Y Selar - rhifyn mis Mehefin 2016

Page 1

Rhif 45 | Mehefin | 2016

Omaloma y-selar.co.uk 1 Cowbois Rhos Botwnnog | Ewro ‘16 | Geid i’r Gŵyliau


e r h c e d d a m Dy ! a d e i d d y d ar y

www.ydds.ac.uk • #dyddieda • #drindoddewisant


y Selar

cynnwys

RHIF 45 | MEHEFIN | 2016

Golygyddol Yn fy ngolygyddol ym mis Tachwedd fe alwais am gân bêldroed i Gymru ar gyfer Ewro 2016. Atebwyd yr alwad mewn steil wrth i bawb a’i nain fynd ati, ond mwy am hynny mewn darn arbennig yn y rhifyn hwn. Y wers am wn i yw dwys ystyried yr hyn dwi’n ei ddymuno o hyn ymlaen! Fe wnai serch hynny ddymuno haf cofiadwy i bob un ohonoch, boed hynny ym Maes B neu Bordeaux, Tafwyl neu Toulouse. Mae’n argoeli’n haf da o ran cerddoriaeth fyw a da gweld hynny’n dechrau’n fuan yn Eisteddfod yr Urdd. Dros y blynyddoedd diweddar mae hi’n teimlo fel bod yr wythnos hon yn chwarae rôl gynyddol bwysig yn yng nghalendr yr SRG. Eleni, yn ogystal ag amserlen gynhwysfawr llwyfan perfformio’r maes trwy’r wythnos bydd dau gig gyda’r nos. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno gig ‘Rhedeg i Baris’ yng Nghlwb Pêl-droed y Fflint ar y nos Wener cyn i Fwrdd Syr IfanC gynnal gig ar faes yr Eisteddfod ar y nos Sadwrn. Ewch yn llu i ddechrau’r haf mewn steil. Gwilym Dwyfor

4

10

Geid i’r Gwyliau 2016

4

Gwbod y Sgôr

6

Omaloma

10

Newyddion

13

Selar yn y Stiwdio

14

Sgwrs Sydyn

16

Gigio gyda’r Selar

18

Ti di Clywed

19

Adolygiadau

20 Llun clawr: Llŷr Pari

16

18

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Leigh Jones, Ciron Gruffydd, Megan Tomos.

y-selar.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Geid i’r Gwyliau 2016 Tafwyl

Pryd: 2 - 3 Gorffennaf Lle: Castell Caerdydd Pris: Am ddim! Beth: Yn ŵyl aml gyfrwng sydd yn para dros wythnos, bwriad Tafwyl yw dathlu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y brifddinas. Daw’r uchafbwynt cerddorol ar y penwythnos olaf ar ffurf Ffair Tafwyl yn y castell. Mae bwystfil o lein-yp wedi cael ei ffurfio gyda digon o fandiau ac artistiaid i lenwi’r prif lwyfan a’r babell acwstig am ddeuddydd. Mae uchafbwyntiau’r babell acwstig yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Colorama, Plu ac Ani Glass ar y dydd Sadwrn, ac yna Huw M, Meic Stevens a Bendith ar y dydd Sul. Fe fydd Cadno,

Gwyl Arall

Pryd: Gorffennaf 8-10 Lle: Amrywiol leoliadau o gwmpas Caernarfon Pris: Dibynnu ar y digwyddiad Beth: Mae Gŵyl Arall wedi hen ennill ei phlwyf bellach fel digwyddiad celfyddydol amrywiol sy’n llawn dop o gelf a llenyddiaeth yn ogystal â cherddoriaeth. Wedi ei leoli mewn amrywiol leoliadau

4

y-selar.co.uk

Ysgol Sul, Yr Eira, Sŵnami, Maffia Mr Huws, Band Pres Llareggub, Candelas ac Eden (ia Eden!) ymhlith y rhai a fydd yn camu i’r prif lwyfan ar y dydd Sadwrn cyn cael eu dilyn ar y dydd Sul gan Rogue Jones, Palenco, Alun Gaffey, Y Niwl ac Elin Fflur. Tip y Selar: Os ydach chi o dan 25, ymchwiliwch Eden cyn mynd, (oeddan nhw ryw fath o Little Mix o ochra’ Rhyl yn y 90au).

Gwyliau cerddoriaeth eraill 11 Mehefin – Gŵyl Cefni, Llangefni 24-15 Mehefin – Gŵyl Cann Office, Llangadfan 8-9 Gorffennaf – Gŵyl Nôl a Mlân, Llangrannog 18-21 Awst – Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog 26-27 Awst – Gŵyl Crug Mawr, Aberteifi

yng Nghaernarfon mae’r arlwy cerddorol eleni yn cynnwys Band Pres Treftadaeth Rajisthan, Nesdi Jones, Y Niwl, Anelog, Alun Gaffey, Hatfitz & Cara a Hywel Pitts, gyda llawer mwy i’w gyhoeddi eto. Tip y Selar: Ewch i weld Nesdi Jones, dyma gyfle cymharol brin i weld seren Bhangra o Gricieth yn chwarae yng Nghymru.


Sesiwn Fawr

Pryd: 15 - 17 Gorffennaf Lle: Sgwâr Dolgellau Pris: £15 nos Wener a nos Sadwrn, £10 dydd Sul, £30 am docyn penwythnos a £70 am docyn teulu. Beth: Yn driw i’w gwreiddiau gwerinol mae lein-yp eleni’n cynnwys rhai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru, gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Ghazalaw, Patrobas a Gwilym Bowen Rhys i gyd yn chwarae. Bydd The Sidh, The Elephant Sessions, The Changing Room a Talisk yn rhoi naws mwy rhyngwladol i’r arlwy werinol, a Houdini Dax yn dod ag ychydig o roc a rôl efo nhw i fyny’r A470 o Gaerdydd. Mae’r hen sdejars, Mynediad am Ddim ac Ail Symudiad yn siŵr o ddenu torf, ac felly hefyd y llu o artistiaid lleol sydd yn cynnwys Y Storm, Y Cledrau, Jambyls ac wrth gwrs, Yws Gwynedd! Tip y Selar: Arbedwch hyd at £50 gyda’r tocyn penwythnos teulu. Dau oedolyn a dau blentyn am £70... Bargen!

Maes B

Pryd: 30 Gorffennaf 6 Awst Lle: Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau Pris: Yn dibynnu pa ddiwrnod y byddwch yn cyrraedd, £20 - £110 ar hyn o bryd ond yn codi

Festival No.6

Pryd: 1 - 4 Medi Lle: Portmeirion Pris: £170 - £195 i oedolion, £110 - £130 i bobl ifanc (11-15), am ddim i blant. Prisiau gostyngedig (heb y gwersylla) ar gael i bobl leol o Ganolfan Wybodaeth Portmeirion. Beth: Noel Gallagher’s High Flying Birds, Hot Chip a Bastille yw prif artistiaid No.6 eleni ac wrth i’r ŵyl fynd o nerth i nerth yn ei phumed flwyddyn mae’n debyg mai dyma’r lein-yp orau eto o ran yr arlwy Cymraeg. Mae Nyth/Gwydir a Sŵn yng ngofal llwyfannau yn ystod

i £25 - £130 ar y 1af o Orffennaf. £10 fydd gigs unigol heb y gwersylla. Beth: Diolch i Gaffi Maes B a’r llwyfan perfformio fe fydd rhywbeth i fynd â’ch bryd o’r Sadwrn cyntaf ar faes yr Eisteddfod. Bydd pethau’n dechrau poethi

y penwythnos ond mae artistiaid Cymraeg wedi eu pupuro o gwmpas yr ŵyl gyfan. Mae’r rhestr faith yn cynnwys Anelog, Castles, Cowbois Rhos Botwnnog, Elan a Mari, Estrons, Geraint Jarman, Gwenno, HMS, Lleuwen, Meic Stevens, DJ’s Nyth, Palenco, R. Seiliog, Super Furry Animals, Sŵnami, Ysgol Sul ac Yucatan. Yr uchafbwynt serch hynny o bosib fydd Topper yn chwarae eu gig cyntaf ers dros ddegawd ar Lwyfan Clough. Tip y Selar: Ewch â lot o bres ond dim pecyn bwyd. Mae’r stondinau bwyd yn wych ond yn ddrytach na chŵn poeth y Gorlan.

yn y Fenni serch hynny o’r nos Fercher ymlaen wrth i gigs nosweithiol Maes B ddechrau. Yr Eira ac Yws Gwynedd fydd yn rocio nos Fercher cyn Y Reu a HMS Morris gymryd yr awenau nos Iau. Tro Y Bandana a Candelas

fydd hi nos Wener cyn i Fand Pres Llareggub ac Yr Ods gloi gweithgareddau’r wythnos ar y nos Sadwrn. Tip y Selar: Mae hi’n feddygol bosib ond yn hynod annoeth byw ar bot nwdls yn unig am wythnos.

y-selar.co.uk

5


Gwbod y sgôr M

ae ‘na lot wedi’i wneud o’r ‘bandwagon’ bondigrybwyll sy’n carlamu tuag at Bordeaux wedi i Gymru gyrraedd Ewro 2016. Does dim modd gwadu nad oes llwyth o gynnyrch amrywiol wedi’i llwytho ar gefn y goets, boed yn grysau-t, bathodynnau, sticeri, hetiau, llyfrau ac ati. Wrth i ddechrau’r bencampwriaeth agosáu, mae ‘na un math arall o gynnyrch wedi dechrau ymddangos ym mhobman, sef caneuon pêl-droed i gefnogi’r cochion yn Ffrainc. Rydan ni’n gyfarwydd â’r cysyniad o gân ‘swyddogol’ i gefnogi ymgyrchoedd timau pêl-droed – mae Lloegr yn arbennig wedi gweld ambell un amlwg iawn. Y Manic Street Preachers gafodd y fraint o recordio cân swyddogol Cymru, sef ‘Together Stronger’, ond mae ‘na lu o ganeuon answyddogol, Cymraeg a Saesneg wedi’u cyhoeddi yn achos ymgyrch Ewro 2016 tîm Chris Coleman. Ar un pwynt tua chanol mis Mai roedd hi’n teimlo fel petai cân newydd yn cael ei rhyddhau bob dydd, a rheiny’n amrywio tipyn mewn safon! Mae’n debyg mai’r ymdrech gyntaf yn y Gymraeg oedd ‘Ar y Ffordd’ gan Alun Tan Lan, sef ei ymdrech ar gyfer Cân i Gymru eleni. “Wnes i ysgrifennu hi fel cân i blant i ddeud gwir” eglura Alun. “Jyst rhywbeth efo cytgan syml.

