Y Selar - Awst 2018

Page 1

Rhif 54 // AWST // 2018

m a r e s m A

Adwaith Y SELAR

1


Ymunwch â ni ym Medi 2018

Llefydd ar gael ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig

Dyma ddech re ar y #DyddieDa

Caerfyrddin | Llambed | Abertawe | Caerdydd

Ymgeisiwch nawr

0300 323 1828

www.ydds.ac.uk/cy/clirio gwybodaeth@ydds.ac.uk Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Y Drindod Dewi Sant AstudioYDDS


y Selar Rhif 54 // Awst // 2018

cynnwys

Golygyddol Go brin fod llawer wedi sylwi ar y pryd ond roedd y 14eg o Orffennaf eleni’n ddiwrnod nodedig i gerddoriaeth Gymraeg. Pam? Wel, dyma bedwar rheswm; Car Gwyllt, Gŵyl Arall, Gŵyl Canol Dre a Pharti Ponty. Pedair (ia pedair) gŵyl gerddorol Gymraeg yn digwydd ar hyd a lled Cymru ar yr un diwrnod! Yn un peth, mae’n aruthrol bod digon o fandiau ac artistiaid yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg i gefnogi cymaint o ddigwyddiadau byw. A fyddai o wedi digwydd ddeg mlynedd yn ôl? Dwi ddim yn siŵr. Tydi o ddim yn digwydd yn hawdd wrth gwrs, roedd yna logisteg ar waith, gyda phobl fel Yr Oria a Gwilym Bowen Rhys yn clocio’r milltiroedd i berfformio mewn dau le ar yr un diwrnod. Teithiodd sawl un arall yn bell hefyd, unai ar ôl chwarae ym mhen arall y wlad y noson cynt neu er mwyn gwneud hynny’r diwrnod wedyn, clod mawr i’w gwaith caled. Ond nid artistiaid yn unig sydd eu hangen, ond cynulleidfa wrth gwrs, ac mae’r ffaith bod digon o ddiddordeb yn y sin i gynnal cymaint o wyliau yn rhywbeth i’w ddathlu heb os.

I Fight Lions

4

Sgwrs Sydyn - Glain Rhys

8

Brwydr y Bandiau

10

Adwaith

14

Darllen y Label - I ka Ching

18 20

Adolygiadau

Llun clawr: Celf Calon

GWILYM DWYFOR

4

8

10

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Gethin Griffiths, Lois Gwenllian, Bethan Williams, Rhys Dafis, Ifan Prys, Elain Llwyd, Ciron Gruffydd, Aur Bleddyn

14

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


A HWYTHAU WEDI RHYDDHAU EU HALBWM NEWYDD, BE SY’N WIR?, YN DDIWEDDAR, GETHIN GRIFFITHS FU’N SGWRSIO GYDA HYWEL A DAN O I FIGHT LIONS AR RAN Y SELAR.

U

n o’r pethau sydd yn cael ei edmygu fwyaf am fandiau Cymraeg yw hirhoedledd a dyfalbarhad. Mae Breichiau Hir yn enghraifft berffaith o fand sy’n ennill hygrededd a chlod haeddiannol wrth i’w gyrfa hir barhau i fodoli a datblygu, a hynny gan iddynt wrthsefyll a goroesi temtasiynau mewn bywydau personol a phroffesiynol cerddorion amatur sydd, fel rheol, yn achosi i fandiau chwalu. Yr hyn sydd yn ddiddorol amdanynt yw cymeriad a phersonoliaeth gref eu cerddoriaeth a’u harddull, a’r modd y maent wedi ffitio i mewn i ryw niche tanddaearol sy’n bodoli yng Nghaerdydd. Mae hynny, yn ei dro, wedi galluogi iddynt barhau i fodoli ac i gynnal gyrfa sy’n teimlo fel un â chyfeiriad ac egwyddorion pendant iddi. Band sydd wedi bod yn dilyn llwybr tebyg dros y blynyddoedd diwethaf yw I Fight Lions, ond efallai, heb gymaint o sylw, a heb gymaint o drafod o’u hamgylch. Mae’r albwm diweddaraf, Be Sy’n Wir, yn sicr yn gam tuag at gyfeiriad annisgwyl, ond mae’n codi cwestiynau diddorol am wreiddiau a’r rheswm dros fodolaeth y grŵp o’r Gogledd Orllewin. Wrth eu cyfweld yn ddiweddar, mae’n gwbl amlwg eu bod nhw wedi bodoli yn y cylchoedd hyn oherwydd, yn syml, mai dyna oedd yn naturiol iddyn nhw. I’r dadansoddwr craff, mae Be Sy’n Wir yn bodoli rhwng dau fyd cerddorol gwahanol, ond i fand o bedwar sy’n trin eu hymgyrch cerddorol yn union fel y buasai rhywun yn trin gemau pêl-droed pump-bob-ochr, neu glwb gwyddbwyll wythnosol, mae’r pethau ‘ma, yn syml, jest yn digwydd.

DYSGU SUT I FWYNHAU GIGS Yr hyn ro’n i fwyaf awyddus i ofyn i Hywel Pitts, canwr y grŵp, a Dan Owen, y basydd, oedd am eu cynulleidfa, a’r math o gigs y maen nhw wedi eu chwarae. 4

Y SELAR

Dros y blynyddoedd diwethaf, mi fuasech chi’n llawer mwy tebygol o weld I Fight Lions yn chwarae yng Nghaergybi, Bae Colwyn neu Rhyl na Chaernarfon, Caerfyrddin a Chaerdydd, ac mae hynny, yn naturiol, yn mynd i gymell profiadau gwahanol i lawer o fandiau eraill sy’n ymddangos yn Y Selar. Mae’r ddau yn deall yn syth beth sydd gen i mewn golwg, ond yn amlwg wedi arfer â’r sefyllfa i’r fath raddau nad ydynt yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd y peth. “Da ni di dysgu sut i fwynhau gigs...” meddai Dan yn syth. “...hyd yn oed os ‘na dim ond dau o bobl sydd yno.” Mae Hywel yna’n egluro nad ydyn nhw’n deall yn iawn sut y bu iddyn nhw ddarganfod eu hunain yn gwneud y mathau yma o gigs. “Da ni di cyfarfod y cymeriadau ‘ma sydd wedi rhoi gigs i ni. Mae’n gwneud i chdi feddwl pam dydyn nhw ddim yn gofyn i’r bandiau Cymraeg eraill. Wedi dweud hynny, I Fight Lions ‘di ein henw ni, felly ella bo’ hynny’n rhywbeth i wneud hefo fo. Ond dal, dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr i fi.” Aiff ymlaen i egluro bod y gigs yma’n bodoli oherwydd bod y bandiau i gyd yn swnio’n debyg, nid oherwydd eu hiaith. “Dwi ‘di gweld gigs hollol hurt bost, jest achos bod y bandiau’n canu yn Gymraeg. ‘Sa chdi’n gallu cael Candelas yn chwarae hefo Band Pres Llareggub, a Welsh Whisperer yn agor y noson! ‘Di hynna ddim yn gweddu, dio’m yn gwneud synnwyr!”

SAIN NEWYDD Fodd bynnag, mae’n gyfnod o newid nodedig i’r grŵp wrth iddyn nhw arwyddo ar label Côsh, a fydd yn sicr o ddenu cynulleidfa newydd iddyn nhw. Be Sy’n Wir yw’r record gyntaf iddyn nhw ei ryddhau ar y label, ac mae


“Dwi ‘di gweld gigs hollol hurt bost, jest achos bod y bandiau’n canu yn Gymraeg.” Lluniau: Rhys Grail

Y SELAR

5


hynny’n codi cwestiynau diddorol am ddyheadau I Fight Lions o ran eu cerddoriaeth a’u gyrfa. Pan ryddhawyd y sengl gyntaf, ‘Calon Dan Glo’, cafodd llawer eu syfrdanu gan sain newydd, sy’n canolbwyntio ar gitârs ysgafn a synths yn hytrach na’r cordiau trwm a’r emo rock oedd yn nodweddiadol o’u cynnyrch blaenorol. Yn ôl Dan, ei ddylanwadau cerddorol ef oedd yn gyfrifol am y sain newydd hwn. “Doedd hi ddim yn rhy wahanol cyn i’r synth fynd lawr, ond roedd o’n galw allan am synth.’ Mae dylanwadau Dan yn ymestyn o Van Halen i Steely Dan, ac o Def Leppard i Hall & Oates, ac mae ganddo obsesiwn gyda cherddoriaeth wythdegau, fel y mae Hywel yn barod i’w atgoffa. Wedi dweud hynny, mae’n ddiddorol nodi bod gweddill yr albwm yn llawer tebycach i’r hyn rydan ni’n ei ddisgwyl gan I Fight Lions, ac mae’n amlwg bod yr amrywiaeth eang hwn yn arddulliau’r albwm yn gwbl fwriadol. “Oedd yr albwm gyntaf fatha... one sound”, meddai Dan gydag acen Bae Colwyn gyfoethog. “Mae hon yn wahanol, mae ‘na ganeuon yma sy’n gwbl wahanol i’w gilydd.’ Wrth ymuno â label Côsh, gellir maddau i unrhyw un am gredu bod I Fight Lions yn mynd i geisio newid eu sain i blesio eu cynulleidfa newydd, ond mae’r ddau’n gweld hyn fel cyfle i arbrofi ymhellach, ac fel rhyddid i ysgrifennu unrhyw beth mewn unrhyw arddull. Dydy’r ddau ddim yn credu bod yr albwm mor drwm â hynny, ond yn cyfaddef bod yr albwm Saesneg y byddan nhw’n rhyddhau ddiwedd y flwyddyn yn drymach ei natur. Mae Hywel yn hoff o’r modd y gellid disgrifio caneuon fel ‘Diwedd y Byd’ fel “cabaret tywyll”, ac yn cyfaddef mai ei ddylanwadau ei hun sy’n gyfrifol am natur ddramatig a theatrig rhai o’u caneuon. Gellir clywed hynny ar y stwff cynnar, yn enwedig ar yr EP Splendid, a’r EP Gymraeg,

