Welsh wrexham says hello

Page 1

i deimlo’r wefr

trowch y

dudalen

ein busnes ni yw

creu hello world

helo byd gweithio byw chwarae

wrecsam


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

I’R HELEDD WEN

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach. Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

1 2

15

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

9 10 11 12 13

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

★ 14

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd. Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

I'R EGLWYS WEN

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

63

64


sut ma’i?

www.facebook.com/wxmsayshello

#wxmsayshello

sganiwch fi 3


byw

gweithio

helo byd www.wrexhamsayshello.co.uk 4


chwarae

byw siopa a’r diwylliant caffi bywyd nos cefn gwlad a’r pentrefi

6 8 12 14

cariad hanes a threftadaeth diwylliant meibion a merched enwog cynhyrchion lleol

18 20 26 30 32

cynnwys dyfrbont pontcysyllte credydau Wedi ei bweru gan yr ideoleg Wrecsam Yfory. Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk Mae’r cyfranwyr ffotograffau yn cynnwys Eye Imagery, Hawlfraint y Goron (2012) Croeso Cymru, Prifysgol Glyndwˆr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Getty Images, Macesport a Moneypenny. Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg. Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sydd a wnelo unrhyw fodd â chyhoeddi’r wybodaeth y mae hwn yn ei gynnwys neu sydd yn deillio ohoni.

canol

creu ein busnes ni yw creu plant yr haul teigr teigr llewyrchus, ffyniannus mae gwybodaeth yn rym eich busnes: ein busnes

34 36 39 42 42 44

chwarae chwaraeon cerdded bywyd y parc y warchodfa natur digwyddiadau

46 48 54 56 58 59

hwyl fawr mapiau

60 62

5


Byw’r freuddwyd, wyt ti? Os wyt ti’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, efallai’n wir dy fod ti. Ac os wyt ti’n ymweld, yn astudio neu’n gweithio yma, efallai y cei di flas arno.

www.wrexhamsayshello.co.uk 6


byw

7


Dôl yr Eryrod

siopa a’r diwylliant caffi Mae’n hollol siw ˆ r bod siopa yn un o’r gorau o bleserau bach bywyd. Rydyn ni wrth ein bodd efo siopa. Siopa hamddenol wrth gwrs, heb orfod brysio a digon o amser i fwynhau coffi bach efo papur newydd y bore hwnnw neu ryw gylchgrawn dylunio mewnol gwych. Tamaid bach i fwyta efallai. Dim byd wedi ei gynllunio, dim ond posibiliadau. Wel, dyma’r newyddion da. Dyna’n union y math y siopa y byddwn ni’n ei wneud yn Wrecsam, y math sydd wedi ei wneud er mwyn ei fwynhau, achlysur cymdeithasol. 8

brandiau’r enwau mawr Gadewch i ni ddechrau efo Dôl yr Eryrod. Ers ei hagor yn 2008, mae’r ganolfan siopa ffasiynol hon wedi bod yn gymorth i saethu Wrecsam i fyny’r cynghreiriau siopa swyddogol. Mae hi ar wyth acer o ganol y dref ac mae naws gosmopolitan hyfryd i’r lle efo’i mannau agored, nodweddion dwˆr, defnyddiau hyfryd o gerrig a llechi, fflatiau ar ben yr adeilad ac ychydig bach o ddiwylliant caffi. Hyfryd iawn. Mi weli di siopau mawr fel Debenhams, Marks and Spencer, Next a llond y lle o frandiau ffasiwn o fri, coffi gwyn ewynnog a chacennau bach mewn llefydd


fel Starbucksa Costa. Hefyd mae siopau ffôn symudol sy’n cynnig y taclau a’r geriach diweddaraf i dy gadw di’n siarad, neges destun a thrydar. Mae Sinema’r Odeon yno hefyd, llawer o dai bwyta a chanolfan bowlio deg (mwy am hynny i ti ar dudalen 12). Ac i wneud y coffi a’r cacennau ’na yn fwy melys, mae digonedd o le i barcio hefyd (970 o leoedd yn fanwl gywir). Felly does dim rhaid byth i ti boeni lle i barcio dy gar. Mae bywyd yn dda. Dôl yr Eryrod www.eagles-meadow.co.uk

y rhai annibynnol Felly, rydyn ni’n gwneud pethau’n fawr ac yn hardd, ond mi fedrwn ni wneud ‘tlws yw popeth bychan’ hefyd. Ger ein lleoedd manwerthu mawr mae gennym strydoedd hanesyddol fel Allt y Dref, Stryt y Banc a Rhes y Deml, a llawer o siopau bach annibynnol hynod sy’n rhoi calon a swyn i’r dref. I’r dim ar gyfer pobl sy’n hoffi bod yn wahanol i’r cyffredin. Siopa ar gyfer yr annibynnol eu meddwl. Siopau bach ffasiwn, gemyddion, gweithdai ffotograffwyr, siopau lle gweli di jariau

9


yn llawn hyd yr ymyl o fferins hen ffasiwn, fel ‘swizzle boms’, ‘sugar twirls’ a danteithion eraill i ddeffro’r plentyn 10 oed ynot ti. www.wrexham.towntalk.co.uk

marchnadoedd Mi wnei di sylwi rhywbeth arall hefyd pan fyddi di’n siopa yn Wrecsam. Rydyn ni’n hoff iawn o sgwrsio. Dyna’r math o beth sy’n digwydd mewn tref farchnad. Mae gennym ni dair marchnad dan do ac un wythnosol tu allan yng nghanol y dref, yn gwerthu popeth o sosej a stecen i ddillad a dodrefn. Ac mae hwyl y sgwrs yn rhad ac am ddim. Dyna fargen.

10

Mae’r Farchnad Gig, y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Bobl yn agored o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (er bod y ddwy gyntaf yn cau’n gynnar dydd Mercher). Ac maen nhw’n cynnal y farchnad wythnosol tu allan bob dydd Llun. Wnaethon ni sôn hefyd ei bod hi’n un o’r mwyaf yng Ngogledd Cymru? Hefyd, maen nhw’n gwerthu amrywiaeth o grefftau a chynhyrchion lleol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. Eisiau enghraifft? Dos i weld marchnad fisol y ffermwyr yn Eglwys y Santes Farged yn Garden Village. Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015


parciau manwerthu Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio, mae Wrecsam wedi bod yn un o’r canolfannau manwerthu sydd wedi tyfu gyflymaf yn y DU. Ffaith: 615,000 o droedfeddi sgwâr o loriau siop wedi eu hadeiladu ers 1999. Mae rhywun yn rhywle wedi bod yn siopa o ddifrif. Mae llawer iawn o’r twf yma wedi bod ar y gwahanol barciau manwerthu sydd wedi tyfu yn ac o gwmpas canol y dref, yn cynnwys y Ganolfan Ganolog, Plas Coch a’r Werddon – efo digonedd o barcio gan bob un. Mi weli di lawer iawn o fanwerthwyr enwau mawr yn gwerthu popeth o ddillad chwaraeon i nwyddau trydanol, ac o ddodrefn i fwyd a diod.

fyny, mynd o glyw bwrlwm y dyrfa am funud a rhoi’r bagiau siopa ’na i lawr. Mae mannau agored fel Llwyn Isaf a Pharc Bellevue yn cynnig lleoedd tawel hyfryd yn agos at ganol y dref, lle gelli di ymlacio ac edmygu’r bargeinion call rwyt ti wedi eu prynu. Lleoedd i arfer dy gampau ar y bwrdd sgrialu, taflu ffrisbi neu eistedd yn yr haul. Efo hufen ia? Dyddiau dedwydd.

siopa allan o’r dref Edrycha o dy gwmpas. Mae cefn gwlad Wrecsam yn cynnig therapi manwerthu mewn lleoedd digon o syndod, fel Canolfan Grefftau a Manwerthu’r Plasau.

parciau canol y dref

Mewn 247 o aceri o dir parc ger Bangor Is-coed, mae ganddi 25 o siopau yn cynnwys dylunydd mewnol, siop ffasiwn, gof, canolfan arddio, siop de a thyˆ bwyta.

Gair o rybudd rwˆan. Mae siopa yn wych, ond weithiau mae’n rhaid i ti roi dy draed i

01978 780277 www.plassey.com 11


bywyd nos

rwyt ti am glywed y sw ˆ n yna tro ar ôl tro.

Mae’n wir. D’wyt ti byth yn rhy hen i fynd i’r parti.

Croeso i sbloet a sbri’r bowlio deg, Tenpin Bowling, yn Nôl yr Eryrod. Mae hon yn un o’r canolfannau diweddaraf o’i math efo 24 o lonydd, sy’n dod â darn bach o America i ganol Wrecsam.

Felly, mae’n beth da bod canol tref Wrecsam yn fwrlwm yn y nos. Tai bwyta, bariau, clybiau nos, sinema, bowlio deg. Mae’r cwbl yma. Taset ti i lawr efo’r plantos, allet ti ddweud ei fod yn ‘ffat’ neu’r ‘bom’, ond mae’r arweiniad yma wedi ei sgwennu gan bobl yn eu 30au, felly dyna ddigon o hynny.

bowlio, sinemâu a thai bwyta Mae’n berygl iawn i fowlio deg gael gafael ynot ti’n llwyr. Y sioe oleuadau, y gerddoriaeth, clecian y pinnau. Wedyn pan wyt ti’n eu taro nhw i lawr,

12

“Mae bowlio yn un o’r ychydig o weithgareddau y mae pawb yn medru ei fwynhau,” dywed y rheolwr Vince Brown. “Mae ar gyfer pob oed a phob gallu.” Wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Wel, dos i weld ffilm yn yr Odeon wyth sgrin sy’n union y drws nesaf neu fwynhau dathlu dy gampau bowlio mewn tai bwyta fel Nando’s, Pizza Express a Frankie and Benny’s. www.tenpin.co.uk www.eagles-meadow.co.uk

Bowlio Deg yn Tenpin Bowling


clybiau nos a cherddoriaeth fyw Fyddem ni ddim yn dweud bod Wrecsam byth yn cysgu, ond mae’n aros ar ei thraed yn ddigon hwyr i blesio hyd yn oed y jolihoetiwr mwyaf erioed.

sydd ganddyn nhw i lawr y grisiau Yales Café Bar yn cynnig cymysgedd llesmeiriol o gigiau, clybiau nos a chomedi. Y Magic Numbers, Charlatans, y Kooks, Kasabian. Maen nhw i gyd wedi chwarae yma, a bandiau lleol dawnus dros ben.

Bariau fasiynol, sofas lledr, llwyfannau bach dawnsio, lliwolchiadau LED. Enwau fel y Bank, Voodoo Moon, L’Etage, Ironworks ac Envy yn clecian ar dafodau’r galifantwyr nos Sadwrn yn penderfynu’r lle nesaf i fynd.

Mae digonedd hefyd o leoliadau eraill i ti fynd i roi cynnig arnyn nhw lle maen nhw’n chwarae cerddoriaeth fyw, yn cynnwys bar y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndw ˆr.