6

y-selar.co.uk

Dwi’n dysgu gitâr ac iwcaleli mewn ysgolion yn Sir Conwy a byddai’n trio ysgrifennu caneuon newydd trwy’r amser gyda’r plant. Dwi’n fwy o ffan o seiclo na phêl-droed, ac wedi ysgrifennu mwy o ganeuon am hynna na phêl-droed!” Cân syml gyda chytgan gofiadwy ‘Bale ar y Bêl’ wedi gweithio i Alun, ac mae’r un peth yn wir am y fersiwn newydd o ‘Hogia Ni’ gan Gwerinos, gydag Ywain Gwynedd yn westai arbennig ar y recordiad. Partneriaeth annisgwyl efallai, ond fel mae Yws yn egluro, roedd yn gyfle iddo wireddu breuddwyd. “Ddoth y cynnig ei hun i fod yn rhan o’r recordiad gan Ywain Myfyr, ond dwi ddim yn meddwl fod ganddo syniad o faint oedd y gân yn ei olygu i mi ers yn blentyn. Roedd dad wedi gwneud tâp cymysg i ni gael gwrando arno yn y car wrth fynd ar dripiau awr neu fwy ac roedd fersiwn Gwerinos o Hogia Ni yng nghanol stwff Christy Moore, Fureys ac ambell i gân Bob Dylan. Oni’n hollol chyffd pan ges i’r cynnig i ganu pennill gan Myf gan fod y gytgan yn siŵr o godi’r blew bach ar fy mreichiau bob tro.” “‘Da ni’n canu ‘Hogia Ni’ ers 1992” meddai Ywain Myfyr, canwr Gwerinos, cyn mynd ymlaen i egluro pam bod y grŵp wedi dewis recordio fersiwn newydd i gefnogi Cymru.

“Ma pawb wrth eu bodd â phâr newydd o Adidas Hamburgs, 3 phwynt a thiwn dda”

eachers Manic Street Pr


“Ma’r gytgan draddodiadol wedi cael ei chanu gan griwiau mewn tafarndai ers cyn cof ac mae’n boblogaidd iawn gan griwiau pêl-droed. Roedd fersiwn Gwerinos yn cael ei defnyddio gan GPD Porthmadog wrth i’r tîm ddod i’r cae. Roedd yr elfennau yma felly’n gwneud hi’n ddewis hawdd.” Ac mae perthynas uniongyrchol â hanes diweddar pêl-droed Cymru fel yr eglura... “Roedd hi’n cael ei chanu ar y terasus allan yn Wcrain yn ddiweddar ac roedd hynny’n brofiad swreal!

Cysylltiad Ar yr olwg gyntaf mae perthynas pêldroed a cherddoriaeth mor annisgwyl ag Yws Gwynedd yn recordio gyda Gwerinos. Ond o ystyried ymhellach, efallai bod y berthynas yn haws i’w deall, wedi’r cyfan mae canu’n rhan amlwg o awyrgylch gemau pêl-droed. Un o’r caneuon Saesneg gorau sydd wedi’i rhyddhau ydy ‘Spirit of ‘58’ gan y grŵp o Dredegar, Argument City ac mae’r drymiwr Scott Williams yn crynhoi’r berthynas “Ma’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth a phêl-droed bob amser wedi bod yn glos, yn rhyw fath o fynd law yn llaw, ma fe’i gyd yn rhan o’r diwylliant. Mae pawb wrth eu bodd â phâr newydd o Adidas Hamburgs, 3 phwynt a thiwn dda yn tydyn? Fel dilynwyr pêl-droed fi’n meddwl bydden ni’n hoffi diolch y Barry Horns gan eu bod nhw wedi bod yn rhan ganolog o’r awyrgylch dros y blynyddoedd diwethaf.” I unrhyw ddarllenwyr sydd ddim

10 Uchaf Caneuon pêl-droed Cymraeg Unarddeg Dyn i Lawr – Winabego Methu Stopio Siarad am Bêl-droed – Y Profiad Ludek – Jen Jeniro Kenny Dalglish – Geraint Jarman Roced Ryan Giggs – Byd Newydd I Mewn i’r Gôl – Côr Meibion Brymbo Paul Bodin – Doli Maradonna – Hogia’r Wyddfa Brwydr Maes Dulyn – Sobin a’r Smaeliaid Dal Heb fy Nal – Ian Rush (y band o’r Wyddgrug!)

Jen Jeniro

yn mynychu Stadiwn Dinas Caerdydd i wylio Cymru, y Barry Horns ydy’r band pres sy’n codi canu yn y Canton Stand, a choeliwch fi, maen nhw’n gwneud cyfraniad allweddol. Ers iddyn nhw ddechrau perfformio eto, mae’r Super Furry Animals wedi chwarae’n rheolaidd yn y stadiwm cyn gemau Cymru. O ystyried bod yr aelodau’n dilyn y gêm, doedd hi ddim yn syndod eu gweld hwythau’n rhyddhau ‘Bing Bong’ fel eu hymdrech nhw i gefnogi’r tîm. Mae Eifion Austin yn aelod o Tigana, sydd hefyd wedi rhyddhau cân Ewro 2016, ‘Dyddiau Coch’. Fel cefnogwr brwd o Gymru ac Abertawe mae’n gweld perthynas glos rhwng pêl-droed a cherddoriaeth. “Fi’n credu bod cerddoriaeth yn

Gwynedd Gweinos a Yws

“Dwi’n fwy o ffan seiclo na phêl-droed...”

rhan annatod o ddiwylliant pêldroed. Fi’n credu bod canu mewn gemau pêl-droed yn rhywbeth sy’n uniaethu cefnogwyr da’i gilydd, ac mae’r ymdeimlad o uniaethu gyda’ch cyd gefnogwyr yn rhan pwysig o ‘football fandom’. Hefyd ma’na rhyw fath o gystadleuaeth ymysg ffans a thimau o bwy sydd gallu bod mwyaf creadigol gyda’i ddewis o eiriau a melodïau. Yng ngemau diweddar Cymru ni di cal crop grêt fel “Ain’t nobody, like Joe Ledley, makes me happy, makes me feel this way” [i alaw’r gân Chaka Khan o’r 80au].” “Fi hefyd yn credu bod ‘na diwylliant o fewn pêl-droed ble mae cefnogwyr yn hoffi cerddoriaeth o genres gwahanol ond yn bennaf bandiau gitâr y 60au, canu soul a ffync, bandiau indî a hefyd gwleidyddiaeth asgell chwith progressive. Ma’ fe’n ddiwylliant mae’r cylchgrawn When Saturday Comes yn trin a thrafod ac mae’r tri diwylliant hynny’n rhan holl bwysig o beth bydden i’n galw’n ddiwylliant traddodiadol dosbarth gweithiol ym Mhrydain” eglura Eifion. Felly mae’n debyg bod y gamp a’r gelfyddyd yn plethu’n ddigon naturiol, ond ydy’r canu ar y teras yn cael ei adlewyrchu yn y caneuon sy’n cael eu rhyddhau? Mae’r hwyl a herio yna wrth ganu mewn gemau pêl-droed wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar y gân ‘Mint Sôs’ gan brosiect diweddaraf Iestyn Jones, gynt o Rebounder, sef Y Sybs.

y-selar.co.uk

7


hollbwysig yn y grand scheme. Ac yn olaf rwbeth syml iawn ma’ pobl gallu canu ar dop eu lleisiau!” Mae Ywain Myfyr hefyd yn pwysleisio bod symlrwydd yn effeithio. “Geiriau syml fedr gael eu dysgu neu addasu’n hawdd. Dydy cân bêl-droed dim o anghenraid yn mynd i gael ei chanu ar y teras. Mae cefnogwyr pêl-droed yn unigryw, hiwmor gwreiddiol, sydyn sydd weithiau’n ddeifiol!”

“wnaiff cefnogwyr ddim ond canu be maen nhw nhw isho” “Nes i drio gwneud cân efo Meilyr Thomas [Dau Cefn a Tokyu] yn 2004 pan nath Cymru bron a’i gwneud hi [i Ewro 2004] ond nath Cymru golli i Rwsia yn y play off. Felly roedd rhaid gwneud cân rŵan.” Dafydd Rhys o Ceffylau Lliwgar sydd wedi sgrifennu geiriau’r gân, ac mae Iestyn hefyd wedi recriwtio John Pierce Jones (Mr Picton, C’mon Midffîld), sylwebydd John Hardy a David R Edwards i wneud cyfraniadau. Mae fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r gân, ac yng nghytgan y fersiwn Gymraeg mae Iestyn yn canu “un ni dio, un ni ac nid chi”, ac mae’n egluro cefndir hynny. “Roedd ffans Cymru’n canu ‘he’s our not yours’ am Gareth Bale, a dyna lle ddoth y syniad ar gyfer y gân. Bach o banter, a geiriau eitha’ syml fel caneuon mewn gemau.” Nid dyma’r gân bêl-droed gyntaf i Iestyn ryddhau cofiwch, pwy sy’n cofio ‘Sgorio’ gan Fwdw Crü i ddathlu dyrchafiad Dinas Caerdydd i’r Uwch Gynghrair?

Sut i greu anthem... Y profiad o gefnogi , a banter cefnogwyr, wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar gân Y Sybs. Ac o feddwl mwy am y peth, mae nifer o’r caneuon pêl-droed amlycaf fel cân Ewro 1996 Lloegr, ‘Three Lions’, â sŵn anthemig, debyg i’r hyn fyddech chi’n ei glywed gan gefnogwyr mewn gêm. Ydy hynny’n rhan o’r rysáit ar gyfer cân bêl-droed llwyddiannus? Beth ydy’r cynhwysion? “Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn warthus” medd Yws Gwynedd. “Fel caneuon Dolig gwael, ma’ nhw’n llawn ystrydebau, fel petai rhywun ‘di sgwennu pob gair

8

y-selar.co.uk

ma’ nhw’n w’bod am y pwnc cyn sgwennu’r gân. Mae’r ambell un sy’n llwyddo i’w gweld yn cynnwys pytiau o straeon, hanes a gobaith. Mae’r gair ‘anthem’ i ddisgrifio cân yn cael ei or-ddefnyddio yn fy marn i, fedri di ddim sgwennu anthem, y bobl sy’n penderfynu pa gân fydd yn anthem.” Mae Ywain Myfyr yn cytuno, “wnaiff cefnogwyr ddim ond canu be maen nhw isho. Anghofiai byth Zombie Nation ym Mrwsel. Y gân iawn ar yr amser iawn. Tasa fo wedi’i gynllunio fasa ddim wedi gweithio! “ Mae Eifion Tigana’n credu bod ambell gynhwysyn pwysig hefyd. “Gyntaf oll ma rhaid bod yn ffan pêl-droed. Dwi’n credu bod angen bach o hiwmor a thafod mewn boch, achos ar ddiwedd y dydd, pêl-droed yw e, ac er mae’n dod a nifer o emosiynau allan, fel person dylet ti hefyd w’bod dyw e’ ddim yn

“Bach o banter, a geiriau eitha’ syml fel caneuon mewn gemau.”

