Y Selar - Mawrth 2018

Page 1

Rhif 52 // MAWRTH // 2018

PASTA

HULL

Y SELAR

1


22711-230118


y Selar

cynnwys

Rhif 52 // MAWRTH // 2018

Alffa

4

Golygyddol

Ti di clywed...

9

Sgwrs Sydyn Beth Celyn

10

Fe welwch chi sôn am PYST yn y rhifyn hwn. Gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo newydd i labeli ac artistiaid Cymru yw PYST, rhywbeth dwi’n ei groesawu’n fawr. Fel golygydd dwi’n aml yn cael fy hun yn chwilio am ddeunydd i’w adolygu, ond nid felly y dylai hi fod. Dewis a dethol y dylwn i fod yn ei wneud o blith y stwff sydd yn ein cyrraedd ni. Y gwirionedd yw bod rhai labeli ac artistiaid yn well na’i gilydd am hyrwyddo’i hunain. Nid beirniadaeth mo hynny, mae’r mwyafrif ohonynt (fel finna’) yn gwneud yr holl fusnas “miwsig Cymraeg” ’ma yn ein hamser sbâr. Dau obaith sydd gen i. Yn gyntaf, y bydd PYST yn helpu’r labeli llai a’r artistiaid sydd heb eu harwyddo llawn cymaint â’r labeli mwy sydd yn hyrwyddo’i hunain yn effeithiol eisoes. Ac yn ail, y bydd hwn yn blatfform i allforio cerddoriaeth Gymraeg i bedwar ban byd. Mae albwm newydd Serol Serol yn enghraifft berffaith o record a all wneud yn dda iawn dramor gyda’r marchnata iawn.

Gwobrau’r Selar

12

Pasta Hull

14

10 Uchaf Albyms 2017

18

Blodau Gwylltion

22

Adolygiadau

24

Llun clawr: Iolo Penri

GWILYM DWYFOR

4

10

14

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Elain Llwyd, Gethin Griffiths, Ifan Prys, Lois Gwenllian, Rhys Dafis, Bethan Williams, Yws Gwynedd, Gareth yr Epa, Ciron Gruffydd

22

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


ALFFA

BÎT A’R GITÂR ’MA CYMYSG YW RECORD BRWYDR Y BANDIAU WEDI BOD DROS Y BLYNYDDOEDD O GANFOD LLWYDDIANNAU HIRHOEDLOG. AM BOB CHROMA AC Y FFUG, MAE YNA NEBULA A SIÂN MIRIAM. GOBAITH ENILLWYR 2017, ALFFA, FYDD YMUNO Â’R CATEGORI CYNTAF HWNNW, AC MAE’R ARWYDDION CYNNAR YN ADDAWOL. LOIS GWENLLIAN FU’N HOLI’R DEUAWD BLŴS O LANRUG AR RAN Y SELAR WRTH IDDYNT RYDDHAU EU SENGL NEWYDD 4

Y SELAR


Lluniau: Kristina Banholzer

G

ydag un clic, mae dau lanc ifanc yn ymddangos ar sgrîn fy nghyfrifiadur. Dion a Siôn ydy eu henwau a dwi’n siŵr y bydd eu hwynebau’n gyfarwydd iawn i ni cyn bo hir gan mai nhw yw Alffa - enillwyr Brwydr y Bandiau 2017. Chwe mis ers y gystadleuaeth ar lwyfan maes Eisteddfod Genedlaethol Môn, rwy’n cael sgwrs FaceTime gyda nhw i weld beth mae’r ddeuawd wedi bod yn ei wneud ers derbyn y teitl mawreddog a beth sydd ar y gweill dros y chwe mis nesaf. Beth am ddechrau yn y dechrau meddyliais. Beth yw stori Alffa? “Wel,” mae Dion yn cymryd yr awenau tra mae Siôn yn eistedd rhyw ddwy droedfedd ymhellach oddi wrth y camera yn nodio ei ategaeth yn gyson, “o’na ryw fath o Frwydr y Bandiau bach lleol, efo youth club, a ’naethon ni jyst ffurfio ar gyfar hwnna rili, a dechrau jamio. Oedd o reit nyts. Drwy hynna ’naethon ni jyst trio gigio fwya’ oeddan ni’n gallu, ac aeth un peth i’r

llall o fanna.” A beth am yr enw, meddwn innau - oes ’na stori? Siôn sy’n ateb yn gyntaf, “Ddaeth yr enw Alffa o’n dosbarth physics ni.” meddai yn lled-chwerthin. Cytuna Dion gan ymhelaethu ychydig “Roeddan ni’n g’neud TGAU ar y pryd. Roeddan ni’n gneud fel alpha, beta, gamma, ac oeddan ni jyst yn meddwl fod Alffa yn swnio’n cŵl.” Dyna atgoffa rhywun o ba mor ifanc ydy’r ddau yma, sydd wedi cyflawni cymaint yn yr amser byr maen nhw wedi bod wrthi yn chwarae dan yr enw Alffa. Cafodd dwy o ganeuon y band, ‘Rhydd’ a ‘Mwgwd’, eu rhyddhau ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain yn 2017. Mae’r cyfuniad o ddrymiau sydyn a gitâr staccato yn dwyn i gof yr arwyddgân o’r gyfres deledu HBO, True Blood, sef ‘Bad Things’ gan Jace Everett. Gyda churiad eu ‘blŵs budr’ (eu geiriau nhw, nid fy rhai i) yn ganolog i’r gân a llais dwfn ac unigryw Dion gall Alffa fod yn hyderus yn eu USP yn y sin Gymraeg.

Y SELAR

5


Un o’r pethau dw i’n ei hoffi fwyaf am Alffa yw, er bod yma botensial i apelio at y mwyafrif, maen nhw’n wahanol iawn i lawer o’r bandiau sydd yn boblogaidd ar hyn o bryd. At hynny, maen nhw ar gyfandir cerddorol arall o’u cymharu ag enillwyr Brwydr y Bandiau 2016, Chroma. O sgwrsio am Chroma efo’r ddau, dw i’n cael y teimlad eu bod nhw’n hoff iawn o’r band o Rondda Cynon Taf ac yn gobeithio efelychu eu llwyddiant; enwyd Chroma yn un o fandiau llwyddiannus cronfa lansio Gorwelion yn gynharach eleni ac maen nhw’n prysur wneud twrw ar donfeddi Radio 6 Music a Radio 1. “’Da ni ’di neud ffrindia’ efo Chroma, aethon ni i’w gweld nhw yng Ngwobrau’r Selar. Gobeithio gallwn ni ddilyn eu hesiampl nhw. Ella ’na dyna ydy’r expectation ohonan ni.” Felly beth oedd eu taith nhw at ennill teitl Brwydr y Bandiau 2017? “Nath o [y rowndiau rhagbrofol Brwydr y Bandiau] i gyd ddechra’ yng Nghaernarfon. Oddan ni reit gutted i ddechra’ achos ni oedd [yn perfformio] gynta’ a doedd na’m llawar wedi troi fyny i’n gweld ni. Mi oedd y rownd gyntaf fel gigio o dan lot o pressure. Fel arfer ’da ni jyst yn mynd on a chwarae fel ydan ni. Ond, mi aeth y gig yna’n dda ac aethon ni drwadd i ’Steddfod. Wel, mi oedd ’Steddfod yn hollol wahanol…” Cynhelir y gystadleuaeth gerddorol fawreddog ar ddydd Mercher yr

“MI OEDD CHWARAE YN STEDDFOD YN HOLLOL NYTS.”

6

Y SELAR

Eisteddfod Genedlaethol ar Lwyfan y Maes. Lle gyda chynulleidfa barod a chlustiau ifanc sydd o bosibl yn cael eu profiad cyntaf o ganu Cymraeg byw. Cyfle gwych i wneud ffans newydd. “Mi oedd chwarae yn Steddfod yn hollol nyts, fel other level go iawn. Mi oedd chwarae ar lwyfan mor fawr, efo smoke machines jyst yn nyts. Mi oedd o’n fraint chwarae ar y llwyfan hefyd, yn enwedig efo pawb oedd yno’n ein gwylio ni. Nyts.” Mi oedd ’na dri band yn chwarae ar ôl Alffa, felly fe fu’n noson o hir ymaros i’r bechgyn. Eglura Dion fwy i mi am y munudau’n arwain at gyhoeddi’r enillydd. “Ar ôl perfformio mi oedd rhaid i ni aros cefn llwyfan i’r bandia’ eraill gael chwarae. Wedyn, pan ddaeth hi’n amser cyhoeddi oeddan nhw’n neud o mewn trefn, o’r trydydd i’r cyntaf.

Ddaeth Eädyth yn drydydd, a Gwilym yn ail. Wedyn ’naethon ni feddwl, os ydy Gwilym yn ail… pwy ddiawl sy ’di ennill?” Saib, yna rhyw biffian chwerthin gyda’r ddau yn cydddweud bron mewn anghrediniaeth, “Gafon ni gynta’. Nathon ni ennill… nyts.”


Gigs Gwell Roedd ennill yn golygu eu bod nhw’n cael chwarae’r noson fwyaf Maes B, sef nos Sadwrn, un o brif nosweithiau’r calendr gigs Cymraeg. Yn rhannu’r llwyfan efo nhw’r noson honno oedd HMS Morris, Y Reu a’r dyn ei hun, Yws Gwynedd. Roedd

hi’n noson hanesyddol, efo’r dorf fwyaf erioed ym Maes B. Hefyd, fe fyddan nhw’n cael recordio sesiwn i Radio Cymru (allan mis nesa). Ond, mae’n debyg fod y teitl wedi dod â llawer mwy na’r hyn mae’n ei addo i Alffa. “Rydan ni’n cael lot mwy o gigs ac maen nhw’n gigs gwell hefyd. Mae o fel ein bod ni’n fwy poblogaidd.” Dywedir hyn gyda chwerthiniad bach nerfus yn dilyn. Mae’r ddau yn ddiymhongar iawn, pe bai golau FaceTime ychydig yn well dw i’n amau y baswn i’n eu gweld nhw’n gwrido wrth sôn am eu llwyddiannau eu hunain. “Mae o bron fel bod y label ‘enillwyr Brwydr y Bandiau’ yn g’neud i bobl ein trystio ni fwy. Mae bob dim yn fwy positif rili.” Pery’r datganiad hwn i mi holi, “go iawn, does ’na ddim byd negyddol?” Ac mae’r ddau yn gytun nad oes diferyn

