Y Selar - Awst 2011

Page 1

RHIFYN 26 . AWST . 2011

y Selar

AM DDIM SIBRYDION SIÂN MIRIAM RHYS ANEURIN ADOLYGIADAU

VIOLAS


Tren y Chwyldro . GIGS STEDDFOD WRECSAM^

Clwb Gorsaf GanoloG Nos Sul, Gorffennaf 31

Nos Fawrth, Awst

FFILM: SEPARADO

Y TRÊN I AFON-WEN - TYNGED YR IAITH

GWRTHWYNEBU’R TORI-ADAU

DANIEL LLOYD A MR PINC, AL LEWIS BAND, Y SAETHAU RYAN KIFT K

LLWYBR LLAETHOG

YMDD

REN

!!! £6

Nos Lun, 1 Awst NOSON DWY MEWN UN

NOSON GOMEDI NODDWYD GAN “DDOE AM DDEG” DDE

DR HYWEL FFIAIDD 8pm-1am, 8

CLWB GORSAF GANOLOG YW’R PRIF LEOLIAD CERDDORIAETH FYW YN Y GOGLEDD - YNG NGHANOL DRE WRECSAM TrenChwyldroHysbysHannerA4.indd 1

Awst

CRASH.DISCO!

Awst

TRÊN Y CHWYLDRO: YN CYFLWYNO 50 MLYNEDD O GANU ROC A BRWYDRO MEWN CÂN A FFILM

YR ERYR A’R GOLOMEN –

Brwydr Kung Fu a Taekwondo

GOD

GERAINT LØVGREEN

MEIC STEVENS

MAFFIA MR HUWS HEATHER JONES

GAI TOMS A’R BAND JEN JENIRO, IAN RUSH

I

AM, £8 AM

£7!

8pm-2.30am, £

Nos Fercher,

Nos Sadwrn, Awst

YN Y GOGL GOGLEDD EDD!

ORAU

9, tan 3.30am

8pm - 2.30am, £9

Tocynnau ar werth arlein cymdeithas.org/steddfod 01970-624501 neu oddi wrth Awen Meirion Y Bala, Yales Wrecsam neu Elfair Rhuthun 15/5/11 15:32:21


GOLYGYDDOL

Ydy mai’n haf ac yn Steddfod unwaith eto. Mae’r cyfnod yma’n uchafbwynt y calendr cerddorol Cymraeg heb os. Erbyn i chi ddarllen hwn bydd rhai ohonoch chi wedi ^ bod i nifer o wyliau cerddorol, gan gynnwys efallai Gw yl Gardd Goll, Wakestock a Sesiwn Fawr ar ei newydd wedd. Bydd eraill ^ ^ yn edrych ymlaen yn eiddgar at w yl y Dyn Gwyrdd, Gw yl Gwydir a Wa Bala. Yn y canol, yn ganolbwynt i’r cyfan mae’r Eisteddfod Genedlaethol wrth gwrs. Bydd nifer ohonoch chi hefyd wedi bod i un neu fwy o gigs y daith Slot Selar gyntaf ar ddechrau’r haf. Diolch yn fawr i chi oll am gefnogi ac i’r tri band gwych fu ar y daith - mae dyfodol disglair i’r tri, does dim yn sicrach na hynny. Os nad ydach chi wedi llwyddo i gael gafael ar un o grysau t arbennig y daith yna na phoener, maen nhw bellach ar gael i’w prynu o www.sadwrn. com. Gobeithio wir bydd taith Slot Selar arall yn fuan - mae tîm Y Selar yn teimlo fod y daith wedi bod yn un buddiol o ran codi proffil y cylchgrawn a’r bandiau, tra hefyd yn profi bod potensial i deithiau o’r fath yng Nghymru o hyd. Beth bynnag, dyna’r gorffennol. Yn y presennol, mae ‘na gopi hyfryd arall o’r Selar yn eich pawennau a hwnnw’n gopi wedi’i wasgu’n dynn ag erthyglau o’r radd flaenaf ... hyd yn oed os mai fi sy’n dweud!

VIOLAS

12

Joiwch, a chofiwch ... mae dau ben i bob llinyn.

OWAIN S SIAN MIRIAM

Y SIBRYDION

4

Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

8 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr Casia Wiliam, Gwilym Dwyfor, Awen S, Owain Gruffudd, Lowri Johnston, Barry Chips, Leusa Fflur.

y Selar RHIFYN 26 . AWST . 2011

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


cyfweliad

Sibrwd yn uwch Y Sibrydion ydy un o grwpiau mwyaf Cymru ers rhai blynyddoedd bellach. Ar ôl dablo’n ddigon llwyddiannus gydag albwm Saesneg, maen nhw’n ôl gyda’i trydydd LP Cymraeg – Uwchben y Drefn. Oedd angen unrhyw reswm pellach i Casia Wiliam fynd am sgwrs dros beint efo’r brodyr Gwynedd? Fe gyrhaeddodd ‘Uwchben y Drefn’ drwy fy mlwch post nos Lun ac roeddwn i ar dân isho gwrando arni. Wedi gwrando arni unwaith, ddwywaith, deirgwaith, roeddwn i ar dân isio holi’r Sibrydion, felly nos Fawrth i ffwrdd a fi i’r Mochyn Du i gael sgwrs gyda’r brodyr, Osian a Meilyr Gwynedd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef ‘mod i fymryn yn nerfus ar y ffordd i’r Mochyn. Dyma fand sydd wedi cael eu canmol i’r cymylau gan The Times a’r Guardian, wedi headlinio gigs ledled Cymru a newydd sefydlu eu label recordio’u hunain. Dwi’n ffan ers iddynt ryddhau JigCal yn 2004 ac ro’n i wedi dawnsio fel gwiwer wallgof yn gig y Sibrydion yn y Diwc gwta wythnos ynghynt.

4

Rhag ofn i fy nhaflod lynu at fy ngheg mewn eiliad o swildod roeddwn i wedi paratoi llith o gwestiynau. Wedi dweud ein ‘helos’ a gofyn y cwestiwn cyntaf doedd ‘na ddim stop ar y sgwrsio ac fe gefais fodd i fyw wrth glywed hanes creu ‘Uwchben Y Drefn’ a dod i adnabod y Sibrydion ffraeth, doniol, egwyddorol.

Campau cyfansoddi Mae ‘na ddwy flynedd wedi pasio ers i’r Sibrydion ryddhau eu hunig albwm Saesneg; Campfire Classics, albwm a blesiodd pawb a’i nain yn ôl yr adolygiadau a’r sî ar y stryd. ‘Lively and lovely’ – Time Out Magazine, ‘Sun-dappled pop with wit and gay abandon’ – The Buzz’; felly sut oedd mynd ati i greu albwm arall? “Cyn dechra’ cyfansoddi’r albwm mi natho ni compliations i’n gilydd”, meddai Osian, “tua ugain cân yr un.” “Natho ni ail-ddarganfod ‘Let Love Rule’,

do?” Medd Mei dan wenu, “a bandia’ fel The Jesus and Mary Chain.” Mae’n meddwl am eiliad cyn ymhelaethu ar ddelfryd yr albwm ddiweddaraf, “mewn ffordd oedda ^ ni’n trio dal sw n ffres ar yr albwm yma, ^ y swn mae’r band yn ‘neud yn fyw achos mai hon ydi’r albwm gynta i ni recordio efo’r band i gyd.” Un peth ‘o ni ‘di sylwi arno wrth wrando ar ‘Uwchben Y Drefn’ oedd nad ydi’r ^ llais ddim wastad y sw n amlycaf fel sy’n gyffredin erbyn hyn, weithiau mae’r llais fel offeryn cefndir tu ôl i gainc y gitâr neu guriadau’r drymiau. “Do, mi fuon ni’n ffidlan efo’r vocal,” medd Meilyr, y prif leisydd, “Dwi’m yn teimlo fel Frank Sinatra sy’ angan bloeddio ar y ffrynt!” Oedd yna unrhyw feddylfryd tu ôl i ‘Uchwben Y Drefn’? “Roeddan ni isio gwneud rwbath rock’n roll efo hon. Mae ‘na lot o betha ysgafn efo gitâr a llais allan yna ag oedda ni isio ‘neud rwbath efo ‘chydig o sylwedd,” meddai Osian yn angerddol rhwng ambell gegiad o gwrw.


Lluniau: EINION DAFYDD “Ia, doedda ni ddim yn mynd am unrhyw steil,” eglura Mei, “dim ond bod pob cân yn bwerus. Mae ‘na lot o steil 80s revival ’di bod yn ddiweddar, dwi ddim yn licio fo de. Dwi jyst yn sgipio o’r 70au i’r 90au! ‘Da ni ddim yn sticio efo un steil.” “Ond cân dda ydi cân dda de?” Meddai Osian gan herio’i frawd. “Dim ots pwy sy’n canu, os dio’n Lady Gaga neu Britney Spears. Mae’r gân yna am byth dydi?”

“Dwi’m yn teimlo fel Frank Sinatra sy’ angan bloeddio ar y ffrynt!”

Es i ymlaen i holi’r ddau os oedden nhw’n recordio gyda’i gilydd, ynta ar wahân. “Dwi ddim yn dda iawn efo geiriau fel arfer, dwi jyst yn cael un linell ac yn gweithio ‘rownd honno,” a chyn i Osian orffen ei frawddeg mae Mei yn ychwanegu, “A wedyn dwi’n gweithio arni a llenwi hi mewn fel petai.” “Fel gwaith cartra’,” meddai Osian dan chwerthin. Mae’n debyg eu bod nhw’n gorffen brawddegau’i gilydd yn ogystal â’u caneuon. “’Ia, ‘da ni’n ‘neud petha ar wahân ac

wedyn yn dod at ein gilydd, ddim cweit fatha Simon and Garfunkle de!”

Bloeddio am y blaidd Wrth wrando ar yr albwm roedd ‘Cadw’r Blaidd o’r drws’ yn bloeddio ‘helo! dwi am fod yn hit!’ o’r chwaraewr CD. Sut mae’r band yma’n llwyddo i ‘sgwennu un gân hynod boblogaidd ar ôl y llall? Ydyn nhw’n cychwyn drwy feddwl am yr hooks ‘ma? “Na ‘da ni’m yn trio cael ‘bachyn’ deud y gwir, ‘da ni’n trio cael rhywbeth sy’n gweithio rhwng y miwsig a’r lyrics” meddai Mei. “’There’s no point writing a song if it’s not going to be commercial’ oedd geiria John Lennon de?” meddai Osian, “ond na ‘da ni ddim yn trio bod yn commercial o hyd. Mae ‘Cadw’r blaidd o’r drws’ i bob cerddor sy’ allan yna, ma’n amsar calad ond ma raid i chdi ddal i gal hwyl, does? Go brin bod ‘na neb sy’n darllen y cyfweliad yma yn millionaire ti’n gwbo?

