Y Selar - Mehefin 2018

Page 1

Rhif 53 // MEHEFIN // 2018

Iwan Huws rHodio ar ben ei hun

Y SELAR

1


DIWRNODAU AGORED 2018 Campws

Ar-lein

Dydd Mawrth 10 Gorffennaf

Dydd Mercher 5 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 15 Medi Dydd Sadwrn 13 Hydref Dydd Sadwrn 10 Tachwedd

Cofrestrwch heddiw: www.aber.ac.uk/diwrnodagored 01970 622065 diwrnodagored@aber.ac.uk

#YGorwelYnGalw #CaruAber

2018

PRIFYSGOL Y FLWYDDYN AR GYFER ANSAWDD DYSGU

22939-0418

CANLLAW PRIFYSGOLION DA


y Selar

cynnwys

Rhif 53 // Mehefin // 2018

Mellt

4

Golygyddol

Geid i’r Gwyliau

8

Sgwrs Sydyn - Candelas

10

Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir medd yr hen gân. Wel, wn i ddim am y gwcw, ond mae digon o gerddoriaeth newydd wych o gwmpas ar hyn o bryd. A gyda chymaint o wyliau, hen a newydd, i edrych ymlaen atynt dros y misoedd nesaf, fe fydd y gerddoriaeth honno i’w chlywed yn braf yn ein tir! Rhoddir sylw i dri o albyms mawr y gwanwyn yn y rhifyn hwn; casgliad hir ddisgwyliedig Mellt, record hir unigol gyntaf Iwan Huws a thrydydd albwm cewri’r sin, Candelas. A gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill yn paratoi i ryddhau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, mae 2018 eisoes yn argoeli i fod yn flwyddyn nodedig o ran cynnyrch. Ac wrth gwrs, ochr yn ochr â chynnyrch newydd cyffrous mae angen sin fyw ffyniannus, ac mae digon o brawf o honno yn ein canllaw gwyliau blynyddol. Mwynhewch yr haf bobl!

Iwan Huws

12

Ambell Atgof Anweledig

16

Darllen y Label - Côsh

18

Adolygiadau

20

Ti di clywed...Lewys

22

Llun clawr: Celf Calon

GWILYM DWYFOR

4

10

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Lois Gwenllian, Megan Tomos, Miriam Elin Jones, Bethan Williams, Aur Bleddyn, Ifan Prys

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


T L L ME YR UN ALBWM SYDD AR WEFUSAU PAWB AR HYN O BRYD YW MAE’N HAWDD PAN TI’N IFANC. RYDYM NI YMA YN Y SELAR HEFYD WEDI PROFI GWEFR YN GWRANDO AR RECORD NEWYDD MELLT FELLY RHAID OEDD GYRRU LOIS GWENLLIAN I’W HOLI. 4

Y SELAR


W

Lluniau: Celf Calon

rth gerdded i mewn i dafarn Four Elms, Caerdydd, rwy’n sganio’r ystafell yn chwilio am un o fandiau prysuraf Cymru, Mellt. Wedi imi gerdded rownd y dafarn ddwywaith a methu eu gweld dwi’n mynd i’r bar ac archebu Coca-Cola. Dewisaf sedd wrth fwrdd yng nghefn y dafarn a disgwyl i’r band gyrraedd. Ymhen ychydig funudau mae tri llanc ifanc yn ymddangos gyda pheint yr un yn eu llaw a smôc wedi’i rowlio yn barod rhwng bysedd dau ohonyn nhw. Rydym ni’n symud i’r ardd gwrw, ac mae’r ddwy sigarét yn cael eu tanio. Glyn, Ellis a Jacob yw Mellt. Ffurfiwyd y band yn Aberystwyth pan oedd Glyn ac Ellis ym mlwyddyn 7, a hynny fel Y Gwirfoddolwyr. “’Naethon ni newid e’ i Mellt achos doedd neb yn gallu gweud y Gwirfoddolwyr… ond ni dal yn cael yr un broblem nawr” eglura Ellis yn chwareus. Jacob (neu Jake fel maen nhw’n ei alw) yw’r aelod diweddaraf, mae o’n dod yn wreiddiol o Efrog Newydd. Pan benderfynodd cyn-aelodau’r band, Geraint a Gethin, adael yn fuan wedi rhyddhau’r EP, Cysgod Cyfarwydd yn 2014, fe gamodd Jacob i’r adwy ac fe ddysgodd Glyn ef i chwarae drymiau. Bythefnos yn ddiweddarach roedd o’n chwarae’i gig gyntaf. Bron fel eu bod nhw wedi ymarfer mae’r tri yn dweud “Doedd e’ ddim yn gig da iawn.” Bedair blynedd ers hynny maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc ar label JigCal. ‘Rebel’ yw prif sengl y casgliad hir ddisgwyliedig hwn o ddeg cân. Roedd Glyn wedi addo iddo’i hun y byddai sengl newydd allan erbyn iddo droi’n 21, ac fe ryddhawyd y trac hafaidd ar ddiwrnod ei benblwydd. Mae ’na wythnos ers i’r albwm gael ei ryddhau pan dwi’n sgwrsio efo’r hogia’, ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. A pha ffordd well i fesur ymateb na chwarae’n fyw? “Ni wedi cael penwythnos rili brysur,” meddai Glyn. “‘Naethon ni chwarae’n Clwb [Ifor Bach] nos Iau efo Los Blancos a Papur Wal, ac oedd hwnna’n nyts. Gig rili gwyllt gyda pobl yn dawnsio a cael lot o hwyl; ac roedd gweddill y gigs y penwythnos yna’r un peth. So mae’r ymateb wedi bod yn amazing.” Yn ogystal â Chlwb Ifor Bach, bu Mellt yn chwarae Neuadd Buddug yn Y Bala a’r Parrot, Caerfyrddin. Mi fuon nhw’n ôl i Aberystwyth yn gigio hefyd, fel y dywed Ellis. “Roedd hwnna’n rili cŵl achos oedd ffrindie ni gyd yno... o... a dad fi actually! Roedd e’n mosho lawr y ffrynt.” Wrth i’r tri chwerthin am yr atgof, mae Glyn yn parhau i egluro’r “emo dad-dancing”. “Mae tad Ellis yn rili dal. So oedden ni’n jyst yn gweld

pen yn mynd lan a lawr yn gwenu. Oedd e’n amazing.” Bu bron i bedair blynedd ers rhyddhau Cysgod Cyfarwydd, a Glyn sy’n egluro’r broses hir o gyfansoddi a chynhyrchu albwm? “Mae’n gasgliad o ganeuon ni wedi sgwennu ers i’r bois adael y band; rhwng pryd ’naeth Jake ymuno a phryd ’naethon ni symud i Gaerdydd. Dyna pam dwi’n meddwl fod Aberystwyth yn big thema trwy’r albwm, tyfu lan yn Aberystwyth a stwff fel’na. Felly, ie, mae am sut mae pethau’n hawdd pan ti’n ifanc.” Daw’r geiriau sy’n rhoi’r enw i’r albwm o’r trac olaf, ‘Glan Llyn’, cân sy’n archwilio’r syniad o adael cartref a sefyll ar dy draed dy hun, heb dy rieni i ofalu am bopeth. Recordiwyd yr albwm gyda Mei Gwynedd yn y Tyllgoed, ac mae’r tri’n egluro sut aethon nhw ati i recordio, gan wneud y drymiau’n gyntaf ac adeiladu’r caneuon nes gwneud ychydig o waith dybio yn y shed yn Aberystwyth. Rwy’n awyddus i wybod faint o fewnbwn a gawson nhw yn enwedig o ystyried fod Glyn yn astudio peirianneg sain. Mae’n egluro nad yw’r cwrs yn caniatáu iddo fod yn berfformiwr ar y prosiectau, ond fod bod yn rhan o’r ochr dechnegol yn rhywbeth mae o a gweddill y band yn bwriadu gwneud mwy ohono. “Ni’n dechre dysgu stwff, mae ’da ni syniadau. Ni’n hoffi getting involved ’da micsio. Ni’n dechre adeiladu stiwdio yn tŷ ni, felly’r plan yn y dyfodol yw gwneud cerddoriaeth, recordio bands a gwneud stiwdio bach ein hun kind of thing.” Mae’n amlwg eu bod nhw’n hoffi bod mewn stiwdio. Fe wnaethon nhw fwynhau recordio’r EP yn 2014, pan yn 16 oed a dydy swyn y stiwdio ddim wedi gwisgo’n denau. Disgrifia’r tri’r profiad gyda gwefr yn eu llygaid gan ddweud pethau fel ei fod yn “highlight of the year”, “magical weekends” a “lle cŵl gyda nice guitars a big amps”. Dydyn nhw ddim yn cymryd y profiad yn ganiataol, maen nhw wir eisiau gwneud yn dda a bod y band gorau’r gallen nhw fod. Cool Cymru 2 Un o’r pethau wnaeth i mi wenu wrth siarad gyda nhw oedd pan ofynnais i iddyn nhw ai dim ond y nhw oedd yn ysgrifennu’r caneuon. Fe ddywedon nhw “Ie, ond ni’n cael ’chydig o help gan brawd Glyn. Mae e’ wedi astudio Cymraeg, felly cyn i ni fynd i’r stiwdio, am bod ni ddim yn treiglo mor dda, mae e’n gwneud spot check o’r geirie a gwneud yn siŵr bod ni ddim yn dweud rhywbeth really weird.” Dwi’n impressed efo’r ymdrech, ac yn dweud hynny wrthyn nhw. Ychwanega Glyn, “Ni Y SELAR

