Y Selar - Rhagfyr 2018

Page 1

Rhif 55 // RHAGFYR // 2018


Yr anrheg orau erioed Lleoedd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ym mis Medi 2019: Addysg Astudiaethau Celtaidd Blynyddoedd Cynnar Busnes Celf Crefydd Chwaraeon Gwaith Ieuenctid a Chymuned Perfformio a mwy! Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant @AstudioYDDS y_Drindod_Dewi_Sant

www.ydds.ac.uk


y Selar Rhif 55 // Rhagfyr // 2018

cynnwys

Golygyddol Fe ddywedodd Meic Stevens yn ddiweddar nad oes “sin roc Gymraeg” bellach, ac er iddo gael ei lambastio gan lawer am ei sylwadau, a oes ganddo bwynt? Wel, mae’n dibynnu’n llwyr beth yw ei ddiffiniad o, a phawb arall, o “sin roc” am wn i. Yn draddodiadol bu i’r gair “roc” ddiffiniad llawer ehangach yn y Gymraeg am ryw reswm ac efallai bod peth amwysedd yn perthyn i’r gair “sin” hefyd. Does dim ond rhaid i chi droi at y cyfweliadau a’r adolygiadau yn y rhifyn hwn am brawf fod cerddoriaeth Gymraeg o safon uchel yn cael ei greu. Fe welwch mewn darn arall bod pobl o Gymru a thu hwnt yn ei ffrydio yn eu cannoedd o filoedd. Ond hefyd rhwng y cloriau, fe welwch golofn wadd ddifyr yn trafod cyflwr y sin fyw. Os mai “sin” Meic yw gigs cyson a gwerthu feinyls efallai nad yw pethau’n fêl i gyd ond does dim dwywaith fod y sin yn ei ehangder yn ffynnu wrth iddi addasu ac esblygu.

Al Lewis

4

Lleuwen

8

Darllen y Label

10

Mr

12

Ffrydi Nora

16 20

Adolygiadau

Llun clawr: Celf Calon

GWILYM DWYFOR

4

8

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Lois Gwenllian, Bethan Williams, Rhys Dafis, Ifan Prys, Aur Bleddyn

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


4

Y SELAR


ROEDD YN RHAID TYRCHU TRWY ARCHIFAU’R SELAR I GANFOD Y TRO DIWETHAF I NI GAEL SGWRS IAWN EFO AL LEWIS. 2011 OEDD YR ATEB, A GYDA’R ALBWM DIWEDDARAF NEWYDD EI RYDDHAU YM MIS HYDREF, DYMA’R CYFLE PERFFAITH I YRRU LOIS GWENLLIAN I’W HOLI. Cosodd Al Lewis ein clustiau â’i lais digamsyniol am y tro cyntaf un mlynedd ar ddeg yn ôl, pan ’roedd Cân i Gymru yn llwyfan i danio gyrfa, nid cyfle i’r genedl eich llosgi â thrydar ffraeth. Daeth Al, a’i bartner cyfansoddi Arwel Owen (Gildas), yn ail gyda’u hymgais bruddglwyfus, ‘Llosgi’. Yn y degawd a mwy ers hynny, teg dweud fod Al wedi bod yn un o’r artistiaid mwyaf gweithgar a chynhyrchiol Cymru. Rhwng ei holl brosiectau a phartneriaethau daw cyfanswm ei waith i saith albwm, pump EP, tair sengl Nadolig a niferus senglau eraill. Pethe Bach Aur yw’r diweddaraf i’w ychwanegu at y casgliad.

“’Dw i byth isio bod y person sy’n creu yr un albwm o hyd ac o hyd. Gobeithio fod y gwrandawyr yn gallu clywed esblygiad a phrofiad yn y geiriau a’r cynhyrchiad” ’Dw i’n credu y gall Al fod yn hyderus fod ’na esblygiad amlwg yn nhôn yr albwm. Mae yma fwy o ganeuon cyflym, a llai o rai hiraethus sydd efallai’n cael eu cysylltu ag Al Lewis Band. O bosib, gellir priodoli hyn i’r amryw bobl sydd wedi cyfrannu at y casgliad hwn o 11 cân. “Y person cyntaf ’dw i wedi gweithio efo [ar yr albwm hwn] ydy Kizzy Crawford. ’Naeth hynny ddod o gwmpas rhyw flwyddyn yn ôl. ’Nes i gysylltu efo’i a gofyn ‘tybed fyse ti awydd cyd-sgwennu?’ Doedd dim targed iddi fod yn gân i fi neu’n gân iddi hi, jyst gweld os fysa’r berthynas yn gweithio. Dydy o ddim o hyd yn gweithio pan mae rhywun yn cyd-sgwennu. Dydy’r broses ddim at ddant pawb. Mae’n gallu bod yn broses eitha’ personol, ac felly dydy rhywun ddim wastad yn teimlo’n gyfforddus yn ei wneud o efo rhywun arall, yn enwedig rhywun dieithr. Yn ffodus, mi wnaeth o weithio’n dda tro ’ma. ’Dw i’n hapus iawn efo be’ ’naethon ni.”

Lluniau: Celf Calon

Y SELAR

5


Ffrwyth eu sesiwn ysgrifennu yw’r llesmeiriol ‘Dianc o’r Diafol’. ’Dw i’n deall pam ei fod o’n hapus, mae’r gân yn gyfuniad perffaith o Al a Kizzy. Dydy’r naill na’r llall wedi camu’n rhy bell o’u gwreiddiau a thrwy wneud hynny caf y teimlad fod gorffennol strwythuredig cerddoriaeth bop Gymreig wedi plethu â dyfodol creadigol cerddoriaeth bop Gymreig i greu hybrid cyfoes cofiadwy. Gyda llais melfedaidd Kizzy’n llifo dros ffync dinesig sydd wedi dod yn nodweddiadol o’r artist o Ferthyr, a gallu Al i gonsurio alaw catchy aruthrol a pheintio naws cân mewn llinell (‘Wrth i mi edrych draw dros y ddinas ’dw i’n sylwi ar y niwl fwy na’r haul’), bydd ‘Dianc o’r Diafol’ yn siŵr o ddod yn ffefryn ar donfeddi’r radio. Partneriaeth ddiddorol arall y mae Al wedi’i ffurfio yw un â ZimVoices. ‘Pan Fyddai yn Simbabwe’ yw’r gân, ac ar fy ngwir, o wrando ar y bariau agoriadol, fyddech chi ddim yn ei chysylltu ag Al Lewis Band. “Cân wnes i sgwennu am fy nhad ydy hi, a’r ffaith ei fod o wedi trïo am y swyddi ’ma yn Zimbabwe, heb i mi wybod. Roeddwn i’n mynd trwy’i hen lythyrau o wrth glirio’i dŷ o ar ôl iddo fo farw. O’n i jyst yn meddwl ‘waw’. Felly [yn y gân], ’dw i wedi trïo llenwi’r bylcha’ yn ei fywyd o, a rhoi fy hun yn ei ’sgidie fo. Be’ os fasa fo wedi mynd i fyw i Affrica a gadael ei deulu?”

A dyma lle mae ZimVoices yn dod i mewn. Cydddigwyddiad llwyr ydoedd, medd Al. “Digwydd bod mi oedd ’na grŵp o ferched yn byw yng Nghasnewydd, i gyd o Zimbabwe ac i gyd yn canu efo’i gilydd. Roedd o’n teimlo fel ffawd” Mae lleisiau’r merched yn drawiadol a’u cyfraniad i’r gân yn sylweddol. Rwy’n cofio eu gweld yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna’r llynedd gan mai nhw oedd un o’r grwpiau (Kizzy Crawford oedd y llall) oedd yn agor cyngerdd blynyddol Al Lewis yn y brifddinas. Gwnaethant argraff arnaf i bryd hynny, a da o beth yw clywed y bartneriaeth ar record. “Nes i gyd-gyfansoddi ‘Lliwiau Llon’ efo Richard Llewellyn o Paper Aeroplanes a Dom; mae o’n hen gyfaill i mi a ’da ni wedi bod yn cyd-sgwennu ers oes pys. Wrth gwrs, ’dw i dal i gyd-sgwennu efo Arwel Gildas. Ie, mae ’na lot o gyd-sgwennu!” Nid yno mae’r cyd-weithio’n gorffen. Cydgyfansoddwyd cân deitl yr albwm, ‘Pethe Bach Aur’ gydag Owen Powell. “Roedd hynny’n brofiad gwych, achos Catatonia oedd gig cynta’ fi pan o’n i yn fy arddegau. Felly ’roedd o’n rhywbeth sbeshal iawn cael cyd-gyfansoddi efo fo.” CARYL, CATATONIA A’R SWYNWR O SOLFACH Nid wrth gyd-gyfansoddi â Powell y daw’r talu gwrogaeth i Catatonia i ben ar yr albwm ’chwaith. Un o dair cyfyr sy’n ymddangos ar y casgliad yw ‘Gyda Gwên’. “Rhan olaf o’r deyrnged odd o masiwr! ’Dw i wastad yn chwilio am ganeuon i wneud fersiwn newydd ohonyn nhw. Gan ’mod i wedi gweithio efo Owen, nes i feddwl bysa fo’n neis os fyswn i’n ei thrïo hi. ’Dw i o hyd yn licio cyfro caneuon lle mae merched yn canu (un o’r cyfyrs eraill yw ‘Caru’n Ara’, gan Caryl Parry Jones). ’Dw i’n licio pan mae rhyw’r canwr neu’r gantores yn fflipio achos ti’n cael ongl wahanol i’r geiriau.” Y drydedd gân sy’n cael triniaeth Al Lewis Band yw un o glasuron y canon Cymreig, ‘Môr o Gariad’ gan Meic Stevens. Mi fydd hon yn hollti barn ’dw i’n credu gan fod Al wedi dilyn trywydd electronig gyda’r fersiwn hon. Holais sut oedd o’n teimlo am fynd i ymrafael ag un o ganeuon mawr y genedl? “O’n i dipyn bach yn nerfus mae’n siŵr, ond eto mae unrhyw gân sy’ allan yna yn mynd i gael rhywun yn rhoi ei steil ei hun arni. Nes i jyst sbïo ar y we a sylwi [nad oedd llawer o fersiynau ohoni], a meddwl efallai bod ’na reswm am hynny ac ella ’na i ddod i ddifaru gwneud yn y dyfodol. ’Dw i’n ffan enfawr o Meic. ’Dw i’n ei edmygu fo a’i yrfa a’r ffaith ei fod o’n dal i berfformio yn ei saithdegau. Mae ‘Môr o Gariad’ yn hyfryd o gân. Yn ei arddull o mae hi’n hynod o werinol ac acwstig, felly ’dw i wedi trïo rhywbeth gwahanol ’chydig mwy electronig.”

