Y Selar - Mawrth 2019

Page 1

Rhif 56 // MAWRTH // 2019


www.aber.ac.uk

Diwrnodau Agored 2019

10 Gorffennaf 14 Medi 12 Hydref 9 Tachwedd

2801-23785

> > > >


y Selar Rhif 56 // Mawrth // 2019

cynnwys

Golygyddol Rydan ni, a sawl un arall, yn dweud ers blynyddoedd ei bod hi’n oes aur i gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Efallai bod gwleidyddion di glem a landlordiaid barus yn ceisio gwneud eu gorau glas i werthu’r aur hwnnw i adeiladau llety myfyrwyr (arall), ond wna nhw ddim llwyddo i faglu’r momentwm yma. Pe bai angen unrhyw brawf pellach o hynny, edrychwch ar ddeg uchaf albyms 2018 yng Ngwobrau’r Selar eleni, categori sydd wedi bod yn anodd ei lenwi yn y gorffennol. Rŵan, dwi’n ddemocrat i’r carn ac yn “parchu canlyniad y bleidlais” bla bla bla... ond... os ydi Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc (Mellt) ddim yn ddigon da i ennill, Gwn Glân Beibl Budr (Lleuwen) ddim yn cyrraedd y tri uchaf a Melyn (Adwaith) ddim ond yn crafu i mewn i’r deg uchaf, yna mae gennym ni sin gerddorol 24 carat aur ar ein bysedd. Ac wrth gwrs, tydi’r enillydd ddim rhy ffôl chwaith! Cymerwch sbec rhwng cloriau’r rhifyn i weld pwy aeth â hi!

Y Sybs

4

Tegid Rhys

8

Gwobrau’r Selar

10

Los Blancos

12

10 Uchaf Albyms 2018

16 20

Adolygiadau

Llun clawr: Celf Calon

GWILYM DWYFOR

4

8

10

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Lois Gwenllian, Bethan Williams Griff Lynch, Dylan Huw, Elain Llwyd, Ifan Prys, Aur Bleddyn

12

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


Y SYBS YN Bore Sul yn gynnar yn y flwyddyn newydd a oedd hi ac roedd tri chwarter Y Sybs yn ymarfer yng nghartref y gitarydd, Osian Llŷr, yng Nghaerdydd. Yno hefyd yr oedd Herbie Powell (bas) a Dafydd Adams (dryms), pawb heblaw’r gitarydd, Zach Headon, a oedd eisoes wedi dychwelyd i’r brifysgol. Wrth i’r tri gymryd hoe, ymunais â hwy am baned, bisged a sgwrs am y flwyddyn gyffrous a fu a chynlluniau enillwyr Brwydr y Bandiau ar gyfer 2019. Cyn hynny, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am hanes y band. Y prif leisydd, Osian, sydd yn dechrau... “O’n i wedi dechrau ysgrifennu caneuon, jysd fi a gitâr ages yn ôl ac o’n i a Zach jysd yn jamio gyda’n gilydd. Yna tua blwyddyn a hanner yn ôl, oedden ni kind of yn jamio fel band, odd Herbie ryw hanner ffordd i mewn, a gawsom ni gynnig gig ar gyfer yr Hydref. Gawson ni ’bach o panic gan bo’ ganddom ni ddim caneuon! Felly aethon ni ati i ymarfer a thrio dysgu 4

Y SELAR

caneuon ar gyfer y gig.” “Oedden ni’n terrible y diwrnod cyntaf yna!” cyfaddefa Dafydd, a chytuna Osian. “Ie, odd e’n ’bach yn weird. O’n i really ddim moyn canu ar y pryd ond odd y deadline yn dod yn nes a doedd ganddom ni neb arall i ganu felly dodd dim dewis.” Yng nghlwb yr Earl Haig yn yr Eglwys Newydd yr oedd y gig gyntaf honno, “down the Legion” fel y dynwareda Herbie yn ei acen Gaerdydd orau. Ac fe aeth “hi’n lot gwell na beth oedden ni wedi ’ddisgwyl” yn ôl Dafydd. “Ie, suprisingly ok” yw gwerthusiad Osian cyn egluro sut yr arweiniodd y noson gyntaf honno at gyfleodd eraill. “Odd Elan Evans yn DJ-io ar y noson a gawsom ni gynnig gig arall ganddi hi yn cefnogi Omaloma a Cpt. Smith yn Clwb Ifor. Odd hwnna’n eitha’ mad.” Nid llawer o fandiau ifanc sydd yn chwarae eu hail gig mewn lleoliad mor eiconig ac mae Dafydd yn gwerthfawrogi mawredd y sefyllfa.


Lluniau: Celf Calon

SGORIO “Oedden ni wedi bod efo’n gilydd fel band am lai na mis, felly oedden ni fel, ‘ok... ni’n chwarae yn Clwb Ifor’!” “Odd hi’n eitha’ da cael ein taflu i mewn i’r deep end,” ychwanega Osian. “Nath e’ orfodi ni i ffocysu ac ar ôl hynny fe wnaethon ni lwyth o gigs, chwarae yn Clwb Ifor eitha’ lot. Ni’n really lwcus i gael pobl fel Elan sydd wedi bod yn gefnogol iawn.” Dechrau addawol heb os i grŵp o ffrindiau a oedd dal yn yr ysgol ar y pryd. Nid Y Sybs fydd y band cyntaf na’r olaf i ddechrau yn ystod dyddiau’r ysgol wrth gwrs ond yr hyn sydd yn eithaf anghyffredin amdanynt yw y gall mwy nag un ysgol hawlio ychydig o’r clod.

“Pan wnaethon ni gychwyn oedd y pedwar aelod o bedair ysgol wahanol,” eglura Herbie cyn egluro deinameg y band yn fanylach. Ymunodd Zach wedi hynny gan olygu mai tair ysgol sydd yn cael eu cynrychioli bellach, gyda Zach ac Osian yn gyn ddisgyblion Ysgol Glantaf, Dafydd yng Nghwm Rhymni a Herbie ym Mro Edern. Daeth diddordeb ac angerdd cyffredin tuag at gerddoriaeth â’r pedwar ynghyd, a hynny gyda chryn lwyddiant. “I feddwl ei fod e’n dipyn o ramshackles yn y dechrau, mae e’ wedi gweithio mas yn eitha’ da,” meddai Osian, cyn i Herbie grynhoi, “We got there in the end.” Y SELAR

5


BRWYDR Y BANDIAU Oedd, roedd Y Sybs wedi cyrraedd. Cam naturiol a oedd cystadlu ym Mrwydr y Bandiau siŵr o fod felly, ond nid oedd pethau mor syml â hynny. “Ar y dechrau, oedden ni ddim yn siŵr os oedden ni am gystadlu o gwbl,” eglura Dafydd. “Ie, oedden ni ddim yn siŵr os odd e’n move iawn i ni,” ychwanega Osian. “Yn bersonol, sa i’n ffan mawr o’r syniad o gystadlu.” Wedi i Herbie, sydd yn ddistaw ond ffraeth, awgrymu mai’r wobr arianol o £1,000 a newidiodd eu meddyliau, mae Osian yn parhau. “Dim jyst hynny! Erbyn y diwedd, odd e’n ymddangos yn really stupid i beidio cymryd mantais o’r cyfle. Ni mor lwcus yn y sin Gymraeg i gael cymaint o gyfleodd fysa pobl eraill ddim yn eu cael. Dwi’n brifysgol ar hyn o bryd ac yn adnabod cymaint o bobl sydd mewn bands a ma’ nhw’n shocked pa mor dda yw’r sin Gymraeg a faint o gyfleoedd sydd ’na i fands ifanc.” Ar ôl llwyddo mewn rownd gynderfynol ar lwyfan cyfarwydd Clwb Ifor Bach, roedd y rownd derfynol yn gêm gartref i’r Sybs hefyd ar Lwyfan y Maes yn y brifwyl fis Awst. Cyfle i’r bechgyn o Gaerdydd berfformio ar lwyfan mawr ar eu stepen drws. “Odd e’n anhygoel,” meddai Herbie. “Oedd y llwyfan yn massive. Edrych mas a gweld loads o bobl, neb yn gwbod pwy oedden ni ond dal yn wych. Fi’n meddwl falle mai dyna’r gore ni erioed wedi chwarae. Odd e’n brofiad gwych.” “Odd yr atmosffer yn dda,” ychwanega Osian. “Weithie pan ni’n chwarae gig ma’r atmosffer yn gallu bod bach yn tense os nad oes lot o bobl ’na. Ond gyda hwn, odd e’n teimlo’n lovely!” Ac er i Dafydd ddadlau i’r holl beth ddod yn “eitha’ naturiol” i’r pedwar, mae Herbie’n datgelu nad felly’n union yr oedd hi i Osian a Dafydd. “Odd nerves y ddau yma...[chwerthin]... tua hanner awr cyn mynd arno odd y ddau’n anadlu’n drwm!” Cynigais mai swyddogaeth Herbie, a’i gymeriad ymlaciedig a oedd lleddfu nerfau’r lleill ond nid oedd llawer o gydymdeimlad i’w gael gan y basydd! “Na, o’n i ddim yn cadw nhw’n calm, o’n i jysd fel, c’mon bois.” GIGIO Fe wnaeth o weithio pryn bynnag achos Y Sybs enillodd. Rhan o’r wobr wrth gwrs oedd set arall ar lwyfan mawr ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, agor nos Sadwrn ym Maes B. “O’n i lot fwy nerfus ar gyfer y gig yna,” cyfaddefa Osian. “Y peth gyda Maes B yw bod lot o bobl yr un oed a ni,” ychwanega Dafydd. “Pobl ni’n ’nabod ac ma’ hynny’n gwneud e’n fwy o big deal rhywsut. Ond nes i fwynhau’r gig yna.” Rhannodd y Sybs y llwyfan gydag Adwaith, 6

