Y Selar - Medi 2021

Page 1

Rhif 61 // MEDI // 2021


Dyma dy le

- Ystod eang o gyrsiau ar gael - Y Brifysgol orau yn y DU am Ansawdd Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr yn ôl The Times / The Sunday Times Good University Guide 2021

- Pecyn ysgoloriaethau a bwrsariaethau gwerth hyd at £20,000 ar gael - Gwarant o lety i fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf

aber.ac.uk

CANLLAW PRIFYSGOLION DA

2020

PRIFYSGOL Y FLWYDDYN YNG NGHYMRU

. . . a f l o L Y g O wa s £8.99 £8.99

£7.99

£8.99

Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum cyd-awdur ifanc. £5.99 yr un | £25 am y set

.com

Llyfrau dros Gymru


y Selar Rhif 61 // MEDI // 2021

Golygyddol

cynnwys

A feiddia i ddweud bod pethau’n dychwelyd i ryw fath o normalrwydd? Ei sibrwd o’n ddistaw efallai. Daeth hynny’n rhy hwyr i nifer o’r gwyliau mwyaf a’r rheiny sy’n arfer cael eu cynnal yn gynnar yn yr haf. Ond mae’n braf gweld gigs ac ambell ŵyl fach yn dychwelyd yn dow dow erbyn hyn. A hyd yn oed gwyliau mawr fel Green Man, er mor siomedig a oedd arlwy iaith Gymraeg prif rhan yr ŵyl ar y penwythnos eleni. Ambell flagur o’r cyfarwydd felly ond does dim dwywaith y bydd y deunaw mis diwethaf wedi newid ein sin am byth, er gwell neu er gwaeth. Un o’r pethau i’w croesawu yw’r awydd i gydweithio sydd wedi dod i’r amlwg ac mae’r rhifyn hwn yn llawn enghreifftiau. O gynhyrchydd prysuraf Cymru, Shamoniks, i brosiectau cydweithredol cyffrous Ciwb a Sywel Nyw. O albwm newydd y siwpyr grŵp, BOI i albwm diweddaraf llawn gwestai arbennig Band Pres Llareggub. Gorau chwarae cyd chwarae. Gwilym Dwyfor

Sgwrs Sydyn - Y Cledrau

4

Shamoniks

6

Newydd ar y sin

10

Owain Roberts

12

Pys Melyn

16

Curaduron y Curiadau

20

Adolygiadau

23

Llun clawr: Rhys Grail

4

6

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

HYSBYSEBION yselar@live.co.uk CYFRANWYR Tegwen Bruce-Deans, Lois Gwenllian, Ifan Prys, Kate Woodward, Hywel Pitts, Ioan Rees, Awen Schiavone, Steff Rees, Gruffudd ab Owain Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Diolch yn fawr i gyfeillion Y Selar (aelodau Rheolwr a Prif Ganwr Clwb Selar): Ywain Gwynedd, I KA CHING, Targed, Antoni a Dawn Schiavone, Gruffydd Davies, Illtud Daniel, Chris Roberts, Gethin Griffiths. Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


Y Cledrau Gydag albwm cyntaf ers pedair blynedd newydd lanio, roedd hi’n amser perffaith i gael Sgwrs Sydyn gyda phrif leisydd Y Cledrau, Joseff Owen. Albwm newydd, Cashews Blasus allan ers dechrau Gorffennaf, sut ymateb sydd wedi bod hyd yma? Positif iawn hyd yn hyn, ond dydi bobl ddim yn tueddu i ddweud ‘dwi ddim yn hoffi’r albwm newydd’ i dy wyneb, felly pwy a ŵyr. Lle a phryd fuoch chi wrthi’n recordio? Tua thair cân ar y tro rhwng 2020 a 2021 (pryd bynnag oedden ni’n cael), yn Stiwdio Sain yn Llandwrog gyda Drwm (Ifan Emlyn Jones ac Osian Huw Williams). Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael? Mae CDs ar gael o wefan Recordiau I KA CHING, yn eich Awen Meirionau lleol, ac os ydych chi’n gweld ni mewn gig Y Cledrau. (Os ydych chi’n ein gweld un ohonom ni mewn gig rhywun arall, annhebygol iawn bydd gennym ni focs o CDs efo ni). Ar gael yn ddigidol hefyd yn yr holl lefydd cyfleus a diflas arferol. A’r cwestiwn pwysicaf, i’r rhai sydd heb wrando eto, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Gitârs, gweiddi a gormod o odlau mewnol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner heriol i greu cerddoriaeth, a wnaeth yr amrywiol gyfyngiadau yn y cyfnod hwnnw effeithio’r trefniadau? Dwi’n meddwl ein bod ni wedi defnyddio’r cyfyngiadau fel esgus am yr oedi, roedd hi wedi bod yn bedair blynedd ers rhyddhau’r albwm cyntaf beth bynnag. Pandemig neu ddim, roedden ni’n ara’ deg yn dechrau arni.

4

yselar.cymru

Beth yw’r broses wrth i chi greu a recordio. Ydych chi’n mynd i stiwdio gyda chaneuon eithaf gorffenedig neu’n datblygu dipyn arnynt ar ôl cyrraedd? Mae’n amrywio efo bob trac; rhai yn fwy parod na’i gilydd cyn mynd i mewn, ond mae’r pwysau o fod yn y stiwdio yn gorfodi ni i ddatblygu pob cân yn fwy manwl. Weithiau ’da ni’n meddwl bod trac fwy neu lai yn orffenedig cyn cyrraedd y stiwdio a rhoi crib mân drwy bob dim, a sylweddoli mor anghywir oedden ni.

SGWRS SYDYN

Fe wnaethoch chi recordio rhai traciau’n fyw, sut brofiad oedd hynny? Doedden ni ddim yn 100% cyn cychwyn, ond mae o’n broses sy’n gorfodi’r gorau allan ohonom ni. Erbyn hyn, ryden ni’n pedwar yn gweld ni’n gwneud llawer mwy o hynny yn y dyfodol. Cafodd ‘Hei Be Sy’ a ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ eu rhyddhau cyn yr albwm, sut ymateb a gafodd y rheiny fel senglau? Roedd ‘Hei Be Sy’ yn teimlo fel dewis da fel y peth cyntaf i ni ryddhau ers oes pys achos y math o gân ydi hi. Mi oedd ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru, diolch yn bennaf i’r tywydd poeth yr wythnos yna. Roedd yna fideo gwych ar gyfer ‘Hei Be Sy’ yn serennu Llŷr Evans hefyd. Beth oedd hanes hwnnw? Roedd hi’n edrych fel dipyn o laff! Dafydd Hughes (Cowbois) oedd yn gyfrifol am y fideo. Ar ôl i ni weld y fideo am y tro cyntaf, roedden ni’n sicr mai Llŷr oedd y dewis perffaith, roedd ei berfformiad o’n fy atgoffa i o gymysgedd o fynegiadaeth Almaenaidd, Michael Douglas yn Falling Down a chymeriad Peter Finch yn Network. Mae gwaith celf yr albwm yn wych

hefyd, pwy sy’n gyfrifol am hwnnw? Dylunydd o’r enw James Reid a wnaeth y gwaith celf; Marged ddaeth o hyd i’w waith ar Instagram (@d_r_w_g). Mae’r gwaith celf wedi ei selio’n uniongyrchol ar eiriau’r albwm, a dim ond wrth gyfieithu’r lyrics ar ei gyfer sylweddolom mor ddryslyd oedd rhai ohonynt yn Saesneg (neu fod llawer mwy i gyfieithu na welon ni ar yr olwg gyntaf). ‘Hogie bach’, ‘disgyn ar fy mai’ ac ‘os na ddaw blodau, fe ddaw chwyn’ yn ambell enghraifft drafferthus. Mae crysau-t yn seiliedig ar y gwaith celf hefyd oes? Tyden nhw’n smart ar y naw?! Mae’n anodd credu bod pedair blynedd ers Peiriant Ateb, ydi’r hen ystrydeb am ‘yr ail albwm anodd’ yn wir? Doedden ni ddim yn teimlo’r pwysau allanol yne; roedden ni’n sicr yn fwy cyfforddus tro yma ac wedi gwneud penderfyniad i fwynhau’r broses cymaint â phosib, a ’da ni’n teimlo bod hynny i’w glywed ar yr albwm. Sut fyddet ti’n dweud y mae sŵn Y Cledrau wedi newid yn y cyfnod hwnnw? Dwi’n meddwl mai ‘tyfu’ ydi’r gair


gorau. Nid mynd yn fwy ‘difrifol’ ond bod ’ne fwy o gig ar yr asgwrn. ’Da ni’n llai piwritanaidd mewn ffordd, ac yn fwy parod i roi tro ar opsiynau eraill yn y stiwdio. Un peth sy’n gyffredin yn y ddau albwm yw lyrics nodweddiadol Joseff. Mae’r arddull llif yr ymwybod yn eithaf unigryw. Sut wyt ti’n mynd o’i chwmpas hi? Ydi’r cwbl yn dod mor naturiol a di ymdrech ag y mae’r cynnyrch terfynol yn gwneud iddo swnio? Mae’n teimlo reit naturiol i ysgrifennu fel yne, yn fy marn i. Os nad ydi’r syniadau geiriol yn dod yn weddol sydyn, dwi’n gor-feddwl, ac maen nhw’n dueddol o fod yn gachu wedyn. Mae sain y geiriau a’u hystyr yn tueddu o fod yr un mor bwysig pan dwi’n cyfansoddi. Pa fath o gerddoriaeth oeddech ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio ac oes ’na rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Mi fues i’n gwrnado lot ar Wings (‘the band The Beatles could have been’) yn y cyfnod yno. O ran geiriau, dwi hefyd yn ffan mawr o The Mountain Goats a stwff Conor Oberst, ond wrth recordio, roedden ni’n gwrando ar bob math o bethau (dipyn go lew o power pop a

cock rock y 70au/80au os dwi’n cofio’n iawn.)

Gwerthwch y record i ni mewn pum gair! Pum gair? Dim ond pump?

Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Mae ‘Chwyn’ reit agos at fy nghalon i, efallai gan fod y broses o’i ’sgwennu hi wedi bod mor gathartig. Ond dwi’n hoffi hi lot llai ers i ‘Daw Haul ar Fryn’ gael ei glywed biliynau o weithiau yn ystod y pandemig. (Plîs credwch ni bod honne’n gân pre-Covid, fyse ni ddim wedi meiddio...) Pa gân oedd y sialens fwyaf neu pa un ydach chi fwyaf balch ohoni? Roedd cadw’r egni yn ‘Cerdda fi i’r Traeth’ yn sialens o fath, gan fod ei strwythur mor syml. Yn bersonol, dwi’n falch o ‘J’adore y Môr’, gan fod hi’n gymaint o hwyl i’w chanu. Yn amlwg, rhoddodd y pandemig stop ar unrhyw fath o gerddoriaeth byw am gyfnod hir, oes yna gynlluniau o ran gigio’r deunydd newydd yma rŵan fod pethau’n llacio? ’Da ni’n ysu i chwarae’r rhain gymaint â phosib, felly unwaith ’da ni’n cael, mi fyddwn ni rownd y siop yn gweiddi. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gyd-fynd â gwrando ar yr albwm? Beth bynnag sydd yn crancio eich tractor.

HOFF ALBYMS I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff ail albwm? Favourite Worst Nightmare – Arctic Monkeys. Hoff albwm i’w rhyddhau yn y deunaw mis diwethaf? Mas – Carwyn Ellis & Rio 18. Hoff albwm ag enw bwyd yn y teitl? Salad Days – Mac DeMarco neu Searching for Sugar Man – Rodriguez.

yselar.cymru

5


Yr amryddawn Shamoniks Geiriau: Lois Gwenllian

R

wy’n sgwrsio â Samiwel Humphreys yn y dull sydd wedi dod mor gyfarwydd i ni dros y deunaw mis diwethaf – galwad Zoom. Mae’n eistedd yn ei stiwdio gyda’i gath sinsir yn troedio heibio i’w sgrîn gyfrifiadur. Unwaith y daw’r mân siarad am gamera a sain sydd ynghlwm â’r dull hwn o gyfathrebu i ben, mae o’n eistedd yn ôl yn ei gadair yn barod i sgwrsio, ac wir yn ‘edrych y part’ o gynhyrchydd brwdfrydig.

“Ers mis Mawrth dwytha dw i ’di gneud tua 90 o dracia’.”