6

Y SELAR


Ers ei albwm diwethaf, mae un peth mawr wedi newid ym mywyd Al. Bellach, mae o’n dad i ferch fach, Mabli. Bydd y rhai craff yn eich plith wedi sylwi ei fod wedi rhoi llun ohono fo a hi ar glawr yr albwm. “Y rheswm nes i roi llun ohonof i a Mabli ar y clawr oedd fy mod i’n teimlo fod pob albwm yn cynrychioli cyfnod arbennig yn dy fywyd di. Ti’n edrych yn ôl ac yn gallu dweud, ‘o ie, nes i hwnna pan o’n i’n coleg’. Mi fydd yr albwm yma i mi o hyd yn gysylltiedig efo Mabli’n cael ei geni, felly mi oedd o’n teimlo’n addas.” ’Dw i’n holi a ydy o’n credu fod tadolaeth wedi llifo mewn i’r albwm mewn ffyrdd eraill. “Mae’n sicr yn dy wneud di’n llai hunanol, ddim ti dy hun sydd fwya’ pwysig ddim mwy. Ti’n cymryd cam yn ôl ac edrych ar y byd i gyd, ella.”

“Mae gen i brosiect newydd o’r enw Glaslyn efo Kayla Painter, mae hi’n artist electroneg o Fryste. Mae hi’n rhoi trac electroneg i mi a ’dw i’n sgwennu cân drosto rhywbeth ’dw i ddim wedi ei wneud o’r blaen.” Ac mae prosiect arall yn gosod tipyn o her iddo. ”Ar y funud ’dw i’n ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer cyngerdd agoriadol ’Steddfod Llanrwst, Te Yn Y Grug. Mae o’n rhywbeth cwbl newydd i mi, ysgrifennu caneuon, nid i fi fy hun, ond i gôr sydd angen harmonïau pedwar llais. Mi fydd yn rhywbeth anodd achos fydda i allan o fy comfort zone.” Efallai fod byd Al wedi newid er dod yn dad, ac efallai fod yr holl gydweithio wedi esblygu sŵn nodweddiadol Al Lewis, ond yr un peth sy’n sicr heb newid ydy awydd Al i greu cerddoriaeth a meithrin partneriaethau newydd.

AL LEWIS A’I FFRINDIAU Symuda’r sgwrs o’r albwm ei hun at gael clywed y gerddoriaeth yn fyw. Erbyn hyn, mae gig Al Lewis a’i Ffrindiau wedi dod yn rhan o dymor y Nadolig i drigolion Caerdydd. Ers 2013, mae’n cynnal noson yn Eglwys Sant Ioan. Heb os, mae’n un o nosweithiau mwyaf poblogaidd calendr Cymreig y brifddinas. Eleni, â’r gig yn dathlu ei phumed pen-blwydd, mae’r galw am docynnau yn fwy nag erioed. “Mae o wedi tyfu a thyfu, a rŵan ein bod ni wedi gwerthu dwy noson erbyn mis Hydref, mi fyddan ni mwy na thebyg yn rhoi trydydd gig ymlaen. I feddwl o le ’naeth o gychwyn yn 2013, mae’n grêt. ’Dw i’n trio gwthio fy hun er mwyn iddo dyfu. Yn yr un ffordd ag efo creu cerddoriaeth, ’dw i jyst yn trïo gwthio’r ffiniau ac osgoi aros yn llonydd yn be’ ’dw i’n ei wneud.” Dydy Al ddim yn un i aros yn llonydd ac mae ganddo ddigon ar y gweill.

Y SELAR

7


LLEUWEN Lluniau: Emyr Young

Newyddion gwych fod yr albwm newydd, Gwn Glân Beibl Budr, allan ddiwedd Tachwedd. Ti’n edrych ymlaen at rannu’r casgliad efo’r byd? Daeth Dyddiad Dodwy. A ma’ hi wastad yn braf cael dodwy ŵy. Lle a phryd fuost ti wrthi’n recordio? Ail wythnos Rhagfyr yn Stiwdio Sain llynedd. Gyda holl ganeuon y bandia’ fu yno gynt yn atseinio rhywle yn y dirgel. Neu dyna ’dw i’n licio’i feddwl! Oedd o’n broses mor ddi-ymdrech. ’Swn i ’di gallu aros yna efo pobl y band am o leiaf un oes. Pwy fu’n cynhyrchu? Y bonheddwr Aled Wyn Hughes. Ar ôl gweithio efo fo ar A Oes Heddwch? yn Steddfod Môn, roeddwn yn bendant mai fo fasa’r un i gynhyrchu Gwn Glân Beibl Budr. Roedd o’n nabod y caneuon cyn eu clywed nhw. A rhyddhau efo Sain ia? Ia! Y copis caled trwy Sain a’r digidol trwy Pyst. A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Llanast trefnus. Band o’r nef! Beth yw’r broses wrth i ti recordio? Wyt ti’n mynd i’r stiwdio gyda chaneuon eithaf cyflawn neu dim ond sgerbwd a gweithio dipyn arnyn nhw yn y stiwdio? Mae’n wahanol gyda phob record. Gyda GGBB roeddwn i isio sŵn agos-at-y-pridd. Dim llnau. Acwstig. Byw. Teimlad amrwd. ’Dw i ’di sgwenu’r caneuon yn ystod y tair blynedd ddiwethaf felly ma’r gitârs a fi yn eu nabod nhw’n olew. Penwythnos o ymarfer ym mis Hydref efo’r band wedyn ac wythnos yn recordio. Ddaru Aled a fi drafod dipyn am y 8

Y SELAR

sain gyda’r cerddorion cyn dechra’ fel ein bod ni i gyd ar yr un donfedd. Ma’r offerynnau yn chwarae rôl gwahanol greaduriaid... bwystfilod, milwr, eog, pryfaid. Roeddwn i isio synau distaw, bach ochr yn ochr â synau uffernol o uchel. Dim man canol o ran dynamics. Does dim cynildeb yn y record yma. ’Da ni’m yn byw mewn cyfnod cynnil nacdan.

gân ‘Caerdydd’ ond roedd y band yn awyddus iawn inni neud. Felly cyn imi fynd off i neud panad, dyma Owen (bas) a Daf (dryms) yn cychwyn ei chwarae’n llawer iawn arafach na be’ oedd hi yn fy mhen. Daeth hyn â rhyw ystyr newydd i mi. A dyna ni. Roedd rhaid mi orwedd lawr ar ôl y take yna! Dwi’n ddiolchgar i Aled a’r band am fy narbwyllo i’w recordio hi.

Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad? Nagoes deud gwir. Yn hoff ohonyn nhw i gyd. Ond dwi’n teimlo’n gynnes iawn am y traciau ddaru ni recordio’n hollol fyw. Ma’ ’na atgofion. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Doeddwn i ddim ffansi recordio’r

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion difyr neu droeon trwstan? Gwylio’r band yn mwynhau cwmni ei gilydd wrth recordio. Dwi wedi gweithio efo nhw i gyd ar wahanol gyfnodau o ’mywyd. Ond heblaw am Aled a Daf, doedden nhw ddim wedi gweithio efo’i gilydd o’r blaen. Braf gweld cyfeillgarwch yn datblygu trwy sŵn.


Mae sbel go lew wedi bod ers i ti ryddhau dy record hir ddiwethaf, Tân, yn 2011, sut wyt ti fel cerddor, a dy gerddoriaeth di wedi datblygu ers hynny? Rhai blynyddoedd yn ôl, nes i gigs efo Frank Yamma o Awstralia a gigs eraill gyda’r Gwyddel, John Spillane o Cork. Mae’r ddau yn gantorion / gyfansoddwyr sy’n perfformio’n unigol gyda’u gitârs. Dau gerddor cwbl wahanol eu naws ond caneuon y ddau yn gafael yn dynn. Pan ’da chi ar eich pen eich hun yn perfformio, does ’na nunlle i guddio. Dim ond y gân sy’n cyfri. Rhyw bethau fel hyn sy’ wedi bod yn fy meddwl. Hanfod caneuon. Teg dweud bod y byd wedi newid cryn dipyn ers Tân, ydi hynny wedi effeithio ar dy broses greadigol di a’r gerddoriaeth ti’n ei greu? Mae popeth yn ysbrydoli. Popeth. Ma’r byd yn fregus ac mae hynny i’w deimlo ym mhopeth. Yn Gymraes yn byw yn Llydaw, ydi’r ddau ddiwylliant wedi dylanwadu ar y record? Dwi’n edrych ar Gymru o bell. Dyna’r prif ddylanwad. Meddwl am Gymru fel adra a finna’ ddim yna.

