Y Selar - Awst 2005

Page 1

aM DDiM! RHIFYN 4 . AWST . 2005

sEsiWN faWr MiM TWM llai

rysaiT gyfriNachol

TU MEWN

BrigyN, llEUWEN sTEffaN, raP JoN-Z a llaWEr, llaWEr MWy !



LLuN CLAWR: KENTuCKY AFC FFOTOGRAFYDD: OWAiN LLYR ^

golygyDDol Croeso i rifyn 4 o Y Selar. Dros y misoedd diwethaf, tra bod pawb arall wedi bod wrthi yn meddwi’n dwll a chanu Amarillo nerth esgyrn eu pennau, tra'n 'neud synnau fel y broga Gwallgof, mae criw Y Selar wedi bod yn brysur yn meddwi’n dwll, canu Amarillo nerth esgyrn eu pennau a gwneud swn fel y broga Gwallgo! Nawr ni ynghanol y tymor ffestifals. Mae’r Sesiwn Fawr wedi mynd a dod, ac erbyn i chi ddarllen hwn mi fydd Ystad y Faenol yn llawnach na walet bryn Terfel ar ôl cyngerdd ! Yn y rhifyn dwbwl yma cewch ddarllen cyfweliad ecsgliwsif gyda Kentucky AFC, darllen adolygiadau o’r CD’s diweddara, cyfweliad gyda Alun Tan Lan, brigyn, Lleuwen, a hanes Winabego yn y stiwdio, a llawer iawn mwy. Ers y rhifyn diwethaf fi wedi cael crash yn y car, ma rhywun wedi dwyn fy walet a fy ffon, ma’r landlord yn fy nhaflu mas o’r ty wthnos nesa a mae’r gath di diflannu ers misoedd. Ond fyse pethe’n gallu bod yn waeth...sy’n i’n gallu bod yn aelod o CF1 ! Mae’r haf yma ac mae’n argoeli i fod yr orau ers 1972. Tan tro nesa gyfeillion. Wwwwelai chi !

TEyrNgED i Tich - TUD 19

y golygyDD golygyDD Owain Morgan-Jones

MiM TWM llai

- TUD 4

Kafc - TraffErTh gyDa ENWaU - TUD 8

is-olygyDD Llinos Wyn

DylUNyDD betsan haf Evans

cyfraNWyr Owain Llyr, Lynsey Anne, hefin Jones, Shon Williams, Trystan Pritchard, John Rhambo, Nic Dafis, Dyl Mei, MC Saizmundo, Gareth Glochbren, Meilir Tecwyn, Gwilym Morus, Geraint Jones, Dewi Pws, Toni Schiavone, Andrew Morris

...ac ar DUDalENNaU goDiDog Eraill y sElar... Os am anfon demo, llythyr, neu unrhyw beth arall, y cyfeiriad yw :Y Selar, Llawr un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG neu e-bostiwch golygydd@yselar.com neu ewch i’n gwefan www.yselar.com

4 DEG UCHAF DYL MEI Y cynhyrchydd amryddawn yn dewis ei berlau coll o’r SRG. 10 BLOG BYSTYR Nic Dafis y dyn a ddaeth a maes-e i’r genedl yn egluro sut i gael miwsig am ddim ar y we.

12 COLOFN RAP JON-Z Aron, Lo-Cut a Sleifar yn siarad llwyth o rap. 26 ADOLYGIADAU O CDs HAF 2005 Gair o gyngor : darllennwch cyn prynu !

Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Wasg Dwyfor. RhYbuDD - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y SELAR.

Y SELAR 3


CYFWELIAD Mae Gruff Rhys, canwr y Super Furry Animals, wedi bod yn chwythu llwch o hen recordiau vinyl Cymraeg ar gyfer casgliad newydd o ganeuon gafodd eu rhyddhau ar label recordiau Sain yn y 60au a 70au. bydd y casgliad, sydd â'r enw anhygoel Welsh Rare beat, yn dod allan ar label Finders Keepers ar Awst 15fed ac yn cynnwys 27 o draciau gan fandiau mor amrywiol â Tebot Piws, Geraint Jarman a Sidan. Finders Keepers yw'r label nath ryddhau'r casgliad o recordiau prin Folk is not a Four Letter Word - CD oedd hefyd yn cynnwys traciau gan hen fand Caryl Parry Jones, Sidan. Gafodd y caneuon sy'n ymddangos ar Welsh Rare beat eu dewis gan Gruff Rhys gyda help Dominic Thomas ac Andy Votel (y dyn gasglodd y recordiau ar gyfer Folk is not a Four Letter Word) Ond does dim angen Mr Rhys na Mr Voteli sgwennu i’r Selar achos mae DYL MEi yn gwybod peth neu ddau am yr SRG hefyd. Wel, peth neu ddeg a dweud y gwir. A dyma’r deg : y caneuon mae Dyl Mei yn meddwl sy’n glasuron yr iaith ac sydd yn haeddu mwy o sylw.

10. Hedfan - Gillian Elisa

08. Mynediad am Ddim -

07. Cleif Prendelyn -

(mellith ar y nyth)

Dacw’n Nghariad

A Oes a heddwch

Can Psychadelic Pop Cymraeg wych oddi ar yr opera roc Melltith yn y nyth. Sgwennwyd gan Endaf Emlyn a hywel Gwynfryn yn rhoi hanes bendigeidfran. Llais hollol swynol Gillian Elisa pan yn ifanc sydd arni, anodd iawn i goelio mai’r un ferch sy’n canu ydi’r ddynes wirion na sydd wastad yn cwyno am y boi moel na o Mynediad am Ddim ar Pobol y Cwm! Mae gweddill yr albym werth ei chlywed hefyd, dychmygwch Glanaethwy ar asid hefo bach o dalent a ‘dach chi hannar ffordd yna!

Can draddodiadol yw hon gan fand o’r un anian. Does dim byd gwahanol yn fama, heblaw am y ffaith fod trefniant y gitar a’r llais yn hollol brydferth ac yn swnio fel rhywbeth fyddai’r Gorkyz neu hyd yn oed SFA yn neud. Ffeindiwch y record rwan, eisteddwch yn ôl a mwynhewch Emyr Wyn cyn ei ddyddiau euraidd ar yr Awr Fawr.

Mae hon oddi ar record “Lleisiau” a ryddhawyd gan y mudiad Adfer. Yr hen Cleif harpwood o Edward h sy’n gyfrifol am y berl yma. Mae’n werth cael gafael ar hon, dim ond i gael clywed y drum rol mwyaf ar record Gymraeg erioed. Mae’r gan yn rocio fel bws llawn hen bobol ar ochr dibyn. Dyma’r agosaf y daeth band Cymraeg at swnio fel Led Zeppelin. Rhyfedd fod heddwch yn y teitl achos mae’n swnio mwy fel bom atomig yn cael ei ollwng ar dref fel bermo neu hyd yn oed Pwllheli efallai, neu ar ol meddwl Caergybi. Roc

09. Y Briallu - Ble mae fy nghariad i heno? i fod yn gwbwl onest, dwi’m yn gwbod llawer am y briallu a does yna neb dwi ‘n nabod wedi cwrdd â nhw chwaith. O be dwi’n wbod, mae hon yn gân oddi ar ei hunig sengl 7” a ryddhawyd ar Recordiau’r Dryw. Tair merch ysgol o Ddyffryn Nantlle yw’r briallu gyda’u gitars yn canu rhai o ganeuon serch mwyaf spwci erioed.

4 Y SELAR

on Prendelyn!

06. Sidan Ai Cymro wyt ti? un tro, roedd yna ferch a serennodd mewn un o’r bandiau Cymraeg gorau erioed… ond daeth tro ar fyd. Ar ol cyfnod gwych o greu cerddoriaeth o safon, dechreuodd wneud bywoliaeth drwy greu cerddoriaeth wael ganol y ffordd. Rhyddhawyd un albym gan Sidan a dwy sengl ynghanol y 1970’au ac mae bron pob can arni yn wych. Mae hon oddi ar eu sengl gyntaf ac mae’n swnio fel y dylsai pob grwp merched Cymraeg fod. Mae ganddi harmoniau lysh gyda elfen o gerddoriaeth werin/roc a cherdd dant eithaf Psychedelic. Gallwch wrando ar ddwy gân o eiddo Sidan ar record “Folk is not a 4 letter word” a ryddhawyd gan y DJ/cynhyrchydd Andy Votel yn ddiweddar.


05. Y Dyniadon ynfyd

04. Edward H -

hirfelyn tesog - Esmarelda

Tyrd i Edrych

Nid yn unig yr enw gorau i fand erioed ond un o’r bandie Cymraeg sydd wedi cael y lleiaf o glod ond yn haeddu llawer mwy. Dim ond 2 EP a ryddhawyd yn anffodus ond ar hon y mae’r gan enwocaf “i Couldnt Speak a word of english” a hon, sef y gân serch orau yn ein iaith. i gyfeiliant Quartet Llinynnau a Guitar mae’r dyniadon yn canu llinellau fel “Ddylsai adael di, ond dwin dy garu di. ti’n rhan ohona i” Swnio fel geiriau cawslyd, ond pan dach’i’n clywed nhw fedrwch chi ddim peidio gwerthfawrogi’r gerddoriaeth.

Sengl gyntaf Edward h a dwi ddim yn deall pam fod hi ddim ar albym y goreuon achos, dyma’r orau o bellffordd. Dyma’r band Cymraeg agosaf i swnio fel y beatles. Cân araf, Psychedelic ydi hi, sy’n para am oes ond ddim yn gor-aros ei chroeso. Mae’n neud fi feddwl am aros fyny a meddwi hefo merched dela’r byd trwy’r nos a wedyn mynd a nhw i weld y wawr yn torri wrth ddweud straeon seductive wrthynt!

03. Y Diliau - Blodeuwedd 02. Bran - y Gwylwyr Reit, mae’n ffycing criminal fod y gân yma wedi cael ei anghofio. Pan dwi’n son wrth y bobl hyn bod y Diliau yn wych, mae nhw’n chwerthin arnai fel swn i newydd ddeud wrthyn nhw mai fi ydi John Lennon. Ond, mae’n siwr bod nhw ddim wedi clywed y berl yma a’i fod yn swnio fel hen, hen gân draddiodiadol. Gyda dim ond gitar, Oboe, soddgrwth a tri llais, mae’r cyfuniad yn creu tensiwn a theimlad anhygoel, fyswn i yn gallu gweld Gruff Rhys neu Euros Childs yn hawlio hon fel un o’i gwaith ei hunain. Mae’n werth hela am hon dim ond er mwyn gweld y clawr ffynci hefo bocs teliffon arno.

Mae hon oddi ar un o’r recordiau mwyaf prin yn yr SRG, anghofiwch am Outlander - Meic Stevens, hon ydi’r boi. band Psych/gwerin/roc oedd bran yn cynnwys stynar o’r enw Nest howels yn canu (a aeth ymlaen i gael stynar o ferch arall o’r enw Elin Fflur); John Gwyn (a aeth i gynhyrchu “The Tube” ) a Dafydd Roberts ( Ar Log a Phennaeth Sain). hon yw fy hoff gan oddi ar fy hoff albym Cymraeg.

01. Heather Jones Nol i’r gorllewin Fersiwn heather o gan enwog Ac Eraill ydi hon, mae’n dod oddi ar record “Cofiwch” . Gyda’r gwreiddiol yn gân eitha “up tempo” mae hon yn araf yn swnio bron fel cân brotest gan Joni Mitchell. Doedd heather Jones ddim yn licio’r fersiwn yma pan ddaeth hi allan, ond doedd Tecwyn ifan ei hun heb glywed y fersiwn yma er mai ef sgwennodd y gan! Excess y 1960’au yn ffrio ei meddyliau!

Y SELAR 5


CYFWELIAD

D

aeth Gai Toms yn enwog fel gitarydd a chyfansoddwr gyda’r grwp Anweledig, ond ers blynyddoedd bellach mae e wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar brosiect arall, Mim Twm Llai. Gyda’i harddull unigryw a’i gwerin amgen gyda dylanwadau blues a reggae daeth albym gyntaf Mim Twm Llai, O’r Sbensh, a llwyddiant ysgubol i’r band nol yn 2002. Cipiodd y band 3 gwobr RAP yn y seremoni flynyddol nol yn 2003 yn sgil llwyddiant yr albym honno ac maent wedi parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ymhob rhan o’r wlad ers hynny. Dair blynedd yn ddiweddarach mae’r grwp, o dan arweinyddiaeth yr amryddawn Gai Toms, yn eu holau gyda’u cyfraniad diweddaraf i’r SRG. Mae’r albym hirddisgwyliedig, Straeon y Cymdogion, a gafodd ei rhyddhau yn swyddogol yn Sesiwn Fawr Dolgellau, yn dod a mwy o hanesion pobl ardal blaenau Ffestiniog a’r cyffuniau i glustiau disgwylgar y genedl. Ar yr albym clywn nifer o straeon gwahanol am yr amrywiaeth o

