Y Selar - Tachwedd 2015

Page 1

Rhif 43 | Tachwedd | 2015

PLU y-selar.co.uk Y Pencadlys | Yr Angen | Elixir | Adolygiadau

1


Anfonwch eich ceisiadau

NAWR!

Gwobr gyntaf o ÂŁ5,000 Dyddiad cau: Tachwedd yr 20fed 2015 am fanylion pellach cais@avantimedia.tv s4c.co.uk/canigymru 02920 838149


y Selar

cynnwys

RHIF 43 | TACHWEDD | 2015

Golygyddol Mae tîm pêl droed Cymru ar eu ffordd i dwrnament mawr am y tro cyntaf ers 1958. Mae hynny’n golygu un peth, mae angen cân. Mae ‘Ally’s Tartan Army’ o 1978 yn glasur, ac er nad ydan ni’n hoffi pêl droedwyr Lloegr, pwy all anghofio cyfraniad anfarwol John Barnes ar ‘World in Motion’ yn 1990? Pwy gawn ni i gyfansoddi anthem answyddogol Cymru ar gyfer Ffrainc felly? Mae un peth yn sicr, mae digonedd o gerddorion â diddordeb yn y bêl gron. Roedd hi fel Maes B ym Mosnia mis diwethaf. Yno, mi welish i o leiaf un aelod o Sŵnami, Yr Ods ac Yr Oen, yn ogystal â chyn aelodau o Jen Jeniro a’r Promatics. Ac onid oedd Dewi Prysor yn arfer bod mewn band? Vates – cofio nhw? Does yr un gân ymgyrch yn gyflawn wrth gwrs heb gyfraniad un o’r chwaraewyr ac mae gen i rywun mewn golwg. Mae o’n dod o Ddyffryn Nantlle a’i ail enw yw Fôn... Na, nid Bryn, nac Iwan chwaith, ond Owain wrth gwrs. Fyddi di ddim ar y fainc i ni boi. Gwilym Dwyfor

4

8

Y Pencadlys

4

Newyddion

8

Plu

10

Î Bê

13

Yr Angen

14

Lansio Gwobrau’r Selar 2015 16 Elixir

18

Adolygiadau

20

10

Llun clawr: Kristina Banholzer

18

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Megan Tomos, Elain Llwyd, Lois Gwenllian, Ciron Gruffydd, Lowri Johnston, Miriam Elin Jones

y-selar.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Bydd unrhyw un sydd wedi bod mewn gig Y Pencadlys yn gwybod fod ei gerddoriaeth electronig angerddol yn stwff da i ddawnsio iddo. Mae’n debyg fod Theatr Genedlaethol Cymru wedi sylweddoli hynny achos Y Pencadlys sydd yn gyfrifol am gyfansoddi a pherfformio’r gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf y cwmni, Dawns Ysbrydion.

DAWNSIO GYDA’R

PENCADLYS F

el yr awgryma’r enw, perfformiad dawns yw cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon, Dawns Ysbrydion. Wedi ei ysbrydoli gan hen ddawns ysbrydion llwythi brodorol Gogledd America, mae’r perfformiad amserol yn trafod diwylliannau dan fygythiad ac yn rhoi hanes boddi Cwm Tryweryn mewn cyd-destun rhyngwladol. Roedd cynhyrchiad o’r fath angen cerddoriaeth oedd yn deilwng, a gydag Eddie Ladd, connoisseur cerddoriaeth amgen a chyn gyflwynydd Fideo 9, yn perfformio a chyfarwyddo, dyna lle y daw Y Pencadlys i mewn. “Eddie Ladd ei hun wnaeth gysylltu,” eglura Y Pencadlys, neu Haydon Hughes i roi iddo’i enw iawn. “Ma’ hi wedi bod yn cefnogi’r hyn dwi’n ei wneud ers sawl blwyddyn, dwi wedi dod i’w ’nabod hi trwy gigs ac ati. Ddudodd hi bod hi awydd cwrdd i weld os oedd gen i ddiddordeb bod yn rhan o’r cynhyrchiad. Nesh i gyfarfod hi yng Nghaerdydd a chael ’chydig o gefndir y cynhyrchiad, syniad o beth oedd o a’r hyn oeddan nhw’n mynd i’w wneud.”

4

y-selar.co.uk

Er bod Haydon yn ymddiddori yn y math yma o waith ac yn gyfarwydd â gwaith Eddie gyda’r cwmni perfformio arbrofol, Brith Gof, doedd o erioed wedi gwneud dim byd tebyg ei hun. “Roedd o’n gyfla i wneud rwbath o’n i erioed wedi ei wneud o’r blaen. Do’n i erioed wedi gweithio ym myd y theatr, erioed wedi gweithio efo cwmni dawns, jysd mewn bands ac ar ben fy hun o’n i wedi perfformio. Roedd mynd o hynny i weithio efo rywun arall a chael cyfarwyddwr yn deud wrtha ti be’i neud yn her, doedd ’na neb erioed wedi deud wrtha i be’i neud cyn hynny!” Wedi derbyn yr her, treuliodd Y Pencadlys gyfnod yng nghartref y Theatr Gen yng Nghaerfyrddin yn datblygu’r gwaith gyda’r tair perfformwraig; Angharad Price Jones, Eddie Ladd ac Anna ap Robert, a hynny o dan ofal y gyfarwyddwraig a’r coreograffydd, Sarah Williams. “Rhan fach oeddwn i i fod i ddechrau, yn cydweithio efo cerddorion a chyfansoddwyr eraill, ond ddigwyddodd hynny ddim ac yn y diwedd ges i wahoddiad i gyfansoddi a pherfformio’r holl beth. Nes i dreulio tua pum wythnos yn datblygu syniadau efo’r criw ’ma o bobl dalentog llawn angerdd sydd yn herio ti i fod yn well ac yn well ac yn well.”


Proses o arbrofi oedd hi a bu Haydon am gyfnod yn chwarae gyda syniadau a synau wedi eu hysbrydoli’n uniongyrchol gan hanes Capel Celyn. Yn y diwedd serch hynny, daeth ysbrydoliaeth Y Pencadlys gan y dawnswyr. “Ddoth o ata i yn union o’i gweld nhw’n dawnsio a datblygu. Mi ddoth o’n eitha’ organig yn y diwedd, neu’n eitha’ cinetig, teimlo beth oeddan nhw’n ei neud a meddwl am y ffordd oeddan nhw’n symud.” Mae’r natur organig hwnnw’n golygu na fydd yr un perfformiad yn union yr un peth ag un arall ac yn rhoi’r rhyddid i bawb amrywio pethau o un noson i’r llall. “Mae pob perfformiad yn mynd i fod yn wahanol. O ran synau fydd o’n debyg ond o ran perfformiad, hollol wahanol. Dwi’n perfformio fel dwi’n gweld nhw’n symud, mae’r broses fyw yn bwysig iawn i mi a’r cyfarwyddwr. Os fyswn i’n licio ystadegau fyswn i’n deud bod tua 80% yn dod yn fyrfyfyr i mi. Fe ddaw yna bwynt pan fydd o’n debyg iawn bob nos ond fydd yna rywbeth yn wahanol bob tro dwi’n siŵr. Fel mae Eddie yn ei ddeud, mae o fel gig ond efo dawnswyr hefyd! Gig swancus iawn ella ond mae o fel gig!”

“Y peth anodda’ ydi cyfleu stwff byw ar record.” y-selar.co.uk

5


Caeredin Er mai taith mis Tachwedd fydd y perfformiadau cyntaf yng Nghymru, mae Haydon yn siarad o brofiad gan ei fod eisoes wedi bod yn rhan o’r sioe yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ym mis Awst, lle cafodd y cynhyrchiad ymateb ffafriol. “Gafodd o ymateb da iawn. Oeddan ni’n ceisio hyrwyddo a phwysleisio ei fod o’n rwbath Cymraeg, rwbath o ddiwylliant bach yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa ehangach. Yn hynny o beth, odd o’n debyg i gig ond fy mod i’n cal rhannu’r teimlad efo pobl eraill ar y llwyfan efo fi.” Mae’r gymhariaeth rhwng perfformio cerddoriaeth fel rhan o gynhyrchiad theatr a pherfformio gig yn un diddorol, ac un o’r prif wahaniaethau mae’n debyg oedd yr amser perfformio. “Oeddan ni’n perfformio am 10:30 y bora yng Nghaeredin, a fydda i ddim yn perfformio gigs tan wedi 8 neu 9 yn nos! Oedd mynd all-out a chael yr adrenalin yna mor fuan yn wahanol iawn.” Ar wahân i ychydig o ganu/galw tuag at y diwedd, offerynnol yn unig yw cyfeiliant Y Pencadlys, sydd yn syndod o bosib o ystyried natur wleidyddol themâu’r perfformiad. “Be’ sy’n hawdd i mi mewn ffordd ydi’r ffaith fod yr hyn sy’n digwydd ar y llawr yn cyfleu’r wleidyddiaeth, mae’r angerdd yn cael ei gyfleu felly. O ran yr hyn dwi’n ei ganu, mae o’n wbath gwahanol bob nos, canu byrfyfyr ar deimlad yn unig. Mae’r wleidyddiaeth trwy bob dim, cyfleu’r symudiadau dwi.” Mae’n hollol amlwg wrth wrando ar Haydon yn trafod y prosiect ei fod wedi mwynhau ac mae hi’n anorfod bron y bydd profiad fel hwn yn dylanwadu ar gerddoriaeth Y Pencadlys. “Mae o wedi’n barod,” cadarnha Haydon. “O’n i’n gweithio ar record ar yr un pryd a dwi wedi mynd yn ôl at honno. Mae cyfnod datblygu, ymarfer a pherfformio Dawns Ysbrydion wedi rhoi ambell syniad newydd i mi. A dwi’n meddwl yn y dyfodol fydd bob dim fydda i’n ei greu yn cael ei greu gyda’r perfformiad byw