6

yselar.cymru

Mae Sam yn aelod o sawl grŵp adnabyddus gan gynnwys NoGood Boyo a Calan, ac yn rhedeg label ei hun o’r enw Udishido. Llynedd rhyddhaodd Calan eu seithfed albwm, Kistvaen, a gorfod gohirio taith 25 dyddiad yn yr Unol Daleithiau yn sgil Covid-19. Roedd hynny’n siom enfawr meddai, “Oeddan ni wedi bod yn gweithio’n rili galad ar yr albwm. Aethon ni i’r Llyfrgell Genedlaethol i fynd drwy’r archif i drio ffendio tiwns a chaneuon


“Gwneud y tracs a mynd allan ar mountain bike nath gadw fi fynd.” oedd heb gael eu ’neud llawar. So, aethon ni i’r llyfrgell a chael llwyth o betha’ newydd at ei gilydd. Achos fi sy’n produceio albyms Calan hefyd a ’neud y recordio i gyd o’n i wedi treulio lot o amser efo pawb yn rhoi hwnna i gyd at ei gilydd. Wedyn nath y pandemic hitio a chawson ni’m chance i tour-io fo’n iawn. Oedd o’n eitha’ gutting rili.” Ond nid am Calan na NoGood Boyo o’n i eisiau siarad gyda Sam, ond am ei brosiect unigol sef Shamoniks. Mae’r gwaith mae’n ei wneud fel Shamoniks ar begwn arall cerddoriaeth o’i gymharu â cherddoriaeth werin ei ddau fand arall. Cerddoriaeth electronig ydyw gydag elfennau o gerddoriaeth byd. Dywedodd wrthyf nad rhywbeth diweddar yw cynhyrchu cerddoriaeth fel hon.

“Dwi ’di bod yn produce-io electronic music ers fi fynd i Coleg Menai. Adeg hynny nes i ffendio electronic rili, a dechra mynd mewn i drum n bass a dubsetp a petha felly. Adeg yna nes i gychwyn band live drum n bass efo cwpl o ffrindia o coleg. Oddan ni’n chwarae fel house band yn Hendre Hall, yn ’neud loads o raves a ballu. O hynna ’mlaen rili, dwi wastad wedi cael diddordeb mewn gwneud electronic music law yn llaw efo bod yn musician normal mewn ffordd. Dw i wastad wedi chwarae mewn llwyth o wahanol fandiau mewn loads o wahanol genres. O’n i mewn 12-piece soul and blues band, o’n i mewn metal band, o’n i mewn funk band, dw i wedi ’neud lot o stwff R’n’B a jazz yn y gorffennol. So mae miwsig electronig wedi bod rhyw fath o side-project fi dros y blynyddoedd, fel release bach o ’neud be’ dw i’n ’neud mewn grwpia’.”

yselar.cymru

7


“…roedd cynulleidfa ddigidol ar eu cythlwng yn ysu am gerddoriaeth newydd.”

Ond mae’n dweud wrtha’ i mai’r gitâr yw lle ddechreuodd popeth iddo, “Ges i gitâr pan o’n i’n un ar ddeg. Gitâr ydy definitely main offeryn fi, ond dros y blynyddoedd o ddysgu produce-io, gweithio efo pobl a bod mewn bandiau, dw i wedi pigo fyny offerynnau erill. Bas, dryms a piano a bob math o betha eraill fel percussion, a dysgu sut i iwsio decs a be’ ydy samplo, be’ ydy synthesis. Ia, so jyst ’di bod yn pigo llwyth o bits dros y blynyddoedd. A dw i wedi bod yn rili lwcus o fod mewn bandiau mewn gwahanol scenes; obviously dw i’n neud lot o stwff gwerin ac o’n i’n neud lot o stwff roc a pop hefyd a dal yn neud ’chydig bach o metal hefyd. Wedyn, erbyn diwedd maen nhw i gyd yn croesi drosodd mewn rhyw ffordd a ti’n gallu dwyn un peth o’r llall a’i droi o mewn i un.” “Dw i wedi bod yn trio develop-io sŵn music electronic fi dros y blynyddoedd, ond rŵan dw i’n licio tynnu’r influences world i mewn a trio combine-io stwff worldy efo stwff electronic. Ac wedyn, yn dibynnu pwy dw i’n collaborate-io efo o ran y vocals, mae hynna hefyd yn mynd a fo lawr ryw lôn wahanol.” 8

yselar.cymru

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Sam wedi cyd-weithio gydag artistiaid niferus gan gynnwys Eädyth, Swagath, Skunkadelic, Mali Hâf a Lisa Pedrick i enwi dim ond rhai. “Digwydd bod jest cyn i ni fynd allan i America o’n i wedi prynu set-up music newydd, so pan ddes i’n ôl i’r tŷ o’n i fatha: iawn ta! Es i jyst iddi’n iawn. Ac ers mis Mawrth dwytha dw i ’di gneud tua 90 o dracia’. O’n i’n neud llwyth o fiwsig, o’n i’n’ meddwl, duw mae hwn yn chance da i weld os oes ’na bobl o gwmpas sy isio collaborateio.”

Llwyfan i’r lleisiau Ddaeth Sam ar draws Mali Hâf ar Instagram ac fe gysylltodd â hi. Pan holais Mali am y broses o weithio gydag o roedd hi’n barod iawn ei chanmoliaeth. Dywedodd wrtha’ i, “Gwelodd e fideo o gân wnes i sgwennu a rhoi comment yn canmol y gân, a chynnig ein bod ni’n cydweithio. Felly dechreuon ni weithio dros DMs ac ebost. Rhaid dweud, er bod ni’n gweithio yn virtually, ro’n ni wedi addasu yn gyflym. Dw i wedi sgwennu lot ar-


“Dw i’n meddwl bod o’n cŵl bod heb ormod o influence.”

lein gyda cherddorion eraill ac mae’n rhaid dweud roedd Sam yn haws na’r lleill, ac yn amyneddgar iawn. Roedd e hyd yn oed wedi meddalu ei sain DnB nodweddiadol i ffitio mewn gyda fy sain mwy poppy a floaty i!” Ers hynny, meddai Sam, “Dw i a Mali wedi ’neud pedwar trac rŵan. Be’ sy’n rili weird ydy ’da ni dal heb gyfarfod. Dw i ddim hyd yn oed wedi siarad ar ffôn efo hi. So mae’n broses rili gwahanol i be’ nes i gyda Eädy. Roedd hi’n dod draw ac oeddan ni’n gweithio trac efo’n gilydd yn bownsio ideas off ein gilydd. Ond yn amlwg efo’r pandemig doedd hynny ddim yn bosib tro ’ma.” Dydy o heb gyfarfod Lisa Pedrick ’chwaith er iddo ail-gymysgu un o’i chaneuon, ‘Dim Ond Dieithryn’. “’Naeth hi yrru’r ffeils i fi a nes i remix-io fo’r noson honno a’i gael o allan. Wedyn ’dan ni wedi bod yn gwneud trac arall rwan.” Yn ôl Lisa ei hun mae’r trac newydd “yn hollol wahanol i be’ dw i wedi’i wneud o’r blaen. Dw i wrth fy modd gyda fe. Roedd Sam wedi anfon trac i fi a wnes i sgwennu geiriau ac alaw i fynd gyda fe. Roedd job fi’n hawdd gan fod trac Sam mor arbennig! Mae

Sam wedi disgrifio’r trac fel ‘cinematic’ a dw i’n cytuno. Mae e’n aml-dalentog, cerddor gwych ac yn berson lyfli.” Mae’n rhaid ei fod yn brofiad rhyfedd, gwneud cymaint o waith gyda pherson a hynny heb hyd yn oed godi’r ffôn, ond o’r ffordd mae Sam yn siarad rwy’n cael y teimlad ei fod o’n hoff o’r broses. “Dw i’n ’neud y trac gynta’, wedyn gyrru fo draw i bwy bynnag dw i’n collaborate-io efo. Wedyn aros i weld be’ maen nhw’n neud basically. So mae’n eitha’ cŵl. Dw i heb gael disappointment eto! Ond mae o bob tro yn adag rili exciting; cael yr email efo’r audio files i gyd ac wedyn drop-io nhw fewn yn y project a pwyso play, a gweld sut mae’n swnio a gweld be’ maen nhw wedi’i wneud. Mae o’n cŵl yn y ffordd yna. Dyna dw i’n licio am collaborate-io ydy bob tro dw i’n collaborate-io efo rhywun mae’r trac yn end-io fyny yn bod yn rhywbeth gwahanol i be’ o’n i’n feddwl yn fy mhen ac mae o bob tro’n well. Dw i’n meddwl bod o’n cŵl bod heb ormod o influence dros be’ maen nhw’n ’neud. So maen nhw’n gallu cael y trac, cymryd eu hamser a gwneud be bynnag maen nhw isio arno fo. Dw i’n meddwl ei bod hi’n broses eitha’ hwyl, ia.” Yn sicr dydy Sam heb fod yn segur dros y cyfnod diwethaf ’ma. Yn ogystal â’r 90 o draciau ’roedd o’n sôn amdanynt mae o hefyd wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sioe Theatr Genedlaethol Cymru, Gwlad yr Asyn. Fo sy’n gwneud yr effeithiau sain i gyd hefyd, yn eu creu drwy fanipiwleiddio’r synthesizer meddai. Ei fwriad yw rhyddhau’r gerddoriaeth honno hefyd. Dywedodd y cerddor ei fod yn mwynhau’r agwedd yna hefyd ac yn rhywbeth yr hoffai ei ddatblygu, “’Swn i’n lyfio cychwyn sgwennu i ffilms a TV a petha fel ‘na. Mae’n neis cychwyn adeiladu’r blocs yna eto efo Theatr Genedlaethol. ‘Nes i weithio ar sioe theatr arall tua dwy flynedd yn ôl i Theatr Sherman o’r enw Saethu Cwningod a rili mwynhau.” O edrych yn ôl ar flwyddyn brysur, mae’n dweud wrtha’ i mai “gwneud y tracs a mynd allan ar mountain bike nath gadw fi fynd. O’n i’n tŷ ben fy hun, jyst fi a’r cathod, yn gneud y tracs. So mae’n neis dod allan y pen arall yn positive. Dw i’n edrych ymlaen i kind of expand-io ar be’ ’dw i wedi bod yn ’neud a chael y pobl ’ma ’dw i wedi collaborate-io efo nhw i ’neud be’ ’dw i wedi arfar efo fo sef collaborate-io ar lefel bersonol, efo rhywun ’lly!” yselar.cymru

9


NN ee w y d d a r y S i n wydd ar y Sin Yn ogystal â rhyddhau albwm newydd gyda’i fand, Y Cledrau, mae Ifan Prys wedi bod yn brysur yn cadw llygad ar yr hyn sydd yn Newydd ar y Sin ar ran Y Selar dros y misoedd diwethaf.

Ystyr Yng nghanol prysurdeb bywyd ’da ni gyd yn dyheu weithiau am ddihangfa o realiti, ac ma’ cerddoriaeth yn aml yn cynnig hynny inni ar blât. Eto, prin iawn y

10

yselar.cymru

gwelwn ni brosiect cerddorol yn hanu o’r angen hwnnw i ddianc, ac yn hynny o beth, mae’r reddf tu ôl i Ystyr yn un i’w groesawu. Criw o gerddorion o Gymru ydi Ystyr sy’n cydweithio i gynhyrchu deunydd sy’n cynnig dihangfa, teimlad ac angerdd, elfennau sydd oll ynghyd yn creu ymdeimlad o freuddwyd ac yn rhoi golau a lliw i fywyd. O wrando ar eu catalog eclectig o draciau cewch blymio i ddyfnderoedd electro, pop amgen, hip hop a gwerin ac un o brif nodau’r caneuon ydi cynnig rhywbeth hollol ffres a gwahanol sy’n siarad ag enaid y gwrandawyr. Wrth dyfu fyny, roedd Rhys Martin (gitârs a rhaglennu drymio) a’i gefnder Owain Brady (lleisiau a geiriau) yn rhannu demos bychan o gerddoriaeth gyda’i gilydd, ac ar ôl i Owain symud i Wlad y Medra’n ddiweddar, bu gyfarfod â Rhodri Owen (piano, allweddellau, drymio, hyd a lledrith a chynhyrchu) mewn tafarn leol. Dros beint neu ddau dyma drafod dechrau grŵp newydd, ac felly y bu. Gan fod Rhys yn byw yn ne Cymru mae’r triawd wedi gorfod cydweithio o bell ar lein, ac yn ddifyr iawn, tydi Rhys erioed wedi cyfarfod Rhodri yn y cnawd! Ond, yn lwcus, datblygodd y berthynas gerddorol rhwng y tri fwy neu lai yn syth bin, ac er rhwystrau’r pandemig, mi orfododd iddynt gydweithio fwyfwy, gan roi ystyr i fywyd mewn cyfnod mor heriol. Un peth sy’n eich

taro’n syth o ddadansoddi catalog Ystyr hyd yn hyn ydi’r gwaith celf trawiadol. Tra’n gweithio yn Ne Affrica am gyfnod, bu Owain gyfarfod yr artist Pete Cass, ac mi ddywedodd bryd hynny os byddai byth yn dechrau grŵp, y byddai’n gofyn i Pete weithio ar yr ochr ddelweddol. Bellach yn byw yn Essex, mae Pete hefyd yn

cydweithio’n agos gyda’r band o bell, ac mae ei waith yn rhoi darlun gweledol ar gyfer y gerddoriaeth ac yn cynrychioli teimladau a naws mwy cynnil y cynnyrch. O edrych i’r dyfodol agos does gan y band ddim cynllun fel y cyfryw i chwarae’n fyw. Celf ydi’r ffocws yn hytrach na pherfformio ac mae’n rhan o’u natur fel grŵp i fod dan yr wyneb. Maen nhw’n fwy na bodlon ffocysu ar y gerddoriaeth, ac mae ’na fwy ar ei ffordd yn fuan gyda sengl yn cael ei ryddhau ym mis Awst, yn y gobaith o ryddhau albwm yn y flwyddyn newydd gyda chynlluniau ar y gweill i gydweithio efo rapwyr a beirdd. Does ’na ddim dili dalio efo Ystyr!