6 Y SELAR

gymeriadau sydd yn llechu yng nghynefin Gai. Ceir amrywiaeth o themau ysgafn a dwys drwy gydol yr albym ond mae’r caneuon i gyd wedi eu naddu yn arddull unigryw y bodor o Danygrisiau. Wrth ei gyfweld, mae e’n siarad yn hamddenol ac yn agored, mae e’n rhoi’r argraff ei fod yn hapus ei fyd, yn gyfforddus yn cael ei holi mewn sefyllfa un i un, yr un argraff a oedd yn dod oddi ar lwyfan y Sesiwn Fawr o flaen miloedd o bobl ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Gyda llawer yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed yr albym newydd, wyt i’n meddwl bod arddull Mim Twm Llai wedi newid ers O’r Sbensh ? O’n in meddwl bod O’r Sbensh yn reit arwynebol, plaen i naws, wedyn oni isho neud rhywbeth gwahanol mwy upbeat, hefyd mewn gigs mae’n anodd neud caneuon slo drw’r adag so mae’n dda cael caneuon cyflym yn ogystal â rhai slo. O’n i jyst isho neud rhwbeth gwahanol i O’r Sbensh a

neud rhywbeth mwy lliwgar. Yn y 3 mlynedd ers O’r Sbensh,dwi di bod really mewn i stwff Tom Waits, a ma Tom Waits wedi dylanwadu’n fawr arnai, es i i weld o yn Llundain a doedd o ddim ‘di chwara ym Mhrydain ers 17 mlynadd, nes i dalu £250 am y tocyn i weld o ar e-bay, odd o’n un o’r petha na oni really isho neud, odd jyst gweld o’n chwara’n fyw a gneud y petha ma’n ffantastic tmo! Y llais, mae’n iwso gwahanol tones yn ei lais, llais crug, ysgafn, blues, jazz, wedyn dwi’n cael yn ysbrydoli i drio neud petha fela. Felly dim trio cael gwared ar yr annwyd hiraf yn hanes dynol-ryw mae Gai ond arbrofi gyda’i lais a cheisio amrywio swn y caneuon yn yr un modd a Tom Waits. Ar y gan Rhosyn Rhwng yn Nannadd mae’r arbrofi yma’n mynd gam ymhellach wrth i ni glywed Gai yn rapio, ydi hwn yn lwybr newydd i ti ? Dwi’n licio rapio, mae o’n ffordd dda o

gyfleu negas a teimlada, dwin gwbo na gwleidyddol ydi rhan fwya o rapio hip-hop ond on in meddwl pam ddim trio dod a hwnna mewn i’r gwerin? A nes i ddweud wrth huw Stevens yn gwobra RAP bo fi’n mynd i drio ychydig o rapio so on in meddwl sa well i fi neud un!! Ond ma lot o bobl yn cael yr argraff anghywir a meddwl bo fi mond yn neud stwff Mim Twm Llai a bo fi ddim yn aelod o Anweledig, ond ma Anweledig yn neud stwff reit up-beat, ska, skatio, so mae’r elfen yna di bod yna i o hyd, so dwim yn dallt pobl sydd ddim yn coelio bod fi’n mynd i rapio achos dwi di bod yn neud yr un math o stwff efo Anweledig. Mae Gai yn honni fod recordio O’r Sbensh wedi bod yn gatharsis iddo gan ei fod wedi bod yn chwarae’r caneuon ers blynyddoedd cyn rhyddhau’r albym. Mae’n deg dweud bod yr un peth wedi digwydd eto y tro yma gan fod y rhan fwyaf o ganeuon oddi ar Straeon y Cymdogion wedi bod yn


rhan o set fyw Mim Twm Llai ers blynyddoedd bellach. Pam felly ei bod hi wedi cymryd gymaint o amser i ti recordio’r albym newydd yma ? Lot o betha really, petha personol fel colli nhad, petha personol teuluol, dwi ddim isho trafod mewn manylder, symud ty, trio ffeindio’n nhraed, jyst y petha mewn bywyd sydd ddim yn caniatau i ti rhoi dy ben lawr a cyfansoddi albym. Mbo, sgynai ddim ateb i hwnna really, mae o jyst di digwydd fel na. hefyd gyda Anweledig da ni di bod yn trio cadw’r band efo’i gilydd, pobl yn symud, newid jobsys, tmo, mae o jyst mor gymhleth bod mewn mewn dau fand, os fyswn i ond mewn un band ‘swn i di dod a albym allan lot cynt. Amryw o betha personol. Mae’r ddau fand dan sylw yn hollol wahanol i’w gilydd, sut ma pethe’n gweithio wrth gyfansoddi ar gyfer y ddau ? Dwi jyst yn cael syniada. Er engraifft Tikki Tikki Tembo sydd ar byw [Anweledig ], yr alaw yn hwnna, alaw gan yng nghariad, pan odd hi’n hogan fach odd hi’n chwara hwnna ar y piano, a nath hi jyst chwara fo un dwrnod a bingo! Wedyn reit Anweledig! Ond hefyd dwi’n sgwennu rhai ballads, a dwin meddwl Mim Twm Llai di honna neu fysa honna’n reggaefaio i fod yn rhywbeth Anweledig. Mae o jyst yn digwydd ar ôl sgwennu cân really, dwi’m yn mynd “ Reit dwin

mynd i sgwennu can Anweldig heddiw” diom yn digwydd felna. Dwi jyst yn mynd efo’r lli ! Ydi hwnna’n ryw fath o ‘motto’i Mim Twm Llai ? Wel..ymm..yndi ! A jyst gneud be ti’n gallu gneud a jyst caria mlaen ! Pen i fyny, fel mae o’n deud yn y gan Arwain i’r Mor, mae honna’n gan sy’n metaphor, nes i golli nhad dwy flynedd yn ol, wedyn nethon ni rhoi llwch y nhad yn yr afon, sy’n arwain i’r mor, a nes i gael y syniad am y gan yna. Er fod yna themau dwys ynglwm wrth rhai ‘or caneuon ar yr albym, wrth wrando arni, naws hafaidd hapus sydd iddi ar y cyfan. Mae’n glir gweld dylanwad Meic Stevens ar y baledi ond hefyd clywn synnau anaferol yn enwedig ar un o uchafbwyntiau’r albym, wbanCrw. Cân sydd wedi sgwennu yn iaith y back-slang yw hon, lle mae’r geiriau’n cael ei rhannu’n ddau a’i ynganu y ffordd anghywir. iaith oedd yn arfer cael ei siarad gan chwarelwyr ond sydd bellach yn beth prin. Dysgodd mam Gai iddo sut i siarad mewn back-slang ac fe aeth ati i sgwennu wbanCrw er mwyn anfarwoli’r iaith. Ond ar ôl gwrando arni droeon mae’n anodd iawn gweithio mas beth ddiawl sy’n cael ei ddweud, can am beth yw WbanCrw? Wel onin ista yn Ring [Llanfrothen] a clywad criw o hogia yn sôn bo chi’n gallu byta crwbanod mewn gwledydd tramor fel delicacy, a dyma fi’n troi

rownd a deud bo nhw’n gwerthu crwbanod yn Sbar yn Nefyn. Nadyn Tad medda nhw, yndi medda fi, paid a malu...yndi ma nhw’n gwerthu nhw yn ‘i cregyn yn barod i fyta, ond fi odd ‘di camgymeryd crwban am cranc, ond ma nhw’n gwerthu crancod yna! So can am fynd i brynu crwban i Nefyn ydi o a darganfod na dim crwbanod sydd yna ond crancod! Ond am bod o’n gan mor stiwpid, nes i neud on back-slang i neud on dwbwl mor stiwpid! Mae’n siwr y bydd rhaid i ni aros am flynyddoedd cyn cael clywed unrhywbeth arall gan Mim Twm Llai gan ei fod yn ddyn prysur, ond peidiwch a poeni chwi ddilynwyr yr SRG, achos mae gan Gai syniadau. Ym mis Medi dwi’n gobeithio mynd ar daith mewn neuadda pentra, a bod hi’n bring a bottle, punt i fynd i mewn a neud sioe allan ohono fo yn lle neud gig mewn pyb. Fyddain chwara gigs mewn pybs am weddill yn oes, neud set da, a sgriptio fo bron, fel bo rhywbeth yn digwydd rhwng caneuon. Trio neud rhywbeth celfyddydol allan ohono fo dim jyst gig. Diddorol.... ...a dwi isho neud albym reggae Mim Twm Llai, rhywbryd, a dwi isho neud albym gwerin arall, ond mae gynnai gymaint o syniada mae’n anodd rhoi nhw mewn geiria. Ond dwi’n licio’r swn gitar sbaeneg efo skanks reggae,

rhywbeth latin fatha Mano Chao, ond gwerin ei naws, dwi wrth fy modd efo’r term yna, gwerin ei naws. [mae’n chwerthin yn uchel] A dwi di bod yn meddwl hefyd am albym cyfyrs o betha fel iona ag Andy, ma gynna nhw ambell gan lle mae’r alaw a’r geiria yn ffantastig. Am hwyl llu, jyst neud albym cyfyrs! O ganeuon “stiwpid” fel WbanCrw i ganeuon fel O le gai Eda? mae Straeon Y Cymdogion yn ein tywys ar daith “werinol ei naws” drwy ben Gai Toms. Mae’r Straeon yn rhai difyr a’r caneuon yn gofiadwy. Mae dylanwad Waits a Stevens i’w clywed yn glir ar ei waith, ond beth arall sy’n apelio at ddant Gai Toms? Dwi’n hoffi Jecsyn Ffeif byw mewn Gwlad, albym wych sydd ddim yn cael llawer o sylw. Dwi hefyd yn licio Jakokoyak, Alun Tan Lan, a ma Saizmundo’n ffyni ! Efallai cawn glywed deuawd gan MC Saizmundo a Mim Twm Llai yn y dyfodol felly...os caiff Gai amser ! Gyda sôn am albym newydd Anweledig ar ei ffordd cyn hir yn ogystal a’r holl bethau eraill sydd gan Gai i ganolbwyntio arnynt mae’n debygol y bydd yn rhaid i ni aros am amser maith unwaith eto cyn clywed rhagor o ffrwythau dychymyg Mim Twm Llai. Ond os bydd yr albym nesaf cystal a hon, s’dim ots faint o amser gymrith hi i gyrraedd y clustiau, mi fydd hi’n OMJ werth aros amdani. Y SELAR 7


Pymtheg mis yn ôl fe ffrwydrodd Alun Tan Lan ar y sin gan gipio gwobrau a chlod am ei unigrywiaeth. Ar ôl disgwyl yn eiddgar i Alun Evans yn Y Glôb ym Mangor gyrhaeddodd yn ei frys arferol ar ôl recordio gyda Gwyneth Glyn. Gyda’i wallt blêr a’i ruck sack, roedd yn barod am gyfweliad. Yn newid byd o’i fandiau Dail Te Pawb a Boff Frank Boff, mae’n dilyn bywyd syml yn cyfansoddi a gwrando ar Bill Fay a Magic Numbers. “Dwi jyst ishe rhyddhau recordiau,” meddai, “Dwi’m yn neud o am y pres.” Yn anymwybodol fod hanner merched Cymru yn ei ffansio, angerdd Alun yw ei gerddoriaeth, does ‘na ddim byd yn faterol na ffug amdano. Does gan Alun ddim llawer o eiriau, ond mae’r hyn sydd ganddo yn cael ei ddweud yng ngeiriau ei ganeuon swynol a theimladwy. Ar ôl blynyddoedd yn byw yn iwerddon, lle mae cerddorion yn rhydd i berfformio mewn tafarndai trwy gydol yr amser, mae Alun yn cytuno fod yna ffyrdd i wella deddfau perfformio i gerddorion yng Nghymru. Dywedodd, “Mae licensing laws Prydain yn lladd ar y gerddoriaeth. Yn iwerddon mae ‘na gerddoriaeth ym mhob man.” Ond wrth gychwyn siarad am

y sin yn gyffredinol mae’n amlwg ei fod e’n falch iawn i fod yn rhan o’r sin cerddorol yng Nghymru sy’n llewyrchu ar hyn o bryd. “Rydan ni’n lwcus iawn yng Nghymru ac yn lwcus o’r arian sydd ar gael. Mae bandiau yn cael mynd ar y bocs a chael pres am gigs, ond mae rhaid neud ychydig mwy i lwyddo.” Er iddo fod yn aelod o Serein yn ystod yr oes aur y sin roc

yn y 90au mae Alun yn sicr fod y sîn gerddorol llawer mwy iach heddiw. Dywedodd, “Nostalgia yw’r oes aur yna, mae na fwy o fandiau rwan ac mae’r sin, yn gyffredinol, yn fwy cyffrous.” Gyda’i albwm newydd ar y gweill dwi’n falch iawn wrth i Alun roi un o’i gopïau cyntaf i mi. Y Distawrwydd yw ei ail albym wedi’i recordio yn Stiwdio bridge Row yng Nglanaman, a’i gynhyrchu unwaith eto gan Marc Roberts. Dywedodd Alun, “Mae’r ail albwm yn ddatblygiad o’r albwm gyntaf. Dwi’m yn poeni am record deals, jyst isio rhyddhau albymau da rheini sy’n torri trwyddo.” Mae Alun yn ymdrechu i wella ei hun drwy’r amser, ac yn sicr mae Y Distawrwydd yn dangos datblygiad amlwg. Mae pob dim yn dod at ei gilydd rhyw ffordd, mewn modd hamddenol, ddiymdrech. Ychydig dros hanner awr yw’r albwm ond yn llawn o ganeuon hafaidd a theimladwy yn llawn o felodïau cain. Gyda mwy o offerynnau a lleisiau ar Y Distawrwydd,

8 Y SELAR

maent yn ychwanegu at ffurf swynol a hamddenol yr albwm. Ar ôl cyd berfformio gyda nifer o artistiaid dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys Gwilym Morus, Gwyneth Glyn a heather Jones, meddyliais ei fod yn naturiol fod rhai ohonynt yn ymddangos ar yr albym. “Dwi’n mwynhau chwarae gydag artistiaid eraill,” dywedodd. Ac mae Alun yn disgwyl ymlaen at gyd berfformio unwaith eto wrth iddo rannu llwyfan gydag Euros Childs (Gorkys) yng ngwyl Greenman ar ddiwedd yr haf. Ond cyn i Alun feddwl am Greenman mae ganddo lwyth i wneud cyn hynny. Gyda rhyddhad Y Distawrwydd ar Awst 1af a 12 gig yn yr Eisteddfod yn unig, oes amser ganddo i feddwl am unrhyw beth arall? “Dwi’n mwynhau fy hun,” meddai, “ac mor falch i gael dau albwm allan erbyn mis Awst eleni. Dwi hefyd yn rhyddhau albwm arall cyn diwedd y flwyddyn.”

Lynsey Anne


BRIGYN AETH Y SELAR I FWYDRO FO BRIGYN DROS BEINT. GYDAG ALBWM NEWYDD ALLAN YN YR HYDREF A R 1AF WEDI EI DDERBYN YN WRESOG O F N I FYNWY, SUT OEDD Y BYD A I BETHAU I YNYR AC EURIG?

M

ae brigyn yn newid arddull i raddau amlwg o gynnyrch Epitaff. Oedd y miwsig ‘chill-out’ yn rywbeth oedda ti ac Eurig wedi bod yn greu ers amser?

