Y Selar Mawrth15

Page 1

Rhif 40 | Mawrth | 2015

CANDELAS Brigyn | Gwobrau’r Selar | 10 Uchaf Albymsy-selar.co.uk 2014 selar_Chwefror.indd 1

1

12/02/2015 22:10


Lisa Gwilym Cyflwynydd Gorau Gwobrau’r Selar am y pedwerydd tro Nos Fercher 7-10pm

bbc.co.uk/c2

RC_YSelar213x303mm_v.3.indd 1 selar_Chwefror.indd 2

06/02/2015 14:51 12/02/2015 22:10


2015 14:51

y Selar

cynnwys

RHIF 40 | Mawrth | 2015

Golygyddol Mae tymor y gwobrau wedi cyrraedd. A thra bod yr Oscars, Y Brits a Cân i Gymru ... oce, ella ddim Cân i Gymru ... yn dwyn y penawdau, does dim ond un Gwobrau sy’n wirioneddol bwysig, a rheiny ydy Gwobrau’r Selar wrth gwrs. A hithau ddim ond y drydedd gwaith i ni gynnal y digwyddiad, rydan ni’n falch iawn o lwyddiant Gwobrau’r Selar. Erbyn i chi ddarllen hwn mae’n bosib iawn y byddwch chi wedi bod yn y Gwobrau y Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, a gobeithio i chi gael clamp o noson dda’n dathlu’r sin ardderchog rydan ni’n ffodus o’i chae ar hyn o bryd. Does dim yn rhoi mwy o falchder i ni na gweld bysiau o bobl ifanc yn teithio o bob cwr o Gymru i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn fyw Roedd 2014 yn flwyddyn ddifyr, gyda dim ond Candelas o’n grwpiau mwyaf yn rhyddhau albwm. Mae hynny wedi rhoi cyfle i rai o’r bandiau ac artistiaid eraill wneud eu marc, ac yn sicr roedd presenoldeb cryf Y Ffug, Yr Eira ac Yws Gwynedd ar y rhestrau byr yn awgrymu bod dyfnder i gryfder y sin. Gobeithio’n wir y gwelwn ni enwau fel Ysgol Sul a Tymbal ar y rhestrau mewn blwyddyn. A gyda’r Gwobrau’n cau pen y mwdwl yn daclus ar 2014, beth am i ni rŵan edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn 2015 gan ddechrau efo rhifyn cyntaf y flwyddyn o’r Selar - mwynhewch. Owain S

4

10

Blwyddyn Candelas

4

Trydar @BromasBand

8

Gwobrau’r Selar

10

10 Uchaf Albyms Gorau ‘14

11

Dyddiadur Ifan

15

Carcharorion ar Record

16

O glawr i glawr

18

Adolygiadau

20

16

Llun clawr: Betsan Evans

18

GOLYGYDD UWCH OLYGYDD

Gwilym Dwyfor Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA

Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com)

CYFRANWYR Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Lois Gwenllian

selar_Chwefror.indd 3

yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

12/02/2015 22:10


Lluniau: Betsan Evans

Blwyddyn Candelas Candelas oedd enillwyr mawr Gwobrau’r Selar llynedd gyda thair gwobr... a dydyn nhw heb wneud yn ddrwg eleni chwaith. Gyda’i hail albwm allan jyst cyn y Nadolig, roedd yn esgus perffaith i yrru Owain Gruffudd am sgwrs gyda’r hogia cyn eu gig diweddar yng Nghlwb Ifor Bach.

4

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 4

12/02/2015 22:10


Lluniau: Betsan Evans

D

oes dim amheuaeth mai 2014 oedd blwyddyn Candelas. Gwobrau’r Selar, mis Chwefror 2014 – uchafbwynt cyntaf y flwyddyn i’r band hynod brysur o Lanuwchllyn. Cipio tair o’r prif wobrau ar y noson – Cân Orau, Record Hir Orau a Band Gorau. Ond roedd yr hogiau’n benderfynol o gadw’u traed ar y ddaear. “Tydi o ddim yn gneud dy fiwsig ‘di’n well, yn amlwg, ond mae o wastad yn beth neis i gael gwobr fel ‘na. Mae’n dda cael cydnabyddiaeth, yn enwedig gan fod y cyhoedd yn pleidleisio” meddai Osian. Perfformio’n ddi-baid dros yr Haf. Gigs yn gwerthu allan mewn lleoliadau o Gaerdydd i Gaernarfon ac o Lanelli i Lanidloes. Roedd y band yn mynd o nerth i nerth, wrth barhau i hyrwyddo’r albwm cyntaf hynod lwyddiannus. Cyn i’r hogia’ gael cyfle i gymryd seibiant, roedd hi’n amser dychwelyd i’r stiwdio i weithio tuag at ail albwm. “Dyma ni’n cychwyn sgwennu yn ystod Gwanwyn 2014. Ond gan ein bod ni ‘di bwcio’r stiwdio ar gyfer mis Medi roedd ‘na wbath i anelu ato fo. Doedda ni ‘rioed ‘di gweithio fel ‘na, o dan bwysau, o’r blaen” esbonia Osian, Mwya’ sydyn, roedd Bodoli’n Ddistaw ar fin cyrraedd silffoedd eich siop recordiau lleol… “O’i gymharu efo’r stwff ‘da ni ‘di neud o blaen, roedd pob dim ar gyfer Bodoli’n Ddistaw wedi digwydd yn eitha’ cyflym. Doedda ni ddim isho i’r holl broses gychwyn draggio. Mynd i’r stiwdio mis Medi a rhyddhau cyn y Nadolig. Dyna oedd y targed” meddai Ifan. Prin oedd nodyn olaf yr albwm cyntaf wedi gorffen canu cyn i’r hogia’ gyhoeddi fod Bodoli’n Ddistaw ar ei ffordd. Ond, roedd hyn yn gam gwbl naturiol i’r band, yn ôl Osian. “Yn aml, efo ail albyms, ma’ bandia’ yn gweithio dros gyfnod byrrach. Efo albyms cyntaf, ma’ ‘na lot o’r caneuon wedi bodoli ers blynyddoedd, ella ers i’r band ddechra’, ond ti’n sgwennu’n fwy penodol tuag at yr ail albwm. Ti ‘di datblygu mwy ar sŵn y band. Dyna pam fod hon yn teimlo fel mwy o albwm.” “Mae’r caneuon dipyn llai anthemig ac instant ar hon, dwi’n teimlo” ychwanega Lewis.

‘GWEITHIO TRWY’R NOS

Ond er bod y broses o ysgrifennu wedi bod fymryn yn wahanol ar gyfer yr albwm yma, roedd y band wedi penderfynu parhau â’u proses arferol o gynhyrchu a chymysgu.

“Doedda ni ‘rioed ‘di gweithio fel ‘na, o dan bwysau, o’r blaen”

“Jyst mynd yn nyts ‘di’r peth i neud ‘de?”

Gyda’r gitarydd Ifan Emlyn bellach yn gynhyrchydd profiadol, sydd wedi gweithio gyda bandiau megis Uumar a’r Cledrau yn ddiweddar, roedd hi’n gwneud synnwyr iddo fo barhau i gynhyrchu cynnyrch newydd y band er mwyn cael yr union sŵn oedd y band ar ei ôl. “‘Da ni ddim ‘di trio gweithio efo cynhyrchwyr eraill o’r blaen. Dim achos bo’ ni ddim isho, ond mae’r ffordd yma’n gweithio i ni ar y funud felly ‘da ni ddim cweit yn barod i newid hynny eto. Wrach nawn ni drio yn y dyfodol, ond ‘da ni’m yn teimlo bod angen ar y funud” eglura Ifan, “Y stiwdio ‘da ni ‘di defnyddio tro ‘ma oedd y Giant Wafer Studios yn Llanbadarn Fynydd. Oedd o’n cŵl achos ti’n gallu aros yna am y cyfnod a chanolbwyntio yn llwyr ar y recordio. A dyna ddigwyddodd. Aros yna a mynd i nunlla - dim hyd yn oed i lawr i’r dafarn leol. Oedd popeth oedda ti isho yno.” Lewis sy’n parhau i ddisgrifio moethusrwydd y stiwdio - sydd wedi cael ei ddefnyddio gan fandiau megis Sweet Baboo, The View a Everything Everything, “Oedd gweithio fel hyn yn galluogi i ni weithio trwy’r nos, a chael y lle i ni ein hunain. Oedda ti’n cael gneud fel oedda ti isho, o fewn rheswm. Er bo’ ni mewn stiwdio broffesiynol, oedda’ ni dal yn cael y rhyddid i reoli’r peth ein hunain.” Er bod Bodoli’n Ddistaw ar y cyfan yn cynnwys llai o ganeuon anthemig - yn enwedig o’i gymharu â thraciau fel ‘Anifail’, ‘Cofia Bo’ Fi’n Rhydd’ a ‘Dant y Blaidd’ oedd ar yr albwm cyntaf - mae ‘na un gân sydd yn sicr yn sefyll ar ei thraed ei hun. Heb os, mae nodwydd Radio Cymru wedi cael ei denu’n syth tuag at ‘Llwytha’r Gwn’, sy’n cynnwys llais pwerus Alys Williams. Osian sy’n trafod sut ddaeth y cyfle i weithio gyda chyn cystadleuydd The Voice. “Nes i gyfarfod Alys am y tro cyntaf yn Cân i Gymru llynedd, achos oedd y ddau ohona ni’n feirniaid ar hwnnw. Ar ôl hynny, oedda’ ni’n gyrru ‘mlaen yn dda.” “Roedd y band eisoes wedi penderfynu y bysa ni’n licio cael rhywun gwahanol i ddod mewn i weithio efo ni ar un o draciau’r ail albwm a hi oedd y dewis amlwg achos ei llais anhygoel. Nes i sgwennu “Llwytha’r Gwn” a nath hi glicio’n syth mai dyna’r gân dylai Alys fod arni.”

