Y Selar - Chwefror 2005

Page 1

AM DDIM! RHIFYN 2 CHWEFROR 2005

GRUFF

RHYS

TU Mewn

yr AnIfAIL eI hUn!

MC MAbon, CofI bACh A Tew ShADy, beChgyn bAnDIT A LLAwer Mwy !


LLUN CLAWR: GRUFF RHYS ^

FFOTOGRAFYDD: OWAIN LLYR

6

CofI  bACh SIArAD MAwr CofI bACh

... yn y SeLAr CofI bACh beChgyn bAnDIT  MC MAbon    ADoLygIADAU CD gIg CySTADLeUAeTh

goLygyDD Owain Morgan-Jones

IS-oLygyDD

4

roC A PhoP 2005 eDryCh yMLAen AT y PArTI !

8

grUff rhyS CyfweLIAD ArALL !

goLygyDDoL “I ddechrau, blwyddyn newydd dda i bawb, a chroeso i Y Selar cyntaf 2005. Gyda phawb yn sownd i’r sgrîn yn gwylio’r Wawffactor yna, beth am i chi dynnu’ch llygaid oddi ar John Ffilicanu a’i fêts a gwneud rhywbeth mwy buddiol fel...mynd mas i gig. Yn dilyn y trychineb mas yn Asia mi fydd gigs di-ri yn cael eu trefnu i godi arian i apêl y Tsunami. Cefnogwch rhain da chi, wrth dalu i fynd i weld bandiau, cewch gefnogi’r apêl a chael noson dda.

Mae llwythi o sêr yr SRG wedi ymgasglu i recordio fersiwn newydd o Dewch at eich Gilydd er mwyn apêl S4C, (mwy am hyn yn y rhifyn nesa’.) Prynwch e. Ers y rhifyn diwethaf mae tîm Y Selar wedi bod yn cymysgu gyda popstars, rocars, rappars, a slappars (…wel, just fi oedd yn gyfrifol am y dwetha' yna, ag on i di meddwi ok?) er mwyn dod ar straeon mwyaf difyr i chi. Yn y rhifyn yma fe gewch gyfweliad gyda Gruff Rhys am ei albym Yr Atal Genhedlaeth,

(wel, mae pawb arall wedi cyfweld ag e!!), cyfweliad gyda sêr newydd byd rap Cymraeg, Cofi Bach a Tew Shady, ac fe fyddwn ni yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr esgus mwyaf amlwg am biss-up ym myd cerddoriaeth Gymraeg, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru. Nawr te, stopiwch wastraffu’ch amser yn darllen beth sydd gyda fi i’w ddweud a mwynhewch yn y modd mwyaf uffernol!"

hwyL y goLygyDD

Llinos Wyn Thomas

DyLUnyDD Elgan Clwyd Griffiths

CyfrAnwyr Owain Llyr, Lynsey Anne, Hefin Jones, Owain Schiavone, Trystan Pritchard, Geraint Criddle, Alun Chivers, Deian ap Rhisiart, Gwyneth Glyn, Gareth Glochben

OS AM ANFON DEMO, LLYTHYR, NEU UNRHYW BETH ARALL, Y CYFEIRIAD YW : Y Selar, Llawr Un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG NEU E-BOSTIWCH GOLYGYDD@YSELAR.COM NEU EWCH I’N GWEFAN WWW.YSELAR.COM

Cynhyrchwyd gan gwmni rASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Y SELAR 3


bLwyDDyn o Swn!

^

gwobrAU

roC  A PhoP rADIo CyMrU 2005 ros y blynyddoedd diwethaf mae Radio Cymru wedi bod yn cymeradwyo grwpiau ac artistiaid trwy gyflwyno tlysau Roc a Phop i’r bandiau a’r unigolion hynny wnaeth argraff arbennig dros y flwyddyn a fu, a hynny mewn noson wobrwyo fawreddog. A dyw eleni ddim yn eithriad. Bydd Gwobrau RAP yn cyflwyno tair gwobr ar ddeg i fandiau ac artistiaid yn Neuadd Pritchard Jones ar Chwefror 19eg. “Ma hi’n neuadd glasurol, fawreddog sy’n edrych yn wych wedi’i goleuo a’i llenwi efo rocstârs!” meddai Dwynwen Morgan, cynhyrchydd Gwobrau RAP. Cafodd y noson wobrywo gyntaf ei chynnal ym 1999 yn y Celt yng Nghaernarfon, ac ers hynny mae’r digwyddiad wedi tyfu o ran maint a phwysigrwydd. Fuodd hi yn Stiwdios Barcud, cyn symud i Neuadd Pritchard Jones, Bangor lle fyddan nhw eto ar Chwefror 19eg. Medd Dwynwen Morgan, “Bwriad y digwyddiad ydi cydnabod y grwpiau, cynhyrchwyr a threfnwyr gigs sy’n cynnal sîn mor ffantastic. Mae’n gyfle i Radio Cymru ddangos ein gwerthfawrogiad am y gwaith caled sy’n mynd ymlaen drwy’r flwyddyn, ac i ddiolch i’r rhai sy’n creu’r gerddoriaeth de ni’n chwarae.” Mae’r noson wedi tyfu i fod yn un o uchafbwyntiau calendr cerddorol y sîn yng Nghymru. “I

D

KenTUCKy AfC: reCorD AM y MwyAf o wobrAU. ( 5 yn 2004 )  CYFANSODDWR

MEINIR GWILYM

GRWP DDAETH I AMLYGRWYDD

KENTUCKY AFC

Ennilwyr GwOBrAU rAP

2004

DIGWYDDIAD BYW

PESDA ROC

SESIWN C2

KENTUCKY AFC

CYNHYRCHYDD

DYL MEI

ARTIST GWRYWAIDD

MC MABON

ARTIST BENYWAIDD

MEINIR GWILYM

BAND BYW

KENTUCKY AFC

GRWP / ARTIST POP

PHEENA

EP / SENGL ORAU

KENTUCKY AFC - OUTLAW / 11

ALBYM ORAU

JAKOKOYAK - AM CYFAN DY PETHAU PRYDFERTH

BAND Y FLWYDDYN

KENTUCKY AFC

CYFRANIAD ARBENNIG

DAVID R EDWARDS

4 Y SELAR

fi, mae’n bwysig cynnal noson wobrwyo o’i math oherwydd fod unrhywbeth sy’n codi proffeil y sîn yn beth iach iawn,” dywedodd Dwynwen Morgan. “Mae e hefyd yn ddigwyddiad hollol unigryw - yn gyfle i weld bandiau hollol wahanol yn chwarae efo’i gilydd ac i ddathlu’r bwrlwm sy’ di datblygu’n ddiweddar.” Mae arnai ofn mai y bandiau yn bennaf, sy’n cael gwahoddiad i’r noson fawreddog yma, heblaw am ambell wrandawr lwcus fydd yn ennill tocynnau prin ar raglenni C2. Mae’r darlun yn un anghygoel pan ‘rydych yn cyrraedd; dychmygwch noson y Brits ychydig yn llai o ran maint, gyda byrddau cylch gwyn yn llawn poteli gwin, a’r byrddau wedi’u gwasgaru o gwmpas neuadd fawr sydd wedi’i goleuo gan rig enfawr. Mae’r llwyfan yn un swmpus gyda hen ddigon o le i Anweledig, Drymbago a Samba Bangor chwarae gyda’i gilydd! Yn ystod y seremoni ei hun fe fydd amryw o gyflwynwyr yn cyflwyno tlysau, sy’n cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer yr enillwyr gan yr artist dur Ann Catrin Evans. Llynedd, roedd Texas Radio Band a Kentucky


rHESTr FEr

GwOBrAU rAP

2005

EP/SENGL

ALUn TAn LAn: 2 enwebIAD,

CyfAnSoDDwr Ag ArTIST gwrywAIDD.