Y.R: Mae'r syniad o wneud rhyw albwm 'electronic' a tawel, wedi bod yn pigo fy meddwl ers blynyddoedd, ond ddaru fi ’rioed feddwl y bysa ni'n cyflawni be da ni wedi ei wneud. Damwain lwcus ydi brigyn a deud gwir. Roeddwn yn recordio'r caneuon yma ar y syniad y bysa nhw yn gwneud demos iawn. Ond roedd y cynnyrch gorffenedig yn swnio’n dderbynniol, felly penderfynom ei ryddhau. E.R: Dwi wastad di bod yn chwara o gwmpas efo offerynnau gwahanol sy gena ni adra, ond dim ond pan ddaru ni benderfynu arbrofi fel brigyn gafodd hyn ei gyflwyno ar CD gynta. Dwi'n meddwl odd yr amsar i gychwyn brigyn yn iawn pan ddaru ni neud o. Roedda ni isio gneud rwbath oedd efo sw ˆn gwahanol i be natho ni cynt efo Epitaff. Ydi Epitaff yn bodoli o hyd? E.R: Yndi wir, er bo ni ddim yn perfformio efo'n gilydd mor aml

dyddia yma. Mae'n anodd cael pawb at ei gilydd - gan fod y rhan fwyaf ohona ni mewn jobs, ond ma na sôn bod ni'n gobeithio recordio rhywbeth cyn bo hir - a trio rhyddhau rwbath dros yr ha' - gan fod yr Eisteddfod yn dod i'r gogledd eto. Y.R: ia, da ni'n gallu cael y gorau o'r ddau fyd ar y funud. Da ni yn dal i wneud y 'guitar rock' gyda Epitaff, ac yn gallu gwneud gigs a chael ein gweld mewn llefydd gwahanol gyda brigyn. Wyt ti'n bles hefo'r ymateb i'r albym newydd? Y.R: Dros ben. Mewn gwirionedd fe allai o wedi bod yn fflop, gan nad oedd na buildup/hype na ddim byd i gefnogi'r CD. Ddaru ni just gadael y gerddoriaeth siarad dros ei hun - a gweld be fysa'n digwydd. E.R: Ma'r ymateb di bod yn phenomenal hyd yn hyn - yn well nag oedda ni'n disgwl, a mae na lot o bobl sydd jyst yn dod i wbod am brigyn wan hefyd drwy ein gigs byw - sy'n gret.

^

Ydych chi'n cael mwy o gigs fel brigyn nac oedd Epitaff fel grwp? Y.R: Mae hi'n eitha sefydlog. Tua'r un faint o bobl yn gofyn am y ddau... E.R: Mae o i gyd yn dibynnu ar be sgen ti i hyrwyddo, amwn i. Mae 'na dipyn o alw di bod am brigyn – sy’n dda, gan fod ganddon ni albym i'w hyrwyddo. A dweud y gwir, da ni'n eitha synnu fod na alw amdano fo yn fyw - achos dydi'r stwff yma ddim mor fywiog ag Epitaff, a fysa chdi ddim yn meddwl fysa fo'n mynd lawr yn dda efo cynulleidfa mewn gigs ond ma'r ymateb di bod yn dda pan da ni'n neud o'n fyw hefyd. Ydi hyn oherwydd y newid yn steil y caneuon ynteu a oes mwy o gigs yn digwydd yn gyffredinol? Y.R: hyd yn hyn mae brigyn wedi bod yn gwneud gigs mewn llefydd bach, ac wedi gweithio yn dda, gan fod yna gymaint o gigs i’w cael mewn tafarndai a nosweithiau lle

nad yw'r trefnwyr eisiau band cyfan â sw ˆn mawr. Dwi'n gweld brigyn yn cael llawer mwy o gigs yn y dyfodol, gan fod lot o gigs mewn tafarndai a clybiau bach dyddia yma. Dwi'n meddwl fod y sin Cerddoriaeth Gymraeg yn ofnadwy o gyffrous a iach. Roedd ymateb y cyhoedd yn dda i gigs byw Epitaff. Oedda chi'n teimlo fod sylw teilwng a theg wedi ei roi i'r grwp gan y cyfryngau a threfnwyr? E.R: Da ni'n falch iawn o'r llwyddiant da ni wedi ei gael efo Epitaff - a ma hynny di bod lawr i'r gefnogaeth gafo ni gen y cyhoedd, y cyfryngau, ein label a trefnwyr gigs. Ond, ma brigyn wedi rhoi cyfla i ni fynd a'n cerddoriaeth at gynulleidfa newydd - a galluogi ni i agor drysau newydd - rhai oedda ni'n teimlo oedd ar gau i Epitaff. Ddaru ni rioed cael cynnig gig fel Epitaff yng Nghaerdydd - ond da ni wedi chwara yno dipyn o weithiau ers i brigyn fodoli. hefin Jones

Y SELAR 9


Mae yna fyd o gerddoriaeth ar gael i bawb ar y We, pwy well i esbonio sut i fynd ati i wrando ar y cyfl enwad di-waelod o fiwsig na archdderwydd y we Gymraeg a’r dyn a ddaeth a Maes-e at y genedl Nic Dafis. Wedi diflasu ar dy gasgliad o CDau? Dim digon o amrywiaeth ar y radio? beth am droi at y we i ehangu dy orwelion cerddorol? Mae sawl ffordd o ddod ar draws MP3au ar y we erbyn hyn, a dydyn nhw ddim i gyd yn anghyfreithlon! Yr un mwya uniongyrchol yw mynd at wefannau y bandiau a labeli eu hunain.

Mae sawl label Cymraeg a Chymreig (a miloedd o rai mewngwledydd eraill) yn cynnig ambell i damaid i aros pryd gan eu hartistiaid, gyda’r bwriad y byddi di’n fwy tebygol o brynu’r CD os wyt ti’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae rhai labeli yn ddigon call i wneud yn siwr bod pobl yn dod yn ôl yn gyson gan gynnig “MP3 yr wythnos” neu rywbeth tebyg ( www.rasal.net/sengl.htm html). Mae sawl artist wedi cynnig albym gyfan i’w lawrlwytho – naill ai trwy’r wefan gymunedol unarddeg.com (yn achos Gwilym Morys a’r Lladron), neu trwy’u safle eu hunain, fel wnaeth Mwsog (www.mwsog.com) – sy’n ffordd dda o ddosbarthu’ch cerddoriaeth i gynulleidfa eang, yn enwedig nawr bod newyddion am gyhoeddiadau o’r fath yn gallu teithio yn gyflym drwy’r we Gymraeg.

http://copycommaright.blogspot.com/ - ail-fersiynau “diddorol” Benn loxo du taccu - http://mattgy.net/music – cerddoriaeth o Affrica http://www.livejournal.com/users/david_f/ - pethau avant-garde, blog Ffrangeg

Ond mae ffordd arall o ddosbarthu MP3au sy ddim wedi cael lot o sylw yng Nghymru erbyn hyn, sef blogiau MP3. (Os dwyt ti ddim yn gwybod beth yw “blog” eto, stopia ddarllen, cer i’r cyfrifi adur a theipio “blog” i mewn i Google – unwaith ti ’di gorffen darllen y 108 miliwn o ganlyniadau, dere nol!) Mae blogiau MP3 wedi dod yn fwyfwy pwysig fel modd o ddosbarthu cerddoriaeth yn y flwyddyn neu ddwy ddiwetha. Mae rhai blogiau yn canolbwyntio ar un math arbennig o gerddoriaeth, rhai eraill yn rhoi ffocws ar ardal benodol, ac eraill yn cynnwys pob math o bethau o bob cwr o’r byd ond mae ganddyn nhw i gyd un peth yn gyffredin sef cariad at y

10 Y SELAR

gerddoriaeth y maen nhw’n rhannu a blogio amdani. Erbyn hyn mae gwefan gydgasglu mp3blogs.org yn rhestru miloedd o flogiau fel hyn, ymhob iaith dan yr haul. Mae gen i un yn y Gymraeg (poppeth.blogspot.com), lle dw i’n rhannu ffeiliau mae bandiau yn anfon ata i (hint, hint !) a phethau eraill dw i wedi darganfod ar y we. Does dim angen deall iaith y blog i fwynhau’r gerddoriaeth sydd arno, a dw i wedi ffeindio llawer o bethau diddorol ar safleoedd Ffrangeg, Ffineg, Sbaeneg a basgeg eu hiaith. Y cwbl sydd angen i ddechrau dy flog MP3 dy hunan yw cyfrif rhad ac am ddim gyda blogger (blogger.com) neu rhywun tebyg,

Large Hearted Boy http://www.largeheartedboy.com/ - llawer mwy na MP3au http://www.spoil tvictorianchild.co.uk/ - o Loegr http://sixeyes.blogspot.com/ - bandiau indie o America

a lle i roi’r ffeiliau. byddai’n syniad da i ofyn caniatâd cyn i ti ddechrau rhannu caneuon sydd ar gael ar CDau cyfredol, ond dw i wedi cael ymateb da gan fandiau bob tro dw i wedi gwneud hyn, gyda rhai bandiau yn fodlon cynnig ecsliwsifs i’r safle, fel Winabego yn rhoi MP3 o’r trac unarddeg Dyn i Lawr ac Ashokan yn rhoi gwerth llond CD bootleg o’u perfformiad yn Steddfod Casnewydd (poppeth.blogspot.com/2005/ 06/ashokan.html). Cafodd y bootleg yma ei lawrlwytho dros 200 o weithiau yn yr wythnos rhoddais i fe ar y we, sy’n dangos faint o ddiddordeb sydd mewn cerddoriaeth Gymraeg, a bod llawn cymaint o gynulleidfa tu fas i’r wlad ag sydd yma yng

Nghymru fach. Felly, os wyt ti mewn band, beth am gynnig MP3au i flogwyr (a nid jyst i’r rhai Cymraeg eu hiaith) gael lledu’r gair. Ac os wyt ti’n blogio yn barod, beth am gynnwys ambell i ffeil fach gerddorol i ddiddanu dy gynulleidfa? Neu beth am ddechrau Podledu (podcasting) yn y Gymraeg? Fel mae Sleifar yn dweud, mae angen Radio Amgen, ond does dim rhaid i ni aros i rywun roi hyn i ni – mae offer ‘da ni yn barod, dim ond dysgu sut sy angen!

Nic Dafis


G M FACH EISTEDDFODOL

WEDi caNU arNyN NhW!

Ddiwedd Mehefin ysgwydwyd yr SRG i’w seiliau pan ddaeth y newyddion fod Alun Ashokan wedi gadael y band. Mae’r rocars trwm o bontypridd ychydig yn ysgafnach erbyn hyn ar ol i Alun, y prif leisydd a sefydlwr Ashokan adael y band. Rhys, y gitarydd, sy’n cymryd ei le fel prif leisydd un o fandiau byw mwyaf cyffous Cymru. Cafodd Y Selar air gyda Mark y basydd i weld beth sy’n digwydd gyda’r ‘Khan. Nethon ni benderfynu dechre’r cyfweliad yn subtle. Ydi hi’n wir bo chi di taflu Alun mas o’r band am ei fod yn rhy dew ?! Mark : Na, dim o gwbl, ei benderfyniad e oedd gadael, ond os oedd hwnna’n wir byse Rhys ar ei ffordd mas hefyd achos mae e’n claddu pump pryd o fwyd bob dydd. Ni wedi dechre sgwennu albym newydd ag mae’r arddull wedi aros yr un peth” meddai Mark, ac maent yn bwriadu dechrau recordio’r albym yma tuag at ddiwedd y flwyddyn. Maent hefyd yn mynd i fod ar daith ysgolion ym mis hydref. Prif leisydd arall sydd wedi gadael ei fand yn ddiweddar yw Daniel Davies, Java. Roedd y pedwarawd a ddaeth i amlygrwydd ar ol ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau yn Eisteddfod Casnewydd llynedd yn bwriadu rhyddhau EP yn y dyfodol agos, i mewn i Jwngwl Java, ond mae’n edrych yn debyg fod ‘Jwngwl Java’ yn le peryglus i fyw, yn enwedig os taw Daniel Davies yw’ch enw chi. “wel, oedd e’n ‘mutual decision’ iddo fe adel achos doedd ei gyfraniad e i’r band ddim yn ddigon da, wedyn nethon ni bendefynu bod e’n mynd i gymryd brec o’r band am m’bach…” meddai Rhodri Daniel…” a mae Cynan Llwyd o Kenavo yn mynd i fod yn chware gigs gyda ni dros yr haf, jyst yn helpu mas fel petai. Mae e’n rhan o deulu Java, ar ol ‘nny sain siwr iawn, mae dyfodol Java yn ansicr ar hyn o bryd, ond mae gyda ni gynllunie eraill rhag ofn bod pethe ddim yn gweithio mas gyda Java.”

MaE’r ‘saiZ’ yN BWysig

Dylech brynu esgidiau rhedeg da ac anelu am oleia 275 o bwyntiau! Dydy Y Selar ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am anafiadau a dderbyniwyd cyn, yn ystod neu ar ôl cwblhau’r Rhestr hed-loc!

Credaf fod newid yn beth diarth ac estron i lawer o bobl hen ac ifanc yng Nghymru. Trwy’r ifanc y ceir newid yn ôl rhyw athronydd, ond ydi o’n wir yn achos rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg? Ydi’n well i gadw’n ddistaw, peidio beirniadu gormod a chael bywyd hawdd, gwrando ar gerddoriaeth sy’n hawdd i wrando arno ac sydd ar y radio 24 awr y dydd, mynd i bob rali Cymdeithas yr iaith Gymraeg, gweiddi Deddf iaith Newydd Nawr! er nad ydych yn deall beth yw eu Deddf yn union; mynd i gigiau bryn Fôn yn feunyddiol a meddwi’n gaib yn canu ei glasur sef ei fersiwn o’r gân Ceidwad y Goleudy o’r 1990au. Y llawlyfr addas yng Nghymru yw i beidio beirniadu unrhyw fudiad iaith, Plaid Cymru na’r urdd achos mae’n nhw i gyd yn neud da ac mae ffrind i fi yn gweithio yno, dwi ddim am ei bechu Yn hytrach na cheisio byw bywyd hawdd, agorwch eich meddyliau i’r gerddoriaeth newydd sydd ar gael i weld a ydych yn ei licio neu ddim, yn lle mynd at y peth cyfleus fel Meinir Gwilym neu beyonce, a beirniadwch. Dydych chi ddim yn bradychu eich gwlad wrth neud hynny dim ond yn gwthio’r diwylliant yn ei flaen trwy greu trafodaeth fywiog. Wrth beidio neud hynny mae pob dim yn aros yn ei unfan,statig a chyffyrddus a dyna pam fod cofleidio newid, syniadau a phethau newydd mor bwysig. Dwi’n siwr fydd dy ffrind sy’n gweithio yn fan a fan,ddim yn mynd i beidio siarad efo chdi am byth! MC Saizmundo Y SELAR 11


COLOFN RAP JON?Z

colofN

raPJoN-Z WEl, sUT MaE ? DWi Di BoD a’r hEN WagaN aT y BoBol UNED PiMP Mai raiD ‘Na. DiaWl o fachiNE, os WElai’r gEraiNT lloyD BaNKs Na yN Ei fETro Bach cachU Mi a i Dros y BasDyN, Wir DDUW i chi, rEiT Dros BEN y TWaT...yMM..sori, yMMM, yNg NgholofN JoN-Z y Tro yMa MaE’r DiWEDDaraf aM lo-cUT a slEifar, a’r DiWEDDaraf aM PEP lE PEW. Na Ni, DWi’N MyND i’r sEl car BooT i fali. WWWWWElai chi !