6

y-selar.co.uk

mewn golwg. Dyna sydd wedi fy nharo i fwyaf, yn fwy na’r broses gyfansoddi. Dwi ’di dysgu lot am sut i ddal fy hun ar lwyfan ac adeiladu perfformiad o fewn gig. Dyna di’r peth mwyaf dwi’n mynd ei gymryd o’r profiad.” Bydd rhai sydd yn gyfarwydd â pherfformiadau byw Y Pencadlys yn gwybod ei fod eisoes yn brofiad eithaf dramatig felly newyddion da iawn yw’r ffaith y gallwn ddisgwyl hyd yn oed mwy o theatr yn y dyfodol. “Dwi’n dueddol o fynd all-out o ddechrau gig a dwi’n blino erbyn cân tri! Efallai fod hynny’n rwbath y galla’i edrych arno fo fwy, gweithio ar y theatr ’na, gweithio tuag at ryw fath o uchafbwynt. Y math yna o beth dwi wedi ei ddysgu.” Yn edrych ymlaen at y daith hon, mae Y Pencadlys yn amlwg wedi cael blas ac yn awyddus i weithio yn y cyfrwng yma eto. “Un o’r pethau fyswn i’n licio’i neud ydi mynd mewn mwy i waith dawns, ddim ar y raddfa yma ella ond dwi’n teimlo go iawn fy mod i isho gwneud rwbath fel hyn eto.” Allwn ni ddisgwyl gweld dawnswyr proffesiynol ym mhob gig Pencadlys o hyn ymlaen felly? “Dwi’n disgwyl bydd o’n rhywbeth rheolaidd ym mhob gig erbyn diwedd 2016!” Sôn am ddiwedd 2016, mae’n debyg mai dyna pryd y gallwn ddisgwyl y record honno yr oedd Haydon yn sôn amdani’n gynharach. “Pryd fydd yr albwm yn barod? Mae hwnna’n gwestiwn mae hogia’ Peski wedi bod yn ei ofyn i mi ers blynyddoedd! Be’ sy’n digwydd ydi mod i’n dod at ddiwedd yr albwm, dwi ddim yn hapus a dwi’n mynd yn ôl i newid rwbath. Y peth anodda’ ydi cyfleu stwff byw ar record. Ond mi wnai roi dyddiad, 2016, erbyn diwedd 2016 fydd ’na rwbath!” Dyna rywbeth i edrych ymlaen ato heb os, ond fel tamaid i aros pryd does dim ond un peth amdani, dawnsio draw i’ch theatr leol ym mis Tachwedd ar gyfer Dawns Ysbrydion, peidwch â bod ofn!

Geiriau: Gwilym Dwyfor


Sain, Rasal, Gwymon a Copa Ar y cyd gydA rAsAl miwsig

Y Trwbz Yn y dechrau...

Albym cyntaf enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Mentrau Iaith Cymru allan nawr

Calan Dinas

Sbardun

Ffidlau, gitâr, acordion a thelyn – a’r cyfan yn ffrwydro wrth i Calan berfformio ar eu trydedd albym

I’w cyhoeddi’n fuan… Patrobas

casgliad cynhwysfawr ar 2 cd o ganeuon Alun ‘Sbardun’ Huws, wedi eu dethol gan ei wraig Gwenno a’i gyfeillion Geraint Davies ac Emyr Huws Jones

Bydd Patrobas yn dychwelyd i stiwdio Sain dros yr haf i recordio gyda’r cynhyrchydd Aled Cowbois, cd allan yn yr Hydref

Terfysg

wedi bod yn stiwdio Sain yn recordio traciau newydd ar gyfer EP digidol ar label Copa

Ryland Teifi Senglau neSaf : Raffdam ac Y Galw

gweithio ar ddeunydd newydd ar gyfer albym ar label Gwymon, recordio yn iwerddon gyda’r Clancys

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

stiwdioSAIN

Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? • stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw ac yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod • ystafell reoli mawr gyda system awyru a gofod ymlacio • digon o lefydd parcio gyda mynedfa cyfleus i’r stiwdio ar gyfer offer • defnydd o’r lolfa, cegin a chyfleusterau o fewn adeilad Sain • prisiau cystadleuol i logi’r stiwdio fel gofod ymarfer – £15 yr awr • modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb – (dry-hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) • pris yn cynnwys defnydd o’r offerynnau Am gyfnod penodol mae cynnig arbennig ar y prisiau llogi stiwdio heb beiriannydd – £150 y diwrnod neu £600 am 5 diwrnod. Croeso i chi daro ebost neu godi’r ffôn i drafod unrhyw ymholiad gyda Siwan neu Sion – siwan@sainwales.com / sion@sainwales.com 01286 831 111 www.facebook.com/stiwdiosainstudios


Beirniadu’r Wobr Gerddoriaeth Cymreig

Albwm Y Newydd Huw M

newyddion cyffrous ym myd Huw M yw bod albwm hir ddisgwyliedig allan mis yma. Utica yw trydedd record hir Huw Meredydd Roberts, yn dilyn Os Mewn Sŵn (2009) a Gathering Dusk

OWAIN SGIV

R

o’n i’n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i fod yn un o feirniaid y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr ail flwyddyn yn olynol eleni. Brên wêf trefnwyr Gŵyl Sŵn, Huw Stephens a’i gyfaill, yr hyrwyddwr John Rostron, ydy’r Wobr ac mae’n cael ei dyfarnu am y bumed flwyddyn eleni. Mae unrhyw albwm sydd wedi’i gynhyrchu yng Nghymru neu gan Gymry’n gymwys ac ymysg yr enillwyr blaenorol mae Hotel Shampoo gan Gruff Rhys (2010-11) a Week of Pines gan Georgia Ruth Williams (2012-13). Does dim amheuaeth fod y wobr yn rhyw fath o farc safon ar gyfer recordiau hir, a dwi’n reit siŵr bod dod i’r brig wedi bod yn fanteisiol iawn i’r enillwyr a rhoi llwyfan ardderchog iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae ‘na bobl ddifyr iawn ar y panel beirniaid gan gynnwys un o gynhyrchwyr BBC 6 Music, un o drefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd a phobl sy’n ysgrifennu i gyhoeddiadau cerddoriaeth rhyngwladol fel Pitchfork. Dwi’n falch iawn bod colofnydd Y Selar, Griff Lynch; trefnydd gigs 4a6, Nici Beech; a’r cynhyrchydd gwych, David Wrench hefyd ymysg yr enwau eleni gan sicrhau bod y sin Gymraeg yn cael pob chwarae teg. Ac mae cynrychiolaeth gref o artistiaid Cymraeg ar y rhestr hir o 15 albwm eleni, gyda Dinas gan Calan, Dwyn yr Hogyn Nôl gan Geraint Jarman ac Y Dydd Olaf gan Gwenno yn gwneud y cyt. Mae ‘na ganeuon Cymraeg ar recordiau H. Hawkline a Hippies vs Ghosts hefyd, tra bod Trwbador a Richard James wedi rhyddhau deunydd Cymraeg yn y gorffennol. Bydd hi’n ddiddorol clywed barn rhai o’r beirniaid sydd efallai ddim mor gyfarwydd â’r sin Gymraeg ynglŷn â recordiau Gwenno, Jarman a Calan. Fe enillodd Y Dydd Olaf wobr Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni felly tybed all Gwenno gipio’r dwbl? Ar nodyn personol, dwi’n mwynhau’r esgus i wrando ar lwyth o gerddoriaeth, ac yn enwedig gwrando ar recordiau fydden i efallai heb wrando arnyn nhw fel arall. Bydd yr enillydd eleni’n cael ei ddatgelu mewn seremoni yn Sherman Cymru ar 26 Tachwedd, felly cadwch olwg am y canlyniad. 8

y-selar.co.uk

O

s oeddech chi’n meddwl mai Calan Gaeaf neu rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd oedd y peth pwysicaf i ddigwydd ar y 31ain o Hydref roeddech chi’n anghywir. Dyna pryd y rhyddhaodd Rogue Jones eu halbwm cyntaf, VU. Ynyr Ifan a Bethan Mai yw Rogue Jones, ill dau o Gwm Gwendraeth yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Maent wedi bod o gwmpas ers ychydig o flynyddoedd ond yr albwm ddwyieithog, VU, yw eu record hir gyntaf. Maent wedi sefydlu dilyniant da serch hynny diolch i berfformiadau byw cofiadwy a’r ddwy sengl

wych a ryddhawyd llynedd, ‘Little Pig of Tree’ a ‘Halen’. Un o’r dilynwyr hynny yw Rob Ackroyd o Florence and the Machine a ddywedodd

Arlwy Cyntaf Rogue Jones


(2011). Cafodd y ddau gasgliad blaenorol adolygiadau gwych ym mhob man, a gan fod Y Selar wedi cael gwrandawiad bach slei yn barod, gallwn gadarnhau y bydd Utica yn siŵr o efelychu’r uchelfannau hynny. Mae cefndir Utica wedi ei wreiddio’n ddwfn yn nhir Cymru ac America, a chydweithiodd Huw gyda nifer o gerddorion i blethu’r dylanwadau hynny wrth recordio’r albwm ddwyieithog yma. Recordiwyd y cwbl yn fyw gyda Lucy Simmonds ar y sielo ac yn canu, Bethan Mai yn canu a chwarae’r acordion, ac Iolo Whelan ar y drymiau, offerynnau taro ac yn canu. Ymddangosa’r Chwiorydd Marshall o Gaerdydd ar y record hefyd, gan ddod ag elfen o gospel cynnar i’r casgliad, sy’n ychwanegu llond llaw o ddwyster, hiraeth a thor calon.

hyn, “Mae fy hoff fand Rogue Jones wedi gorffen eu halbwm gyntaf ac mae’n rhyfeddol.” Wedi ei recordio yn Nhŷ

