Y Selar - Rhagfyr 2013

Page 1

y Selar RHIF 35 | RHAGFYR | 2013

Anrheg Nadolig Cynnar

bromas y-selar.co.uk THE GENTLE GOOD | YR EIRA | BLAIDD | O’R NYTH

1


Hunangofiant cignoeth un o sêr disgleiriaf y sîn roc Mae’n cael ei nabod fel seren roc, cyflwynydd teledu a mab Dic Jones yr Hendre. Ond mae hunangofiant Brychan Llyr yn mynd o dan yr wyneb at ei stori bersonol gignoeth… ei frwydr gydag alcoholiaeth, yr ymdrech i wella o’r seizure a fu bron a’i ladd, ei freuddwyd i gystadlu ym myd peryglus rasio ceffylau pwynt i bwynt ac wrth gwrs ei gyfnod fel prif leisydd Jess.

£9.95 01970 832304

www.ylolfa.com Isdeitlau Subtitles

Y Lle: Ochr 1

10.00 Bob n os Fer Perffo cher r cyfwe miadau yn y liad au a fideo stiwdio, s.

s4c.co .uk 190x138mmSELAR Ad.indd 1

01/11/2013 09:36


y Selar RHIF 35 | RHAGFYR | 2013

Nid bob blwyddyn mae digwyddiad cerddorol rhyngwladol o bwys yn ymweld â Chymru fach. Gyda llygaid y byd ar WOMEX yng Nghaerdydd ym mis Hydref felly roedd hi’n holl bwysig ein bod ni ar ein gorau. Diolch byth, roedd yr amseru’n berffaith achos fe wnaeth y ffair gerddoriaeth byd ymweld â Gwlad y Gân mewn cyfnod euraidd i gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig felly cerddoriaeth werin. A thra mae rhywun yn ymfalchïo yn hyn wrth gwrs ac yn sylweddoli fod digwyddiad ‘cerddoriaeth byd’ yn naturiol yn mynd i roi sylw i gerddoriaeth draddodiadol y wlad dan sylw, mae’n rhwystredig i raddau hefyd gan fod gan y sin Gymraeg yn ei chyfanrwydd gymaint i’w gynnig. Ydi, mae’r sin werin yn hynod gryf ar hyn o bryd ond felly hefyd ein sin electroneg er enghraifft, gydag artistiaid fel Gwenno, Plyci, R. Seiliog, Y Pencadlys ac Ifan Dafydd ar dân. Onid braf fyddai cael digwyddiad i ddangos i’r byd ein bod ni’n giamstars ar bwyso botymau yn ogystal â thynnu tannau?

CYNNWYS The Gentle Good

4

Ti di clywed ... Yr Eira

7

O Glawr i Glawr

8

Trydar gyda Blaidd

10

Bromas

12

O’r Nyth

16

Y Byd yng Nghaerdydd

18

Adolygiadau

22 Llun clawr: Bestan Evans

Gwilym Dwyfor

6

8

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com) MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Casia Wiliam, Griff Lynch, Lowri Johnston, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Cai Morgan, Lois Gwenllian

12

18

@y_selar yselar@live.co.uk facebook.com/cylchgrawnyselar Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Y Gentle Good a’r Bardd Anfarwol

Mae The Gentle Good wedi bod yn rhan annatod o’r adfywiad gwerin yn y sin Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae unrhyw gynnyrch newydd gan y gitarydd gwych o Gaerdydd yn rhywbeth i’w groesawu. Ond nid cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw unig ddiddordeb Gareth Bonello. Ar gyfer ei albwm diweddara, Y Bardd Anfarwol, mae’r cerddor wedi troi ei olygon tuag at Tsieina am ysbrydoliaeth. Ciron Gruffydd fu’n holi mwy ar ran Y Selar.

D

oes dim llawer ohonom ni yng Nghymru wedi clywed am y bardd Li Bai. Roedd yn dod o Tsieina ac yn byw adeg teyrnas Tang yn yr wythfed ganrif. Hefyd, roedd o wrth ei fodd gyda gwin. Ond mae mwy i Li Bai na’i hoffter o win ac mae mwy o reswm na hynny gan un o gerddorion mwya’ amryddawn Cymru i sgwennu albwm cysyniadol amdano. Yn anffodus, doedd gan Y Selar ddim ddigon o bres i fy anfon i unlle mwy egsotig na Chaerdydd i gyfarfod Gareth Bonello, y cerddor tu ôl The Gentle Good, a’r cwestiwn cyntaf iddo oedd, pam dewis un o feirdd Tsiena fel testun albwm? “Ym mis Hydref 2011 fe wnes i deithio i ddinas Chengdu yn Tsieina am gyfnod preswyl artistig gyda Theatr Celfyddydau Perfformio Gysylltiedig Chengdu,” meddai Gareth. “Roedd y daith yn rhan o brosiect, Musicians in Residence – China, gafodd ei ariannu gan y Cyngor Prydeinig, roedden nhw’n anfon pedwar cerddor gwahanol i bedair dinas yn Tsieina. “O hynny wedyn nes i ddechrau ymchwilio i lenyddiaeth y wlad a chael y syniad o ddefnyddio’r bardd Li Bai a’i

4

y-selar.co.uk

farddoniaeth i gyfathrebu gyda phobl yno, gan fod Li Bai yn enfawr yn Tsieina.” Cafodd dau drac ar yr albwm eu recordio draw yn Chengdu, ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru, parhaodd Gareth i weithio ar y prosiect. Cydweithiodd gyda’r cyfansoddwr Seb Goldfinch, Pedwarawd Llinynnol Mavron o Gaerdydd ac aelodau o Ensemble Tsieineaidd y DU o Lundain i recordio gweddill Y Bardd Anfarwol. Doedd Gareth ddim yn bwriadu sgwennu albwm cysyniadol i ddechrau, felly ddatblygodd pethau wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen. “Daeth y syniad i wneud yr albwm o ddarllen cerddi Li Bai ond do’n i ddim yn bwriadu dweud stori bywyd y bardd. Ro’n i’n meddwl y bydden i eisiau cymryd ysbrydoliaeth o’r ffordd roedd e’n sgwennu. “Ond wrth i fi weithio ar yr albwm nes i sylweddoli bod lot o’i gerddi yn hunan fywgraffiadol - mae e’n sôn lot am ei fywyd e’ ac mae hefyd yn rhoi geiriau yng ngheg pobl eraill fel un gerdd sydd wedi ei sgwennu o safbwynt ei wraig. “Felly oedd e’n hawdd iawn dweud stori ei fywyd e’ jyst wrth ddefnyddio ei gerddi e’ fel ysbrydoliaeth.”

Taith Li Bai

Trwy’r albwm, mae The Gentle Good yn mynd â ni ar daith o fywyd Li Bai, o’r dechrau lle mae’r bardd ifanc yn gadael ei gartref i chwilio am hen ŵr doeth yn y mynyddoedd ac yna trwy ei deithiau ar hyd afonydd enwog Tsieina. Mae’n ymdrin â’r hiraeth a’r golled y mae’n ei deimlo wrth orfod gadael ei wraig a’i blant ar ôl, yn dilyn ei yrfa fel ymgynghorydd rhyfel, ei alltudiaeth a’i daith i gyrion y Tsieina hynafol. Mae’n dilyn y syndod wrth iddo sylwi ei fod yn heneiddio ac yna daw munudau olaf ei fywyd, a’i farwolaeth, wrth iddo foddi ar ôl disgyn oddi ar gwch yn ceisio cofleidio adlewyrchiad y lleuad yn y dŵr. Yn ogystal â’r cysyniad tu ôl i’r record, mae sŵn yr albwm hefyd yn unigryw wrth i Gareth Bonello asio ei sŵn gitâr werinol gydag offerynnau traddodiadol Tsieineaidd. Mae’n swnio fel cymysgedd od i’w gael ar un record ond mae Gareth yn meddwl bod cysylltiadau rhwng y ddau ddiwylliant. “Os oes un genedl arall yn deall hiraeth, y Tsieiniaid yw’r rheini - trwy’r gerddoriaeth ac yng ngherddi Li Bai hefyd,” meddai. “Mae cerddoriaeth Tsieineaidd yn ffilmig iawn - maen nhw’n defnyddio cerddoriaeth i greu awyrgylch ac roedd hynny’n ddiddorol ac yn rhywbeth dydych chi ddim yn ei weld mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. “Ond eto, mae’r themâu o bobl yn teithio yn bell oddi cartref yn un eitha’ cyfarwydd i ni hefyd.” Oherwydd y gymysgedd o synau Tsieineaidd a gwerinol yn ogystal â’r defnydd o recordiadau wnaeth Gareth allan yn Tsieina, dyw’r record ddim yn swnio’n debyg i ddeunydd blaenorol y Gentle Good – penderfyniad bwriadol meddai. “Mae ’na elfennau sy’n eitha’ tebyg ond mae stwff gwahanol hefyd. Mae’r record yn dechrau gyda chyflwyniad eitha’ gwahanol gan ddefnyddio soundscape o recordiad maes wnes i yn Tsieina. “Alle’n ni fod wedi ei adael e’n fynna a mynd nôl at y stwff o’n i’n ei wneud ar yr albyms diwetha’ ond ro’n i eisiau cadw teimlad y recordiadau maes a chreu’r teimlad eich bod chi’n mynd ar daith fach trwy Tsieina. “Mae mwy o ddiddordeb ’da fi mewn arbrofi a gweithio gyda phobl fel hyn na mynd ar drywydd Eingl-Americanaidd - fi’n gweld traddodiad cerddoriaeth gwledydd eraill yn ddiddorol a fi ddim eisiau ail wneud yr un record drosodd a throsodd.”


Caru Gwerin Mae cariad Bonello at gerddoriaeth gwerin Cymru, yn ogystal â gweddill y byd, yn amlwg ac mae wedi treulio oriau yn Sain Ffagan yn gwrando ar hen recordiau o ganeuon gwerin sydd wedi mynd yn angof erbyn hyn. Mae hefyd yn credu’n gryf ei bod hi’n bwysig adfywio rhai o’r hen alawon gwerin. “Chi’n gwrando ar y recordiadau ‘ma o’r 60au, pobl yn canu caneuon maen nhw’n eu cofio o’u plentyndod yn y ganrif cyn hynny ac mae e’n rhoi gwefr ac yn ysbrydoliaeth i chi. “Ond chi hefyd yn sylweddoli pa mor ddiweddar yr ydyn ni wedi colli’r cysylltiad yna gyda’r traddodiadau gwerin a dyw e’ heb gymryd lot o amser.