“MAE PAWB CALL YN BODOLI’N DDISTAW”

Ar yr wyneb, mae hi’n anodd credu fod y geiriau hyn yn dod o geg Osian. Ar y llwyfan, mae’n un o gymeriadau mwyaf lliwgar a hyderus y sin. Mae ei bersona ar y llwyfan wedi sefydlu Candelas ymysg un o fandiau byw mwyaf poblogaidd Cymru. Ac yn ôl y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 5

5

12/02/2015 22:10


Lewis, mae hynny’n adlewyrchu yn ymateb y gynulleidfa. “Gan bod ni’n mynd amdani yn ystod y gigs i gyd, ma’ hynny’n bwydo reit dda yn ôl i’r gynulleidfa. Os fysa ni’n teimlo ac actio’n eitha’ awkward ar y llwyfan, fysa’r gynulleidfa yn teimlo felly hefyd. Jyst mynd yn nyts ‘di’r peth i neud ‘de?” Ac felly, oedd ‘na ffordd fwy addas o lansio’r albwm ddiweddarach na’ gig arbennig, yn Neuadd Buddug, Y Bala? Yn ôl Osian, roedd hi’n noson arbennig, fydd yn aros yn y cof i’r band. “Oedd y noson lansio’n un o’r gigs gora’ i ni neud erioed. Nes i rili joio hona.” “Oedd o’n gneud lot o synnwyr i ni fynd yn ôl i Bala, i Neuadd Buddug, i gynnal y gig. Ma’ ‘na lot o lefydd amlwg i gynnal gigs fel ‘na, fatha Clwb Ifor ac ati, ond doedd o’m yn gneud sens i ni neud o yn fana. Lot gwell i ni fynd yn ôl i Bala, rhywle lleol, lle fydd pobl leol yn troi fyny, sydd i gyd wedi cefnogi ni o’r dechre’.” Roedd y gig hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar raglen Lisa Gwilym, a bydd fideo o’r set gyfan yn cael ei ryddhau yn fuan gan y band. Nid yn unig fod hyn yn rhywbeth i’w gadw, ond mae’n helpu i ddatblygu set byw y band, yn ôl Lewis. “Mewn gigs, ma’n dda cael petha’ wedi’i dogfennu. Ma’ hi’n dda i gael gig arbennig fel ‘na wedi ei gofnodi’n llawn, o’r dechra’ i’r diwedd. Mae o hefyd yn ffordd dda i wrando nôl ar y caneuon

“Lot gwell i ni fynd yn ôl i Bala, rhywle lleol, lle fydd pobl leol yn troi fyny, sydd i gyd wedi cefnogi ni o’r dechre’.”

6

newydd a gweld pa rai sy’n gweithio yn fyw, a pha rai sydd ddim.” Gyda’r albwm bellach allan ers cwpl o fisoedd, a ‘chydig o amser nes i gyfnod gwyliau’r Haf gychwyn, ydi hi o’r diwedd yn amser i hogia’ Candelas gael seibiant llawn haeddiannol? “Bosib fydd ‘na EP o fersiynau Saesneg o rhai o ganeuon yr albwm yn cael ei ryddhau. Oedd hynny’n rheswm fod yr albwm i gyd yn Gymraeg dwi’n meddwl. Ma’r albwm allan, ond rŵan allwn ni ddewis ambell i gân a’u gneud nhw’n Saesneg” meddai Osian, “Dwi’n meddwl fod o’n neis cael casgliad amrywiol o ganeuon sy’n galluogi ni fod ‘chydig yn hyblyg, gan ddibynnu lle ‘da ni’n chwara’. Alli ‘di bigo a dewis nhw, yn enwedig gan fod ganddom ni ddau albwm bellach.” Mae eu cydweithrediad gyda label I Ka Ching - sydd hefyd yn gweithio gyda bandiau megis Y Reu, Yr Eira a Sŵnami yn parhau i ddatblygu, ac mae’r band yn awyddus i fynd a’u cerddoriaeth ymhellach, tu hwnt i ffiniau Cymru. “Ar y funud, mae’r label yn dal i sortio stwff ar gyfer yr albwm ddwytha ‘ma, ond mae ‘na lot o betha’ cŵl i ddod yn y dyfodol. Er enghraifft, da ni’n trafod y syniad o gael rhywun i blygio ni efo’r gobaith o gael petha’ mwy i ddod allan o hynny.” Ac wrth gwrs, roedd hi’n anodd holi’r hogia’ heb sôn yn sydyn am y set fydd yn digwydd yng Ngwobrau’r Selar eleni. Mae’r band yn teimlo fod y digwyddiad bellach ymysg uchafbwyntiau’r calendr cerddorol, ac mae Ifan yn bendant y bydd y band yn gneud dipyn o ymdrech ar y noson. “Mae o’n dda gweld pobl yn trafeilio i’r gig yn Aberystwyth. Ma’ ‘na lond bysus yn dod o lefydd fel y Gogledd a Caerdydd er mwyn bod ‘na, a ma’n dda gweld sylw fel ‘na yn cael ei roi i gigs unwaith eto. Mae o bron iawn fel mini Maes B.” “Wrth baratoi at y gig, ‘da ni’n ei drin o ymysg gigs mawr y flwyddyn. Felly ella gawn ni ymarfer cyn y noson!”

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 6

12/02/2015 22:11


Ar y cyd gydA rAsAl miwsig

Sain Elin Fflur

£12.98

Lleuad Llawn

Albym newydd sbon gan y gantores sydd wedi sefydlu ei hun fel un o sêr y byd canu pop yng Nghymru

Plu

£12.98

Holl anifeiliaid y goedwig 15 cân ar thema anifeiliaid sy’n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol ac addasiadau o glasuron plant

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

Cân i Gymru 7.30 7 Mawrth Cyffro’r cystadlu’n fyw o Bafiliwn Môn @cig2015 #cig2015 s4c.co.uk

Y Selar 2015.indd 1

selar_Chwefror.indd 7

10/02/2015 15:56

12/02/2015 22:11


trydar

@BromasBand @Y_Selar Su’mai @BromasBand, croeso i gyfweliad Trydar @Y_Selar, sut mae pethau’n mynd? @BromasBand Hawddamor! Diolch am ein gwahodd ni. Yn gyffredinol, ma’ pethau’n wych a sefydlog, diolch. @Y_Selar Da iawn! Albwm newydd, Codi’n Fore, allan ers cyn y Nadolig, sut ymateb mae hi wedi ei chael? @BromasBand Mae’r caneuon yn cael ymateb da mewn gigs, ac mae pobl y radio fel’se bod ganddyn nhw ffefrynnau’n barod. Do’s dim hate mail hyd yn hyn. @Y_Selar Da iawn! Sut mae hi’n wahanol i’r albwm cyntaf, Byr Dymor? @BromasBand Llai trwm. Fel petai ni wedi hidlo’r excitement cychwynnol o fod mewn stiwdio fawr gyda bob math o bosibiliadau allan o’n system. @Y_Selar Ac ydi’r hyn maen nhw’ ei ddweud am “yr ail albwm anodd” yn wir? @BromasBand I’r gwrthwyneb. Ro’dd Codi’n Fore yn haws ac yn fwy o hwyl. Ro’dd mwy o bwysau amser i ryddhau Byr Dymor ac roedd e’ wedi’i frysio. @BromasBand Nath cynllunio o flaen llaw alluogi ni i weithio’n galed ar y caneuon er mwyn gallu cael partïon (yn llythrennol) yn y stiwdio. @Y_Selar Oes ’na unrhyw straeon difyr ‘da chi am eu rhannu? @BromasBand Dim byd penodol. Pob clod i amynedd a gallu’r cynhyrchydd Tim am anwybyddu’r sŵn ac ymddygiad sili a ddaw o 10 person gwyllt mewn stiwdio. @Y_Selar Swnio’n dipyn o hwyl, wnaethoch chi fwynhau recordio unrhyw draciau yn fwy na’r lleill? @BromasBand Yn bendant mae ‘Merched Mumbai’ a ‘Diolch yn Fawr’ yn aros yn y cof oherwydd yr holl ddawnsio o gwmpas a’r gweiddi. @BromasBand Ar lefel gerddorol, ro’dd chware gyda ‘Gofyn a Joia’, ‘Huw’ a ‘Fersiwn o Fi’ yn ffordd wych o ddatblygu syniadau cerddorol gydag offer Tim. @Y_Selar Ceir arddulliau amrywiol o ran y gerddoriaeth ond themâu cyson o ran cynnwys y caneuon, sy’n rhoi’r teimlad o gasgliad. Ai dyna’r bwriad?

8

@BromasBand I raddau, ie. Mae’n bwysig ceisio cael ryw fath o gyswllt rhwng caneuon mewn albwm, neu bydde’n well rhyddhau senglau’n unig. @BromasBand Ond ma’r arddulliau amrywiol yn parhau i adlewyrchu nad oes gennym ni hoff genre solid pan mae’n dod i gerddoriaeth - ni dal yn agored. @BromasBand Ar y llaw arall, mae gennym ni syniad mwy penodol o’r hyn ni eisiau trafod, sef trafferthion hunaniaeth gwefannau cymdeithasol a thyfu lan. @Y_Selar Sôn am bartïon yn y stiwdio, ceir lleisiau cefndir swynol iawn ar ambell i drac, ‘Fersiwn o Fi’ er enghraifft, pwy fu wrthi efo chi? @BromasBand Ni’n ffodus i gael ffrindiau talentog sy’n barod i helpu. Bu Elan a Gwenno’n canu darnau unigol ar ‘Gwena’, ‘Gofyn a Joia’ a ‘Fersiwn o Fi’. @BromasBand Yna, pedair merch arall yn ymuno gyda nhw ar ‘Merched Mumbai’, ‘Ela Mai’, ‘Cariad’ ac yn y gang vocals ar tipyn o bopeth. @Y_Selar Sôn am ‘Merched Mumbai’ – grêt o gân, o le ddaeth yr ysbrydoliaeth am y sŵn Indiaidd yna? @BromasBand Ceisio chwilio am fyd mwy rhydd rhywle dramor oedden ni a cherddoriaeth India sydd gyda’r sain ‘tramor’ mwya’ adnabyddus efallai. @BromasBand Ond mewn lolfa yn Llangynnwr ddaeth y syniad felly dyw e’ ddim yn gwneud llawer o synnwyr a dweud y gwir. @Y_Selar Da. Chwaraeoch chi gig yn y Parrot yn ddiweddar, pa mor bwysig i gerddoriaeth yn y de orllewin yw hi fod y feniw yna wedi ail agor? @BromasBand Alla i ddim pwysleisio mor bwysig yw’r Parrot! @BromasBand Gallwch chi gigio lle ddiawl chi moyn ond mae local croesawgar lle ma pawb eisiau mynd yn amhrisiadwy wrth gynnal cerddoriaeth mewn ardal. @Y_Selar Gwir. Beth yw’r cynlluniau am weddill 2015 felly? @BromasBand Hyn a’r llall. Chwarae’n y Steddfod Ryng-golegol ym mis Mawrth ac efallai awn ni i’r stiwdio rhyw ben. @Y_Selar Gwych, edrych ymlaen at hynny. Diolch yn fawr Bromas a phob lwc eleni!