5


Mae pawb yn poeni am bres ‘dydyn. Dyna sy’n gweithio mewn cân, ma’n gorfod bod yn berthnasol i chdi ac i bobl eraill.” Felly cân am y bobl, i’r bobl? “Ia. Definite. ‘Sa well gin i fod yn sgint yn canu honna na’n gweithio i ryw gwmnïau mawr corporate. Dwi dal yn chwerthin wrth i chwara’ hi!”

“roeddan ni isio gweld yr albwm trwodd a dal i ganu’n Gymraeg - ‘sa neb yn mynd i stopio ni rhag canu’n Gymraeg”

Un iaith ar y tro Mae’r ddau yn byrlymu â brwdfrydedd wrth sôn am eu caneuon Cymraeg newydd. Wedi’r ffasiwn lwyddiant yn dilyn rhyddhau ‘Campfire Classic’, oedd yna reswm pan fod y band wedi rhyddhau albwm uniaith Gymraeg y tro hwn? “Ar ôl setio fyny’r label JigCal oedda ni ^ ishio ‘neud yn siw r mai albwm Gymraeg fyddai’r gynta i ni ei recordio,” meddai Mei. Mae Osian a Meilyr wedi sefydlu label recordio eu hunain o dan yr enw JigCal mewn ystafell yn Nhyllgoed, Caerdydd ac ‘Uwchben y Drefn’ yw’r albwm gyntaf iddyn nhw ei rhyddhau. “Mae ‘na bobl wedi gofyn pam na rowch chi amball gân Saesneg ar albwm Gymraeg ond ‘da ni’n meddwl bod o’n well cadw’r ddau ar wahân,” meddai Mei. “Dwi’n ^ ofnadwy o falch bo’ ni’n gallu dw ad yn ôl a canu’n Gymraeg a mae pawb dal yn licio ni!” “Ia, wel,” meddai Osian, “Mae Bryn Terfel yn canu ‘God Save The Queen’ a ‘dio’m yn cael lot shit gan neb!” Dwi’n meddwl y basa angen bod yn berson reit ddewr i roi shit i Bryn Terfel. Ta waeth am hynny, pa mor bwysig ydy cyrraedd cynulleidfaoedd tu hwnt i Gymru i’r Sibrydion tybed?

Wrth wrando ar Mei ac Osian dwi’n sylwi bod y Sibrydion yn fand sydd â’u breichiau ar led tua’r byd. Maen nhw isho cydweithio, maen nhw isho chwarae’n Gymraeg yn ddi-baid, maen nhw isho canu mewn ieithoedd eraill, maen nhw’n barod am unrhyw beth. “’Da ni wedi cychwyn mewn bedrooms,” meddai Mei, ^ “wedyn gigio a gigio a rw an dyma’r albwm yma wedi ei rhyddhau ar ein label ni. ‘Sa ni’n chwalu fory ‘da ni’n hapus efo hyn – mae’n binacl i ni.” Chwalu fory? Ydw i newydd

6

“Mi gawson ni amser gwych yn gigio yn Llydaw ac Iwerddon,” medda Mei, “ella awn ni i gigio efo ‘Uwchben y Drefn’ rownd Lloegr a’r Alban.” Mae Osian yn cytuno bod rhyddhau albwm Saesneg yn ffordd o gael pobl i glywed stwff y Sibrydion. “Y gobaith wedyn,” mae’n egluro, “ydi bod y bobl sydd wedi mwynhau ‘Campfire Classics’ yn prynu ‘Uwchben y Drefn’, hyd yn oed os nad ydy nhw’n siarad Cymraeg.” “’Sa’n braf gwneud petha mewn ieithoedd eraill hefyd,” meddai Mei. ^ Mewn ffordd gellid dweud bod ‘na sw n cosmopolitan i ‘Uwchben y Drefn’. Mae ‘Dawns y Dwpis’ yn mynd a ni i Sbaen ac os gaewch chi’ch llygaid wrth wrando ar ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws’ mi allwch ffeindio eich hun mewn sbageti western, ond mae parhau i ganu’n Gymraeg yn hollbwysig i’r band. “Dim bo’ ni’n cwyno, ond mae’n gyfnod anodd i fandia Cymraeg, ag oedda ni isio rhyddhau ‘wbath Cymraeg er gwaetha’r

^ gael sgw p anhygoel yn fama? “Na, ond ‘da ni ddim isio chyrnio un albwm ar ôl y llall,” eglura’r brodyr. “Pan ‘o ni’n canu ‘Brig y Nos’ [cân olaf yr albwm newydd] ‘o ni’n meddwl ella ‘na honna ‘sa cân ola’r ^ Sibrydion ond rw an bo’ ni wedi dechra’ gigio eto mae’r pleser yn dod yn ôl…” Ydy hi’n anodd cadw’r brwdfrydedd a dyfalbarhau yn yr hinsawdd sydd ohoni felly? “Yndi ma’i, pan ti mewn band fel’ma ti sort of mewn cycles,” meddai Osian, cyn cilwenu wrth adrodd ei hanes

www.jigcal.com

hinsawdd,” meddai Osian, “roeddan ni isio gweld yr albwm trwodd a dal i ganu’n Gymraeg - ‘sa neb yn mynd i stopio ni rhag canu’n Gymraeg. A mae’n neis peidio cael pwysa’ label recordio, ‘sa neb yn dweud wrtha ni be’i ‘neud!”

Label newydd a brwdfrydedd parhaus Oedd sefydlu eu label eu hunain yn gam naturiol felly? “Odd o’n ddiwadd naturiol i’n perthynas ni efo Sain,” meddai Osian, “so ma ‘di bod yn beth eitha da i ni, a gobeithio fydd o’n ddechrau newydd.” “Ia, ‘da ni’n licio meddwl ella ‘sa ni’n gallu recordio pobl eraill a helpu nhw a nhw helpu ni wedyn de…”

mewn gig yn y cymoedd wythnos ynghynt. “Pan nes i weld chwech plisman yn nodio i ‘Uwchben y Drefn’ ges i laff a meddwl, ‘sw ni’n gallu g’neud hyn eto!” Felly be ‘di’r dyfodol i’r Sibrydion? “Wel, mae ‘na lot o betha ‘sa ni’n gallu ‘neud,” meddai Mei, “ella a’i i Vegas a neu’ hi fel Frank Sinatra,” a chyn iddo orffen ei frawddeg mae Osian yno fel shot: “I did it Mei way!” A gyda’r parting line hynod honno, dwi’n diolch o galon i’r hogia am eu cwmpeini

a’u sgwrs. ‘Sa ni wedi gallu sgwrsio trwy’r nos a dweud y gwir, ond os ydach chi isho gwybod beth sydd gan y Sibrydion i’w ddweud, ewch allan fory nesa i brynu ‘Uwchben Y Drefn’, a gwnewch ^ yn siw r eich bod chi’n gwneud mwy ‘na sibrwd pa mor dda ‘di. Mae Uwchben y Drefn ^ allan rw an – gallwch ddarllen mwy am yr albwm ar dudalen adolygiadau Y Selar. Mwy o fanylion http://sibrydion. bandcamp.com / http://www. jigcal.com/


ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL

• Prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2012 • Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Neuadd Gymraeg newydd wedi agor sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Uned Recriwtio a Marchnata: Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

Sw ˆ n mawr y Steddfod

Dilynwch y sw ˆ n ar Facebook a Twitter: c2bbcradiocymru SE2011_190 x 138mm_eisteddfod.indd 1

11/07/2011 13:50

7


cyfweliad Pwy ydy

Sian Miriam?

Mae Siân Miriam, o Langefni, wedi amlygu ei hun ers ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Mae’r gantores ifanc, a ddaeth i frig y gystadleuaeth gyda’i chân ‘Beth yw ystyr rhyfel?’, yn mynd o nerth i nerth, gan adeiladu casgliad cryf o ddilynwyr. Llwyddodd Owain Gruffudd i ffeindio bwlch yn nyddiadur prysur Siân i ddysgu mwy am y gantores ifanc. Helo Siân, a llongyfarchiadau ar dy lwyddiant diweddar. Ti wedi dod i’r amlwg allan o unlle, ond beth ydy dy gefndir cerddorol di? Wyt ti wedi bod yn rhan o unrhyw fand cyn i ti fynd yn unigol? Roeddwn i mewn band gyda rhai o fy ffrindiau ysgol blwyddyn ddiwethaf, ac fe wnaethom ni berfformio yn Eisteddfod yr ^ Ysgol ac yng nghystadleuaeth ‘Grw p Roc’. Roedd o’n llawer o hwyl, a llwyddom ni i ennill gyda’n fersiwn ni o ‘Violet Hill’ gan Coldplay. Hefyd, daeth 5 ohonom ni at ein gilydd i ffurfio band i ganu mewn gig elusennol yn Llangefni. Roeddem ni’n canu caneuon poblogaidd gan fandiau fel Oasis, Green Day a Coldplay, yn ogystal ag ambell i gân wreiddiol. Er bod nifer o’r ffrindiau hyn yn gadael i’r coleg ac ati fe wnaeth hyn roi hyder i mi allu canu’n unigol.

8

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau canu yn y lle cyntaf felly? Dwi wedi bod yn canu erioed mewn llefydd fel Ysgol Sul, sioeau ysgol ac eisteddfodau. Er nad o’n i’n canu’n unigol, roeddwn yn dal i fwynhau canu mewn côr. Ar ôl canu’n unigol mewn sioe gerdd yn gynnar yn yr ysgol uwchradd, rhoddodd hyn hyder i mi i barhau i berfformio yn unigol. Ond, oni bai am hynny, dwi wedi bod yn cyfansoddi o adref ers oeddwn i’n tua naw mlwydd oed - ond bod neb yn cael clywed! Sut fyddet ti’n disgrifio dy gerddoriaeth? Gan fy mod i’n hoffi nifer o genres gwahanol, o Led Zeppelin i Chopin, mae’n anodd rhoi disgrifiad penodol i fy ngherddoriaeth. Gan fod nifer o fandiau ac artistiaid yn dylanwadu, rwy’n hoffi dweud fod fy ngherddoriaeth yn flas ar ychydig o bob dim. Ydy dy ganeuon di’n trafod unrhyw bynciau penodol? Mae’r gân ‘Beth yw Ystyr Rhyfel’ yn trafod pwnc dwys sy’n gwestiwn oesol i ddweud y gwir, rhywbeth rydym ni i gyd yn ei ofyn. Ond mae’n bwysig cael y balans rhwng y dwys a’r hwylus. Er enghraifft, mae gen i

