helo byd - ffwrdd a ni

Page 1

i deimlo’r wefr

trowch y

dudalen

ein busnes ni yw

creu hello world

helo byd

ffwrdd â ni wrecsam


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. I’R HELEDD WEN

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes. Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

1 2

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

15

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

9 10 11 12 13

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

14

★ ★

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. I'R EGLWYS WEN

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

67

68


sut ma’i?

www.facebook.com/wxmsayshello

@wxmsayshello

sganiwch fi 3


dan ni’n trydar… Ac yn postio. A phopeth felly. Diflas ar y naw. Nac ydi wir! Dan ni wrth ein bodd.

lawrlwytho

dilyn rhannu Mae ein henw ar y cyfryngau cymdeithasol yn tueddu i fod /wxmsayshello a byddwn ni’n gwneud y rhan fwyaf o’n rhannu ar Drydar (popeth yn iawn) a Gweplyfr (pethau am Wrecsam yn bennaf). Dan ni’n poetsian hefyd efo Instagram a Soundcloud. Dos yn dy flaen, tyrd o hyd i ni, rwydweithiwr cymdeithasol… www.twitter.com/wxmsayshello www.facebook.com/wxmsayshello www.instagram.com/wxmsayshello www.soundcloud.com/wxmsayshello 4


das app Mae’r app wrexham says hello yn rhad ac am ddim. Ac os wyt ti’n mynd i fod yng nghanol tref Wrecsam am sbel, mae’n rhaid i ti ei lawrlwytho. Gwela lle i siopa, bwyta, yfed, pician i weld ffilm, gwylio band, dysgu am hanes lleol, gwylio gêm beldroed, mwynhau noson allan a llwyth o bethau defnyddiol eraill. Mi gei di’r bargeinion diweddaraf, cynigion arbennig a gostyngiadau y mae busnesau lleol yn eu cynnig, gwybodaeth am drafnidiaeth a pharcio, mapiau a llwybrau i’w dilyn. Ac os mai dim ond am gael tipyn o naws y lle wyt ti, mae ’na lwyth o gynnwys fideo a sain wedi eu llunio i dy helpu di i werthfawrogi cymeriad a diwylliant y dref ardderchog yma. Fel dan ni’n dweud yn Wrecsam, mae’r app yma’n 'deidi.' Chwilia am yr app wrexham says hello ar

neu

ffilm un Wrecsam wedi ei hegluro mewn dim ond pum munud a 40 eiliad. Gwylia Film One ar ein sianel YouTube i weld sut mae pethau’n gweithio efo ni yma. Mi gei di hefyd ffilimau eraill am fusnes, digwyddiadau a phethau diddorol eraill. Da iawn

www.youtube.com/wxmsayshello

wrexhamsayshello.co.uk Mae gynnon ni wefan. Wedi ei llunio ar gyfer ffôn clyfar, tabled a phen-desg. Ac wedi ei stwffio’n llawn dop o wybodaeth am bopeth yn Wrecsam. O fandiau lleol yn taro’r nod hyd at gynnwys sy’n denu’r sylw yn y cyfryngau cymdeithasol. Mi gei di hefyd erthyglau yn y rhan o’n gwefan lle mae’r blogiau – am dechnoleg, cerddoriaeth, syniadau a pethau eraill sy’n mynd â’n bryd ni. ☺ www.wrexhamsayshello.co.uk 5


helo byd www.wrexhamsayshello.co.uk 6


byw siopa a’r diwylliant caffi bywyd nos cefn gwlad a’r pentrefi

8 10 14 16

cariad hanes a threftadaeth diwylliant enwogion cynhyrchion lleol

20 22 30 34 36

cynnwys

credydau Wedi ei bweru gan yr ideoleg Wrecsam Yfory. Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk Mae’r cyfranwyr ffotograffau yn cynnwys Eye Imagery, Hawlfraint y Goron (2012) Croeso Cymru, Prifysgol Glyndwˆr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Getty Images, Macesport a Moneypenny. Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg. Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sydd a wnelo unrhyw fodd â chyhoeddi’r wybodaeth y mae hwn yn ei gynnwys neu sydd yn deillio ohoni.

creu ein busnes ni yw creu plant yr haul teigr teigr llewyrchus, ffyniannus mae gwybodaeth yn rym eich busnes: ein busnes

38 40 43 46 46 48

chwarae chwaraeon cerdded bywyd y parc y warchodfa natur digwyddiadau

50 52 58 60 62 63

hwyl fawr mapiau

64 66 7


Byw’r freuddwyd, wyt ti? Os wyt ti’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, efallai’n wir dy fod ti. Ac os wyt ti’n ymweld, yn astudio neu’n gweithio yma, efallai y cei di flas arno.