5


wastad wedi bod yn fand Cymraeg, roedd ein caneuon cyntaf ni’n Gymraeg felly mae’n beth naturiol i ni ysgrifennu’n Gymraeg. Fi jyst yn lico hybu’r iaith. A fi’n credu fod y sin Gymraeg yn especially dda ar hyn o bryd ac rwy’ jyst yn falch i fod yn rhan ohono fe.” Wedyn mae Ellis yn nodi “Fi’n credu fod rhoi stwff mas yn Gymraeg nawr wedi troi’n rhywbeth ’bach mwy cŵl. Cool Cymru 2 fel mae Minty [o Minty’s Gig Guide to Cardiff] yn dweud.” Arweinia hyn ni i sôn am sut mae canu mewn iaith leiafrifol bellach yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. “Mae’n really cool fod stwff fel ’na yn digwydd, yn enwedig oherwydd yr holl beth gyda PRS, Eos a breindaliade. Dyle fe ddim effeithio ar wneud cerddoriaeth ond mae e’, ’chos mae pobl yn gorfod cael job arall. Ond mae rhai pobl wedi dweud ‘f**k it, fi’n gwneud be fi eisie’ a mae e’n peth really cool. Edrych ar band fel Adwaith, mae ‘Fel i fod’ wedi cael dros 80,000 o wrandawiade ar Spotify. Dydy hwnna ddim yn peth normal i gerddoriaeth Gymraeg.” Mae Ellis yn mynd â’r sgwrs yn ei blaen, “Gwenno hefyd, fi’n really lico’r albwm newydd [Le Kov]. Fi’n gwbod bod e’ ddim yn Gymraeg ond mae e’n really da. Ni’n massive fans o’r albwm, mae’i stwff hi wedi’u recordio a micsio’n anhygoel. Mae’r drums yn amazing, really nice drums.” Erbyn hyn, mae’r tri yn siarad ar draws ei gilydd ac mae’n anodd nodi pwy sy’n siarad. Gwych o beth yw gweld y tri ohonynt mor frwdfrydig a llawn cyffro am gerddoriaeth yng 6

Y SELAR

Nghymru ac mor falch i fod yn rhan o’r buzz. Derbyniodd Mellt nawdd gan Gorwelion ond eglura Ellis fod yr arian hwnnw dal heb ei gyffwrdd. “Ma’ hwnna i wneud English EP to be released on vinyl. Mae e’ dal yn account y band.” Maen nhw’n barod iawn i ddangos eu gwerthfawrogiad o gynlluniau o’r fath gan eu bod nhw wedi cael chwarae mewn sawl gŵyl yn sgil bod yn un o fandiau’r cynllun, gan gynnwys yr Eisteddfod, Gŵyl Rhif 6, Focus Wales, X Music a Gŵyl Gomedi Machynlleth. Ac eleni maen nhw’n mynd i fod ar lwyfan y cynllun gyda Serol Serol, Band Pres Llareggub a Chroma, ymhlith eraill ym Mhenwythnos Mwyaf Radio 1 ym Mharc Singleton, Abertawe. Dywedodd Jacob, “Mae’r bands sy’n involved yn hwnna’n really really cool bands, fel Chroma a Boy Azooga, felly mae’n big honour i gael bod yn rhan ohono fe.” O ran gwyliau eraill dros yr haf, maen nhw’n edrych ymlaen yn benodol at chwarae Maes B, ac nid yn unig oherwydd mai dyna brif gig Cymraeg yr haf i unrhyw fand. “Mae e’ yng Nghaerdydd blwyddyn yma, felly mae hynna’n rili cŵl ’chos byddwn ni’n gallu mynd gartre’ i gysgu yn gwely yn lle campio!” Mae fy Nghoca-Cola wedi’i yfed, ac mae mwg ail sigarét Jacob yn diflannu wrth iddo ei diffodd yn y blwch llwch. Dwi’n diolch iddynt a ffarwelio. Wrth gerdded yn ôl am fy nghar, alla i ddim peidio meddwl, er eu bod nhw’n gigio a recordio ers blynyddoedd bellach, mai dechrau Mellt yn unig yw hyn.


maesb.com

Tocynnau 0845 4090 700 neu maesb.com

Y SELAR

7


FFILIFFEST Pryd: 9 Mehefin Lle: Castell Caerffili Pris: Dydd am ddim. £5 gyda’r nos. Beth: Y Sybs, Ragsy, Nantgarw, Mabli Tudur a John Nicholas yn ystod y dydd. Ac am y tro cyntaf bydd gig nos eleni hefyd gyda’r Sybs, Wigwam, Mellt a Chroma.

GŴYL FACH Y FRO Pryd: 16 Mehefin Lle: Ynys y Barri Pris: Am ddim! Beth: Candelas, Alys Williams, Geraint Lövegreen a’r Enw Da, Al Lewis, Mabli Tudur, Fleur de Lys.

TAFWYL Pryd: 30 Mehefin – 1 Gorffennaf Lle: Castell Caerdydd Pris: Am ddim! Beth: Gyda thri llwyfan dros ddau ddiwrnod, mae rhywbeth at ddant pawb yn Ffair Tafwyl, sydd yn dychwelyd i’w chartref ysbrydol yn y Castell eleni. Ymddengys fod pawb sydd ddim mewn priodas neu rywbeth yn chwarae, gormod i enwi pawb felly dyma bigion. Mae uchafbwyntiau’r prif lwyfan yn cynnwys Adwaith, Omaloma a Chroma ar y dydd Sadwrn a Chowbois Rhos Botwnnog, Y Cledrau a Cadno ar y dydd Sul. Mae yna stwff digon difyr yr olwg yn mynd ymlaen yn Y ’Sgubor hefyd; Palenco, Lleuwen ac Alys Williams ar y dydd Sadwrn; Gai Toms, Tecwyn Ifan a Gareth Bonello ar y Sul. Yurt T yw’r trydydd llwyfan ac yno fe welwch chi Wigwam (ia, Wigwam mewn yurt), Y Sybs, Serol Serol, Ffracas, Eady

GŴYL CANOL DRE

Crawford, Beth Celyn, Los Blancos a Hyll dros y penwythnos. Ffair Tafwyl yw uchafbwynt yr wythnos ond bydd ambell beth cerddorol arall o ddiddordeb yn ystod wythnos hefyd; cyfle i greu erthyglau am fandiau’r brifddinas mewn sesiwn Wici Pop gyda chriw Wici Caerdydd a lansiad Arddangosfa Arloeswyr Pop Cymraeg Tony Charles. Tip y Selar: Ewch dros y ffordd i Nata & Co. am y “cacan ŵy experience” gorau erioed cyn mentro i mewn i’r castell. Ac nid Menter Caerdydd yw’r unig un sydd yn trefnu gŵyl…

GŴYL NÔL A MLA’N Pryd: 6-7 Gorffennaf Lle: Llangrannog Pris: Am ddim! Beth: Ceir cyfuniad da o’r hen a’r newydd yn yr ŵyl ddeuddydd hon ar arfordir Ceredigion. Y grŵp lleol, Ail Symudiad, fydd yn hedleinio’r nos Wener gyda chefnogaeth gan Y Cledrau, Los Blancos a Bwca. Dechreua’r 8

Y SELAR

Pryd: 14 Gorffennaf Lle: Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin Pris: Am ddim! Beth: Welsh Whisperer, Gwilym Bowen Rhys, Band Pres Llareggub, Huw Chiswell, Y Gwdihŵs a mwy.

PARTI PONTY Pryd: 14 Gorffennaf Lle: Parc Ynysangharad, Pontypridd Pris: Am ddim! Beth: Candelas, Fleur De Lys, Yr Oria, Alys Williams, Y Cledrau, Mei Gwynedd, Patrobas, Mellt, Kizzy Crawford, Mei Emrys, Bwncath, Ragsy, Iwcs

arlwy’n fuan ddydd Sadwrn gyda Mared Williams, Yr Hwntws a Welsh Whisperer yn perfformio yn y prynhawn. A bydd pethau’n poethi go iawn nos Sadwrn wrth i Omaloma, Patrobas, Lowri Evans, Y Niwl a Mei Gwynedd ffurfio lein-yp cryf i gefnogi neb llai nag uchafbwynt y penwythnos, Geraint Jarman. Tip y Selar: Ewch a chamera efo chi, dyma un o’r gwyliau â’r olygfa orau yng Nghymru.


SESIWN FAWR

Pryd: 20-22 Gorffennaf Lle: Y Sgwâr, Dolgellau Pris: £45 am docyn cynnar i’r penwythnos cyfan Beth: Yn driw i’w thraddodiad, bydd y Sesiwn yn cynnig y gymysgedd arferol o’r gorau o Gymru ynghyd ag ambell i artist rhyngwladol. Yn ogystal â grwpiau o Beriw (y wlad, nid y pentref ym Mhowys), Cernyw, Iwerddon a Gwlad y Basg, bydd rhai o fandiau ac artistiaid ifanc mwyaf

cyffrous Cymru’n perfformio; Hywel Pitts, Gwilym, Y Cledrau, Bwncath, Siddi, Patrobas ac Omaloma. Bydd digon o’r hen sdejars profiadol hefyd; Mr Phormula, DnA, Himyrs a’r Band, Gwyneth Glyn a Twm Morys, Geraint Lövegreen a’r Enw Da ac Ail Symudiad. Heb anghofio Anweledig wrth gwrs, yn ffresh o’i cymbac yn Car Gwyllt yr wythnos cynt. Tip y Selar: Peidiwch â gwneud dim byd byrbwyll yn Nolgellau, fel galw am etholiad cyffredinol.

CAR GWYLLT

GIGS CYMDEITHAS YR IAITH

Pryd: 4-11 Awst Lle: Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd Pris: £15 ar gyfer gigs Sadwrn, Mercher, Gwener a Sadwrn; £10 ar gyfer nos Lun, Mawrth ac Iau. Neu docyn wythnos am £85 Beth: Mae’r wobr am lein-yp mwyaf random y flwyddyn yn mynd i nos Sadwrn agoriadol gigs Cymdeithas (Bryn Fôn, Adwaith, Plant Duw) a’r wobr am y lein-yp mwyaf dibynadwy yn mynd i’r nos Sadwrn olaf (Geraint Jarman, Bob Delyn, Ffracas, Eädyth). Mae’r arlwy’n hynod gryf trwy gydol yr wythnos gyda Candelas, Yr Eira, Meic Stevens, Llwybr Llaethog a Gwenno’n hedleinio rhwng nos Sul a nos Wener. Mae’r nos Lun yn argoeli’n noson fach dda gyda Breichiau Hir, Cadno, Hyll a Wigwam - lein-yp sydd yn sgrechian Caerdydd mwy na mynd i’r “Arms Park am half o’ dark efo Mark”. Tip y Selar: Mae mis ers Tafwyl, mae’n amser am gacan ŵy arall, rownd y gornel.