Mae Huw M yn rhyddhau am y tro cyntaf ar label I Ka Ching a bydd sengl oddi ar yr albwm yn cael ei rhyddhau fel tamaid i aros pryd wythnos cyn y casgliad cyflawn. Bydd ‘I Wanted you to cry // Sŵn y galon fach yn torri’ allan ar y 6ed o Dachwedd, gyda’r albwm yn dilyn ar y 13eg, ar gael ym mhob siop a gwefan cerddoriaeth gwerth ei halen, yn cynnwys ikaching. co.uk. Y ffotograffydd, Kirsten McTernan o Gaerdydd, sy’n gyfrifol am y gwaith celf ac mae’n gweddu teimlad clasurol yr holl gyfanwaith i’r dim. Bydd Huw M yn lansio Utica mewn gig yn Eglwys St John, Treganna, Caerdydd ar y 13eg o Dachwedd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Tafwyl a Chlwb Ifor. Edrych ymlaen. Mae adolygiad o Utica ar dudalen 20

Drwg, Caerdydd, a’i rhyddhau ar Recordiau Blinc, bydd yr albwm ar gael ar CD a finyl yn ogystal â’r llefydd arferol ar lein, gan gynnwys gwefan Recordiau Blinc, recordiaublinc.com. Yn dilyn lansiad diweddar yn Four Bars, Dempseys, Caerdydd, bydd Rogue Jones nawr yn teithio gyda band llawn. Yn ymuno â hwy ar y llwyfan mewn gigs byw bydd Mari Morgan ac Elen Ifan (Saron), Ben Isaacs a Jim Deacon (Kutosis), a Steffan Ebsworth. Gydag ystod eang o offerynnau, yn amrywio o’r acordion i’r omnichord, yn cyfuno i greu alawon swynol, does dim dwywaith fod sain Rogue Jones yn un cwbl unigryw. O’r diwedd, gallwn fwynhau’r sain hyfryd hwnnw ar record. Mae adolygiad o VU ar dudalen 21

2015 Griff

Wrth i flwyddyn arall dynnu at ei therfyn, Griff Lynch sydd yn edrych ar rai o uchafbwyntiau cerddorol 2015. Mae’r haf wedi machlud a’r gaeaf yn dechrau gafael. Mae’n amser fel arfer i fandiau ac artistiaid Cymraeg fynd i gysgu am ryw blwc bach, a chael ennyd i adlewyrchu ar eu blwyddyn. Neu wrth gwrs mynd nôl i’r coleg i feddwi, neu ffeindio swydd yn y byd go iawn. Ond er hynny gall pawb fod yn fodlon, gan wybod ei bod hi wedi bod yn flwyddyn dda i gerddoriaeth Gymraeg. Dyma rai o’r uchafbwyntiau. Tua dechrau’r flwyddyn rhyddhaodd brenin pop Cymru, Geraint Jarman, albwm newydd o’r enw Dwyn yr Hogyn Nôl, un o’i albyms gorau o’r blynyddoedd diweddar, gyda Peredur ap Gwynedd yn atseinio synau cynnar Tich Gwilym. Troi wedyn at y tywysog pop, Yws Gwynedd, sydd wedi cael corwynt arall o flwyddyn ers rhyddhau ei albym Codi/Cysgu yn 2014. Enillodd dair gwobr Selar, cafodd ei enwebu am Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac yn fwy na hynny i gyd cipiodd y teitl, “Y Bryn Fôn Newydd”. Cawsom ddeunydd gwych gan Plu, R.Seiliog, Sŵnami, Candelas a 9Bach hefyd, gyda’r albwm Tincian yn cipio gwobr yn y Radio 2 Folk Awards. Ond efallai mai llwyddiant mwyaf ysgubol y flwyddyn ydi’r albwm ffuglen-bop, Y Dydd Olaf gan Gwenno. Mae’r sylw i’r albwm wedi bod yn ddi-stop gan gyfryngau Cymreig a Phrydeinig ers ei rhyddhau yn wreiddiol ar label Peski ddiwedd llynedd, ac yna ei hail ryddhau ar label Heavenly. Does yr un albwm uniaith Gymraeg wedi cael cymaint o sylw gan gyfryngau cerddorol Prydain ers i SFA ryddhau Mwng. Ac iawn ydi hynny hefyd, a chysidro ei bod hi’n record anti-pop perffaith. Gall y Cymry uniaethu â’r geiriau ac alawon bachog Gwenno a gall ffans cerddorol Radio 6 werthfawrogi sŵn electro-seicedelig cynhyrchu Rhys Edwards. Y cyfuniad perffaith. Does dim amheuaeth fod Gwenno wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfa ehangach, ac efallai fod angen i weddill yr artistiaid gymryd ambell i wers marchnata gan Gwenno, er mwyn niwtraleiddio’r defnydd o’r iaith mewn cerddoriaeth. Beth bynnag, mae’r sin Gymraeg yn gyfoethocach diolch i 2015, ymlaen i 2016. y-selar.co.uk

9


ARBROFI GYDA’R AMGEN

Wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf hunan-deitlog yn 2013, dychwelodd Plu yn 2014 gyda chasgliad arbennig i blant, Holl Anifeiliaid y Goedwig. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r triawd gwerin gweithgar o Fethel yn ôl gyda record hir arall, Tir a Golau. Gyrrodd Y Selar Owain Gruffudd yn llythrennol ddeg munud i lawr y lôn am sgwrs yng nghartref y teulu. 10

y-selar.co.uk


M

ewn eitem Dau i’w Dilyn yn rhifyn Awst 2012 o’r Selar datgelais fod Gwilym Bowen Rhys, a oedd ar y pryd yn dechrau arbrofi fel artist unigol, “yn ystyried y posibilrwydd o gael ei ddwy chwaer, Elan a Marged, i ymuno â’r band.” Ychydig dros dair blynedd yn ddiweddarach gallwn gadarnhau fod y syniad hwnnw wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ers ffurfio tua’r adeg hwnnw mae’r brawd a dwy chwaer o Eryri wedi mynd o nerth i nerth, a does dim dwywaith mai hwy bellach yw un o grwpiau amlycaf y sin a bod hen edrych ymlaen wedi bod at eu record hir ddiweddaraf, Tir a Golau. “Ma’ hi’n wahanol o gymharu â’r albwm cyntaf. ’Da ni ’di symud ymlaen o’r sŵn tri llais a gitâr yn fyw, i fod yn rhywbeth tipyn mwy haenog” esbonia Elan. “Mae o’n ddatblygiad naturiol, fel fysa’n digwydd efo unrhyw fand. Roedd yr albwm yma’n siŵr o fod yn wahanol i’r cyntaf, ac mae’r tri ohonom ni’n hapus efo’r datblygiad. ’Da ni wastad wedi labelu ein hunain fel gwerin amgen, ond y ffordd mae’r albwm newydd wedi datblygu, mae’r elfen amgen wedi mynd yn gryfach na’r elfen werin. Dwi’m yn teimlo fod gwerin yn disgrifio ni erbyn hyn.” Yn ôl Gwil, mae’r datblygiad yn y sŵn wedi galluogi Plu i wahodd cerddorion eraill i recordio ar yr albwm. “Ni sy’n chwarae’r rhan fwyaf o’r offerynnau ar Tir a Golau ond mae ’na ambell gerddor arall wedi cyfrannu hefyd, Mari Morgan yn chwarae ffidil, Jôs ar y pedal steel a Dafydd Cowbois ar y dryms. ’Da ni ’di bod yn lwcus iawn i gael cyfle i weithio efo cerddorion da.” Cafodd y rhan fwyaf o’r albwm ei recordio yn stiwdio Bryn Derwen ym Methesda, sydd wedi croesawu bandiau fel Gruff Rhys, Euros Childs, Caribou ac Everything Everything dros y blynyddoedd diwethaf. Plu oedd y band Cymraeg olaf i recordio yn y stiwdio cyn i’r drysau gau am y tro olaf yn gynharach eleni, oedd yn dipyn o fraint yn ôl Gwil. “Ma’ Bryn Derwen yn stiwdio chwedlonol. Mae bandiau ’da ni’n mwynhau gwrando arnynt, fel Race Horses a Cowbois Rhos Botwnnog, wedi recordio yno yn y gorffennol. Mae’n drist i’w weld yn mynd. Ond gobeithio y bydd yr holl stwff oedd yn gwneud y lle yn arbennig, fel y gêr ac ati, yn parhau i gael eu defnyddio. Er bod synau’r albwm yn swnio’n arbrofol, mae rhan helaeth ohono wedi cael ei recordio yn hollol

organig heb lawer o effeithiau digidol. Un rheswm am hynny ydi’r cyfleusterau oedd ar gael ym Mryn Derwen.” Elan sydd yn esbonio’n fwy manwl, “Oedd o’n ffantastig defnyddio pethau fel y reverb plates enfawr, sydd siŵr o fod ddim yn mynd i allu cael eu defnyddio yn rhywle arall. Oedd o’n briliant gallu dibynnu ar rheiny i gael y synau oeddan ni eisiau.”