o negyddoldeb yn agos at y peth. “Mae ’na fwy o pressure arnan ni i ryddhau stwff.” yw’r unig beth maen nhw’n ei ddweud, ond mae tinc o gyffro yn rhan olaf y frawddeg - rhyddhau stwff. Ac yn wir, mae Alffa wedi rhyddhau rhywbeth yn ddiweddar iawn, daeth y sengl, ‘Creadur’ allan ar label Rasal ddiwedd mis Ionawr, cân sydd yn gwneud y mwyaf o’r ffaith mai dau ohonyn nhw sydd. Gitâr a drymiau sy’n gyrru’r gân; a’r traed i dapio a’r pen i nodio. Yn Sain gyda Robin Llwyd recordiwyd y sengl, ond maen nhw’n cyd-weithio efo cynhyrchwyr a cherddorion ym mhob man, gydag Ifan ac Osian Candelas ymhlith y diweddaraf. A chyn iddyn nhw swnio’n ymffrostgar, ychwanega Siôn, “’Da ni’n dysgu lot mwy yn gweithio efo’r bobl yma na be’ fysan ni jyst yn g’neud petha’ ar liwt ein hunain. ’Da ni ’di dysgu lot dros y chwe mis dwytha. Mae’n nyts rili.” Gyda chwe mis i fynd tan gorfod pasio’r baton ymlaen i fand arall yn Eisteddfod Caerdydd fis Awst, rwy’n awyddus i wybod beth ydy eu gobeithion nhw ar gyfer y cyfnod hwnnw, ac a fydd o’n rhyfedd neu’n braf cael rhoi’r teitl i fand arall. “Dw i’n meddwl y bydd o’n reit rhyfadd. Am nad ydan ni wedi bod yn mynd yn hir, ’da ni rili wedi gafael yn y teitl ’na achos ei fod o’n beth mor dda. Felly bydd, mi fydd o’n rhyfadd gweld band arall yn ei gymryd o oddi arnom ni. O ran y stwff arall, dwi’n meddwl unwaith y byddwn ni wedi gorffen hyrwyddo’r sengl a’r sesiwn Radio Cymru, mae’n siŵr y gwna’n ni feddwl am ryddhau EP neu albwm. Dyna’r gôl yn y pen draw.” Gobeithio yn wir y byddan nhw’n cyflawni eu nod a rhyddhau EP neu albwm. Mae’n wych gweld band mor ifanc yn torri cwys eu hunain ac yn gwneud hynny gyda hyder diymhongar. Does dim dwywaith eu bod nhw’n mwynhau eu hunain yn jamio ac yn dysgu gyda cherddorion ledled Cymru. Golyga hynny y cawn ninnau fwynhau ffrwyth y jamio yna pan ddaw’r amser, a dw i’n siŵr y bydd o’n nyts.

Y SELAR

7


Llyfrau dros Gymru £5.99 £6.99

£5.99

darganfydda ’r llyfr perffaith i ti ar www.ylolfa.com

Selar23.1.indd 1

Sioe Frecwast

Cerddoriaeth a chwerthin i’r teulu cyfan

23/01/2018 12:57:16

Huw Stephens Dydd Gwener, 6.30am

Lisa Gwilym Dydd Sul, 8am

bbc.co.uk/radiocymru2

H18008 BBC RC2 Selar Mag_Advert_92x66 a_w.indd 1

25/01/2018 13:55

8 GIG

YNG NGHLWB IFOR BACH @gigscymdeithas facebook.com/gigscymdeithas

Holl newyddion diweddara y sîn ar

www.yselar.cymru

y Selar


DYLANWADAU? Mae cogie Casset yn perthyn i linach gerddorol go llewyrchus fel yr eglura’r mab canol wrth sôn am ei ddylanwadau ef a’i frodyr. “Allwn ni ddim anghofio dylanwad band ein tad, Maffia Mr Huws, sydd wedi cael effaith hir dymor ar ein chwaeth cerddorol. Mae gwybodaeth gerddorol drylwyr ein mam, Siân James, hefyd wedi ein dysgu ni i gadw meddwl agored wrth gyfansoddi caneuon.”

Does fawr o syndod gweld y meibion yn dilyn ôl traed eu rhieni efallai ond mae llu o fandiau a cherddorion eraill wedi dylanwadu arnynt hefyd. “O ran

Aiff Gwern ymlaen i sôn ychydig am y sylw y mae’r record wedi ei chael. “Ma’n caneuon wedi cael eu chwarae ar y radio sawl gwaith gan ddarlledwyr fel Lisa Gwilym a Tudur Owen ac rydym yn ddiolchgar iawn. Daeth ein cân, ‘Caeau Cyffredin’, yn 8fed ar restr ’10 Uchaf Caneuon 2017’ Owain Schiavone ar Golwg360 hefyd.” AR Y GWEILL? Mae Casset eisoes wedi chwarae ambell gig yn y canolbarth ond ehangu eu gorwelion i’r gogledd a’r de yw gobaith y brodyr yn y dyfodol agos. “Mae ein hawydd i chwarae drwy Gymru a thu hwnt yn gryfach nawr nac erioed ar ôl rhyddhau’r albwm. A buasem yn hapus iawn i chwarae mewn lleoliadau mwy fel Caerdydd, Caernarfon a llefydd tebyg.”

i Ti d Cl

HYD YN HYN? Un fantais o fod yn fab i Gwyn Maffia yw mynediad rhwydd at stiwdio ac nid yw’n syndod efallai fod Casset eisoes wedi recordio a rhyddhau deunydd yn y cyfnod byr y maent wedi bod yn llygad y cyhoedd. “Ar hyn o bryd rydym yn dal i hyrwyddo ein halbwm cyntaf a ddaeth allan ym mis Rhagfyr. Recordiwyd Casset 1 yn stiwdio Recordiau Bos Gwyn Maffia, albwm 7 cân sydd yn y siopau nawr!”

ed ... w y

Casset

wed ...

SŴN? Mae naws nostalgic yn perthyn i sŵn roc eithaf trwm y band tri darn, rhywbeth y mae Gwern yn ei gydnabod; “ma’n steil ni’n gyfuniad o gerddoriaeth roc o’r gorffennol ac artistiaid presennol.” Wedi dweud hynny, mae digon o amrywiaeth yn perthyn i’r sain hefyd; “’da ni ’di ceisio osgoi cyfyngu ein hunain i un steil neu sŵn.”

dylanwadau tu hwnt i Gymru,” meddai Gwern “mae bandiau megis Thin Lizzy a War on Drugs ac artistiaid fel John Mayer a Johnny Cash i gyd yn flaengar iawn.”

di Cly Ti

PWY? Fel Cowbois Rhos Botwnnog a Hanson o’u blaenau, band tri brawd yw Casset. Mabon, yr hynaf yn chwarae’r gitâr; Gwern, y brawd canol yn chwarae’r bas a chanu; a’r ieuangaf, Llywelyn, ar y drymiau. “Cychwynnodd y band siapio adref yn Gardden, Llanerfyl wrth i’r tri ohonom ddechrau chwarae offerynnau gyda’n gilydd ac ysgrifennu caneuon,” eglura Gwern.

UCHELGAIS? O ran gobeithion hir dymor, does gan Casset ddim cynllun pendant, dim ond parhau i fwynhau’r hyn y maent yn ei wneud. “Nid oes masterplan fel y cyfryw,” eglura Gwern “ond mi rydym ni’n gobeithio y gall pobl fwynhau gwrando ar ein cerddoriaeth ac y cawn ni chwarae ambell gig gwerth chweil ar y ffordd.” BARN Y SELAR Mae Casset yn sicr yn fwy Maffia na Siân James. Bydd unrhyw un sydd ffan o roc nodweddiadol yr 1980au yn mwynhau riffs cryf, bas trwchus a churiadau cyflym Casset. Ond nid nostalgia yn unig sydd yma, mae’r sŵn yn eithaf ffres mewn ffordd. Er nad yw’n torri unrhyw dir newydd, mae’n braf clywed ychydig o gerddoriaeth Gymraeg newydd heb synth, jysd am newid bach! Dyma roc eithaf organig, cerddoriaeth a ddylai swnio’n llawn cystal, os nad gwell, yn fyw. Gwrandewch os yn ffan o... Maffia Mr Huws, Thin Lizzie a Rifleros Y SELAR

9


Yr EP newydd allan ers mis Rhagfyr, sut ymateb sydd wedi bod i Troi? Grêt! Gwrandawyr Cymraeg a di-gymraeg yn mwynhau, sy’n braf. Lle a phryd fuost ti wrthi’n recordio? Ges i tour bach o stiwdios Arfon. Stiwdio Carneddi, Stiwdio Drwm a Stiwdio Sain. Aled Wyn Hughes (Cowbois) yn cynhyrchu. Ar ba label wnest ti ryddhau? Sbrigyn Ymborth. Mae’r EP ar gael yn eich siop Gymraeg leol neu i brynu neu ffrydio ar y we (iTunes, Amazon, Spotify, Apton ayyb). A’r cwestiwn pwysicaf, i’r rhai sydd heb wrando eto, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Mix atmosfferig o indie, gwerin a roc. Mae’r geiriau yn amlwg yn bwysig iawn i ti ac mae graen barddonol arnynt, pa themâu ti’n cyffwrdd arnyn nhw yn y casgliad? Hanes a hunaniaeth yn bennaf. Dwi’n cyffwrdd yn fras ar themâu fel cariad. Ond eto mae ‘Ti’n Fy Nhroi i ’Mlaen’ yn wahanol. Do’n i ’rioed ’di clywed Cymraes yn canu am gael ei throi ymlaen o’r blaen felly ’nes i feddwl, pam ddim? Mae ‘Bryn Briallu’ yn ddarlun o fywyd Llundain ond mae yna ganeuon Cymreig iawn eu naws yma hefyd. Ti wedi symud nôl i Gymru’n ddiweddar, teg dweud bod yr EP yn gofnod o’r cyfnod hwnnw yn dy fywyd di? Yndi, deffinytli! Cafodd

10

Y SELAR

y rhan fwyaf o’r EP ei ’sgwennu tra’n byw yn Llundain. Beth yw’r broses wrth i ti recordio? Ydi’r caneuon yn weddol gyflawn cyn mynd i’r stiwdio? Rhaid ’mi ddod i ’nabod fy nghaneuon, fel petai, cyn ’mod i’n hapus eu rhannu nhw, ond cafodd yr offeryniaeth ei greu yn y stiwdio efo Aled. Dwi’n rili mwynhau cael gweithio mewn stiwdio. Pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? ’Naethon ni recordio yma ac acw dros gyfnod o ryw ddwy flynedd. Gen i dâst rili eclectig. Bach o bob dim rili, o Gwenno a Plu i Anna Calvi a Florence and the Machine. Gormod i restru! A bydda i’n gwrando ar gerddoriaeth offerynnol cymaint ag ydw i’n gwrando ar artistiaid a bandiau. Oes rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? Digon posib! Er, cyfuniad o gig Palma Violets a phianydd Eric Clapton ysbrydolodd ‘Duwiau’. O’n i’n gweithio yn y Royal Albert Hall pan odd Eric yn gneud ei daith Slowhand at 70. Odd ei bianydd yn osym. O’n i ’tha: “dwi’sio hamro’r piano fyla!” Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? ‘Gwenllian’. ’Di bod yn wych cael gweledigaeth gerddorol Aled, dwi wrth fy modd efo be ’da ni ’di gneud efo hon. Pa un fydd yr “hit”? Un o’r Trois, siŵr o fod.