Y Goreuon’ Mae’n debyg nad oes fformiwla mor amlwg â’r un sy’n ennill Cân i Gymru’n ddi-ffael, ac am bob cân bêldroed dda mae ‘na sawl un wael! I gloi, mae’n rhaid holi pawb beth ydy eu hoff gân bêl-droed o’r gorffennol wrth gwrs... Yws Gwynedd – “Dwi’n gutted fod Three Lions gan Lightning Seeds yn gân i Loegr, mai’n gân wych yn fy marn i. Glywais i unwaith fod Golden Retriever gan SFA am Robbie Savage felly dwi’n pleidleisio dros honna os ydi o’n wir.” Alun Tan Lan: “Fy hoff gan pêldroed di Joxer goes to Stuttgart gan Christy Moore.” Eifion Austin (Tigana): “Mae don’t come back too soon gan Del Amitri am dîm Alban yn grêt gan fod y gân mor negyddol, lyrics fel “But you might prove them wrong Even long shots make it. Just don’t come home too soon.” A mae’r Alaw yn itha depressing fyd. Yn olaf fel ffan Abertawe mae rhaid i fi rhoi’r Cân y Fetch / Anthem Abertawe.” Scott Williams (Argument City): “Cân thema Match of the Day – nos Sadwrn, peint o gwrw ac accumulator llwyddiannus yn dy law yn gwneud noson berffaith!” Iestyn Jones (Y Sybs): “Dwi’n cofio clywed ‘World in Motion’ gan New Order am y tro cyntaf, a chywilydd gen i gyfaddef bod hi’n wych o gân.” Ywain Myfyr (Gwerinos) – “Dwi ddim yn ffan mawr ohonyn nhw i ddweud y gwir! I Mewn i’r Gôl ac ella yr un New Order, ond does fawr o rai cofiadwy iawn wedi bod!”

Iestyn Jones


#apffrydio – lansio mis Gorffennaf!

NEWYDD O’R LOLFA!

Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer ffonau iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim

£8.99

twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru

www.ylolfa.com

Rasal•Gwymon•Copa

allan nawr

Y Bandana Fel tôn gron

Casgliad newydd o ddeg o ganeuon – yn llawn egni ac alawon bachog sy’n siw ˆr o blesio!

Patrobas Dawns y Dail

EP newydd ar label Rasal gan y grw ˆp gwerin fodern o Ben Llyˆn

yn y stiwdio

Bydd Bronwen Lewis i fewn yn stiwdio Sain yn fuan i recordio albym newydd i label Gwymon … ac mae Ryland Teifi yn brysur draw yn Iwerddon yn gweithio ar ddeunydd newydd

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


Omaloma YN CHWARAE YN FY MHEN

O

maloma yw prosiect unigol George Amor, Sen Segur gynt. Mae o wedi bod yn creu cerddoriaeth o dan yr enw hwnnw ers tua blwyddyn bellach, a gyda’i sengl gyntaf, ‘Ha Ha Haf’ allan ers mis Ebrill ac albwm ar y ffordd, roedd hi’n amser da i’r Selar sgwrsio â Siôr. Dyma i chi George Amor yn ymddangos ar glawr Y Selar, yn union fel y gwnaeth o bum mlynedd union yn ôl. Aelod o Sen Segur oedd o bryd hynny, band a ddatblygodd yn sydyn iawn yn un o oreuon y sin. Dyma’r tro cyntaf, serch hynny, i ni siarad â George am Omaloma, felly wrth sgwrsio dros beint rhaid oedd dechrau trwy holi am wreiddiau’r prosiect. “Dwi wedi bod yn meddwl yn nhermau Omaloma ers tua blwyddyn, ’bach mwy ella. ’Odd Sen Segur wedi pydru ’chydig a dwi jysd methu stopio sgwennu caneuon felly o’n i angen rwbath arall.” Daeth Sen Segur i ben ym mis Mai 2015, ddiwrnod yn unig wedi iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, Films. Yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr y band chwedlonol o Ddyffryn Conwy, mae George yn chwarae gyda Palenco, ond Omaloma yw ei brofiad cyntaf o brosiect unigol. “Ma’ hwn yn teimlo fel babi a dwi isho bod yn dad da! O’n i’n caru chwarae efo Sen Segs a dwi’n caru chwarae efo Palenco, ma’ hwn yn teimlo’n fwy o faich. Do’n i ddim isho gweithredu o dan enw fy hun. Dwi’n eitha’ swil am fy miwsig eniwe, a ’di Omaloma yn golygu dim byd felly dwi’n gallu cuddio tu ôl i’r enw a’i neud o deimlo fatha band.” Mae’r sengl gyntaf, ‘Ha Ha Haf’ allan ers canol Ebrill ac eisoes wedi cael ymateb gwych o bell ac agos. “Pan ti’n y stiwdio’n recordio wbath ti’n anghofio bod pobl yn mynd i’w glywed o, ond mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae’n cael lot o airplay ar Radio Cymru a BBC Wales. Ma’ hi ’di bod ar Radio 6 bron bob wsnos ers iddi ddod allan a dwi ’di cael Radio 1 hefyd. Mae’r radio ’di bod yn nyts, ma’ ’di cael ei chwarae yn Iwerddon, ar BBC Ulster ac fel record yr wythnos ar Amazing Radio

10

y-selar.co.uk

yn Nulyn. Ma’ ’di bod ar radio yn yr Iseldiroedd a chwpl o orsafoedd indî yn yr U.S. hefyd.” Sylw haeddiannol ond tipyn o gamp o ystyried mai dyma ddeunydd cyntaf artist cymharol newydd. Mae George yn rhoi’r diolch am hynny i’w frawd, Dan Amor, perchenog label Cae Gwyn. “Fy mrawd i ’di hynna i gyd, ma’n rili da fel’na, ma’n rhedeg y label ond ma’n gweithio fel plugger hefyd so mae’r diolch iddo fo. Ma’ Dan yn grêt, ma’n gefnogol a does na’m bullshit, mae o jyst yn neud o. Dwi’n gallu bod reit chwit chwat felly mae o’n gneud yn siŵr mod i on the ball.” Fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae hi’n gân hafaidd iawn, ac mae George wedi llwyddo i greu’r naws a’r teimlad cynnes hwnnw yn y sain yn ogystal â’r geiriau. “Dwi’m yn gallu cofio sgwennu’r gân! Ma’ Llŷr Pari yn chwarae dryms, gitâr a bass arni a ma’ lot o’r diolch am y vibe yna iddo fo.” Recordiwyd y gân yn stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed gyda Llŷr ac mae’n amlwg fod y ddau ffrind yn cydweithio’n dda. “Dwi’n cyfansoddi pob peth yn fy mhen, yna’n ffigro allan y chords ar y piano cyn mynd at Llŷr. ’Da ni’n rhannu’r offeryniaeth, mae o’n chwarae gitâr a dryms ar bob dim a dwi’n gneud ’chydig o bass, keys a chanu.” “Mae ’na fand yn chwarae yn fy mhen, ond dy’ nhw ddim yn swnio’n debyg i hyn” yw llinell agoriadol ‘Ha Ha Haf’ ac ymddengys fod hwnnw’n ddisgrifiad eithaf llythrennol gywir o broses gyfansoddi George felly! “Ydi, ond mae o hefyd yn reference i gân Neil Young, ‘After the Gold Rush’ lle ma’n deud ‘There was a band playing in my head, and I felt like getting high.”


‘Ha Ha Haf’ yw sengl gyntaf Omaloma ond bydd y rhai craff yn eich mysg wedi sylwi iddo gyfrannu trac i albwm aml-gyfrannog Cae Gwyn, Swooshed, a gafodd ei ryddhau yn gynharach eleni. Trac offerynnol hyfryd oedd ‘Lutra’, ac yr un oedd y drefn o ran recordio gyda Llŷr yng Nglan Llyn. “Oedd ‘Lutra’ yn hawdd, wnaethon ni recordio honna mewn rhyw hanner awr, jysd keyboards, dim byd arall. Ma’i stiwdio fo’n grêt gan ei bod hi yn ei dŷ fo. Does ‘na ddim pwysau. Dwi wedi gwneud albwm gyfa’. Mi wnaethon ni neud hwnnw dros flwyddyn felly odd o’n rili hamddenol, dow dow.”

hollol newydd. Wnaethon ni Crug Mawr llynadd ac yna Clwb Ifor mis Chwefror.” Dim ond dau gig ond fe deithiodd yr hogyn o Benmachno yn gymharol bell ar eu cyfer. “Ma’n well gen i chwarae gigs yn y de, ma’n neis cael mynd ar antur. Nesh i fwynhau Crug Mawr yn fwy na Clwb, jysd achos ei fod o mewn cae dwi’n meddwl! Odd Clwb ar y llaw arall reit swnllyd ac o’n i’n rili swil!” Er gwaethaf profiad George ar y llwyfan gyda Sen Segur a Palenco, mae bod yn ganolbwynt y sylw yn her newydd iddo.

Albwm ‘Lutra’ a ‘Ha Ha Haf’ fydd dau o’r traciau ar yr albwm, ac os yw’r rheiny’n unrhyw fath o linyn mesur, mae casgliad arbennig yn ein haros. “Ma’ ’na ddeg trac i gyd. Dwi wedi recordio, jysd angen mastro a fydd o allan yn yr haf. Mae’r tracs i gyd yn cael eu gyrru gan y piano ond ma’ nhw i gyd yn wahanol hefyd. Ma’ ’na ddwy gân offerynnol, mae gen ti ‘Ha Ha Haf’ ac ambell gân upbeat fel’na ond does ’na ddim dwy gân yr un peth.” Mae’r cydweithio rhwng George a Llŷr yn y stiwdio yn amlwg yn dwyn ffrwyth ond mae gofyn ychwanegu at y ddeuawd pan fydd Omaloma’n chwarae’n fyw. “Ma’n teimlo fel bod yna ddau ymgnawdoliad o Omaloma, mae gen ti fi a Llŷr yn y stiwdio ac yna’r band byw sef Llŷr ar dryms, Daf Owain ar bass, Gruff ab Arwel ar gitâr a keys, a fi ar y piano ac yn canu. Dim ond dau gig ’da ni wedi neud felly ma’ dal yn teimlo fel rhywbeth

Lluniau: Llŷr Pari

“Ma’n well gen i chwarae gigs yn y de, ma’n neis cael mynd ar antur.”

y-selar.co.uk

11


12

“Y darn gorau ydi sgwennu rhywbeth a meddwl, dwi isho pobl glywed hwnna. Dwi’n licio bod yn y stiwdio, ond wrth chwarae’n fyw dwi reit swil. Achos ma’ bod yn ganwr... ma’ hynny’n thing!” Ond waeth i ni heb â disgwyl yr Osian Candelas nesaf chwaith, fydd George ddim yn gweithio ar ei bresenoldeb llwyfan gan y bydd o’n rhy brysur yn canolbwyntio ar bethau eraill! “Dwi’n rili conscious o drio cal popeth arall yn iawn, cael popeth mewn tiwn. Fyswn i’n licio bod yn frontman hyderus. Dwi’n licio’r syniad o beidio chwarae offeryn a jysd canu, ond dwi’n meddwl byswn i’n gorfod cael rhywun arall yn y band i wneud hynny.”