Mi fuost ti’n gigio dipyn dros yr haf do, a oes cynlluniau i gigio’r efo’r stwff newydd eto wedi’r albwm gael ei ryddhau. Oes yna lansiad swyddogol ar y gweill? Dwi am ddod â’r record allan gynta’. Mi wna’i gigs os bydd ’na alw. Sut albwm ydi o i’w chwarae’n fyw? Ydy’r caneuon yn benthyg ei hunain yn dda i’r set fel y maen nhw neu fyddi di’n ei haddasu nhw? Gwreiddiau’r caneuon ydi llais a gitâr felly mae’r set yn gweithio’n unigol neu efo band. Dwi’n eu haddasu fesul gig. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Gyrru car. Neu fynd ar fws. Neu am jog. Symud. Gwertha’r record i ni mewn pum gair Gwn glân (a) beibl budr Y SELAR

9


AR Y CYMAL DIWEDDARAF O’N TAITH O AMGYLCH LABELI RECORDIO CYMRU RYDYM YN YMWELD AG UN SYDD YN BODOLI ERS DEGAWD A MWY, OND UN A GYHOEDDODD NEWYDDION CYFFROUS YN DDIWEDDAR GYDA DYFODIAD CHWAER FACH. I GLYWED MWY AM YR HANES A’R DATBLYGIADAU NEWYDD, AETH Y SELAR AM SGWRS GYDAG ALED HUGHES (YR UN O COWBOIS, NID Y NEWS). ENW Sbrigyn Ymborth DYDDIAD SEFYDLU 2006

Sefydlwyr/Perchnogion: Aled Wyn Hughes, Hefin Jones, Sion Owen LLEOLIAD Bethesda ARTISTIAID Cowbois Rhos Botwnnog, Plu, Alun Gaffey, Iwan Huws, Beth Celyn, Plant Duw IS-LABEL Erwydd DYDDIAD SEFYDLU 2018 ARTISTIAID Gwilym Bowen Rhys, VRï

COL

HANES Fel sawl label recordiau

eraill, sefydlwyd Sbrigyn Ymborth gan gerddorion, yn rhannol gyda’r bwriad o ryddhau eu deunydd eu hunain. Ymunodd Aled Wyn Hughes (Cowbois a Pala) a Sion Owen (Bob) â Hefin Jones i greu’r label yn 2006. Roedd EP Pala ac albyms Cowbois Rhos Botwnnog a Bob ymhlith y cynnyrch cynharaf, ynghyd ag unig albwm Jen Jeniro, Geleniaeth, nôl yn 2008.

OFN

WELSH WHISPERER Unwaith y clywsom ni yma yn Y Selar bod Welsh Whisperer yn awdur cyhoeddedig, doedd dim amdani ond gofyn i’r canwr o Gwmfelin Mynach roi ei farn ar y sin mewn colofn wadd. A chwarae teg, roedd ganddo ddigon i’w ddweud. Mewn cyfnod pan mae’r ‘SRG’ yn byrlymu ac yn ffynnu, mae’n dda clywed safon recordiadau llawer uwch na’r gorffennol a phawb, o gyflwynwyr Radio Cymru i gyfranwyr cylchgrawn Golwg ayb yn dweud pa mor gyfoethog ydy’r sin gerddoriaeth ar hyn o bryd. Mae hynny’n ddigon gwir wrth wrando ar amrywiol ddeunydd newydd o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr a newydd trwy restrau chwarae Spotify er enghraifft. Mae’n siŵr bod llawer o’r gynulleidfa newydd yn ddi Gymraeg neu o leiaf yn newydd i gerddoriaeth Cymraeg, sy’n wych wrth gwrs ond a oes digon o gigs yn digwydd ar lawr gwlad? Dwi’n eithrio gigs sydd yn dibynnu’n llwyr ar grantiau neu nawdd o rywle arall. Mae pob artist sy’n darllen hwn wedi’i gwneud nhw siŵr o fod, yn cynnwys fi. Ond heb y nawdd, yn aml, mae’n anodd gweld sut fyddai’n bosib cynnig lineups fel hyn a disgwyl denu cynulleidfa ac osgoi gwneud colled. Yn bersonol dwi wedi gweld budd mawr mewn perfformio mewn trefi a

10

“Nid yw Sbrigyn yn label prysur fel y cyfryw,” eglura Aled, “yn rhyddhau un neu ddau albwm y flwyddyn fel arfer, ac y mae hynny wedi bod yn gyson ar hyd y blynyddoedd.” Peth arall sydd yn gyson yw safon uchel y cynnyrch ac mae sawl record gofiadwy wedi’u hychwanegu at y catalog dros y blynyddoedd. Nos Da (Gildas, 2010), Distewch, Llawenhewch (Plant Duw, 2011), Gorffen Nos (Yr Angen,

Y SELAR

phentrefi oddi ar y ‘circuit’ sydd nid yn unig yn rhoi cyfle i drio pethau newydd o flaen pobl wahanol ond hefyd yn lledaenu’r ffaith fod cerddoriaeth Gymraeg yn bodoli a bod pobl o gwmpas y wlad a thu hwnt yn gwrando arno. Efallai bod e’n amser torri tir newydd a mynd i lefydd does ‘neb’ y mynd iddynt? A beth am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel arf hyrwyddo a lledaenu fel ein bod ni ddim yn gorfod gweld ‘last posted July 2017’ gan ormod o’r ‘big dogs’? Ydy’n amser i rai o fandiau ‘5 gig y flwyddyn’ yr SRG godi o’u tinau a dechrau gigio yn amlach? Does dim ots beth mae rhywun yn ei feddwl o gerddoriaeth neu ddeunydd rhywun, e.e. fi. Ond onid yw hi’n amser i fandiau ac artistiaid o bob math drefnu mwy o gigs mewn llefydd newydd yn lle aros i’r Eisteddfod, Maes B a Chymdeithas yr Iaith neu pwy bynnag ffonio a gwneud y gigs ‘cyfforddus’ yn unig gan barhau i hawlio bod yn rhai o fandiau ‘mawr’ y sin? Mae’r gigs yma yn angenrheidiol a ni’n lwcus o’u cael nhw fel platfform mwy proffesiynol, ond dwi wedi chwarae i neb yng nghanol nunlle cyn heddiw fel pawb arall siŵr o fod ond mae gig yn well na dim gig ydyw e? Bydd pawb sydd yn perfformio yn gyson neu’n gwneud eu gorau i wneud hynny, neu’r nifer sy’n trefnu nosweithiau trwy’r flwyddyn yn gwybod nad amdanynt dwi’n sôn, ond os chi’n darllen fel ffan cerddoriaeth, beth am drefnu rhywbeth gyda rhywun mewn gwesty, neuadd, clwb neu dafarn wahanol? Neu fel band neu artist, cymryd ‘gamble’ ar drefnu gig eich hun neu haslo pobl i fwcio chi’r tro nesaf maen nhw’n cynnal noson o ryw fath yn rhywle. Mae mwy o gigs yn well i berfformwyr, yn well i’r lleoliadau sy’n cael defnydd ac incwm gobeithio, ac i ni gyd wrth ddangos i bawb bod ‘na farchnad a gwerth i adloniant Cymraeg ymhob man yn ein gwlad.


Gwilym Bowen Rhys

beth celyn

Alun Gaffey

VRï

plu Iwan Huws 2011) ac albyms hunandeitlog Plu (2013), Gwyllt (2013) ac Alun Gaffey (2016) i enwi dim ond rhai. UCHAFBWYNTIAU Does fawr o syndod felly i gynnyrch Sbrigyn ddal sylw beirniaid rhai o wobrau cerddorol mwyaf Cymru, a’r gydnabyddiaeth honno yw un o uchafbwyntiau’r deuddeg mlynedd i Aled, “enwebiadau Cowbois Rhos Botwnnog, Plu ac Alun Gaffey ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig”. AR Y GWEILL Datblygiad diweddaraf

Sbrigyn Ymborth oedd sefydlu’r is-label, Erwydd, yn gynharach eleni, label sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin. “Rydan ni newydd lansio gydag albyms Gwilym Bowen Rhys a VRï,” eglura Aled, “a bydd mwy i ddod ganddynt yn y dyfodol

gobeithio.” Ond peidiwch â phoeni, ni fydd dyfodiad y chwaer fach newydd yn effeithio cynhyrchiant y chwaer fawr gyfarwydd. “Mae gweithgaredd Sbrigyn Ymborth yn nwylo’r artistiaid,” cadarnha Aled, “mi fyddwn yn rhyddhau deunydd ganddynt pan mae’r deunydd hwnnw’n barod, a dim cynt!” A gwrandewch ar hyn blantos, mae sôn am is-label arbenigol arall hefyd. Nid yw Aled am ddatgelu gormod ar hyn o bryd, ond “gwyliwch y gofod” meddai.

yw bod yn anweledig a gadael i’r artistiaid gael y sylw,” meddai. “Gan ein bod yn label bach ac amser, arian ac adnoddau yn gyfyngedig a phrin, nid ydym yn chwilio am artistiaid newydd trwy’r amser. Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n medru rhoi chwarae teg i’r artistiaid sydd yn gweithio efo ni’n barod. Mae’n well gwneud ychydig, ond ei wneud o’n iawn…” BETH YW’R PETH GORAU AM REDEG LABEL?

GWELEDIGAETH

“Bod yn rhan o wireddu rhywbeth oedd ddim yn bodoli cynt.”