‘Ti’n Fy Nhroi i Mlaen’ neu ‘Troi’.

trio ffeindio fy ffor’ i Pesda. Hilêriys o sbïo nôl.

Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Dwi’n falch o bob cân ar yr EP, ond ’swn i’n deud ’mod i’n falch iawn o riff ‘Castell Dolbadarn’. O’n i’n ad-libio fo’n fy fflat yn Llundain am fisoedd cyn mynd ati i ’sgwennu’r gân.

Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar Troi? Dawnsio ac yfed gin! Neu siwrne car hir ar noson serog (rhowch yr EP ar ripît).

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion doniol neu droeon trwstan? Dal y trên o Lundain i recordio yn Gerlan nôl yn 2016. Aros yng Nghaban Gerlan ben fy hun bach y noson honno a mynd ar goll yn y niwl a’r glaw yn

Beth yw hanes y gwaith celf? Ffotograffiaeth fy chwaer dalentog, Lora Gwyneth, ’di cysodi gan amcan.cymru. Llun reit amrwd sy’n chwarae ar y cysyniad o droi (dwi’n rhedeg tua Bryniau Clwyd). Oes yna lansiad swyddogol wedi bod? Dim eto! Ond ’swn i’n licio mynd â’r EP ar daith fach. Y gogledd, de a Llundain. Gawn ni weld!

BETH MAE’R GANTORES A’R GYFANSODDWRAIG O DDINBYCH, BETH CELYN, WEDI BOD YN DENU SYLW ERS TRO, YMA YNG NGHYMRU AC YN LLUNDAIN. GYDA’I EP CYNTAF WEDI EI RYDDHAU’N DDIWEDDAR, DYMA’R CYFLE PERFFAITH I’R SELAR GAEL SGWRS SYDYN.


Mae yna sŵn llawn iawn ar ganeuon Troi ond ti’n perfformio’n fyw ar ben dy hun yn aml. Fyddi di’n addasu’r caneuon ar gyfer dim ond chdi a phiano neu wyt ti’n bwriadu gigio gyda band llawn? Dwi’n gigio ar ben fy hun efo’r piano ac yn creu digonedd, os nad gormod, o sŵn. Ddudodd Meic Stevens mewn gig yng Nghaernarfon flwyddyn diwetha’ bod fy mhiano fel taranau’n ysgwyd waliau’r clwb! Ond ma’ ’na gynlluniau i gigio gyda band llawn (fydd y waliau ’di disgyn lawr). Sôn am biano, ti’n cael un newydd wyt? Llongyfarchiadau ar fod yn un o enillwyr cronfa lansio Gorwelion! Diolch! Dwi ’di syrthio mewn cariad hefo piano digidol Kawai. Aros yn eiddgar i’r nawdd gyrraedd...

CELYN Pa mor bwysig ti’n meddwl ydi cynlluniau fel hyn i gerddorion? Mor bwysig. ’Nes i weithio’n galed i fedru fforddio fy mhiano digidol nôl yn 2013 a dwi ’di bod ar goll ers iddo dorri. Dwi’n lwcus iawn ’mod i’n derbyn nawdd gan Gorwelion i brynu un newydd! Gwertha Troi i ni mewn pum gair! Sasi, hwyl, atmosfferig, amrwd - prynwch!

Sgwrs Sydyn

Hoff EP I orffen, rhaid oedd gofyn i Beth am ei hoff EP’s yn y categorïau isod. Hoff EP erioed? Blush gan Wolf Alice Hoff EP gan artist unigol? Strange Weather gan Anna Calvi Hoff EP Gymraeg? Vrï gan Vrï Hoff EP o 2017? Now That The Light is Fading gan Maggie Rogers.


GWOBRAU’R SELAR 2017 Llun: Kristina Banholzer

Rhwng 7 Rhagfyr a 5 Ionawr bu darllenwyr Y Selar – mil a hanner ohonoch chi i fod yn fanwl gywir - yn pleidleisio dros enillwyr Gwobrau’r Selar eleni. Nawr, daeth yr amser i ni ddatgelu’r enillwyr...

12

Y SELAR

CÂN ORAU (Noddir gan Ochr 1) RHESTR FER: Dihoeni – Sŵnami Drwy Dy Lygid Di – Yws Gwynedd Aros o Gwmpas – Omaloma

BAND NEU ARTIST NEWYDD GORAU (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) RHESTR FER: Pasta Hull Gwilym Serol Serol

ENILLYDD: DRWY DY LYGID DI – YWS GWYNEDD Nid dyma gân amlycaf ail albwm Yws Gwynedd ar yr olwg a gwrandawiad cyntaf, ond dros amser datblygodd hon i fod yn un o anthemau’rr haf, ac yn un o ffefrynnau rhestr hir o hits Yws Gwynedd.

ENILLYDD: GWILYM Mae ffatri bandiau newydd Cymru’n parhau’n gynhyrchiol, gan wneud y categori yma’n ddifyr dros ben unwaith eto. Tri band gwahanol iawn o ran eu sŵn, a thri fydd yn siŵr o greu argraff fawr yn 2018. Yr hogia o Fôn ac Arfon, Gwilym, sy’n mynd â hi.

HYRWYDDWR ANNIBYNNOL GORAU (Noddir gan Radio Cymru) RHESTR FER: Neuadd Ogwen Clwb Ifor Bach Recordiau I Ka Ching

DIGWYDDIAD BYW GORAU (Noddir gan Y Gig Fawr) RHESTR FER Maes B, Steddfod Môn Gig y Pafiliwn, Steddfod Môn Sesiwn Fawr Dolgellau

ENILLYDD: CLWB IFOR BACH Gwnaed newid bach i’r categori yma eleni gan olygu bod y dewis yn fwy eang, ond yn canolbwyntio ar y bobl sy’n hyrwyddo’r sin trwy gydol y flwyddyn. Ac mae’n anodd dadlau gyda’ch dewis o un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru, mewn blwyddyn lle bu bygythiad mawr i statws cerddorol Stryd y Fuwch Goch. Hiroes i Clwb!

ENILLYDD: MAES B Da gweld Sesiwn Fawr Dolgellau nôl lle mae fod, yn cymysgu gyda digwyddiadau cerddorol mwyaf Cymru. Er hynny, ac er poblogrwydd Gig y Pafiliwn eto, ras un ceffyl oedd hi gyda bwystfil Maes B yn carlamu i’r llinell derfyn.

CYFLWYNYDD GORAU (Noddir gan Heno) RHESTR FER: Tudur Owen Huw Stephens Gareth yr Epa ENILLWYD: TUDUR OWEN Epa? Orangutang? Mwnci? Dio affliw o ots...Tudur Owen gyda’i hiwmor ffraeth a dewis gwych (Dyl Mei) o diwns ydy Cyflwynydd Gorau Gwobrau’r Selar eleni. ARTIST UNIGOL GORAU (Noddir gan Galactig) RHESTR FER: Alys Williams Welsh Whisperer Mr Phormula ENILLYDD: ALYS WILLIAMS Wrth i ni wrando o’r diwedd ar honiad Yws Gwynedd mai ‘band’ ydy o...roedd brwydr ddifyr yn y categori Artist Unigol. Tri artist sy’n gwneud gwaith unigryw a gwych, ond Alys Williams oedd yr enillydd clir.

OFFERYNNWR GORAU (Noddir gan PRS for Music) Rhestr Fer: Ifan Sion Davies Branwen Williams Osian Williams ENILLYDD: OSIAN WILLIAMS Brwydr ddifyr rhwng tri o artistiaid prysuraf Cymru, a thri o unigolion mwyaf poblogaidd y sin. Brwydr ddifyr hefyd rhwng brawd a chwaer! Ond, am yr ail flwyddyn yn olynol, yr amryddawn Osian oedd eich dewis. GWAITH CELF GORAU (Noddir gan Y Lolfa) Rhestr Fer: Toddi – Yr Eira Achw Met – Pasta Hull Anrheoli – Yws Gwynedd ENILLYDD: ACHW MET Categori hynod o bwysig yn y byd digidol sydd ohoni, lle mae record angen gwneud mwy na swnio’n dda i ddenu prynwyr. Llongyfarchiadau i Celt Iwan am gyrraedd y rhestr fer gyda dau glawr, sef Toddi ac Anrheoli, ond gwaith celf cofiadwy Carl Tango ar gyfer albwm cyntaf Pasta Hull sy’n cipio’r wobr.


Llun: Celf Calon

BAND GORAU (Noddir gan Gorwelion) Candelas Yws Gwynedd Band Pres Llareggub ENILLYDD: YWS GWYNEDD Blwyddyn Yws Gwynedd oedd 2017 – ail albwm poblogaidd, hed-leinio Gig Y Pafiliwn yn Steddfod Môn, denu’r dorf fwyaf erioed i Maes B...a chymryd rhan yn lansiad Llyfr Y Selar. Wrth i Yws gymryd cyfnod o seibiant, all neb ddadlau gyda’r ffaith fod y band yn haeddu’r wobr yma.

RECORD FER ORAU (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) Yr Oria – Yr Oria Cadno – Cadno Pyroclastig – Pyroclastig ENILLYDD: CADNO - CADNO Reit, cwyn fach i ddechrau...be am ‘chydig o ddyfeisgarwch wrth enwi recordiau bobl? Ond heblaw am hynny, tair record gyntaf ardderchog gan dri grŵp cymharol newydd sydd wedi cael blwyddyn dda. Mae pawb yn gwybod ers tipyn bod potensial mawr gan Cadno, a da eu gweld yn dechrau cyflawni’r potensial hwnnw.

FIDEO CERDDORIAETH GORAU (Noddir gan S4C) Bang Bang – Cadno Drwy Dy Lygad Di – Yws Gwynedd ‘di Arfar – The Routines ENILLYDD: DRWY DY LYGID DI – YWS GWYNEDD Mae ‘na lai o fideos cerddorol nag a fu y dyddiau yma, gan ddibynnu gormod ar Ochr 1 ar y cyfan, er bod y dechnoleg yn ei gwneud yn llawer haws cynhyrchu stwff eich hun bellach. Difyr gweld dau fideo annibynnol ar y rhestr fer felly, gyda sgiliau rheoli drôn Ems yn dwyn y mwyafrif helaeth o’r bleidlais.