Omaloma dros yr haf. “’Da ni’n chwarae yn Steddfod yr Urdd ac ma’ ganddo’ ni dri neu bedwar o bethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dwi’m yn meddwl bod gymaint â hynny o bobl yn gwybod am Omaloma ar hyn o bryd, ond dwi rili isho gneud gigs.” Gobaith George yw y bydd y sengl a’r albwm maes o law yn gweithredu fel “ryw calling card i bobl sydd yn trefnu gigs”. Os fydd y record hir cystal â’r sengl dwi’n siŵr y bydd y dyddiadur yn llenwi’n gyflym iawn. Ac wrth i ‘Ha Ha Haf’ gael ei chwarae ar hyd a lled y byd efallai y bydd ambell gynnig difyr o dramor yn dod i law yn fuan iawn hefyd!

Sen ddim mor Segur Sôn am chwarae’n fyw, bron i flwyddyn ers y newyddion annisgwyl fod Sen Segur yn dod i ben, fe ddaeth newyddion yr un mor annisgwyl yn ddiweddar wrth iddynt gyhoeddi gig. Fe chwaraeodd y band mewn Pesda Roc arbennig er cof am Les Morrison ddechrau mis Mai, ond gall George gadarnhau mai eithriad fydd y gig hwnnw. “One-off oedd o. Oedd Alex Morrison yn chwarae efo ni yn y flwyddyn olaf, sef mab Les wrth gwrs, ac oedd y gig er cof am Les felly doeddan ni ddim yn gallu deud na.” Mae’r hogia’n ffrindiau da o hyd felly roedd hi’n gymharol rwydd iddynt ailafael ym mhethau ac roedd hwn yn gyfle gwych i’r ffans gael clywed un o fandiau Cymraeg gorau’r blynyddoedd diwethaf yn chwarae’n fyw unwaith eto. Felly, yn obeithiol yn fwy na dim, rhaid oedd gofyn y cwestiwn eto, a fydd hyn yn troi’n rhywbeth rheolaidd? “Jyst one-off oedd o!” Ond na phoener, mae gan George ambell gig ar y gweill gydag

Cae Gwyn Nid albwm Omaloma fydd unig brysurdeb label Cae Gwyn dros y misoedd nesaf. Mae disgwyl i mr huw ryddhau deunydd yn hwyrach eleni ac mae Dan Amor ei hun wedi recordio albwm Gymraeg newydd. Mae sôn hefyd am sengl gan Palenco a stwff newydd gan Anelog o bosib. Does dim dwywaith fod y sin recordio a rhyddhau yn gryf iawn yn Nyffryn Conwy ar hyn o bryd. Mae Cae Gwyn yn label weithgar iawn ac felly hefyd, I Ka Ching, sydd â chysylltiadau â’r un ardal. Mae’n debyg, serch hynny, nad yw’r sin fyw yn cael ei chyfnod gorau yno ar hyn o bryd. “Does ’na’m sin,” eglura George. “Ma’ ’na fandiau ond does ’na’m sin. Ma gan Geth (Sen Segur) fand o’r enw Lastig Band ac mae o wedi recordio EP ac mae Ben (Sen Segur) wedi recordio cwpl o ganeuon fel Falcons hefyd. Ond does ’na’m sin byw, oedd ’na’n arfer bod ond ’di Gŵyl Gwydir ddim yn digwydd ddim mwy. Ma’ ’na bobl greadigol o gwmpas ond dim sin fyw i’w cynnal nhw. ’Da ni ’di sôn am drefnu gigs neu ŵyl neu wbath ond mae o’n lot o waith!”

y-selar.co.uk


ew N

eglura Carwyn. “Dwi’n hoff iawn o’u cerddoriaeth ac mae eu lleisiau nhw’n asio’n berffaith.” Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan ardal benodol o Sir Gaerfyrddin, ardal sy’n agos at galon Carwyn gan ei fod yn arfer treulio’r gwyliau ysgol yno gyda’i fam-gu a’i dad-cu. Roedd “lleisiau teuluol” Plu yn gweddu’n berffaith felly. Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely. Mae cerddorion

eraill yn ymddangos ar yr albwm gan gynnwys Georgia Ruth a Patrick Rimes. “Rydym mor falch o’r caneuon ac yn ddiolchgar iawn i Mason am sgorio rhannau cerddorion ychwanegol,” meddai Elan. “Maen nhw wir yn ychwanegu rhywbeth i’r gerddoriaeth sy’n anfon ias lawr fy nghefn i!” Mae ‘Danybanc’ ar gael yn ddigidol, bydd yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar label Agati ym mis Awst a thaith yn dilyn yn yr hydref.

n

Bydd rhai ohonoch yn cofio i Plu sôn yn Y Selar yn Nhachwedd 2015 fod ganddynt gywaith cyffrous ar y gweill gyda Colorama. Mae’r prosiect hwnnw bellach yn dwyn ffrwyth, gyda’r triawd o Fethel a Carwyn Ellis yn rhyddhau’r sengl, ‘Danybanc’ o dan yr enw, Bendith, ddechrau mis Mai. Tamaid i aros pryd yw’r sengl achos mae albwm cyfan ar y ffordd fis Awst. “Roeddwn mor falch bod Elan, Marged a Gwilym wedi cytuno i weithio gyda mi ar y prosiect yma,”

o di yd

Bendith

Ffarwel a Phen-blwydd Hapus! Cafwyd newyddion cymysg am ddau o labeli recordiau mwyaf blaenllaw Cymru yn ddiweddar. Daeth y newydd trist ym mis Mawrth fod Peski yn dod i ben ond mae newyddion mwy calonogol am I Ka Ching wrth iddynt ddatgelu cynlluniau cyffrous eu dathliadau pen-blwydd.

I Ka Ching Wrth i un label ddod i ben mae un arall yn troi’n bum mlwydd oed. Yn ôl Gwion Schiavone, un o sylfaenwyr I Ka Ching, “Peski oedd o’r prif resymau nathon ni ddechrau label, oeddan ni’n gweld pa mor cŵl oeddan nhw ac isho’i neud o’n hunan.” Gwion a Gruff Ifan a sefydlodd I Ka Ching yn 2011 a hynny yn bennaf i ryddhau eu deunydd eu hunain, “O’n i’n rhan o Jen Jeniro a Gruff efo Texas Radio Band,” eglura Gwion. “Ond fe wnaethon ni ddatblygu dros y blynyddoedd i ryddhau stwff bandiau eraill.” Mae Branwen Williams bellach yn rhan o’r tîm hefyd ac mae’r tri’n gweithio’n ddiwyd i ryddhau deunydd yn gyson. Ond er gwaethaf catalog cynhwysfawr y label does dim ffefryn gan Gwion. “Does gen i ddim uchafbwyntiau achos y peth diweddaraf ydi’r peth dwi wastad yn fwya’ cyffrous amdano.” Y “peth diweddaraf” ar hyn o bryd yw albwm dwbl amlgyfrannog i ddathlu’r garreg filltir. Mae artistiaid y label i gyd wedi cyfrannu cân newydd sbon neu ailgymysgiad i’r casgliad sydd hefyd yn cynnwys recordiad byw o ‘Powys’ o gig olaf erioed Jen Jeniro. Bydd yr albwm allan ddydd Gwener 22ain o Orffennaf, ddiwrnod cyn i I Ka Ching ar y cyd â Chanolfan Pontio gynnal gig pen-blwydd ym Mangor. Yn perfformio bydd Candelas, Sŵnami, Yr Eira, Palenco, Ysgol Sul, Y Cledrau, Siddi a mwy.

10 Uchaf Caneuon pêl-droed eraill

Peski Ar ôl ei sefydlu gan Garmon Gruffydd a Rhys Edwards, rhyddhaodd Peski ddeunydd rhai o artistiaid amlycaf Cymru, gan gynnwys Gwenno, Cate Le Bon, Radio Luxembourg a Texas Radio Band. Am Cyfan Dy Pethau Prydferth, albwm cyntaf prosiect cerddorol Rhys, Jakokoyak, oedd offrwm cyntaf y label yn 2003. Ers y dechrau’n deg fe roddodd Peski lwyfan teilwng i gerddoriaeth amgen ac mae llawer o’r diolch am dwf y sin electronig Gymraeg dros y blynyddoedd diweddar yn ddyledus iddynt, gyda R. Seiliog, Y Pencadlys a Plyci i gyd yn geffylau o’u stabl. Daw’r newyddion fod y label yn dod i ben yn dilyn un o’u cyfnodau prysuraf, fel yr eglurodd Rhys wrth ddatgelu’r newyddion ar raglen radio Huw Stephens. “Mi wnaethon ni gyrraedd un blwyddyn lle nethon ni ryddhau deg cynnyrch, gan gynnwys albwm Gwenno, a dwi’n meddwl nath hynny wthio ni dros y dibyn.” Bydd y label yn dod i ben gydag un o’i nosweithiau byw chwedlonol, Peskinacht yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

y-selar.co.uk

13


sELAR YN Y STIWDIO Rydan ni i gyd yn gyfarwydd ag Ifan Emlyn ac Osian Huw fel aelodau o Candelas, ond wyddoch chi fod y ddau yng ngofal stiwdio recordio hefyd? Mae’r ddau wedi bod yn rhedeg Drwm o stiwdio Pont-yCrychddwr ers ychydig fisoedd bellach felly pwy well i dderbyn ein sylw y tro hwn yn Selar yn y Stiwdio?

enw: Drwm Cyfeiriad: Pont Y Crychddwr, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6DH

Dyddiad Sefydlu: Hydref 2015

Offer: Cyfrifiadur - PC yn rhedeg Pro Tools neu Reaper Monitors - Neumann KH120a Audio Interface - RME a Ferrofish Desg a Pre-Amps - Toft