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 8

12/02/2015 22:11


r “Newydd orffen darllen ‘Llanw’ @BlodauGwylltion. Waw.” @awensgiv “Wedi mwynhau hon yn fawr @BlodauGwylltion. Hudolus, swynol, ac ardderchog.” @BethanLlyfrgell “Nofel wych - wedi darllen y frawddeg ola sawl gwaith! Ishe MWY!” @vanbowen1 £8.95

www.ylolfa.com

Gwobrau’r

Selar

Hoffai Y Selar ddiolch yn fawr i holl noddwyr Gwobrau’r Selar am eu cefnogaeth eleni. Diolch hefyd i Adran Gelf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant am greu’r gwobrau. Untitled-4 2

selar_Chwefror.indd 9

09/02/2015 10:44

12/02/2015 22:11


Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

Gwobrau’r

Selar 2014

Arthur – Plu Colli Cwsg – Yr Eira Bodoli’n Ddistaw – Candelas ENILLYDD: BODOLI’N DDISTAW - CANDELAS

Categori sydd wedi dod yn gynyddol gystadleuol wrth i artistiaid Cymru roi mwy a mwy o bwyslais ar y gwaith celf sy’n gwneud i’w record edrych, yn ogystal â swnio’n brydferth. Does dim amheuaeth fod cynllun albwm newydd Candelas, wedi’i ddylunio gan yr Eidalwr Alberto Seveso, yn drawiadol a dweud y lleiaf.

Hyrwyddwyr Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) Gŵyl Gwydir 4a6 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ENILLYDD: 4 A 6

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) RHESTR FER:

Cofiwch Dryweryn – Y Ffug Colli Cwsg – Yr Eira Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami

Heb gigs, does ‘na ddim sin, mae mor syml â hynny, a dyma gategori sy’n dathlu gwaith caled yr arwyr tawel sy’n trefnu a hyrwyddo gigs trwy’r flwyddyn. Gwaith diflino criw 4 a 6 i lwyfannu amrywiaeth eang o gerddoriaeth yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon sy’n cael y clod mwyaf eleni.

ENILLYDD: CYNNYDD / GWENWYN – SŴNAMI

Y categori agosaf eleni, ac am gyfnod hir brwydr glos rhwng EPs cyntaf ardderchog Y Ffug ac Yr Eira oedd hi. Ond, daeth Sŵnami i’w boddi ar y funud olaf a’r grŵp o Ddolgellau sy’n cipio’r wobr yma am yr ail flwyddyn yn olynol gyda’i sengl ddwbl ddigidol a ryddhawyd ym mis Medi. Amser am albwm bois? ^

Can Orau

(Noddir gan Ochr 1) Neb ar Ôl – Yws Gwynedd Cariad Dosbarth Canol Cymru – Y Ffug Trysor – Yr Eira ENILLYDD: NEB AR ÔL – YWS GWYNEDD

Categori arall tynn iawn, ac nid yn unig rhwng y dair yma, gyda ‘Mae Na Le’ Yws Gwynedd a ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’ Y Ffug o fewn trwch blewyn i’r tri uchaf. Ond, anthem Yws, ‘Neb ar Ôl’, gyda’i ffalseto ac adran bres sy’n dod i’r brig.

Lisa Gwilym Cyflwynydd Gorau Gwobrau’r Selar am y pedwerydd tro Nos Fercher 7-10pm

bbc.co.uk/c2

10

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 10

RC_YSelar213x303mm_v.3.indd 1

06/02/2015 14:51

12/02/2015 22:11


Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Heno)

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)

Cynt a’n Bellach - Candelas Gwenwyn – Sŵnami Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog

Lisa Gwilym Dyl Mei Griff Lynch

ENILLYDD: GWENWYN - SŴNAMI

ENILLYDD: LISA GWILYM

Oedd angen gofyn? Er i ni ddweud hynny llynedd hefyd, rydan ni o ddifrif yn ystyried newid enw’r categori i ‘Gwobr Lisa Gwilym’ rŵan wrth i gyflwynydd C2 ac Y Stiwdio Gefn gipio’r teitl am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo) Kizzy Crawford Yws Gwynedd Casi Wyn

Llwyth o fideos cerddoriaeth safonol iawn wedi eu cynhyrchu yn 2014, a thri go wahanol yn dod i’r brig – un wedi’i gynhyrchu ar gyfer Ochr 1, un arall yn fideo hyrwyddo annibynnol, a’r trydydd yn fideo prosiect Gorwelion. Y fideo hyrwyddo, a gwaith cynhyrchu Storm + Shelter sy’n cipio Oscar y Selar.

ENILLYDD: YWS GWYNEDD

Mae’r merched – Casi, Kizzy, Gwenno – yn mynd o nerth i nerth, ond roedden nhw’n methu cystadlu â’r ffenomena Yws Gwynedd eleni wrth iddo redeg i ffwrdd â hon. Yr hatric i Yws Gwynedd felly a does dim amheuaeth bellach – mae o nôl.

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn)

Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan BBC Radio Cymru) Fleur de Lys Tymbal Ysgol Sul

Gŵyl Crug Mawr Maes B Gŵyl Gwydir ENILLYDD: MAES B

ENILLYDD: YSGOL SUL

Mae wedi bod yn flwyddyn arall hynod o gynhyrchiol o ran grwpiau ac artistiaid newydd, ac roedd 8 grŵp addawol iawn ar restr hir y categori yma eleni. Enillwyr Brwydr y Bandiau Maes B, y grŵp low-fi o Landeilo, Ysgol Sul ddaeth i frig y bleidlais.

Braf gweld dwy ŵyl fechan sy’n rhoi pwyslais ar gerddoriaeth o’r safon uchaf yn cyrraedd y rhestr fer eleni. Er hynny, mae gigs yr Eisteddfod yn uchafbwynt blynyddol, a gigs Maes B sy’n mynd â hi.

Band Gorau

(Noddir gan Gorwelion) Candelas Sŵnami Y Ffug ENILLYDD: CANDELAS

’r

Mae’r ddifyr gweld y shifft mewn grwpiau poblogaidd a gyda Cowbois Rhos Botwnnog ac Yr Ods yn cael blwyddyn gymharol segur, roedd hynny’n agor y drws i rai o’r grwpiau llai sefydledig fel Y Ffug, Y Reu a Bromas. Er hynny, mae dau o’r grwpiau mwyaf wedi cael blwyddyn brysur arall ac er y gystadleuaeth ffyrnig gan Sŵnami, Candelas ydy Band Gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. y-selar.co.uk

06/02/2015 14:51

selar_Chwefror.indd 11

11

12/02/2015 22:12


10

AM Y DRYDEDD FLWYDDYN YN OLYNOL, CHI, Y DARLLENWYR SYDD WEDI PLEIDLEISIO DROS EIN RHESTR 10 UCHAF ALBYMS BLYNYDDOL, A GYDA 26 O RECORDIAU HIR YN GYMWYS ROEDD DIGON O DDEWIS. DYMA’R RHAI DDAETH I’R BRIG ELENI.

UCHAF ALBYMS GORAU 2014 0

TINCIAN – 9 BACH LABEL: REAL WORLD Rhyddhawyd | Mai Mae ail albwm y grŵp gwerin arbrofol o’r Gogledd yn gam mawr ymlaen o’r cyntaf, gyda chasgliad yn ganeuon gwreiddiol trawiadol yn cymryd lle fersiynau cyfoes o alawon traddodiadol. “Yma mae alawon sy’n aros yn y cof yn hawdd iawn. Bu’r cam i gyfeiriad gwahanol yn un llwyddiannus” [Lois Gwenllian, Y Selar, Mehefin 2014]

9

HEULWEN O HIRAETH – AL LEWIS LABEL: ALM Rhyddhawyd | Ebrill Mae pawb yn gwybod beth maen nhw’n mynd i’w gael gan Al Lewis bellach – caneuon melodig a bachog, cynhyrchu o safon uchel a llais swynol Al yn ganolog i’r cyfan. A dyma’n union a geir ar ei drydydd albwm Cymraeg. Mae’n siŵr mai’r gân olaf sy’n rhoi enw i’r albwm ydy’r orau, ond mae cyfyrs arbennig o ‘Esmeralda’, ‘Salem yn y Wlad’ a ‘Gwlith y Wawr’ hefyd yn uchafbwyntiau. Casgliad taclus iawn, fel y byddech yn disgwyl.

8

ENDAF GREMLIN LABEL: JIGCAL Rhyddhawyd | Awst Grŵp a gafodd ei greu i hyrwyddo Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, a felly dim syndod gweld eu halbwm cyntaf, ac olaf, yn cae ei ryddhau yn yr Eisteddfod yn Llanelli. Fel y byddech yn disgwyl gan aelodau o Sibrydion, Candelas, Yr Ods, Racehorses a Cowbois Rhos Botwnnog, mae’n

12

gasgliad amrywiol o ganeuon pop bachog. “Ydy, mae’n gawl potsh o synau a dylanwadau, ond serch hynny, dyma gasgliad gan gerddorion medrus a mentrus sy’n gwybod yn gwmws beth maent yn gwneud” [Miriam Elin Jones, Y Selar, Tachwedd 2014]

7

DAIL Y GAEAF – SARON LABEL: KLEP DIM TREP Rhyddhawyd | Mawrth Yr ail o bar o ‘recordiau coll’, ynghyd ag I’r gan Bür Hoff Bau, a ryddhawyd ar label Klep Dim Trep ym mis Mawrth. Er mai albwm Bür Hoff Bau oedd y prif brosiect, does dim amheuaeth mai Saron, yn dynwared rhai o grwpiau pop merched nosweithiau llawen dechrau’r 1970au, oedd y stori llwyddiant. Cymaint oedd llwyddiant y record nes y cyhoeddwyd Llyfr Caneuon Saron yn cynnwys geiriau a chordiau’r holl ganeuon!