MC Sleifar Fel pob rapiwr gwerth ei halen mae MC Sleifar wedi bod o flaen ei well. Ar yr 20 fed o Ebrill 2005 ymddangosodd Steffan Cravos AKA MC Sleifar o flaen llys Ynadon Hwlffordd am achosi difrod troseddol yn stiwdios Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffennaf 2004. Arestiwyd Sleifar yn dilyn protest Cymdeithas Yr Iaith yn erbyn y canran isel iawn o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei chware gan yr orsaf. Nôl ym mis Ebrill hefyd cafodd y rapiwr ei ethol yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith... Pam nes di gymryd y swydd? Dwi wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas ers fy arddegau a wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg ers hynny. Mae’n anrhydedd mawr i gael fy ethol i’r swydd a dwi’n gobeithio y gallwn ni newid pethe gyda’n gilydd. beth fydd dy gynlluniau di ar gyfer dyfodol y Gymdeithas ? Ma’r swydd Cadeirydd yn fwy o ‘figurehead’nag o wneud penderfyniadau. Y senedd sy’n penderfynu ar gynlluniau’r Gymdeithas, ond mae gen i nifer o syniadau newydd dwi am gynnig. Ydy hyn yn golygu bod ti’n mynd i stopio/arafu cynhyrchu cerddoriaeth ? Na ddim o gwbwl. bydd Sleifar a’r Teulu yn perfformio yn y Sesiwn Fawr

12 Y SELAR

a’r Eisteddfod eleni. bydd gwaith ar albwm newydd gan Sleifar a’r Teulu yn dechre cyn bo hir, a mi fydd yn barod erbyn 2006. ugain mlynedd ers ‘Rap Cymraeg’y record rap Cymraeg gyntaf gan Llwybr Llaethog. bydd fersiwn newydd o’r gân ‘Rap Cymraeg’yn cael ei recordio yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac yn ymddangos ar yr LP. beth sydd well gyda ti gig neu protest?! Dwi’n cofio chwarae gig mewn protest Cymdeithas yr iaith ar sgwar tref Caerfyrddin blynyddoedd yn ôl. Felly cyfuniad o’r ddau yn ideal!


Lo-Cut Ar ôl cynhyrchu un o albyms gorau 2004,’Miwsig i’ch traed a miwsig i’ch meddwl’dilyn llwybrau gwahanol wnaeth Lo-Cut a Sleifar. Dim rhyw stynt i ddenu cyhoeddusrwydd megis The Game a 50 Cent mo hyn, mae’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi dod i’r casgliad ei bod yn well iddynt weithio ar wahan yn y dyfodol. Tra bod Sleifar yn setlo i lawr gyda’r Teulu, mae Lo-Cut wedi bod yn gweithio ar E.P. newydd o’r enw Yr hoelen Olaf. Dim ond y “dewin o ddectsiwr DJ Monkey” sydd yn ymddangos gyda Lo-Cut ar yr EP, a fydd Yr holen Olaf ddim yn mynd ar werth, yn hytrach, mi fydd yn cael ei rhyddhau ar unarddeg.com.

"fi wedi gwneud fy warm ups gyda Miwsic i'ch traed ma'r gyllel wedi hogu a fi'n mynd i dollti gwaed yn ddi baed byddai'n slasho MC's yn y gawod fel Psycho achos ma Lo Cut ar y Muther f***ing Mic YO.”

Aron PLP “ nath y doctor ddeud wrthai am stopio miwsic dros flwyddyn yn ol. Dwi’n clywed miwsic yn iawn, ond dwi’m yn clywed lleisiau…sy’n handi os oes rhywun yn annoyo fi !” beth wyt ti wedi bod yn gwneud ers cymryd y brec yma? Jyst enjoio bywyd ar y funud ond miwsic di thing fi, dwi di bod yn sgwennu stwff i gadw’n occupied. Dwi’n stret ar y funud am y tro cynta ers i bols fi dropio. Pa fath o stwff ti bod yn sgwennu? Wel, y peth ydi, di rock and roll ddim yn rock and roll dim mwy. unwaith mae’r caneuon ar ads a petha mae o jyst yn sellout, a mae punk ar Pop idol a petha fel’na

Pam gwneud hyn felly Lo ? LC :Y rheswm am ryddhau'r EP ar y we yw does fawr o werthiant yng Nghymru os nad ych chi'n Elin Fflur neu Meinir Gwilym neu pwy bynnag. Felly yn hytrach na colli arian yn cael CD's wedi eu cynhyrchu nes i benderfynu gwneud yr EP ar gael am ddim i unrhyw un sydd eisiau clywed e.

Pa fath o ganeuon yw’r stwff newydd ? LC : Ma'r stwff newydd yn barhad o sawl syniad cerddorol. Ma "hoelen" a "Dwyn" yn deullio o riffs llinynau fel sydd ar "Miwisic i'ch traed" a "Diwedd y bennod" . Fi’n hoffi'r naws sinistr a thywyll sydd ar y traciau yma. i gydbwyso ma na draciau ysgafnach fel “saith wyth” lle dwy'n rapio dros guriad mewn amser 7/8 a ma "Gwyrdd" a "Anturiaethau" yn fwy mellow a groovy. Peth pwysig am yr EP yma i fi yw datblygu, gwthio fy ffiniau personol a chesio gwneud pethe gwahanol gyda'r llais, y cynnwys cerddorol a'r cynhyrchu. beth yw dy gynlluniau di ar gyfer y dyfodol ? Fi newydd gynyrchu a sgwenu hanner album mewn llai na pedwar mis felly hoe i ddechre a wedyn gewn ni weld!

MaeYr hoelen Olaf EP gan Lo-Cut ar gael i’w llawrlwytho o unarddeg.com

Mae Pep Le Pew wedi stopio gigio ers dros dri mis bellach achos bod Aron, y rapiwr egniol, wedi bod yn dioddef o Tinnitus. Problem gyda’r glust yw Tinnitus lle mae’r person yn clywed clychau neu synnau yn ei glust er nad oes sw ˆn o’i gwmpas. Mae’r cyflwr yma yn effeithio llawer o bobl sy’n treulio amser ynghanol sw ˆn uchel, e.e. cerddor. Siaradodd Aron gyda Y Selar am ei gyflwr ac am ddyfodol Pep Le Pew : yn rong, y rebellion newydd ydi classical... ond ella nai newid yn meddwl fory! Mae’n neis cymryd brec, trio cofio nol dros y blynyddoedd, ond dwi ddim yn gallu cofio llawer o gigs, oedd gynnai frontman syndrome. On i ar full-beam yn gerddorol, yn gymdeithasol, yn rhywiol, bob dim, ond roedd y routine yn dechrau tynnu’r pleser allan ohono fo. Ti’n siarad fel boi sydd wedi sylwi fod popeth ar ben, ydi e? Wel mae’n neis cymryd brec, cael persbectif ar bethau, ond ddown ni nol, pan di pobl ddim yn disgwyl. Aron diolch am siarad gyda Y Selar ... Y? Dwi’m yn clywed ti! Y SELAR 13


bob blwyddyn mae’r ddwy garfan yma am y gorau i hybu’i gigs Eisteddfodol er mwyn sicrhau eich arian chi, fynychwyr gigs yr SRG. Eleni, yn fwy na’r arfer, mae’r cyllyll wedi ei hogi ac mae’r frwydr wedi bod yn un waedlyd. Y prif reswm dros y dadlau eleni yw bod Maes-b, mewn cydweithrediad gyda’r Eisteddfod wedi penderfynu cynnig tocynnau mynediad i’r maes pebyll, gig maes b ac i Faes yr Eisteddfod o dan yr un ymbarél am £10 y noson. Mae Cymdeithas yr iaith, ar wefan Maes-e wedi condemnio’r penderfyniad drwy’i alw’n ‘fonopoli cynhwysol’ ac yn ‘garchar agored

gyda’r bwriad o gaethiwo Eisteddfodwyr ifanc ar dir yr Eiteddfod.’ Yn syml, os ydych am aros ar faes pebyll Maes-b eleni, mi fydd yn rhaid i chi dalu £10. Ond cewch hefyd fynd i gig Mae-b ac i faes yr Eisteddfod. Ynghanol honiadau fod y drefn newydd yn mynd i ddinistrio’r Eisteddfod ac effeithio’r gymuned leol, ymatebodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod i’r honiadau. “bwriad Maesb ydi cynnig adloniant i bobl ifanc sy'n dod i'r 'Steddfod a hynny os yn bosibl cyn agosed a phosib i'r maes ieuenctid ac am y

pris rhata' posibl . Mae hyn yn fargen arbennig o dda i bobol ifanc Cymru a fedra’i yn fy myw a gweld sut mae’r Gymdeithas yn gallu honni fod y 'Steddfod yn gorfodi'r bobol yma i dal "crocbris". Dyna’r ddadl. Yr opsiynau sydd ar gael felly i fynychwyr gigs yw talu £10 am aros yn maes-b, a mynd i gig Maes-b. Neu dalu’r £10 am aros ym maes b a mynd i gig Cymdeithas, er y bydd rhaid talu cost ychwanegol am hyn. Yn amlwg, mae’r ail opsiwn uchod yn swnio’n fusnes drud, ond o’i gymharu â gwyliau mawr yn Lloegr

e.e. Glastonbury lle mae’r tocyn ei hun yn costio bron i gant a hanner o bunnoedd am dridiau, gwnewch chi’r maths. Dim y gost sy’n poeni llawer o bobl ond yr egwyddor y tu ôl i’r drefn newydd. Mae’n benderfyniad anodd i lawer o bobl beth i’w wneud bob nos, os nad yw arian yn broblem yna does dim gwahaniaeth, os ydych chi’n dueddol o feddwl gyda’ch poced, yna mae’r penderfyniad wedi ei wneud i chi’n barod. Mwynhewch y steddfod!

5 rheswm dros fynd i gigs MaesB

5 rheswm dros fynd i Gigs Cymdeithas yr Iaith

1.Mae'r bands wrth eu bodd yn ogystal yn chwarae i gynulleidfa o 2,500. 2. Ma noson arbennig ym Maesb i Wneud Tlodi'n hanes - dewch i ni greu noson fythgofiadwy fel y rhai ym mhob cwr o'r byd y mis diwethaf. 3. Ma'r Eisteddfod yn cyfrannu £6.5 miliwn i economi'r ardal mae'n ymweld ag ef, ac mae Maesb yn rhan o hynny - mae'r gymuned yn elwa'n sylwedol felly - yn gerddorol ac ariannol. 4 Mae Maesb yn creu llwyfan teilwng i gerddoriaeth cyfoes Cymraeg ac yn sicr fe lwyddwn i wneud hynny o ystyried bod ar gyfartaledd 10,000 yn mynychu'r digwyddiad yn flynyddol. 5. Da ni ma i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu'r sin roc, da ni ma i greu ysfa am fwy o gerddoriaeth Cymraeg - da ni ma i sicrhau y bydd y sin yn blaguro - felly dewch i ni gyd i greu sin roc ddeinamig

1. Lleoliadau reit yng nghanol holl fwrlwm bywyd nos bangor a Chaernarfon 2. Amser a Cofi Roc, dwy o ganolfannau gigs gorau Gogledd Cymru. 3 Yr unig gyfle i weld Gruff Rhys wythnos y Steddfod! 4. bws Tafod yn rhedeg yn ddyddiol yn ol ac ymlaen o’r maes ieuenctid/carafannau i Fangor a Chaernarfon. 5. Stiwardiaid mwyaf secsi Cymru.

14 Y SELAR



CYFWELIAD

Kentucky AFC. Endaf, Gethin a Huw. Wrth imi ymlwybro at ochr y Foryd, i'w cyfarfod yn Nhafarn yr Anglesey, mae'r tri yna, ar amser. Mae Huw a'i gariad Angharad yn eistedd ar y wal, a Geth ac Endaf yn mwynhau cinio dydd Sul (sglods, dwy sosej yr un, a saws cyri.) bydd Angharad yn chwarae r么l swyddog PR, mae'n debyg, ac yn rhoi slap i fi bob tro dwi'n gofyn cwestiwn anweddus. Ymddengys y tri yn union fel buasech chi'n disgwyl aelodau o'r Kentucky AFC i edrych. Mae Alun Tan Lan yma hefyd, nid am ei fod e newydd ymuno gyda'r band, ond am ei fod e' am glebran gyda Endaf, a thorri ar draws y cyfweliad yn ddi-rybudd o dro i dro.

16 Y SELAR


Mae'r Tri Gwr Annoeth o Kentucky AFC yma i drafod eu e.p. newydd, sydd ar gael ar label boobytrap. Recordiwyd y cyfweliad gyda’r band cyn iddynt wneud eu gwaith munud olaf. Dyna'r cefndir. Dyma'r cyfweliad.

y bwrdd drws nesa. Roedd 'M4' yn syniad arall na chaiff ei esbonio, ac mae'n debyg bod 'Cwn' wedi bod yn fferfryn cynnar tan i'r tri muskateer sylweddoli ei fod yn bosib cam-ddehongli'r ystyr yn hawdd iawn yn Saesneg.

beth sy'n digwydd ym myd y Kentuckys?

Ydyn, mae'r Kentuckys yn cael trafferth gydag enwau. Dwi'n darganfod fy hun yn dyfalu faint o amser wnaeth e' gymryd iddyn' nhw enwi albym gyntaf Kentucky AFC, sef 'Kentucky AFC.'

