Y Selar - Ebrill 2013

Page 1

y Selar

RHIF 32 | EBRILL | 2013

Siddi y-selar.co.uk JJ Sneed | Gwobrau’r Selar 2012 | 10 Uchaf Albyms 2012 | adolygiadau

1


530 hysbys selar_517 14/02/2013 10:06 Page 2

RHAGORIAETH ˆ MEWN GWYL A GWAITH

•Copiau o’n prospectws a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2014 •Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru •Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru •Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar

Ffôn: 01248 382005/383561 • E-bost: marchnata@bangor.ac.uk Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor

www.bangor.ac.uk

•Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Llongyfarchiadau Lisa Gwilym Cyflwynydd Gorau 2012 Nos Fercher 7-10pm

lisa gwilym selar ad flipped.indd 1

14/2/13 18:31:22


y Selar RHIF 32 | EBRILL | 2013

Wel wir, mae yna dipyn wedi newid yn yr SRG ers y rhifyn diwethaf o’r Selar yn does! Mae’r anghydfod rhwng EOS a’r BBC wedi rhygnu ymlaen yn rhy hir o lawer, mae’r Race Horses wedi rhedeg eu ras olaf, ac mae Cân i Gymru o’r diwedd yn adlewyrchu ac yn gwobrwyo’r rhai sy’n weithgar yn y sin trwy gydol y flwyddyn. Ond mae yna un peth sydd heb newid, mae’r Selar yma o hyd, ac fel arfer, rhifyn cyntaf y flwyddyn yw rhifyn y gwobrau. Mae yna ambell i hen ffefryn yn dod i’r brig ond ambell enw newydd yn amlygu eu hunain hefyd. Ac fe fydd pob enillydd, hen a newydd, yn cofio’r gwobrau am reswm arbennig eleni – ein noson wobrwyo gyntaf erioed. Hefyd yn y rhifyn hwn byddwn yn cael stori dylwyth teg gan Siddi, yn swigian Sudd Sudd Sudd gyda Sen Segur ac yn mynd ar daith i lawr yr Afon Tâf gan stopio i siarad â Kizzy Crawford ym Merthyr, JJ Sneed ym Mhontypridd ac R.Seiliog yng Nghaerdydd. Rhifyn llawn dop felly, mwynhewch! Hwyl, Gwilym Dwyfor

4

8

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA

Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com)

CYFRANWYR Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Lowri Johnston, Cai Morgan, Ifan Prys a Ciron Gruffydd

CYNNWYS KIZZY CRAWFORD

4

O GLAWR I GLAWR

6

SIDDI

8

GWOBRAU’R SELAR 2012

12

10 UCHAF ALBYMS 2012

14

NEWYDDION

16

JJ SNEED

18

ADOLYGIADAU

20

12

14

@y_selar yselar@live.co.uk facebook.com/cylchgrawnyselar Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Ti ’Di Clywed...

Kizzy Crawford Does dim dwywaith mai un o sêr ifanc mwyaf cyffrous ac addawol y sin ar hyn o bryd yw Kizzy Crawford. Owain Gruffudd fu, ar ran Y Selar, yn darganfod mwy am y ferch o Ferthyr. Pwy? Daw teulu Kizzy yn wreiddiol o Berkshire a Barbados, ond yng ngorllewin Cymru y cafodd hi ei geni ac mae hi wedi siarad Cymraeg trwy gydol ei bywyd. Yn hynaf o bump o blant, mae hi bellach wedi symud i Ferthyr Tydfil ac yn mynychu Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr. Er nad yw Kizzy yn 17 mlwydd oed tan fis Ebrill mae hi wedi bod yn gigio ers rhyw ddwy flynedd yn barod, ac eisoes wedi ennill cystadleuaeth i ganwyr a chyfansoddwyr ardal Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Sŵn? Mae hi’n disgrifio’i hun o dan y teitl “Canwr-gyfansoddwraig”, sydd yn derm cyffredin i artistiaid acwstig fel Kizzy. Yn ei hôl hi: “Mae fy nylanwadau yn dod o bob rhan o fy nhreftadaeth amlddiwylliannol – gyda blas o gerddoriaeth soul, indie, gwerin a Chymraeg traddodiadol.” Mae hi’n canu ac ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda chymysgedd o’r ddwy iaith i’w clywed yn ei setiau byw. Dylanwadau? Mae nifer o artistiaid wedi dylanwadu ar gerddoriaeth Kizzy, yn enwedig rhai o’r 60au, 70au a’r 80au, er enghraifft Tracy Chapman, Nick Drake a Kate Bush. Yn ogystal â hynny, mae hi’n edmygu artistiaid fel Corinne Bailey Rae, Gwyneth Glyn, Stevie Wonder, a Steely Dan yn enwedig. Ond nid gan gantorion yn unig mae hi’n cael ei dylanwadu, “rwyf hefyd yn cael llawer o ysbrydoliaeth o’r farddoniaeth rydym yn ei astudio yn ein gwersi Cymraeg yn yr ysgol, gwaith beirdd fel Myrddin ap Dafydd, Dafydd Iwan a Gerallt Lloyd Owen.” Hyd yn Hyn? Mae Kizzy wedi bod yn y stiwdio yn barod, yn recordio gyda’r artist Amy Wadge o Fryste, ac yn ymddangos ar Albwm Casgliad RCT sydd yn cael ei ryddhau mis yma. Yn ogystal â hynny, mae hi wedi gweithio gyda chynhyrchydd y Stereophonics, Steve Bush, ac wedi perfformio ar raglenni Hacio ac Y Lle ar S4C. O ran gigio, bu Kizzy yn rhan o Daith Hanner Cant, pan chwaraeodd hi gyda Hud, JJ Sneed a Tom ap Dan yng Nghlwb Ifor Bach, yn ogystal â chefnogi Sarah Gillespie mewn gig yn Y Bont-faen.

4

y-selar.com

Ar y gweill? Bydd Kizzy yn brysur yn gigio dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys perfformiadau mewn gŵyl yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, ar y 10fed o Fawrth; yn Theatr Park & Dare, Treorci, ar 13eg a 14eg o Fawrth ac yng ngŵyl Focus Wales ar y 26ain o Ebrill – fydd yn cynnwys Charlotte Church, Cowbois Rhos Botwnnog, Al Lewis, Casi Wyn a Sŵnami ar y lein-yp (focuswales.com). Mae hi hefyd yn bwriadu rhyddhau EP ac eisiau cael drymiwr a gitarydd bas i ymuno â hi i greu band ar gyfer gigs byw. Uchelgais? Un o freuddwydion Kizzy yw cael teithio a pherfformio yn yr UDA, a hynny mewn lleoliadau bach. Byddai gig delfrydol yn cynnwys Nick Drake, Joni Mitchell a Steely Dan. Ond yn fwy realistig yn y tymor byr, mae hi’n gobeithio cael chwarae mewn ambell un o’r prif wyliau Prydeinig blwyddyn nesaf.


trydar gyda @sensegur @Y_Selar Su’mai @sensegur, croeso i gyfweliad trydar @Y_Selar. Sut ‘da chi’n cadw?

gwrs, yn enwedig tra bod yr anghydfod rhwng BBC ac EOS yn mynd ymlaen.

@sensegur Grêt diolch! Ond gytyd mai nid Gwenno Saunders sy’n siarad efo ni...

@sensegur Ai! Os na ‘di’r tracs newydd yn mynd i gael eu chwarae ar y radio, mae’n bwysig i ni fynd allan a neud gigs er mwyn i bobl ein clywed ni.

@Y_Selar Haha, dim ond ar y llun proffil mae hi sori! Amser prysur i chi rŵan, yr EP, Sudd Sudd Sudd allan, cyfnod cyffrous iawn i’r band dwi’n siŵr?

@Y_Selar Yn union. Hon ydi un o’r pethau cyntaf i’w rhyddhau ers i’r cwbl ddechrau - dangoswch y ffordd! Sut arall mae’r helynt ‘di eich effeithio chi?

@sensegur Falch o gael o allan, ond fedra ni’m dweud pa mor ddiolchgar ‘da ni i Gwion a Gruff [@IKACHINGrecords], a [mr] huw am y gwaith maen nhw ‘di neud!

@sensegur Mae o jyst yn drist bod pres a dynion mewn siwts du yn ceisio gneud hi’n anoddach i ni ‘neud be’ ‘da ni isio’i neud.

@Y_Selar Wedi gwrando arni, mai’n grêt. Ond i weddill y ffans, be’ allan nhw’i ddisgwyl. Mwy o’r un peth a Pen Rhydd a Nofa Scosia? @sensegur Diolch! Ella... ond ar yr un pryd, mae’r sŵn ‘di newid. Mae’n llai “yn dy wyneb” ac ella’n haws i wrando arni, ond mae’r holl beth yn lo-fi. @Y_Selar Cytuno efo hynny. Fel o’ chi’n sôn, gweithio efo @ymrhuw wnaethoch chi eto. Beth mae o fel cynhyrchydd yn ei gyfrannu i’r sŵn? @sensegur Mae o’n dallt y sŵn ‘da ni isio. Mae’n licio’r un fath o gerddoriaeth a ni, ac mae o’n hapus i recordio unrhyw le ‘da ni isio.

@Y_Selar Clywch clywch. Dim ond gobeithio y daw cytundeb, ond tan hynny, pawb i brynu’r CD! ‘Da chi’n defnyddio dipyn ar twitter ‘ma i hyrwyddo hefyd? @sensegur Aiii, mae’n bwysig trio cefnogi a hyrwyddo’r llefydd ‘da ni’n chwarae ynddyn ‘fyd. Ma’ twitter yn effeithiol, weithia. @Y_Selar Mae’r gwaith celf ar yr EP yn drawiadol iawn hefyd. Pearl [Eryl Jones] ac [Aled] Arth ‘di bod wrthi do? ‘Da chi’n hapus efo’r cynnyrch terfynol? @sensegur Mae’r gwaith dylunio a chelf yn well na’r gerddoriaeth! Nais won Pearl! Nais won Arthddyn!

@Y_Selar Lle wnaethoch chi recordio hon felly?

@Y_Selar Haha, mae bob dim yn dda iawn chwarae teg, cyfanwaith di’r gair! Cynnwys y caneuon mo’r random â’r arfer! Lle ‘da chi’n cael eich syniadau?

@sensegur Un hanner yn sied Ben a’r hanner arall yn Tŷ Siôr. Plus, cwpl o bits yn lle chwech @ymrhuw.

@sensegur O bob math o shit rili. Hen straeon, malu cachu, pobl, llefydd, breuddwydion ayyb...