www.wrexhamsayshello.co.uk 8


byw

9


Dôl yr Eryrod

siopa a’r diwylliant caffi Mae’n hollol siw ˆ r bod siopa yn un o’r gorau o bleserau bach bywyd. Rydyn ni wrth ein bodd efo siopa. Siopa hamddenol wrth gwrs, heb orfod brysio a digon o amser i fwynhau coffi bach efo papur newydd y bore hwnnw neu ryw gylchgrawn dylunio mewnol gwych. Tamaid bach i fwyta efallai. Dim byd wedi ei gynllunio, dim ond posibiliadau. Wel, dyma’r newyddion da. Dyna’n union y math y siopa y byddwn ni’n ei wneud yn Wrecsam, y math sydd wedi ei wneud er mwyn ei fwynhau, achlysur cymdeithasol. 10

brandiau’r enwau mawr Gadewch i ni ddechrau efo Dôl yr Eryrod. Ers ei hagor yn 2008, mae’r ganolfan siopa drwsiadus hon wedi bod yn gymorth i saethu Wrecsam i fyny’r cynghreiriau siopa swyddogol. Mae hi ar wyth acer o ganol y dref ac mae naws fendigedig iddi, efo’i mannau agored, nodweddion dwˆr, defnyddiau hyfryd o gerrig a llechi, fflatiau ar ben yr adeilad ac ychydig bach o ddiwylliant caffi. Hyfryd iawn. Mi weli di siopau mawr fel Debenhams, Marks and Spencer, Next a llond y lle o frandiau ffasiwn o fri, coffi gwyn ewynnog a chacennau bach mewn llefydd


fel Starbucksa Costa. Hefyd mae siopau ffôn symudol sy’n cynnig y taclau a’r geriach diweddaraf i dy gadw di’n siarad, neges destun a thrydar. Mae Sinema’r Odeon yno hefyd, llawer o dai bwyta a chanolfan bowlio deg (mwy am hynny i ti ar dudalen 12). Ac i wneud y coffi a’r cacennau ’na yn fwy melys, mae digonedd o le i barcio hefyd (970 o leoedd yn fanwl gywir). Felly does dim rhaid byth i ti boeni lle i barcio dy gar. Mae bywyd yn dda. Dôl yr Eryrod www.eagles-meadow.co.uk

y rhai annibynnol Felly, rydyn ni’n gwneud pethau’n fawr ac yn hardd, ond mi fedrwn ni wneud ‘tlws yw popeth bychan’ hefyd. Ger ein lleoedd manwerthu mawr mae gynnon ni strydoedd traddodiadol fel Stryt Siarl a Stryt y Banc, a llawer o siopau bach annibynnol hynod sy’n rhoi calon a swyn i’r dref. I’r dim ar gyfer pobl sy’n hoffi bod yn wahanol i’r cyffredin. Siopa ar gyfer yr annibynnol eu meddwl. Siopau bach ffasiwn, gemyddion, gweithdai ffotograffwyr, siopau lle gweli di jariau

11


yn llawn hyd yr ymyl o fferins hen ffasiwn, fel ‘swizzle boms’, ‘sugar twirls’ a phleserau eraill i ddeffro’r plentyn 10 oed ynot ti.

a Marchnad y Bobl yn agored o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (er bod y ddwy gyntaf yn cau’n gynnar dydd Mercher).

marchnadoedd

Ac maen nhw’n cynnal y farchnad wythnosol tu allan bob dydd Llun. Wnaethon ni sôn hefyd ei bod hi’n un o’r mwyaf yng Ngogledd Cymru?

Mi wnei di sylwi rhywbeth arall hefyd pan fyddi di’n siopa yn Wrecsam. Rydyn ni’n hoff iawn o sgwrsio. Dyna’r math o beth sy’n digwydd mewn tref farchnad. Mae gennym ni dair marchnad dan do ac un wythnosol tu allan yng nghanol y dref, yn gwerthu popeth o sosej a stecen i ddillad a dodrefn. Ac mae hwyl y sgwrs yn rhad ac am ddim. Dyna fargen.