Daw'r cyntaf o lu o gamddealltwriaethau pan dwi'n gofyn i huw a Geth pa fath o bethe yw'r caneuon. "Gofyn i Endaf" yw ymateb y ddau. Pan dwi yn gofyn i Endaf, sydd ynhanol rhyw drafodaeth ddwys gydag Alun Tan Lan, mae e' wedi'i ddrysu'n lan. Wedi inni gadarnhau mai am y caneuon ar yr e.p. 'dyn ni'n son, ac wedi i Endaf ymian a rhegi dan ei wynt am rai eiliadau, mae Geth yn achub y dydd. Geth: Y gora ma'r iaith Gymraeg erioed 'di glywed! Endaf: ia, ia, fyswn i'n cytuno efo hynna... ddim yn siwr be i ddeud 'tha chdi rili de... ym... ffyc... sori... Huw: Ma na rywbeth caletach amdanyn' nhw. Ma rhei ohonyn nhw'n reit 'agressive'... a melodis... a harmonis... a petha...

Geth: Mae o 'di cael ei recordio'n hollol fyw sti. Gafodd y caneuon yma i gyd eu recordio pan oeddech chi yn Music box yn Canton, Caerdydd, gyda Math o'r Keys yn peiriannu? Huw: Do, wnaethon ni recordio pump cân hefo Mathew Evans o'r Keys, yn Music box. Oeddan ni yno am tua chwech diwrnod i gyd, a wnaethon ni dod allan efo pump cân oeddan ni'n meddwl oedd yn haeddu cael eu rhyddhau, so oeddan ni'n reit hapus efo hynna. Daw'r lluniau welwch chi o'r sesiwn yna ym Mis Mawrth, a bydd rhai o'r lluniau yma hefyd yn cael eu defnyddio ar yr albym. Pan oedd eich gohebydd yno, roedd yna boeni am un gân arbennig oedd yn

achosi trafferth. Erbyn hynny, roedd y mwyafrif o'r caneuon wedi'u recordio. Enwau'r caneuon yw Praidd, Salwch, Glan ei Ffydd, un Ffordd a Gizmo. Oes enw i'r e.p.? Huw: Na, dan ni'n methu penderfynu ar enw... dim tan heddiw eniwei, ond erbyn heno neu fory gobeithio byddan ni 'di penderfynu ar enw. Fedri di feddwl am rywbeth? beth yw'r enwau mwya' twp chi 'di bod yn ystyried? Endaf: Y Gobaith Newydd. Cytuna huw bod hwnna'n eitha' gwael, tra bod Alun Tan Lan ac Endaf yn eu byd bach eu hunain ar

Endaf: Mae'n anodd meddwl am enwau a petha... ma' 'na beryg bo' ti'n mynd i swnio'n ponsi, ti'n gwbod, os nad ydy o'n dod yn naturiol... Yn wir, pan dwi'n gofyn i'r tri enwi un hoff deitl ar albym yr un, wedi hir bendroni, dim ond huw sy'n gallu cynnig hyd yn oed un teitl mae'n ei gofio, sef yr albym Ministry, 'Slam 69: The Way to Succeed and The Way to Suck Eggs.' Mae'n anodd peidio teimlo bod angen rhyw fath o wyrth gydag enw'r ail albym. Huw: Mae'n wir. Wnaethon ni ddim hyd yn oed enwi'r albym ddiwetha' yn iawn, dyna faint o ddychymyg sy ganddon ni... Mae'n rhyw dair mlynedd ers i huw ac Endaf adael nyth y Cacan Wy Experience, a bras-gamu i'r byd mawr cas, gyda'r Kentucky AFC.

t

Huw: Dan ni ynghanol rhei... petha... jyst gorffan off e.p. newydd, a jyst angen ei mastro hi, a neud clawr, a wedyn fydd o'n barod i fynd. A fel arall, jyst 'sgwennu lot o stwff newydd.

Y SELAR 17


CYFWELIAD Ymunodd Gethin Evans rhyw chwe mis yn hwyrach. Mae cefnogaeth frwd y grw ˆp yn deillio o'r cyfnod hyd at ddiwedd 2004, pan fuont yn chwarae gigs yn ddi-baid dros Gymru gyfan, gan ennill pump gwobr yng Ngwobrau RAP 2004. Yn fyw, maent yn tueddu i edrych fel eu bod nhw'n rhy cwl i fod yn yr adeilad, gyda huw fel arfer yn chwarae ei fas gyda'i droed ar y monitor, ar flaen y llwyfan. Yn y cyfamser mae Endaf yn tueddu i ganu yn syllu lan, ynghanol rhyw trance, yn poeri geiriau caneuon sy'n rhyw fath o gyfuniad o punk a chanu gwlad, gyda rhyw sglein sy'n gallu bod yn roc trwm a phop perffaith 'run pryd, yn hudolus ac yn hallt, yn freuddwydiol ond yn frwnt. Wrth iddo ruthro drwy'r perlau poenus, mae Geth yn tueddu i edrych fel ci hapus sydd newydd ddarganfod asgwrn mawr iawn, tra'n curo'r drymiau'n ddidrugaredd. Ond mae'r band wedi chwarae llai o gigs yng Nghymru mor belled eleni, ac wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu caneuon.

Oeddech chi'n siomedig y diawl i beidio ennill Gwobr RAP yn 2005, ar ol i chi ennill pump y flwyddyn cyn 'ny? Endaf: Wnes i grio am wythnos cofia... Na, o'n i ddim yn disgwyl un pan wnaethon ni ennill pump. Dwi ddim yn poeni am beidio ennill un tro 'ma. Pan wnaethoch chi ennill, roeddech chi'n chwarae gigs ymhobman, ond yn ddiweddar chi heb fod yn chwarae'n fyw cymaint. Oes na reswm am hyn?

Huw: Do, ond fuon ni'n chwarae un lle yn Llundain, a dan' ni ddim yn keen, ti'n gwybod? Geth: Do' ni ddim yn meindio... Dwi'n meddwl oedd o'n dda cael chwarae i gynulleidfa newydd. Huw: Yndi mae o, ond... Geth: Ti jyst ddim yn licio'r system barcio... Ar y pwynt yma, mae huw a Geth yn chwerthin yn afreolus. Huw: ie, fi sy'n gorfod dreifio. Ond aethon ni ni Lerpwl, a oedd hwnna'n shit hot ti'n gwybod, a dan ni am fynd yn ol i fan'na, a chwilio am slotiau, falla'n cefnogi bandiau sy'n teithio. Ond ia, dyna'n targed ni, mewn ffordd, i deithio fwy, ella chwarae yn yr Alban neu iwerddon.

Wnes i grio am wythnos

Huw: ie a na, ti'n gwbod? Wnaethon ni chwarae lot yn y flwyddyn a hanner gynta', er mwyn sefydlu ein hunain, a do, fuon ni'n chwarae'n galed. Wnaethon ni rhyw hanner cant o gigs yn y flwyddyn gynta', a rhyw 75 llynedd. A wedyn eleni dan ni ddim ond 'di gwneud rhyw chwech neu saith. Geth: ie, falle fod o'n dda i ni ac i bobl eraill, cadw'r peth yn ffresh... 'Da ni'n gallu dewis lle i chwarae erbyn hyn, sy'n beth braf rili... Fuodd rhai o'r gigs prin yna tu fas i Gymru. Sut oedd rhei'na? Geth: Do, jyst gigs gwahanol, pobl

18 Y SELAR

gwahanol...

Ar y pwynt yma, mae Endaf yn ailymuno gyda'r drafodaeth ac yn datgan ei fod e' am chwarae yn Siapan. Pam Siapan? Endaf: Jyst bod na llond lle o bobl bach... Ti'n meddwl baset ti fel cawr, rhyw Godzilla, ynghanol y bobl bach i gyd?

Mae Endaf yn ymateb trwy berfformio ei fersiwn orau o lais Godzilla, cyn cyhoeddi bod pobl Siapaneaidd yn ciwt, a bod ganddyn' nhw 'lygaid mawr.' Oes na gynlluniau eraill i recordio gyda Math, neu ydych chi'n canolbwyntio ar yr e.p. newydd? Huw: 'Da ni 'di bod yn recordio dipyn yn barod, a'r mwya 'dan ni'n 'sgwennu, awn ni 'nol i recordio mwy a mwy, a cael digon o ganeuon fel bod ti'n gallu dewis o rheiny, yn hytrach na jyst defnyddio'r ddeg cân sgin ti. Ond 'dych chi heb fod yn recordio ers Mis Mawrth? Huw: Do, do - dan ni 'di bod yn recordio yn Rachub, yn Stiwdio Sam, am rhyw dri diwrnod yn fan'na. ia, a gobeithio mynd nol yna reit handi, a wedyn 'newn ni recordio 'triple album rock epic.' Gewch chi drafferth yn meddwl am enw i hwnna... Geth: 'Newn ni jyst galw fo'n epic de... Huw: ie, Epic... Disc un, disc dau, a disc tri... Mae’r e.p. gan Kentucky AFC allan ar boobytrap. iasobe? yw’r enw. n


Cafodd y sin roc Gymraeg dipyn o ergyd wedi marwolaeth y gitarydd enwog Robert ‘Tich’ Gwilym mewn tân yng Nghaerdydd fis Mehefin. Mewn gyrfa lawn ac amrywiol fe chwaraeodd a’r band Kimla Taz yn y ‘70au gan rannu llwyfan gyda grwpiau mawr y cyfnod fel Jeff beck band, Fleetwood Mac a’r Small Faces. Ond fel prif gitarydd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yr adnabyddir y gwr 54-oed o benygraig, Rhondda. Tyfodd ei berfformiadau byw enwog o hen Wlad Fy Nhadau yn uchafbwynt cannoedd o nosweithiau. "Fel rhan o'r Cynganeddwyr fe gododd e safon cerddoriaeth yng Nghymru ac roedd ganddo ei ffans ei hun ym mhob man yr oedd y band yn mynd. Ffans hardcore ‘Tich Gwilym’ meddai Geraint Jarman. "Roedd y gitâr yn rhan ohono wastad a doedd byth yn bell i ffwrdd. Dysgodd sut i wneud gitârs ac roedd yn gwybod bob dim amdanyn nhw. Ond person fel na oedd o ymhob rhan o’i fywyd. Roedd Tich hefyd yn chwaraewr gwyddbwyll arbennig o dda a chanddo ddiddordeb mawr mewn tyfu rhosynnau. Roedd o yn ‘First Dan mewn Aikido a phan doeddech chi ddim yn ei ddisgwyl mi fyddai Tich yn dechrau eich taflu o gwmpas yr ystafell am hwyl.” "Mae’n debyg mai Tich oedd y cerddor cyntaf a allodd apelio at y ddwy Gymru, y Gymru Gymraeg a’r Gymru di-Gymraeg. Roedd o’n gyfforddus braf gyda’r ddwy gynulleidfa. Roedden ni’n ffodus i gael y fraint o’i glywed ar ei orau achos roedd talent Tich yn

arbennig ar lefel bydol, yn gymharol a hendrix ar adegau. Ond uwchlaw popeth, roedd Tich yn ddyn annwyl a charedig iawn a fyddai wedi gwneud unrhyw beth i unrhyw un" Atgofion melys oedd gan Gwyn Jones gynt o Maffia Mr hughes o berfformio gyda Tich:“byddai yn troi ataf yn aml yng nghanol set efo’r gwallt yn sefyll i fyny ar ei ben a golwg ecstatic ar ei wyneb, a gweiddi ar dop ei lais ‘Fuckin hit ‘em.’ Roedd o eisiau i ni roi popeth oedd ganddom ni i’r perfformiad, eisiau i ni fynd flat out yn gorfforol, feddyliol ac emsiynol. Roedd o’n foi oedd yn medru codi pawb efo fo.” “Doedd o byth yn siarad am gigs ar ôl ei chwarae nhw. byddai’r rhan fwyaf o fandiau yn trafod sut aeth pethau ar ôl dod oddi ar y llwyfan, ond dim Tich. Yr unig beth fyddai o’n ddweud fel arfer fyddai ‘Pint is it?’ ac anelu am y bar. Roedd hynny yn rhyfedd i mi ar y dechrau ond mi ddeuais i licio’r ochr ddiymhongar yma ohono. Roedd o’n rhoi popeth mewn perspectif rywsut.” “Mae’n siwr mai un peth nad ydy lot o bobl pawb ddim yn gwerthfawrogi am Tich ydy’r yr amrywiaeth o gerddoriaeth oedd ganddo i’w gynnig. Roedd o yr un mor gartrefol efo gitar acwstig ag oedd o yn rocio i’r eitha’. Roedd ochr llawer mwy sensitif i’w glust gerddorol ac roedd hi’n amlwg ei fod o yn llwyr fwynhau y pegwn yma hefyd. Caiff ei gofio fel gitarydd oedd ben ag ysgwyddau uwchben unrhyw un arall a fu neu mae’n debyg a fydd yng Nghymru. Trystan Pritchard

Llun: Gwyn Jones / Siân James

Y SELAR 19


Lluniau: Einion Dafydd

UCHAFBWYTIAU!

SESIWN FAWR Ac wele, ffestifal fwyaf haf 2005 mor belled. Roedd Dolgellau ynghanol haul tanbaid am dri diwrnod cyfan, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers blynyddoedd, ac roedd pawb yn mynd iddi yn fwy o’r herwydd. Roedd yna ansawdd amrywiol i Nos Wener. Roedd yr uchafbwyntiau amlwg y Super Furry Animals er mor boblogaidd, ychydig yn siomedig. Pan r’ydych yn edrych ymlaen at weld rhywbeth, ac mae’ch disgwyliadau’n uchel mae’n anodd iawn cael eich plesio gant y cant.

Fel codi ar fore Dolig pan yn blentyn a ffeindio’r beic gore Argos yn aros amdano chi ... ond bod e’n binc. Neu pan ry’ch chi’n gwario miloedd ar siwt a dyw e ddim cweit yn gweithio i chi. Roedd caneuon y Sibrydion yn ofnadwy o dda, ac maent yn dangos gwelliant mawr yn eu perfformiad byw ar ol ychydig o gigs sigledig ar hyd eu taith ddiweddar. Sleifar a’r Teulu hefyd yn berfformiad egniol lle croesawyd Aron Pep Le Pew i’r llwyfan ar gyfer ymdangosiad prin yn dilyn trafferth gyda’i glustiau. Roedd llwythi o uchafbwyntiau ar y dydd Sadwrn. Alun Tan Lan yn safonol fel arfer er nad oedd ansawdd y sain yn berffaith o bell ffordd. Ond roedd perfformiadau Poppies a Frizbee cystal a’i gilydd ac yn profi fod y ddau fand yn haeddu slotiau hwyrach yn y dyfodol. Roedd brigyn a Gwyneth Glyn yn uchafbwyntiau ar y llwyfan acwstig a oedd dan ei sang am oriau. Yr unig drueni yw nad oedd modd agor y drysau i fwy o bobl fwynhau’r danteithion. Mim Twm Llai ar y prynhawn Sadwrn yn berffomiad cofiadwy, derbyniodd wobr gan Sain, dim am ei berfformiad, (er y bydd llawer yn dadlau ei fod yn haeddu gwobr ) ond am ddod a straeon ardal y llechi i amlygrwydd. ?!. Estynedig yn amrywio rhwng y da a’r drwg ar y nos sadwrn a gwnaeth y system sain ddim ffafrau a nhw o gwbl, ond roedd digon o bobl ar y llwyfan i gadw’r egni i fynd ac mae Ceri a Lauren yn haeddu clod am hynny. Sesiwn mwyaf braf a chofiadwy ers blynyddoedd. i’r Faenol ! Andrew Morris

20 Y SELAR


CYFWELIAD

NOSON YN Y STIWDIO GYDA...