Pryd: 14 Gorffennaf Lle: Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog Pris: £14.85 (Gwerth am arian anhygoel) Beth: Ailymddangosiad Anweledig sydd yn sicr o gael y sylw wrth i’r hen ŵyl hon ddychwelyd i’r calendr yn 2018, ond peidied ag anghofio un o fandiau chwedlonol arall yr ardal, Estella. Yn ogystal â’r arwyr lleol, mae rhai o fandiau mwyaf cyffrous y sin

MAES B

Pryd: Awst 8-11 Lle: Profiad Doctor Who, Bae Caerdydd Pris: Bachwch y Fargen Gynnar am y gwerth gorau am arian (£110 am y gigs a’r gwersylla am yr wythnos gyfan). Llu o opsiynau eraill hefyd, manylion llawn ar y wefan, maesb.com Beth: Gyda nifer o’r hedleinars mawr yn gorffwys yr haf yma, bydd hwn yn Faes B difyr. Band Pres Llareggub fydd yn cychwyn pethau ar y nos Fercher gyda chefnogaeth gan Y Cledrau, Cadno a Gwilym. Mae nos Iau yn edrych yn dda, gyda Yr Ods yn dychwelyd wedi tipyn o saib i hedleinio lein-yp gref;

ar hyn o bryd Adwaith, Pasta Hull, Papur Wal a Gwilym yn ymddangos. Yn cwblhau chwip o lein-yp bydd Y Reu, Breichiau Hir, Gwilym Bowen Rhys, Piwb, State of Mind, Yr Amgen, Faux Felix, Gwibdaith Hen Frân, I Fight Lions a Phil Gas a’r Band. Tip y Selar: Does wybod beth ddigwyddith wrth i Anweledig gamu i’r llwyfan felly byddwch yn barod!

HMS Morris, Omaloma a band mwyaf Doctor Whoaidd yr wythnos, Serol Serol. Nos Wener fydd y noson drymaf, gyda Los Blancos, Chroma a Mellt yn cefnogi un o ffefrynnau’r digwyddiad dros y blynyddoedd diweddar. Efallai bod Y Reu wedi bod yn gymharol ddistaw ers cwpl o flynyddoedd ond does dim dwywaith mai nhw yw un o fandiau byw gorau’r sin ac maen nhw wastad yn wych ym Maes B. Enillwyr Brwydr y Bandiau fydd yn agor y nos Sadwrn, gyda’r anhygoel Adwaith a Cpt. Smith yn dilyn. Cyfle mawr Yr Eira fydd hi wedi hynny, yn cael eu gwobrwyo am ryddhau un o albyms gorau’r 12 mis diwethaf gyda phrif slot yr wythnos ym Maes B. Tip y Selar: Peidiwch â phoeni os ydych chi’n amheus o’i olwg o, mae o’n fwy tu mewn.

Y SELAR Llun: Celf Calon

9


WEDI DOD DROS Y CYFFRO GWREIDDIOL O GLYWED BOD UN O BRIF FANDIAU’R SIN, CANDELAS, AR FIN RHYDDHAU EU TRYDYDD HALBWM, DOEDD DIM AMDANI OND SGWRS SYDYN GYDA PHRIF LEISYDD Y ROCARS O LANUWCHLLYN, OSIAN.

Sgwrs Sydyn Yr albwm newydd allan mis Mehefin, beth yw’r enw? Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? Lle a phryd fuoch chi’n recordio? Yn stiwdio Drwm, Llanllyfni, ers ’chydig dros flwyddyn ma’ siŵr. A chynhyrchu eich hunain eto? Ie. ’Da ni’n gneud pob dim ein hunain unwaith eto. Ma’ ’ne gymaint o pros & cons efo hynny ond oedden ni isio gorffen y trilogy o albyms ein hunain. Wedyn awn ni i arbrofi. Ar ba fformat fyddwch chi’n rhyddhau? Copi caled ac ar y we rhyw ben. Gan bo’ hwn yn albwm pwysig i ni, ’da ni isio’r gwaith celf a’r profiad o brynu’r albwm fod yn un arbennig. Beth yw hanes y gwaith celf felly? ‘Da ni wedi cael Angie Jay i ddylunio a Dafydd Owain i gysodi. ’Da ni mor gyffrous ond allai’m datgelu mwy. Beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Ych, do’n i ddim yn edrych ymlaen at y cwestiwn yma! Haha! Mi fydd pob dim yn fwy, trymach, mwy amrywiol a rhai mannau bach mwy cheesy (ond dwi’n sôn am gaws glas neu brie, dim ryw gaws meddal ti’n rhoi ar dy dôst). Daeth y ddwy record hir gyntaf, Candelas (2013) a Bodoli’n Ddistaw (2014) yn eithaf sydyn ar ôl ei gilydd 10

Y SELAR

ond bwlch hirach cyn hon, sut mae’r sŵn wedi datblygu? Achos bo’ fi’n rhan o’r band ma’ bob dim yn digwydd yn naturiol heb i mi sylwi. Ond ’da ni wedi bod yn gweithio lot ar sut ma’r dair gitâr yn gweithio hefo’i gilydd. Ma’n gallu bod yn anodd ffeindio lle i dair gitâr (a gitâr fas!) mewn cân. Gan dy fod di [Osian] ac Ifan yn rhedeg y stiwdio eich hunain, ydi llawer o gyfansoddi a datblygu’r caneuon yn ogystal â’r recordio yn digwydd yn Drwm? Pob cân yn amrywio. Ma’ ’ne rai wedi cael eu creu yn y stiwdio efo pawb yn cyfrannu. Caneuon eraill wedi cael eu creu adre gan unigolion yn eu hamser sbâr. O fy rhan i dwi’n licio cyfansoddi yn fy stiwdio i adre yn Llanuwchllyn. Am ryw reswm yn fanne dwi’n gweithio orau.

Fe wnaethoch chi ryddhau ‘Ddoe, Heddiw a ‘Fory’ fel sengl llynedd, fydd honno ar yr albwm? Bydd, hon ydi cân fwya poppy yr albwm dwi’n meddwl ac ma’ hi’n bont dda rhwng Bodoli’n Ddistaw a’r albwm newydd. Rydach chi wedi rhyddhau ‘Gan bo Fi’n Gallu’ fel tamaid i aros pryd, a fideo byw ohoni. Beth yw hanes y fideos byw? Achos maen nhw’n datblygu’n ychydig o trademark y stiwdio bellach. Syniad I KA CHING oedd o. Ma’ ’ne dipyn o artistiaid y label wedi dod draw i stiwdio Drwm i recordio rhai. Mae’r syniad wedi bod yn hedfan o gwmpas ers blynyddoedd. Yn fy marn i ma’n bwysig gneud fideos o’r fath achos ma’n dangos bandiau ‘go iawn’ os ti’n dallt be’ sgen’ai. ‘Llwytha’r Gwn’ gydag Alys Williams


HOFF ALBYMS I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau (braidd yn wirion) yma: Hoff albwm hyd yma yn 2018? Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc gan Mellt Hoff albwm gan fand yn dechrau gyda ‘C’? International Velvet gan Catatonia Hoff 3ydd albwm? Because of the Times gan Kings Of Leon

oedd un o ganeuon mawr yr albwm diwethaf ac rydych chi wedi awgrymu ar Twitter y bydd gwestai arbennig yn ymddangos eto, allwch chi ddatgelu mwy? Fel ddudish i ar y dechrau, ma’ ’ne lot o gyfrinachau am yr albwm yma... Pa fath o gerddoriaeth oeddech chi’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Pob math! Y rhai amlwg ydi albyms diweddaraf Queens of the Stone Age, The Last Shadow Puppets, Albert Hammond Jr. a White Denim. Dwi ’di gwirioni hefo albwm Andy Shauf, The Party. Ma’ Vulfpeck wastad ’mlaen yn y stiwdio ar ôl gorffen recordio ac ma’ 22, A Million jysd yn rhy dda gan Bon Iver. Oes rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Ma’ ’ne lot o Queens of the Stone Age i’w glywed ma’ siŵr hefo’r synau gitâr

ond fel arall dwi’n gobeithio bo’ ni ddim rhy debyg i neb. Oes gen ti hoff gân ar y casgliad? Gan bo’ ni heb gigio lot o’r caneuon eto, ma’n job deud. Dwi jysd yn edrych ‘mlaen gymaint i gal set newydd sbon yn fyw a gweld pa ganeuon fydd yn gweithio orau. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un ydach chi fwyaf balch ohoni? Oedd pob cân yn dipyn o sialens! ’Da ni wedi cydweithio lot mwy ar y caneuon y tro yma felly ma’ pob un wedi cymryd mwy o amser i’w creu. Ma’ cân ola’r albwm yn dipyn o ffefryn gan bawb dwi’n meddwl, sef ‘Put It On My Room’. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Gwesty moethus hefo’r person ti’n garu, gneud yn siŵr fod y baddon yn ddigon mawr i ddau a thaflu digon o

ddiodydd ar dab y ‘stafell. Oes yna lansiad swyddogol i fod? Mi fydd y lansiad yn yr home town of Bala yn Neuadd Buddug nes at ddiwedd Mehefin. Beth yw’r cynlluniau o ran gigio’r stwff newydd dros yr haf? Dim byd anarferol wedi ei gynllunio dros yr haf, dim ond gigio fel ffyliaid. Wedyn gobeithio gwneud taith swyddogol i hyrwyddo’r albwm yn nes at ddiwedd y flwyddyn. Pa mor hawdd fydd hi ail greu sŵn y record yn fyw? Ddim yn anodd iawn gobeithio achos wrth recordio ma’ chwarae’n fyw o hyd yng nghefn ein meddyliau. Os ’sa ni methu chwarae rhywbeth yn fyw, anaml ’sa’n mynd ar y record. Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Gewch. Chi. Werth. Eich. Pres. Y SELAR

11


Y Cowboi’n rhodio ar ben ei hun Wedi rhyddhau pedair record hir gyda Chowbois Rhos Botwnnog dros gyfnod o ddegawd, go brin fod cyfansoddwyr mwy toreithiog nag Iwan Huws yn y sin. Bellach, mae prif leisydd y band o Ben Llŷn wedi mentro ar ei liwt ei hun heb ei frodyr. Aeth Y Selar am sgwrs efo Iwan i drafod ei albwm unigol cyntaf, Pan Fydda Ni’n Symud.