Mae Aled a’r criw yn hogia’ diymhongar ac maent yn ddigon parod i aros yn y cysgodion yn chwarae rôl gefnogol i’w hartistiaid talentog. “Y weledigaeth, os oes un,

@SbrigynYmborth @Erwydd facebook.com/sbrigyn.ymborth sbrigynymborth.com Y SELAR

11


S E O

YN FFRYNTMAN Y CYRFF, GITARYDD BLAEN CATATONIA AC AELOD BLAENLLAW O THE EARTH AC Y FFYRC, MAE MARK ROBERTS YN UN O GERDDORION MWYAF DYLANWADOL EI GENHEDLAETH. WRTH LANSIO EI BROSIECT DIWEDDARAF, MR, OWAIN SCHIAVONE AETH AM SGWRS AR RAN Y SELAR...

OESOEDD


Lluniau: Celf Calon

Fel boi a fagwyd yn ardal Llanrwst, tydi hi ddim yn syndod i mi glywed bod syniad ardderchog wedi esgor diolch i sgwrs dros beint! Dyma chi dref fach sy’n galon i Ddyffryn Conwy, ond tref sy’n cynnal saith tafarn dafliad carreg o’i gilydd yn amgylchynu’r sgwâr enwog. Wedi hen arfer a chrwydro o’r Red i Pen y Bryn, yna i’r Eagles a’r Albion...ac efallai nôl i Red, bum yn dyst i sawl antur neu chwiw sydd wedi esgor dros beint yn Dre. Dwi’n synnu dim felly i antur ddiweddaraf un o feibion enwocaf Llanrwst ddechrau dros beint mewn tafarn. “O’n i jyst wedi cael sgwrs efo rhywun mewn pub...a nathon nhw jyst gofyn i fi ‘pam nei di ddim gneud albwm Cymraeg?’” Ateb cwta Mark Roberts i’r cwestiwn ynglŷn â phryd ddaeth y syniad i recordio ei albwm unigol cyntaf, Oesoedd. Mae’r cerddor yn fwy cyfarwydd fel Mark Cyrff ers ei ddyddiau’n ffryntio’r grŵp dylanwadol o Ddyffryn Conwy yn y 1980au, ond mae ei brosiect diweddaraf yn dwyn yr enw cryno ‘Mr’. Mae Mark wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers diwedd oes Y Cyrff ar ddechrau’r 1990au, a dechrau bywyd ei fand enwocaf, Catatonia. Rydan ni’n cwrdd am sgwrs, dros baned yn hytrach na pheint, yn ei gartref yn Nhreganna ac mae’r croeso’n gynnes fel arfer, yn enwedig gan ei gi bach bywiog, Eifion, sy’n cyffroi o gael pobl ddiarth yn y tŷ. “O’n i ddim di hyd yn oed ystyried y peth ti’n gwbod, dechra canu a petha eto. Nath o ddeud ‘gwna EP’ so nes i feddwl, wel, fyswn i’n gallu gwneud hynna masiwr” eglura wrth drafod y sgwrs arweiniodd at ei brosiect diweddaraf. “O’n i’n gwneud stwff efo The Earth ar y pryd ac oeddan ni newydd orffan trydydd albwm ni, ond doedd ‘na ddim byd rili’n digwydd...oeddan ni’n gwitchad i micsio fo. Felly nes i jyst meddwl, wel, gena’i amser rŵan i neud rwbath” “Oedd genai bits ‘n bobs jyst di

“DWI’N CAEL GWARED O TWITTER UNWAITH DWI DI GWERTHU’R BLYDI RECORD MA!” storio ar fy ffôn neu ar y laptop ond dim byd di gorffan.” Ar wahân i un trac, mae’r caneuon i gyd yn rai newydd ac mae Mark wedi recordio’r casgliad cyfan mewn llai na blwyddyn ers mis Tachwedd 2017.

(BRON) POPETH AR BEN EI HUN Yn ogystal â recordio’r cyfan, Mark sydd wedi cynhyrchu’r record ei hun gyda “chydig bach o fairy dust Daf [Ieuan]” wrth gymysgu’r fersiwn terfynol. Nid dyma’i brofiad cyntaf o gynhyrchu – bu’n gweithio ar albyms Alun Tan Lan yn y gorffennol, yn ogystal â Maharishi, er ei fod yn ychwanegu gyda’i hiwmor ffraeth... “Efo Maharishi oeddan nhw jyst isho iwsho gitars fi.” Er ei brofiad helaeth fel cerddor, dwi’n synnu ychydig i glywed nad oedd unrhyw un o gwbl wedi clywed y cynnyrch newydd nes ei ryddhau, “...wel, odd y plant yn clywed fi’n chwara yr acwstig masiwr, ond dyna’r cwbl. Weithia’ oeddan nhw’n deud wrtha’i stopio a wedyn tua pum munud wedyn ti’n clywed nhw’n hymian y gân a ti’n gwbod fod o’n iawn.” Dwi’n synnu, oherwydd cyn hyn mae Mark wastad fel petai wedi bod yn fwy cyfforddus yn gweithio

gydag eraill, yn enwedig felly ei hen gyfaill, Paul Jones, oedd yn aelod o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc a Sherbert Antlers gyda Roberts. Dwi’n gofyn a oedd temtasiwn i ofyn barn ei hen fêt o Lanrwst, ac er nad oedd wedi clywed y caneuon, mae’n datgelu mai Paul gyfansoddodd alaw wreiddiol trydydd trac yr albwm, ‘Y Dyn Ola’n Sefyll’. “O’n i wedi sgwennu tua deg cân, oedd o’n dod fyny at tua hanner awr ac odd isho cwpl o ganeuon eraill. Oedd o’n pencilled fewn i fod ar ail albwm Y Ffyrc...dwi jyst di tynnu pob dim arall i ffwrdd a gadael acwstig gitâr.” Ac mae’n debyg bod y riff ar ddechrau’r sengl, ‘Y Pwysau’, hefyd wedi tyfu o’r ddau gyfaill yn jamio gyda’i gilydd... “...wnaethon ni ddim ei orffen o [y gân], a wedyn nes i drio rhoi o i Dionne [Bennet] i ganu yn The Earth, ond odd hi’n gwrthod canu arno fo achos odd hi’n deud fod o’n swnio fel ‘No Woman No Cry’ gan Bob Marley, dwn i’m sut. Felly oedd o’n third time lucky a nes i gael o i weithio efo’r chords eraill ma o’n i’n gwneud....so ma hwna’n rhyw fath o ail-gylchu tydi.” Ar hynny, dwi’n awgrymu bod y sengl gyntaf wedi cael ymateb arbennig o dda, o weld yr hyn mae pobl yn dweud ar y cyfryngau Y SELAR

13


cymdeithasol o leiaf...ac fel saeth mae hiwmor mab y cigydd o Lanrwst yn dod i’r amlwg eto... “Dwi’n cael gwared o Twitter unwaith dwi di gwerthu’r blydi record ma!” “Dwi’m yn gwbod os mai jôc ydy o, ond dwi’n gweld y bois ma ar Twitter fi’n cael sgwrs bod nhw’n disgwyl ‘Tiwdor y dyn post i ddod â’r CD i mi, a dio’m di dod bore ma’ a’r llall yn deud ‘dwi di weld o.’”

PARCHU’R POSTMON Gan gofio mai cwta fis oed ydy cyfrif Twitter @mrcyrff wrth i ni siarad, dwi’n awgrymu y gall Mark ddisgwyl gweld trafodaethau llawer mwy randym a rhyfedd ar y cyfrwng! Ar hynny mae’n cyfaddef mai ail ddosbarth mae o wedi postio’r CD dan sylw’n anffodus! Er â’i dafod yn ei foch, mae’r sylw’n briodol gan fod y cerddor wedi cymryd y cyfrifoldeb llawn am ddosbarthu’r albwm newydd. Mae rhai siopau’n gwerthu, ond ar y cyfan, archebion dros y we sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am y gwerthiant. Rydan ni’n cwrdd ar ddiwrnod rhyddhau swyddogol y casgliad, ac mae ffôn Mark yn pingio’n gyson gydag archebion a sylwadau am yr albwm. Ac mae’n ymddangos bod y broses wedi ennyn parch Mark at waith y postmon diymhongar. “Diwrnod cyn ddoe nes i gael y CDs nôl a nesh i feddwl...blydi hell, mae ‘na lot o bobl di ordro nhw o Gaerdydd. Felly nes i feddwl - dwi’n mynd i safio fy hun seventy nine pî

postage fan hyn, a’i ar fy meic. Tair awr wedyn, a eighteen miles...nes i sylweddoli pa mor anodd ydy job dyn post! “Nes i fynd all the way lawr i’r Bae efo un...o’r Eglwys Newydd lawr i’r Bae efo un blydi CD....pan nes i gyrraedd yr address doedd ‘na ddim blydi post box yna! “So nes i ddod â fo nôl, mynd a fo i’r swyddfa bost a rhoi stamp arno fo...problem y dyn post dio wedyn de.” Unwaith eto, mae’r stori’n arddangos yr hiwmor sych sydd mor gyfarwydd i unrhyw un sy’n adnabod Mark – un o hogia Llanrwst ydy hwn, a dyna fydd o fyth.