AFC ymhlith y perfformwyr, ac unwaith eto eleni bydd pedwar grwp sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth a’r safon yn y sîn yn cael eu dewis i berfformio. Mae maes-e wedi cynnal trafodaeth hir ers misoedd am bwy ddylai ennill y gwobrau, ond panel o tua 40 sy’n gwneud y penderfyniadau hollbwysig. Maent yn cynrychioli pob agwedd ar y diwydiant cerddorol yng Nghymru - labeli, cyhoeddiadau sy’n trafod cerddoriaeth, cymdeithasau sy’n trefnu gigs ac ati. Hefyd mae yna ddau gategori sy’n cael eu henwebu gan wrandawyr Radio Cymru, sef Band y Flwyddyn a Digwyddiad Byw y

Flwyddyn. Un o’r uchafbwyntiau bob blwyddyn ydi gwobrwyo unigolyn am eu cyfraniad i’r sîn yn y gorffennol ma Dave Datblygu, Geraint Jarman a Meic Stevens wedi’i hennill hi, ac ma hi wastad yn wobr sy’n ennyn trafodaeth! Roedd Gwobrau RAP 2004 yn llwyddiant ysgubol i Kentucky AFC. Ychwanegodd Dwynwen Morgan, “Enillodd Kentucky fwy o wobrau llynedd na’r un band erioed o’r blaen! Dwi’n amheus y gwelwn ni’r un fath o sefyllfa ‘leni - ond am resymau da iawn. Gyda gymaint o CDs gwirioneddol safonol wedi’u rhyddhau a mwy o gigs nac ers blynyddoedd, dwi’n rhagweld fydd hi’n lot agosach ‘leni yn y rhan fwya o gategoriau. Ma gan y panelwyr a’r gwrandawyr waith anodd iawn i benderfynu - fyse unrhywbeth yn gallu digwydd.” Bydd darllediad llawn o’r noson ar BBC Radio Cymru ar Nos Lun, 21 Chwefror am 8 o’r gloch, a chyfle i weld yr uchafbwyntiau ar Bandit ar y 24 o Chwefror am 10yh. Lynsey Anne

MATTOIDZ - Y DYN TELESALES ANWELEDIG - BYW WINEBAGO - HYDER BREGUS ALBYM TEXAS RADIO BAND - BACCTA CRACKIN' ALUN TAN LAN - ADERYN PAPUR LO-CUT A SLEIFAR - MIWSIC I'CH TRAED A MIWSIC I'CH MEDDWL GRWP A DDAETH I AMLYGRWYDD FRIZBEE, DRUMBAGO, WINABEGO CYFANSODDWR MC MABON, ALUN TAN LAN, MATTHEW “MINI” WILLIAMS BAND BYW

eLIn ffLUr: rheSTr fer ArTIST benywAIDD A grwP/ArTIST PoP

DRUMBAGO, PEP LE PEW, ASHOKAN CYNHYRCHYDD DYL MEI, JOE GIBB, CURIG HUWS ARTIST BENYWAIDD GWYNETH GLYN, ELIN FFLUR, COFI BACH ARTIST GWRYWAIDD ALUN TAN LAN, MC SAIZMUNDO, ED HOLDEN GRWP/ARTIST POP

TexAS rADIo bAnD: 2 rheSTr fer. ALbyM A bAnD y fLwyDDyn

ELIN FFLUR, SIBRYDION, FRIZBEE SESIWN C2 * PLEIDLAIS GWRANDAWYR RADIO CYMRU * DIGWYDDIAD BYW TYRFE TAWE, MIRI MADOG GIGS CYMDEITHAS YR IAITH YM MHONT EBWY, EISTEDDFOD CASNEWYDD * PLEIDLAIS GWRANDAWYR RADIO CYMRU *

wInbAbego: 2 rheSTr fer; grwP A DDAeTh I AMLygrwyDD, eP/SengL orAU.

BAND Y FLWYDDYN ASHOKAN, FRIZBEE, TEXAS RADIO BAND CYFRANIAD ARBENNIG I’R SIN

SIbryDIon: rheSTr fer grwP PoP y fLwyDDyn.

Y SELAR 5


CoLfon rAP Jon-Z

R W A M D A R A I S H C A B I COF YO! YO! Y MYDDYZ DYMA GOLOFN NEWYDD RAP CYMRAEG JON-Z. I DDECHRE, CYFWELIAD GYDA COFI BACH AG E-GYFWELIAD GYDA MC MABON. MWY WRTHA I TRO NESA, TA TA LWZARS! Mae hi’n fach ac yn dod o Gaernarfon, mae e’n fawr ac yn hoffi Eminem. Dim ond ers ychydig fisoedd mae nhw’n rapio, dim ond un cân mae nhw wedi’i rhyddhau a dim ond dwy gig mae nhw wedi’i chwarae. Er hyn, mae’r ddeuawd Kerry Walters a Gronw Roberts, neu Cofi Bach a Tew Shady i roi eu henwau iawn, wedi derbyn llwythi o sylw ers i’r gân ‘Triwch Hi Ar’ gael ei rhyddhau. Cofi Bach a Tew Shady, croeso i’r SRG, chi ‘di cael llwythi o sylw yn y wasg a’r cyfryngau Cymraeg ers i chi rhyddhau ‘Triwch Hi Ar’, ydych chi wedi cael eich siomi ar yr ochr orau? CB: “Yn bersonol, do’n i ddim yn gwbod y gwahaniaeth eniwe, to’n i ddim yn dilyn y Sîn Roc Gymraeg, dwi ‘di gwrando ar un ne ddau o betha gynna fi, fatha Anweledig, ond do’n i byth yn gwbod gymaint o big deal odd o,“ TS: “Ddoth on sydyn iawn, dwi’n meddwl efo Cofi Bach am fod o’n wahanol i bob dim arall sy’n mynd ymlaen rwan. ‘Tmo, ma rhaid i ti neud y peth iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn o flaen y bobl iawn ... lwc llu. O’dd o’n sioc, ond sioc neis, fedra ni ddim cwyno o gwbl.” Dyw hi ddim yn deg dweud fod y ddau yn newydd i’r byd cerddorol gan fod Gronw wedi bod yn rhan o’r band Cint, oedd yn chwarae stwff tecno a dawns trwm. Tra roedd Kerry yn gitarydd mewn band roc oedd yn teithio Prydain o’r enw Ultra Violet, ond nath hwnna ddim para’n hir. CB: “Nes i adal achos doeddan nhw’m yn gadal chdi neud dim byd de, ac o’dd gynna nhw contracts fatha phoney contracts yma, ag o’n nhw menthyg pres gin ti a byth yn talu chdi nôl.” Felly troi oddi wrth y drum‘n bass a’r metal trwm naeth y ddau ac, ar ôl clywed Lo-Cut a Sleifar yn herio rapwyr newydd, aethon nhw ati yn y stiwdio yn nhy Tew i ddechre ar eu gwaith. Mae’r gân sydd wedi ennill y sylw i’r ddau, ‘Triwch Hi Ar’ yn gân reit ysgafn, ond hefyd cawn gipolwg ar y dicter sydd ym mhen Cofi Bach. Wrth drafod hanes y gân mae Cofi Bach yn sôn am ei gorffennol a dydi’r darlun ddim yn un ffafriol. Mae’n amlwg ei bod hi dal yn flin am bethau ddigwyddodd iddi a tydi hi ddim yn un all anghofio hynny’n