Geiriau: Gwilym Dwyfor

Lluniau: Celf Calon

12

Y SELAR


Ar y cyfan, mae traed cerddorion Cymraeg ar y ddaear, a phur anaml fydda i’n gorfod delio â giamocs asiantiaid a rheolwr hunanbwysig. Pan es i gyfarfod Iwan Huws i drafod ei albwm newydd dros banad serch hynny, fe wnaeth o ddod â’i entourage efo fo – Now, ei fab 8 mis oed! Now, yn rhannol ac yn hollol ddealladwy, yw’r rheswm mai dim ond yn awr y mae ei dad yn rhyddhau ei record unigol gyntaf, Pan Fydda Ni’n Symud, a hynny ar ôl ei recordio bron i flwyddyn a hanner yn ôl. “Dwi wedi’i recordio hi ers mis Ionawr llynadd ac mae hynny’n gyfnod hir iawn i orfod byw efo recordings! ’Di heb fod mor ddrwg efo’r un yma deud gwir achos mi esh i mewn i’r stiwdio heb unrhyw ddemos a heb ymarfar dim byd o gwbl. Oherwydd hynny dwi wedi gallu byw efo’r caneuon am dros flwyddyn heb fynd yn hollol bored ohonyn nhw. Ond, o, mai’n braf eu cael nhw allan!” Mae prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog yn hen gyfarwydd â rhyddhau cerddoriaeth wrth gwrs, ond ar ôl pedair record hir gyda’r band, mae mentro ar ei liwt ei hun yn deimlad rhyfedd meddai. “Gan ’mod i wedi arfar gneud bob dim efo ’mrodyr a’n bod ni wedi rhannu’r cyfrifoldeb o redag yr holl sioe mae o’n od gneud fy hun. Ma’ ‘na lot betha’ do’n i ella ddim yn tynnu ’mhwysau efo nhw efo Cowbois. Fi sy’n sgwennu’r caneuon yn Cowbois ond dwi’m yn potshian llawar efo dim byd arall.” Gan mai Iwan sy’n ysgrifennu’r mwyafrif o ganeuon Cowbois pryn bynnag roeddwn yn awyddus i wybod beth oedd yr ysgogiad i ddechrau prosiect unigol. Oedd o’n rhywbeth yr oedd yn awyddus i’w wneud pryn bynnag neu’n rhywbeth a ddigwyddodd yn naturiol? “’Chydig bach o’r ddau,” ateba. “O’n i wastad wedi meddwl y bysan neis gneud wbath gwahanol ac oedd gen i ryw dair cân fysa ddim wedi gweithio efo Cowbois. O

ran y gweddill, nesh i jysd bwcio stiwdio a deud, ‘reit, dwi’n mynd i’w neud o’. Gesh i bres gan Gorwelion a jysd rhoi band at ei gilydd. Nath o ddigwydd reit sydyn unwaith nesh i benderfynu. Dwi wedi bod efo Cowbois ers dros ddeg mlynadd rŵan felly o’n i jysd isho gweld sut beth oedd gwneud wbath gwahanol am wn i.” Gwahanol o ran arddull oedd y caneuon gwreiddiol hynny, “mwy electronig a gwahanol iawn i’r hyn fysa rhywun yn ei ddisgwyl ar record Cowbois.” Yna, ar ôl sefydlu y byddai’r rheiny’n sail i gasgliad unigol fe ddechreuodd Iwan arbrofi mwy o ran y geiriau hefyd. “Mi fedrish i arbrofi mwy efo fy llais i o ran sgwennu ar hon, a oedd yn ofnadwy o braf. O’n i wedi dechra’ chwara’ efo newid arddull ar record dwytha Cowbois [IV]. O’n i wedi bod yn sgwennu petha’ reit gyffesol cyn hynny ac oedd hi’n mynd yn anodd parhau i wneud hynny, mae o’n mynd yn boring i bobl! Felly o’n i jysd isho chenj, o’n i wedi laru. “Mae’r albwm yma’n estyniad o hynny i radda’, mae o’n dilyn thema, yn concept album am deithio, twristiaeth a phobl yn symud. Mi nes i roi dipyn o ryddid i’n hun i sgwennu mewn arddulliau cwbl wahanol, a nes i joio’n ofnadwy! A phan fydd Cowbois yn gneud record newydd dwi’n siŵr y bydd y profiad yma’n bwydo nôl i mewn i hynny.” Mater o “logistics” oedd y bwlch hir rhwng recordio a rhyddhau ac nid yw’n rhywbeth y byddai Iwan yn ei argymell. “Dydw i ddim yn meddwl bod gadael bwlch mor hir yn beth iach iawn. Os ti’n ista ar record, yr hyn dwi’n ei ffendio ydi ei bod hi’n ofnadwy o anodd parhau i sgwennu dim byd arall. Ma’ rhywun yn tawelu o ran sgwennu gan fod yna rwbath arall ddim cweit wedi ei orffan.” Gan ei fod o’n hen gyfarwydd â’r caneuon erbyn hyn dwi’n awgrymu wrth Iwan mai’r peth mwyaf cyffrous am gael y caneuon allan o’r diwedd fydd clywed ymateb eraill, ond mae’n anghytuno. “Dwi erioed wedi talu gormod o sylw i ymateb pobl eraill, dwi’n ei wneud o ar fy nghyfar i. Y peth mwya’ cyffrous i mi ydi mod i’n cael dechra sgwennu’r nesa’! Os ti’n mynd i ddechra’ poeni am betha’ fel’na mae o’n ddiddiwadd. Mae’n haws jysd peidio â meddwl am y peth. Cyn bellad fy mod i’n hapus a’i fod o’n cyrraedd fy safonau i, dwi’n hapus.”

Y SELAR

13


Teithio

Mae’r cysyniad o deithio yn llinyn cadarn trwy’r casgliad ac yn rhoi ymdeimlad cryf o gyfanwaith iddo. “Mi nes i briodi mis Mai ddwy flynadd yn ôl a bryd hynny ro’n i wedi sgwennu ‘Guano’ ond fawr o ddim byd arall. Wedyn mi aethon ni ar ein mis mêl a nes i sgwennu lot yn y cyfnod hwnnw. Nes i sylwi ’mod i wedi ’sgwennu dipyn o lyrics ar y thema honno felly dyna oedd egin yr albwm.” Yn aml, mae naws eithaf unig yn perthyn i gelfyddyd teithio, boed yn llên teithio neu’n ganeuon. Ond cyd-deithio yw thema’r albwm hwn mewn gwirionedd, “Pan fydda ni’n symud, ’da ni’m yn symud ar wahân...” yw geiriau agoriadol y teitl-drac. Llwydda Iwan i droi’r thema unig yn un cariadus Y gyd-deithwraig dan sylw wrth gwrs yw gwraig Iwan, Georgia Ruth, ac mae hi’n un o’r cerddorion talentog ar y record. Ac er ein bod yn cyfeirio at yr albwm fel un unigol, roedd gan Iwan fand yn y stiwdio, ond ei fod o’n fand gwahanol i’r un y mae’n arfer gweithio â hwy.

“’Odd o’n braf achos mae band gwahanol yn newid y chwara’, yn enwedig dryms. Ma’ Gwion [Llewelyn (Yr Ods, Villagers)] yn chwara’n wahanol iawn i Dafydd, mae pob un drymar dwi erioed wedi chwara efo nhw’n wahanol iawn i’w gilydd a nhw’n sy’n cael y mwyaf o effaith ar sut mae record yn swnio, ac yn teimlo. “O’n i’n ffendio fy hun mewn sefyllfa yn y stiwdio lle’r oedd gen i fwy o bŵar nag o’n i wedi arfar ag o. Ac es i’n wyllt! Nes i ddim go iawn. O’n i’n gofyn cyngor yn amlach gan fy mod i’n teimlo yn fwy noeth ella. Mi nes i amgylchynu fy hun efo cerddorion ofnadwy o dda ac efo Marta [Salogni, y cynhyrchydd]


sydd yn anhygoel o dda. Dyna’r tric efo gneud record dwi’n meddwl, amgylchynu dy hun efo pobl sy’n well na chdi ac mi wnân nhw guddio dy ffaeleddau di.” Yn ymuno â Georgia a Gwion i gwblhau’r “3G’s” fel y gwnes i eu bedyddio nhw y mae Gavin Fitzjohn (Paolo Nutini, Barry Horns), arbennigwr offerynau pres a alluogodd Iwan i fynd â’i gerddoriaeth i gyfeiriad cwbl ddieithr iddo cyn hynny. “Dwi’m yn meddwl bod Cowbois erioed wedi recordio dim byd efo pres. Do’n i’m ’di meddwl cael tro yma chwaith ond dwi’n ffrindia efo Gavin felly dyma feddwl byswn i’n wirion peidio gofyn iddo fo chwara ar y record, mae o gystal chwaraewr.” Roedd hi’n bwysig i Iwan gael “clean break i raddau” o Cowbois a “deud reit, ma’ hwn yn brosiect gwahanol.” A llwyddodd i wneud hynny ond cadw’r cydbwysedd o deimlo’n gyfforddus ar yr un pryd. “Ro’n i wedi gweithio efo Marta yn y stiwdio yna ar albwm Georgia flwyddyn union ynghynt felly ro’n i’n gwybod bod hynny’n gweithio,” eglura. “A dwi’n ffrindia efo Gwion a Gavin ac yn briod efo Georgia felly oedd o dal yn brofiad reit gysurus efo pobol o’n i’n eu nabod ac yn eu trystio.” Mae gan Marta CV eithaf nodedig sydd yn cynnwys The xx, FKA Twigs a Django Django. Yn wir, cyn i ni roi’r bai i gyd ar Now, fe wnaeth un o gleientiaid byd enwog Marta

achosi oedi yn y broses o ryddhau Pan Fydda Ni’n Symud, fel yr eglura Iwan gyda gwên. “Oedd o’n dipyn o beth, ond mi wnaeth Björk beri i fy albwm i fod ’bach yn hwyr deud gwir! O’n i’n holi Marta am ryw mixes a mi ddudodd hi, ‘sori, ma’ Björk isho hyn a hyn...’. Wel damia chdi Björk medda finna!”