“Hoffwn i ddod â rhai o’r caneuon ’na nôl i’n meddylfryd ni ychydig bach a’u hailgylchu nhw fel bod Cymru’n cadw rhyw fath o ddiwylliant sydd yn perthyn i Gymru yn hytrach na bo’ ni’n ceisio dynwared steil Lloegr ac America” A gyda chanlyniad y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol, lle fyddai Gareth yn hoffi mynd nesa i gael blas ar draddodiad cerddorol y wlad? “Dwi ar hyn o bryd yn ceisio gwella chwarae gitâr a dwi’n ffeindio’n hun yn chwarae lot o stwff Arabaidd neu o ogledd Affrica a thipyn bach o ddylanwad Fflameco a Sbaen hefyd. “Bydde fe’n ddiddorol mynd yn ôl i i ran wahanol o Asia, fel India, i weld sut mae pethau’n cymharu. Ond unrhyw le chi’n mynd, chi’n siŵr o ffeindio cerddoriaeth hynod ddiddorol a gwahanol.”

Lluniau: Bestan Evans


LANSIO GWOBRAU’R

SELAR Fel sydd bellach yn draddodiad, byddwn yn agor pleidlais gyhoeddus yn fuan iawn, lle gallwch chi ddarllenwyr ffyddlon bleidleisio dros enillwyr Gwobrau’r Selar! Wedi llwyddiant y digwyddiad ym mis Mawrth, byddwn unwaith eto’n cynnal Noson Wobrau’r Selar i ddathlu llwyddiant yr enillwyr, a phawb arall sydd wedi gwneud gwaith gwych i hyrwyddo’r sin dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y Noson Wobrau’r cael ei chynnal yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth eleni, ar nos Sadwrn 15 Chwefror.

System Newydd Mae’r system bleidleisio yn newid ychydig eleni, a gyda’ch help chi, byddwn yn llunio rhestrau hir ar gyfer pob categori yn y bleidlais. Y bwriad ydy ei gwneud hi’n haws i bobl bleidleisio, gan hefyd olygu bod llai o bleidleisiau’n cael eu gwastraffu. Yn gyntaf, bydd modd i unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r categorïau isod rhwng hyn a 1 Rhagfyr. Yn fuan wedi cau’r enwebiadau bydd ‘Panel Gwobrau’r Selar’ yn trafod yr enwebiadau ac yn penderfynu ar restrau hir ar gyfer pob categori. Bydd y bleidlais yn agor ar 17 Rhagfyr gyda chyfle i bawb

Y Bandana

fwrw un bleidlais ar gyfer pob categori rhwng hynny a chau’r bleidlais ar ddiwedd mis Ionawr. Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr y gwobrau ar ôl i’r bleidlais gau, gyda’r enillwyr i’w cyhoeddi’n ecsgliwsif ar noson Wobrau’r Selar!

Enwebu Os ydych chi am gynnig enw i’w ystyried ar gyfer un o gategorïau Gwobrau’r Selar (rhestr categorïau isod) yna gyrrwch enwebiad at gwobrau-selar@outlook.com gan nodi ‘Enwebiadau’ fel pwnc i’r neges, erbyn 1 Rhagfyr. Bydd pob enwebiad, a llawer mwy, yn cael eu hystyried gan y panel. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau byrion y categorïau dros yr wythnosau’n arwain at y noson Wobrau. • • • • • • • • • •

Record Fer Orau Cân Orau Hyrwyddwr/wyr Gorau Gwaith Celf Gorau Cyflwynydd Gorau Artist unigol Gorau Band neu artist newydd Gorau Digwyddiad Byw Gorau Band y Flwyddyn Record Hir Orau

Y Panel Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus! Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr

Candelas

Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2013 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2013. Mae canllawiau llawn y gwobrau ar www.y-selar. com

hoffech fod ar y panel. Lluniau: Y Lle

6

y-selar.co.uk


Ti Di Clywed…

Yr Eira

pwy? Fe ffurfiodd y band yn wreiddiol gyda thri aelod, Lewys Wyn yn canu ac ar y gitâr, Guto Howells ar y dryms a Trystan Thomas ar y gitâr fas. “Mi ‘natho ni ffurfio rhyw flwyddyn yn ôl,” eglura Lewys. “Mi ‘nath y tri ohona ni gyfarfod i jamio ’chydig o ganeuon yr o’n i wedi eu cyfansoddi.” Bellach, mae Ifan Davies Sŵnami wedi ymuno i ychwanegu ail gitâr. “Er bod y pedwar ohona ni yn y brifysgol bellach ’di o ddim yn rhwystr i ni gan fod y pedwar ohona ni naill ai yn y brifysgol yn, neu’n dod o Fangor.” ^ Swn?

Yn ôl Lewys mae yna elfennau pop cryf yn sŵn y band, “Falla bod yna debygrwydd i’r Ods neu Frizbee yn y cytganau. Ond ’swn i’m yn cymharu ni ormod gyda Yr Ods neu Frizbee chwaith gan fod sŵn ein gitârs yn enwedig yn eithaf unigryw.” Er bod y band eisoes yn cyfansoddi tiwns cofiadwy fel ‘Elin’ a ‘Cadwyni’ mae Lewys yn cydnabod eu bod yn datblygu eu sŵn o hyd, “’Swn i’n licio deud bo’ ‘na elfennau cryf o synau seicedelig yn ein caneuon ond ella fydd y sŵn yma’n fwy amlwg yn y dyfodol!”

Wakestock, Eisteddfod Dinbych, ar daith Sŵnami ac yng Nghlwb Ifor Bach! Yn ogystal ’da ni wedi rhyddhau ’chydig o ddeunydd ar Soundcloud, mi natho ni recordio dwy gân ar ddechrau’r flwyddyn ac yna sesiwn C2 dros yr haf!”

Ar y Gweill? Ac mae’r hogia’n bwriadu cynnal y momentwm hwnnw yn y flwyddyn newydd. “’Da ni’n gobeithio rhyddhau efallai dwy sengl yn fuan a pharhau i gigio, efallai mentro tu hwnt i’r ffin i gigio hefyd, ond parhau i ysgrifennu ydy’r amcan ar hyn o bryd.”

Uchelgais? Does dim dwywaith fod y potensial gan y band hwn i fod yn un o fandiau mwyaf y sin mewn blwyddyn neu ddwy ac maen nhw’n sicr yn ddigon uchelgeisiol i lwyddo. “Un o’n prif obeithion ydy dod yn fand adnabyddus ac enfawr yng Nghymru gyda phobl yn meddwl amdanom ni pan mae’r eira’n disgyn yn y gaeaf! Hefyd ’sa fo’n grêt cal chwara’ ar lwyfannau mawr ac efallai ‘chydig o wyliau mawr Prydain megis Glastonbury!”

Dylanwadau? Mae’r band yn enwi bandiau indi-roc EinglAmericanaidd fel Peace a Smith Westerns fel dylanwadau ac mae’n hawdd clywed ’chydig o’r mwncwn bach oer ’na yma hefyd. Maen nhw hefyd yn hoff o roc seicedelig y band o Awstralia, Tame Impala, ac yn nes at adref yn “ffans mawr o Sen Segur, Hud a Colorama”.

Hyd yn hyn? Er mai dim ond ers blwyddyn mae Yr Eira wedi bod ar y sin maen nhw wedi llwyddo i gyflawni tipyn yn barod, wedi chwarae yn rhai o brif wyliau Cymru ac wedi bod yn y stiwdio. “Ma’i wedi bod yn flwyddyn brysur iawn! Dros yr haf ’da ni wedi gigio yn

Barn Y Selar Does yna ddim prinder bandiau sy’n chwarae cerddoriaeth indi pop fel hyn ac mae yna demtasiwn i rai ddiystyru’r genre yma’n gyfan gwbl am y rheswm hwnnw. Ond y gwir amdani yw, fel gydag unrhyw arddull cerddorol arall, mae posib ei wneud o’n gachu ac mae posib ei wneud o’n dda. Mae Yr Eira yn ei wneud o’n dda, ac mae pob arwydd yn awgrymu y gallan nhw ei wneud o’n well fyth yn y dyfodol. Ychwanegwch at hynny eu diddordeb mewn arbrofi gyda synau gwahanol ac mae gennych chi rywbeth cyffrous iawn ym mud ferwi. Rhowch hi fel hyn, yn ‘Elin’ maen nhw eisoes wedi cyfansoddi un o ganeuon mwyaf cofiadwy’r flwyddyn a hynny yn eu blwyddyn gyntaf. Deud y gwir, mae o ’chydig bach yn sgeri! Gwrandewch os yn ffan o Artic Monkeys, Sŵnami, Peace a Hud y-selar.co.uk

7


Ni Oedd y Genod Droog Gweithiau celf recordiau sydd wedi cael eu rhyddhau o fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf sydd yn cael ein sylw yn yr eitem hon fel arfer, ond y tro hwn fe benderfynom dyrchu trwy’r archif i ail werthfawrogi un o gampweithiau’r gorffennol. Yn Ni Oedd y Genod Droog, daethom ar draws clasur, a pha ffordd well i nodi pum mlynedd ers i’r grŵp chwedlonol ddod i ben nac edrych o glawr i glawr ar eu hunig albwm.

M

ae’n anodd credu fod pum mlynedd wedi mynd heibio ers i Genod Droog ddod i ben. Fe ffrwydron nhw ar y sin yn 2005 cyn gigio’n galed am dair blynedd a sefydlu eu hunain fel band byw anhygoel. A dyna’r cwbl oeddynt am ran helaeth o’r cyfnod hwnnw – band byw. Wnaeth y grŵp ddim rhyddhau dim tan haf 2008, ychydig wythnosau’n unig cyn dod i ben yn hydref yr un flwyddyn. Yr albwm, Ni Oedd y Genod Droog, yw’r unig beth sydd ar ôl bellach i gofio’r grŵp. Diolch byth felly fod yr albwm honno a’i gwaith celf mor gofiadwy. Fel aelod o’r grŵp, cynhyrchydd yr albwm a sylfaenydd y label recordiau y rhyddhawyd hi arni, Slacyr, pwy

8

y-selar.co.uk

well i’w holi am Ni Oedd y Genod Droog na Dyl Mei? “Roedd gan y grŵp syniad eitha’ pendant bod isho i’r clawr sefyll allan ac adlewyrchu natur y Genod Droog. Dwi’n meddwl nathon ni gyd sylweddoli’n eitha’ buan ein bod ni ddim yn arbenigwyr yn y byd dylunio felly fe benderfynodd Geth Ev holi rhywun oedd yn dallt y dalltins, sef Iestyn o stiwdio Sbellcheck.” Ond fel sylfaenydd y label, oedd gan Dyl fwy o ddweud na’r gweddill mewn materion fel hyn tybed? “Fyswn i’n licio deud oedd! Ond erbyn yr adeg yna roedd Geth Ev hefyd yn rhan o dîm rheoli Slacyr, a ’swn i’n deud mai fo oedd gan y deud mwyaf wrth feddwl am y clawr, ddim oherwydd ei fod yn well na gweddill y grŵp hefo’r petha’ yma, ond oherwydd ei fod yn gallach wrth reoli arian!”