6

Y SELAR

Storm, ond doeddan nhw ddim mor camp a flamboyant â’r albwm yma. Cyfeiria Hywel at y Dresden Dolls fel un ffynhonnell o’r dylanwadau hyn, ond mai My Chemical Romance ydy’r dylanwad amlycaf. Mae’r dylanwadau hynny’n mynd yn ôl i wreiddiau cerddorol I Fight Lions, a hynny nôl yn nyddiau ysgol Hywel a’i fand cyntaf, The Dirty Words. Roedd aelod arall o I Fight Lions, Dan Thomas, yn y band hwnnw, ac mae’n dod i’r amlwg bod yr aelodau wedi hen arfer chwarae â’i gilydd mewn cyfuniadau gwahanol, dan enwau gwahanol. Dan Owen yw’r unig un sy’n gwbl newydd i I Fight Lions, ac mae’n chwerthin ar y dryswch wrth i Hywel geisio egluro sut y newidiodd yr aelodau rhwng The Dirty Words ac After an Alibi (ail fodolaeth y grŵp), cyn cyrraedd y sefyllfa bresennol.

MWY AEDDFED Yr hyn oedd o ddiddordeb i mi oedd y gwahaniaeth rhwng tair bodolaeth y band, a hynny gan fod yr aelodaeth wedi bod mor debyg dros y blynyddoedd. Daw’n amlwg mai’r meddylfryd sy’n wahanol, yn hytrach na’r gerddoriaeth, a’r modd y mae Hywel yn gweld ei hun fel cerddor. “O’n i’n cymryd fy hun o ddifrif yn The Dirty Words ac After an Alibi, yn gwisgo guyliner a petha. O’n i isio ychydig o hwyl yn creu cerddoriaeth, a dyna lle ddaeth I Fight Lions. Wedi dweud hynny, ‘dwi’n teimlo fel ein bod ni ‘chydig bach mwy aeddfed, a ‘dw i’n meddwl bod o’n rywbeth eithaf aeddfed i beidio cymryd dy hun o ddifrif.” Mae hynny’n ein harwain yn naturiol at bwnc sydd yn codi’n aml wrth i bobl fynd i wylio I Fight Lions yn perfformio yn ddiweddar, sef y modd y gellir gwahanu Hywel Pitts y cerddor blaen, a Hywel Pitts y digrifwr cerddorol.


“Mae’n anodd gwybod lle mae’r ffin rhwng y cerddor blaen a’r comedian... does yna ddim llawer o bobl eraill yn ei wneud o. ‘Di’r Welsh Whisperer ddim yn ffryntio rhyw fand gwerin serious ar yr ochr.” Creda Dan nad oes yna lawer o wahaniaeth, mewn gwirionedd. “Dwi’n meddwl dy fod di’n debyg yn y ffordd ti’n siarad hefo’r gynulleidfa pan ti’n gwneud set comedi a pan ti’n chwarae efo’r band’. Er bod Hywel yn cytuno efo hynny, mae ganddo un pryder... “Be ‘dw i’n boeni amdano fo ydi bod pobl yn disgwyl i I Fight Lions fod yn ffyni, ‘dydan ni ddim fatha Tenacious D!” Er yn amlwg eu bod yn gerddorion angerddol, mae rhywun yn cwestiynu pam yn union y mae pedwar o fechgyn yn dal ati i’r fath raddau. Mae tri ohonynt yn gweithio llawn amser, ac mae Rhys, eu drymiwr, yn byw yn Llundain wrth iddo astudio’r offeryn yn y coleg. Mae’n ddiddorol clywed eu hymateb i rywun yn cwestiynu eu penderfyniad i geisio goresgyn y rhwystrau hyn. Dan yw’r cyntaf i ateb... “Dw i wedi bod yn chwarae gitâr ers pan ‘dwi’n ifanc. Os dwi ddim mewn band, ‘dwi am fod adref yn chwarae gitâr i backing tracks neu i ganeuon Van Halen neu rywbeth. Dwi isho’r rhyddid i greu cerddoriaeth.” Cytuna Hywel. “Mae’n bwysig bod yn greadigol. Mae rhai pobl yn garddio, ac yn cael pleser o weld y blodau ‘ma i gyd yn tyfu ac yn complimentio ei gilydd. Mae rhai pobl yn ‘sgwennu, rhai pobl yn cwcio pethau ffansi, ond miwsig ‘di ein output ni.” Mae’r ffaith bod yn rhaid iddynt gyfiawnhau eu bodolaeth i mi yn amlwg yn sbarduno trafodaeth am yr hyn y byddan nhw yn ei wneud yn y dyfodol agos hefyd. Creda Dan fod yn rhaid iddynt ryddhau cynnyrch yn amlach, ond yn cytuno â Hywel yn y ffaith nad oes yna bwynt i ryddhau jyst er mwyn rhyddhau. Yr hyn sy’n amlwg yw’r modd y mae gweithio â chynhyrchydd arall, yn hytrach na recordio eu caneuon eu hunain yn eu stiwdio nhw, yn ogystal â bod ar label Côsh wedi hwyluso eu prosesau creadigol yn sylweddol. “Mae’n rhyddhau chdi i fod yn artist’, meddai Hywel “Does gen i ddim ‘mynadd hefo’r busnes i gyd. Mae Russ yn y stiwdio, y label, a Jack Peyton hefo Syrcas [sy’n hyrwyddo’r grŵp] yn gwneud gymaint o wahaniaeth.” Wrth i ni dynnu’r cyfweliad tua’r terfyn, daw i’r amlwg bod y newidiadau hyn yn strwythur y band a’r modd y maen nhw’n mynd ati i gynhyrchu eu cerddoriaeth wedi eu rhyddhau i arbrofi ac i sicrhau bod cymeriad unigryw eu cerddoriaeth yn parhau i ddatblygu. I rywun oedd yn poeni efallai bod y newid hwn yn golygu bod I Fight Lions yn ffarwelio â’u gwreiddiau trwm, mae’n amlwg mai nid dyma yw eu bwriad o gwbl.

GIGS CYMDEITHAS YR IAITH 4-11 AWST 2018 CLWB IFOR BACH

GERAINT JARMAN GWENNO CANDELAS MEIC STEVENS BRYN FÔN LLWYBR LLAETHOG YR EIRA BREICHIAU HIR ADWAITH CADNO Â GWYDR TY OMALOMA PLANT DUW

HMS MORRIS HEATHER JONES ANI GLASS

BOB DELYN SEROL SEROL PAPUR WAL LOS BLANCOS PASTA HULL BITW FFRACAS HYLL JAMIE BEVAN WIGWAM EADYTH PYS MELYN

CYMDEITHAS.CYMRU/STEDDFOD Gigs_Steddfod_2018_Cymdeithas.indd 1

07/06/2018 14:49

Newydd i’r Haf!

£9.99 £8.99

£7.99 £7.99

Llyfrau dros Gymru www.ylolfa.com


RHWNG CÂN I GYMRU, EISTEDDFOD YR URDD A CHWBLHAU CWRS PERFFORMIO YN Y BRIFYSGOL, MAE’N SYNDOD FOD GLAIN RHYS WEDI CAEL AMSER I RYDDHAU ALBWM. OND DAETH ATGOF PRIN ALLAN YM MIS GORFFENNAF GAN ROI’R ESGUS PERFFAITH I NI GAEL SGWRS SYDYN GYDA’R GANTORES AMRYDDAWN O’R BALA.

