Selar Bach Steddfod

Page 1

nnig Rhifyn arbe Urdd Steddfod yr

bach Mae’r Selar wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’r Urdd i wneud yn siŵr bod mwy o gerddoriaeth gyfoes nag erioed ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon. Dyma i chi ganllaw bach i’r artistiaid y gallwch chi eu gweld ar y maes yng Nghaerffili.

....canlla wi gerddo riaeth gyfoes ar f Eistedd aes f yr Urdd od 2015

Y prif le i weld cymysgedd o enwau amlycaf, ynghyd â rhai o fandiau mwyaf addawol y sin ydy’r Llwyfan Agored. Ymysg yr enwau mawr mae Plu, Y Ffug, a Kizzy Crawford ond rydan ni hefyd yn gyffrous iawn ynglŷn â nifer o’r enwau newydd sy’n mynd i ddal y llygad dros y blynyddoedd nesaf – Terfysg, Henebion a Cpt Smith yn eu mysg. Yn ogystal â’r llwyfan agored, mae modd i chi ddal nifer o’r artistiaid ar lwyfan uned y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (109-112). Mae Mellt, Alun Tan Lan, Y Cledrau a llawer mwy yn chwarae yma’n ystod yr wythnos. Mae lein-yp llawn o’r gerddoriaeth gyfoes ar y llwyfannau yma yng nghanol y daflen.

Rhifyn Newydd Y Selar Mae rhifyn Mehefin o’r Selar allan rŵan, ac ar gael ar faes yr Eisteddfod cyn unrhyw le arall. HMS Morris, sy’n rhan o gynllun Gorwelion y BBC/Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd ar glawr y rhifyn newydd a chyfweliad gyda nhw rhwng y cloriau. Rydym hefyd wedi bod yn sgwrsio gyda Calfari, Band Pres Llarreggub, Cpt Smith a Breichiau Hir ar gyfer y rhifyn newydd, ac mae gennym lwyth o adolygiadau ac erthyglau eraill yn ôl yr arfer.

Gallwch fachu copi o’r Selar ar y maes yn y llefydd canlynol: Canolfan Groeso’r Eisteddfod; Coleg Cymraeg Cenedlaethol (109-112); Pentre Mistar Urdd; Llwyfan Agored y maes; Caffi Mistar Urdd; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (33-24); Cyngor Llyfrau Cymru; Mentrau Iaith Cymru (60-62)


Miwsi y maesg LLUN 25 MAI

MAWRTH 26 MAI

MERCHER 27 MAI

IAU 28 MAI

GWENER 29 MAI

SADWRN 30 MAI

12:00

Sion Russel Jones

Hyll

Y Ffug

Roughion

GORWELION HMS Morris

Gareth Bonello

13:00

Senglau’r Selar Henebion

Senglau’r Selar RaffDam

Senglau’r Selar Ysgol Sul

Senglau’r Selar Cpt Smith

GORWELION Delyth Maclean

Senglau’r Selar Terfysg

14:00

Plu

Alun Tan Lan

Y Cledrau

Kizzy Crawford

GORWELION Mellt

Sion Owens

15:00

Gildas

Cadno

Mr Huw

Fast Fuse

Bandiau Menter Iaith / Artistiaid lleol GORWELION

16:00

Aled Rheon

Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol 12:00 15:00

Plu

Alun Tan Lan

Y Cledrau

Kizzy Crawford

Mellt Delyth Maclean

Terfysg


CAPTEN AR Y CLWB CPT SMITH YN YMUNO Â CHLWB SENGLAU’R SELAR Grŵp ifanc addawol sy’n gymysgedd o ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Preseli ydy’r diweddaraf i ryddhau sengl gyntaf gyda Chlwb Senglau’r Selar. Mae ‘Resbiradaeth’ gan Cpt Smith allan i’w lawr lwytho’n ddigidol yr wythnos yma, a does dim amheuaeth ei bod yn mynd i ddod yn gân gyfarwydd iawn i bawb dros yr haf. Lansiwyd Clwb Senglau’r Selar fel rhag o ddathliadau pen-blwydd Y Selar yn 10 oed ym mis Tachwedd, a sengl Cpt Smith ydy chweched sengl y Clwb gan ddilyn ôl traed Estrons, Y Trŵbz, Ysgol Sul, Henebion a Terfysg. Syniad y Clwb Senglau ydy rhyddhau sengl gyntaf grwpiau ifanc addawol sy’n creu argraff arnom ni, a hyd yma mae’r senglau i gyd wedi cael ymateb ardderchog. Bydd y rhai craff yn sylwi bod slot penodol ar gyfer Senglau’r Selar ar Lwyfan Agored maes y Steddfod bob dydd am 13:00, a gallwch glywed nifer o artistiaid y cynllun yn ystod yr wythnos.

Henebion sy’n agor y slot ddydd Llun, ac mae Dio Davies o’r grŵp yn dweud bod y Clwb Senglau wedi bod yn werthfawr i’w grŵp. “Mae Clwb Senglau’r Selar wedi rhoi cyfle gwych i ni fynd mewn i stiwdio broffesiynol i recordio am y tro cyntaf, ac i weithio gyda chynhyrchydd fel Ifan Jones. Mae wedi bod yn brofiad arbennig o dda i ni, a gobeithio bydd modd i ni ddatblygu fel band o ganlyniad i’r profiad.” Os ydach chi mewn band newydd ac eisiau cynnig eich hunain ar gyfer y Clwb Senglau, cysylltwch â ni – yselar@live.co.uk Pawb arall, ewch i chwilio am y senglau gwych yma ar iTunes, Spotify neu Amazon: C-C-CARIAD - Estrons Tyrd yn Ôl - Y Trŵbz Aberystwyth yn y Glaw - Ysgol Sul Mŵg Bore Drwg - Henebion Neb yn Aros – Terfysg Resbiradaeth – Cpt Smith


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.