6 Y SELAR


Jon-Z

- gyfweliad hawdd. Mae’n cyfeirio at ei hun fel “working class scumbag o Gaernarfon”, pam? CB: “jyst barn pobl arall, on i’n gweld pobl eraill yn sbio arnai yn ysgol, yn asiwmio’n syth, am bo fi’n byw mewn council house, bod gynna fi ddim byd. Dwi’n cofio un tro pan o’n i’n ysgol, odd y lleill i gyd efo tada nhw yn ddoctros a petha, on nhw’n gofyn, oes gin ti £100 i lendio i fi a neith dad talu chdi nôl fory teip o beth, eniwe, oddan nhw’n sbio i lawr arnai bob tro.” Ti hefyd yn cael pop ar Glanaethwy yn y gân... CB: “Gas gina fi nhw, mama a tada nhw yn talu am bob dim, rheina dwi’n sôn am drwy’r gân i gyd. Mae nhw’n cael bob un job sy’ ar gael, a tydyn nhw ddim wastad yn dda.” Eu cynlluniau ar y funud yw rhyddhau cwpwl o singles cyn gwneud albym, ond i ddechrau, mae’r ddau yn recordio sesiwn i rhaglen newydd Huw Stephens gyda aelodau o deulu brenhinol hip-hop Cymraeg. Gan eu bod felly, yn ymuno â chriw o hip-hopwyr elît, lle mae’n bwysig edrych yn cwl, a dangos eich hun a brolio, ydy hyn yn golygu eu bod am ddechrau gwario’n wirion ar pimpmobile a gemwaith ? TS: “Be bling ?!! Ymmm, na, dwi’n meddwl bo fi’n dreifio’r car lleia’n y byd!” Felly, dy’n ni ddim yn debygol o weld chi ar 04 wal, y fersiwn Gymraeg o Cribs?

MC Mabon Ble wyt ti nawr, a beth wyt ti’n wisgo? MC Mabon: Rwyf ym mhrif lyfrgell Caerdydd yn gwisgo trowsus, jympyr a sgarff. Lliw fy mhants heddiw yw glas.

TS: “O ie! Fedra’i weld o wan...‘hwn di slym ni, da ni’n byw yn y gornal na fanna, hwnna di’r unig bit sych sydd ‘na!” A’ch gobeithion chi ar gyfer 2005? CB: “Grammy ?!” TS: “Jesus ! Wel nawn ni ddechra efo recordio’r albym, wel jyst rhyddhau stwff basically, cael stwff allan. Da ni ddim di trafod ambitions mawr, i fod yn realistic, ma rhaid i ti jyst gweld be sy’n digwydd … elli di ddim ‘fforsio’ dyn hun ar bobol.” Gyda chyfweliad arall gyda’r Wasg Gymraeg dan ei gwregys does dim rhaid i Cofi Bach a Tew Shady fforsio’i hunain ar neb, os ydyn nhw’n dal i ryddhau caneuon o safon, newn ni ofalu am hynny drostyn nhw. OMJ

tew shady v slim shady

Mae MC Mabon yn rhyddhau casgliad o ‘outtakes’. Wyt ti’n teimlo catharsis gwefreiddiol ar ôl rhyddhau’r caneuon cuddiedig yma? MC Mabon: Yndw, mae’n braf cael gwagiad. Ond dwi’n hapus efo’r caneuon a ma nhw’n werth eu rhyddhau yn fy marn i. Pat arall ar fy nghefn. Mae’r gân ‘Nes i ofyn am chips’ yn hen ffefryn byw. Oes na rhyw gân MC Mabon sy’n rhoi gwefr arbennig iti pan ti’n chwarae’n fyw? Hefyd, wnes ti fwyta’r grefi wedyn? MC Mabon: Os byse grefi ar fy mhen i byswn yn: (a) ei futa cyn iddo fo galedu (b) cwyno i’r awdurdodau perthnasol (c) rwbeth arall Dwyt ti heb chwarae’n fyw ers tro nawr. Pam? MC Mabon: Pam fod eira’n wyn? Mae na daith Kerrrdd Dant yn Chwefror - fydd hwne’n ddiddorol.

Enw: Swydd: Albyms: Gwerthu: Arian:

Gronw Roberts Rapar, Cynhyrchydd 0 llai na 100,000 llai na £0.1m

Marshall Bruce Mathers III Rapar, Cyhyrchydd, Actor 5 solo, 2 D12 dros 40miliwn tua $75miliwn

* CALCIwLeIDDIwyD y ffIgyrAU UChoD yn DILyn gwAITh yMChwIL TryLwyr, yn ogySTAL â honIADAU hoLLoL DDI-SAIL.

ALbyM MC MAbon - KerrDD DAnT ALLAn rwAn - LAbeL SLACyr

Ti wedi rhyddhau recordiau trwy labeli Ankst, Fflach a Boobytrap. Wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi darganfod dy gartref ysbrydol gyda Slacyr? MC Mabon: Wel, roedd y slacyriaid yn hapus i ryddhau y c.d. a finne hefyd, felly ma pawb yn hapus, heblaw y chinchillas. ‘Y Gororau’ yw’r unig drac o 2004 ar yr albym. Ydy’r trac yma yn rhagflas o gyfeiriad newydd i MC Mabon? MC Mabon: Na, ddim bo fi’n gwbod ond diolch am ofyn, ond dwi heb recordio dim byd ers Y Gororau so, ie ond na ond ie a.y.b. Beth allwn ni ddisgwyl nesaf gan MC Mabon? Oes na albym arall ar y gweill? MC Mabon: Dwi’n gobeithio rhyddhau albym o seshiwns radio a chlirio’r cwpwrdd eto fel ti’n deud. Wyt ti’n credu mewn uwd? MC Mabon: UUWD- pryd arbennig o dda dwi’n meddwl. Ma uwd yn haeddu medal am fod yn uwd. Mae o’n uffernol o rhad, maethlon a ma’n llenwi ti. Ond jyst weithie ma 'creision-yd cnau creinsion' yn well. Owain Llyr


CyfweLIAD

Mae’n dweud Mai daMwain o swn yw ei albyM newydd ac Mae Gruff rhys Mor abstract aG erioed. trystan Pritchard Gafodd y cyfle i drafod ei olwG ar fywyd cyfoes, syrthio Mewn cariad â Merch o’r enw Pwdin wy a llwyddo i waredu ei hun rhaG cân Glasurol GyMreiG a fu’n fwrn ar ei feddwl ers blynyddoedd…

DAMwAIn LLwyr !   ‘Rydym ni ar y soffa yn swyddfa foel Ankst yn Nhreganna, Caerdydd, ac o amgylch y ‘stafell mae paraphenalia hen deithiau’r Super Furry Animals, gyda dau geffyl cardbord mawr o glawr ‘Phantom Power’ mewn un cornel a chi mawr blewog ar y wal o’n blaen. Ac yn ôl ei arfer, mae Gruff yn synfyfyriol betrusgar fel petai’r cwesitynau dwi’n ei roi iddo angen ystyriaeth fanwl ... “Damwain llwyr ydy hyn. O’n i di gorffen albym efo’r band (Phantom Power). Oeddwn i ddim wedi meddwl gwneud albym fy hun, jyst recordio fo ar ddamwain. Dw’n licio mynd i lle Gorwel Owen (Stiwdio Ofn, Llanfaelog, Môn) a treulio rhyw ddiwrnod neu ddau yn rhoi syniadau lawr cyn i fi eu anghofio nhw, bob math a beth bynnag ddaw. Oedd gen i bump braslun o gân oedd yn

teimlo’n dda. Doedden nhw ddim angen gwaith am eu bod nhw yn gweithio ar lefel syml iawn ac o‘n i’n licio hynny felly nes i bump arall a galw fo yn albym” meddai Gruff. Doedd y caneuon yma ddim yn ffitio gyda’r cysyniad a’r cyfeiriad fydd y band yn mynd â ni arno nesaf

