8 minute read

O Mi Awn Ni am Sgwrs (efo Fleur De Lys)...

Caiff “hir ddisgwyliedig” ei or ddefnyddio ond mae tyrchu trwy hen negeseuon DM Twitter Y Selar yn datgelu ein bod wedi holi Fleur de Lys am albwm newydd a oedd ar y gweill yn ôl yn Hydref 2017! Ddwy flynedd union yn ddiweddarach fe gafodd y record hir ei rhyddhau ac roedd Gethin Griffiths wrth law i holi’r hogia’.

Mae hi’n wythfed o Ionawr. Mae hi’n flwyddyn newydd. Mae’n bryd cyhoeddi rhestr fer Band y Flwyddyn Gwobrau’r Selar. Arni, mae Gwilym a Lewys - dau o fandiau ifanc poblogaidd y blynyddoedd diweddar. Y trydydd enw, fodd bynnag, yw Fleur de Lys. Dydy Rhys, Huw, Carwyn a Siôn ddim yn hen, o bell ffordd, ond maen teimlo fel eu bod nhw wedi bod o gwmpas yn hirach na’r gweddill, rhywsut. ’Nôl yn Haf 2013 - faint oedd oed criw Gwilym a Lewys, tybed?!

Advertisement

Bum mlynedd ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf, Bywyd Braf, mae’r band o Fôn yn parhau i fod yn enw cyfarwydd i gynulleidfa’r Selar, ond mae dipyn wedi newid yn ystod y blynyddoedd hynny. Eisteddodd Rhys Edwards a Huw Harvey fel dau athro parchus gyda diodydd meddal o’u blaenau mewn tafarn nid anenwog ym Mangor Uchaf, gan ddechrau drwy drafod eu halbwm cyntaf a ryddhawyd llynedd, O Mi Awn Ni Am Dro.

Pan gafodd yr albwm ei lansio yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa (neu Tafs i’r hogia’), roedd y band wedi rhoi ychydig o amser i’w dilynwyr ddysgu’r caneuon. Eglurodd Rhys...

“Roedd pobl wedi dod i’r lansiad yn ’nabod y caneuon. Mi ’naethon ni ryddhau’r albwm a disgwyl pythefnos i roi cyfle i bobl wrando, cyn lansio’r copïau caled.”

Er nad yw’r diwydiant yn ddibynnol ar gopïau caled bellach, mae’n amlwg eu bod yn hoff o gael gafael ar eu cynnyrch yn eu dwylo. Gallai’r cydbwysedd rhwng rhyddhau’n ddigidol ac yn gorfforol fod yn anodd, ac mae nifer o fandiau a labeli wedi treialu tactegau gwahanol. Cytuna’r ddau fod y pythefnos o ryddhau ar Spotify’n unig wedi eu galluogi i fesur llwyddiant y caneuon cyn eu chwarae’n fyw.

Ond beth ydi ymateb da iddyn nhw? Beth sy’n gwneud iddyn nhw feddwl eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn iawn? Daw i’r amlwg mai ymateb y gynulleidfa mewn gigs yw’r llinyn mesur i Huw.

“Os wyt ti’n gweld pobl yn canu’r geiriau yn ôl, mae hynny’n arwydd da. Ym Maes B flwyddyn dwytha, dwi’n cofio pan oeddan ni’n canu ‘Cofia Anghofia’, ’nath pobl ddechrau canu honno hefo ni. ’Di hi erioed wedi bod yn un o’r rhai sy’n cael yr ymateb mwyaf. Hyd yn oed yn ystod caneuon fel ‘Wyt Ti’n Sylwi?’ - roedd ’na ymateb i honno hefyd. Mi’r oeddan nhw jyst iawn yn canu bob cân.”

Fel canwr, mae Rhys yn dal i gael ei synnu gan yr ymateb.

“Pan ti’n stopio canu a ma’ nhw’n dal i fynd, ma’ hwnna’n class o deimlad. ’Eith hynny byth yn hen.”

Rhywbeth sy’n bachu

Nid pob band sydd yn cael cynulleidfa mor niferus i gyd ganu pob gair. Y gyfrinach iddyn nhw, yw ysgrifennu caneuon bachog. Mae Huw’n troi at Rhys gan honni mai’r canwr sy’n bennaf gyfrifol am hyn.

“Dyna ’dw i’n licio” ateba Rhys.