Y sŵn

Mae’r sŵn a grëwyd gyda Marta’n blethiad o synau traddodiadol (piano, organ, recorder) a synau electronig mwy arbrofol, rhywbeth a achosodd gryn benbleth i Iwan wrth geisio rhoi trefn ar y casgliad. “’Odd y cwbl yn gneud sens yn fy mhen i gan fod y caneuon i gyd ar yr un thema ond pan ddaeth hi at greu track listing roedd hi’n amhosib eu rhoi nhw mewn trefn. Ges i draffarth ond ma’ hi jysd abowt yn gweithio rŵan dwi’n meddwl, er ei bod hi’n neidio o un lle i’r llall. Mae rhoi trefn ar albwm yn grefft, ac yn grefft nag ydw i’n dda iawn yn ei gwneud!” Bydd yr amrywiol arddulliau yn her i Iwan wrth chwarae’r caneuon yn fyw hefyd siŵr o fod. Mae o wedi gigio dipyn o’r stwff ar ei ben ei hun yn barod ond perfformio gyda band llawn yw’r bwriad. “Mae’n anhebygol y bydd o’r un band [â’r stiwdio] achos fysan ni angan rhywun i warchod! Dwi heb drefnu’n union pwy eto ond yn sicr mi fydd gen i fand erbyn y Steddfod, mae gen i gytundebau sydd yn ddibynnol ar hynny! Dwi’n chwarae ar Lwyfan y Maes, Tŷ Gwerin am ryw reswm (gawn ni weld sut eith honna) a Chaffi Maes B. Dwi’n gobeithio unwaith y byddan ni wedi cael band at ei gilydd ac wedi ymarfer ac ati y bydd hi’n haws trefnu gigs eraill.” Yn ogystal â gigio, mae’r awen yn taro ers i aelod diweddaraf y teulu gyrraedd felly mae Iwan yn awyddus i barhau i ysgrifennu hefyd. “Ers i’r dyn bach yma gyrraedd dwi wedi bod yn teimlo’n ofnadwy o greadigol, ma’ ’na ryw ysfa wedi bod yn’ai i sgwennu. Dim caneuon gymaint ond llyfra’ hefyd. Gobeithio y bydd o’n falch ohona’i ydw i dwi’n meddwl. O ran y dyfodol, fyswn i’m yn synnu os fyswn i’n gweithio ar wbath unigol arall a Cowbois ochr yn ochr, gawn ni weld.” Dwi’n siŵr y bydd Now (sydd wedi ymddwyn yn rhyfeddol trwy gydol y cyfweliad gyda llaw) yn hynod falch o’i dad. Mae Iwan Huws yn prysur ddatblygu portffolio arbennig o ganeuon, boed hynny gyda’i frodyr yn Cowbois Rhos Botwnnog neu’n rhodio ar ei ben ei hun. Un peth sy’n sicr, at beth bynnag y bydd Iwan yn symud nesaf, bydd graen a balchder yn perthyn iddo. Y SELAR

15


Dewi Prysor

Y Ring yn Llanfrothen oedd hi. Tua dechrau 1997. Roedd hi’n bnawn dydd Sul, a ro’n i’n tripio ar asid. Cariodd curiadau’r miwsig fi i mewn i’r dafarn, yn syth heibio’r bar ac i ganol y llawr lle’r oedd band ifanc o Stiniog yn chwarae miwsig gwych a chyffrous. ‘Madarchol’ oedd y gân, dwi’n cofio hynny (mae hi’n dal i fod yn ffefryn i fi hyd heddiw). Dwi hefyd yn cofio bod yna lot o bobol yno, ond eu bod nhw i gyd yn ista wrth y byrddau. Newidiodd hynny pan fownsiais i flaen y llwyfan. Dyma’r tro cynta’ i mi ddod ar draws Anweledig. Roeddan nhw’n un o’r bandiau byw gorau i mi weld ers tro – os nad y gorau erioed. Dyma’r diwrnod wnes i hwrjio fy hun fel manijar arnyn nhw, a chychwyn cyfeillgarwch agos sydd wedi parhâu hyd heddiw. Rhwng hynny a rhyddhau Sombreros Yn Y Glaw yn 1998 ro’n i efo’r band ymhob gig ar draws y wlad, ond bod yr atgofion wedi uno yn un cyfres o fflashbacs yn nofio mewn bowlan o sŵp. Ymysg fy ngoreuon personol oedd gigs y Seithfed Llawr, sef y llawr

cymunedol hanner ffordd i fyny tower block preswyl stiwdants Coleg Harlech. Roedd gan undeb y myfyrwyr gyllideb adloniant eitha’ iach a wnes i lwyddo i gael Anweledig yno, ac er nad oedd y rhan fwyaf yn dallt gair o Gymraeg mi ddawnsiodd pawb fel ynfytyns chwyslyd mewn cwmwl tew o fwg scync drwy’r nos. Doedd dim problam cael y band yno eto, a’r un fath fyddai’r derbyniad bob tro gan gymysgedd lliwgar o bobl o Blaenau a Bolton, Port Talbot a Preston, a Gwyddelod o Ddulyn, Cork, Derry, Newry ac Armagh, hogia’ du a Moroccans o Moss Side a St Albans, pobl hoyw a strêt, artistiaid ac adicts ac alcoholics, i gyd yn bownsio i’r psych-funk-affro-rock-ska-reggaedub Cymraeg. Trên gwyllt llawn hwyl oedd y cyfnod hwnnw. Wedi i mi gamu oddi arno yn 1998 aeth Anweledig o nerth i nerth. Ond tra’r o’n i ar yr ‘Anweledig Express’ trodd fy mywyd yn un positif, hapus a chreadigol. Nid yn unig hynny, erbyn i mi neidio i ffwrdd roeddwn yn dad! Mae gan Anweledig ran allweddol yn y stori honno; roedd y band yn chwarae Roc y Cnapan 1997, a

minnau’n dreifio’r bws mini, a nes i gwrdd â ffrindiau coleg (Aber) Gai Toms. Yn eu plith roedd Rhian Medi. Mae Rhian a minnau’n dal efo’n gilydd heddiw, ac yn rhieni i dri o hogia. Yn 1999, a’r ddau fab hynaf wedi cyrraedd y byd, nathon ni briodi. Roedd y parti mewn sied ar fferm fy nhad yng Nghwm Prysor. Roedd cannoedd o bobol yno. Llond cae o bebyll, ceir yn y gwair ac ieir ar y dancefloor. Geraint Lövgreen a’r Enw Da, y Tystion, ac Anweledig yn barnstormio tan y wawr.

Ambell

f o g t A

16

g i d e l e w n A Y SELAR

dd ar ig. Bum mlyne gosiad Anweled an dd m ly w ai welyd i ch arae awr yr haf yw tiniog yn dych es Ff Newyddion m o iw cr y ar fio gyntaf bydd ar eu hanterth hugain ers ffur Roedd y band r. w Fa y EP n w dw si , m Se u albw Gwyllt a yn rhyddhau da , yng Ngŵyl Car au 0 0 un 20 r yn u’ h a’i gwnaet 0au a dechra dio Anweledig iw ddiwedd y 199 st ch yr ol nn w anfarw . lau. Ond nid cy h, eu sioeau by ac tr hy a chwpl o seng Yn h. laet bell atgof. icaf eu cenhed i gofio, dyma am o fandiau pwys nc ifa y rh yn onoch sydd Felly, i’r rhai oh


Ceri Phillips

Y tro cyntaf i mi weld Anweledig yn fyw oedd ym Miri Madog, 2001! Roedd hi’n tresho bwrw glaw os rwy’n cofio’n iawn… dweud y gwir does gen i fawr o gof gweld y bandiau eraill, er dwi’n eithaf sicr bod y bws o Lanrwst wedi mynd yno’n unswydd i weld Maharishi! Wps! Ond er gwaetha’r diffyg cofio cyffredinol, dwi yn cofio gweld Anweledig. Y chwys, y cwrw a’r gwydrau plastig yn cael eu lluchio i’r awyr a phawb yn dawnsio’n hollol nyts! Rwy’n cofio ceg Ceri Cunnington yn bloeddio i mewn i’r meic a’i goesau’n dawnsio yn ei siorts tri chwarter! Er yn hogan fach, dwi wedi bod yn eitha’ obsessed efo reggae, yn bennaf achos ei fod o’n fiwsig y gallwch chi ddawnsio iddo hyd yn oed os nad ydych chi’n ddawnsiwr o fri! Ond hefyd, achos ei fod o’n deip o gerddoriaeth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus! Cyn Miri Madog 2001, doeddwn i ond wedi gwrando ar fiwsig reggae a gypsy-punk yn y car neu ar y radio. Felly, rwy’n cofio’r teimlad o gael clywed y math yma o gerddoriaeth yn fyw yn fy iaith fy hun a theimlo’n

Hefin Jones

Canol y nawdegau. Roedd “Cŵl Cymru” yn dod â ’chydig o Gymraeg i Radio 1 ond, gyda bandiau’r nawdegau cynnar wedi diflannu, roedd trefnwyr yn stryffaglu a chynulleidfaoedd yn lleihau. Wrth i Gymru gael ei rhoi “ar y map”, roedd llefydd ar y map, o sgrolio i mewn, yn troi’n ddiflas. Oedd, roedd digon o fandiau gwych fel Melys, Tystion a Jecsyn Ffeif hefo’i ffans triw ond neb yn torri trwyddo i roi hyder i’r rhai oedd yn rhoi eu harian i ddenu’r miloedd oddi ar y strydoedd, y gwrandawyr achlysurol. Yna fe ddaethant. Eu caneuon wedi bod ar y radio, ’chydig o stŵr wedi bod yn eu cylch, ond y fideo o’r trac ‘Eisteddfod’ a oedd wedi cynhyrfu pobl, yn drybowndian o hwyl. Ac mae hwyl yn denu. Mi welodd Maes B Eisteddfod

hollol hapus, bron yn anweledig! A dyna beth oedd Anweledig yn ei wneud, gwneud i chi deimlo’n hapus! Gwneud i chi ddawnsio’n wyllt wrth yfed seidr rhad efo blackcurrant cordial ac anghofio am eich arholiadau lefel A, TGAU a’ch cariad, crush neu snog cyntaf! Y tro olaf i mi weld Anweledig oedd ym Miri Madog eto, ond yn 2005. Yr un profiad! Pan gyhoeddodd Anweledig ei bod yn dod i ben, dwi’n cofio teimlo’n drist ond hefyd yn cofio meddwl, “Naaaa, mi fyddan nhw yn nôl ryw dro”…

Pencoed 1998 hynny wrth eu rhoi i gefnogi Jarman, miloedd yn neidio i’r set a mynd yn hollol sbar pan ddaeth hi’n amsar ‘Eisteddfod’. Roedd Anweledig wedi ei thorri hi. Ac yn hynny o beth mi roeson nhw fywyd i fwy nac un lle. Roedd gwyliau newydd yn codi flithdraphlith, yn sicr y byddai miloedd yn dod pe bai un ai Big Leaves neu Anweledig yn hedleinio. Ac felly fuodd hi am flynyddoedd, y ddau fehemoth yn cyfnewid llwyfannau o flwyddyn i flwyddyn. Pen Draw’r Byd, Miri Madog, Nant Gwrtheyrn, Cae yn Nefyn, Wa Bala a Car Gwyllt i enwi’r rhai dwi’n eu cofio, a’r ychydig rhai sy’n dal i fynd ar ben hynny’n golygu fod ’na’m penwythnos distaw o Fai tan Hydref. Roedd Anweledig yn byw’r bywyd, ar ac oddi ar y llwyfan. Wrth chwarae roedd yr ymroddiad

yn 100%, hefo’r jiws hapus yn amharu ar yr ymdrech weithiau. Ar lwyfan y Sesiwn Fawr unwaith mi dorodd cân i lawr ar ei chanol, y drymiwr gwelw yn rhy hyngofyr i fedru cadw’r bît cyflym. Munud bach o orffwys a nôl iddi. Mi fethodd Ceri ag yngan gair drwy un set yn Aberystwyth ac roedd rhaid i Gai ganu. Ond, chwarae teg, 99% o’r amser roedd y ffryntman yn enghraifft berffaith o’r creadur penodol hwnnw, fel yr oedd un eu reifals mawr, Big Leaves. Roedd eu hwyl, ysbryd, carisma a’r llais ‘hoelio sylw’ yna’n fformiwla berffaith i atgyfodi torfeydd y sin Gymraeg. Heb hedleinars fydda ’na ddim gwyliau, ac mae cyfraniad y grŵp yma yn y blynyddoedd llewyrchus hynny’n amhrisiadwy. Mi fydd y nostalgia’n bownsio’r haf yma. Y SELAR

17


AR Y CYMAL DIWEDDARAF O’N TAITH O AMGYLCH LABELI CYMRU RYDYM YN YMWELD Â CHWMNI RECORDIO A GAFODD EI SEFYDLU GYNTAF BRON I BYMTHEG MLYNEDD YN ÔL CYN PROFI ADFYWIAD DIWEDDAR. YR AMRYDDAWN, YWAIN GWYNEDD, FU’N EGLURO MWY WRTH Y SELAR.

ENW: Côsh DYDDIAD SEFYDLU: 2004 SEFYDLWYR/ PERCHNOGION: Aelodau

Frizbee, Jason Hughes, Owain Jones ac Ywain Gwynedd LLEOLIAD: Bethel, Caernarfon ARTISTIAID: Frizbee, Yws Gwynedd, Sorela, Delw, Mei Emrys, Gwilym, Lewys, Rhys Gwynfor, I Fight Lions

LEIGH JONES Does dim ond rhaid darllen tudalennau’r Selar i weld fod cerddoriaeth Gymraeg yn mwynhau oes aur ar hyn o bryd. Mae cerddoriaeth Gymraeg o bob math yn mwynhau sylw a chlod haeddiannol yn ddiweddar. Yn fy swigen fach yn Llundain, un o’r rheini sydd wedi bod amlycaf ar flaen y gad, heb os, yw Gwenno. Ar ôl i’w halbwm, Y Dydd Olaf, godi ymwybyddiaeth o’r iaith y tu allan i Gymru, mae hi yn awr wedi rhyddhau albwm yn iaith arall ei magwraeth hi, sef Cernyweg. Ges i’r cyfle i weld Gwenno’n perfformio caneuon oddi ar Le Kov yn Llundain efo Omaloma yn ei chefnogi. Roedd gen i’r fraint o’u gweld nhw efo 18

Y SELAR

ffrind o Gernyw, sydd bellach wedi gadael Llundain ar ôl byw yma am dros ddegawd, a dychwelyd i’w phentref genedigol, St Just, rhyw bedair milltir i’r gogledd o Land’s End. Hynny yw, allai hi ddim bod ym mhellach i mewn i Gernyw heb iddi fod wedi ei magu yn y môr. Er hyn, doedd ganddi hi ddim ymwybyddiaeth o’r iaith Gernyweg. Fe deithiodd fy ffrind i Lundain yn arbennig i weld Gwenno’n perfformio wedi iddi glywed ‘Tir Ha Mor’ wythnos ynghynt ar fy argymhelliad i. Mae’n bosib nawr ei bod hi am fynd ati i ddysgu Cernyweg ei hunan wedi i Gwenno agor y drws yma yn ei dychymyg. Gall fod yn hawdd iawn i ni gymryd ein Cymreictod a’n diwylliant ni

yn ganiataol ar adegau, ond wedi gweld cymaint y mae albwm Gernyweg Gwenno wedi cyffroi fy ffrind i ddysgu’r iaith, rydw i wedi teimlo’n hynod o ysbrydoledig am botensial cerddoriaeth Gymraeg i agor drysau’r iaith i Gymry sydd ddim yn meddiannu ar yr iaith. Mae ymddangosiad diweddar Gwenno ar Later... with Jools Holland yn galonogol iawn yn hynny o beth. Fe ddysgodd llwyth o bobl y Gymraeg yn y 90au wedi iddyn nhw ei chlywed yng nghaneuon Gorky’s a’r Furries. Efo’r amryw helaeth o fandiau ac artistiaid sy’n ffynnu yng Nghymru ar hyn o bryd, dylai pawb fod yn siarad Cymraeg ym mhen degawd!


HANES

Sefydlwyd y label gan y band chwedlonol o’r 2000au, Frizbee, a’r unig swyddogaeth wreiddiol oedd rhyddhau eu cynnyrch eu hunain. “Roedd y band wedi gigio’n ddi-stop am flwyddyn rhwng 2003 a 2004,” cofia Yws. “Roedd gwerth albwm o ganeuon yn barod i’w recordio ond nad oedd unrhyw ddiddordeb gan

unrhyw un o’r labeli a oedd yn bodoli yn y cyfnod. Aeth y label ymlaen i ryddhau deunydd Frizbee i gyd, 3 albwm, 1 record fer a sengl ’Dolig! Wedi i Frizbee ddod i ben, ’chafodd dim ei ryddhau ar y label nes i fi benderfynu dechrau ’sgwennu cerddoriaeth eto a rhyddhau caneuon Yws Gwynedd. Gan nad ydi’r band yn perfformio yn 2018, roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n amser gwych i yrru bandiau eraill i’r stiwdio ar label Côsh, yn cynnwys rhai ifanc addawol fel Gwilym a Lewys.” UCHAFBWYNTIAU

Gyda’r gân a’r fideo wedi’u chwarae dros 200,000 gwaith yr un ar Spotify ac YouTube, ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd heb os nac oni bai yw llwyddiant mwyaf Recordiau Côsh hyd yma. Wedi dweud hynny, mae

llwyddiannau artistiaid eraill y label yn rhoi’r un boddhad i Yws. “Mae bod yn rhan o ddatblygiad bandiau ifanc wedi bod yn wych hefyd. Mae bod yn rhan o ryddhau’r sengl ‘Catalunya’ gan Gwilym wedi bod yn brofiad anhygoel, o glywed y gân am y tro cyntaf a gwybod ei bod hi’n arbennig, i glywed recordiad terfynol Rich Roberts a gwbod bod wbath arbennig wedi’i greu i gynnig cefnogaeth i ymgyrch y wlad am annibyniaeth.” AR Y GWEILL

Efallai na fydd o’n gigio ei hun eleni ond mae digon ar y gweill gan Côsh i gadw Yws yn brysur dros y misoedd nesaf. “Dros yr haf ma’ albwm yr un ar y ffordd gan Gwilym ac I Fight Lions (honno ar y cyd efo Syrcas) a senglau gan Rhys Gwynfor a Lewys. Mae Côsh yn gweithio ar ddeunydd gan gwpl o artistiaid eraill hefyd ond ’chydig yn fuan i gyhoeddi gan nad oes amserlen i ryddhau eto. Dwi ddim yn rhagweld cymryd llawer o artistiaid eraill ymlaen gan ei bod hi’n gallu mynd yn ddryslyd pan mae gormod ymlaen ond mae croeso i unrhyw un gysylltu am gyngor neu wybodaeth gyffredinol.” GWELEDIGAETH

BETH YW’R PETH GORAU AM REDEG LABEL?

“Fy hoff beth i’n bersonol ydi cael bod yn rhan o’r broses greu gydag artistiaid ifanc. Mae’n dda gweithio efo artistiaid hŷn hefyd, ond mae gweld y brwdfrydedd diniwed a’r cyffro gan y rhai sy’n recordio a rhyddhau am y tro cyntaf yn atgoffa fi o pan nes i gychwyn.”

O ran gweledigaeth tymor hir Côsh, does gan Yws ddim cynlluniau pendant ond mae’n hapus iawn gyda gwaith y label ar hyn o bryd ac yn bwriadu parhau â hynny. “Dwi’n mwynhau gweithio efo’r artistiaid ac yn teimlo fod yr hyn sy’n cael ei greu a’i ryddhau yn dda,” eglura. “Gyda dyfodiad Pyst, mae yna elfen o broffesiynoli wedi digwydd yn y sin ac mae’n dda bod o gwmpas i weld a bod yn rhan o hynna. Y cam nesaf ydi cynyddu’r niferoedd sy’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg drwy blatfformau ffrydio a chael cydnabyddiaeth gan y rhai mawr fel Spotify ac Apple Music drwy gael cefnogaeth eu rhestrau chwarae.” Clywch clywch.

@RCoshR facebook.com/ RecordiauCoshRecords

Y SELAR

19


adolygiadau Croesa’r Afon Y Trwbz Mae’r Trwbz wastad wedi plesio gyda’u cerddoriaeth wreiddiol a swynol, a tydi Croesa’r Afon ddim yn eithriad. Dyma EP digidol newydd gan y band o Ddyffryn Clwyd sy’n cynnig ychydig o roc a blues a synau penigamp. Mae teimlad o wirionedd a phersonoliaeth yn y geiriau y mae Mared Williams yn eu canu ar y traciau, sy’n eu gwneud nhw’n bleser gwrando arnynt. Dros riffs pwerus ac offeryniaeth anhygoel mae alawon hyfryd a chynnes yn llifo ar hyd traciau’r EP. Mae hi’n agor gyda ‘Cwsg ar y Stryd’, cân ysbrydol sy’n dangos gallu’r band i arbrofi’n gerddorol ac yn chwedlonol. Mae llais unigryw Mared yn syfrdanol ac yn cydweithio gyda chyfansoddiadau arbennig i greu llond llaw o draciau effeithiol. Mae’n EP sy’n profi bod gan soul a blues le yn yr SRG ac mae’n sicr yn gerddoriaeth fydd yn denu torf i’w fwynhau dros beint yn yr haul ar ddiwedd dydd. ‘Paid â Stopio’ sy’n cloi, sef cân fach fywiog a hwyliog, gydag ymddangosiad llais pwerus Jacob Elwy yn cynnig ongl llawer trymach o roc i’r casgliad. Dyma EP sydd yn llwyddo i arddangos gallu cerddorol y band a dwi’n annog pawb i’w wrando arni. Megan Tomos Pan Fydda Ni’n Symud Iwan Huws Dyma albwm sy’n wir cwestiynu pwrpas celf. A’i i gynulleidfa y mae artist yn cynhyrchu neu er mwyn rhyddhad personol? Os y dwethaf mae Iwan Huws, sy’n adnabyddus am ei gerddoriaeth hamddenol, ysgafn gyda Chowbois Rhos Botwnnog wedi llwyddo i greu cyfanwaith gonest o faterion dwys a theimladwy. Mae’n llwyddo i bigo cydwybod a’ch gwneud i deimlo’n anesmwyth wrth i’r drydedd gân newid cyweirnod yn ei chanol. Honno,

‘Pan fydda ni’n symud’ sy’n dwyn enw’r albwm sy’n sefyll allan i mi. Trafodir thema ddwys o ffoaduriaid a’r syniad fod bywyd yn well pan yn symud, drwy rythm pendant a synau hiraethus. Cawn ein cynnwys yn nhaith bywyd y cerddor mewn casgliad sy’n symud yn ei flaen ar dempo cyson. Amrywiai’r caneuon o Iwan a’r piano i ganeuon hir o synnau psychedelic adleisiol ‘Frances ‘45’. Braidd yn hir wyntog yw ‘Guano’ a rhaid cyfaddef cychwynais bendwmpian ond cyn pen dim cefais fy neffro gan seiren. Na, dim car heddlu ond synau anghyfforddus sacsoffon y gân olaf, ‘Lluniau’. Nid cerddoriaeth ymlaciol sydd yma, a ni fydd hon yn cael lle yn fy rhestr chwarae adolygu, ond bydd yn berffaith ar gyfer diwrnod anesmwyth y canlyniadau lefel A. Aur Bleddyn Llifo fel Oed Blodau Gwylltion Egyr Llifo Fel Oed, albwm cyntaf y ddeuawd Blodau Gwylltion, gyda ‘Marchlyn’, sy’n crisialu naws y casgliad o’r dechrau’n deg. Trac â’r offerynnau’n ysgafn a chwareus yn gefndir i storiwraig sy’n tynnu’r gwrandawyr i fyd arbennig Llifo Fel Oed. I fi, ‘Sarah’, â sŵn y môr yn sisial yn y cefndir, yn ddramatig ac yn diferu o dristwch, yw seren y casgliad. Mae’r clychau a’r lleisiau cefndirol yn iasol ac yn fy nghyfareddu’n llwyr. Tra bod y trac hwnnw’n dal môr tymhestlog yn ei halaw, mae ‘Dwylo Iesu Grist’ yn gynhesach, yn fwy Bob Delyn-aidd ei naws. Yr hyn sy’n gwneud yr albwm yn wirioneddol arbennig ac yn mynnu sylw rhywun fel fi sydd wedi arfer gloddesta ar albyms roc a phop yw llais Manon. Cana’n glir ac yn groch, ac mae’n ychwanegu cynhesrwydd hudolus at draciau ymddangosiadol syml, a bron y gallwch gau eich llygaid a’u dychmygu’n canu reit wrth eich ymyl wrth wrando ar yr albwm. Miriam Elin Jones

Mewn Darnau / Halen Breichiau Hir Fel caneuon eraill Breichiau Hir mae dau drac y sengl ddwbl yma’n llawn nodweddion genres pync, emo a roc trwm. Yr hyn sy’n sefyll mas yn holl ganeuon y band yw llais Steffan y prif leisydd. Mae’r setiau o linellau sy’n cael eu hailadrodd gyda dim ond bas, er yn dawelach ac addfwynach, yr un mor angerddol, llawn agwedd a her â’r gweiddi melodig. Mae adleisio llais Steffan ar ddechrau ‘Halen’ yn ategu’r elfen o wawdio ac ymosod, ac adeiladu ei lais yn canu dwy linell wahanol ar ben ei gilydd ar y diwedd eto’n dangos cyferbyniad gwych. Er mai’r un llais sydd yn canu, mae’r ansawdd mor wahanol. Nid dim ond llais Steffan sy’n daer chwaith, ond y sŵn yn ei gyfanrwydd. Mae ffrwydradau’r dryms rhwng melodi bas yn pwysleisio’r hyder herfeiddiol sy’n agosáu at fod yn ymosodol. Mae holl egni’r band a’u sŵn yn parhau nes i’r ddwy gân orffen yn eitha’ sydyn, ond yn daclus o derfynol, gan adael rhywun fel petai syched nad oedden nhw wedi sylwi arno wedi’i dorri. Bethan Williams

Rhwng y Môr a’r Mynydd Artistiaid Sesiynau Sbardun Teyrnged i’r cerddor a’r cyfansoddwr, y diweddar Alun “Sbardun” Huws yw’r casgliad amlgyfrannog hwn. Caneuon hen a newydd gan gyfeillion a cherddorion ifanc sydd wedi derbyn ei offerynnau. Mae teimlad cysurus braf yma, yn rhannol gan i’r caneuon gael eu perfformio’n wreiddiol ar Sesiwn Sbardun Radio Cymru, ac yn rhannol gan mai clasuron hen gyfarwydd Sbardun yw llawer ohonynt. Un o fy hoff ganeuon ar y casgliad yw ‘Dwi’m yn Licio’. Ro’n i’n ffansio fy hun yn dipyn o rebal yn gwrando ar fersiwn Sobin o hon pan yn


RHAID GWRANDO

hogyn bach ac er bod y geiriau wedi dyddio cryn dipyn erbyn heddiw, mae fersiwn reggae Magi Tudur yn rhoi bywyd newydd iddi. Yn ogystal â dehongliadau newydd o hen glasuron, ceir cyfansoddiadau newydd gan y cyfranwyr. Un o fy ffefrynnau o blith y rheiny yw ‘Au Revoir (Gadael Bordeaux)’, rhowch i mi eiriau Rhys Iorwerth a chân am yr Ewros a dwi’n hapus! Mae dau gyfraniad Bwncath yn haeddu mensh hefyd. Mi allwn i wrando ar lais Elidyr Glyn trwy’r dydd, boed hynny’n canu cover o ‘Coedwig ar Dân’ neu ei gyfansoddiad ei hun, ‘Curiad Y Dydd’, cân a enillodd iddo Dlws Sbardun yn 2016. Mae’r gân honno, fel y casgliad cyflawn yn deyrnged deilwng iawn. Gwilym Dwyfor Catalunya Gwilym Cwyn gyffredin gen i wrth adolygu sdwff artistiaid ifanc ydi bod eu geiriau nhw’n wael ac nad

Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc Mellt Ma’ gen i edmygedd mawr at Mellt, a hynny gan nad oes math o ffws yn perthyn iddynt. Ers rhyddhau EP Cysgod Cyfarwydd yn 2014, dyma griw o gerddorion sydd wedi profi eu gallu gyda’u melodïau oesol a’u geiriau graenus yn cyfuno i greu pync roc gonest a chofiadwy. Mae hir ddisgwyl wedi bod am eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, a ma’ o wir yn glincar. Bellach yn driawd, mae’r albwm yn adlewyrchu datblygiad cerddorol y band dros bedair blynedd. Er nad yw’r arddull yn ei hanfod wedi

oes ganddyn nhw ddim byd i’w ddweud. Tydi hynny’n sicr ddim yn wir am sengl ddiweddaraf Gwilym. Mae ‘Catalunya’ yn ddatganiad o gefnogaeth i’r wlad sydd wedi cael ei chachu arni gan Sbaen ac (mae arna’i ofn) yr Undeb Ewropeaidd. Yn hyn dwi’n licio amdani ydi ei bod hi’n gadarnhaol. Hawdd ydi mynd ar rant gwleidyddol (fel fi yn y paragraff blaenorol). Mae’n llawer anoddach ymdrin â phwnc fel hyn mewn modd positif ond dyna a wna Gwilym yn y serenâd yma. Yn arwynebol, gellir cymryd “seren yn y glas” fel cyfeiriad at faner mudiad annibyniaeth Catalunya, ac efallai fy mod i’n gor-ddehongli, ond dwi’n ei weld o fel delwedd o brotestiwr heddychlon yng nghanol heddlu hollol afresymol. Dwi’m yn or hoff o gynhyrchu perffaith ond mae o’n gweithio ar gyfer cerddoriaeth bop Gwilym a llais glân Ifan y prif leisydd. Mi fysa ychydig o cacerolazo wedi bod yn gyffyrddiad neis ond ar y cyfan, chwip o sengl. Gwilym Dwyfor

newid, y mae ymdeimlad llawer mwy clòs a phersonol yn perthyn i’r cynnyrch, gydag aeddfedrwydd yn atseinio. Maent wedi llwyddo, ynghyd â’u cynhyrchydd ffyddlon, Mei Gwynedd, i afael mewn sain cadarn sy’n cael ei drosglwyddo’n fyw gan y grŵp, sain sy’n cachu ar ben unrhyw backing track. O ganlyniad, dyma albwm sy’n berchen ar naws amrwd a byrlymus, ac sy’n adlewyrchu’r dylanwad a’r argraff y mae Glyn, Ellis a Jacob yn ei gael ar gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Dyma gasgliad sydd yn sefyll allan yng nghanol prysurdeb y sin. Maen nhw’n fand ar ben eu hunain, mae pobl yn eu hoffi nhw ac mae poblogrwydd caneuon megis ‘Ceg y Blaidd’ a ‘Tex’ yn brawf o hynny. Albwm y flwyddyn (hyd yn hyn). Ifan Prys

Llyncu Dŵr Yr Eira Yn dilyn llwyddiant Toddi llynedd, mae Yr Eira wedi rhyddhau addasiad Cymraeg o un o ganeuon mwyaf arwyddocaol yr albwm, ‘Rings Around Your Eyes’. Yn gwneud hynny, mae’r band yn cynnig naws amgenach i’r gân ar ei ffurf Gymraeg, ‘Llyncu Dŵr’, sy’n rhoi teimlad hollol newydd i’r riffs a’r offeryniaeth gyfarwydd. Mae ‘Llyncu Dŵr’ yn adeiladu ar ein hadnabyddiaeth o gerddoriaeth ysgafn a hwyliog Yr Eira drwy gynnig delwedd sydd ’bach yn fwy indie ac aeddfed. Mae’r trac yn ymlaciol a bachog a dwi’n gallu dychmygu torf yn cael eu plesio ganddi mewn gigs. Efallai bod lle i ddathlu nag ydi’n un o oreuon poblogaidd y band, ond mai’n sicr yn esiampl dda o allu’r band ac yn bleserus iawn i wrando arni. Megan Tomos


wed ...

i Ti d Cl

di Cly Ti

ed ... w y

PWY?

Cerddor ifanc o Ddolgellau yw Lewys Meredydd, mae’n ddwy ar bymtheg oed ac yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. “Ers oedran ifanc iawn mae cerddoriaeth wedi bod yn ddiddordeb mawr,” eglura. “Dechreuais gystadlu mewn eisteddfodau pan o’n i tua pedair oed, cyn dechrau gwrando ar fandiau megis Queen ac AC/ DC yn fy arddegau cynnar gan ddysgu pob nodyn i bob cân ar y gitâr. Erbyn hyn dwi’n chwarae gitâr, piano a’r drymiau; ac yn canu mewn arddulliau clasurol a chyfoes.” Yn gerddor amryddawn, buan iawn y daeth y gŵr ifanc at sylw un arall o feibion Meirionnydd. “Dechreuodd y prosiect yma pan yrrodd Yws [Gwynedd] o Côsh neges i mi mis Hydref dwytha’ yn gofyn os ’swn i’n licio rhyddhau cerddoriaeth o dan eu harweiniad. Wrth gwrs nes i gytuno, ac mae’r gefnogaeth dwi ’di gael ers hynny ’di bod yn class.” SŴN?

Pop Indie fyddai’r ffordd hawsaf i ddisgrifio cerddoriaeth Lewys ac mae ei sengl gyntaf, ‘Yn Fy Mhen’, yn enghraifft berffaith a safonol. Ond mae Lewys yn parhau i arbrofi hefyd. “Yn rhai o’r demos diweddaraf, mae ’na deimlad minimalaidd, a defnydd o arwyddion amser a rhythmau anarferol. Rhaid i mi gyfadda,’ wrth ganolbwyntio gymaint ar offeryniaeth y caneuon, dwi’n anghofio bod rhaid i mi ganu drostyn nhw weithiau!” DYLANWADAU?

Y band roc o Rydychen, Foals, yw’r

dylanwad mwyaf ar Lewys ar hyn o bryd, “dwi’n hoff iawn o’u sŵn cynnar yn enwedig,” meddai. Aiff ymlaen i restru llawer o fandiau roc ac indie eraill. “Dwi’n gwrando ar lot o fandiau math rock megis Toe a Don Caballero, a bandiau Indie fel Boy Pablo, Bombay Bicycle Club, a Palace. O ran cerddoriaeth Gymraeg, dwi’n ffan mawr o Sŵnami, Ysgol Sul, a Mellt.” HYD YN HYN?

“Oherwydd prinder caneuon wedi eu sgwennu (dwi’n cymryd oes yn anffodus!), does dim byd wedi digwydd o ran chwarae’n fyw eto,” eglura Lewys. Dim gigs efallai ond mae’r un sengl sydd wedi’i rhyddhau wedi bod yn llwyddiant. Daeth ‘Yn Fy Mhen’ allan ym mis Chwefror; mae’r fideo Ochr 1 wedi’i ddarlledu ar Hansh ac ymddangosodd y trac ar Mwy o Sgorio hefyd. “Mae’r sengl wedi cael ymateb da iawn ar Spotify ac ar y gorsafoedd radio, sydd wastad yn help!” AR Y GWEILL?

Sengl arall fydd y cam nesaf i Lewys. “Ma’r nesa’ wedi’i dewis a dwi ar fin sgwennu’r geiria’. Fyddwn ni wedi cael dyddiadau i fynd nôl i Stiwdio Ferlas

cyn bo hir.” Bydd ei gig gyntaf erioed yn dilyn yn Sesiwn Fawr Dolgellau. “Fydda i’n chwara’ peth o fy hen stwff oddi ar Soundcloud yn ogystal â’r stwff newydd swyddogol. Mae ’na fand wedi’i ffurfio ac mae’r set mwy neu lai wedi ei sortio. Gobeithio bydd ’na gigs eraill yn dilyn y Sesiwn!” UCHELGAIS?

Gobaith Lewys Meredydd yw astudio gradd mewn cerddoriaeth, parhau i ysgrifennu a chyfansoddi a gwneud bywoliaeth yn y byd cerdd. O ran y prosiect Lewys, “y gobaith yw rhyddhau sengl neu ddwy arall a gweithio tuag at albwm rywbryd o amgylch gwanwyn 2019. Dwi’n bwriadu gwneud yr albwm yn ddwyieithog, cwpl o ganeuon Saesneg ymysg y Cymraeg.” BARN Y SELAR

Bydd cymhariaethau ag un o allforion cerddorol mwyaf llwyddiannus Dolgellau, Sŵnami, yn anochel ac yn deg i raddau helaeth, mae tebygrwydd yn eu pop indie bachog. Ond y prif debygrwydd o bosib yw bod Lewys hefyd yn gerddor hynod dalentog o oedran ifanc iawn. Dyma’r math o brosiect unigol aml-offeryn y byddai rhywun yn ei gysylltu fel arfer â cherddor profiadol sydd wedi bwrw’i brentisiaeth mewn band. Mae dyfodol disglair o flaen Lewys yn y byd cerddoriaeth. Gwrandewch os yn ffan o... Yws Gwynedd, Yr Eira a Sŵnami


Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod ystafell reoli mawr – desg 56 sianel, system Pyramix – modd plygio i Pro Tools modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb (dry hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) offerynnau – hammond, yamaha grand piano, fender USA strat gitâr a yamaha gitâr fas telerau gofod ymarfer – £15 yr awr telerau dry hire – £175 y diwrnod + taw

Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer ffonau a dyfeisiadau symudol (iOS ac Android) ynghyd â fersiwn gwe

Tanysgrifiad misol : Sylfaenol £6 Premiwm £9 Mis o dreialu am ddim #chwyldroffrydio #tâlteg #cefnogiartistiaid www.apton.cymru apton@apton.cymru

Cofrestrwch ar y wefan am fis o dreial am ddim, rhaid cadarnhau’r cofrestriad trwy glicio ar ddolen mewn e-bost, yna lawrlwythwch yr ap i’ch ffôn neu ddyfais o’r AppStore neu’r PlayStore a mewngofnodi!

newydd

Beth am wrando ar gerddoriaeth Gymraeg drwy ap ar eIch ffôn?

01286 831.111

ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

– sion@sainwales.com – siwan@sainwales.com –

www.sainwales.com

CysylltwCh â sion neu siwan


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant AstudioYDDS y_drindod_dewi_sant

24

Y SELAR

www.ydds.ac.uk


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.