Dafydd Hedd Os oes rhywun yn haeddu clod am ei weithgarwch cerddorol dros y blynyddoedd dwytha’ yna Dafydd Hedd o Fethesda ydi hwnnw. Ar ôl disgyn mewn cariad gyda’r syniad o greu a pherfformio cerddoriaeth pan yn un ar ddeg oed, mae’i angerdd wedi blaguro wrth iddo ganolbwyntio’n ddiflino ar ryddhau cynnyrch sy’n plethu trawstoriad o arddulliau. Wedi’i fagu yng nghysgod Chwarel y Penrhyn mae’r elfen farddonol sy’n perthyn i’w waith yn atsain fel cŷn trwy’i ganeuon. Yn naturiol felly hefyd mae’r grit sydd i’w glywed yn sŵn yr offeryniaeth ac mae ei lais yn adlewyrchu dylanwad tirlun diwydiannol a chymdeithasol ei ardal. Cyn i’r byd droi ben i waered roedd pethau’n mynd o nerth i nerth i Dafydd gyda’i berfformiad yng Ngŵyl Neithiwr ym mis Ionawr 2020 yn ennyn sylw. Yn fuan wedi hynny ryddhaodd ei ail albwm sef Hunanladdiad Atlas, ond o dan gyfyngiadau’r pandemig bu’n rhaid newid cynlluniau’r hyrwyddo. Penderfynodd wneud y gorau o gyfnod digon brawychus a thrwy gydol y clo cynta’ bu wrthi’n ddiwyd


Gwenno Morgan Gwenno Morgan

o weithio efo’r ddau Goldsmiths, artist wedi Prifysgol galluogi Llundain iddi ym wrth gyfansoddi, aprofiad gyda’i chariad greu efo meddylfryd gwahanol. mis Medi. Ochr yn ochr â hynny at gerddoriaeth electronig, jazz a greu ’na cerddoriaeth ddau brosiect gefndir cyffrous i yn Ers dechrau chwarae piano’n saith oed a soundtracks chystadlu yno ersCafodd cyn cof,gyfle maehefyd i mae gyfres Hansh, Genod Sy’n gweld Gweithredu, golau dydda ar fu’n ddiwedd brofiadyr haf, mewn sawl steddfod, does ’na’m dwywaith sŵn fod eiGwenno EP diweddar Cyfnos yn newydd ac ysgogol i Gwenno cydweithio syddararbrosiect drothwy Kathod cyfnodyn wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth ersgyfuniad yn ifanc minimalistig o gerddoriaeth cyffrous arall wrth iddiogystal â chyfansoddi ddechrau ar gwrs gradd miwsig meistri ffilm iawn. Bellachchwarae yn adnabyddus fel pianyddgwerin clasurola sinematig, oll yn ennyn Ers dechrau piano’n saith Goldsmiths, Prifysgol ferLlundain newydd. ym Gwyliwch mis Medi. y gofod Ochram a chyfansoddwraig sy’nsawl cynhyrchu ei deunydd hiraethyn am lefydd yn penodol a oed a chystadlu mewn steddfod, yn ochr â hynny mae ’na Gwenno ddau brosiect Morgan.cyffrous yn annibynnol, mae ’na gyffro mawr ynghylch digwyddiadau beth sydd arbennig. does ’na’m dwywaith fod Gwenno gweld golaugan dydd ar ddiwedd yr haf, cydweithio ar ar y gorwel iddi. mewn cerddoriaeth Ond tydi hi ddim yn fwriad wedi ymddiddori yn ogystal â chyfansoddi miwsig i ffilm sawliawn. cyfleBellach i’w rhanyn pan aeth i astudio Gwenno ym i gyfyngubrosiect ei hun iKathod un math ersDaeth yn ifanc fer newydd. Gwyliwch y gofod am Gwenno Morgan. Mrifysgol Leeds lle bu’n cydweithio o sŵn. Bu’n cydweithio’n ddiweddar adnabyddus fel pianydd clasurol a a pherfformio gyda nifer o gerddorion, yn ogystal ag ysgrifennu hefo Sywel ei Nyw ar y sengl ‘Dyfroedd chyfansoddwraig sy’n cynhyrchu thraethawd hir annibynnol, ar gerddoriaeth rhaglenMelys’. BBC Planet Bu hefyd yn cydweithio ei deunydd yn maey ’na Earth! dilyn hynny bu’n efo Mared ar drac ‘Llif yr Awr’ ac gyffro Yn mawr ynghylch bethastudio sydd arym y Mhrifysgol Gogledd Texas, a phan ddychwelodd adref mae’r ar profiad o weithio efo’r ddau gorwel iddi. ddechrau’r cyfnod clo,rhan cafodd artist awydd wedi i galluogi iddi greu efo Daeth sawl cyfle i’w panyr amser a’r gyfansoddi, acym mae ffrwyth ei llafur wedimeddylfryd dod fwyfwygwahanol. aeth i astudio Mrifysgol Leeds amlwg dros y flwyddyn diwethaf. Cafodd gyfle hefyd i lle bu’ninni cydweithio a pherfformio O wrando ei chynnyrch diweddar mae’n greu amlwg cerddoriaeth gefndir i gyda nifer o ar gerddorion, yn ogystal fod ei chefndirei clasurol wedi hir ei dylanwadu wrth gyfres Hansh, Genod Sy’n ag ysgrifennu thraethawd ar gyfansoddi, chariad at gerddoriaeth electronig, Gweithredu, a fu’n brofiad newydd ac gerddoriaetha ygyda’i rhaglen BBC Planet jazz a soundtracks ynobu’n ers cyn cof, mae sŵn ysgogol ei i Gwenno sydd ar drothwy Earth! Yn dilyn hynny astudio EP minimalistig cyfnodo cyffrous arall wrth iddi ymdiweddar Cyfnos yn Mhrifysgol Gogledd gyfuniad Texas, a phan gerddoriaeth sinematig, oll yn ennyn ddechrau hiraeth ar gwrs gradd meistr yn ddychweloddgwerin adref ara ddechrau’r am lefydd a digwyddiadau cyfnod clo,penodol cafodd yr amser a’r awydd arbennig. i gyfansoddi, ac mae ffrwyth ei llafur Onddod tydifwyfwy hi ddim yn fwriad gan y wedi amlwg inni dros Gwenno gyfyngu ei hun i un math flwyddyni diwethaf. o sŵn. Bu’n cydweithio’n ddiweddar O wrando ar ei chynnyrch hefo Sywel Nyw ar y sengl ‘Dyfroedd diweddar mae’n amlwg fod ei Melys’. Buclasurol hefyd yn cydweithio chefndir wedi ei dylanwadu efo Mared ar drac ‘Llif yr Awr’ ac mae’r

yn casglu arian tuag at fanciau bwyd lleol trwy gynnal cyfres o gigs rhithiol. Rhyddhaodd y sengl ‘Anghofiai Ddim’ hefyd i gasglu arian tuag at ddarparu PPE ac offer i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd. Er gwaetha’r pellter rhwng pawb a phopeth, roedd Dafydd yn benderfynol o greu cysylltiadau cerddorol newydd a threfnodd ddigwyddiad rhithiol, Gŵyl Ogwen, er mwyn hybu artistiaid annibynnol. Bu’r gig yn sbardun i sefydlu podlediad Y Calendr sy’n rhoi

platfform i gerddorion mwy o dan yr wyneb drin a thrafod eu cynnyrch. Doedd dim siawns fod yr awen am bylu, a bu’n cydweithio efo’r cerddor Iestyn Wyn Jones ar ddwy gân sef ‘Strydoedd’ a ‘Follow Me’. Dyma ddechrau’r daith o gydweithio gyda mwy artistiaid ac yn fwy diweddar rhyddhaodd y sengl boblogaidd ‘Niwl’, cyfanwaith ffrwydrol Dafydd a Mike Pritchard. Dyma gynnyrch cyntaf prosiect Sbardun Talent Ifanc sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd Endaf ac mae’r trac gorffenedig i’w glodfori. Fel rhywun sy’n hoff o fandiau fel The 1975, Panic! at the Disco a Twenty One Pilots mae naws indie, pop, pync a roc yn amlwg yng ngwaith Dafydd ers y cychwyn, ond dyma’r tro cyntaf iddo gyflwyno cerddoriaeth electronig. Bydd yn gyffrous clywed i ba gyfeiriad yr aiff ei gerddoriaeth nesaf wrth iddo barhau i gydweithio efo mwy o artistiaid. Does ’na’m stop ar fomentwm Dafydd Hedd, a gyda’i lwybrau’n gwyro tuag at y Brifysgol ym Mryste ym mis Medi, mae ’na bennod gyffrous arall o’i flaen wrth iddo edrych i ehangu ei gysylltiadau eto fyth. Pwy â ŵyr felly lle gwelwn ni’r baledwr o Ddyffryn Ogwen mewn blynyddoedd i ddod. yselar.cymru

11


Owain Roberts Bwriad yr eitem hon yw dysgu mwy am ysbrydoliaeth a dylanwadau rhai o wynebau cyfarwydd y sin. Pa berson, digwyddiad a lle sydd wedi eu dylanwadu? Pa gyfnod sydd wedi eu hysbrydoli? Pam eu bod yn gwneud cerddoriaeth? Yn ymgymryd â’r her y tro hwn y mae Owain Roberts. Yn gerddor amryddawn, mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus i ddarllenwyr Y Selar fel sylfaenydd ac arweinydd Band Pres Llareggub. Rhyddhaodd y band eu pedwerydd albwm yr haf hwn, ail drefniant o glasur Big Leaves, Pwy sy’n Galw?. Ar ôl ffrwydro ar y sin gyda’i fersiwn eu hunain o Mwng (Super Furry Animals) yn 2015, dilynodd Llareggub hynny gyda dau albwm gwreiddiol, gan gydweithio â rhai o leisiau amlycaf y sin yn y broses. Profodd yr ail drefniant diweddaraf hwn yn fwy heriol oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a bu’n rhaid dibynnu ar dechnoleg a defnyddio 16 lleoliad gwahanol wrth recordio. Ni wnaeth hynny atal llu o artistiaid gwadd rhag ymuno ar y record, gyda Mared Williams, Tara Bethan, Yws Gwynedd, Ifan Pritchard, Katie Hall, Rhys Gwynfor, Eadyth a Kizzy Crawford i gyd yn cyfrannu. Pa amser gwell felly i ddysgu ychydig am yr hyn sy’n gyrru’r cerddor prysur ac ymroddedig yma. Pwy? Mae cymaint o gerddorion ac artistiaid wedi fy ysbrydoli dros y blynyddoedd, mae’r rhestr yn un faith! Ond yn ddiweddar dwi wedi dod i’r casgliad bod fy nyled fwyaf, o ran fy natblygiad fel cerddor, i fyd y bandiau pres yng ngogledd Cymru, a’r unigolion gweithgar a’n hyfforddodd i yno yn fy arddegau. Dwi’n hynod ddiolchgar i’r bobl yma ac fe hoffwn roi ‘shout out’ sydyn i Wynne Williams, Dennis Williams, Gwyn Evans a John Glyn. Cerddorion gwych, gweithgar a diymhongar, cewri yn fy nhyb i, ac alla’i byth ddiolch digon iddynt. Nid yn unig am eu hymroddiad i addysg gerddorol plant, pobol, a chymunedau ond hefyd am gynnig gymaint o brofiadau cerddorol anhygoel i mi ac i lawer eraill. Ers dipyn nawr, mae’n teimlo fod addysg gerdd yng Nghymru wedi cael ei dorri lawr i’r asgwrn o ganlyniadau i doriadau cyllid a dwi’n gweld fy hun mor