Glain Rhys 8

Sgwrs Sydyn

Y SELAR

Mae Atgof Prin allan ers mis Gorffennaf, sut deimlad ydi rhyddhau dy albwm cyntaf? Dwi ’di bod isio rhyddhau albwm ers pan o’n i’n fach. O’n i wastad yn breuddwydio am fod yn pop star (dwi dal yn), ac yn beltio caneuon Caryl Parry Jones a Meinir Gwilym yn y car. Nes i ddim dechre sgwennu cerddoriaeth fy hun tan o’n i’n tua 14, a phan ges i’r cynnig gan Sain, do’n i methu rili deud na. Mae’r albwm ’di bod yn hir yn cwcio, a dwi’n edrych ymlaen i chi ei glywed. Lle fuost ti wrthi’n recordio? Stiwdio Sain, Llandwrog. Pwy fu’n cynhyrchu? Robin Llwyd (Bandana), a ’swn i’m yn gallu bod yn hapusach efo’r ffordd mae’r albwm ’di troi allan. Mae o ’di cadw naws gwreiddiol y caneuon, ond ’di gweddnewid nhw’n llwyr hefyd. Rhyddhau gyda Sain felly? Ie, gyda Rasal. Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael? Ar gopi caled ac yn ddigidol ar itunes, Apple Music a Spotify. A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Wel, mae ’na amryw o ganeuon,


hen a newydd. Mae ’na yn sicr naws gwerinol i rai, ond hefyd ambell gân sydd wedi eu dylanwadu gan fy hoffter o sioeau cerdd. Bydd rhaid i chi wrando! Beth yw’r broses wrth i ti recordio? Fel arfer mae gen i ganeuon cyflawn yn mynd fewn i’r stiwdio, neu syniad da o be’ dwi isio neud. Ma’ bod yn y stiwdio fel rhoi cig ar yr asgwrn, ychwanegu offerynnau, lleisiau cefndirol ayyb. Ma’i ’di bod yn neis chware o gwmpas, arbrofi a thrio pethe gwahanol. Ymddangosodd ‘Dim Man Gwyn’ a ‘Gêm o Genfigen’ ar Sesiynau Stiwdio Sain ac mae ambell drac arall cyfarwydd o dy set byw di hefyd. A gafodd y caneuon eu recordio dros gyfnod eithaf hir felly? Do, dwi ’di recordio’r albwm ers bron i flwyddyn, felly dwi ’di chwarae’r rhan fwyaf o’r caneuon yn fyw. Ma’ lot o’r caneuon yn rhai o’n stwff cynnar i sy’ ’di ca’l eu gweddnewid gan Robin! Ma’ gen i gymaint o stwff newydd dwi ’di ‘sgwennu ers gorffen recordio’r albwm, felly dwi’n gobeithio gallu dechre chware nhw mewn setiau byw rŵan bod yr albwm yma allan. ’Swn i’n licio rhyddhau mwy yn y dyfodol, wrth gwrs. O ran geiriau’r caneuon, mae cariad a pherthynas yn themâu amlwg, fysa hi’n deg dweud bod hwn yn albwm reit bersonol? Ma’ cariad a pherthynas yn rhywbeth dwi’n cael yn hawdd ysgrifennu amdanyn nhw, achos bo’ nhw mor bersonol. Dwi’n sgwennu caneuon fel ffordd o ddelio hefo fy emosiynau. Dydw i ddim am name and shameio unrhyw gyn gariadon na dim byd felly, peidiwch â phoeni! Ond disgwyliwch rai pethau di flewyn ar dafod. Dyne sy’n gneud o’n gyffrous ynde. A oedd hynny’n rhywbeth a ddigwyddodd reit naturiol neu a oedd o’n benderfyniad bwriadol i roi cysyniad cryf i’r casgliad? Dwi’n sgwennu am amryw o bethau gwahanol, nid jyst am gariad, ond digwydd bod, dyma’r math o ganeuon nath neud hi ar yr albwm tro’ma. O’n i isio’r albwm cyntaf fod yn gofiadwy ac roedd ca’l thema yn rhedeg drwyddi yn sticio’r rhan fwyaf o’r caneuon at ei gilydd.

Pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Mae fy nhast i mewn cerddoriaeth yn amrywio gymaint, does gen i ddim jyst un genre dwi’n licio. O’n i’n gwrando dipyn ar Meinir Gwilym, achos dwi wrth fy modd gyda’r geiriau ma’ hi’n sgwennu, gwrando lot ar Cowbois Rhos Botwnnog, Siân James a Plu. Oes ’na rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Ma’ ’na lot o stwff sy’ heb neud yr albwm, sy’n debyg iawn o ran naws i rai o’r uchod, ond ’swn i’m yn deud bo’ ’na ddylanwad rhy gryf gan neb yn ormodol. O’n i isio fy albwm cyntaf swnio fel ‘Glain’, nid fel fersiwn rhad o neb arall. Fe fydd eisteddfodwyr yn gyfarwydd â thi’n perfformio mewn arddulliau amrywiol a ti wedi dilyn cwrs Perfformio yn y brifysgol, oes yna unrhyw ddylanwadau neu nodweddion o’r meysydd hynny wedi treiddio i Atgof Prin? Nes i astudio Perfformio yn y brifysgol, ac roedd cerddoriaeth sioeau cerdd yn rhywbeth o’n i’n gwrando arnyn nhw’n ddyddiol. Mae ’na ddylanwad cryf caneuon sioe gerdd cyfoes ar fy ngherddoriaeth ddiweddara’ a dwi’n fwy tueddol o sgwennu caneuon ar gyfer range ucha fy chest voice yn hytrach na bod yn dawelach ac yn werinol fel o’n i’n arfer bod. Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Ma hynny fatha gofyn i fam pa un ’di hoff blentyn hi, dydi?! Ond taswn i’n gorfod deud, mae’n siŵr ‘Rwbeth’ achos ma’ hi’n un o’r caneuon mwya’ diweddar, a ges i hwyl yn sgwennu hi. Pa un fydd yr “hit”? Cwestiwn da! Ma gen i ambell un catchy, ond dwi’n meddwl mai ‘Haws ar Hen Aelwyd’, yr hynnaf ar yr albwm, fydd honno. Jyst mor cheesy â’r gân ’Dolig, hefo digon o odlau hawdd, fyddwch chi’n falch o glywed! [Touché, gol.] Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Trio neud y three part harmony yn ‘Y

Ferch yn Ninas Dinlle’ odd y sialens fwyaf, yn sicr! Dwi’n falch iawn hefo sut ma’ honno ’di troi allan. Yn sicr, un o fy ffefrynnau. Sôn ychydig am y cerddorion eraill sydd yn ymddangos ar y record gyda thi. Marged Gwenllian (Y Cledrau) ar y bas. Dwi’n lwcus bod hi mor versatile o ran arddull, ond dwi’n disgwyl dim llai gan fy nghyfnither! Carwyn Williams ar y drymiau, sydd hefyd yn chwarae gyda Patrobas, Fleur de Lys a Candelas. Elidir Glyn, sy’n chwarae gyda Robin Llwyd yn Bwncath! Amryw o berfformwyr gwahanol, ond mae o rywsut yn gweithio! A sut oedden nhw i weithio gyda nhw? Gwych. Ma’ nhw ’di addasu i fy arddull i’n hawdd iawn. Pleser mawr cydweithio gyda bob un. Ai nhw yw’r band byw hefyd? A pha mor hawdd ydi hi ail greu sŵn y record mewn gigs? Carwyn a Marged sy’n gigio hefo fi. Yn amlwg ’da ni’n colli rhai offerynnau pan ’da ni’n chwarae’n fyw, ond tydi hynny ddim yn amharu o gwbl ar y gerddoriaeth na’r perfformiad. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Casglu mwyar duon yn yr haul braf a thaflu nhw ar dy gyn gariadon. Y SELAR

9


UN O UCHAFBWYNTIAU WYTHNOS YR EISTEDDFOD I’R RHAI SY’N YMDDIDDORI MEWN CERDDORIAETH NEWYDD GYFFROUS YW CYSTADLEUAETH BRWYDR Y BANDIAU MAES B A RADIO CYMRU. CYNHALIWYD ROWNDIAU RHANBARTHOL YM MIS MAWRTH AC MAE CHWE BAND/ARTIST WEDI CYRRAEDD Y ROWND DERFYNOL YNG NGHAERDYDD. BYDD POB UN YN CYSTADLU AR LWYFAN Y MAES BRYNHAWN MERCHER, GYDA’R ENILLWYR YN AGOR GWEITHGAREDDAU MAES B AR Y NOS SADWRN OLAF. TIPYN O WOBR A THIPYN O GYFRIFOLDEB, FELLY BETH AM DDOD I ADNABOD Y CYSTADLEUWYR YN WELL.

Miskin

10

Y SELAR

Pwy? Aelodau’r band yw Hawys (bas a llais), Geth (gitâr a llais), Llyr (sax), Gruff (dryms) a Llew (gitâr). Daw Llew o’r Felinheli a’r lleill o ardal Llŷn ac Eifionydd. Os ydyn nhw’n swnio’n gyfarwydd, dyma i chi Pyroclastig ar eu newydd wedd. Ffaith ddifyr amdanoch Yn Sdeddfod yr Urdd, nath Hawys gyflwyno ni fel Pyroclastig. Ma’i di cal ban o siarad rhwng caneuon rŵan!

Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair. Roc a rôl eitha’ trwm. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Y Cledrau, Mellt a Candelas. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Y Sybs – punk, cŵl a gwahanol. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Cal laff yn tynnu llunia’ efo Kristina Banholzer. Gobeithion am y rownd derfynol? Joio chwara’ o flaen ein ffrindia’ a’n teuluoedd ar lwyfan mawr.