6

DERE MEWN – COLORAMA LABEL: ANNIBYNNOL Rhyddhawyd: Tachwedd Ers i’r anthem fodern o faled ‘Dere Mewn’ ymddangos ar y cryno albwm Magic Lantern Show yn 2009, mae Carwyn Ellis a Colorama wedi rhyddhau nifer o draciau Cymraeg blith draphlith gyda rhai Saesneg ar eu recordiau amrywiol. Felly fel anrheg Nadolig, dyma benderfynu rhyddhau casgliad llawn o’r traciau Cymraeg hynny ar ddiwedd 2014. “Mae pob cân yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw, dyma gasgliad y gellir gwrando arno ar hyd y flwyddyn” [Ifan Prys, Y Selar, Mawrth 2015]

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 12

12/02/2015 22:12


5

3

4

2

TITW TOMOS AFIACH – TOM AP DAN LABEL: CAE GWYN Rhyddhawyd | Mehefin Mae Tom ap Dan, y cerddor amryddawn o’r Felinheli, wedi bod yn bygwth gwneud ei farc ers rhai blynyddoedd bellach, felly roedd hi’n hen bryd iddo ryddhau ei albwm cyntaf. Wedi ei recordio yn selar taid Tom mae’n debyg, mae Titw Tomos Afiach yn adlewyrchu’r gymysgedd o roc a blŵs sydd wedi britho setiau byw Tom hyd yma. “Byddwch yn barod i symud a gwylltio â’ch hunan gan eich bod yn methu cael un o’r caneuon yma allan o’ch pen” [Ifan Prys, Y Selar, Awst 2014]

Y DYDD OLAF – GWENNO LABEL: PESKI Rhyddhawyd | Tachwedd Yn dilyn casgliad o EPs dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cafodd albwm cyntaf y frenhines electro-pop ei ryddhau ar ddiwedd 2014. Record gysyniadol wedi’i hysbrydoli gan nofel ffuglen wyddonol Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwm, a ryddhawyd ym 1976. Mae’n record wyddonol, mae’n record alluog, ac mae’n record sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg. “Mae Y Dydd Olaf yn gasgliad o ganeuon sy’n ymddangos, ar yr wyneb efallai, yn bop synthetig, ond tu mewn i’r haenau cymhleth y mae pwll o emosiynau a syniadau dwfn” [Lois Gwenllian, Y Selar, Tachwedd 2014]

CODI’N FORE – BROMAS LABEL: RASP Rhyddhawyd | Rhagfyr Bromas sy’n arwain y don o grwpiau ifanc sy’n prysur wneud enw i’w hunain yn y De Orllewin ar hyn o bryd. Roedd eu halbwm cyntaf, Byr Dymor, yn rhif 4 ar y rhestr yma llynedd, ac maen nhw wedi mynd un yn well trwy gyrraedd y tri uchaf eleni. “Maen nhw’n gallu ‘sgrifennu caneuon fydd yn sticio gyda chi - ar ôl gwrando arni gwpwl o weithiau mae’n rhwydd iawn cael eich hunan yn canu gyda nhw” [Bethan Williams, Y Selar, Mawrth 2015]

BODOLI’N DDISTAW – CANDELAS LABEL: I KA CHING Rhyddhawyd | Rhagfyr Y grŵp Cymraeg mwyaf poblogaidd, ac efallai gorau ar hyn o bryd. Eu halbwm cyntaf oedd enillydd teitl ‘Record Hir Orau 2013’ yn ôl darllenwyr Y Selar ac mae eu hail wedi dod yn agos iawn i’r brig eleni. Dyma chi record sy’n dipyn aeddfetach na’r cyntaf a thiwns fel ‘Brennin Calonnau’, ‘Llwytha’r Gwn’ a ‘Colli Cwsg’ gyda’r gorau maen nhw wedi’i recordio. “Ar Bodoli’n Ddistaw gwelwn y band, sy’n chwarae ers dros chwe mlynedd bellach, wedi hogi eu crefft ac yn ein tywys trwy glytwaith egnïol o ganeuon roc bras” [Casia Wiliam, Y Selar, Mawrth 2015]

CODI /\ CYSGU – YWS GWYNEDD LABEL: RECORDIAU COSH Rhyddhawyd | Mehefin Mae chwe mlynedd ers i Yws Gwynedd ryddhau ei gynnyrch diweddaraf ar ffurf yr albwm Creaduriaid Nosol gyda’i grŵp Frizbee. Bu’n rhy hir, ond tua diwedd 2013 ail-ymddangosodd un o gyfansoddwyr pop gorau ei genhedlaeth, yn gyntaf gyda Sesiwn C2, ac yna gyda’i albwm unigol cyntaf ym mis Mehefin. Efallai mai ‘Neb ar Ôl’ gipiodd deitl Cân Orau 2014, ond mae’r albwm yn llawn o ‘hits’ radio gyfeillgar megis ‘Mae Na Le’, ‘Sebona Fi’ a’r trac teitl. “Mae un o gyfansoddwyr pop-roc Cymraeg gorau’r ddegawd ddiwethaf yn ei ôl a ‘dw i wrth fy modd. Yn union fel ei gynulleidfa, mae Yws Frizbee wedi tyfu fyny” [Lois Gwenllian, Y Selar, Awst 2014]

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 13

13

12/02/2015 22:12


www.aber.ac.uk/cy

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gefnogi Gwobrau’r Selar Dewch i dreulio rhai o flynyddoedd gorau’ch bywyd yn astudio gyda ni. • • • • •

Dewis helaeth o gyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Gwarant o lety yn y flwyddyn gyntaf Dewis eang o Fwrsariaethau, Ysgoloriaethau a Gwobrau Ariannol Adnoddau Dysgu ac Addysgu o’r radd flaenaf Cymdeithas Gymraeg fywiog

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: marchnata@aber.ac.uk | 01970 622065 Dilynwch ni: @PrifAber_IR www.aber.ac.uk/cyfryngaucymdeithasol

selar_Chwefror.indd 14

12/02/2015 22:12


Dyddiadur Ifan Fe wnaethon ni fwynhau Dyddiadur Griff yn y rhifyn diwethaf felly dyma ddyddiadur Ifan Davies yn dilyn taith ddiweddar Sŵnami i’r Iseldiroedd. Ychydig fisoedd yn ôl cawsom gynnig i gynrychioli Radio 1 yn un o wyliau showcase mwyaf Ewrop; gŵyl sydd wedi lansio sawl gyrfa lwyddiannus megis Sam Smith, Jake Bugg, George Ezra a James Blake; gŵyl sy’n denu dros dair mil o gynrychiolwyr labeli / asiantaethau a gŵyl sy’n cynnig arlwy o 300 o fandiau ‘up and coming’ o ledled Ewrop yn perfformio mewn un ddinas am dri diwrnod. Roedd derbyn y cynnig i chwarae yn Eurosonic, Yr Iseldiroedd, yn dipyn o anrhydedd ac roedd hi’n argoeli i fod yn wythnos dda. Caerdydd i Antwerp Cerdded mewn i’r gwesty yng Nghaerdydd i glywed ein cân newydd, ‘Magnet’ (a ryddhawyd ar gyfer yr ŵyl) yn cael ei chwarae ar raglen Radio 1 Huw Stephens am y tro cyntaf, dechrau da! Cyfarfod Gwion (rheolwr / dreifar / bach o bob dim...) y bore canlynol, nôl y fan a dechrau’r daith. Cyn croesi’r Eurotunnel, cyfarfod criw Ochr 1 a’u cotiau Rab sy’n cofnodi’r daith ar eu camerâu ac ymlaen a ni. 400 o filltiroedd yn ddiweddarach ’da ni ’di cyrraedd Antwerp ac mae Gwion yn tagu am beint felly rhaid ei ddilyn i fariau’r ddinas. Noson flêr. Antwerp i Groningen Croissant a choffi i sortio’r pennau a ’da ni’n cychwyn am ddinas yr ŵyl, Groningen. Mae’r ddinas wedi’i chlymu ymysg camlesi a ma’ hi’n oer iawn – ’da ni’n mynd i grwydro, i gael cip o’r lle, gyda phocedi’n llawn cardiau busnes Sŵnami (1000 ohonyn nhw). Mae Bethan Elfyn wedi trefnu cyfweliad ar sianel Radio Cenedlaethol Serbia i ni (dwi’n gwbo, bizarre), un o’r cyfweliadau mwyaf poenus erioed. Heb ddeall, ’da ni’n fyw ac mae ’na 400,000 o wrandawyr Serbaidd yn cael clywed Sŵnami am y tro cyntaf yn syth ar ôl trac

gwerinol traddodiadol o’r wlad! Y noson gyntaf yw hon a dim ond tua hanner dwsin o lwyfannau sydd wedi eu hagor, ’da ni’n gobeithio dal ychydig o set yr unig fand arall o Gymru yn yr ŵyl, Catfish and the Bottlemen, ond buan ’da ni’n sylweddoli fod y ciw’n anferthol. Diwrnod y Gigs ’Da ni’n dechrau’r diwrnod gyda slot 20 munud mewn siop recordiau dda yng nghanol y ddinas (ble mae sawl band yn chwarae dros y penwythnos), Concerto Records. Mae sawl un yno a’r gynulleidfa i weld yn mwynhau clywed cerddoriaeth Gymraeg, am y tro cyntaf mae’n debyg. Cyfweliad sydyn gyda GigsandFestivals.com cyn treulio’r prynhawn yn rhannu flyers ein perfformiad gyda’r nos. Profiad rhyfedd yw clywed ein caneuon yn chwarae mewn siopau mewn gwlad wahanol, gyda ‘Cynnydd’ ar playlist yr ŵyl. Peint sydyn cyn ymweld â lleoliad ein set am y tro cyntaf – lle mawr, sain gwych. Mae pedwar band yn chwarae heno, ni, Manon Meurt o’r Weriniaeth Tsiec, Malky o’r Almaen a Talisco o Ffrainc sydd â sawl trac yn cyrraedd miliwn + o wrandawiadau ar Youtube. Mae’r gynulleidfa yma’n dod i weld un band ac yn diflannu ar ôl pob perfformiad, ond buan daeth sawl un yn ôl i lenwi’r lle eto cyn i ni ddechrau. ’Da ni gyd yn hapus hefo’r set a’r ymateb, felly yfed gweddill y rider, gwylio ychydig fandiau a throi hi am y gwesty. Amsterdam Un gig bach arall i gloi’r wythnos mewn siop recordiau yng nghanol y brifddinas, (esgus am noson ychwanegol i’r daith). Mae’r siop yn enfawr a ’da ni’n chwarae set acwstig ar lwyfan bach yn y gornel. Mae un ferch wedi teithio tair awr yn arbennig i ddod i’n gwylio a ’da ni’n clywed criw arall yn siarad Cymraeg! Pwy fasa’n disgwyl cyfarfod criw o ferched gwyllt canol oed o Ddolgellau yn Amsterdam! ’Da ni’n mwynhau chwarae addasiadau acwstig o’r caneuon ac mae’r perfformiad yn cloi’r wythnos yn berffaith. Noson ‘Gerwyn Murrayaidd’ yn Amsterdam cyn dychwelyd yn ôl i Gymru fach yn hwyr prynhawn Sadwrn gyda diolch enfawr i Gwion, Bethan Elfyn a Fionna Allan! y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 15