Y SELAR

Cpt. Smith ac Yr Eira’r noson honno ym Maes B ac mae’r band ifanc eisoes wedi gigio gyda nifer o fandiau sefydledig eraill. Yn rhan o sin gref yng Nghaerdydd, maent wedi chwarae gyda Los Blancos, Mellt, Estrons a Breichiau Hir. “Ni wedi bod yn really lwcus,” meddai Osian. “Yn enwedig efo Clwb Ifor, chwarae support i lwyth o fandiau. Mae’r sin yn really close-knit. Ni wedi gwneud good circuit o Gaerdydd ond y cam nesaf yw chwarae mwy o gwmpas Cymru. Ma’ fi a Zach yn Llundain ar hyn o bryd felly fyse fe’n really cool ymestyn mas i Lundain hefyd.” Difyr clywed cerddorion ifanc yn sôn am bwysigrwydd lleoliadau o ystyried yr hinsawdd bresennol, gyda’r Parrot yng Nghaerfyrddin wedi cau a Buffalo a Gwdihŵ o dan fygythiad yng Nghaerdydd. Mae llawer o gwyno wedi bod am Gyngor Caerdydd, sydd ar y naill law’n ceisio hyrwyddo’r brifddinas fel ‘Dinas Gerddoriaeth’ ond ar y llaw arall yn ymddangos fel eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i osod rhwystrau. “Ni’n teimlo’n eitha crac amdano fe rili,” meddai Osian. “Odd y peth Dinas Gerddoriaeth i’w weld yn rhywbeth mor bositif ar y dechrau ond ma’ fe wedi troi mas i fod yn publicity stunt. Wnaethon nhw jysd neud e’, odd neb yn siŵr iawn beth odd e’n ei olygu, ond dyw’r Cyngor heb wneud dim i helpu venues mas.” “Lle ni fod ’chwarae os chi’n cau’r holl lefydd yma?” hola Herbie’n bryderus. “Ni’n lwcus bod Womanby Street dal yna!” A does dim amheuaeth am bwysigrwydd y lleoliadau ym meddwl Dafydd ychwaith. “Fel band ifanc, os na fydden ni wedi cael y cyfleoedd ry’n ni wedi eu cael, fydden ni ddim yma.” “Ma’ fe’n rili tragic am y Parrot yng Nghaerfyrddin hefyd,” parha Osian. “Ma’ ’da ti sin gyfan sydd wedi tyfu o’r un venue yna. Meddwl am holl fandiau Libertino mwy neu lai, fydde’r sin yna heb fodoli heb rywle i’r bandie yna i chwarae ynddo. SŴN Y SYBS Beth bynnag fydd tynged Gwdihŵ yn 2019, ar nodyn mwy positif, mae gan Y Sybs gynlluniau cyffrous iawn ar gyfer y flwyddyn i ddod. “Ni newydd recordio sengl efo Kris Jenkins, Paid Gofyn Pam / Cadw Draw. A sesiwn Radio Cymru hefyd [a gafodd ei darlledu ddiwedd Ionawr]. Efo dau ohonon ni’n byw yn Lloegr ar hyn o bryd ni am ganolbwyntio mwy ar recordio a cheisio rhyddhau rhywbeth, potentially albwm.” “Wel... ma’ rhaid i fi actually dysgu’r caneuon yn gyntaf!” atgoffa Herbie, a bydd digon o waith dysgu hefyd wrth i’r band arbrofi gyda’u sŵn ac archwilio cyfeiriadau gwahanol dros y misoedd nesaf.


“Ma’ ’da ni lot o ganeuon newydd ni moyn ’neud, sydd yn mynd mewn cyfeiriad ’bach yn wahanol,” eglura Osian. “Fi wedi bod yn gwrando ar lot o ddisgo, stwff mwy dancy, a dwi’n meddwl bod hynny’n dod trwodd yn y caneuon newydd. Trio gneud rhywbeth gwahanol rili.” “Ni ddim ishe gneud yr un peth drosto a drosto,” ychwanega Dafydd. O Faes B i Glwb Ifor, o ysgolion i gestyll Cymru, fe gigiodd Y Sybs yn galed llynedd ond mae’n amlwg bod ffocws enillwyr Brwydr y Bandiau yn troi at recordio yn 2019. A dyna’r ffordd i’w gwneud hi wrth gwrs, meithrin y grefft cyn mentro i’r stiwdio. Ac mae gan Osian air o gyngor i gloi. “Parhau i gigio yw’r bwriad, ond meddwl mwy am y math o gigs ni’n eu gwneud hefyd. Flwyddyn diwethaf oedden ni’n cymryd popeth a dwi’n argymell hynny i bob band newydd.” Y SELAR

7


TEGID RHYS Pam Fod y Môr Dal Yna? allan mis Chwefror, sut deimlad ydi rhyddhau dy albwm cyntaf? Teimlad cyffrous ac ychydig o ryddhad. Dwi ’di bod yn gweithio ar yr albwm ers sbel ac mae’n braf ei ryddhau o’r diwedd. Dwi’n wirioneddol hapus efo fo, ond yn amlwg mae rhywun yn bryderus i weld sut ymateb ’ceith o. Gawn ni weld. Lle a phryd fuost ti’n recordio? Nifer o lefydd rhwng 2017 a 2018. Stiwdio Drwm, Llanllyfni, yno wnaethom ni recordio’r drymiau i gyd. Roedden ni hefyd yn recordio yn Stiwdio Carneddi, Bethesda. Wnes i recordio lot o stwff fy hun adref. Dim ond tair cân wnaethom ni ‘from scratch’ mewn stiwdio iawn, wnes i recordio’r gweddill neu ran helaeth o’r caneuon adref. Pwy fu’n cynhyrchu? Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog). Dwi’n ’nabod Aled ers dros ugain mlynedd – roeddwn yn yr ysgol efo fo – ac roeddwn yn ffan o’i waith cynhyrchu gyda Plu ayyb. Anfonais ambell i ddemo iddo fo, ac wedyn ar ôl iddo ddweud bod o’n ei lecio nhw, aethom ati i weithio arnyn nhw. Efo pwy ti’n rhyddhau? Dwi ’di sefydlu label fy hun sef Recordiau Madryn Records. Roeddwn yn arfer byw mewn tŷ o’r enw Madryn, a dyna lle wnes i ddechrau recordio’r albwm, felly roeddwn ’isio trïo cael yr enw Madryn i mewn yn rhywle. Ar ba fformat fydd yr albwm ar gael? Yn ddigidol ac ar gopi caled hefyd. Roeddwn ’isio creu copi caled oherwydd dwi’n berson sydd yn dal i hoffi cael gafael ar albwm, gweld y gwaith celf a darllen y nodiadau tu mewn i weld lle cafodd ei recordio, 8

Y SELAR

pwy oedd yn chwarae beth ayyb. Dwi’n eithaf hen ffasiwn fel yna! A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Cwestiwn da. Mae’n haws weithiau i rywun arall ddweud, ond dwi’n meddwl be’ sydd ar yr albwm yw casgliad o gerddoriaeth sy’n gymysgedd o acwstig traddodiadol, amgen a gwerin seicedelig gyda naws electronig atmosfferig ac awyrol (ambient). Fe wnes di ryddhau ‘Terfysg Haf’ fel tamaid i aros pryd ym mis Tachwedd, ydi honno’n adlewyrchiadol o’r casgliad cyfan? ‘Terfysg Haf’ oedd y gân gyntaf i Aled a finnau recordio. Yn wreiddiol roedd y demo’n arafach na be’ recordiwyd yn y stiwdio a dim ond gitâr acwstig oedd arni. Mae ‘na fwy o fynd i’r gân ’rŵan. Mae’r gitâr drydan yn ychwanegu rhywbeth iddi hefyd. Mae hi’n llai acwstig, gwerin ac ambient na chaneuon eraill ar yr albwm, ond heb os yn perthyn i’r caneuon eraill. Beth yw’r broses wrth i ti recordio? Yn y sesiwn cyntaf gwnaethom recordio ‘Terfysg Haf’ a ‘Pam Fod y Môr Dal Yna?’ Roedd gen i sgerbwd i’r caneuon, darn gitâr, alaw, geiriau ond dim llawer mwy. Yn y stiwdio gwnaethom roi drymiau ar ben y rhain a chwarae ychydig gydag effect pedals. Gweithiodd Aled lot arnynt wedyn i fod yn deg, i’w cael nhw i swnio fel maen nhw. Ar ôl hyn wnes i recordio lot yn fy stiwdio adref a thrïo fy ngorau i’w cael nhw i swnio fel oeddwn ’isio cyn i mi anfon nhw at Aled. Yr unig beth oeddan ni’n gwneud wedyn oedd ychwanegu drymiau, bas a beth bynnag arall oeddwn yn teimlo roedd y gân angen, a thwtio yn gyffredinol.

Pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Lot fawr o singer-songwriters a stwff gwerin modern Saesneg fel Keaton Henson, Iron & Wine, Glen Hansard, Gregory Alan Isakov, Johnny Flynn, Laura Marling a Fleet Foxes. Roeddwn yn gwrando hefyd ar lawer o Cat Stevens a Simon & Garfunkel. O ran cerddoriaeth Gymraeg, artistiaid fel Gildas, Plu, Cowbois Rhos Botwnnog a ballu. Oes ’na rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Dwi’n meddwl ei bod bron yn anochel fod y gerddoriaeth yr ydych yn gwrando arni ac yn ei hoffi yn mynd i ddylanwadu ar y math o gerddoriaeth yr ydych yn ei chreu. Efallai ddim yn uniongyrchol ond yn sicr yn yr isymwybod. Lle arall fyddi di’n cael ysbrydoliaeth? O ran sgwennu caneuon, mae fy nheulu – fy ngwraig a ’mhlant – yn sicr yn ysbrydoliaeth. Hefyd, dwi’n cyfeirio lot at y môr, natur a thirwedd yn fy nghaneuon. Dwi’n frodor o Lŷn yn wreiddiol, felly o bosib dyma’r rheswm pam. Sôn ychydig am y cerddorion eraill sydd yn ymddangos ar y record. Yn ogystal â chynhyrchu’r albwm, mae Aled wedi chwarae nifer o offerynnau, yn bennaf bas, ond hefyd gitâr drydan a mellotron. Dafydd Hughes, brawd Aled, a oedd yn chwarae’r drymiau; gwnaeth Euron Jones chwarae’r gitâr ddur bedal ar ddau drac; a wnes i berswadio Heledd, fy ngwraig i ganu ar un hefyd. Sut brofiad oedd gweithio gyda nhw? Roedd hi’n bleser gweithio efo Aled, ac alla’ i ddim canmol ei waith o ddigon. Dwi’n credu bod Aled yn


Lluniau: Kristina Banholzer

deall be’ oeddwn yn ceisio’i wneud efo’r albwm, naws a sŵn penodol, roedd hi’n broses ddiffwdan iawn. Roedd cael Dafydd ar y drymiau yn grêt, fel Aled, roedd o’n gwybod y math o beth fyddai’n siwtio’r caneuon i’r dim. Roedd o’n gymaint o hwyl yn y stiwdio hefyd. Efo Heledd, roeddwn ’isio llais benywaidd ar gân olaf yr albwm, ‘Hwiangerdd’. Y ffasiwn ffraeo! Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Roedd arbrofi gyda synau’n gallu bod yn rhwystredig pan oeddwn recordio adref, ond doedd dim sialensiau fel y cyfryw. Efallai mai’r gân dwi fwyaf balch ohoni ydy ‘Sinema’. Cafodd ei chyd-ysgrifennu gyda Rhodri Evans. Roedd gen i ddarn gitâr heb eiriau iddo, wedyn cofiais fod Rhodri wedi sgwennu penillion flynyddoedd yn ôl. Roedd y geiriau’n ffitio’n berffaith a daeth yr alaw’r eiliad honno. Hon oedd y gân gyntaf i mi recordio’r cyfan fy hun cyn mynd â hi at Aled i adio’r drymiau a bas. Treuliais lot o amser yn arbrofi arni gyda synths, organs, gitâr drydan, pedalau, ayyb.

Mae’r ffaith ei bod hi bron yn wyth munud o hyd yn eithaf cŵl hefyd! Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion difyr neu droeon trwstan? Dwi’n cofio bod yn Stiwdio Drwm efo Aled a Dafydd yn atgoffa ein hunain o berfformiad campus Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016 ar YouTube. Pethau bach fel yna oedd yn hwyl. Roedd y broses yn un hamddenol iawn i ddweud y gwir, i mi beth bynnag. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Ymlacio! Gwisgwch eich clustffonau, dewiswch fan cyfforddus, caewch eich llygaid. Gwrandewch. O’m mhrofiad i, dwi’n cael cymaint mwy o’r gerddoriaeth pan dwi’n gwrando fel hyn. Os dydy’r amser ddim gennych, gwrandewch wrth olchi llestri, dyma dwi’n ’neud beth bynnag!

HOFF ALBWM I orffen, beth yw dy hoff albyms yn y categorïau isod. Hoff albwm 2018? Llifo Fel Oed - Blodau Gwylltion Hoff albwm efo thema forwrol yn ei henw? Sea Sew - Lisa Hannigan Hoff albwm cyntaf? Definitely Maybe - Oasis

Gwertha’r record i ni mewn pum gair! “Bregus a thyner, ond angerddol.” Y SELAR

9


Enillwyr

Cân Orau

Cyflwynydd Gorau

(Noddir gan PRS for Music)

(Noddir gan Heno)

RHESTR FER: • Catalunya – Gwilym • Rebel – Mellt • Ddoe, Heddiw a ‘Fory – Candelas

RHESTR FER: • Tudur • Garmon ab Ion • Huw Stephens

ENILLYDD: CATALUNYA – GWILYM

ENILLYDD: TUDUR Dewis da o gyflwynwyr ifanc a hip ar y rhestr hir eleni....ond Tudur Owen sydd wedi plesio’r pleidleiswyr fwyaf am yr ail flwyddyn yn olynol. Anodd dadlau nad ydy ei raglen gyda’r orau ar Radio Cymru diolch i’w hiwmor ffraeth a dewisiadau cerddorol Dyl Mei.

Pwy dd’wedodd nad ydy bandiau’n cyfansoddi caneuon gwleidyddol dyddiau yma? Go brin fod llawer o ganeuon mwy amserol na ‘Catalunya’ yn 2018. Cafodd ei chwarae gyntaf ar y Cae Ras wrth i Wrecsam chwarae gartref, ac mae wedi cyrraedd brig tabl darllenwyr Y Selar.

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Dydd Miwsig Cymru) RHESTR FER: • Recordiau Côsh • Clwb Ifor Bach • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ENILLYDD: CLWB IFOR BACH Mewn blwyddyn sydd wedi gweld sawl lleoliad cerddoriaeth fyw yng Nghymru’n cau, mae’n briodol bod yr enwocaf yn ennill y wobr yma. Mae Clwb yn dal i lwyfannu artistiaid yn rheolaidd yn Stryd y Fuwch Goch, a bellach yn hyrwyddo gigs mewn lleoliadau eraill hefyd.

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis) RHESTR FER: • Sesiwn Fawr Dolgellau • Tafwyl • Maes B ENILLYDD: MAES B Gredwch chi fod Maes B yn agos iawn at beidio cyrraedd y rhestr hir eleni? Y pumed gwaith yn olynol i ŵyl gerddoriaeth ymylol y Steddfod Gen gipio’r wobr yma, ac uchafbwynt digwyddiadau byw darllenwyr Y Selar o hyd.

Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion) RHESTR FER: • 3 Hwr Doeth • Lewys • Wigwam

ennillw

Trwy gydol mis Rhagfyr casglwyd bron mil a hanner o bleidleisiau gan ddarllenwyr Y Selar i benderfynu ar enillwyr Gwobrau’r Selar eleni. Dyma ddatgelu pwy ddaeth i’r brig...

yr 2018

2018

ENILLYDD: LEWYS Mae Y Selar yn disgwyl pethau mawr gan Lewys ers cwpl o flynyddoedd, a 2018 oedd blwyddyn blodeuo yr artist o Ddolgellau. Ffurfio band byw, rhyddhau tair sengl boblogaidd gyda Recordiau Côsh, a chyhoeddi cwpl o fideos ardderchog. Rydan ni’n disgwyl pethau mwy eto yn 2019.


Seren y Sin (Noddir gan Ochr 1) RHESTR FER: • Aled Hughes • Branwen Williams • Michael Aaron Hughes ENILLYDD: BRANWEN WILLIAMS Categori newydd i Wobrau’r Selar eleni, gyda’r bwriad o ddathlu a gwobrwyo cyfraniad rhai o arwyr tawel y sin. Un o rheolwyr label I KA CHING, a hyrwyddwr nosweithiau byw rheolaidd yn ardal Y Bala (a cherddor dawnus hefyd) – Branwen Williams ydy Seren y Sin 2018.