Hogan Ddrwg Heb wastraffu mwy o amser, rhaid oedd dod at yr eliffant yn yr ystafell (chwedl y Sais), neu’r hogan noeth ar led yn yr achos yma! Honno sy’n cuddio rhwng y patrwm a’r lliwiau yng nghanol y clawr. Beth oedd y syniad tu ôl i’r hogan ddrwg yma? Ai dim ond ychydig o hwyl oedd hi, rhywbeth i gorddi’r dyfroedd yn fwriadol neu a oedd yna ryw ystyr dyfnach na hynny? “Doedd ’na ddim bwriad i drio corddi neb wrth roi hogan noeth ar y clawr, yn amlwg roedd delweddau o ferched wedi bod yn rhan bwysig iawn o ddelwedd y grŵp, gyda silhouettes yn ymddangos ar ein balŵns, posteri a chrysau-T. Rhyfadd fysa’r clawr ’di bod felly heb unrhyw gyfeiriad at y ffaith yma, ond eto, dwi ddim cweit yn cofio pam ei bod hi’n noeth!”


O GLAWR I GLAWR

Bydd y rhai craff ohonoch chi’n sylwi arni pryn bynnag efallai, ond bydd gan rai sy’n berchen ar yr albwm gymorth wrth law (os ydynt wedi ei chadw yn ddiogel), ar ffurf y sbectol arbennig a ddaeth gyda’r CD. “Yr unig ran o’r clawr oedd y grŵp yn awyddus i’w neud o’r cychwyn, oedd y sbectol arbennig. Gan ein bod i gyd o oed tebyg, roeddan ni’n cofio llyfr ditectif plant yn yr ysgol oedd yn defnyddio ’sbienddrych coch i weld lluniau cudd! Roedd hyn yn teimlo fel bysa’r clawr yn sefyll allan ac yn destun siarad o bosib. Di’r sbectol ddim gen i erbyn hyn, di’r copi o’r CD ddim chwaith!” Y cwestiwn pwysig wrth gwrs yw, a oedd pawb yn hapus â gwaith terfynol Iestyn? “Roedd y grŵp yn hapus iawn hefo’r clawr. Fel grŵp oedd fel arfer mewn rheolaeth lwyr o bopeth yn ymwneud â’n sŵn a’n delwedd, roedd hi’n bach o risg gadael i rywun o du allan i’r cylch greu rhywbeth mor bwysig â chlawr yr LP, ond roedd yr holl beth yn ffitio’n berffaith gyda’r syniad tu ôl i’r grŵp.” Arddull Mae’r clawr yn eithaf seicedelig, ac nid yw o angenrheidrwydd yn rhywbeth y byddai rhywun yn ei gysylltu â chlawr albwm hip hop. Dwi ddim yn deud fod rhaid i fand hip hop gael llun o foi efo gwn neu’n codi dau fys ar y clawr, ond doedd Ni Oedd y Genod Droog yn sicr ddim yn plygu i unrhyw stereoteip. “Er mai dau rapiwr oedd ein prif leiswyr, fyswn i erioed wedi ystyried Genod Droog fel grŵp Hip Hop. Roedd y gerddoriaeth a’r gigs

“Yr unig ran o’r clawr oedd y grwp yn awyddus i’w neud o’r cychwyn, oedd y sbectol arbennig.”

cweit yn rhoi sioe fel Genod Droog. “Y gig neith aros yn y cof am byth ydi steddfod Abertawe, hon oedd y gig gyntaf i ni fynd amdani go iawn hefo’r sioe, balŵns enfawr gwyn, confetti cannons, y Derwyddon ’di gwisgo fel myncs! A goleuo gwych.”

wastad ’di bod yn agosach at hen gigs seicedelig na gigs hip hop. Mae cloriau hip hop yn enwog am fod yn uffernol o wael hefyd! Felly, dwi’n falch ar y diawl aethom ni ddim lawr y lôn yna!” Er mai Genod Droog oedd prif fand byw Cymru am dair blynedd gyfan eu bodolaeth fwy neu lai, hon oedd yr unig albwm ac fe ddaeth hi fel yr oeddynt yn rhoi’r gorau iddi. Holais Dyl ai’r syniad oedd mynd “allan efo bang” fel petai? Ac os felly, oedd y clawr a’i natur braidd yn risqué yn rhan o hynny? “Y syniad gwreiddiol, oedd peidio rhyddhau LP o gwbl. Wedi chwarae fel y prif grŵp yn Sesiwn Fawr heb ryddhau hyd yn oed sengl, o’n i wedi meddwl bysa’n rhywbeth gwahanol i’r grŵp orffen, cymryd ein cerddoriaeth oddi ar y we, rhoi cease and desist letter i atal y cyfryngau rhag chwarae ein caneuon a diflannu’n gyfan gwbl. Ond fe lwyddodd Geth Ev i’m mherswadio ei fod yn syniad cwbl ymhongar, ac wrth edrych nôl, roedd o’n iawn ’fyd!” Efallai nad oedd hi’n fawr o syndod bod gwaith celf yr albwm a ddaeth â chyfnod Genod Droog i ben mor drawiadol, achos roedd yr elfen weledol wedi nodweddu eu gigs byw trwy gydol eu cyfnod. Doedd neb

Y Casglwr Ffolineb llwyr fyddai siarad am recordiau a’u gweithiau celf gyda Dyl Mei, heb sôn am ei gasgliad personol helaeth. Felly pa gloriau recordiau Cymraeg sy’n aros yn y cof iddo ef ac a oes yna rai wedi creu argraff arno’n ddiweddar? “Dau glawr sy’n sefyll allan o holl recordiau Cymraeg, sef Ail Ddechrau gan Brân a Syrffio Mewn Cariad gan Endaf Emlyn. Mae’r gwaith dylunio ar y ddwy LP yma yn boncyrs o dda (er yn ôl sôn, wedi ei greu mewn awr ginio gan ddylunydd HTV oedd Syrffio Mewn Cariad). Yn ddiweddar mae clawr Llithro gan Yr Ods wedi creu dipyn o argraff arna’i, enwedig y fersiwn LP! Wrth i lai o betha’ gael ei rhyddhau fel copïau calad o bosib mae gwerth celfyddydol y rheini sydd yn, wedi codi, fel pe bai mwy o ymdrech ’di mynd mewn i’r peth, ac o bosib, mwy o feddwl.” Ond yn ôl at y Genod Droog; bum mlynedd yn ddiweddarach, pe bai Dyl Mei yn cael mynd yn ôl, fysa fo’n newid unrhyw beth am Ni Oedd y Genod Droog? “Fyswn i heb ei rhyddhau ar ôl i’r grŵp orffan. Dwi’n teimlo weithia’ ei bod wedi cael ei anghofio, ac yn fy marn fach i, mae hi’n glamp o albwm, (ac ar Spotify i bobl sydd isio ei chlywed).” Ac i orffen, maddeuwch i hogyn bach o Eifionydd am ofyn cwestiwn hollol amherthnasol – Ai’r albwm hon a recordiwyd yn Stiwdio Blaen y Cae yw’r peth gorau i ddod allan o Garndolbenmaen erioed? “’Blaw am yr 1A i Borthmadog.”

^

y-selar.co.uk

9


trydar gyda @blaiddcymru @Y_Selar Helo @blaiddcymru, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar.

Wedi bod ar daith yn Llydaw yn ddiweddar hefyd o’n i’n clywed, sut aeth hi yno?

@Y_Selar EP newydd allan mis Tachwedd. Beth yw’r enw?

@blaiddcymru Cafon ni gigs grêt yn cefnogi bands lleol mas yna. Lot o sbort. ’Da ni am deithio Ewrop o ddifri yn yr haf.

@blaiddcymru Shwmae @Y_Selar Enw’r peth yw Ma fe Gyd yn Wir, sydd hefyd yn enw ar un o’r caneuon. @Y_Selar A beth allwn ni ei ddisgwyl? Sawl trac a sut fath o stwff? @blaiddcymru 4 trac. Sŵn syml. Dryms, gitâr, bâs a llais. O’ ni wedi neud llwyth o overdubs fancy ond a’th nhw ar goll rhywle yng nghyfrifiadur Dunn... @blaiddcymru Ond odd Stevens moen cadw fe’n syml beth bynnag! @Y_Selar Edrych ymlaen at ei chlywed. Lle fuoch chi’n recordio a gyda phwy felly? @blaiddcymru Nathon ni recordio fe yn nhŷ Richard Dunn yn Llandaf gyda Meic Stevens yn cynhyrchu. @Y_Selar Waw, gweithio gyda Meic Stevens! Sut brofiad oedd hwnnw? @blaiddcymru Grêt i gychwyn. Ond ‘nath ni gwympo mas ’da fe ar ôl cwpl o ddyddie, ac wedyn odd e’n cael cemotherapi, so odd popeth ar hold am flwyddyn... @blaiddcymru ... wedyn gafodd e’r all clear, ac erbyn hynny odd e’ a fi’n ffrindie eto so ‘nath ni benni’r tracs bant ddiwedd yr haf. @Y_Selar Proses recordio ddigon cythryblus felly, ond ydych chi’n hapus efo’r sŵn yn y diwedd? @blaiddcymru Hapus bod ni ‘di beni’r ffycar... fel dwedes i ‘odd ’na overdubs fancy fel pianos ayb ond nath y twpsyn o beiriannydd ’i colli nhw... @blaiddcymru Felly bydd yr EP sy’n dod allan yn symlach ac yn fwy amrwd nag o’ ni’n ’i ddisgwyl ond roedd Meic yn hapus felly o’ ni’n hapus. @Y_Selar Da iawn, a beth allwn ni ei ddisgwyl o ran geiriau? @blaiddcymru 2 trac cariad a 2 trac am ddrygioni. Nath y geirie yma hala i bawb chwerthin tipyn: Os ti’n clywed rhyw hen si, am y pethe wnes i, cyn cwrdd â ti. Ma fe gyd yn wir. @Y_Selar Gonestrwydd o’r dechrau wastad yn bolisi da!