gân hiwmor sy’n canolbwyntio ar agwedd genod a’r ffaith eu bod nhw’n poeni gymaint am eu hedrychiad! Beth wnaeth dy ysbrydoli i gystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2? Mi fyswn i’n hoffi cymryd y cyfle i ddiolch i Rich Owen am awgrymu y dylwn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Roedd hi’n grêt gweld Crwydro yn dod yn llwyddiannus dwy flynedd yn ôl, gan eu bod nhw yn yr ysgol gyda mi, ac roedd hyn yn sbardun i mi sgwennu hyd yn oed mwy o ganeuon. Trwy fentro, llwyddais i gydio yn y cyfle oedd o’m mlaen a chael cefnogaeth anhygoel. Sut deimlad oedd hi pan ddest ti’n fuddugol? Teimlad hollol anhygoel - roedd sgrechian lawr y ffôn ar y noson yn dweud y cyfan! Ond oedd, roedd hi’n noson fythgofiadwy - dwi mor ddiolchgar i bawb wnaeth bleidleisio drosof i. Pa fath o bobl sydd wedi rhoi clod hyd yn hyn? Roedd y clod ges i gan y beirniaid yn y rownd derfynol yn hynod o hael. Roedd o’n brofiad gwych i gael clywed cantorion yn fy nghanmol


i. Roedd hi’n anodd credu’r peth! Y bore drannoeth roeddwn yn siarad ar raglen Caryl a Daf Du, ac roedd clywed canmoliaeth gan Caryl, un o fy arwyr, yn anhygoel. Fedrai gredu - mae Caryl yn roialtî cerddorol go iawn tydi! Beth sydd gen ti ar y gweill nesaf? Rydw i newydd berfformio ar raglen ‘Y Goets Fawr’, oedd yn cael ei darlledu yn fyw o Ynys Môn, a honno’n gân o’n i wedi cyfansoddi fy hun yn arbennig i’r rhaglen. ‘Dwi’n edrych ymlaen at amryw o gigs dros yr haf, wedi i ^ mi gael blas ar berfformio yng Ngw yl Cefni ^ ac yn Nhy Siamas. Byddaf yn chwarae yn y Sioe Frenhinol ac ar brif lwyfan Maes B, oedd yn rhan o fy ngwobr Brwydr y Bandiau. Bydd honno’n noson arbennig iawn i mi gan fy mod wedi breuddwydio am gael perfformio ar y llwyfan hwnnw ers blynyddoedd!

Cwestiynau Cyflym Hoff ffilm? Billy Elliott. Dwi wrth fy modd gyda’r plot, y dawnsio, y cymeriadau, ac yn enwedig gyda cherddoriaeth T-Rex a Marc Bolan. Hoff fand? Cwestiwn anodd, ond The Beatles a Led Zep dwi’n meddwl - does ‘na’m byd yn curo ‘chydig o roc! Albwm ddiweddaraf i ti brynu? Kate Bush Director’s Cut Gwyliau delfrydol? Nashville. Byswn i’n hoffi mynd yno i wrando ar y gerddoriaeth oherwydd mae talent anhygoel yno. Peth drytaf i ti ei archebu? Pâr, ambell bâr, mwy nac un pâr o sgidiau. Hoff fwyd/diod? Pasta Carbonara - dim amheuaeth. ^ ^ Hoff w yl gerddorol? Gw yl Cefni! Does unlle’n debyg i adra. Pwy yw dy arwr di? Martin Luther King - yr un, yr unig un. Pwy fyddet ti’n mwynhau canu gyda mwyaf byw neu farw? Matt Bellamy o Muse, Annie Lennox a chôr Gospel.

9


n y l i d w ’ i u a d MAE OWAIN GRUFFUDD WEDI BOD YN CADW GOLWG AGOS AR ARTISTIAID CYMRAEG DIWETHAF, A DYMA’R DDAU MAE WEDI PENDERFYNU CYFLWYNO I NI Y TRO YMA.

NEWYDD ERS Y RHIFYN

Deadly Saith Pwy: Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Deadly Saith yn fand o saith aelod, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin. Wedi i fand ska blaenorol Mark (drymiau), Richie (bas dwbl) a Jerome (gitâr), sef ‘Tootinskamoon’, ddod i ben, fe ddechreuon nhw jamio ag Andrew (offerynnau taro) ac Owain ‘Denz’ (allweddellau). Wedi misoedd o ymarfer a ^ newid sw n, roedden nhw dal angen prif ganwr. Pan ddaeth Denz ar draws Carys Eleri (sef merch oedd Denz yn cofio oedd yn canu lot o Jackson 5 mewn partïon erstalwm) roedd y band i’w weld yn gyflawn. Roedd y band yn ymarfer gyda’i gilydd uwchben siop recordiau ‘The Tangled Parrot’. Dyma ble llwyddodd Clara i

Tom ap Dan Pwy: Mae Tom ap Dan, o’r Felinheli, newydd orffen fel disgybl Chweched Dosbarth yn Ysgol Syr Hugh Owen.

ddod i gyfarfod y band gan ymuno fel chwaraewr fiolín, ac yn seithfed aelod! ^ Sw n: Anodd yw rhoi genre penodol i Deadly Saith, gan

Wedi chwarae mewn bandiau fel Y Pedros, Sesh Llefrith ac Y Saethau, oedd i’w gweld yn ‘Dau i’w Dilyn’ rhifyn diwethaf Y Selar, penderfynodd Tom fynd yn artist unigol. Yn dilyn cyfnod o fod yn canu ar ben ei hun, mae Tom yn cychwyn adeiladu band i’w

GEIRIAU: OWAIN SCHIAVONE LLUNIAU: ELGAN GRIFFITHS lLUN: john [pountney

10

iddynt neidio o un genre i’r llall. Mae newid mawr wedi bod ers i’r band gychwyn - dim ond tair cân oedd ganddyn nhw wrth iddynt gychwyn gigio. Pan ymunodd

Carys â’r band, cychwynnodd hi ysgrifennu melodïau a geiriau o amgylch gwahanol synau. Wrth wrando ar Deadly Saith, rydych yn cael blas ar bob math o gerddoriaeth - o

gefnogi, sydd wedi cynnwys Gwilym Bowen (Y Bandana) ar y banjo, a Lloyd Steele, Sam Jones a Siôn Williams (ei frawd) o’r Saethau ar y gitâr, gitâr fas a’r drymiau. Ond, yn ôl Tom, mae’r band yn newid yn aml. Mae’n bosib fod Tom yn wyneb cyfarwydd i nifer o bobl, gan ei fod hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen adloniant Y Lle ac yn fab i’r cyn-aelod Strymdingars, Dan Williams.

cyflym ac araf. Yn ôl Tom, mae’n hoffi cymysgu ychydig o roc, gwerin a blues yn ei gerddoriaeth, er mwyn creu ychydig o amrywiaeth. Mae ^ sw n ychydig yn wahanol yn cael ei greu o’r offerynnau hefyd, gyda Lloyd Steele yn defnyddio ... fiolín wrth chwarae ei gitâr. Yn ogystal â hyn, mae gan bob un gân ystyr personol iddynt, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ^ y sw n.

^ Sw n: Cerddoriaeth werinol ac acwstig mae Tom yn ei chwarae. Mae dylanwadau amlwg i’w weld gan Bob Dylan a Mumford and Sons, wrth iddo ganu caneuon

Hyd yn hyn: Dros y 4 mis diwethaf, tydi Tom ap Dan heb fod yn brin o gigs. Mae wedi bod yn cefnogi Y Bandana a Creision Hud, o amgylch ardal Caernarfon

http://soundcloud.com/tomapdan


gerddoriaeth ryngwladol, i ska, i roc a hyd yn oed drwm a bas. Un funud mae’r band yn cael eu cymharu â bandiau fel Massive Attack, ond erbyn y gân nesaf does dim math o debygrwydd. Hyd yn hyn: Mae’r band wedi derbyn sylw yn barod gan Mared Lenny, aelod o ‘Swci Boscawen’, gan gymharu llais Carys â Patti Smith a dweud mai dyma ei hoff fand ers iddi glywed ‘Plant Duw’ yn 2007. Roedd eu gig gyntaf yn un cofiadwy iawn hefyd. Trwy gysylltiadau, cafodd y band chwarae ym mharti pen-blwydd Nik Turner, gynt o’r Hawkwind, sydd erbyn hyn yn rhedeg fferm yn sir

Gâr. Mae Carys yn disgrifio fod: “y beudu wedi troi i mewn i lwyfan lliwgar”, ac nid llawer o fandiau sydd yn gallu dweud bod eu gig gyntaf nhw o flaen torf o 500 o bobl - a bod Nik ei hun wedi ymuno i mewn gyda Saxophone, er bod holl oleuadau’r beudu wedi diffodd! Mae’r band hefyd wedi bod yn rhan o ‘BBC yn Cyflwyno’ ar C2. Cynlluniau: Mae’r band ar fin mynd i mewn Stiwdio Acapela, Hywel Wigley ym Mhentyrch i wneud sesiwn C2. Byddant hefyd yn chwarae gigs o gwmpas Cymru, felly cadwch olwg am y band newydd yma.

Gwrandewch os ydych yn hoffi: Derwyddon Dr Gonzo, Race Horses, Anweledig a chwarae nifer o gigs i Gymdeithas yr Iaith. Mae Tom erbyn hyd hefyd wedi cael y cyfle i chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau, gan gefnogi Steve Eaves. Yn ogystal â hynny, cafodd Tom berfformio yn un o brif wyliau Cymru, Wa Bala, yn ystod Haf 2010, ar yr un llwyfan ag enwau mawr fel Mim Twm Llai, gan dderbyn ymateb gwych. Mae Tom hefyd wedi bod wrthi yn recordio demos o’i gartref a’u llwytho ar wefan Soundcloud. Cafwyd nifer o hits ar ei ganeuon, a chafodd negeseuon gan gefnogwyr o America a’r Almaen. Cynlluniau: Mae Tom yn gobeithio am haf prysur o gigs. Un o uchafbwyntiau’r haf iddo fydd cael cefnogi un o’i arwyr, Meic Stevens, yn

gig Nos Wener Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Mae Tom hefyd yn cystadlu yng ^ nghystadleuaeth Gw yl Dyn Gwyrdd, sydd yn gadael i’r cefnogwyr benderfynu pwy ^ fydd yn agor yr w yl. Bydd yn cystadlu yn erbyn bandiau fel Crash.Disco! am y cyfle i rannu llwyfan â bandiau enfawr fel Fleet Foxes, James Blake, Y Niwl a Noah and The Whale. Mae cynlluniau hefyd i fynd â’i fand i’r stiwdio i recordio sengl neu hyd yn oed EP cyn diwedd y flwyddyn.