ATB 16, Rupert Neve 511, Soundskulptor MP512, SSL Alpha VHD a chywasgwyr dbx 560A Mics - SE 4400a x2, Calrec CM1051 x2, AKG 451eb x2, Oktava 012 x2, Sennheiser MD 441 x2, MD 421, Shure SM7b, Beyer M201 x2, Sub-kick, Copperphone a llawer mwy Offerynnau - Tua hanner dwsin o drum kits hen a newydd ac un trydan; amps Vox, Orange, Fender, Selmer

a Laney; gitârs Gretsch, Duesenberg, Fender, Epiphone ac Eastman; gormod o bedalau gitârs ac allweddellau Nord Stage 2. Hanes Mae Ifan ac Osian wedi bod yn chwilio am leoliad addas i ddechrau eu busnes ers iddynt orffen yn y brifysgol ac wedi bod yn casglu offer ers blynyddoedd. Dipyn o lwc neu ffawd serch hynny a arweinodd y ddau o Feirionnydd i Ddyffryn Nantlle. “Yn lwcus iawn, dyma ni’n cwrdd â Kevin Jones, perchennog y stiwdio, mewn tafarn tua phythefnos cyn iddo

fynd i weithio yn India,” eglura Ifan. “Dyma ni’n cytuno y byddai Drwm yn cael symud i mewn i’r stiwdio tra’i fod o i ffwrdd. Felly ar ôl setlo yn Llanllyfni roedd y stiwdio yn berffaith i ni allu cychwyn y busnes ac yn lleoliad hwylus yng ngogledd Cymru.” Mae’n lleoliad delfrydol i Osian gyfansoddi ynddo ac i Ifan recordio bandiau, ac fel cwmni gall Drwm gynnig amryw o wasanaethau gan gynnwys cyfansoddi, recordio, cymysgu a mastro ac ôl-gynhyrchu.

Hyd yn Hyn Yn naturiol, y mae Candelas eu hunain

‘Y Deffroad’ Leigh Jones

Parhad y Deffroad Clywsom y tro diwethaf am ddeffroad Cymreig y Cymro alltud, Leigh Jones, perchenog label recordiau yn Llundain. Wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â’i fro enedigol, clywn am barhad y deffroad hwnnw. Ers y rhifyn diwethaf, rydw i wedi bod yn

14

y-selar.co.uk

brysur yn canolbwyntio ar ryddhau record hir. Gyda’n holl sylw ar hyn, a gyda llai o amser rhydd, mae’n teimlo fel pe bai fy neffroad Cymreig wedi cymryd saib o ryw fath. Sylwais i ddim faint o ymdrech o’n i’n ei wneud dros y misoedd diwethaf i wneud yr iaith

yn rhan fwy annatod o ’mywyd i. Mae’n debyg fy mod i wedi bod yn euog o gymryd yr iaith yn ganiataol yn ddiweddar. Ond efallai fy mod i wedi ei chymryd hi’n ganiataol trwy gydol fy mywyd. Pan o’n i’n byw yng Nghymru, roedd rhaid i fi fynd i’r ysgol a defnyddio’r iaith trwy’r dydd, bob dydd. Doedd hi byth yn teimlo fel

ymdrech i ymgysylltu â’r iaith. O’n i’n lwcus hefyd bod fy rhieni’n rhugl yn y Gymraeg. Fedrwch chi ddim dweud hynny am fwyafrif plant ysgol Sir y Fflint. Mae hi’n haws (ond yn anghywir) i jocian fod y sir yn llawn sgowsars, ond nid diffyg pobl Gymraeg yw hynny, ond anweledigrwydd yr iaith o ddydd i ddydd. Dyma pam ei bod hi’n


Griff yn y Pafiliwn eisoes wedi gwneud defnydd o’r stiwdio ond mae’r rhestr o fandiau ac artistiaid eraill sydd wedi bod yno yn tyfu’n gyflym ac yn cynnwys Gwilym Bowen Rhys, Aled Huws (Cowbois), Llŷr Pari, Lastig Band, Y Cledrau, Siddi, Siôn Rich, Bryn Fôn a Rhys Meirion!

Ar y Gweill Mae cyfnod cyffrous ar y gweill yn Drwm gyda Palenco yn recordio sengl newydd a stwff newydd ar y ffordd gan Rhys Gwynfor hefyd. Mae mwy o ddeunydd i ddod gan Candelas ac mae Ifan ac Osian hefyd yn brysur iawn ar hyn o bryd gyda gwaith teledu.

hynod bwysig i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir y Fflint eleni. Trwy gelfyddyd mae’r iaith wedi goroesi ers talwm. Fe fu amser pan oedd cerdd dant a chyfansoddi englynion yn gelfyddyd gyfoesol, ond nid fel ’na mae hi o hyd. Yng ngyd-destun fy mywyd i, cerddoriaeth pop a roc yw’r gelfyddyd gyfoesol a thrwyddi hi rydw i’n gweld parhad yr iaith o ddydd i ddydd. Nid fy mod i’n dweud bod dim lle i’n

5 Ffaith Ddifyr - Mae’r stiwdio ar safle hen weithdy gofaint. - Mae Kevin yn gweithio ym Mwmbai i gwmni cerddoriaeth Saavn. - ’Da ni mewn lleoliad hyfryd ddim rhy bell o’r môr a reit o dan fast Nebo (felly mae’r signal ffôn yn wych yma!) - Mae Bryn Fôn yn byw dafliad carreg o’r stiwdio. - Ma ganddo’ ni decking, dau sofa bed a lle parcio mwy na Tesco.

Gwefan: drwm.cymru Twitter: @drwmstiwdio Facebook: facebook.com/ drwmstiwdio

traddodiadau ni wrth gwrs! Fe welais i Gwenno yn perfformio yn Llundain yn ddiweddar ac mae’n rhaid bod hanner y gynulleidfa yn Gymry Cymraeg. Mae hi’n amlwg fod celfyddyd bop yn bwysig i ni fel Cymry i ffurfio cyd-hunaniaeth fodern, ond gyda llwyddiant artist fel Gwenno tu allan i Gymru (a Phrydain), pam cadw’r hunaniaeth hynny i Pura Wallia?

Bydd sawl un ohonoch yn darllen hwn yn Eisteddfod yr Urdd, ond bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yma cyn i chi allu dweud Mostyn Fflint ’N Aye! Edrych ymlaen at un o ddigwyddiadau’r pafiliwn yn Y Fenni y mae Griff. Mae Pafiliwn yr Eisteddfod yn le bach rhyfedd. Ar y naill law mae rhai o dalentau amlyca’r byd llenyddol Cymraeg yn cael eu gwobrwyo a’u cydnabod mewn seremoni ogoneddus sy’n rhan o’n hunaniaeth ni fel cenedl. Ar y llaw arall mae’n llwyfan i blant didalent dadrithiedig deuddeg oed, sy’n byw mewn gobaith o gael eu derbyn i Goleg y Drindod a sicrhau dyfodol yn cyflwyno rhaglenni plant S4C. Ond na phoener eleni, ma’ ’na ddefnydd arall i’r pafiliwn, sef cyngerdd mawreddog ar y nos Iau. Mi fydd Yr Ods, Sŵnami a Candelas yn perfformio rhai o’u/o’n back catalogue, gyda synau arallfydol cerddorfa lawn y Welsh Pops Orchestra. Mae’r gerddorfa yma’n un o’r goreuon ym Mhrydain, wedi perfformio gyda’r Manics, Dexys Midnight Runners, John Cale, Lionel Ritchie ac wrth gwrs, Only Men Aloud. Dydi’r syniad o wneud rhywbeth fel hyn ddim yn newydd, digwyddodd rhywbeth tebyg gyda’r Big Leaves a Tecwyn Ifan rai blynyddoedd yn ôl, ac mae Cian Ciaran yn cydweithio gyda cherddorfa’r BBC ar gyfer rhaglen Radio Cymru ar hyn o bryd. Yr hyn sy’n gwneud y cyngerdd yma’n unigryw ydi’r ffaith fod y tri band dan sylw yn grwpiau (cymharol) boblogaidd yn y sin ar hyn o bryd, ac mae yna felly siawns o ddenu to gwahanol i’r pafiliwn. Dydw i’n sicr heb fod i gyngerdd yn y pafiliwn erioed, a dwi’n dychmygu fod yr un peth yn wir am fwyafrif y sdonars a’r layabouts sy’n gorweddian yn eu pebyll ym Maes B. Owain Llwyd sydd yn gyfrifol am y trefniannau cerddorfaol, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y byd pop yng Nghymru ac wedi gwneud trefniannau i artistiaid megis Casi yn y gorffennol. Mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut y bydd Owain yn ymdrin â phob band yn wahanol. Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer y cyngerdd a dwi’n addo y bydd o’n berfformiad gwell na Rhianedd Haf o Landysul yn cystadlu yn yr unawd alaw werin dan bymtheg y diwrnod cynt.

y-selar.co.uk

15


Sgwrs Sydyn

COWBOIS RHOS BOTWNNOG

Llun: Dewi Glyn

M

ae pethau da yn dod i’r rhai sy’n aros chwedl y Gwyddel ac mae hynny’n sicr yn wir am bedwerydd albwm Cowbois Rhos Botwnnog, IV. Aeth Y Selar am Sgwrs Sydyn gydag Aled, basydd y band, i ddysgu popeth gwerth ei wybod am y record ddiweddaraf.

oeddan ni’n gwybod bod yn rhaid i ni gymryd yr awenau ar hwn gan ein bod ni’n eitha’ particiwlar am sut albwm oedd o’i fod. Dyna oedd yn rhannol gyfrifol iddi gymryd cymaint o amser, ond mi roeddan ni’n ffyddiog o’n gallu i fedru cynhyrchu ein hunain, ac yn eitha’ sicr o’n hamcanion.

Yr albwm newydd allan ers cwpl o fisoedd rwan, sut ymateb mae IV wedi ei gael? Da iawn hyd yma! Dwi’n meddwl mai hwn sydd wedi gwerthu gyflymaf o’n pedwar albwm, a does neb wedi ffonio i gwyno amdano eto...

Beth all unrhyw un sydd heb wrando eto ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Albwm o haenau, dipyn yn fwy felly na’n albyms eraill. Wedi deud hynny dwi ddim yn meddwl ei fod o’n swnio’n ddiarth. Mae un neu ddwy o’r caneuon wedi bod yn y set fyw ers sbel. Mae ambell un yn fwy o ganeuon ‘band byw’, ac ambell un yn fwy o fwystfilod stiwdio a

Chi eich hun gynhyrchodd yr albwm, sut brofiad oedd hynny? Mi ddigwyddodd yn eitha’ naturiol, mi

16

y-selar.co.uk

thechnoleg. Dwy ochr o’r un ffynnon greadigol fel petai, a dwi’n meddwl – ac yn mawr obeithio – fod y ddwy ochr yn plethu. Sut mae’r sŵn yn cymharu â’r tair record flaenorol? Mae’r hen gitâr yn chwarae rôl lai amlwg, a hynny’n deillio o’r ffaith i Iwan ’sgwennu dipyn o’r caneuon ’ma ar y piano. Dwi’n meddwl fod hynny’n ei dro’n tynnu rhyw fymryn o’r ochr werinol sydd wedi bod yn lled amlwg yn ein gweithiau cynt. Yn aml, mae ’na syntheseisydd neu allweddell yn cymryd y blaen, a mwy o ddylanwadau pop a soft-rock yn dod i’r amlwg. Ond, fel pe bai’r albwm yn mynnu anghytuno, mae’r ddwy gân gyntaf yn llawn gitârs...