SŴN SYML Y tro diwethaf i’r cerddor ymddangos yn Y Selar oedd yn ystod haf 2006 ar ôl iddo ef a Paul rhyddhau unig albwm Y Ffyrc, Oes, a dwi eisiau gwybod sut mae Mark yn gweld y sin wedi newid dros y ddeuddeng mlynedd diwethaf... “Nath albwm Y Ffyrc ddim rili cymryd off. Dwi’n meddwl, rŵan ma jyst yn lot haws i gael rwbath allan yn direct i rywun. Ti’n gallu cyrraedd dy gynulleidfa mwy neu lai yn syth...ti’n recordio yn dy atig, ti ddim hyd yn oed yn gorfod gwneud CD, jyst rhoi o allan ar Soundcloud, tweetio fo, a dyna chdi, ti wedi cyrraedd nhw.” Dwi’n awgrymu bod Mark yn weithgar iawn ar Twitter ers cyhoeddi manylion yr albwm, a’i fod yn barod iawn i ymateb yn uniongyrchol i bobl ar y cyfrwng... “Unig dwi ia” ydy’r ateb fel fflach

“O’N I DDIM DI HYD YN OED YSTYRIED Y PETH TI’N GWBOD, DECHRA CANU A PETHA ETO”

“ti’n gwbod y bobl ma sy’n ffonio chdi isho gwerthu rwbath...dwi’n siarad efo nhw...di Eifion [y ci] ddim yn deud lot.” Pan dwi’n holi Mark i gymharu sŵn Mr gydag Y Ffyrc, “mwy stripped back” ydy’r ateb cryno. Er hynny, dwi’n awgrymu bod y sengl gyntaf, ‘Y Pwysau’ ddim yn rhy annhebyg i sŵn Y Ffyrc, “Na, ma honna efo sŵn mwy llawn, 14

Y SELAR


ond does ‘na ddim lot o stwff arno fo, mae ‘na jyst sample brass ar y gytgan sydd am ryw reswm yn gwneud i’r peth swnio’n massive. “Ar rai caneuon, does ‘na ddim bas arno fo, ar lot o ganeuon does ‘na ddim dryms sy’n rhoi mwy o le ar gyfer reverb ac atmophere, ond doedd hynny ddim ar bwrpas jyst fel’na nath o ddigwydd.”

Gan ystyried bod deuddeng mlynedd ers albwm Y Ffyrc, a Mark wedi gweithio’n bennaf yn yr iaith fain gyda The Earth ers hynny, dwi’n awyddus i ddarganfod pam troi at ganu’n y Gymraeg eto rŵan? “Dwi’m yn gwbod, ma jyst yn dod yn naturiol i fi...dwi wedi canu’n Saesneg o’r blaen dwi’n siŵr efo Sherbert Antlers, ond fel arfer jyst yn Gymraeg dwi’n canu. “Ma Dionne [The Earth] di gofyn i fi ‘Please write me a song in Welsh’ ond y peth ydy, di’n methu siarad Cymraeg felly dwi’m isho sgwennu cân a gorfod deud wrthi sut i phrasio pob gair.” “Ma Elin [partner Mark] wedi bod yn chwara lot o miwsic Cymraeg sydd allan ar hyn o bryd i’r plant, a dwi di dechrau ail-gydio a chymryd diddordeb achos ma’ na lwyth o fands da allan yna ar hyn o bryd, felly ella mod i’n neidio ar y bandwagon. “Dwi’n clywed bands ifanc rŵan, ac maen nhw’n fatha 16, 17 [oed] a fedrai’m coelio pa mor dynn ydyn nhw...pan oeddan ni’n dechra off, odd pawb jyst chydig bach yn shambolic, ond pan ti’n clywed nhw rŵan maen nhw fatha’n fully forme d ac yn uffernol o dynn.” Wrth glywed hyn dwi’n holi faint o sylw mae Mark yn ei wneud o fandiau Cymraeg ifanc ar hyn o bryd... “Nes i weld Los Blancos pythefnos yn ôl, a Mellt wythnos yn ôl...ond dwi’m yn mynd allan ddim mwy” meddai a thafod yn ei foch eto. Mae crybwyll Mellt yn arwain at drafodaeth ynglŷn â grŵp o’r enw Y Mellt a ffurfiodd yn ardal Llanrwst yn y 1960au, a sut mae Mark yn berchen ar gitâr un o aelodau Y Mellt...ond stori arall ydy honno! “Dwi’n gwrando ar Radio Cymru...” meddai Mark a gwên slei ar ei wyneb cyn ychwanegu, “...i weld os ydyn nhw chwara stwff fi.” Mae’n sôn ei fod yn hoffi caneuon Yr Ods hefyd cyn i mi droi nôl at Mellt gan awgrymu bod naws tebyg i’r Cyrff iddyn nhw – pynci, a bach yn wrthryfelgar. “Ma’n anodd i fod yn rebellious dyddia yma tydi, achos ma pob dim di cael ei rebellio’n erbyn . Rebellious ydy slipers a peip masiwr.” Cyn dod â’r sgwrs i ben, mae’n rhaid i mi ofyn y cwestiwn sydd ar wefusau pawb, yn enwedig gydag Eisteddfod Llanrwst ar y gorwel...oes bwria d gan Mark gigio fel Mr? “Dwi di dechrau meddwl am y peth...dwi di cael lot o offers, ond dwi’m yn siŵr eto. “O’n i’n dechra meddwl fatha backroom pubs – unannounced, uninvited...a unwanted.” Go brin y byddai llawer yn cwyno o weld Mark yn troi fyny i wneud set annisgwyl yn eu tafarn leol. Er hynny, dyma arwydd arall o wyleidd-dra y gŵr a gyfansoddodd rai o hits mwyaf Cŵl Cymru, ac a berfformiodd ar lwyfannau mwya’r byd...ond yn y bôn, sy’n fodlon ei fyd yn gwneud ei beth ei hun, ac yn jamio mewn cefn tafarn gyda’i fêts.

Y SELAR

15


Ffrydi Nora, Wedi deffro ar fore Sadwrn ychydig wythnosau yn ôl cefais sbec fach sydyn ar Twitter yn ôl fy arfer. Yng nghanol y rwtsh arferol fe wnaeth un peth ddenu fy sylw, y ffaith fod ugeinfed cân wedi ymuno â’r Clwb Can Mil. Rhestr chwarae ar Spotify yw’r Clwb Can Mil, yn cynnwys pob cân bop Gymraeg sydd, fel y mae’r enw’n ei awgrymu, wedi’i ffrydio dros gan mil o weithiau ar y platfform hwnnw. Mae rhai o’r tiwns ar y rhestr gan iddynt fod yn ganeuon poblogaidd dros gyfnod hir o 16

Y SELAR

amser, caneuon fel ‘Ysbeidiau Heulog’ (Super Furries), ‘Yma o Hyd’ (Dafydd Iwan) a’r ychwanegiad diweddaraf, ‘Abacus’ (Bryn Fôn). Mae eraill yn ganeuon newydd sydd wedi cyrraedd ffigyrau anhygoel mewn amser byr iawn. Y gŵr sy’n gyfrifol am greu’r rhestr chwarae dan sylw yw’r gŵr sydd â dwy gân (‘Sebona Fi’ a ‘Neb Ar Ôl’) ar y rhestr ei hun, Yws Gwynedd. Yn gerddor, yn berchenog label recordiau Côsh ac yn weithgar iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Yws yn un o brif lysgenhadon y twf diweddar mewn ffigyrau ffrydio caneuon Cymraeg. Ond


“Dwi’n licio stats.

filltir honno. Ond yr hyn sy’n denu sylw rhywun yw pa mor dda y mae ambell i gân fwy diweddar yn ei wneud, dwy yn enwedig. Roedd ‘Gwenwyn’ gan Alffa a ‘Fel i Fod’ gan Adwaith ill dwy yn y deg uchaf er mai dim ond eleni y cawsant eu rhyddhau. Felly, ar wahân i’r amlwg, sef eu bod yn ganeuon da, beth yw cyfrinach eu llwyddiant? Yws sydd yn egluro eto. “Mae’r ddwy gân yma wedi derbyn be’ ’da ni’n ei alw’n ‘Spotify Support’. Hynny ydy mae Spotify wedi ychwanegu’r caneuon at eu rhestrau chwarae eu hunain. Mae hyn yn ddiddorol am lawer o resymau; maen nhw’n gwbl gyfforddus yn rhoi caneuon mewn iaith leiafrifol drws nesa i bob dim arall, maen nhw’n gwerthfawrogi cân dda ac maen nhw’n rhoi artistiaid Cymraeg ar blatfformau mwyaf poblogaidd y byd drws nesa’ i fawrion y byd cerddorol heb stŵr o gwbl.”

sut mae o’n gwybod cymaint am y pwnc? “Ha! Cwestiwn da,” meddai. “Dwi’n licio stats. Mor syml â hynny. Yn ffodus i mi, mae llawer o’r gwasanaethu dosbarthu’n cynnig y stats i labeli, rheolwyr neu’r artistiaid. Yn fwy diweddar, mae Spotify wedi cynnig rheiny i’r cyhoedd. Gan mai ffrydio ydi dyfodol ein diwydiant mae’n bwysig gwybod sut i gyrraedd gymaint o bobl â phosib, mae’r ystadegau’n gymorth wrth drio gwneud hynny.” A phan mae gennych chi ystadegau, fe allwch chi roi trefn ar bethau, a dyna’n union a wnaed ddiwedd Awst wrth i Geth a Ger gyflwyno siart Ffrydi Nora ar Radio Cymru. “Dyl Mei wnaeth benderfynu ar gyfansoddiad y siart ond nes i ei helpu fo i gasglu’r rhifau,” eglura Yws. “’Mi welodd Dyl y Clwb Can Mil a meddwl sut fysa siart mwy cynwysedig yn edrych. Yn ei siart nhw, dim ond un gân gan bob artist a gafodd eu cynnwys, sydd ychydig yn wahanol i’r Clwb Can Mil, ond dal yn snapshot dda o’n caneuon mwyaf poblogaidd ni.” ‘Patio Song’ (Gorky’s) a ddaeth i’r brig, cân sydd bellach yn agosáu at filiwn o ffrydiau ac yn ymddangos yn debygol o fod y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd y garreg