@Y_Selar Waw, cyfuniad diddorol iawn! Hon yn ail EP rŵan, a ‘da chi wedi rhyddhau sengl a stwff ar y Record Goch hefyd. Pryd allwn ni ddisgwyl albwm?

@Y_Selar Diddorol. Ella bod sŵn breuddwydiol yn ffordd dda o ddisgrifio Sudd Sudd Sudd. Sôn am hynny, gen i awydd lemonêd cymylog mwyaf sydyn!

@sensegur ‘Da ni’n trio gigio hynny fedra ni ar y funud. Ond mae’r albwm wrthi’n cael ei ‘sgwennu. Fe ddaw... Ond dwn’im pryd!

@Y_Selar Diolch yn fawr am eich amser Sen Segur, a phob lwc efo’r EP a phob peth arall yn 2013. Hwyl!

@Y_Selar Edrych ymlaen. Gigio yn ffordd dda o hyrwyddo’r EP wrth

@sensegur Reu! y-selar.com

5


O glawr i glawr

Shuffles

EP PLYCI, FLUMP, A GAFODD SYLW O GLAWR I GLAWR Y TRO DIWETHAF AC WRTH EDRYCH AR WAITH CELF Y FINYL HWNNW ROEDD HI’N ANODD IAWN PEIDIO Â SYLWI FOD HOLL GYNNYRCH LABEL PESKI YN WLEDD I’R LLYGAD YN OGYSTAL Â’R GLUST. GWAITH CELF EP ARALL O STABL Y LABEL CŴL O GAERDYDD SY’N MYND Â’N SYLW NI Y TRO HWN HEFYD - SHUFFLES GAN R.SEILIOG.

W

rth wrando ar sŵn hypnotig hyfryd Shuffles hawdd iawn yw mynd ar goll mewn breuddwyd ac anghofio beth yn union yr ydych chi fod i’w wneud, ac mae’r gwaith celf yn gweddu’n berffaith i’r naws hwnnw. Felly ar ôl deffro ychydig a chofio fod gen i eitem i’w hysgrifennu penderfynais fynd i holi ychydig bach mwy ar R.Seiliog , neu Robin Edwards i roi iddo ei enw iawn. Dechreuais wrth gwrs trwy ei longyfarch ar sain wych yr EP, cyn holi ychydig am darddiad y gwaith celf. Eglurodd mai gwaith hen ffrind iddo, Sion Alun, yw’r clawr: “Wel, mae Sion wedi bod yn ffrind agos ers blynyddoedd. Nathon ni dyfu fyny efo’n gilydd yn Nyffryn Clwyd, felly dwi ‘di bod yn ddigon ffodus i weld llawer o’i waith anhygoel o

dros y blynyddoedd. Yn y gorffennol ‘da ni wedi cydweithio ar wahanol brosiectau cerddorol electroneg ac arbrofol hefyd. Dwi’n meddwl ei fod o’n gam digon naturiol i Sion fod yn gyfrifol am y gwaith celf gan fod o’n dallt be’ oeddwn i’n trio’i neud o’r cychwyn. Siŵr fod hynny wedi helpu pob dim ddod at ei gilydd mor hawdd.” A thrwy gyd-ddigwyddiad dymunol roedd y darn perffaith ar y gweill yn barod, fel yr eglura Sion ei hun, “Ges i neges gan Robin yn gofyn a oedd gen i unrhyw syniadau ar gyfer gwaith yr EP a nes i ddanfon ’chydig o ddarnau o’n i’n gweithio arnynt ar y pryd. Roedd gen i ddarn o’n i ’di bod yn ei alw’n Shuffled, heb wybod mai Shuffles oedd enw’r EP. A hwnnw oedd Robin yn ei hoffi. Dwi’n meddwl fod y darn wedi gweithio’n dda gyda’r gerddoriaeth, glân a manwl.” Yn sicr, mae’r ddwy elfen yn priodi’n berffaith - mae’n amlwg fod y ddau ar yr un donfedd. Ac ydi’r ddau yn hapus â’r gwaith terfynol tybed? Mae Robin yn “hapus iawn” a Sion yn falch fod ei waith yn cael defnydd, “dwi’n hapus fod y gwaith ’di mynd at ddefnydd da. Dwi byth yn hollol hapus efo fy ngwaith, mae bodlondeb yn wenwyn i ddatblygiad.” Perthynas Efallai nad yw perffeithydd byth yn bodloni ond i fy llygaid amaturaidd i mae gwaith Sion yn drawiadol tu hwnt. Eglura’r artist ychydig mwy amdano, “Mae’r darn wedi’i neud mewn inc Indian ar bapur trwm, ac yn dod o gyfres o waith wedi’i greu mewn amseroedd o ansicrwydd.” Ac o ystyried na chafodd y gwaith ei greu yn unswydd ar gyfer yr EP mae’r berthynas agos rhwng yr elfen weledol a’r sain yn eithriadol. Mae yna naws digon tebyg yn rhedeg trwy’r holl beth gydag arddull eithaf seicadelig yn perthyn i’r ddwy elfen. “Dwi’n meddwl fod y berthynas yn eitha’ pwysig yn

6

y-selar.com


“Roedd gen i ddarn o’n i ’di bod yn ei alw’n Shuffled, heb wybod mai Shuffles oedd enw’r EP”

enwedig efallai hefo rhywbeth mwy offerynnol a seicadelig fel Shuffles” eglura Robin. “Dwi’n credu fod rhoi’r rhyddid i’r artist ddehongli’r gwaith heb ormod o rwystrau creadigol yn bwysig. O’n i’n gwybod fod Sion wedi dod yn gyfarwydd â’r EP dros rai misoedd, ac o’n i’n hollol gyfforddus iddo fo drosglwyddo’r naws oedd o’n ei deimlo i rywbeth gweledol.” Mae yna ddefnydd helaeth o loops yng ngherddoriaeth y record ac mae yna awgrym o hynny yn llun y clawr hefyd. “Mae’r gerddoriaeth ar ochor gyntaf y record wedi’i angori mewn loops a drones, hefo’r synths ysgafnach yn ryw fath o ferwi drosodd” eglura Robin. “Mae’r elfennau yna’n amlwg iawn i mi ar y clawr hefyd. Ond dwi’n meddwl fod hynny wedi dod fwy o’r “rhyddid i ddehongli” ‘ma, yn hytrach na fi’n fwriadol yn gofyn am rywbeth pendant i gynrychioli’r loops.” Cyd-ddigwyddiad anfwriadol felly? “Ia” cytuna Sion. “Dwi’n credu mod i a Robin yn meddwl mewn ffyrdd tebyg, pan o’n ni’n iau roedden ni’n cwestiynu ac archwilio pob dim. Tydi o ddim yn fy synnu bod ein gwaith yn cydredeg.” Does dim dwywaith fod gwaith y ddau yma’n gweddu’n berffaith ond oes yna unrhyw gerddor arall yr hoffai Sion gyd weithio ag ef neu hi? “Dyma’r tro cynta’ i mi gael fy ngwaith ar finyl. A hyd yn oed os fyswn i’n cael dewis, fyswn i’n dewis R.Seiliog, mae ei waith fel fersiwn glywedol o fy ngwaith fy hun.” Gwerth mewn copi caled Fel y soniais ar y dechrau nad dyma’r tro cyntaf i ni roi sylw i gynnyrch Peski ar O Glawr i Glawr ac mae’n amlwg fod y label yn rhoi pwyslais mawr ar yr elfen weledol yn ogystal â’r gerddoriaeth. A dweud y gwir maen nhw ben ac ysgwydd uwchlaw neb arall yng Nghymru yn hynny o beth. Oedd hynny’n rhywbeth yr oedd R.Seiliog yn ymwybodol ohono

tybed wrth ryddhau efo nhw? “Dwi’n meddwl fod ethos ac agwedd Peski yn grêt, mae’r ochr weledol wedi plesio erioed. Dwi ’di bod yn lwcus iawn i gael gweithio efo label sydd mor ofalus o bob elfen o’r recordiau ma’ nhw’n eu rhyddhau, mae eu gwaith hefo Texas Radio Band, Cate Le Bon ac Y Pencadlys yn hollol wych. Drwy gefnogi artistiaid heb bwysleisio ar farchnata neu fanylion sydd efallai’n torri ar ryddid; maen nhw wedi llwyddo i ddatblygu catalog diddorol o recordiau unigryw a digyfaddawd.” Yn sicr, a hynny mewn cyfnod lle mae llai a llai o bwyslais ar gopïau caled o gynnyrch cerddorol hefyd. Beth yw barn y ddau am natur rhyddhau cerddoriaeth y dyddiau yma? “Mae llai o alw am gopïau caled erbyn hyn ma’n siŵr” meddai Robin, “ond dwi’n meddwl fod dal digon o werth mewn copi caled. Dwi’n tueddu i brynu cerddoriaeth ym mhob fformat, ond finyl gyda chod lawr lwytho sydd fwya’ poblogaidd hefo fi dyddie yma. Falle bod cal rhywbeth cyffyrddadwy fel record a’i gwaith celf yn eich llaw yn eich helpu i brofi’r teimlad o fwriad a naws record yn well. Ond dwi’n meddwl fod gan bob fformat amser a lle.” Ond beth yw barn Sion yr artist tybed? “Mae’n sicr yn werth yr ymdrech i greu gwrthrychau, mae creu pethau â llaw i eraill gael gafael ynddynt yn bwysig iawn. Mae meddwl am chwilio trwy hard drive pan fyddain 75 i ddangos i bwy bynnag sydd o gwmpas be’ nes i tra’n iau yn gneud i mi deimlo’n sâl.” Pwy a ŵyr sut y bydd cerddoriaeth yn cael ei gyhoeddi erbyn hynny, ond mae’r record finyl yn dal ei thir, am nawr. Yn enwedig felly yn achos Recordiau Peski sydd yn rhoi gwerth o hyd ar yr elfen weledol, ac mae Shuffles yn brawf pendant o hynny. Dim ond nifer cyfyngedig o’r record sydd wedi ei rhyddhau serch hynny felly mynnwch gopi da chi, fydd hi werth pres pan fyddwch chi’n 75!

y-selar.com

7


Mwy na Chwedl DOES YNA DDIM BYD YN RHOI MWY O BLESER I NI YN Y SELAR NA RHOI SYLW I GRWPIAU AC ARTISTIAID NEWYDD. GRŴP CYMHAROL NEWYDD OND DAU WYNEB HEN GYFARWYDD SYDD YN MYND Â’N SYLW NI Y TRO HWN WRTH I SIDDI RYDDHAU EU HALBWM GYNTAF, UN TRO, AR LABEL I KA CHING. CIRON GRUFFYDD FU’N DILYN Y STORI DYLWYTH TEG HON AR EIN RHAN.