Mae’r llun ar y clawr yn un da, beth ydy hanes hwnnw? Mi fu i Dafydd fynd ar goll fwy nac unwaith, a dwi’n siŵr yr eith o ar goll eto. Siawns ei fod ar goll ar hyn o bryd. Ond yr un tro hwn mi stopiodd i dynnu llun, cystal oedd yr olygfa. Doedd o ddim yn siŵr lle oedd o, ond ’da ni wedi dod i benderfyniad mai ar y Migneint yn rhywle y tynnwyd y llun. Gan fod gymaint o sôn am lonydd ar y record, mi wnaeth yn ddel fel clawr.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n fand eithaf diflas i’n gweld mewn stiwdio...”

Mae ’na sbel wedi bod ers y trydydd albwm, pam yr oedi? Yr hunan-gynhyrchu yn un rheswm. Mi gymrodd yr albwm ddwy flynedd i’w wneud; nid dwy flynedd o lafurio caled, ond pytiau o sesiynau yma ac acw dros amser. Mi barhaodd y

broses ysgrifennu tan yn agos at ddiwedd yr albwm - does dim diben rhuthro cân nac albwm – mi ddaw pan ddaw! Lle fuoch chi’n recordio? Tŷ Siamas, Dolgellau; Stiwdio Sain yn Llandwrog a fy stiwdio fach i adra ym Methesda, ac mi recordiodd Llŷr ei ddarnau gitâr yn ei stiwdio ei hun, Melin y Coed. Beth yw’r broses recordio? Ydi’r caneuon yn o lew o gyflawn cyn mynd i’r stiwdio? Cwbl ddibynnol ar y gân. Weithia’ mi fydd ’na ddemo eithaf pendant, ac mi fyddwn ni’n dilyn hwnnw fel blueprint. Dro arall fydd ’na ddim ond llais a phiano neu gitâr, ac mi fydd ’na drafod mawr a rhegi ynglŷn â’u cyfeiriad. Mi fedr cân gymryd amryw o lwybrau – dewis y rhai cywir sy’n gwneud yr albwm. Pa fath o gerddoriaeth oeddech chi fel band yn gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Un o’r pethau difyrraf i mi wrth fynd ati i gymysgu’r albwm oedd clywed pethau yr oeddan ni wedi eu recordio bron ddwy flynedd ynghynt, cofio eu tarddiad a’r pethau a ysbrydolodd hynny. Mi oedd Sea Change gan Beck yn un o’r cyfeiriadau amlycaf yn y sesiynau cyntaf, ac mi oeddan ni’n anelu i gael y drymiau rywle rhwng honno, Harvest gan Neil Young a Histoire de Melody Nelson gan Serge Gainsbourg. Yn hwyrach mi dyfodd Avalon gan Roxy Music, The Visitors gan ABBA a Low, “Heroes” a Lodger David Bowie i fod yn ddylanwadau, a stwff electroneg eithaf ambient fel Tangerine Dream ac Aphex Twin.

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion doniol neu droeon trwstan? Dwi’n meddwl ein bod ni’n fand eithaf diflas i’n gweld mewn stiwdio, pen i lawr a gweithio ydi hi! Mi fu i ni ddiffodd yr holl oleuadau yn stiwdio Sain er mwyn i Iwan fedru canu ‘Tyrd Olau Gwyn’ yn iawn. Ond tydi honno fawr o stori chwaith. Mi gafon ni gyri yn Nolgellau, ac mi oedd o’n well na’r tro cynt.

“am y tro cyntaf erioed ma’r tanc caneuon yn gwbl wag”

Fe wnaethoch chi daith fach i lansio do, sut aeth honno? Lle fuoch chi i gyd a be’ oedd yr uchafbwyntiau? Mae hi’n mynd yn dda, ’da ni dal yn ei chanol hi mewn ffordd, achos holl gigs y flwyddyn ydi’r ‘daith’ y tro yma. Mi gafon ni benwythnos agoriadol ddiwedd Mawrth; 4a6, Caernarfon, yna Llofft Tafarn y Fic, Llithfaen a’r Parot yng Nghaerfyrddin. Mi aeth hi’n grêt, ac mi oedd cael chwarae set newydd, ffresh yn donic. Fydd rhaid i ni aros pedair blynedd am albwm eto? Pwy a ŵyr... am y tro cyntaf erioed ma’r tanc caneuon yn gwbl wag, felly mi fydd y nesaf yn albwm cyfan gwbl newydd from scratch. Mae o’n dir newydd... yn lôn hir... mi fedar gymryd diwrnod neu ddegawd... Gwertha IV i ni mewn pum gair! Albwm orau Cowbois Rhos Botwnnog.

Gigs ar y gweill 25/6 Gŵyl Cann Offis 02/7 Tafwyl, Caerdydd 16/7 Sesiwn Fawr Dolgellau 06/8 Eisteddfod Genedlaethol 21/8 Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Crughywel 04/9 Gŵyl Rhif 6, Portmeirion

y-selar.co.uk

17


r a d y g o i ’ g i G Selar

Bwria d yr e it e m yw do hon d i ad nabo y n we d y si ll ar h n yd a ll trwy ed Cy ein d m ru arllen Ar gy wyr. fe r y r a il y n pend y gyfr erfyn es, om y Owai rru n Gru ffudd i Twr Tr w y w ’r Dyd d.

Dyddiad: 01/05/2016 Lleoliad: Clwb Ifor Bach, Caerdydd Lein-yp: HMS Morris / Alun Gaffey / Anelog / Castles / Chroma / Cpt. Smith / DJ’s Elan a Mari / Ysgol Sul

Enw: Mared Hydref Edwards Oed: 19 O le: Caerdydd / Llandrillo Hoff fand? Cpt. Smith Band newydd gorau? Anelog Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor Bach Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Spillers Records Albwm diwethaf i ti brynu? IV (Cowbois Rhos Botwnnog) Gigs cofiadwy diweddar? Cpt. Smith yng Nghlwb Ifor

Enw: Gwion Eryl Oed: 20 O le: Caernarfon Hoff fand? Ysgol Sul Band newydd gorau? Cpt. Smith Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor Bach ac Undeb y Myfyrwyr Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Palas Print Albwm diwethaf i ti brynu? 1977 (Ash) Gigs cofiadwy diweddar? Happy Mondays yn yr Undeb

Enw: Steve Blundell Oed: 45 O le: Caerdydd, ond yn byw yn Sir Fynwy Hoff fand? Candelas Band newydd gorau? Anelog Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor Bach, Acapela a Chlwb y Cornel (Casnewydd) Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Spillers Records Albwm diwethaf i ti brynu? Fel Tôn Gron (Y Bandana) Gigs cofiadwy diweddar? Colorama a Plu yn Acapela a Roughion yn Ten Feet Tall

Enw: Nannon Evans Oed: 19 O le: Caerdydd Hoff fand? HMS Morris Band newydd gorau? Cpt. Smith Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor Bach, Undeb y Myfyrwyr, The Globe ac Undertone Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Ar y we Albwm diwethaf i ti brynu? IV (Cowbois) Gigs cofiadwy diweddar? SFA a Wolf Alice yn yr Undeb, Big Moon ac Ysgol Sul yn Dim Sŵn

Enw: Sara Alis Oed: 18 O le: Caerdydd / Bangor Hoff fand? Sen Segur Band newydd gorau? Cpt. Smith Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor a Gwdihŵ Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Ar y we Albwm diwethaf i ti brynu? IV (Cowbois) Gigs cofiadwy diweddar? Lansiad albwm Cowbois yng Nghlwb Ifor

Enw: Saran Maglona Oed: 18 O le: Caerdydd Hoff fand? Ysgol Sul Band newydd gorau? Chroma Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaerdydd? Clwb Ifor Bach Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Ar y we Albwm diwethaf i ti brynu? Purpose (Justin Bieber) Gigs cofiadwy diweddar? Cowbois yng Nghlwb Ifor a Dim Sŵn.

Lluniau: Gareth Bull


T I GA

NA

ed ... Ti

... ed Ti

di Clyw

di Clyw

PWY? Tigana yw Eifion Austin (gitâr a chanu), Ceri John (gitâr a chanu), Aled Evans (drums a chanu) a Tony Jones (bass). “Ffurfiwyd y band yn ei ffurf bresennol ym mis Ionawr y flwyddyn hon,” eglura Eifion “Ond roeddwn i, Aled a Ceri wedi bod yn gwneud cerddoriaeth gyda’n gilydd ers tua blwyddyn cyn hynny.” “Er bod yr aelodau i gyd yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn mae yna gysylltiadau ag Aberystwyth hefyd,” ychwanega Eifion. “Roeddwn i’n aelod o’r Poppies, a ffurfiwyd yn Aber, ac aeth Aled a Ceri i’r ysgol yno hefyd.” ^ Swn? Fel jangle pop y mae Eifion yn disgrifio sŵn y band,

a heb os, mae yna adlais o sŵn jingl-jangl y 60au yn sain y gitârs ar y caneuon ‘Ti Sydd Ar Fy Meddwl’ ac ‘Ystumiau Gwaglaw’. Mae hynny i’w glywed ar ‘Too Young’ hefyd ond ceir elfennau mwy seicedelig ar y trac hwnnw sydd yn atgoffa rhywun o stwff Gorky’s a Super Furreis.

Dylanwadau? O ystyried sŵn nostalgic Tigana mae hi’n naturiol i Eifion enwi un o fandiau gorau’r 60au, The Byrds, fel un o’u dylanwadau. Mae o hefyd yn rhestru sawl band o’r 90au; Gorky’s yn un; a’r ddau fand indî o Lannau Merswy, The La’s a The Coral. Mae’r elfen jangleaidd yn amlwg hyd yn oed yn y bandiau mwy diweddar y mae Eifion yn eu henwi fel dylanwadau, Sen Segur a Real Estate. Hyd yn hyn? Mae Tigana wedi gigio tipyn yn lleol dros y misoedd diwethaf, gan chwarae yn rhai o leoliadau gigs mwyaf poblogaidd Caerdydd, Four Bars yn Dempseys, Moon Club a Gwdihŵ. Wrth gwrs, o holl feniws byw’r brifddinas mae un sydd yn ganolog i’r sin a does dim syndod clywed Eifion yn dweud mai’r “uchafbwynt hyd yma oedd cefnogi Cowbois yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Ebrill”.