Holi Hollie a Dion Mae ‘Gwenwyn’ a ‘Fel i Fod’ bellach wedi eu ffrydio dros filiwn o weithiau rhyngddynt, llwyddiant hollol annisgwyl i aelodau’r ddau fand. “Odd e’n sioc mawr i ni gyd!” eglura gitarydd a phrif leisydd Adwaith, Hollie. “’Bach yn mental, ma’ fe’n anhygoel. Methu credu bod gymaint o bobl wedi gwrando.” Ac mae gitarydd a phrif leisydd Alffa, Dion, yn rhannu’r un syndod. “Mae 500,000 o ffrydiau yn rhywbeth na fyswn i a Sion byth wedi meddwl y bysa ni’n ei gyrraedd. Ma’n deimlad gwych bod cymaint o bobl wedi gwrando ar ‘Gwenwyn’. ’Odd Sion a fi yn gobeithio cyrraedd 1,000 felly mae beth sydd wedi digwydd yn mental!” Mae Hollie’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y rhestrau chwarae yn llwyddiant ‘Fel i Fod’, er nad oedd yn gwybod llawer am y peth nes iddo ddigwydd! “O’n i ddim yn gwbod nes oedd o allan, mae app Spotify Artists yn dangos pa playlists mae pob cân arno. Odd hi ar Stress Buster playlist gyda 360,000 o ddilynwyr!” Tipyn o sioc i Dion hefyd a oedd gweld ‘Gwenwyn’ yn Y SELAR

17


dechrau ymddangos ar restrau chwarae poblogaidd, yn enwedig un ohonynt. “Yr un mwyaf yw Walk Like A Badass. Ro’n i a Sion yn gwrando ar y playlist yma cyn i ‘Gwenwyn’ ei gyrraedd o felly roedd hynna reit swreal! Mae’r trac hefyd wedi ei gynnwys ar playlist o Frasil ac All New Rock, sydd yn un arall poblogaidd.” Mae llwyddiant uniongyrchol y caneuon unigol yn amlwg i bawb ond rhywbeth sy’n anoddach i’w fesur yw’r budd ehangach y mae bandiau fel Alffa ac Adwaith yn mynd i’w brofi yn sgil y llwyddiant hwnnw. “Mae’n hwb enfawr i’r band,” meddai Dion yn bendant. “’Da ni ar ganol ysgrifennu albwm felly mae hyn yn berffaith. Odda ni wastad yn teimlo bod ein cerddoriaeth ddim yn cael digon o sylw felly mae hyn wedi profi i ni fod hen ddigon o bobl yn gwrando ar fandiau fel ni. ’Da ni wedi derbyn sawl neges gan bobl o Frasil a’r Almaen yn dweud eu bod nhw’n ffans o’r band, gydag amball un wedi dweud eu bod nhw awydd dod yma i Gymru i’n gwylio ni’n fyw.” Ac mae Hollie’n cytuno, ehangu’r gynulleidfa fydd prif etifeddiaeth ‘Fel i Fod’. “Mae’r gân wedi bwrw pobl yng Nghymru a thu hwnt. Y llefydd sydd wedi gwrando ar ‘Fel i Fod’ fwya’ yw Amsterdam, Istanbul a Berlin. Dim ond rhif 10 yw Caerdydd!” Does dim angen gofyn ddwywaith i Hollie am bwysigrwydd ffrydio i artistiaid heddiw felly. “Mae Spotify yn hynod o bwysig, mae’n ffordd hawdd o rannu a darganfod cerddoriaeth. Bydde ni byth wedi cyrraedd gymaint o bobl gyda’n caneuon heb Spotify! Dyw cyfri’r streams ddim yn bwysig ond ma’ fe’n neis gweld bod e’n hedfan!”

“Yn anffodus dydi gwerthiant CDs a vinyls ddim mor boblogaidd felly’r ffordd ymlaen ydi ffrydio,” meddai Dion. “Mae’n ffordd wych i weld faint o bobl sy’n gwrando ar eich cerddoriaeth ac o le y maen nhw’n dod.”

Rhestrau Cymraeg Yn amlwg, gall rhestrau chwarae roi hwb anferthol i gân felly ac i’r perwyl hwnnw, mae Yws Gwynedd yn weithgar iawn yn creu rhai newydd yn rheolaidd. “Yr un gychwynodd yr holl beth oedd yr un wythnosol, C’est Bon. Dwi’n dewis cwpl o draciau Cymraeg neu Gymreig sy’n cael eu rhyddhau’r wythnos honno i gadw’r rhestr yn ffres ac o safon (yn fy marn i). Dwi ’di ’neud rhai gyda chaneuon gorau’r degawdau diweddar, mae yna restr ar gyfer cerddoriaeth gyda phiano fel y prif offeryn, un ar gyfer caneuon acwstig (hoff iawn o hon - Cymry’n dda gyda gitâr acwstig), hefyd rhestrau ar gyfer cwpl o genres. Dwi wrthi’n meddwl am fwy ond isio datblygu’r rhain cyn symud ymlaen at rai eraill.”

18

Y SELAR

O wrando ar Dion, Hollie ac Yws ceir y teimlad bod cerddoriaeth Gymraeg (o’r diwedd, efallai) yn cofleidio’r busnes ffrydio yma. Ac ar y nodyn cadarnhaol hwnnw, dyma roi’r geiriau olaf i’r bythol bositif, Yws Gwynedd. “Gyda Pyst wedi gweddnewid y sin efo’u profiad eang o ddosbarthu a PR, dwi’n meddwl bo’ ni’n agos iawn at ‘gofleidio’. Mae’u perthynas nhw efo’r platfformau ffrydio wedi bod yn amhrisiadwy. ’Da ni ’di bod yn bangio ’mlaen am flynyddoedd fod cân dda yn dda mewn unrhyw iaith ac o’r diwedd mae ’na obaith i allu profi hynny. Mae’n drist bo’ ni ’di colli incwm gwerthiant cynnyrch fel CDs, ond ma’n bwysicach fyth i symud efo’r amser a gneud y gorau o be’ sydd ganddon ni.”


SŴN?

“Cymysgedd o blŵs cyfoes a psychedelia” yw disgrifiad Dave o sŵn yr hen Wilkie ac mae o’n taro’r hoelen ar ei phen. Mae’r band wedi llwyddo i gynhyrchu caneuon amrywiol heb gyfaddawdu’r

Daw dylanwadau’r band o bell ac agos, gyda Dave yn rhestru Meic Stevens, Super Furry Animals, Big Leaves a Peter Green’s Fleetwood Mac i ddechrau. Ond o ystyried natur blŵs-aidd Blind Wilkie, does fawr o syndod bod nifer o’r dylanwadau yn dod o ochr arall yr Iwerydd, cerddorion fel Bobby McFerrin, Blind Lemon Jefferson a Captain Beefheart. HYD YN HYN?

Gan ganolbwyntio’n bennaf ar recordio hyn yma, mae B.W.M. eisoes wedi rhyddhau dwy sengl fel rhan o’u paratoadau ar gyfer eu EP cyntaf, ac mae’r caneuon wedi cael derbyniad da, fel yr eglura Dave. “Ma’r sengl gyntaf ‘Moroedd’ ’di cael spin ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Radio Wales gan Adam Walton. Daeth ‘Edrych i Mewn’ allan ddiwedd Hydref ac yn dilyn hynny bydd ein EP, Ar Dydd Fel Hyn, yn cael ei rhyddhau ym mis Tachwedd.” Nid yw’r band wedi gigio llawer, ond os am wneud rhywbeth, ei wneud o’n iawn, a chafodd Dave a’r gweddill gig gyntaf i’w chofio. “Ein gig gyntaf, roeddem yn ffodus iawn o chwarae yn y lleoliad eiconig, Clwb Ifor Bach, efo Y Cledrau a Candelas, noson wych!”

i Ti d Cl

DYLANWADAU?

ed ... w y

di Cly Ti

Blink Wilkie McEnroe yw Carwyn Ginsberg (gitâr a llais), Mike Pandy (dryms a llais), Dave Elwyn (gitâr a llais), Si Brereton (piano, synths ac offerynnau taro) ac Andrew Stokes (bas). Wel... na... i fod yn fanwl gywir, ysbryd yw Blind Wilkie McEnroe, ond y cerddorion uchod sydd yn rhoi llwyfan a llais iddo, fel yr eglura Dave: “Blind Wilkie McEnroe yw prosiect ymdrechion cydweithredol Carwyn, fi a Mike, wedi un noson pan wnaeth ysbryd hen foi blŵs, Blind Wilkie McEnroe, ddod i’n gweld ni a gofyn a fyse ni’n dechrau band fel ei fod o dal yn gallu canu o du hwnt i’r bedd, coeliwch neu ddim!” Ac fe aeth Wilkie at y bois iawn achos mae’r tri yn gerddorion profiadol tu hwnt. “Mae’r tri ohonom ni wedi bod yn ysgrifennu caneuon, chwarae a recordio mewn bandiau a phrosiectau gwahanol ers talwm,” eglura Dave; “Carwyn hefo Fennel Seeds a Hippies Vs Ghosts, Mike hefo HazyBee a Hel Dinky a finna’ fel artist unigol yn trio gwneud rhywbeth cyffrous a gwahanol.”

hunaniaeth gref sy’n dal y cwbl at ei gilydd; o blŵs eithaf traddodiadol ‘Llosgi’r Diafol’ i seicedelia ‘Moroedd’ ac elfennau roc ‘Edrych i Mewn’.

Blink Wilkie McEnroe

wed ...

PWY?

AR Y GWEILL?

Yn ogystal â rhyddhau’r EP ar label I Ka Ching, bydd B.W.M yn rhyddhau fideo newydd o’r sengl, ‘Edrych I Mewn’. A gyda’r EP yng nghlustiau’r cyhoedd, bydd y band yn cynyddu eu hymddangosiadau byw gan ddechrau gyda chwpl o gigs lleol i Dave tua diwedd y flwyddyn. “O ran gigio, rydym yn The Live Rooms Wrexham ar y 23ain o Ragfyr, efo lot o fandiau gwahanol, rhan o’r digwyddiad blynyddol, Xmas Kick Off.” UCHELGAIS?

