. Yn sgil y cyswllt Cymreig uniongyrchol, bron ein bod ni’n teimlo agosatrwydd i’r gerddoriaeth wrth inni olrhain ein tynged. Ochr yn ochr â hynny, mae’r genres ynghlwm â’r traciau’n pwmpio ofn ac ansicrwydd trwy’r casgliad. Mae pop trwm electronig ‘Teimlo’n Braf’ yn eich rhoi ar ochr eich sedd, tra mae buzz anthemig ‘Rhyfel Oer’ yn blaguro ymdeimlad gwladgarol, gyda’r riff gitâr yn gatharsis llwyr. Mae ‘Tu Hwnt i’r Muriau’ yn ddrych awgrymog i’n ffyrdd hunaniaethol ni, ac yn enghraifft o’r pop prysur a chyffrous ’de ni’n adnabod y grŵp amdano. Mae ‘Am Y Tro Olaf’ ar y llaw arall yn efelychu diwedd y daith, trac electronig arbrofol sy’n adlais o’u doniau cerddorol a chreadigol ffres a chyfoes. Dyma albwm pwerus tu hwnt, a chyfanwaith sy’n boddi mewn dychymyg sy’n annisgrifiadwy o apelgar. Ma’ hi’n styc yn fy mhen i ers misoedd, a tydi hi’m yn pasa gadael yn fuan.

Gyda Mai gwelwn Georgia Ruth yn dychwelyd at seiniau gwerinol a chanu gwlad ei halbwm cyntaf wedi’u gwisgo gyda delweddau o natur a gobaith. Yn ganolog i sain yr albwm mae’r delyn - offeryn a gymerodd, efallai, droed ôl ar record ddiwethaf Georgia. Yn y casgliad o un gân ar ddeg gref, mae yma bedair sy’n sefyll allan i mi. Ymhlith rheiny mae ‘Close For Comfort’, y sengl gyntaf oddi ar yr albwm. Cân Americana am geisio dod o hyd i’r ffordd yn ôl o le tywyll neu ddryslyd. Hefyd, mae ‘Madryn’, un o ganeuon mwy upbeat yr albwm â’i geiriau hwiangerddaidd a’i rhagarweiniad direidus. I mi ‘Terracotta’ yw’r gân sydd wedi cydio fwyaf ac o bosib yr un mwyaf amwys. Hon yn bendant yw cân fwyaf bachog y record - mi fydd llinell gyntaf y gytgan yn troi a throi yn eich pen am oriau. Rhaid tynnu sylw, hefyd at drac teitl yr albwm, ‘Mai’, sef geiriau cerdd Eifion Wyn ar drefniant newydd gan Georgia ei hun. Er ei bod yn hir, yn dros chwe munud, dw i’n credu ei bod hi’n llwyddo i ddal y gwrandawr. Mae natur a’r awch am ddyfodiad y gwanwyn yn thema amlwg drwy’r albwm. Rhai o’r traciau eraill gwerth eu nodi yw ‘Cynnes’ sy’n dwyn i gof adeiladwaith cyson ‘Week Of Pines’ gyda strymio persain y delyn yn cadw’r tempo’n un ymlaciol braf. Ar ‘Brychni’ y piano yw’r prif offeryn a hon o bosib sy’n gwyro’n bellaf oddi wrth sŵn cyffredinol Mai. Mae’n record gref sydd fel y thema sy’n dew drwy’r caneuon yn gweld Georgia Ruth yn blaguro’n artist hyderus.

IFAN PRYS

LOIS GWENLLIAN

adolygiadau

Mirores Ani Glass


adolygiadau

3 Elis Derby

Lloer Brigyn

Roedd 40% o albwm cyntaf Elis Derby, 3, wedi eu rhyddhau eisoes ar ffurf senglau a dwi’n meddwl fod hynny’n beth da. Does yna ddim traddodiad cryf iawn o ddefnyddio senglau’n effeithiol i hyrwyddo record hir yn y sin Gymraeg ond mae’n dechneg sy’n gweddu’n berffaith i gerddoriaeth Elis Derby. Mae yna ryw naws ifanc cŵl yn ei gylch ac mae ganddo ddawn arbennig o greu caneuon pop bachog sy’n teimlo’n gyfarwydd yn syth. Ac wrth gwrs, diolch i farchnata effeithiol, mae traciau fel yr anthemig, ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd’ a’r cofiadwy, ‘Disgwyl am yr Alwad’ gyda’u riffs heintus yn ffefrynnau erbyn hyn ac yn gosod sylfaen cadarn i’r gweddill. Ac er nad pawb sy’n hoffi “Ah-ah-ah-ah’s” mewn caneuon mi ddiffeia’i unrhyw un i aros yn llonydd tra’n gwrnado ar ‘Yn y Bôn’. Ac eniwe, roedd o ddigon da i’r Beatles (ac Yr Ods!). O ran y caneuon sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf ar 3, mae geiriau ‘Laru’ a ‘Petaswn I’n Gallu (Hedfan)’ yn dda iawn, ceir guitar solo hynod secsi ar ‘Rhywle ’Blaw Fan Hyn’ ac mae ‘Nostaligia FM’ yn arddangos gallu lleisiol Elis. Ond yr uchafbwynt i mi yw’r gân olaf. Mae ‘Sgrifen Ar Y Waliau’ yn wleidyddol, yn amserol, wedi’i sgwennu’n dda a’i strwythuro fel y dylai unrhyw ddiweddglo cryf i gasgliad. Offrwm cyntaf hynod dda.