U

n o’r albyms cyntaf i’w rhyddhau yn 2013 oedd prosiect brawd a chwaer o Lanuwchllyn ger y Bala. Ac er bod y ddau wedi treulio amser mewn rhannau eraill o Gymru, pan ges i air â nhw ar ddiwedd mis Ionawr, roedd y ddau adref yn eu cynefin yn cofleidio paned o goffi yr un tra bod eira’n gorchuddio’r wlad. Ac mae ’na rywbeth yn eithaf addas am hynny. Mae Un Tro yn albwm cysyniadol sy’n defnyddio hen stori dylwyth teg fel cefnlen i’r caneuon. Mae tarddiad y stori dafliad carreg o Lanuwchllyn, a gallwch weld y stori’n llawn ar wefan bandcamp y band, siddi. bandcamp.com. “Branwen gafodd y syniad o ddechrau band,” meddai Osian, yr ieuengaf o’r ddau. “Ond dim achos ein bod ni’n frawd a chwaer” ychwanega Branwen. “Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o’n magwraeth ni yn Llanuwchllyn ac roedd hi’n naturiol i ni ddechrau chwarae offerynnau a jamio wrth dyfu.” Ond astudio ar gyfer MA mewn llên gwerin yng Nghaerdydd oedd Branwen pan ddaeth hi o hyd i’r gair Siddi am y tro cyntaf a chael y syniad am fand. “Hen air Cymraeg am dylwyth teg ydi Siddi,” meddai Branwen. “A thua’r un cyfnod pan o’n i’n gwneud y cwrs dyma fi’n mynd ati i ’sgwennu dwy gân a’u hanfon nhw at Osian.” “A dyna sut yr ydan ni wedi ’sgwennu ers hynny. ’Da ni’n

8

y-selar.com

cyfarfod hefo ffrâm o gân, ac yna’n ei siapio hi fel ’da ni isio. Mae hi’n broses hawdd iawn.” Ond does dim rhaid i’r ddau fod yn yr un ystafell, na’r un wlad hyd yn oed wrth gyfansoddi, a dyna ddigwyddodd gyda’r gân olaf gafodd ei ’sgwennu ar gyfer yr albwm. “Mi oedden ni wedi dechrau ei ’sgwennu hi ond yn methu ei gorffen hi’n iawn,” meddai Branwen. “Wedyn, tra’r o’n i yn Iwerddon gyda gwaith, dyma fi’n cael MP3 gan Osian gyda cherddoriaeth arni a nes i ’sgwennu geiriau i gyd-fynd â hi mewn ugain munud a’u hanfon nhw’n ôl ato fo i’w trefnu.” “Ia, da oedd hynny,” meddai Osian wrth synfyfyrio. Stori dylwyth teg Er mai albwm cysyniadol am dylwyth teg ydi hwn, dyw hynny ddim yn amlwg wrth wrando arno. “Y prif bwynt ydi bo’ chdi methu dweud mai stori dylwyth teg ydi hi,” eglura Branwen. “Stori gariad ydi hi mewn gwirionedd a ’da ni’n edrych ar wahanol rannau o’r stori, o dan chwyddwydr, yn y gwahanol ganeuon.” “A pheth arall sy’n dda am hynny,” meddai Osian, “ ydi ein bod ni wedi cau pen y mwdwl ar y prosiect yma rŵan. Allwn ni wneud rhywbeth ’da ni isio nesa’. Tydi Siddi ddim yn gorfod bod yn werinol fel y record yma, ella fydd yr albwm nesa’ yn un pync!” Ond cyn edrych ymlaen at y prosiect nesa’, bydd Siddi yn gigio o amgylch Cymru dros y misoedd i ddod yn hyrwyddo’r record yn


“Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o’n magwraeth ni yn Llanuwchllyn.”

dilyn lansiad yn y capel lleol lle gafodd yr albwm ei recordio. “Fe wnaethon ni recordio’r albwm yng Nghapel Llanuwchllyn oherwydd ein bod ni eisiau sŵn byw, ac mae acwstics capeli yn grêt,” meddai Osian. “Ti’n gallu clywed sŵn dŵr yn rhedeg trwy’r radiators. Roedden ni’n cadw unrhyw beth fel yna i mewn, i ychwanegu at y naws yr oeddan ni isio’i gyfleu.” Fe wnaeth Siddi bwynt o gael cyfeiliant gitâr a phiano yn unig i’r holl ganeuon. Gallai hynny fod wedi bod yn ddiflas, ond gyda gallu cerddorol arbennig a lleisiau meddal y ddau, mae’n gweithio’n hyfryd. Yr unig gân lle wnaethon nhw dorri’r rheol honno oedd ar ‘Gormod’, fy hoff gân i ar yr albwm. Cân sy’n dechrau’n araf ac yn gorffen yn wyllt ac yn fy atgoffa o rywbeth gan The Go! Team. “Mae ’na ormod o symbals ar honna,” meddai Osian. A dyna ddangos faint dwi’n ei wybod. Rhif 1 yn Siart C2 Roedd dyddiad rhyddhau’r albwm yn risg i Siddi. Ers y cyntaf o Ionawr mae’r corff hawliau darlledu, Eos, wedi gwrthod gadael i’r BBC chwarae 30,000 o ganeuon mewn anghydfod am daliadau i gerddorion a chyfansoddwyr. Mae Branwen ac Osian yn aelodau o Eos felly beth yw eu barn nhw ar yr anghydfod? “Mai’n bechod ofnadwy ei bod hi wedi dod i hyn,” meddai Branwen. “Ac i ni, sydd newydd ryddhau albwm, mae’n dangos pwysigrwydd gwasanaeth C2 i hybu cerddoriaeth Cymraeg.”

“Ond be’ sy’n ddoniol,” meddai Osian, “ydi bod Siddi wedi cyrraedd rhif 1 yn siartiau C2 ym mis Ionawr. Dwi ddim yn dallt sut mae hynny’n gweithio!” Nid Siddi yn unig sy’n cadw Osian a Branwen yn brysur ar hyn o bryd. Osian yw prif leisydd Candelas, sydd hefyd yn bwriadu rhyddhau albwm eu hunain eleni. “Mae’r albwm yn barod i’w chymysgu rŵan ond dydan ni ddim mewn unrhyw fath o frys oherwydd y streic,” meddai Osian. Ac mae’r ddau ohonyn nhw wrth gwrs yn aelodau o’r band sy’n tyfu o hyd, Cowbois Rhos Botwnnog, sy’n golygu fod ’na ddau set o berthnasau yn rhan o’r band hwnnw erbyn hyn. Un peth wnaeth dynnu fy sylw i wrth dderbyn Un Tro yn y post oedd y gwaith celf. Mae’r gwaith gan Osian Efnisien yn syml ond trawiadol, ac mae llawes y record sydd wedi ei wneud o ddeunydd cardbord wedi ei ailgylchu hefyd yn ychwanegu at y teimlad homemade bwriadol mae’r ddau wedi ceisio’i gael gyda sŵn y record. “Naethon ni weld gwaith Osian ar y we a meddwl ei fod o’n wych,” esbonia Branwen. “Ond dim tan ar ôl i’r albwm fynd allan nes i ddarganfod mai fo wnaeth y gwaith celf i albwm Y Rei, ac mi o’n i yn y band hwnnw hefyd!” Cyn i mi ffarwelio â Siddi am y tro, â’r mygiau o goffi yn wag, roedd rhaid i mi ofyn un cwestiwn arall. Ydyn nhw’n coelio mewn tylwyth teg? “Na,” meddai Branwen. “Ond maen nhw’n bod.” y-selar.com

9


Brodyr a Chwiorydd Ac fel pe bai bodolaeth posib tylwyth teg ddim yn ddigon, dyma rywbeth arall i gnoi cil drosto wrth wrando ar albwm newydd Siddi. Nid nhw yw’r unig fand Cymraeg sy’n cynnwys brodyr a chwiorydd. Dyma un ar ddeg o hoff fandiau Y Selar sy’n cynnwys perthnasau. Cowbois Rhos Botwnnog Er mai’r tri brawd, Aled, Dafydd ac Iwan Hughes, oedd yn y band i ddechrau, maen nhw erbyn hyn yn tyfu gyda phob gig ac wedi ychwanegu Branwen ac Osian Siddi i’w rhengoedd hefyd.

Ail Symudiad Richard ac Wyn Jones ddechreuodd y band Ail Symudiad yn ardal Aberteifi yn 1978. Aeth y ddau frawd ymlaen i sefydlu label recordiau Fflach.

Clinigol Er yr holl westeion gwadd sy’n rhan o’r albwm diwethaf, y ddau frawd, Geraint ac Aled Pickard yw asgwrn cefn y grŵp dawns, Clinigol.

Beganifs/Big Leaves/Sibrydion Allwch chi ofyn am fwy na bod yn rhan o dri o fandiau gorau’r 20 mlynedd diwethaf? Mae’n werth gofyn i Meilir ac Osian Gwynedd.

Angylion Stanli Does ’na ddim llawer yn cofio’r band yma o’r 80au ond maen nhw’n werth sôn amdanyn nhw dim ond oherwydd enwau’r ddau frawd - Huw “Wirion” Roberts ar y gitâr a Glyn “Goll” Roberts ar yr allweddellau.

Gorky’s Zygotic Mynci Gyda chaneuon Euros Childs ac alawon ffidl ei chwaer, Megan. Perffeithrwydd ar waith.

Topper Os ydach chi’n cofio’r 1990au, ddylech chi gofio Dyfrig ac Iwan Evans yn Topper. Os nad ydach chi’n cofio’r 90au, gawsoch chi golled enfawr. Plethyn Roy a Linda Griffiths a Paul Gittins oedd Plethyn. Gyda harmoneiddio bendigedig, mae’n enghraifft berffaith o ganu gwerin Cymraeg ar ei orau.