Ac os wyt ti’n un am dy gerddoriaeth fyw, dyma’r lle i ti. Mae Central Station a’r lle

www.wrexhammusic.co.uk www.centralstationvenue.com 13


cefn gwlad a’r pentrefi Perthi toreithiog, toeau gwellt, bythynnod bach tlws, hen dafarnau hudolus. Mae’n swnio fel un o setiau Midsomer Murders, ond siarad ydym ni am rai o’r pentrefi swynol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Hefyd – a bydd clywed hyn yn rhyddhad mawr i ti – maen nhw’n byw’n hirach yno fel arfer nag yn y ddrama dditectif ffuglen ar y teledu. Un o’r pethau sy’n wych ynglyˆn â Wrecsam yw bod gennym y gorau o fywyd y dref a bywyd y wlad. Mae hi’n dref gyfoes llawn bwrlwm yng nghanol cefn gwlad hyfryd a phentrefi dymunol braf. Ac mi fedri di fynd o un pen i’r llall mewn chwinciad.

gresffordd Mae gan Gresffordd un o’r eglwysi mwyaf godidog yng Nghymru, sef Eglwys yr Holl Saint o’r 15fed ganrif. Hefyd mae pwll y pentref yn ddigon mawr i’w alw’n ‘Llyn’ ganddyn nhw yn aml. Ychydig i lawr y ffordd ger Rhos Gresffordd, neu Gresford Heath, mae cofeb i’r diwrnod mwyaf trist yn hanes Wrecsam, sef Medi’r 22ain 1934, pan gafodd 266 o ddynion eu lladd mewn trychineb yn y pwll glo. www.gresford.org.uk

Dyma olwg bach sydyn ar rai o’n trefi a phentrefi gwledig. 14

Y Llyn, Gresffordd


Castell y Waun

holt D’wyt ti ddim yn mynd drwy Checkpoint Charlie, chwarae teg, ond dos am dro o Holt dros yr Hen Bont ar Afon Dyfrdwy a byddi mewn gwlad arall – Lloegr.

Y Felin Uchaf, Yr Orsedd

yr orsedd Efallai y bydd pobl sy’n hoff o gelfyddyd yn adnabod y Felin Uchaf ar Afon Alun yn Yr Orsedd. Gwnaeth JMW Turner fraslun ohoni ym 1795.

Mae adeiladau hynafol nodedig eraill yno hefyd, fel adfeilion Castell Holt ac Eglwys St Chad – sy’n un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi parhau o wneud smonach o gynllunio yn yr oesoedd canol. Ond eto, mae golwg hyfryd arni serch hynny. www.holtvillage.co.uk

Roedd ychydig yn rhy gynnar i alw am damaid yn yr Ystafelloedd Coco, yr adeilad hanner ffrâm bren o oes Fictoria. Cafodd y rhain eu codi i ddenu dynion ifainc o dafarnau’r pentref, sydd, byddwch yn falch o glywed, yn dal yno ac yn dal yn brysur iawn. www.rossett.org.uk Pont Holt

15


owrtyn Mae Owrtyn yn llawn dop o adeiladau hanesyddol, cymaint felly ei bod hi wedi ei dynodi’n ardal gadwraeth.

canol. Maen nhw’n pysgota yn yr afon, golff gerllaw a rasio ceffylau dim ond ychydig gannoedd o lathenni o ganol y pentref. www.bangorondeecommunitycouncil.co.uk

Chwilia am Res y Fferyllfa - rhes o fythynnod Neo-gothig gyda bwâu ar bennau’r drysau a’r ffenestri. Mae yno hefyd Stryd Fawr arbennig o lydan, wedi ei hailwampio wedi i’r pentref gael ei ddyrchafu’n fwrdeistref gan Iorwerth y Cyntaf. www.overton-on-dee.co.uk bangor is-coed Mewn lleoliad syfrdanol ar lan Afon Dyfrdwy, rwyt ti’n mynd i mewn i Fangor tros bont gerrig gefngrom o’r oesoedd

16

y waun a dyffryn ceiriog Tref fach yw’r Waun ond mawr o ran yr hyn y gall ymfalchïo ynddo – dyfrbont o waith Thomas Telford, traphont o waith Henry Robertson, castell mawreddog a godwyd gan Iorwerth y 1af a maes golff pencampwriaeth. Mae hi hefyd ar drothwy un o’r dyffrynnoedd harddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog (mwy o wybodaeth ar dudalen 54) www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

Rhes y Fferyllfa, Owrtyn

Bangor Is-coed

Castell Y Waun

Pont Owrtyn


Dyfrbont a Thraphont Y Waun

rhiwabon Dyma bentref â hanes hir iddo. Mae tystiolaeth o anheddiad oes yr efydd ac mae’r Tyˆ Crwn neu’r Hen Garchar ar Stryt y Bont yn un o dri yn unig o garchardai neu dai cloi canoloesol sydd wedi parhau yng Nghymru. Ac os ei di ar grwydr i lawr y Stryd Fawr, mi wnei di sylwi bod tai o oes Fictoria wedi eu gwneud o frics coch Rhiwabon sy’n adnabyddus trwy’r byd yn grwn. Mae Giatiau trawiadol Wynnstay i’w gweld yno hefyd ar Stryt y Parc ac mae’n rhaid yn wir i ni sôn am y Bridge End – a gafodd ei henwi’n ddiweddar yn dafarn orau ym Mhrydain gan y wybodusion y cwrw go iawn, CAMRA. Maen nhw’n bragu cwrw yn y dafarn hefyd, un sydd wedi ennill gwobrau. www.ruabon.com hanmer Yn yr eglwys yn Hanmer ym 1383 y priododd

Owain Glyndwˆr, efallai’r Cymro mwyaf erioed. Cafodd honno ei llosgi, ond paid â siomi. Mae’r un a godwyd yn ei lle yn y lleoliad mwyaf trawiadol yn y fwrdeistref sirol i gyd. Rwyt yn dod ati o lyn rhewlifol, lle mae heidiau o wyachod copog, elyrch a gwyddau Canada. Rwyt ti’n mynd i mewn trwy giatiau haearn addurnol a thrwy fynwent fawr sy’n ymestyn i fyny’r allt at yr eglwys. Bydd yn barod i gael dy syfrdanu. erbistog A llonyddwch y lôn goed gul o Bont Owrtyn heibio i’r Garden House “i lan na thref nid arwain ddim” – heblaw i un o’r pentrefi mwyaf godidog yn Wrecsam. Mae lleoliad Erbistog ar lannau Afon Dyfrdwy wedi ysbrydoli arlunwyr a ffotograffwyr ers canrifoedd. Mae tafarn a thyˆ bwyta hardd o’r enw The Boat, cyn hyned â’r 13eg ganrif ac eglwys Neo-gothig annisgwyl o fawreddog. 17


cariad

www.wrexhamsayshello.co.uk 18


Maen nhw’n dweud y gwir, bod cariad uwchlaw popeth. Ac mae llawer iawn i’w garu yn y lle yma, ei hanes, ei bersonoliaeth, diwylliant. Wrecsam yn dy galon!

Y Gegin Newydd yn Erddig

19


hanes a threftadaeth Pan orffennodd Thomas Telford ei dyfrbont ym Mhontcysyllte ym1805, hwn oedd y lle uchaf yn y byd yr oedd cychod yn gallu hwylio drosto. Mae’n dal i fod. Mae’n dal i fynd â theithwyr ar daith orau eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y byd. Oherwydd yn 2009, gwnaeth UNESCO’r campwaith hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd – ynghyd ag 11 o filltiroedd o gamlas, yn cynnwys Dyfrbont y Waun a rhannau o Siroedd Dinbych ac Amwythig cyfagos. 20

Y peth yw, dydyn ni ddim am ddweud yr hanes i gyd wrthot ti ar unwaith. Rydym ni am gadw rhywbeth yn ôl, cadw dy ddiddordeb. Felly, wnawn ni egluro popeth nes ymlaen yn ‘harweiniad bach twt’ i’r Safle Treftadaeth Byd, ac mae copi cyfleus iawn o hwnnw yng nghanol y llyfryn yma.

eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol Y tro nesaf y byddi di’n tocio dy wrych, paid ag anghofio’r pen garddwr yng Nghastell y Waun. Mor anferthol yw’r gwrychoedd yw bod eisiau tua wyth wythnos ar dîm o ddynion i’w twtio nhw, pob un wrthi efo tociwr


Castell y Waun

Dyfrbont Pontcysyllte

trydan ac yn creu tunelli o ddail a brigau.

bara brith cartref bendigedig.

Dychmyga roi hynny i gyd yn dy fin olwynion gwyrdd. Ond mae’n werth bob tamaid, cofia. Cafodd y gerddi eu pleidleisio’r gorau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol un tro.

Ein heiddo arall gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (dydyn ni ddim am frolio, ond oes - mae gennym ni ddau) yw Erddig.

Mae’r castell ei hun yn un o gadarnleoedd y Gororau, a godwyd ym 1310. Ond nid hen furddun mo hwn. Y gwir yw ei fod yn gartref ers 700 o flynyddoedd. Mae’r rhandai bonheddig mawreddog o’r 18fed ganrif yn llawn dop o waith plastr cywrain, dodrefn yn null Adam, gwaith tapestri a phortreadau. Ac yn yr ystafell de maen nhw’n gwneud

Os oeddet ti wedi dy gyfareddu gan y gyfres oedd ar y teledu yn ddiweddar Downton Abbey, byddi di’n deall yn iawn os dywedwn ni bod Erddig yn lle ‘i fyny ac i lawr y grisiau’. Mae gan y cartref bonedd hwn gymaint i’w ddweud am fywydau’r gweision ag am y perchnogion. Castell y Waun 01691 777701 Erddig 01978 355314 www.nationaltrust.org.uk 21


amgueddfa bwrdeistref sirol wrecsam

rhyngweithiol newydd sy’n dod â’r arddangosfeydd yn fyw, gan adrodd hanes Wrecsam efo’r dechnoleg newydd.

Beth am ein plesio ni rw ˆ an? Dychmyga dy fod yn ôl yn yr ysgol (oni bai dy fod yn dal yn yr ysgol). Maen nhw’n gofyn i ti ysgrifennu traethawd am hanes Wrecsam o’r dechrau at heddiw.

Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod beth f yddai preswylydd hynaf yr adeilad yn ei feddwl o’r newidiadau i gyd. Un distaw braidd yw hwn, ond wedyn mae’n 3,500 oed.

Rw ˆ an ’te, mi allet ti estyn am y gliniadur a chael sgwrs fach efo Mr Google (neu unrhyw beiriant chwilio dibynadwy arall). Ond mi fuasai mynd am dro i lawr i amgueddfa’r fwrdeistref sirol yn llawer mwy o hwyl i ti.

Wedi ei gloddio allan gan weithwyr oedd yn torri ffos ym Mrymbo ym 1958, dim ond sgerbwd o fri oedd ‘Dyn Brymbo’ am blwc. Wedyn, wnaethon ni ofyn i’r Dr Caroline Wilkinson o’r rhaglen Meet the Ancestors ary BBC a fyddai hi’n ail-greu ei wyneb. Mae hi’n ddynes fedrus iawn.

Bu’r adeilad yn ffodus o gael ei ailwampio yn 2010, efo estyniad trawiadol o wydr yn cynnig adran gaffi fendigedig, derbynfa a siop. Mae digonedd yno hefyd o daclau a geriach

Beth am y traethawd ’na? Siw ˆ r o gael marciau llawn. 01978 297460

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

22


Gwaith Haearn y Bers

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

gwaith haearn a chanolfan dreftadaeth y bers Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterth yn y 18fed ganrif, enw’r perchennog yno oedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson. Rw ˆ an, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’n ddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn un oedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wedi ffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannau ager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efo cymorth silindrau wedi eu gwneud yn y Bers). Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygodd broses chwyldroadol a oedd yn fodd iddo dyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet.

Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfau i’r ddwy ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America a chafodd canonau’r Bers eu tanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydain ac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn. Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yng ngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un o feibion mwyaf arloesol – a hynod – Wrecsam. Dos yno i weld. A thra’r wyt ti yno, dos i weld y ganolfan dreftadaeth yn ymyl. Yno mae pob un o gasgliadau treftadaeth ddiwydiannol Wrecsam ac mae’n egluro’r modd y gwnaeth haearn, glo a phlwm weddnewid tref farchnad fach i fod yn un o bwerdai economaidd y 18fed a’r 19eg ganrif. 01978 318970 www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

23


Cofeb y Glowyr, Gresffordd

glo a dur Fel y gwaeth rhannau helaeth o Gymru, treuliodd Wrecsam y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf yn cloddio am lo, glo i gynnal tân rhawd ddiwydiannol Prydain Fawr. Ni fydd Wrecsam byth yn anghofio ei balchder yn ei gwreiddiau glofaol, ond bu’n rhaid talu am hynny. Medi’r 24ain, 1934. Ffrwydrad anferthol yn nyfnderoedd pell y ddaear yng Ngwaith Glo Gresffordd. 266 wedi eu lladd, yn wyˆr, tadau, meibion a brodyr. Nid yw Wrecsam erioed wedi eu hanghofio. Roedd dur hefyd yn un o gonglfeini economi’r dref. Yn ei anterth yn ystod y 60au a dechrau’r 70au, byddai Gwaith Dur 24

Brymbo yn goleuo’r gorwel efo’i fetel tawdd. Efo mwy na 2,000 o weithwyr yn llafurio nos a dydd a rhai o’r dulliau cynhyrchu dur mwyaf cyfoes, roedd yr holl beth yn debyg i olygfa o’r Metropolis gan Fritz Lang ond ar lethrau bryn yng Nghymru. Caeodd y safle ym 1990, ond os cerddi di i lawr Stryt yr Arglwydd yng nghanol tref Wrecsam mi weli di fwa cerfiedig wedi ei lunio ar ffurf glöwr a gweithiwr dur. Mae Wrecsam wedi credu erioed yn y dyfodol (byddwn yn rhoi gwybod mwy i ti am hynny ar dudalen 34) ond rydym yn falch o’n gorffennol hefyd. www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

exploring churches


o gwmpas hen eglwysi Mae tw ˆ r Eglwys San Silyn yn Wrecsam yn gan troedfedd a phymtheg ar hugain i’w ben uchaf ac yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Os oes digon o fynd ynot ti, dos ar ymweliad â’r twˆ r i weld golygfeydd syfrdanol ar draws Wrecsam i gyd a thu hwnt. Ac wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Dos i weld rhai o’n heglwysi eraill ni. Yn ogystal â bod yn lleoedd i weddïo a myfyrio, mae’r trysorau pensaernïol hyn yn dod â hanes ein trefi a’n pentrefi, sydd wedi bod yn ddigon cythryblus o bryd i’w gilydd, yn fyw eithriadol. Dyna i ti eglwys y Santes Fair yn Rhiwabon. Y tu mewn iddi, mi weli di furlun o’r 15fed ganrif a bedyddfaen o’r 16th ganrif. Y tu allan, mi weli di Borth Mynwent addurnol, rhan ohono wedi ei gerfio o bren derw lleol Wynnstay ac wedi ei gysegru’n Gofeb Ryfel i’r Plwyf ym 1920

(pan oedd Prydain yn dal i geisio dygymod â’r holl golli bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf). Yn Eglwys St Chad yn Holt mae tyllau bwledi i’w gweld a ddigwyddodd mewn sgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ac yng Nghadeirlan y Santes Fair yn Wrecsam, mae capel wedi ei gysegru i’r merthyr Richard Gwynne a gafodd ei grogi, ei dynnu a’r chwarteru ym 1584 – a’i wneud yn sant ym 1972. Mae pymtheg o’n heglwysi wedi dod at ei gilydd i greu Rhwydwaith yr Eglwysi Agored. Mae gan bob un ei hanes ysgogol ei hun i’w adrodd ac mae pob un wedi ymrwymo i roi croeso i ymwelwyr.

Eglwys San Silyn 01978 355808 Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 Rhwydwaith yr Eglwysi Agored www.openchurchnetwork.co.uk Eglwys San Silyn, Wrecsam

25


diwylliant Rydym yn hoff o ddiwylliant yn Wrecsam. Cymaint yr ydym yn ei hoffi, wnaethon ni dreulio blwyddyn gyfan yn ei ddathlu. 2011 oedd ein Blwyddyn Diwylliant swyddogol ni, efo mwy na 300 o ddigwyddiadau wedi eu neilltuo ar gyfer celfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn a hoffterau creadigol eraill. Felly, lle cei di dy fodloni yn 2012? Rho gynnig ar hyn.

26

Mae Oriel Wrecsam yn un o’n prif ganolfannau celfyddyd ac yn lle gwych i weld celfyddydau a chrefftau gorau ein cyfnod. Ond os byddi di’n dod i unrhyw ddosbarth y byddwn yn ei gynnig, bydd yn barod i dorchi dy lewys. Rydym ni’n meddwl y dylai celfyddyd fod yn rhyngweithiol. Mae Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndwˆr yn arddangos gwaith gan artistiaid o fri rhyngwladol, a gan rai a allai’n wir fod yn enwog un diwrnod – ei myfyrwyr ei hun.

celfyddyd

Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu ymdrwytho yn yr arddangosfeydd sy’n newid byth a beunydd yn Oriel Goffa Coleg Iâl am ychydig o oriau bob diwrnod o’r wythnos.

Nid edrych yn unig ar gelfyddyd y byddwn ni’n ei wneud yn Wrecsam (er bod hynny’n ddifyr iawn). Rydym yn hoff o faeddu ein dwylo hefyd.

Oriel Wrecsam 01978 292093 Oriel Sycharth www.glyndwr.ac.uk Oriel Goffa Coleg Iâl 01978 311794


Côr Meibion Y Fron

cerddoriaeth Gwyn fyd byd a gano. Ac mae Neuadd William Aston ym Mhrifysgol Glyndwˆr, efo’i 890 o seddau, mae gan Wrecsam leoliad efo’r modd i arddangos y gorau sy’n bod. O enwau mawr y byd clasurol, fel Cerddorfa Hallé ac Opera Genedlaethol Cymru) i fyd swing, motown a pop. Ac mi gei di fwy o gerddoriaeth eto ar y campws yn y Ganolfan Catrin Finch gerllaw. Wrth gwrs, fyddai hi ddim yn iawn petai gennym ni ddim ychydig o gorau o’r radd flaenaf yma yn Wrecsam, a ninnau’n Gymry ac yn falch o hynny.

I ddechrau, mae gennym gorau Brymbo, Y Rhos, Orffiws y Rhos a Dyffryn Ceiriog, wedyn y band bechgyn hynaf yn y byd – Côr Meibion y Fron. Mae’r hogiau wedi dod braidd yn enwog ers i’w record hir Voices of the Valley chwipio i ben y siartiau. Mae ein corau yn canu mewn nifer o leoliadau trwy gydol y flwyddyn. Weithiau mi gei di hyd yn oed fynd i eistedd yn yr ymarferion - heb orfod talu’r un ddimai goch. Côr Meibion y Fron www.fronchoir.com Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 27


Theatr y Stiwt

theatr Mae Rhosllannerchrugog, ychydig allan o Wrecsam, yn lle nodedig am lawer o resymau. Maen nhw’n dweud mai hwn yw’r pentref mwyaf yng Nghymru. Mae nifer o gorau gwych yno ac yno hefyd mae Theatr y Stiwt. Mae’r lleoliad, sy’n cynnal pob math o gerddoriaeth a dramâu, yn gymaint o ganolfan i ddiwylliant Cymru heddiw ag yr oedd yn ôl ym 1926, pan agorodd yn gyntaf. Mae’r Theatr Stiwdio fach gartrefol yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam, a’i 150 o seddau, yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, 28

tra mae Theatr Stiwdio Glan yr Afon - cartref Cymdeithas Theatr Gerddorol Wrecsam yn fwy fyth o ‘dyˆ bach twt’ efo lle i 120. Ymysg cedyrn eraill y byd amatur mae Theatr y Gelli, y mae ei chynyrchiadau wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedd ers 1925. Mae’r sioeau yn 2012 yn cynnwys After Miss Julie, Men of the World a Dracula. Theatr y Stiwt 01978 841300 www.stiwt.co.uk Theatr y Stiwdio 01978 311794 Theatr Stiwdio Glan yr Afon 01978 261148 Theatr y Gelli (Grove Park) 01978 351091 www.groveparktheatre.co.uk


diwylliant wrecsam Rydym yn hoffi diwylliant. Rydym yn hoff o gelfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn a phopeth arall. Ond fel pob man arall, mae gan Wrecsam ei diwylliant ei hun hefyd, y pethau bychain hynny sy’n rhoi iddi ei chymeriad. Weithiau mae hynny’n beth anodd i roi dy fys arno. Ond os ei di i sefyll ar derasau stadiwm pêl-droed y Cae Ras, efo’n cefnogwyr ni, yn cefnogi’n tîm ni, efallai y byddi di’n deall. Os ei di i mewn i dafarn a gweld pethau

cofiadwy ar hyd a lled y waliau sy’n deyrnged i’r hen Lagyr Wrecsam gwreiddiol, efallai y byddi di’n deall. Ac os byddi di’n eistedd yng nghefn neuadd bentref yn gwrando ar gôr meibion yn ymarfer - a chlywed y blew yn codi ar dy wâr - efallai y byddi di’n deall. Ac os gweli di’r llanciau a’r merched yn rhydd-redeg ar lawnt y Llwyn Isaf – yn neidio a throelli, heb fentro gwneud camgymeriad – neu gerddorion ifanc efo uchelseinydd gitâr wedi torri yn rhoi penrhyddid i’r freuddwyd greadigol ar gornel y ‘stryt’, mae’n siwˆr y byddi di’n deall.

29


meibion a merched enwog Mae llawer o bobl sy’n agos at galon Wrecsam, gormod i sôn amdanyn nhw yma, yn cynnwys enwogion sy’n falch o’u gwreiddiau a phobl ‘gyffredin’ sydd wedi gwneud rhywbeth anghyffredin. Fyddem ni wrth ein bodd yn rhoi gwybod i ti amdanyn nhw i gyd. Ond am y tro, dyma un neu ddau y gallet ti fod wedi clywed amdanyn nhw.

robbie savage Roedd yn un o ddynion caled pêl-droed oedd yn codi ofn. Mae ganddo’r gwallt delaf ar y teledu ac yn ddiweddar dangosodd ei ‘ddawn …s’ i’r byd. Mae cyn seren y brif gynghrair yn un o fechgyn Wrecsam o’i gorun i’w sawdl. Cipiodd galon a dychymyg y genedl yn 2011 wrth gystadlu yn erbyn enwogion eraill ar Strictly Come Dancing ar y BBC. Wnaethon ni roi ‘10’ iddo, ond wedyn roeddem ni o’i blaid. Mae hefyd yn ‘dwitiwr’ o fri, efo mwy na hanner miliwn o ddilynwyr ar Trydar. Dos i www.twitter.com a dilyn @RobbieSavage8

Robbie Savage

30


Dy arweiniad bach i’r Safle Treftadaeth Byd. Hwylus a hawdd.

Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

11 millt ir dreftad o aeth byd


Portread wedi ei engrafu o Thomas Telford a gyhoeddwyd ar glawr blaen yr ‘Atlas to the Life of Thomas Telford - Civil Engineer’ ym 1838. Wedi ei engrafu gan W. Raddon oddi ar baentiad gan S. Lane.

beth fyddai’r dyn yn ei ddweud “Ym mhob agwedd ar fywyd, mae’r un peth yn wir: dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y byddwn ni’n cyflawni pethau mawr. “Maen nhw’n dweud weithiau fy mod i wedi adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte. Dydy hyn ddim yn wir. Wnes i ddim ei wneud ar fy mhen fy hun, beth bynnag. Mi ges i gymorth. “Wnaeth pawb a chwaraeodd ran – pob crefftwr, gweithiwr a cheffyl – adael ei farc ar y byd. “Oherwydd ei bod hi’n dal yno heddiw. Yn dal i adrodd ei hanes wrth y cannoedd o filoedd o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn. Yn union yr un fath â’i chwaer hyˆn, Dyfrbont y Waun, Rhaeadr y Bedol ac adeileddau eraill cysylltiedig â’r gamlas gwnaethon ni eu codi. “Wnaethon ni eu codi fesul darn, gyda dewrder, cred a gweledigaeth. “Ac er bod yr hil ddynol wedi cyflawni pethau gwych ers fy nghyfnod i – wedi hollti’r atom, rhoi dyn ar y lleuad, darganfod penisilin – mae Pontcysyllte yn dal i gyffroi pobl, eu llonni a’u hysbrydoli. “Roeddwn i’n falch ohoni ym1805. A phe bawn i yma efo chi heddiw, mi faswn i’n dal yn falch. “Pan gei di brofiad ohoni, dwi’n gobeithio y byddi di’n teimlo felly hefyd.” Thomas Telford Peiriannydd Sifil 1757-1834

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk


naws athrylith Pan orffennodd Thomas Telford Ddyfrbont Pontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfan uchaf yn y byd ar gyfer badau camlas.

yn ddyn â gwir weledigaeth.