Lluniau: Kristina Banholzer

lwcus o fod wedi cael gymaint o gyfleoedd a phrofiadau pan o’n i’n ifanc. Rwy’n teimlo’n gryf fod gwasanaethau addysg cerdd yn rhywbeth dylai gael ei hamddiffyn o doriadau a’u trin fel elfen allweddol o gymuned a chymdeithas iach. Dylai byd bandiau pres Cymru gael ei drysori a’i fagu yn ofalus. Yn ddiweddar dwi wedi bod yn edrych ar ffyrdd i roi rhywfaint yn ôl i gymunedau a gwasanaethau cerdd yng Nghymru drwy brosiectau addysg amrywiol. Mwy i ddod ar hynny yn fuan… Beth? O ran Band Pres Llareggub, y peth mwyaf dylanwadol i mi oedd cael neges gan Gethin Evans nôl yn 2014 yn gofyn i mi gael band at ei gilydd. ‘Roeddwn wedi rhoi cwpwl o demos i fyny ar y we ddaru ddwyn ychydig o sylw ond doedd neb yn credu bod unrhyw botensial mewn cael band pres yn chwarae cerddoriaeth gyfoes. Y neges gan Geth oedd yr ysgogiad oeddwn angen i ddechrau’r band. Mae Band Pres Llareggub wedi rhoi gymaint o brofiadau gwych i mi dros y blynyddoedd, gan gynnwys chwarae gwyliau cerddorol a chael teithio, ac yn ddiweddar fe fu i ni serennu mewn ffilm Warner Brothers o’r enw Dream Horse. Digwyddiad arall oedd yn bwysig i mi oedd y tro cyntaf i mi weithio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC nôl yn 2019. Cefais y fraint gael ysgrifennu trefniannau newydd o glasuron Recordiau Sain ar gyfer cyngerdd yn Pontio, Bangor. Fedra i’m esbonio gymaint o buzz oedd y cyngerdd yna! Nid oes unrhyw beth yn gallu eich paratoi am y profiad o glywed cerddorfa symffonig yn perfformio eich darnau chi, mae o’n rhywbeth arallfydol ar ôl treulio wythnosau ar rywbeth a’i weld yn dod at ei gilydd. Bu i fy nhad farw tra o’n i’n gweithio ar y trefniannau, felly ‘roeddynt yn frith gydag atgofion o’r cyfnod. Dyna’r tro cyntaf i mi grio ar lwyfan. Lle? Bu i mi fyw ym Manceinion am y rhan fwyaf o fy ugeiniau, ar ôl astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol yno, a dwi wrth fy modd gyda sin gerddoriaeth y ddinas. Gyda meddylfryd DIY iach a pheth wmbrath o artistiaid talentog sydd yn gweithio y tu hwnt i ‘fybl’ y diwydiant yn Llundain, mae’n le gwych i gigio. Mae sawl bar/ clwb yn chwarae cerddoriaeth fyw bron bob nos, ac roedd cael hanes Factory Records a’r Haçienda yn rhan bensaernïaeth y ddinas yn ysbrydoliaeth ynddo’i hun. Roeddwn wrth fy modd yn bod yn rhan o dapestri’r sin yn fy ffordd fach fy hun. Lle arall sydd wedi gadael marc ar sut dwi’n creu ac ymdrin â cherddoriaeth yw New Orleans. Dwi wedi ymweld ddwywaith (y tro diwethaf efo Band Pres Llareggub) a dwi’n ysu i ddychwelyd eto! Mae’r lle wedi ei drochi mewn hanes cerddoriaeth boblogaidd – jazz a blws, rock’n’roll a funk – ond ysbryd y bobl sydd yn fy nharo fel y peth mwyaf diddorol. Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o ddiwylliant bob dydd y ddinas ac yn gymorth a chysur parhaol i’r bobl mewn ffyrdd alla’i ddim eu hesbonio. Mae’r lle yn sicr wedi newid fy meddylfryd ynglŷn â cherddoriaeth a’i bwysigrwydd o fewn cymdeithas a chymunedau, ond mae hefyd

wedi tynnu fy sylw at ba mor wych yw ein diwylliant cerddorol ninnau yma yng Nghymru. Pryd? Does dim byd fel pwysau deadline i ysgogi’r awen gydag unrhyw brosiect cerddorol. Dwi’n un drwg am ymlacio ac wrth fy modd pan dwi’n brysur. Dwi’n fwyaf creadigol y peth cyntaf yn y bore neu’n hwyr iawn yn y nos, sydd yn golygu mod i’n eithaf drwg am weithio yn y prynhawn a dwi yn andros o dda am wastraffu amser! Pam? Cwestiwn enfawr!… Yn amlwg, dwi’n mwynhau creu cerddoriaeth yn fawr iawn ac yn teimlo mod i rywsut yn gallu mynegi fy hun drwyddo. (Dwi’n hynod wael am fynegi fy hun fel arall!). Mae yno wefr anhygoel weithiau o gwblhau rhywbeth a’i ryddhau i’r byd gael ei glywed. Weithiau, dwisho cwblhau rhywbeth dim ond er mwyn symud ’mlaen i’r prosiect nesaf, a dwi efo rhestr faith o brosiectau yr hoffwn eu cyflawni yn y dyfodol agos! Yn ddiweddar, dwi wedi dechrau mwynhau’r broses o gydweithio yn fwy ac mae fy mhrosiect newydd, Seindorf, yn cynnwys llawer o colabs gydag artistiaid dwi’n eu hedmygu. Mae cynhyrchu cerddoriaeth yn gallu bod yn anodd iawn, ac mae’r sialens yn aml yn rhan o’r rheswm am wneud. Profodd cwblhau albwm diwethaf Llareggub yn ddychrynllyd o anodd, diolch i Covid-19… A dyna pam dwi’n hynod falch o be’ dwi wedi gallu ei gynhyrchu a dwi’n ddiolchgar tu hwnt i bawb a gyfrannodd! Dwi methu disgwyl i bawb cael clywed yr albwm! yselar.cymru

13


Colofn Kate Woodward

Mae’r lluniau fel hud: Mynd ar drywydd y Fideo Gerddorol Cymraeg

P

edwardeg mlynedd yn ôl, lansiwyd MTV, sianel oedd yn dangos fideos cerddorol 24 awr y dydd. Y fideo a ddewiswyd i gyhoeddi dyfodiad y sianel oedd ‘Video Killed the Radio Star’ gan The Buggles – dewis proffwydol gan i MTV achosi chwyldro llwyr. Doedd swnio’n dda ddim yn ddigon i unrhyw fand neu artist bellach, roedd bellach angen sicrhau elfen weledol i gerddoriaeth hefyd. Eädyth yn cerdded yn herfeddiol hyderus trwy stad ddiwydiannol. Yws Gwynedd a’i griw yn cerdded lonydd cefn gwlad gyda drôn. Sŵnami yn eu siwtiau glas ym Mhortmeirion. Ani Glass ar draeth euraidd. Dyma rhai o’r delweddau cofiadwy a gafwyd mewn fideos cerddorol Cymraeg yn ddiweddar. Ond i ba raddau mae ein fideos cerddorol Cymraeg yn wahanol, neu’n debyg i gynnyrch y diwydiant Eingl Americanaidd? A beth allwn ni ddysgu wrth edrych ar fideos ddoe, heddiw, a beth sydd ganddynt i ddweud am yr hyn a ddaw yfory? Er mwyn deall mwy am hanes ein fideos cerddorol, fe gawsom sgyrsiau gyda phedwar unigolion sydd wedi chwarae rôl ganolog yn y sîn

14

yselar.cymru

gerddorol, sef Dafydd Rhys, Eddie Ladd, Owain Schiavone ac Ani Glass. Bu Dafydd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd Fideo 9 (1988-91), a fu’n gyfrifol am gannoedd o fideos gan fandiau fel Datblygu, Tynal Tywyll ac Eirin Peryglus i enwi dim ond rhai. Yr hyn a ddaeth i’r amlwg wrth siarad gyda Dafydd oedd yr elfen wleidyddol, wrth sefydliadol oedd wrth galon Fideo 9, yn ogystal â’r posibiliadau newydd yn sgil technolegau newydd y cyfnod. Yn ôl Eddie Ladd, cyflwynydd eiconig y rhaglen, roedd creadigrwydd a gwthio ffiniau yn hollbwysig. Y fideo cyntaf a ddangoswyd oedd un Ffa Coffi Pawb, grŵp oedd wedi eu gwahardd gan nifer o ddarlledwyr ar y pryd oherwydd enw ‘anweddus’ y band. Wrth edrych ar y cyfnod mwy diweddar gydag Owain, mae’n amlwg taw hanes o lanw a thrai a gafwyd, a hynny yn ddibynnol ar raglenni S4C. Roedd Bandit (2004-2011) ymhlith eraill yn chwistrellu’r sîn gydag egni (a chyllid!) gyda fideos cofiadwy a slic fel ‘Dal Ni Lawr’ gan y Genod Droog (chwaraewyr badminton o’r 1970au) ‘Gobzilla’ gan Cofi Bach a Tew Shady

(gwyliwch ar youtube!). Cafwyd symudiad pendant hefyd i ffwrdd o natur gwrth-sefydliadol Fideo 9, i gerddoriaeth gyfoes yn dod yn rhan o arlwy prif ffrwd S4C. I Ani, doedd yna ddim ystyriaethau gwleidyddol, yn hytrach, mae’n mynegi ei hun fel artist ac yn gweld agweddau gweledol a cherddorol ei gwaith yn cyd-blethu’n llwyr. Ac i gau’r cylch fel petai, yn union fel roedd Fideo 9 yn bosib oherwydd technoleg newydd, mae technoleg eto wedi arwain at ddemocrateiddio creu fideos. Does dim angen dibynnu ar ddarlledwyr bellach, ac mae cymysgedd o agwedd DIY, arbrofi a brwdfrydedd wedi arwain at dorri tir newydd. Mae yna gannoedd ar gannoedd o fideos cerddorol Cymraeg felly, ac mae’n bosib dweud taw yn y fideos yma mae natur fwyaf arbrofol, herfeiddiol ac anturus diwylliant gweledol Cymraeg. Mae’r posibiliadau o’u harchwilio yn ddi-ben-draw! I ddilyn ffrwyth ein hymchwil ac i glywed am y datblygiadau diweddaraf dilynwch ni ar twitter @FideosCerddorol Greg Bevan a Kate Woodward


’Nabod y Pod

GIGIO Gyda thwf enfawr ym mhoblogrwydd podlediadau dros y blynyddoedd diweddar, does fawr o syndod fod mwy a mwy o rai Cymraeg a rhai am gerddoriaeth Gymraeg yn ymddangos. Mewn eitem newydd, cyflwynydd un o’r rhai diweddaraf i daro ein dyfeisiau, Hywel Pitts, a fu’n sôn wrth Y Selar amdano.

Stori

cael gadael y tŷ yn brofiad hyfryd yn ei hun (serch y lateral flow tests). Ond o ran cynnwys y podlediadau eu hunain… roedd hi’n braf clywed straeon pobl am y gigs maen nhw wedi eu joio, a nes i wir fwynhau clywed am eu gigs gwaethaf. Yn fan’na mae’r comedi.

Ges i alwad gan gynhyrchwyr Hansh ynglŷn â chyflwyno GIGIO ‘nôl ym mis Mawrth eleni - yn amlwg nes i gytuno i wneud, neu ‘sa’r podlediad ddim yn bodoli.

Cynnwys Mae GIGIO yn bodlediad lle dw i’n siarad ‘fo rhai o berfformwyr mwyaf adnabyddus Cymru am sut beth ‘di gigio yn y wlad hyfryd ‘ma ‘dan ni’n byw ynddi, a thu hwnt. Hyd yma ‘dan ni ‘di recordio chwe phennod, hefo Al Parr (AKA Parrington Bear), Morgan Elwy (reggae superstar), Esyllt Sears (brenhines y trydysawd), Lewis Williams (drymar rhai o fandiau gorau Cymru), Glain Rhys (seren ryngwladol y theatrau), ac Iwan Fôn (thespian, ffryntman, athrylith).