Llun: Kristina Banholzer

Y SELAR

13


EFALLAI NAD OEDD LLAWER Y TU HWNT I SIN AMGEN Y GOGLEDD ORLLEWIN WEDI CLYWED AM PASTA HULL CYN IDDYNT DDWEUD WRTH BRYN FÔN FYND I FF***O YR HAF DIWETHAF. MAE ENW’R GRŴP O GAERNARFON BELLACH YN HYSBYS I GYNULLEIDFA EHANGACH, OND MAE MWY NA HWYL DDINIWED YN PERTHYN I’R BAND GWEITHGAR A SAFONOL YMA, FEL Y PROFASANT TRWY RYDDHAU DAU ALBWM YN CHWARTER OLAF 2017. GEIRIAU: GWILYM DWYFOR

SUT WYT TI’R M

PASTA HULL?

ae’r rhan fwyaf o Pasta Hull yn byw gyda’i gilydd yng Nghaernarfon ac yn ystod un o’r amseroedd prin hynny pan nad oeddynt yn gweithio ar ddeunydd newydd fe gefais gyfle am sgwrs efo Owain a Llŷr, gan holi Owain i ddechrau sut y gwnaethant ffurfio. 14

Y SELAR

“Yr aelodau ar y funud - ’da ni wedi newid lot ers i ni ddechra’ - ond be’ ’di o ar y funud a ’da ni reit confident y bydd o’n aros ydi fi [gitâr a llais], Llŷr [piano, synth a llais], Shad yn chwarae dryms, Cleo ar y base a Paul yn chwara’ bongos a shakers. Nathon ni ddechra yn haf 2016 dwi’n meddwl?”

“Ia mashwr, just ryw flwyddyn a hannar yn ôl,” cadarnha Llŷr. “Ia, jysd cyn i ni fynd i Ffrainc adag ffwtbol ia,” cofia Owain. “Nath Llŷr ddangos tiwn odd o ’di sgwennu yn coleg i fi, ‘Codi Er Mwyn Pobi’. Wedyn nathon ni sgwennu’r chorus efo’n gilydd dwi’n meddwl do, a jysd deud


Lluniau: Iolo Penri

there and then, Pasta Hull, let’s go.” Cafodd albwm cyntaf y band, Achw Met, ei ryddhau trwy Bandcamp fis Hydref, yn annisgwyl i rai o bosib. Efallai bod Pasta Hull wedi bod o dan y radar, ond roeddynt wedi bod yn brysur. “’Da ni wastad yn recordio a

gweithio rili,” eglura Owain. “‘Da ni wedi bod wrthi ers blwyddyn a hannar a gymrodd hi flwyddyn i ni gal yr albwm yna allan. Basically ’da ni efo llwyth yn dod allan rŵan achos ma’ bob dim wedi casglu yn yr amsar yna.” Mae’r un gân ar bymtheg ar yr albwm yn tarddu o gyfnodau

gwahanol yn hanes y band a’r aelodau’n unigol. Mater o eistedd i lawr a dewis a dethol y traciau ar gyfer y casgliad oedd hi wedyn. O ganlyniad ceir amrywiaeth dda ar Achw Met, ychydig o slacyr roc, ’bach o seicedelia, a thipyn o ffync, gyda llawer o’r caneuon wedi eu cyfansoddi Y SELAR

15


gan Llŷr ac Owain cyn iddynt ddod at ei gilydd i ffurfio Pasta Hull. “Ma’ gynnon ni ganeuon sydd wedi dod o jamio efo’n gilydd ond fydd lot o rheiny i ddod yn y dyfodol,” eglura Llŷr. “Does ’na’m rili caneuon ydan ni wedi meddwl amdanyn nhw collectively fel band allan ar y funud ond ma’ rheiny i ddod. Ma’n mynd i ddigwydd.” O’r cyfansoddi i’r recordio a’r cynhyrchu, mae Pasta Hull yn gwneud popeth heblaw’r mastro eu hunain. Mae hyn yn rhoi teimlad DIY, organig i’r holl beth, rhywbeth y mae Llŷr yn falch ohono. “Mae o wedi digwydd yn naturiol ond mae o’n rwbath ’da ni’n teimlo sydd reit bwysig i’w gadw. Y mwya’ o betha’ allanol s’gen ti, ma’ hynny’n gallu cymryd oddi wrtho fo dwi’n meddwl. ’Da ni’n licio’r ffaith bo’ ni ddim yn gofyn i neb mixio dim byd i ni, jysd cal rywun i mastro ar y diwadd heb acshyli newid dim.” Ac mae’r ethos hwnnw’n ymestyn i’r fideos y mae Pasta Hull wedi eu rhyddhau i gyd-fynd â rhai o’r caneuon oddi ar yr albwm. “Dyna o’n i’n licio’i neud flynyddoedd yn ôl cyn cychwyn band,” meddai Owain, “jysd gneud fideos fy hun. Gen i lot o footage o tua pedair mlynadd nôl felly o’n i’n meddwl might as well fi i iwsho fo rŵan efo’r band.” PASTA HULL PRESENTS

Er mai dim ond ym mis Hydref y cafodd albwm cyntaf Pasta Hull ei ryddhau, fe laniodd un arall ar eu safle Bandcamp ar ddiwrnod Nadolig, “presant ’Dolig bach i bawb” fel yr eglura Llŷr. Ffrwyth llafur cyfnod hir o gyfansoddi a recordio sydd yma unwaith eto, gyda llawer o’r traciau wedi eu recordio yn yr un cyfnod â’r caneuon ar Achw Met a rhai’n dyddio’n ôl cymaint â phum mlynedd a chyfnod Owain yn y coleg. Ond nid albwm Pasta Hull fel y cyfryw yw Pasta Hull Presents 3 Hwr Doeth, fel yr eglura Owain. “Ryw fath o cencept album ydi o, yn debyg i Gorillaz kind of thing. Y tri cymeriad ti’n ei weld ar ffrynt yr albwm ydi’r 3 Hwr Doeth. Wedyn, ma’ gen ti rapars eraill yn joinio 16

Y SELAR

rheiny hefyd fel BOI MA a Shauny D.” Y tair hwr, fel y maent yn ymddangos ar y clawr yw Yr Arch Hwch gyda’r pen mochyn, Jac Da Trippa yn y canol a Brochwel Ysgithrog ar y dde yn gwisgo’i goron. Dyma gyfeiriad hollol wahanol i Achw Met ac mae’n amlwg bod yr awydd i arbrofi yn gryf. Dyma albwm hip-hop Gymraeg sydd yn llenwi bwlch y mae Mr Phormula wedi bod yn ceisio’i lenwi ar ben ei hun bach ers tua degawd, nid fod elfennau allanol felly’n poeni dim ar Llŷr. “Ma’ ’na fwlch yn amlwg, ond dim felly ’da ni’n sbio arno fo, ’da ni jysd yn licio gneud hip-hop.” Peidiwch â chael eich twyllo gan enwau hwyliog yr hŵrs, mae yna stwff gwleidyddol da ar y record yma, gyda ‘Diwadd y Dydd’ a ‘Ghetto Yn Y Gogledd’ yn uchafbwyntiau. “Pan o’n i’n sgwennu’r caneuon odd hi’n reit anodd ffendio dim byd arall i rapio amdano deu’ gwir,” meddai Llŷr. “Ma’n rili hawdd malu cachu am y byd achos ma’ ’na gymaint o betha’ i gwyno amdanyn nhw.” Ffefryn arall yw ‘Tair Hwr Budur ft. Hypno Toad + BOI MA’ ble mae’r sefydliad yn ei chael hi gan y Doethion. O Ysgol Glanaethwy i Faes B, llety Senghennydd i flog Sôn am Sîn heb anghofio ein gwobrau annwyl ni yma yn Y Selar! Dyma rywbeth i’w groesawu mewn diwylliant lle mae pobl yn rhy barod i lyfu tin ei gilydd ar adegau. “Dyna chdi beth arall sydd yn hawdd rapio amdano fo achos bod yna gymaint o betha’ i sôn amdanyn nhw,” chwertha Llŷr. “Does ’na ddim llawar o gymryd y piss. Mae o fatha bod pobl ofn mynd yn erbyn y sin Gymraeg achos ma’ nhw’n gwbod bod ganddyn nhw fonopoli ar y peth. Ond ’da ni ddim am roi mewn i ddim byd felly. Os fysa pobl yn gneud be’ ma’ nhw isho fysan nhw’n gneud miwsig lot gwell. Fysan nhw ddim yn gorfod meddwl am yr holl betha’ ’ma sy’n eu dal nhw nôl.”


MÔR A MYNYDD AM FRYN

Sôn am dynnu blewyn o drwyn pobl, rhaid oedd i mi holi’r ddau am ‘Geith Bryn Fôn Fynd i Ff***o’. Denodd y gân dipyn y sylw llynedd a theg dweud iddi ypsetio ambell un er nad dyna oedd y bwriad. “Nath o ddod drosodd bach yn viscious yn diwadd ond ’bach o hwyl oedd o,” honna Owain. “Nath y sylw gath o, ei neud o’n fwy serious, achos jysd jôc bach i ni oedd o. Ond wedyn ath o’n ‘Pasta Hull yn erbyn Bryn Fôn’. Dwi’m yn casáu’r boi. Ma’r holl beth jysd yn dangos pa mor pathetig ydi’r sin Gymraeg rili.” Dim byd personol felly; sylwebaeth ar yr hyn y mae Bryn Fôn a’i gerddoriaeth yn ei gynrychioli yn fwy nag ymosodiad ar yr unigolyn ond wnaeth hynny ddim atal yr holl beth rhag troi’n stori newyddion ar Golwg 360! “Nath pawb jysd neud ffys amdano fo do...” meddai Llŷr. “Ond deud gwir, geith nhw i gyd fynd i ff***o!” Mae’r gân ddadleuol am y cerddor poblogaidd, fel y ddau albwm, ar gael ar safle Bandcamp Pasta Hull. Yno hefyd, fe welwch chi waith celf trawiadol y ddwy record hir. Mae hwnnw hefyd, fel gweddill y cyfanwaith, yn cael ei gadw in-house, yn llythrennol! “Oedd clawr Achw Met yn based ar syniad gesh i a Llŷr, oedd yn lot gwaeth, lot mwy fuzzy,” eglura Owain. “Ond ma’ mêt ni sydd yn byw efo ni, Carl Tango, yn graphic designer rili class felly ’da ni jysd yn rhoi artwork iddo fo ac mae o jysd yn sortio fo i ni.” Sgets gan Carl yw clawr 3 Hwr Doeth hefyd ac efallai y bydd yr artist yn brysur eto dros y misoedd nesaf achos mae mwy o ddeunydd ar y gweill. Efallai fod Pasta Hull eisoes wedi rhyddhau dwy record hir ers mis Hydref ond gallwn ddisgwyl dwy arall cyn yr haf! “Fydd yr albwm, G/MURPH, yn dod allan yn y ddau fis nesa,” meddai Llŷr cyn ychwanegu “a fydd o’n bedwar reit fuan wedyn masiwr, ail albym Pasta Hull. ’Da ni efo’r caneuon i gyd, jysd angan recordio nhw rili.” Digon i edrych ymlaen ato i ffans y band di flewyn ar dafod hwn o Gaernarfon felly. Ac efallai y bydd cyfle i gynulleidfaoedd ehangach weld y chwa o awyr iach yma yn y cnawd yn 2018 hefyd. Ar ôl mentro i lawr i’r canolbarth i chwarae yng Ngwobrau’r Selar fe hoffai Owain a Llŷr a gigio mwy ledled Cymru. Newyddion da, ar fy llw met. Y SELAR

17


10 UCHAF ALBYMS 2017 ROEDD 2016 YN GLAMP O FLWYDDYN O RAN ALBYMS CYMRAEG – CYMAINT FELLY NES I RECORDIAU HIR GERAINT JARMAN, THE GENTLE GOOD, CASTLES A BENDITH (ALBWM CYMRAEG Y FLWYDDYN YR EISTEDDFOD) FETHU Â CHYRRAEDD 10 UCHAF PLEIDLEISWYR GWOBRAU’R SELAR. DIM SYNDOD FELLY BOD NIFER ALBYMS 2017 YN IS, OND TEG DWEUD BOD Y SAFON YR UN MOR UCHEL. DYMA’R 10 UCHAF YN ÔL PLEIDLEISWYR GWOBRAU’R SELAR:

18

Y SELAR

10. ACHW MET – PASTA HULL

8. GORWELION – CALFARI

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Tachwedd Pasta Hull – un o ffenomenau mawr, a mwyaf diddorol 2017. Daeth eu halbwm cyntaf i’r wyneb yn yr hydref, ac mae’n glamp o gasgliad 16 trac. Ymysg y caneuon amlycaf mae ‘Jam Heb Siwgwr’ a ‘Cacan Ffenast’ sy’n adlewyrchiad o’r synau amrywiol sy’n plethu i gerddoriaeth y grŵp, yn jazz, ffync a roc trippy.

