Y Selar Bach 10 - Chwefror 2022, Dydd Miwsig Cymru

Page 1

Y SELAR BACH Y CYLCHGRAWN CERDDORIAETH CRYNO AR GYFER PLANT BLYNYDDOEDD 5–8 • RHIFYN 10 • CHWEFROR 2022

H T Y D Ä E

n n y f y i f i h r h r y dy annd B Ba

Croeso i rifyn diweddaraf Y Selar Bach! Wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2022, roedd jyst rhaid i ni fynd ati i baratoi rhifyn o’r Selar Bach i’w rannu gydag ysgolion ledled Cymru. Beth ydy’r Selar Bach? Wel cylchgrawn cerddoriaeth bach i’ch cyflwyno chi i’r gerddoriaeth, a newyddion cerddoriaeth iaith Gymraeg ddiweddaraf.

Ym mhob rhifyn, rydyn ni’n rhoi sylw arbennig i un band neu artist penodol, ac yn y rhifyn yma, y gantores electronig wych, Eädyth, ydy ‘Band y Rhifyn’. Mae Eädyth wedi bod yn cyd-weithio gyda Dydd Miwsig Cymru eleni i dynnu sylw at gystadleuaeth Ysgol POP! a gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i gystadlu a dangos eich talent cerddorol.

Ym mhob rhifyn o’r Selar Bach, rydyn ni hefyd yn ymweld ag un ysgol benodol er mwyn holi pa fath o gerddoriaeth mae’r disgyblion yn ei fwynhau. Ysgol y Llys, Prestatyn sy’n cael sylw yn y rhifyn yma. Felly, gobeithio byddwch chi’n mwynhau Y Selar Bach, ac yn darganfod cerddoriaeth Gymraeg newydd i’w fwynhau ar ôl mynd adref.


EÄDYTH UCHAFBWYNTIAU: ● Cael ei dewis ar gynllun Gorwelion BBC Cymru yn 2018 ● Ennill ‘Gwobr 2020’ yng Ngwobrau’r Selar 2020 ● Ennill ‘Gwobr Trisgel’ gan y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2020 ● Bod yn gyfrifol am raglen ‘Curadur’ ar S4C yn 2021 ● Perfformio mewn nifer o wyliau mawr gan gynnwys Gŵyl Rhif 6 yn 2018, The Great Escape yn 2019, Gigs Maes B 2021, Focus Wales 2021 a New Skool Rules 2021 RHESTR CHWARAE: ▶ Tyfu ▶ Cydraddoldeb i Ferched ▶ Wyneb i Weirad (gyda Shamoniks) ▶ Sownd yn y Canol (gydag Endaf) ▶ I Fewn (gyda Shamoniks)

FFEIL O FFEITHIAU AELODAU: Eädyth Crawford, ond yn cydweithio’n aml gydag artistiaid eraill gan gynnwys Shamoniks, Endaf ac Izzy Rabey O BLE: Merthyr Tydfil DECHRAU PERFFORMIO: Perfformio ei gig cyntaf yng Nhlwb y Bont Pontypridd yn 2015, ond roedd yn perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod ers yn ifanc iawn mewn deuawdau gyda’i chwaer, unawdau, ac yn yr alaw werin! RECORDIAU: Albwm ‘Eädyth × Shamoniks’ (2019), EP ‘Harddwch Du’ (2021), EP ‘Mas o Ma’ gydag Izzy Rabey (2020) a llwyth o senglau

FFEITHIAU DIDDOROL: ● Chwaer Eädyth ydy’r gantores poblogaidd Kizzy Crawford ● Bu i Eädyth a Kizzy ganu ‘Calon Lân’ o flaen miloedd o bobl mewn rali enfawr mudiad ‘Yes Cymru’ ym Merthyr yn 2019 ● Magwyd Eädyth ger Aberaeron yng Ngheredigion cyn i’r teulu symud i Ferthyr. ● Mae Eädyth hefyd yn ddarlunydd sain ar gyfer theatr ac wedi gweithio ar sawl cynhyrchiad gyda Theatr Y Sherman ● Mae hefyd wedi gweithio gyda’r Royal Court Theatre yn Llundain ar gyfer yr agoriad prosiect ‘The Living Newspaper’ ● Yn 2021 roedd y gantores y ran o’r band jazz, Cwmwl Tystion, gan deithio Cymru a pherfformio yn Cafe Oto yn Llundain

CÂN I WRANDO ARNYN NHW

Y Gwylwyr — Candelas a Nest Llewellyn

Adar Newlan — Imarhan a Gruff Rhys

Creulon yw’r Haf — Siôn Russell Jones

Cymru Ni — Izzy Rabey ac Eädyth

Cysgod y Golau — Parisa Fouladi


5 UCHAF Y SELAR Dyma’r pump band sydd wedi dal sylw Y Selar yn ddiweddar 1. Roughion Deuawd o Aberystwyth sydd wedi bod yn brysur yn ail-gymysgu caneuon Meillionen gan Band Pres Llareggub ac Eädyth, a Niwl gan Endaf a Dafydd Hedd yn ddiweddar.

Gruff Rhys yn cydweithio gyda grŵp Twareg Mae’r cerddor Cymraeg enwog, Gruff Rhys, wedi recordio cân newydd gyda grŵp o’r enw Imarhan sy’n canu yn yr iaith Twareg.