Ethos Gellir disgrifio’r pod fel taith i berfeddion meddylfryd perfformwyr. Mae ganddyn nhw straeon difyr a dwys am hwyl a helyntion

Argymhelliad

perfformio yng Nghymru. ’Dan ni’n trafod mân a’r mawr a’r hollol hurt, ac mae’r perfformwyr yn cael cyfle i fwrw eu bol a datgelu rhywfaint o’u heneidiau, gan rannu sut beth ydi bod yn noeth - yn ddiamddiffyn - o flaen cannoedd o ddieithriaid noson ar ôl noson. Neu, beisicli, mwydro am gigs da a gigs gwael. Dibynnu sawl siwgr ‘dach chi’n licio’n eich te.

Profiad Cafodd y podlediadau yma eu recordio yn ystod covid, felly roedd

Taswn i ddim yn cymryd y cyfle hwn i blygio fy mhodlediad arall, Podpeth, ‘swn i’n idiot. Gwrandewch ar hwnna. O ran podlediadau eraill, baswn i’n argymell llwyth ohonyn nhw… Gwrachod Heddiw, Esgusodwch Fi, Siarad Secs, Ysbeidiau Heulog, Clera, ac yn y blaen ac yn y blaen. Os ‘dach chi’sio mwy o bodlediadau am y sîn gerddorol yng Nghymru, gwrandewch ar Sôn am Sîn, Merched yn Gwneud Miwsig… a hefyd mae Y Calendr yn bodlediad da gan Dafydd Hedd o Fethesda, lle mae o’n siarad gyda phobl ifanc sy’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru. Nhw ‘di’r dyfodol gwrandewch arnyn nhw.

yselar.cymru

15


Lluniau: Rhys Grail

16

yselar.cymru


Geiriau: Gwilym Dwyfor

W

edi fy nghyfareddu gan albwm newydd Pys Melyn, Bwyd Llonydd, a ryddhawyd ym mis Mehefin, roeddwn yn ysu am sgwrs â’r creawdwr Ceiri Humphreys. Yn dilyn wythnos off grid ar Ynys Enlli fe lwyddais i gael gafael arno yn ôl yn ei gartref. Nid yw’r signal ’fawr gwell ym Mhant yr Hwch felly yn dilyn sawl ymdrech ffaeledig ar gysylltu trwy dechnoleg fodern, sgwrs ar linell ffôn ddaearol hen ffasiwn a gafwyd yn y diwedd. Yno gyda Ceiri yr oedd Jac Williams ac mae yntau ynghyd ag Owain Lloyd a Sion Adams yn rhan o’r band. Atgoffodd hynny fi’n syth o weld y pedwar, a hwythau dal yn hogiau ysgol, yn dod i chwarae yng Ngwobrau Selar fel Ffracas yn 2017. Er mai Magi Tudur ar yr allweddellau yw’r unig ychwanegiad i’r lein-yp, mae Pys Melyn yn brosiect ar wahân felly roeddwn yn awyddus i ddysgu beth oedd y ddeinameg erbyn hyn a sut yr esblygodd y naill i’r llall. “Nath Ceiri ddechrau ’neud petha’ o dan yr enw Pys Melyn a’i bostio fo ar SoundCloud,” eglura Jac cyn i Ceiri barhau; “Oeddan ni heb recordio dim byd o dan yr enw Ffracas ers talwm. Wedyn nath pobol ddechra’ gofyn i Pys Melyn am gigs a’r unig bobl oedd yn mynd i allu dysgu’r caneuon oedd y bobl o’n i mewn band efo nhw’n barod. Ar un cyfnod, oeddan ni’n cael gigs o dan y ddau enw.” Prosiect Ceiri yn wreiddiol felly ond yn esblygu’n naturiol diolch i’r berthynas dda oedd ganddo gyda gweddill y band. Y cwestiwn naturiol felly oedd a welwn ni Ffracas byth eto? “’Da ni i gyd yn sgwennu dipyn,” cadarnha Jac. “Mae Ceiri yn uffernol o prolific felly fo sy’n sgwennu mwyaf ond ’da ni wedi creu’r label Ski-Whiff i ryddhau stwff ein hunan a ma’ hynny’n galluogi ni i wneud lot o betha’ gwahanol a dydi rhoi enw ar wbath ddim mor bwysig â hynny. Oeddan ni mor ifanc yn cychwyn Ffracas, 13-14. Pan wnaethon ni chwara Gwobrau Selar tua pymthag oeddan ni felly fysan ni byth yn chwarae

set fel’na rŵan, ond eto, ’da ni’n chwara cwpl o tiwns fi yn fyw weitha’, heb chwythu fy nhrwmped fy hun ormod ’lly. Ond does na’m pwynt rhoi gormod o label arno fo...” “Os ydan ni’n chwara’n fyw, ’da ni’n fwya’ tebygol o chwara’r stwff dwytha i ni’i sgwennu,” ychwanega Ceiri. Mae’r pedwar ohonynt yn weithgar gyda’r label hefyd. “Mae Owain yn brysur iawn efo’r social media,” meddai Ceiri. “Yn fwy na fi achos dwi’m yn gallu dal i fyny efo’r holl beth.” A dyna egluro ym mhellach pam ein bod yn sgwrsio ar y ffôn tŷ! Tybiais felly mai nid i ddianc oddi wrth dechnoleg fodern y bu Ceiri i Ynys Enlli yr wythnos flaenorol, ond be’n union fuodd o’n ei wneud yno? “Nesh i sgwennu dipyn o diwns yno de. Does na’m byd arall i’w wneud yno.” Ceiri a chwaraeodd bob offeryn ar yr albwm, Bywyd Llonydd, yn ogystal â chynhyrchu’r record ei hun. Ond a’i dyna’r drefn arferol o weithio i Pys Melyn neu a gafodd hynny ei orfodi gan y pandemig dros y deunaw mis diwethaf? “Nath o’m newid dim i fi,” meddai. “O’n i’n selfisolate-io llawar cyn pawb arall. Os o’n i ddim yn ysgol, o’n i’n ’neud tiwns. I’r pwynt, unwaith o’n i’n cyrradd adra, dyna o’n i’n ei neud, yn lle gneud gwaith cartra fi. Ia... o’n i ddim yn dda iawn yn ysgol achos ’mod i’n gneud hynna bob dydd.” Ar ôl athronyddu ychydig am ddarpariaeth cerddoriaeth fel pwnc yn ein system addysg, dychwelodd y sgwrs at yr albwm. Mae’r sengl o’r un enw allan ers blwyddyn a hanner, a chasgliad o ganeuon sydd wedi eu recordio dros gyfnod eithaf hir yw Bywyd Llonydd, fel yr eglura Ceiri. “‘Laru’ ydi’r hynaf dwi’n meddwl. ’Da ni wedi bod yn chwara caneuon oddi ar yr albwm yma ers blynyddoedd. Mae pawb sydd yn dod i’n gigs ni yn ’nabod lot o’r caneuon ond ma’ rhai yn newydd hefyd. Dwi’m yn gwbod os nawn ni byth chwarae’r rheiny’n yselar.cymru

17


fyw. Ond mi fydd yna albwm newydd allan erbyn diwadd y flwyddyn pryn bynnag.” Trac arall sydd yn ymddangos ar y record yw ‘Prin’, sengl a ryddhawyd ar y cyd ag Omaloma ym mis Ionawr. Ac mae’r stori am sut y daeth y ddau foi mwyaf chilled yn y sin i gydweithio â’i gilydd yr un mor ddi lol ag y byddech yn ei ddisgwyl. “Nathon ni chwara gig efo Omaloma yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Nath George ddod i fyny ata’i a deud ‘chdi di boi Pys Melyn?’ ac mi ddaethon ni’n ffrindia ar ôl hynna. Nesh i jysd rhoi cyfeiriad iddo fo a nath o jysd troi i fyny am ddiwrnod bach o recordio yn y tŷ, yn Stiwdio Pant yr Hwch.” Pant yr Hwch yw’r stiwdio a sefydlwyd gan dad Ceiri, Edwin, yng nghartref y teulu ym Mhentreuchaf, ger Y Ffôr. Ac wrth sôn am Y Ffôr, rhaid oedd rhoi sylw i un o’n hoff ganeuon i ar yr albwm sef ‘Londis Ffor’. Dyma drac sydd wedi creu argraff ar sawl un arall hefyd gan gynnwys Sian Eleri, a’i chwaraeodd ar ei rhaglen, Radio 1’s Chillest Show, yn ddiweddar. “Odd hwnna’n very last-minute addition i’r albwm,” eglura Ceiri. “Odd hi’n flip of a coin os odd hi am fod arno fo ond ma’ pobl yn enjoio hi. Ma’ lot o bobl ’di deud wrtha’i eu bod nhw’n licio honna. Does ’na neb ’di deud bod nhw’n licio yr un arall! Dwi’n meddwl ei bod hi’n fan favourite. Dwi jysd ’di clywad y geiriau yna trw’ fy mywyd, mae ‘tisho wbath bach o siop’ fel ryw recurring motif i’m mywyd i. Mae o fwy am sut ma’r geiriau’n swnio na be’ dwi’n ei ddeud mewn caneuon fel’na. O’n i’n chwilio am y synau ac wedyn nath o’i gyd ddod at ei gilydd fel ryw stori fach am Londis Ffor.”

Ffans enwog Gofynnais a oedd wedi cael unrhyw ymateb i ‘Londis Ffor’ gan y siop ei hun ond er i’w dad egluro wrthynt am fodolaeth cân Ceiri, dim ond gwenu mewn dryswch a wnaethant! Ta waeth am hynny achos mae ymateb y gwybodusion wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt, gyda neb llai na Gruff Rhys yn trydar mawl i’r record newydd. Teimlad “brilliant” i Ceiri, yn enwedig o ystyried fod y Super Furries, ac yn enwedig deunydd llai adnabyddus y band, yn gymaint o ddylanwad ar ei waith. Ond dim ond un o nifer yw’r Furries achos yr hyn sy’n nodweddu hogia’ Pys Melyn i gyd yw eu chwaeth gerddorol eang. Ceiri, Jac a Sion a oedd curadwyr cyntaf podlediad newydd Lwp, Hyfryd Iawn, ble roeddynt yn trin a thrafod rhai o’r caneuon sydd yn eu hysbrydoli. Roedd hi’n amlwg o’r bennod eu bod yn eangfrydig iawn ac yn gwrando ar dipyn o’r hyn y mae 18

yselar.cymru


Beth nesaf? Wrth i’r cyfyngiadau lacio, cafodd Pys Melyn y cyfle i rannu’r gerddoriaeth yma gyda chynulleidfa fyw am y tro cyntaf ers amser hir iawn gydag ambell gig ym mis Awst; Eisteddfod Gudd, Gŵyl Goncrit a Gŵyl Ara Deg. Wedi hynny, bydd eu golygon yn troi at yr ail albwm y soniodd Ceiri amdani yn gynharach. Felly gyda record arall ar y gweill mor fuan ar ôl y gyntaf, be allwn ni ei ddisgwyl tybed? “Fyddan nhw’n fwy fully fledged, yn fwy o ganeuon. Dwi’m yn meddwl bydd yna unrhyw gân heb eiriau iddi ar yr albwm nesa. ‘Da ni wedi bod yn stocio i fyny felly ma’ gynnon ni ddigon o stwff. Ma’r rhan fwyaf wedi’i recordio, ma’ gynnon ni fwy na deg cân.” Rhwng hynny ac ambell beth arall ar y label Ski-Whiff ar y ffordd cyn diwedd y flwyddyn, mae digon i gadw aelodau Pys Melyn yn brysur. Ond mae un nod braidd yn annisgwyl y maent yn awyddus i’w wireddu hefyd... “Ma’ bod yn westai ar y rhaglen deledu Natur a Ni efo Morgan Jones yn uchelgais mawr. Mae o’n ffrind da, yn ffrind i’r band.” Theme tune newydd? Awgrymais. “Ma’ nhw angan un dwi’n meddwl.”

rhai’n hoffi ei alw’n ‘gerddoriaeth byd’. Term nad yw Ceiri, mwy na finna, yn or hoff ohono. “Ma’ lot o musicians yn licio miwsig rhyfadd a miwsig o wledydd arall. Odd David Byrne o Talking Heads yn un da am ffendio artistiaid o wledydd gwahanol a rhoi cynulleidfa hollol newydd iddyn nhw. Odd y miwsig ar ei label o definitely wedi dylanwadu arna’i, pobol fel William Onyeabor a Susana Baca yn brilliant.” Yn naturiol, mae’r dylanwadau hyn yn treiddio i’r hyn y mae Pys Melyn yn ei greu ac o ystyried hynny, mae’r hyn yr oedd Ceiri yn ei ddweud am bwysigrwydd y sain a’r rhythm dros gynnwys y geiriau yn ‘Londis Ffor’ yn gwneud lot o synnwyr. Mae honno a ‘Dim Syndod’ yn sicr yn cynnwys curiadau Affricanaidd eu naws. “Ydi, fatha ryw Afrobeat fel odd Fela Kuti a lot o artistiaid arall yn ei wneud yn Nigeria yn y 1970au,” cadarnha Ceiri. yselar.cymru

19


Curaduron y Curiadau Gydag albwm gwych Ciwb wedi ei ryddhau dros yr haf a phrosiect senglau Sywel Nyw yn mynd o nerth i nerth, Tegwen Bruce-Deans sydd wedi bod yn archwilio’r ysbryd cymunedol yn yr aer ar ran Y Selar.