10

y-selar.com

Plant Duw Tri brawd hynod gerddorol, Connor, Rhys a Sean Martin sy’n cario’r grŵp pync roc yma i uchelfannau. Brigyn Y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts. Bechgyn neisia’r sin roc a phop. Ffaith. Carlotta Cyn iddi dorri ei chwys ei hun, roedd Elin Fflur a’i brawd, Ioan, yn rhan o’r band Carlotta. Fe wnaethon nhw ryddhau un EP.


comedi gwleidyddiaeth cerddoriaeth ffilmiau newyddion

beth hoffet ti weld? yn darlledu ar-lein ar

sianel62.com Mi fydd y chwyldro ar y teledu

£14.95 yr un

Beiblau i bob bysgwr! www.ylolfa.com

OS IA U

Am fwy o fanylion cysylltwch â greg@cymdeithas.org

22/2/13 11:02:31

BO

BN

OS

IA

10 .0

U

0

BO BN

hysbyseb sianel 62 selar.indd 1

IA

U

10 .0

0

Mae Rondo a Rownd a Rownd wastad yn cefnogi bandiau a chanu cyfoes Cymraeg

U OS

IA

BN

BN

BO

10 .0

0

BO

0 10 .0

Rownd a Rownd am 7.30 bob nos Fawrth a Iau o’r 23ain o Ebrill ymlaen

OS

Llongyfarchiadau i bawb

Mae labeli Sain, Rasal, Copa a Gwymon yn falch iawn o fod yn rhan o noson Gwobrau’r Selar eleni, a dymunwn pob llwyddiant i’n hartistiaid i gyd

w w w. s a i n w a l e s . c o m


Gwobrau’r Selar 2012 12

y-selar.com

Rhestr Fer: Heno yn yr Anglesey / Geiban – Y Bandana Mynd a Dod – Sŵnami Sara // Nofa Scosia – Sen Segur Enillydd: Heno yn yr Anglesey/Geiban – Y Bandana Tri grŵp ifanc sydd wedi cael blwyddyn dda ar restr fer y categori yma. Y Bandana sy’n cipio’r wobr eleni gyda’u sengl dau drac a ryddhawyd yn ddigidol ar Rasal ym mis Gorffennaf. Caneuon bachog a chofiadwy sydd wedi cael llwyth o airplay. Categori: Digwyddiad Byw Gorau Rhestr Fer: Gŵyl Gwydir Maes-B, Eisteddfod Bro Morgannwg Hanner Cant Enillydd: Hanner Cant Roedd yn flwyddyn dda o ran digwyddiadau byw nodedig, ac yn ogystal â’r uchod roedd y Daith Werin Gyfoes, Taith Nyth, Gŵyl Sŵn a Thaith Hanner Cant yn rai a allai’r rhwydd iawn fod ar y rhestr fer. Ond, digwyddiad mwyaf cofiadwy y flwyddyn oedd gig dathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Mhontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf.

Categori: Hyrwyddwr/wyr Gorau Rhestr Fer: Criw Nyth Cymdeithas yr Iaith Guto Brychan Enillydd: Criw Nyth Mae Guto B. yn dal i wneud gwaith da’n hyrwyddo digwyddiadau yng Nghlwb Ifor Bach a Maes-B, tra bod Cymdeithas yr Iaith wedi cael blwyddyn brysur gyda gigs y Steddfod, Taith Hanner Cant ac wrth gwrs gig mawreddog Hanner Cant. Ond ar y brig eleni mae Criw Nyth sy’n trefnu gigs rheolaidd yn y brifddinas ac wedi ymestyn eu gorwelion at wyliau amrywiol, a thaith Eingl-Gymreig! Categori: Band neu Artist Newydd Gorau Rhestr Fer: Nebula Plu Y Bromas Enillydd: Y Bromas Gwych gweld tipyn o fandiau newydd yn creu argraff eleni ac mae tri arbennig o addawol wedi cyrraedd y rhestr fer. Y grŵp o Gaerfyrddin, Y Bromas sy’n mynd â hi eleni – edrych mlaen i glywed mwy ganddyn nhw yn 2013, gan ddechrau gyda’r sesiwn ar Y Lle sy’n rhan o’r wobr! Llun: Iolo Penri, Antena

Ydy, mae’r amser hynod gyffrous yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto – rydan ni’n barod i ddatgelu enillwyr Gwobrau’r Selar! Chi, y cyhoedd a darllenwyr Y Selar sy’n pleidleisio dros Wobrau’r Selar. Mae’r ymateb wedi bod yn wych eto eleni, ac wrth gwrs am y tro cyntaf erioed rydan ni wedi cynnal Noson Wobrau arbennig i ddathlu llwyddiant y flwyddyn a fu. Pwy gipiodd y gwobrau eleni felly?

Categori: Record Fer Orau

Y Bromas


Categori: Cân Orau Rhestr Fer: Mynd a Dod – Sŵnami Heno yn yr Anglesey – Y Bandana Eira – Sŵnami

Categori: Cyflwynydd Gorau Rhestr Fer: Lisa Gwilym Huw Stephens Huw Evans

Categori: Gwaith Celf Gorau

Enillydd: Lisa Gwilym Mae’r bobl sy’n dod â cherddoriaeth i glustiau’r genedl yn bobl hynod o bwysig, a dyma gategori pwysig i dalu teyrnged iddyn nhw. Am yr ail flwyddyn yn olynol, yr hyfryd Lisa Gwilym sy’n cipio’r teitl eleni, a hynny’n gyfforddus.

Categori: Band Byw Gorau Rhestr Fer: Cowbois Rhos Botwnnog Candelas Y Bandana

Enillydd: Heno yn yr Anglesey – Y Bandana Gormod o senglau wedi hollti pleidlais Sŵnami efallai? Ta waeth am hynny, ar ôl cipio teitl Record Fer Orau, mae un o draciau sengl Y Bandana wedi dod i’r brig yng nghategori Cân Ora ac o ganlyniad yn cipio £1000 trwy garedigrwydd Cân i Gymru hefyd! Bonws!

Rhestr Fer: Eira – Sŵnami Draw Dros y Mynydd – Cowbois Rhos Botwnnog Discopolis – Clinigol Enillydd: Discopolis – Clinigol Gyda mwy o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau’n ddigidol, mae unrhyw un sy’n

rhyddhau recordiau neu CDs ‘caled’ yn rhoi tipyn o bwyslais ar y clawr felly mae hwn wedi dod yn gategori cryf. Diddorol bod gwaith celf digidol Sŵnami ar y rhestr fer felly, ond dyluniad trawiadol albwm ddwbl Clinigol gan Chris Maguire sy’n mynd â hi eleni. Categori: Artist Unigol Gorau Rhestr Fer: Al Lewis Gwenno Gai Toms Enillydd: Al Lewis Dyma’r categori agosaf eleni, a thrwch blewyn oedd ‘na rhwng y ddau ddaeth i’r brig. Mae Gwenno a Gai Toms wedi rhyddhau cynnyrch gwych yn ail hanner y flwyddyn, ond er canolbwyntio’n fwy ar y farchnad tu hwnt i Gymru’n ddiweddar Al Lewis sy’n cipio’r teitl am yr ail flwyddyn yn olynol.

Enillydd: Y Bandana Gigio ydy bara menyn grwpiau Cymraeg, felly mae’r categori yma bob amser yn un difyr. Tri grŵp sydd wedi gigio’n gyson dros y flwyddyn sydd ar y rhestr fer, ac heb os mae’r tri yn haeddu’r gydnabyddiaeth. Rhaid cael enillydd, ac, yn cwblhau’r hattrick ar ôl ennill y teitl yn 2010 a 2011 mae Y Bandana, gan fachu £1000 arall diolch i Cân i Gymru! y-selar.com

13


10 Uchaf Albyms

2 0 1 2

Oce, beth am i ni fod yn onest, doedd hi ddim y flwyddyn fwyaf cynhyrchiol o ran albyms Cymraeg newydd. Efallai bod hynny’n adlewyrchu lle mae cerddoriaeth arni’n gyffredinol ar hyn o bryd gyda’r byd digidol yn gwneud lawr lwytho traciau unigol yn fwy poblogaidd...pwy a wyr. Er bod y niferoedd albyms newydd yn isel, roedd y safon yn uchel a heb os daeth ‘na ambell berl i’r golwg dros y flwyddyn. Hen ddigon i ni allu llunio’n rhestr 10 uchaf flynyddol felly, ac eleni am y tro cyntaf, chi’r darllenwyr sydd wedi penderfynu ar drefn y rhestr gan fod ‘Record Hir Orau’ yn rhan o bleidlais ‘Gwobrau’r Selar’ eleni. Heb oedi ymhellach felly...

10

Gwyliau - Dewi Williams Label: Final Vinyl. Rhyddhawyd: Mehefin Albwm cysyniadol gan foi dirgel o Glynnog Fawr sydd wedi bod mewn amryw grwpiau dros y blynyddoedd yn cynnwys Baswca, Y Crwyn, Defaid a Sgwarnogs. Mae Gwyliau’n mynd â ni ar siwrnai gerddorol anhygoel trwy gyfrwng synau reggae, ska, roc a dawns mae’n albwm sy’n tyfu arnoch chi gyda phob gwrandawiad. “Mae’n gywilydd nad yw hon wedi cael mwy o sylw yn y cyfryngau, a’r clod mae’n haeddu” meddai Owain Schiavone, “fy hoff albwm i o 2012 heb os nac oni bai”.

09

Cana Dy Gân - Dafydd Iwan Label: Sain. Rhyddhawyd: Awst Roedd hi’n flwyddyn o benblwyddi arwyddocaol, ac un amlwg o safbwynt artistiaid Cymraeg oedd hanner canmlwyddiant o berfformio’r bytholwyrdd Dafydd Iwan. Mae’n siŵr mai fo ydy artist Cymraeg mwyaf cyson boblogaidd y 5 degawd diwethaf a chwarae teg i Sain fe wnaethon nhw ddathlu’r achlysur trwy gyhoeddi casgliad cyflawn o’i gerddoriaeth. 219 o ganeuon wedi

14

y-selar.com

eu recordio rhwng 1966 a 2011, a’u gwasgaru dros ddeuddeg CD.

08

Ffydd, Gobaith, Cariad Fflur Dafydd Label: Rasal. Rhyddhawyd: Mehefin Pedwerydd albwm y gyfansoddwraig o Gaerfyrddin, a datblygiad pellach yn y sŵn arbennig mae Fflur bellach wedi’i greu i’w hun. Mae’r casgliad yn un teimladwy sy’n cynnwys teyrngedau i nifer o bobl, ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y gân ‘Ray o’r Mynydd’ er cof am Ray Gravell a’i fersiwn gerddorol o lythyr Paul at y Corinthiaid, ‘Ffydd, Gobaith, Cariad’. “Mae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.” [Ifan Edwards, Y Selar, Awst 2012]

07

Buzz - Pry Cry Label: Disglair. Rhyddhawyd: Ebrill Ymddangosodd albwm cyntaf Pry Cry o unlle i’w lawr lwytho am ddim o wefan


disglar.net ym mis Ebrill. Mae’r grŵp sy’n cynnwys Kerry Walters, Gronw Roberts, (Cofi Bach a Tew Shady) ac Endaf Roberts (Kentucky AFC) ac wedi bod yn cydweithio ers 2009. Mae’r albwm yn gasgliad o arddulliau amrywiol sy’n cynnwys gwerin, gwlad, roc ac electro gyda thraciau fel ‘Colli’n Meddwl’ a ‘Diwrnod Braf’ sy’n un o ganeuon y flwyddyn, yn disgleirio.