15

12/02/2015 22:12


Deuawd samplo electronig Gruff Pritchard a Huw Cadwaladr yw Carcharorion ac mae eu EP cyntaf, Hiraeth, allan ers diwedd 2014. Roedd hynny’n ddigon o visiting order i ni yn Y Selar, felly i ffwrdd â Gwilym Dwyfor am sgwrs. Nid yn aml mae rhywun yn clywed lleisiau Plu, Cayo Evans, Meredydd Evans, Gerallt Lloyd Owen a Sian James yn yr un lle, ond maen nhw i gyd yn ymddangos ar Hiraeth. Mae’r EP o draciau electronig allan ers cwpl o fisoedd bellach ac yn cael ymateb da yn ôl Huw. “Dwi wedi gweld cwpl o adolygiadau ar lein ac ati, mae ’na ambell un wedi cysylltu ac mae’r ymateb ar y cyfan wedi bod yn un positif.” Ers iddynt ddechrau creu cerddoriaeth gyda’i gilydd ryw flwyddyn a hanner yn ôl mae Huw a Gruff wedi canolbwyntio’n fwy ar recordio nag ar chwarae’n fyw. Ymddangosodd un o’u traciau ar gasgliad Peski, Cam O’r Tywyllwch, yn gynharach yn 2014 ond yr EP yma yw’r peth cyntaf i Carcharorion ei ryddhau ei hunain. “’Da ni’n mwynhau’r gwaith production, yn ei wneud o, o ran hwyl,” eglura Huw. “Dim ond trio cwpl o betha ’da ni’n ei wneud wrth chwara’n fyw yn hytrach na mynd mewn iddo fo gymaint â hynny. Ma’r stwff ar Hiraeth wedi ei wneud ers bron i flwyddyn rŵan ond mae’n neis eu cael nhw allan, cael pobl i’w clywad nhw.”

CARCHARORION

AR RECORD selar_Chwefror.indd 16

12/02/2015 22:12


Samplo lleisiau yw prif nodwedd y casgliad a hwnnw yn amlach na pheidio oedd man cychwyn. “Oedd ’na dri trac yn sicr wnaeth ddechra efo’r sampl, ‘Si Hei Lw’, ‘Beth Yw’r Haf I Mi’ a ‘Hiraeth’, a’r un Gerallt Lloyd Owen, ‘Tymhorau’ hefyd deud y gwir,” eglura Huw. “Mae’n anoddach ei wneud o fel arall” ychwanega Gruff, “yn enwedig yn y Gymraeg, mae’n anodd ffendio rwbath i ffitio be’ sgen ti’n barod.” ‘The Boys Are Marching’ oedd yr unig eithriad yn hynny o beth. Roedd gan y ddau “ryw fath o gân yn barod” cyn chwilio am sampl ar ei chyfer, a dod o hyd i recordiad o un o areithiau arweinydd y Free Wales Army, Cayo Evans. “Dwi’m yn cofio o le” meddai Huw, “ond nesh i gal CD o ganeuon Cayo Evans, y caneuon oedd o’n eu canu ar y gorymdeithiau, Rhys Mwyn oedd wedi ei rhyddhau hi. Digwydd dod ar draws yr un clip bach yma yn rhan o’r peth nesh i ac o’n i’n licio fo.” Mae’n amlwg wrth wrando ar Huw a Gruff fod creu’r gerddoriaeth yma’n llafur cariad a’u bod wedi gweithio’n galed i berffeithio’r holl beth. Yn y cyfnod y cafodd yr EP ei chreu roedd y ddau yn byw gyda’i gilydd. “Oeddan ni’n jamio, dod â phethau i’r bwrdd, trafod sut oeddan nhw’n swnio, rhoi’r bŵt i lot o bethau a chadw rhai,” eglura Huw. Cafodd y traciau eu cymysgu wedyn gan Kris Jenkins, er bod Gruff wedi ei chael hi’n anodd gollwng gafael. “Pan ti’n recordio dy stwff dy hun ti’n meddwl fod gen ti’r holl amsar ’ma, ac oni bai bod gen ti rywun i roi full stop arno fo mae o’n mynd i fynd ymlaen am byth, felly oedd hi’n dda cal Kris.” Fe fydd rhai darllenwyr yn fwy cyfarwydd â Gruff fel aelod o fand, ond er bod cerddoriaeth Carcharorion yn wahanol iawn i Yr Ods, mae’r diddordeb yn y maes yma wedi bod ganddo erioed. “Dwi wastad ’di mwynhau recordio ac arbrofi efo technoleg recordio, ond o’n i’n dueddol o jyst neud demos efo’r band yn hytrach na chreu rwbath gorffenedig, felly mae o wedi bod yn wahanol yn yr ystyr hwnnw a dwi wedi dysgu am genre gwahanol o gerddoriaaeth hefyd.” Er bod Huw hefyd wedi bod mewn bandiau daw ef ati o gyfeiriad fymryn

Carcharorion Eisiau Mwy o Ryddid Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o gynnyrch Peski mae’r holl beth wedi ei wneud yn broffesiynol iawn ac mae’r gwaith celf a grëwyd gan gefnder Huw, Ceredig ap Dafydd, yn gweddu’n berffaith. Ond nid yw Carcharorion yn gorffwys ar eu rhwyfau’n gwerthfawrogi’r EP yma, maent eisoes yn meddwl am y nesaf. “Stwff gwreiddiol yn hytrach na samplo fydd y nesaf,” eglura Gruff. “Cydweithio efo cyfranwyr gwahanol. Ddyla bod honno allan yn gymharol fuan.” Ac mae Huw yn edrych ymlaen i gynhyrchu rhywbeth cyfan gwbl wreiddiol. “Dwi’n edrych mlaen i gael rwbath ‘ein hunan’ allan, ma’ ’na gymaint fwy o ryddid yn hynny.” Tydi Carcharorion wrth gwrs ddim i fod i sbragio ac er bod Huw yn cadw ei gardiau yn gymharol agos at ei frest fe wnaeth ddatgelu pwy fydd un o’r cyfranwyr ar yr EP nesaf. “Heledd (HMS Morris) ydi un, ond tydi hi heb glywad y trac eto! Oedd ganddo ni gân yn barod

yn wahanol. “Yn ddiweddar dwi wedi bod yn Dj-io dipyn ac wedi dod yn gyfarwydd â lot o’r dechnoleg fel’na. Dwi ’di datblygu lot trwy glust, y math yma o gerddoriaeth ydi lot o’r hyn dwi’n gwrando arno fo. O’n i’n meddwl byswn i’n licio gneud wbath o’r vibe yna fy hun, wedyn gofyn i Gruff sut i’w wneud o!

Y Lleisiau Ceir rhai o leisiau enwocaf Cymru ar yr EP, Gerallt a Merêd i enwi dim ond dau. Mae Huw a Gruff yn chwilio am gyfuniad o rinweddau wrth ddewis darn i’w samplo, mae ansawdd y llais a chynnwys yr hyn sy’n cael ei ddweud yn gydradd bwysig. “Mae’n ’na vibe lled-wleidyddol i’r EP,” yn ôl Huw. “Dim ryw negas benodol ond y syniad oedd bod y casgliad yn cyfleu ryw hiraeth am Gymru. Ond mae’r llais ei hun yn bwysig hefyd, mae Gerallt Lloyd Owen yn enwedig felly, mae ’na ryw gravel yn ei lais o.’ Gosodir y Cymreictod yma wrth gwrs i gyfeiliant cerddoriaeth sy’n bell o’r hyn fyddai llawer yn ei ystyried

ond ddoth hi nôl efo lot o syniadau ei hun felly mae hi’n gân hollol wahanol erbyn hyn.” Dwi’n rhagweld y gall cynnwys cyfranwyr gwreiddiol ychwanegu posibiliadau at set fyw Carcharorion. Mae offerynnau byw yn opsiwn hefyd wrth gwrs, dwi’n dychmygu bas byw fel y ddeuawd electronig enwog arall o Gaerdydd, Llwybr Llaethog! “Mae ganddon ni rai caneuon sydd yn fwy offerynnol,” meddai Huw. “Ond o ran ei wneud o’n fyw, mae ’na gymaint o agweddau sy’n cymhlethu pethau. Mae yna fas byw wedi ei recordio ar yr EP newydd, felly mae ’na sgôp ar gyfer hynny ond fe wnawn ni sticio at electronig yn unig am rŵan a gweld sut mae pethau’n mynd yn y dyfodol!” Bydd y dyfodol hwnnw’n ddisglair iawn beth bynnag y trywydd dwi’n siŵr. Mae’r Carcharorion yma’n fwy o Andy Dufresne na Norman Fletcher – maen nhw’n gwybod be’ maen nhw’n ei wneud.

yn ‘draddodiadol Gymreig’ ac mae yna rhywbeth diddorol iawn am y gwrthgyferbyniad hwnnw. “Oeddan ni isho gwneud wbath oedd yn swnio’n gyfoes,” medd Gruff. “Does na’m un ohonom ni’n ffans mawr o ganeuon gwerin, ond digwydd bod, mae ’na lot o stwff gwerin allan yna ac mae’r deunydd crai ’da ni ei angen i’w gael o fewn y genre yna. Hefyd, oeddan ni’n meddwl sa’n haws cael grant os fysan ni’n gwneud wbath efo canu gwerin!” Er bod darnau bach o ‘Etifeddiaeth’ ar drac arall, ‘Tymhorau’ yw’r brif gerdd o waith Gerallt Lloyd Owen sy’n cael ei samplo, sydd yn ddewis diddorol. Yn gerdd eithaf diweddar, tydi hi’n sicr ddim yn un o’i weithiau mwyaf adnabyddus. “Mae’n anodd gwneud cyfiawnder ag athrylith y boi, os fysan ni wedi trio gneud ‘Cilmeri’ dwi’n meddwl ’sa hi ’di bod yn anodd,” medd Gruff. “Dwi’n meddwl ’sa fo ’di swnio fatha ‘Cilmeri’ i gyfeiliant,” ychwanega Huw. “Wrth wneud wbath llai adnabyddus gen ti gyfla i’w gwneud hi’n gân yn ei hun.” y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 17

17

12/02/2015 22:12


Brigyn 4 Dros chwe blynedd ers rhyddhau Brigyn 3, mae’r brodyr, Eurig ac Ynyr yn ôl gyda’i pedwerydd albwm, Brigyn 4. Efallai nad yw’r enw ar gloriau recordiau hir y ddeuawd o Eryri’n newid llawer o un tro i’r llall, ond mae’r clawr ei hun wastad yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Dyw’r tro hwn ddim yn eithriad felly rhaid oedd mynd o glawr i glawr.