E

r gwaetha’r holl ymbellhau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cerddoriaeth wedi bod yn gwlwm cyson i’n cadw ni ynghyd; boed yn gwylio gig rhithiol dros Zoom, rhannu atgofion dros ryddhad ôl-gatalog, neu rannu linc i sengl ddiweddaraf eich hoff fand. Ac nid gwrandawyr yn unig sy’n tynnu ynghyd er gwaetha’r amgylchiadau. Yn atgofus o hen gyffro cydweithredol albyms fel Rwy’n Caru Ciwdod, cyfres Dan y Cownter ac, wrth gwrs, 12 - Deuddeg Y Selar ei hun, daeth cyfnod y pandemig â thon newydd o awydd i gydweithio.

20

yselar.cymru

Ar drothwy’r flwyddyn newydd, cyhoeddodd Sywel Nyw, prosiect unigol y cerddor a’r cynhyrchydd Lewys Wyn, ei fwriad i gydweithio ar ddeuddeg sengl gyda deuddeg artist gwahanol. Rhyddheir senglau’r prosiect aml-gyfrannog hwn fesul mis trwy gydol y flwyddyn, yn allbwn creadigol gwahanol i’w gerddoriaeth arferol. “Dwi’n licio meddwl am syniadau ffres i gyflwyno, ac un syniad oedd cyd-weithio hefo artistiaid i ryddhau caneuon hollol wahanol a gwreiddiol,” meddai Lewys. “Mae’r prosiect wir yn dangos y cyfoeth o greadigrwydd sydd yma yng Nghymru, a pa mor wahanol ydy’r holl artistiaid a’u ffyrdd o gyfansoddi.” Cyhoeddodd y band Ciwb yn ddiweddar eu bod nhw’n rhyddhau albwm aml-gyfrannog hefyd. Wedi iddynt ffurfio pedwarawd rhithiol ar Twitter yn recordio trefniannau newydd o hen glasuron, ffrwyth llafur Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams yw Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?. I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gofynnwyd iddynt gan Lŵp i recordio fersiwn arbennig o glasur Edward H. Dafis, ‘Smo Fi Ishe Mynd’. Gyda llais ysgafn Malan yn tynnu cyferbyniad cyfareddol i Cleif Harpwood ar y gwreiddiol, dyma blannu hedyn y syniad o gael elfen gydweithredol i’r albwm dilynol. Fel prosiect Sywel Nyw, deg cân â deg o gantorion gwahanol arnynt sydd ar Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?, wrth i Ciwb roi ail fywyd i ôl-gatalog Sain.


Prosiectau wedi’u curadu yw’r rhain, wrth i’r prif artistiaid annog cyfranogwyr eclectig gymryd y llyw. Felly ai ‘curadur’ yw’r ‘band’ newydd, er mwyn diwallu gwanc y cyhoedd am ddeunydd amrywiol ar amrantiad? Ai albyms aml-gyfrannog yw’r dyfodol yn yr oes ddigidol chwim? Yn wir, mae Sywel Nyw yn osgoi magl yr albwm undonog trwy sicrhau amrywiaeth ym mhob un o’i senglau. Dim ond curiadau pop breuddwydiol nodweddiadol sy’n tynnu’r gerddoriaeth ynghyd, yn gyson fel llif afon. Yn debyg, llinyn cyswllt llac, cysyniadol sydd rhwng trefniannau Ciwb, gan herio cyfanwaith confensiynol albwm. Yn ôl gitarydd y band, Elis, roedd penderfynu creu albwm aml-gyfrannog nid yn unig yn ateb galw’r sin radicalaidd cyfoes, ond hefyd o fudd personol i’w gerddoriaeth ef fel artist unigol. “Roedden ni’n meddwl bysa’n hwyl cael cantorion

gwahanol i bob cân er mwyn cael bach o amrywiaeth... a hefyd i sbario fi orfod dysgu pob un! Dwi’n meddwl ’sa hynny wedi gallu arwain at ddryswch rhwng Ciwb a cherddoriaeth ‘Elis Derby’.” Mae’n amlwg fod budd personol wedi dod o’r elfen gydweithio i brosiect Sywel Nyw hefyd, wrth alluogi iddo rannu’r baich creadigol. Mae Lewys wedi bod yn ychwanegu perlau bach creadigol i’w senglau, i greu cyfanwaith mwy uchelgeisiol. O ddarparu stems i ‘Pen yn y Gofod’, i greu fideos cerddorol amrywiol, bu hyd yn oed modd prynu bocs o fatsis gyda gwaith celf ‘Bonsai’ arno. Yn ôl yntau, dyma ymateb gorfodol i ddirlawnder y byd cerddorol. “Mae sengl bron â bod yn diflannu ar ôl i ti ei ryddhau, sy’n gallu teimlo’n anti-climatic. Felly er mwyn cynnal diddordeb yn y senglau, y bwriad ydy ymestyn ar y prosiect hefo ychydig o gimmicks, merch neu fideos.” yselar.cymru

21


Ond mae perthynas greadigol yn gweithio’r ddwy ffordd, ac mae’r cyfranwyr hefyd yn elwa o’r cydweithio. Yn ôl Heledd Watkins, sy’n lleisio trefniant Ciwb o ‘Rhydd’ gan Hanner Pei, roedd bod yn rhan o’r broses cydweithio yn chwa o awyr iach. “Mae’n neis am unwaith gallu eistedd yn ôl a gadael i bobl eraill do their thing cyn dod i eistedd wrth y bwrdd. Yn aml iawn mae llygad newydd ar waith yn gallu cymryd cân i le doeddech chi ddim wedi dychmygu, ac yn helpu chi rhag mynd yn sownd yn eich groove arferol.” Ond ni fyddai cymaint o fanteision i berthynas greadigol gydweithredol heblaw i’r cyfranwyr weddu’n berffaith i’r prosiect. Un flaenoriaeth bwysig i Ciwb oedd ffeindio artistiaid a oedd yn gweddu i anghenion cerddorol eu trefniannau o draciau gwreiddiol Sain. Roedd hyn yn gallu bod yn hawdd iawn ar adegau, yn ôl Elis. “Gyda ‘Gwawr Tequila’, er enghraifft, roedd angen cantores a fysa’n gallu taro’r nodau uchel a mynegi emosiwn yn dda, felly roedd rhywun fel Mared Williams yn ddewis amlwg!” Yn wir, gellir dadlau bod dewis Ciwb i gydweithio gydag enwau mwyaf blaenllaw’r sin cyfoes nid yn unig yn caniatáu iddynt ddathlu cyfraniadau’r artistiaid cyfredol i’r sin ochr-yn-ochr â’r artistiaid gwreiddiol, ond hefyd yn gwarantu canlyniadau cerddorol o safon uchel ac yn apelio i gynulleidfaoedd eang. Ond trywydd ychydig amgenach sydd gan Sywel Nyw. Mae’n debyg ei fod yn canolbwyntio ei benderfyniadau cydweithredol yn fwy ar sicrhau amrywiaeth eclectig yn y prosiect. “Dwi’n trio cyd-weithio hefo artistiaid o bob math, o wahanol ardaloedd, cefndiroedd a genres

cerddorol gwahanol er mwyn rhoi adlewyrchiad da o be’ ydy cerddoriaeth Gymraeg,” meddai. Does dim gwadu bod cydweithio gyda’r chwedlonol Mark Roberts yn debygol o fod yn uchafbwynt gyrfaol i Lewys, ond eto mae’n rhoi cystal llwyfan i artist ifanc fel yr actores Lauren Connelly hefyd. Wrth wneud hynny, llwydda Lewys i amrywio’r sin oddi wrth yr enwau amlwg, a phlannu hadau er mwyn gweld blodeuad y sin amgen yn y dyfodol gyda lleisiau newydd ar flaen y gad. Ers cydweithio gyda Lewys, mae Lauren yn bendant wedi gweld buddiannau personol iddi hi, yn ogystal â’r sin yn gyffredinol. “Dwi’n meddwl mae’n lysh cael masho creadigrwydd pobl gwahanol gyda’i gilydd,” meddai. “Mae hefyd yn rhoi siawns i bobl sydd byth wedi ’neud rhywbeth cerddorol cael go gyda chefnogaeth. Dwi wedi dechrau dysgu chwarae offerynnau ac arbrofi’n gerddorol yn fwy yn barod.” Er eu hymdriniaethau gwahanol, mae’r ddau brosiect wedi atynnu cynulleidfaoedd mwy amrywiol na’r arfer. Gyda’u all-star cast cyfoes, mae apêl Ciwb yn sicr yn gorwedd gyda’r to ifanc. Fodd bynnag, mae adfywio hen ganeuon ôl-gatalog Sain yn galluogi’r band i gyfareddu’r hen do hefyd, wrth ennyn atgofion melys o glasuron y gorffennol. Gwrandawyr o genres gwahanol yn hytrach nag oedrannau gwahanol sydd gan Sywel Nyw; does dim llawer o gerddorion sy’n gallu apelio at wrandawyr cerddoriaeth jazz, gair llafar a phop seicadelig electronig, ag yntau ond wedi rhyddhau wyth cân o dan yr enw! Trwy’r fath atyniad eclectig, gall Lewys wedyn ehangu a chyfoethogi’r sin yn yr un ffordd y mae Ciwb yn ei wneud wrth uno cenedlaethau. Felly beth am y dyfodol? A fydd prosiectau amlgyfrannog yn parhau i ffynnu yn olion llwyddiant prosiectau Sywel Nyw a Ciwb? Neu a fydd y ffocws yn dychwelyd at y band a’r albwm confensiynol wrth i ychydig yn fwy o normalrwydd wawrio ar y byd cerddorol? Er gwaethaf yr hyn all newid o’u cwmpas, mae cydweithio gydag artistiaid yn amlwg wedi dod yn rhan greiddiol o’r prosiectau hyn. A chyda’r gigs byw cyntaf ers blwyddyn dechrau cael eu trefnu, gobeithio y byddwn yn gweld ffrwyth y cydweithio hwn ar lwyfan ei hun yn fuan hefyd.


adolygiadau

Wyt ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod? Ciwb

Mor hawdd fyddai wedi bod i Ciwb wario pum diwrnod o note-bash-io ‘ffwrdd-â-hi’ yn Stiwdio Sain i greu unrhyw fath o harmoni ffordd-gosa’. Yn lle hynny fodd bynnag, mae’n debyg fod ysbrydion yr artistiaid fu yn y stiwdio gynt wedi bod yn gryn ddylanwad ar yr hyn a grëwyd, sef albwm taclus hawdd gwrando arno o ganeuon llai amlwg Cymru dros y blynyddoedd. I mi, mae’r albwm hwn yn gofyn y cwestiwn “Be’ os” yn fwy na dim. Gan fod Ciwb fel offerynwyr medrus wedi gallu perfformio’r caneuon i siwtio arddulliau’r naw artist gwadd, gallwn ofyn cwestiynau fel “Be’ os fyddai ‘Mynd i Ffwrdd Fel Hyn’ wedi cael ei hysgrifennu gan Rhys Gwynfor?”, neu “Be’ os mai Elis Derby ryddhaodd ‘Nos Ddu’ fel sengl?”.