Gwrandewch os ydych yn hoffi: Bob Dylan, Mumford and Sons, Meic Stevens, Fleet Foxes

www.myspace.com/thedeadlysaith

Y BADELL

FFRIO

gyda Barry Chips

ATGOF FEL ANGOR Pwy all anghofio ei ‘Steddfod gynta’? Nid yr un lle ti’n mynd i gystadlu ar y dydd Sul cynta’ efo Seindorf Arian Deiniolen, nag yr un lle ti’n mynd efo Côr Dy Fam. Naci, sôn ydw i am y ‘Steddfod gynta’ yna pan ti’n troi fyny’n ddiriant yn ysu i gael blasu’r isddiwylliant. Dim bo chdi’n gwybod be’ ydy isddiwylliant pan ti’n 18 ynde ... ond ti’n gwybod be’ sy’n dda, be’ sy’n teimlo’n dda. A theimlodd dim byd yn well na ‘Steddfod Glyn Nedd yn ’94. Eistedd mewn clwb ar b’nawn Mercher yn yfad ^ cwrw fflat a rhyfeddu ar pa mor cw l oedd y Gorky’s ... pixies ysgafndroed blewog o blaned arall. Diamonds o Sir Benfro go iawn, yn pendilio rhwng canu gwerin wonci a chacaffoni hefi metal...a phan dynnodd John Lawrence ei drombôn allan i’r genod, wel ar fy enaid i! Faswn i heb fentro ar y Trawscrwban i lawr yna efo tent dan gesail, oni bai bod y ffatri garabinas yn dod i stop am bythefnos ar gynffon Gorffennaf ac wythnos gyntaf Awst. Wedi diflasu’n llwyr ar wythnos o dorri priciau a phaentio gweithdy’r Hen Go’, dyma benderfynu dianc i’r ‘Steddfod. Ond toedd Genod Cymdeithas yr Iaith wedi bod i Lanelwy’r flwyddyn gynt a dychwelyd i’r Chweched efo straeon egsotig am wychbobol o’r Wyddgrug? A rhaid dweud fod y rhaglen Swig o Ffilth wedi codi’r awydd i flasu’r arlwy. Dipyn yn niwlog oedd gigs nos ’94 i fi. Cofio Val Stumps – band Huw M – efo basydd efo pum tant ar ei gitâr. Waw! (dim ond gitârs bas efo pedair tant oeddwn i erioed wedi gweld). A phwy all anghofio Cerys Catatonia ifanc mewn boob tube pinc heb gymorth bronglwyd yn y clwb rygbi lleol? Ewadd roedd hi’n oer y noson honno, ac afraid dweud fod Ms Matthews yn smyglo pys. Rhaid cyfadde’ bod penwythnos ola’ ‘Steddfod Abergele yn 1995 braidd yn wyllt – wedi cael blwyddyn o goleg i feistroli’r grefft o yfed welwch chi. Gormod o wisgi ym mar ochr Gwesty’r Siors a chysgu trwy gig Catatonia (Cerys mewn tracwsig wedi ei wneud o tin ffoil y tro hwn – mae’n bosib y baswn wedi aros yn effro tasa’r boob tube pinc yno i’m hudo). O gwmpas fflamau’r tân y noson honno roedd Iwcs a Dave Datblygu yn llowcio fodca, Iwcs eto i recordio’i gampwaith gyda John Doyle, a David R Edwards yn edrych fel dyn gwyllt ond yn dawel fel llygoden. Mae ‘Steddfod Llandeilo yn 1996 am fyw am byth yn y cof, a hynny oherwydd gig wych arall gan y Gorky’s. Gofyn yn wylaidd i Euros Childs wrth y bar os oeddan nhw am chwarae’r epig ‘Anna Apera’ yn fyw, a chael ateb swta yn Saesneg: ‘No’. Ta waeth, mynd yn mental i ‘Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd’ a ffitio snog fach mewn cyn stop tap. Pob lwc i ‘Steddfod Wrecsam, welwn ni chi ar y cyrion gyfeillion xxx

11


cyfweliad Vio, Vio,

a l i o V s...

Mae’r Violas wedi denu tipyn o sylw dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n ymddangos y bydd hynny’n cynyddu eto yn ystod y cyfnod nesaf. Fe fydd y band yn rhyddhau EP ar y cyd â Trwbador yn ogystal â chwarae ym Maes B ar nos Sadwrn olaf y Steddfod. Pan ofynnodd Y Selar i mi fynd i’w holi nhw am hyn daeth i’r amlwg fod un o aelodau’r band, Owain Morgan yn Efrog Newydd am bythefnos. Roeddwn i’n ddigon bodlon cael fy hedfan allan i’r Big Apple i’w holi ond yn hytrach, bu rhaid i mi setlo ar gyfweld y tri aelod arall, Owain Griffiths, Siôn Jones ac Andrew Lewis mewn gardd gefn yn Nhreganna, Caerdydd!

Wel, mae o’n sicr yn syniad gwahanol, i’r sin Gymraeg beth bynnag, felly beth yn union ydi’r gobeithion ar gyfer yr EP yma? Owain: Dwi’m yn gwbod, dwi’n meddwl bod o jyst yn hwyl i gael rhywbeth sydd ychydig yn wahanol. Siôn: Dwi’n meddwl gall y ddau fand weithio oddi ar gryfdere ein gilydd. Andrew: Mae’r split EP yn hen glasur o syniad, lot o grwpiau gwahanol yn dod at ei gilydd gyda’r un syniadau, ond cerddoriaeth gwbl wahanol. Ac mae Trwbador yn grêt hefyd, mae’n bleser ei neud e’ ’da nhw. Owain: ’Da ni’n chwarae’r un noson ym Maes B hefyd so allwn ni werthu fo i lot o bobol ’di meddwi yn fanno gobeithio!

Rhannu EP

Cymryd mantais ydi peth fel’na! Ta waeth, mae yna deimlad bod yna fwy a mwy o bwyslais yn yr SRG ar hyn o bryd, ar i fandiau wneud rhywbeth ‘gwahanol’ wrth ryddhau cerddoriaeth. Boed hynny yn rhyddhau rhywbeth ar dâp, finyl, ar y we yn unig, rhyddhau sengl bob mis ac yn y blaen. Beth ydach chi’n meddwl ydi’r rheswm am yr holl syniadau gwahanol yma? Ydi rhyddhau rhywbeth ar CD syml

Rydach chi’n mynd i fod yn rhyddhau EP ar y cyd efo Trwbador yr haf yma. Syniad pwy oedd hynny? Owain: Nes i gwrdd ag Owain Trwbador yng ^ Ngw yl Nyth Tu Allan, ddechreuon ni siarad a nath o awgrymu ein bod ni’n rhyddhau rhywbeth efo’n gilydd, meddwl bysa fo’n syniad da ar gyfer yr Eisteddfod. Ein cynllun ni i ddechre oedd just rhyddhau sengl erbyn y Steddfod, ond wedyn dyma ni’n meddwl pam lai. Roedden ni’n meddwl ’sa fo eitha’ diddorol gan fod y ddau fand yn eitha’ ^ gwahanol o ran y sw n ’da ni’n ei neud. Gobeithio neith o ehangu faint o bobl neith brynu’r stwff ar y ddwy ochor.

“... odd rhaid i mi ddysgu popeth yn gyf lym iawn a chwarae gig ar ôl wythnos.”

12

ddim yn ddigon erbyn hyn? Andrew: Ar hyn o bryd, nid yn unig yn y sin yng Nghymru, ond dros y byd i gyd mae cerddoriaeth ar gael am ddim ar y we - yn hollol wahanol i’r oes o fynd i siop recordiau yng Nghaerdydd a threulio oriau yn edrych trwy’r LPs. Felly mae angen ffordd newydd o gael pobl i gasglu eto, nid yn unig y gerddoriaeth ti angen ei gwerthu i’r gynulleidfa ond rhywbeth y galle’n nhw gadw hefyd. Nath Truckers of Husck ryddhau casét yn ddiweddar a nath y casét wneud yn dda iawn, werthon nhw gant o gopïau mewn un diwrnod! Felly gan ei bod hi’n haws cael gafael ar gerddoriaeth am ddim ti’n meddwl bod angen yr ysgogiad ychwanegol yna ar bobol i brynu? Andrew: Ie, yn gwmws. Dyma’r peth cyntaf i chi ei ryddhau yn y Gymraeg, er eich bod chi wedi bod o gwmpas fel band ers tipyn. Ydi o’n beth da eich bod chi wedi aros ychydig cyn ^ rhyddhau, a sefydlu eich sw n chi’n gyntaf? Owain: Dwi’n meddwl ei fod o, achos mae ^ ein sw n ni wedi newid lot. ’Da ni ’di bod yn trio ffeindio’n steil ni a dwi’n meddwl ei fod ^ o’n dechra’ dod rw an yn rhywbeth ’da ni gyd yn eitha’ hapus efo fo, felly oedd, oedd hi’n werth aros. Mae yna dueddiad yng Nghymru i fandiau ryddhau stwff yn rhy fuan efallai? Owain: Oes dwi’n meddwl, achos o edrych yn ôl ar beth oedden ni’n ei sgwennu ar y dechre’, dwi’m yn meddwl ei fod o’n ein ^ cynrychioli ni fel ydan ni rw an. A dwi’n ^ gwbod bod ein sw n ni’n mynd i newid eto, ^ ond ar y funud ’da ni’n hapusach efo sw ny band na beth oedden ni ar y dechre’. Fel yr o’n i’n deud, rydych chi wedi bod o gwmpas ers tipyn, ond mae o fel pe bai chi wedi dod yn fwy i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf, dim eich bod chi wedi ymddangos o unman ond yn sicr rydach chi ^ fwy yn llygad y cyhoedd rw an. Beth ydi’r rheswm am hynny? Owain: Dwi’n meddwl y gwnaeth rhyddhau ‘Sea Shells’ lot o les inni achos gath hi ei


“Ges i baned o de ar y llwyfan unwaith ...�

Geiriau: Gwilym Dwyfor Lluniau: Betsan @ Celf Calon

13


chwarae ar raglen Jen Long ar Radio 1 ac ar BBC Radio Wales ac ati. Siôn: Mae’r ffaith ein bod ni wedi gigio lot mwy dros y flwyddyn ddiwethaf wedi helpu lot hefyd. Oedd ‘Sea Shells’ yn help mawr ond o ran y dorf Gymraeg yn sicr fe wnaeth sesiwn C2 helpu ni lot. Llawer o’r gigs hynny yng Nghaerdydd, sut ydych chi’n ffeindio cydbwyso bod yn rhan o sin Caerdydd a’r sin Gymraeg? Owain: Achos ein bod ni’n canu’n ddwyieithog, mae o’n ehangu ein cynulleidfa ni, a dwi’n licio hynna. Mae’n eitha’ anodd i fand uniaith Gymraeg newid jyst fel’na ar ôl dipyn o flynyddoedd, ond ’da ni wedi’i neud o reit o’r dechre. ’Da ni wedi bod yn gneud gigs Saesneg, Cymraeg a dwyieithog hefyd. Felly dwi’n meddwl ein bod ni’n ffitio i mewn i sin Caerdydd sydd yn fwy dwyieithog ond wedyn ’da ni wedi bod yn chwarae gigs yng ngogledd Cymru a’r canolbarth hefyd sydd yn amlwg yn fwy uniaith Gymraeg. Ti’n sôn am y canolbarth yn fan’na, mae dau ohonoch chi wrth gwrs yn dod o’r canolbarth. Does yna ddim gymaint â hynny o fandiau Cymraeg adnabyddus o’r ardal honno ar hyn o bryd, felly sut fath o sin sydd yno? Owain: Dwi ddim yn gwbod faint o sin sydd yna yn y canolbarth ar hyn o bryd, tuag at Aberystwyth ella fod yna fwy o fandiau, ond ddim yn sir Drefaldwyn. Siôn: Does ’na ddim lot o sin Gymraeg. Mae ’na sin gerddoriaeth ond ma’ hi’n gorfod dibynnu ar yr un hen feniws gan fod yna gyn lleied i’w cael yn y canolbarth. Gen ti un neu ddau yn Drenewydd ond fel arall gigs misol fydd hi mewn tafarndai cefn gwlad felly does yna ddim lot o gyfleon. Owain: ’Da ni wedi gwneud cwpl o gigs a

gwyliau yn y canolbarth, a dyna ’di ardal ‘adre’ dau ohonon ni felly mae’n beth braf. Andrew, ti’n aelod cymharol newydd i’r band, wyt ti’n setlo’n iawn? Ydyn nhw yn dy drin di’n o lew? Andrew: Chwarae teg, ma’ nhw’n lot o sbort. Odd ’da ni gwpl o gigs yn dod lan yn syth ar ôl i mi ymuno felly odd rhaid i mi ddysgu popeth yn gyflym iawn a chwarae gig ar ôl wythnos. Owain: Ond dwi’n meddwl nes di lai o gamgymeriade na nes i’r noson yna! Andrew: Ma’ fe’n lot o hwyl, a dwi’n edrych ymlaen at recordio nawr hefyd, mynd â’r holl beth at y lefel nesaf.