“Dwi’n euog o licio petha’ bachog. Boed o’n riff gitâr, yn eiriau neu’n neges, ’dw i o hyd yn chwilio am rywbeth sydd yn bachu. Does gen i ddim syniad be’ sy’n y charts. ’Dwi’n licio be’ dwi’n licio. Beth bynnag ydi’r gân, os ydy hi’n gân werin neu roc, pop neu jazz, y bachyn sydd yn sefyll allan i fi. Mae hynny’n sicr yn amlwg yn y pethau ’dwi’n ’sgwennu.”

Mae natur y caneuon hyn wedi ennill cynulleidfa ifanc niferus iddynt dros y blynyddoedd diwethaf. Er i’r gynulleidfa honno gofleidio’r caneuon newydd gyda breichiau agored, mae un gân yn parhau i sefyll ar ei thraed ei hun o ran poblogrwydd fel yr eglura Rhys.

“‘Haf 2013’. Mae’r gân ’na’n nyts de. ’Da ni’n dod ar draws lot o bobl sydd ’mond ’di gwrando ar honna. Mae ’na rai eraill sydd wedi cychwyn efo honna, ond wedi cael eu harwain i wrando ar ganeuon eraill wedyn. I feddwl mai cân ’naethon ni sgwennu’n sydyn oedd hi i lenwi bwlch ar yr EP cyntaf, mae’n anhygoel i feddwl mai honna ydy’r un fwya’ poblogaidd. Mae ’na key change ynddi hi, hyd yn oed!”

Ers y sgwrs yma, mae’r gân bellach wedi ymuno â’r ‘Clwb Can Mil’ ar Spotify, eu cân fwyaf poblogaidd ar y cyfrwng hwnnw o bell ffordd.

Efallai mai dyma un o’r rhesymau sydd wedi achosi i Fleur De Lys gael ymdriniaeth negyddol gan ambell un dros y blynyddoedd, fodd bynnag. Er i ambell fand adael i’r math yma o feirniadaeth eu heffeithio nhw’n fawr, dydi Huw ddim yn meddwl gormod am hyn.

“Mae ’na rai bandiau yn poeni mwy am y bobl sy’n eu barnu nhw. Mae ’na rai gigs ’sa ni byth yn ffitio mewn iddyn nhw, ond ’da ni ddim yn meindio hynny. Rhaid i chdi gofio faint o bobl sydd yn gwrando ar dy gerddoriaeth di, yn hytrach na’r rhai sydd ddim”.

Mae Rhys yn adnabod rhyw fath o dueddiad deublyg yn y sin ar hyn o bryd, sy’n golygu, efallai, bod bandiau yn ffitio i un o ddau gategori.

“Ella bo’ gen ti ddau deip o fandiau rŵan. Wedi dweud hynny, dwi erioed wedi teimlo pwysau i newid y ffordd ’da ni’n swnio. Dwi’n ffrindiau efo hanner y bobl sy’n y bandiau eraill. Mae pobl yn licio drama ac yn meddwl bo’ ’na ryw fath o barrier, ond does ’na ddim! Mae’n ddoniol - ’da ni ’di rhannu llwyfan efo bob mathau o fandiau, oherwydd bod y sin mor fach”.

Ychwanega bod angen i artistiaid o bob math

sylweddoli bod cynnyrch sydd wedi ei ryddhau i’r byd yn gwbl agored i feirniadaeth.

“Os wyt ti mewn band, neu’n fardd, neu ’neud llun, hyd yn oed, mae’n rhaid i chdi dderbyn hynny. Rhaid i chdi gymryd pethau hefo pinsiad o halen. Rhaid iddo fo blesio ni gyntaf, ac wedyn pobl eraill.”

Môn-pop

Un label arall oedd yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn golau negyddol ar un adeg, oedd y label daearyddol ‘Band Sir Fôn’.

“Yn y dechrau, roedd pobl ella’n troi eu llygada’ ar y ffaith ein bod ni’n fand o Sir Fôn. Ond pwy oedd gen ti pan oeddan ni’n cychwyn allan? Moniars? Meinir Gwilym? Elin Fflur? Mi oedd gen ti’r bandiau ysgol fel Crwydro. Ti’n cofio Crwydro? Band Richard Holt sy’n gwneud cacennau rŵan.”

Yn fuan ar ôl iddyn nhw ddechrau, fodd bynnag, sylweddolodd y band eu bod nhw’n rhan o ryw fath o symudiad.