Gwaith Celf Gorau Artist Unigol Gorau (Noddir gan Galactig)

ENILLYDD: SUGNO GOLA - GWILYM

RHESTR FER: • Welsh Whisperer • Alys Williams • Mei Gwynedd

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae gwaith celf trawiadol yn bwysicach nag erioed i ddal y sylw, ac yn arbennig felly wrth ryddhau record ar ffurf CD neu feinyl. Gitarydd Gwilym, Rhys Grail, sy’n gyfrifol am waith celf arbennig clawr albwm cyntaf Gwilym ac mae’n werth chwilio am eitem ddiweddar Hansh i ddysgu mwy am y darn.

ENILLYDD: ALYS WILLIAMS Oes ‘na unrhyw un erioed wedi gigio gymaint â’r Welsh Whisperer? Ac mae ganddo fo 17,000 o bobl yn hoffi ei dudalen Facebook! Mae angen rhywun arbennig iawn i orchfygu’r fath ffenomena, ac mae Alys Williams, â’i llais rhyfeddol, yn sicr yn gantores arbennig iawn.

Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) RHESTR FER: • Y Cledrau • Mellt • Gwilym ENILLYDD: GWILYM Teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd, a theitl ‘Band Gorau’ eleni. Roedd 2018 yn dipyn o flwyddyn i Gwilym ac os oedd angen prawf o’u poblogrwydd ymysg cynulleidfaoedd Cymru, wel curo Mellt ac Y Cledrau i frig y bleidlais yma oedd y prawf hwnnw.

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) RHESTR FER: • Croesa’r Afon - Trŵbz • Y Gwyfyn - The Gentle Good • Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun Breichiau Hir ENILLYDD: CROESA’R AFON - TRŴBZ Categori sydd dan fygythiad wrth i EPs a recordiau byr fynd yn brinnach diolch i’r pwyslais ar ryddhau senglau i’w ffrydio. Ond mae dal lle i’r hen EP ffyddlon yn nhyb Y Selar, a dyma chi restr fer gref i brofi pam.

ennillw

RHESTR FER: • Bubblegum – Omaloma • Yn Fy Mhen – Lewys • Sugno Gola – Gwilym

yr 2018

(Noddir gan Y Lolfa)

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Hansh) RHESTR FER: • Cysgod – Gwilym • Gwres – Lewys • Cwîn – Gwilym ENILLYDD: CWÎN - GWILYM Llwyth o fideos cerddoriaeth wedi ymddangos yn 2018, rhai rheolaidd gan griw Ochr 1 a Hansh, ond hefyd nifer o rai wedi eu cynhyrchu’n annibynnol. Un o fideos Ochr 1 oedd ffefryn darllenwyr Y Selar, ac Aled Rhys Jones oedd y cynhyrchydd.

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Mark Roberts a Paul Jones


GYDA NIFER O’R GWYBODUSION YN CANU EU CLODYDD, A’U HENW’N YMDDANGOS AR LEIN-YPS SAFONOL TU HWNT, UN O’R BANDIAU CYMRAEG MWYAF CYFFROUS AR HYN O BRYD, HEB OS, YW LOS BLANCOS. GYDAG ALBWM CYNTAF AR Y GWEILL YN Y GWANWYN, PA AMSER GWELL I LOIS GWENLLIAN YMWELD AG UN O DAFARNDAI CAERDYDD AM SGWRS GYDA’R SLACYR-ROCARS O’R GORLLEWIN SYDD BELLACH YN BYW’N Y BRIFDDINAS.

ALBWM

Lluniau: Celf Calon

12

LOS BLANCOS

Y SELAR


Dwi’n hwyr yn cyrraedd ac mae Los Blancos, sef Gwyn, Emyr a Dewi (mae Osian yn Aberystwyth, methu ei gwneud hi), yn eistedd yng nghornel y dafarn. Un yn yfed hanner, un yn yfed coffi a’r llall yn yfed diod ysgafn. Er eu bod yn ffrindiau ers dyddiau’r ysgol, fyddech chi ddim yn eu gosod nhw gyda’i gilydd rhywsut. Mae un yn dal ac yn edrych fel y dylai fod mewn tîm rygbi, un yn eiddil ac yn farfog a’r llall yn baby-faced a brwdfrydig ei osgo. Ond eto, maen nhw’n edrych fel band sy’ wedi bod ar gloriau cylchgronau erioed. Ymddiheuraf am fod yn hwyr a mynd i’r bar i archebu peint o shandy (roedd y car gen i). Los Blancos yw’r diweddaraf o fandiau Recordiau Libertino i greu argraff ar y byd. Mae adolygiadau ffafriol o’u sengl ddwbl ddiweddaraf, Cadw Fi Lan/Ti Di Newid, yn ymddangos yn rheolaidd ar flogiau a gwefannau cerddoriaeth niferus. Gitâras ac atgofion o’r haf yw’r ffordd orau o’u disgrifio ar y gwrandawiad cyntaf. Pedwarawd pync ysgafn syth allan o’r coleg. Felly sut daethon nhw i fodolaeth? “Dechreuon ni byti dwy flynedd yn ôl, fysen i’n gweud” eglura Gwyn. “Ni jyst wedi bod yn jamo am gwpl o flynydde ac wedyn ’nath Emyr a fi recordio ‘Clarach’ fel demo a meddwl, bugger it, wnawn ni band mas ohono fe. Pam lai?” Dewi sy’n parhau â’r stori, “Ie, wedyn ’nath Hedd Gwynfor gynnig gig i ni yn y Parrot yng Nghaerfyrddin. Oedd gyda ni lot o syniade achos bo’ ni wedi bod yn jamo am sbel felly gathon ni cwpwl o ymarferion yn tŷ ti [Gwyn] a strwythuro llwyth o’r caneuon o’n ni wedi bod yn gweithio ar’ ers sbel. Mae lot o’r caneuon ’na still yn y set nawr.” Maen nhw wedi gweithio ar eu crefft yn ddiwyd am ddwy flynedd, yn gigio’n rheolaidd ers y dechrau, cyn mynd ati i recordio albwm. “Oedden ni isie gwneud yn siŵr bo’ ni’n rili dynn. ’Chos ni wedi gwneud mistakes yn mynd i gig

“MAE’N BETH ITHA HANFODOL CAEL RHYWUN SY’N DEALL DY SŴN DI.” yn unprepared felly ni isie osgoi hwnna.” “Mae gigo wedi dod yn ailnatur i ni nawr,” parha Gwyn, “ni’n mwynhau e’, y sŵn byw, yn enwedig gan mai jamo oedden ni’n wneud pan nathon ni ddechre mas.” Emyr yw’r nesa’ i ddweud ei bwt, “ni wedi chwarae loads mewn llefydd fel Parrot a Clwb [Ifor Bach] sy’n grêt, ond mae’r haf yn dda achos ni’n gallu torri mas o’r cylch yna. Fel llynedd, nathon ni chwarae yn Leeds [mewn gig a hyrwyddwyd gan y gohebydd Sky Sports ac un o brif ffans y band, Bryn Law], ni ’di chwarae yn Llundain ’fyd ’da Huw Stephens. Oedd Le Pub [Casnewydd] yn gwd ’fyd, nagodd e’?” Mae Dewi a Gwyn yn nodio i gytuno. “Ie, ni ’di cael cwrdd â bands…” mae ’na saib tra mae Emyr yn ceisio dod o hyd i’r ansoddair cywir, “cŵl.” Mae’r pedwar ohonom yn chwerthin ac yna mae o’n ymhelaethu. “Na, fel bandiau chi ddim yn gweld pob penwythnos. Mae fe jyst yn grêt cael whare ’da bands ni ’rioed wedi clywed am’, a ’nawn i probably byth whare ’da ’to.” GWERTHFAWROGI’R GERDDORIAETH Maen nhw hoffi chwarae gigs sydd yn eu herio nhw felly. Mae Emyr yn awgrymu bod perygl o syrthio

i grafangau “comfort zone” wrth chwarae i’r un gynulleidfa mewn gwahanol leoliadau. Mae mynd o le i le, yng Nghymru a thu hwnt, yn eu cadw nhw’n ffresh. “Ie,” medd Gwyn, “Pan ti’n ’nabod pawb yn y crowd a ti’n gwybod bod nhw’n mynd i ymateb yn iawn. Mae’n saff.” Holaf, ai edrych draw dros y ffin maen nhw? Neu du hwnt i’r “sin Gymraeg” yn unig? ”Fi’n credu bod pobl yn fwy parod i wrando nawr, ac yn deall bod dim rhaid i ti ddeall iaith, galli di jyst appreciatio’r gerddoriaeth” meddai Dewi. Trof at Emyr i glywed ei safbwynt o, “Ers John Peel rili, mae wastad wedi bod bands Cymraeg ti’n idolizio achos bo’ nhw wedi gwneud e’n rhywle arall. Oll ti angen ydy rhywun sy’n barod i chwarae miwsig ti, fel oedd John Peel yn gwneud. O’n i’n edrych lan hugely i’r bands yna, fel Y Cyrff. Nawr, i ni allu cael y cyfle fel yna, mae’n incredible really, achos ti’n edrych ar y band yna a ti fel ‘O, ni’n gwneud beth nathon nhw at one point’. Mae e’n incredible, gallu ehangu o rywbeth sy’n gallu bod ’bach yn narrow falle. Ti’n gwybod, mae e’n cael ei drin fel one genre. Bydden ni ddim wedi whare ’da lot o’r bobl ni ’di whare ’da oni bai bod ni’n canu’n yr un iaith â nhw. So mae’n Y SELAR