G

an nad ydym wedi clywed llawer gan Brigyn ers sbel, cyn holi Eurig yn dwll am y clawr, rhaid oedd sôn ychydig am yr albwm ei hun. Dechreuais trwy ei longyfarch ar y casgliad diweddaraf cyn gofyn y cwestiwn amlwg, pam ei gadael hi cyhyd cyn rhyddhau Brigyn 4? “Mae hi ’di bod yn sbel ers yr albwm ddwytha, ac er i ni ryddhau llond dwrn o senglau yn y cyfamser, y rheswm pennaf pam mae hi wedi cymryd mor hir ydi blaenoriaethau gwahanol. Ers Brigyn 3, ’da ni’n dau wedi priodi a mae gennym ni’n dau blant hefyd! Mae ein bywydau wedi bod yn reit brysur rhwng pob dim, ond mae hi wir yn bleser cael rhyddhau albwm arall yng nghanol yr holl brysurdeb!” Aeth Eurig yn ei flaen i egluro fod naws hapusach i’r record hon o’i chymharu â’r rhai blaenorol. “’Da ni’n cadw’n driw at ein sain o gyfuno elfennau acwstig ac electroneg, ond yn bendant mae hon yn albwm fwy uplifting. Does ’na ddim un piano ballad araf ar hon!” Ac nid y trywydd newydd hwnnw’n unig sy’n rhoi ffresni i’r casgliad, mae’r rhestr o gyd-artistiaid yn eithaf trawiadol hefyd. “Ma’ hi wastad yn bleser cael cydweithio efo artistiaid eraill, yn enwedig wrth recordio. Dwi’n edmygu Georgia [Ruth] ac Angharad [Jenkins] yn fawr fel cerddorion felly mae’n fraint cael eu cyfraniad ar yr albwm. Mae Mei [Gwynedd] wedi cyfrannu at sawl trac hefyd. Mae mewnbwn cerddorion eraill wastad yn ychwanegu twist bach diddorol.”

18

Y CLAWR Yn sicr, mae yma ddigon i’w edmygu o ran y gerddoriaeth, ond Eurig ei hun sydd yn gyfrifol am greu clawr trawiadol y CD hefyd. Eglura mai naws hapus a lliwgar y gerddoriaeth oedd yr ysbrydoliaeth. “Wnes i ddewis palette o liwiau eitha’ cryf a vivid, a mynd ati i greu ryw fath o fyd dychmygol, sydd eto’n reit gyfarwydd a Chymreig.” Mae’r tirwedd ar y clawr yn ymestyn reit rownd pecyn y CD wrth ei agor ac mae ’na dipyn i’w weld; geifr, llwynogod, ceirw gwyllt, balŵn oren ac ambell gyfeiriad at eiriau’r caneuon hyd yn oed; fflam, tylluanod, ceiliog ac Eryri. “Ryw deimlad eitha’ organic, o fod tu allan ac yn rhydd ymysg bywyd gwyllt oeddwn i isio’i gyfleu.” Mae unrhyw waith celf da yn ysgogi trafodaeth ac eglura Eurig fod rhai eisoes wedi cynnig dehongliad o’r clawr. “Mae ’na eitha’ dipyn wedi fy holi os mai rhywle penodol yn Eryri ydi’r lleoliad, ac un wedi gofyn ai Han Solo a Luke Skywalker ydi’r ddau gymeriad yn y canol! Dwi’n ddigon hapus efo’r gymhariaeth yna, ond mae’n ddrwg gen i ddeud nad ydi’r lleoliad yn unlle penodol ac mai cymeriadau i gynrychioli Ynyr a fi ydi’r ddau ffigwr.” Er budd ein darllenwyr mwy technegol holais beth yn union yw’r broses greu wrth fynd o’i chwmpas hi. “Mi gymerodd hwn eitha’ sbel i’w gyflawni gan fod ’na gymaint o fanylder ynddo fo. Roeddwn i wedi gosod her i fi fy hun o greu’r graffeg i gyd mewn vectors [siapiau a llinellau sy’n gallu cael eu chwyddo i unrhyw faint, heb golli ansawdd] – rhywbeth doeddwn i heb wneud llawer ohono ar y raddfa yma’n flaenorol.” I rywun di glem fel fi mae hi’n swnio’n broses gymhleth sy’n mynd ag amser felly faint yn union gymrodd hi i gwblhau’r darn tybed? “Dwi’n meddwl i mi ddechrau’r gwaith nôl yn Ebrill 2014, a mynd ati fesul ryw awr neu ddwy wedyn pan oeddwn i’n cael y cyfle dros y chwe mis canlynol i ychwanegu darnau, cyn i’r albwm gael ei ryddhau ddiwedd Tachwedd.” Dylunydd yw Eurig wrth ei waith bob dydd felly mae

y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 18

12/02/2015 22:12


o glawr i glawr

“Wnes i fynd ati i greu ryw fath o fyd dychmygol, sydd eto’n reit gyfarwydd a Chymreig.”

o’n hen law ar y math yma o beth, ond ydi o’n deimlad gwahanol tybed creu rhywbeth iddo ef ei hun yn hytrach na chwsmer? “Dylunwyr graffeg ydan ni’n dau, dyna be’ wnaeth Ynyr a finna’i astudio yn coleg. Mae gen ti fwy o ryddid pan mai chdi dy hun ydi’r cwsmer, ond pwy bynnag ydi’r cwsmer, y cyhoedd ti’n anelu’r gwaith atynt sy’n bwysig yn y pen draw, bob tro.” Efallai wir ond nid pob cerddor sydd â rheolaeth lwyr dros y gwaith celf sy’n cydfynd â’u cerddoriaeth felly mae’n rhaid bod brodyr Brigyn yn teimlo’n ffodus iawn yn hynny o beth. “Dwi’n teimlo’n lwcus iawn gallu cyfuno’r ddau beth drwy Brigyn. Ella fysa rhai’n deud mod i’n ychydig o control freak, ond ma’ hi’n reit braf cael penderfynu’n union sut i bortredu sain y gerddoriaeth yn weledol, ac alla i ond beio fy hun os nad yw petha’n troi allan yn iawn!” Does dim rhaid i Eurig boeni am hynny gan fod Brigyn 4 yn edrych yn wych, a gyda thri albwm o dan ei felt yn barod, does dim syndod ei fod wedi cael gymaint o hwyl arni. “Heblaw am y ddelwedd ar flaen Brigyn 3 fi sydd wedi bod yn gyfrifol am y cloriau i gyd. Ma’ pethau’n dod yn llawer haws efo profiad rhaid cyfaddef, ac yn sicr, dyma’r clawr dwi fwya’ balch ohono hyd yn hyn, gan mai hwn oedd yr un mwyaf uchelgeisiol o ran y manylder.” DELWEDD Nid clawr CD yn unig yw’r gwaith diweddaraf yma, mae o’n gyson â’r steil yn y llyfryn tu mewn a hyd yn

oed proffil Trydar yr hogia’ ar hyn o bryd. Bron y gellid dweud fod y gwaith yma’n fwy o ddelwedd Brigyn ar gyfer yr albwm hwn yn hytrach na chlawr yn unig. “Does ’na ddim amheuaeth fod delwedd yn rhan allweddol o gerddoriaeth yn gyffredinol, ac mae rhan weledol cynnyrch wastad wedi bod yn bwysig i ni. Ma’ hi ’di bod yn ddefnyddiol gallu tynnu’r elfennau gweledol o’r clawr a’u defnyddio nhw’n unigol ar Facebook a Twitter ac ati. Mae’n ffordd dda - ond eitha’ cynnil - i alluogi pobl i gysylltu’r hyn maen nhw’n ei weld ar y cyfryngau digidol efo’r albwm, gan fod popeth yn yr un steil.” Dyma gyfanwaith a phecyn grêt heb os, rhywbeth sydd yn bwysig iawn wrth ryddhau a hyrwyddo cynnyrch newydd, ac mae Eurig yn cytuno. “Mae’r hen ddywediad Saesnig ’na yn deud ‘Don’t judge a book by it’s cover’, ond yn naturiol dyna be’ fydd pobl yn ei wneud, dwi’n euog o hynny fy hun! Mae cael clawr o safon yn hollbwysig, a dwi o’r farn fod y clawr yn aml yn gynrychiolaeth o’r gerddoriaeth tu mewn iddo. Os oes ’na ôl ymdrech ar y clawr, alli di fod reit ffyddiog fod ’na ymdrech wedi mynd mewn i’r gerddoriaeth hefyd.” Fydd dim angen unrhyw anogaeth ychwanegol ar ffans Brigyn i wrando ar Brigyn 4, yn enwedig ar ôl aros cyhyd, ond does dim dwywaith y bydd ambell ddilynwr newydd yn estyn am y CD yma hefyd wrth i’r clawr trawiadol ddal eu sylw. y-selar.co.uk

selar_Chwefror.indd 19

19

12/02/2015 22:12


adolygiadau Bodoli’n Ddistaw Candelas Yng Ngwobrau’r Selar llynedd fe lwyddodd Candelas i wneud yr hen dric het wrth gipio tair gwobr - y gân orau, yr albwm orau a’r band gorau; felly mae’r bois yma’n boblogaidd. A’r rheswm am hynny? Maen nhw’n wych am wneud be’ maen nhw’n ei wneud. Mae’r pum cerddor yma’n gwybod sut i hoelio riff bowld a beiddgar, maen nhw’n gwybod sut i gyfansoddi geiriau amwys ond gafaelgar, ac maen nhw yn gwybod sut i berfformio. Ar Bodoli’n Ddistaw gwelwn y band, sy’n chwarae ers dros chwe blynedd bellach, wedi hogi eu crefft ac yn ein tywys trwy glytwaith egnïol o ganeuon roc bras. Mae ganddyn nhw rywbeth i’w ddweud hefyd - mae yna lot o gicio yn erbyn tresi’r byd cyfryngau cymdeithasol ar Bodoli’n Ddistaw, ac maen nhw’n crafu ar ochr dywyll y meddwl reit aml hefyd. ‘Llwytha’r Gwn’ ydy fy ffefryn; mae’n codi tempo’n araf ac yn heriol fel bom yn tician; mae’r geiriau yn dy sugno mewn i feddwl tywyll – “Llwytha’r gwn cyn ei