06

Llwybrau Gwyn Tecwyn Ifan Label: Sain. Rhyddhawyd: Mehefin Yr ail un o hoelion wyth y sin i gyrraedd ein rhestr eleni. Cafodd bocs set cyflawn Tecwyn Ifan ei ryddhau erbyn Eisteddfod yr Urdd ac mae’n drysor. Roedd hefyd yn cynnwys saith o draciau newydd arbennig sy’n dangos bod yr awen dal yn fyw ac yn iach yn enaid y cawr cerddorol yma. “Mae’n llwyddo i gyfansoddi caneuon oesol, yn hen fel aur ond yn feiddgar eu neges ar yr un pryd...Pwy a ŵyr, efallai mai yn y mwstas ‘na mae’r majic.” [Casia Wiliam, Y Selar, Awst 2012]

05

Sibrydion v Draenog Label: JigCal. Rhyddhawyd: Rhagfyr Dyma chi un o recordiau mwyaf diddorol y flwyddyn. 10 o draciau Sibrydion, wedi eu tynnu o ddau albwm sef Simsalabim a Campfire Classics, ond wedi eu hail-gymysgu gan gitarydd y grŵp Drymbago, Luke Evans. Mae Luke yn gynhyrchydd dub reit adnabyddus, ac mae wedi llwyddo i roi ei stamp arbennig ar ganeuon Sibrydion fan hyn.

04

Dydi Fama’n Madda i Neb Twmffat Label: Recordiau Bos. Rhyddhawyd: Mehefin Dyma ail albwm yr enigma Ceri Cunnington a’i gyfeillion - yn rhyfedd iawn, cyrhaeddodd Myfyrdodau Pen Wy yr union un safle yn rhestr ’10 Uchaf Albyms’ 2010! Yng ngeiriau Ceri, polisi Twmffat ydy ““tollti cynnwys pob dim mewn Twmffat a gweld be di’r canlyniad” ac mae hynny i’w weld yn yr amrywiaeth sŵn sy’n cynnwys roc, gwerin, ska a dub. “Albwm llawn caneuon bachog ond caneuon efo testun go iawn i gnoi cil arno hefyd.” [Heledd Williams, Y Selar, Awst 2012]

03

Bethel - Gai Toms Label: Sbensh. Rhyddhawyd: Rhagfyr Dyma ail albwm Gai Toms, a thri cyn hynny fel ‘Mim Twm Llai’ wrth gwrs. Mae’n albwm dwbl, wedi’i recordio yn yr hen festri capel mae’n gobeithio’i droi yn stiwdio, sy’n talu teyrnged i’r adeilad. Mae llu o artistiaid ardal Ffestiniog wedi cyfrannu gan roi teimlad cymunedol bron iddo. “Mae hi’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel.” [Ciron Gruffydd, Y Selar, Ebrill 2013]

02

Discopolis - Clinigol Label: One State Records. Rhyddhawyd: Chwefror Ail albwm Clinigol, yn dilyn Melys yn 2009, a’r albwm dwbl gwreiddiol cyntaf i’w ryddhau yn y Gymraeg yn ôl pob tebyg. Mae’r casgliad yn darparu’r union beth rydan ni’n disgwyl ganddynt erbyn hyn - caneuon pop a disco sy’n eich rhoi chi mewn hwyliau parti! Rhywbeth arall sy’n nodweddiadol o Clinigol ydy tynnu cyfraniadau gan ferched dawnus ac mae 9 o’r rhain, gan gynnwys Elin Fflur, Rufus Mufasa, Caryl Parry Jones a Nia Medi. “Beth mae Clinigol yn ei wneud ydy cynnig rhywbeth nad oes unrhyw un arall yn ei wneud yn y Gymraeg ar hyn o bryd - pop budr heb unrhyw gywilydd.” [Owain Schiavone, Y Selar, Ebrill 2012]

01

Draw Dros y Mynydd Cowbois Rhos Botwnnog Label: Sbrigyn Ymborth. Rhyddhawyd: Gorffennaf A dyma ni, albwm orau’r flwyddyn yn ôl darllenwyr Y Selar, gan un o grwpiau gorau’r flwyddyn. Mae’r Cowbois wedi arfer â chipio prif safle’r rhestr hon - eu hail albwm, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn oedd rhif un rhestr 2010. Mae sŵn Draw Dros y Mynydd barhad, neu ddatblygiad o sŵn yr albwm diwethaf, yn sŵn llawer mwy aeddfed na Dawns y Trychfilod (2007). Ydy hon yn well na’r albwm diwethaf? Anodd dweud, ond mae mwy o ddyfnder i’r sŵn heb os, ac mae traciau fel ‘Yno Fydda i’, ‘Llanw Ucha’ Erioed’ a ‘Cyn Iddi Fynd Rhy Hwyr’ mewn peryg o ddod yn glasuron Cymraeg. “Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog. Y cwestiwn ydi, lle fyddan nhw’n mynd nesa?” [Ciron Gruffydd, Y Selar, Awst 2012] y-selar.com

15


9Bach Fe fu’r band gwerin o Gymru, 9Bach, yn perfformio yng Nghynhadledd y Gynghrair Werin yn Toronto yn ddiweddar. Cafodd Lisa Jên a’r criw eu gwahodd i’r ‘Folk Alliance Conference’ ar ôl creu argraff yn WOMEX yn Copenhagen yn 2010. Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr y byd gwerin ac yn gyfle gwych i grwpiau ac artistiaid rannu eu cerddoriaeth â phobl o’r un anian o bob rhan o’r byd. Gyda chefnogaeth Cerdd Cymru fe aeth 9Bach i Ganada i berfformio yn y ffair swyddogol a hefyd mewn cyfres o setiau preifat i hyrwyddo’u cerddoriaeth dros gyfnod o bum diwrnod. Yno hefyd yn chwarae ambell gig answyddogol yr oedd yr hyfryd, Georgia Ruth. Mae 2013 wrth gwrs yn flwyddyn fawr o ran hyrwyddo

ac allforio cerddoriaeth yng Nghymru gan fod gŵyl WOMEX (ffair byd eang y diwydiant cerddoriaeth), yn dod i Gaerdydd yn yr Hydref. Cerddoriaeth Gymraeg yn teithio’r byd a cherddoriaeth y byd yn dod i Gymru – newyddion da.

Breuddwydion Project Dim yn aml iawn fyddwch chi’n gweld deunydd aml gyfrannog yn cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg ond dyna’n union yw y Breuddwydion Project – albwm aml gyfrannog newydd i godi arian tuag at elusen y Joshua Foundation. Un o gyfranwyr Y Selar ac aelod o’r grŵp Y Rwtch, Cai Morgan, sydd yn cydlynu’r cyfan ac mae hi’n argoeli i fod yn dipyn o albwm. Bydd 16 o fandiau ac artistiaid yn cyfrannu i’r casgliad i gyd, i gefnogi’r elusen a gafodd ei sefydlu yn 1998 i roi profiadau gwerthfawr i blant sy’n dioddef o gancr terfynol. Albwm ddwy ieithog yw hi a’r cyfranwyr Cymraeg fydd Clinigol, Colorama, Cowbois Rhos Botwnnog, Hud, The Joy Formidable, Y Rwtch, Yr Angen a’r Bandana. Bydd gig arbennig yn cael ei chynnal i lawsio’r cwbl ar y 14eg o Fawrth, a hynny ym Mar Gwdihw yng Nghaerdydd, dafliad carreg o brif swyddfa’r elusen yn y Brifddinas. Yn chwarae ar y noson fe fydd Clinigol, Hud, The People The Poet, Safari Gold a Peasants. Yna, fe fydd y casgliad ar gael i’w lawrlwytho o wefannau megis iTunes, Spotify ac Amazon. Pob lwc i’r prosiect gan bawb yn Y Selar – edrych ymlaen at ei hadolygu yn y rhifyn nesaf.

16

y-selar.com

Colorama ar Daith Artist arall o Gymru fydd yn teithio dramor yn 2013 yw Carwyn Ellis, Colorama. Bydd Carwyn yn teithio Sbaen, Gwlad y Basg a Chatalwnia fel rhan o fand Edwyn Collins ond yn chwarae cerddoriaeth Colorma mewn rhai gigs hefyd. Bu Colorama yn teithio Cymru a Lloegr fel band llawn yn ystod mis Chwefror ac fe fydd mis Mawrth Carwyn fel un bennod hir o Sgorio wrth iddo ymweld â Burgos, Bilbao, Madrid, Zaragoza, San Sebastián a Barcelona. Bydd hwn yn gyfle i’r cerddor gweithgar hyrwyddo EP newydd y band, Do The Pump Digi, ond dwi’n siŵr y bydd darllenwyr y Selar (fel aelodau eraill y band!) yn gobeithio na fydd Carwyn yn mwynhau ei hun ormod yn Sbaen, ac y bydd yn dychwelyd i Gymru ac yn rhyddhau mwy o ddeunydd Cymraeg yn fuan.

Gwydir yn Hanner Llawn Mae cerddoriaeth fyw Gymraeg yn debyg i lyfr da yn iaith y Nefoedd, yn yr ystyr ei bod hi’n anodd iawn dod o hyd iddo fo rhwng y ’Dolig a’r haf. Que Gŵyl Hanner Gwydir. Fydd dim rhaid i chi gladdu eich wyau Pasg yn ddi gyfeiliant eleni achos mae chwaer fach ddireidus Gŵyl Gwydir yma i’ch arwain chi ar gyfeilion. Mae Gŵyl Gwydir, Llanrwst, wedi hen ennill ei phlwyf fel un o ddigwyddiadau byw


Gig Olaf y Race Horses Fyddwn ni ddim yn adolygu gigs ar dudalennau’r Selar fel arfer ond mae’n rhaid gwneud eithriad y tro hwn. Wedi’r cwbl, ddim yn aml y mae un o fandiau pwysicaf cenhedlaeth gyfan yn chwarae eu gig olaf. Dyna’n union ddigwyddodd yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Chwefror wrth i’r Race Horses dynnu’r plwg o’r amp am y tro olaf. Roedd llawr uchaf Clwb yn orlawn a set wych Houdini Dax yn rhagflas perffaith i’r prif gwrs o geffyl, a wnaeth y rocars seicadelig ddim siomi. A dweud y gwir, er mai ar y llawr uchaf y dechreuodd y gig ro’n i’n poeni braidd ar un adeg y byddai hi’n gorffen yn y llawr canol, cymaint oedd brwdfrydedd y dawnswyr gwyllt yn y tu blaen. Tri gair... Safon... Agwedd... Emosiwn.