10

y-selar.co.uk

@Y_Selar Cyffrous iawn. Sut mae’r ymateb ar y cyfandir yn cymharu â’r ymateb yma yng Nghymru? @blaiddcymru I fod yn onest cawsom ymateb gwell, ac ni wedi trafod dianc i fyw a chwarae dramor. Sa i’n credu bod y Cymry’n rhy hoff o’ ni eniwe. @Y_Selar Ha, dwi’n siŵr fydd hynny’n newid wedi iddynt glywed y deunydd diweddara yma! Oes ’na unrhyw gigs ar y gweill i hyrwyddo? @blaiddcymru Ma’ ’na rhyw sôn bod ni’n neud gig Nadolig yn Aber gyda @RadioRhydd. @Y_Selar Diddorol, fe ddylai honno fod yn noson dda, ’di @RadioRhydd ddim yn gall! Ai ar @Afiach_DIY yr ydych chi’n rhyddhau hefyd? @blaiddcymru Na ar Recordiau Anhrefn unwaith ma’r hen Rhys Mwyn ’na’n tynnu ei fys allan! @Y_Selar Ah... @therealrhysmwyn, prif ffan @Y_Selar! Ai fo a’r Anhrefn oedd yr ysbrydoliaeth i fynd â’ch cerddoriaeth dramor tybed yn dilyn eu llwyddiant nhw? @blaiddcymru Wnes i orfodi’r band i ddarllen Cam o’r Tywyllwch. Fe ddylse’r llyfr ’na fod ar restr ddarllen unrhyw un sy’n chware mewn band Cymreig. @Y_Selar Ai dyna lle ti’n gweld Blaidd, fel band ar y cyrion, tu allan i’r brif ffrwd, yn debyg i’r Anrhefn ar y dechrau ac efallai @RadioRhydd nawr? @blaiddcymru Ar y cyrion? Cyrion o be’? Ma Cymru gyfan ar y cyrion. Smo neb yn brif ffrwd. Ma’ fi a Caryl yn yr un cwch... @blaiddcymru A ’da ni gyd yn mynd lawr ’da’n gilydd! @Y_Selar Diddorol a digon teg! Diolch yn fawr @blaiddcymru. Pob lwc hefo’r EP a phopeth arall yn y dyfodol. @blaiddcymru Diolch @Y_Selar.

Dilynwch ni @Y_Selar


y Selar

Griff yn Dangos ei Ochr

y-selar.com @y_selar facebook.com/cylchgrawnyselar yselar@live.co.uk

Gwobrau’r Sela r Neuadd Fawr, Aberystwyth 15 Chwefror 20 13

y Selar

m ddim?

a Am ddim felly p

nter iaith, o’ch swyddfa fe Mynnwch gopi a ‘stafelloedd siopau Cymraeg golion Cymru. 6ed dosbarth ys ifyn electroneg o’r rh y w Darllenwch gopi tr i a ynghyd â phor diweddaraf ym . n gwefan ol-rifynnau ar ei

y-selar.com @y_selar facebook.com/cylchgrawnyselar yselar@live.co.uk

Mae deunaw mis ers i Y Selar gyhoeddi darn am fideos annibynnol, a’r peth sy’n aros yn y cof yw’r ffaith nad oedd yna, ar y pryd, unrhyw arlwy cerddoriaeth gyfoes ar S4C. Diolch byth, mae ein sianel genedlaethol wedi callio, a rhwng Y Stiwdio Gefn ac Ochr 1 mae’r ddarpariaeth wedi bod yn gymharol gyson fwy neu lai ers hynny. Pwy well i sôn am y gyfres ddiweddara o Ochr 1, na’r cyflwynydd gynhyrchydd ei hun, Griff Lynch? Ma’ Ochr 1 wedi dechrau ar s4c ers rhai wythnosa’ efo rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru’n ymddangos mewn sesiynau, cyfweliadau a fideos. O R.Seiliog i Cowbois, o Plyci i Sŵnami, ac o The Gentle Good i Radio Rhydd – mae yna rywun i bawb ar y gyfres newydd. Ma’r rhaglen ymlaen am 10 o’r gloch bob nos Fercher ar S4C, ond o bosib mai’r peth pwysicaf a mwyaf arbrofol am y gyfres newydd ydi fod y rhaglen yn cael ei ddarlledu ar y we, cyn iddi ymddangos ar y teli-bocs arferol. Bob nos Sul am 9 ma’r bennod ddiweddaraf yn cael ei phostio ar Clic. Gyda phrynu cerddoriaeth a gwylio ffilmiau wedi mynd yn beth mor instant, a gan mai lawrlwytho bellach yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o dderbyn cynnyrch, mae hi’n gwneud synnwyr i raglenni cerddoriaeth symud gyda’r oes a chynnig yr un gwasanaeth. Mae Ochr 1 yn torri tir newydd gan mai hon yw’r gyfres gyntaf yn hanes S4C i gael ei darlledu ar y we yn gyntaf, ac er mai dim ond cam bach ydi o, mae o’n gam pwysig ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae’n amlwg bellach nad rhywbeth i’w wylio os ydi o’n digwydd bod o’ch blaen ydi pop Cymraeg. Efallai fod hynny wedi bod yn wir am raglenni cerddoriaeth yn y gorffennol yn yr un modd ag y mae o’n gallu bod yn wir am rhai gigs byw. Ond mae’n braf gweld fod yna ddigon o ddiddordeb ac angerdd gan bobl i fynd i chwilio yn benodol amdano hefyd. Hir oes i raglenni cerddoriaeth Gymraeg, ac i Ochr 1 yn arbennig er mwyn fy nghadw i mewn gwaith. y-selar.co.uk

11


BYR DYMOR BROMAS ^ Mae yna rywbeth yn y dw r yn y de orllewin ar hyn o bryd. Mae’r lle fel ffatri fandiau ac mae digon o ddeunydd newydd yn barod i ddod oddi ar y llinell gynhyrchu rhwng nawr a’r Nadolig. Yr amlycaf o’r bandiau hyn o bosib yw Bromas, ac anfonodd Y Selar ein ‘clustiau-ar-y-ddaear’ ni yn y rhan hwnnw o’r byd, Lowri Johnston, i drafod yr albwm newydd, Byr Dymor.

12

y-selar.co.uk

M

ae’n noson oer o Hydref a dwi’n eistedd ar soffa Gwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn yfed siocled poeth gyda Bromas. Mae Caerfyrddin wedi cymryd perchnogaeth dros Bromas, fel rhieni balch, er mai dim ond hanner yr aelodau sy’n dod o’r dref - y ddau arall o Rydaman a Chastell-nedd. Wedi cwrdd ar gyrsiau’r Urdd, a gan rannu eu cariad at gerddoriaeth (i dorri stori hir yn fyr) daeth Bromas at ei gilydd erbyn Eisteddfod yr Urdd 2011 i gystadlu yng nghystadleuaeth roc a phop yr ŵyl. Daethon nhw’n ail, a dy’ nhw heb fentro cystadlu eto... Ond ers hynny, maen nhw wedi gigio’n aml, rhyddhau sengl, ac maen nhw nawr wedi recordio eu halbwm cyntaf, Byr Dymor, sydd yn cael ei ryddhau ar label Rasp ym mis Tachwedd. Ac yn astudio Lefel A yng nghanol y cwbl... “Nathon ni recordio gyda’r athrylith Tim Hamill yn stiwdio Sonic One, Llangennech yn ystod mis Awst,” meddai Llewelyn. “Odd e’n brofiad newydd i ni i roi amser i recordio mewn stiwdio am bythefnos. Ar gyfer y sengl, ‘Byth ’di bod i Japan’, nathon ni recordio gyda Rhys ‘Barf’ James yn ei stiwdio yn ei dŷ, odd hefyd yn brofiad grêt, ond dim ond diwrnod odd gyda ni i recordio dwy gân. Felly odd treulio amser dros y caneuon y tro hwn yn grêt ac mae modd clywed bod mwy o amser a meddwl wedi ei roi i’r albwm.”


“Saith cân sydd arni, y bwriad oedd ysgrifennu mwy o ganeuon a dychwelyd i’r stiwdio, ond chawsom ni ddim amser i wneud hynny,” meddai Steffan. “Ond erbyn hyn mae’r caneuon ni’n ysgrifennu yn datblygu ac yn dechrau swnio’n wahanol felly galle fe fod wedi swnio’n rhyfedd fel casgliad o ganeuon. Pan ni’n ysgrifennu caneuon, mae ein sŵn ni’n dueddol o newid yn aml iawn - gan ein bod ni’n ifanc efallai ac yn gwrando ar lawer o bethau gwahanol.” “Odd y sengl yn wahanol iawn i beth sydd ar yr albwm, felly nathon ni benderfynu peidio’i chynnwys,” ychwanega Cellan. Mae ‘Byth ’di bod i Japan’ bron yr hyn fyddet ti’n disgwyl ei glywed gan fand Cymraeg. Ni’n teimlo fod y caneuon ar yr albwm yn fwy ‘trwchus’ rhywfodd.” “Ni ’di cael cymaint o bobl yn dweud wrthon ni fod ‘Byth ’di bod i Japan’ yn ramadegol anghywir… Falle taw sioc bod band o’r de yn rhyddhau rhywbeth yw hynny?!” medde’ nhw’n gellweirus. Dwi’n awgrymu eu bod nhw o bosib hyd yn oed wedi derbyn llythyrau cas? Dim eto… Angen arbrofi Pa fandiau maen nhw’n gwrando arnyn nhw ar hyn o bryd felly? “Mae hyn yn newid fel mae’n sŵn ni’n newid - yn aml! Ond ar hyn o bryd, ni gyd yn hoff iawn o Peace, Alt J, Vampire Weekend... O’n ni’n chwarae gyda Carwyn Ellis, Colorama, yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar. Mae e’ jyst yn anhygoel ac yn ddylanwad mawr. Mae wedi newid sut dwi’n meddwl am gerddoriaeth.” meddai Llewelyn. “O’n i’n hoff iawn o Endaf Gremlin yn yr Eisteddfod a ma’ Candelas wastad yn llwyddo i ddenu cynulleidfa fawr. Mae’n neud i ni edrych ar yr hyn maen nhw’n neud i fod yn llwyddiannus ac mae’n neud i ni feddwl mai dyna’r ffordd i fod,” ychwanega Steffan.

“Ni’n teimlo fod y caneuon ar yr albwm yn fwy ‘trwchus’ rhywfodd.”

“Mae rhyddid creadigol yn broblem yng Nghymru...”