Fi sy’n chwarae’r offerynnau ar yr albym i gyd heblaw y bras, felly fy mai i ydy hyn i gyd!”

ac er bod ei themau yn cyffwrdd ar y Gymru newydd sy’n cael ei chreu gan wleidyddion y Cynulliad, mae Gruff yn pellhau ei hun oddi wrth y syniad o concept album … “Na, dwi’n ddigon bodlon gadael hynna i fandia fel Pink Floyd, a beth bynnag dydi’r syniadau sydd gen i ddim yn aros efo’i gilydd ddigon hir i’w galw yn concept! Oedd o yn rywbeth nath ddatblygu erbyn y diwedd, wrth ddod a bob dim at ei gilydd. Efo’r band ‘da ni’n gweithio ar swn mwy clasurol a doedd y caneuon yma ddim yn addas beth bynnag. Fi sy’n chwarae’r offerynnau ar yr albym i gyd heblaw y bras, felly fy mai i ydy hyn i gyd!” Ond mae’n glir fod peth meddwl tu ôl i eiriau Gruff fel yr arfer ac mae themau yn rhedeg trwy’r albym hon. Yn sicr dydy’r Sefydlaid Cymraeg

ddim yn ei blesio ryw lawer ac mae neges reit gref tu ôl i’r melodiau swynol diniwed. “Mae na lot o ganeuon yn chwara gwmpas efo geiria. Ma hynna’n rywbeth dwi’n licio neud, troi gair ben ei lawr a defnyddio ystyr arall ohono fo. Y tro yma roedd y gân yn datblygu o’r geiriau, sy’n anarferol i fi, achos fel arfer mae’r gerddoriaeth yn dod gyntaf. Mae na lot o ganeuon gwirion arno fo, rheswm arall doeddwn i ddim eisiau gorfodi albym wirion ar y band a dod a phawb lawr i lefel isel efo fi. Mae caneuon fel Caerffosiaeth a Epynt yn rhai sy’n cwyno am bethau dwi’n gweld o gwmpas sy’n gwneud dim synnwyr i mi. Caerffosiaeth yn sôn am sut mae Caerdydd yn cael ei droi i mewn i far chwaraeon anferth a sut mae nhw’n galw pethau yn

^

8 Y SELAR


‘Millennium’ bod dim. Millennium Stadium, Millennium Centre, Millennium Fish Bar! Mae’r peth yn wirion, defnyddio enwau cachu fel ‘Mermaid Quay’ ac ‘Atlantic Wharf’– petha sydd ddim byd i wneud efo Caerdydd. Mae Epynt yn sôn am fi isio cael gwared o’r bunt achos dwi ddim yn licio gweld wyneb y Frenhines yn syllu nôl arna fi o hyd. Mae’r gân yn rhannol am hynny ond hefyd am falu cachu efo geiria a gwneud racket.” Y peth olaf fyddai rhywun yn ei ddisgwyl fyddai clywed un o glasuron amheus Caryl Parry Jones yng nghanol popeth. Yn sicr, mi gododd ofn ym mâr f’esgyrn i pan glywais i hyn am y tro cyntaf. Does bosib fod Gruff wedi ei cholli hi go iawn a bellach yn cael ei ysbrydoliaeth o waith brenhines pop cawslyd Cymru? Dim ffiars! “Roedd Chwarae’n Troi’n Chwerw yn gân oedd yn hunllef i mi wrth dyfu i fyny. Dipyn o hwyl oedd hyn ond mae’r gân wedi bod yn fy mhen i ers blynyddoedd yn gwneud dwn i ddim faint o ddrwg. Ella bod gwneud fy fersiwn fy hun yn ffordd o gael gwared o hynny a rhyddhau fy meddwl oddi wrth hi.”

“Dwi ddim yn licio gweld gwyneb y frenhines yn syllu’n ôl arna’i o hyd ...”

Y SELAR 9


CyfweLIAD

Mae hon yn albym sy’n swnio lot mwy stripped down na albymau y band. Mae efallai yn debycach i Mwng nac unrhyw un o’r albymau eraill o ran yr ychydig iawn o waith cynhyrchu a pheirianyddiaeth. Wedi synfyfyrio cryn dipyn, mae Gruff Rhys yn cytuno: “Ydy mae’n siwr, mae o’n fwy elfennol a dwi ^ n ddim y cerddor gorau yn y byd felly mae o’n sw bregus iawn. Ond hefyd yn gyfle i drio petha mwy amrwd nac arfer. Mae’r grwp yn licio chwilio am synnau gwahanol.” Mae rhywun yn cael yr argraff fod gwerthu recordiau yn bell o feddwl Gruff wrth iddo dreulio ei amser yn malu cachu efo geiriau ar ei ben ei hun. Yn sicr dydi’r polish ddim wedi cael ei roi ar yr albym yma a’r canlyniad ydy swn organig heb le i guddio y tu ôl i berianyddiaeth gormodol. Mae’n glir mai angen Gruff i gael yn caneuon yma i lawr sydd wrth graidd Yr Atal Genhedlaeth. “Nes i ddim meddwl amdano fo ond roedd hi’n bryd i gael nhw o’m mhen ac i lawr fel record er

mwyn fy lles fy hun. Roedd y syniadau oedd gen i angen gweld golau dydd ac efallai fod o’n beth peryg i fy ngadael i’n rhydd mewn stiwdio ar ben fy hun ond dyna beth ddigwyddodd.” T.P Mae’r SFA yn fand sy’n defnyddio dipyn ar samplo. Sut mae dod o hyd i’r sampl yn y lle cynta? G.R: “Rywbeth collective ydy o. Ma pawb yn gwrando ar betha mor wahanol a jyst dod ar draws petha yda ni. Dwi’n gwrando ar ‘The Eagles of Death Metal’ a lot o electro ar hyn o bryd, ond ma na lot o stwff Cymraeg da allan ar hyn o bryd. Ma Guto newydd bigo rywbeth i fyny o fiwsig traddodiadol o Hawaii i roi ar yr albym nesa’ a nath Daf ffeindio’r sampl i The Man Don’t Give a Fuck oddi ar rywbeth gan Steely Dan.” Bu rhai yn cymharu’r albym nesaf gan y band i ‘Steely Dan on Crack’, dydy Gruff ddim i weld yn meindio’r gymhariaeth ... “Dyna naeth y cynhyrchydd alw fo ond am wn i roedd Steely Dan o hyd ar crack beth bynnag

“Doeddwn i ddim eisiau gorfodi albym wirion ar y band a dod a phawb lawr i lefel isel efo fi”

felly dwi myn gwybod be ma hynna’n ddweud amdano ni. Ella Steely Dan sydd methu chwarae offerynnau!” Does dim teitl i albym nesaf y band eto. Hon fydd y seithfed ac wrth i ddeinameg y band newid rywfaint mae Gruff yn ildio ei le fel prif leisydd ar rai o’r caneuon. Ond, mae’n hapus iawn i wneud hynny a gyda hon, y seithfed albym, mae’n bendant nad yw’r ffynnon greadigol yn sychu… “Da ni’n newid fel band drwy’r amser, a mae gennym ni fwy fyth o ganeuon achos mae Bunf yn ‘sgwennu yn ddiweddar, ac mae caneuon i’r albym nesa’ yn anhygoel. Mae Cian, Bunf a Daf yn canu dwy gân yr un ar yr albym nesa. A mae’n bwysig i ni fel band fod petha’n newid i stopio petha rhag mynd yn stêl. Mae gan bawb ei ran a dim ond un rhan o hynny ydw i achos band yda ni yn y pendraw ac am fod neb ohonom ni yn extroverts mae’n hawdd i bawb dynnu ‘mlaen a gweithio efo’i gilydd.”

Taith gruff rhys : Mi fydd Gruff Rhys yn cael ei gefnogi gan Alun Tan Lan, Kerrdd Dant a DJ Andy Votel. Chwefror yr 8fed : Neuadd Ogwen, Bethesda Chwefror y 10fed – Theatr Colwyn, Bae Colwyn Chwefror y 13eg - Theatr y Sherman, Caerdydd Chwefror y 14eg – Theatr y Werin, Aberystwyth

T.P: Fuoch chi yn Brasil yn ddiweddar. Pa fath o bethau wnaethoch chi yn fana? Mae Gruff yn troi at Cian wrth iddo ddod trwy’r drws: “Be oeddan ni’n neud yn Brasil Cian?” ond mae Cian yn brysur yn siarad i mewn i’w ffôn symudol. “Na, aethom ni drosodd i gymysgu’r albym yno, naeth y cynhyrchydd berswadio ni i fynd draw am antur a ma recordio yno yn rhatach nac yng Nghymru digwydd bod o ran cael stiwdio 48 trac. Gobeithio awn ni nôl yno ac i’r Ariannin efo’r albym nesa. Ar lefel fach iawn mae geno ni ryw fath o fanbase yn y rhan fwya o lefydd ond dyda ni ddim yn fand mawr yn unlle. Faswn i’n deud mai yn Iwerddon ydan ni’n cael yr ymateb gorau tu allan i Gymru. Mae nhw i weld yn gwybod be da ni amdan, a wedi cymryd atom ni.

T.P: Be am y croeso da chi’n gael yn Japan? “Mae na rai petha gwahanol. Mae nhw’n disgwyl encore. Ma raid i ni ddeud wrthyn nhw pryd da ni wedi gorffen neu fydda nhw yn disgwyl encores drwy’r nos. Ond ma na gynulleidfa yn Japan i bawb. Mae’r Gorky’s di cael lot o hwyl yno. Mae na label Cymraeg a chylchgrawn ar gyfer bandia Cymru wedi setio fyny yno erbyn rwan. Mae na sôn am roi petha allan gan Jakokayak a MC Mabon, mae’r peth yn reit wallgo wrth feddwl am y peth.” T.P.: Os faswn i yn dy roi di mewn ‘stafell gron a dweud wrthat ti i biso yn y gornel, be fasa ti’n wneud? “Ummmh, faswn i’n meddwl yn ddryslyd am y cwestiwn am ryw ddeg munud a wedyn piso yn fy nhrowsus.”

LLUnIAU: owAIn LLy^r geIrIAU: TrySTAn PrITChArD 10 Y SELAR


2 noSon newyDD Yn ogystal â Naws, Abri a Gwener y Grolsch, mae yna ddwy noson reolaidd arall wedi dechrau yn ddiweddar. CWRWgl yng Nghaerfyrddin, a Maes-b yng Nghaerdydd. “Y syniad tu ôl i sefydlu nosweithiau Maesb ydy ceisio hyrwyddo Maes-b fel rhywbeth sy’n cael ei gysylltu â cherddoriaeth Gymraeg drwy’r flwyddyn yn hytrach nac wythnos yr Eisteddfod” meddai Guto Brychan y trefnydd. Mae nosweithiau Maes-b yn cael eu cynnal ar ail nos Wener bob mis yng Nghlwb y Toucan, Caerdydd ar y funud. Mae yna rADIo LUxeMbUrg - MAeS-b, ??/1/05 gynlluniau ar y gweill i ehangu tu fas i Gaerdydd drwy drefnu taith Maes-b er mwyn creu cysylltiad rhwng un gig ar llall. Mi fydd Melys yn chwarae ar noson Maes-b ar Mawrth 10 (eu gig cyntaf yn y brifddinas ers dwy flynedd.) Croeso i fandiau sy’n chwilio am gigs i gysylltu drwy e-bostio maes.b@ntlworld.com neu ewch i www.maes-b.com CWRWgl - Fe fydd rhai o fandiau gorau Cymru’n perfformio mewn gigs misol yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin yn 2005 mewn ymgais i gryfhau sîn roc y Dref. Dyna oedd gan hyrwyddwyr CWRWgl i'w ddweud wrth iddynt lansio’r noson ddiwedd llynedd. Eleni fe fydd nosweithiau CWRWgl yn cynnwys perfformiadau gan Mim Twm Llai, Frizbee, Estella, Elin Fflur a Mattoidz a'r gobaith yw rhoi llwyfan i fandiau ifanc lleol i gefnogi’r enwau mawrion. Trefnir CWRWgl gan Menter Taf Myrddin. Bydd Frizbee yn perfformio yn CWRWgl yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin, nos Wener 11, Chwefror 2005. Tocynnau ar gael o swyddfa Menter Taf Myrddin (01267) 676831 neu (01994) 241222.

MAE’R SAIZ YN BWYSIG! ANNWYL RADIO CYMRU, Yn ddiweddar mae'r alwad am ddiwygio darpariaeth ieuenctid Radio Cymru yn cryfhau gyda nifer o bobl yn galw am newidiadau. Dwi'n meddwl fod yr hyn yr ydych yn gynnig ar hyn o bryd yn annigonol gyda phwyslais gwallgof ar lond llaw o artistiaid a rhai sydd wedi bod wrthi ers ugain mlynedd a mwy, yn cynhyrchu yr un hen stwff yn ddigyfnewid.Mae'n amser cael newid.Gwraidd y broblem ydi fod tîm cynhyrchu C2 yn gorfod bod yn gaeth i ganllawiau arbennig, canllawiau sy'n hyrwyddo artistiaid sâff fel Bryn Fôn a Meinir Gwilym a cherddoriaeth Saesneg. Wrth gwrs, mae Bryn Fôn yn boblogaidd ymhlith y caeau a'r cloddiau ond dwi'n teimlo fod gormod o bwyslais arno. Nid gwaith yr orsaf yw adweithio ond arwain. Y DJ ydi'r arbenigwr cerddorol, felly, y disgwyl yw fod y DJ yn cyflwyno stwff newydd yn gyson, yn cadw'r hen gynulleidfa draddodiadol yn hapus ond fod cydbwysedd rhwng y ddau. Ond yn achos Radio Cymru, mae hyd yn oed C2 yn chwarae peth wmbreth o Bryn Fôn, er ei fod yn cael ei glywed yn y p'nawn ar raglen Owain a Dylan. Petai Radio Cymru yn

penderfynu fory i gwtogi ar ganeuon Bryn Fôn, neu Meinir Gwilym ar C2, dwi'n siwr na fyddai yna wrthryfel. Mae pobl yn mwynhau yr hyn y maent yn wrando arno cyn prynu, nid yn mynd i brynu'r CD ac wedyn yn mwynhau.Rôl y radio yw hyrwyddo albym i bobl fynd allan i'w brynu.Dyna pam, fyddwn i yn dadlau, y rheswm fod Bryn Fôn wedi gwerthu cymaint.Ond dwi wedi cael fy nghalonogi yn ddiweddar wrth glywed Jonsi yn chwarae Texas Radio Band, MC Mabon a Gruff Rhys.Dwi'n siwr na gafwyd o gwbl gwynion gan wragedd ty a ffans obsesiynol yr hen goes wrth "glwad y llafna' ifanc yn mynd drw'u petha". Tybed oes yna newid yn y gwynt? Gyda phenodi Huw Stephens yn DJ i gymryd lle John Peel ar Radio Un,mae'n dangos yn glir fod angen chwistrelliad o newid yn BBC Radio Cymru, a chael mwy o bobl fel Huw sy'n gwybod eu stwff. A fyddai Terwyn yn cael swydd yn BBC Radio 1? Dwi'n siwr eich yn bod yn gwybod yr ateb. Yn gywir

MC Saizmundo

Chwefror 8-11 Chwefror 17 Chwefror 19 Chwefror 22 Chwefror 25 Chwefror 26 Chwefror 28 Mawrth 2 Mawrth 3 Mawrth 4-5

Theatr Gwynedd,Bangor Theatr Ardudwy,Harlech Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth Theatr Y Lyric, Caerfyrddin Theatr Mwldan, Aberteifi Neuadd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan (trwy Theatr Felinfach) Neuadd Goffa, Y Barri Neuadd Dwyfor, Pwllheli Theatr Colwyn, Bae Colwyn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug

Mawrth 9-11 Mawrth 15-16 Mawrth 18-19 Mawrth 21-26

Garter Lane Arts Centre, Waterford Town Hall Theatre, Galway An Culturlann, Belfast Project Arts Centre, Dublin

Mawrth 28 Mawrth 30 Mawrth 31

Galeri, Caernarfon Thear y Stiwt, Rhosllannerchrugog Neuadd Ysgol y Berwyn, Bala


ADoLygIADAU CD’S

gwLeDD ACwSTIg grUff rhyS - yr ATAL genheLAeTh Fe allai’r dyn yma ganu darnau o lawlyfr injian wnio eich nain a dal i gael ei alw’n arwr yng Nghymru. Roedd Yr Atal Genhedlaeth yn sicr o’i lle fel albym y flwyddyn yng Nghymru cyn i Gruff chwarae nodyn. Ac fel y disgwyl, cawsom wledd acwstig i'w gwerthfawrogi. Mae Gruff yn dibynnu ar y melodiau syml sydd wedi ei gynnal trwy ei yrfa efo ‘Pwdin Wy’ a ‘Ni yw

y Byd.’ Ac wrth gwrs mae’r llu o synnau ac effiethiau electronig yn ei demtio eto. Y gymysgfa o’r dechnoleg a’r llais sy’n dod i’r wyneb eto gyda Epynt a Y Gaerffosiaeth. Mae’r awgrymiadau gwleidyddol yn gweu i mewn heb gymylu’r swn. Mae’r steil syml, moel weithiau yn cau’r bwlch rhwng yr artist a’r clustiau y mae’n ceisio eu ddiddanu. Mae hyn yn

braf i’w gael mewn oes ble mae gormodedd o waith cynhyrchu yn tynnu’r mîn oddi ar swn naturiol llawer o fandiau. Fan hyn, mae’r gwaith lleisio mor felys ag y bu erioed. Dim ond taflu albym gyda’i gilydd ar hap yn ei amser sbar wnaeth Gruff a dyna yw cryfder y gwaith yma. Label - Placid Casual Trystan Pritchard

wInAbego – hyDer bregUS Ers rhyddhau Hyder Bregus mae’r e.p. yma wedi cael ei ganmol i’r cymylau gan Radio Cymru ac yn fwy ar wefan maes-e.com. Mae’r caneuon yn fachog a’r melodiau’n gofiadwy, ac fe welwn beth sydd wrth wraidd Winabego sef roc gitâr egniol. Clywir rhyw adlais o’r Strokes drwy eu caneuon yn enwedig eu trac enwocaf Unarddeg Dyn i Lawr. Heb os, mae’r e.p. yn swnio’n dda, ond y peth y dylai Winabego ganolbwyntio arno fel band ar hyn o bryd yw trosglwyddo’r swn o’r CD i’w perfformiadau byw. Label – Rasal Gareth Glochben

CYSTADLEUAETH

GRUFF RHYS! Chi moyn ennill copi o sengl ag albym newydd Gruff Rhys wedi eu harwyddo, a chrys T cyfyngedig arbennig, yn ogystal â E.P.’s newydd Frizbee, a Winabego ag albyms newydd MC Mabon ag Ashokan? Atebwch y cwestiwn yma ac os mai’ch enw chi fydd y cyntaf i gael ei dynnu mas o fotwm bol Dyl Mei yna chi fydd yn ennill. Cwestiwn Ymha stiwdio y recordiodd Gruff Yr Atal Genhedlaeth ? Nawr e-bostiwch yr ateb, eich enw a’ch cyfeiriad i cystadleuaeth@yselar.com erbyn Chwefor 28.

Llongyfarchiadau! Ennillydd cystadleuaeth y rhifyn diwethaf oedd Rhian Dobson o Benrhyn-Coch. Llongyfarchiadau! ac mi fydd y gwobrau ar ei ffordd i ti yn fuan.

12 Y SELAR

y LLADron - y LLADron 2 “Lladron yn dwad dan weu sanna!” a dyma’r ail hosan amrywiol, amryliw i’r Lladron ei gweu hefo’u gweill hud a’u gwlân hyd-y-lle. 25 trac yn amrywio o’r gwleidyddol (O Fangor Aye i'r Bae') i’r lledrithiol ('Lleidar Llancesi/ Hancesi') i’r digri a’r di-chwaeth ('Y Caban Coffi', 'Dos o Ma y Pwff'.) Uchafbwynt: 'McMyddarffycars' sy’n briodas berffaith rhwng Mc Mabon, Saizmundo a’r sampl a dreisiwyd mor drylwyr yn ‘Can’t touch this’ MC Hammer. Mae’r gymysgedd athrylithgar o demos prin a sylwadau bygythiol gan bileri’r gymdeithas, yn dod â gwên i’r galon ac anarchiaeth i’r enaid. Lladda am gopi. Neu’n well byth, jyst dwyn un. Label - Crafu Byw Gwyneth Glyn

AShoKAn - AShoKAn 2 Mae Ashokan wedi dod yn un o’m hoff fandiau byw Cymraeg. Mae yna ryw egni yn perthyn i’w perfformiadau byw sy’n mynnu bod cynulleidfa yn eu mwynhau, mae nhw’n rhoi popeth i fewn i’r gig bob tro. Dwi’n siwr y byddai bois Ashokan yn barod iawn i gyfaddef na lwyddodd eu halbwm gyntaf i ^n byw – rhywbeth adlewyrchu eu sw y mae nhw a’r cynhyrchydd, Joe Gibb, wedi sortio gyda’r albym newydd ‘Ashokan 2’. Mae’n albym llawer trymach na’r ^n gyntaf, ond mae adlais o’r hen sw ffynci yn treiddio drwy ganeuon fel Hot Wok a dechrau Kill The Old Guard. Mae’r gân acwstig Aberystwyth yn cyrraedd braidd yn

annisgwyl, ond mae’n egwyl i’w chroesawu yng nghanol y caneuon trwm. Y peth pwysicaf am yr albym yw ei fod yn dangos fod y band yn datblygu a bod eu cerddoriaeth yn aeddfedu. Dwi’n meddwl fod Ashokan wedi darganfod cyfuniad da o’r arddull metal a ffync sy’n rhinwedd o’u cerddoriaeth. O bosib, does dim cymaint o ganeuon cofiadwy arno, ond fel cyfanwaith dwi’n credu fod ‘Ashokan 2’ yn llawer gwell albym na ‘Diolch am Ddal y Gannwyll’ Label -Dockrad Owain Schiavone

frIZbee – LennonogIAeTh Dyma ryddhau ail Cd Frizbee mewn ychydig fisoedd ac yma fe welwn Frizbee yn trio gwthio’i swn eu hunain ar glustiau parod y gwrandawyr. Pop/roc safonol a geir ar yr e.p ond hefyd gwelwn beth arall sydd gan Frizbee i’w gynnig. Mae swn acwstig swynol Cân Hapus yn atgoffa rhywun o Alun Tan Lan tra bod Olwyn Hud yn cyffwrdd ar arddull Meinir Gwilym-aidd ( a dwi ddim yn rhy siwr os yw hwnna’n beth da! ) Mae’r caneuon yn rhai o safon ond, ar yr e.p yma teimlaf nad yw Frizbee yn cyflawni eu potensial a disgwyliaf fwy oddi wrthynt yn y dyfodol. Label – Recordiau Cosh. Gareth Glochben


gwener y groLSCh, Ty TAwe, AberTAwe 10/12/04

Kentucky AfC, Maharishi, gareth bonello gig Maes b, Clwb Ifor bach, Caerdydd, 3/12/2004 Cafwyd perfformiad i ddechrau gan Gareth Bonello. Doeddwn i erioed wedi’i glywed o’r blaen, ond roedd y gymysgedd o ganeuon gwerin o Gymru, Lloegr a thu hwnt yn hyfryd i’w clywed, ac yn rhywbeth a oedd yn cyferbynnu’n dda â’r hyn a oedd i’w glywed wedi hynny. Maharishi oedd nesaf, band sydd heb chwarae’n fyw ers tipyn. Serch hynny, roedd y band yn dal i swnio’n dda gyda’i gilydd, ac mae’n siwr fod eu cefnogwyr yn edrych ymlaen at fwy ganddyn nhw yn y dyfodol agos. Kentucky AFC, prif act y noson, orffennodd gyda nifer o ganeuon o’u halbym ddiweddar, Kentucky AFC. Egniol swnllyd ac effeithiol. Syml. Geraint Criddle

CeLT, DAnIeL LLoyD A Mr.PInC CofI roC : 20/12/04 Er bod Daniel Lloyd eisioes wedi recordio sesiwn C2, dyma’r gig cyntaf erioed iddo wneud gyda’i fand Mr. Pinc. Roeddynt yn gweithio’n dda gyda’i gilydd, er iddynt fynd drwy ychydig o byliau sigledig, ond dim mwy na sydd i’w ddisgwyl gan unrhyw fand yn eu gig cyntaf. Roedd y caneuon yn rhai melodic, safonol, ond teimlaf y byddai’r set wedi cael trafferth diddanu cynulleidfa iau. Er hyn, gig llawn potensial i Daniel Lloyd a Mr. Pinc, a mi fydd albym i ddilyn yn 2005. Celt yn llawn harmonis gyda’i set arferol. Dywedodd Beattie cyn y glasur accapella ‘One day … Bethesda’ “ Os dach chi ddim yn dwad o Besda gewch chi ffwcio o ma!” So ‘na beth wnes i. Gareth Glochben

Torf cymharol fach oedd ar gyfer adloniant Neil Rosser, wedi’i gefnogi gan fand a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer ‘Tyrfe Tawe’, sef ‘Mari Lwyd’. Mae Rosser newydd ryddhau albym o’i oreuon ers 1987, gyda’r arian yn mynd at Apêl Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Dawnsiodd y dorf i glasuron fel ‘Heol Gellifedw’, ‘Merch Gomon o Townhill’ ac ‘Ochor Treforys o’r Dre’ - Dyma berfformiad gwbl hyderus o ganeuon jazz, blws, pop ac addasiadau o glasuron Saesneg, fel ‘Merch o Bort’ (fersiwn Gymraeg o ‘Brown Eyed Girl’ gan Van Morrison), sy’ bob tro’n ffefryn gan y dorf. Siom oedd ei ymgais at ganu’r clasur ‘Rue St. Michel’ gan Meic Stevens - go brin all unrhyw un

ganu caneuon ‘Y Brawd Houdini’ fel y dyn ei hun. Roedd hi’n addas fod Neil Rosser wedi’i gefnogi gan ‘Mari Lwyd’, gan uno’r ddau am y tro cynta’ ers gwyl ‘Tyrfe Tawe’ ym mis Hydref. Eu prif leisydd yw Huw Dylan Owen, gynt o ‘Gwerinos’. Mae ‘Mari Lwyd’ yn enghraifft berffaith o ganu gwerin ar ei orau, gyda chymysgedd o offerynnau’n amrywio o’r mandolin i’r gitâr, o’r bodhran i’r chwisl dun. Roedd eu set yn cynnwys llu o glasuron gwerin, gyda rhai caneuon gwreiddiol. Y trac sy’n sefyll mas i fi yw ‘Nos Fawrth yn Abertawe’. Dim ond ychydig iawn o gigs sydd y tu cefn i’r band, ond mae’n nhw’n mynd o nerth i nerth gyda phob un. Alun Chivers

ADoLygIADAU gIgS

neIL roSSer A’r bAnD, MArI LwyD,

CLwb PêL- DroeD CAernArfon   29/12/04 gIg APêL LUIS AUSTIn MIM TwM LLAI, frIZbee,  MeInIr gwILyM, SIbryDIon,  CofI bACh A Tew ShADy Er gwaetha’u nerfau amlwg, gwnaeth Cofi Bach a’i phartner, Tew Shady, ddwyn clod y mwyafrif o’r dorf, yn ôl ymholiadau eich gohebydd, fu’n hwyr yn glanio o’r De. Cafodd Sibrydion ymateb ffafriol hefyd, yn ôl pob sôn, y set yn gorffen jyst cyn i fi lwyddo i ffeindio’r clwb. Yna ddaeth Meinir Gwilym. Wel, dwi ddim cweit yn siwr os wnaeth hi, ond roedd hi’n swnio’n emosiynol a blinedig ar adegau. Mae angen gwyliau braf ar Meinir am gyfnod, tybiaf, ond mae’r set i weld yn boblogaidd, ac mae’n anodd methu rhyfeddu ar ei hegni di-baid. Roedd set Frizbee yn egniol ac yn dynn, ac mae gan y band oll, Ywain y canwr yn enwedig, ddealltwriaeth aeddfed o’r hyn sydd ei angen am berfformiad byw poblogaidd. Mim Twm Llai sy’ ein tywys i fedd-dod ddiwedd nos, y set yn cychwyn gyda rhyw fath o ‘boogie’ brwnt heb eiriau, cyn adeiladu at fy uchafbwynt personol o’r set, sef y foment pan wnaeth tua deg o bobl ymddangos o nunlle i’r llawr dawnsio, ar yr union eiliad pan gychwynnodd gytgan ‘Y Dylluan.’ Oedd hwnna’ ei hun werth £7 tuag at yr apêl. Owain Llyr

MATToIDZ, gwILyM MorUS AC ALUn TAn LAn, ffLUr DAfyDD A’r bArf, PenLAn PwLLheLI 3/12/04 Fflur a’i Barf yn cychwyn y noson yn fendigedig. Y llais yn felfedaidd swynol hudolus, a’r Barf yn cyfrannu’n helaeth i’r naws hyfryd a’r tiwns cofiadwy. Mi fydd yr albym, pan daw allan, rhywdro rhyw ddydd, yn rhywbeth arbennig. Yna daeth Gwilym Morus ac Alun Tan Lan i gydchwarae. Mae Gwilym Morus yn wych. Mae Alun Tan Lan yn wych. Ond gyda’u gilydd, yn perfformio caneuon y naill a’r llall, hefo system sain Mr Tan Lan....wel, roedd y cegau agored a’r pennau cwbwl lonydd yn ddynodiad perffaith o’r ddeuawd anhygoel, yma. Bwciwch nhw hefo’u gilydd.

A Mattoidz. Wedi gweld Mattoidz dros y blynyddoedd olaf roedd disgwyl perfformiad soled a dymunol ac ingol fel arfer. Ond beth a gafwyd bobol, oedd y set acwstig mwyaf egnïol, gwefreiddiol, hwyliog, brwdfrydig a chrefftus fedr rhywun feiddio ei ddychmygu. A gwell. Dwi’n ysu i weld hyn eto. Efallai fod yr adolygiad uchod yn swnio’n orfrwdfrydig, ond does dim ffordd arall i ddisgrifio fy hoff gig o 2004. Perffaith. ( saff dweud bod hwn wedei ei blesio !-gol ) Hefin Jones Y SELAR 13


CyfweLIAD

Holi Huw Yn dilyn marwolaeth sydyn John Peel, mae Huw Stephens am gael y cyfle i ddarlledu drwy Brydain ar Radio Un fel un o’r tri DJ sy’n cymryd yr awennau. Saff dweud ei fod yn brofiadol iawn o ystyried ei fod mor ifanc, ond yn amlwg, mae e wedi gorfod dechrau yn rhywle:

LLUn: bbC

HS: “Nes i ddechrau wrth neud tapie gytre pan on i tua 15, wedyn es i ar brofiad gwaith at orsaf radio ysbyty. Arweiniodd hwnna at raglen ar radio ysbyty bob dydd Mawrth. Wedyn ges i swydd yn ateb ffôn i Radio Cymru. On i’n nabod Bethan Elfyn drwy gigs, a nath y ddau ohonon ni neud demo’s i Radio Un ac yn lwcus 'naethon ni gael y swydd.” Mae e wedi bod yn cyflwyno ar Radio Un, gyda Bethan Elfyn ers blynyddoedd, a fe hefyd oedd yr enw mawr wrth i C2 lawnsio eu line-up newydd, mae e hefyd yn cyfrannu i gylchgronnau Tacsi ac i V, yn ogystal â chyflwyno Bandit ar S4C. Ond beth yw ei hoff gyfrwng?

HS: Radio, heb os. Mae e’n fwy immediate, os ydych chi’n hoffi cân allwch chi chware fe ar y radio yn syth, ond chi methu neud hwnna ar y teledu. Fi’n mwynhau gwneud stwff Bandit achos dwi'n mwynhu gweld bandie yn perfformio ac yn cael y cyfle i wneud fideo, ond radio yw'n hoff gyfrwng i. Er ei fod wedi bod i weld ambell i gêm bêl-droed Caerdydd a Chymru, dyw e ddim yn rhestru chwaraeon fel un o’i ddiddordebau. HS: Cerddoriaeth yw’r hoff un heb

os, a siarad gyda phobol … a magic tricks. Es i weld consuriwr diwrnod o’r blaen lawr yn Llundain, odd e’n dda iawn chware teg. Faint o amser ti’n mynd i fod yn treulio lawr yn Llundain nawr te ? Beth yw cynllun dy wythnos di ? HS: Peidio cysgu lot ! Fyddai’n gwneud C2 ar nos Lun, Mawrth a Mercher am 10. A Radio Un nos Fawrth a Nos Iau. Bydd rhaglen C2 nos Fawrth wedi ei recordio o flaen llaw, ac wrth gwrs, fyddai'n dal i 'neud Bandit.

AR RhAGLEN HUW . . . Mae Huw yn edrych ymlaen i gael chware miwsic Cymraeg ar Radio Un, a dyw e ddim yn un am wastraffu amser. Mae sesiwn gan Melys ar ei raglen gynta' ar Chwefror 1 ac fe fydd sesiwn Hip-Hop Cymraeg gyda llwythi o ffigyrau blaenllaw y byd rap Cymraeg ar ei ail raglen. (Gallwch ddarllen am mwy am hwn yn y rhifyn nesa’) Mi fydd ei raglen newydd ar Radio Un yn dechrau am 11 yr hwyr tan 1 y bore ar Nos Fawrth, Chwefror1.

beChgyn  bAnDIT MAe bAnDIT yn ÔL Ar eIn SgrIn, rhAgLen gerDDorIAeTh orAU S4C.     y DDAU hUw wyneb yn wyneb...  Enw Llawn

HUW MEREDYDD STEPHENS

HUW GWYNFRYN MOWGLI EVANS

Oed

23

19

CD dwetha i ti brynu ?

'Duelling Banjos' - soundtrack y ffilm Deliverance

Murcof - Utopia,

Hoff gan o 2004 ? :

Triwch Hi Ar - Cofi Bach

"Max-N, fy nghorff ar dân ... hmmmm!"!

Cas fand /artist?

Mwsog ! a dydi caneuon Robbie Williams ddim yn neud fin hapus.

Max-N / Embrace / Max-N /Max-N /Max-N

Hoff fand Cymraeg?

Gorky's Zygotic Mynci

Texas Radio Band / Drymbago

Hoff raglen deledu ?

Y Newyddion

Monkey Dust / Dartsplayers Wives

Pa un ohonoch chi sy'n troi lan i'r gwaith gynta' ?

Evans bob tro.

Nid ras yw cyrraedd gwaith

Wyt ti erioed wedi defnyddio dy statws cyfryngol/cerddorol i hudo merch i'r gwely..?

Naddo.

Naddo... fel arfer, mae'n haws just slipio rywbeth yn eu diodydd nhw !

Pwy sydd fwya 'showbiz' o'r 2 ohonoch chi?

Fi, wrth gwrs!

Stephens, mae e ‘di newid.

Pa un ohonoch chi sy'n gallu yfed fwya?

Evans siwr y fod. Tri pheint a mae'n mynd yn blurry.

Mae Huw yn yfwr sudd oren gwell ond bo fi'n handy iawn pan mae'n dod i yfed bleach."

Wyt ti erioed wedi bod mewn trwbwl gyda'r heddlu ?

Na. Diolch Byth

Do, ond daflon yr hen fenyw allan o'r cwrt wedi iddyn nhw ddarganfod eu bod hi'n wallgof!

Pwy yn y "SRG!" yw'ch tip chi i wneud orau yn 2005 ?

Poppies!

Bryn Fôn

Hoff berfformiad ar Bandit, 2004?

Roedd y Poppies yn dda iawn a Gwyneth Glyn. A lot mwy, ond mae'n anodd dewis un penodol.

O’dd pawb ar y gyfres yn wych, sa'n anheg rhoid clod penodol i un band yn unig.

bAnDIT bob noS IAU 10 o’r gLoCh S4C. DeChrAU Ar Chwefror 3, 2005 14 Y SELAR




Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.