Dylanwad y Tir Soniodd y band rywfaint wrtha i am y broses ysgrifennu ar gyfer Tir a Golau. Y chwiorydd sydd yn mynd ati fel arfer i ysgrifennu’r geiriau, ac fel yr esbonia Marged, datblygodd themâu amlwg yng ngeiriau’r albwm, er nad oedd hynny’n fwriadol. “Doedd ’na ddim bwriad dilyn themâu yn y geiriau ond wrth ddod â’r caneuon at ei gilydd roedden ni’n sylwi fod ’na lot o ddylanwad y tir o’n hamgylch ni. Wedi gwrando’n ôl ar yr albwm gyfan, ’da ni’n sylweddoli fod o’n ddylanwad cryf arnom ni.” “Doedd y gân ‘Tir a Golau’ heb gael ei hysgrifennu i fod yn drac teitl. Ond yn y pen draw, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n crynhoi’r albwm yn daclus” ychwanega Elan. Mae Gwil yn teimlo fod gadael i’r merched ysgrifennu’r geiriau yn rhywbeth sydd yn gweithio’n dda i’r band. “Mae tirwedd yn thema eithaf anarferol i gân, ond dyna ’dw i’n ei fwynhau am Plu - gallu eistedd nôl a gadael i Elan a Marged ysgrifennu’r geiriau. Ma’ nhw’n eiriau gwahanol iawn, geiriau abstract iawn a dwi wrth fy modd efo hynny.” Mae’r tri aelod yn gytûn fod gweithio gyda’i gilydd yn helpu’r band gynhyrchu caneuon o safon uwch. Yn ôl Elan, mae bod yn rhan o fand o frodyr a chwiorydd yn fantais fawr, er bod ’na ambell i ffrae, pob hyn a hyn. “’Da ni’n lwcus ofnadwy fod y tri ohonom ni’n gallu bod yn gwbl onest gyda’n gilydd. Does ’na ddim byd yn cael ei gadw fewn. Yndi, ar yr wyneb mae’n achosi lot o ffraeo, ond ar y llaw arall, mae’n gwneud pethau’n gymaint haws.” “Mae o hefyd yn golygu bod ein caneuon ni’n well. Weithiau fydda i’n sgwennu rhywbeth a fydd Elan neu Gwil yn deud nad ydyn nhw’n ei licio fo, neu fod o ddim yn gweithio. ’Da ni’n gwthio’n gilydd, sy’n golygu ein bod ni’n gwella, gan ein bod ni’n bod yn feirniadol o’n gilydd” meddai Marged.

y-selar.co.uk

11


Lluniau: Kristina Banholzer

“Ar yr wyneb mae’n achosi lot o ffraeo, ond ar y llaw arall, mae’n gwneud pethau’n gymaint haws.”

“Mae ’na ryw fath o system ddemocrataidd dda yn y band, lle ’da ni’n pleidleisio two-against-one. Does ’na’r un ohonom ni’n cael y penderfyniad terfynol. Os mai chdi ydi’r “un”, ti ddim am gael ffordd dy hun!” Mae Plu hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dafydd ac Aled, dau o frodyr Cowbois Rhos Botwnnog, ar yr albwm. Dafydd sydd yn chwarae’r dryms ac Aled yw’r cynhyrchydd. Yng ngŵyl Crug Mawr eleni fe ymunodd y ddau frawd â Plu ar y llwyfan hefyd, gan ychwanegu gitâr fas a dryms i sŵn byw’r band am y tro cyntaf. Ac mae croesawu Dafydd ac Aled i’r llwyfan yn rhywbeth mae Elan yn awyddus i’w wneud eto. “’Swn i’n licio cael Daf ac Al i chwarae yn fyw efo ni’n amlach, gan ei fod yn gweddu caneuon yr albwm newydd yn well. Ond wrth gwrs ma’ nhw’n brysur felly ’di o ddim am ddigwydd pob tro. Felly ymddiheuriadau i unrhyw un sydd ddim ond yn gweld ni!” Mae Gwil yn cytuno, ond yn teimlo mai rhywbeth fyddai’n digwydd o bryd i’w gilydd fyddai hyn. “Mae ’na wbath eitha’ neis am novelty o gael y dryms a’r bas mewn ambell i gig. Os ’da ni’n gneud hynny weithiau, yn hytrach nag yn aml, mae’n cadw’r holl beth yn ffresh” meddai Gwil. “Pan gychwynnon ni’r band, o’n i’n awyddus i gael mwy o fy stwff gwerinol allan yna, ac yn gweld yr holl beth yn eithaf niche felly o’n i’n gyndyn o gael lot o offerynnau ar y llwyfan. Ond rŵan, gan fy mod i’n canolbwyntio mwy ar gerddoriaeth

12

y-selar.co.uk

werinol yn unigol, a bod Plu bellach yn fwy amgen, dwi’n hapusach i arbrofi mwy gyda gwahanol offerynnau.”

Cynlluniau Cyffrous Er bod y cyfnod o weithio ar yr ail albwm wedi dod i ben, does dim cyfle i Elan, Gwil a Marged orffwyso, gyda phrosiect cyffrous iawn ar y gweill, fydd yn gweld y tri yn cyd-weithio gyda chanwr Colorama, Carwyn Ellis. Elan sy’n esbonio mwy. “Mi gysylltodd Carwyn yn gofyn a oeddan ni ffansi cydweithio. Mae o ’di bod yn brysur yn gwneud stwff ar wahân i Colorama, ac wrthi’n recordio albwm unigol. Oedd o wedi mwynhau ein albwm cyntaf ac isho defnyddio ein lleisiau harmoni ni mewn prosiect newydd. Felly ’da ni’n recordio albwm efo Carwyn, fydd allan flwyddyn nesaf, yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch.” Mae Marged yn gweld cyfle i’r band ddatblygu, yn ogystal â chael ambell ddilynwyr newydd. “Da ni’n edrych ymlaen at weld sut fydd pethau yn esblygu a ’da ni’n croesawu barn Carwyn yn y stiwdio i roi stamp ei hun ar ein caneuon ni. Mi fydd ’na daith hefyd, ym mis Tachwedd, a gan fod Carwyn efo gymaint o ddilynwyr, bydd hi’n gyfle i ni arddangos ein cerddoriaeth ni i gynulleidfaoedd newydd.” Does dim arwydd arafu ar Plu felly. Amser prysur a chyffrous ar y gorwel yn y flwyddyn newydd, ond cyn hynny, albwm newydd sbon i’n cadw ni’n gynnes dros y gaeaf.


Î Bê Sidan – Lliwiau Pris Gwerthu: £7.50 (3 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP feinyl 7” o1972. Label Sain, rhif catalog SAIN27. Grŵp lleisiol merched gwerin Cymraeg diddorol, gydag awgrym o psych a roc. Mae ymddangos bod unrhyw beth gan y grŵp yn brin, hyd yn oed yng Nghymru, ac mae bod ar label casgladwy Sain yn ychwanegu at hyn. Cyflwr feinyl: Da iawn + Cyflwr clawr: Da iawn Barn Y Selar: Ydy, mae’n wir fod recordiau Sidan – grŵp cyntaf Caryl Parry Jones a’i ffrindiau yn Ysgol Glan Clwyd – yn ddigon casgladwy. Mae Î-Be wedi gweld albwm y grŵp, Teulu Yncl Sam, yn gwerthu am dros hanner can punt yn y gorffennol. Yr EP 4 trac, Lliwiau, oedd record gyntaf y grŵp a ryddhawyd tair blynedd ynghynt ac mae’r pris yma’n dda i’r prynwr. Y Diliau – Ambell Dro Pris Gwerthu: £2.98 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP gwerin Cymraeg, label Cambrian 1969. Cyflwr agos at mint. Cyflwr feinyl: Agos at mint Clawr: Da iawn +

Dewch i ni gael gweld pa drysorau prin mae porwyr craff Î-Bê wedi gwylio’n newid dwylo dros yr wythnosau diwethaf...

Barn Y Selar: Dim llawer o fanylion gan y gwerthwr, felly dyma ‘chydig bach mwy o wybodaeth i chi! Y Diliau oedd un o’r grwpiau ‘cyfoes’ cyntaf i’w cyhoeddi ar record yn y 1960au – roedden nhw’n pontio cyfnod yr hen nosweithiau llawen, a’r don newydd o grwpiau pop a ddaeth i’r amlwg yn y cyfnod yma. Dyma’r unig record iddyn nhw ryddhau ar label Cambrian, er iddyn nhw ryddhau sawl record ar labeli eraill rhwng tua 1965 a 1979. Mae’r stwff cynnar yn ddigon casgladwy, a’r pris yma’n fargen, er bod EPs blaenorol Caneuon y Diliau a Dwlu ar y Diliau ar label Qualiton bach yn fwy casgladwy. Derek Boote - Byw’n Rhydd Pris Gwerthu: £9.99 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Traciau - Byw’n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm. Feinyl 7”, gwerin acwstig Cymraeg, label annibynnol Wren. 1968. Barn Y Selar: Dyma record fach ddiddorol. Roedd Derek Boote yn gerddor amryddawn oedd yn gweithio fel cerddor sesiwn yn y 60au a dechrau’r 70au. Roedd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu adloniant fel Hob y Deri Dando a Disc a Dawn, ac mae ei enw i’w weld fel cyfrannwr ar lwyth o recordiau Cymraeg o’r cyfnod yma. Yn anffodus bu farw mewn damwain yn stiwdio’r BBC ym 1974. Dyma’i unig record unigol hyd y gwyddom, ac un dda i’r casgliad.

y-selar.co.uk

13


ANGEN

EP NEWYDD

Beth yw enw’r EP newydd? Dieithriaid. Pam dewis yr enw hwnnw? Mae’n ddarn o lyrics ail gân yr EP ‘Golau Lawr Y Ffordd’. A pham dewis EP? Roedd EP yn ‘neud mwy o synnwyr o ran amser a chael y record mas mor gloi â phosib. Lle fuoch chi wrthi’n recordio? Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda. Pwy fu’n cynhyrchu? Aled Hughes, Cowbois Rhos Botwnnog. Ac ar ba label fydd hi’n cael ei rhyddhau? Sbrigyn Ymborth. Ar ba fformat mae hi ar gael? CD ac yn ddigidol. A nawr, y cwestiwn pwysicaf, beth allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Mae’r gerddoriaeth yn eithaf tywyll a brooding! Lots o reverb a delay a lot o nodau uchel yn y vocals.