“Mae rhyddid creadigol yn broblem yng Nghymru. Nifer fach sy’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol, ac os chi’n ceisio gwneud rhywbeth bach yn wahanol sydd ddim yn mynd i blesio’r mwyafrif, yna ti’n cyfyngu’r gynulleidfa eto.” Felly ydy hyn yn dylanwadu ar y ffordd mae Bromas yn mynd ati i ysgrifennu cerddoriaeth? “Ydy, yn bendant,” yn ôl Steffan. “Dwi’n meddwl bod y sin yn gwneud hynny i’w hunan. Mae’r sin yn dylanwadu ar yr hyn mae band yn ei gynhyrchu - a’r hyn sy’n drist yw y byddai band sy’n bod yn arbrofol yn sicr o ffeindio cynulleidfa tu allan o Gymru yn rhyngwladol.” “Un o’r pethe mwyaf trist yw gweld sut ymateb mae Sen Segur yn ei gael yn gyffredinol. Ma’ nhw’n wych! A thu fas i Gymru dwi’n siŵr bydde nhw’n cael ymateb da iawn. Ond yng Nghymru, achos dy’ nhw ddim yr hyn y mae rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wedi arfer ag ef – dyw’r gwrandawyr ddim yn rhoi cyfle iddyn nhw ac felly maen nhw’n cael cynulleidfa fach yn aml.” Ymestyn gorwelion Mae’r grŵp wedi sefydlu yn ardal y de orllewin fel band erbyn hyn, ond sut ymateb maen nhw wedi’i gael ar draws Cymru? “Y tro cyntaf i ni chwarae yn y gogledd oedd gig gwobrau’r Selar, felly oedd hwnna’n brofiad newydd i ni,” eglura Cellan. “Yna aethon ni ar daith gyda’r Bandana o gwmpas Cymru, oedd yn wych. Yn ddiweddar, mae’r gorwelion wedi symud i’r gogledd tipyn bach. Mae’r Bandana wedi bod yn help mawr i ni. Ma’ nhw’n weithgar iawn yn trefnu a chwarae gigs - ni’n ddyledus iawn iddyn nhw.” y-selar.co.uk

13


14

A sut ymateb oedd yn y gogledd? “Mae’n wahanol iawn o ran agwedd pobl at gigs yn y de a’r gogledd, dyna ni’n teimlo ac wedi profi,” meddai Llewelyn. “Ma’ pobl yn y gogledd yn mynd i gigs yn aml ac mae’n noson mas normal iddyn nhw. Ma’ gigs yn llai aml yn y de ac felly mae’n fwy o ddigwyddiad. Mae’r gynulleidfa yn y de i’w weld yn ifancach hefyd, felly’n mynd mas i wrando ar gerddoriaeth yn unig.” Felly, fydden nhw’n disgrifio’r de a’r gogledd fel dwy sin wahanol? “Bendant. Ac mae Aberystwyth fel ryw fath o gyfaddawd. Ni’n dwli chwarae yn Aber!” Beth am y sin yn y de orllewin? Dwi’n teimlo bod nifer o fandiau wedi dechrau’r un pryd â Bromas ond neb llawer fel pe bai nhw wedi dechrau ers hynny – neu ydw i wedi colli rhywbeth?! Llewelyn sy’n parhau: “Erbyn hyn, mae’r bandiau nath ddechrau’r un pryd â ni wedi datblygu a ddim yn fandiau ‘newydd’ rhagor - a dyna beth sy’n creu sin. Erbyn y Nadolig, ar label Rasp, bydd ein halbwm ni’n cael ei ryddhau, EP Castro ac EP gan Y Ffug hefyd - sy’n rhywbeth sa i’n cofio’n digwydd yn y de orllewin o’r blaen. “

ein bod ni’n gallu rhoi sylw i’r gwaith ysgol a chadw’r rhieni’n hapus trwy gyfaddawdu!” meddai Cellan.

Gigs nosweithiau ysgol Roedd wythnos y glas eleni yn un brysur i Bromas wrth deithio o un man i’r llall yn gigio, sut maen nhw’n ymdopi, achos mae’r rhain yn nosweithiau ysgol! Beth yw ymateb eu rhieni?! “Wel, nathon ni ddim ymdopi! Odd pump gig ’da ni mewn wythnos ysgol, a rheina yn dechrau yn hwyr hefyd, ac roedden ni eisiau mynd i’r gwely! Odd e’n wych, ond ww, odd y daith nôl o Aberystwyth yn boenus!” “Nathon ni benderfyniad yn ystod yr haf y bydden ni’n gigio lot yn ystod mis Medi ond wedyn bod rhaid i bethe setlo ar ôl ’ny fel

Dwy noson yn ddiweddarach, dwi yn noson Hwncw Monco yng Nghaerfyrddin lle mae Bromas yn chwarae, ac er i fi eu gweld nhw’n chwarae dros yr haf, dwi’n synnu faint maen nhw wedi tynhau eu sŵn ac mae’r caneuon yn swnio’n aeddfed a phroffesiynol. Yn bendant, mae’r holl chwarae’n fyw a’r recordio wedi gwneud lles i’r band ac maen nhw erbyn hyn wedi codi i lefel uwch. Nid band newydd ifanc mo Bromas mwyach, ond band sy’n barod i herio ac i ddatblygu eu sŵn. Dwi’n methu aros!

y-selar.co.uk

Oes ‘na hoff leoliadau gigs? “Pan ni’n chwarae yn Gigs y Gwach, Pontardawe, mae wastad yn teimlo fel ein bod ni’n dychwelyd adref!” meddai Steffan, yn llawn arddeliad. “Ni wastad yn cael ymateb gwych yna a ma’ criw ’da yn dod i’r gigs. A ma’ Chinese takeaway Pontardawe wastad yn plesio!” Y bwriad i’r dyfodol? “Gigio’r albwm cymaint â ni’n gallu heb ddiflasu! Ni’n teimlo braidd fod yr albwm yn cael ei ryddhau bach yn hwyr - ni’n barod i ysgrifennu caneuon newydd yn barod, ac fe fydd y sŵn yn wahanol, yn debycach i sŵn y sengl a dweud y gwir,” meddai Cellan. Felly, ai dyna’r cyfeiriad yn gerddorol maen nhw’n gweld eu hunan yn datblygu? “Mae’r cyfeiriad yma yn newid bron yn wythnosol! Ond ie, ar hyn o bryd.”


Blas ar SGRIFIO I CYFLE I DANY

LWG AP GO ARBENNIG AM BRIS

– RHIFYN O GOLWG BOB WYTHNOS AR EICH DYFAIS SYMUDOL

3 mis am

£5

N AW R A R GAEL i- O S a c A A R N D R O ID

yn lle £19.99

Cy n n ig w y r llen r a d d i

Ebostiwch mairjones@golwg.com gan ddyfynu’r côd yma - SELARAP

hysbys 557 selar_557 190x138 31/10/2013 11:59 Page 2

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2014 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Cefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor Twitter: @prifysgolbangor


^ yddo a wrth drefnu, hyrw h yt N iw cr d ia dd Mae gallu ac ymro gyfarwydd riaeth byw yn hen do rd ce au ad di yd chynnal digw Eiddior yn Alun Gaffey a Gwyn ae m r, w na nd O . bellach am roi tro ar – ’odd rhaid i mi] ac i or [s dd ny de ha yn i lledaenu eu wrs sydyn gyda Gw sg am r la Se Y h et ryddhau record. A d. l-gyfrannog newyd drafod y casgliad am Beth yw enw’r casgliad? O’r Nyth. (Ac er ei fod o’n eithaf amlwg) Pam dewis yr enw hwnnw? Gan fod yr holl ganeuon yn dod O’r Nyth wrth gwrs. Roeddem ni isio enw syml oedd yn esbonio’n gyflym beth yw’r casgliad. Ma’ ‘na is-deitl yn esbonio’n fwy cyflawn - Casgliad aml-gyfrannog cyfoes o Gymru. Ar ba fformat mae hi ar gael? Yn ddigidol ac ar finyl deuddeg modfedd. Finyl yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, beth oedd y rheswm dros y dewis hwnnw? Ma’ ’na deimlad braf wrth chwara’ record finyl, mae’r gwrando yn fwy teimladwy bron. Bydd y feinyl yn gyfle i bawb drysori’r record am flynyddoedd maith, ymhell ar ôl i nosweithiau gwyllt a gwirion y Nyth ddiflannu i niwloedd y cof! Nid albwm newydd yn unig, ond label hefyd? Ia, ni sy’n cyhoeddi’r traciau hefyd.

16

y-selar.com

Pam dewis y llwybr aml-gyfrannog? Ein cefndir ni yw trefnu gigs a gwyliau cerddorol felly ‘da ni wedi hen arfer dewis artistiaid gwahanol i ymddangos efo’i gilydd felly roedd hi’n naturiol creu casgliad fel hwn. Sut aethoch chi o gwmpas dewis yr artistiaid? Fe benderfynwyd cydweithio gyda rhai o’n hoff artistiaid ni, y rhai sydd wedi perfformio’n fyw ar ein llwyfannau droeon ac sydd wedi bod mor hael eu amser, eu hamynedd a’u talent gyda ni dros y blynyddoedd. Tydi ddim yn gyd-ddigwyddiad mai dyma hefyd naw o artistiaid ifanc mwyaf talentog a chyffrous Cymru heddiw. Gyda chymaint o artistiaid ac arddulliau gwahanol, oedd hi’n anodd rhoi trefn ar y cwbl a’i gael o i weithio fel cyfanwaith? Ni roddwyd dim arweiniad creadigol i’r artistiaid wrth gyfansoddi a dewis eu traciau, felly roedd union flas a naws y record yn dipyn o ddirgelwch i ninna’ hefyd! Ond ers y gwrandawiad cyntaf un ’da ni’n sicr ei fod yn gasgliad gwerth chweil sy’n adlewyrchiad gwych o gerddorion Cymru heddiw.


Beth felly am air sydyn am yr holl artistiaid a’i traciau? Sen Segur - Yn syth bin mae’r trac yn dy ddal di’n sownd ym myd hudolus a seicadelig Sen Segur, pa ffordd well o ddechrau? Gwyllt - Mae dub-reggae Gwyllt yn llwyddiant ysgubol tra bo gwreiddioldeb Amlyn Parry wrth drin a thrafod y byd o’i gwmpas yn wefreiddiol eto.

Casi Wyn Mae tlysni llais Casi a’i geiriau hiraethus yn plethu’n wych efo naws freuddwydiol y gerddoriaeth sy’n llifo’n fwyfwy epig wrth i’r trac gyrraedd ei uchafbwynt.