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Gorffennaf Albwm llawn cyntaf enillwyr gwobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar 2015. Er nad ydy eu cerddoriaeth roc meddal at ddant pawb, yn sicr mae ganddyn nhw ddilyniant a bydd eu ffans hardcôr wrth eu bodd â Gorwelion. “Mae ambell drac fel ‘Golau Gwyn’ fyddai’n ffitio’n berffaith yng nghystadleuaeth Cân i Gymru tra bod eraill fel ‘Storm’ yn gweld y prif ganwr Bryn Hughes Williams yn rhoi sesiwn ymarfer iawn i’w lais roc fel tasa fo’n Meat Loaf.” [Ciron Gruffydd, Y Selar, Awst 2017]

9. LLAIS/VOICE – MR PHORMULA

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Mehefin Un o arwyr mawr cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac yr un sydd wedi cadw fflam hip-hop Cymraeg ynghyn dros y ddegawd diwethaf i bob pwrpas. Albwm arloesol sy’n cynnwys dim un offeryn ar wahân i lais Ed Holden ac effeithiau. “Mae’r syniad yn ddigon i ffrwydro pen rhywun ond mae ei glywed yn rhywbeth arall.” [Elain Llwyd, Y Selar, Awst 2017]

7. GWALIA – GAI TOMS

Label: Recordiau Sbensh Rhyddhawyd: Gorffennaf Record hir ddiweddaraf un o ganwyr gyfansoddwyr gorau, ac artistiaid mwyaf toreithiog ei genhedlaeth. Dyma albwm pwysig,


sy’n tynnu ar sawl dylanwad, ac sydd â sawl neges yn llifo drwyddo. “Gwalia mewn gair? Perthnasol.” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Mehefin 2017] 6. PEIRIANT ATEB – Y CLEDRAU

Label: Recordiau I Ka Ching Rhyddhawyd: Rhagfyr Dyma chi fand sydd wedi bod o gwmpas ers tipyn, ac wedi bygwth gwneud rhywbeth da erstalwm ond ddim cweit wedi llwyddo i gyflawni eu potensial...nes rŵan. Mae’r casgliad yn cynnwys y tiwns bachog sydd wastad wedi bod yn amlwg yn DNA Y Cledrau, ond gyda rhyw aeddfedrwydd newydd. Dim ond ym mis Rhagfyr y rhyddhawyd y casgliad ond mae eisoes wedi creu ei farc. “Dyma albwm cyntaf sy’n gwneud yn union beth sy’n rhaid iddo wneud: dangos datblygiad ers yr EP a diffinio’r math o gerddoriaeth mae’r Cledrau eisiau ei gynhyrchu.” [Lois Gwenllian, Y Selar, Rhagfyr 2017] 5. LLE AWN NI NESA - PATROBAS

Label: Rasal Rhyddhawyd: Mehefin Y cyntaf o bâr o albyms gwerin i gyrraedd y rhestr eleni. Dyma chi grŵp ifanc sy’n credu’n yr hyn maen nhw’n gwneud, ac sy’n gweithio’n galed. Mae eu record hir gyntaf yn plethu alawon

gwerinol traddodiadol gyda sŵn pop mwy cyfoes...ac mae o’n gweithio! “Mae cerddoriaeth traddodiadol a chanu pop ysgafn mwy diweddar yma...a phopeth, bron, fu rhyngddynt.” [Bethan Williams, Y Selar, Awst 2017] 4. BWNCATH – BWNCATH

Label: Rasal Rhyddhawyd: Awst Albwm cyntaf grŵp ifanc gwerinol arall. Yr ‘hit’ Radio Cymru ydy ‘Barti Ddu’ ond mae yma hefyd fersiynau gwych o ‘Calon Lân’ a chlasur Alun Sbardun Huws, ‘Coedwig ar Dân’. “Mae’n anodd rhoi bys ar union arddull yma sydd wastad yn beth da ond yn sicr mae’r teimlad gwerinol a byw sydd yn cael ei greu yn hynod effeithiol.” [Gwilym Dwyfor, Y Selar, Awst 2017] 3. DYN Y DIESEL COCH – WELSH WHISPERER

Label: Tarw Du Rhyddhawyd: Tachwedd Beth sydd ar ôl i’w ddweud am y Welsh Whisperer? Mae o’n enigma, yn gigio mwy na neb (heblaw Gwil Bow Rhys), a heb os wedi cerfio niche bach proffidiol iawn i’w hun. Dyn y Diesel Coch ydy ei ail record hir, gyda’r un themâu tafod ym moch sy’n rhan amlwg o rysáit ei lwyddiant hyd yma – Tractors, Loris, yr A470 a gwartheg...beth sydd ddim i’w hoffi?

2. TODDI – YR EIRA

Label: Recordiau I Ka Ching Rhyddhawyd: Gorffennaf Y band sydd wedi bod yn bygwth bachu slot hed-leinio y gigs mawr ers sawl blwyddyn, ac efallai mai Toddi fydd yr allwedd sy’n datgloi’r clo o’r diwedd. ‘Gadael am yr Haf’, ‘Suddo’, ‘Dros y Bont’ – mae’r tiwns yn gyson trwy gydol y casgliad sy’n un o recordiau pop-gitâr gorau’r blynyddoedd diweddar. “O’r diwedd, mae gan Yr Eira albwm ar y silffoedd a dwi’n amau’n gryf os daw dawn y band i ‘sgwennu clincars fyth i ben.” [Ifan Prys, Y Selar, Awst 2017] 1. ANRHEOLI – YWS GWYNEDD

Label: Recordiau Côsh Rhyddhawyd: Ebrill Wel, anodd dadlau gyda’r ffaith mai blwyddyn Yws Gwynedd oedd 2017. Roedd hynny’n amlwg o’r eiliad y datgelwyd y byddai’n rhyddhau ei ail albwm ym mis Ebrill, ac mae ei boblogrwydd wedi tyfu a thyfu dros y flwyddyn. Yr hyn sydd ddiddorol ydy sut mae’r caneuon llai amlwg i ddechrau wedi datblygu i fod mor boblogaidd gydag amser – ‘Sgrin’ ac ‘Anrheoli’ oedd yr hits gwreiddiol, ond mae’r pendil wedi symud yn raddol i gyfeiriad caneuon fel ‘Disgyn am yn Ôl’ a’r ardderchog ‘Drwy dy Lygid Di’. Y SELAR

19


Darllen y Label

BWRIAD YR EITEM HON YW DOD I ADNABOD RHAI O LABELI MWYAF CŴL CERDDORIAETH GYFOES GYMRAEG. PAM SAIN FELLY DWI’N CLYWED RHAI OHONOCH YN EI OFYN? WEDI’R CWBL, MAE DEUNYDD DIWEDDAR Y LABEL CHWEDLONOL YN CYNNWYS EMYNAU PANTYCELYN, CANEUON GARETH GLYN AC ALBWM CÔR MEIBION CLWB RYGBI TREFORYS. OND DYMA LABEL AML HAENOG SYDD WEDI CYCHWYN AR DAITH NEWYDD GYFFROUS GYDA LABEL ARALL YN DDIWEDDAR.

Colofn Gareth Colofnydd gwadd arbennig iawn i chi y tro yma. Un o’r petha mwyaf poblogaidd ar HANSH, ac mae o wedi cyrraedd rhestr fer Cyflwynydd Gorau Gwobrau’r Selar. Dyma sut mae Gareth yn gweld hi... TIPS GARETH Yn llinell fi o waith fel cyflwynydd gorau Cymru, dwi ’di cyfarfod mwy o gerddorion Cymraeg na neb - heblaw am Lisa Gwilym (ond ma’ hi o gwmpas ers tua thirty years ’wan yndi?) - felly ’dio mond yn naturiol bo fi’n cal sgwennu am miwsig Cymraeg. Felly dyma top tips fi ar y bandiau cŵl 20

Y SELAR

ifanc i wrando ar yn 2018 yn y Sin Roc Gymraeg. CELT Ma’ Celt yn band gweddol newydd o Pesda a ma’ nw’n awesome, dychmygwch U2 efo mwy o garisma a llai o wallt. Cân gora nw – Pwdin Ŵy probably. Checiwch nhw allan. SIR FÔN Mi fydd rhaid i nhw gau y pontydd i Ynys Môn achos mae Mam Cymru yn rocio rhy galad. Jôc ’di hynna, ’di nhw ddim yn mynd i gau y pontydd (oni bai bod ’na gwynt ar yr A55), a tydi’r ynys ddim yn rocio’n llythrennol. Ond wrth

ENW: Sain DYDDIAD SEFYDLU: 1969 SEFYDLWR: Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan

Edwards LLEOLIAD: Llandwrog ARTISTIAID: Gormod i’w rhestru dros y blynyddoedd

ond mae’r crop diweddaraf yn cynnwys Alffa, Bitw, Glain Rhys a Pys Melyn. HANES: Mae lle Sain yn y llyfrau hanes yn ddiogel fel y cwmni recordiau Cymraeg annibynnol cyntaf a’u cyfraniad yn rhyddhau ystod eang o gerddoriaeth dros

sgwennu am Y Sin, mae’n rhaid crybwyll y rocars o Fôn, Calfari, Y Moniars a Fleur De Lys. Hefo catchy riffs nhw, ma’ ’rogia yn ffefrynnau ar y sin fyw (guess ’di hynna, dwi’m yn mynd i gigs). YR SŴNAMI / EIRA Ma’ un (neu ddau) o’r bands yma yn rili poblogaidd. Ma’ un (neu ddau) o’r bands yma efo Ifan Sŵnami yna nhw. Ma’ un (neu ddau) o’r bands yma yn swnio fel Yws Gwynedd ond heb y carisma. Dwi wedi clywad caneuon gan un (neu ddau) o’r bands yma ar y radio. Dwi ddim yn gallu deud y gwahaniaeth rhwng y ddau (neu un) band yma, ond dwi’n meddwl bod o’n unwritten rule bo’ ti’n gorfod sôn amdana nhw os ti’n siarad am miwsig Cymraeg, so

’wan dwi wedi neud. (Dwi ’di ticio Yws Gwynedd off yn y paragraff yma hefyd, he shoots he scores.) DE CYMRU Pwysig cofio mai ddim jesd o gogledd Cymru ma’ bands cŵl fel Fleur De Lys a Celt yn dod, ma’ ’na bands yn de Cymru hefyd, bands fel Ffug, Gwenno Saunders, Annie Saunders, Geraint Jarman, Crys, Trwynau Coch, Cpt. Smith, Korma, Los Blancos a’r Cledrau. Dwi’n edrych ymlaen i wrando ar y bands yma i weld be’ ma’ nhw fel rwbryd pan gai amsar.