Mae prosiectau ag elfen gysyniadol fel hyn wastad yn ddifyr, ond yn aml yn fyrhoedlog. Ond mae’n amlwg o frwdfrydedd Dave bod ysbryd Blind Wilkie McEnroe yma i aros. “Cynhyrchu recordiau go iawn yw’r uchelgais, rhai da sydd yn portreadu neges. A dod a ’bach o hapusrwydd i fywydau pobol.”

BARN Y SELAR

GWRANDEWCH OS YN FFAN O... ALABAMA SHAKES, ALFFA A CAPTAIN BEEFHART

Mewn oes pan mae modd cael llawer o sylw yn sydyn iawn, mae’n braf gweld band newydd cyffrous yn dod o dan y radar fel petai. Does yna neb yn gwneud yr un peth â’r band yma ar hyn o bryd, ddim yn y Gymraeg yn sicr, ac mae hynny’n siŵr o apelio at ffans cerddoriaeth sydd wastad yn chwilio am rywbeth ffres a gwahanol. Boed yn coelio mewn ysbrydion ai peidio, mae’n werth i bawb weld Blind Wilkie McEnroe. Y SELAR

19


adolygiadau Pethe Bach Aur Al Lewis Band Mae Pethe Bach Aur yn cyfuno genres, yn gweld Al yn cydweithio mewn partneriaethau annisgwyl ac yn rhoi bywyd newydd i hen glasuron. Ceir yma enghraifft o artist sydd wedi tyfu i adnabod ei hun a’i ffans, sydd ddim ofn rhoi cynnig ar rywbeth sydd, iddo fo, ’chydig yn wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgwylir gan Al Lewis Band, mae mwyafrif y caneuon ar y casgliad yn rhai cyflym eu curiad, siriol. Yma hefyd, mae llond llaw o draciau a fydd yn troelli rhwng fy nghlustiau am oriau ar ôl gorffen gwrando. Uchafbwyntiau’r albwm i mi yw ‘Yn Y Nos’, ‘Caru’n Ara’ a ‘Dianc o’r Diafol’, y ddeuawd gyda Kizzy Crawford. Arnynt clywn dinc o’r Al Lewis sy’n ei wneud o mor boblogaidd ond gyda phinsiad go helaeth o 2018. ’Dw i’n siŵr y bydd Pethe Bach Aur yn cael ei gofio fel yr albwm wnaeth gadw Al Lewis Band yn berthnasol. Lois Gwenllian

Melyn Adwaith Teg dweud iddi fod yn gwpwl o fisoedd prysur i Adwaith. Maen nhw newydd orffen taith gyda Gwenno ac wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, Melyn. I unrhyw hipsters hen-ffasiwn fel fi, bydd Melyn allan ar feinyl coch ar y 30 Tachwedd, ond cyn hynny bydd rhaid neud y tro gyda’r albwm digidol. Wnes i fwynhau’r albwm yn fawr, ac un o’r prif resymau oedd yr amrywiaeth o arddulliau gwahanol. Mae Melyn yn ein harwain ar drywydd eithaf punky cyn gwyro at y lleddf a’r poppy, ond wastad mewn ffordd naturiol. Dwi’n hoffi bod y caneuon wedi’u

cymysgu mewn ffordd lle maen nhw’n ymdoddi i’w gilydd, gan roi’r teimlad o gyfanwaith i’r casgliad. Nid oes llawer o fandiau Cymraeg ar y funud yn ysgrifennu caneuon sy’n ddiamwys wleidyddol. Braf felly yw clywed caneuon megis ‘Newid’ sy’n trafod materion cyfoes gan roi safbwynt gwleidyddol pendant, rhywbeth sydd yn rhyfedd o absennol mewn cerddoriaeth Gymraeg o ystyried y byd sydd ohoni. Fodd bynnag, fy hoff gân yw ‘Fel i Fod’, cân bop felodig hyfryd am deimlo ychydig ar goll yn y byd. Yr unig beth sy’n dal yr albwm nôl i mi yw geiriau eithaf gwan rhai o’r caneuon. Golyga hyn weithiau nad yw’r gân yn taro deuddeg, ac mae hyn yn drueni. Fodd bynnag, mae Melyn yn dal i fod yn albwm

da, ac rwy’n siŵr bydd y geiriau’n dod wrth gael mwy o amser i ymarfer y grefft. Ar y cyfan fe wnes i fwynhau’n fawr ac rwy’n disgwyl i Adwaith fynd o nerth i nerth. Rhys Dafis Ar Dydd Fel Hyn Blind Wilkie McEnroe Dyma gasgliad cyntaf addawol tu hwnt sy’n ddrych i allu naturiol y band i greu sŵn blŵs cyfoes gydag elfen gref o psychedelia. Dyma fand sy’n cynnig cysyniad cerddorol cyffrous dros ben. Gyda’r sain wedi’i ddal yn effeithiol gan gynhyrchu Llŷr Pari yn stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed, maent wedi llwyddo i greu EP gonest dros ben. Nid yn unig y ceir sŵn byw ac amrwd, ond ceir ymdeimlad hefyd ein bod fel gwrandawyr yn eistedd mewn sesiwn jamio myfyrdodol, ac o ganlyniad, y mae tinc cartrefol yn perthyn i’r cyfanwaith. Yn gyfuniad o felodïau a symudiadau cerddorol diddorol, dyma adlewyrchiad hefyd o’u gallu i chwarae cerddoriaeth byw yn naturiol, ac o fod wedi eu gwylio’n ddiweddar, dwi’n gwybod nad ydyn nhw’n siomi mewn unrhyw ffordd, ac yn eu hanfod, yn supergroup sydd wedi hen arfer ar lwyfan erbyn hyn. Felly, heb ildio, cadwch lygad am y rhain dros y misoedd nesaf, a phwy a ŵyr, efallai y cawn gyfarfod Blind Wilkie, yr hen foi blŵs ei hun rhyw ddydd. Ifan Prys Sgam (4 Redux 2018) Catsgam Wyddoch chi pan ’da chi’n troi at ddiwedd llyfr i gyfri tudalennau cyn hyd yn oed darllen y gyntaf? Byth yn arwydd da iawn. A rhaid cyfaddef, pan welais i fod 16 cân i wrando arnyn nhw ar gasgliad o ganeuon Catsgam 1997-2018, fe wnaeth fy nghalon i suddo mymryn.


Gan ’mod i wedi byw trwy’r cyfnod hwnnw ro’n i’n teimlo, os fyswn i’n ffan o Catsgam, mi fyswn i’n ffan yn barod. Ond fe wyddoch chi’r hen ddihareb yna am lyfrau a’u cloriau gwyddoch... y gwir amdani oedd fy mod i’n fwy o ffan nag o’n i’n ei wybod! Ro’n i’n meddwl mai dim ond ‘Riverside Cafe’ fyswn i’n ei hadnabod ond mae’r casgliad yn llawn clasuron cyfarwydd. Mae ‘Moscow Fach’, ‘Llwybrau’, ‘Efallai Afallo’, ‘Seren’ a ‘Chwarae Bant’ wedi chwarae rhan amlwg yn rhestrau chwarae naw tan bump Radio Cymru dros y blynyddoedd ac mae rhywbeth yn gysurus iawn mewn rhywbeth cyfarwydd. Yn naturiol, mae’r sain wedi dyddio braidd ond ma’ nhw dal yn tiwns ac mae modd gwerthfawrogi llais arbennig Catrin Brooks. Wedi dweud hynny, doedd y pedwar aildrefniant newydd ddim yn cyffroi llawer arna’i ac o tua trac 12 ymlaen ro’n i’n dechrau edrych at y diwedd unwaith eto gan gyfiawnhau fy ngreddf wreiddiol o bosib! Gwilym Dwyfor Coelcerth Wigwam Mae agoriad cryf a phendant i’r albwm. Mae popeth yn dod at ei gilydd yn wych ac mae’n siŵr y byddai clywed ‘Hen Bryd’ yn fyw cystal ag yw hi ar record. Yr un ffordd mae ‘Taran’, sy’n cloi’r albwm, yn llawn egni a hwyl a hawdd dychmygu hon yn cael ei mwynhau mewn gig hefyd. Mae sawl cân bop-roc canol y ffordd sy’n ddigon hawdd gwrando arnyn nhw yn y casgliad ond mae’r albwm ar ei orau pan mae’r band yn mentro mwy, gyda sawl cân yn sefyll mas oherwydd hynny. Mae ‘Tria Eto’ â’i naws blŵs, ei bas trwm a’i gitârs yn rhoi sŵn trymach i ni tra mae ‘Ar Dân’ ac ‘Yn Y Byd’ yn fwy heriol ac yn rhoi cyfle i ni glywed sŵn aeddfed a chyflawn y band. Mae’r sain hyderus yn dipyn o beth i fand ifanc a llednewydd, ac yn argoeli’n dda ar gyfer cynnyrch y dyfodol. Bethan Williams