Hoff Gasgliad Ar y pwynt hwn fel arfer fe fyddwn ni’n gofyn am hoff albyms mewn categorïau gwahanol ond i gadw yn y naws amlgyfrannog…

Plyci Sioc electronig wnaiff daflu creaduriaid ar eu traed i ddawnsio a charlamu’n ffri. Budredd gwallgo’ o’r radd flaenaf.

Alun Gaffey Ma’r trac yma’n llawn sypreisys; sawl sŵn diddorol yn rhan o natur wirioneddol ddeuol y gân, o’r curiadau Casi Wyn a’r geiriau rhwystredig i’r alaw gynnes hoffus.

Osian Howells - Mae pob nodyn a churiad ar y trac yma’n enfawr, ma’r gân yn dy ddyrnu a’th chwyrlio di’n ddigyfaddawd [mewn ffordd dda!] o’r dechra’ i’r diwedd. Hiwj!

Cowbois Rhos Botwnnog - Trac recordiwyd ym Mhatagonia. Ma symlrwydd y drymiau dwfn a’r gitâr

Sbaenaidd ynghyd â llais iasol Iwan yn llwyddo i lonyddu unrhyw un a thorri dy galon di ’chydig bach.

Violas Mae’r gitârs a’r lleisia’ sy’ mor iasol yn cyfuno efo’r dryms grymus i greu gwychder heb ei ail, dyma sŵn eang ac epig Violas ar ei ora’. Afal Drwg Efa Ma’r holl drac yn ymddangos fel un rhith di-ddiwedd, yn daith ryfedd ac ansefydlog rhwng gwyll a gwawr, ond taith na allwch chi beidio ei mwynhau.

Hoff gasgliad amlgyfrannog erioed? FabricLive.07: John Peel Hoff gasgliad amlgyfrannog Cymraeg erioed? Radio Crymi Playlist Vol 1: Ankst

Yr albwm aml-gyfrannog dwytha i ti ei phrynu? Y Record Las ydi’r casgliad newydd dwytha... er i mi brynu copi ail law o Disc a Dawn o ffair recordia Gŵyl Gwydir hefyd.

Cowbois Rhos Botwnnog

Pwy oedd yr artist hawsaf i weithio gyda nhw? Rhaid dweud i’r naw trac ein cyrraedd yn ddi-drafferth ond efallai ma’ Plyci oedd angen lleia o brocio ac atgoffa. Er chwara’ teg i’r lleill dim ond fo’i hun a’i gyfrifiadur sy’n rhaid i Plyci boeni amdano. A’r anoddaf? Oedd yna unrhyw ‘difas’? Ma pawb yn gwybod ma’ hogia’ Sen Segur ydi ‘difas’ mwya’ Cymru! Oes yna ddigon o gasgliadau fel hyn yn cael eu rhyddhau? Ma casgliadau Recordiau Lliwgar, Welsh Rare Beat, Recordiau Ankst yn rhai gwych ac wedi bod yn ysbrydoliaeth yn sicr. Dwi’n gobeithio wrth gyfuno gallu ac ymroddiad sawl artist y gall yr undeb yma greu casgliad safonol y bydd pobl o Gymru a thu hwnt yn cymryd sylw ohonno a’i fwynhau. Roedd y lansiad swyddogol yn Gwdihŵ fel rhan o ŵyl Sŵn, sut aeth hi? Hwyliog a phrysur iawn, roedd hi’n hyfryd cael clywed cymaint o’r caneuon yn cael eu chwara’n fyw. Beth allwn ni ddisgwyl o ran y gwaith celf? Gyda’r geiriau “os ti gallu’i neud o dy hun i be’ ei di i ofyn i rywun arall” fe ddarbwyllwyd fi i ddarlunio’r clawr fy hun. Roedd gen i ambell syniad ac am iddo fod yn lliwgar a hwyliog ond yn eitha’ syml ac amwys gan fod y gerddoriaeth tu fewn mor amrywiol. Gwertha O’r Nyth i ni mewn pum gair. Y casgliad aml-gyfrannog gora eto. y-selar.co.uk

17


HYDREF CERDDOROL CAERDYDD Mae mis Hydref wastad yn fis pwysig i ffans cerddoriaeth yng Nghaerdydd gyda Gŵyl Sŵn wedi hen ennill ei phlwyf fel un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr cerddorol Cymreig. Ond eleni, roedd hyd yn oed mwy o reswm dros gyffroi gan fod ffair gerddoriaeth byd WOMEX hefyd yn ymweld â’r brifddinas ym mis Hydref. Owain Gruffudd fu’n ymweld â’r ddau ddigwyddiad ar ran Y Selar.

U

n o’r uchafbwyntiau cerddorol i mi yn flynyddol yw Gŵyl Sŵn, sydd yn cael ei chynnal ar hyd a lled Caerdydd dros benwythnos hir ym mis Hydref. Ers i mi fynychu’r ŵyl am y tro cyntaf yn 2011, dwi wedi cael cyfle i weld bandiau mawr megis Ben Howard, The Joy Formidable a Django Django, yn ogystal â chael fy nghyflwyno i fandiau newydd fel Bo Ningen, We’re No Heroes ac AlunaGeorge (sydd bellach wedi dod yn boblogaidd iawn). Mae’n bedwar diwrnod llawn cerddoriaeth o safon uchel ac erbyn y diwedd dwi wastad yn ysu am noson gall o gwsg!

18

y-selar.co.uk

Felly yn dilyn seibiant byr ôl haf prysur roeddwn i’n barod i ddychwelyd at fywyd blinedig a phleserus penwythnos mewn gŵyl gerddorol. Y peth cyntaf rydw i a sawl un arall yn ei wneud cyn Sŵn ydi ceisio cynllunio’r pedwar diwrnod sydd o’m mlaen i - proses sy’n ddigon i’ch blino cyn i’r penwythnos ei hun gychwyn! “Ydw i am weld cychwyn set y band yma yng Nghlwb Ifor Bach neu aros a gwylio ail hanner set y band yma yn O’Neills?”. “Sut dwi fod i fynd o’r Undeb i Chapter mewn pum munud?!”. Ia, dwi’n siŵr fod y rhan fwyaf o’r 5,000 sy’n mynychu Sŵn yn


Lluniau: Yannis Psathas (Womex)

YMESTYN GORWELION

“Braf gweld artistiaid yn llwyddo i ddangos i’r byd ein bod ni’n falch o’n traddodiad gwerin.”

wynebu problemau o’r fath. Ond roedd eleni fymryn yn wahanol. Roedd rhaid ceisio ateb cwestiynau tebyg i’r uchod gan gofio bod rhaid cadw mymryn o egni ar gyfer wythnos arall o gigs a fyddai’n dilyn Sŵn eleni. Ia, am y tro cyntaf ers i’r ŵyl cerddoriaeth byd gael ei sefydlu, roedd WOMEX yn cael ei chynnal yn ein prifddinas, a hynny o ddydd Mercher tan ddydd Sul yn syth ar ôl Sŵn! Mae WOMEX yn ŵyl sy’n symud o un lle i’r llall o gwmpas Ewrop ac yn rhoi’r cyfle i gerddorion y byd greu cysylltiadau a rhwydweithio.

Felly, fe wnâi ddechrau gyda Gŵyl Sŵn. Roedd nifer o lwyfannau wedi eu neilltuo ar gyfer gigs Cymraeg eleni, un yn cael ei gefnogi gan wefan Pobl Caerdydd, llwyfannau eraill yn cael eu cynnal gan griwiau Nyth a Peski, ac roedd gan Y Selar noson hefyd! Dwi’n teimlo’i fod o’n grêt fod gymaint o fandiau’r Sin Roc Gymraeg yn cael cyfle i chwarae mewn gŵyl fawr fel hon, mae’n gyfle i gael cynulleidfa wahanol i’r rhai sy’n mynychu gigs Cymraeg o un wythnos i’r llall. Wrth edrych ar y lein-yp roedd dros 30 o artistiaid a bandiau’r sin yn perfformio. Tra cafodd bandiau fel HMS Morris, R. Seiliog a Plu gyfle i chwarae ar lwyfannau gyda bandiau sy’n gwneud eu henwau tu hwnt i’r ffin, roedd ambell fand yn cael eu rhoi i chwarae mewn lein-yps cyfan gwbl Gymraeg. Dwi ddim yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i fandiau Cymraeg gyrraedd cynulleidfa newydd mewn gwyliau mor fawr. Mae criw Nyth wedi

llwyddo i greu enw i’w hunain dros y blynyddoedd wrth gymysgu bandiau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd, ac mae hyn wedi achosi i fwy na’r dorf Gymraeg arferol fynychu’r gigs – gan gynnwys ambell actor, cerddor a phêldroediwr enwog! Dwi’n teimlo mai gŵyl fel Sŵn yw’r cyfle delfrydol i fandiau Cymraeg, fel Yr Ods, Kizzy Crawford a Candelas ymestyn eu cerddoriaeth i gynulleidfa tu hwnt i Gymru. Dyna sut gweithiodd WOMEX o blaid bandiau’r Sin. Roedd y Showcases yn y nos yng Nghanolfan y Mileniwm yn cynnwys bandiau o bob rhan o’r byd yn perfformio ar wahanol lwyfannau. Roedd y gynulleidfa yno i glywed cerddoriaeth o bob math ac ym mhob iaith, ac fe gafodd artistiaid fel Georgia Ruth, Ghazalaw a 9Bach, yn ogystal â pherfformwyr y seremoni agoriadol, Twm Morys, DnA a Gwenan Gibbard, y cyfle i gyflwyno’u cerddoriaeth i rannau o’r byd sydd heb glywed canu Cymraeg o’r blaen.