14

y-selar.co.uk

Mae bron i bedair blynedd ers i chi ryddhau eich albwm cyntaf, beth ydych chi wedi bod yn ei wneud ers hynny? Rydym i gyd wedi graddio o brifysgol ac yn gweithio’n llawn amser, rydym yn ysgrifennu, ymarfer a recordio yn ein hamser rhydd. Sut mae’r sŵn yn cymharu â’r albwm honnw, Gorffen Nos? Wnaethom ni adael i’r bas a’r dryms redeg pethau y tro yma a defnyddio’r ddwy gitâr i chwarae’r melodies uchel. Mae’r llais yn really gwthio trwodd y tro yma hefyd, lot o falsetto a nodau uchel. Pa fath o gerddoriaeth oeddech chi fel band yn gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Rwy’n credu mai’r tri albwm a gafodd yr effaith fwyaf ar y record odd Two Dancers (Wild Beasts), Favourite Worst Nightmare (Arctic Monkeys) a Hummingbird (Local Natives). Pa ddylanwad a gafodd y rheiny felly? Mae gan y bandiau ‘na i gyd vocalists gyda lleisiau unigryw ac maen nhw really yn adeiladu caneuon o gwmpas y llais. Ar yr EP yma rwy’n credu ein bod ni hefyd wedi dod o hyd i ffyrdd creadigol o ddefnyddio’r llais.


Gellir maddau i unrhyw un oedd wedi anghofio am Yr Angen. Mae pum mlynedd ers i’r band o Abertawe ennill Brwydr y Bandiau C2 a phedair ers iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, Gorffen Nos. Efallai eu bod wedi bod yn ddistaw ers hynny ond maen nhw dal o gwmpas ac yn ôl gydag EP newydd cyffrous. Amser perffaith felly i Y Selar fynd am Sgwrs Sydyn.

Oes yna unrhyw hanes difyr i’r gwaith celf? Daeth y syniad gwreiddiol o lun o’r haul welodd Jac ar y rhyngrwyd. Jamie wnaeth feddwl am ddefnyddio dyluniad mandala ar gyfer y llun . Oes gennych chi hoff gân o blith y casgliad, a pham? Rydym ni gyd yn caru ‘Dros Gefnfor’. Mae Aled wedi gwneud gwaith gwych gyda’r cymysgu ac mae’r diweddglo yn wych i chwarae’n fyw. Pa un fydd yr “hit”? Yn fyw mae pobl wedi bod yn mwynhau ‘Dros Gefnfor’, ‘Agosach’ ac ‘Yr Opsiwn Hawdd’. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio? ‘Mae’r Amser ‘Ma ‘Di Ddwyn’ yw’r unig gân gyda mwy nag un overdub arni, cafodd pob cân arall eu recordio’n fyw gydag un overdub gitâr. Hefyd, pan wnaethom ni recordio’r instrumental track doedd dim lyrics felly roedd rhaid i Jac ysgrifennu lyrics i’r gân mewn rhyw hanner awr! Pa un ydych chi fwyaf balch ohoni? Rwy’n credu bod ‘Dros Gefnfor’ neu ‘Yr Opsiwn Hawdd’ really yn dangos pa mor bell ni ‘di dod ers y record ddiwethaf.

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion doniol neu droeon trwstan? Roedd gweithio ‘da Aled yn bleser. Roedd e’ hyd yn oed yn cŵl pan roedd rhaid i Jac gael nap am ddwy awr yng nghanol recordio oherwydd bod e’ ‘di cael gormod i yfed y noson cynt! Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr EP? Yfed peint oer mewn tafarn dywyll. A fu lansio swyddogol? Do, yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon gydag Y Ffug a Nofa. Unrhyw gigs eraill ar y gweill yn fuan? Mae Aled a Hefin [Sbrigyn Ymborth] yn trefnu cwpl o gigs ac mae Dai yn trefnu gig yn Nhŷ Tawe ar y 4ydd o Ragfyr. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Yr Angen yn fyw ac Yr Angen ar record? Yn fyw mae’r caneuon yn fwy atmosfferig ac mae’r reverb a delay yn bach mwy argoelus. Ar y record mae lot o’r darnau yn fwy epig. Gwerthwch Yr EP i ni mewn pum gair! Tywyll, brooding, argoelus, atmosfferig, epig.

y-selar.co.uk

15


Y

LANSIO GWOBRAU’R SELAR 2015

dy wir, mae uchafbwynt blwyddyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes bron iawn a chyrraedd unwaith eto – Gwobrau’r Selar! Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol rydan ni’n cynnal digwyddiad byw i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn ddiwethaf, gwobrwyo’r goreuon...a fel esgus i gael gig mawr gwych ym mis Chwefror! Bydd Gwobrau’r Selar yn cael eu cynnal unwaith eto yn Aberystwyth eleni, a hynny yn yr un lleoliad a llynedd, yn Undeb y Myfyrwyr ar benwythnos 20 Chwefror. Cyn hynny, mae’n rhaid cwblhau’r gwaith hollbwysig o ddewis yr enillwyr, a chi fydd yn gyfrifol am hynny yn ôl yr arfer. Dyma’r drefn eleni:

Y drefn bleidleisio – Mae’r drefn bleidleisio’n debyg iawn i llynedd, a gyda’ch help chi, byddwn yn llunio rhestrau hir ar gyfer pob categori yn y bleidlais. - Yn gyntaf, bydd modd cynnig enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r categorïau isod rhwng hyn a 1 Rhagfyr. - Wedi cau’r enwebiadau bydd ‘Panel Gwobrau’r Selar’ yn trafod yr enwebiadau ac yn penderfynu ar restrau hir ar gyfer pob categori. - Bydd y bleidlais yn agor ar 10 Rhagfyr gyda chyfle i bawb fwrw un bleidlais ar gyfer pob categori rhwng hynny a chau’r bleidlais yng nghanol mis Ionawr. - Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr y gwobrau ar ôl i’r bleidlais gau, gyda’r enillwyr i’w cyhoeddi’n ecsgliwsif yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth! Panel Gwobrau’r Selar – Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus! Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr hoffech fod ar y panel. Enwebu – Os ydych chi am gynnig enw i’w ystyried ar gyfer un o gategorïau Gwobrau’r Selar (rhestr categorïau isod) yna gyrrwch enwebiad at gwobrau-selar@outlook. com gan nodi ‘Enwebiadau’ fel pwnc i’r neges, erbyn 1

16

y-selar.co.uk

Rhagfyr. Bydd pob enwebiad, a llawer mwy, yn cael eu hystyried gan y panel. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau hir ar 10 Rhagfyr, a bydd y bleidlais yn agor bryd hynny. Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byrion y categorïau dros yr wythnosau’n arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar ar 20 Chwefror. - Record Fer Orau - Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat) - Hyrwyddwr/wyr Gorau - Gwaith Celf Gorau - Cyflwynydd Gorau - Artist unigol Gorau - Band neu artist newydd Gorau - Digwyddiad Byw Gorau - Band y Flwyddyn - Record Hir Orau - Offerynnwr Gorau - Fideo cerddoriaeth gorau Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2015 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2015. Mae canllawiau llawn y gwobrau ar www.y-selar.co.uk

Enillwyr 2014 Rhag ofn bod rhai ohonoch chi ddim yn cofio beth ddigwyddodd yn Aberystwyth ym mis Chwefror, dyma pwy enillodd beth yng Ngwobrau’r Selar 2014 ... Record Fer Orau – Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami Cân Orau – Neb ar Ôl – Yws Gwynedd Gwaith Celf Gorau – Bodoli’n Ddistaw – Candelas Hyrwyddwyr Gorau – 4 a 6 Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau – Lisa Gwilym Artist Unigol Gorau – Yws Gwynedd Digwyddiad Byw Gorau – Maes B, Eisteddfod Llanelli Fideo Cerddoriaeth Gorau – Gwenwyn – Sŵnami Record Hir Orau – Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd Band neu Artist Newydd Gorau – Ysgol Sul Band Gorau – Candelas Offerynnwr Gorau – Lewis Williams (Sŵnami / Candelas)


.. Ti d . d

ARGRPH

.T d .. i d

i Clywe

yw i Cl e

Geiriau: Miriam Elin Jones PWY? Band arall o’r gorllewin yw ARGRPH (neu ‘argraff’ os ydych yn darllen hwn yn uchel) a ffurfiwyd gan Emyr Taylor o ardal Caerfyrddin a’i gyfeillion Alun Bryn a Tomos Evans o Aberteifi. “Nathon ni ffurfio dros yr haf eleni ar ôl i fi ddechrau sgwennu cwpwl o ganeuon,” esbonia Emyr, sy’n canu ac yn chwarae’r gitâr, ac a fydd eisoes yn gyfarwydd i rai fel aelod o Tymbal. Gydag Alun ar y bas a Tomos ar y drymiau, rhanna Emyr fod ARGPRH wedi eu dylanwadu gan “gerddoriaeth fwy cyfoes” i gymharu â’i brosiectau blaenorol. Swn? Disgrifia Emyr ganeuon y band “yn eitha’ laid-back a lo-fi ar y demos”, ond mae’r arddull byw tipyn bywiocach. Mae’n anodd peidio â chymharu’r elfen lo-fi hynny sy’n greiddiol i ganeuon ARGRPH â stwff y cnwd newydd o fandiau gorllewinol sydd eisoes wedi ymddangos yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Serch hynny, ychwanega Emyr; “Mae’n stwff ni yn cael ei ysbrydoli fwyaf gan gerddoriaeth surf a pync cyfoes, ac ychydig yn fwy poppy.” Dylanwadau? Gwelwn gysylltiad amlwg rhwng ARGRPH â bandiau diweddar fel Ysgol Sul a Cpt. Smith, ac mae’n anorfod eu bod hwythau, a bandiau tebyg o’r un ardal megis Castro ac Y Ffug, wedi dylanwadu ar ARGRPH. “Ma’ nhw definitely wedi bod yn ddylanwad ar y ffordd mae’r caneuon yn datblygu a chael eu chwarae.” Bandiau ac artistiaid eraill sydd wedi dylanwadu ar y band yw King Krule, Mac DeMaro, Wavves, Teen Suicide a Blaenavon.