Mae hi’n dal yno heddiw, yn dal i fynd â theithwyr ar fadau’r gamlas ar daith eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y byd.

Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond roedd ymysg y mawrion, fel Steve Jobs, sefydlydd Apple a Bill Gates, sefydlydd Microsoft neu unrhyw un arall arloesol a chyfoes ei feddwl. Roedd yn ddyn o flaen ei amser.

Yn 2009 gwnaeth UNESCO y campwaith hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd – gydag 11 milltir o gamlas yn cynnwys Dyfrbont Y Waun a Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.

Nid gormod o gwbl yw dweud bod y dulliau a’r syniadau a ddatblygwyd ym Mhontcysyllte wedi helpu i lunio’r byd trwy eu heffaith ar beirianneg.

Erbyn hyn mae’n swyddogol yn un o’r safleoedd treftadaeth mwyaf yn y byd, cystal â lleoedd fel y Pyramidiau, y Taj Mahal a’r Acropolis. Pan fyddi di’n ei gweld, byddi’n gweld rhywbeth â naws athrylith arno, oherwydd bod Telford

Ond yr hyn sy’n wir syfrdanol yw’r modd y mae’r adeiledd yn dal i gipio dychymyg pobl, mwy na 200 o flynyddoedd wedi ei adeiladu. Mae’n dal i hudo pobl.


“Edrycha ond paid â chyffwrdd.” Mae rhai safleoedd treftadaeth yn rhy fregus i’w trin. Nid felly yma. Roedd adeileddau Telford – fel y dyn ei hun – yn gryf a gwydn. Felly does dim rhaid i ti fodloni ar sefyll yn ôl ac edmygu’r Safle Treftadaeth Byd o bell (er bod hynny ynddo’i hun yn ddigon o ysbrydoliaeth). Cei brofiad ohono mewn sawl dull a modd.

Dyma’r pump peth gorau gennym - i gychwyn. 1. croesi’r dyfrbontydd Wyt ti’n ddigon dewr i groesi’r afon yn yr awyr? Fedri di wneud hynny heb edrych i lawr? Cei gerdded ar draws Pontcysyllte, neu orffwys dy goesau a chroesi’n hamddenol mewn cwch. Ond mae arnat ti angen un peth i fynd efo ti. Camera. Welaist ti erioed y fath olygfeydd. Mae Dyfrbont Y Waun ychydig yn unig o filltiroedd i lawr yr afon. A byddet ti’n medru dadlau fod y golygfeydd yn well fyth. Mi fedri di bician ar draws ffin Cymru i mewn i Loegr. Ac os bydd hynny’n codi chwant bwyd arnat ti, dos yn dy flaen heibio i’r bythynnod del ar lan y gamlas i dafarn y Poachers Pocket. Neu Dafarn y Bont neu’r Bridge Inn. Mae bwyd da a chwrw go iawn y dy aros di yno.

2. am dro drwy’r twneli Os bydd cerdded ar draws y dyfrbontydd yn gwneud i dy galon di guro, aros nes byddi di wedi mentro i mewn i’r ‘Fagddu’. Ychydig lathenni i mewn i’r twnnel mi fyddi di’n deall yn iawn sut y cafodd ei enw. Mae’n dywyll go iawn, yn hir go iawn ac unwaith y byddi di hanner ffordd – does dim troi’n ôl. Mi fedri di gerdded trwodd heb dortsh. Mae’n gryn dipyn o antur. Ond efallai bod tortsh yn syniad da.

3. cerdded y llwybrau tynnu Dydy’r 11 milltir o Safle Treftadaeth. Byd ddim yn draffontydd dwˆr a thwneli i gyd. Mae cerdded ar hyd gweddill y llwybrau tynnu yn ffordd ddifyr o dreulio ychydig oriau. Cefn gwlad sy’n ferw o fywyd gwyllt, ond dim llawer o bobl, mewn geiriau eraill heddwch a llonydd. Amser da i feddwl os byddi di ar dy ben dy hun, amser i roi’r byd yn ei le os byddi di efo rhywun arbennig.


tyrd i gael y profiad Mae lleoedd i fwyta ar hyd y ffordd, fel y dafarn efo’r enw eithaf addas Aqueduct yn Froncysyllte. Hefyd tafarn y Thomas Telford (enw addas arall) ym masn Trefor. Neu dafarn y Sun Trevor, sy’n cynnig lle da i orffwys ac ymadfer rhwng Pontcysyllte a Llangollen. A’r gorau i gyd? Dim elltydd. Doedd hyd yn oed Telford yn medru gwneud i ddwˆr lifo i fyny, felly mae llwybrau tynnu’r gamlas yn wastad braf. Ond wedyn, os wyt ti’n gerddwr o ddifrif, mae digonedd o lwybrau diddorol iawn heb fod yn bell o’r llwybrau tynnu, yn cynnwys Llwybr Dyffryn Ceiriog (sy’n odidog) a’r enwog Glawdd Offa.

4. ar hyd y gamlas efo Togg Mae pobl wedi bod yn mwynhau cael eu tynnu mewn cychod o gei’r gamlas yn Llangollen ers 100 mlynedd a mwy. Yn wir, mae Togg, Geordie a’r ceffylau eraill yn dipyn o enwogion y dyddiau hyn ac maen nhw’n ddiolchgar am foronen neu ddwy am eu trafferth.

Mae teithiau 45 munud ar hyd y gamlas a theithiau dwy awr yr holl ffordd i Raeadr y Bedol rhai dyddiau yn y tymor prysur. Mae sawl dull a modd hamddenol o gael profiad o’r safle treftadaeth byd, ond mae tipyn o waith curo ar gael dy dynnu mewn cwch gan geffyl. Gwibio’n dawel ar wyneb y dwˆr, hwyaid a’u cywion yn mynd lincyn loncyn efo’r lan, a gwallgofrwydd y byd mawr tu allan yn ymdoddi yn y niwl.

5. gweld y bedol Yn Rhaeadr y Bedol mae’r cwbl yn dechrau, y lle mae’r gamlas yn codi ei dwˆ r o’r afon. Cored o waith dyn yw hi yn y bôn – ar ffurf pedol. Ac fel cymaint o’r hyn y gwnaeth Telford ei greu, mae fel petai’n cyfoethogi’r dirwedd o’i hamgylch. Enghraifft o’r hyn a gynlluniodd dyn yn cyd-fynd â natur. Pa mor aml fyddi di’n gweld hynny?

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk


pan fyddi di wedi gorffen Paid ag anghofio dy gamera. Neu’n well fyth, cipia lun ar dy ffôn a’i rannu efo dy ffrindiau trwy Flickr, Gweplyfr, Instagram neu ryw gyfrwng cymdeithasol arall. Gad iddyn nhw weld beth maen nhw’n ei fethu. Wedyn mentra i weddill y Safle Treftadaeth Byd a thu hwnt. Lloga gwch neu ddarganfod atyniadau fel Rheilffordd Ager Llangollen, Parc Gwledig Tyˆ Mawr a Chastell y Waun, pob un yn agos iawn. Teithia’n bellach, i mewn i Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir Amwythig a darganfod perlau fel eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd neu Ellesmere, y dref farchnad ar lan y llyn.

Cei weld popeth sydd ei angen arnat ti ar www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk Os oes gen ti ffôn call, sgania’r cod QR. Neu os wyt ti’n ‘aderyn sy’n trydar’ dos i weld ein tudalennau Gweplyfr a’n gwybodaeth ar Drydar. Ac os wyt ti’n hoff o sgwrsio, rydym ninnau hefyd. Coda’r ffôn a ffonia un o’n Canolfannau Croeso cyfagos:

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

Canolfan Croeso Croesoswallt Mile End 01691 662488

Canolfan Croeso Llangollen 01978 860828

credydau Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar ran partneriaeth Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas. Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk Ymysg y rhai a gyfrannodd ffotograffiaeth mae Eye Imagery, Hawlfraint y Goron (2012) Croeso Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Darlunio gan Prodo Digital. Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg. Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’u partneriaid yn gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw wallau, pethau anghywir neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sy’n ymwneud unrhyw fodd â neu sy’n deillio o’r cyhoeddiad neu’r wybodaeth sydd ynddo.

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

sganiwch fi


facebook.com/pontcysyllte twitter.com/pontcysyllte


sut mae mynd i’r safle ac o’i gwmpas Rhaeadr y Bedol

LLANGOLLEN

Cam

las L

lang

Yr Afo Dyfrd n wy

ollen

Basn Trefor

CEFN MAWR Pontcysyllte

DYF FRYN LL

ANG

OLL

EN

FRONCYSYLLTE Twnnel yr Eglwyswen

Parth Treftadaeth Safle Treftadaeth 11 milltir Yr Afon Dyfrdwy

Twnnel Y Waun

Y WAUN

Scale/Graddfa 1:35000.

Dyna ni wedi codi awydd arnat ti. Mi fyddi di am wybod sut mae mynd yno rw ˆ an. Mae’r safle ar ffin Gogledd Cymru a Lloegr ac mae’n ymestyn tros dair sir – Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir Amwythig. Rwyt ti’n gallu mynd yno yn dy gar (ar hyd yr M53 neu’r M56 o Ogledd Orllewin Lloegr, a’r M54 o Ganol Lloegr). Ar y trên (Dydy gorsaf Y Waun yn ddim ond naid llyffant o’r safle, a Rhiwabon dim ond rhyw ddwy neu dair milltir, efo bysys rheolaidd).

Dyma gysylltiadau defnyddiol: Trenau Arriva Cymru (Caer - Wrecsam Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk Lein y Gororau / Borderlands Line (Wrecsam i Lerpwl - trwy Bidston) www.borderlandsline.com Virgin Trains (Wrecsam i Lundain-Euston) www.virgintrains.co.uk Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166 www.wrexham.gov.uk

MO RI

NIO MUN D L IA

PA T

Neu ar y bws.

Dyfrbont Y Waun

E

AG

I

N

R

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

MO

E WORLD H

NDIAL

IT

United Nations Cultural Organization

E

PATRIM

O

Pontcysyllte Aqueduct and Canal inscribed on the World Heritage List in 2009


Russell Crowe

russell crowe Iawn. Mae hyn braidd yn denau! Ond oeddet ti’n gwybod bod gan yr actor yma ar Restr A Hollywood gysylltiad diddorol efo Wrecsam?

mark hughes Dyma gyn beldroediwr arall a ddaeth yn enwog drwy’r ddaear a’r nefoedd yn ystod ei yrfa o chwarae efo Manchester United, Barcelona, Bayern Munich a Chelsea.

Roedd ei hen daid a nain, Fred a Kezia, yn byw yma cyn mudo i Ganada ym 1925 efo pob un o’u plant heblaw taid Russel, John. Arhosodd hwnnw gartref i gadw busnes y teulu cyn symud i Seland Newydd.