“Dwi’m yn dweud ein bod ni wedi sbarcio rhywbeth, ond mi oedd ’na nifer o fandiau yn codi o gwmpas y lle wedyn, fel Gwilym. Ydi Gwilym yn cyfri fatha Sir Fôn? Mi oedd Terfysg yn un enw arall hefyd, mewn rhyw fath o don gyffrous.”

Ond hyd yn oed wrth i enwau newydd ddod i’r amlwg ar hyd a lled yr ynys, roedd y nifer o gigs oedd yn digwydd yno’n parhau i fod yn isel. Creda’r ddau fod pethau’n newid yn raddol, a rhoddodd Huw restr o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd.

“Tafarn y Rhos, yr Iorwerth ym Mryngwran, y Ffowndri

“Mae pobl yn licio drama...”

yn Llangefni ydi’r llefydd, mae’n siŵr. Er, wedi dweud hynny, yr Iorwerth ydy’r unig le hefo llwyfan go iawn.”

Cofia Rhys fynd o gwmpas tafarndai flynyddoedd yn ôl i geisio lledaenu enw’r band, a chael ymateb oeraidd iawn.

“Dwi’n cofio mynd o gwmpas pybs yn ifanc hefo CDs a lincs Soundcloud, a doedd ganddyn nhw ddim llawer o ddiddordeb. Yn sicr, doeddan nhw ddim am dalu ni i chwarae yna. Erbyn hyn, dwi’n teimlo bod yna nifer o dafarndai sy’n cefnogi cerddoriaeth Gymraeg ac isio gweld cynulleidfa Gymraeg yno.”

Yr hyn sydd yn parhau i fod yn broblem, efallai, yw absenoldeb un lleoliad nodedig.

“Does gen ti ddim y lle i fynd i wylio band Cymraeg. Does gen ti ddim dy Glwb Canol Dre, er enghraifft.”

Mae’n debyg mai’r newid mwyaf yng ngyrfa’r band yw eu penderfyniad nhw i arwyddo ar label Côsh. I fand oedd wedi sefydlu’n barod ac wedi denu dilyniant heb gefnogaeth label, roedd yn rhaid gofyn iddyn nhw beth y maen nhw’n ei ennill drwy gytundeb o’r fath. Ateba’r ddau fel deuawd llefaru – “Proffesiynoldeb”, cyn i Huw ymhelaethu:

“Trefn. Mae’n boost i ni. Doeddan ni ddim y gorau am hyrwyddo ein hunain. Er enghraifft, pan oeddan ni isio rhyddhau EP ein hunain, doedd ganddo ni ddim y gefnogaeth i bwshio’r cynnyrch yn bellach. Mae cael cefnogaeth Yws Gwynedd yn golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar y pethau sy’n cyfri.”

Mae’r cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r gerddoriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn nwylo’r band, ac maen nhw wedi sylwi ar un tueddiad dros y blynyddoedd diwethaf.

“’Da ni’n cael ymateb gymaint gwell ar Instagram na unrhyw le arall. Gan fod ein cynulleidfa ni’n ifanc, yr unig beth maen nhw’n ei wneud ydi dilyn pobl ar hwnnw. ’Sa ni’n cael gymaint mwy o ymateb arno fo na union yr un post ar Facebook neu Twitter. Er dy fod di ar label - ti’n dal i orfod bod on the ball hefo petha’ fel ’na.”

I gymharu ag ambell un o’r bandiau eraill sy’n rhannu’r un math o lwyfan â nhw, mae’n teimlo fel bod Fleur De Lys wedi bod hefo ni ers tipyn. Gyda Côsh yn rhoi glo ffres ar y tân, a’r gynulleidfa ifanc yn parhau i gyd ganu’r senglau newydd yn ogystal â ‘Haf 2013’, mae’n amlwg nad ydy hynny’n mynd i newid yn fuan. Os nad yw eu statws newydd fel aelodau o’r Clwb Can Mil yn brawf o hynny, mae’r ffaith eu bod nhw’n hawlio eu lle ar restr fer Gwobrau’r Selar fel Band y Flwyddyn yn sicr yn awgrymu bod yna gryn awydd am glywed mwy gan y band o’r tu draw i’r pontydd.

“ Pan ti’n stopio canu a ma’ nhw’n dal i fynd, ma’ hwnna’ n class o deimlad.”

This article is from: