Y SELAR - MEHEFIN 2015

Page 1

Rhif 41 | Mehefin | 2015

HMS Morris y-selar.co.uk Chwalfa | Calfari | Band Pres Llareggub

1


Sain, Rasal, Gwymon a Copa AR Y CYD GYDA RASAL MIWSIG

Elin Fflur Lleuad Llawn

Albym newydd sbon gan y gantores sydd wedi sefydlu ei hun fel un o sêr y byd canu pop yng Nghymru

Plu Holl Anifeiliaid

15 cân ar thema anifeiliaid – casgliad o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol ac addasiadau o glasuron plant

Calan Dinas

Ffidlau, gitâr, acordion a thelyn – a’r cyfan yn ffrwydro wrth i Calan berfformio ar eu trydedd albym CYHOEDDI 01.06.15

I’w cyhoeddi’n fuan… Y Trw ˆ bz

Albym cyntaf enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Mentrau Iaith Cymru allan cyn hir ALLAN 25/05

SENGL NESA’ :

PATROBAS

Terfysg

Wedi bod yn stiwdio Sain yn recordio traciau newydd ar gyfer EP digidol ar label Copa

Ryland Teifi

Gweithio ar ddeunydd newydd ar gyfer albym ar label Gwymon, recordio yn Iwerddon gyda’r Clancys

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

stiwdioSAIN

Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? • stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw ac yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod • ystafell reoli mawr gyda system awyru a gofod ymlacio • digon o lefydd parcio gyda mynedfa cyfleus i’r stiwdio ar gyfer offer • defnydd o’r lolfa, cegin a chyfleusterau o fewn adeilad Sain • prisiau cystadleuol i logi’r stiwdio fel gofod ymarfer – £15 yr awr • modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb – (dry-hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) • pris yn cynnwys defnydd o’r offerynnau Am gyfnod penodol mae cynnig arbennig ar y prisiau llogi stiwdio heb beiriannydd – £150 y diwrnod neu £600 am 5 diwrnod. Croeso i chi daro ebost neu godi’r ffôn i drafod unrhyw ymholiad gyda Siwan neu Sion – siwan@sainwales.com / sion@sainwales.com 01286 831 111 www.facebook.com/stiwdiosainstudios


y Selar

cynnwys

RHIF 41 | MEHEFIN | 2015

Golygyddol Mae rhifyn Eisteddfod yr Urdd wastad yn un arbennig i ni yn Y Selar gan fod ein darllenwyr ifanc mor bwysig i ni. Gorau po gyntaf y caiff cerddoriaeth go iawn ei gyflwyno i glustiau ifanc, cyn iddynt gael eu llygru’n barhaol gan sbwriel masnachol Eingl Americanaidd. Gwych o beth felly oedd gweld cyfres gerddoriaeth newydd wedi ei hanelu at bobl ifanc yn dechrau ar S4C yn ddiweddar sef Ochr 2, chwaer raglen i Ochr 1. Efelychiadau diog o raglen S Club 7, yn gosod grwpiau gwneud mewn tai od oedd ar gael ar pan oeddwn i’n iau yn nyddiau Planed Plant. Mae dipyn mwy o sylwedd a hygrededd yn perthyn i Ochr 2. Y Ffug a Gwenno yn lle Cic a Max-N – dweud y cwbl! Cyd ddigwyddiad llwyr yw hi mai cyflwynydd y rhaglen newydd yw Heledd Watkins, prif leisydd band prif gyfweliad y rhifyn hwn, HMS Morris. Mwynhewch! Gwilym Dwyfor

7

9

Calfari

4

‘Ti di Clywed’... CPT Smith

7

Gwlad Beirdd a Chantorion

10

Trydar@BandPresLlareggub

11

HMS Morris

12

O glawr i glawr

16

‘Ti di Clywed’... Chwalfa

18

Taith SFA

19

Adolygiadau

20

Llun clawr: Gorwelion / Mary Wycherly

12

16

GOLYGYDD UWCH OLYGYDD

Gwilym Dwyfor Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA

Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com)

CYFRANWYR Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Lois Gwenllian, Cai Morgan, Miriam Elin Jones

yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Nid yw Calfari, band newydd o Ynys Môn a Bethesda, yn gwastraffu amser. Does fawr mwy na chwe mis ers iddynt ffurfio ond maent eisoes wedi bod yn y stiwdio ac wedi rhyddhau eu EP cyntaf. Pa amser gwell felly i Y Selar fynd am Sgwrs Sydyn efo Bryn o’r band.

CROESHOLI CALFARI Beth yw enw’r EP newydd? Nôl ac Ymlaen. A pham dewis yr enw hwnnw? Oherwydd ‘Nôl ac Ymlaen’ yw enw’r brif gân oddi ar yr EP. Lle fuoch chi wrthi’n recordio? Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth. Rich Roberts yn cynhyrchu felly? Ia, fo gynhyrchodd pob trac ar y casgliad. Mae ’na chwech ohonoch chi yn y band, faint o sialens oedd hi gyda phawb yn y stiwdio’r un pryd? Dipyn o sialens, rhannu stiwdio fach am oriau hir a chwe meddwl cerddorol i gyd gyda barn wahanol. Ac ar ba label fydd hi’n cael ei rhyddhau? Byddwn yn rhyddhau’r EP ein hunain, yn gwerthu CDs mewn gigs ac yn ei rhoi ar iTunes. Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Does dim un

4

y-selar.co.uk

penodol, roedd yr holl broses yn brofiad anhygoel. Er bod y band yn gweithio’n galed i roi’r traciau lawr, mae ’na bob tro hwyl i’w gael draw yn Ferlas efo Rich.

Calfari yn fath o stwff roeddwn o hyd eisiau ei ysgrifennu. Band pop roc oedd Y Cer, tra bod cerddoriaeth Calfari yn gyfuniad o roc, country a blues.

A’r cwestiwn pwysicaf, beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Pedair cân wahanol ond eto rhai sy’n debyg i’w gilydd. Er bod y sŵn o hyd yn nodweddiadol, mae’r traciau i gyd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r gwrandawyr. Nawn ni ddim dweud dim mwy!

Rydan ni’n gyfarwydd â dy chwaer, Elin Angharad, hefyd o Gân i Gymru eleni. Sut mae’r caneuon ar Nôl ac Ymlaen yn cymharu efo’r gân fuddugol, ‘Y Lleuad a’r Sêr’? Eto, byswn yn dweud bod caneuon Calfari yn wahanol. Arfon Wyn ysgrifennodd asgwrn cefn ‘Y Lleuad a’r Sêr’ ac wedyn nes i helpu i ddod a’r gân at ei gilydd gyda Rich Roberts ac Arfon yn y stiwdio. Mae’r band llawn yn ysgrifennu caneuon Calfari ac mae mwy o ddylanwad y chwe aelod ar y traciau o’r EP.

Pa fath o gerddoriaeth oeddech chi fel band yn gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Mae gan aelodau’r band ddylanwadau hollol wahanol, ond ’da ni gyd yn gwrando lot ar fandiau country a blues. Rwyt ti, Bryn, wedi bod mewn band o’r blaen, sut mae cerddoriaeth Calfari yn cymharu efo stwff Y Cer? Hollol wahanol yn fy marn i. Band ifanc a dibrofiad oedd Y Cer, ac er fy mod wedi mwynhau’r cyfnod hwnnw, mae stwff

Dyma’r peth cyntaf i chi ryddhau, pam dewis EP? EP oedd y dewis gorau i ni, gan ei fod o’n rhoi blas cyntaf o sŵn y band mewn pedair cân sydd yn wahanol ac yn apelio i bawb (gobeithio). Oedd y band yn teimlo bod angen cael ein caneuon allan i’n cynulleidfa cyn gynted ag oedden ni’n medru.


Ychydig dros chwech mis sydd yna ers i Calfari ddechrau, rydach chi wedi rhyddhau cynnyrch cyntaf yn barod, y busnes cyfansoddi yma’n hawdd ydi? Y fi a Tomos sydd wedi ysgrifennu’r caneuon ar yr EP. Fel arfer, ’da ni’n ysgrifennu’r gerddoriaeth a’r geiriau ac yna’n mynd â’r gân i’r ymarferion fel bod gweddill yr hogiau yn medru ei chwblhau hi. Rydym wedi ‘jelio’ yn reit gyflym gan ’mod i a Tomos yn hoff o’r un math o gerddoriaeth, felly roedd ysgrifennu yn dod fel ail natur mewn ffordd. Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? Fy hoff gan i yw ‘Rhydd’ gan ei bod hi’n stori sy’n cael ei rhannu gan ddau aelod y band ac sy’n apelio at bawb mewn bywyd. Dwi hefyd yn meddwl mai hon yw’r gân gryfaf gan ei bod hi’n dangos datblygiad yn yr ysgrifennu. Pa un fydd yr “hit”? Yn fy marn i, ‘Gwenllian’ neu ‘Rhydd’ fydd yr “hit” gan mai rhain sydd wedi cael mwyaf o sylw

hyd yn hyn. Mae pobl yn canu’r geiriau yn ôl ata’i mewn gigs yn barod. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un yr ydych chi fwyaf balch ohoni? Eto, ‘Rhydd’ gan ei bod hi’n sialens i’w chwarae a’i chanu. Mae’r dryms yn anhygoel yn fy marn i. Falch iawn, iawn gyda hon. Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gyd-fynd â gwrando ar Nôl ac Ymlaen? Dreifio neu fynd i’r gym ’swn i’n deud. Oedd yna gig lansio swyddogol? Oedd, gafodd hi ei lansio ddechrau mis Mai mewn gig yn Foundry Vaults draw yn Llangefni, Ynys Môn, gyda band ifanc o’r enw Y Galw yn ein cefnogi. Unrhyw gigs neu wyliau eraill ar y gweill dros yr haf? Bydd rhestr o gigs ar ein facebook ond hoffwn dynnu sylw at un yn benodol. Byddwn yn cael chwarae prif lwyfan Looe Festival draw yng Nghernyw ym mis Medi. Byddwn yn rhannu’r llwyfan gyda bandiau fel The

Proclaimers, Johnny Marr a Buzzcocks. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Calfari yn fyw a Calfari ar record? Hoffwn ddweud bod y sŵn dipyn mwy amrwd ond bod y band dal i gadw’i sŵn enfawr. Gan ein bod yn fand o chwe aelod, mai’n hawdd cael y sŵn sydd i’w glywed ar y record.

Hoff EP/Albwm Wrth i Calfari ryddhau eu CD gyntaf, rhaid oedd holi Bryn am ei ffefrynnau ef yn y categorïau isod: Hoff EP/albwm erioed? Blackbird – Alter Bridge. Hoff EP/albwm Gymraeg? Ardal- MOJO Hoff EP/albwm gan fand/artist o Gymru? Performance & Cocktails Stereophonics Yr EP/albwm ddiwethaf i ti ei phrynu? Codi/Cysgu - Yws Gwynedd

y-selar.co.uk

5


Swnami

Albwm Allan Yn Fuan

YEP Allan Cledrau Yn Fuan

Albwm Allan Yn Fuan

Huw M

Albwm Allan Yn Fuan

Palenco

EP Allan Yn Fuan

Candelas

Yr Eira

Senglau - Allan Rwan

Bodoli’n Ddistaw - Allan Rwan Colli Cwsg - Allan Rwan

www.IKACHING.co.uk

Y Reu

Ysgol Sul

@IKACHINGrecords


.. Ti d . d

Cpt Smith

.T d .. i d

y w l C e i

yw i Cl e

PWY? Lloyd Jackson (gitâr), Ellis Brown (gitâr), Ioan Hazell (gitâr fas a phrif lais) a Jack Brown (dryms) yw Cpt Smith, ac Ioan sydd yn egluro sut ffurfiodd y band ifanc o’r de orllewin. “Rydw i a Lloyd yn Ysgol y Preseli ac Ellis a Jack ym Mro Myrddin. Dwi ‘di bod yn ffrindiau ’da Jack ac Ellis ers ysgol gynradd, a phan nes i gwrdd â Lloyd, roedd yn sefyllfa ideal i ffurfio band. Ni ’di bod yn chwarae ac ysgrifennu ers rhyw chwe mis bellach.”

Swn? Yn ôl Ioan “Mae cymysgedd o arddulliau yn y band, felly ^

mae’n sŵn eitha’ od, ond yn fras, band pync amgen Cymraeg yw Cpt Smith.” Yn sicr, mae hi’n anodd diffinio arddull gerddorol y band ond efallai ei bod hi’n haws disgrifio’r egni a’r awyrgylch maen nhw’n ei greu ar lwyfan. Yn wir, mae hynny’n eithaf hawdd - agwedd, angerdd, angst.

Ar y Gweill? Ynghyd â rhyddhau ‘Resbiradaeth’, mae Cpt Smith yn bwriadu gigio’n galed dros y misoedd nesaf ac yn annog trefnwyr i gysylltu â nhw ar @cptsmith6. Bydd y band yn chwilio am label maes o law hefyd ac maent yn awyddus i gael eu clywed. Uchelgais? Dwi’n rhagweld Cpt Smith yn creu cryn argraff yng Nghymru dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond nid oes cyfyngiadau daearyddol i’w gobeithion, fel yr eglura Ioan. “Uchelgais y band yw cael ein clywed tu fas i Gymru hefyd, a chael apêl ehangach na ‘mond y sin Gymraeg.”

Dylanwadau? Wrth i Ioan restru rhai o ddylanwadau Cpt Smith mae hi’n braf sylwi ar absenoldeb yr un hen enwau poblogaidd arferol. “Mae ’na lwyth sy’n dylanwadu, Nick Cave, Manics, Pixies, Sonic Youth, Radiohead, Super Furry Animals, Nirvana a Led Zeppelin.” Dwi’n amau efallai fod Y Ffug wedi chwarae eu rhan yng ngenedigaeth Cpt Smith hefyd, nid yn unig o safbwynt cerddorol ond o ran adfywio’r sin amgen yn y gornel hon o Gymru.

Hyd yn hyn? Roedd Cpt Smith eisoes wedi recordio traciau SoundCloud gwych fel ‘Yr Estron’ a ‘Pobol Mân’ yn StudiOwz, Sir Benfro, cyn mentro’r holl ffordd i Stiwdio Sain i recordio ‘Resbiradaeth’ ar gyfer Clwb Senglau’r Selar. “Mae’n gân eitha’ gwleidyddol,” eglura Ioan “sy’n ffocysu ar y sefyllfa dan y ceidwadwyr... Mae’n fath o alwad ar ein cenhedlaeth i ddeffro.”

Barn Y Selar Efallai eich bod wedi sylwi erbyn hyn, ond rydan ni wedi cyffroi ’chydig bach! Mae yna botensial anhygoel yma. Er yn ifanc o hyd, maent yn offerynwyr dawnus ac mae gan Ioan bresenoldeb prif leisydd. Mae bandiau ifanc yn aml iawn yn dechrau’n eithaf tebyg i’w gilydd cyn darganfod eu steil unigryw wrth ddatblygu’n ddiweddarach. Tydi Cpt Smith ddim fel pob band arall. Bydd, fe fydd yna gymhariaethau anorfod efo Y Ffug ond mae yna wahaniaethau, achos beth bynnag mae Billy yn gallu ei wneud efo gitâr, allith o ddim chwarae dwy ar yr un pryd! Mae ail gitâr Cpt Smith yn ychwanegu rhywbeth heb amharu ar yr arddull pync amrwd, dipyn o gamp.

Gwrandewch os yn ffan o Y Ffug, Mellt a dawnsio/neidio’n wyllt! y-selar.co.uk

7


GWLAD BEIRDD A GEIRIAU: GWILYM DWYFOR

D

yma frawddeg anodd ei dweud heb swnio fel twat ond ro’n i allan yn cerdded yn ddiweddar efo bardd ifanc a cherddor amlwg. Ryw ganllath o gopa’r mynydd oeddan ni pan ddechreuon ni sôn am farddoniaeth mewn cerddoriaeth. Gyda’r sgwrs honno yn fyw yn y cof a’r rhifyn hwn yn cael ei gyhoeddi wythnos Eisteddfod yr Urdd, dechreuais feddwl... Bydd rhai o feirdd ifanc gorau Cymru yng Nghaerffili’r wythnos hon ac felly hefyd rhai o’n cerddorion mwyaf talentog, rhai tu mewn efo’u telynau ac eraill tu allan efo’u gitârs. Felly fydd hi eto ym Meifod mis Awst, nid yw cerddoriaeth a barddoniaeth byth yn bell iawn o’i gilydd, ond i ba raddau y maen nhw’n gorgyffwrdd? Yn hanesyddol mae’r sin gerddoriaeth wedi creu rhai o’n beirdd a’n barddoniaeth orau, Steve Eaves, Geraint Jarman a David R Edwards. Mae hi hefyd wedi bod yn blatfform ychwanegol i waith rhai fel Twm Morys ac Iwan Llwyd. Dros y blynyddoedd mae rhai o’n hartistiaid wedi cyfansoddi caneuon sydd gystal ar bapur ag ar record. Ond ydi hynny’n wir heddiw? Ddwy flynedd yn ôl cefais y ‘pleser’ o wrando ar dros gant o gynigion Cân i Gymru, ac er bod safon gerddorol ambell un yn ddigon amheus, yr hyn oedd yn wirioneddol dorcalonnus oedd safon rhai o’r geiriau. Oes, mae yna wahaniaeth mawr rhwng bin Cân i Gymru a chynnyrch bandiau ac artistiaid amlycaf y sin, ond mae o’n rhywbeth sydd werth ei archwilio. I’r perwyl hwnnw, holais dri bardd/llenor ifanc-ish am gyflwr geiriol y sin. Pwy well nag Osian Rhys Jones, Llŷr

GWAHANOL GREFFTAU Y gwir amdani yw y bydd rhai’n rhagori ym mhob cyfnod ac y bydd eraill yn ysgrifennu geiriau i’w anghofio. Efallai y dylid osgoi edrych ar y pegynau eithaf a chanolbwyntio ar y sefyllfa gyffredinol ar hyn o bryd. Yn y lleiafrif mae Iwan Cowbois ac Alistair James, mae’r mwyafrif yn y canol rhwng y ddau. Os yw hi’n ddadl rhwng cyfnodau, efallai y bydd y presennol wastad o dan anfantais gan fod treigl amser yn ein galluogi i anghofio cachu’r

8

y-selar.co.uk

Gwyn Lewis ac Anni Llŷn? Enwau cyfarwydd i ddarllenwyr Cyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd a fu a thri sydd bellach yn perfformio’i barddoniaeth ochr yn ochr â cherddoriaeth yn rheolaidd yn eu nosweithiau Bragdy’r Beirdd. Dechreuais trwy gael barn Osian. “Mi faswn i’n dweud mai ar y gerddoriaeth y mae’r pwyslais ar hyn o bryd. Does dim o’i le ar hynny, sin gerddoriaeth ydi hi wedi’r cwbl. Dwi’n meddwl bod ’na dwf wedi bod dros y blynyddoedd dwytha mewn cerddoriaeth bop dda, lle mae’r geiriau’n llai barddonllyd, ond yn effeithiol. Dylanwad cenhedlaeth fwy apathetig, ond cenhedlaeth fwy hyderus hefyd, o bosib.” “Mae gynnoch chi’ch caneuon ffwrdd-â-hi, catchy, sy’n gofyn am eiria cofiadwy,” ychwanega Llŷr. “Dyna gewch chi gan rywun fel y Bandana neu’r Bromas – yn sicr mae ’na le i stwff felly. Enghraifft o rywun sy’n sgrifennu pethau cofiadwy yn dda ac yn grefftus ydi’r Ods. Mae rhai wedyn sy’n sgrifennu geiria y byddwn i’n hapus iawn i wrando arnyn nhw heb gerddoriaeth – dwi’n meddwl yn benodol am Gowbois

gorffennol ond cofio’r clasuron. “Ma’n bosib ein bod ni’n tueddu i feddwl am yr artistiaid mwy...profiadol... fel y ‘beirdd’,” meddai Llŷr, cyn rhestru Jarman, Bob Delyn, Steve Eaves ac Iwan Llwyd. “Ella bod edrych nôl ar gorff o waith rhywun yn haws o ran labelu’r stwff yn farddoniaeth”. “Duw â ŵyr ar gerrig beddi pwy y byddwn ni’n torri’r gair “Bardd”!” meddai Osian, ond all Anni ddarogan pwy o’r crop cyfredol fydd yn cael eu hystyried yn feirdd mewn blynyddoedd

i ddod? “Swni’n feddwl y basa Iwan Cowbois, Arwel Gildas, Casi ac Yws Gwynedd yn rhai? Dwi wedi clywed bod Yws Gwynedd yn dysgu cynganeddu!” Mae gan Llŷr ac Anni brofiad o ysgrifennu caneuon eu hunain. Cyn dod yn enw cyfarwydd ar gloriau llyfrau plant roedd Anni’n cyfansoddi fel un hanner o’r ddeuawd, Nishen; a chyn hawlio monopoli ar restrau byr Llyfr y Flwyddyn roedd Llŷr yn brif leisydd i’r anhygoel, Anhysbys. Roeddwn i’n awyddus i wybod felly os


CHANTORION Rhos Botwnnog, heb os un o’n bandiau gorau ni o ran geiriau.” “Rydan ni’n genedl sy’n disgwyl hygrededd mewn geiriau caneuon,” meddai Anni. “Dwi’n teimlo bod ’na safon gweddol gyson ac wrth gwrs ambell un sy’n rhagori. Ond efallai bod y themâu llawar llai gwleidyddol neu heriol nac ydan ni wedi’i weld yn y gorffennol.” GEIRIAU GWLEIDYDDOL Mae’r berthynas gyda gwleidyddiaeth yn haeddu trafodaeth ei hun, ond teg dweud fod neges wleidyddol yn gallu rhoi sylwedd eiriol i gân, ac nad yw canu protest mor amlwg ag y bu. Mae eithriadau i hynny wrth gwrs fel y sonia Llŷr. “Mae gynnoch chi rai fel Y Ffug, sy’n gneud rhywbeth amheuthun a braf iawn sy’ heb gael ei wneud ddigon ers cryn amser, sgrifennu stwff heriol, dadleuol a gwleidyddol. A fyddai’n beth da pe bai’r sin yn politiceiddio eto? Mae’n siŵr y bydda nifer yn dadlau mai braf o beth ydi hi bellach fod modd sgrifennu caneuon Cymraeg heb deimlo bod hynny’n weithred wleidyddol, ond yn syml am ei fod yn naturiol. Eto, mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan mor bwysig yn yr ymgyrch iaith ers degawdau, mi fyddai’n biti meddwl nad oes lle o gwbl i hynny bellach.” Cytuna Osian fod yna le i wleidyddiaeth o hyd. “Falle fy mod yn euog o edrych ar eiriau “cryf” fel rhai gwleidyddol ond mae pethau fel’na yn fy nghyffroi i’n fwy. Caneuon gan Gwenno, Y Ffug, Radio Rhydd ac ati. Hoffwn i glywed fwy o hip hop Cymraeg hefyd.” Wrth drafod geiriau caneuon poblogaidd Cymraeg mae’n amhosib anwybyddu’r adfywiad canu gwerin. “Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn anhygoel am greu rhyw naws Gymreig,” meddai Anni, “yn adleisio ein traddodiadau gwerinol. Mae hynny’n wir hefyd am rywun fel 9Bach. Ond maen nhw’n gallu fforddio bod yn fwy barddonol ac amwys dwi’n meddwl oherwydd eu harddull cerddorol nhw.” Mae Llŷr yn llawn clod i’r Cowbois hefyd. “Nhw sy’n gosod y safon. Dw i wedi ystyried sgwennu rhywbeth ers tro am Draw Dros y Mynydd. Dwi’n teimlo bod ’na fodd adolygu’r albwm yna o safbwynt geiriau’n unig. Mae ’na gymaint o gymhlethdod a thensiwn ond mae ’na ryw undod thematig arbennig iddi.”

oeddynt wedi elwa fel ysgrifennwyr o’r profiadau hynny pan yn iau. “Dwi bendant wedi sylweddoli bo chdi’n aeddfedu yn dy sgwennu a bod gadael i bobol eraill ddehongli dy waith yn rhan o’r peth,” meddai Anni. Ac er nad yw Llŷr yn falch o’i holl waith cynnar mae yntau hefyd yn gweld gwerth yn y profiad. “Fel rhywun wnaeth ddefnyddio ‘disgyn’ a ‘plisgyn’ fel odl unwaith ac sy’n rhannol gyfrifol am gyflwyno’r cwpled anfarwol ‘Blodeuwedd

“Hoffwn i glywed fwy o hip hop Cymraeg hefyd.”

Blodeuwedd oedd wraig i Llew / Yn wir roedd y ddau yn gwpwl go lew’ i’r byd, alla i ddim hawlio i mi gael gyrfa rhy ddisglair fel sgwennwr caneuon. Maen nhw’n ddwy grefft reit wahanol.” “Wedi deud hynny, dwi’n sicr wedi elwa o’r profiad. Mi oedd gorfod byw efo’r disgyn/plisgyn a Blodeuwedd yn gwneud i fi feddwl yn galetach y tro nesa, felly mewn ffordd roedd hi’n ddisgyblaeth dda. Nid teimlo ydw i ’mod i wedi ‘tyfu’ neu ddatblygu o un i’r llall, a bod un felly’n haws

neu’n waith mwy anaeddfed. Mae sgrifennu geiriau cân dda yn andros o job ac mae gen i edmygedd mawr o unrhyw un fedar wneud hynny.” Mae yna rai wrth gwrs a fyddai’n dadlau mai dim ond y gerddoriaeth sy’n cyfrif pryn bynnag ac nad oes llawer o ots am y lyrics. Wedi dweud hynny rwyf yn amau mai gyda’i dafod yn ei foch yr atebodd Osian pan ofynnais fy nghwestiwn olaf, yw geiriau’n bwysig? “Dwn’im, dwi’n eitha’ licio’r Niwl!”

y-selar.co.uk

9


Beirdd Mewn Bandiau Mae digon o feirdd sydd wedi bod yn gerddorion amlwg yn yr SRG dros y blynyddoedd – dyma ddetholiad deg uchaf Y Selar ohonyn nhw.

TWM MORYS Fel ffryntman y grŵp gwallgof Bob Delyn a’r Ebillion, mae’n debyg mai Twm Morys ydy un o’r amlycaf ar gyfer y rhestr. Wedi blynyddoedd o fygwth, fe enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Cerddor hynod o ddawnus hefyd, a gellid dadlau bod Bob Delyn wedi arloesi gyda’u sŵn gwerin-dawns seicadelig yn y Gymraeg.

IWAN LLWYD Enillydd Coron Eisteddfod Rhymni 1990, ond hefyd yn adnabyddus fel basydd Geraint Løvgreen a’r Enw Da, yn ogystal â Rhai Pobl, sef grŵp Steve Eaves. Ynghyd â Geraint Løvgreen, roedd hefyd yn aelod o’r grŵp Doctor ar ddechrau’r 1980au.

IFOR AP GLYN Wedi gwneud y ddwbl gan gipio cadair Steddfod Genedlaethol Môn 1999 a Dinbych 2013. Doedd ei yrfa gerddorol ddim cweit mor llewyrchus, ond roedd yn canu i’r grŵp Treiglad Pherffaith oedd yn ddigon poblogaidd yng nghanol yr 80au, ac enillodd deitl ‘Grŵp Addawol y Flwyddyn’ Gwobrau Sgrech 1983.

GWYNETH GLYN Mae’r ferch o Lanarmon yn gyn enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd, a bu’n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd rhwng 2006 a 2007. Fel cerddor mae wedi rhyddhau tri albwm ardderchog, gan gynnwys un o’r goreuon o ddegawd Y Selar, Wyneb Dros Dro, yn 2005.

RHYS IORWERTH “Mae fel pe bai Dafydd ap Gwilym wedi atgyfodi yng Nghymru 2011” meddai’r Emyr Lewis wrth

10

y-selar.co.uk

draddodi beirniadaeth Cadair Wrecsam a’r Fro 2011. Dwn i ddim os oedd Dafydd ap G yn chwarae’r drymiau, ond roedd Rhys Iorwerth yn sicr yn drymio i’r grŵp o Gaernarfon, Quidest a ryddhaodd albwm, Boddi Wrth y Lan, yn 2004.

LLION JONES Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, sy’n adnabyddus hefyd am ei ‘drydar mewn trawiadau’ wrth gynganeddu ar Twitter. Yn yr 80au bu’n aelod o Eryr Wen oedd yn gyfrifol am yr hit enfawr, ‘Gloria Tyrd Adre’, enillodd Cân i Gymru ym 1987.

ANEIRIN KARADOG Rapiwr a bardd amlieithog a gipiodd gadair Eisteddfod yr Urdd 2005, Caerdydd. Mae wedi cael gyrfa rapio lwyddiannus dan yr enw Nine Tonne, yn aelod o’r Genod Droog yn ogystal â’r ddeuawd hip-hop Y Diwygiad gydag Ed Holden. LLYR GWYN LEWIS Gobaith da y bydd hwn yn brifardd yn y dyfodol wedi cipio cadeiriau Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 ac Abertawe 2011. Heb gael gyrfa gerddorol mor amlwg, ond bu’n ganwr i Anhysbys, ac yn fasydd i Eitha Tal Ffranco a Jen Jeniro. GERAINT JARMAN Ag yntau wedi enwi ei grŵp yn ‘Y Cynganeddwyr’, roedd rhaid cynnwys Jarman ar y rhestr. Mae’n fwy enwog fel cerddor, ond bardd oedd Geraint Jarman yn gyntaf, yn cyhoeddi ei gyfrol o farddoniaeth, ‘Eira Cariad’ ym 1970 gyda ‘Cerddi Alfred St’ yn dilyn ym 1976.

DEWI PWS Ddim y dewis amlycaf o rai ei farddoniaeth, ond yn haeddu ei le ar y rhestr ar sail y ffaith ei fod wedi cyfansoddi rhai o ganeuon gorau’r Iaith Gymraeg. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru, ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau barddoniaeth i blant. Aelod o’r Tebot Piws, Edward H Dafis ac yn ddiweddarach Radwm.


trydar

@LlareggubBrass @Y_Selar @LlareggubBrass, croeso i gyfweliad Trydar @Y_Selar, su’mai?

@Y_Selar Mae elfennau o ‘Sosban Fach’ a samplau o Gerallt Lloyd Owen a Saunders Lewis ar ‘Sosban’ yn gosod naws Gymreig iawn o’r trac cyntaf.

@LlareggubBrass Grêt, diolch. Cadw’n brysur. @Y_Selar Da iawn. Llongyfarchiadau ar yr EP. Sut ymateb sydd wedi bod i Bradwr? @LlareggubBrass Diolch! Ymateb anhygoel. Syrpreis neis oedd gwerthu’r cwbl mewn dau ddiwrnod. @Y_Selar Chwarae teg. Mwy am yr EP wedyn, ond ’chydig am y cefndir gyntaf. Sut ddechreuodd Band Pres Llareggub? @LlareggubBrass Neshi recordio demos dan yr enw Dileu a’u rhoi ar SoundCloud. O’na fersiwn o ‘Ysbeidiau Heulog’ SFA yna a gafodd ymateb anhygoel! @LlareggubBrass Geshi gynnig nifer o gigs haf dwytha ond doedd dim band! Bu i Geth Ev ofyn i chwarae dryms a dyfodd y band o hynny. @Y_Selar Addas ein bod ni’n siarad ar Trydar, roedd cyfryngau cymdeithasol yn ganolog yn natblygiad cynnar y band oedd? @LlareggubBrass Oedd, mewn ffordd, fel pob band dyddiau yma, am wn i. Er hynny, perfformio’n fyw sydd bwysicaf i ni!

@LlareggubBrass Mae Cymreictod yn bwysig i mi yn enwedig gan nad ydw i’n byw yng Nghymru. @Y_Selar ’Da chi wedi cael unrhyw ymateb gan DI ei hun i’r trac olaf, ‘Yma o Hyd’? @LlareggubBrass Bu iddo ddweud ei fod yn edrach ymlaen i’n clywed yn fyw. @Y_Selar Go dda! Fydd yr EP yn rhoi blas i’r gwrandawyr, ond pryd allwn ni ddisgwyl eich fersiwn chi o’r albwm, Mwng? @LlareggubBrass Haf 2015! Nifer gyfyngedig o feinyl 12”. Neis oedd gweld fod fersiwn iawn SFA wedi cael ei ailryddhau hefyd. @Y_Selar Ond mae hyn wedi bod ar y gweill ers cyn hynny do? @LlareggubBrass Do, bu i mi ofyn i Cian haf dwytha os fasa ni’n cael. (Dwi’n cymryd mai fi oedd yn gyfrifol am eu deffro o drwmgwsg, mewn ffordd...) @LlareggubBrass Ella ddim... Natho ni gynnig neud set i gefnogi nhw ond athon nhw am Magic Numbers yn lle... hmmm.

@Y_Selar Nôl at yr EP, sut a lle wnaethoch chi recordio? @LlareggubBrass Ym Mryn Derwen cyn ‘Dolig ond mae mwyafrif yr EP yma o sesiynau cynt efo fi’n chwarae rhan fwyaf o’r sdwff. @LlareggubBrass Yna, Ed Holden ac Amlyn Parry yn adio’u lleisiau nes ’mlaen. Roedd gweithio efo nhw’n brofiad gwerth chweil. @Y_Selar Mae’r cyfranwyr yn wych. Dy syniad di neu Ed oedd ‘Bradwr’? Achos mae rapio am Streic y Penrhyn i gyfeiliant band pres yn reit athrylithgar! @LlareggubBrass Dwyn y syniad nes i gan yr artist, Llŷr Pierce, oedd yn gweithio ar waith celf i ni pan ddoth ar draws arwydd ‘nid oes bradwr yn y tŷ hwn’. @Y_Selar Amlyn ar ‘Foxtrot Oscar’ wedyn. ’Da ni’n gwybod o @gwyllt ei fod o’n arbrofi efo amrywiol arddulliau cerddorol, cyfranwr perffaith felly oedd? @LlareggubBrass Chwilio am rapwyr iaith Gymraeg oeddwn i. Mae Ed yn ddewis amlwg ac rwy’n falch iawn mod i ’di gallu perswadio Amlyn hefyd.

@Y_Selar Hen dro, collad nhw! Ti ’di cael ymateb i rai o’r traciau ganddyn nhw? @LlareggubBrass Wedi clywed ymateb Cian a Dafs ar raglen Lisa Gwilym. Odda nhw chydig bach fel “be’ ar y ddaear!?” Ma’ Gruff ‘di RT sdwff hefyd. @Y_Selar Da. Dim gig ar daith SFA, ond digon o rai eraill, beth sydd ar y gweill dros yr haf? @LlareggubBrass Clwb Ifor (4.7.15) am fod yn dda, Steddfod Genedlaethol, Gŵyl Rhif 6 ac ychydig o gigs o gwmpas y gogledd. Methu disgwyl! @Y_Selar Na finna’, edrych ’mlaen i weld chi’n fyw. Sut ymateb ’da chi wedi ei gael hyd yma? @LlareggubBrass Greeks ac Anglesey Arms mis dwytha yn wych! Nath bawb rili mwynhau. @Y_Selar Da iawn. Pob lwc efo gweddill y gigio dros yr haf ac efo Mwng. Diolch @LlareggubBrass, hwyl! @LlareggubBrass Diolch.

y-selar.co.uk

11


Lluniau: Gorwelion / Mary Wycherly

HMS MORRIS

AR Y GORWEL Y

chydig wythnosau wedi i HMS Morris hwylio i ffwrdd ar drywydd gorwelion newydd llwyddais i ddal dau o’r criw wedi docio yng Nghaerdydd ar fore Sadwrn, (dim mwy o gyfeiriadaeth forwrol - dwi’n addo). Roedd Wil Roberts yn yr India ar y pryd, ond cefais baned a sgwrs gyda Sam ei frawd a phrif leisydd y grŵp, Heledd Watkins. Dechreuais wrth gwrs trwy eu llongyfarch ar gael eu dewis i fod yn un o ddeuddeg Gorwelion ar gyfer 2015 a gofyn sut deimlad oedd hynny. “Ma’n neis gwybod ein bod ni am fod yn brysur dros yr haf, a ddim yn mynd i fod yn diogi,” meddai Heledd. Oni bai eich bod wedi bod mewn coma neu yn y carchar dros y deunaw mis diwethaf, fe fyddwch yn gwybod mai cynllun yw Gorwelion sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru Wales a’r Cyngor Celfyddydau i ‘ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru’. “Ma’n neis gallu sticio BBC ar ôl eich enw,” meddai Sam. “Mae o’n ’chydig o credibility yn syth. Er enghraifft, mae ’na

12

y-selar.co.uk

brosiect ’da ni ar fin ei gychwyn efo Prifysgol De Cymru ble mae myfyrwyr ffasiwn a dylunio graffeg yn cael eu paru efo artistiaid Gorwelion i greu gwisgoedd a logos. Alli di ddychmygu’r tiwtoriaid ’ma’n meddwl, ’da ni angen bands, pwy ’da ni’n mynd i gael? Wel, dyma grŵp o 12 sydd yn endorsed gan y BBC!” Mae Heledd yn egluro iddynt wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun llynedd, ond mae’r triawd seicedelig wedi bod yn brysur iawn ers hynny gan ddod i sylw rhai o bwysigion y panel. “Ni wedi gwneud cwpl o sesiynau C2, nath Huw Stephens bigo lan ar un ohonyn nhw. Ma’ David Owens, Wales Online, wedi bod i weld ni eitha’ lot a ni wedi cael cwpl o adolygiadau da ganddo fe hefyd.”

Gwersyll Gorwelion Cyhoeddwyd y deuddeg artist Gorwelion yn gynharach eleni a chafodd y cwbl lot gyfle i gyfarfod ei gilydd yng ngwersyll Fforest ger Aberteifi, yr un tro ’ma yn bandcamp... “Odd o’n neis achos do’n i heb glywed lot o’r bands eraill o’r


Braf iawn oedd gweld rhai o hoff fandiau Y Selar yn cael eu dewis fel rhan o gynllun Gorwelion unwaith eto eleni. Rydan ni wedi cael sgwrs gyda Mellt, Y Reu ac Yr Eira i gyd dros y flwyddyn ddiwethaf ond wrth ddarllen y rhestr newydd dyma gofio nad ydym erioed wedi cyfweld un o grwpiau pop amgen gorau’r wlad, HMS Morris.

blaen felly odd o’n eitha’ neis hanner dod i nabod nhw fel pobl cyn clywed eu miwsig nhw.” Fe wnaethant fwynhau yn Fforest ac mae Heledd yn gobeithio y bydd llu o brofiadau buddiol yn dilyn fel rhan o’r cynllun. “Ma’r amseru’n eitha’ da achos ni newydd orffen recordio albwm. Gobeithio bydd honno mas mis Hydref tra byddwn ni dal yn artist Gorwelion. Fydden ni’n licio teithio hefyd.” Efallai nad oedd neb yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl o’r prosiect yn ei flwyddyn gyntaf, ond does dim dwywaith fod bandiau fel Sŵnami a Candelas wedi gwneud y mwyaf o’r cyfle ac wedi elwa ohono yn 2014. “Gan ei fod o’n gynllun eitha’ unigryw doedd neb yn gwybod flwyddyn diwethaf beth oedd yn mynd i ddigwydd,” eglura Sam. “Flwyddyn yma mae o’n mynd i fod yn gryfach yn hynny o beth. Nathon ni gael chat neis efo Owen o Houdini Dax, fel yr hen feistr odd wedi bod drwyddo fo ac wedi dod allan ar yr ochr arall”. “Nath e’ weud just go for it, gwneud popeth chi’n gallu’i wneud,” ychwanega Heledd. “Ma fe’n teimlo chydig bach

mwy tried and tested eleni.” Un o amcanion y cynllun yw hyrwyddo talent o Gymru i gynulleidfa ehangach. Mae rhywun yn meddwl am lwyddiant Sŵnami yn cael eu gwahodd yn ôl i’r Iseldiroedd yn ddiweddar ar ôl chwarae yn Eurosonic yn gynharach yn y flwyddyn. Gall rhywun yn hawdd ddychmygu cerddoriaeth synth-iog seicedelig HMS Morris yn ennyn diddordeb ar y cyfandir hefyd, ac mae hynny’n rhan o apêl y cynllun i Heledd. “Bydden i’n dwli mynd i’r Almaen, fi’n credu bydden nhw’n lico ni mas fan’na. Y math yna o gerddoriaeth yw e’. Ma’ cymuned eitha’ da o bobl sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg nawr yng Ngwlad Pwyl hefyd.” Mae’r drafodaeth iaith wrth gwrs wastad yn codi pan mae unrhyw fand o Gymru’n mentro ond nid yw Sam yn gweld unrhyw rwystr. “Mae ganddon ni ganeuon Cymraeg ond ’di hynny ddim yn dal chi nôl achos ma’ pobl yn barod i wrando ar unrhyw iaith mwy a mwy dyddia’ yma, ddylan ni drio mynd mor eang â phosib.” y-selar.co.uk

13


Codi hwyl yn y gwyliau Cyn edrych tua thir mawr Ewrop mae gan HMS haf prysur o’u blaenau gyda llu o gigs a gwyliau yng Nghymru a Lloegr. Byddant yn chwarae yng Ngŵyl y Gelli ac ar faes yr Urdd ddiwedd Mai cyn chwarae ddwywaith yng Nghaerdydd; yn X Festival ym Mharc Biwt fis Mehefin a Tafwyl yn y castell fis Gorffennaf. Er bod Heledd yn dod yn wreiddiol o Lanymddyfri a Sam a Wil o Lanelwy, Caerdydd yw cartref y band ac maent yn edrych ymlaen at chwarae lawr y lôn heb orfod poeni am yrru adref! Wedi dweud hynny, mae’n debyg mai gŵyl maent yn ei chwarae rhwng y ddwy yn y brifddinas fydd uchafbwynt yr haf i Heledd. “Ni’n mynd i wneud Glastonbury! BBC Introducing ar y dydd Gwener am chwarter i ddau, siŵr fydd pawb yn cysgu ond os oes unrhyw un mas ’na ar ddihun plîs dewch i weld ni!” Bydd gigs eraill fel Truck Festival, Rhydychen, a Gŵyl Arall, Caernarfon, yn cwblhau tymor gwyliau prysur i HMS, tymor a ddechreuodd yn Wrecsam ddiwedd Ebrill gyda Focus Wales. Honno oedd gig gyntaf y band fel rhan o Gorwelion ac fe aeth yn dda iawn... yn y diwedd, fel yr eglura Sam! “Oeddan ni wedi ein bwcio i chwarae ar y dydd Sadwrn ond ddoth hi’n amlwg ei fod o’n clashio efo gwylia Wil yn India. Oeddan ni’n chwilio am rywun arall ac yn y diwedd ffendio session drummer. Wedyn gofynnodd Gorwelion i ni chwarae ar y dydd Gwener felly roedd dwy gig. Doedd y drymar newydd methu chwarae ar y dydd Gwener felly wnaethon ni wneud cwpl o drum tracks ’chydig ddyddiau cynt a chael ryw ddau ymarfer efo nhw. Odd y car angen MOT hefyd felly ath bob dim o’i le’r un amser. Ond gyrhaeddon ni yn y diwedd ac fe redodd popeth yn rhyfeddol o esmwyth!” “O’n i’n rili hapus ’da’r gig ’na,” ychwanegodd Heledd. “Gath y drummer un ymarfer ac yna syth i mewn i’r gig ac odd e’n ffantastig.” Focus Wales oedd cyfle cyntaf nifer o’r bandiau i glywed cerddoriaeth ei gilydd ac fe greodd un yn arbennig argraff ar Heledd. “O’n i heb weld Mellt yn chwarae ers blynyddoedd, tro dwetha weles i nhw odd mwy ohonyn nhw, nawr ma’ nhw’n 3-piece, ac o’n i’n rili rili excited. Agwedd ar y llwyfan. Ma’ rhywbeth eitha’ surf-rocky amdanyn nhw. Ma’r caneuon yn dda a ma’ ’da nhw’r agwedd ar ben hynny.” “Ma’r merched i gyd flwyddyn hyn hefyd, Violet Skies, Delyth McClean a Hannah Grace yn lleisiau huge. Ma’ trawstoriad rili da o fandiau ifanc fel Mellt, bandiau eitha’ gwyllt fel Y Reu, ac wedyn ti’n cal Cut Ribbons, yr hen sdejars!”

“Ma’r amseru’n eitha’ da achos ni newydd orffen recordio albwm.”

14

y-selar.co.uk


Nirfana Penderfynodd HMS Morris ddathlu eu newyddion Gorwelion trwy ryddhau’r sengl wirioneddol hyfryd, ‘Nirfana’ ym mis Ebrill. “Oedden ni newydd neud fideo ohoni ar gyfer Ochr 1 gydag Eilir Pierce felly nathon ni feddwl man a man rhyddhau hi, felly nathon ni roi hi mas am ddim ar Bandcamp,” eglura Heledd. Er ei bod hi am ddim fe wnaeth un ffan o San Diego fwynhau’r sengl gymaint nes iddo dalu £5 amdani. Un cwsmer hapus yn sicr ac mae ‘Nirfana’ wedi cael ymateb da gan bawb. Mae fideo breuddwydiol Eilir Pierce yn gweddu’r gân yn berffaith hefyd ac fe wnaeth Heledd fwynhau’r ffilmio. “Odd e’n lot o hwyl. Diwrnod cyntaf gathon ni ddawnswraig Bangladeshi i mewn i recordio’r dream sequence. Odd hi’n recordio darne hi ac o’n i jysd yn gwylio hi achos odd hi’n ffantastig, mor bert. Odd y darn cyntaf wedyn yn fy stafell wely i. Dreulion ni fore yn rhoi drapes lan a llunie Kurt Cobain. Ma’ nhw dal ’na, odd arfer bod ryw arty design ’na ond fi ’di cadw Kurt lan, sy’n eitha creepy!” Eglura Sam ei bod hi’n amlwg o’r cyfarfod cyntaf gydag Eilir fod yr holl beth am fod yn eitha swreal a haniaethol, ac yn wir, mae hanes y broses greadigol yn eithaf swreal ynddi’i hun! “O’n i’n rhoi gwersi piano i Eilir ar y pryd,”meddai Sam. “Odd o’n grêt, odd o jysd yn trafod syniadau fideo yn ystod y gwersi, ond o’n i fel, ‘na, ’da ni’n gneud scales heddiw’!” Tamaid i aros pryd yw’r sengl, bydd fersiwn ohoni’n ymddangos ar yr albwm hir ddisgwyliedig yn yr Hydref, ac mae’n amlwg fod Sam yn edrych ymlaen. “Ma’ Tom Manning, ein cynhyrchydd, wrthi’n cymysgu ar hyn o bryd. Ma’r recordio i gyd wedi ei wneud. Diwrnod yn y Monnow Valley i gael blas bach, wedyn mynd i stiwdio Tom yn Rhaglan. Oeddan ni’n fanno am ryw ddeg diwrnod, hyfryd o fodolaeth dweud y gwir.” Mae Heledd yn cytuno, er ei bod wedi ei chael hi’n anodd neidio o’r stiwdio yn ôl i’r llwyfan.“Odd hi’n rili anodd chwarae gig wedyn. Achos chi’n newid y ffordd chi’n chware pethe yn y stiwdio, a rili canolbwyntio ar fanylion bach. Well ’da fi gigio. Fi’n lico clywed pethe nôl ond fi mynd yn eitha frustrated pan fi’n gorfod gneud pethe drosodd a throsodd, yn enwedig canu.” “Pwynt cerddoriaeth yw chwarae i bobl,” cytuna Sam. “Yn y stiwdio ti’n gneud rhywbeth sy’n rhan o broses ac mewn misoedd neu flynyddoedd i ddod ma’ rywun yn mynd i wrando ond ti ddim am fod yno, felly ma’n broses anuniongyrchol iawn. Pan ti’n chware’n fyw, ma’ nhw yna yn edrych arnat ti a weithe ma’ nhw’n dod atat ti yn y diwedd i ddweud bo’ nhw wedi mwynhau.” Mae’r graen sydd wedi bod ar senglau’r band hyd yma’n gwneud i rywun ysu am yr albwm, ond mae’n amlwg mai ar y llwyfan mae cariad cyntaf HMS Morris. Fe fydd unrhyw un sydd wedi eu gweld nhw’n chwarae’n fyw wedi teimlo hynny, a diolch i Gorwelion fe fydd digon o gyfleoedd i’w gweld nhw eleni. Gadawaf chi felly gyda chyngor syml ond doeth Heledd... “Dewch i gigs ni, ma’ nhw’n gwd!”

y-selar.co.uk

15


Y mae’r angerdd yma yn troi yn gas Bydd ffans Breichiau Hir yn gwybod fod gan y rocars o Gaerdydd record dda o gynnig gwaith celf anhygoel gyda phopeth maent yn ei ryddhau. Mae pori trwy eu senglau ar Bandcamp fel crwydro trwy oriel gelf ddigidol. Roedd hir ddisgwyl felly am eu EP cyntaf ar gopi caled, a wnaeth Y Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas ddim siomi’r glust na’r llygad. Roedd Breichiau Hir yn sôn am ryddhau eu EP cyntaf mewn cyfweliad yn Y Selar ym Mehefin 2012, felly pan gyrhaeddodd hi o’r diwedd ym mis Mawrth eleni, teg dweud eu bod wedi cael digon o amser i feddwl am y clawr! Yn wir, mae’r prif leisydd, Steffan Dafydd, yn cofio cael y syniad “yn y coleg rhyw dair blynedd yn ôl”. Creu 169 o gloriau unigryw sydd yn ddarnau o un gwaith celf ehangach oedd y syniad hwnnw, ac fel peint o stowt Gwyddelig, daw pethau da i’r rhai sy’n aros. Mae’n syniad syml ar un wedd, un peintiad mawr ar sgwaryn 13 x 13 o gloriau CD, ond eto mae’n llawn dychymyg ac yn golygu dipyn i’r band, fel yr eglura Steffan. “Gwraidd y syniad oedd bod ni moyn neud rhywbeth personol ac arbrofol. Ma’r EP yn eitha’ personol i’r band i gyd, natho ni weithio’n galed iawn arno fe.” Mae pob clawr yn unigryw ond

16

y-selar.co.uk

“Gwraidd y syniad oedd bod ni moyn neud rhywbeth personol ac arbrofol.”

eto’n gysylltiedig, ac mae pob un yn cynnwys copi bach o’r gwaith cyflawn tu mewn. Mae’r canlyniad yn un a oedd yn sicr yn werth aros amdano, ond yr unig syndod o bosib, ag yntau’n gyfrifol am lawer o waith celf blaenorol y band, yw’r ffaith nad Steffan ei hun wnaeth y darn hwn. “Natho ni benderfynu gofyn i Elin beintio achos bod ni’n ffans huge o’i gwaith hi a ma’ hi’n ffrind agos i ni gyd, felly ’odd hi’n deall o ble’r oedden ni’n dod gyda’r sŵn a’r caneuon. Ni’n proud iawn o be’ nath hi.” YMDDIRIED YN ELIN Wedi penderfynu dros beint y byddai Elin Meredydd yn gwneud y gwaith rhaid oedd dewis lle ac amser teilwng a threfnwyd y byddai’r peintio’n digwydd yng Nghrymych cyn gig Nadolig Mafon yn Neuadd y Farchnad. “’Odd y cloriau gwag i gyd lan ar y wal a natho ni roi caneuon yr EP i Elin i wrando arnynt a gweud wrthi baentio be’ bynnag odd hi moyn yn seiliedig ar be’ odd hi’n ei glywed. Natho ni ymddiried ynddi lot, achos unwaith odd paent lawr ar y cloriau, doedd dim troi nôl. Doedd dim siawns i neud ail ddrafft na dim byd. Dyna natur y syniad a dyna pam natho ni ddewis Elin gan fod ganddi gefndir mewn celf perfformio. Ni gyd yn meddwl nath hi’n amazing.” Dyw Elin ddim yn ystyried ei hun yn baentwraig fel y cyfryw gan mai’r elfen berfformio sydd bwysicaf iddi wrth weithio. “Dim paeintio ydi practice fi fel artist, ‘perfformio’


o glawr i glawr

a ‘sgwennu’ ydi fy ngwaith i.” Roedd gweithio’n fyw yn y gig yn berffaith felly gan fod pwyslais mawr ar y broses a’i holl haenau. Bu Elin wrthi am tua dwy awr tra’r oedd pawb yn sound checkio o’i chwmpas, er bod ganddi gynulleidfa ar adegau! “Mi o’n i’n gwrando ar dracs Breichiau Hir tra o’n i’n neud o yn ogystal â’u cael nhw’n sefyll tu ôl i fi. Odd hynna’n eitha’ ych-a-fi achos anaml dwi’n licio unrhyw beth dwi’n ei beintio pryn bynnag ac o’n i mor paranoid bo’ nhw am ’i gasáu o! Fel arfar dwi’n taflu fy mheintiada’ ar ôl ’i gneud nhw ond o’n i’n ymwybodol bo’ fi methu gneud hynny efo’r un yma!” Dim taflu efallai, ond byr iawn oedd bywyd y darn cyflawn, fel yr eglura Steffan. “Ar ol i Elin orffen, natho ni adael y cloriau lan i sychu yn ystod y gig. Wedyn ar y diwedd, eu tynnu nhw i gyd lawr yn feddw. Felly dim ond am gwpl o oriau nath y darn llawn fodoli.” CELF GWERTHFAWR Mae’r gybolfa o liw ac angerdd yn edrych yn wych, ond o ran techneg, eglura Elin ei bod hi wedi gorfod addasu mymryn ar ei harddull arferol. “Neshi ddefnyddio acrylic achos ei fod o’n sychu’n sydyn. Dwi’n licio gweithio mewn haenau a scratcho mewn iddo fo fel arfar ond doedd gen i ddim amser i adael iddo fo sychu tro yma. Gan mai cerdyn oedd y sylfaen do’n i

methu crafu mewn i’r darn chwaith rhag torri’r cloria’. Ond er gwaethaf yr amrywiol sialensiau does dim dwywaith fod yr artist wedi llwyddo i ddal anian Breichiau Hir a chreu darn o gelf sy’n gweddu’n berffaith i’w cerddoriaeth. “Ma’n eitha’ cheesy i ddeud ond dwi jysd yn peintio yn ôl yr awyrgylch. Ma’ be’ dwi’n gwrando arno fo wastad yn cael dylanwad ar y darn gorffenedig.” Mae Elin yn amlwg yn hapusach gyda’r gwaith yn ei ffurf newydd nag oedd hi gyda’r darlun llawn. “Dwi ddim yn hapus efo’r darn terfynol! Dwi byth yn hapus efo unrhyw beintiad dwi’n ei greu! Ond ma’ hogia’ Breichiau Hir yn licio fo dyna sy’ bwysica’ am wn i. Dwi’n licio’r cloria’ ar wahân fwy na dwi’n i licio nhw fel un darn mawr.” Mae’r band yn sicr yn hapus gyda’r gwaith yn ei gyfanrwydd ac mae Steffan wedi mwynhau gweld ymateb pobl i’r cloriau unigol hefyd, gyda rhai’n dewis a dethol yn ofalus cyn prynu mewn gigs. “Fi di really hoffi pa mor amrywiol yw barn pobl ar gloriau gwahanol. Fi’n caru bod gymaint ohonyn nhw mor wahanol. Rhai’n hollol ddu, rhai’n wyn, rhai’n lliwgar, rhai’n brysur a rhai’n blaen. Ma’n cŵl.” Wedi aros cyhyd i ryddhau rhywbeth ar gopi caled mae’n amlwg fod Steffan wedi cyffroi. “Fi’n caru pan ma’ ’na bethe ychwanegol yn dod gyda record neu CD a ma’ fe’n gwthio fi i brynu nhw. Fi’n meddwl bod y clawr

yma wedi adio lot i’r EP, ond fi’n gobeithio bod pobl yn prynu hi achos bod nhw’n ffan o’r band neu’r gerddoriaeth hefyd. Hoffwn i feddwl bod y clawr unigryw yn fwy o ‘ddiolch’ o ryw fath am brynu’r gerddoriaeth.” Yn sicr mae gwerth mewn gwneud ychydig o ymdrech i greu rhywbeth gwahanol sy’n tynnu sylw, ac felly mae Elin yn ei gweld hi hefyd. “Dwi’n meddwl bo’ clawr mor bwysig â’r gerddoriaeth. Fel band, gwerthu brand ydach chi a ma’ clawr crap yn debygol o neud i rywun beidio bod isho prynu eich record! Ma limited editions wastad yn helpu i werthu cynnyrch ’fyd, ma’n cŵl cal rwbath sy’n bersonol i chi. Ella ryw ddydd fydd clawr eich EP Breichia’ chi werth llwythi... os dwi’n gneud hi fel artist haha!” Dwi ddim yn gwybod digon am gelf i ddarogan hynny, ond dwi’n gwybod be’ dwi’n ei licio a dwi’n licio hwn. Roedd y darn gwreiddiol yn edrych yn wych ac mae yna ryw hud yn perthyn i’r ffaith na fydd y gwaith yn bodoli yn y ffurf honno byth eto, (oni bai bod ffans y band yn penderfynu cael gêm enfawr o jig-so rhyw ddydd). Mae yna deimlad arbennig i’r cloriau unigol hefyd, er i Steffan fy siomi trwy ddatgelu fod fy hoff sgwaryn (8 ar draws, 3 i lawr) wedi ei werthu’n barod! Pob clod i Breichiau Hir am eu dyfeisgarwch ac i Elin am ei gwaith gwych.

y-selar.co.uk

17


.. Ti d . d

.T d .. i d

y w l C e i

CHWALFA yw i Cl e

PWY? Pan oedd angen band ifanc lleol i agor noson Selar 10 ym Mangor fis Tachwedd, Chwalfa oedd y dewis amlwg. Ond go brin fod neb wedi disgwyl i’r disgyblion Ysgol Tryfan wneud cymaint o argraff. Yn syml, fe wnaethon nhw ei chwalu hi! Perfformiodd Elis Derbyshire (gitâr a llais), Caleb Rhys (allweddellau a bas), a Guto Evans (dryms) gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd 2009, cyn ail ddechrau wedi cwpl o flynyddoedd gydag Owain Parri (gitâr, bas a llais). “Wrth weld y Sin Roc Gymraeg yn datblygu, fe benderfynom ni ddechrau sgwennu caneuon a gigio o ddifrif,” eglura Elis.

Swn? Roc/pop yw traciau cynnar y band, er bod elfen o blŵs ^

hefyd yn perthyn i ‘Rhydd’, ac yn ôl Elis mae mwy o arbrofi i ddod: “Mewn rhai caneuon diweddar, rydym wedi mentro i fyd indie-rock, blŵs trwm a defnydd o gordiau seicedelig ar brydiau. Rydym yn hoff iawn o ddefnyddio harmonïau ac mae allweddellau Caleb yn darparu elfen bwysig i sŵn y band.”

Dylanwadau? Hoff fand Elis ac Owain yw’r Beatles, tra mae Caleb yn hoff iawn o Royal Blood a The Jesus and Mary Chain, a Guto’n gwrando ar grwpiau fel Foo Fighters a The Prodigy. Yna, mae rhai dylanwadau’n gyffredin i’r hogia’ i gyd fel yr eglura Elis: “Rydym i gyd yn cael ein dylanwadu gan Arctic Monkeys, Nirvana, Candelas, Yr Ods, Sŵnami a sŵn mwy arbrofol Gruff Rhys a’r Super Furry Animals.” Hyd yn hyn? Roedd 2014 yn flwyddyn reit lwyddiannus i Chwalfa. Cawsant ymateb da i’r traciau sesiwn C2, ‘Rhydd’ a ‘Corwynt Meddwl’. Bu’r band yn gigio’n galed hefyd, o gwmpas eu milltir sgwâr yn bennaf, ac mae un noson yn aros yn y cof i Elis. “Y gig sy’n sefyll allan i ni yw gig Selar 10 ym Mangor, gan ei bod yn llawn yno a phawb i’w weld yn gwybod y geiriau!” Mae’r band wedi cael dechrau prysur i 2015 hefyd, yn gigio, trefnu gigs at yr haf, yn ysgrifennu cynnyrch newydd ac yn recordio EP...

18

y-selar.co.uk

Ar y Gweill? “Mi rydym yng nghanol y broses o orffen recordio’r EP gyntaf honno, mewn stiwdio annibynnol ar Ynys Môn. Pum cân, rhai hen a newydd, gyda’r un fwyaf diweddar, ‘Dy Swyn’ yn dilyn llwybr arbrofol o’i chymharu â’r gweddill.” Y gobaith yw dod o hyd i label i ryddhau’r EP cyn gynted â phosib. Uchelgais? Mae Chwalfa yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ennill dilynwyr, ond maes o law byddai Elis wrth ei fodd yn teithio o gwmpas Cymru gyda bandiau eraill. Maent yn bwriadu parhau i recordio a gigio hefyd wrth gwrs ond yn yr hir dymor mae Elis am i Chwalfa adael eu marc go iawn. “Mi fysai’n braf gallu edrych nôl mewn blynyddoedd a gwybod ein bod wedi cael amser da, wedi gwneud gwahaniaeth i’r Sin ac wedi dylanwadu eraill i greu cerddoriaeth Gymraeg.”

Gwrandewch os yn ffan o Yr Ods, Candelas ac Artic Monkeys

Barn Y Selar Mae llwyddiant bandiau ifanc yn aml yn dibynnu ar fod yn y lle iawn ar yr amser iawn, os oes yna griw da mewn chweched dosbarth yn barod i gefnogi, dyna hanner y frwydr. Os yw gig Selar 10 ym Mangor yn unrhyw linyn mesur, mae’n ymddangos fod y gefnogaeth honno gan Chwalfa. Mae angen brwdfrydedd a dawn gerddorol hefyd wrth gwrs. Mae’r brwdfrydedd yn amlwg ac mae’r tiwns y maen nhw wedi eu recordio hyd yn hyn bron mor fachog â stwff cynnar Yr Ods ac Yr Eira. Does dim prinder y math yma o fand felly fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut yr aiff Chwalfa o’i chwmpas hi wrth geisio torri eu cwys eu hunain.


Taith Super Furry Animals

Yn ymateb i’r galw gennych chi’r darllenwyr, dyma adolygiad o gig. Wnawn ni ddim gaddo y bydd hyn yn rhywbeth rheolaidd ond allem ni ddim gadael i daith Super Furries fynd heibio heb fymryn o sylw! Owain Gruffudd sy’n crynhoi...

Yn 2009, yn fuan wedi rhyddhau eu halbwm diwethaf, Dark Days/Light Years, cymerodd Super Furry Animals seibiant i ganolbwyntio ar brosiectau unigol. Eleni, gyda’r band yn dathlu dau ben-blwydd arwyddocaol, fe gamodd Gruff, Cian, Daf, Guto a Bunf ar y llwyfan gyda’i gilydd unwaith eto, ar ôl chwe blynedd hir o aros a chroesi bysedd gan y ffans. Mae hi’n ugain mlynedd ers i Super Furry Animals ryddhau eu EP cyntaf, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (In Space) yn ôl ym 1995. Pum mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn llwyddiant ysgbuol albyms Fuzzy Logic, Radiator, Out Spaced a Guerrilla, rhyddhaodd y band eu halbwm uniaith Gymraeg gyntaf, Mwng. I ddathlu’r penblwyddi hyn, cyhoeddodd y band daith pum noson, wnaeth droi yn wyth yn dilyn y galw am docynnau; yn ogystal ag ailgyhoeddiad estynedig o Mwng, llyfr gan Ric Rawlins am hanes y band a rhaglen ddogfen arbennig ar S4C. Tydi SFA erioed wedi bod yn rhai am wneud hanner job. Roedd y daith am ymweld â phedair dinas, Caerdydd, Glasgow, Manceinion a Llundain. Mi nes i golli fy mhen braidd ar ôl cael gafael ar y côd i’r tocynnau pre-sale a phenderfynu mynd i dair noson! Gyda deg albwm, ugain mlynedd o hanes a gormod o hits i’w rhestru, roedd hi’n anodd dyfalu sut fyddai’r band yn llunio set list i gadw pawb yn hapus. Yn y diwedd, fe wnaethant newid mymryn ar y set bob nos, oedd yn golygu bod rhai, fel fi, oedd yn mynd i fwy nag un gig yn cael clywed caneuon newydd! I gydfynd ag ail-ryddhau Mwng, roedd hi’n dda gweld yr albwm yn cael sylw sylweddol yn y set. Roedd nifer

’di synnu nad oedd ‘Ysbeidiau Heulog’ yn cael ei chanu, ond roedd ’na bump o’r caneuon yn ymddangos bob noson. Yn anffodus, roedd ’na deimlad fod nifer o’r gynulleidfa yn rhoi switch off yn ystod y caneuon hyn, oherwydd yr iaith o bosib, gyda nifer yn siarad yn ystod y caneuon tawel, ac ambell un yn y dorf yn gweiddi “English” yn ôl y sôn. Gan fod hon hefyd yn daith i ddathlu holl gyfnod y band, roedd lle amlwg i’r hits mwyaf. Roedd un clasur ar ôl y llall yn ennyn ymateb gwyllt y gynulleidfa, a’r dorf fel un yn canu caneuon fel ‘Demons’, ‘Ice Hockey Hair’, ‘Juxtapozed With U’ a ‘Hello Sunshine’. Roedd hi hefyd yn dda cael cyfle i glywed rhai o’r caneuon ychydig llai adnabyddus, fel ‘Arnofio/Glo In The Dark’, ‘Zoom!’ a chân orau’r band yn fy marn i, ‘Run! Christian, Run!’. Dyma enghreifftiau perffaith sy’n dangos gallu’r band i ysgrifennu amrywiaeth eang o ganeuon. Ni fyddai’n set Super Furries, heb sioe weledol anhygoel. Roedd y goleuo’n drawiadol ac yn amlwg roedd y band hefyd wedi mynd ati i dyrchu’r atig a’r archif, gyda’r siwtiau boiler chwedlonol a’r gwisgoedd blewog o fideo ‘Golden Retriever’ yn sicr yn ychwanegu i’r teimlad nostalgic. Gyda thocynnau i gigs yng Nghaerdydd a Manceinion, roeddwn yn edrych ’mlaen i weld pa mor wahanol fyddai’r ymateb yn y ddwy ddinas. Roeddwn yn teimlo fod ’na dipyn mwy o egni i’r gynulleidfa ym Manceinion, mwy o bobl yn mynd amdani. Ac er bod llwyth o ogledd Cymru wedi teithio draw i’r Albert Hall, roedd y Mancs hefyd yn dangos eu gwybodaeth nhw am y band, gydag ambell un yn canu pob gair (gan gynnwys y caneuon Cymraeg) ac yn fy holi lle ges i fy nghrys-t Ffa Coffi Pawb! Uchafbwynt y tair noson oedd y gân olaf, ‘The Man Don’t Give a Fuck’, cân sydd wedi datblygu’n rhyw fath o anthem i’r band. Fe chwaraeodd ran bwysig yn adeiladu eu statws fel arwyr cwlt. Ond roedd hi’n gân hyd yn oed mwy perthnasol ar y daith hon , oedd yn cael ei chynnal yng nghanol berw’r etholiad cyffredinol.

y-selar.co.uk

19


adolygiadau Bradwr – Band Pres Llareggub Dyma gasgliad sy’n sicr yn llenwi bwlch enfawr yn y sin yng Nghymru, ac sydd am gyffroi’r gwrandawyr yn lân. Llwydda Band Pres Llareggub i gyflwyno’r syniad traddodiadol o ‘Fand Pres’, ond gyda thwist hollol fodern. Yn bersonol, mae’n fy atgoffa’n gryf o gynnyrch Genod Droog. Ond o fewn y naws gyfoes yma, llifa teimlad diwylliedig Gymreig drwyddi draw. Ymddangosa lleisiau Saunders Lewis a Gerallt Lloyd Owen ar ‘Sosban’, ac mae’r EP yn cloi gyda’r anthem, ‘Yma O Hyd’. Cyfuna hyn yn effeithiol iawn gydag offeryniaeth raenus y band, sy’n amlwg yn grŵp o gerddorion talentog dros ben. Yn ogystal, cawn ymddangosiadau gan Mr Phormula ac Amlyn (Gwyllt), sy’n cynnal yr amrywiaeth ac yn ychwanegu diddordeb i’r cyfanwaith. Dyma gynnyrch hynod gyffrous, a chredaf y bydd yn mynd i lawr yn dda mewn clwb nos neu ryw fath o rêf. Gwrandewch a mwynhewch. Ifan Prys

Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas – Breichiau Hir Ar ôl gwrando ar ‘Bastards y Nos’ ddwywaith ro’n i’n meddwl ‘o na maen nhw ’di troi’n un o’r bandiau ’na sy’ jyst yn gweiddi ‘. Ond, OND! Tydi ‘Bastards y Nos’ ddim yn gynrychiadol o weddill y casgliad o gwbl. Mae’n siŵr fydd rhai ohonoch yn meddwl mai honna ydy’r gân ora ond mae’n atgoffa fi o ‘The Anesthetist’ gan Enter Shikari – nid fel’ma dwi’n licio fy mhaned. Ond fel arall mae yma dipyn o amrywiaeth a dwi’n hoff iawn o’r hyn sy’n dilyn. Mae ’na ganeuon tyner fel ‘Ei Phen’, sy’n fy atgoffa o rai o ganeuon cynnar Blink 182. Mae’r band ’ma’n grafog hefyd, efo geiriau sy’n cyfeirio at or ddefnydd o’r gair hiraeth...hihi. Pwy sy’n ei chael hi tybed? Mae’r geiriau’n llai clogyrnog na’u stwff blaenorol a dwi’n meddwl bod y gerddoriaeth ar y cyfan yn fwy cynnil hefyd. Mae ’na sglein ar yr cryno-albwm yma, ond mae’r caneuon yn dal i lwyddo i swnio’n amrwd a byw. Mae ‘Ti a Dy Ffordd’ ac ‘Adeilad Uchel’ yn wych. Ar ôl gwrnado dwi wir isio clywed y caneuon yma’n fyw

achos gen i deimlad ’sa nhw’n well fyth. Prynwch Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas - mae werth mwy na’r £5 mae’n ei gostio. Casia Wiliam Nôl ac Ymlaen – Calfari Megis fflach sydyn mae Calfari wedi ymddangos ar y sin ac maent wedi bwrw ati’n syth bin i gigio’n frwd a chyflwyno’u EP cyntaf, Nôl a Mlaen. Mae yna deimlad old-school i rai o’r caneuon, ac mae’r traciau’n cynnwys riffs cymhleth ac uchelgeisiol sy’n gweithio’n dda iawn gyda llais cryf a phwerus Bryn Williams. Mae ‘Rhydd’ yn ddechrau da i’r casgliad. Clywn ddeuawd egnïol gan Elin Angharad a Bryn ac mae eu lleisiau’n asio’n dda iawn. Mae tempo ‘Nôl ac Ymlaen’ yn arafach a naws fwy acwstig, swynol yn perthyn iddi i ddechrau, cyn bŵm o sŵn yn adeiladu at grescendo trawiadol. ‘Erbyn Hyn’ sy’n cloi’r casgliad, dyma gân â naws mwy difrifol a rydd lwyfan gwell i arddangos llais teimladwy Bryn, gyda solo gitâr anhygoel yn coroni’r cwbl. Serch hynny, mae’r fade out reit ar y diwedd yn fymryn o anti-climax, byddai wedi bod yn werth gadael i’r EP orffen gyda bang!

rhai sydd wedi bod yn y cysgod tan rŵan. Mwng – Mae’r 11 trac bonws arall yn fersiynau byw o ganeuon Super Furry Animals Mwng. Mae’r rhain yn cynnwys caneuon o set byw’r band I ddathlu pymtheg mlynedd ers yn ATP a sesiwn y band ar raglen John Peel. Uchafbwynt rhyddhau Mwng mae’r Super yr holl gasgliad i mi yw’r fersiwn 15 munud anhygoel o Furry Animals newydd ryddhau ‘Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer Ar Y Blaned Neifion’. fersiwn estynedig arbennig o’r Beth sy’n dda am y fersiynau byw yw clywed cymeriad a albwm chwedlonol. Mae’r fersiwn hiwmor Gruff Rhys yn amlygu ei hun rhwng y caneuon, deluxe yn cynnwys deg trac gwreiddiol Mwng yn ogystal â 16 trac ychwanegol, sydd heb eu rhyddhau ym Mhrydain yn enwedig wrth iddo geisio disgrifio ystyr pob cân! Yn ogystal â bod yn record sy’n dangos gallu’r band yn o’r blaen. y stiwdio, mae’r caneuon ychwanegol yn brawf pam fod y Rhan gyntaf o’r traciau bonws yw ‘Mwng Bach’, EP band yn cael eu hystyried ymysg bandiau byw gorau gafodd ei ryddhau yn yr UDA yn unig yn 2000, ac eu cyfnod. mae’r caneuon hyn yn cyfiawnhau ail-ryddhau GWRRHAID Albwm mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg, 26 Mwng ar ben eu hunain. Mae traciau fel AND O o ganeuon a thri finyl gwyn 12” i gyd am £30-£35. ‘Cryndod Yn Dy Lais’ a ‘(Nid) Hon Yw’r Gân Bargen. Sy’n Mynd I Achub Yr Iaith’ yn ganeuon y dylid Owain Gruffudd eu hystyried yn glasuron Cymreig, ond efallai yn


Mae ambell i gân fymryn ar yr ochr gawslyd ond dyma’r fath o gerddoriaeth sy’n apelio at gynulleidfa ehangach, ac mae Calfari yn sicr yn gwneud eu marc gyda’r EP gyntaf hon. Miriam Elin Jones Dal i Frwydro – Osian Howells Petai’r gân hon yn rhaglen deledu, byddai’n dod o dan y genre poblogaidd diweddar, Nordic noir. Mae’r piano yn ein harwain ar daith dywyll, lle dydyn ni ddim yn siŵr i ba gyfeiriad mae’n mynd. Yn yr un modd â’r cyfresi Sgandinafaidd mae’n araf yn dechrau a rhaid disgwyl tipyn i’r gân hel momentwm. Ond cyn ei labelu’n ‘ddiflas’. Daliwch ati. Gorffennwch y stori. Fe gewch ddiweddglo boddhaol, hyd yn oed os ydyw ychydig yn ddisymwth. ’Dw i wrth fy modd mai piano sy’n arwain y sengl, mae’n newid braf o’r hyn rydym yn dueddol o’i glywed ar donfeddi radio. Gallai Osian fod wedi gwthio’r gân ymhellach i gael uchafbwynt mwy dramatig sy’n cyfleu’r frwydr feddyliol y mae o’n sôn amdani. Wedi dweud hynny, mae’r cynildeb, yn y pendraw, yn talu ar ei ganfed. Lois Gwenllian Nirfana – HMS Morris Ticed un ffordd i gyfeiriad pell yn nyfnderoedd y llwybr llaethog ydy sŵn seicedelig ‘Nifarna’ gan HMS Morris. Ers clywed eu sesiwn C2 i Huw Stephens cwpwl o fisoedd yn ôl, dwi ‘di bod yn ysu i glywed mwy ganddynt ac o’r diwedd mae ‘na sengl newydd wedi glanio. Rhywsut, er ei bod yn gân bop dros 4 munud, oherwydd ei thueddiadau seicedelig, mae hi’n rhy fyr yn fy marn i! Dyma gân dwi’n methu aros i ymgolli ynddi wrth ei chlywed yn fyw. O krautrock R. Seiliog a phop

tywyll Gwenno, ac o synau Sen Segur i garchardy o diwns y Carcharorion, dyma sengl sydd yn ychwanegiad cryf i’r gronfa o gerddoriaeth amgen a seicedelig sy’n ffynnu yng Nghymru ar hyn o bryd. Cai Morgan Machlud Haul – Ysgol Sul Am fand cymharol newydd, mae caneuon Ysgol Sul eisoes yn adnabyddus a dyma fand sy’n sicr iawn o’u steil. Gwelwn elfen ‘stripped back’ ac amrwd i’r sengl ‘Machlud Haul’ unwaith eto, ac mae’n ddilyniant teilwng iawn i ‘Aberystwyth yn y Glaw’. Clywn lais dwfn, Morrissey-aidd Iolo Jones yn atseinio dros y trac sain amrwd, a theimlaf fod y triawd o fyfyrwyr o brifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r môr tymhestlog a thraethau llwydion eu cartref fel ysbrydoliaeth ar gyfer y gân hon. Heb os, mae yna elfen hunan-fyfyriol iddi, ac mae’r bassline sy’n adleisio’n effeithiol yn y cefndir yn ychwanegu at y naws hwnnw. Dim rhyfedd mai dyma Fand Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar gyda chaneuon hudolus fel hyn. Miriam Elin Jones Uwch Gopa’r Mynydd – Yucatan Dwi wastad yn teimlo’n gyfforddus a diogel wrth wrando ar Yucatan. Mae’r band wedi cerfio niche i’w hunain ac mae rhywun yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth wrando arnynt, plethiad hyfryd o synau hudolus am dri chwarter cân ac yna, gan amlaf, crescendo epig o guriadau a llinynnau i orffen. Nid beirniadaeth mo hynny, mae’n fformiwla sydd wedi gweithio’n berffaith yn y gorffennol ac mae’n braf ei glywed eto ar Uwch Gopa’r Mynydd, yn enwedig wedi seibiant hir ers yr

albwm diwethaf. Daw’r enghraifft orau o’r sŵn nodweddiadol yma ar ‘Cwm Llwm’ efallai, cân sydd yn onomatopëig bron yn y naws organig a phur mae hi’n ei greu. Mae yma ddatblygiad hefyd, ar sawl un o’r traciau ceir sŵn llawnach mwy byw na’r hyn rydym wedi’i glywed gan Yucatan o’r blaen. Wedi dweud hynny, sŵn cyfarwydd iawn yw offeryn amlycaf yr albwm hwn – llais breuddwydiol y prif leisydd, Dilwyn Llwyd. Ceir cyfraniadau lleisiol effeithiol gan Osian Howells hefyd mewn casgliad fydd yn sicr o’ch hudo. Gwilym Dwyfor 1985-1995 – Datblygu Does dim llawer i’w ddweud am y casgliad yma gan un o fandiau mwyaf arloesol ac eiconig Cymru. Mae’r frawddeg Saesneg ar gefn y clawr yn crynhoi’n berffaith – “the definitive singles collection from one of the greatest ever Welsh bands.” Dyna ni, adolygiad drosodd. O ddifrif, mae’r casgliad yma’n wrando angenrheidiol ac yn record ddylai fod ar silff unrhyw ffan o gerddoriaeth Gymraeg, neu unrhyw iaith arall. Mae’n ddilyniant naturiol i 1982-1984 – Y Tapiau Cynnar, a ryddhawyd gan Ankst yn 2013. Ble mae’r casgliad cynnar hwnnw’n dangos potensial y grŵp anhygoel yma, ond yn amrwd iawn, mae 1985-1995 yn dangos y Datblygu wedi aeddfedu’n llawn. Roedd Datblygu’n grŵp oedd yn dal i arbrofi a gwthio ffiniau yn y cyfnod yma, ond ar yr un pryd yn ‘Y Teimlad’, ‘Maes-E’, ‘Pop Peth’ a’r anhygoel ‘Cyn Symud i Ddim’ mae ganddoch chi rai o gampweithiau mawr cerddoriaeth Gymraeg 20 mlynedd olaf y mileniwm diwethaf. Owain Schiavone


adolygiadau CLWB SENGLAU’R SELAR Un ffordd o sicrhau deunydd ar gyfer adolygiadau yw rhyddhau stwff eich hunain! Mae Clwb Senglau’r Selar wedi bod yn mynd ers chwe mis bellach, felly dyma adolygiad sydyn o arlwy’r tri mis diwethaf.

Diwrnod Griff yn Datblygu

MAI

Resbiradaeth – Cpt Smith Mae ‘Resbiradaeth’ yn ein hudo ni mewn efo riff sydd fel y frech ieir (o catchy). Fesul un mae gweddill yr offerynnau’n ymuno yn y parti nes bod pawb yn mynd amdani a’r meic bron yn cyffwrdd tonsils y prif leisydd. Mae’r band fel cefnder i Breichiau Hir, ac ella’n gyfyrder i Y Ffug, ond mae ganddo ei bersonoliaeth ’bach jarfflyd ei hun hefyd. Mae’r trac pync yn feirniadaeth o ba mor arwynebol a ffug ydy cymdeithas ‘hapus’ dwi’n meddwl. Dwi’n licio hi fwy efo bob gwrandawiad a fedra i weld y bydd y band yma’n dod yn fawr yn y blynyddoedd nesa. Casia Wiliam

EBRILL

Neb Yn Aros - Terfysg Heb os, dyma sengl bwerus dros ben. Rhwng yr alawon bachog a’r geiriau graenus a’r offeryniaeth gadarn, mae yna naws eithaf sinistr yn bodoli yn ‘Neb Yn Aros’. Y mae hi’n llawn o ddylanwadau amrywiol, ond y mae hi’n fy atgoffa’n fawr o waith Y Reu. Mae yna strwythur da iddi, ac mae’r cyfuniad rhwng y gitârs a’r synths ynghyd â rhythmau cymhleth y drymiau yn effeithiol dros ben. Y mae hi’n syml, ond eto’n afaelgar. Dyma gân sy’n sicr am wneud i’r dorf neidio i fyny a lawr a chanu gyda Terfysg. Ifan Prys

MAWRTH

Mwg Bore Drwg – Henebion Mae rhyw agwedd yn perthyn i hon. Y riff agoriadol, sy’n cael ei ailadrodd sawl gwaith, yn rhoi naws pync-aidd o’r dechrau; y llais penderfynol yn rhoi hanes effeithiau neithiwr; a’r dryms yn gryf ac yn tynnu digon o sylw. Mae’r cyfan gyda’i gilydd yn gweithio i greu cân fachog. Mae’r gytgan wedi aros gyda fi ar ôl rhyw dri gwrandawiad. Byddai’n gweithio o lwyfan gŵyl neu mewn rhyw glwb nos dingy a thywyll, gystal ag ar y radio. Er nad oes dim byd rhy wahanol yma mae’r sŵn yn dynn ac eitha’ aeddfed i fand ifanc. Bethan Williams

Mae pawb yn cael diwrnod gwael yn y gwaith o dro i dro. Mae’r rhan fwyaf ohonom jyst yn mynd adref ac yn gwylio Pointless. Dyma beth mae Griff yn ei wneud. Ar ôl diwrnod hir a diflas o ffilmio yng Nghaerfyrddin ’chydig wythnosau yn ôl, ro’n i’n teimlo braidd yn anobeithiol, ac yn chwilio am ffordd i godi fy nghalon, a’r unig beth o’n i’n gallu meddwl fysa’n gweithio oedd galw heibio un o’m harwyr, David R Edwards o Datblygu. Rŵan, ’di hyn ddim yn rhywbeth fyddai’n ei ‘neud yn aml, troi fyny ar stepen drws rhywun dwi wedi’i gyfarfod llond llaw o weithiau, ond roedd treulio diwrnod efo actorion, wedi gwneud i mi ysu am ryw fath o reality check, a phwy well i gynnig hynny na brenin gonestrwydd di-flewyn ar dafod, David R. Roedd hi ychydig ddiwrnodau ar ôl gig Datblygu yng ngŵyl CAM, Caerdydd, un o’i gigs cyntaf ers blynyddoedd maith. Roedd tua 600 o bobl wedi ymgynnull i wylio’r set, pobl o bob cwr o’r byd, gan gynnwys un ferch o Efrog Newydd, sydd wedi newid ei henw’n swyddogol i Sarah Datblygu (stori arall ydi honno). Colli’r gig wnes i, ond roedd y wên ar wyneb David yn adrodd hanes y merched yn ei ‘fobio’ wedi’r gig, yn amhrisiadwy. Ces baned, a gwrandawiad egsgliwsif ar draciau newydd sbon Datblygu, fydd ar yr albwm newydd. Y moddion perffaith i ysgafnhau pwysau’r diwrnod. Clywais adlais o sŵn cynnar y grŵp, gan gynnwys cân wedi ei recordio gyda Llwybr Llaethog, a deuawd rhwng Pat a David (dychmygwch Frank a Nancy Sinatra yn ymuno â’r Datblygu cynnar). Mae geiriau David mor bigog ag erioed, a’i onestrwydd yn taro rhywun o’r eiliad gyntaf. Mae’r recordiadau cartref DIY hefyd yn deyrnged berffaith i athroniaeth Dave a Pat. Ma’ hon yn mynd i fod yn record wych arall i’r casgliad. Ar ôl peint yn Nhafarn Cyfeillion, sgwrs am golledion gamblo yn Aberystwyth, gwleidyddiaeth fodern, a’n cariad at gerddoriaeth bop, roedd hi’n bryd ffarwelio. Ond ddim cyn gofyn y cwestiwn tyngedfennol, “fydd yna fwy o gigs Datblygu?”. Dim ond chwerthin wnaeth David. “See how it goes ie”.


L A D N Y ’ T O N H S L E W ‘ R ’ E A M F I R N A G n i a 1 R YN FYW YN Y 2 eu hamddifadu o’r ru m Cy n lio yb sg di if fr Caiff mwya eg, a llawer eu hatal rhag ra m Gy ’n bu re th fa gy i gallu addysg gyflawn Gymraeg ag derbyn addysg rh al at ch ei el ca i ed w i Ydych ch d i rywun rydych yd gw di i ed w n hy y yd Gymraeg? Neu chi’n ei nabod? uned Cymdeithas yr Iaith i u tia iff re gh en h c â’ ch Dew Caerffili a’r Cylch dd Ur yr od df ed st Ei es fa (33-34) ar

yno’r A dewch gyda ni i gyflw llywodraeth: llyfr tystiolaeth i uned y

, 30ain Mai 1:30pm, Dydd Sadwrn ith, Uned Cymdeithas yr Ia rdd Maes Eisteddfod yr U Gyda Keith Davies AC, eraill Côr Cochion Caerdydd ac

cymdeithas.cymru #WN21 #addysggymraegibawb

hysbys 603 selar 2015 190x138mm_562 12/05/2015 15:48 Page 1 CyIG WN 138x190mm.indd 1

15/05/2015 17:23:29

Cynhelir ein Diwrnodau Agored nesaf ar y dyddiadau canlynol:

Sadwrn

20 Mehefin 2015 Sadwrn

4 Gorffennaf 2015 Sadwrn

17 Hydref 2015 Sadwrn

31 Hydref 2015 Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan

www.bangor.ac.uk PrifysgolBangor @prifysgolbangor @prifysgolbangoruniversity @bangoruni

Y BRIFYSGOL ORAU YNG NGHYMRU AM FODDHAD MYFYRWYR



Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.