Gwn Glân Beibl Budr Lleuwen O strymio gwyllt bariau agoriadol ‘Myn Mair’ hyd at nodyn olaf hiraethus ‘Hwyr’, dyma albwm sy’n cydio. Amlygir, unwaith eto, allu unigryw Lleuwen i fod yn anghonfensiynol ond persain. Ni ddylai’r clytwaith o dechnegau lleisiol ar ‘Pam’ berthyn i’r un gân ond ma’ nhw’n plethu’n berffaith. Ni ddylai rhythmau anarferol ‘Cân Taid’ weithio ond ma’ nhw rywsut. Os ydach chi, fel fi, wedi eich creithio gan flynyddoedd o wrando ar ffans rygbi meddw’n dinistrio ‘Cwm Rhondda’, mae gan Lleuwen y ffisig perffaith. Mae ei dehongliad hi o eiriau Ann Griffiths, ‘Rhosyn Saron’ ar dôn enwog John Hughes yn ein hatgoffa sut y daeth hi’n un

o hoff emynau’r Cymry yn y lle cyntaf. Ynghyd â’r emynau a’r caneuon traddodiadol mae’n braf clywed cyfansoddiadau gwreiddiol Lleuwen sy’n ein hatgoffa cystal bardd ydi hi. Ceir ryw adlais bach o ‘Nine Million Bicycles’ Katie Melua yn ‘Caerdydd’ ac mae ‘Y Don Olaf’ yn cynnwys y llinell anfarwol, “Ond Iesu, lle ddiawl ma’r emoji sy’n dangos ein bod ni’n hiraethu”. A ‘Mynyddoedd’... mae ‘Mynyddoedd’ yn aruthrol. Un gair i ddisgrifio’r albwm? Angerdd. A phan dwi’n deud angerdd, dwi ddim yn golygu ryw angerdd gweiddi ar dop eich llais, ond angerdd distaw, angerdd diffuant, angerdd credadwy. Gwilym Dwyfor RHAID GWRANDO


llifo o un trac i’r llall, mae’n anodd dewis hoff gân gan eu bod i gyd yn plethu i’w gilydd mor naturiol. Mae ‘Zemlya’, â’i synau dyfnach mwy trwchus yn ffurfio rhyw fath o egwyl hanner ffordd trwy’r casgliad gan roi’r ymdeimlad o ryw ddrama swreal iddo. A drama dda ydi hi hefyd. Gwilym Dwyfor

Tŷ Ein Tadau Vrï Aelodau o’r grwpiau gwerin, Calan, Elfen a NoGood Boyo sydd wedi dod at ei gilydd i greu’r swpyr-grŵp gwerin, Vrï, ac mae eu halbwm cyntaf, Tŷ Ein Tadau, yn gampwaith (os caf ddweud, er mai fy unig brofiad o gerddoriaeth werin yw Sesiwn Fawr ac atgof o ddawnsio gwerin). Mae’r byd gwerin yn rhywbeth hollol anghyfarwydd i mi, ar blaned arall, lle mae’r clocswyr, y dawnswyr a’r offerynwyr talentog yn byw mewn sain hyfryd, ond dwi wastad ofn mentro yno. Llwydda Vrï i ddod â’r byd yma’n nes, trwy gyfuno’r traddodiadol a’r modern a chreu cerddoriaeth chamber-folk â thraddodiad y capel Cymreig yn asgwrn cefn i’r cwbl. Ar y cyfan albwm offerynnol yw hwn gyda’r gerddoriaeth yn gosod y naws. Mae’r offeryniaeth yn gryf gydag ystod gallu’r llinynwyr yn cael ei bwysleisio gan waith cymysgu Sam Humphreys. Defnyddir y llais fel offeryn achlysurol i ychwanegu dyfnder, plethir dau lais i greu sain ddirdynnol ar ‘Ffoles Llantrisant’ ac ymddangosa Beth Celyn ar ‘Cob Malltraeth’, sy’n gweddu’n hyfryd. Ceir naws hwyliog i’r caneuon sy’n annog ambell fflach o ddawns, felly mentrwch i’r byd gwerin... Aur Bleddyn Skin Shed Carw Rhywbeth bach mae’n ei gymryd weithiau i chi wirioni ar gân neu gasgliad. Alla’i ddim egluro pam yn

union ond unwaith y clywais i fill bach syml y drum machine ar ‘Lovers’, roeddwn i mewn cariad â Skin Shed. Mae’r curiadau caredig, tincian ysgafn dolenni’r gitâr a synau hudol ailadroddus y synth yn cyfuno i greu casgliad o bop electro didramgwydd. Yn gorwedd yn gysurus ar blanced honno o sain melys y mae llais digamsyniol Carw, neu Owain Griffiths i roi iddo’i enw iawn. Ceir un o’r enghreifftiau gorau o’r llais hiraethus hwn yn adleisio trwy ‘Y Galon Hon’. Mae rhyw naws 80au yn perthyn i’r cwbl, yn enwedig felly yng nghuriadau bas ‘Meirw’ a riff herciog y synth ar ‘Trac 3’. Camp Carw ar Skin Shed yw creu cyfres o ganeuon sydd yn swnio’n syml er eu bod yn llawn haenau o sain. Ac yn hynny o beth, mae ‘Asennau’ yn glo teilwng iawn i’r albwm, yn adeiladu fesul haen nes creu puff pastry blasus o electronica lo-fi. Gwilym Dwyfor Megadoze R. Seiliog Bydd Magadoze fel mana o’r nefoedd i ffans R.Seiliog ond go brin y gwnaiff yr albwm newydd hwn roi gormod o droëdigaethau cerddorol i’r rhai nad ydynt eisoes yn or hoff o gerddoriaeth minimalistig ailadroddus y cynhyrchydd electroneg. Yn ffodus i mi, dwi’n perthyn i’r garfan gyntaf felly dwi’n ddigon hapus! Mae’r sain yn hypnotig ac atmosfferig ac yn dolennu’n ddiymdrech o un bar i’r llall yn ôl ei arfer gyda chymorth y curiadau metronomig. Yn wir, mae’r cwbl yn

Oesoedd - Mr Cyfaddefiad cyn dechrau – dwi’n ffan o’r mwyafrif o waith blaenorol Mark Roberts. Does dim angen sôn am ei ddau fand cyntaf, ond mae Oes gan Y Ffyrc o 2006 hefyd yn un o fy hoff albyms o’r 20 mlynedd diwethaf. Yr unig ofid wrth lwytho CD Oesoedd i’r peiriant oedd mai dyma’r tro cyntaf i Mark weithio’n gyfan gwbl ar ben ei hun, gan gynnwys y gwaith cynhyrchu. Er hynny, ro’n i’n disgwyl casgliad o safon. Yr hyn do’n i ddim yn ddisgwyl oedd yr amrywiaeth o arddulliau cerddorol sydd ar y casgliad yma – mae’r sŵn yn mynd i sawl cyfeiriad annisgwyl. Mae ‘na gyffyrddiadau electronig, roc indî, baledi dirdynnol a hyd yn oed bach o bluegrass wedi’i daflu mewn. ‘Y Pwysau’ ydy’r sengl a ryddhawyd ymlaen llaw, a hawdd gweld pam gyda’r riff gitâr cofiadwy a newid cywair fyddai’n eistedd yn gyfforddus ar International Velvet. Gydag amser dwi’n credu bydd y teitl drac yn dod yn ffefryn ar y tonfeddi hefyd – cân syml, gydag adeiladwaith sy’n nodweddiadol o gyfansoddi Mark. Mae ‘Bachgen’ hefyd yn diwn gofiadwy i gloi. Er hynny, efallai mai caneuon mwyaf trawiadol ar y casgliad ydy’r baledi ‘Hen Ffrind’ ac ‘Ifanc a Ffôl’ sy’n hiraethu am ieuenctid yn Nyffryn Conwy, tra bod ‘Chwith’ yn dywyll, lleddf a thorcalonnus. Efallai bod Oesoedd yn enw addas ar gyfer y albwm oherwydd bydd yn cymryd gwrandawiadau niferus i chi ddarganfod yr holl gyffyrddiadau bach clyfar sydd ar y casgliad, ond fyddwch chi’n sicr ddim yn diflasu ar y chwilota. Owain Schiavone


Gwnewch gais ar-lein heddiw! www.aber.ac.uk/ysgoloriaethau

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau gwerthfawr • Ysgoloriaethau Mynediad gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn, ynghyd â chynnig gostyngol. Dyddiad cau 18 Ionawr 2019. • Gwobrau Adrannol ar gyfer rhai cyrsiau. • Ysgoloriaethau ychwanegol ar gael am ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

23553-1018

• Ysgoloriaethau Cerddoriaeth a Chwaraeon hefyd ar gael.

NEWYDD I’R NADOLIG

Dyddiad cau Ysgoloriaeth Mynediad a Theilyngdod, ac Ysgoloriaeth Mynediad Cymraeg Proffesiynol: 15 Ionawr 2019 Dyddiad cau Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 5 Ionawr 2019 Dyddiad yr arholiad: 24 Ionawr 2019

£4.99 £39.99

YSGOLORIAETHAU PRIFYSGOL BANGOR

• YSGOLORIAETHAU MYNEDIAD A THEILYNGDOD (hyd at £3000) • YSGOLORIAETHAU’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL (hyd at £3000)

£6.99 £6.99

• YSGOLORIAETH MYNEDIAD CYMRAEG PROFFESIYNOL (£1000 noddir gan Lyreco)

• World-leading research (REF Am ffurflenni cais a gwybodaeth bellach 2014) â ni: cysylltwch

Llyfrau dros Gymru www.ylolfa.com

•Ff:Gold Award for / 01248 382005 01248 383561 E:‘outstanding marchnata@bangor.ac.uk G: www.bangor.ac.uk/ysgoloriaethau teaching’ (TEF


LLYFRAU A GWEFANNAU AR GYFER TGAU A SAFON UWCH Gwefan TGAU Daearyddiaeth www.tgaudaearyddiaeth.cymru

Gwefan Astudio’r Ddrama Crash www.dramacrash.cymru

24

Y SELAR

l!

Atebo n a g ateb Mae’r

Gwefan Llywodraeth a Gwleidyddiaeth www.gwleidyddiaeth.cymru

Ewch i atebol-siop.com am fwy o wybodaeth


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.