Maent eisoes wedi recordio a rhyddhau deunydd hefyd a gellir gwrando a phrynu Ti Sydd Ar Fy Meddwl ar tigana. bandcamp.com. Mae’r casgliad byr yn cynnwys y traciau, ‘Ti Sydd Ar Fy Meddwl’, ‘Ystumiau Gwaglaw’ a ‘Too Young’. Ar y Gweill? Bydd Tigana yn parhau i gigio dros y misoedd nesaf gan gefnogi sawl band a fydd ar daith yng Nghaerdydd. Maent yn chwarae yn Sŵn yn yr Hydref ond yn awyddus i chwarae gwyliau awyr agored dros haf hefyd! “’Da ni’n gobeithio chwarae un neu ddwy o wyliau yn yr haf ond ’da ni heb gael un cynnig hyd yma (depressing)...” meddai Eifion. Newyddion cyffrous arall yw cân newydd gan y band, gyda gwestai go arbennig! “Fel pob band arall yng Nghymru fe fyddwn ni’n rhyddhau sengl ar gyfer Ewro 2016, ‘Dyddiau Coch’. Mae yna westai arbennig yn cymryd rhan nad sydd gan SFA na’r Manics, sef Bryn Law!” Edrych ymlaen at glywed cyfraniad hoff ohebydd pob ffan pêldroed Cymru yn sicr! Uchelgais? Digon diymhongar yw Eifion wrth ddisgrifio gobeithion hirdymor Tigana. “’Da ni ddim yn fand rhy uchelgeisiol, ond bydde mynd ar daith o gwmpas Cymru a rhai o ddinasoedd Lloegr yn cŵl a hefyd rhyddhau albwm ar fformat caled. Hynny a chware gŵyl yn yr haul!”

Barn Y Selar Ceir yr argraff fod Tigana wir yn mwynhau’r hyn maen nhw’n ei wneud. Efallai fod hynny gan eu bod nhw fymryn yn hŷn ac yn griw o gerddorion profiadol sydd un ai wedi bod, neu mewn bandiau eraill hefyd. Dwi ddim yn cael y teimlad eu bod nhw’n mynd allan o’u ffordd i chwilio am sylw cyfryngol a dwi’n meddwl fod sŵn ac egni’r band yn elwa o hynny. Gwrandewch os yn ffan o The Byrds, The Coral a Sen Segur

y-selar.co.uk

19


adolygiadau IV Cowbois Rhos Botwnnog Weithiau, wrth adolygu dwi wirioneddol yn teimlo mai adolygu ydw i, nid gwrando o ran pleser. Mae IV allan ers mis Mawrth a dwi wedi bod yn gwrando’n ddibaid ers hynny, a hynny achos mod i isho. Wedi roc Dawns y Trychfilod a gwerin Dyddiau Du Dyddiau Gwyn a Draw Dros y Mynydd, mae’r bedwaredd record hir yn cynnig rhywbeth gwahanol eto. Gyda’r piano a’r synth yn mynnu lle amlycach mae naws mwy pop iddi. Mae llais Iwan yr un mor bruddglwyfus, ingol a theimladwy ag erioed ac yn gweddu’n rhyfeddol o dda i’r naws newydd. Mae ‘Lle’r awn i godi hiraeth?’ yn uchafbwynt lleisiol hyfryd o hiraethus a geiriau ‘Mor ddrwg â hynny’ yn farddoniaeth bur. Ceir bassline cŵl a rhyw naws ffilm cowbois bron ar ‘Dwi’n ’nabod y ffordd at harbwr’ ac mae emosiwn ‘Blodau ar dân yn Sbaen’ yn fy nghal i bob tro. Tydi o ddim yn gasgliad perffaith; dwi ddim yn hoff iawn o ‘Lôn wrth y môr’ (er i mi ei mwynhau hi’n fyw) ac ella bod angen torri rhyw funud neu ddau oddi ar ddechrau ‘Mewn Gorsaf’. Ond os all un gân oddi ar y record yma fygwth statws ‘Ffarwel i Langyfelach lon’ fel pinacl set byw Cowbois, ‘Tyrd Olau Gwyn’ yw honno. Uchafbwynt epig i gloi’r casgliad. Gwilym Dwyfor Yr Ochr Arall Rifleros Mae’n anodd barnu band o wrando ar un gân, ond o glywed tair munud a hanner ‘Yr Ochr Arall’ mae’n saff dweud bod Rifleros yn fand roc newydd gyda sglein. Ac o wybod bod y grŵp yn cynnwys aelodau o Creision Hud/ Hud a Violas, efallai nad yw hynny’n

syndod. Saff dweud bod y sŵn yn tueddu’n fwy at y cyntaf o’r ddau grŵp yna – yn wir mae rhywun yn adnabod y berthynas bron o’r nodyn cyntaf. Mae ‘na naws ddigon ffynci i’r trac, ac mae steil canu Rhydian Lewis yn fy atgoffa rhywfaint o Alun Gaffey...sy’n beth da. Fyswn i ddim yn deud bod y trac yn fy nghyffroi’n ormodol, ond mae’n gân fach daclus gyda riff gitâr a chytgan ddigon cofiadwy. Nid da lle gellir gwell, ond digon i awgrymu bod pethau gwell i ddod. Owain Schiavone Cefn y Grug Bromas Allith neb ddadlau nad ydi Bromas yn fand sy’n medru ’sgwennu tiwns bachog ofnadwy, a tydi’r EP yma ddim gwahanol i’r arfer. Mae yna sŵn aeddfetach i’r caneuon yn y casgliad yma ac mae ganddyn nhw ddawn gerddorol wych yn defnyddio arddulliau gwahanol trwy’r EP. Mae’r band wedi bod yn llwyddiannus wrth gyfansoddi caneuon y sioe gerdd Cysgu’n Brysur yn ddiweddar, a dwi’n clywed cyffyrddiadau’r arddull yna ar fwy nag un trac. Rhywbeth dwi wedi sylweddoli am y tro cynta’ am Bromas ar Cefn y Grug ydi eu dawn hefo geiria’ sydd, ar adegau, yn farddonol a theimladwy. Tydi’r gân gynta’, ‘Siarad Mân’, ddim yn gneud llawer o’m byd i mi’n bersonol, ac er mod i’n mwynhau’r amrywiaeth yn y caneuon, mae ’na rywbeth sy’n fy nal nôl rhag dweud “dwi’n lyfio hwn!” Mae ‘Edrych ar dy ôl’ yn uchafbwynt...’chydig bach yn hir... ond yn gân syml a phrydferth wnes i wir ei mwynhau. Elain Llwyd Fel Tôn Gron Y Bandana Un peth sy’n amlwg wrth wrando ar gasgliad diweddaraf Y Bandana yw datblygiad y band yn

gerddorol, ond nid yw’n atal eu sain eiconig rhag treiddio trwy’r albwm, gyda’r riffiau bachog, yr alawon cofiadwy a’r geiriau trawiadol yn parhau i fod yn strwythur cryf i’w gwaith. Mae Fel Tôn Gron heb os yn adlewyrchu dawn gerddorol y band, wrth i’r offeryniaeth gadarn a’r sŵn byw cyfoethog fodoli o’r nodyn cyntaf, gyda’r synth a’r gitâr yn ganolog i sylfaen yr albwm yn ei gyfanrwydd. Gyda chymysgedd o ddylanwadau roc, pop a ffync yma, llwydda llawer o’r caneuon i fy atgoffa o waith y Trwynau Coch a gwaith hwyr y Beatles. Dyma gasgliad fydd yn gwneud cynulleidfaoedd yn wyllt dros yr haf i ddod, gyda chaneuon megis ‘Dant y Llew’ a ‘Disgyn’ yn aros yn y cof. Llwyddant hefyd i gyfuno caneuon ysgafnach fel ‘Dŵr, Tân, Cân’ a ‘Cyn i’r Lle ’ma Gau’ yn y casgliad gan roi awyrgylch a gwead effeithiol i’r albwm. Edrychaf ymlaen at glywed perfformiadau byw’r band dros yr haf. Ifan Prys Ti Sydd ar fy Meddwl Tigana Pleser oedd cael gwrando ar sengl mor hyfryd gan fand addawol. Mae ‘Ti Sydd Ar Fy Meddwl’ yn un i godi ysbryd unrhyw un. Tra bo’r intro ar y teitldrac yn fy atgoffa o fandiau megis Y Bandana a Chowbois Rhos Botwnnog, mae llais sych a swynol tebyg i Gruff Rhys ar y traciau sy’n cyfeirio’r gerddoriaeth at lwybr mwy arbrofol. Yn gyfuniad o ddwy gân Gymraeg ac un Saesneg, mae’r sengl yn llwyddo i foderneiddio synau gwerinol Cymreig ac arbrofi gydag elfennau mwy cyfoes. Mae synau ysgafn ac ymlaciol y band yn plethu i gyfleu naws hafaidd, yn debyg iawn i waith Sibrydion. Teg dweud felly, fod y sengl yn arddangos gallu cerddorol y band, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn iddynt. Megan Tomos


Cofia Anghofio Fleur de Lys Yng nghanol ffrwd gyson o fandiau roc Cymraeg, mae’n anodd creu argraff a chynnig rhywbeth gwahanol i wrandawyr. Un o’r prin rai sydd wedi llwyddo i gosi’r clustiau yw Fleur de Lys. Gyda naws sy’n rhywle rhwng Nada Surf ac Audioslave mae ‘Cofia Anghofio’ yn drac hafaidd, cofiadwy a chanadwy. Pe bai ’na teen drama debyg i 90210 ar S4C, dyma’r gân fyddai’r band sy’n chwarae yn y clwb lleol yn ei chanu tua thri chwarter ffordd drwy’r rhaglen yn gyfeiliant i montage anterth y bennod honno. Dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy gan y band ifanc hwn. Dros yr haf fe fydd Fleur de Lys yn chwarae llwyfan Gorwelion ar hyd a lled y wlad, a chredaf y gallwn fod yn hyderus y bydd eu LP cyntaf, yn sgil hynny, yn rhywbeth i gyffroi yn ei gylch. Lois Gwenllian Iechyd Da A Tribute to Gorky’s Zygotic Mynci Peth annoeth ac amharchus iawn fyddai ceisio gwneud cyfiawnder â’r casgliad enfawr yma i gyd mewn cyn lleied o eiriau. Yn farathon 32 trac o gyfyrs gan amrywiol artistiaid, dyma deyrnged barchus iawn gan Recordiau Prin i un o fandiau pwysicaf hanes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig. Canolbwyntio ar y Gymraeg wna i fan hyn felly, mae yna bump trac i gyd. Mae fersiwn The Gentle Good o ‘Catrin’ yn hyfryd ac mae rhyw ias yn perthyn i ddehongliad Gorwel a Fiona Owen o ‘Gewn Ni Gorffen’. Fersiwn dawns Ghostlawns o ‘Methu Aros Tan Haf’ yw’r trac sydd wedi mynd bella’ o’r gwreiddiol felly dwi’n edmygu eu bôls.