Dwyn Yr Hogyn Nôl Geraint Jarman Roedd y disgwyliadau’n uchel cyn i Jarman ryddhau Brecwast Astronot nôl yn 2011, ei albwm cyntaf ers naw mlynedd, a wnaeth y dyn a elwir yn ‘Dad roc Cymraeg’ ddim ein siomi. Roedd Geraint Jarman yn ôl, a gyda’i albwm diweddaraf, Dwyn Yr Hogyn Nôl, a ryddhawyd ar label Ankstmusik cyn y Nadolig, mae’r bardd a’r cerddor yn parhau i gryfhau a chyfoethogi diwylliant cerddorol Cymru. Mae hwn yn albwm amrywiol o reggae (yn bennaf), roc ysgafn, pop seicedelig a chaneuon acwstig cywrain, oll yn dathlu pobl a llefydd sy’n agos at galon Jarman. Mae’r tair cân ar ddeg yn gwneud yr hyn sy’n

selar_Chwefror.indd 20

saethu a cofia anadlu’n ddwfn cyn anelu” – ac mae llais pwerus a rhywiol Alys Williams, ynghyd â llais cryf, cyfarwydd Osian Willaims, yn mynd â’r trac yma i lefel arall. Dyma albwm cryf sy’n ymateb i gymdeithas heddiw, a’r hyn sy’n dderbyniol yng ngwedd cymdeithas, mewn ffordd llawn angerdd ac afiaith. 9/10 Casia Wiliam Dere Mewn! Colorama Gwych yw gweld casgliad o recordiadau Cymraeg gan yr athrylith Carwyn Ellis a’i griw allan ar y silffoedd. Gyda chaneuon o 2008 hyd at 2014 dyma gyfanwaith diddorol dros ben, ac y mae’n bleser pur gwrando arno. O symlrwydd perffaith ‘Dere Mewn’ i egni cadarnhaol ‘Mari Lwyd’, mae rhywbeth at ddant pawb yma. Gyda phob cân yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw, dyma gasgliad y gellir gwrando arno ar hyd y flwyddyn.

nodweddiadol o ganeuon Jarman, maen nhw yn treiddio i’r isymwybod. Mae’n agor yn gryf efo roc amgen yn ‘Hiraeth am Kylie’, cyn ein hudo i diroedd poeth a phell i ffwrdd yn ‘Reggae Reggae’. Mae ‘Oh Marianne’ a ‘Cân y Pobydd’ fel can o Lilt ar ffurf cerddorol; mae ‘Dwfn yw Sŵn y Bas yn Butetown’ yn hypnotig, ac yn bortread byw o’r ardal arbennig honno. Dyna rai o fy ffefrynnau ond does dim caneuon gwan ar yr albwm; maen nhw’n ganeuon meddylgar, sy’n cael lle i ymestyn eu coesau fel petai. Does dim brys, ond dim gwastraff chwaith. Mae pob nodyn yn haeddu ei le. 10/10 Casia Wiliam

GWRRHAID AND O

Ffactor ddiddorol yma yw clywed hyder, profiad a sŵn cyffredinol y band yn datblygu wrth wrando. Mae’r alawon yn rai cofiadwy sy’n gwrthod gadael y côf. Yn ogystal â’r gerddoriaeth, rhaid canmol geiriau’r caneuon yn arw hefyd, a hynny oherwydd eu bod yn cynnwys negeseuon cryf ac uniongyrchol, gan wneud i bob cân deimlo’n gyflawn. Yn ogystal â hynny, y mae’r gwaith recordio’n ardderchog. Yn sŵn byw a chywir, dengys gwir dalent Colorama yma, wrth i’r riffs bachog a’r rhythmau amrywiol swyno’r gwrandäwyr. Gwelir yma waith strwythuro gwych, sydd wedi arwain at gasgliad y mae’n rhaid gwrando arno. 8/10 Ifan Prys Codi’n Fore Bromas Mae Bromas yn fand tynn, maen nhw’n chwarae’n dda iawn ac yn deall eu hofferynnau i’r dim - mae’r albwm a’r gigio’n profi hynny. Fel gwnaethon nhw brofi ar yr albwm cyntaf maen nhw’n gallu ‘sgrifennu caneuon fydd yn sticio gyda chi hefyd - ar ôl gwrando arno gwpwl o weithiau mae’n rhwydd iawn cael eich hunan yn canu gyda nhw. Felly os taw chwilio band ‘sâff’ gyda chaneuon rhwydd, popi gyda bît da i symud iddyn nhw ydych chi, ewch chi ddim yn bell o’ch lle. Wedi dweud hynny maen nhw wedi aeddfedu rywfodd, mae ambell gân sydd ’bach yn wahanol ac yn sefyll mas – ‘Fersiwn o Fi’ er enghraifft, sy’n symud ar pace eitha’ gwahanol, ‘Merched Mumbai’ yn amlwg â naws Indiaidd iddi ac sydd gystal ar yr albwm ag yw hi’n fyw, fel y mae ‘Gofyn a Joia’. Mae ‘Cariad’ yn fwy na phop pur hefyd, mae rhyw fît quirky iddi. Mwy o hyn sydd angen, does dim diffyg talent yn sicr felly gobeithio byddan nhw’n mynd ar hyd y trywyddau hyn, ac yn datblygu fel band. Os wnaethoch chi hoffi’r albwm cyntaf fe wnewch chi hoffi hwn. 6/10 Bethan Williams

12/02/2015 22:12


Mari Sal / Tafod y Tonnau Y Bandana Gyda dwy gân fachog a chofiadwy, dyma sengl fydd sicr yn sownd yn eich pen am oes ar ôl gwrando, ac yn sicr o gael y torfeydd yn canu ac yn dawnsio’n afreolus. Yn syth, mae hwyl ‘Mari Sal’ yn ein hatgoffa o sŵn ac arddull adnabyddus y band. Un peth sy’n wahanol i’r arfer yma ydi mai Sion, y basydd, sy’n cymryd prif lais y gân, ac y mae hi’n braf iawn clywed amrywiaeth lleisiol. Mae’r riff yn aros yn y cof yn syth ac mae’r geiriau yn rhai y gellir cyd ganu â nhw’n rhwydd. O wrando ar ‘Tafod y Tonnau’, gallaf glywed naws yr haf yn sicr. Mae’r offeryniaeth yn creu’r naws hynny’n gryf a’r geiriau unwaith eto’n rhai graenus, sy’n cyd-fynd yn berffaith gyda’r gerddoriaeth ac yn aros yn y cof. Mae hon yn gân sy’n adeiladu’n raddol at yr uchafbwynt, sef riff arall gwych gan y band sy’n syml, ond eto’n hynod gofiadwy. Mae’r sengl yma wedi fy mhlesio’n arw. Gwrandewch a mwynhewch. 7/10 Ifan Prys Hiraeth Carcharorion Wnes i ddim gwerthfawrogi hon yn iawn nes rhoi fy holl sylw iddi a gwrando arni drwy glustffonau a gadael i’r cymysgu brofi fod crefft i gerddoriaeth electro. O’r bump, y ddwy gân sy’n dangos hyn orau yw ‘Beth yw’r Haf i Mi’ a ‘Tymhorau’. Sŵn dwys sydd i ‘Beth yw’r Haf i Mi’ mae telyn draddodiadol a bît arafach yn gyfeiliant i lais Merêd a phopeth yn gweddu i’w gilydd. Mae’r synnau synth a’r gerddoriaeth yn siwtio’r llais a naws y geiriau i’r dim. Mae ‘Tymhorau’ yn hollol wahanol, gyda bît bygythiol a pheryglus, a rhywbeth eerie, bron yn apocalyptaidd yn yr adleisiau distorted o lais digamsyniol Gerallt Lloyd Owen. Er bod sŵn amlwg a chryf tu ôl iddo dyw e’n amharu dim ar

selar_Chwefror.indd 21

lais Gerallt. Er bod rhannau’n defnyddio eco amlwg, rhannau â sawl haenen a rhannau symlach, mae’r cyfan yn gwau i’w gilydd yn ddidrafferth. Mae pob cân yn haeddu eu lle, sŵn digon syml a melodig sydd yn gyfeiliant i lais Cayo Evans yn ‘The Boys are Marching’, a’r lleisiau sy’n canu am yn ail ag e’n adeiladu i greu gwrthgyferbyniad sy’n amlygu geiriau a llais Cayo hyd yn oed yn fwy. Mae rhywbeth digon chwareus am y ddwy arall, ‘Hiraeth’ sy’n agor a ‘Si Hei Lw’ sy’n cloi. Mae ‘Hiraeth’ yn agor yr EP trwy ailadrodd geiriau hen bennill traddodiadol i gyfeiliant gweddol syml mewn sawl rhan sy’n cael eu hail-adrodd mewn cylchoedd. Mae cymysgedd dda o ganeuon yma, pob un â bît cryf ac yn gweithio fel caneuon wrth eu hunan ac fel cyfanwaith. 8/10 Bethan Williams Lleuad Llawn Elin Fflur Tri chwarter awr o ganeuon pop gwych. Dyna un ffordd o ddisgrifio ymdrech ddiweddaraf Elin Fflur, Lleuad Llawn. Gyda chymorth Rob Reed ac Owen Powell mae’r ferch o Fôn wedi creu record sy’n llawn caneuon cofiadwy. Er bod yr albwm yn cynnwys llawer o faledi (steil a gysylltir ag Elin yn aml) y caneuon roc, cyflym sy’n dwyn sylw ar y casgliad hwn. Mae ‘Cloriau Cudd’ (hanner o’r sengl ddwbl a ryddhawyd y llynedd) a ‘Disgwyl y Diwedd’ yn atsain sŵn Adele ar ei halbwm, 21. Gallai sawl trac oddi ar yr albwm fod ar donfeddi radio y tu hwnt i Gymru pe baen nhw yn yr iaith fain - yn bennaf, ‘Teimlo’. Mae’n swnio fel cân y byddai Taylor Swift yn ei chanu. Ar adegau, mae’r geiriau a’r caneuon arafach yn gallu bod ychydig yn cliché neu’n gawslyd ac felly’n swnio fel rhywbeth rydym wedi’i glywed droeon o’r blaen. Er hynny, mae’n ymdrech dda a bydd set byw Elin yn elwa llawer o gynnwys caneuon newydd, gwahanol. 7/10 Lois Gwenllian