“o edrych yn ôl ar beth oedden ni’n ei sgwennu ar y dechre’, dwi’m yn meddwl ei fod o’n ein cynrychioli ni fel ydan ni rwan”

Yr Haf Roeddwn i’n sôn eich bod chi yn dechrau ^ dod yn fwy i’r amlwg rw an. Mae Maes B wastad yn llinyn mesur da ac rydach chi wedi cael slot da iawn yno eleni, yn chwarae ar y nos Sadwrn olaf. Dyna’r gynulleidfa fwyaf i unrhyw fand yn yr SRG felly mae’n dangos eich bod chi’n amlwg yn gwneud yn reit dda. Ydych chi’n edrych ymlaen neu ydych chi ychydig bach yn nerfus? ^ Siôn: Ydw, dwi’m yn siw r iawn be’ i’w ddisgwyl ’deud gwir achos mae o mewn rhyw adeilad felly mae o am fod yn hollol wahanol i Maes B arferol. Ac er ein bod ni’n agor un llwyfan mae’n debyg ein bod ni ymlaen yn eithaf hwyr felly dwi’n gobeithio cawn ni dipyn o dorf. Andrew: Pan o’n i’n ifanc, jyst yn dechre ysgol, o’n i rili ishe chwarae nos Sadwrn Maes B. Mae o’n rhywbeth symbolaidd bron iawn tydi. Andrew: Wrth gwrs ie, rhyw fath o lefel, ma’ fe’n dweud “ti’n gwneud yn iawn yn y sin,

chwarae nos Sadwrn” Diolch yn fawr! Siôn: Yn y sin Gymraeg, hwnna ydi’r pinacl, o ran crowd. Andrew: Ond ma’n crowd lot mwy na chwarae yn y sin Saesneg yng Nghaerdydd hefyd, ma’ lot o `bobl yn mynd i Maes B ar nos Sadwrn! Dwi’n edrych ‘mlan, lot o bobl, lot o barti! Siôn: A lot o bobl newydd inni chwarae iddyn nhw hefyd. Ar wahân i Maes B a’r sengl, beth arall sydd ar y gweill gennych chi dros yr haf? Ydach chi’n eithaf prysur fel arall? Owain: Ydan, rydan ni wedi gwneud gig yn Llundain, noson Huw Stephens yn Y Social, felly oedd hynna’n neis, cael teithio dipyn. Siôn: Sôn am Huw Stephens, dwi’n meddwl ^ ^ bod ni’n neud gw yl Sw n ym mis Hydref hefyd. Eithaf prysur felly. Owain: ’Da ni am drio gneud mwy o wyliau flwyddyn nesaf, felly fyddan ni’n dechrau gyrru stwff tuag at ddiwedd flwyddyn yma. Oeddan ni wedi gobeithio gneud mwy haf yma ond ti’n gorfod cysylltu’n gynnar iawn, felly gobeithio efo’r EP yma fydd gynno ni ‘wbath i’w yrru i drefnwyr ar gyfer flwyddyn nesaf.

14

Mwy o luniau ar www.y-selar.com


Cwestiynau Cyf lym Beth ydy’r peth mwyaf ‘roc-a-rol’ y mae unrhyw un ohonoch chi wedi ei wneud? Siôn: Nes i fynd mewn i fin o rew yn yr eisteddfod ryngol! Andrew: Ges i baned o de ar y llwyfan unwaith, ond dyw hynna ddim yn roc-a-rol. Mae hynna’n anti roc-a-rol os wbath! Andrew: Ond mewn ffordd, ma’ fe’n mynd yn fwy roc-a-rol gan ei fod e’ mor anti roc-a-rol! Pwy sy’n cwyno fwyaf pan mae pethau’n mynd o’i le? Owain: Pan ’da ni’n gneud gig a ma’ rywbeth yn mynd o’i le, does ’na neb yn rili cwyno, ’da ni jyst yn cael laff am y peth, ond y person sydd yn fwya’ tebygol o sylwi ar gamgymeriadau ydi Siôn. Neith o sylwi mod i wedi gneud camgymeriad ar y gitâr pan dwi heb hyd yn oed sylwi fy hun. Siôn: Dwi’n reit bedantig fel’na!

Owain: Hmm, OCD ne’ wbath, dwi’m yn gwbod. Pa aelod o’r band ydi’r mwyaf tebygol i droi fyny i gig wedi meddwi? Siôn: Oes ’na unrhyw un ohonom ni erioed wedi? Fyswn i’n meddwl Owain fy hun. Owain: Dwi’n licio yfed cyn gig, ond dwi’n trio peidio meddwi, dwi’m yn meddwl mod i erioed ’di gneud gig ’di meddwi achos dwi’n gneud camgymeriadau fel mae hi, fyswn i’n uffernol os fyswn i wedi meddwi. Andrew: Ni gyd yn prôs! Owain: Ar ôl gigs mae hi’n mynd ‘chydig bach yn wyllt weithie - dyna pam ’da ni byth yn hedleinio! Ac i orffen, oes gennych chi unrhyw bleserau cudd cerddorol? Siôn: Dwi’n licio Metalica, a dwi hefyd yn gwylio’r X Factor weithie. Owain: Weithie? Ti’n ei ddilyn o drwy’r gyfres Siôn!

Andrew: Ma’ lot da fi, fy ffefryn i yw Prince, yw Prince yn guilty pleasure? Owain: Nes i brynu casét Aqua unwaith. Siôn: Dwi wedi prynu lot o dapiau yn y gorffennol, dwi’n meddwl na fy sengl gyntaf i oedd Natalie Imbruglia, Torn. Andrew: Y sengl gyntaf nes i brynu oedd, Gettin’ Jiggy With It, Will Smith! 25 ceiniog yn Our Price, Abertawe! Penderfynais er lles street cred y band ddod â’r cyfweliad i ben ar y nodyn hwnnw! Efallai nad oedd yr ardd gefn yn Canton cweit yn Central Park, ond cefais awr bleserus iawn yng nghwmni’r Violas ar nos Sul braf. Cefais groeso cynnes o fisgedi sinsir a photeli seidr. Felly os ydach chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud ar nos Sadwrn olaf y Steddfod eleni cymrwch fy ngair i, mae’r Violas a seidr yn gyfuniad perffaith, a pheidiwch â synnu os fyddwch chi’n gadael gydag EP newydd yn eich llaw!

15


Cymraeg

celf

Darlunio hanes

pop

Roedd Aneurin yn cofnodi hanes y Cymry trwy farddoniaeth yn y 7fed ganrif. Trwy ddarluniau, mae Rhys Aneurin wrthi’n cofnodi hanes cerddoriaeth bop Cymry’r 70au, Awen S. fu’n ei holi ymhellach ar ran Y Selar. Mae Rhys Aneurin, yn fwy adnabyddus i ddarllenwyr Y Selar fel aelod o Yr Ods. Ond mae o hefyd yn dipyn o artist celf - mae newydd orffen cwrs gradd mewn darlunio, ac ar hyn o bryd yn darlunio’i ddyfodol. “Dwi ‘di gorffen addysg am byth, a ^ rw an dwi’n gobeithio gwneud bywoliaeth o ddarlunio, wel, i’r gorau fyddai’n gallu! Dwn’im os dwi’n haeddu bod yn Y Selar neu beidio, ond dwi’n cymryd mod i ynddo oherwydd fy lluniau o sêr pop Cymraeg y 1970au. Dwi wedi bod yn darlunio sawl band ac artist - Edward H. Dafis, Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Injaroc, Bando ... a Brân hefyd, rhaid cofio Brân, ‘nachdi fand anhygoel oedda’n nhw.” Rhan o’i brosiect coleg oedd y darnau hyn, ond pam dewis sêr y gorffennol? “Wel, yyyym, dwn’im, mae lot o fy hoff recordiau o gyfnod yr 1970au, a doeddwn

16

i ddim eisio gwneud bandiau o bob cyfnod oherwydd dim deud hanes pop i gyd oedd fy mwriad. Yr oll oni eisio’i wneud oedd dangos llond llaw o artistiaid o’r cyfnod aur, fel petai, a thrio cyflwyno hyn i bobl eraill. Ond, fy mwriad mawr ydi creu llyfr lluniau o lwyth o fandiau, felly mae hwn yn mynd i fod yn rhan o brosiect mwy, wedyn mi fydd cyfle i wneud cyfnodau eraill, ac felly bydd bandiau eraill yn cael eu trafod.”

Dewis a dethol

Llond llaw hael o artistiaid Cymraeg oedd ^ yn bodoli yn y 70au, felly mae’n siw r bod dethol rhai o’r pwysicaf yn weddol hawdd. Ond, sut fydd mynd ati i ddewis pa lond llaw, o’r llond dwylo sy’n bodoli yn y degawdau diwethaf, fydd yn cael eu darlunio? “Hmm, wel dyna ‘di’r peth, ma’ na gymaint o fandiau i’w cynnwys, sydd wedi cyfrannu cymaint mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mae yna rai, yn enwedig o’r 80au, dwi’n edrych ymlaen yn fawr i’w darlunio. Ond i ateb y cwestiwn, dwi’n meddwl ei fod o’n dibynnu sut fyswn i’n mynd o’i chwmpas hi i ryddhau’r gwaith er enghraifft, fel cyfres o lyfrau ar wahanol gyfnodau, neu fel un llyfr mawr.” Mae’r darluniau gorffenedig i gyd yn cyflwyno’r artistiaid yn perfformio, boed ar lwyfan, yn eistedd neu ar gefndir gwyn. Ydyn nhw’n gopïau o hen ffotograffau o’r artistiaid yn chwarae’n fyw, neu ydyn nhw’n deillio o’r dychymyg mewn rhyw ffordd? “Wel, gyda’r mwyafrif dwi wedi gwylio ffilm o’r artist ac wedyn creu onglau fy hun. Dwi ddim yn credu mewn jest gwneud darlun o ffotograff - rip-off merchant faswn i wedyn a fysa hynny ddim yn dda. Ond dwi yn defnyddio ffotograffau a ffilmiau i weld be oedden nhw’n ei wisgo, a sut oedden nhw’n symud ar y llwyfan, ac yn y blaen.”