Does yna neb cweit yn rhoi adloniant i’r dorf fel y Race Horses. Roedd y cwbl mor dynn â chaead pot jam, ac roedd croesawu’r cyn aelod, Alun Gaffey, i’r llwyfan am gân neu ddwy yn gyffyrddiad neis. Ac i’r rhai oedd yn meddwl bod y band wedi anghofio’r Gymraeg pan ddiflannodd Radio Lux, wel, doeddan nhw ddim yn meddwl hynny pan oedd Meilir yn ei ddagrau bron a bod wrth ddod â’r bennod bwysig yma o hanes cerddoriaeth Gymraeg i ben gyda pherfformiad bythgofiadwy o ‘Marged Wedi Blino’. Mae yna boeni am ddyfodol Clwb Ifor, ond beth bynnag fydd hanes yr hen le fe fydd nosweithiau fel hyn yn aros yn y cof am byth. [Gwilym Dwyfor]

pwysicaf y flwyddyn gerddorol yng ngogledd Cymru a does ryfedd felly fod y selogion yn awchu am damaid i aros pryd. Dyna’n union fydd ar gael ar ddydd Sadwrn penwythnos y Pasg eleni gyda Gŵyl Hanner Gwydir. Mae’r ŵyl yn dychwelyd i’w chartref gwreiddiol yn nhafarn y New Inn a’r Legion yng nghanol tref Llanrwst ac mae’r lein-yp yn un gwbl wahanol i’r prif ddigwyddiad. Fe fydd Sweet Baboo, Dan Amor, Siddi, Tom Ap Dan, Casi Wyn a Rob Dodd i gyd yn perfformio yn y New Inn yn y prynhawn cyn i’r parti symud i’r Legion ar gyfer setiau We Are Animal, Cowbois Rhos Botwnnog, Afal Drwg Efa a DJ Fuzzyfelt. Gŵyl Hanner Gwydir – Enw grêt, lein-yp gwell, ewch!

Griff yn Ffarwelio â’r Race Horses Pan fyddai’n meddwl am grwpiau sydd wedi dylanwadu arna i’n gerddorol, roedd Radio Luxembourg heb os yn un o’r bandia’ wnaeth wneud i mi godi oddi ar fy nhin a mynd ati i sgwennu cerddoriaeth o ddifrif. Nhw hefyd oedd y band cyntaf wnaeth wneud i mi sylweddoli fod Yr Ods ddim cweit mor dda yn fyw ag o’n i’n ei feddwl, o’n cymharu â’r meistri o Aberystwyth gyda’i sŵn phsych tynn. Bu caneuon fel ‘Pwer a Fflwer’, ‘Lisa, Magic a Porva’ ac ‘Os chi’n lladd Cindy’ yn sŵn cefndir i arddegau ambell un, a heb os yn ysbrydoliaeth i nifer fynd ati i ffurfio band. Wrth fabwysiadu’r enw Race Horses, a chroesawu drymiwr newydd i’r mics datblygodd y sŵn, a phrofodd y band lwyddiant tu hwnt i Gymru; rhyddhau albwm ar label Fantastic Plastic, perfformio mewn gwyliau led-led Prydain, a chael clod gan orsafoedd megis Radio 1 a 6 Music. Efallai nad ydy ambell un yn sylweddoli pa mor galed weithiodd y grŵp am y 3-4 blynedd wedyn. Yn teithio’n ddi-baid, rhoi gyrfa bersonol i’r neilltu, ychwanegu aelodau fel Mali a Dan i ddatblygu’r sŵn ymhellach, a pharhau i ysgrifennu deunydd Cymraeg trwy’r cwbl. Mae’n rhywbeth cadarnhaol fod y band wedi teimlo’r awydd i ysgrifennu yn Gymraeg yng nghanol eu hymdrech i sicrhau gyrfa gerddorol ehangach. Mae’n bechod fod y grŵp yn dod i ben, ar drothwy taith gyda’r Kaiser Chiefs, a fyddai (o bosib) wedi dod â sylw bydeang i’r band. Ond yn anffodus doedd pethe ddim i fod. Mae ’na ormod ohona ni (gan gynnwys fi!) yn euog o roi hanner ymdrech i fod yn greadigol ar brydiau, creu cerddoriaeth am y rhesymau anghywir yn hytrach na rhoi eu holl i’r gelfyddyd, a gweithio’n galed ar eu crefft o ddydd i ddydd. Roedd clywed bod Gwion yn methu dod am beint gan ei fod mewn sesiwn ymarfer ddeg awr yn dueddol o neud fi’n sâl. Doedd Race Horses ddim yn euog o ddiogi a dyna sydd yn aros yn y cof wedi iddynt gamu oddi ar y llwyfan am y tro olaf yng Nghlwb Ifor Bach. y-selar.co.uk

17


Lluniau: Betsan Evans

“Dwi’n meddwl bod pobl yn mynd i droi rownd a chael sioc fawr o feddwl bod hi’n bosib cael rhywun yng Nghymru sy’n ’neud y math yma o beth.” Cryno albwm, taith o amgylch Cymru a chasgliad goreuon - mae JJ Sneed yn bwriadu gadael y sin mewn steil. Casia William fu’n holi mwy.

18

Mae Alun Reynolds, neu JJ Sneed i’w ffrindiau a’i ffans, wedi bod yn creu cerddoriaeth ers iddo fod yn un ar bymtheg, ond nawr, ac yntau ar drothwy pen-blwydd pwysig arall, mae o ar fin rhoi’r air sax yn y to. Pam tybed? Beth yw barn y DJ am sin electroneg Cymru? Oes ganddo ragor o gerddoriaeth i’w rannu efo’r byd cyn ei ben-blwydd a’i adieu? Ac oes cynlluniau ar gyfer y big ta-ta? Wel darllenwch a chwi a gewch wybod. Dwi’n pendroni, tybed sut mae llanc o Bontypridd yn dechrau ymddiddori mewn dub step. “Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn cerddoriaeth ers i fi fod yn ifanc, o’n i wastad yng nghôr yr ysgol a’r gân actol ac yn y blaen… ac wedyn pan o’n i tua 16 o’n i yn fy mand cyntaf yn gigio mewn pybs a clybs ac aeth e’ o fan’na rili” 12 Gauge Alliance oedd band cyntaf Alun, ond wrth recordio yn y stiwdio daeth i sylweddoli bod ganddo ddiddordeb mawr yn yr ochr

y-selar.com

electroneg o’r gerddoriaeth hefyd. “Pan ’etho ni i recordio’r albwm gyda’r band ’odd element o electroneg yna, a nes i helpu lot efo’r recordio yn y stiwdio ac wrth ddatblygu’r sŵn. Ac o’n i’n gweld fy hun yn ’ware ambwyti lot gyda synths ac yn dechre dod â drum loops i mewn a ’neud pethe o’n i moyn neud o’r cychwyn.” Felly roedd mynd ar ei liwt ei hun yn benderfyniad amlwg ar y pwynt yma? “Ie, o’n i moyn element electroneg yn fy mywyd felly nes i feddwl pam ddim ’i neud e’ fy hunan, ro’n i moyn gwneud rhywbeth gwahanol.” Roedd David Bowie ymysg rhai o ddylanwadau cynnar JJ Sneed, yn ogystal â Tears for Fears, ac yn ddiweddarach Aphex Twin. Ar y pwynt yma, fel ffan Bowie fy hun, mae’n rhaid i mi ofyn beth mae JJ yn feddwl o’i gân newydd. “Ma’n fideo mor weird! Ma’n atgoffa fi o fideos yr Aphex Twins, ma’ nhw’n neud stwff rili creepy. Ie, so fideo weird ond cerddoriaeth amazing. Pan o’n i’n tyfu lan, sŵn y byd electroneg o’n i’n hoffi rili. O’n i wastad yn mwynhau gwrando ar garage a dub step, fi’n rili hoffi base lines


dub hefyd, a tua 2010 dyna pryd nes i ddechre arbrofi.” ‘Cic lan tîn y sin’ Mae JJ Sneed wedi parhau ar hyd y llwybr electroneg gan fynd yn drymach dybiwn i (welsoch chi be’ nes i’n fan’na?), a ffrwyth diweddaraf ei lafur yw’r ‘mini-albwm’, Debula. Mae’r albwm allan ar label Tarw Du cyn bo hir ac yn ôl Alun mae’n mynd i “roi sioc enfawr i bawb.” Ym mha ffordd? Holaf yn eiddgar... “Ma’na bethe trancy arno fe, bach o stwff roci, fel roc electroneg, mae’n hollol nyts, ma’ fe’n fwy dub a fwy caled nac erioed.” Mae’r sengl ‘All Goll’ eisoes wedi ei rhyddhau oddi ar yr albwm ac ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar band camp ac mae wedi cael ymateb da meddai Alun, felly mae’n edrych ymlaen at glywed beth fydd pobl yn feddwl o Debula. “Ma Debula (Dracula, but dub step) yn mynd i roi cic lan tîn y sin Gymraeg. Mae ’na stwff electroneg mas ’na ond fi’n neud rhywbeth gwahanol. O’n i moyn taflu rhywbeth hollol hollol wahanol i be’ sy’ mas ’na ar hyn o bryd.” Mae JJ Sneed wedi bod yn gweithio ar yr albwm yma ers tro, er mwyn sicrhau bod y deunydd gorffenedig yn union beth yr oedd wedi bwriadu ei greu. “Ma’n mynd i rili rhoi sioc enfawr i bawb achos bod ’na drafodaeth fawr yng Nghymru ynglŷn â post production a production yn y stiwdio, a dwi wedi treulio dros flwyddyn yn neud y peth a neud y peth yn iawn - fi moyn gorffen ar y top. Dwi’n meddwl bod pobl yn mynd i droi rownd a chael sioc fawr o feddwl bod hi’n bosib cael rhywun yng Nghymru sy’n ’neud y math yma o beth.” Beth yw barn JJ Sneed am y sin electroneg yng Nghymru felly? “Ma’na bobl yng Nghymru sy’n neud yr un peth ond sydd ddim yn cal yr un exposure â’r grwpiau pop a roc sydd allan yna. Mae’r sin wedi bod o gwmpas ers tro os ti’n meddwl am Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog a