Bywyd Llonydd Pys Melyn

Mae’n wych cael clywed rhai o’n hartistiaid gorau heddiw’n arddangos eu sgiliau ac yn cael hwyl gyda’r caneuon, o lais melfedaidd Alys Williams yn ‘Methu Dal y Pwysau’ i ysbryd hwylus Heledd Watkins yn ‘Rhydd’, a heb anghofio aelodau Ciwb eu hunain wrth gwrs. Mae’r albwm hwn felly’n profi fod posibilrwydd perfformio hen ganeuon mewn dull fyddai’n addas ar gyfer llwyfannau cyfoes Cymraeg o hyd. Mae’n anodd dewis hoff drac gan fod pob artist yn rhoi ei hud a lledrith ei hun ym mhob cân, ond mae ‘Dagrau o Waed’ gydag Osian Huw Williams ac ‘Ofergoelion’ gydag Iwan Fôn yn arbennig yn fy marn i. Does dim ond gobeithio rŵan mae ’mond mater o amser sydd cyn i ni weld a chlywed Ciwb (a’r artistiaid gwadd) yn perfformio yn y cnawd. Ioan Rees

Fedra i ddim dweud wrthych chi sawl gwaith dwi wedi gwrando ar yr albwm yma dros yr wythnosau diwethaf. Yn rhannol gan ei fod yn ffigwr uchel iawn ac yn rhannol gan fy mod yn aml yn colli pob ymwybyddiaeth o lle’r ydw i a beth yn union dwi’n ei wneud. O’r trac agoriadol offerynnol, ‘Byw yn yr Ardd’ ac yna ar daith hamddenol ymlaciol trwy ‘Laru’ nes cyrraedd yr hyfryd o ailadroddus ‘Bywyd Llonydd’, mae rhan cyntaf y casgliad yn mynd â chi yn bell iawn o fywyd go iawn. Cewch eich deffro yn araf wedyn gan guriadau cynnil Affricanaidd ac ambell “hyyygh” yn ‘Dim Syndod’ cyn eich cludo i Galifornia yr 1960au yn ‘Trwoser Poeth’. Rydych chi’n methu eich ffleit yn ôl gan eich bod ar goll yn rhywle rhwng ‘Marina’ a ‘Moddion’ cyn cyrraedd yn y diwedd yn ‘Londis Ffor’ o bob man. Y lle diwethaf y byddech yn disgwyl clywed Afrobeat ond dyna sydd yn eich aros os ydych eisiau “rhywbeth bach o siop”. Rhag ofn fod pethau ddim cweit digon llorweddol eisoes, beth am ymweliad ‘Prin’ ag Omaloma cyn cyrraedd pen ein taith yn ‘Mela’ ar y piano. Os nad ydw i’n gwneud lot o synnwyr, jysd ewch i wrando. Gwilym Dwyfor

RHAID GWRANDO

Cashews Blasus Y Cledrau

Os oedd albwm cyntaf y Cledrau’n un i gael ei chwarae’n uchel, mae eu halbwm newydd yn un i gael ei chwarae reit ar ben ucha’r seinydd. Roedd pawb yn barod i glywed mwy gan y Cledrau wedi’r deunaw mis diflas diwethaf ’ma, ac mae’r band yn gwneud ymdrech glyfar i bryfocio’r gwrandawyr am y cyfnod hwn yn eu caneuon. Mae hyn i’w glywed yn ‘Chwyn’ gyda defnydd o’r dywediad sydd wedi ei or ddefnyddio, ‘Daw Haul ar Fryn’, a sŵn torf yn sgwrsio a chyd-ganu yn yr anthemig ‘Bywyd Cacen Ffenest Rhydian a Twm’. Er hyn, gallwn anghofio am y gorffennol, byw i’r eiliad ac edrych i’r dyfodol o gigs wrth wrando ar yr albwm hwn. Aml iawn gallwn ddweud gyda rhai bandiau os mae’r geiriau neu’r gerddoriaeth yw’r elfen bwysicaf. Gyda’r Cledrau fodd bynnag, mae’r ddau mor ddibynnol ar ei gilydd i greu cytganau bachog sy’n aros yn y cof. Mae cydbwysedd da yn y gerddoriaeth sy’n sicrhau ei fod yn syml a chofiadwy, ond ar yr un pryd yn gwneud lle i’r geiriau ddod allan yn glir. Mae hyn i’w glywed yn arbennig yn ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ sydd ddim ond yn defnyddio dau gord, ond sy’n cynnwys adran gyda lleisiau’r band yn atseinio’r geiriau bron fel côr yn yr Eisteddfod. Cydbwysedd da, Band da! Gwrandewch a mwynhewch, ac ewch ati i brynu CD nid yn unig i gefnogi’r band, ond hefyd i gael poster/taflen lyrics lliwgar i’ch wal. Llongyfarchiadau i’r band am wledd o gerddoriaeth yr oedd ei angen yn fawr arnom. Ioan Rees


adolygiadau

Coron o Chwinc BOI

Mae Waunfawr nôl yn y tŷ ac mae ’na gryn edrych ymlaen wedi bod a deud y lleia’ am laniad casgliad cyntaf BOI, band sy’n cyfuno doniau dau o gyn-aelodau’r grŵp poblogaidd Beganifs/ Big Leaves gyda rhai o gerddorion amlycaf Cymru, a ma’ nhw’n wych. Dyma albym sy’n ddwrn yn dy wyneb di o’r eiliad gynta’ wrth i’r sain mawr, melodaidd daro’r gwrandäwr yn ddi-ildio. Yn sgil hynny, ’da ni’n sylwi’n o gynnar fod ’na hyder yn perthyn i’r detholiad yma o ganeuon sy’n ennyn cadernid o’r gitârs cyhyrog a’r curiadau caled. Ceir geiriau ac alawon sydd yn archwilio themâu mawr ein hoes a’n cyflwr dynol, ac o blethu hynny â’r crasrwydd ddaw o enaid y prif leisydd, anodd ydi peidio teimlo elfen o nostalgia wrth i’r harmonïau iasol roi lifft inni nôl i’r 90au mewn cerbyd gonestrwydd. Ond nid carbon copy mo Coron o Chwinc o fath yn y byd. Mae ’na ffresni amlwg i’r cynnyrch ac mae’r gerddoriaeth yn sgil hynny’n siarad drosto’i hun trwy gyfrwng amrywiaeth o arddulliau. O gyffyrddiadau electro ‘Heidio Mae’r Locustiaid’ i roc magnetig yn ‘Cael Chdi Nôl’ mae ’na ehangder heb ei ail yn perthyn i’r albym, ac o gloriannu hynny gyda serch a melancholly ‘Ynys Angel’ a ‘Tragwyddoldeb’, dyma gasgliad sy’n frith o emosiynau. O gadw mewn cof fod yr albym wedi’i recordio mewn gwahanol lefydd ar hyd a lled y wlad mae ’na rywbeth personol iawn amdano wrth i ddyfnder ambell i hook ac ystrydeb godi croen gŵydd. Yn hynny beth mae’n destun codi het nid yn unig i’r cerddorion ar y casgliad ond hefyd i Dafydd Ieuan o’r Super Furry Animals sydd wedi cyflawni gwaith arbennig wrth gymysgu. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach felly mae’r hud yn parhau ac fel carreg trwy ffenest y gegin mae Coron o Chwinc yn dipyn o syrpreis felly gwnewch ffafr a’ch hunain a cherwch allan i’w phrynu! Ifan Prys

Pwy Sy’n Galw Band Pres Llareggub

Albwm yw hwn sydd yn dathlu ugain mlynedd o Pwy Sy’n Galw gan y Big Leaves neu fel mae Owain Roberts, maestro Band Pres Llareggub yn ei alw: “yr albwm orau Iaith Gymraeg erioed”. Wrth gwrs, nid yw’r syniad o ailddehongli anthemau ac albyms mwyaf enwog yr iaith Gymraeg yn newydd i’r band hwn achos nôl yn 2015 fe wnaethon nhw ryddhau eu fersiwn o Mwng gan y

Detholiad o Ganeuon Traddiodiadol Cymreig Los Blancos

Fel y gallwch ddychmygu, nid detholiad o ganeuon traddodiadol Cymreig yw EP newydd Los Blancos mewn gwirionedd. Yn wir, gellir dadlau nad yw Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig hyd yn oed yn ddetholiad traddodiadol o ganeuon Los Blancos! Mae’r ffordd y cafodd y casgliad ei greu, ac o ganlyniad yr allbwn terfynol, yn gwbl wahanol i albwm cyntaf hollol anhygoel y band, Sbwriel Gwyn. Yn ystod y cyfnod clo, wrth aros i ddychwelyd i’r stiwdio i orffen ail albwm, fe dyrchodd y bois trwy hen demos a oedd wedi casglu dros y blynyddoedd diwethaf. O’r casgliad eang hwnnw, datblygwyd pum syniad ac arweiniodd hynny at EP amrywiol tu hwnt, gyda phob aelod yn cyfrannu cân yr un. I brofi pa mor amryddawn yw’r criw, mae ‘100 AD’ sydd wedi ei hysgrifennu gan Osian yn swnio fel cân drymiwr a chyfraniad Emyr, ‘Diogi’, yn swnio fel cân gitarydd. Yn naturiol, nid ydym yn clywed cymaint â’r arfer o Gwyn ar yr EP ond daw ‘Mil o Eirie’ fel dos cysurus o’r cyfarwydd i nodi hanner ffordd trwy’r casgliad. Profa ‘Noi Vogliamo’ gan Cian fod dawn ysgrifennu yn treiddio trwy’r band i gyd ac mae’r cwbl yn gorffen gyda chân Dewi, ‘Trwmgwsg Tragwyddol’ sydd yn enghraifft berffaith o felodïau hiraethus nodweddiadol Los Blancos. Mae’n anodd meddwl am gasgliad arall ble mae pob cân wedi ei hysgrifennu gan aelodau gwahanol o grŵp. Efallai na ddylai weithio fel cyfanwaith am y rheswm hwnnw ond mae o rywsut. Fel gwrando ar fand yn plygio i mewn fesul un ar gyfer soundcheck, mae haenau’r sain yn adeiladu i gynnig cipolwg hynod ddiddorol i anian Los Blancos. Gwilym Dwyfor

Super Furry Animals a fu’n llwyddiant ysgubol. Ar ôl chwe blynedd o syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’u cyfyrs efallai fydd rhai ohonoch yn meddwl fod yr elfen hynny o syrpreis wedi meddalu wrth i ni ddod yn gyfarwydd gyda’r band a bod hwn yn ddim byd mwy na Mwng MKII. Ond credwch chi fi, mae’r albwm yma’n llawer mwy na hynny. Dyma waith athrylith. Tra bod ambell gân yn agosach at

y gwreiddiol na’i gilydd mae pob un ohonynt yn cynnwys alawon a riffiau’r Big Leaves ond wedi eu hail-ddehongli mewn modd fydd yn chwalu’ch ymennydd. Mae’r ffordd mae Owain Roberts wedi ail-ddychmygu rhai o’r caneuon yma gan droi roc a pync i Motown a sain hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf yn haeddu canmoliaeth. Ceir wyth cantor gwadd yma ac mae pob un yn asio’n dda gyda’r arddulliau newydd ond hefyd, gan eu bod yn enwau adnabyddus yn y sin heddiw, fe fyddan nhw’n sicrhau fod y caneuon yn cyrraedd cynulleidfa gyfoes yn ogystal â’r rhai oedd yn cofio’r Big Leaves yn eu hanterth. Un o albyms y flwyddyn heb os. Steff Rees


Mymryn Hyll

Wedi blwyddyn o grybwyll datblygiadau sonig aeddfed, mae Hyll yn dychwelyd i’r sin gydag ychwanegiad arall i’w portffolio cerddorol. Ac er mai Mymryn yw’r enw a roddir i greadigaeth newydd y band ifanc o Gaerdydd, mae gymaint o amrediad cerddorol ynddi. Awgryma’r teitl, felly, mai dim ond crafu arwyneb posibiliadau cerddorol y band y mae’r EP amrywiol hwn. Adeilada Hyll ar eu haeddfedrwydd sonig a sbardunwyd â rhyddhad ‘Coridor’ llynedd, gan gymryd cam i ffwrdd o

ddirlawnder y sŵn indieroc a oedd yn greiddiol i’r band gynt. Coctel o synau synth ‘Defnydd Personol’, moelni offerynnol ‘Taliesin’ a llinynnau gwerinol ‘Ar Draws y Bydysawd’ sydd yma - digon i feddwi hyd yn oed y gwrandäwr mwyaf eclectig. Yn wir, meddwdod sy’n dod i’r meddwl yn aml wrth ymgolli yn nryswch yr EP, am nad oes digon o gydlyniant rhwng y traciau a’r cysyniadau i greu corff o waith sy’n argyhoeddi’n llwyr. Mae gan Hyll gymaint o syniadau sy’n haeddu cyrff o gerddoriaeth eu hunain er mwyn

Cyfnos Gwenno Morgan

Yn cyfuno addurniadau piano jazz a chlasurol wedi’u hail-ddychmygu trwy lygaid sinematig ac electronig, mae EP cyntaf Gwenno Morgan, Cyfnos, yn ddatganiad artistig hyderus sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth offerynnol boblogaidd Gymreig. Wedi’i hyfforddi fel pianydd clasurol ac yn tynnu ysbrydoliaeth o enwau mawr fel Debussy a Tom Misch, aiff Gwenno â ni o gyfforddusrwydd minimalaidd y lounge jazz-aidd yn ‘Through the Space’ i chwyrlwynt o felodïau electronig ac atmosfferig yn ‘T’. Er mai pum trac yn unig ydy’r EP, yn sicr rydym yn derbyn synnwyr cynhwysfawr o allu’r artist i reoli pegynau’r clasurol a’r electronig, y minimalaidd a’r sinematig, a’u dod ynghyd yn feistrolgar i greu cyfanwaith. Un o nodweddion gorau’r EP ydy’r ffordd y mae