‘Adar Newlan’ ydy enw’r gân a ryddhawyd wythnos diwethaf ac mae’n cael ei chanu yn yr iaith Gymraeg a Tamasheq, sef fersiwn o’r iaith Twareg sy’n cael ei siarad gan bobl mewn rhannau o ogledd Affrica. Grŵp pump aelod ydy Imarhan ac mae’r trac newydd ar eu trydydd albwm, ‘Aboogi’ sydd allan nawr. Ysgrifenodd Gruff y gân gyda Imarhan, a’i recordio gyda nhw yn stiwdio y grŵp yn Tamanrasset yn Algeria, ac mae ’na fideo gwych i gydfynd â’r trac hefyd.

4. Dafydd Hedd Mae’r cerddor ifanc wedi ymuno â label recordiau Bryn Rock, a rhyddhau ei sengl newydd Atgyfodi. 5. Lloyd Steele Cerddor sydd wedi bod yn aelod o’r bandiau Y Saethau ac Y Reu cyn hyn, ond sy’n rhyddhau ei sengl unigol gyntaf, Mwgwd, ar Ddydd Miwsig Cymru.

Cyhoeddi rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar 2021 Gwobrau’r Selar ydy’r gwobrau cerddoriaeth Cymraeg sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Chwefror. Mae’r enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais, ac mae unrhyw un yn gallu pleidleisio dros eu ffefrynnau ar gyfer naw gwobr. Cyn cyhoeddi pwy sydd wedi ennill, mae rhestrau byr o’r pedwar sydd wedi cael y mwyaf o bleidleisiau ym mhob categori yn cael eu cyhoeddi. Nôl cyn blynyddoedd Covid-19 roedd gig mawr Gwobrau’r Selar yn cael ei

GEIRFA

2. Sywel Nyw Wedi gorffen ei her o ryddhau cân bob mis yn ystod 2021, ac mae’r cyfan nawr ar ei albwm newydd Deuddeg.

3. Tara Bandito Newydd ryddhau ei sengl gyntaf o’r enw Blerr, ac mae fideo gwych i’r gân hefyd.

gynnal yn Aberystwyth bob blwyddyn i roi’r gwobrau i bawb, ond doedd dim modd cynnal hwn yn 2021 oherwydd y cyfnod clo. Does dim gig eto eleni, ond bydd yr enillwyr yn cael ei cyhoeddi ar Radio Cymru yn ystod wythnos 14–18 Chwefror. Os ydych chi eisiau gwybod pwy sy’n ennill gwobrau ‘Cân Orau’, ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’, ‘Band Gorau’ a’r gwobrau eraill, cofiwch wrando ar raglenni BBC Radio Cymru Lisa Gwilym ar nos Fercher 16 Chwefror, a Huw Stephens ar nos Iau 17 Chwefror.

rhifyn — issue darlunydd sain — sound illustrator ail-gymysgu — remix senglau — singles (rhyddhau un trac ar ben ei hun) label — cwmni sy’n rhyddhau cerddoriaeth bandiau a cherddorion


Ym mhob rhifyn o’r Selar Bach rydyn ni’n holi disgyblion o ysgolion gwahanol am y gerddoriaeth Gymraeg maen nhw’n ei mwynhau.

SELAR YN GIG IO YSGOL Y LLYSYN… PRESTATYN ,

Enw: Ella Hoff fand Cymraeg: Yws Gwynedd Hoff gân Gymraeg: Sebona Fi Lle fyddi di’n gwrando ar dy gerddoriaeth: Adre ac yn y ysgol Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Yws Gwynedd, Fleur De Lys, Gwibdaith Hen Frân

Enw: Leo Hoff fand Cymraeg: Welsh Whisperer Hoff gân Gymraeg: Sebona fi Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn fy ystafell wely Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Catrin Finch, Welsh Whisperer a Rhys Jones

Enw: Thomas Hoff fand Cymraeg: Yws Gwynedd Hoff gân Gymraeg: Hei Mr Urdd Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn y tŷ Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Welsh Whisperer, Tom Jones ac Yws Gwynedd

Enw: Llyr Hoff fand Cymraeg: Yws Gwynedd Hoff gân Gymraeg: Hei Mistar Urdd Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn y car Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Welsh Whisperer, Mei Gwynedd, Yws Gwynedd

Enw: Scarlett Hoff fand Cymraeg: Gwibdaith Hen Frân Hoff gân Gymraeg: Coffi Du Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn fy ystafell gwely Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Gwibdaith Hen Frân, Elin Fflur a Welsh Whisper

Enw: Carys Hoff fand Cymraeg: Calan Hoff gân Gymraeg: Hei Mr Urdd Lle fyddi di’n gwrando ar gerddoriaeth? Yn y car Pa dri band neu artist fyddai yn dy gig perffaith di? Sŵnami, Calan ac Anhrefn

Os hoffai eich dosbarth chi ateb cwestiynau Selar yn gigio… anfonwch neges: post@selar.cymru

llyw.cymru

Rhagor am h gerddoriaet Gymraeg Gwefan Y Selar

Blog Sôn am Sîn

Sianel YouTube Lŵp

Rhaglenni Radio Cymru


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.