Inc a phaent a llinellau du Mae’r elfen o wreiddioldeb yn amlwg yn bwysig mewn unrhyw fath o gelf. Mae’r gwaith yn lliwgar iawn, gyda manylion bychain yn dal y llygad. Sut mae disgrifio’r steil? ^ “Hmm, dwi’m yn siw r o fy steil i fod yn onest. Dwi wedi mwynhau gwneud lluniau o bobl erioed, ond eto, faswn i ddim yn labelu fy hun yn one-trick pony fel petai, does gen i ddim arddull bendant eto dwi’m yn meddwl, a dwn’im os ydw i eisio un! Dwi’n defnyddio inc a phaent yn aml, a dwi’n hoff o linellau du.”


Edward H. Dafis

Brân

Llinellau du - un o’r pethau roedden nhw’n ein dysgu yn yr ysgol i’w osgoi wrth dynnu llun! Peth arall roedden nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol oedd bod gan bob math o gelf neges. Oes ymgais i gyfleu rhyw deimlad arbennig neu neges yn y gwaith? “Ddim yn aml, neu o leiaf, dwi ddim yn trio cael pobl eraill i deimlo’r un peth â fi trwy be dwi’n ei ddarlunio. Ro’dd ‘na lot o deimladau yn rhan o baentiad mawr nes i - gafodd ei ddefnyddio flynyddoedd wedyn fel clawr EP Yr Ods, ond erbyn iddo gael ei ddefnyddio, doedd o ddim yn yr un cyd-destun o gwbl. Llawer o’r amser mi fysan well gen i gael pobl yn sbio ar fy ngwaith a dod i ganlyniadau eu hunain yn hytrach ‘na gwybod be dwi’n ei drafod neu’n ei deimlo. Dwi’n neud lot o waith i fandiau, posteri gigs ac yn y blaen, felly tydi o ddim gymaint amdana i, mae o fwy i wneud efo beth mae’r artistiaid eisio’i gyfleu trwy fy ngwaith i. Mae o’n ddoniol clywed be sy’ gan bobl i’w ddweud, ro’dd rheolwr Sain wrth ei fodd efo clawr Yr Ods, achos ro’dd o’n meddwl taw draig oedd o! Meddylia naff fysa draig goch, mi fysa fo fel fideo Y Profiad!” ^ Fidio penigamp - ac un sy’n siw r o gael mwy o sylw yn dilyn y mensh yma! Sut ymateb cafwyd i’r gwaith, ac ydi’r darlunydd wedi cael cymorth neu ymateb gan rai o’r sêr eu hunain? “Dwi wedi cael ymateb hynod o dda i ddeud y gwir. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael ryw lawer o ymateb, drwg neu dda, ond

Injaroc

17


fe wnaeth ‘na lawer weld yr arddangosfa, a llawer ohonyn nhw’n bobl nad oedd erioed wedi clywed cerddoriaeth bop Cymraeg o’r blaen. Felly ro’dd hynna’n neis - fod pobl wedi cymryd diddordeb. Fe wnes i gysylltu efo Cleif Harpood i holi am luniau ar gyfer gwneud darlun o Edward H., ac mi ro’dd o’n hynod o glên ac mi helpodd o fi lot. Hefyd, fe wnaeth Geraint Griffiths anfon ‘chydig o luniau Injaroc i mi. Dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw. R’odd Cleif yn hoff iawn o’r llun Edward H., ac mi wnaeth o yrru copi i weddill y band - dwi’n falch nad o’dd o’n meddwl ei fod o’n crap eniwe, mi fysa hynny’n siom.” Mae Rhys yn sôn fod llawer o’i hoff recordiau’n deillio o’r 70au, ond fydd o’n gwrando ar yr artistiaid wrth eu darlunio? “Byddaf, mi fyddai bob tro’n trio gwrando ^ ar y band wrth eu darlunio - dwi’m yn siw r os ydi o wir yn helpu, ond mae’n sicr yn rhywbeth dwi’n meddwl sy’n bwysig i’w wneud.”

Bandiau heddiw ... a choblynnod! Tybed fydd ‘na rywun yn gwneud rhywbeth tebyg mewn 40 mlynedd gyda bandiau heddiw? “Efallai wir! Y peth ydi, dydi’r ffaith fod yna ddim cymaint o ddiddordeb heddiw, neu fynychwyr gigs o leiaf, ddim yn golygu na fydd yna ysbrydoliaeth enfawr yn cael ei gymryd o’r bandiau yma mewn ychydig o flynyddoedd. Mae yna gymaint o fandiau’r gorffennol, nad oedd yn boblogaidd ar y pryd, wedi cael dylanwad mawr - sbïa ar Datblygu neu Yr Anrhefn, ro’dd cymaint o beth wnaethon nhw yn DIY. Mi

18

Bando ^ ddylai bandiau rw an gymryd ysbrydoliaeth o hyn, oherwydd tydi o ddim yn gyfnod hawdd i fandiau Cymraeg - ond eto mae ‘na dal modd creu rhywbeth arbennig.” Sôn am ddylanwad, ro’dd Andy Warhol yn enwog am greu darluniau o enwogion, oes rhywfaint o ysbrydoliaeth yn dod o’i waith ef? “Wel dwi’n hoff o Warhol, ond tydi o ddim yn sefyll allan i mi gymaint â hynny. Os am bwyntio at pop art, mae Roy Lichtenstein wedi bod yn llawer mwy o ddylanwad, ac mae Damien Hirst yn un o fy hoff artistiaid. O ran comic strips, dwi’n ffan mawr o Steve Bell - ond dydw i ddim yn efelychu eu gwaith nhw dwi’m yn meddwl.” Mae ‘na ambell ddarn celf o waith Rhys sydd â theitlau fel ‘Goblins’ ac ‘Ych a Fi’... “ Dwi wedi hoffi creu pobl ryfedd a ballu ers yr o’n i’n fach, dwn’im pam chwaith, ond am wn i ei fod o’n dod o’r lle, a’r hobi o ddarlunio pobl.”

Pa gymeriad animeiddiedig hoffai fod? “Yyyyym, dwi’n meddwl byswn i’n llawer gwell bad guy nac arwr, felly a’i efo rhywun fel ... Jafar o Aladdin, the dark lord himself!” O diar! I’r rhai ohonoch sydd heb weld cynnyrch diddorol a hanesyddol Rhys, ewch i www.rhysaneurin.tumblr.com, ond beth am y dyfodol? “Dwi’n hoffi’r syniad o greu lot o waith celf sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth - dwi’n neud clawr EP Yr Angen ar hyn o bryd, ac mi fyddai’n creu posteri i gigs Clwb Ifor Bach bob hyn a hyn. Ond, dydi o ddim yn debygol y bydd yn gallu bod yn rhywbeth llawn amser. Mi fyswn i wrth fy modd yn dechrau creu lluniau i lyfrau plant i gyd-fynd efo testun, mi fysa’n wych gallu creu’r Sali Mali neu Rala Rwdins nesaf.” Gwyliwch y gofod felly, a gwyliwch eich jobs gartwnyddion Cymru!


S a i n•R a s a l•G w y m o n•C o p a Lawrlwytho traciau MP3 Os hoffech brynu traciau neu albyms cyfan mewn fformat mp3 o gatalog Sain, Rasal, Gwymon neu Copa yna ewch i:

www.sioplawrlwythosain.com Cynnig arbennig Prynwch un o’r albyms yma’n gyfan o siop lawrlwytho Sain:

Gwibdaith Hen Frân Llechan wlyb

Daniel Lloyd Tro ar fyd

Fflur Dafydd a’r barf Byd bach

Lleuwen Tân

Ac mi gewch un o’r isod am ddim:

Gwibdaith Hen Frân Tafod dy wraig

Daniel Lloyd a Mr Pinc Goleuadau Llundain

Fflur Dafydd a’r Barf Un ffordd mas

Lleuwen Duw a wˆyr

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com

19


adolygiadau Twrw Jarman Wedi cyfnod hir iawn ar y gweill, ddechrau mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd cyfrol ‘Twrw Jarman’ gan wasg Gomer – llyfr yn cofnodi gyrfa gerddorol hynod Geraint Jarman. Bu Gwilym Dwyfor yn pori trwy’r tudalennau sgleiniog ar ran Y Selar. Does dim dwywaith mai Geraint Jarman yw un o’r unigolion mwyaf diddorol, dylanwadol a phwysig yn hanes y sin roc Gymraeg, felly mae cyfrol newydd am ei yrfa gerddorol yn rhywbeth cyffrous iawn. Dwi’n oedi cyn dweud hunangofiant achos dim dyna sydd yma; fel yr awgryma’r teitl, cofnod o yrfa gerddorol Jarman y cerddor yw ‘Twrw Jarman’, yn hytrach na bywgraffiad cronolegol o’i fywyd. Ac er mor ddifyr ydi clywed pryd a lle a phwy a sut y recordiodd bron iawn bob cân y mae o wedi ei rhyddhau dros y ddeugain mlynedd diwethaf, mae rhywun yn teimlo weithiau fel clywed mwy am Jarman, y dyn. Ceir pennod fer i bob albwm mwy neu

C’MON POKET TREZ Dim ond yr adolygydd ceiniog a dimau sy’n gorfod cyfeirio at fandiau eraill i ddisgrifio miwsig y band dan sylw. Ond weithiau, er mwyn tanlinellu pa mor ddawnus ydy band am daflu sawl arddull sonig i’r pot pop, rhaid rhestru llu o fandiau megis rhestr siopau sonig. Ceir ar sengl gynta’ Poket Trez binsiad o Chemical Brothers, llond ^ llwy de o sw n gitâr Rage Against The Machine, ac arllwysiad o allweddellau fan hufen iâ MC Mabon sy’n benthyg rhyw flas Death in Vegas-esque i’r holl beth. Ond y geirios ar y gacen