A dyna ni, bron iawn wedi cyrraedd y word count o pedwar cant gair dwi ’di cal fy nhalu i sgwennu. Bron iawn. Dilynwch fi ar Twitter @Gareth4567. Dim ond naw gair arall. Pedwar ’wan. ’Wan dau.


COLOFN YWS GWYNEDD gyfnod o bron i hanner canrif yn amhrisiadwy. Teg dweud, serch hynny, i’r blynyddoedd diwethaf fod yn gyfnod cymharol hesb iddynt o ran cerddoriaeth gyfoes. Diddorol felly oedd clywed yn ddiweddar am berthynas newydd rhwng Sain a label arall sefydledig, Turnstile. Alun Llwyd o Turnstile (a bellach Sain) sy’n egluro mwy. Adwaith “Ar ôl trafod gyda Sain fe sylweddolon ni y gallai cydweithio gyda Turnstile greu cyfleon newydd cyffrous a fyddai nid yn unig o fudd i’r ddau gwmni ond hefyd o fudd i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar ond mae rhai o’r cynlluniau yma bellach ar waith ac edrychwn ymlaen i’w datblygu dros y misoedd nesaf.” UCHAFBWYNTIAU: Er yn ddyddiau cynnar ar y berthynas newydd gellir eisoes deimlo cynnwrf newydd. Un peth sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at y cyffro hwnnw yw atgyfodi un o hen gynlluniau’r label. “Rydym wedi ail lansio Senglau Sain,” eglura Alun, “gan ddefnyddio gwaith celf y gyfres wreiddiol a stiwdio eiconig Sain i helpu i ddod â chenhedlaeth newydd o artistiaid i amlygrwydd.” Mae Bitw a Pys Melyn wedi rhyddhau eu deunydd cyntaf fel rhan o’r cynllun ac mae mwy i ddod. Yn gyfochrog â’r berthynas newydd, mae gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo wedi cael ei lansio. Yn ôl Alun, PYST yw’r gwasanaeth Cymraeg cyntaf o’i fath a’r “gobaith yw y gall PYST gynorthwyo’r llu o labeli annibynnol gweithgar sydd yn bodoli yng Nghymru’r dyddiau yma.” “Ond y prif uchafbwynt,” ymhelaetha Alun, “yw sgyrsiau di-ri gydag artistiaid, labeli a sefydliadau drwy Gymru sydd yn byrlymu gyda chreadigrwydd ac awydd i bartneru a chreu.” AR Y GWEILL: Er cyflawni tipyn mewn cyfnod

byr mae mwy i ddod o’r pencadlys yn Llandwrog. Mae llu o recordiau i’w dosbarthu trwy PYST a blwyddyn gyntaf Senglau Sain i’w chwblhau cyn cychwyn ar “ail flwyddyn arbennig iawn o’r gyfres.” Gallwn ddisgwyl deunydd newydd gan rai o brif artistiaid Sain, megis albwm newydd gan Lleuwen dros yr haf. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ambell i brosiect arbennig i gydfynd ag ail-ryddhau rhywfaint o drysorau catalog Sain ar feinyl. Hynny i gyd, “hwyl, cynnwrf a chydweithio.” GWELEDIGAETH: Syml a chryno yw gweledigaeth Alun ar gyfer y dyfodol. “Partneru, parhau, cyfrannu.”

sainwales.com turnstilemusic.net @Sainrecords @turnstilemusic facebook.com/SainRecordiau facebook.com/turnstilemusic

Cyfnod Euraidd Ma’ ’na gydnabyddiaeth ein bod ni mewn cyfnod euraidd cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, ond be’ mae hynny’n ei olygu? Dros y chwarter canrif ddwytha mae’r ‘sin’ wedi ffynnu sawl gwaith mewn ffrwydrad disglair o fandiau ac artistiaid, ond am sbel yn unig, cyn gostwng yn ôl i gyfnod anobeithiol, di-fflach lle ti’n cwestiynu a oes pwrpas i’r holl angerdd am “ganu yn Gymraeg”. Yn un o’r cyfnodau yma nes i sylweddoli fod cerddoriaeth Gymraeg yn gallu bod yn wych, wrth wrando ar Radio Cymru rhyw fore Sadwrn. Ges i slap gerddorol reit ar draws fy wyneb gan Topper, Anweledig a’r Big Leaves. Roeddwn i’n ddigon lwcus i fod yn rhan o’r cyfnod euraidd nesa’. Ynghyd â’r Genod Droog a Radio Luxembourg, roedd Frizbee yn cael hawlio’r sylw, ac arweiniodd hynny at un o gyfnodau gorau fy mywyd. Roedd 2003 i 2008 yn bangar o amser, yn rhannol gan fod ‘na ’chydig o arian yn y sin a chefais wireddu’r freuddwyd honno o fod yn gerddor llawn amser am dair blynedd. Ond, daeth y cyfnod yma i ben hefyd (yn eithaf dadleuol) wrth i’r PRS benderfynu eu bod nhw’n talu 90% yn ormod i ganeuon Cymraeg, gan newid rhyw algorithm cymhleth fyddai’r athro Brian Cox yn ei chael hi’n anodd ei ddeall. Ar ôl cyfnod llwm hirach na’r arfer, gydag Yr Ods yn gwneud eu gorau i gario gobaith y sin ar eu hysgwyddau, camodd Sŵnami a Candelas o’r tywyllwch. Nhw wnaeth fy ysgogi i’n bersonol i gychwyn ’sgwennu eto, a dwi’n hynod falch fy mod i wedi gwneud achos mae’r cyfnod yma’n teimlo’n wahanol. Am y tro cyntaf, dwi’n rhagweld y cynnwrf yn parhau tu hwnt i’r pum mlynedd arferol, a hynny gan fod y bandiau ac artistiaid “mawr” nesa’n bodoli’n barod. Mae o’n ffrwtian dan y wyneb. Bandiau fel Yr Eira, Adwaith, Y Cledrau, Gwilym a Serol Serol yn barod i gymryd yr awennau pan fydd angen. A’r peth hyfryd ydi, does dim rhaid i neb symud o’r ffordd i hynny ddigwydd. Mae ’na le i bawb ac mae ’na gyd-weithio gwych yn digwydd rhwng labeli, artistiaid a hyrwyddwyr. Wedi pennod anodd yn hanes yr ‘SRG’, debyg fod pawb wedi tynnu at ei gilydd i greu amgylchfyd cytun a braf. Oherwydd hynny’n bennaf, does dim llawer o ots fod yr arian wedi diflannu. Wedi’r cyfan, does neb yn troi at ganu Cymraeg i wneud eu ffortiwn! Y SELAR

21


Llifo Fel Oed Cyrhaeddodd newyddion cyffrous iawn Y Selar yn ddiweddar wrth i ni glywed bod albwm newydd ar y ffordd yn fuan iawn gan Blodau Gwylltion. Mae’r band wedi bod o gwmpas ers sbel ond Llifo Fel Oed, a fydd allan ar yr unfed ar bymtheg o Fawrth, fydd record hir gyntaf y ddeuawd, Manon Steffan Ros ac Elwyn Williams. Dechreuodd Manon ac Elwyn berfformio fel Blodau Gwylltion yn sgil bod yn gyd-aelodau o fand tad Manon, Steve Eaves. Daw enw’r band o’r gân draddodiadol, sy’n cael ei chynnwys ar Llifo Fel Oed, ‘Ddoi Di Dei’. Caneuon gwreiddiol wedi eu hysgrifennu gan Manon yw’r gweddill ar y casgliad a chawsant eu recordio yn Stiwdio Iawn, Aberystwyth, dros gyfnod o sawl blwyddyn. Arddull agos-atoch a phersonol sydd i’r caneuon, fel yr eglura Manon: “‘O’n i’n awyddus i recordio’r albwm mewn ffordd eitha’ lo-fi, heb orgynhyrchu, er mwyn iddo fo deimlo fel tasa’r gwrandawr mewn gig byw.

Y SELAR

Lluniau: Elgan Griffiths

22

Mae hyn yn rhoi arddull bersonol i’r sain. Mae ‘na sŵn un o wylanod Aber yng nghefndir un trac, ac ar un arall, mae Greta, merch fach Elwyn, yn ochneidio – mae o’n siwtio’r caneuon yn berffaith, digwydd bod!” Bydd tamaid i aros pryd ar ffurf trac oddi ar yr albwm yn cael ei ryddhau ar y pedwerydd ar bymtheg o Chwefror a gallwn ddisgwyl clywed amrywiaeth mewn arddull a phwnc

yn y casgliad cyflawn, gan gynnwys un gân er cof am y diweddar Meredydd Evans. “Mae ‘na lawer o’r caneuon yn ymwneud efo treigl amser, a sut ‘da ni’n ran o ryw batrwm neu gylch,” esbonia Manon. “Ac mae’r teitl yn dod o gân ola’r albwm, ‘Plant Bach’, sy’n sôn am wylio’r plant yn tyfu. Mae dŵr yn thema arall ar yr albwm, felly roedd hi’n gwneud synnwyr cael y gair llifo yna.” Mae cynlluniau i gigio’r caneuon newydd hefyd, mewn lleoliadau gigs, siopau ac hyd yn oed tai! Mae chwaer Manon, Lleuwen Steffan, ar daith ddechrau mis Mawrth a bydd Blodau Gwylltion yn cefnogi yn Acapela, Pentyrch, ar yr ail; ac eto yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ar y pedwerydd. Bydd Blodau Gwylltion yn cyhoeddi taith siopau a rhagor o gigs eu hunain yn fuan hefyd. Yn ogystal â hynny, mae Manon ac Elwyn yn gweithio ar y syniad diddorol o gynnal ambell gig mewn tai. Dyna weddu’r steil agos-atoch i’r dim, edrych ymlaen!