WINABEGO

M

ae’n nos Fercher ac wrth gyrraedd stiwdio bryn Derwen ar ochrau bethesda mae’r lle yn arswydus o dywyll. Mae’r stiwdio wedi ei leoli rhyw bum can llath oddi ar y stryd fawr drwy goedwig drwchus, dywyll. heno’r bechgyn lleol Winabego sydd wrthi yn y stiwdio, yn gweithio ar eu halbym newydd. Wrth fynd mewn i’r lolfa, s’dim golwg o’r band, ma nhw i gyd yn gwrando nôl ar y drymiau a gafodd eu recordio y noson gynt. bob yn un ag un daw’r aelodau mewn o’r stiwdio i ôl eu ffags, gwylio’r teledu a dechrau paratoi swper.

“Mae petha’n mynd yn dda, da ni di recordio dryms so far, a fydd y bass yn mynd lawr heno” meddai Dyl. Wrth i Llew y prif leisydd baratoi swper mae’n rhaid gofyn beth sydd ar fwydlen aelodau llwglyd y band? Stêc neu rhywbeth dynol arall? O na, ar y fwydlen heno mae…. Pasta bake. Nawr dyw hwnna ddim yn bryd y bysech yn ei gysylltu yn aml gyda Rock a Roll, testosterone a ‘cool’ond dydi Llew ddim yn poeni rhyw lawer am rhyw ohebydd hannermeddw o’r Selar yn cymryd y piss yn ‘i glust e. Mae’n esbonio taw’r rheswm dros fwyta fel boy band yw achos fod Dave [Wrench – y peirianydd] yn lysieuwr. Wrth i Llew baratoi i borthi’r pum mul, a Dyfrig [y cynhyrchydd] a Dave [y llysieuwr] caf y cyfle i fynd i mewn i’r stiwdio lle mae Meic P y basydd wrthi’n canolbwyntio’n

galed ar geisio gosod ei bass-line ar y cynnig cyntaf. Mae’n methu... ac mae’r lleill yn chwerthin. Daw llais Dyfrig dros y talkback i glustiau Meic. “O’r top eto, a gna fo’n iawn y tro yma’r c*nt bach gwirion!” Yr hyn a ddaw’n amlwg wrth i’r noson fynd yn ei blaen, ac wrth i’r cans yn y ffrij ddiflannu yw bod holl aelodau Winabego yn hoffi cymryd y piss o Meic P. Er ei fod yn darged amlwg i’w gydaelodau mae Meic yn delio gyda’r holl beth yn ddi-ffwdan. Er ei fod yn destun sbort iddynt, mae yna barch mawr tuag ato, er eu bod yn chwerthin am iddo fethu gyda’i gynnig cyntaf y teimlad oeddwn i’n ei gael oedd bod hyn yn ddigwyddiad anarferol. Mae nhw am gadw sw ˆn yr albym yn ‘gritty’a ‘basic’, gitars a dryms

heb ormod o effeithiau artiffisial fel synths yn ôl Meic P. cyn i Al weddi o’r ochor arall ‘Lo-fi’ac i’r point ac mae’r caneuon ei hun fwy snappy a bachog.’ Gyda dwy gan eisioes wedi eu rhyddhau fel senglau i’w lawrlwytho oddi ar y We, Dal Fi Fyny a Colli ar fy Mhen, mae’n amlwg bod eu sw ˆn yn datblygu ac maent yn dechrau gwireddu’r potensial a ddangoswyd gyda’i EP gyntaf hyder bregus. Mae’r caneuon newydd yn swnio’n llawnach, yn fwy egniol, a mor belled a bod Meic P yn gallu recordio’i bass-line cyn Nadolig 2005 fe fyddwn ni’n aros yn eiddgar i’w chlywed.

John Rhambo 21 Y SELAR


“Dyma gariad, fel y moroedd, Tosturiaethau fel y lli, Tywysog bywyd pur yn marw, Marw i brynu’n bywyd ni...” Tra’n palu ymysg y pentwr o gryno ddisgiau newydd sy’n ymddangos trwy hud a lledrith hafaidd ym mhob Eisteddfod (ar wahan efallai i Eisteddfod yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn y 13eg ganrif), efallai dewch chi ar draws un albym unigryw, gan lais unigryw, a’r llais hwnnw yn un sy’n lleol i Eisteddfod Gaernarfon.

fartsio, boed e’ i angladd, neu’r ysgol Sul, ond mae’r caneuon yma wedi eu chwyldroi, heb golli’r naws gwreiddiol, yn yr un ffordd mae rhywun fel Mahalia Jackson yn gallu chwyldroi eich disgwyliadau chi am ganu crefyddol, heb golli natur ysbrydol y caneuon.

Mae’r ferch leol, sy’n byw yng nghyffiniau bethesda bellach, er ei bod hi’n canu emynau traddodiadol Cymreig, wedi creu albym sydd yn arloesol, yn berfformiad ysbrydol sydd hefyd yn atseinio pleserau mwy synhwyrus bywyd. Mae’r caneuon yn rhan annatod o ddiwylliant a hanes Cymru, ond yn nwylo medrus cerddorion amldalentog a sensitif, a thrwy gyfrwng llais angel golledig, mae’r hyn rydym yn ei adnabod o Ysgol Sul a gwasanaethau ysgol yn ein tywys ni, yn hytrach, i glwb jazz tanddaearol arall-fydol, gyda’r angel Pedr yn gwarchod y drws. Daw ‘Dyma gariad fel y moroedd’ inni’n hudolus, gyda chwythbren lledrithiol yn arwain at biano llyfn a theimladwy, ac yna’r Llais! Anaml iawn ‘dwi’n gorffen brawddeg gydag ebychnod, ond am lais! A’r caneuon. Am ryw reswm, imi, roedd ‘Dyma gariad, fel y moroedd’ yn atgyfodi delweddau clywedol o

Recordiodd y caneuon ar Sul Y Mamau eleni, yn fyw, mewn un diwrnod. Ac eto, er mai cofi o bywyd ei Mam mae Lleuwen, mae yna fywyd angerddol a phw ˆ er aruthrol ynghlwm wrth y dehongliadau yma. Diddorol yw clywed Lleuwen yn canu tu allan i Acoustique, gan fod yna rhyw berthynas organig arbennig yn perthyn i’r triawd yna. Ond mae doniau huw a Mark yn amlwg iawn ar y casgliad hefyd.

22 Y SELAR

Lleuwen Steffan sydd yn canu, gyda huw Warren yn canu piano, a Marck Lockheart ar sacsoffôn a teclynnau chwythiedig eraill. Ar Orffennaf 2il eleni, enillodd huw wobr Jazz on 3 innovation yng Ngwobrau Jazz bbC 3, felly gallwch chi ddychmygu bod y fersiynau yma o hen alawon yn gyfuniad o’r traddodiadol a’r arbrofol. ‘Duw a Wyˆr’ yw enw’r detholiad ysgytwol hwn, sy’n cael ei lansio yn swyddogol yn y Galeri, Caernarfon, ar Awst 5ed. Yn adnabyddus fel chanteuse gyda’r grw ˆ p jazz Acoustique, gwnaeth Lleuwen drin y prosiect yma fel teyrnged i’w Mam.

Ar adegau, mae’n teimlo fel ein bod ni yn cyd-gerdded ar

ryw daith ysbrydol i’r gantores, i gyfeiliant sydd rywsut o du hwnt i’r byd hwn. Mae dyfnder talent y cyd-chwaraewyr yn aruthrol, ond dyw’r llais byth yn diflannu tu ôl i’r gerddoriaeth.


Lleuwen Y SELAR: Pa atgofion sydd gyda ti am emynau? LLEuWEN: Dwi jyst yn cofio mai hynna oeddan ni’n edrych ymlaen iddo fo, pan oeddwn i’n mynd i’r Ysgol Sul, yn edrych i fyny ar y bwrdd, ac yn dyfalu pa emyn oedd yn mynd i ddod, a wedyn edrych yn y llyfr, a phenderfynu os oeddwn i’n gwybod yr alto, neu’r bas neu’r tenor... eitha’ sad rili...

Y SELAR: Dwi digwydd bod yn gwrando dipyn ar Mahalia Jackson yn ddiweddar. Wyt ti’n hoff ohoni, a phwy arall buaset ti’n gwrando ar, yn canu emynau? LLEuWEN (wedi ochenaid o bleser ar glywed enw Mahlai Jackson): Mahalia Jackson, roeddwn i’n gwrando arni hi pan oeddwn i’n hogan fach, yn arbennig y gân ‘in The upper Room.’ Dwi hefyd yn lico The blind boys of Alabama, a chantores o’r enw Lizz Wright, sy’ newydd recordio ei hail albym. ‘Nes i ei gweld hi yn Efrog Newydd ym Mis Chwefror. Mae hi’n dod o gefndir ysbrydol, mae ei thad yn bregethwr, ac mae ei caneuon hi, er ei bod nhw’n seciwlar, hefyd yn ysbrydol iawn... Y SELAR: Ydy Jochen (Eisentraut, allweddellydd Acoustique) ddim yn hoff o emynau, neu oes na reswm arall dros huw Warren yn chwarae piano ar y casgliad yma? LLEuWEN (wedi chwethiniad bach): Wel, mae o jyst yn ddiddorol gweithio efo gwahanol bobl, a dysgu rhywbeth gwahanol, jyst hynna oedd o rili... Y SELAR: Felly beth yw hanes Jochen a Owen, a beth yw hanes Acoustique fel grw ˆp? LLEuWEN: Wel, ma Jochen ‘di bod yn brasil, yn neud rhyw brosiect o’r enw Samba ‘Steddfod, fydd ymlaen yn y Steddfod, o gwmpas y maes, ac o gwmpas Caernarfon a bangor. Mae Owen yn iawn, a ‘dan ni wrthi’n gwneud yr albym nesa rwan, a dan ni bron iawn a gorffen... Y SELAR: Sut buaset ti’n

disgrifio’r ail albym, o’i chymharu â ‘Cyfnos,’ albym gyntaf Acoustique? LLEuWEN: Fyswn i’n deud ‘i fod o’n syrpreis bach neis ichi... Caiff ‘Duw a Wyr’ ei ryddhau ar label ‘babel Label,’ cwmni o Lundain sy’n arbenigo mewn jazz, ac yn dosbarthu ei recordiau ledled Ewrop. bydd Sain hefyd yn dosbarthu’r record yng Nghymru, ond y gobaith amlwg yw cyrraedd gwrandawyr estron. Y SELAR: Sut ymateb wyt ti wedi ei gael gan y capeli, a’r garfan Gristnogol? LLEuWEN: Ma’ nhw ‘di bod yn ofnadwy o bositif, a doeddan i ddim wir yn disgwyl hynna... Ond, i fod yn deg, dwi ‘di trio fy ngorau i gadw... be sydd wedi bod yn bwysig i fi wrth ei recordio fo ydi yr ystyr, a’r geiria, a bod rhain yn dod allan yn glir... Y SELAR: beth yw dy hoff emyn di? LLEuWEN: Ar hyn o bryd- ac mae’n newid bob wythnos- ond ar hyn o bryd; ‘Dyma Gariad Fel y Moroedd’ gan Gwilym hiraethog. Owain Llyˆr Y SELAR 23


Ers 6 wythnos bellach mae r wlad gyfan wedi bod ynghlwm wrth eu setiau teledu gwylio anturiaethau r criw gwyllt sydd wedi w caethiwo y Big yn Brother. nh Mae r 7.5 miliwn o wylwyr, sydd yn record byd i S4C, wedi cael gwledd rhyfeddol o weiddi caru a cachu am ben yn y gyfes orau eto o B.B.S.R.G. Dyma rhai o r uchafbwynti

Mae Cravos yn dechrau r chwyldro

24 Y SELAR


Y SELAR 25


aDolygiaDaU cD’s

POPPIES - DAU BYS Cafodd ‘Dau bys’ ei ryddhau ar Fawrth 21ain, dau ddiwrnod ar ôl penblwydd cyntaf Poppies. Allan ar label Ciwdod, adain newydd o Cerddoriaeth Gymunedol Cymru; hon yw sengl gyntaf Poppies.Roedd rhai’n adnabod Sam James, canwr a gitarydd y band, o’i yrfa fer yn canu i Mozz, band sydd bellach wedi peidio. Arweiniodd hyn at Sam yn ffurfio’r Poppies, a gweddill y band yn cychwyn Radio Luxembourg; doedd hyn ddim yn beth gwael. Tra bod Radio Luxembourg yn ymdddwyn fel petai hi dal yn 1974, mae gan Poppies sain sydd hefyd yn retro, i raddau, ond sy’n atseinio efallai’r chwedegau hwyr a’r cyfnod ‘new wave’ ar gychwyn yr 80au.Mae ‘Dau bys’ yn cychwyn gyda drymiau sy’n ddigon uchel i roi llond twll dîn o ofn i gath, yna’n mynd yn syth i mewn i’r fath o roc

cyhyrog llawn tensiwn roedd y Cyrff mor hoff ohono tua adeg ‘Awdl o Anobaith.’“Dau gi yn mynd ar wylie, dwad adre heb ei ffrindie,” yw un o linellau’r gân, sy’n datblygu i fod yn bregeth fer ar ffolineb bush a blair yn irac. Yn aeddfed a dirmygus, mae’n adlewyrchiad teg o ddoniau’r triawd. Ar ‘Cam’, mae drymio Twm Champagne a bas Eifion Austin yn egniol ac yn bwrpasol, yn llwyfan cryf i dalent perfformio Sam James. Mae‘na elfennau o’r Rolling Stones ar hon, sy’n arddangos talent y band o ddiflannu mewn i jams bychan o fewn eu caneuon, rhyddid sy’n atseinio stwff cynnar The Libertines.Dylai ‘Sex Sells’ fod yn gân ddigon cyfarwydd i unrhywun welodd Poppies yn fyw dros y flwyddyn ddiwethaf. Os nag yw hi’n gyfarwydd i chi, dychmygwch riff