20

lai ac mewn gwirionedd, digon tebyg yw pob un, ac o ganlyniad mae’r holl beth yn mynd yn undonog ar adegau. Ceir eithriadau i’r drefn yma ac y mae ambell bennod wirioneddol ddadlennol. Er mai un albwm (Enka) yw prif destun y bennod, ‘Cestyll a Chasineb’ mae yma lawer mwy na disgrifiad o broses recordio’r albwm honno yn y bennod hon. Ceir hefyd ychydig o hanes anghydfod rhwng y Cynganeddwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y cyfnod. Cafodd y band eu gwahardd rhag gwneud gigs i’r Gymdeithas am flwyddyn gan eu bod wedi cymryd rhan mewn sioe gerdd yng Nghastell Caernarfon ym 1983. Roedd hwn yn waharddiad arwyddocaol o ystyried mai gan y Gymdeithas yr oedd ‘monopoli’r gigs yng Nghymru’ ar y pryd, ac y mae’n amlwg fod yr holl beth wedi cael effaith ar Jarman, hyd heddiw hyd yn oed. Pennod arall hynod ddifyr yw ‘Cerddorfa

yw’r sampl gwych o’r negro Cymraeg yn gweiddi “Ymlaen Motherf***ers” dro ar ôl tro ar ôl tro. Weithiau, rhaid wrth regi i danlinellu’r gorthrwm. Ac mae’r newid tempo wrth i’r gân gyflymu’n awgrymu fod ‘C’mon’ yn mynd lawr fel bom mewn gigs P.T., efo’i bîts budurbalch-o-gael-byw. Daw’r ochrau B i gadarnhau’r ddawn sydd yma: ‘Rip it down’ yn transi-hypnotig-honki-tonkhyfryd; a ‘Studmark’ yn arwydd o fand yn cael laff yn y stiwdio – brwdfrydedd heintus sy’n creu corwynt ar y dawnslawr. 9/10 Barry Chips

Wag a Fideo 9’ sy’n sôn am y cyfnod y cymrodd Jarman hoe o’r perfformio a chanolbwyntio ar gynhyrchu’r rhaglen deledu gerddorol, Fideo 9. Roedd y rhaglen hon yn ganolog i ffyniant y sin Gymraeg yn un o’i chyfnodau mwyaf cyffrous ac y mae’n ddiddorol iawn clywed argraffiadau Jarman ei hun o’r cyfnod pwysig hwn yn niwedd yr wythdegau a dechrau’r nawdegau. Yn weledol, mae’n gyfrol wych. Pa mor aml yr ydan ni’n gweld cyfrolau fel hyn efo llond llaw o luniau wedi eu stwffio’n flêr i dudalen neu ddwy yng nghanol y llyfr? Ond yn Twrw Jarman ceir lluniau da ar bob yn ail dudalen bron iawn ac y mae’r holl beth wedi ei ddylunio’n dda iawn. Mae’r holl gyfrol wedi ei hysgrifennu ar ffurf

DYN O’R COED HUW HAUL Prosiect cerddorol newydd Huw Morgan a Dewi Williams yw Huw Haul, ac ar wahân i hynny alla i ddim dweud llawer wrthych chi am y cefndir gan fod rhyw naws eithaf dirgel, tanddaearol i’r holl beth! Ond peth da ydi hynny dwi’n meddwl gan bod rhywun yn gwrando ar y gerddoriaeth heb ragfarn ac yn hollol ddi-duedd. Beth am y gerddoriaeth felly? Wel roc melodig sydd yma ond gydag elfen electroneg gref yn codi ei phen yn nifer o’r traciau. Mae yna ddefnydd da o’r ffidl ar un neu ddwy o’r caneuon hefyd. Efallai ei fod o’n swnio fel cyfuniad rhyfedd o synau

ac arddulliau ond mae o’n gweithio’n dda iawn rhywsut. Yr enghraifft orau efallai yw’r trac ‘Dyn o’r Coed’ ble mae’r elfennau gwahanol i gyd yn plethu i greu cân gryf aml haenog. Mae’r traciau ‘Joanna’ a ‘Dechrau’ yn ffefrynnau eraill. Dwi’m yn meddwl bod Huw Haul yn cymryd ei hun ormod o ddifrif, ‘chydig o hwyl sydd ar waith yma ond mae digon o safon hefyd. Does na’m caneuon gwirioneddol gofiadwy ond mae Huw Haul yn brosiect newydd i’w groesawu, a mi fydd na sothach llawer gwaeth na’r CD yma’n cael eu stwffio o dan eich trwynau chi yr haf yma. 7/10 Gwilym Dwyfor


UWCHBEN Y DREFN SIBRYDION Moses yn cymryd cyffuriau, dyn hysbys yn llechu yng nghysgodion Cymru, bod yn sgint ond yn hapus, chwarae cân yn yr amser mae’n gymryd i ferwi tegell mae hyn oll a mwy yn aros amdanoch chi â’ch clustiau lwcus ar ‘Uwchben y Drefn’. Dyma albwm gynta’r Sibrydion ar label newydd Osian a Meilyr Gwynedd, JigCal. Mae yma negeseuon gwleidyddol yn ogystal â ^ thipyn o hwyl ac mae’r sw n mor amrywiol a’r cynnwys – un funud fe fyddwch chi’n meddwl eich bod chi’n Sbaen neu Giwba, a’r munud nesa fe fyddwch chi wedi eich chwyrlio i mewn ^ i fyd cartw n honky-tonky gwallgof. Codwch eich clustiau i ‘Codi cestyll’, ‘Dawns y Dwpis’ a ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws’, ond go iawn, mae nhw’i gyd yn fêl i’r glust. Mwynhewch! un cyfweliad hir, gyda chwestiwn byr gan Eurof Williams yn cael ei ddilyn gan ateb cynhwysfawr gan Jarman. Ac er bod y steil cylchgrawn yma’n gweithio’n dda mewn mannau, nid yw’n strwythur sy’n llwyddo i ddal sylw rhywun am ddau gan dudalen! Un peth lwyddodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr yn eu hanterth i’w wneud yn fwy nag unrhyw fand arall ynghynt neu wedyn, oedd apelio at gynulleidfa ddi-gymraeg heb droi at ganu’n Saesneg. Efallai bod y genhedlaeth hy^ n o ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg yn gwerthfawrogi hynny’n barod, ond yn sicr mae’r gyfrol hon yn help i ni ddarllenwyr iau sylweddoli beth yn union oedd statws y band hwn yng Nghymru, a thu hwnt ar ddiwedd y

SWIMMING LIMBS JEN JENIRO Dyma EP taclus o bop seicadelig. Fel eu perfformiadau byw, mae’n hollol chilled ^ out, yn cw l - a llais y prif ganwr yn gyson o ddigynnwrf trwy’r EP. Mae Jen Jeniro wedi datblygu i fod yn un i fandiau gorau’r sin - ac mae ^ sw n proffesiynol Swimming Limbs yn profi eu bod ar y llwybr cywir i wella eto fyth. Mae yna ddos o’r Coral yma, awgrym o’r Sibrydion, ac efallai fy mod yn dychmygu hyn ond mae hyd yn oed dylanwad y Cyrff i’w glywed yn y band a sefydlwyd yn Llanrwst. Fy hoff gân yw’r gyntaf - Ebeneezer, mae stamp clasur o gân ar hon hefo’i harmoneiddio hafaidd a’r melodïau ar y gitârs. EP perffaith ar gyfer road trips yr haf. 8/10 Leusa Fflur

saithdegau a dechrau’r wythdegau. Yn y bennod, ‘Casablanca a Thu Hwnt’ ceir hanes gigs yng nghlybiau’r Casablanca a’r Top Rank yng Nghaerdydd a oedd yn denu torf ddi-gymraeg yn eu degau a’u cannoedd. Ac yn nes ymlaen yn y gyfrol ceir stori hyfryd am weithiwr ffordd o’r brifddinas yn codi’i ben o dwll yn y ffordd a gofyn i Jarman, “Oi, Didn’t you used to be Geraint Jarman?” Rhyw gyffyrddiadau bach fel hyn sy’n gwneud y gyfrol yn werth ei darllen, a cheir mwy a mwy o’r cyffyrddiadau hynny tuag at ddiwedd y llyfr. Yn anffodus mae yna ormod o benodau diflas ac undonog ar y dechrau ond fe allwch chi wastad sgipio’r rheiny ac edrych ar y lluniau!

9/10 Casia Wiliam

DISTEWCH, LLAWENHEWCH PLANT DUW Albwm newydd Plant Duw? Ai dyna beth mae golygydd Y Selar yn ei gynnig i mi? O IE! Hip hip hwre! Mae ‘na hen aros wedi bod at albwm newydd gan yr hyfryd a gwallgof Blant Duw, ac mae’n werth yr aros, ooo ydi. Mae’n cychwyn gyda ‘Astronot’ sy’n agor yr albwm yn gryf ac yn steil Plant Duw-aidd. Mae ‘Bwgi Breuddwyd’ ychydig arafach - a dweud y gwir mae ‘na dipyn o ganeuon sy’n fwy ‘low-key’ na dwi ‘di arfer clywed gan Plant Duw - falle bod gormod o amser ers i mi eu gweld nhw’n fyw?! Dwi’n hoff iawn o ‘Geiriau Hurt fy Mabi’, sy’n hwylus ac yn fachog iawn - a dweud y gwir ma’r albwm cyfan yn chwareus, a phwy sy’n gwneud chwareus yn well na Plant Duw? Mae ^ sw n ska-grynj mae’r band yn ei wneud cystal yn gryf trwy’r albwm, ond mae Plant Duw wastad yn gryfach yn fyw - dyma lle maen nhw yn eu helfen a dwi methu aros i’w gweld nhw yn yr Eisteddfod yn chwarae’r caneuon newydd yma. Mae’r albwm yn cloi gyda ‘Nos Da’ sy’n ddiwedd teilwng (13 munud!) i albwm gwych. Mae wedi bod yn amser hir… ond croeso nôl Plant Duw! 8/10 Lowri Johnston Awydd ysgrifennu adolygiad i’r Selar. Cysylltwch â ni

yselar@live.co.uk

21


newyddion Labeli lu Ffurfio label yn catching Mae Cymru wastad wedi cael ei siâr o labeli recordio bach. Er hynny, gyda’r labeli mwy yn llawer mwy gofalus o’r cynnyrch maen nhw’n buddsoddi ynddo ar hyn o bryd mae nifer o labeli llai yn cael eu ffurfio. Un o’r rhain ydy ‘I Ka Ching’, sydd wedi ei ffurfio gan ddau gerddor sy’n aelodau o grwpiau gwahanol. Mae Gruff Ifan yn ddrymiwr i Texas Radio Band a Land of Bingo ymysg eraill ac wedi penderfynu ffurfio label ar y cyd â Gwion gitarydd Jen Jeniro. “Ry’n ni wedi ffurfio’r label gan fod gyda Texas Radio Band a Jen Jeniro gynnyrch yn barod i’w ryddhau, ond dim label i wneud hynny” meddai Gruff. “Mae’n gyfnod anodd i labeli bach, ac yn anodd cymryd risg i ryddhau stwff - ro’dd labeli gyda diddordeb yn y stwff, ond ddim â’r adnoddau ac arian i wneud dim byd.” Cafodd EP newydd Jen Jeniro, ‘Swimming Limbs’, ei ryddhau’n ddigidol ar 11 Gorffennaf ac mae 250 o gopïau finyl ar gael i’w prynu ^ ers penwythnos Gw yl Gardd Goll. Mae pawb sy’n prynu copi finyl hefyd yn cael cerdyn sy’n eu galluogi i lawr lwytho’r fersiwn digidol am ddim.