Dysgodd ‘Sparky’ ei sgiliau sgorio goliau ar gaeau chwarae Rhiwabon, lle cafodd ei fagu, ac mae wastad wedi bod yn llysgennad gwych ar ran Wrecsam a Chymru.

Felly, ar un ystyr, mae seren ffilmiau fel Gladiator, A Beautiful Mind ac American Gangster yn un o wyrion enwocaf Wrecsam. Dyna i ti fyd bach!

Mae wedi mwynhau gyrfa ar y brig fel rheolwr ers rhoi ei ‘sgidiau pêl-droed i gadw.

Dos i www.twitter.com a dilyn @russellcrowe

robbie savage

Mark Hughes

31


cynhyrchion lleol Ffaith. Mae bwyd da yn rhoi blas gwell ar fywyd. Mae bwyd da lleol yn rhoi blas gwych ar fywyd. Felly, os nad wyt ti’n gwybod yn barod am y bwydydd a’r diodydd sy’n cael eu cynhyrchu yma yn y fan a’r lle yn y fwrdeistref sirol, mae’n hen bryd i ti glywed.

bwydydd lleol yn gyntaf Mae Robert Didier yn ddyn sydd yn ei gynefin yn y gegin. Dysgodd ei grefft o dan y chwedlonol Raymond Blanc ac mae wedi coginio at ddant Sean Connery, neu James Bond wrth ei enw arall. Felly, pan ddaeth Robert i Ogledd Cymru yn 2003 i gychwyn busnes yn gwneud pasteiod cartref, roedd y gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneud. Ac mae ei bastai arbennig ei hun, y Bastai Olwyn Tractor, yn ennill cryn dipyn o fri yn yr ardal. Yn wir, mae peth wmbreth o bobl ddawnus iawn yn cynhyrchu pob math o fwyd a diod ardderchog yn Wrecsam, y math o fwyd sy’n codi gwên ar eich wyneb. Dyna i ti’r hufen ia mwyaf hufennog sy’n cael ei wneud gan Richard ar Fferm

32

Erbistog. Y sawsiau a surop temtlyd sy’n cael eu gwneud gan Guy a’i deulu yn eu cartref o’r 16eg ganrif yn Llys Bedydd - i gyd wedi eu gwneud efo’r llus y mae’n eu tyfu. A dyna i ti’r sosej fuddugol y mae Mark yn eu gwneud ar ei fferm yn Eyton. Mae yna fragwyr, gwneuthurwyr caws, tyfwyr llysiau, gwneuthurwyr mêl, cynhyrchwyr jeli o waith llaw, ffermwyr wyau buarth, gwneuthurwyr peli-siocled. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae gennym hyd yn oed werthwr te o’r enw Kim sy’n gwerthu cyfuniad arbennig o ‘De Wrecsam’ yn ei siop ar y Stryd Fawr yng nghanol y dref (enw’r siop yw ‘Just Tea and Coffee’, sy’n enw hollol gall iddi, chwarae teg). Y pwynt yw, rydyn ni’n meddwl mai ar fwyd lleol y mae’r blas gorau. Dyna pam rydyn ni wedi llunio cyfeirlyfr bwyd bach cyfleus ar lein a fydd yn dy helpu di i weld beth fedri di ei brynu a lle medri di ei brynu. Estyn ato. www.bwydlleolgyntafwrecsam.co.uk Dos i www.twitter.com a dilyn @wrexfoodfirst


lagyr wrecsam Mae’n ôl. Yn wir i ti. Mae’r enw a wnaeth gymaint, mae’n debyg, i roi Wrecsam ar y map ag unrhyw beth arall yn ystod y ganrif ddiwethaf, wedi dod yn ôl o’r diwedd.

Wedi ei fragu gan y cwmni newydd Wrexham Lager Beer Company efo rysáit o’r dyddiau pan oedd y cwrw yn ei anterth yn y 1970au, mae’r gwybodusion wedi rhoi adolygiadau ffafriol i’r lagyr euraid cyfandirol ei naws.

Wrth gwrs, mae’n llymaid tipyn bach yn wahanol i’r ddiod y gwnaeth CarlsbergTetley ganu’r gloch olaf arni yn 2002.

Ond cofia di. Mae modd cael gormod o rywbeth da. Yfa’n gall a dos i weld www.drinkaware.co.uk am y canllawiau diweddaraf ynglyˆ n ag yfed alcohol.

Ond wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mi fedri di unwaith eto ofyn am ‘beint o Wrecsam’ yn nhafarnau’r fro.

Dos i www.twitter.com a dilyn @WXM_Lager 33


creu

www.wrexhamsayshello.co.uk 34


Mae angen ‘rhywbeth’ ar bawb. Rhyw ddawn neu fedr y mae’n adnabyddus amdano. Rhywbeth sy’n gwneud iddo fo neu hi sefyll allan. “Dyna ’mhethau i. Dyna be’ dwi’n wneud.” Felly, beth yw’r ‘rhywbeth’ arbennig hwnnw sydd gan Wrecsam? Mae’r ateb yn hawdd. Arloesi.

35


“ein busnes ni yw creu” Mae Wrecsam bob amser wedi chwarae ei rhan wrth hybu’r byd yn ei flaen efo syniadau a thechnoleg newydd. Fedrwn ni ddim peidio. Mae’r peth yn ein gwaed. O’r technegau sylfaenol newydd a fu’n fodd i Thomas Telford godi Dyfrbont Pontcysyllte mwy na 200 o flynyddoedd yn ôl, i’r gwaith arloesol sy’n digwydd yma ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Glyndwˆr.

syniadau newydd, meddwl o’r newydd. Dydyn ni ddim yn dweud y bydd pawb yma yn gwibio o gwmpas y lle ar fyrddau hofran erbyn 2025, ond paid â synnu o gwbl os bydd y taclau newydd weli di yfory yn rhai gafodd eu dyfeisio yn Wrecsam. Fel y dywedodd y bardd Arthur O’Shaughnessy, “…rydym yn freuddwydwyr breuddwydion”.

y rhai disglair

Eisiau enghraifft? Mae’r brifysgol yn helpu i ddatblygu telesgop mwyaf y byd, yn helpu i ddatgelu cyfrinachau’r bydysawd, ymysg llawer o bethau eraill.

Mae pobl ym mhob agwedd ar fywyd sy’n ‘weledyddion’. Maen nhw’n gweld pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld. Mae problemau yn bosibiliadau. Mae newid yn gyfle.

Ti’n gweld, mae Wrecsam wastad wedi bod â rhyw fath o chwilen yn ei phen ynglyˆn â’r dyfodol, wedi mopio ar

Mae gan Wrecsam fwy na’i dogn deg o bobl ddisglair, yn unigolion a sefydliadau. Does dim lle i bob un yma, ond dyma flas.

Prifysgol Glyndwˆr

36


thomas telford

elihu yale

Adeiladodd Ddyfrbont Pontcysyllte ym 1805 gan ddefnyddio dulliau sylfaenol newydd a ddylanwadodd ar beirianwyr ledled y byd. Yn syml iawn, Telford oedd ‘y boi’.

Ganed ym 1649. Roedd hwn yn fentrwr ac addysgwr dawnus a fagwyd yn ymyl Wrecsam ac a wnaeth gyfraniad hael i Ysgol Golegol Connecticut, UDA.

john wilkinson

Roedden nhw’n ddiolchgar iawn. Mae copi o dw ˆ r Eglwys San Silyn yn dal yno i’w weld ar diroedd yr hyn oedd i fod nes ymlaen yn Brifysgol Yale.

Dyfeisiodd ddulliau newydd o dyllu canon tua chanol y 18fed ganrif a oedd yn chwyldro ym maes rhyfel. Aeth yr Arglwydd Nelson â nhw i’r môr ar ei long HMS Victory. Mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes. william low Peiriannydd sifil oedd yn byw yn Wrecsam oedd hwn a wnaeth y cynlluniau ymarferol cyntaf ar gyfer twnnel o dan y sianel yn yr 1860au. Peiriannydd disglair. Dyn busnes gwael.

ysbyty maelor wrecsam Un o’r ysbytai mwyaf blaenllaw ym maes ymchwil feddygol ac wedi ymrwymo i ddatblygu ‘gofal iechyd y dyfodol’. Yn 2010 roedd 135 o brosiectau yn ymwneud ag arbrofion gyda chleifion, datblygu dyfeisiadau a thriniaethau meddygol.

Dyfrbont Pontcysyllte Thomas Telford

37


Prifysgol Glyndwˆr

prifysgol glyndw ˆr Lle fedrwn ni ddechrau? Datblygu drychau ar gyfer telesgop mwyaf y byd yn Ne America. Gweithio efo prifysgolion yn Tsieina i estyn ffiniau bio-beirianneg. Mae’r rhestr yn ymestyn. Mae hi’n un o arloeswyr prysuraf Wrecsam heddiw. www.glyndwr.ac.uk moneypenny Enghraifft wych o weledigaeth a menter. Wedi ei sefydlu yn 2000, dyma’r cwmni cyntaf yn y DU i ddarparu gwasanaethau ateb galwadau proffesiynol. Cafodd Wobr y Frenhines am Fenter yn 2008. Erbyn hyn mae’n cyflogi bron i 250 o weithwyr ac yn ymdrin â mwy na 6.5 miliwn o alwadau’r flwyddyn.

www.sharpmanufacturing.co.uk cytec engineered materials Rhan o’r cwmni mawr byd-eang Cytec Industries Inc. Mae’n datblygu defnyddiau i’w defnyddio mewn awyrennau uwchberfformiad, cerbydau ffordd a llawer o bethau eraill, hyd yn oed ceir rasio fformiwla un. www.cytec.com/engineered-materials nu instruments

sharp - gweithgynhyrchwyr, llai

Wedi ei sefydlu ym 1995. Maen nhw’n dyfeisio offer gwyddonol gyda’r diweddaraf yn y maes i’w defnyddio gan wyddonwyr ledled y byd. Maen nhw’n arbenigo mewn mas-sbectrometreg. Stwff anodd ar y naw.

Wedi ei henwi’n un o ganolfannau ffotofoltaidd mwyaf a mwyaf datblygedig y byd, maen nhw’n gallu cynhyrchu cymaint

Nu Instruments www.nu-ins.com Wikipedia www.wikipedia.org/wiki/Mass_spectrometry

www.moneypenny.co.uk

38

ag 1.8 miliwn o baneli solar y flwyddyn. Mae Wrecsam yn plygio’r byd i mewn i ynni’r dyfodol.


plant yr haul Pw ˆ er. Mae gennym ni ddiddordeb mewn rhywbeth felly. Ddim yr un fath â Gengis Cân ers talwm. Nid concro’r byd sy’n mynd â hi yn Wrecsam â dweud y gwir. Mae ein diddordeb ni mewn helpu i ddatrys problemau ynni’r byd.

Felly mae’n fater digon syml. Ond nid yw’r ateb mor syml ychwaith. Ond mae dau beth i’w gweld yn gall i’w gwneud: datblygu technoleg ynni glân a llosgi llai o danwydd ffosil. Mae Wrecsam yn bwrw iddi efo’r ddau ac yn gwneud ei rhan i gadw’r goleuadau ymlaen ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod

Mae pobl yn defnyddio mwy o ynni, ond mae’r tanwydd ffosil fel nwy naturiol yn gorffen. Felly, mae hynny’n broblem fawr.

Y prawf? Dos i’r ganolfan solar yn ffatri Sharp yn Llai, a byddi di’n dechrau deall yr wyddoniaeth sydd ynglyˆn â rhoi ynni’r haul ar waith.

Os cymerwn ni hefyd y llygredd sy’n dod o losgi tanwydd ffosil a’r pryderon ynglyˆn ag ynni niwclear, mae’n ddigon i dy ddychryn di.