MATTOIDZ EDRYCH YN WELL O BELL Prin iawn yw’r siawns nad yw Mattoidz wedi ymweld â’ch cornel chi o Gymru yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Pob parch ac edmygedd iddynt am hynny - mae rhai bandiau yn meddwl mai taith y dyddiau hyn yw gig bob deufis yn y Twcan neu Clwb ifor o flaen y gynulleidfa “gywir” . Y tro cyntaf i mi weld Mattoidz, band acwstig dymunol, swynol oedd ar yr agenda, ond mae’r sw ˆ n yn raddol wedi esblygu a chyflymu i boppync melodaidd, sydd i’w weld yn boblogaidd yn yr SRG y dyddiau hyn.Mae’r rhan fwyaf o fandiau gitâr yn amharod i drafod

gwleidyddiaeth a thensiynnau cymdeithasol cyfoes, sydd yn bechod, gan bod y gerddoriaeth orau, fel y dywedodd rhywun doethach na fi, yn atgoffa rhywun o amser a lle, ac yn dal naws y cyfnod. Dyna sy’n gwahaniaethu y ‘Toidz a’r dyrfa - mae ganddynt rywbeth i’w ddweud - sôn am densiwn cymdeithasol, ail dai (‘Ty yn Tudraeth’), apathi gwleidyddol (‘Ffeindia dy Lais’), sôs coch (‘Sos Coch’) - y pynciau llosg sydd ar wefusau pawb. Serch hynny, mae’r ochr dynerach i’w weld mewn caneuon fel ‘barod i Golli’ ac ‘Angel’, ac rydych chi’n cael y

26 Y SELAR

LLADRON - 3 LLADRON-3 Dyma’r drydedd record i ddod o ddwylo medrus Y Lladron. Yn ôl y sôn dim ond tri copi sydd yn cael eu rhyddhau, felly’n annog bobl i losgi copiau ar eu cyfrifiaduron er mwyn lledaenu gospel pennod 3 Y Lladron. 22 o draciau amrywiol a geir ar y CD ac yn sicr mae yma berlau. O’r trac cyntaf un lle mae Saizmundo yn estyn croeso dros gerddoriaeth yr ATeam hyd at yr olaf, ‘Cofi bach

vs Rocky, mae Y Lladron 3 yn sicr o godi gwên ar wep y gwrandawyr mwyaf diflas. uchafbwyntiau yn cynnwys ‘Pep Le Pew vs Thriller’ a ‘beyonce vs Anhrefn’ sy’n cyplysu enwau mwya’r byd pop gyda chlasuron Cymraeg ac yn dangos potensial Y Lladron wrth iddynt “gyfansoddi” neu yn hytrach… fenthyg…wel ym, dwyn! John Rhambo

teimlad eto bod y geiriau yn cyfleu teimladau go iawn o golled a chariad di-amod, nid rhyw jiberish sydd mor hawdd i’w chwydu allan ar ôl meddwl am gwpwl o gordiau a chytgan. Ac ar ‘El Pueblo vs heddlu’r byd’, mae nhw’n swnio’n fwy fel Ashokan nac Ashokan eu hunain. hiwmor, gwleidyddiaeth, pync- pop melodaidd - i gyd yn Gymraeg. Mae Mattoidz wedi profi, ei fod yn gallu cael ei wneud. Shon Williams

ALUN TAN LAN Y DISTAWRWYDD

GILESPI - METHU CHWARE GITÂR Ro’n i’n edrych ‘mlaen at glywed yr albym yma gan fy mod wedi clywed pethau da am y band a’u chwarae byw. Ar y cyfan mae hi’n ocê, dwi ddim am ganmol gormod achos mae ‘na ormod o wendidau yn fy marn i, a dwi’n credu fod ganddyn’ nhw botensial i wneud yn well. Mae’r offerynnau gwahanol yn tueddu i gystadlu ormod, does na’m digon o chwarae fel band ac mae hynny’n tueddu i ddrysu’r glust. Er hyn, mae ganddyn’ nhw dalent i gyfansoddi alawon gafaelgar a chywrain. Mae’r gân ‘Grwndi’ yn hyfryd ac yn dangos pa

Kinks wedi ei gymysgu gydag elfennau o Primal Scream a thema Grange hill, ac mi gewch chi ryw fath o syniad. Gyda Sibrydion ar fîn rhyddhau eu halbym gyntaf, mae’n braf gweld fod yna gwpwl o fandiau gitâr yng Nghymru yn cynnig ychydig o gystadleuaeth i Texas Radio band a Kentucky AFC. Owain Llyr

mor dda mae nhw’n gallu bod, ond mae’r caneuon yn gyffredinol yn swnio ‘run fath, hefo gormod o bang, crash, walop a drym rôl’s opera roc ysgol. Mae ‘na ddeunydd da yma ond mae angen symleiddio a mwy o amrywiaeth rhwng y caneuon. Mae hi’n swnio fel gwaith ar ei hanner ar hyn o bryd. Gwilym Morus

Wrth i Aderyn Papur wisgo’n denau ar ôl ei chwarae gymaint, roeddwn yn barod i glywed Y Distawrwydd hir disgwyliedig, er mai un flwyddyn yn unig sydd ers rhyddhau yr albwm gyntaf. Fel ei rhagflaenydd mae Y Distawrwydd yn syml, melodig ac effeithiol gyda sain glir a phrydferth, ond mae yna fwy o amrywiaeth ar hon gyda datblygiad amlwg - yn enwedig ar eiriau Alun sy’n llawer mwy barddonol ar ei ganeuon newydd. Clywn leisiau swynol Gwyneth Glyn, heather Jones a Gruff ifan ar ambell i drac sy’n rhoi dyfnder i

ffurf hamddenol Alun. Mae yma berlau hefyd, yn enwedig gyda lleisiau Alun a Gwyneth yn gweddu’n hyfryd ar felodi byw ar ben fy hun, a symlrwydd piano hyfryd wedi’i ymrwymo gyda llais swynol Alun yn unig ar Y Distawrwydd #2. Mae’r albwm yn ysgogi i chi fod yn feddylgar a meddwl am atgofion melys o ddyddiau hir yr haf wrth i gariad llifo, rwy’n dyheu i glywed mwy. Lynsey Anne


DAN Y COWNTER - AMRYWIOL synnau swynol Alun Tan Lan. Er mwyn hybu cerddoraieth Gymraeg i bobl sydd a dim gwybodaeth o’r SRG mae’r CD yma’n bwrw’i darged ac yn llwyddo i rhoi blas ar gerddoriaeth Gymraeg o bob math. OMJ

BOOTNIC - BAI AR GAM

Dyma ail ep bootnic yn dilyn yr ep Cau dy Geg. Rwan mae dylanwadau’r criw o Sir Fôn yn eitha’ amlwg - busted, gyda rhawiad o Green Day wedi ei daflu i mewn. Dogn helaeth o’r hyn sy’n anghywir yn y byd cyfoes a geir, yn adlewyrchu’r bwyd jync, post

jync ac adloniant jync sy’n cael ei stwffio i’n wynebau aniolchgar, di-glem yn ddyddiol. Os ydi eich brawd neu chwaer fach yn methu tynnu eu llygaid oddi ar McFly ar CDuK yna bydd hwn yn anrheg penblwyddperffaith iddynt. Mae wedi ei chwarae a’i drosglwyddo’n hynod broffesiynol a slic, caneuon fel un bywyd, Cenfigennus a blondan Mewn bicini yn adlewyrchu gwir dalent.. yn y maes. Mae’n bop-roc Americanaidd, modern arbennig o dda, wedi ei wneud yn wych. Ond, mae’n anodd iawn i mi ei ddioddef. Hefin Jones

MIM TWM LLAI - STRAEON Y CYMDOGION O’r diwedd dyma’r albym hir ddisgwyliedig gan y bonheddwr o Lan Ffestiniog. heb drio cynhyrfu gormod, bosib iawn na fydd O’r Sbensh yn cael ei chwarae’n aml iawn ganddoch o hyn ymlaen. Mae Straeon y Cymdogion yn wirioneddol arbennig, cawn 12 trac acwstig gogoneddus o’r dwys i’r digri, o’r hwyliog fownsiog drac deitl i ddiamwntiau oesol fel Cwmorthin a’i angerdd. Dylid dweud am yr elfennau mwy anarferol sy’n frith ar yr albwm, mae Y Pen-blwydd yn gân hynod wych, sydd fel Gwe Pry Cop Tom yn cydnabod ac yn ehangu ar ddylanwad Tom Waits-aidd. Mae O

Le Ga’i Eda? yn gân arall sy’n neidio’n hapus i steil nodweddiadol od a chofiadwy, hefo geiriau hollol wych. Anodd ydi peidio ystyried y byd yn well lle wrth wrando ar diwns llon Sunshine Dan, Da-da Sur a’r bendigedig wbanCrw. A dyma sy’n gelfydd am Straeon y Cymdogion. Hefin Jones

Dyma’r albwm ‘Dychwelyd’ gan brif leisydd y band Gabrielle 25, y dyn efo bosib yr enw gorau yng Nghymru, Dan Amor. Mae’n dechrau efo’r gân fer ‘instrumental’ hyfryd ‘Can gegin’. Mae’r albwm gan fwyaf yn llawn o ganaeon acwstic ‘chilled out’ fel hon, ag ar ôl ychydig o draciau, rydych yn meddwl y gallwch ei ffitio yn gyfforddus i mewn i’r ‘genre’ acwstic neu gwerin. Ond mae gan yr albwm yma ffordd dda iawn o wneud i chwi feddwl eich bod yn ei nabod cyn newid eich meddwl yn hollol. Mae ‘Cofiadau’ yn gân ddawns, electronig go ryfedd ar y cyfan yn dod o nunlle. Ac mae’r trac olaf ‘Erioed

wedi gweld glaw fel hyn’ hefyd yn hollol wahanol i ddim byd arall gyda bas ffynci sy’n swnio yn hollol allan o le ond dal yn gweithio yn berffaith. Mae hon yn albwm dda iawn gyda’r gallu i blesio bron i bawb. MT

SIBRYDION - JIG-CAL Wedi’w enwi ar ôl cyfrifiadur gyrfaoedd a ddwedodd y dylai Osian Gwynedd fod yn yrrwr bys, Jig-Cal yw albym gyntaf ei fand newydd Sibrydion. O’r dechrau mae bas tew, trwchus Dafad Ddu yn agor y drws i gist o drysorau gwefreiddiol sy’n hoelio’r sylw ac yn treiddio i’ch pen cyn aros am ddyddiau. Mae bob un trac ar yr albym wedi’w naddu’n gelfydd ac mae’r cyferbyniad rhwng y perlau roc (VVV ac Arthur) a’r baledi swynol (Mynd Drwy’r To a Disgyn Amdanat Ti ) yn bleser i’r glust. Does dim amheuaeth bod hon yn anghenfil o albym ac mae caneuon fel blithdrafflith gyda’i solo ‘cazoo’ mor syml ond mor amhosib ei anghofio. Er bod llwythi o CD’s eraill yn cael ei

rhyddhau yn yr Eisteddfod gwnewch yn siwr bod hon ar frig eich rhestr. Diolchwch i Dduw bod Osian wedi troi ei gefn ar y bysys achos mae’r SRG wedi bod yn gweiddi am fand all gymharu gyda’r big Leaves o rhan poblogrwydd a’r gallu i ‘sgrifennu caneuon, yn anffodus does neb wedi dod yn agos ... tan nawr.

SARAH LOUISE - TIR NA-N’OG Dyma gryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc Sarah Louise, Tir Na-Nog, wedi’i gynhyrchu gan Emyr Rhys. Yn hanu o Gaernarfon, mae cerddoriaeth Sarah yn hollol wahanol i Cofi bach! Artist sy’n plethu arddulliau jazz, gwlad a roc yw hi, sy’n fy atgoffa o Siân James a Linda healy, ond synnau a geiriau gydag ymdeimlad iau. Mae adleisiau Meinir Gwilym yma, yn enwedig ar y seithfed trac, Tir Na-Nog, ond mae albym Sarah wedi’i gynhyrchu yn fwy caboledig.Er ei bod hi’n dod o dan y don newydd o gantorion gyfansoddwyr Cymraeg, mae’n rhaid cyfaddef fy mod i’n credu fod Tir Na-Nog yn cystadlu yn

erbyn y catalog hyn yn hytrach na artistiaid fel Alun Tan Lan a Gwyneth Glyn.Mae yma 12 trac hynod brydferth a allwch wrando arnynt ar b’nawn Sul yn yr haul. Fy ffefryn yw Promenade, sydd a naws farddonol iddi. Mae’r trac wedi’i hysgrifennu am brynhawn o haf yn eistedd ar wal yr Anglesey Arms yn Gaernarfon yn ail-fyw atgofion - hmm, dwi di bod yno lawer tro! Lynsey Anne

Y SELAR 27

aDolygiaDaU cD’s

Mae’r CD amlgyfrannog yma wedi ei greu er mwyn hybu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ac arni mae 10 cân gan artistiaid Cymraeg blaenllaw. CD sy’n cael ei ddosbarthu am ddim ar y cyd rhwng y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a bwrdd yr iaith yw Dan y Cownter ac mae’r caneuon wedi eu dewis gan neb llai na huw Stephens. Rhwng y trac agoriadol (brigyn - Sonar) a’r olaf (Jakokoyak - Murmur) cawn ein tywys yn ddi-ffwdan o amgylch yr SRG. Mae’r gymysgedd o artistiad yn un ddiddorol gyda hip-hop Pep Le Pew a Cofi bach a Tew Shady, yn cyferbynnu gyda roc trwm Ashokan (Dim Coes, Dim brêc) a