UCHAFBWYNTIAU Ond beth am yr uchafbwyntiau cerddorol dros yr wythnos a hanner? Llwyddais i weld lot o fandiau yn y deg diwrnod, gormod i’w rhestru fan hyn yn sicr! O ran Gŵyl Sŵn, roedd dau artist addawol yn sefyll allan i mi’n arbennig. Y cyntaf o’r rheini oedd Casi Wyn. Un o’r erthyglau cyntaf i mi ysgrifennu yn Y Selar oedd ‘Dwy yw Dilyn’ – oedd yn cynnwys Greta Isaac a Casi, a braf yw gweld bod y ddwy yn gwneud eu henwau yn y Sin, sydd i weld yn llawn artistiaid benywaidd ar y funud. Pob tro dwi’n clywed trac newydd gan Casi dwi’n teimlo ei bod hi’n parhau i ddatblygu a gwella. Nid yn unig mae ganddi lais gwych, ond mae hi hefyd yn gallu ysgrifennu caneuon da. Mae ganddi ganeuon sy’n llawn emosiwn a da yw gweld fod hynny’n cael ei gyfleu yn ei pherfformiadau byw. Yr artist arall nes i fwynhau dros y penwythnos oedd Osian Howells. Tydi hi ddim yn gyfrinach mod i’n ffan mawr o’r Ods, a dwi’n meddwl fod y prosiect yma gan Osh yn gyfle grêt i gael clywed mwy o’i waith, wedi i ni gael blas ohono ar ddeunydd Yr Ods. Mae’r un math o sŵn dal i’w glywed yma – tywyll, epig a bachog. Fe wnaeth Gwdihŵ lenwi’n fuan wedi i Osian a’i fand gychwyn, sydd yn awgrymu bod cynnwrf o’i amgylch. Dwi’n edrych ymlaen at glywed y deunydd fydd allan yn fuan. Gydag arddull cerddorol ychydig yn wahanol o ran y gerddoriaeth Gymraeg yn WOMEX, 9Bach oedd y perfformiad nes i’w fwynhau fwyaf. Dwi ddim yn meddwl mod i wedi gweld y band o Fethesda yn fyw o’r blaen ond fe wnes i fwynhau eu dehongliad mor fodern o gerddoriaeth werin. Er bod yna elfennau traddodiadol a gwerinol penodol i’r bandiau oedd yn ymddangos yn WOMEX, roedd hi’n braf gweld fod 9Bach, yn ogystal ag artistiaid eraill fel Georgia Ruth a’r prosiect IndiaiddGymreig, Ghazalaw, yn llwyddo i ddangos i’r byd ein bod ni’n falch o’n traddodiad gwerin, ond yn parhau i’w wneud yn gyfoes hyd heddiw. Ar ôl deg diwrnod mor brysur, doedd dim syndod mod i wedi blino tuag at ddiwedd WOMEX! Oni bai am ambell gig yma ac acw, dwi ddim yn credu fod gŵyl arall i fynd iddi tan haf nesaf. Digon o amser i orffwyso felly!

“Roeddwn i’n barod i ddychwelyd at fywyd blinedig a phleserus penwythnos mewn gŵyl gerddorol.”

20

y-selar.co.uk


Tybed pa eitemau cerddorol Cymraeg sydd wedi bod yn newid dwylo arlein dros y misoedd diwethaf. Dyma ddetholiad o’r mwyaf diddorol...

Tecwyn Ifan - Y Dref Wen Pris Gwerthu: £29.99 (15 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Label Sain 1977, rhif catalog 1071M. Cyflwr Ardderchog Clawr Record - Wedi’i lamineiddio ar y ddwy ochr, glân ond mae rhywfaint o’r laminiad yn codi ar y ddwy ochr. Cyflwr ardderchog. Record finyl - marc ysgafn ar drac un ar wyneb y ddwy ochr, sydd ddim yn effeithio ar y chwarae. Chwarae heb neidio ag unrhyw glics na phops. Cyflwr ardderchog. Barn Y Selar: Un o’r recordiau Cymraeg mwyaf casgladwy a thipyn o syndod o’i weld yn gwerthu am bris mor rhesymol. Mae sawl un o’r rhain wedi gwerthu ar-lein am bris llawer uwch - ymddangos mewn cyflwr da felly bargen i’r prynwr.

Y Diliau £12.16 (4 cynnig) Disgrifiad gwerthwr: Albwm prin iawn. Label Gwerin SYWM 216 - 1979 Llawes - Ardderchog (ychydig o grafiadau ysgafn i’w gweld wrth ddal at olau) Finyl - Ardderchog a sgleiniog (ambell farc ond yn chwarae’n ardderchog) Barn Y Selar: Diolch i Andy Votel a Gruff Rhys roedd dwy o ganeuon Y Diliau ar gasgliadau Welsh Rare Beat - ac yn haeddiannol felly. Mae’r Record Hir yma (ar gael ar gasét hefyd) yn haeddu mwy o sylw a pharch. Casgliad diddorol yn cynnwys fersiwn o gân Meic Stevens a threfniant gwych o un o ganeuon Neil Young. Llawn cystal os nad well nag Abba!!

Ceffyl Pren - Collasant eu Gwaed Pris Gwerthu: £6.27 (4 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Sengl Finyl 7” ar y label recordiau Anthem gan y band roc Cymraeg, Ceffyl Pren. Mae clawr llun plyg-ddalen (gatefold) ar hwn wedi’i arwyddo gan yr holl aelodau.

Fe’i harwyddwyd i mi ar ôl eu gig yn y Coach House yn Abertawe ar 29 Gorffennaf 1984. Angenrheidiol i unrhyw gasglwr neu ffan o fandiau Cymraeg. Barn Y Selar: Band glam roc o Gaerdydd oedd Ceffyl Pren a greodd gryn argraff ar ddechrau’r 1980au gyda stynts oedd yn cynnwys glanio mewn hofrennydd ar gaeau chwarae Ysgol Glantaf i hyrwyddo gig. Aeth y sengl yma i rif 1 siart Y Cymro cofiwch - gorfod bod yn werth £6.27 felly does bosib!

Heather Jones - Mae’r Olwyn yn Troi Pris Gwerthu: £31.00 (3 cynnig) Disgrifiad gwerthwr: 1974, Sain, Gwerin Cymraeg Prin, Da Iawn+ Cyflwr gweledog - Da iawn+, marciau ysgafn ond yn chwarae’n dda Clawr - Da iawn. Llawes bapur tu mewn. Chwarae’n dda heb unrhyw synau mawr na chracyls. Cyflwr da iawn, ambell cracyl bach ar yr wyneb ac yn popio rhywfaint ond sŵn yn wych. Barn Y Selar: Prin fod angen unrhyw gyflwyniad ar Heather Jones gan ei bod yn dal i berfformio’n gyson hyd heddiw. Mae recordiau o’i chyfnod cynnar yn ddigon casgladwy a does dim syndod fod hon wedi gwerthu am bris da.

Y Trwynau Coch / Crach - Split 7” Pris Gwerthu: £11.43 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Record brin o 1980, wedi’i wasgu’n breifat. Y Trwynau Coch / Crach - Methu Dawnsio (Recordiau Coch (RCTC 3), 1982) Cyflwr - clawr mewn cyflwr agos at mint. Finyl mewn cyflwr ardderchog. ‘Powerpop’ ardderchog o 1980. Mae llawer boster ar hon oedd ddim ond ar gael gyda nifer fechan o gopïau. Barn Y Selar: Trwynau Coch - y peth mwyaf i ddod o Abertawe ... efallai. Clasur arall gan y Trwynau, ‘Methu Dawnsio’ gyda chân roc a rôl pyncaidd gan Crach. Clawr gwych yn agor allan fel poster. Prin a chasgladwy iawn.

y-selar.co.uk

21


adolygiadau Cariad Afiach mr huw Mae mr huw wedi taro’r hoelen ar ei phen gyda’i bedwerydd albwm. Er bod y cynnyrch wedi dwysáu’n sylweddol, nid yw hynny wedi amharu ar allu yr artist i gyflwyno caneuon cofiadwy fel ‘Cariad Afiach’ ac ‘Os Na Cariad Ydi Hyn’ – fy hoff ganeuon o’r casgliad. O gymharu Cariad Afiach gyda chasgliadau blaenorol megis Llond Lle o Hŵrs a Lladron mae’n hawdd dweud fod yr artist wedi aeddfedu cryn dipyn. Mae’r geiriau, sy’n fwy dwys a thywyll ynghyd â’r melodïau a rhythmau mwy cymhleth i gyd yn ychwanegu at hyn. Mae ‘na naws eithaf 60-aidd i’r casgliad yn ogystal ag elfen seicedelig ar rai adegau yn y riffs gitâr bachog. Mae’r sŵn yma’n plethu’n gampus gyda sŵn naturiol, byw yr albwm - y peth agosaf a gewch at wylio’r band yn fyw. Ar y cyfan, rwyf wedi fy mhlesio gyda’r casgliad ac yn sicr yn edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad yr aiff mr huw nesaf. Hefyd, ewch i chwilio am y finyl, mae’n swnio hyd yn oed yn well! 7/10 Ifan Prys Ma Fe Gyd Yn Wir Blaidd Mae gan bob un o aelodau Blaidd restr go hir o gyn fandiau, felly mae’n ddigon teg i ddweud mai cerddorion profiadol iawn sydd y tu ôl i’r EP, Ma Fe Gyd Yn Wir. Gallwn glywed hynny’n glir wrth wrando ar bedwar trac newydd y triawd o Geredigion. Clywn ddylanwad Y Cyrff ac Anrhefn ar y band, er bod y casgliad hwn llawer tawelach na nifer o’r caneuon maent yn eu perfformio’n fyw. Mae llais crafog Sam Rhys yn gweddu’n dda i naws amrwd yr EP, a does gan Blaidd ddim ofn trafod yr atgas a’r aflan wrth ddweud eu dweud. Trac deitl yr EP, ‘Ma Fe Gyd Yn Wir’, yw’r cryfaf – mae yma riffs bachog a digon o angst. Credaf fod y gân olaf, ‘Nath Nhw Dal Ti’, yn ’bach o anticlimax

i’r casgliad, ond efallai fy mod i’n disgwyl rhywbeth lot mwy stwrllyd o wybod pa mor fywiog gall gigs Blaidd fod. Byddai albwm wedi rhoi mwy o sgôp i’r band arbrofi a chynnwys casgliad ehangach o ganeuon, ond mae’r EP hwn yn ddechrau da, ac yn cynnwys pedair cân gref a chofiadwy. 7/10 Miriam Elin Jones Chwyldro Gwenno Caewch eich llygaid a gwasgwch play, wrth i ni gamu unwaith eto ar chwyrligwgan seicedelig electropopaidd Gwenno. Mae llinell fas gadarn a churiad dryms cryf ‘Chwyldro’ yn cario casgliad o synths meddal a llais diniwed Gwenno am orymdaith bum munud o gerddoriaeth pop newydd o’r brifddinas. Dyma ddatblygiad cyffrous i Gwenno, o sŵn DIY traciau fel ‘Despenser St’ ar EP Ymbelydredd, i sŵn lot fwy mawreddog ac aeddfed. Ond un nodwedd sydd wedi aros yw’r alawon syml a chofiadwy. Wrth wrando ar y ‘Chwyldro’, y geiriau ‘Paid anghofio fod dy galon yn y chwyldro’ fyddwch chi’n eu hailadrodd drosodd a throsodd, mewn rhyw fath o drans hudolus y mae Gwenno wedi llwyddo i’n rhoi ynddo unwaith eto. Ceir b-side ar ffurf ‘A B C CH D’ ac ailgymysgiad o ‘Chwyldro’ gan R.Seiliog hefyd. Mae’r sengl ar gael ar ffurf ddigidol ac mae ’na nifer cyfunedig o gopïau CD ar gael o wefan Peski.co.uk, felly dwi’n argymell i chi brynu hon cyn i’r copïau ddiflannu. 8/10 Cai Morgan