Mae’r ganolfan yn derbyn grwpiau o ysgolion, prifysgolion ac eraill, ond bydd rhaid trefnu o flaen llaw. Paid â mynd yno heb drefnu. Maen nhw’n bobl brysur.

Canolfan Solar Sharp

39


Wrth gwrs, mae Sharp yn un o gorfforaethau gorau’r byd i gyd. Maen nhw wedi bod yn gweithio efo technoleg solar – neu ffotofoltaidd – ers y 1960au, felly gellid dweud yn ddigon siwˆr eu bod yn arbenigwyr. Gyrra di rwˆan o gwmpas Wrecsam a byddi di’n sylwi mae’n siw ˆ r bod gan lawer o gartrefi baneli solar newydd disglair ar y to. Mae Cyngor Wrecsam wrthi’n brysur yn eu gosod ar 3,000 o dai’r cyngor, yn rhan o gynllun £20 miliwn, un o’r mwyaf o’i fath yn y DU.

40

Bydd y prosiect yn arbed oddeutu 3,000 o dunelli o ollyngiadau CO2 y flwyddyn (yr un fath â chadw 1,000 o geir oddi ar y ffordd) a bydd yn gymorth i leihau ôl troed carbon Wrecsam. Ar ben hynny, bydd yn torri cymaint â £300 y flwyddyn oddi ar filiau trydan y tenantiaid. Canolfan Solar Sharp www.sharpmanufacturing.co.uk Prosiect solar tai’r cyngor www.wrecsam.gov.uk


diffodd y golau cyn mynd

ddulliau syml ac ymarferol,” mae’n dweud.

Dyma ni felly yn gwneud ein rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond nid adeiladu a defnyddio’r dechnoleg solar yw popeth.

“O ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect bydd llawer o filoedd o dunelli o CO2 yn cael eu harbed a bydd ôl troed carbon cyfan y fwrdeistref dirol yn lleihau.”

Rydyn ni hefyd yn gwneud yr holl newidiadau bach hynny yn ein ffordd o fyw bob dydd er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. O beth syml iawn fel berwi dim ond hynny o ddwˆr sydd ei angen arnat ti yn y tegell, diffodd y golau mewn ystafelloedd gwag, i bethau anoddach fel tyfu dy fwyd dy hun a defnyddio llai ar y car. Efo’r prosiect arloesol Pwˆer Pobl, mae gofyn i bawb yn Wrecsam wneud llw ar-lein i ddefnyddio llai o ynni yn y cartref a’r gwaith. Mae Steve Connor, prif weithredwr efo’r asiantaeth farchnata Creative Concern, wedi bod yn ein helpu ni i guro’r drwm. “Mae’r ymgyrch yn gofyn i bobl Wrecsam ddefnyddio llai o ynni eu hunain trwy

www.pwerpoblwrecsam.org

adeiladu ar gyfer y dyfodol Rw ˆ an ’te, mae ar le dyfodolaidd angen adeiladau dyfodolaidd. Iawn? Ac mae hynny’n golygu adeiladau fydd ddim yn costio’r ddaear. Mae’r cynlluniau i ddatblygu Mynedfa Orllewinol y dref yn barc busnes carbon isel a defnydd cymysg yn mynd o nerth i nerth. Ac nid yr amgylchedd yn unig fydd yn elwa ar hyn. Bydd y parc busnes uwch-fanyleb ac uwch-dechnoleg hwn yn gymorth hefyd i Wrecsam ddenu mwy o weithwyr o’r radd flaenaf. A bydd cwmnïau o’r radd flaenaf yn dod â swyddi o’r radd flaenaf. Canlyniad. 41


teigr teigr llewyrchus, ffyniannus Napoleon ddywedodd un tro mai ‘cawr cwsg’ oedd Tsieina.

ˆ r cawr wedi Glyndw Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r University deffro ac mae’n un o rymoedd economaidd mwyaf y byd, os nad y mwyaf o’r cwbl. Ac mae ei chymydog, India, yn ail go agos. Mae’r ystadegau yn frawychus. Er enghraifft, mae Tsieina ac India yn cynhyrchu miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd o raddedigion mewn peirianneg, o’u cymharu â dim ond 170,000 yn UDA ac Ewrop. Y ddwy economi deigr yma yn Asia yw’r dyfodol.

Mae’n beth da felly ein bod yn eithaf da am feithrin cyfeillgarwch efo gwledydd eraill. Mae Prifysgol Glyndwˆ r yn gweithio’n barod efo’r Coleg Bio-beirianneg ym Mhrifysgol Dechnoleg Hwbei yn Whán. Mae’n un hefyd o grwˆp o brifysgolion Cymreig sy’n helpu i sefydlu gwasanaethau addysg a hyfforddiant yn rhanbarth Sioncing. Ar ben hynny, mae Cyngor Wrecsam yn siarad efo busnesau Tsieineaidd sy’n ystyried buddsoddi a chreu swyddi yn y DU. Y neges yma? Rho dy bres arian yn Wrecsam. Fyddi di ddim yn edifar.

mae gwybodaeth yn rym “Y gofod. Y ffin olaf.” Iawn. Anodd braidd oedd bod gormod o ddifrif ynglyˆn â’r Capten James T Kirk a’i ffrindiau Star Trek – yn y gwisgoedd tyn yna. Ond roedd ganddo bwynt.

Techniquest Glyndwˆr

42


Ac mae Wrecsam yn gwneud ei rhan i helpu dyn i fentro’n ddewr lle’r aeth neb erioed o’r blaen. Yn rhan o hyn oll, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Glyndw ˆ r yn helpu i ddatblygu drychau ar gyfer ‘Telesgop Mwyaf y Byd’ sy’n enw eithaf addas arno - a fydd wedi ei osod yn Ne America. Ond nid drychau cyffredin mo’r rhain. Maen nhw’n 1.5 metr o led ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi eu caboli o fewn biliwnfed rhan o fetr, sy’n llai na 1000fed rhan o flewyn gwallt dynol. Bydd y drychau hyn yn gydran hanfodol bwysig yn y telesgop, felly bydd Wrecsam yn chwarae rhan hollol allweddol o ran helpu’r byd i dreiddio i ddirgelion y bydysawd. Digon i wneud argraff arnat ti? Un enghraifft yn unig yw’r telesgop o’r brifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectau arloesol. Mae llawer o bethau eraill yn digwydd hefyd, pethau efo naws ‘byd newydd dewr’ go iawn iddyn nhw.

Mae hynny’n cynnwys myfyrwyr yn gwneud ceir ynni solar a gwyddonwyr yn gwthio ffiniau bio-beirianneg trwy weithio efo prifysgolion Tsieina.

cariad at wyddoniaeth Mae gwyddoniaeth yn gallu bod yn hwyl. Yn wir. Dos i weld Techniquest Glyndwˆr ar gampws y brifysgol ac mi weli di sut mae hyn yn wir. Mae mwy na 60 o gemau rhyngweithiol ac arddangosiadau i ysgogi meddyliau’r hen a’r ifanc fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys pelen droi efo crisialau’n llifo a ‘wal gysgodion’ frawychus sy’n dod yn fyw ar ei phen ei hun. Mae’r hysbysebion yn brolio mai hyn yw’r diwrnod allan mwyaf heriol yng Ngogledd Cymru. Nod Techniquest yw archwilio dirgelion gwyddoniaeth – trwy gyfrwng ergydion mawr a llysnafedd llithrig. 01978 293400 www.tqg.org.uk

43


eich busnes: ein busnes Mae gwneud busnes yn Wrecsam yn rhoi gwefr go iawn i ni. Ac mae gennym ddigonedd o fentrwyr sydd wedi tyfu syniad dawnus yn rhywbeth mawr. Mae Moneypenny yn un o’r rhain. Wedi eu henwi ar ôl hoff gynorthwyydd personol 007, mae’r cwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Fenter ac Arloesi, a chafodd ei henwi gan y Sunday Times yn un o’r 100 Lle Gorau i Weithio. Ddim yn rhy ddrwg i rywbeth gychwynnodd yn fusnes bach lleol ac a dyfodd i fod yn un o’r gwasanaethau ateb galwadau proffesiynol mwyaf blaenllaw yn y DU. Ac os byddi di’n gofyn i’r cyd-sefydlydd

“Mae adnodd ardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’n gweithio’n galed yma ar stepen ein drws.” Rachel Clacher Cyd-sefydlydd Moneypenny 44

Rachel Clacher beth yw eu cyfrinach, un gair fydd ei hateb: pobl. “Wnaethon ni sefydlu ein hunain yn Wrecsam ac rydym yn dal i fod ag ymrwymiad i’r dref oherwydd bod adnodd ardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’n gweithio’n galed yma ar stepen ein drws. “Bob dydd maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn cynrychioli ein busnes a’r miloedd hefyd o fusnesau cleient rydyn ni’n gweithio efo nhw ym mhob rhan o’r DU.” Ac nid oherwydd y bobl yn unig mae Wrecsam yn lle gwych i gynnal busnes. Mae llawer o resymau eraill. Nid y lleiaf o’r rhain yw tîm pwrpasol Cyngor Wrecsam o arbenigwyr busnes.


Maen nhw’n cynnig pob math o gymorth cyngor a gwybodaeth, o gynllunio a marchnata busnes i godi arian a dod o hyd i’r adeilad neu safle iawn. Maen nhw’n griw dawnus iawn.

byd busnes, arglwyddi Sugar y dyfodol.

Felly, os wyt ti’n dechrau busnes o’r cychwyn cyntaf neu’n ystyried symud i rywle arall ac ehangu, ddylet ti roi galwad iddyn nhw. Mae siarad yn dda.

Wyt ti? Wel, rydyn ni wedi sefydlu fforwm newydd i dy helpu di ar dy ffordd.

Cymorth Busnes Cyngor Wrecsam 01978 667000 www.wrecsam.gov.uk

Yr Arglwydd Sugar nesaf? Mae’n siwˆr dy fod yn gwybod ein bod braidd yn llawn o’r dyfodol yma yn Wrecsam. Dim syndod felly bod gennym ddiddordeb yn y genhedlaeth nesaf o sêr

Mae pobl ifanc Wrecsam yn fwrlwm o egni menter. Wyt ti’n un ohonyn nhw efallai?

Mae Lansio Wrecsam yn fodd i ti siarad efo mentrwyr ifainc eraill, rhannu syniadau a hyd yn oed gwneud cais am grantiau i danio dy uchelgeisiau busnes. Mi fyddi di’n gyrru’r Bentley ’na cyn i ti wybod. www.launchwrexham.co.uk Dos i www.twitter.com a dilyn @LaunchWrexham

45


chwarae www.wrexhamsayshello.co.uk 46


Maes chwarae yw’r byd. Gwna’n fawr ohono. Dos allan drwy dy ddrws ffrynt a mwynha dy hun. Byw dy fywyd. Teimla’n rhydd. Wrecsam ydi’r fan yma.

47


chwaraeon

hefyd yw’r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, sy’n dal i weithredu.

Ychydig iawn o bethau sy’n ennyn cymaint o angerdd a greddf y tylwyth â chwaraeon. Rhyfel yw chwaraeon … heb y canlyniadau.

Hwn hefyd yw’r stadiwm fwyaf yng Ngogledd Cymru (oddeutu 10,000 o seddau) a’r pumed o ran ei faint yng Nghymru.

Lle cystadleuol yw Wrecsam, nid caled ac ymwthgar, ond cystadleuaeth dawel. Dim syndod bod chwaraeon yn beth mawr yma, eu chwarae a’u gwylio.