DAN AMOR - DYCHWELYD


aDolygiaDaU cD’s

MEIC STEvENS - MEIC A’R GERDDORFA Meic Stevens a’r gerddorfa yw casgliad o ganeuon, fel y mae’r teitl yn awgrymu, o Meic Stevens yn chwarae’ n fyw gyda Cerddorfa Genedlaethol Gymraeg y bbC. Mae gweithio gyda cherddorfa yn rhywbeth sy’n dra gwahanol i’r hyn sy’n arferol i Meic Stevens. Does dim dwywaith ei bod yn albym sy’n gweithio. Mae Meic Stevens ei hun yn anhygoel fel arfer ac mae’r Gerddorfa yn adio naws mwy arbennig ac ysbrydol i’w ganeuon draddodiadol werinol. Mae Meic Stevens yn dangos

emosiwn anhygoel yn ei lais ar glasuron fel ‘Dim ond cysgodion’ a “Er cof am blant y cwm” . Mae hon yn albym i’r bobl brin hynny sy’n gwybod dim am Meic Stevens a’r hen ffans fel ei gilydd. Fe all pobl sydd wedi ei ddilyn dros yr holl flynyddoedd glywed y clasuron yn swnio’n wahanol a newydd a fe all cenhedlaeth newydd ddarganfod Meic Stevens heb orfod dwyn hen records ei rhieni! MT

LLWYBR LLAETHOG MEGA TIDY

ZABRINSKY - ILL GOTTEN GAME O’r diwedd! Mae’n teimlo fel degawdau ers i Koala Ko-ordination chwalu pennau â’i gyfuniad o felodïau annisgwyl. Ma’ fe werth yr hir aros. A ma’ fe werth ei glywed yn uchel, achos ma’‘na lot yn digwydd ar yr albym yma, a mae’r cynhyrchu yn wych.Mae rhai yn cymharu Zabrinski yn anffafriol gyda’r Anifeiliad Gwych-flewog, ond ar wahân i Mwng efallai, dwi ddim yn cofio cael yr un pleser allan o unryw gasgliad SFA a gwnes i wrth wrando ar ‘ill Gotten Game.’O ‘ill Gotten Game’ ymlaen, rych chi’n barod i ddisgwyl yr annisgwyl, gydag elfen chwareus/ gwallgof yn treiddio pob harmoni. Parha’r ffwlbri trwy ‘Feeding on our

Filth’, a’r fersiwn gwych o ‘Executive Decision.’ Er fod na feddylfryd debyg i’r SFA mae’r albym hefyd yn atseinio’r beach boys, a Primal Scream yn y cyfnod ‘Evil heat,’‘Exterminator,’ a ‘Vanishing Point.’ Sydd yn dda. Rheswm arall i feddwl bod hon yn flwyddyn ‘vintage’ i gerddoriaeth Cymraeg. Owain Llyr

Mega-Tidy yw nawfed albym y ddeuawd chwyldroadol o Flaenau Ffestiniog, Kevs Ford a John Griffiths. Fel y byddech yn disgwyl mae’r curiadau yn eich tynnu i mewn i fyd rhyfeddol Llwybr Llaethog a’u ffrindiau. Ar yr albym mae’r dec-feistri yn cyd-weithio gyda llwythi o westeion gan gynnwys ffalsetto Geraint Jarman ar Satta ym Mhontcanna, Delyth Eirwyn, MC Sleifar, Ed holden a’r SFA. un o’r amryw uchafbwyntiau yw’r ddeuawd hip-hop boblogaidd Cofi bach a Tew Shady gyda Dwb. Cipolwg ysgafn ar arferion cymdeithasol

ysmygwyr cannabis. Gyda dros 40 mlynedd o gynhyrchu cerddoriaeth rhyngthyn nhw mae Llwybr Llaethog wedi bod yn hoff o arbrofi drwy gydol eu gyrfa. Does dim byd gor-arbrofol yma, fel y mae Llwybr Llaethog wedi llithro i’w wneud ar adegau yn y gorffennol, ond mae yna gymaint o amrywiaeth rhwng y caneuon rydych yn siwr o ffeindio ffefrynnau. Geraint Jones

MC SAIZMUNDO - MALWOD A MORGRUG Does dim cyfrinach bod Saizmundo wedi dweud ei fod am wella ei rapio a’i ddawn adrodd stori, ei fod e’ a’r cynhyrchydd Dyl Mei am wella’n aruthrol ar yr albym addawol gyntaf ‘blaen Troedar.’ bu’r ddau yn brysur, mae’n amlwg. Daw’r dicter i’r amlwg o’r trac agoriadol ‘Ers Dyddiau Datblygu.’ Ond hefyd mae’r hiwmor oedd yna mewn mannau gynt wedi ei hogi bellach. Yn gyffredinol, mae’n allbwn fwy gorffenedig a chyflawn, o ddoniau’r MC i gyfeiliant dyfeisgar Dyl Mei. un o’r esiamplau amlycaf o hyn yw ‘Pontypridd i bagdhad,’ trac aeddfed a thywyll, sy’n cyfuno hanes cyfoes milwr ifanc o bontypridd gyda fersiwn bob Delyn o’r gân draddodiadol, a darlleniad o gerdd hedd Wyn. Trac pwerus ac effeithiol. Ynghyd ag o leia’ 7 cân gref arall, does ddim lot o wastraff yma, a 28 Y SELAR

gyda cast sy’n cynnwys Ed holden, Swci boscawen, MC Mabon ac MC Monti, ‘dyn nhw ddim yn brin o gefnogaeth talentog ‘chwaith.Albym bwysig sy’n haeddu clod, ac albym sy’n argoeli’n dda i ddatblygiad cerddoriaeth gegog Gymraeg.

Owain Llyˆr

SWCI BOSCAWEN - SWCI Sengl gyntaf Mared Lenny ers gadael Doli. Am ddwy flynedd bellach, ar wahân i gyfrannu at ambell prosiect hip hop, mae Mared ‘di bod yn gweithio a datblygu yn ei ffordd ei hun. Y peth cyntaf sy’n eich taro chi am sengl gyntaf Swci boscawen yw mai nid hip hop mohoni. Yn hytrach pop wedi’i seilio o gwmpas gitâr, bas a drymiau, ddim yn rhy bell o gynnyrch Doli. Mae llais Mared yn un rheswm am hyn wrth gwrs, yn dal i swnio’n ddiniwed ac yn wybodus ‘run pryd.Ar ‘Swci,’ y trac gyntaf, mae’n ymddangos ei bod hi’n adrodd hanes dawnsiwr polyn

sydd yn nabod dyn o’r enw Fflash, sy’n bwyta ceir. Rhywle rhwng The Dandy Warhols a The bangles, ond gydag elfennau rhyfedd o hiwmor Caerfyrddin, pop difyr a bywiog.Ar ‘Popeth,’ yr ail drac, mae’n sw ˆn trymach, gyda’r drwm a’r bas yn dod yn amlwg. Ond mae’r harmonïau chwe-degaidd a’r riffs synth dwl yn ddigon i’n sicrhau ni nag yw Mared am gymryd y peth gormod o ddifrif. Gyda’r wyth-degau nôl mewn ffasiwn, gall hwn ond bod yn beth da.

Owain Llyˆr


KENTUCKY AFC - IASOBE?

MAHARISHI - PLAN B

Mae yna garfan o fewn y byd cerddoriaeth Gymraeg o’r farn fod dyddiau teyrnasiad y Kentucky’s fel tywysogion yr SRG yn prysur ddirwyn i ben, mae nhw’n anghywir. iasobe ? yw’r E.P. newydd gan y band a recordiwyd yn ystafelloedd ymarfer y Music box yng Nghaerdydd. Mae’r caneuon mor gyflym anniben ag erioed. O’r gân gyntaf Y Salwch mae’r EP fel petai’r band yn sefyll ar flaenau eu traed, sgwario a dangos dau fys i bawb a feiddiodd eu hamau. unwaith eto mae’r gitar wedi ei droi i un-ar-ddeeeeg, yr harmonis pynci pop pwerus yn ôl ac mae’r egni o’r recordio byw yn trosglwyddo’n effeithiol i’r CD. Mae’r caneuon, fel yr arfer,

yn fyr ac yn fachog a gyda’r EP yn codi i greshendo gyda Gizmo, mae yna ychwanegiadau amlwg i set fyw rymus y Kentucky AFC. OMJ

DANIEL LLOYD A MR PINC - GOLEUADAU LLUNDAIN Dwy flynedd ar ôl i Daniel Lloyd recordio sesiwn i C2 mae’n rhyddhau Goleuadau Llundain gyda Mr Pinc. Wrth weld gwaith celf yr albwm roedd hi’n sioc i glywed sain hollol wahanol i’r disgwyl. Gyda llun o fap trên tanddaearol gyda thrac i bob gorsaf, roeddwn i’n disgwyl rhywbeth modern. Ond, albwm a theimlad dyddiedig sy’n ysgogi i chi dapio’ch

traed yw hon ac yna’n rhoi chwip dîn wrth i’r arddull newid ac wrth i ddatblygiadau dramatig annisgwyl gyrraedd eich clust. Efallai bod yma or-gynhyrchu, ond mae artistiaid gwerth chweil talentog i’w glywed jyst gormod o sain gitâr yr 80au sy’n sbwlio traciau i mi, fel y clywn ar Goleuadau Llundain ac A’i Esboniad. Mae llais Daniel Lloyd yn gweddu’r

arddull roc meddal, ond o’r foment mae hanes Eldon Terrace (trac 5) yn cyrraedd mae ambell i gan yn newid arddull ac rwy’n dechrau teimlo’n falch wrth glywed traciau Mim Twm Llai-esq. Credaf mai angen ffeindio’i ‘niche’ sydd ei angen.

Gareth Glochben

DEG CÂN ORAU HAF 2005 DYMA’R CANEuON SYDD WEDi bOD YN CAEL Eu bLASTO AR STEREO Y SELAR ERS iDDYNT GYRRAEDD Y SWYDDFA …

10

1 > Sibrydion – Arthur 2 > Mim Twm Llai – WbanCrw 3 > MC Saizmundo – G.b.h. Mr urdd 4 > Mim Twm Llai – Sunshine Dan 5 > Sibrydion – VVV 6 > Swci boscawen – Swci 7 > Kentucky AFC – Y Salwch 8 > Maharishi – Codadyffon 9 > Alun Tan Lan – heulwen haf 10 > Mattoidz – Dwi ishe prynu tyˆ yn Tydrath

Y SELAR 29

aDolygiaDaU cD’s

Gyda chymaint o albyms yn cael eu rhyddhau yr haf yma mae’r albym ddwyieithog, Plan b gan Maharishi, yn un sy’n mynd i fod yn gystadleuwr brwd. Mae’n rhoi gwên ar fy wyneb sydd wastad yn arwydd da! Ar ôl 2 albwm ac EP

mae Maharishi yn ôl gyda thraciau gwell ac agwedd. Mae llais Gwilym yn atseinio ffurf Euros Childs - sydd byth yn beth drwg. Mae ei steil hamddenol o ganu yn gweddu’r ymdeimlad o haf sy’n llifo drwy’r albwm yn enwedig ar Deli Shelley a Jenny wants Love. Fy ffefryn, heb os, yw Somewhere New sy’n fy atgoffa o ganeuon indie y 90au cynnar. Mae’n drac syml ac effeithiol sy’n cynnwys ‘crechendo’ naturiol yn llawn emosiwn - rhaid clywed y gan yma dro ar ôl tro. Gydag amrywiaeth o ganeuon modern a melodig sy’n dipyn fwy ‘edgy’ na’r hyn rydyn ni wedi eu clywed eisoes, mae yna ddatblygiad amlwg ac mae’r band wedi dod o hyd i sain sy’n siwtio nhw, ac maent yn ddigon hyderus i arbrofi.


‘Ni allaf ddeall pam mai ond y Sais a’r ianc a fedd yr hawl i gerddoriaeth rymus gynhyrfus. A oes raid i’r Cymry fodloni yn unig ar ganeuon swynol noson lawenaidd? Rhaid cael adain fwy cynhyrfus, fwy swynllyd i’r canu Cymraeg os yw am fyw am ddegawd ˆn’, Nadolig ’73 arall.” hefin Elis, ‘Sw Ffrwydrodd Edward h Dafis ar lwyfan y byd Cymraeg ac er bod y canu a’r chwarae ychydig yn amrwd, roedd y tân wedi ei gynnau. Mae’u gyrfa chwedlonnol wedi ei rhannu i ddwy ran; y rhan gyntaf yn ymestyn o ‘Tafodau Tân’Awst 1973 i’r cyngerdd ffarwel ynghanol storm ryfeddol fis Medi 1976, y ddwy noson ym Mhafiliwn Corwen. A’r ail ran pan atgyfododd y ffenics rhwng 1978 a 1980. Er i Gymru gynhyrchu nifer o grwpiau roc gwych yn ystod y 70au daliwn mai Edward h Dafis a gynhyrchodd y corff gorau o ganeuon roc – caneuon sydd wedi sefyll prawf amser ac a ddangosodd y ffordd i eraill ddilyn. Ond yn fwy na dim, dangosodd Edward h Dafis ei bod yn bosib i ieuenctid Cymru fwynhau y profiad roc yn eu hiaith eu hunain.

Dafydd iwan

Trwy gydol yr wythdegau roedd ‘Y Cyrff’yn creu tonnau a oedd yn ymestyn o Lanrwst i bob rhan o Gymru a thu hwnt. Yn ran allweddol o’r don newydd o gerddoriaeth a ymddangosodd yng Ngymru fel atodiad i’r saithdegau. Fel Llanrwst, roedd ‘Y Cyrff’ yn rhan o’r sin ac eto roeddent ar wahan ac yn mynnu torri eu cwys eu hunain. Llwyddodd ‘Y Cyrff’ i gadw eu hunaniaeth ac i fod yn driw i’w hunain tra ar yr un pryd yn cyfleu holl hwyl ac antur chwarae mewn band. Mynd gyda barry C i nol gitar o Connah’s Quay, benthyg fan i nol amps o Fangor, colli ffordd wrth chwilio am gig.

Teithio drwy’r tywyllwch, y cwrw, y caru a mwg y nos. Y blinder a’r wefr, y chwys a’r chwerthin – lot o chwerthin. Rhannu potel, rhannu tshirts a rhannu trips. Rhannu llwyfan gyda degau o fandiau mawr a man. Y scizoffrenia o fynd o gig ar iard fferm i chwarae mewn Gwyl Roc, llwyfan ysgol a thafarn yn y dre. Mae ‘Y Cyrff’yn rhan mor allweddol o’r cyfnod yma ond mae eu cerddoriaeth wedi ymestyn ymhellach na hynny i fod yn rhan o’n hetifeddiaeth. Melodi, riff a reiat o swn – geiriau cofiadwy yn rhan o atgofion ein gorffennol. Toni Schaivone 2005


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.