Hyd yn hyn? Dyw’r band heb gigio ers diwedd Awst, pan chwaraewyd eu gig gyntaf yng Ngŵyl Crug Mawr, a’r ail yn Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach. Gigs mawr i fand mor newydd! “O’n ni jyst eisiau arbrofi gyda sut o’n ni’n chwarae’n fyw gyda’n gilydd,” esbonia Emyr. “Ond ar ôl cael feedback da yn y gigs, ni wedi penderfynu cario ’mlaen i sgwennu a gigio.” Nid yn unig hynny, ond mae yna dri thrac, ‘Tywod’, ‘Wyt Ti Wir

Wedi Gweld Popeth?’ a ‘Neb Yn Cofio’ ar gael ar Soundcloud y band.

Ar y Gweill? Datgela Emyr eu bod wedi synnu bod gymaint o ddiddordeb yn eu traciau a pherfformiadau byw. “Ar hyn o bryd, ni jyst yn mwynhau trial recordio mwy o demos adre gyda’r offer sydd gyda fi.” Mae ‘sgrifennu mwy o ganeuon ar feddwl ARGRPH. “Ni’n hefyd yn gobeithio chwarae mwy o gigs dros y flwyddyn nesa’,” addawa Emyr. Uchelgais? Wrth gwrs, mae hi’n dal i fod yn ddyddiau cynnar iawn i fois ARGRPH. ‘”Ar hyn o bryd, dy’n ni ddim wedi meddwl am uchelgais. Ni’n hapus jyst yn creu demos a gigio ar draws Cymru... a thu hwnt, wedi meddwl. Byddai hynny’n brofiad arbennig.” Mae rhyddhau rhywbeth yn swyddogol hefyd yn rhan o’r cynllun hir dymor.

Barn Y Selar Dyma fand sydd eisoes ar y llwybr cywir i wneud cryn dipyn o ‘ARGRPH’... (Ho ho ho!) Ond o ddifrif, er bod y sain yn debyg iawn i stwff Ysgol Sul, mae dylanwad cerddoriaeth surf ar eu traciau yn eu gosod ar wahân iddynt ac i weddill y bandiau pync ac indie sydd wedi britho’r sin yn ddiweddar. Mae trac fel ‘Tywod’, er enghraifft, ag alaw bop fachog yn ddigon i roi siot o haf ddigon cryf i’n twymo ganol gaeaf. Yn ddibynnol ar sut y maent yn parhau i ddatblygu’r elfen ysgafnach hwnnw, mae’n bosib y byddant yn gallu apelio at gynulleidfa ehangach, a bod angen i Ysgol Sul a’u tebyg wylio allan!

Gwrandewch os yn ffan o Ysgol Sul, Y Niwl a Tymbal. y-selar.co.uk

17


JÔC O ALBWM Ym mis Awst eleni, cafodd albwm unigryw a diddorol iawn ei rhyddhau ar label Tarw Du. Mae Elixir yn tua awr o fyfyrdodau doniol y cerddor a’r comedïwr, Elidir Jones, i gyfeiliant cerddoriaeth Gruff Meredith (MC Mabon). I fod yn berffaith onest, do’n i ddim yn dallt yn iawn beth oedd yn mynd ymlaen felly rhaid oedd holi Elidir, am yr albwm i ddechrau, ond hefyd yn am gomedi mewn cerddoriaeth yn gyffredinol.

I ddechrau, beth yw hanes y prosiect yma? Syniad pwy oedd gosod dy stand-yp di i gyfeiliant cerddoriaeth MC Mabon? Am resymau dwi dal ddim yn eu deall, mi wnaeth MC Mabon ofyn i mi gyfrannu at sesiwn C2 nôl yn 2012. Wnes i gyfrannu comedi stand-yp i ddau drac, achos ’mod i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth arall. Ar ôl clywed demos o’r caneuon, mi wnaeth o gynnig ein bod ni’n gwneud albwm, a wnes i ddechra’ panicio’n lân. Ond ar ôl panad o de a sit-down bach, wnes i gytuno, a mynd ati i sgwennu llwyth o gomedi newydd, i ychwanegu at ddarnau o stwff o’n i’n ei berfformio’n fyw. Mae o ’di cymryd ers hynny i’r peth gael ei orffen, coeliwch neu beidio. Beth oedd y drefn o ran rhoi’r cwbl at ei gilydd, beth ddaeth gyntaf, y gerddoriaeth neu’r comedi? Y comedi ddaeth gynta’, a’r gerddoriaeth yn cael ei gyfansoddi i weddu efo fo. Mae’r gerddoriaeth yn ddigri’ ar ben ei hun ac os ’da chi’n meddwl

18

y-selar.co.uk

bod yr albwm yn hir rŵan, fe fyddai’r stwff gwreiddiol wedi llenwi albwm ddwbl. Wnaeth Gruff druan wneud cerddoriaeth a soundscapes gwreiddiol i bob eiliad o’r comedi cyn i lot gael ei daflu. Rhaid i mi ddeud bod gweld Gruff yn gweithio’n agoriad llygad, ac yn gwneud i mi sylweddoli ’mod i’n gerddor braidd yn rybish mewn cymhariaeth. Hyd yn oed os ’da chi’n fy nghasáu i, mae’n werth cael yr albwm ar gyfer y gerddoriaeth.

Dydy nhw ddim yn “ganeuon comedi” confensiynol, fel y mae caneuon Flight of the Conchords, Tim Minchin neu hyd yn oed Welsh Whisperer. Ond mae hi o albwm gomedi heb os, y geiriau’n ddoniol a’r miwsig yn dda. Mae’n debyg ei fod o’n gysyniad reit unigryw mewn unrhyw iaith, does yna’n sicr ddim byd tebyg yn y Gymraeg, felly sut ymateb mae’r casgliad wedi ei gael? Yr unig stwff tebyg dwi’n gallu meddwl amdanyn nhw ydi’r gyfres radio Blue Jam gan Chris Morris, a Rant In E-Minor gan Bill Hicks ond dydyn nhw ddim yn union ’run peth chwaith. Dwi’n falch o fod yn rhan o rywbeth mor unigryw. O ran ymateb, dwi ddim yn siŵr iawn. I fod yn onest, gafodd lot o’r stwff ei sgwennu i beidio apelio at drwch mawr o’r boblogaeth. Mae o’n reit abrasive a bygythiol ar bwrpas, ac ambell gic yn cael ei daflu at dargedau gwahanol. Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig bod ’na ddeunydd Cymraeg sy’n cael ei lunio’n benodol i fod braidd yn obscure. Mae’n rhoi mymryn mwy o ddyfnder i’r diwylliant.


bandiau yn ifanc. A does neb yn cymryd eu hunain fwy o ddifri na phobl ifanc, yn enwedig rhai sy’n sgwennu lyrics/ barddoniaeth. Dyna lle mae’r holl beth yn dod dwi’n meddwl, fel’na mae pethau wedi bod erioed. Ac mae ’na rwbath reit ddigri mewn clywed lyrics rybish gan blentyn ysgol sy’n meddwl mai nhw ydi’r cynta’ erioed i sgwennu cân am wahanu efo cariad.

“Mae o’n reit abrasive a bygythiol ar bwrpas, ac ambell gic yn cael ei daflu at dargedau gwahanol”

Does yna ddim llawer o gomedi mewn cerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol, fel cerddor a chomedïwr beth yw dy farn di am gyflwr hiwmor yn yr SRG? Mae ’na ambell beth ar gael, fel Plant Bach Annifyr. Ond na, mae’r SRG i’w weld yn lot fwy difrifol nag oedd hi. ’Da ni wedi trio adio ’chydig o hiwmor i ganeuon Plant Duw [Elidir ydy basydd Plant Duw], yn y gân ‘Bwgi Breuddwyd’ ’da ni’n deud “lampyn post” yn lle “postyn lamp” jyst i wneud i’n hunain chwerthin, a slipio geiriau Ffrangeg randym i mewn i’r gân am ddim rheswm. Gawson ni gynnig gwneud fideos ’chydig mwy difrifol na wnaethon ni hefyd, ond fysa ni ddim ’di gallu ei wneud o efo gwyneb strêt. Ond does dim rhaid i ganeuon fod yn ddigri, un o fy hoff fandiau i ydi’r Smashing Pumpkins, ac maen nhw tua mor ddigri â haearn smwddio i’r wyneb. Ydi’r sin yn cymryd ei hun ormod o ddifrif weithiau? Y peth am y sin Gymraeg ydi bod lot o’r

Caneuon Comedi – 5 Uchaf Elidir Jones ‘Cottage Cheese’ - Vic Reeves & Bob Mortimer Os allwch chi enwi cân well sy’n amlygu’r cysylltiad rhwng cottage cheese a voodoo, ’swn i’n licio’i chlywad hi. ‘The Galaxy Song’ – Monty Python Ella bod ‘Always Look On The Bright Side Of Life’ yn enwocach, ond dwi wastad wedi bod yn fwy o ffan o hon. Hyd yn oed os ydi lot o’r ffigyrau ac ystadegau yn nonsens.

Fel aelod o Plant Duw, mae’n siwr dy fod ti wedi dod ar draws lot o gerddorion dros y blynyddoedd, pwy sydd â’r synnwyr digrifwch gorau? Os fysa ti’n cael creu rhyw fath o super group comedi, pwy fysa yn ymuno â chdi? Roedd Ifan Tomos o Derwyddon Dr Gonzo wastad yn foi digri’ iawn, geith o fynd i mewn ar ei ben. Wnaethon ni ffrindiau efo band o Fae Colwyn o’r enw’r Racketears, ac roedd Tom y canwr a finnau yn treulio ein hamser yn dyfynnu Vic & Bob hyd syrffed, felly geith o ddod efo ni hefyd. Dwi wastad wedi mwynhau cwmni Alex Dingley, Texas Radio Band. Fo sydd â’r banter rhwng caneuon gorau yn y busnes, a’r caneuon gorau ar ben hynny. Ac yn ola’, geith Rhys Mwyn ymuno, achos bod o’n hollol hileriys, ddim ar bwrpas, ond ’da chi’n gwybod. A gei di ddewis un comedïwr i fod yn rheolwr ar y band, pwy? Fysa Dave Gorman yn dipyn o laff. Fysa ni byth yn troi fyny i gigs, fysa fo wastad yn ein harwain ni ar gyfeiliorn ar ryw anturiaethau nyts. Fysa ni hefyd yn rhedeg allan o bres yn reit sydyn... ond i fod yn onest, doedd gan y prosiect ddim llawer o siawns llwyddo o’r cychwyn.