defnyddio ar deitlau agoriadol cyfres deledu Americanaidd. Nid dyna’r rheswm ’dw i’n ei hoffi hi gymaint, ond yn hytrach, oherwydd y cyffro a’r stori sy’n datblygu ynddi. Mae hyn ychydig yn wahanol i rai o’r traciau eraill sydd ar brydiau yn swnio’n ailadroddus. Dyna steil R. Seiliog o’r hyn dw i wedi’i glywed (mi wnes i fy ngwaith cartref wedyn a gwrando ar Shuffles EP) a’r hyn sy’n gwneud ei sŵn mor unigryw. Ar ôl gwrando ar Doppler unwaith roeddwn i o’r farn mai albwm i’w chlywed yn fyw oedd hi. Ond erbyn hyn dw i’n dechrau gwerthfawrogi beth ydy R. Seiliog ac yn clywed rhywbeth newydd pob tro. Yng nghanol yr holl loops ailadroddus mae ‘na felodïau gwerth eu clywed a chyffyrddiadau electronig sy’n eich tywys i fyd rhythmig, arallfydol. Ac mae’n fyd reit braf i fod ynddo... 7/10 Lois Gwenllian Y Bardd Anfarwol The Gentle Good O’r nodyn cyntaf un, mae rhywun yn cael y teimlad bod The Gentle Good yn cyflwyno rhywbeth arbennig iawn yn ei record ddiweddaraf. Wrth ddechrau gyda recordiad o farchnad brysur yn Tsiena sy’n arwain at synau offerynnau traddodiadol y wlad ynghyd â sŵn gitâr werinol Gareth Bonello, mae’n llwyddo i gymysgu diwylliannau’r gorllewin a’r dwyrain yn hawdd ac effeithiol.

Doppler R. Seiliog ’Dw i wedi clywed llawer o sôn am R. Seiliog ond erioed wedi ei glywed tan i mi dderbyn Doppler. Mae’r albwm yn agor gyda thrac byr electronig sy’n swnio fel bod rhywun yn chwarae xylophone mewn twnnel carthffosiaeth. Yn syth, gwyddwn fod hyn am fod yn brofiad cerddorol newydd i mi. Un o fy hoff draciau yw’r ail, ‘Ostisho’, sy’n swnio fel cân a fyddai’n cael ei

AID O RHRAND GW


Yna, mae’r daith yn dechrau wrth i ni ddilyn bywyd y bardd Li Bai trwy’r caneuon lle mae gallu geiriol Bonello yn amlygu ei hun. Mae llawer o waith wedi mynd i gynhyrchu’r albwm ac mae hynny’n dangos yn y casgliad arbennig o ganeuon ac yn y ffordd mae cerddoriaeth dau ddiwylliant yn asio mor berffaith. Yn ogystal â hynny, mae Laura J Martin, Lisa Jen a Richard James yn ymddangos ar y record. Mae’r ddeuawd gyda Lisa Jen ac ‘Yfed gyda’r Lleuad’ yn uchafbwyntiau heb os. Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen. Un o’n hoff albyms i hyd yma eleni a dwi’n amau y bydd hi’n parhau i fod wedi i mi wrando arni am y milfed gwaith. 9/10 Ciron Gruffydd Mwgwd EP Plyci Mae Mwgwd fel Marmite, ti unai wrth dy fodd efo fo, neu ti’n gallu meddwl am lwyth o bethau gwell i neud efo fo, fel chwarae frizbee. Ta waeth, dwi’n licio Marmite, a Plyci, ac mae’r EP bach newydd yma’n stwff tolcio-clust go iawn. Mae’r gwallgofddyn electroneg wedi rhoi pedwar trac i ni, gan ddechrau gyda ‘Mwgwd’. Dyma dwi’n ’i ddychmygu ‘sa ti’n ’i glywed ‘sa ti’n cael dy gipio gan arallfydwyr. Synau aneglur o bell, adleisiol a sbwci i gychwyn, ac wedyn curiad trwm, sy’n swnio’ fyglyd a budur! Yna ceir synau electroneg uwch eu traw ar ben hyn, sy’n ysgafnu’r trac ac yn codi’r cwbl i lefel arallfydol. Wedyn mae ‘Shanti’ yn fy atgoffa o gerddoriaeth gefndir Sonic ers talwm pan oedd y draenog yn gwibio trwy dwneli dur – sain metelaidd sy’n cael ei addurno gan nodiadau gwichlyd direidus yr allweddellau. Mae’r ‘na gymysgu trac llais merch efo curiadau trwm, tywyll ar ‘LATEX’, a churiad cyflym ond efo digon o ail-adrodd i wneud yn siŵr bod y gwrandäwr ddim yn mynd ar goll yn y cyfan – fy hoff frac i ar yr EP. A ‘da ni’n gorffen efo ‘Songbird’, sy’n arafu’r tempo ac yn dod â synau bron yn eglwysig i ni efo sain organ adleisiol.

Epic. ’Swn i’n argymell i rywun sydd gan galon wan gamu nôl. 9/10 Casia Wiliam Yn Ôl ar y Ffordd Gwibdaith Hen Frân Mae’r pumawd gwerinol o Flaenau Ffestiniog yn ôl gyda’i pedwaredd albwm stiwdio, ‘Yn Ôl ar y Ffordd’. Newyddion da i’r rhai ohonoch chi sy’n hoffi’r math yma o werin ffwrdd a hi, ond i’r lleill sydd wedi cael llond bol o glywed caneuon anaeddfed fel ‘Anti Ffani, Yncl Wili’, fe fyddwch yn rowlio eich llygaid unwaith eto wrth wrando ar hon. Ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog, mae’r albwm yma wir yn codi’ch ysbryd, wrth i ni glywed am hynt a helynt ‘Talcen Hefin Pritchard’ a ‘Balŵ’, dwy gân dwi’n siŵr fydd yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ar draws Cymru. Ond i mi, mae angen mwy o draciau fel ‘Yn ôl ar y Ffordd’. Dyma gân sydd yn lot fwy amgen a thrydanol na’r lleill heb aberthu stamp steil unigryw Gwibdaith. Pob blwyddyn mae Gwibdaith Hen Frân yn parhau i ddiddanu cannoedd o bobl mewn tafarndai a gwyliau cerddorol o amgylch y wlad ac mae’n rhaid canmol hynny, ond i fi, ar hyn o bryd dydy’r gerddoriaeth yma ddim yn torri tir newydd. 5/10 Cai Morgan O’r Nyth Mewn cyfnod lle mae’r cyfleoedd i fandiau ryddhau albwm lawn yn brin, mae ’na adfywiad wedi bod yn yr albwm amlgyfrannog. Criw Nyth ydy’r miwsôs diweddaraf i ryddhau casgliad o ganeuon gan eu hoff artistiaid. Fel y byddech chi’n disgwyl gan fois sy’n deall eu cerddoriaeth, mae’r holl gynhwysion yma – artistiaid da iawn, caneuon hynod safonol a record finyl fyddai’n edrych yn hyfryd ar unrhyw silff. Mae’r amrywiaeth artistiaid yn drawiadol – grwpiau sefydlog, prosiectau unigol aelodau o grwpiau amlwg eraill

ac artistiaid amgen yn cael llwyfan amlwg. Heb amheuaeth mae’r caneuon i gyd yn dda – mae cyfraniadau Osian Howells, Afal Drwg Efa a Sen Segur yn ardderchog, a dwi’n meddwl mai ‘Hardd’ ydy’r gân orau dwi di glywed gan Casi Wyn hyd yma. Ac eto, mae ‘na rywbeth sy’ ddim yn taro deuddeg am y casgliad fel cyfanwaith – dwi’m yn siŵr os ydy baled werinol Cowbois yn gorwedd yn gyfforddus ochr yn ochr ag electro Plyci. Weithiau mae’n teimlo fel rhestr mics têp personol criw Nyth, ond i’r rhai niferus sy’n mwynhau eu gigs rheolaidd efallai mai rhinwedd ydy hynny. 7/10 Owain Schiavone Byr Dymor Bromas Un peth sydd yn eich taro am y casgliad yma ydi fod bob dim yn lân a thaclus iawn, mae’r lleisiau’n felfedaidd a’r cynhyrchu fel pin mewn papur. A dwi’n foi sy’n gwerthfawrogi hylendid yn y mwyafrif o agweddau bywyd (personol a bwyd i enwi dim ond dwy), ond does dim rhaid i mi ei gael o yn fy ngherddoriaeth bob tro. Mae’r trac agoriadol, ‘Alaw’ yn gwella’n sylweddol pan maen nhw’n ‘rocio allan’ yn ail hanner y gân, a’r ail drac, ‘Sal Paradise’ ydi’r unig un dwi ddim yn ei licio o gwbl. Gyda ‘Grimaldi’ ac ‘Y Drefn’ mae’r casgliad yn dechrau cydio go iawn. Dwi’n licio’r dryms ar y ddau drac yma, mae’r riff ‘Grimaldi’ yn un hynod gofiadwy ac mae yna ddarn gwych tuag at ddiwedd ‘Y Drefn’ pan mae pob dim ar wahân i un gitâr yn stopio. Ceir cyffyrddiadau seicedelig neis ar ‘Hollow Men’ ac mae hanner cyntaf ‘Nos Galan’ yn dangos gallu’r band i gyfansoddi rhywbeth mwy araf a theimladwy. Gorffennir gyda chytgan fachog a crescendo dryms enfawr ‘Cysgu’n Brysur’. Mae Byr Dymor yn dangos bod Bromas yn gallu chwarae, ac er bod yna ddigon i’w werthfawrogi yn y casgliad yma, mae gen i fwy o ddiddordeb yn yr hyn fydd y band yn ei wneud yn yr hir dymor. 6/10 Gwilym Dwyfor


CynnyrCh

newydd

Georgia Ruth

Enillydd Gwobr Cerddoriaeth Gymraeg y flwyddyn Georgia Ruth £9.99 Week of Pines Gwibdaith Hen Frân £9.99 Yn ôl ar y Ffordd

Albwm newydd llawn hwyl, dychan a digon o ganu iach!

Yr Ods £9.99 Llithro Y Bandana £9.99 Bywyd Gwyn Swˆnami £5.99 Du a Gwyn

Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig o £9.99 i £4.99

PoSt yn rHaD ac aM DDiM wrtH arcHebu Drwy www.SainwaleS.coM

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.