Drysau Aur Y Rhacs Dw i’n hoffi’r gân hon. Mae’n un i’w chwarae’n uchel yn y car. Mae’n gofiadwy ac yn hwyliog. Ond, mae’n swnio fel pob un band ifanc Cymraeg arall rydyn ni wedi’u clywed yn ddiweddar. Mae Y Rhacs yn well nag ambell un o’r bandiau hynny, a ddim cystal ag ambell un arall. Gyda phrofiad ac ymroddiad, gallai Y Rhacs adael marc ar y sin roc Gymraeg yn y blynyddoedd nesaf. 5/10 Lois Gwenllian Cysgu Dewi Williams Tydi Cysgu ddim yn ffitio i unrhyw focs penodol, yn debyg iawn i’r albwm cyntaf, Gwyliau, mae yma amrywiaeth o arddulliau. Ceir dylanwad reggae ar draciau fel ‘Gweithio’ a ‘Deffro’ ac yna roc eitha’ trwm mewn mannau ac elfennau electronig yma ac acw. Mi fydd unrhyw un sy’n dioddef o hangovers mor wael â fi yn gwerthfawrogi ‘Goroesi’, mae gan ‘Ysbryd’ ryw naws iasol ac mae hi’n wirioneddol werth aros am y gitâr yn hanner olaf ‘Anadlu’. ‘Gweiddi’ ydi’r gân i mi, mae’r gitâr ar hon yn neidio allan o’r speakers ac yn rhoi slap wlyb ar draws eich boch (mewn ffordd dda), mi fyddwch hi’n canu hon trwy’r dydd. Mae Cysgu’n enw addas iawn i’r casgliad achos er bod y llais diog diymdrech yn gweithio’n dda ar ambell gân, ‘Ysbryd’ er enghraifft, mae’n hawdd diflasu ar yr arddull Gruff Rhys-aidd yma ar adegau. Un peth tydi Dewi Williams ddim yn ei wneud fel Gruff Rhys yn ôl pob golwg ydi hunan hyrwyddo, ond da chi, os ydach chi’n dod ar ei draws o, gwrandewch. 7/10 Gwilym Dwyfor

12/02/2015 22:12


adolygiadau Brigyn4 Brigyn Ddeg mlynedd ers iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf daw’r brodyr o’r gogledd pell ac albwm arall i ni. Mae Brigyn 4 yn gyforiog o ganeuon acwstig tyner, cynnil a chelfydd. Maen nhw’n haenog gerddorol; mae yma rannau ffidl hyfryd fel ar ‘Deffro’, mae sain y delyn yn cynhesu trac ola’r albwm, ‘Gwallt y Forwyn’, a braf hefyd yw cael dau drac cerddorol ar y casgliad o un ar ddeg. Mae’n mynd heb ddweud bellach bod lleisiau Ynyr ac Eurig yn asio’n berffaith, a’u deuawd yn offeryn ohono’i hun. Mae dawn ysgrifennu Mei Mac a Mererid Hopwood ar waith yma, ond mi fyswn i’n dadlau bod brodyr Brigyn hefyd yn perthyn i fyd y beirdd. Mae geiriau ‘Pentre Sydyn’, sy’n olrhain hanes y Cymry cyntaf i lanio ym Mhatagonia 150 o flynyddoedd yn ôl yn llenwi sgrîn y meddwl. Mae tinc y cyfarwydd yn perthyn i nifer o’r caneuon, ‘Fflam a ‘Gwyn Dy Fyd’ yn enwedig (diolch i S4C mae’n rhaid!), ond mae rhywbeth cysurus iawn am hynny. Ac ar ben hynny i gyd, mae’r albwm yn dod mewn cas lliwgar, hyfryd, efo’r geiriau – ia, holl eiriau’r caneuon – y tu mewn. Anrheg amhrisiadwy i’r rheiny ohona ni sy’n perthyn i genhedlaeth oedd yn gorwedd ar eu boliau i ddarllen geiriau pob albwm newydd. Diolch Brigyn! 9/10 Casia Wiliam Bywyd Braf Fleur De Lys Dwi’n eitha’ licio’r teitl-drac, ‘Bywyd Braf’, mae ’na rywbeth yn y gân yma ond dwi’n teimlo ei bod hi angen rhyw haen arall hefyd, gitâr ychwanegol o bosib. Dwi ddim mor siŵr am ‘Haf 2013’, gen i broblem efo geiriau hon, mae yna ambell odl ddiog a heb os hon yw’r gân fwyaf pop-gawslyd o’r pedair. Yn ‘Chdi’ mae Fleur De Lys yn dangos eu bod nhw’n gallu cynnig rhywbeth arafach, ac mae ’na dwtsh bach o ‘Step on My Old Size Nines’ ynddi. Mae hi’n anodd sgwennu cân serch dda a swnio’n ffresh ar yr un pryd ac efallai fod ‘Chdi’ yn profi hynny. ‘Elfridra’ ydi fy hoff drac i ar y casgliad gan fod yna fwy o bwyslais ar y roc a llai ar y rôl. Does na’m gymaint o biano yn hon ac mae llais Rhys ychydig mwy amrwd a gritty. Mi alla’i ddychmygu rhai o’r caneuon yma’n mynd i lawr yn dda yn fyw wrth i’r band fynd i hwyl. Mae yna gynulleidfa i’r math yma o beth yn sicr, ond dydw i ddim yn rhan ohoni. 5/10 Gwilym Dwyfor

selar_Chwefror.indd 22

Griff y Gwleidydd

Rydym wedi arfer gweld Griff yn perfformio ar lwyfan ac yn cyflwyno ar y teledu a’r radio. Ond bellach, fel ryw fath o ateb Cymru i Russell Brand, mae o hefyd yn troi ei law at ymddangos ar baneli trafod. Yn Aberystwyth yn ddiweddar mi ges i’r cyfle i siarad ar banel wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith, yn trafod “Hybu’r Chwyldro Trwy’r Sin Roc Gymraeg”. Yn gwmni i mi yr oedd Rhys Mwyn, gynt o’r Anrhefn, a Pat Morgan, sef un hanner o Datblygu. Dwi ddim fel arfer yn cîn ar gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath, achos ma’ nhw’n gallu bod yn esgus i bobl fod yn hunangyfiawn, a rhamantu am y dyddiau a fu. Ond i fod yn deg, doedd y drafodaeth ddim yn un negyddol, a doedd ’na ddim (gormod) o ramantu. Trafodwyd sawl syniad sut y gallai Cymdeithas yr Iaith roi hwb i’r broses greadigol o greu cerddoriaeth a chynnwys Cymraeg. Un cynnig oedd ail-gydio o bosib yn y syniad o Sianel 62, ond gan ddefnyddio platfformau megis Youtube, yn hytrach na chystadlu yn eu herbyn. Cafodd creu blogiau yn adolygu gigs, neu raglen radio wythnosol ar y wê eu crybwyll hefyd. Syniad arall diddorol a gododd oedd crynoddisgiau aml gyfrannog, i godi arian at achosion gwleidyddol, ond rhai sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â’r iaith, CD gwrth-UKIP er enghraifft. Dyma ffordd ddelfrydol o annog bandiau ifanc i feddwl yn wleidyddol, ond heb gael eu diflasu gan yr un hen negeseuon ieithyddol. Mae’n amlwg fod yna awydd i wneud y math yma o beth ymysg bandiau ifanc, cymer gân Y Rhacs am Nigel Farage er enghraifft. Mae’n braf gweld fod Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i godi’r drafodaeth. Mae rhywun yn ymwybodol iawn fod y Gymdeithas, yn hanesyddol, wedi bod yn ganolbwynt hollbwysig i ddatblygiad y sin Gymraeg, ond heblaw am gigs yn y steddfod ac ambell beth arall mae presenoldeb y Gymdeithas o fewn y diwylliant pop wedi pylu rhywfaint dros y blynyddoedd. Dwi’n siŵr bydd gweithredu rhai o’r syniadau uchod yn rhoi sglein i ddelwedd Cymdeithas ymysg yr ifanc eto, ond yn llwyddo i wthio neges wleidyddol yr un pryd.

12/02/2015 22:12


hysbys 593 selar 2015 190x138mm_562 05/02/2015 16:44 Page 2

www.twitter.com/prifysgolbangor

PRIFYSGOL BANGOR YN ARWAIN AR Y GYMRAEG Ffôn: 01248 382005/383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

www.facebook.com/PrifysgolBangor

• Y gorau yng Nghymru ac yn y 7 uchaf ym Mhrydain* am foddhad myfyrwyr • Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Neuadd Gymraeg a sicrwydd o lety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf • Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr • Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau ar gael *ymhlith prifysgolion traddodiadol sy’n cynnig ystod eang o bynciau

Ochr 1 10.00 12 Mawrth Cyfres newydd yn dechrau gyda rhaglen arbennig o wobrau Y Selar. @Ochr1 #ochr1 facebook.co.uk/OchrUn s4c.co.uk

Y Selar 2015.indd 2

selar_Chwefror.indd 23

10/02/2015 15:56

12/02/2015 22:12


GORWELION AR DAITH MAWRTH 13 TAN EBRILL 4

Baby Queens Casi Chris Jones Climbing Trees Candelas Gabrielle Murphy Houdini Dax Kizzy Crawford Plu SĹľnami Seazoo People the Poet Ar hyd a lled Cymru Mwy o fanylion bbc.co.uk/gorwelion

bbc.co.uk/gorwelion 24ad 213 x 303mm.indd 1 4selar_Chwefror.indd Horizons Focus Wales

12/02/2015 11/02/201522:12 11:59


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.