Dwi’n gresynu na wnes i wrando ar yr albwm hwn cyn y Nadolig – mae o rywsut yn gweddu’n well i ddiwedd blwyddyn pan fo’r dyddiau’n byrhau yn hytrach nag ymestyn. Yn nodweddiadol o gynnyrch Brigyn, caneuon sy’n gorfodi rhywun i ymdawelu ac arafu sydd yma a da hynny mewn oes brysur. Dyma gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a hen ffefrynnau fel y glasur a chân fwyaf adnabyddus Brigyn; ‘Haleliwia’. Yr hyn sy’n nodedig am yr albwm yw’r cyfranwyr sy’n ymddangos ar wahanol draciau; Delyth ac Angharad Jenkins, Gareth Bonello, Bryn Terfel, Meinir Gwilym a Linda Griffiths. Dyma arbrawf diddorol oherwydd ychwanega pob cyfrannwr sŵn a haenau newydd i’r albwm. Er enghraifft, cyfranna llais Meinir Gwilym ar ‘Llanc Ifanc o Lŷn’ i naws freuddwydiol a rhamantus y geiriau. Mae ‘Fy Nghân i Ti’ ar y cyd â Linda Griffiths yn enghraifft wych o asio a phriodas gerddorol sy’n gweithio. Cân na lwyddodd cystal yw ‘Nos Ddu’ efo Delyth ac Angharad Jenkins. Peryg gwneud cyfyrs ydi na fyddan nhw cystal â’r gwreiddiol ac mae arna i ofn mai dyna deimlais wrth wrando ar ‘Nos Ddu’. Mae’r cyfuniad o lais iasol Heather Jones a sŵn ffynci a rythmig y gitâr yn rhan o’r hyn sydd wedi gwneud y gân yn eiconig. O’i thawelu a’i harafu, roedd hi’n rhy neis rhywsut ac yn colli ei hapêl i mi. Mae blas o’r crefyddol yn y canu hefyd. Mwynheais ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ gyda Bryn Terfel – er dwi’n dipyn o ffan o’r fersiwn sydd ar Caneuon Plygain a LlofftStabal a tydi fersiwn Brigyn a Bryn ddim yn rhagori ar Barti Fronheulog!

GWILYM DWYFOR

MARGED TUDUR

Yn Fyw o Stiwdio Sain Band Pres Llareggub gyda Tara Bethan a Mared Williams Pedair cân wedi’u recordio’n fyw fel rhan o ddathliadau Sain yn hanner cant sydd ar y casgliad byr yma. Triniaeth hoff fand pres pawb sydd ddim yn licio bandiau pres o ambell glasur ôl-gatalog y cwmni recordiau chwedlonol. Dwi’n ffan enfawr o lais Mared Williams ac mae ei dehongliad hi o glasur Anweledig ‘Chwarae dy Gêm’ ar y casgliad hwn yn agos at berffeithrwydd i mi. Gan ymddiheuro i Fand Pres Llareggub, fe alla’i unrhyw un fod wedi bod yn cyfeilio, doedd fy mrên bach i methu prosesu llawer mwy na fy obsesiwn efo llais Mared. Peth braf felly oedd cael clywed y band yn serennu ar y ddau drac nesaf, ‘Chwarae’n Troi Chwerw’ ac ‘Yma o Hyd’. Mae’r ddwy wedi ymddangos ar recordiau ganddynt ac yn ffefrynnau o’u sioeau byw ond eto, roedd rhyw wefr o’r newydd wrth eu clywed yn eu perfformio’n fyw yn Sain ei hun. Gwestai arall i orffen ac os mai Mared Williams yw un o leisiau gorau’r sin, yna Tara Bethan yw un o’n perfformwyr gorau. Mae 2 funud a 44 eiliad cyntaf y gân yma yn iawn, ma’n neis. Yna, mae Tara’n torri i mewn i rap can-milltir-yr-awr anhygoel ac yn llwyddo i roi chwistrell o fywyd newydd i’r hen glasur. Ac am ddiweddglo addas i’r gân a’r dathliadau, yn parchu’r gorffennol wrth edrych tua’r dyfodol. GWILYM DWYFOR


Newydd, amserol! Brathiad newydd bob dydd o gomedi, cerddoriaeth, straeon a syniadau.

HOFFI RHANNU DILYN @hanshs4c

£7.99

£8.99

£9.99

£6.99 .com

Llyfrau dros Gymru


Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Dechreuwch eich gyrfa gyda Phrifysgol Abertawe! Wyddech chi y gallwch astudio Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) Uwchradd gyda Statws Athro Cymwys (QTS) gyda Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP) gyda ni? Mae’r pynciau arbenigol yn cynnwys: • • • • • • • • •

Bioleg Cemeg Cyfrifiadureg Cymraeg Dylunio a Thechnoleg Saesneg Mathemateg Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg a/neu Sbaeneg) Ffiseg

Mae ein rhaglenni Addysg Uwchradd TAR arloesol a chydweithredol yn dechrau ym mis Medi 2020. Byddwch yn gweithio'n gydweithredol ag arbenigwyr pwnc yn ein rhwydwaith o ysgolion partner ledled Cymru yn ogystal â Thiwtoriaid ac Ymgynghorwyr Academaidd o Brifysgol Abertawe, gan roi'r cyfle i chi wella eich gwybodaeth am bwnc a datblygu arferion addysgu proffesiynol ac effeithiol. Bydd eich astudiaethau'n cynnwys darlithoedd yn y Brifysgol, lleoliadau mewn ysgolion a diwrnodau profiadau amgen. Saesne ac mae tîm lleoliadau mewn ysgolion pwrpasol a mentrau Mae cyfle i astudio yn Gymraeg neu'n Saesneg, hyfforddiant athrawon ar gael i fyfyrwyr cymwys.

 +44 (0) 1792 604835

pgce-enquiries@abertawe.ac.uk

www.abertawe.ac.uk/tar


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.