13


“MAE’R ALBWM YN SWNIO’N HANNER DECHE!” gyfle incredible yn fan hyn, ond yn rhywbeth hollol wahanol yn fan yna, and both are equally good.” SYMUD Y SŴN I’R STIWDIO Yn sicr, maen nhw’n swnio fel eu bod nhw’n gwybod yr hyn maen nhw’n ei chwennych ar y llwyfan, ond beth am y stiwdio? Sut brofiad ydy mynd o fand sy’n jamio’n rhydd i ddisgyblaeth recordio? “Rhyddhad fydden i’n disgrifio fe,” meddai Gwyn, “ein bod ni wedi ffendio Krissy Jenkins.” Kris Jenkins sydd wedi cynhyrchu’r albwm. “Mae e’ a ni jyst wedi ffito’n berffeth. Mae’n beth itha hanfodol cael rhywun sy’n deall dy sŵn di. Weithie mae cynhyrchwyr yn gallu camddehongli dy sŵn di. Doedd dim angen i ni esbonio ein bod ni isie sŵn sy’n gallu bod yn flêr ac yn hyll. Roedd e’n deall e’.” Emyr sy’n cymryd yr awenau wedyn, “dwi’n cofio un o’r pethe cyntaf ddywedodd e’ wrthyn ni oedd, “As soon as your producer starts telling you what the music is supposed to sound like, that’s when you kick him out.” A ’na’n gwmws 14

Y SELAR

beth ti’n mo’yn clywed.” Yn ôl at Gwyn, “Ie, neith e’ drial unrhyw beth. Mae e’n benagored, sy’n grêt i ni achos os yw rhywbeth ddim yn gweitho, mae e’ fel, ‘dim problem’, a ni’n tynnu fe mas. Ma’ fe wedi bod yn grêt, ac mae’r albwm yn swnio’n hanner deche!” BUDDSODDIAD Dydy’r albwm heb ei orffen eto, mae tua dau draean wedi’i gwblhau, ond maen nhw dal yn bwriadu rhyddau’r record yn y misoedd nesaf. “Mis Ebrill yw’r nod…!” medden nhw. Dwi’n eu holi nhw am eu teimladau nhw, pan ddaw dydd rhyddhau’r albwm, am wneud hynny’n ddigidol lle mae un gân yn cael ei chipio o ganol casgliad a’i rhoi ar restr chwarae. Oes perygl i’w gwaith caled nhw ddiflannu i grombil y we? Ydy cyfnod yr albwm fel cyfanwaith wedi mynd? “Ti’n gallu mynd ar goll ar y we, fi’n ffindo” mae Gwyn yn ei ddweud, “ti weithie ddim yn gwybod ar bwy ti’n gwrando na phwy sy’n gwrando arnot ti.” Ychwanega Dewi “Ond i fi, mae cael darn o gelfyddyd dwi wedi

investo ynddo fe yn beth da.” Yna, daw’r clenshar gan Emyr, “Mae attention span pawb wedi mynd i shit, do fe. “Gyda CD hefyd, mae’n swnio mor cliché a hen ffasiwn, ond gyda rhywbeth ffisegol, ti’n rhoi arno, edrych trwy’r llunie sydd arno, darllen y lyrics. Ti jyst yn mynd yn invested ynddo fe. Mae’n gorfodi ti i roi’r amser iddo fe, yn lle clico arno fe, gwrando thiry seconds ac wedyn skip.” Ond er hynny, does dim dwywaith bod y platfformau digidol yn mynd â cherddoriaeth ymhellach, ac mae’r tri’n unfryd am hynny. Yn wir, maent wedi sefydlu ôl-gatalog cryf o senglau digidol dros y deunaw mis diwethaf. Parhau i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud y bydd Los Blancos dwi’n siŵr. Mae rhywbeth di ffwdan ond graenus yn perthyn i’w hagwedd tuag at greu cerddoriaeth a’u datblygiad nodedig fel band. Yn debyg iawn i’w ffordd nhw o greu eu cerddoriaeth, jamio trwy’r profiad cyffrous yma maen nhw hefyd.


Wrth i’r perchenog ryddhau ei albwm diweddaraf ar y label y sefydlodd ei hun ychydig dros ddegawd yn ôl, doedd dim ond un lle i fynd ar y cymal diweddaraf o’n taith o amgylch labeli recordio Cymru... ENW: Recordiau Cae Gwyn DYDDIAD SEFYDLU: 2008 SEFYDLWR/PERCHENNOG: Dan

Amor LLEOLIAD: Dyffryn Ogwen ar hyn o

bryd ARTISTIAID: Omaloma, Lastigband, Mr Huw, Pablo Vasquez, Palenco, Tom ap Dan, Sen Segur, Dan Amor ARTISTIAID SYDD WEDI YMDDANGOS AR GASGLIADAU AML GYFRANNOG: A(n)naearol,

Anelog, Ben Marshall, Dave Hopewell, Dewi Evans, Ebol Digon Tebol, Fiona a Gorwel Owen, John Lawrence, Nia Morgan, Phalcons, Siôn Richards HANES: Sefydlwyd Cae Gwyn yn 2008 gan y cerddor, Dan Amor, yn wreiddiol fel cerbyd i ryddhau ei ddeunydd ei hun. Ond buan iawn yr esblygodd o hynny, fel yr eglura Dan. ”Ar ôl ystyried y gerddoriaeth wych a oedd yn cael ei chreu o’m cwmpas yn Nyffryn Machno, penderfynais wahodd artistiaid eraill i ymuno â’r roster.” UCHAFBWYNTIAU: Un peth mae Dan yn falch iawn ohono yw’r ffaith i’r label osgoi gwneud colled ar unrhyw beth hyd yn hyn! Ond mae’r perchenog yn falch iawn o lwyddiannau creadigol Cae Gwyn hefyd a’r sylw y mae’r artistiaid wedi, ac yn ei gael yng

Nghymru a thu hwnt, yn Ewrop ac America. “Mae cefnogaeth BBC 6 Music wedi bod yn rhyfeddol dros y blynyddoedd,” meddai. “Ond mae sylw ar sioeau poblogaidd Radio Cymru yr un mor gyffrous – oherwydd mae’n golygu bod y gerddoriaeth yn cyrraedd croestoriad eang o wrandawyr. Ac wrth gwrs, rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr holl DJs a blogwyr sydd ddim yn cael eu talu, sy’n gwneud be’ maen nhw’n ’wneud fel llafur cariad.” AR Y GWEILL: Pumed albwm Dan ei hun, Afonydd a Drysau, yw deunydd diweddaraf y label. Mae’r casgliad ar gael yn ddigidol ers sbel a bellach ar CD hefyd. “Dydw i ddim yn gyfforddus yn sôn am fy ngherddoriaeth fy hun yng nghyd-destun y label,” meddai’r diymhongar, Dan. “Rydw i’n tueddu i ddarllen yn ôl trwy’r tweets ac ati, a chredaf fy mod yn swnio fel Alan Partridge. Ond dyna ni, rwy’n gwisgo mwy nag un het gerddorol.” Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Dyffryn Conwy eleni, bydd Dan yn gwisgo’i het hyrwyddwr hefyd. “Mae’r label yn trefnu gig yn ystod yr Eisteddfod,” eglura. “Y bwriad oedd rhoi noson ymlaen yng Nghlwb Llanrwst (Y Legion), ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn cysylltiad ac wedi gofyn imi ystyried gweithio gyda nhw,

felly ar hyn o bryd rydw i yng nghanol penderfynu beth i’w wneud.” GWELEDIGAETH: Yn syml: “Cadw ati!” BETH YW’R PETH GORAU AM REDEG LABEL?