Er bod JJ Sneed yn teimlo bod angen newid mawr ar y sin, mae’n teimlo ei fod o bellach wedi cyrraedd diwedd cyfnod, ac yn bwriadu rhoi’r gorau iddi am y tro ddiwedd y flwyddyn. Ond, yn y cyfamser, mae ’na gynlluniau mawr ar y gweill! Yn dilyn rhyddhau Debula, fe fydd cyfres o gigs ledled Cymru, gan gynnwys Gig Chwyldro Electroneg yn Theatr Soar, Merthyr ar yr 17eg o fis Mai. “Dwi’n edych ymlaen at hwnna. Mae e’ tua dechrau’r daith ac mae’n mynd i fod yn gig ddiddorol. Bydd e’n profi bod cefnogaeth yn y de i’r sin electroneg.” A daw’r daith fawreddog i ben gyda gig ar ddiwrnod pen-blwydd Alun yn 30. Da de! Ac ar ben hyn i gyd, fe fydd JJ Sneed hefyd yn rhyddhau albwm o oreuon cyn diwedd y flwyddyn. “Bydd e’n gasgliad o Greatest Hits rhwng 2010 a 2013. Fydd ’na lot o B-sides ar yr albwm yna, traciau dwi heb eu rhyddhau, rhai fydd pobl heb

eu clywed oni bai eu bod nhw wedi’u clywed nhw mewn gigs byw.” Felly oes yna unrhyw un neu unrhyw beth all berswadio JJ Sneed i barhau fel artist neu ydy hi wir yn amser rhoi’r air sax yn y to? “Na, dwi wedi dweud bo fi’n rhoi’r gorau iddi. Dwi’n gwybod ’di tair blynedd ddim yn sbel hir i fod ar y sin Gymraeg ond fi wedi bod ar y sin Saesneg ers blynyddoedd. Mae’n siŵr ’mod i wedi ’neud e’ ffordd anghywir ond ma’n amser iddo fe ddod i ben. Falle mewn 5 neu 6 mlynedd lawr y ffordd, ond gawn ni weld.” A chyn i ni ffarwelio, mae’n rhaid i mi ofyn y cwestiwn mawr, yr eliffant anweledig siâp sacsoffon sy’n llechu yng nghornel yr ystafell. Fydd JJ Sneed yn parhau i air-sacsio? “Ie, probabli. Pam lai?” Meddai JJ Sneed dan chwerthin. Hir oes i’r air sacs, a phob lwc i ti yn y dyfodol, meddwn innau.

Crash.Disco! nawr. Mae ’na bobl fi’n eu parchu’n enfawr, mae gen i barch at bawb yn y sin electroneg yng Nghymru ond mae’n siom ’na ’dy ni’n dod at ein gilydd i neud sin gwell, gigio efo’n gilydd ac ati.” “Ma’ angen newid yn y sin yng Nghymru. Ma’ pawb yn hoffi’r folk a’r roc ond ma’ ’na bethe newydd. Os ti’n gwrando ar sioe Annie Mac, ac wedyn yn tiwnio mewn i Radio Cymru, yr un math o bethe yw e’ o hyd. Dwi’n gobeithio neith y sin newid yn y blynyddoedd nesa’.”

y-selar.co.uk

19


adolygiadau BETHEL GAI TOMS O riffs ska Anweledig i naws gwerinol Mim Twm Llai ac o albwm werdd gysyniadol at y gân “fformiwla” enillodd Cân i Gymru 2012 – mae Gai Toms yn gerddor sydd ddim ofn mentro. Ac mae’r un yn wir am yr albwm newydd. Mae Gai Toms wedi buddsoddi mewn festri hen gapel yn ardal Ffestiniog er mwyn ei throi yn stiwdio recordio. Ond cyn iddo ddechrau ar y gwaith, mae wedi mynd ati i greu albwm ddwbl sy’n pontio gorffennol yr adeilad a’r dyfodol newydd. Ac o’r gân gyntaf ar y CD gyntaf, Bethel Hen, sy’n ddeuawd gyda Dr Meredydd Evans oedd yn arfer mynd i ysgol Sul yn y capel, mae Gai Toms yn llwyddo i arwain y gwrandawr ar daith. Mae caneuon fel ‘Y Bonws’ yn ddathliad o’r diwydiant llechi tra bod geiriau Dewi Prysor yn ‘Ar y Moelwyn’ yn paentio llun o’r tirlun mynyddig sy’n amgylchynu tref Blaenau Ffestiniog. Y cyfan i gyfeiliant syml gitar a llais, sy’n teimlo’n weddus fel cerbyd i gofio gorffennol symlach. Mae’r ail CD, Bethel Newydd, ar y llaw arall, yn gynhyrchiad llawn gyda’r band sy’n arddangos dawn Gai fel cerddor sy’n gyfforddus gydag amrywiaeth o steiliau cerddorol – o roc a rôl ‘Anti Paganda’ i dyb ‘Llyn Tekapo’ i sŵn disgo ‘Glaw yr Haf ’. Ond er yr amrywiaeth, i mi mae’r albwm yn gweithio fel cyfanwaith – mae’n rhoi’r teimlad eich bod chi’n cael

cipolwg i fyd arall , byd Gai Toms, sy’n gweithio’n rhyfeddol o dda. Tydi’r albwm ddim yn berffaith ac mae rhai caneuon yn torri ar lif y peth yn fy marn i. Ac rwy’n credu y bydd rhai o ddilynwyr Gai Toms yn ffafrio un CD dros y llall. Ond mae hi’n record sy’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod chithau hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel. 8/10 Ciron Gruffydd

SÊR YN DISGYN ALED RHEON Efallai mai Sêr yn Disgyn yw EP cyntaf Aled Rheon ond does dim ond angen edrych ar restr y cyfranwyr ar y chwe chân i sylweddoli fod yma foi sy’n gwybod beth mae’n ei wneud. Gareth Bonello, Osian Gwynedd, Dan ‘Fflos’ Lawrance ... oes angen dweud mwy? Caneuon acwstig sydd yma, caneuon serch yn bennaf, ac mae dylanwad Bonello yn amlwg iawn ar yr alawon a’r llais hiraethus pruddglwyfus. Peth da yw hynny wrth gwrs achos os ydych chi am gael eich dylanwadu gan unrhyw un ar gyfer y math yma o gerddoriaeth, pwy gewch chi well? Fe wnaiff y casgliad hwn hawlio eich holl sylw o far cyntaf yr hyfryd ‘Tawel Fel y Bedd’ hyd at nodyn olaf y soddgrwth ar y ddeuawd hudolus gyda Greta Isaac, ‘Wy ar Lwy’. Mae’r pumed trac, ‘Muriau (Cama Lawr)’ yn cynnig rhywbeth ychydig bach yn wahanol – sŵn llawnach a thempo ychydig cyflymach. Gall trac fel hwn yn hawdd fod wedi amharu ar daclusrwydd y casgliad ond mae’n llwyddo i aros yn driw i naws y cyfanwaith tra’n cynnig ychydig o amrywiaeth yr un pryd. Fe fydd Aled Rheon yn newydd i rai, yn ymddangos o unman fel pêl droediwr yn sgorio hatric yn ei gêm gyntaf. Ond mae hwn wedi bod yn gweithio’n galed ar y cae ymarfer ers tipyn, ac mae hynny’n dangos. 8/10 Gwilym Dwyfor SUDD SUDD SUDD SEN SEGUR Sen Segur yw band y funud, band y

foment, band NAWR os gofynnwch chi i fi, ond pwy ydw i i ddweud? Oes yna dystiolaeth? Wel oes siŵr iawn, llond crochan o gigs ledled y wlad, aelodau’r band jyst yn rhy cŵl ac yna’r EP newydd hynod smart yma sy’n eistedd yn daclus yn fy llaw. Hwre! EP arall gan Sen Segur! Mae Sudd Sudd Sudd wedi ei rhyddhau gan gwmni recordiau I Ka Ching, sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth gan fandiau mwyaf cŵl Cymru, Siddi, Violas, Jen Jeniro (heddwch i’w llwch) ac wrth gwrs, Sen Segur. Mae’n EP 5 cân ac mae’n hyfryd o lawn a diddorol ac yn un bwndel o ganeuon GWYCH. Dwi eisiau gair gwell i’w ddisgrifio ond does ’na ddim un! Dwi’n caru’r CD yma, mae’r geiriau yn fachog, mae’r gerddoriaeth yn dynn ac mae’n eich gadael chi eisiau mwy mwy mwy- dyw 5 cân ddim yn ddigon! Dyma gasgliad o ganeuon sy’n dangos talent y band a fydd gobeithio’n mynd â nhw gam ymhellach yn y byd cerddorol. Tystiolaeth? Does dim angen mwy o dystiolaeth na hyn… 8/10 Lowri Johnston

100 O GANEUON GWERIN MEINIR WYN EDWARDS Dyma’r ail lyfr cordiau Cymraeg i gael ei gyhoeddi gan Y Lolfa dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn llwyddiant 100 o Ganeuon Pop. Allai’r llyfr hwn ddim bod wedi dod ar amser gwell chwaith gyda’r sin werin gyfoes Gymraeg yn tyfu o fis i fis, a bandiau fel Cowbois Rhos Botwnnog yn arwain y ffordd.


Beth am ddechrau gyda’r clawr… dyw hwn ddim yn mynd i ennill gwobr am waith celf gorau’r flwyddyn o bell ffordd, ond good job fod y cynnwys tu fewn i’r cloriau’n gwneud yn iawn am hynny. Wrth edrych ar y cynnwys fe fydd rhai caneuon fyddwch chi’n gyfarwydd â nhw, fel ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’, ‘Lisa Lân’, ‘Titrwm Tatrwm’, ‘Ar Lan y Môr’... ond fe fydd rhai fyddwch chi heb eu clywed hefyd. Mae yma drawstoriad eang o gerddoriaeth gwerin. Efallai y bydd lot o bobl yn meddwl fod cerddoriaeth gwerin yn gerddoriaeth ddiflas yr oedd rhaid i chi ddysgu amdano yn yr ysgol, ond yn y llyfr yma mae yna lot o ganeuon gwahanol. Caneuon sy’n llawn hiwmor a chwerthin, hwiangerddi, digon o amrywiaeth. A does dim angen bod yn brofiadol iawn i chwarae’r caneuon chwaith. Mae’r cordiau a’r alawon i gyd yn syml iawn ac yn hawdd i’w deall felly peidiwch â phoeni os mai dim ond newydd ddechrau chwarae’r gitâr neu’r piano ydych chi. Ac i’r rhai mwy profiadol ym myd cerddoriaeth mae’r llyfr yn rhoi digon o sgôp i chi fyrfyfyrio a rhoi sbin cerddorol eich hun ar y caneuon hefyd. Felly os ydych chi’n gerddor sydd moyn ychwanegu cwpl o ganeuon gwerinol i’ch repertoire neu’n ddysgwr sydd eisiau dysgu mwy o ganeuon gwerin, dyma’r llyfr i chi. 7/10 Cai Morgan (Fersiwn fideo o’r adolygiad i’w weld ar y-selar.com)

FFRWYDRO MATTOIDZ Wedi cyfnod distaw mae’n braf gweld Mattoidz yn ôl ar y sin yn ddiweddar, wedi’r cwbl, does neb cweit yr un fath â’r rocars o’r gorllewin. Maen nhw wedi bod yn weithgar eto dros y deuddeg mis diwethaf a ‘Ffrwydro’ yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o senglau i gael ei rhyddhau dros y cyfnod hwnnw. Rydyn ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Mattoidz bellach, caneuon pendoncio efo digon o agwedd a solos gitâr. Tydi ‘Ffrwydro’ ddim gwahanol, fe fydd rhai yn hoffi hynny a rhai ddim, syml. Yr hyn sy’n unigryw am Mattoidz wrth gwrs ac yn wahanol i ganeuon yn y genre yma fel arfer yw’r ffaith fod posib deall y geiriau!