CEFNOGI’R GERDDORIAETH NEWYDD ORAU YNG NGHYMRU BACKING THE BEST NEW MUSIC IN WALES bbc.co.uk/horizons

Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer ffonau a dyfeisiadau symudol (iOS ac Android) ynghyd â fersiwn gwe

Tanysgrifiad misol : Sylfaenol £6 Premiwm £9 Mis o dreialu am ddim #chwyldroffrydio #tâlteg #cefnogiartistiaid www.apton.cymru apton@apton.cymru

Cofrestrwch ar y wefan am fis o dreial am ddim, rhaid cadarnhau’r cofrestriad trwy glicio ar ddolen mewn e-bost, yna lawrlwythwch yr ap i’ch ffôn neu ddyfais o’r AppStore neu’r PlayStore a mewngofnodi!

ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

Beth am wrando ar gerddoriaeth Gymraeg drwy ap ar eIch ffôn?

newydd

01/02/2017 18:16

www.sainwales.com

3 Horizon_200x140_Gwobrau_press.indd 1

Y SELAR

23


adolygiadau Troi Beth Celyn Mae llais cyfoethog a chryf Beth Celyn yn hawdd gwrando arno ac yn gweddu steil hamddenol yr EP i’r dim. Mae’r cyfeiliant yn rhoi platfform i’w llais hi mewn sawl ffordd. Mewn sawl cân mae’n sylfaen syml sy’n rhoi lle amlwg i’w llais hi, ond mae’r piano a’r dryms yn ‘Duwiau’ yn cael eu defnyddio i gynyddu sŵn a bît y gân wrth ailadrodd riff ac adeiladu arno, cyn tawelu’n sydyn a llais Beth yn cymryd eu lle. Mae’r gitârs ar ‘Gwenllian’ yn creu naws hollol wahanol, gofodol, a hynny tua diwedd y gân, gan roi dimensiwn newydd iddi. Strwythur eithaf syml sydd i’r caneuon hefyd, a’r alawon cryf yn llifo’n rhwydd. Drwy ailadrodd llinellau yn syth ar ôl ei gilydd, cynyddu a lleihau sain ac effaith ei llais, mae Beth Celyn yn cynnal diddordeb a chreu naws, ac yn llwyddo i wneud hynny trwy’r EP. Bethan Williams Casset 1 Casset Casset 1 yw ymdrech gyntaf Casset i gyflwyno’u sain i’r byd mewn corff sylweddol o waith. Gan mai saith cân sydd i’r casgliad, mae’n teimlo’n fwy sylweddol nag EP, ond eto ychydig yn rhy fyr i wneud datganiad cysyniadol fel albwm. Mae perygl iddi syrthio rhwng dwy stôl o ganlyniad, ond mae’r ymdeimlad DIY sydd y tu ôl i’r holl beth yn ei harbed rhag hen glichè y stolion. Fel y mae eu henw’n ei awgrymu, mae yna ymdeimlad o roc clasurol yn plethu’r caneuon â’i gilydd, ac mae dylanwad Led Zep a bandiau’r cyfnod hwnnw’n treiddio drwy’r riffs melodig niferus sydd yn ymddangos ym mhob cân. Does dim nonsens i’w gael mewn caneuon fel ‘Dibendraw’ a ‘Straeon Ffug’, sydd yn seiliedig ar riffs y gitâr flaen a’r gitâr fâs, a backbeat cryf ar y drymiau. Fodd bynnag, ceir ychydig o amrywiaeth

wrth i ganeuon fel ‘Mŵg’ swnio fel eu bod nhw’n jamio ar rythmau llawer mwy ymlaciedig. Dwi’n dechrau colli diddordeb erbyn diwedd yr albwm... cyn i ‘Caeau Cyffredin’ daro fy nghlustiau. Mae hi’n llawer tebycach i stwff y nawdegau cynnar na’r gweddill, ac mae dylanwadau bandiau fel Y Cyrff, Tynal Tywyll, ac wrth gwrs, Maffia Mr Huws, yn dod i’r amlwg. Dwi’n credu bod cymlethdod diangen yr alawon lleisiol rhai o’r caneuon yn wendid yn yr albwm, ond mae ’na alaw llawer mwy naturiol yn perthyn i ‘Caeau Cyffredin’ sydd yn gwneud i mi fod eisiau canu hefo nhw. Os awn nhw i lawr y trywydd hwn yn y dyfodol, mi af i hefo nhw. Gethin Griffiths ‘I’r Gofod A Byth Yn Ôl’ Libertino MIX 1 Dwi wrth fy modd efo’r casgliad yma, a hynny gan ei fod o’n adlewyrchiad gonest o’r amrywiaeth o artistiaid ac arddulliau cerddorol sydd gennym ni yng Nghymru heddiw. Er bod hynny’n amlwg yn barod, dyma albwm sy’n cynnig rhywbeth ffresh a chyfoes i’r sin, ac mae hynny i’w groesawu. Cofnod arbennig o wyth mis cyntaf y label Libertino ydi ‘I’r Gofod A Byth Yn Ôl’ Libertino MIX 1, ac mae’n cynnwys traciau gan artistiaid sefydlog yn ogystal ag artistiaid sydd am fod yn cydweithio gyda’r label y flwyddyn hon. Dyma gyfanwaith felly sy’n cynnig y gorau o’r ddau fyd, wrth inni gael clywed rhai o ganeuon mwyaf 2017 a blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl. Yn ogystal â rhoddi llwyfan i fandiau newydd, dyma gasgliad sy’n rhoddi llwyfan i arbrofi a chasgliad sy’n dangos nad oes rhaid i gerddoriaeth fod yn berffaith. O ystyried hynny, teg dweud bod y casgliad yn dangos bod dyfodol disglair i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru, gan ei fod yn dangos nad oes ffiniau i gerddoriaeth. Dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy gan holl artistiaid Libertino dros y flwyddyn i ddod, gan obeithio y bydd casgliad tebyg yn cael ei

ryddhau yn dilyn hynny. Eisteddwch ’nôl a mwynhewch. Ifan Prys Pasta Hull Present... 3 Hwr Doeth Do’n i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o’r albwm hwn, gan fod hip-hop yn genre cymharol ddiarth i mi. Fodd bynnag, ches i ddim fy siomi. Dyma, heb os, un o albyms Cymraeg mwyaf gwleidyddol yr unfed ganrif ar hugain. Mae dylanwad y Tystion a Datblygu yn amlwg ar y Tri Hwr Doeth (cyfeirir at y ddau ar yr albwm), ond nid yw’r grŵp hip-hop o Gaernarfon yn ofn dilyn eu trywydd eu hun. Dyw’r caneuon ddim yn rhai byrion – gyda’r mwyafrif yn rhyw 4 neu 5 munud – ond nid yw hyn o reidrwydd yn beth gwael, gan ei fod yn rhoi sgôp iddynt drafod pynciau dyrys. Mae nifer o’r caneuon yn trafod materion gwleidyddol cenedlaethol neu fyd-eang. Ynghyd â chaneuon sy’n dadlau dros gyfreithloni mariwana, mae ‘I Moved on Her Like a Bitch’ yn feirniadaeth hallt o Donald Trump, a disgrifir Brexit fel “piso ar y bwrdd cinio wedyn disgwyl croeso i gael dod eto”. Mae dicter hefyd at y genhedlaeth hŷn am y bleidlais, ac mae’r ymdeimlad o fod yn ddifreintiedig yn un sy’n rhedeg drwy’r casgliad. Mae ‘Diwadd y Dydd’ yn trafod pa mor anodd yw bywyd pobl ifanc i gymharu â’r genhedlaeth cynt, a herio’r ddelwedd o millennials fel cenhedlaeth ddiog. Y peth gorau am yr albwm, yn ogystal â’r geiriau coeglyd, yw’r ffaith ei fod yn bortread di-flewynar-dafod o fywyd yng ngogledd orllewin Cymru. Mae Tri Hwr Doeth yn bendant yn chwa o awyr iach. Rhys Dafis 7 Llais Karen Owen Os ’da chi isho rhywbeth gwahanol yn eich casgliad a rhywbeth sy’n mynd i wneud i chi feddwl – dyma fo! Mae gwrando ar gerddi yn cael eu darllen yn medru bod yn ofnadwy o ddiflas.


Serol Serol Serol Serol Waw. Os mai fel hyn mae sbês yn swnio, bwciwch fi ar y bws nesaf i’r lleuad. Roedd disgwyliadau’n uchel o albwm cyntaf Serol Serol wedi llwyddiant y senglau, ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’, ac nid yw’n siomi. Mae’r pop gofodol â’n swynodd ni yn y caneuon hynny’n hollbresennol ar ddeg trac y record hir.

RHAID GWRANDO

Bosib mai effaith blynyddoedd o wrando a dysgu darnau adrodd/ llefaru yn yr eisteddfod ydi’r bai am hynna, ond bron fod gwell gen i ddarllen cerddi yn fy mhen ’na gwrando arnyn nhw’n cael eu darllen yn statig. Mae’r CD yma yn fwy ’na dim ond cerdd statig. Wrth roi cerddoriaeth yn gefndir i’r holl beth mae’n gwneud i mi wrando a chlywed y geiria’n well. Yn union fel y mae cerddoriaeth dda mewn ffilm yn ychwanegu a dwysau’r emosiwn, mae Karen Owen wedi llwyddo i wneud yr un peth gyda’i cherddi am brofiad bywyd drwy gyd-weithio hefo talentau cerddorol a lleisiol erill. Fy unig gŵyn ydi fod un neu ddau o’r traciau braidd yn hir gan wneud iddyn nhw swnio fel gormod o restr ac achosi i mi stopio gwrando. Mae ’na wirionedd, eironi, a gonestrwydd ymhob trac sy’n galluogi unrhyw un o bob oed i edrych ar eu bywydau eu hunain a ffieiddio, sylweddoli a chwerthin. Dwi wirioneddol yn mwynhau’r lleisiau aeddfed ar bob trac ac mae eu clywed i gefndir cerddoriaeth mor fodern

yn ddeuoliaeth hollol gyffrous. Hoff drac? ‘Parcha’ heb os nag oni bai. Dylai pob gwers Gymraeg astudio hon, i brofi ei bod yn bosib dod â llenyddiaeth Gymraeg i mewn i heddiw ac yn berthnasol i bawb. Elain Llwyd Casgliad Cae Gwyn Amlgyfrannog Mae’r label amgen, Recordiau Cae Gwyn yn dathlu deng mlwyddiant, ac i nodi’r achlysur maen nhw’n rhyddhau’r casgliad hwn. Arno mae nifer o enwau cyfarwydd, Mr Huw, Sen Segur, Omaloma a Dan Amor ac ambell un newydd sbon fel A(n) naearol. Gan lynnu at eu hunanddisgrifiad ‘amgen’ mae Recordiau Cae Gwyn wedi tynnu at ei gilydd gasgliad ac iddo ystod eang o genres; o bop i’r clasurol. Yr uchafbwyntiau i mi ydy Mr Huw a’i gerddoriaeth goeglyd, ymddangosir dwy gân ganddo sef ‘Llosgfynyddoedd’ a ‘Du’. Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r trac gitâr clasurol,