“Rhoi platfform i fandiau dwi’n eu caru 100%, a helpu i roi sylw iddyn nhw yng Nghymru a thu hwnt. Gweld bandiau fel Omaloma yn mynd o nerth i nerth. Mae’r band ifanc o Ynys Môn rwyf wedi bod yn gweithio efo nhw, A(n)naearol, wedi cael ychydig o sylw ar BBC 6 Music llynedd. Pethau fel hynny. Da i’r galon. Dydw i ddim yn cymryd y fraint o gael gweithio gyda’r bandiau gwych ’ma yn ganiataol.” @CaeGwynRecord Instgram.com/recordiaucaegwyn Recordiaucaegwyn.com

Dan Amor

Sen Segur

Lastigband

Pablo Vasquez


10 UCHAF ALBYMS 2018

10

Pendevig I - Pendevig

Label: Synau Pendevig Rhyddhawyd: Mawrth

Ffurfiwyd y siwpyrgrŵp gwerin sy’n cynnwys aelodau Calan, Jamie Smith’s Mabon, Plu a Patrobas yn arbennig ar gyfer gig yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a gŵyl geltaidd Lorient yn Llydaw dros yr haf. Ond i roi blas o’r hyn oedd i ddisgwyl yn eu perfformiad byw, rhyddhawyd albwm yn gynharach yn y flwyddyn ac mae’n amlwg iddo daro tant gyda darllenwyr Y Selar.

4

Gwn Glân Beibl Budr - Lleuwen

Mae’n debyg y bydd 2018 yn cael ei chofio fel ‘blwyddyn y senglau’ i gerddoriaeth Gymraeg, diolch i’r llif cyson o draciau sydd wedi eu rhyddhau’n wythnosol yn ystod y flwyddyn, a llwyddiant mawr rhai o’r senglau hynny

9

Pethe Bach Aur - Al Lewis

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Hydref Chweched albwm unigol un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol Cymru, ac un sy’n dangos newid cyfeiriad clir yn sŵn Al Lewis. “Ceir yma enghraifft o artist sydd wedi tyfu i adnabod ei hun a’i ffans, sydd ddim ofn rhoi cynnig ar rywbeth sydd, iddo fo, ‘chydig yn wahanol.” [Lois Gwenllian, Y Selar, Rhagfyr 2019]

3

O Nunlla - Phil Gas a’r Band

ar Spotify. Er hynny, roedd hi’n flwyddyn gynhyrchiol iawn o safbwynt albyms Cymraeg hefyd, gyda 32 yn gymwys ar gyfer ein categori ‘Record Hir Orau’ yng Ngwobrau’r Selar. Mae’r amrywiaeth yn drawiadol hefyd, fel y gwelwch

8

Melyn - Adwaith

Label: Recordiau Libertino Rhyddhawyd: Hydref Roedd 2018 yn glamp o flwyddyn i’r grŵp o Gaerfyrddin gyda gigs cyson, senglau rheolaidd a sylw eang. A’r cyfan yn adeiladu at binacl rhyddhau eu halbwm cyntaf. “Mae Melyn yn ein harwain ar drywydd eithaf punky cyn gwyro at y lleddf a’r poppy, ond wastad mewn ffordd naturiol.” [Rhys Dafis, Y Selar, Rhagfyr 2019]

2

Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc - Mellt

Label: Sain Rhyddhawyd: Tachwedd

Label: Recordiau Aran Rhyddhawyd: Medi

Label: Recordiau JigCal Rhyddhawyd: Ebrill

Efallai’r albwm sydd wedi denu’r mwyaf o drafod dros y misoedd diwethaf, a dewis ‘Rhaid Gwrando’ rhifyn olaf Y Selar o 2018. Albwm mwyaf arbrofol, ond hefyd amserol Lleuwen hyd yma. “Un gair i ddisgrifio’r albwm? Angerdd. A phan dwi’n deud angerdd, dwi ddim yn golygu ryw angerdd gweiddi ar dop eich llais, ond angerdd distaw, angerdd diffuant, angerdd credadwy.”

Mae rhif 3 ar y rhestr yma wedi dod yn bach o safle leftfield go iawn yn ddiweddar! Welsh Whisperer llynedd, Phil Gas a’r Band eleni – nid yr enwau fyddech chi’n disgwyl eu gweld yn uchel ar y rhestr yma o bosib, ond mae amrywiaeth yn beth gwych.

Yr unig albwm Cymraeg i gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018, ac enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn y Steddfod – hawdd gweld pam. Hir yw pob ymaros, ond roedd yn werth aros am albwm cyntaf Mellt wrth i’r triawd fireinio eu sŵn amrwd, clasurol. “Maent wedi llwyddo...i afael mewn sain cadarn sy’n cael ei drosglwyddo’n fyw gan y grŵp, sain sy’n cachu ar ben unrhyw backing track.”

[Gwilym Dwyfor, Y Selar, Rhagfyr 2018]

[Ifan Prys, Y Selar, Mehefin 2018]


o’r rhestr deg uchaf isod. Ac o ran y safon, wel does dim ond angen rhestru rhai o’r albyms na gyrhaeddodd y 10 uchaf – Serol Serol, Mr, Mei Gwynedd, Geraint Jarman, Iwan Huws...

7

Be Sy’n Wir? - I Fight Lions

Label: Recordiau Côsh Rhyddhawyd: Mehefin Dyma chi fand sydd wedi ail-ddarganfod eu hunain yn 2018, a band mae nifer wedi eu darganfod am y tro cyntaf. Mae hynny’n bennaf diolch i’r casgliad ardderchog Be Sy’n Wir? sy’n llawn o diwns cofiadwy. “Mae ganddyn nhw riffs digon bachog i wneud i Candelas edrych fel band ysgol Sul ac mae ‘na awch yn nhempo’r ddwy gân gyntaf sy’n ei gwneud hi’n amhosib peidio cael eich tynnu mewn. [Ciron Gruffydd, Y Selar, Awst 2018]

Dyma’r deg ddaeth i frig pleidlais Gwobrau’r Selar eleni:

6

ALBYMS 2018

5

Coelcerth - Wigwam

Label: JigCal Rhyddhawyd: Awst Blwyddyn arwyddocaol i’r band ifanc o Gaerdydd wrth iddyn nhw osod seiliau cadarn a rhyddhau eu halbwm cyntaf mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol oedd ar stepen eu drws. “Mae’r sain hyderus yn dipyn o beth i fand ifanc a lled newydd, ac yn argoeli’n dda ar gyfer cynnyrch y dyfodol.” [Bethan Williams, Y Selar Rhagfyr 2018]

10 UCHAF

1

Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae - Candelas

Label: Recordiau I KA CHING Rhyddhawyd: Mehefin Trydydd albwm prif fand Cymru, a record sy’n ymdebygu’n fwy o ran sŵn i’w casgliad cyntaf nag i Bodoli’n Ddistaw. Albwm sy’n llawn o anthemau roc yn cael eu gyrru gan y gitârs budr a phersona llwyfan arbennig Osian. “... wrth i’r rythmau newid a’r tempo gyflymu ac arafu; a gydag ychwanegiad gitâr trwm epig mae elfennau’r genres amrywiol yn plethu i’w gilydd yn rhwydd drwy’r caneuon” [Bethan Williams, Y Selar, Awst 2018]

Sugno Gola - Gwilym Label: Recordiau Côsh Rhyddhawyd: Gorffennaf

Enillwyr teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar fis Chwefror diwethaf, ond band sydd bellach wedi sefydlu eu hunain fel un o’r mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Gyda chymorth rheolwr Côsh, Yws Gwynedd, maen nhw wedi llwyddo i greu heip a chyffro yn ystod y flwyddyn a oedd ar ei fwyaf dros fisoedd allweddol yr haf, a dyddiad rhyddhau eu halbwm cyntaf ardderchog. “Does dim dwywaith fod y naws hafaidd sy’n perthyn i gynnyrch Gwilym yn llifo trwy Sugno Gola, gyda phob cân yn tynnu sylw gyda’u hwcs heulog.” [Ifan Prys, Y Selar, Awst 2018]

Y SELAR

17


Ar gael nawr! £4.99 £39.99

£6.99 £6.99

Fideos Gigs Sesiynnau Cyfweliadau youtube.com/ochr1

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Yn falch o noddi Gwobrau’r Selar www.ydds.ac.uk

.com

Llyfrau dros Gymru


i Ti d Cl

di Cly Ti

ed ... w y

Blodau Papur

Cyflwynwn fandiau, artistiaid a cherddorion newydd yn yr eitem hon fel arfer ond bydd pob aelod o Blodau Papur yn gyfarwydd i chi eisoes. Yr unigryw, Alys Williams, yw’r prif leisydd ac yn ymuno â hi yn y grŵp y mae’r gitarydd, Osian Huw Williams (Candelas, Palenco, Siddi); y basydd, Aled Wyn Hughes (Cowbois, Georgia Ruth); a Branwen Haf (Cowbois, Siddi) ar yr allweddellau. Mae dau ddrymiwr, Gwion Llewelyn (Villagers, Race Horses) yn y stiwdio a Dafydd Hughes (Cowbois) yn fyw. Hold ddy bôt dwi’n eich clywed chi’n ei ddweud, mae’r rhain wedi bod wrthi ers talwm! Wel do, mae’r criw wedi bod yn creu cerddoriaeth gyda’i gilydd ers sbel, ond bellach, gydag Alys hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth unigol, fe benderfynwyd bod angen enw. Branwen sy’n egluro: “Fe wnaethom ni ffurfio rhyw ddwy flynedd yn ôl ond methu dod o hyd i enw call! Felly ‘nath Yws Gwynedd helpu trwy awgrymu y dylen ni enwi’r band ar ôl un o’n caneuon, ‘Blodau Papur’!” SŴN?