Mae’n lle sydd wedi profi gogoniant chwaraeon a lle a welodd dorri calonnau hefyd tros y blynyddoedd. Buddugoliaeth a gorchfygiad. A dyna sy’n ei wneud yn rhan mor arbennig o Wrecsam.

pêl-droed a rygbi Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndwˆr. O bwys aruthrol i chwaraeon yn lleol, hwn

48

Dyna i ti Glwb Pêl-droed Wrecsam er enghraifft. Mae’r ‘Dreigiau’ wedi chwarae eu stori ar laswellt y Cae Ras ers


blynyddoedd maith. Rydyn ni’n dal i gofion fel ddoe yr adegau wnaethon ni ladd cewri fel Arsenal Middlesbrough, Tottenham, West Ham, FC Porto, dim ond rhai o’r dreigiau y gwnaethon ni eu trechu. Wedyn y boen o gael ein darostwng yn y blynyddoedd a aeth heibio. Mae bod yn ddilynwr pêl-droed yn golygu profiad o’r eithafion. Mae’r stadiwm yn gartref hefyd i fath arall o bêl-droed, un efo pêl o fath gwahanol. Yn wir, llwyddodd Wrecsam i guro

cystadleuaeth lem gan drefi a dinasoedd eraill er mwyn cynnal gemau yn ystod Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 2013. Efallai dy fod yn ddilynwr rygbi cadarn ac efallai nad wyt ti ddim. Does dim ots am hynny. Bydd 2013 yn gyfle i fyw’r awyrgylch, yr angerdd a phopeth arall sy’n wych ynglyˆn â’r gamp honno. Paid â cholli dy gyfle. Clwb Pêl-droed Wrecsam www.wrexhamafc.co.uk Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 2013 www.rlwc2013.com

49


rasio ceffylau Dechreuodd rasys ceffylau ym Mangor Is-coed mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl pan garlamodd dau ddyn o blith yr helwyr lleol ar draws y dolydd am wobr o £50. Hyd heddiw, dydyn nhw ddim wedi mynd ati i godi prif stand. Oherwydd bod golygfeydd mor ysgubol oddi ar lethrau glaswelltog yr amffitheatr naturiol hon, go brin fod angen hynny. Hwn hefyd oedd hoff gae rasio’r awdur nofelau cyffro a chyn joci Dick Francis, er bod pethau wedi newid tipyn ers iddo farchogaeth ei enillydd cyntaf erioed yma yn ôl ym 1947.

Cae Rasio Bangor Is-coed

50

“Yn yr 20 mlynedd a aeth heibio mae’r cae rasio wedi dod yn ei flaen o fod yn adeiladau pren i gyd i fod yn un efo cyfleusterau gwych – nid yn unig ar gyfer dyddiau rasio, ond hefyd ar gyfer partïon preifat, priodasau a chynadleddau,” eglura’r rheolwr cyffredinol Jeannie Chantler. Beth, felly, sy’n denu? Adloniant pur. “Does dim byd cystal â’r holl sioe a lliw o weld y ceffylau a’r jocis o agos, y berw o gwmpas y cylch betio a rhuthr adrenalin y ras ei hun,” dywed Jeannie. www.bangorondeeraces.co.uk Dos i www.twitter.com a dilyn @BangorOnDeeRace


golff Ar gyfer y rhai sy’n petruso ychydig, mae cwrs Clwb Golff y Waun yn gallu chwarae cyn lleied â 5,525 o lathenni. Ond os wyt ti’n llawn o nerth, mae’r ‘Tiger Tees’ fel y gelwir nhw yn gallu ychwanegu’n anferthol at hynny, hyd at 7,045 o lathenni. Mae’r maes 200 acer hwn, efo camlas Llangollen un ochr iddo a golygfeydd gwych o Gastell y Waun, yn cynnig y profiad o chwarae golff sy’n nodweddiadol o Wrecsam. Gwir brawf, croeso cynnes, ffioedd grin cystadleuol, a rhywbeth sydd ychydig bach yn wahanol. Hefyd mae maes pencampwriaeth 18 o dyllau yng Nghlwb Golff Wrecsam, a meysydd 9 twll hardd yn Narland, Dyfroedd Alun, Dyffryn Moss a’r Plasau. Ac os nad wyt ti’n ei tharo hi’n hollol syth,

efallai y bydd teclyn bach dechau yng Nghanolfan Golff Clays yn Wrecsam yn gymorth i ti. Mae’r chwaraewyr proffesiynol yng Nghanolfan Ffitio Genedlaethol Mizuno yno yn defnyddio system radar gwerth £20,000 i ddadansoddi dy swingiad di. Maen nhw hyd yn oed yn gallu gweithio allan dy ‘ffactor taro’ di. Canolfan Golff Dyfroedd Alun (naw twll) 01978 855131 Clwb Golff y Waun (18 twll) 01691 774407 Clwb Golff Clays (18 twll) 01978 661406 Canolfan Golff Darland (naw twll) 01244 579282 Clwb Golff Dyffryn Moss (naw twll) 01978 720518 Canolfan Golff y Plasau (naw twll) 01978 780020 Clwb Golff Wrecsam (18 twll) 01978 351476 51


beicio mynydd Rwyt ti’n gorfod gweithio go iawn am dy frecwast yng Nghoed Llandegla yn Sir Ddinbych gyfagos. Mae eu llwybrau beic mynydd efo’u codau lliw mewn 650 o aceri o goetir sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy. Mae’r llwybr gwyrdd yn wych ar gyfer teuluoedd a’r llwybr glas yn berffaith ar gyfer dechreuwyr - ac mae beiciau yno i’w llogi os nad oes gennyt ti un dy hun. Ond mae Llandegla yn denu’r selogion hefyd. Mae’r llwybr coch 11 o filltiroedd yn cynnwys llwybr sengl heb wyneb arno, ffigyrau wyth ysgafellog a chroesfannau dw ˆ r. Ond beth am y llwybr du? Digon yw dweud y bydd arnat ti angen coesau cadarn a nerfau dur. 01978 751656 www.oneplanetadventure.com

antur awyr agored Mi fyddai’n hen dro gwastraffu’r holl awyr iach hwnnw. Mae Wrecsam yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau llawn cyffro i droi ein mannau agored yn un maes chwarae antur anferthol. Mae Motor Safari yn cynnig popeth a mwy, rali-sgrialu, oddi ar y lôn, cychod pwˆer, heboga, rafftio dwˆr gwyn – ac mae wedi bod ar raglenni teledu fel Top Gear, Blue Peter a’r Holiday Programme. Dylai’r wal ddringo hefyd ym Mhlas Power Adventure bwmpio tipyn o adrenalin i mewn i ti. Mae’n fawr - mwy na 6,000 o droedfeddi sgwâr. Ac mae’n boblogaidd iawn gan y plantos, sydd yn aml yn curo eu rhieni’n racs, yma ac ar y cyrsiau rhaffau – lle mae gwifren sipio 100 troedfedd, llwyfan abseilio a rhywbeth efo’r enw pryderus ‘naid ffydd’. 01978 754533 www.motor-safari.co.uk 01978 754747 www.plaspoweradventure.com

52


canolfannau hamdden

tennis

Eisiau cadw popeth yn dwt – yn cynnwys dy gyfrif banc? Does dim ond rhaid i ti chwipio dy gerdyn Pur allan yn un o’n canolfannau hamdden cyhoeddus.

Rydyn ni’n hoff iawn o’n tennis, ac nid yn ystod pythefnos Wimbledon yn unig. Mae’r chwe chwrt dan do a’r 10 o gyrtiau awyr agored yng Nghanolfan Tennis Wrecsam yn rhai o safon ryngwladol.

Bydd yn arbed arian i ti ar y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn cynnwys nofio, sesiynau yn y gampfa a’r dosbarthiadau ffitrwydd. Mae’r Byd Dwˆr yn ganolfan ddw ˆ r (mae’r enw yn dy helpu di i ddeall), efo pwll nofio cystadleuaeth 25 metr o hyd, cafn 65 metr o hyd a reid afon wyllt. Yn y Morlyn Trofannol ym Mhlas Madoc, mi fedri di gerdded yr ewyn, mynd ar gefn y crocodeil, sglefrio i lawr y neidr a chwarae yn y tonnau. Ac mi fedri di adael i’r plant roi cynnig arni hefyd, os oes rhaid i ti.

Bydd ein hyfforddwyr yn dy helpu di i fod yn ddigon da iddyn nhw. Ac unrhyw amser y bydd arnat ti awydd taro’r bêl o gwmpas tipyn, mi fedri di chwarae yn y cyrtiau ym Mharc Actyn a Pharc Bellevue yn Wrecsam neu Barc y Ponciau yn y Rhos – a hynny’n rhad ac am ddim. Canolfan Tennis Wrecsam 01978 265260 www.nwrtc.co.uk

Mae gan y Waun bwll hefyd. Y lle perffaith i oeri tipyn wedi bod yn y sawna neu’r ystafell stêm, gêm o sboncen, neu dipyn o Dai Cwon Do. www.wrecsam.gov.uk Byd Dw ˆ r 01978 297300 Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc 01978 821600 Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun 01691 778666

Canolfan Tennis Wrecsam

athletau Mae prif athletwyr yn dod i Stadiwm Heol y Frenhines, yn cynnwys sêr Olympaidd fel Colin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomas a Christian Malcolm. Ond mae hefyd yn cynnal dyddiau mabolgampau ysgolion a rasys hwyl lleol. Mae’n gartref hefyd i Glwb Athletau Wrecsam, sy’n helpu sêr y dyfodol o wyth oed ymlaen i gael trefn ar bethau.

Byd Dwˆr

01978 355826 53


cerdded

y dyffryn dirgel

Paid â gadael i’r cwbl wibio heibio i’r car fel niwl gwyrdd. Pa un a wyt ti’n byw yn y fwrdeistref sirol neu ddim ond yn ymweld, mae dull gwell o lawer o glosio mewn modd mwy personol efo cefn gwlad Wrecsam.

Mae’r B4500 yn ffordd arbennig iawn, er na fyddai neb yn meddwl hynny o edrych ar y map. Mae’n dechrau oddi ar yr A5 yn nhref y Waun ac mae’n diflannu dim ond tua 18 milltir ymlaen mewn rhwydwaith o lonydd bach gwledig.

Cerdded. Mae milltiroedd lawer o lwybrau cerdded ym mhob twll a chornel o Wrecsam, ym mhob math o dirwedd y gallet ti ei ddychmygu o goetir a dyffryn afon i weunydd yn y gwynt a mynyddoedd grugog. Dos allan i archwilio.

arweinwyr cylchdeithiau Awydd tipyn bach o gwmni wrth gerdded o gwmpas Wrecsam? Mae gennym ddigonedd o arweinwyr cylchdeithiau cymwysedig sy’n adnabod pob twll a chornel o’r fwrdeistref sirol. 01286 677059 www.northwalestouristguides.com

Mae hi’n arbennig oherwydd ei bod yn mynd ar hyd Dyffryn Ceiriog i gyd, trwy amrywiaeth nodedig o dirweddau – tir pori tawel, coetir, clogwyni serth ac ambell i gipolwg ar gefnen o fynydd uchel a gweunydd breuddwydiol. Mor odidog yw’r dyffryn, yn wir, bod Lloyd George wedi ei alw’n “ddarn bach o’r nefoedd ar y ddaear”. Ac mae mor wyrthiol o ddigyffwrdd bod naws taith i’r gorffennol pell wrth ddod ar hyd y B4500 gyda glannau Afon Ceiriog a’i brithyllod toreithiog . Dyna’r effaith oedd ei heisiau, ac yn wir yr effaith a gafwyd ar Patricia Somerset, a ymwelodd o Dde Llundain am ychydig o ddyddiau. Bu ychydig o gerdded, marchogaeth a gweld golygfeydd ein treftadaeth yn fodd i sicrhau egwyl fach o hamdden ac ymlacio. “Mae fy ngwaith yn llawn o straen a dwi’n gweithio llawer o oriau, felly roedd y gwyliau yma yn berffaith,” dywed Patricia. “Y penderfyniad mwyaf yr oedd rhaid i mi ei wneud oedd pa le hardd yr oedd arna’ i eisiau ei weld y diwrnod hwnnw. Roedd harddwch y lle yn syndod i mi – doeddwn i ddim yn gallu meddwl sut y gwnes i fethu’r dyffryn o’r blaen. Mae wedi bod yn ddarganfyddiad go iawn.” www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

y teithiau cerdded gorau taith gerdded dyffryn ceiriog

Dyffryn Ceiriog

54

Taith gerdded hyfryd dros ben sy’n dechrau yng ngorsaf reilffordd y Waun ac yn gorffen wrth odre mynyddoedd y Berwyn ym mhentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog.


Dyfrbont Pontcysyllte

llwybr maelor 24 o filltiroedd o daith gerdded trwy neu ger pentrefi fel Bronington, Hanmer, Llannerch Banna ac Owrtyn – sy’n gallu bod yn lle da i orffwys am dipyn, heb sôn am beint bach. llwybr clawdd offa Llwybr Cenedlaethol wedi ei enwi ar ôl clawdd syfrdanol Offa Brenin Mersia a godwyd yn yr wythfed ganrif. Mae’r darn

sy’n mynd drwy Wrecsam yn cynnwys Dyfrbont anferthol Pontcysyllte. www.nationaltrail.co.uk/offasdyke llwybr clawdd wat Yn fyrrach a llai enwog na Chlawdd Offa, mae’r llwybr 61 o filltiroedd hwn yn dod i mewn i Wrecsam yn Owrtyn ac yn dod allan ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun cyn mynd i Sir Y Fflint. www.watsdykeway.org 55


bywyd y parc

dyfroedd alun, gwersyllt

Mae digonedd o fannau agored yn Wrecsam. Yn wir, mae 90% o’r sir yn wledig. Ond nid yw hynny wedi ein rhwystro rhag creu dewis mawr o barciau i bobl eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Teimla’r llosgiad ym mharc gwledig mwyaf Wrecsam, efo chwech o deithiau cerdded efo’r calorïau wedi eu cyfrif, pob un yn wahanol o ran dringo a phellter. Neu mi fyddet ti’n gallu gwneud dim mwy nag edrych ar y cerfluniau.

Mae gan rai amgueddfeydd tymhorol, canolfannau ymwelwyr a chaffis. Mae rhai yn dangos Gwobr y Faner Werdd am ragoriaeth mewn mannau agored cyhoeddus. Ac mae rhai wedi codi o weddillion ein treftadaeth ddiwydiannol. Mae pob un yn unigryw, efo’i raglen ie hun o ddigwyddiadau i’r teulu i gyd, yn cynnwys gwneud barcut, trochi yn y pwll a fforio am ffwng (neu hel madarch i ti a fi). Mae arweiniad i’w lawrlwytho oddi ar www.wrecsam.gov.uk/countryside

01978 763140 pyllau plwm y mwynglawdd Ym mhen uchaf Dyffryn Clywedog, dyma’r lle perffaith i ddechrau archwilio un o afonydd prysuraf y Chwyldro Diwydiannol. Mae olion yr hen byllau plwm yn dal yno i’w gweld – tyˆ ’r injan drawst wedi ei adnewyddu, yr injan weindio a’r tai bwyler. 01978 763140

Tyˆ Mawr

56


dyffryn moss

tyˆ mawr, cefn mawr

Arferai glowyr ddefnyddio’r rheilffyrdd a’r tramleiniau sy’n croesi’n ôl a blaen yn y dyffryn ffurf ‘v’ hwn. Heddiw, wrth gerdded yn hamddenol gyda glannau’r llynnoedd neu drwy goetir derw a ffawydd, byddi’n gweld beicwyr, pysgotwyr gwialen a gwylwyr adar.

Defaid, asynnod, moch, cwningod, ieir a llawer o anifeiliaid eraill i’w gweld sy’n byw yno. Hefyd, mae taith gerdded hyfryd gyda glan Afon Dyfrdwy efo golygfeydd ysgubol o draphont Cefn.

01978 763140

01978 822780

melin y nant, coedpoeth

bellevue, wrecsam

Trafferth efo’r hen dwrch daear yn codi pridd ar dy lawnt odidog? Efallai y byddi di’n deall yn well wedi i ti fod i Felin y Nant. Mae’r twnnel twrch daear anferth sydd yno yn fodd i ti weld pethau o’u safbwynt nhw. Gelli wylio mwy o fywyd gwyllt o’r guddfan adar, a hyd yn oed hurio hwyaid rhai rwber - ar gyfer ras hwyaid.

Parc Edwardaidd wedi ei adfer, efo rhodfeydd o bisgwydd yn ymestyn allan o lwyfan y band. Gyda’r hwyr mae lampau o’r cyfnod yn goleuo’r llwybrau. Dyma werddon gain dim ond chwarter milltir o ganol y dref.

01978 752772

01978 264150

Llwybr Clywedog

Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Dyfroedd Alyn

Llwyn Isaf

57


gwarchodfa natur Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Llys Bedydd yn rhan o’r drydedd gyforgors ym Mhrydain o ran ei maint. Mae hi mor fawr yn wir, bod modd ei gweld o’r gofod. Efallai na fydd y syniad o gors anferthol yn apelio llawer ar yr olwg gyntaf. Dyna pam, efallai, bod cyn lleied o bobl y cychod sy’n dod heibio ar Gamlas Llangollen yn aros i gerdded llwybrau’r Fawnog.

58

Eu colled nhw yw hynny. Ers achub y fawnog rhag difrod y gwaith torri mawn, mae wedi dod yn enwog am ei nadroedd, madfallod a madfallod dw ˆ r, heb sôn am weision y neidr, llygod y dw ˆ r, y gylfinir a’r ehedydd. Ac os wyt ti’n medru gweld yn glir iawn, efallai y gweli di gopyn dwˆr hyd yn oed. www.ccgc.gov.uk www.naturalengland.org.uk


digwyddiadau Mae rhywbeth yn digwydd o hyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. O ddigwyddiadau mawr blynyddol i adloniant a gweithgareddau llai mawreddog (ond yr un mor ddifyr). Rhai o’r uchafbwyntiau? Mae Gw ˆ yl Afalau Erddig yn denu miloedd bob blwyddyn ac mae’n un parti mawr i glodfori’r afal diymhongar. Mae Gw ˆ yl Wyddoniaeth Wrecsam yn creu rhyfeddod ym mhopeth gwyddonol. Ac mae ein marchnadoedd Gw ˆ yl Ddewi a’r Nadolig yn denu pobl o bell ac agos. Dim gor-ddweud. Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 www.wrecsam.gov.uk www.northwalesborderlands.co.uk www.events-northwales.co.uk

y ffagl olympaidd Maen nhw’n cynnal rhywbeth go fawr tua

Llundain eleni. Yn wir, bydd golwg y byd ar y DU pan fydd Chwaraeon Olympaidd 2012 yn cychwyn y 27ain o Orffennaf. Ystyria hyn. Yr amcangyfrif yw bod biliwn - sef 15% o boblogaeth y byd - wedi gwylio seremoni agoriadol 2008 yn fyw ar y teledu. Mae hynny’n lot o bobl. Felly, beth fydd Wrecsam yn ei wneud? Wel, i gychwyn, bydd y ffagl Olympaidd yn dod i Fwrdeistref Sirol Wrecsam y 30ain o Fai. Nid yw’r manylion wedi eu cyhoeddi yr amser mae hwn yn mynd i’r wasg, ond rydym yn gwybod o leiaf y bydd y ffagl yn croesi Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont Pontcysyllte ac yn dod trwy Acrefair, Rhostyllen a thref Wrecsam. Bydd mwy o fanylion wedi eu cyhoeddi’n agosach at yr amser, felly cadw dy lygad ar wefan Cyngor Wrecsam. Cyngor Wrecsam www.wrecsam.gov.uk Gwefan Swyddogol Chwaraeon Olympaidd Llundain 2012 www.london2012.com

59


hwyl fawr

cymwysiadau Byddi di’n medru cadw’r daflen hon ar dy ffôn. Does dim ond rhaid i ti sganio’r cod efo darllenydd QR neu ddod o hyd iddi yn y storfa gymwysiadau iPhone. www.apple.com

cyfryngau cymdeithasol Ac mi fedri di ein dilyn i ar weplyfr a trydar. Beth am bostio rhywbeth ar ein tudalen neu ein ‘twitio’ ni? www.facebook.com/wxmsayshello www.twitter.co.uk/wxmsayshello

echwythiad Neu, rho dy enw i lawr am chwythiadau e-newyddion rheolaidd ynglyˆn â’r pethau 60

Hed amser. Diolch yn fawr am ddarllen y daflen hon. Ond cofia di, dim ond y dechrau yw hyn. Mae gan Wrecsam lawer mwy i’w ddweud. Mae gennyt ti hefyd, felly ymlaen â’r sgwrs.

mawr sy’n digwydd yn Wrecsam – y digwyddiadau, siopa, newyddion busnes, y cwbl. E-bost: wrexhamsayshello@wrexham.gov.uk

canolfan croeso wrecsam, stryt y lampint Er bod y gair ‘tourist’ ar yr arwydd uwchben y drws, yn Saesneg, fel mae’r arwydd Cymraeg yn ei awgrymu, mae croeso yma i bawb. Yn wir, mae hanner cwsmeriaid CG Wrecsam yn bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol. Mae ein pedwar cynorthwyydd yn y Ganolfan Croeso mor llawn cymorth, fuaset ti ddim yn coelio, ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 70 o flynyddoedd o brofiad. Os oes rhywbeth nad ydyn nhw’n


Yn wir, dydyn ni ddim yn bell o gwbl o’r rhan fwyaf o’r DU – wedi ein cysylltu gan ffyrdd a rheilffyrdd da, yn cynnwys gwasanaethau trên yn syth i Lundain ac yn ôl. awyren… Maes Awyr Manceinion www.manchesterairport.co.uk Maes Awyr John Lennon Lerpwl www.liverpoolairport.com trên…

ei wybod am Wrecsam, go brin ei fod yn werth ei wybod. Coda’r ffôn neu dos yno am syniadau defnyddiol a gwybodaeth am bethau i’w gweld a’u gwneud. Popeth o ddosbarthiadau celfyddyd a sioeau theatr i wyliau a chyngherddau. O amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth i dai bwyta a thafarnau gwledig. Ac os wyt ti’n ymweld ac eisiau gwely am y noson, maen nhw hyd yn oed yn gallu dy helpu di i ddod o hyd i le i aros.

Trenau Arriva Cymru (Caer – Wrecsam – Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk Lein y Gororau (Borderlands) (Wrecsam – Bidston) www.borderlandsline.com Virgin Trains (Wrecsam – Llundain Euston) www.virgintrains.co.uk bws… Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166 www.wrecsam.gov.uk Bysiau Arriva www.arriva.co.uk

01978 292015 tic@wrexham.gov.uk

mewn lle da Yn olaf, os nad wyt ti’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a heb fod yn hollol siwˆr lle mae - neu sut i fynd yno dyma gyngor defnyddiol i ti. Rydym ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae gennym Sir Gaer a Sir Amwythig un ochr ac Eryri ac arfordir Gogledd Cymru’r ochr arall. Rydym 45 o funudau o waith gyrru o brif feysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl a 90 o funudau o Birmingham. 61


helo byd

62


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

I’R HELEDD WEN

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach. Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

1 2

15

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

9 10 11 12 13

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

★ 14

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd. Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

I'R EGLWYS WEN

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

63

64


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

I’R HELEDD WEN

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach. Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

1 2

15

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

9 10 11 12 13

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

★ 14

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd. Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

I'R EGLWYS WEN

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

63

64


i deimlo’r wefr

trowch y

dudalen

ein busnes ni yw

creu hello world

helo byd gweithio byw chwarae

wrecsam


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.