WIGWAM

ELIS DERBY

Pwy? Artist unigol o’r Felinheli yw Elis Derby sy’n creu cerddoriaeth gitâr a synth. Ffaith ddifyr amdanat Fy job cynta’ oedd gwneud y lleisiau i gartŵn plant ar S4C. Disgrifia dy sŵn mewn 5 gair Trio swnio ‘tha David Bowie. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Yr Ods, Y Cledrau ac Yr Eira. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Y Sybs. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Chwarae yng Nghlwb Ifor Bach am y tro cynta’. Gobeithion am y rownd derfynol? Joio fy hun!

Pwy? Band o Gaerdydd; Gareth (canu), Elis (gitâr), Rhys (gitâr), Griff (bas) a Dan (dryms). Ffaith ddifyr amdanoch Nathon ni ffurfio pedwar diwrnod cyn ein gig cyntaf achos odd angen band arall i chwara’ set mewn noson gymdeithasol 6ed yng Nghlwb Ifor Bach blwyddyn dwetha. Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Roc a rôl llawn alawon. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Mellt, Band Pres Llareggub, Y Cledrau a Candelas. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Y Sybs. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Ein set yn y rownd gyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, torrodd Elis string gitâr yn y gân olaf. Gobeithion am y rownd derfynol? Cael amser da a mwynhau, ac ennill gobeithio!

carma

Pwy? Triawd pync o Ynys Môn yw Carma; Huw (gitâr), Teifion (bas a canu) a Cian (dryms). Ffaith ddifyr amdanoch Mae Teifion yn ffan mawr o ABBA. Mi wnaethon ni chwara’ jôc un tro a chael ein cyflwyno fel ABBA tribute band o ogledd Cymru cyn mynd ar y llwyfan a chwara pync calad uffernol o sydyn! Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Band pync a roc amgen. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Mae Huw a Teifion yn hoff iawn o Ffug a dwi [Cian] i mewn i stwff newydd Candelas ar hyn o bryd. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Miskin fyswn i’n ei ddeud, o’n i’n licio’i sŵn nhw, oeddan nhw’n chwarae’n dda yn y rownd gynderfynol. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Mae cael chwara mewn llefydd newydd yn laff i ni rili, ’da ni’n gwbod bod ’na lot o gystadleuaeth a fydd hi’n anodd iawn i ni ennill ond ’da ni jysd yn ei weld o fel hwyl a rwbath neith agor drysau i ni. Gobeithion am y rownd derfynol? Symud ymlaen fel band, cyfarfod pobl gwahanol a chael ein stwff ni allan yna.

Y SELAR

11


ANORAC

Pwy? Band ifanc o Gaernarfon sydd newydd adael chweched Ysgol Syr Hugh Owen. Mae’r band yn cynnwys Malan (canu ac allweddellau), Tomos (gitâr flaen), Llŷr (gitâr fas) a Gwern (dryms). Ffaith ddifyr amdanoch Er bod yr enw’n awgrymu, ’da ni ddim yn ffans o Oasis, nac anoracs o ran hynny. Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Tiwns i ’neud chi ddawnsio. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Lot o albwms da ’di dod allan yn 2018; ’da ni’n edmygu rhai Mellt a Serol Serol. ’Da ni’n hoff iawn o Pasta Hull hefyd, gan bo’ nhw’n cynnig rhywbeth ffres. Hoff fand/artist o blith y 5 arall yn y rownd derfynol? Mae ’na gystadleuaeth gref yn ein herbyn ni. O’dd Y Sybs ac Elis Derby yn sefyll allan yn Steddfod yr Urdd fel cyfansoddwyr caneuon da, ond pwy â ŵyr pwy eith â hi. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yma? Y buzz cyn chwarae’r rownd gynta’ yng Nghlwb Canol Dre, honna o’dd ein gig gynta’ ni erioed felly o’dd o’n golygu dau beth i ni. Roedd hi’n sioc cael clywed ein bod ni yn y ffeinal. Gobeithion am y rownd derfynol? Ceisio creu set fydd yn cael ei fwynhau gan bobl y maes, a gobeithio mwynhau’r profiad a pheidio g’neud gormod o gamgymeriadau! 12

Y SELAR

Pwy? Band o Gaerdydd; Osian Llyr (llais a gitâr), Zach Headon (gitâr a synths), Herbie Powell (bas) a Dafydd Adams (dryms). Ffaith ddifyr amdanoch Mae gennym ni un gân Y SYBS heb enw iawn yn ein set so ni jyst ’di dechrau enwi hi’n rhywbeth gwahanol pob gig ni’n neud. Fel arfer rhywbeth really Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd stupid, dwi’n meddwl mai’r enw yma? Yn ogystal â chael y cyfle ar y foment yw ‘Despacito III’ ond i chwarae’r Steddfod (sy’n eitha’ neith hwna probably newid, ma’r amazing) mae ’di bod yn grêt gân hefyd yn para llai na munud. jyst cael mwy o sylw a chwarae Disgrifiwch eich sŵn mewn mwy o gigs. Mae ’di bod yn wych 5 gair Swnllyd, fuzzy, melodig, chwarae gyda gymaint o fandiau amrywio llawer. ni’n ffans ohonynt a chyfarfod Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg loads o bobl newydd. Mae’r sin ar hyn o bryd? Definitely Los Gymraeg ar y cyfan yn un rili Blancos, Cpt. Smith, Adwaith, groesawgar a chyfeillgar! Papur Wal, Mellt a HMS Morris. Ni probably wedi anghofio loads, ma’ Gobeithion am y rownd derfynol? Wrth gwrs byse ’na gymaint o fands really da o fe’n wych ennill, yn arbennig gwmpas ar y foment! chwarae’r gig ym Maes B gan fod Hoff fand/artist o blith y 5 arall y lineup yn amazing; ond dwi’n yn y rownd derfynol? Probably meddwl flwyddyn yn ôl byswn Wigwam, I mean, ni ’di chwarae ni ddim rili ’di disgwyl cyrraedd gymaint o gigs gyda nhw ers i ni mor bell â hyn so ni jyst yn mynd ddechrau, dwi’n meddwl bo’ ni’n i fwynhau e’ gymaint â ni’n gallu gwybod caneuon nhw’r un mor really... ond ie, byse ennill yn neis! dda â rhai ni erbyn hyn!


DYDDIAU AGORED

ANTUR NEWYDD O’CH BLAEN

Bydd Dyddiau Agored ar y dyddiadau canlynol yn 2018: DYDD SUL, HYDREF 14 DYDD SUL, HYDREF 28 DYDD SADWRN, TACHWEDD 10 www.bangor.ac.uk/diwrnodagored

cD newyDD ail SymuDiaD

Deg cân newyDD i DDathlu 40 mlyneDD o’r banD - 1978-2018 www.fflach.co.uk

Y SELAR

13


AMSER AM

ADWAITH

GYDAG ALBWM NEWYDD SBON AR EI FFORDD YN YR HYDREF MAE ADWAITH YN UN O FANDIAU MWYAF ADDAWOL CYMRU AR HYN O BRYD. YNG NGHANOL PRYSURDEB EU GIGS NIFERUS, A LANSIAD EU SENGL DDIWEDDARAF, BU LOIS GWENLLIAN YN SGWRSIO GYDA GWENLLIAN ANTHONY O’R BAND AM BOPETH O GYDRADDOLDEB A FFEMINISTIAETH I DAMON ALBARN.

Lluniau: Celf Calon


U

nwaith sy’n rhaid gwrando ar Adwaith i wybod bod rhywbeth gwahanol ac unigryw yma. Ers rhyddhau ‘Pwysau’, eu sengl gyntaf bruddglwyfus, mae’r triawd o Gaerfyrddin yn torri tir newydd ac yn herio’r drefn yn y sin. Herio nid yn unig o ran y gerddoriaeth ei hun, ond o ran y neges - mae’n newid mawr i’r naratif rydyn ni wedi arfer ei glywed. Newid sydd ond yn dechrau egino mewn cerddoriaeth o Gymru. Mae gan bob cân islais blin, sydd wedi cael digon ar batriarchaeth, yn enwedig ar eu sengl Saesneg, ‘FEMME’, lle mae’n canu “Oh I love being a woman, sitting back and being a second-class citizen”. Pan dwi’n gofyn i Gwenllian Anthony o’r band am hyn mae ei hateb yn gryno ac yn glir: “Ni’n herio y patriarchy ac fel ma society yn gweld menwod. Mae angen siarad am y pynciau yma.” Mae’n neges gref wedi’i lapio mewn curiadau pop rhwystredig. Gallai’r trac eistedd yn daclus braf ar albwm gan Lily Allen neu Kate Nash. Dim syndod felly ei bod wedi ennyn spins fynych ar y tonfeddi ledled Prydain, o Radio 1 i Radio Cymru. Yn sgil penawdau newyddion erchyll, hashnodau ac ymgyrchoedd ar-lein ynglŷn â chydraddoldeb, aflonyddu rhywiol a thrais, ac o ystyried y math o negeseuon yn eu caneuon, rwy’n awyddus i wybod os ydy’r dair ohonynt yn meddwl y dylai mwy o fandiau fod yn defnyddio eu statws i ddweud eu dweud. “Ni fel band yn ysgrifennu caneuon am bethau ni’n teimlo’n gryf amdano,” eglura Gwenllian. “Ma fe’n hynod o bwysig. Ma angen mwy o bandie a phobl, especially yn y sin Gymraeg, ddefnyddio eu platfform i siarad amdano pethau sy’n bwysig iddyn nhw. ‘Sdim digon o fandiau yn cymryd mantais o’r llais a phŵer sy’ da nhw.”