Anian 9Bach Wedi llwyddiant ysgubol Tincian roedd gan 9Bach dipyn o her cynhyrchu dilyniant. Dyma felly Anian yn ein cyrraedd, yn cynnig gwledd o gerddoriaeth hudol y band. Cyfunir dylanwadau cerddorol o bob math ar Anian, ac yn aml clywn ddylanwadau miwsig dwyreiniol a gwerinol yn asio’n grefftus gyda’i gilydd. Mae’r trac agoriadol, ‘Llyn Du’, yn cydio o’r cychwyn cyntaf. Wedi’i ysbrydoli gan nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, clywn gri ingol Brenhines y Llyn a thincian y tristwch yn diferu drwy’r gân. Mae’r teitldrac, ‘Anian’, sy’n ei ddilyn yn cynnig naws hollol wahanol, ac yn wir, cawn ein tywys ar antur i sawl byd yn ystod yr albwm. Mae naws wanwynol alaw chwareus y piano yn ‘Deryn’ yn creu anwyldeb arbennig, a

GWRRHAID AND O thynerwch tawel ‘Ifan’ yn ein swyno a’n suo. Yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â hynny mae naws ddwyreiniol, ddramatig ‘Cyfaddefa’. Un peth sy’n clymu’r caneuon ynghyd yw’r trefniant lleisiol anhygoel, mae llais Lisa Jên yn serennu. Ynghlwm ag Anian mae atodiad arbennig, sef ‘Yn dy lais / In your voice’ yn cynnig dehongliadau creadigol o’r caneuon, ychwanegiad diddorol sy’n archwilio

Mae Kansas Dance Troupe wedi cyflawni tipyn o gamp trwy recordio fersiwn fwy gwallgof a swreal o ‘Merched yn Neud Gwallt Eu Gilydd’ na’r wreiddiol! Y cam diweddaraf yn nhaith Kliph Scurlock i fod yn Gymro. Symlrwydd ‘Iechyd Da’ sydd yn ei gwneud hi’n un o fy hoff ganeuon Gorky’s, felly fe amharodd yr holl samplo y mae Nick Cullen wedi ychwanegu ati ar fy mwynhad i o honno braidd. Ar y rhestr o bethau da y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw am ddim ar y we, mae’r casgliad yma

dylanwadau niferus y casgliad. A dyna un peth a all beri problem i rai gwrandawyr, nid yw’n albwm i’w chwarae yn y cefndir wrth yrru’r car neu olchi’r llestri. Mae Anian yn mynnu - ac yn haeddu gwrandawiad teilwng. Mae 9Bach, heb os, wedi llwyddo i gynhyrchu campwaith cerddorol arall. Miriam Elin Jones

i fyny yna efo Google Maps a fideos Youtube o gathod bach ciwt. recordiauprin.bandcamp.com amdani! Gwilym Dwyfor Ha Ha Haf Omaloma I fod yn hollol onast doedd “Ha Ha” ddim yn eiriau o’n i’n disgwyl eu gweld mewn teitl i sengl Omaloma o’r hyn dwi wedi’i glywed ganddo fo’n flaenorol. Ond mae’n rhaid deud fod hon yn rhoi teimlad Here Comes mwy o adolygiadau trosodd


adolygiadau the Sun-aidd i fi, ac mi fedra i weld fy hun yn gwenu’n braf yn chwarae hon yn y car pan ddoith yr haul go iawn allan i chwara’. Yr unig beth ydi fod y geiriau yn jario braidd yn ’y nghlust i. Dwi wrth ’y modd efo’r gân... ond ddim y geiria’... wrth ’y modd hefo’r dryms... ond ddim y geiria’... lyfio’r muffle hanner ffor’ trwy’r gân... ond ddim y geiria’. CYMYSGLYD! Ond uffar o gân dda ’fyd! Elain Llwyd Briw Uumar Pwy arall sy’n cofio’r band Quidest? Un gwrandawiad ar Briw, yn enwedig prif drac yr EP, ‘Heneiddio’, ac mi ddaw atgofion o ‘Cyn y Bora’ yn llifo’n ôl. Ychwanegwch fymryn o Alex Turner a Meilyr Jones i’r gymysgedd a dyna i chi sail yr EP. Mae riff agoriadol ‘Pwy sy yna’ yn adleisio The Last Shadow Puppets a ‘Make a Move’ yn atsain rhyw fymryn o Arctic Monkeys. Chwistrelliad bychan o Radio Luxembourg heb y synth wedyn ar ‘Old Age’, yr hyn sy’n swnio fel sesiwn jamio ar ‘Dan fy Nhroed’ gan gloi â’r sengl ‘Heneiddio’. Mae’r EP yn ticio’r bocsys i gyd: benthyg ei hun i’r radio, caneuon Saesneg (yn arbennig ar gyfer Huw Stephens), cytgan yn ailadrodd un llinell a drymiau cryf a solo gitâr. Peth anodd felly yw meddwl am rywbeth gwreiddiol i’w ddweud amdanyn nhw. Does dim i beidio’i hoffi am yr EP. Mae’n dda, ond ddim yn wefreiddiol. Mae’n gofiadwy, ond ddim yn torri tir newydd. Lois Gwenllian Chwyldro Jambyls Er bod y gân gyntaf, ‘Pwy di Pwy’ yn agor yn ddigon tebyg i un o ganeuon cynnar y Stereophonics â’i sŵn llawn, cymysgedd o ganeuon

sydd gan Jambyls, i gyd yn amrywiol eu naws a’u genre. Er bod rhan fwyaf y caneuon yn ddigon bywiog, dechrau’n dawelach y mae ‘Blaidd’ cyn adeiladu i ddarn offerynnol sy’n rhoi mwy o gyfle i’r gitârs. Mae ‘Pa Dduw’ wedyn yn holi cwestiwn oesol, pam bod pobl dda yn dioddef, ac yn arafu cyflymder yr albwm, ond mae’n gân gref, gyda bas amlwg sydd yn gweithio. Pigo nôl lan mae ‘Bŵm Town’ sydd â chyffyrddiadau diwydiannol iddi gyda lleisiau digyfeiliant yn cyd-ganu a’r bît pendant. Mae pethau’n newid eto gyda ‘Cynhesu’ sydd â sŵn na fyddai o’i le mewn clwb nos. ‘Cer â fi’ sy’n adeiladu orau, mae pob cytgan yn uchafbwynt llawn egni. Er nad oes unrhyw beth newydd ganddyn nhw mae’n amlwg eu bod yn fand hyderus sydd yn gyfforddus gyda’u sŵn a’u hofferynnau. Bethan Williams Chwyddwydr Gramcon Wedi cyfnod tawel, mae’r artist electronig, Gramcon yn ôl gyda sengl newydd. Mae’r riff agoriadol yn adeiladu at brif thema’r gân, sydd yn dod nôl sawl gwaith, weithiau fel amrywiad o’r gwreiddiol, yn hynny o beth mae’n debyg i ffurf concerto, gyda symudiadau amlwg. Does dim gormod o haenau, a’r sŵn yn ddigon syml fel bod y thema yn dal yn amlwg. Mae’r bît cryf, er yn amrywio rhyw ychydig, yn symud yn llyfn rhwng symudiadau ac yn creu cyfanwaith. Bethan Williams Llenyddiaeth Cpt. Smith O fewn 2 funud a 22 eiliad, y mae Cpt. Smith yn llwyddo i werthu eu hunain i’r sin, a hynny trwy eu dawn gerddorol ragorol.

Er bod ‘Llenyddiaeth’ yn sengl llawer mwy cymhleth na gwaith cynharach y band megis ‘Pobl Mân’, mae’r agwedd yn parhau, a’r dylanwadau ffync a seicadelig yn treiddio trwy’r gwaith. Mae modd dweud hefyd fod y gân yn cyffwrdd ag elfennau o hip hop, gan greu’r sengl ffres a chyffrous. Er oedran ifanc y band, mae eu geiriau graenus yn treiddio, a chyfuna hyn â’u hofferyniaeth gadarn i wneud ‘Llenyddiaeth’ yn garreg filltir arbennig iawn. Gyda sengl Saesneg, ‘Bad Taste’, allan erbyn hyn hefyd, fe fydd hi’n wirioneddol gyffrous gweld i ba gyfeiriad y bydd Cpt. Smith mynd nesaf. Ifan Prys Disgwyl am y Wawr Chwalfa Dros y blynyddoedd diwethaf mae’n teimlo bod newid ar droed yng Nghymru gyda bandiau gitâr traddodiadol yn cilio i’r cefndir i raddau. O wrando ar record ddiweddaraf Chwalfa, daw i’r amlwg yn ddigon buan nad ydyn nhw wedi derbyn y memo. Yn hytrach, mae gwrando ar ‘Disgwyl am y Wawr’ fel teithio nôl mewn amser i ddyddiau cynnar Yr Ods, gyda mwy na mymryn o amnaid i gyfeiriad y Race Horse. Yn ei hanfod, mae’n gân gariad indî pop fel oedden ni’n ei gael yn y dyddiau da cyn y dirwasgiad economaidd a Llywodraeth Geidwadol San Steffan. Does dim byd o’i le gyda hynny os mai dyna sy’n cynnau eich cannwyll. Mae’r cerddorion yn fedrus ac mae’r harmoniau’n effeithiol. Fy mhroblem i yw bod pethau wedi symud ymlaen erbyn hyn ac mae’n teimlo braidd yn hen ffasiwn. Fel mae Chwalfa’n ei ganu, “... ’sna’m rheswm i mi fod yn edrych nôl, ar yr atgofion ffôl.” A dyna sut dwi’n teimlo hefyd. Ciron Gruffydd



12 AR HYD A LLED CYMRU DRWY’R HAF

AFRO CLUSTER

ANELOG

CASEY

CASTLES

CONNAH EVANS

DANIELLE LEWIS

FLEUR DE LYS

REUEL ELIJAH

ROUGHION

TIBET

WE’RE NO HEROES

YSGOL SUL

Am fwy o wybodaeth ac i weld lluniau a fideos o’r bandiau ewch i’r wefan:

bbc.co.uk/gorwelion @horizonscymru facebook.com/horizonscymru


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.