Pam bod I Ka Ching wedi dewis rhyddhau record finyl fel cynnig cyntaf felly? “Ro’dd Jen Jeniro’n awyddus i wneud rhywbeth gwahanol, tra bod I Ka Ching yn awyddus i’r cynnyrch cyntaf fod yn broffesiynol a chofiadwy” meddai Gruff.

TRB Bydd y newyddion bod albwm newydd gan Texas Radio Band i ddod yn fuan ar y label yn cyffroi nifer. Mae tair blynedd bellach ers ^ i’r grw p o Sir Gâr ryddhau’r albwm Gavin label Peski. “Bydd hwn mas ym mis Awst rhyw ben” eglura Gruff “...bydd ar gael i’w brynu’n ddigidol yn unig. Dyna oedd y band eisiau ac mae’n rhatach! Gan nad ydy Texas Radio Band yn gigio lot mae’n anodd gwerthu CDs beth bynnag felly mae digidol yn gwneud synnwyr.” “Mae’r albwm wedi gorffen cael ei gymysgu ers tua blwyddyn, ond mae wedi’i recordio ers dwy. Mae Mini wedi cynllunio

gwaith celf y fynd gyda’r cynnyrch newydd hefyd.” Ond beth ydy cynlluniau’r dyfodol i’r label ifanc? “Ni’n chwilio am fandiau ifanc ‘da cherddoriaeth amgen, sy’n dal y llygad a’r glust” medd Gruff. “Ry’n ni’n awyddus i glywed gan fandiau sydd ishe cymorth.” Mae EP Jen Jeniro, Swimming Limbs ar gael i’w brynu’n ddigidol am £3 tra bod y finyl nifer cyfyngedig yn £7. http://ikaching.co.uk/ http://soundcloud.com/jenjeniro

Lliwiau llachar Prosiect arall hynod ddiddorol a chyffrous yw label newydd Recordiau Lliwgar. Mae’r label wedi ei ffurfio gan dri o hogiau brwdfrydig sy’n gweithio i’r gorfforaeth ddarlledu o ddydd i ddydd, sef Meic P, Gruff Pritch ac Osian Edwards. “Da ni wedi cychwyn y label gan ein bod yn ffans mawr o gerddoriaeth Gymraeg ac eisiau rhoi platfform arall i ragor o fandiau cyfoes o Gymru ryddhau caneuon. Mae diffyg labeli recordiau annibynnol ar hyn o bryd gyda llawer iawn o fandiau yn gorfod rhyddhau eu stwff eu hunain” meddai Osian wrth Y Selar. Fel mae enw’r label yn awgrymu, mae lliwiau’n thema ganolog i’r recordiau finyl nifer cyfyngedig y byddan nhw’n rhyddhau. Y record gyntaf sydd ^ allan rw an yw’r Record Goch

22

sy’n cynnwys dwy gân yr un gan ^ bedwar grw p gwahanol - Sen Segur, Y Bwgan, Cowbois Rhos Botwnnog a Dau Cefn. “Cafodd Meic y syniad o greu label i ryddhau casgliadau ac fe wnaeth y label esblygu o hynny. O ran edrychiad y recordiau, mae hen gloriau llyfrau Penguin wedi bod yn ysbrydoliaeth yn sicr. Maen nhw’n edrych yn syml ond eto’n ddeniadol dros ben.”

Pethau i’w casglu Holl syniad y prosiect yw i greu recordiau y bydd pobl yn awyddus i’w casglu. “Yn ein tyb ni, y ffordd orau o wneud hyn fyddai creu casgliadau aml-gyfrannog o gerddoriaeth wych a gwneud hynny ar finyl lliw gyda chlawr deniadol.”

“Roedd yn bwysig i ni ei fod yn aml-gyfrannog er mwyn cael amrywiaeth. Dydyn ni ddim yn credu bod angen cadw i un math o gerddoriaeth ar bob record felly mae’n gymysgedd eithaf eclectig. Yn ogystal â rhyddhau caneuon gan rhai o fandiau mwyaf blaenllaw Cymru, rydym hefyd yn bwriadu dod ag artistiaid newydd

i’r amlwg a rhoi platfform iddyn nhw.” Tydi Recordiau Lliwgar ddim yn twyllo eu hunain bod y prosiect yn mynd i’w gwneud yn filiwnyddion. Maen nhw’n gwybod “na fydd y record yn gwneud llawer o arian felly ein nod yw gwerthu digon o bob record i gyfro costau rhyddhau’r record nesaf a pharhau i amlygu bandiau gwych o Gymru.” Tydyn nhw chwaith ddim yn poeni’n ormodol am y math o gerddoriaeth sy’n cael ei rhyddhau ar y label, cyn belled â bod y traciau’n dda! Ar ôl y Record Goch, maen nhw’n bwriadu rhyddhau rhagor o recordiau finyl lliw gwahanol, gyda’r Record Las ar y gweill nesaf er nad oes dyddiad rhyddhau ar gyfer honno eto. http://recordiaulliwgar.com/


Band o’r gogs yn newid eu henw Sengl Sneed ^ Bydd rhai o ddarllenwyr Y Selar yn cofio grw p o’r enw Y Cer yn cael sylw Dau i’w Dilyn yn rhifyn Rhagfyr 2010. Wel, mae’r band o Wynedd a Sir Fôn bellach wedi penderfynu newid eu henw i Rosary ac yn cynllunio cyfnod prysur dros y misoedd nesaf. “Mae’r band wedi bod yn meddwl newid yr enw ers rhai misoedd rwan i alluogi ni i apelio at fwy o wrandawyr yn yr sin gerddoriaeth y DU yn hytrach na ddim ond yng Nghymru” meddai Huw o’r band. Mae’r bois wedi cael cyfnod bach digon prysur ar ddechrau’r haf a chryn lwyddiant fel y mae hi. Maen nhw wedi recordio sesiwn i C2 Radio Cymru, ac wedi llwyddo i gael eu cynnwys ar restr chwarae Radio 1 Introducing. Er bod MySpace wedi mynd yn llai poblogaidd efo grwpiau yn ddiweddar, mae Rosary wedi bod yn cymryd mantais llawn o’r wefan rwydweithio - maen nhw bellach wedi pasio 40,000 o ymwelwyr i’w safle gyda’u caneuon yn cael eu chwarae dros 20,000 o weithiau. Mae’n rhaid eu bod nhw’n gwneud rhywbeth yn iawn felly! www.myspace.com/thisisrosary

Record liwgar Colorama Newyddion bendigedig sydd wedi cyrraedd clustiau Y Selar yw bod albwm cryno newydd ar y gweill gan Colorama. Y newyddion gwell fyth yw bod mwyafrif caneuon y record newydd yn Gymraeg, ac mae’r arlwy’n swnio’n flasus iawn yn ôl ^ yr hyn roedd Carwyn Elis o’r grw p yn dweud wrth Y Selar. “Enw’r record newydd fydd Llyfr Lliwio, ac fe fydd yn cynnwys saith trac a chwech o’r rhain yn ganeuon Cymraeg” meddai Carwyn. Mae’r enw’n awgrymu bod y casgliad yn un lliwgar? “Ydy, ni’n trial cadw’n lliwgar o ran yr amrywiaeth. Mae’r mini-album yn ddatblygiad ^ o sw n y band. Mae cwpl o’r trefniannau’n syml, ond peth o’r stwff yn fwy dwfn a chymhleth hefyd.” “Ni’n gobeithio bydd ‘e mas diwedd mis Medi, ond o bosib bydd rhai copïau ynghynt na hynny. Byddwn ni’n rhyddhau ar CD ac i’w lawr lwytho.” Beth, dim finyl? Does bosib? Mae pawb arall wrthi ...

“Wel, ni’n edrych mewn i finyl ond sai’n addo dim.”

Teithiau posib Does yna ddim cynlluniau soled ar gyfer hyrwyddo’r cynnyrch newydd eto, ond yn ôl Carwyn maen nhw’n awyddus i wneud taith o Gymru ac efallai taith Brydeinig ar ôl rhyddhau. Heblaw am y sengl Cerdyn Nadolig, mae CDs blaenorol Colorama wedi bod â mwy o ganeuon Saesneg na rhai Cymraeg. Sut dderbyniad maen nhw’n disgwyl i Llyfr Lliwio ei chael y tu hwnt i glawdd Offa felly? “Dyw’r gynulleidfa sy’n dod i’n gigs ni ddim yn poeni o gwbl am yr iaith. Nes i ddau gig yn yr Alban yn ddiweddar, a’r cyntaf dim ond yn Saesneg, ond ar ddiwedd y gig odd pobl yn dod lan ata’i ac yn holi ble oedd y caneuon Cymraeg.” www.myspace.com/ coloramasound http://soundcloud.com/ coloramasound

Mae’r artist electroneg, JJ Sneed yn brysur iawn dros y misoedd nesaf, ac yn bwriadu cydweithio tipyn â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe fydd JJ Sneed, neu Alun Reynolds fel mae ei fam yn ei adnabod yn lansio sengl newydd ‘Sianel Rhif 4’ ar uned Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fydd i’w weld yn perfformio yno am 1pm ar y dydd Mercher. Ar ben hynny, mae Alun, ynghyd â Jamie Bevan o’r Gymdeithas yn gobeithio trefnu taith arbennig o amgylch Cymru yn yr hydref. “Enw’r daith fydd ‘Y Chwyldro Electroneg’” meddai Jamie wrth Y Selar. “Mae e’n ymwneud â’r angen am chwyldro yn y sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar hyn o bryd.” Mae’r sengl yn amlwg yn clymu mewn gydag ymgyrchoedd diweddar y Gymdeithas i warchod S4C,

gan awgrymu bod y sianel yn bwysig iawn i JJ Sneed. “Fel rhywun sy’n dod o Bontypridd fi’n credu bod e’n teimlo bod S4C yn ganolog i gynnal a chryfhau’r iaith yn y math yna o ardal” meddai Jamie. http://soundcloud.com/jjsneed/ http://www.myspace.com/ jjsneedmusic

C YFO ES C Y FFR OUS … N OFE LA U ’ R L OLF A

£8.95

allan ym Mehefin

Rhestr fer

Llyfr y Flwyddyn

£9.95

£8.95

£8.95

www.ylolfa.com

23


GWAITH/ CARTREF Drama newydd 21∑00 Nos Sul 18 Medi

New drama 21∑00 Sunday 18 September

Mae ’na wers i’w dysgu Teaching - it’s an education


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.