Adwaith yn arwain y ffordd Cafodd eu sengl ‘Pwysau” ei chynnwys ar albwm digidol aml-gyfrannog o’r enw ‘#MoreInCommon’ i godi arian i’r elusen Hope Not Hate a oedd hefyd yn cynnwys traciau gan HMS Morris, Fflur Dafydd ac ARGRPH ymhlith eraill. Os ddarllenwch chi adolygiadau o senglau Adwaith, mae’r disgrifiadau o’r genre maen nhw’n ffitio iddo’n amrywio’n fawr. Credaf fod hyn yn destament i’w naws unigryw nhw. Mae’r cylchgrawn diwylliannol Y Stamp wedi’u disgrifio fel ‘gwerin a phop yn ymblethu’n naturiol’, tra bod Decidedly yn eu disgrifio fel “ôl pync ddinesig Ewropeaidd” a Grrls With Guitars wedi disgrifio un sengl fel “more-ish pretty pop song”. Ond un peth maen nhw i gyd yn gytûn arno yw bod y band yn arwain y ffordd i gerddoriaeth Gymraeg ac mai nhw yw’r dyfodol. A beth am y dyfodol? Wel, mae albwm ar y gweill ganddyn nhw fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref, ac wrth gwrs mae llawer o gynnwrf yn yr aer ynglŷn â hwn. Bydd yn cael ei ryddhau ar label Libertino (Los Blancos, ARGRPH, Alex Dingley). “Mae proses ysgrifennu’r albwm wedi bod yn mynd

ers dechrau’r band. Ni’n defnyddio caneuon hen a newydd achos mae’r albwm yn adlewyrchu tyfiant ni fel pobl a musicians.” meddai Gwenllian wrth i mi ei holi am fywyd yr albwm a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. “Mae bandiau fel The Slits, Datblygu, Goat Girl wedi ysbrydoli ni loads. Ond ni’n cymryd lot o ysbrydoliaeth o pobl rownd ni, a day-to-day life experience. Gall unrhyw beth random ysbrydoli ni i ysgrifennu cân.” Felly, holais, beth allwn ni ei ddisgwyl ar yr albwm? “Lot o sŵn, falle dim be chi’n disgwyl. Tiwns hen ni di rhoi revamp i. Tiwns newydd hefyd.” Ateb amwys i gadw’n clustiau ni’n cosi am fwy.

Ehangu Gorwelion Er gwaethaf cwynion diweddar am orsafoedd radio yn dieithrio gwrandawyr trwy chwarae cerddoriaeth “weird”, mae ‘na awydd mawr ymysg rhai gwrandawyr am seiniau newydd ac arbrofol. Yn galonogol iawn, mae yna sefydliadau sydd eisiau annog yr artistiaid hyn hefyd. Rwy’n sôn am gynllun Gorwelion | Horizons, sef partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru sy’n cynnig nawdd a grantiau i fandiau ac artistiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth. Rŵan, dydw i ddim yn honni am eiliad fod cerddoriaeth Adwaith nac artistiaid eraill Gorwelion yn “weird”, ond mae’n wahanol i’r rhelyw o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar y radio o ddydd i ddydd. Y SELAR

15


Gyda barn unigolion sy’n mynegi pryderon fel hyn yn gwneud penawdau gwasanaethau newyddion Cymraeg, pa mor bwysig yw cynlluniau fel Gorwelion? “Mae Gorwelion wedi neud lot i ni ac artistied eraill yng Nghymru” meddai Gwenllian. “Ma nhw ‘di helpu ‘da gigs, arian a chefnogaeth yn general. Ni ‘di bod yn chware ‘da’n gilydd am dair blynedd, heb amps, ond diolch i Gorwelion ni nawr ‘da 2 amp newydd sbon - diolch am stopo ni bod yn scavs a defnyddio amps pobl eraill - ac arian am PR i album ni sy’n dod mas yn Hydref! Diolch Horizons!”

Does dim modd tanbrisio cynlluniau fel hyn sydd wedi cyfoethogi’r sin, heb os. Mae Adwaith yn creu digon o gyffro ar hyn o bryd, ond pa fandiau ac artistiaid o Gymru sy’n cyffroi Adwaith holaf? Mae Gwenllian yn ateb gyda sylw bach slei am label y band... “Mae Los Blancos, Cpt Smith, Chroma, ARGRPH yn amazing. Mae’r music a’r artistiaid sy’n dod mas ar labeli fel Libertino yn anhygoel. Mae’r sin mor gyffrous.” Wrth i’n sgwrs ddirwyn i ben, alla i ddim llai ‘na meddwl y bydd llawer o bobl yn dyheu i gael cyfle i weithio gydag Adwaith. Maen

nhw’n ifanc, yn ffres, yn gadarn eu barn ac yn hyderus yn eu delwedd. Pam na fuasai pobl eisiau gweithio efo nhw? Mae Patricia Morgan o Datblygu eisoes wedi rhoi help llaw i’r merched gyda’u sengl ‘Pwysau’. Dw i’n credu, ymhen cwpl o flynyddoedd, gallai Adwaith fod â dewis ar eu llaw. Ond pwy fyddai’r freuddwyd ‘sgwn i? Pe baen nhw eu hunain yn cael dewis un person i weithio gydag o, pwy fyddai’r un? “Damon Albarn achos mae fe yn reinvento hunan tro ar ôl tro, sy’n beth caled iawn. Ni’n parchu hwnna lot. Bydde gweithio gyda Gruff Rhys yn amazing hefyd.”

HELEDD

GWENLLIAN

“Gall unrhyw beth random ysbrydoli ni i ysgrifennu cân.”


Deg peth na wyddoch chi am Gwenllian Anthony?

Ond yn y cyfamser, mae Adwaith yn gwneud pethau arbennig ar eu liwt ei hunain. Rhyddhawyd eu sengl newydd, ‘Gartref’, ganol mis Gorffennaf, sy’n dangos ochr ychydig yn feddalach iddyn nhw. Credwch fi, mae’n berffaith ar gyfer ymlacio yn yr ardd neu’r tŷ yn ystod nosweithiau hir yr haf! Bydd Gwenllian, Hollie a Heledd i’w gweld mewn amryw leoliadau dros yr haf gan gynnwys MaesB, Caffi Maes B a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel – gwnewch yn siŵr eich bod yn eu dal nhw.

Beth yw’r peth mwyaf embarassing i ddigwydd i ti? Dwi fel arfer yn embarraso fy hun pob dydd, ond nes i ddim recogniso y dyn sy’n mastro tracks ni i gyd, ond nath e recogniso fi. Awful.

HOLLIE

Beth sy’n dy gythruddo di fwyaf? Pobl sy’n siarad Cymraeg a sy’n meddwl mai neud hwyl neu neud pwynt am bobol sy’n ddiGymraeg/dysgu Cymraeg yw’r ffordd i gael yr iaith i dyfu. Oes gen ti arferion drwg? ‘Smygu. Pwy yw dy arwr? Dad Heledd. Wastad yn neud bwyd i ni pan ni’n practiso. Beth yw dy hoff gân ‘cheesy’? Abba - Gimmie Gimmie Gimme. Tiwn! Wyt ti’n dderyn nos neu’n codi’n fore? Codi’n fore. Methu cadw ar ddihun yn y nos. Wyt ti’n gwrando ar bodlediadau, os wyt pa un? Desert Island Discs a Podcast Minty’s Gig Guide. Beth ydy dy hoff beth i’w gael ar frechdan? Cheese and Onion Tasa ti’n cael £1000 gen i rŵan, be fyse ti’n ei brynu? Van, achos ma’r c1 ddim yn ideal. Lle yw dy hoff le yng Nghymru? Broad Haven South, Barafundle, Rhossili. Ni’n lico’r traeth. Y SELAR

17


Alys

YN Y CYMAL DIWEDDARAF O’N TAITH O AMGYLCH LABELI RECORDIO CYMRU RYDYM YN YMWELD AG UN O’R RHAI MWYAF SEFYDLEDIG. SAITH MLYNEDD SYDD YNA ERS EI SEFYDLU OND MAE CYFRANIAD Y LABEL HON YN Y CYFNOD HWNNW WEDI BOD YN AMHRISIADWY. BRANWEN HAF A FU’N SGWRSIO GYDAG Y SELAR. ENW: I Ka Ching DYDDIAD SEFYDLU: 2011 SEFYDLWYR/PERCHNOGION:

Gwion Schiavone, Gruff Ifan a Branwen Haf LLEOLIAD: ar hyn o bryd... Awstralia, Caerfyrddin a Llanuwchllyn ARTISTIAID: Candelas, Carcharorion, Y Cledrau, Cpt. Smith, Yr Eira, Ffracas, Griff Lynch, Huw M, Serol Serol, Siddi, Texas Radio Band HANES: Sefydlwyd y label gan Gruff, drymiwr Texas Radio Band, a Gwion, gitarydd Jen Jeniro, gyda’r bwriad gwreiddiol o ryddhau deunydd

CO LO F N

eu bandiau eu hunain. Tyfodd y cwmni’n raddol wedi hynny a daeth Branwen [Siddi, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog] yn rhan o’r tîm ar ôl cydweithio gyda Gwion i drefnu Gŵyl Gwydir. Bellach mae I Ka Ching yn un o’r labeli mwyaf y sin Gymraeg ac yn gartref i rai o’n bandiau amlycaf. UCHAFBWYNTIAU: Aeth I Ka Ching o nerth i nerth yn y blynyddoedd cynnar a daeth cyfle i ddathlu’r llwyddiannau lu wrth nodi carreg filltir arbennig ddwy flynedd yn ôl. “Un uchafbwynt oedd dathlu pen-blwydd y label yn bump oed

ANI GLASS

Bues i’n pendroni yn ddiweddar am be’ sy’n fy ysbrydoli, yn enwedig yn ystod cyfnodau diawen pan nad oes yr un syniad dechau yn dod i’r meddwl. Yn amlwg mae celf a cherddoriaeth yn fy ysbrydoli; mynd i weld arddangosfa mewn galeri, gwrando ar fy hoff albwm neu ar rywbeth gwbl newydd. Ond rhywbeth sy’ wir yn hwb, dwi’n credu yn fwy na dim, yw gweld eraill yn mentro ac yn mynd amdani. Y rheini sy’n gweithio’n galed ac yn hawlio eu lle, dyna’r bobl dwi’n hoffi ymwneud â nhw. Yn anaml iawn y bydd cyfle yn dod i rywun ar blât heb iddynt wneud unrhyw ymdrech, mae felly gofyn i ni greu ein cyfleoedd ein hunain, pen lawr a gweithio. Wedi cyfnod cymharol niwlog, mae’n dod yn bur amlwg fod yna rhywbeth yn byrlymu yn nyfroedd celfyddyd Cymru ac mae’r don o gerddoriaeth Gymraeg yn prysur ddod at y lan. 18

Y SELAR

yn 2016 trwy gynnal gig mawr yn Pontio, Bangor,” meddai Branwen. “Fe wnaethon ni hefyd ryddhau feinyl ddwbl gyda chân newydd neu ailgymysgiad gan bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r label ers y dechrau.” Mae I Ka Ching – 5 yn parhau i fod yn un o gasgliadau amlgyfrannog gorau’r blynyddoedd diweddar ac yn gofnod taclus o gyfnod cyffrous iawn i’r label a cherddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol. AR Y GWEILL: Ymlaen yr aeth y label wedi’i phenblwydd gan barhau i ryddhau deunydd yn gymharol gyson

Dwi wedi bod yn rhan o sawl sgwrs yn ddiweddar yn trafod yr iaith, ei dyfodol, be’ allwn ni ei wneud i’w hachub ayyb. Sgyrsiau sydd, ar y cyfan, yn drymaidd dros ben ond yn bwysig iawn ac yn gyfarwydd i ni gyd. Nid yw’n syniad newydd nac yn arloesol, ond mi ydwyf o’r farn mai’r celfyddydau fydd ein hachubiaeth. Wrth greu a chyflwyno ein celf trwy gyfrwng y Gymraeg fe allwn gyfrannu at gyfoeth ein diwylliant, ac, yn fy marn i, dyna’r ymgyrch fydd yn llwyddo a’r un y byddaf i yn rhan ohoni. Felly yn ystod yr Eisteddfod eleni, ewch i weld yr holl fandiau, ewch i’r arddangosfeydd, mwynhewch, neu peidiwch! Ond er mwyn dyn, dewch yn ôl flwyddyn nesaf a gwnewch yn well, gwnewch yn wahanol, cyfrannwch at y sgwrs neu dechreuwch un newydd, gwnewch unrhyw beth, ond beth bynnag y bo, sicrhewch ei fod yn fawr ac yn swnllyd!


CO LO F N

Siddi

Yr Eira

ers hynny, ac mae mwy i ddod, fel yr eglura Branwen. “Mae ’na stwff newydd cyffrous gan Cpt. Smith, Yr Eira a Siddi ar y gweill. Hefyd, rydym yn dechrau gweithio gydag artist newydd o’r enw Blind Wilkie McEnroe. Cewch glywed rhagor yn fuan!” GWELEDIGAETH: Gall bywyd cerddor ymddangos yn glamorous iawn ar adegau ond y gwir amdani yw bod llawer o waith diflas yn digwydd y tu ôl i’r lleni ac mae I Ka Ching yn falch iawn o allu chwarae eu rhan yn isadeiledd hollbwysig y sin. “Ein gweledigaeth o’r dechrau oedd dal yn dynn yn y llyw wrth i’n artistiaid ryddhau cynnyrch,” eglura Branwen. “Mae’r ochr weinyddol yn gallu bod yn flinedig, ond dyna pam ein bod ni yma! Rydyn ni’n trio bod yn rhyw fath o sbardun; yn annog y bandiau i beidio gorffwys ar eu rhwyfau!” BETH YW’R PETH GORAU AM REDEG LABEL?: “Ti fel secret agent! Ti’n rhan

fawr o gael cynnyrch bandiau allan, ond does neb yn dy weld di. Mae’r teimlad o fod yn rhan o’r broses yna yn grêt, a chael gweld y wên ar wyneb band wrth iddyn nhw ddal eu CD am y tro cynta!” @IKACHINGrecords facebook.com/ikaching Ikaching.co.uk Candelas

STEFFAN DAFYDD

Bydd wythnos gyntaf Awst yn nodi 10 mlynedd ers fy Maes B cyntaf. Wythnos llawn yfed gormod, trio ffeindio weed (a dod i ben yn teimlo fel un o’r Inbetweeners), dadlau gyda gweithwyr Y Gorlan (diolch am eich amynedd, mi o’n i dal yn gywir though), aros mewn pebyll odd ar eu ffordd mas ac actio fel fy mod i’n rhy cool i 3/4 y bands. Yn y bôn, actio fel bellend 16 mlwydd oed. Tu hwnt i deimlo’n anghyfforddus uffernol, dwi’n gallu edrych nôl ar yr wythnos yna fel coming-of-age. Mi oeddwn i a ffurf gynnar o Breichiau Hir, Just Like Frank, wedi chwarae 4 gig yn ystod yr wythnos; Brwydr Y Bandiau Cymdeithas Yr Iaith, Brwydr Y Bandiau Maes B, Llwyfan y Maes (yr unig dro dwi erioed wedi gadael i fy rhieni ddod i weld fy mand) ac yn rhyfeddol, gig yn Barfly gyda Pulled Apart By Horses. Hon oedd ein Heisteddfod brysuraf. Gyda’r gigio cyson, fe natho ni gyfarfod lot o bobl a bandiau ifanc brwdfrydig eraill, gan greu rhwydwaith gref a sin brysur ymysg yr artistiaid o’r de-ddwyrain. Dyma pryd natho ni fel bandiau ddod at ein gilydd yn iawn am y tro cyntaf, bandiau a oedd heb hyd yn oed ffurfio 12 mis cyn Eisteddfod Caerdydd; Just Like Frank (Breichiau Hir), Nos Sadwrn Bach, Steffan Huw (Castorp) - a gafodd ei restru gan Y Selar flynyddoedd yn ddiweddarach fel un o “fflops” yr eitem Dau i’w Dilyn ond oeddech chi actually ddim yn anghywir; Byd Dydd Sul (underrated y diawl) a Zimmermans (Twinfield, Recordiau Neb) ymysg eraill. Gyda’r rhwydwaith yna, natho ni ddechre trefnu gigs ein hun i gynulleidfa ifanc awyddus, rhywbeth oedd yn brin iawn ar y pryd gan fod neb moyn rhoi gigs ymlaen i bobl dan 18 na gyda bandiau di-Saesneg gan bod “dim galw amdanyn nhw”. Rhoddodd trefnu gigs ein hun hyder amhrisiadwy i ni gyd i greu a threfnu mwy, a dysgom i barhau ar ein termau ein hun. Wrth edrych ymlaen at Eisteddfod 2018, dwi’n gweld yn barod bod bandiau ifanc wedi blaguro yn yr ysgolion y de-ddwyrain, gyda Wigwam, Y Sybs a Mabli Tudur yn dilyn camau Hyll, Cadno a Chroma, drwy ddechre ym Mrwydr Y Bandiau cyn ffeindio’u sŵn, agwedd neu bwrpas a rhyngweithio â bandiau eraill. Rhwng Eisteddfod Caerdydd 2008 a’r genhedlaeth yma, bu bwlch tawel yn yr ardal. Dwi’n gobeithio neith y gwaed newydd gwrdd ag artistiaid a gwrandawyr tebyg a neud pethe twp yn ystod yr wythnos, fel yfed gormod, trio ffeindio weed, dadle, aros mewn pebyll crap, ac actio’n rhy cool i 3/4 y bands. Dwi wir yn gweld yr Eisteddfod eleni’n cynnau tân ym mola pobl ifanc o amgylch y ddinas ac yn sbarduno hyder i greu mwy o fandiau a hyrwyddwyr, i drefnu mwy o gigs, rhyddhau mwy o ddeunydd ac i gadw’r ddinas yn brysur am y 10 mlynedd nesaf.

Y SELAR

19


adolygiadau Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? Candelas Roedd addewid y byddai sŵn trymach i albwm newydd Candelas a dydy hi ddim yn siomi wrth fentro cynnwys sŵn â mwy o elfennau grunge a metal na chynnyrch arferol y band, ond sydd yn bendant yn pync-roc. Mae elfennau tipyn mwy popi i ‘Ma’ Hi yn Fwy Roc a Rôl Na Chi i Gyd’ a ‘Ddoe Heddiw a `Fory’, felly mae’r pop yn dal i fod yno. Ond wrth i’r rhythmau newid a’r tempo gyflymu ac arafu; a gydag ychwanegiad gitâr trwm epig mae elfennau’r genres amrywiol yn llifo i’w gilydd yn rhwydd drwy’r caneuon, fel drwy’r albwm. Yr eithriad mwyaf yw ‘Dant Aur’ tua hanner ffordd drwy’r albwm, cân dipyn mwy noeth o’i chymharu â gweddill y casgliad ac mae’r elfen slowcore yn hoe fach fer sy’n ffitio’r albwm yn daclus. Drwyddi, mae geiriau dwys a thrwm yn ategu’r sŵn, ac yn bwrw rhywun gyda llinellau fel “ychydig eiriau i’w dal mewn delfryd” yn ‘Dyma Gân Serch Arall i Gasgliad Trist y Byd’, sydd i bob pwrpas yn wrth-gân serch. A “Hir yw amser hiraeth... er colli awen, colli chwaeth” yn un o ambell awgrym am dawelwch diweddar Candelas. Ond beth bynnag yw’r rheswm, maen nhw’n ôl yn llawn egni ac yn mynnu gwrandawiad o’r dechrau i’r diwedd. Bethan Williams Cariad Cwantwm Geraint Jarman Ddwy flynedd yn ôl derbyniodd Geraint Jarman wobr cyfraniad oes gan Y Selar, ac fe berfformiodd set oedd ddim ond yn cynnwys caneuon â’u rhyddhawyd yn y 5 mlynedd diwethaf. Sawl artist arall o’r 80au fyddai’n medru gwneud hynny? Ac o wrando ar yr albwm newydd, dyw ynni creadigol yr artist o Gaerdydd ddim yn dangos unrhyw arwyddion o bylu - os rhywbeth, mae’n mynd o nerth i nerth. Wedi caneuon mwy acwstig, lleddf

Tawel Yw’r Tymor, mae Geraint wedi dychwelyd at ei wreiddiau reggae ar Cariad Cwantwm, a dyw’r canlyniadau ddim yn siomi. Mae ‘O Fywyd Prin’ yn ffefryn yn barod diolch i’r gytgan fachog, tra bo’r gân a ryddhawyd gyda hi fel sengl ddwbl, ‘Addewidion’ ychydig yn fwy lleddf, gyda’r gitâr yn atgoffa rhywun ychydig o ‘Paradwys Ffŵl’ oddi ar ei albwm enwocaf, Hen Wlad fy Nhadau. Rhai o’r uchafbwyntiau eraill yw ‘Byrgyr Mabinogi’ (dim jyst oherwydd yr enw) a ‘Colli dy Riddim’, efallai’r gân orau ar y record. Fel arfer, cefnir Geraint gan ei fand talentog ac mae’r lleisiau ychwanegol yn cryfhau’r caneuon yn enwedig yn y cytganau. Yr unig gŵyn gennyf yw nad oes llawer o amrywiaeth o ran arddulliau gwahanol o gân i gân, fel sydd ar lawer o’i albwms blaenorol. Fodd bynnag, mae Cariad Cwantwm yn albwm gwych, a dyw Geraint Jarman ddim yn dangos unrhyw arwyddion o arafu’n fuan. Rhys Dafis Dechrau ’Nghân Siddi Cawn flas o lais hudolus Branwen Williams yma ac acw ac yn y cefndir gyda Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams. Ond mae o’n llais sydd yn haeddu canol y llwyfan fel petai, a dyna’n union mae o’n ei gael ar Dechrau ’Nghân, ail albwm Siddi, y brawd a chwaer o Lanuwchllyn. Mae ‘Wyt Ti’n Ei Chofio Hi?’ a’r emyn ‘Rho Im Yr Hedd’ yn arddangos y llais tyner ar ei orau ac felly hefyd ‘Pwy Roith Fennig’, ble mae’n ffurfio traean harmoni hyfryd gyda’r gwestai, Lisa Jên ac Elan Rhys. Ychwanega llais Osian, y brawd bach, haenau lle bo’r angen, yn fwyaf effeithiol ar ‘Dim Ond Heddiw Tan Yfory’. Yn gefndir i’r cyfan mae’r ddau wedi llwyddo i ddefnyddio clytwaith o offerynnau i greu cerddoriaeth atmosfferig sydd yn ffurfio sylfaen gadarn heb darfu ar y prif offeryn, y llais. Mae ambell drac yn hen gyfarwydd ac wedi eu recordio ar gyfer dibenion gwahanol yn wreiddiol, a tydi o ddim yn teimlo fel cymaint o gasgliad â’r

albwm cyntaf, Un Tro, ond efallai ei bod hi’n anheg cymharu gan mai albwm cysyniadol a oedd hwnnw. Mae’r caneuon yn unigol yn sicr yn sefyll ar eu traed eu hunain a chystal os nad gwell na’r rhai ar y record gyntaf. Gwilym Dwyfor Atgof Prin Glain Rhys Atgof Prin ydy albwm cyntaf Glain Rhys, ond nid yw’n enw newydd i dudalennau’r Selar. Wedi cyfnod fel artist acwstig unigol mae’n braf gweld ei datblygiad gyda band sy’n rhoi sŵn llawnach i’r caneuon a chyfle i Glain wthio ei llais pwerus mewn record sy’n amlwg yn agos at ei chalon. Mae’r sŵn wedi datblygu i fod mwy pop ond nid yw’r olion gwerin wedi diflannu’n llwyr - o’r cord cyntaf dwi eisiau dawnsio’n hamddenol i’r rhythmau gwerin mewn awyrgylch fel Sesiwn Fawr. Mae rhywbeth cynnes yn perthyn i’r albwm yma, o’r alawon i’r themâu. Ceir cymysgedd o gyffyrddiadau gwerin fel y dehongliad o’r hen gân, ‘Marwnad yr Ehedydd’, a chaneuon gonest megis ‘Rwbeth’, sy’n lliwio’r albwm fel cyfanwaith da o brofiadau merch ifanc. Gallai ‘Y Ferch yn Ninas Dinlle’ sefyll ar ei thraed ei hun, cân llawn emosiwn sy’n cydio ynddoch – i mi hon sy’n sefyll allan. Dyma albwm sy’n rhedeg yn hyfryd ar ei hyd ac edrychaf ymlaen at glywed Glain Rhys yn fyw’r haf yma. Aur Bleddyn


Sugno Gola Gwilym Rhain ’di cal blwyddyn reit dda do ddim? Cyrraedd rownd derfynnol Brwydr y Bandiau, ennill gwobr Band Newydd Gorau Gwobrau’r Selar, rhyddhau pedair sengl lwyddiannus ac i goroni popeth, dyma roi eisin ar y gacen gydag albwm cyntaf hynod addawol. Maen nhw’n barod wedi

creu argraff enfawr ar eu gwrandawyr ac mae’r casgliad yma’n clymu popeth at ei gilydd gan adlewyrchu gallu’r band i gyfansoddi caneuon bachog sy’n aros yn y cof. Dyma gyfanwaith sydd hefyd yn fframio naws y pedwarawd, a bydd ffans yn falch o wybod fod yr albwm yn ei gyfanrwydd wedi dal yr un sŵn â’r senglau, wrth i’r berthynas

Y Man Hudol Ail Symudiad Albwm dathlu 40 mlynedd o gerddoriaeth ydi Y Man Hudol gan Ail Symudiad, a’u halbwm cyntaf ers Rifiera Gymreig. Mae hi’n agor hefo ychydig o blast form the past a chân o 1979 sef ‘Yn y Nos’ sydd yn gwneud yn union fel mae’n addo ac yn eich taflu nôl i’r hen ddyddiau ac yn teimlo fel hen diwns y band. Wedi hynny mae i’r albwm deimlad llawer fwy modern yn ei chynhyrchiad ond mae’r caneueon dal yn nodweddiadol o dafodieithol ac yn driw i’w hardal. Mae ’na dafod yn y boch arferol hefo caneuon fel ‘Gwylan y Sgadan’ sydd yn berthnasol iawn i hogan o G’narfon fel fi, a chlasur o faled fel ‘Rhywun Arall Heno’ i roi albwm cyflawn iawn ac addas i ddathlu eu 40 mlynedd. Mae’r hen steil o gerddoriaeth gyflym a melodi syml ond effeithiol yn treiddio trwy’r albwm drwyddi

rhwng y band a Rich Roberts y cynhyrchydd lwyddo i greu casgliad unedig dros ben. Does dim dwywaith fod y naws hafaidd sy’n perthyn i gynnyrch Gwilym yn gyffredinol yn llifo trwy Sugno Gola, gyda phob cân yn tynnu sylw gyda’u hwcs heulog. Ceir atodiad cyffrous i’r lineup yn ‘Ddoe’ wrth i lais swynol Mared Williams ychwanegu

draw, a’r driniaeth ska ar ‘Stori Wir’ yn ddigon o hwyl. Does ’na ddim byd mawr i ’sgwennu adra amdano yma, ond mae hi’n hollol hawdd gwrando ar y casgliad cyfan, ac os dwi’n hollol onest, y trac cyntaf (ia… yr hen drac) ydi fy ffefryn personol. Dwi’n siŵr y bydd siwpyrffans Ail Symudiad wrth eu boddau! Elain Llwyd Be Sy’n Wir I Fight Lions Mae “Be Sy’n Wir?” yn gwestiwn ’da ni i gyd yn ei holi’n rhy aml o lawer y dyddiau hyn ac yn amlwg mae o ar feddyliau I Fight Lions. Mae’r albwm yma yn wir fodd bynnag ac o’r gân gyntaf, ‘Diwedd y Byd’, mae bwriad y band yn amlwg. Dyw’r sin yng Nghymru erioed wedi bod yn brin o fandiau gitâr generic gyda geiriau annelwig a diflas. Dyw I Fight Lions ddim yn un o’r rhain. Mae ganddyn nhw riffs digon

haen arall i’r RHAID casgliad, prawf GWRANDO o allu Gwilym i arbrofi a datblygu eu cerddoriaeth yn naturiol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn grêt i’r band a dwi’n sicr y bydd Gwilym yn un o fandiau mwyaf blaengar ein cenedl mewn dim o dro. Ifan Prys

bachog i wneud i Candelas edrych fel band ysgol Sul ac mae ’na awch yn nhempo’r ddwy gân gyntaf sy’n ei gwneud hi’n amhosibl peidio cael eich tynnu i mewn. Dyw hynny ddim yn golygu bod pob trac yn wyllt. Wrth i’r record ddatblygu mae caneuon fel ‘3300’ a ‘Llwch ar yr Aelwyd’ yn gadael i’r alawon gario’r gân ac mae’n amhosib rhoi’r albwm mewn bocs, gydag adleisiau o fandiau roc y 70au i gypsy punk i fandiau gitâr y 00au. Ond y peth gorau am yr albwm i mi yw geiriau deallus y canwr Hywel Pitts sy’n llwyddo i fod yn ffraeth a difrifol am yn ail heb swnio’n hurt: “Di newyn ’rioed ’di newid ond ma’ tewdra’n lladd fwy fyth Felly cyfra’r calorïau a cadwa’r sôs coch off y chips” Does dim byd chwyldroadol am y record hon, ond os ’da chi’n chwilio am albwm roc soled sy’n slic, proffesiynol a medrus, allwch chi ddim dewis gwell. Ciron Gruffydd


Glas Mei Gwynedd Ydi wir, mae’r rocar o Waunfawr yn ôl gyda’i albwm unigol cyntaf. Yn adnabyddus fel aelod o Big Leaves a Sibrydion, mae angerdd Mei Gwynedd at gerddoriaeth yn amlwg erioed, a dyma gasgliad sydd yn adlewyrchu hynny. Un gair – clincars. O’r gwrandawiad cyntaf, mae Glas heb os yn ein hatgoffa fod gallu’r cerddor i ysgrifennu melodïau bachog, cofiadwy yn parhau. Ond y tro hyn, ceir ymdeimlad ei fod wedi troi’n ôl at wreiddiau’r hyn y mae’n ei garu fwyaf mewn cerddoriaeth, ac o ganlyniad, mae arddulliau canu gwlad a blues yn llifo trwy’r cyfanwaith. Dyma albwm sydd felly’n meddu ar naws reit bersonol. Yn ogystal â hynny, y mae’n berchen ar eiriau y gall pawb uniaethu â hwy, wrth i Mei ymdrin â themâu megis hiraeth a chariad. Yn wir, mae’n debyg mai fersiwn Mei o ‘Cwm Ieuenctid’ gan y diweddar Alun Sbardun Huws a ysbrydolodd y cyfansoddwr i fynd yn ei flaen gyda’r casgliad, ac mae’r naws gartrefol sy’n perthyn i’r trac hwnnw’n llifo trwy’r cyfan. Dyma ymdriniaeth gerddorol â sawl emosiwn a sefyllfa sy’n berthnasol i fywydau pob un ohonom – ac o ganlyniad, y mae tinc eithaf sentimental i’r albwm. Dwi wir felly’n gobeithio bod sawl albwm i ddod ac y bydd Mei’n parhau i gyfansoddi fel artist unigol. Ac y bydd Big Leaves yn ail-ffurfio un diwrnod am un gig enfawr. Winc Winc. Mwynhewch! Ifan Prys

Yr Un Hen Gi Lowri Evans Dwi’n euog am ddewis cerddoriaeth ar sail y gwaith celf ac efallai taw naws ffrydio caneuon sydd i’w feio am hynny - fyddai EP newydd Lowri Evans ddim wedi cyrraedd fy nghlustiau pe byddwn wedi gweld y gwaith celf gyntaf. Mae’r 5 cân yn y casgliad yn wahanol i’w gilydd ac yn mynd ar drywydd jasaidd yn wahanol i’w cherddoriaeth flaenorol. Egyr y gân gyntaf, ‘Yr Un Hen Gi’, gyda bas cadarn iawn ond teimlaf nad yw’n mynd i nunlle, yn fwy na mae’r geiriau. Teimlir fel ei bod yn ceisio gwneud safbwynt gwleidyddol ond yn llwyddo i ddeud dim ’run pryd. Ceisiai fod yn arbrofol gyda’r offeryniaeth yn ‘Dwi ’di Blino’ nes ei fod yn swnio fel cerddorfa ysgol gynradd yn Eisteddfod yr Urdd wedi

ei ddilyn gan alaw werin ddiflas yn y trydydd trac, ‘Ble’r Wyt Ti’n Myned’. Roedd ‘Yr Un Hen Gi’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru’n ddiweddar ac mae’n ticio bocsys Radio Cymru’n iawn, ond nid fy nant cerddorol i. Aur Bleddyn Llinyn Arian Delyth & Angharad Dwi wedi ei ddweud o o’r blaen ac fe ddyweda i o eto; dwi’n meddwl fod angen cyhoeddiad arbenigol i wneud cyfiawnder â’r cyfoeth o gerddoriaeth gwerin sydd yn cael ei ryddhau yng Nghymru. Ond hei, ga’i go arni. Sgwrs arall dwi wedi bod yn rhan ohoni ydi a ddylai cylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg adolygu cerddoriaeth offerynnol, achos dyma a geir yma ag eithrio’r trac olaf, ‘Cwsg’.

Ond y gwir amdani yw bod Llinyn Arian yn hynod Gymreig ei naws, yn fwy o lawer felly na pheth o ddeunydd rhywun fel Y Niwl neu Plyci. Dwi’n meddwl mai sŵn unigryw y delyn Geltaidd sydd i’w ddiolch am hynny. Wedi dweud hynny, teimlad digon Seisnig sy’n perthyn i un o fy hoff draciau ar yr albwm, gyda sŵn sinistr y soddgrwth ar ‘Silas Marner’ yn ysgogi atgofion chwerw felys o ddarllen nofel enwog George Elliot yn yr ysgol flynyddoedd yn ôl. Mae ‘Chwant’ yn ffefryn arall ac efallai mai hon, gyda’i offerynnau taro a thempo cyflymach, yw’r gân fwyaf hygyrch i nofydd gwerin fel fi. Bu rhaid i mi stopio gwrando ar y casgliad yn y car gan ei fod yn gwneud i mi fod isho cysgu! Ond dwi’n dweud hynny yn y ffordd garedicaf posib achos mae rhywbeth ymlaciol iawn am wrando ar y fam a merch yn cyfuno ar y delyn a’r ffidl. Gwilym Dwyfor


YN CEFNOGI

CERDDORIAETH CYMRU SUPPORTING

WELSH MUSIC

EÄDYTH Ar hyd a lled Cymru Twitter @horizonscymru

bbc.co.uk/horizons

Across Wales Facebook.com/horizonscymru


24

Y SELAR


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.