Stoppen Met Roken Kim Hon

Glaniodd EP cyntaf Kim Hon heb ’fawr o rybudd na ffws na seremoni ar ddechrau mis Awst. Ac efallai mai rhan o’r rheswm am hynny oedd y ffaith nad oes llawer o ddeunydd newydd yma. O’r chwe chân ar Stoppen Met Roken, mae pedair ohonynt yn gyfarwydd wedi iddynt gael eu rhyddhau eisoes fel senglau dros y ddwy flynedd diwethaf. Sampl munud a thair eiliad o ffans Aston Villa yn Ghana yn siantio am eu diffyg ymwybyddiaeth o glybiau pêl droed eraill yw un o’r ddwy arall! Gan adael ‘Cadw’r Newid’ fel yr unig gân newydd mewn gwirionedd. Yn briodas berffaith o gitâr distorted a llais hyderus, mae’n fy atgoffa o fand arall a’i wreiddiau yn Nyffryn Nantlle, y chwedlonol Topper.

datblygu’n llawn, yn hytrach na thaflu syniadau ar eu hanner i un EP. Ond wrth gyrraedd diwedd y coctel, mae gweddillion iâ yn dal i gadw eu ffurf ar waelod y gwydr. Ac yn dal i orwedd wrth galon Hyll mae eu cariad at Gaerdydd, sy’n cael ei grisialu gan gyfeiliant sŵn y ddinas i ganu amrwd ‘How’s Your Love Life’. Dyma sŵn sy’n ddeinamig fel datblygiad y ddinas sy’n graidd i gymaint o’u hangerdd cerddorol, ac sy’n dal i gyfareddu gwrandawyr hyd heddiw. Tegwen Bruce-Deans

llawer o’r traciau’n disgyn i ffwrdd yn gyflym ar y diwedd, bron fel petai’n deffro’n sydyn o freuddwyd. Dawn Gwenno yw tynnu’r gwrandäwr i fyd arall, dim ond i’w llorio ar y diwedd gan ein hatgoffa mai cerddoriaeth ydoedd wedi’r cwbl. Yn rhydd rhag hualau geiriau, cyniga’r EP gyfle i felodïau cyfareddol allweddau’r pianydd gamu i ganol y llwyfan am y tro cyntaf. Dyma froliant artist ifanc yn cydio yn y byd modern, eclectig o’i hamgylch a’i droi’n gerddoriaeth bersonol, ond bydol ar yr un pryd. Mae’n amlwg fod gan Gwenno lawer mwy i ddweud wrthym yn y dyfodol. Mae hi’n bell o fod yng nghyfnos ei gyrfa gerddorol, ac edrychwn ymlaen at weld sut y mae hi’n ychwanegu ei chyffyrddiad unigryw hi i’r byd unwaith eto’n fuan. Tegwen Bruce-Deans

Ond hei, mae’n braf cael caneuon Kim Hon i gyd yn daclus yn yr un lle, achos maen nhw’n class! O’r anthemig ‘Twti Ffrwti’ i’r hypnotig ‘Bach o Flodyn’ ac o’r niwlog ‘Parti Grwndi’ i’r barddonol ‘Nofio Efo’r Fishis’, maen nhw’n creu hit ar ôl hit. Mae ‘arbrofol’ yn air sydd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw fath o gerddoriaeth sydd fymryn yn wahanol. Ond pan dwi’n galw Kim Hon yn arbrofol, dwi’n golygu hynny yn wir ystyr y gair. Wrth wrando, dwi’n dychmygu tŷ myglyd llawn weiars a geriach a’r hogia jysd yn cael laff yn trio offer a thechnegau gwahanol i greu synau newydd. Ac mae’r hwyl hwnnw yn treiddio i bob nodyn o’r cynnyrch terfynol. O ia, ac yn Iwan Fôn, mae ganddynt ffryntman gorau Cymru. Ffaith. Gwilym Dwyfor

Aros I Fi Yna N’famady Kouyaté

Does dim gwefr fel clywed cerddoriaeth sy’n adweithio iaith y nefoedd gyda sain tramor. Brodor o Conakry, prifddinas Guinea yng ngorllewin Affrica, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru yw N’famady Kouyaté. Mae’n plethu’i wreiddiau gyda’i ddylanwadau i greu ei EP cyntaf, grymus; ‘Aros I Fi Yna’. Mae gwasgu’r botwm chwarae fel agor drws i fyd o liw a bwrlwm. Drwy gydol yr EP, clywn ganu Mandingue a Chymraeg; cyfuniad mor annisgwyl, ond mor wych ar yr un pryd. Amlwg iawn drwyddi draw yw’r balafon, offeryn traddodiadol ei famwlad o deulu’r xylophone, sy’n cynnig sain trawiadol ac unigryw. Y teitl-drac agoriadol a’r trydydd trac, ‘Balafô Douma’, yw’r rhai mwyaf bywiog gydag offerynnau pres blaenllaw, sy’n cyferbynnu gyda’r ddau drac arall ‘Gadael y Dref’ a ‘Bannilay’ - sy’n fwy hiraethus ac hamddenol o ran y naws a’r offeryniaeth, dan arweiniad y gitârs. Cyfanwaith campus a chyfoethog; yn ddathliad o godi pontydd, o groesawu, o ieithoedd ac o ryngwladoldeb. Mawr obeithiwn fod mwy o’r gerddoriaeth arloesol yma i ddilyn yr EP, sy’n gadael ei wrandawyr yn bloeddio am fwy. Gruffudd ab Owain


‘Hanner Cant’ Hap a Damwain

Dyma albwm cynta y ddeuawd arbrofol Hap a Damwain, sef prosiect Hap (offerynnau a thechnoleg) a Damwain (llais), aka Simon Beech ac Aled Roberts. Mae’n gasgliad difyr o 14 cân cwbl unigryw, ac yn ddilyniant naturiol i ddau EP laniodd y llynedd (Ynysg #1 ac Ynysig#2). Mae’r grŵp amgen yn arbenigwyr ar blethu elfennau o amrywiol genres i greu sŵn llawn gwreiddioldeb gyda’u stamp eu hunain arno. Mae yma gyfuniad trawiadol o fotiffau diddorol sy’n cynnwys elfennau o ffync, tecno, blŵs, hip-hop, avant-garde, roc, a darnau acwstig. ‘Gormod?’ dw i’n clywed chi’n gofyn; wel nac ydy – maen nhw’n ganeuon llawn sylwedd, ac mae’r ddeuawd yn amlwg yn gerddorion meistrolgar. Cewch wledd o ganeuon ac iddynt strwythurau anghonfesiynol, gyda bîts amrywiol, gitario celfydd, synths gofodaidd, bas cryf, a’r cyfan wedi’i gyfoethogi gan lais sy’n hofran rhwng canu a llafarganu. Gwneir defnydd gwirioneddol o’r llais fel offeryn, gan bwyleisio’r modd yr ynganir geiriau er mwyn cefnogi curiad y caneuon. Rhaid rhoi clod i’r geiriau hefyd, yn enwedig pan gewch chi’r hyder a’r hyfdra i odli ‘afala’’ gydag ‘Abertawa’! Mae’r themâu geirfaol yr un mor amrywiol a’r gerddoriaeth, a does dim cyfle yma i ddiflasu wrth wrando. Ar y cyfan, naws electronaidd sydd i’r cyfanwaith, gyda synnau difyr a samplau hwnt ac yma sy’n bywiogi’r caneuon, megis y côr plant yn ‘Rhyl’. Mae caneuon egnïol fel ‘Yuri Gagarin’ yn codi awydd dawnsio - yn sicr, byddai clywed y caneuon yma’n fyw yn brofiad cofiadwy. Mae’r sŵn ffync yn atgoffa un o gerddoriaeth Dawns neu House, tra ar y pegwn arall, ceir caneuon mwy ymlaciol a melodiaidd, fel ‘Mam Bach’ a ‘Rhy Fuan’ sydd â naws hafaidd, ysgafn. Buddsoddwch eich amser i wrando ar yr albwm anghonfensiynol hwn sy’n chwa o awyr iach i’r sîn Cymraeg. Dim ond 50 copi CD sydd ar gael, felly prysurwch os hoffech gael eich bachau ar ddeunydd pop cwyrci. Awen Schiavone 26

yselar.cymru

Ymaelodwch â’r Clwb Ydach chi’n aelod o Glwb Selar eto? Os felly, pam ddim! BETH YN UNION YDY CLWB SELAR DWI’N CLYWED RHAI’N HOLI? Wel, mae o’n gyfle i chi gefnogi’r gwaith mae’r Selar yn gwneud yn y cylchgrawn (rhad ac am ddim) yma, ar ein gwefan selar.cymru, ac i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes trwy gydol y flwyddyn.

BETH SYDD YNDDI I CHI? Yn syml iawn – llwyth o bethau cerddorol ecsgliwsif gwych gan Y Selar! Gan ddibynnu ar eich lefel aelodaeth, byddwch yn derbyn anrhegion arbennig a chynigion ecsgliwsif yn rheolaidd trwy’r flwyddyn.

Am ddim ond £5 y flwyddyn gallwch ddod yn ‘Roadie’ a derbyn copi o’r cylchgrawn print trwy’r post bob tro, ynghyd â chylchlythyr misol Clwb Selar gyda chynigion gan Y Selar a’n ffrindiau yn y sin. Neu beth am fod yn ‘Gitarydd Blaen’ am ddim ond £30 y flwyddyn a chael y pethau yma ynghyd ag anrhegion hael fel crys T, copi o flwyddlyfr Y Selar, anrheg Nadolig a chopi o’n record feinyl amlgyfrannog cyfyngedig. Isio gwybod mwy neu ymaelodi â’r Clwb? Ewch draw i gael cip ar yr holl lefelau aelodaeth ar wefan Y Selar.

selar.cymru/aelod/lefelau


Coron o Chwinc – BOI Llun: ffotoNant

Y diweddaraf i ymgymryd â her Y Selar yw prif leisydd BOI, Rhodri Siôn. Dipyn o siwpyr grŵp yw BOI, gydag Osian Gwynedd, Ifan Emlyn, Heledd Mair Watkins a Dafydd Owen hefyd yn rhan o’r lein-yp. Cafodd eu halbwm cyntaf, Coron o Chwinc, ei ryddhau ym mis Mehefin a’r sialens i Rhodri, mewn dim ond brawddeg yr un, cyflwyno’r albwm, Drac Wrth Drac.

1. Heidio Mae’r Locustiaid Swnllyd, drymia’ a gitâr, iddi, noson allan efo dy fêts, sdwffio rhywun sy’isho cal ‘go’. 2. Ddim yn Sant Cwestiwn: ti’n gallu byw efo pwy wyt ti, ti’n foi iawn? 3. Ribidirês Tripi, ffilm James Bond, falle hostage situation... 4. Ynys Angel Syml, melody-driven, am drio cyrraedd rywle tu hwnt i dy gyrraedd. 5. Rheswm am Godwm Trwm, tymhestlog, BAS, fod chwilio am ffeit am ddim rheswm - wast o amsar.

6. Twll Dan Staer Y ‘works’, pobl afiach, gwallgofrwydd y byd. 7. Cal Chdi Nôl Cal nôl efo ex, fel arfer bad idea, intense. 8. Cwcw Cloc Actual cwcw clocs yn ôl Osh, chwara o gwmpas efo amser a byd sy’n deu’tha ti fod yn brysur drwy’r amser i mi, neith hon weithio’n dda yn fyw. 9. Lladd Amser Lockdown lyrics yn hiraethu am weld ffrindia ond hefyd ‘summer vibes’ am wastio amser efo ffrindiau da. 10. Tragwyddoldeb Bod yna i rywun.

DYDDIAU AGORED PRIFYSGOL EITHRIADOL Mae Prifysgol Bangor yn cynnig profiad, lleoliad a chymuned eithriadol. Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored a darganfyddwch fwy am beth sydd gan Fangor i’w gynnig.

Dydd Sul, 10 Hydref Dydd Sul, 31 Hydref Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd Archebwch le www.bangor.ac.uk/diwrnodagored

SLO - Sellar OD Ad.indd 1

19/08/2021 14:19


Haf o n e l l r a Dd


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.