‘Teasero’ gan Pablo Vasquez, mae’n dod ag ennyd o osteg i’r casgliad. Ar y cyfan, mae’n gasgliad sy’n driw iawn i ddelwedd y label; digon o amrywiaeth ond dim gormod o bethau out there rhag dieithrio pobl sy’n newydd i’w catalog. Mae’n cynnwys y gorau o’u hartistiaid ac yn rhoi platfform i rai sy’n llai adnabyddus. Lois Gwenllian Creadur Alffa Dim ond un ffordd sydd yna i wranado ar y sdoncar yma, efo un o’r amps sbeshal Spinal Tap yna. Dryms a gitâr yn unig sydd yma ond maen nhw’n gneud digon o dwrw! Golyga hynny nad oes unman i Siôn a Dion guddio ond chwarae teg mae’r ddau yn dangos meistrolaeth dda o’u hofferynnau. Er cyn gryfed y brif riff sy’n rhedeg trwy’r gân, fe allai’n hawdd fod wedi mynd yn ddiflas erbyn y diwedd oherwydd y diffyg amrywiaeth offerynnol. Ond nid yw hynny’n

Llun: Nadine Ballantyne

Mae rhywbeth hudolus am leisiau breuddwydiol Mali a Leusa sydd yn gweddu’n berffaith i’r cysyniad. Ac yn gyfeiliant i’r cwbl y mae, o bosib, y briodas orau rhwng synth a bas ers Jungle. Mae ‘Sinema’, ‘Cysawd Yr Haul’ a’r sengl ddiweddaraf, ‘K’Ta’ yn ffefrynnau newydd ond yn y modd y mae’r cwbl yn gweithio gyda’i gilydd y mae cryfder y casgliad hwn. Y cwestiwn efo unrhyw ddarn o gelfyddyd gysyniadol am wn i ydi pa mor bell all yr artist fynd â fo? Wel, mae’r gofod yn ddiddiwedd wrth gwrs ond fe fydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd cam nesaf y grŵp, mae’n siŵr y bydd rhaid iddynt addasu neu esblygu ychydig. Mae hi’n gynnar yn y flwyddyn ond fe synnwn i os fydd yna albwm Gymraeg gwell na Serol Serol eleni. Gwilym Dwyfor


adolygiadau digwydd diolch i’r defnydd effeithiol o bedalau. Mae’r distortion yn cynyddu wrth i’r trac fynd yn ei flaen i roi diweddglo fuzzy i’r gân. Mae dylanwad Queens of the Stone Age yn amlwg (ar y gerddoriaeth hynny yw, tydi Dion ddim yn cicio camerâu at ffotograffwyr, cyn belled ag yr ydw i’n gwybod). Os ydach chi’n ffans o’r rocars o California, siawns y gwnewch chi fwynhau’r ‘Creadur’ yma. Tydw i ddim ond fe wnes i. Gwilym Dwyfor Bubblegum Omaloma Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio rhybuddion y Super Furries am gnoi gwm, yn enwedig yn y gwely. Bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach a dyma gân sydd yn hysbyseb dipyn mwy cadarnhaol o blaid y danteithion poblogaidd! Mae’r disgrifiadau o’r blasau’n llifo yn tynnu dŵr i’r dannedd bron cymaint â synau arallfydol y synths. Yn felys, yn lliwgar ac yn anrhagweladwy, mae’r tiwn bach yma’n union fel y peth go iawn. Yn driw i’w arddull nodweddiadol bellach, cân bop sydd yma ond efallai bod ‘Bubblegum’ fymryn yn fwy o un i’r puryddion na’r hynod boblogaidd, ‘Aros o Gwmpas’, ond peidiwch â phoeni achos dyna yw b-side y 7” yma pryn bynnag! Fersiwn estynedig o’r gân sy’n dwyn y teitl clyfar iawn, ‘Aros o Gwmpas (fersiwn eitha hir)’. Gwilym Dwyfor Cosmig Pys Melyn Mae ’na ryw ymdeimlad anghysurus bod Pys Melyn un cam o’n blaenau ni i gyd ar bob achlysur, ac mae ‘Cosmig’ yn brawf pellach o hynny. Yn gerddorol, does dim dal beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, mae’r strwythurau’n gwbl anghonfensiynol, mae’r cordiau yn enigma yn eu hunain, ac mae ‘na wead sonig gwahanol yn cuddio ym mhob cornel.

Mi fuaswn i’n gallu gwrando ar SoundCloud Pys Melyn drwy’r dydd a thrwy’r nos, ac mi fuaswn i’n gallu darganfod rhywbeth newydd bob tro. Mae’r sain yn ffres, yn gelfydd ac yn arloesol, ac os ydych chi’n chwilio am singalong neu rywbeth ysgafn i blesio’ch clustiau sebonllyd, ewch i chwilio mewn bydysawd arall. Ar ôl gollwng bangar o sengl gyntaf, mae Senglau Sain ’di ei gwneud hi eto. Gethin Griffiths Cwîn Gwilym Mae’r naws hafaidd sy’n perthyn i gerddoriaeth Gwilym heb os yn gwneud i bobl deimlo eu bod nhw wrth y bar yn y ’Steddfod neu ar draeth Y Bermo ar ddiwrnod braf o haf. Be’ well felly yng nghanol misoedd llwm y gaeaf ond sengl arall gan y pedwarawd o Ynys Môn a Chaernarfon? Er yn fand cymharol newydd, mae Cwîn yn adlewyrchu bod sŵn Gwilym yn prysur ddatblygu o’i gymharu gyda’u cynnyrch blaenorol megis ‘Llechan Lân’ a ‘Llyfr Gwag’. Dyma fand sy’n amlwg felly’n griw amryddawn o gerddorion, ac mi fydd hi’n ddiddorol gweld i ba gyfeiriad y byddant yn mynd nesaf. Yn y cyfamser, mae dylanwad bandiau megis Two Door Cinema Club yn amlwg ar waith Gwilym, wrth i’r riffs â’r alawon cadarn gyfuno i greu cân fachog a chofiadwy arall. Ma’ Gwilym yn dda iawn, a ’dwi’n eiddgar i glywed mwy ganddyn nhw dros y misoedd nesaf. Ifan Prys Yn Fy Mhen Lewys O eiliad gyntaf y sengl yma mae Lewys yn rhoi hook i ni sy’n gneud i fi deimlo fel dawnsio! Yn dechrau’n araf gyda jysd y gîtar syml yn ein cyflwyno i’r hook cyn adeiladu gyda’r drymiau nes i’r llais ddod i mewn yn llawn egni – dim chwara’! Mae ’na wead prysur hefo’r cyfuniad poblogaidd o offerynnau a synau

sy’n fy atgoffa o Sŵnami, a HUD gynt. Mae’r geiriau braidd yn brin ac mae hon yn gân syml yn ei hanfod, fel pob cân bop dda, ond mae’r hook, y geiriau anthemig a’r haenau poblogaidd yn ddigon i wneud hon yn diwn a hanner i ddod â phawb allan o’r gaeaf hir ’ma. Elain Llwyd Yr Unig Un I Mi Art Bandini Ceir offerynwaith graenus, cynhyrchu taclus a llais reit swynol ar y sengl, ‘Yr Unig Un I Mi’, cân roc araf sydd â naws eithaf sinematig yn perthyn iddi. Ond does dim ffordd arall o’i roi o, mae’r geirau’n shit; “Mae’r alaw yn bur a’r geirie’n glir, ti yw’r unig un i mi.” Na, sori, ddim i mi. Arddull mwy acwstig sydd i’r b-side, ‘Seren y Gogledd’ a bron bod y geiriau cariadus yn gweddu’n well i naws canu gwlad y trac yma. Achos ydi, mae’r gân yma’n dioddef o’r un clwyf geiriol â’r gyntaf; “mae dy gân yn fy nenu fel cân y gwcw, yn hudol ac yn swynol.” Unwaith eto, pas. Efallai mai fi sy’n bod yn anrhamantus cofiwch a fyswn i ddim yn poeni dim na newid dim os fyswn i’n Art Bandini achos mae yna gynulleidfa i hyn. Gwaetha’r modd. Gwilym Dwyfor Bradwr Crawia ’Da ni’n gwybod ers rhai blynyddoedd bod Siôn Richards aka Crawia yn gallu sgwennu tiwn. ’Da ni’n gwybod yn barod ei fod o’n gallu sgwennu’r diwn hon gan mai fersiwn newydd o’r gân a recordiwyd yn 2014 yw hi. Cân a chofeb i streicwyr chwarel y Penrhyn yw ‘Bradwr’. Americana Cymreig, sydd yn cael ei bwysleisio gan help llaw ambell i Gowboi Rhos Botwnnog fel cerddorion ar y fersiwn newydd. Mae plycio’r gitâr a’r geiriau storïol yn atgoffa rhywun o Townes Van Zandt ac mae llais cefndir hiraethus Casi yn ychwanegu at y teimlad. Mae’r cyfan


gyda’i gilydd yn gweithio’n hyfryd. Y cwestiwn sydd gen i fodd bynnag yw beth yw’r pwynt rhyddhau fersiwn newydd o ‘Bradwr’ pan mae cyn lleied o ddeunydd allan gan Crawiau? Mae sôn bod albwm ar y gweill ac addewid o sioeau byw “yn y flwyddyn newydd” felly pam ddim rhyddhau rhywbeth gwahanol? Cafodd ‘Bradwr’ ar ei newydd wedd ei ryddhau ar Ddydd Miwsig Cymru, sef cynllun corfforaethol cyfoglyd Llywodraeth Cymru i ddangos eu bod nhw YN gwneud rhywbeth i hybu’r iaith, boed hynny gyda cyn lleied o ymdrech ag sy’n bosib. Efallai bod rhyddhau’r sengl yma ar y diwrnod hwnnw’n bartneriaeth ddibwynt perffaith. Ond dim ond sinig llwyr fyddai’n meddwl hynny wrth gwrs... Ciron Gruffydd

PRS for Music yn falch o noddi Offerynnwr Gorau yn Gwobrau’r Selar prsformusic.com

Gwobraur Selar Ad2.indd 1

09/02/2018 14:01:51

lleuwen.com @lleuwen

cefnogaeth gan / support by

B l o d a u G wy l l t i o n

Amgueddfa Ceredigion Museum Sul / Sunday 04/03/17 – 17:00 £10 (oedolion/adults) / £5 (plant/children) @ Siop y Pethe / Siop Inc / Amgueddfa Ceredigion / yselar.cymru


28

Y SELAR


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.