‘Ffrwydro’ yw teitl drac y sengl ac mae honno’n gân newydd ond efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio’r ail gân, sef ‘Be’ Ti ’Neud’ oddi ar yr albwm o 2008, Llygaid Cau a Dilyn Trefn. Honno yw fy hôff gân i o’r ddwy er ei bod hi’n amlygu’r ffaith nad oes llawer o ddim byd wedi newid mewn pedair blynedd. Ond os oeddech chi’n ffans o Mattoidz bryd hynny, dyna newyddion da i chi! Mae ‘Ffrwydro’ ar gael yn ddigidol nawr. 6/10 Gwilym Dwyfor UN TRO SIDDI Mae dwy flynedd o waith caled ac arbenigol wedi talu ar ei ganfed i’r brawd a chwaer, Osian a Branwen o Lanuwchllyn. Un o elfennau cryfaf yr albwm yw’r sŵn hynod fyw a naturiol, a’r gyfrinach tu ôl i hyn yw’r lleoliad recordio sef Ysgoldy Llanuwchllyn, a stiwdio Osian

yn y tŷ. Mae’r sŵn mor fyw AID O RHRAND nes y gellir clywed pob GW manylyn bach fel clecian y gwresogyddion yn y cefndir. Mae sŵn yr offerynnau’n sylfaen gadarn hefyd, piano’r Ysgoldy sy’n ychwanegu’r naws ‘tylwyth-tegaidd’ a’r gitâr sy’n atsain o gord i gord - cyfuniad gwych sy’n asio â’i gilydd yn werinol. Ceir defnydd o acordion hefyd, sy’n ychwanegu naws Ffrengig ynghyd â defnydd o ddrymiau a gitâr drydan ar ‘Gormod’ sy’n adeiladu’r stori ac yn trymhau’r arddull. Ac er mor fyw, naturiol ac amrwd yw’r sain, clywir perffeithrwydd pur wrth wrando gyda lleisiau’n asio’n berffaith a phob nodyn yn ei le. Dwi’n eithaf cyfarwydd â chaneuon y band gwerin ond roedd yr albwm yn cynnig rhywbeth newydd sef y traciau offerynnol, ‘Ei gweld hi’n dawnsio’ a ‘Gormod’, sy’n ein cyfeirio’n ddawnus i ran nesaf y stori ond yn llawn teimlad hefyd. Mae ôl dwy flynedd o waith gyda phob nodyn a sill yn llawn teimlad. Dwi wir yn edrych ymlaen at glywed mwy gan Siddi. Prynwch, gwrandewch, llawenhewch. 9/10 Ifan Prys SHUFFLES EP R. SEILIOG Mae Robin Edwards, neu R. Seiliog, yn fwy adnabyddus am fod yn ddrymiwr i H. Hawkline, ond mae ei record gyntaf yn mynd â ni i gyfeiriad cwbl wahanol. Mae’r EP yn cynnwys pum cân o genre electronica arbrofol sydd yn llawn beeps, blips a whooshes ond sydd hefyd yn eich syfrdanu gyda darnau melodic hyfryd. Ond beth sydd yma’n fwy na dim yw amrywiaeth o fewn yr un steil. Mae’r record yn dechrau gyda ‘Sturdy Seams Wingsuit Dreams’ sydd, fel mae’r teitl yn awgrymu, yn rhoi dechreuad breuddwydiol i’r record. Mae ‘Crawl Back Butterfly’ wedyn yn drwm, diwydiannol a pheiriannol. Mae teimlad clinigol ac arallfydol i ‘To Be a Sgerbwd’ ac mae’r riff gitâr yn ‘Gee Geffyl Sbaeneg’ yn rhoi’r teimlad o rodio dros y paith gyda dim ond ceffyl yn gwmni. Mae’r record yn gorffen gyda ‘Legmelt (ty80)’ sy’n cau pen y mwdwl yn daclus ac yn freuddwydiol unwaith eto. 7/10 Ciron Gruffydd


y-selar.co.uk

22

Pa drysorau cerddorol Cymraeg prin sydd wedi bod yn newid dwylo ar wefan fasnachu adnabyddus yn ddiweddar?

Galwad y Mynydd Pris Gwerthu: £37.11 (7 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP iaith Gymraeg 4 trac prin iawn, Wren, WRE1128, diwedd 60au/dechrau 70au. Gwerin / pop/ roc. Band – Derek Brown, Alwyn Daniels, Eifion Daniel, Mike Harries Cyflwr Finyl: Agos at Mint. Labeli: Agos at Mint Clawr: Gwych + Barn Y Selar: EP cyntaf y grŵp a ffurfiwyd yn wreiddiol yn Aelwyd yr Urdd Caerfyrddin, ac a ryddhawyd ym 1972. Roedd Derek Brown hefyd yn aelod o’r grŵp amlwg Hergest, a Derec Brown a’r Racaracwyr. Yn ddifyr iawn mae cefn y clawr yn cynnwys cyfweliad rhwng Sulwyn Thomas â’r grŵp yn eu cyflwyno i’r prynwr! Tipyn o ddiddordeb yn hon sy’n awgrymu ei bod yn gasgladwy. 5 x 45s Cymraeg (70au) – Hergest, Chwyldro, Sidan, Bili Dwocer, E.H. Dafis Pris Gwerthu: £19.54 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Hergest (EP) – Porth y Gair, Blodeuwedd, Adferwch, Myned Adref. Sain 42, 1974. Finyl a labeli mewn cyflwr da iawn, clawr yn dda iawn+ Chwyldro (EP) – Rhaid yw eu Tynnu i Lawr, Carchar Dros yr Iaith, Gymru, Mae Nghariad. Sain 17, 1971. Finyl – gwych; label – agos at mint; clawr gwych+ Edward H. Dafis (EP) – Jane, Hedfan, Braf, Gwersyll Llangrannog. Sain 61E, 1976. Finyl – gwych+, labeli – agos at mint; clawr – da iawn (dim rhwygiadau ond llawer o dŵdls ac ysgrifen Iaith Gymraeg) Sidan (EP) – Ai Cymro wyt ti?, Gobaith, Dyddiau Gwell, Achub yr Iaith. Sain 40, 1973. Finyl – gwych; labeli – agos at mint; clawr – gwych+ Bili Dowcer – Cadw Mlaen, Y Dref. Gwawr 102, 1974. Finyl – gwych; labeli – agos at mint; clawr – gwych.

22

y-selar.com

Barn Y Selar: Casgliad diddorol iawn o recordiau byr. Mae Hergest, Chwyldro, Sidan ac Edward H wrth gwrs yn fandiau amlwg ac mae rhain yn recordiau gwerth eu cael. Er hynny, sengl Bili Dowcer, a’r Gwylanod, i roi enw llawn y grŵp, ydy’r un sy’n dal fy llygad i – record brin iawn. Y prynwr lwcus wedi cael bargen fan hyn! Super Furry Animals – (Nid) Hon yw’r Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith Pris Gwerthu: £12.50 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: 7” un ochr prin iawn. Clawr a finyl mewn cyflwr gwych. Nid Hon yw’r Gan sy’n Mynd i Achub yr Iaith. Rhyddhawyd ar 7 Awst 1996 fel record nifer cyfyngedig 500 o gopïau. Rhoddwyd hwy i ffwrdd yng Nghlwb Gwernllwyn (Cross Hands, Dyfed) Barn Y Selar: Go brin fod angen cyflwyniad i’r artist, a record un trac a ryddhawyd gan SFA yn annibynnol. Ymddangosodd y gân eto fis yn ddiweddarach fel ‘B-side’ sengl ‘If You Don’t Want Me To Destroy You’ Brân – Hedfan Pris Gwerthu: £132.00 (23 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: LP Cymraeg gwreiddiol Sain 1070M, 1976.Gwerin blaengar prin iawn. “Hollol wych a phrin iawn! Tair seren Pokora (beth bynnag ydy hynny –gol)”. Mae hon yn rêl rocar am record ‘werin’, mwy fel gwerin roc prog! Neu efallai roc prog gwerin...? Barn Y Selar: Roedd Brân yn grŵp gwych o’r 1970au a gafodd sawl aelod gwahanol dros y blynyddoedd. John Gwyn oedd yr unig aelod cyson, ond roedd Nest Howells (mam Elin Fflur) yn canu ar hon a’r record flaenorol, Ail Ddechra. Tipyn o ddiddordeb wedi bod yn y record yma oedd wedi cyrraedd Berlin rhywsut – tybed lle mae hi bellach?



Y Bandana EnwEbwyD aM :

Record Fer Orau Cân Orau band byw Gorau

Llongyfarchiadau i holl artistiaid sain, Rasal, Gwymon a copa am eu henwebiadau yng ngwobrau Y selar eleni

Sw ˆ nami

Sw ˆ nami

Al Lewis

EnwEbwyD aM :

EnwEbwyD aM :

EnwEbwyD aM :

Record Fer Orau Cân Orau

Cân Orau Clawr Gorau

artist Unigol Gorau

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY www.sainwales.com Georgia Ruth

Albym hir ddisgwyliedig y gantoresgyfansoddwraig unigryw sy’n brysur creu enw i’w hun ar lwyfan rhyngwladol. Rhag-aRchebwch yn fuan o wefan Sain

Atsain y 70au

huw Jones yn cyfleu’r cyffro gwleidyddol; brân yn dangos sut y cartrefodd y diwylliant roc yn naturiol ddigon yn y Gymraeg; Sidan yn cyfleu talent y genhedlaeth iau

CD newydd - allan Mai 20fed Georgia Ruth Week of Pines £9.99

Pecyn 3CD newydd :

Atsain y 70au Cyfrol 1 Brân / Huw Jones / Sidan £12.98

Mae modd archebu holl draciau Sain, Rasal, Gwymon a Copa trwy iTunes neu Amazon ac mae modd archebu CDs yn uniongyrchol o wefan Sain – ewch draw i weld pa fargeinion sy’ ar gael!

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.