‘The Humans Are Dead’ – Flight Of The Conchords Mae ‘Carol Brown’ a ‘Jenny’ hefyd yn berlau, ond dwi wrth fy modd efo unrhyw gân sy’n cynnwys darn mewn binary. ‘La Resistance’ – South Park Fysa chi’n gallu dewis unrhyw gân o’r ffilm South Park ond mae hon yn parodïo musicals gor-bwysig fel Les Miserables mor dda, mae’n rhaid ei chynnwys hi. ‘Wrong Way Down A One Way Street’ – Limmy Gwglwch o.

y-selar.co.uk

19


adolygiadau Mwng Band Pres Llareggub O’r trac cyntaf, ‘Drygioni’, ceir yr un teimlad sydd i’w gael gan fand pres Llareggub wrth chwarae’n fyw. Egni, joio, a’r ‘wal o sŵn’ ’dw i mor hoff ohono fo! Mae cael clywed dyfnder John Ogwen, llais hunllefus o brydferth Lisa Jên, agwedd a geirfa Ed Holden a Gwyllt, yn ogystal â’u cyffyrddiadau unigryw eu hunain ar ambell drac, yn rhoi amrywiaeth gwych i sŵn yr albwm. Gelwir ar bob mathau o steiliau i ail-greu caneuon y Super Furries, o fandiau oompah, bandiau pres milwrol, bandiau New Orleans, i gyffyrddiadau cryf o fandiau pres traddodiadol Cymru. Uchafbwyntiau mawr i mi ydi; ‘Y Gwyneb Iau’, am ddysgu amynedd i ni hefo’r rhythm slow and steady cyn adeiladu cymaint nes i fy nghalon i fyrstio! ‘Y Teimlad’ wedyn am roi waltz syml ar gân mor adnabyddus o wych! Ac yn olaf, ‘Gwreiddiau Dwfn/Mawrth Oer ar y Blaned Neifion’ am roi gwir deimlad band pres traddodiadol i ni

Utica Huw M Hwre i albwm newydd gan Huw M! Cyn hyd yn oed gwrando, mae’n codi chwilfrydedd. Mae lluniau gwych Kirsten McTernan a’r hanes tu fewn y clawr yn rhoi cyd-destun y casgliad i ni. Albwm am America a Chymru yw hon, yn cyflwyno hanes hynod ddiddorol dau o ardal Blaenau Ffestiniog a ymfudodd i America mewn canrifoedd gwahanol; y bardd Rowland Walter yn y 1850au a’r canwr gwerin ac ysgolor ifanc Meredydd Evans yn yr 20fed ganrif. Fe wnaeth Merêd, tra’n recordio albwm o gerddoriaeth werin Gymraeg yno, recordio ‘Si hwi hwi’ sef cerdd Rowland Walter ar dôn Morfa Rhuddlan. Cân brotest yw hi ac mae’r

cyn ychwanegu bob dim posib i greu diweddgan epig! Mae hwn yn albwm sy’n sefyll ar ei thraed ei hun... ond dwi yn argymell ei chwarae ochr yn ochr â’r gwreiddiol am wefr fach geeky! Elain Llwyd Tir a Golau Plu Dyma albwm sy’n llwyddo i amsugno’r gynulleidfa i fyd breuddwydiol trwy’r cynhesrwydd a’r purdeb sy’n perthyn i gynnyrch Plu. Gyda’r dylanwad gwerin Americanaidd yn amlwg, cawn ein hatgoffa o waith bandiau megis Fleet Foxes a Bon Iver, a llwyddant i gyfuno eu caneuon gwreiddiol yn berffaith gyda’u haddasiadau o ganeuon traddodiadol. Mae eu gallu i greu a chyflwyno cerddoriaeth yn amlwg wrth wrando ar burdeb yr offeryniaeth, sy’n cydfynd yn berffaith gydag asiad lleisiol trawiadol y tri. Heb os, mae manylder yn perthyn i’r casgliad. Mae’r alawon cofiadwy a’r geiriau graenus yn aros yn y cof yn syth, a’r adeiladwaith sy’n

bodoli tu ôl i bob trac yn creu naws hollol hudolus. Gwelir hefyd fod sŵn y grŵp ar record yn cael ei adlewyrchu’n berffaith yn fyw, wrth i’r casgliad ddod i ben gyda fersiwn fyw o’r gân ‘Hedfan’. Casgliad sy’n llawn clasuron heb os, ac yn berffaith ar gyfer tymor yr Hydref. Ifan Prys Prosiect Cerddorol INCA Tri thrac gawn ni gan INCA ac mae’r tri yn profi i fod yn ychydig o sialens i wrando arnyn nhw gan fod yna gymaint yn mynd ymlaen! Mae ‘Agoriad Swyddogol’ yn rhagarweiniad da i’r sŵn gwahanol sydd i ddod, ac mae’r ddau drac cyntaf yn swnio bron fel sesiwn jamio hefo cerddorion o arddulliau gwahanol. Fy hoff drac oedd y trydydd sef ‘Beathoven’ (welish i be’ wnaethoch chi’n fanna!) Hon, heb os, ydi’r gân fwyaf cyflawn ac mae’n swnio fel tasa’r gwead o steiliau ac offerynnau gwahanol wedi gweithio dipyn gwell

fersiwn ddiweddaraf gan Huw M yn fendigedig. A dweud y gwir, mae’r albwm gyfan yn fendigedig. Mae dylanwad gospel cynnar a thraddodiad gwerin Cymreig yn amlwg trwy’r cyfan, a’r caneuon yn iasol ar adegau. Gyda chymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg mae’r cyfan yn gyfanwaith arbennig yn plethu i’w gilydd yn naturiol. Cafodd y cyfan ei recordio’n fyw ac mae hyn yn ychwanegu at dynerwch y sain. Dwi’n dwli ar ‘Sŵn y galon fach yn torri’ ac ‘Anial dir’ (sef fersiwn o gân gan Eirin Peryglus). Ond mae’r cyfan yn cyrraedd uchafbwynt gyda ‘Worried now, won’t be worried long’. Mae lleisiau’r chwiorydd Marshall o Gaerdydd yn hollol arbennig. Dyma fand talentog sydd wedi creu campwaith. Lowri Johnston

GWRRHAID AND O


yn hon. Mi wnes i wir fwynhau’r nod bach i’r Beethoven ei hun wrth i mi glywed melodi gyfarwydd, sydd ella yn ein hatgoffa o arddull cyfansoddwyr fel Beethoven o gymryd steil o gerddoriaeth boblogaidd ar y pryd a’i chwalu hefo offerynnau, steiliau a syniadau modern i greu rhywbeth newydd. Ai dyma felly ddiben y casgliad yma? Ella wir. Elain Llwyd Elixir Elidir Jones Observational comedy a straeon gan Elidir Jones gyda cherddoriaeth ac effeithiau sain gan MC Mabon sydd fan hyn. Mae’r comedi’n dda, yn dilyn yn naturiol ac yn gweithio fel byddai set gomedi – yn amrywio o brofiadau Elidir o Dystion Jehofa yn rhannu ‘newyddion’ da, i brofiadau anffodus wrth aros yng ngorsaf bws Abertawe ac ambell ffaith ddiddorol amdano fe’i hunan. Gallai’r comedi weithio wrth ei hun, ond mae’r gerddoriaeth yn rhoi naws arall i’r holl beth. Byddai’n anodd dewis cerddoriaeth sy’n gweddu i’r cwbl felly mae tipyn o amrywiaeth. Cerddoriaeth arallfydol geir yn gefndir i stori am y we, sŵn tanio wrth i Elidir restru’r pethau drwg mae pobl yn eu gwneud ar fforymau gwe, sydd yn newid wedyn i gerddoriaeth ffair i ychwanegu’r elfen o wneud hwyl am ben yr holl beth. Mae’r gerddoriaeth sy’n gefndir i’r doethinebu am adnodau’r Beibl yn rhoi mwy o bwys ar y geiriau, ac mae’r gerddoriaeth chwaethus sy’n gefndir i Elidir yn dweud nad yw barn pobl yn cyfri yn ddoniol o eironig. Mae’r sound effects achlysurol i gyhoeddi pethau dwl mae hen bobl yn eu dweud a synau cyfrifiadurol er enghraifft yno at bwrpas hefyd. Dydy comedi ddim yn cael llwyfan teilwng yn y Gymraeg. Mae prinder gigs comedi ond gallai records fel

hyn newid hynny. Bydd hyn yn syniad newydd i lot o bobl, ond gobeithio bydd e’n arwain at ragor. Bethan Williams Du Llun Mr Huw Rhaid i mi gyfaddef, mae’r rhan fwyaf o ddeunydd Mr Huw ers Llond Lle o Hwrs a Lladron wedi mynd dros fy mhen i. Does dim rheswm penodol am hynny, nes i jest ddim yr ymdrech i fynd a gwrando ar fy mhen fy hun. Beryg y bydd yn rhaid i mi wneud yr ymdrech honno rwan achos mae Du Llun yn gasgliad o riffs, hwcs a rhyddmau sy’n diferu o alawon cofiadwy. Mae ’na rywbeth yn Yr Ods-aidd am ‘Calonnau Ni i Gyd’ sy’n siŵr o blesio gwrandawyr C2 a Radio Cymru a chynulleidfaoedd byw ledled y wlad. Llond lle o gyferbynnu a chwarae efo geiriau sydd yma ar ffurf caneuon na fedrwch chi beidio tapio eich troed neu nodio eich pen iddyn nhw. Dydy’r EP ddim yn torri tir newydd, yr unig beth sy’n gwahaniaethu rhwng Mr Huw a mwyafrif y bandiau poblogaidd Cymraeg ar hyn o bryd ydy absenoldeb “O, o, o, o, o, o” o ambell gân. Wedi dweud hynny, mi faswn i’n annog pobl i lawrlwytho Du Llun - mae’n ddelfrydol ar gyfer gwrando ar y ffordd i’r gwaith neu yn y car - boed o jyst am chenj o Yr Ods. Lois Gwenllian VU Rogue Jones O ystyried taw dau aelod sydd i Rogue Jones maen nhw wedi creu albwm gyfoethog gyda bîts da, melodïau ar lŵp, ac adeiladu gydag offerynnau yn amrywio o acordion, allweddellau, trwmped, gitâr, llais ac omnichord. Yn fyw maen nhw’n fand â mwy o aelodau, ac yn fywiog iawn. ‘Afalau’, ‘Pysgota’ a’r caneuon Saesneg sy’n