Gyda deunydd unigol newydd Alys, fel y sengl ‘Dim Ond’, yn symud i gyfeiriad pop, mae cerddoriaeth Blodau Papur yn aros yn driw i’r hyn yr ydym wedi dod yn gyfarwydd ag o o dan yr enw Alys Williams dros y ddwy flynedd ddiwethaf. “Mae o’n gymysgedd o ganu’r felan a ffync gyda chyffyrddiadau seicadelig weithiau,” meddai Branwen. DYLANWADAU?

Gyda chriw o gerddorion mor amryddawn, mae’n anorfod bod eu dylanwadau yn eang ac amrywiol a chadarnha Branwen hynny. “Mae pawb yn dod at y bwrdd efo môr o ddylanwadau, o Sister Rosetta i Bando!” Ond mae un record wedi creu argraff fawr ar Branwen a’r lleill yn ddiweddar. Nhw a phawb arall. “Ar hyn o bryd, yr albwm sydd wedi chwythu pennau pawb ydi un Lleuwen. Roedden ni’n arfer canu ei chân Gymraeg/Llydaweg ar loop wrth fynd yn y car i gigs, ond mae’r albwm newydd ‘ma’n waw! A ‘de ni mor falch o waith Aled fel cynhyrchydd, a Dafydd ar y drymiau.”

wed ...

PWY?

wedi gigio’n reit galed ers rhyw flwyddyn a hanner. Yr uchafbwynt mae’n siŵr oedd chwarae gyda cherddorfa’r BBC ddiwedd 2018. Mae’r ymateb i’n cerddoriaeth yn anhygoel, ac roedd hi’n wych dechrau 2019 gan ryddhau dwy sengl, ‘Llygad Ebrill’ a ‘Tyrd Ata I’. Mae ‘na fideos ohonan ni’n chwarae’r ddwy yn fyw ar YouTube hefyd.” AR Y GWEILL?

Yn ystod y cyfnod hwnnw o gigio mae’r sibrydion am albwm wedi bod yn drwch. Mae ambell damaid i aros pryd ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi tanwydd i’r tân... ond... dyma chi... ar bapur... yng ngeiriau Branwen... “‘De ni wedi bod wrthi’n cyfansoddi caneuon newydd, ac mae’r broses yn rhwydd iawn gan ein bod ni’n deall ein gilydd yn gerddorol i’r dim. Mi fydd ‘na albwm allan erbyn yr haf, os eith popeth cystal â hyn...!” UCHELGAIS?

Gall yr atebion i’r cwestiwn hwn fod yn eithaf cyffredinol a diflas ar adegau felly braf gweld Branwen yn gosod y bar yn uchel. “‘De ni wastad yn tynnu coes mai ein breuddwyd ni fyddai chwarae ar Jools Holland. Mae Gwion eisoes wedi gwneud llynedd [gyda’r Villagers]! Ac roedd gweld Gwenno arno yn ysbrydoliaeth. Pwy a ŵyr...!” BARN Y SELAR

HYD YN HYN?

Dwi’n dweud gosod y bar yn uchel ond mae’r bar hwnnw’n berffaith gyraeddadwy i Blodau Papur. Maent yn gerddorion talentog bob un ac yn brofiadol iawn, er yn ddigon ifanc o hyd. Mae apêl eang i’r math yma o gerddoriaeth hawdd gwrando arno, yn enwedig felly pan mae o’n cael ei wneud i’r safon yma. Ac wrth gwrs mae gan Alys Williams fel prif leisydd dri pheth; delwedd gref ac enw, ond yn bwysicach na hynny, uffar o lais.

Efallai nad yw’r enw Blodau Papur wedi ymddangos ar lawer o bosteri eto, ond mae’r band wedi gigio’n gyson yn y dyddiau di enw, fel yr eglura Branwen. “‘De ni

GWRANDEWCH OS YN FFAN O LIANNE LA HAVAS, LLEUWEN A KIZZY CRAWFORD Y SELAR

19


adolygiadau colofn GRIFF LY N C H D i ly n Carwyn i Rio Yn amlach na pheidio mae cerddoriaeth Gymraeg yn ymdebygu o ran sŵn a genre i gerddoriaeth Eingl Americanaidd. Yn dwyn dylanwadau gan grwpiau indie, electronig, roc ac ati. Difyr iawn o’m rhan i felly a oedd teithio i Dde America yn ddiweddar i greu ffilm ddogfen am Carwyn Ellis o’r band Colorama yn creu albwm Gymraeg, gan ddwyn dylanwad yn llwyr o gerddoriaeth Brasil. Mae’r albwm wedi’i recordio yn Rio De Janeiro, gyda’r cynhyrchydd Alex Kassin. Mae Kassin yn uchel iawn ei barch ym Mrasil ac wedi gweithio efo artistiaid enwocaf y wlad, a chael ei enwebu am Grammy De America yn ddiweddar iawn. Mae Carwyn yn feistr ar ysgrifennu caneuon, sy’n perthyn i ryw fath o genre, ac mae’r albwm ei hun yn adlewyrchu angerdd Carwyn tuag at gerddoriaeth Bossa Nova a sin y Tropicália a oedd yn bodoli ym Mrasil yn yr 1960au. Braint oedd cael gweld y cerddorion sesiwn sy’n ymddangos ar y record yn mynd ati i saernïo caneuon Carwyn, a chreu fusion anhygoel o gerddoriaeth GymreigFrasilaidd. Mae Carwyn yn teithio’r byd fel cerddor proffesiynol yn gweithio gydag artistiaid fel Edwyn Collins a The Pretenders, a dyna sut y daeth o ar draws Kassin yn wreiddiol. Ond y gobaith gyda’r ffilm ddogfen ydi dod i adnabod ychydig ar Carwyn ei hun, ac arsylwi ar y modd y mae o’n gweithio gydag unigolion cerddorol o gefndir hollol wahanol iddo ef ei hun. Gobeithio bydd yr albwm a’r ffilm allan cyn yr haf - dôs o haul Rio i leddfu glaw hafaidd Cymreig!

20

Y SELAR

Stranger Mr Phormula Ar drac agoriadol Stranger, ‘Teithiau’, lleola Mr Phormula ei hun fel “meistr gorwelion / sy’n byw a bodoli ar y cyrion.” Mae cyfuniad cyfarwydd y rapiwr o braggadocio a gohebiaeth gymdeithasol (“neb efo gobaith, mond atgofion”) yn cario drwy’r EP yn dilyn y datganiad-o-fwriad bachog hwn. Trwy gydol Stranger, clywn Ed Holden yn pwyso a mesur ei safle a’i etifeddiaeth yn y sin gerddorol a’r diwylliant Cymreig ehangach, fel rhywun sy’n gallu rhyddhau EP ag arni gân fel ‘Man Of No Origin’ a bod yn Fardd y Mis Radio Cymru yr un pryd. Er gwaethaf pleserau Stranger, anodd yw clywed datblygiad mawr o’r hunaniaeth a’r tropes sydd wedi sefydlu Mr Phormula yn y sin ers tro, sy’n ysgogi’r gwrandäwr i gwestiynu, weithiau, beth yn union mae’n ei herio bellach? A lle mae gan linellau gorau’r EP farc athrylith, mae poeri wir ergydiol


u Tafla’r Dis Mei Gwynedd Mae Tafla’r Dis, yr EP a’r teitl-drac, yn mynd â ni nôl i ddyddiau Sibrydion. Wrth wrando ar ‘Un Frân Ddu’ mae’n anodd peidio meddwl am ‘Blithdraphlith’ o albwm JigCal. Mae’r EP cyfan yn up-beat a hwyliog, yn rhoi lle amlwg i’r gitâr, yn adeiladu i uchafbwynt ym mhob cân, a’r sain ei hun yn nodweddiadol o sŵn y mae rhywun yn ei gysylltu â chyn fand Mei Gwynedd. Dydy hynny ddim yn beth drwg wrth gwrs, er bod llwyth o fandiau wedi dod a mynd ers i Sibrydion ryddhau albyms a chwarae gigs, does neb wedi cymryd eu lle. Er hynny mae naws ysgafnach a llai dwys na stwff Sibrydion i Tafla’r Dis, ac ‘Eistedd’, sy’n cloi’r EP, yn fwy canol y ffordd. Awgrym felly mai’r gynulleidfa a dyfodd gyda Sibrydion, ac sy’n cofio’u gigs, fydd yn gwerthfawrogi’r EP fwyaf. Bethan Williams

