Rhaglen selar2016

Page 1

Y Selar .

R H AG L E N S W Y D D O G O L

GWOBRAU’R

SELAR

U N D E B M Y F Y R W Y R A B E R YS T W Y T H DYDD SADWRN | SATURDAY

20.02.16

rhaglen_A5.indd 1

17/02/2016 22:32


Croeso i Noson Wobrau’r Selar Croeso i chi gyd unwaith eto i Wobrau’r Selar! A chroeso nôl i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae ‘na hen ddywediad yn yr iaith fain, ‘if it ain’t broke, don’t fix it’, ac fe weithiodd Gwobrau’r Selar cystal yma yn yr Undeb llynedd, doedd dim angen i ni chwilio am leoliad gwahanol eleni. Mae Gwobrau’r Selar yn datblygu eto eleni wrth i ni barhau i drio cynnig awyrgylch gŵyl i gynhesu misoedd tywyll a hir y gaeaf. Yn ogystal â’r awyrgylch parti arferol i ddathlu llwyddiant y flwyddyn gerddorol a fu, mae nifer o weithgareddau ymylol, neu ffrinj yn cael eu cynnal eleni i ychwanegu at y teimlad o ŵyl. Roedd 2015 yn glamp o flwyddyn dda arall i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Yn wahanol i 2015, doedd hi ddim yn flwyddyn niferus o ran recordiau hir, ond o’r albyms a gyhoeddwyd roedd y safon yn uchel. Yn hytrach na hynny, ryddhawyd llwyth o recordiau byr, ac roedd hi’n flwyddyn ble manteisiodd nifer o artistiaid ifanc a newydd ar eu cyfle i wneud eu marc. Roedd Y Selar yn falch iawn i chwarae rhan yn hynny trwy gynllun Clwb Senglau’r Selar mewn cydweithrediad â Sain. Dyma’r seithfed tro i ni gynnal pleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar, ac roedd yr ymateb yn well nag erioed gyda bron i 1500 o bobl yn pleidleisio. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am wneud hynny – does dim amheuaeth fod gwybod mai’r cyhoedd sy’n dewis enillwyr Gwobrau’r Selar yn golygu llawer iawn i’r enillwyr. Hoffai Y Selar ddiolch yn fawr iawn i holl noddwyr Gwobrau’r Selar eleni am eu cefnogaeth amhrisiadwy – hebddyn nhw byddai cynnal y digwyddiad yn amhosib, ac yn sicr byddai’n amhosib cadw pris tocynnau mor rhesymol. Diolch yn fawr iawn hefyd i chi am gefnogi cylchgrawn Y Selar, a Gwobrau’r Selar eto eleni – er bod y gerddoriaeth a’r hwyl ar y llwyfan yn bwysig, chi, y gynulleidfa sy’n gwneud Gwobrau’r Selar.

rhaglen_A5.indd 2

17/02/2016 22:32


CEFNOGI’R GERDDORIAETH NEWYDD ORAU YNG NGHYMRU BACKING THE BEST NEW MUSIC IN WALES bbc.co.uk/horizons

rhaglen_A5.indd 3

17/02/2016 22:32


aMSERLEN Prif Lwyfan 17:00 Welsh Whisperer 18:00 Calfari 19:00 Terfysg 20:00 Cyflwyno Gwobrau: Fideo Gorau, Gwaith Celf, Record Fer 20:15 Ysgol Sul 21:50 Cyflwyno Gwobrau: Cyflwynydd, Band Newydd 22:00 Yws Gwynedd 23:45 Cyflwyno Gwobrau: Artist Unigol, Digwyddiad Byw, Band Gorau 24:00 Sŵnami

Llwyfan 2 17:30 Aled Rheon 18:30 Rogue Jones 19:30 Cpt Smith 21:00 Cyflwyno Gwobrau: Cân Orau, Hyrwyddwr Gorau 21:10 HMS Morris 22:50 Cyflwyno Gwobrau: Record Hir, Offerynwr 23:00 Band Pres Llareggub

rhaglen_A5.indd 4

17/02/2016 22:32


CWMNI THEATR ARAD GOCH Canolfa n Mileniwm Cymru Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Drama gerdd gyfoes, Gymraeg am fod yn ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain – yr affêrs a’r fflirtio, angst y dosbarth, y gangiau a’r partïon gwyllt yn y goedwig, moesau ac anfoesoldeb, y rhwystredigaethau, ofnau a’r gobeithion. Cast – Aaron Davies, Tom Conwy, Anni Dafydd, Guto Wynne Davies, Gareth Elis, Mirain Fflur, Osian Garmon, Gwawr Keyworth, Rhianna Loren, Caitlin McKee, Lynwen Haf Roberts Awdur – Bethan Marlow Cyfarwyddwr – Jeremy Turner Coreograffydd – Eddie Ladd Cyfarwyddwr Cerdd – Rhys Taylor

yn cyflwyno

Cerddoriaeth gan BROMAS CANOLFAN CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH 8 + 9 Mawrth, 7.30pm – 01970 623 232 Y LYRIC, CAERFYRDDIN 11 Mawrth, 10.00am a 7.30pm – 0845 226 3510 PAFILIWN Y RHYL 16 + 17 Mawrth 16 Mawrth, 7pm / 17 Mawrth, 10.30am – 01745 33 00 00 GALERI, CAERNARFON 18 Mawrth,1pm a 7pm – 01286 685 222 CANOLFAN MILENIWM CYMRU, CAERDYDD 21-26 Mawrth / 21-23, 1pm / 23–25, 7pm / 26, 2pm + 8pm – 029 2063 6464

cysgunbrysur.cymru

rhaglen_A5.indd 5

@ CysgunBrysur

17/02/2016 22:33


Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar 2015 Cân Orau (Noddir gan Ochr 1) Foxtrot Oscar – Band Pres Llareggub Trwmgwsg – Sŵnami Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol Sul

Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion) Gwilym Bowen Rhys Guto Howells Owain Roberts

Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru) Maes B Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 4a6

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa) Dulog – Brigyn Sŵnami – Sŵnami Mae’r Angerdd Yma’n Troi’n Gas – Breichiau Hir

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno) Huw Stephens Lisa Gwilym Dyl Mei Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo) Gwenno Yws Gwynedd Welsh Whisperer Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion) Terfysg Cpt Smith Band Pres Llareggub Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn) Tafwyl Maes B Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula – Frân Wen

rhaglen_A5.indd 6

Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth) Candelas Band Pres Llareggub Sŵnami Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd) Tir a Golau – Plu Sŵnami – Sŵnami Mwng – Band Pres Llareggub Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) Nôl ac Ymlaen – Calfari Dy Anadl Di / Pan Ddaw Yfory – Yws Gwynedd Bradwr – Band Pres Llareggub Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C) Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods Sebona Fi – Yws Gwynedd Pan Ddaw’r Dydd - Saron

17/02/2016 22:33


Huw Stephens Y gerddoriaeth newydd orau o Gymru a thu hwnt Bob nos Lun, 7pm

2 Huw and Lisa ads 128x90.indd 1

Rasal•Gwymon•Copa

08/02/2016 13:20

allan nawr

Patrobas Dawns y Dail

EP newydd ar label Rasal gan y grw ˆp gwerin fodern o Ben Llyˆn

Senglau’r Selar

Casgliad o 10 sengl gan amrywiol fandiau / artistiaid newydd – Estrons, Y Trw ˆ bz, Henebion, Terfysg, Patrobas, Cpt. Smith, Y Galw, Raffdam, Argrph a Magi Tudur

yn fuan Y Bandana

Albym newydd sbon Fel tôn gronallan ar label Copa, Mawrth 12fed Noson lansio – Yr Hen Farchnad, Caernarfon – nos Sadwrn, Mawrth 12fed, £10 ar y drws

yn y stiwdio

Bydd Bronwen Lewis i fewn yn stiwdio Sain yn fuan i recordio albym newydd i label Gwymon … ac mae Ryland Teifi yn brysur draw yn Iwerddon yn gweithio ar ddeunydd newydd

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com

rhaglen_A5.indd 7

17/02/2016 22:33


rhaglen_A5.indd 8

17/02/2016 22:33


GWOBRAU’R

SELAR Chwefror 2015

rhaglen_A5.indd 9

17/02/2016 22:33


Ochr 1 - Gwobrau’r Selar. Yn busnesu gefn llwyfan!

Selar Ad 128x90.indd 1

rhaglen_A5.indd 10

02/02/2016 18:03

17/02/2016 22:33


rhaglen_A5.indd 11

17/02/2016 22:33


Clwb Senglau’r Selar Yn Nhachwedd 2014, fel rhan o ddathliadau 10 mlynedd Y Selar, fe wnaethom ni lansio ‘Clwb Senglau’r Selar’ gyda’r bwriad o roi cyfle cyntaf i artistiaid newydd ryddhau eu cynnyrch. Ers hynny rydym wedi rhyddhau naw sengl gan artistiaid ifanc addawol, ac mae dwy arall i’w hychwanegu at y casgliad y penwythnos yma wrth i ni ryddhau senglau cyntaf Magi Tudur ac Argrph. Ac mae rhain yn cael eu ‘hychwanegu at y casgliad’ yn llythrennol, gan ein bod ni’n lansio CD Senglau’r Selar yng Ngwobrau’r Selar eleni, gyda pob un o’r 11 trac sydd wedi eu rhyddhau fel rhan o’r cynllun arno. Mae wedi bod yn wych gweld artistiaid cynharaf y cynllun yn mynd ymlaen i ryddhau mwy o gynnyrch gyda labeli sefydledig dros y flwyddyn ddiwethaf – Estrons, Y Trŵbz, Ysgol Sul, Terfysg, Patrobas i gyd yn rhyddhau EPs neu albyms. Gobeithio’n bod ni wedi rhoi hwb bach i rhain i gyd, ac rydan ni’n reit siŵr bydd gweddill yr artistiaid yn dilyn eu hôl traed yn fuan. Yn y cyfamser, mwynhewch eu senglau cyntaf i gyd mewn un man ar gasgliad newydd Senglau’r Selar.

Rasal•Gwymon•Copa

allan naw

Patrobas Dawn

EP newydd ar label R gwerin fodern o Ben L

Senglau’r Selar

Casgliad o 10 sengl g fandiau / artistiaid ne Estrons, Y Trw ˆ bz, He Patrobas, Cpt. Smith Argrph a Magi Tudur

yn fuan Y Bandana

Albym newydd sbon F allan ar label Copa, M

Noson lansio – Yr Hen Farchnad, Cae nos Sadwrn, Mawrth

rhaglen_A5.indd 12

yn y stiwd

Bydd Bronwen 17/02/2016 22:33

Lewis


Cyfres a chyflwynwraig newydd Ddechrau’r flwyddyn, fe ddechreodd ‘Cwmni Da’ ffilmio cyfres newydd gerddorol i S4C ‘Pwy Geith y Gig?’. Bydd hi’n darlledu yn Ebrill ac yn dilyn taith creu band newydd o 6 aelod rhwng 11 ac 16 oed drwy gynnal clyweliadau. Roedd rhain yn cael eu cynnal dros y We ac yn chwech ysgol uwchradd lle bu aelodau bandiau y gyfres - Swnami, Yr Eira, Y Reu, Candelas, Yr Angen ac Yws Gwynedd. Lara Catrin o Felinheli ydi’r gyflwynwraig newydd. “Fedrai’m gwadu bo fi di bod reit nyrfys cyn cychwyn ffilmio” meddai. “O’dd meddwl am sefyll o flaen camera, a gorfod siarad yn gall, yn rwbath hollol newydd i fi…a’n hollol sgeri…AC o’n i’n mynd i orfod siarad efo chwech band-heb doddi a mymblo. On i’n screwed.” “Ond, mi a’th y diwrnod cynta yn HOLLOL ffab! ‘Oedd Swnami, er bo jest sbio arnyn nhw’n

gneud fi anghofio sut i siarad weithia yn hogia bonheddig a lyfli. O’dd y gig da ni’n ffilmio yn bob ysgol hefyd yn swperb - pawb yn downsio a sgrechian, a o’dda ni di llwyr anghofio bo ni mewn ysgol.” “Mae hyn i gyd yn profi - dio’m yn ddrwg o beth bod yn nyrfys- weithia.”

Nofelau newydd gwych! £8.95

£8.95 £8.99

£8.99

£8.99 £9.99 £8.99

£8.99

www.ylolfa.com

rhaglen_A5.indd 13

17/02/2016 22:33


Tlysau Gwobrau’r Selar

Mae tlysau Gwobrau’r Selar eleni wedi eu creu gan griw Celf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r adran fod yn gyfrifol am ddylunio a chreu tlysau Gwobrau’r Selar, ac unwaith eto maen nhw wedi ein rhyfeddu gyda safon y gwaith. Diolch o galon iddyn nhw, a’u darlithydd Gwenllian Beynon, am greu darnau celf mor unigryw yn wobrau i bawb sy’n fuddugol eleni.

Diolchiadau Hoffai’r Selar ddiolch i’r canlynol am eu cefnogaeth: Ein noddwyr ... Rondo, Rownd a Rownd, Ochr 1, S4C, Cwmni Da, Y Lolfa, Coleg Ceredigion, Heno, Y Stiwdio Gefn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, BBC Radio Cymru, Corryn Du, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Sain, Gorwelion a Phrifysgol Aberystwyth Gwerthwyr tocynnau ... Siop Inc, Awen Meirion, Palas Print, Llên Llŷn, Yr Atom ac UMCA Ffrindiau da ... Elis, Griff a chriw Ochr 1; Gareth Iwan a chriw C2;

rhaglen_A5.indd 14

Aled Ifan a’i griw; Iwan Standley; Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth; Dyl Mei; Gethin Evans; a holl stiwardiaid Gwobrau’r Selar. Panel Gwobrau’r Selar ... Gwilym Dwyfor, Owain Gruffudd, Miriam Elin Jones, Bethan Williams, Lois Gwenllian, Tanwen Mair Cray, Elan Elidyr, Steffan Marc Rees, Sam Rhys a Nia Haf. Ac wrth gwrs, i chi am ddarllen Y Selar, pleidleisio dros y gwobrau, dod i’r noson wobrau ac am gefnogi’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

17/02/2016 22:33


rhaglen_A5.indd 15

17/02/2016 22:33


Sefydlwyd ym

Dros 140 mlynedd o ragoriaeth

Y Coleg ger y lli ...ers 1872 • •

Ystod amrywiol o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg Seminarau Cymraeg a thiwtor personol Cymraeg ar gael ar bob cwrs (gan gynnwys cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg) Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phecyn hyd at £15,000 gan y Brifysgol

• • •

Cyfle i ymuno â gweithgareddau cymdeithasol UMCA a’r Geltaidd Cyfle i fyw yn y Gymraeg - dewis o lety cyfrwng Cymraeg ar gael Cymuned gosmopolitan a chlos

Aber… 020216 - 20599

y dewis naturiol

www.aber.ac.uk/cy

rhaglen_A5.indd 16

17/02/2016 22:33


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.