dod agosaf at hynny ond mae mwy na chaneuon bywiog. Rhwng bod llais ac acen Ifan yn debyg iawn i Chis, a harmoni a geiriad y llinell agoriadol yn debyg iawn hefyd, mae adlais o ‘Y Cwm’ i ‘Halen’. Ond dychwelyd, nid gadael y cwm yw bryd y Siôn yma. Mae ‘Priscilla’ wedyn yn gân annisgwyl i orffen gyda hi. Yn ddwys, yn syml o ran sain, er bod sawl offeryn yn rhannu’r felodi, mae’n hudol ac yn hynod o bert. Er ei bod yn gorffen yn eitha’ disymwth, ac yn glo digon tawel i’r albwm, mae’n gwneud tro. Mae’r ddau wedi llwyddo i greu albwm o ganeuon gwahanol iawn i’w gilydd, sy’n gofiadwy iawn. Falle taw ‘Priscilla’ sydd ar feddwl Iolo ond Rogue Jones fydd ar fy meddwl i. Bethan Williams Dieithriaid Yr Angen Hanner degawd ers ennill Brwydr y Bandiau C2 yn 2010 gyda’r gân, ‘Nawr mae Drosto’, mae’r band o Abertawe wedi rhyddhau EP newydd, Dieithriaid, ar label Sbrigyn Ymborth. Dyw cyfeiriad cerddorol y band heb newid llawer mewn pum mlynedd ond mae aeddfedrwydd newydd i’r EP diweddaraf a gafodd ei chynhyrchu gan Aled Cowbois. Mae Yr Angen wastad wedi bod yn fand sy’n berffaith i wrando arnyn nhw ar lwyfan awyr agored yng nghanol haf, ac mae ganddyn nhw’r gallu i sgwennu caneuon mawr anthemig. Dyw’r EP yma ddim yn siomi yn hynny o beth ond er y gallu a’r profiad, tydi’r band erioed wedi llwyddo i oddiweddyd bandiau fel Y Ffug, Candelas a Sŵnami fel un o brif grwpiau’r sin. Ond mae Dieithriaid yn swnio fel datganiad o fwriad ac mae’n teimlo fod y band yn mynd o nerth i nerth. Efallai na fydd Yr Angen at ddant pawb, ond gyda’r egni sy’n treiddio trwy’r record hon, maen nhw’n haeddu’r cyfle i fod ar dop posteri gigs ar draws y wlad. Ciron Gruffydd


adolygiadau Trên ar y Cledrau Art Bandini Pwy fuasai’n meddwl fod modd creu cân gyfoes Gymraeg sy’n croesi roc trwm efo canu gwerin? Mae’r sengl ‘Trên ar y Cledrau’ yn arbrofi gyda phenillion ysgafn, gwerinol cyn ffrwydro i gytgan sy’n archwilio ochr drymach y band gan greu chwyldro o sŵn cyffrous. Teg dweud fod naws Black Keys a Candelas yn y gân sy’n cael ei gyrru gan guriad cadarn y drymiau a riffiau pwerus y gitâr. Mae’n ein tywys ar daith gerddorol sy’n rhoi llwyfan i allu offerynnol yr aelodau. Ro’n i’n falch o ddod ar draws talent egnïol newydd, ac mae’n rhaid cyfaddef fod y gân yn un anodd ei anghofio - mae’n sâff dweud bod Art Bandini yn llenwi twll ym myd y Sin Roc Gymraeg. Megan Tomos Ble’r aeth yr haul / Hiroes i’r drefn Yr Ods Ar ôl llwyddiant aruthrol Llithro roedd disgwyliadau uchel ar unrhyw ddeunydd newydd gan Yr Ods. Dyma sengl gwbl gyffrous gan fand sy’n profi nad oes terfyn i’w gallu cerddorol, yn esiampl arbennig o arddull unigryw y band sydd byth yn siomi. Tra bo ‘Ble’r aeth yr haul’ yn dilyn yr un llwybr a rhai o oreuon Llithro, ro’n i’n falch o glywed, wrth wrando ar ‘Hiroes i’r drefn’ fod sŵn nodweddiadol Yr Ods yn plethu’n fwy efo synau arbrofol. Mae elfennau o’r gân yn amlygu dylanwad cerddoriaeth Ewropeaidd, yn naturiol gan fod yr hogiau wedi bod yn recordio ar y cyfandir. Mae naws eithaf arswydus i’r trac ac mae lle i ddadlau fod y sengl yma’n gwyro tuag at sŵn tywyllach na’r cynnyrch blaenorol. Ond eto, pwy fyddai’r Ods heb gyfraniad y synth a’r gytgan fachog? Megan Tomos

I Lygaid yr Haul Clinigol gyda Nia Medi a Carys Eleri Swnia ymgais ddiweddara’ Clinigol fel ymdrech i efelychu Clean Bandit, mae’r drymiau dur ar ddechrau’r trac ychydig yn rhy adleisiol o agoriad ‘Rather Be’ a ‘Stronger’. Ddaw’r foment “breichiau yn yr awyr a neidio” ddim, sy’n gwneud gwrando’n rhwystredig. Nid yw’n cyrraedd uchafbwynt ac mae hynny’n siom oherwydd ceir sawl cyfle i wthio’r gân un gam ymhellach. Byddai ymestyn lleisiau Nia Medi a Carys Eleri wedi ychwanegu’r ergyd ’na mae trac cerddoriaeth ddawns da ei angen. Wedi dweud hyn, mae’n ofnadwy o catchy ac wedi bod yn mynd rownd a rownd yn fy mhen i drwy’r dydd. Lois Gwenllian

Yr Afon Alun Gaffey Dyma sengl sy’n mynd â’r gynulleidfa yn ôl i ffync yr 80’au wrth i Alun Gaffey atgyfodi’r arddull mewn ffordd gyfoes, unigryw a chyffrous. Mae’r cyfuniad perffaith o synth, gitâr, bas, drymiau digidol ac effeithiau sŵn yn creu gwead hynod ddiddorol, a gallaf ddychmygu’r gân hon yn mynd i lawr yn dda ar loriau dawnsio. Mae yna’n sicr le i fwy o gynnyrch o’r fath yn y sin gerddoriaeth yma yng Nghymru. Mae’r fideo sydd wedi’i greu i gydfynd â’r gerddoriaeth yn drawiadol dros ben hefyd, wrth i’r lliwiau a’r patrymau Aztec wneud inni deimlo fel ein bod yn gwylio pennod o Fideo 9. Heb os dyma gynnyrch ffres, ac rwy’n eiddgar i glywed mwy gan Alun Gaffey. Ifan Prys

CLWB SENGLAU’R SELAR MEDI Llwybrau Raffdam Dyma fand arall diweddar sy’n dystiolaeth bendant fod gwerin ar ei newydd wedd yn cŵl. Mae’n amhosib peidio â thapio’ch troed wrth wrando ar y sengl gyntaf hon gan y triawd o Geredigion. Mae llais trawiadol Mari-Elen Mathias yn un o’r pethau mwyaf nodweddiadol am ‘Llwybrau’, trac sydd â “hei hei hei” yn waedd fywiog drwy ei chytgan. Dyma gân ysgafn a chwareus, daw newid sydyn yn nhempo’r gân tua’r diwedd, cyn byrstio’n wmff o fywiogrwydd unwaith eto. Heb os, dyma drac gyntaf da gan Raffdam, sy’n cyfuno sŵn canu gwerin traddodiadol gyda dylanwadau modern. Miriam Elin Jones HYDREF Terfyn - Y Galw Bydd ffans Calfari ac Y Trŵbz a bandiau tebyg wrth eu boddau gyda sengl gyntaf Y Galw, ‘Terfyn’. Gyda riffs gitarau’n crio yn y cefndir yn nodwedd amlwg i’r trac, mae ‘Terfyn’ yn gwneud tipyn o argraff. Fodd bynnag, yn wahanol i’r bandiau hynny, nid yw llais llawn angerdd Sion Emlyn Parry yn cael ei foddi yng nghanol yr holl sŵn. Er, yn fy nhyb innau, nid yw’r “woh-ohs” tua diwedd y gân yn ychwanegu dim iddi. Dylanwadir ‘Terfyn’ gan fandiau roc old-school iawn, ac mae’n debyg bod hynny’n ffasiynol iawn yn y sin (roc, wedi’r cwbl!) Gymraeg ar hyn o bryd. Miriam Elin Jones


Newydd o’r Lolfa! £14.99

Allan cyn hir

£9.99

Rifiera Reu - Dewi Prysor

www.ylolfa.com 01970 832 304

Senglau’r Selar - lawr lwythwch rhain, a mwy, o iTunes, Spotify neu Amazon nawr

Dyma ddechrau ar y dyddie da Astudiwch gydag un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg Ewch i’n gwefan i weld ein rhestr cyflawn o gyrsiau: www.ydds.ac.uk

AstudioYDDS #dyddieda

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant



Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.