Rhaglen Gwobrau'r Selar 2014

Page 1

A DDIM M

rhaglen swyddogol

gWOBRAU’R

SELAR 15.O2.14 Canolfan y celfyddydau Aberystwyth Arts Centre


croeso

i Noson Wobrau’r Selar

Croeso i chi gyd i’r ail noson Wobrau’r Selar! Wedi llwyddiant ysgubol y noson wobrau gyntaf erioed ym Mangor llynedd, eleni rydan ni wedi mudo i’r Canolbarth, ac i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bwriad y digwyddiad ydy dathlu’r flwyddyn gerddorol a fu, ac am flwyddyn oedd 2013 i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Ar un llaw roedd 2013 yn flwyddyn gythryblus wrth i’r ffrae breindaliadau rygnu ymlaen. Ond, ar y llaw arall roedd yn flwyddyn wych i gerddoriaeth newydd yn y Gymraeg, gyda llwyth o recordiau hir a byr yn cael eu rhyddhau a nifer fawr o artistiaid newydd addawol yn creu marc. Mae Gwobrau’r Selar yn gyfle i ni gael blas o nifer o artistiaid prysuraf y flwyddyn, a chynnal parti i ddathlu blwyddyn wych. Dyma’r bumed flwyddyn i ni gynnal pleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych wrth i chi ddangos eich gwerthfawrogiad o’r artistiaid a phobl eraill sy’n gweithio’n galed i gynnal y sin. Heb os mae canlyniadau’r bleidlais – y rhestrau byr a’r enillwyr – yn adlewyrchiad teg o’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod 2013. Dylid achub ar y cyfle i ddiolch i’r holl gwmnïau a sefydliadau sydd wedi noddi’r gwobrau eleni – mae eu cefnogaeth yn amhrisiadwy ac yn hanfodol i wneud y digwyddiad yma’n bosibl. Does dim ar ôl i’w wneud ond diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi Y Selar, a’n noson wobrau fawreddog unwaith eto eleni – mwynhewch y parti!



amserlen

Y Stiwdio (17:00 – 20:00) 5:00 Gramcon 5:20 Casi Wyn 6:00 Gramcon 6:20 Gildas 7:00 Gramcon 7:20 Kizzy Crawford Neuadd Fawr (20:00 – 01:00) Cyflwynwyr: Dyl Mei a Gethin Evans 8:10 Yr Eira 8:35 Cyflwyno gwobrau ‘Gwaith Celf Gorau’; ‘Artist Unigol Gorau’; ‘Fideo Gorau’ 9:00 Bromas 9:30 Cyflwyno gwobrau ‘Cyflwynydd Gorau’; ‘Cân Orau’ 9:50 Sŵnami 10:30 Cyflwyno gwobrau ‘Band neu Artist Newydd Gorau’; ‘Digwyddiad Byw Gorau’; ‘Record Hir Orau’ 11:00 Candelas 11:45 Cyflwyno gwobrau ‘Hyrwyddwr Gorau; ‘Record Fer Orau’; ‘Band Gorau’ 12:15 Yr Ods * Set DJ gan Crash.Disco! rhwng pob set


DIOGELWCH a RHEOLAETH DIGWYDDIADAU

EMLYN JONES

07980 714019

www.diogelevents.weebly.com


rhestraubyr

Record Hir Orau Llithro – Yr Ods Candelas Bywyd Gwyn – Y Bandana Record Fer Orau 1 – Casi Wyn Sudd Sudd Sudd – Sen Segur Du a Gwyn – Sŵnami Cân Orau Anifail – Candelas Gwreiddiau – Sŵnami Elin – Yr Eira Hyrwyddwr Gorau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Nyth Pedwar a Chwech Gwaith Celf Gorau Llithro – Yr Ods Du a Gwyn – Sŵnami Un Tro – Siddi Cyflwynydd Gorau Huw Stephens Lisa Gwilym Tudur Owen


Artist Unigol Gorau Casi Wyn Kizzy Crawford Georgia Ruth Williams Band neu Artist Newydd Gorau Yr Eira Kizzy Crawford Y Cledrau Digwyddiad Byw Gorau Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych Maes B, Steddfod Dinbych Taith Candelas, Hud a Sŵnami Band Gorau Y Bandana Sŵnami Candelas

Fideo Cerddoriaeth Gorau Mae categori newydd Fideo Cerddoriaeth Gorau eleni – mae panel Gwobrau’r Selar wedi dewis enillydd o restr hir ellir ei gweld ar www.y-selar.com


iaith fyw. gigs byw. cymdeithas.org

Rydyn ni eisiau | canu | chwe chweRthin thin | gigio caRu u | Rapio apio | gwaeddi | byw yn gym g Raeg Untitled-2 1

1/2/14 14:10:41


ll

ra

ea

yll

@

W

ll

ra

ll

ra

ea

yll

@

rh yt ti an e o d isia ub yll ĂŽ m e@ Y L od yll e.c yn l e o.u ? k

ea

yll

@


Pob hwyl i artistiaid labeli Sain, Rasal, Copa a Gwymon heno

www.sainwales.com ff么n 01286 831.111 sain@sainwales.com

MAE DY DDYFODOL YN DECHRAU YMA www.ceredigion.ac.uk 01239 612032 | 01970 639700 /colegceredigion

@colegceredigion


Y Selar Y Selar yw’r cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes sy’n cael ei gyhoeddi’n chwarterol. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn Nhachwedd 2004, a rhifyn Ebrill 2014 fydd rhifyn rhif 36. Mae’r Selar yn cael ei ariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Cysylltwch ag un o’r tîm golygyddol (isod) os hoffech gyfrannu at Y Selar yn y dyfodol. Tîm Y Selar Golygydd: Gwilym Dwyfor (gwilymdwyfor@hotmail.co.uk) Uwch Olygydd: Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) Dylunydd: Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com) Hysbysebion: Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) www.y-selar.com / @Y_Selar / facebook.com/cylchgrawnyselar Diolchiadau Hoffai’r Selar ddiolch i’r canlynol am eu cefnogaeth: Ein noddwyr ... Rondo, Rownd a Rownd, Ochr 1, S4C, Sain, Y Lolfa, Coleg Ceredigion, Heno, Y Stiwdio Gefn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Diogel Gwerthwyr tocynnau ... Sadwrn.com, Siop Inc, Andy’s Records, Palas Print ac UMCA Ffrindiau da ... Elis, Griff a chriw Ochr 1; Gareth Iwan a chriw C2; Iwan Standley; Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Dyl Mei; Gethin Evans; Panel Gwobrau’r Selar ... Alan Baker, Gwilym Dwyfor, Owain Gruffudd, Ciron Gruffydd, Ianto Gruffydd, Lowri Johnston, Miriam Elin Jones, Gwyndaf Lewis, Elin Siriol, Casia Wiliam Ac wrth gwrs, i chi am ddarllen Y Selar, pleidleisio dros y gwobrau, dod i’r noson wobrau ac am gefnogi’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Tlysau Gwobrau’r Selar Mae tlysau Gwobrau’r Selar wedi’i creu gan y crefftwr Landrinio, Miri Collard. Gwaith copr ar bren ydy gwneuthuriad y tlysau gwreiddiol eleni.

www.y-selar.com



Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.