yn gymharol absennol o Stranger, ac mae’r cynhyrchu a’r cymysgu’n atal ei eiliadau gorau rhag teimlo mor ffresh ag y gallent. Mae’r rapiwr ar ei gryfa’ pan mae’n “defnyddio’r calon fel offeryn” fel ar ‘Cau, Close’, sy’n cloi’r record yn ddwyieithog wrth fychanu pob camsyniad am waith, cefndir ac arddull yr artist diflino. Dylan Huw Y Goreuon Hyd Yn hyn Hywelsh (Hywel Pitts a Welsh Whisperer) Yng nghanol difrifoldeb yr oes sydd ohoni ma’ ‘ne wastad le am ychydig o hwyl, a gyda digonedd o sefyllfaoedd go iawn angen eu dychanu, dyma gasgliad sy’n sicr o dynnu blew o sawl trwyn! Er nad yn un o ddeuawdau mwya’ gwleidyddol gywir ein cenedl, dyma ddau â gallu naturiol i falu awyr yn llwyr ac o ganlyniad, cofnod o ffraethineb pur ydi ‘Y Goreuon Hyd Yn Hyn’. Mae’r enw’n deud y cyfan!

Ymdriniaeth liwgar tu hwnt a geir yma o rai o’n cymeriadau mwya’ megis Yvonne Tywydd a Bryn Fôn. Telir sylw’n ogystal i’r hyn sy’n gwylltio sawl un ohonom, ‘A470’ a’r ‘Dosbarth Canol’ dim ond i enwi rhai. Dyma albwm sydd hefyd yn berchen ar gyfres o alawon cofiadwy sy’n sail gadarn i farddoniaeth HyWelsh, dwy elfen sydd wedi uno at ei gilydd i greu casgliad a fydd yn sicr ddim at ddant pawb, ond bydd y mwyafrif wrth eu boddau ac mae’r ymateb cynulleidfaol sydd i’r ddau’n dyst i hynny. Mwynhewch ‘Y Goreuon Hyd Yn Hyn’, byddwch yn feddwl agored a chwarddwch, tydi’r byd ddim ar ben! Ifan Prys Pam Fod y Môr Dal Yna? Albwm Tegid Rhys Mewn sin o fandiau ifanc, cyffrous a gwreiddiol, dydy artist unigol gwrywaidd arall efo gitâr ddim am apelio at unrhyw un heblaw am

ddynion erill gyda gradd 3 gitâr, sy’n meddwl galle’ nhw hefyd fod yn gerddor. Nid syndod felly oedd clywed naws acwstig traddodiadol i’r albwm yma. Ceir casgliad o ganeuon ysgafn a thawel a fyddai’n hyfryd fel cerddoriaeth gefndirol; mae ganddo’r gallu i wneud i ddiwrnod glawog diflas deimlo hyd yn oed yn hirach. Rhaid canmol yr offeryniaeth daclus a’r dryms arbennig ond nid yw’r geiriau mor gadarnhaol. Drwy ystrydebau a dywediadau diflas fel “dwi’n sefyll ar y llwybr” teimlai fel gwrando ar ymson di emosiwn.


Mae galw uchel am sleeping remedies a drwy’r alaw undonog a chrefft freuddwydiol y cynhyrchu, mae Tegid Rhys yn llwyddiannus yn y maes o’ch diflasu i gwsg. Dechi’n hollol saff ne chewch chi’ch deffro gan unrhyw beth annisgwyl, hyd yn oed yn y gân hirwyntog 8 munud ‘Sinema’. Me’na le i gerddoriaeth fel’ma, yn y pentwr chwâl o CD’s Cymraeg gwael sy’ ’fod i adlewyrchu’r sin gerddoriaeth gyffrous i dwristiaid yn dy gaffi lleol. Aur Bleddyn Diwedd y Byd I Fight Lions Fersiynau acwstig o dair cân oddi ar yr albwm, Be Sy’n Wir?, sy’n ymddangos ar EP newydd I Fight Lions, Diwedd y Byd. Cafodd ystafell sbâr un o’r hogia’ ei throi’n stiwdio dros dro i greu’r fersiynau mwy amrwd o dri thrac. Enwir y casgliad newydd ar ôl un ohonynt, ‘Diwedd y Byd’. Dyma un o fy hoff ganeuon oddi ar yr albwm ac mae’r dehongliad newydd yma’n sicr yn gwneud cyfiawnder â hi, yn rhoi chwarae teg i’r geiriau cryf ac yn cynnal, os nad atgyfnerthu, naws gorllewin gwyllt y gwreiddiol. ‘Adweithiau’ sy’n dilyn, y drymaf o’r tair yn wreiddiol, a hon sydd wedi gweld y trawsnewidiad mwyaf. O’i dad-drydaneiddio (dwi’n gwbod, diolch!), rhoddir y cyfle i lais Hywel Pitts serennu, ac mae ganddo lais da, ffaith sy’n mynd ar goll yng nghanol y chwerthin yn ei stwff unigol o bosib. Gwell gen i’r fersiwn wreiddiol o ‘Tynnu ar y Tennyn’ ond mae hon, fel y ddwy arall, yn enghraifft dda o waith medrus basydd y band, Dan Thomas, yn recordio, cymysgu a mastro’r EP. Gyda help ychydig o offerynnau ychwanegol artiffisial, mae o wedi llwyddo i greu sŵn aml haenog mewn llofft! Gwilym Dwyfor

RHAID GWRANDO Afonydd a Drysau Dan Amor Afonydd a Drysau ydi albwm cwbl Gymraeg cyntaf Dan Amor ers Dychwelyd yn 2005 ac mewn cyferbyniad llwyr i’r cloriau albyms lliwgar ’da ni wedi ’gael yn y gorffennol, mae’r clawr yma’n hollol blaen gyda dyluniad du a gwyn syml sydd yn gliw bach o symlrwydd effeithiol caneuon y casgliad. Wedi’r seinwedd agoriadol fy nghyflwyno i’r byd gwladgwerin, seicedelig dwi ar fin ei glywed, codir yr egni’n syth efo ‘Addo Glaw’ sy’n gwneud i mi dapio fy nhroed yn hapus i harmonïau neis cân sy’n mynegi fod “pob un diwrnod yn dy gwmni yn gaddo glaw”! Mae ‘Cnoc Cnoc Cnoc’ yn chwarae ar y ddeuoliaeth yma eto ac yn torri i ran fer o kazoos gwyllt a siarad cefndirol sy’n siwpyr A Day In The Life-aidd.

Mae dau drac offerynnol, ‘Pyllau Dyfnaf’ sy’n gweithio fel darn cwbl annibynnol efo haenau o steiliau, offerynnau a lleisio clyfar a diddorol, ac ‘Afon Caseg’ wnaeth ddim creu’r un argraff. Y traciau dwi’n teimlo fy hun isho’i sgipio ydi ‘Afon Caseg’ ac ‘Egwyddorion’, dwi’n teimlo fod ganddyn nhw ddim i’w ddeud wrtha’i yn gerddorol nac yn emosiynol. Yr uchafbwyntiau heb os ydi clyfrwch ‘Pyllau Dyfnaf’, tywyllwch a gwead ‘Sara Sahara’, a’r trac olaf, ‘Weithiau’, gyda’i melodi syml a chordiau hyfryd o dlws. Fedra’i ddim meddwl am ffordd well o orffen albwm mewn cyfnod sy’n teimlo mor ddiobaith ar adegau na efo’r llinell “Weithia mae’r da sy’ tu mewn i ni gyd yn ffrwydro allan fel heulwen.” Elain Llwyd

Brathiad newydd bob dydd o gomedi, cerddoriaeth, straeon a syniadau.

HOFFI RHANNU DILYN @hanshs4c


Cynhelir Dyddiau Agored ar y dyddiadau yma yn 2019: Dydd Sadwrn, Mehefin 29 Dydd Sadwrn, Gorffennaf 6 Dydd Sul, Hydref 13 Dydd Sul, Hydref 27 Dydd Sadwrn, Tachwedd 9

DYDDIAU AGORED YN YSTOD DIWRNOD AGORED BYDDWCH YN: • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau • Raddedigion, World-leading aresearch Bwrsariaethau. (REF

YN CEFNOGI CERDDORIAETH CYMRU SUPPORTING WELSH MUSIC

teaching’ (TEF

Across Wales Facebook.com/horizonscymru

bbc.co.uk/horizons

2014) • Gold Award for / 01248 382005 Ff: 01248 383561 E: ‘outstanding diwrnodagored@bangor.ac.uk G: www.bangor.ac.uk/diwrnodagored

Ar hyd a lled Cymru Twitter @horizonscymru

EÄDYTH


24

Y SELAR


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.