Hefyd, maen nhw’n gwerthu amrywiaeth o grefftau a chynhyrchion lleol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. Eisiau enghraifft? Dos i weld marchnad fisol y ffermwyr yn Eglwys y Santes Farged yn Garden Village. Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

Mae’r Farchnad Gig, y Farchnad Gyffredinol

12


parciau manwerthu Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio, mae Wrecsam wedi bod yn un o’r canolfannau manwerthu sydd wedi tyfu gyflymaf yn y DU. Ffaith: 615,000 o droedfeddi sgwâr o loriau siop wedi eu hadeiladu ers 1999. Mae rhywun yn rhywle wedi bod yn siopa o ddifrif. Mae llawer iawn o’r twf yma wedi bod ar y gwahanol barciau manwerthu sydd wedi tyfu yn ac o gwmpas canol y dref, yn cynnwys y Ganolfan Ganolog, Plas Coch a’r Werddon – efo digonedd o barcio gan bob un. Mi weli di lawer iawn o fanwerthwyr enwau mawr yn gwerthu popeth o ddillad chwaraeon i nwyddau trydanol, ac o ddodrefn i fwyd a diod.

fyny, mynd o glyw bwrlwm y dyrfa am funud a rhoi’r bagiau siopa ’na i lawr. Mae mannau agored fel Llwyn Isaf a Pharc Bellevue yn cynnig lleoedd tawel hyfryd yn agos at ganol y dref, lle gelli di ymlacio ac edmygu’r bargeinion call rwyt ti wedi eu prynu. Lleoedd i arfer dy gampau ar y bwrdd sgrialu, taflu ffrisbi neu eistedd yn yr haul. Efo hufen ia? Dyddiau dedwydd.

siopa allan o’r dref Edrycha o dy gwmpas. Mae cefn gwlad Wrecsam yn cynnig therapi manwerthu mewn lleoedd digon o syndod, fel Canolfan Grefftau a Manwerthu’r Plasau.

parciau canol y dref

Mewn 247 o aceri o dir parc ger Bangor Is-coed, mae ganddi 25 o siopau yn cynnwys dylunydd mewnol, siop ffasiwn, gof, canolfan arddio, siop de a thyˆ bwyta.

Gair o rybudd rwˆan. Mae siopa yn wych, ond weithiau mae’n rhaid i ti roi dy draed i

01978 780277 www.plassey.com 13


bywyd nos

rwyt ti am glywed y sw ˆ n yna tro ar ôl tro.

Mae’n wir. D’wyt ti byth yn rhy hen i fynd i’r parti.

Croeso i sbloet a sbri’r bowlio deg, Tenpin Bowling, yn Nôl yr Eryrod. Mae hon yn un o’r canolfannau diweddaraf o’i math efo 24 o lonydd, sy’n dod â darn bach o America i ganol Wrecsam.

Felly, mae’n beth da bod canol tref Wrecsam yn fwrlwm yn y nos. Tai bwyta, bariau, clybiau nos, sinema, bowlio deg. Mae’r cwbl yma. Taset ti i lawr efo’r plantos, allet ti ddweud ei fod yn ‘ffat’. Neu ‘sick’. Ond mae’r arweiniad yma wedi ei sgwennu gan bobl yn eu 30au, felly dyna ddigon o hynny.

bowlio, sinemâu a thai bwyta Mae’n berygl iawn i fowlio deg gael gafael ynot ti’n llwyr. Y sioe oleuadau, y gerddoriaeth, clecian y pinnau. Wedyn pan wyt ti’n eu taro nhw i lawr,

14

“Mae bowlio yn un o’r ychydig o weithgareddau y mae pawb yn medru ei fwynhau,” dywed y rheolwr Vince Brown. “Mae ar gyfer pob oed a phob gallu.” Wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Wel, dos i weld ffilm yn yr Odeon wyth sgrin sy’n union y drws nesaf neu fwynhau dathlu dy gampau bowlio mewn tai bwyta fel Nando’s, Pizza Express a Frankie and Benny’s. www.tenpin.co.uk www.eagles-meadow.co.uk

Bowlio Deg yn Tenpin Bowling


clybiau nos a cherddoriaeth fyw

cymysgedd llesmeiriol o gigiau, nosweithiau clwb a chomedi.

Fyddem ni ddim yn dweud bod Wrecsam byth yn cysgu, ond mae’n aros ar ei thraed yn ddigon hwyr i blesio hyd yn oed y jolihoetiwr mwyaf erioed.

Y Magic Numbers, Charlatans, y Kooks, Kasabian. Maen nhw i gyd wedi chwarae yma, a bandiau lleol dawnus dros ben.

Bariau smart, sofas lledr, llwyfannau bach dawnsio, lliwolchiadau LED. Enwau fel y Bank, Voodoo Moon, ac Envy yn clecian ar dafodau’r galifantwyr nos Sadwrn yn penderfynu’r lle nesaf i fynd.

Mae digonedd hefyd o leoliadau eraill i ti fynd i roi cynnig arnyn nhw lle maen nhw’n chwarae cerddoriaeth fyw, yn cynnwys bar y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndw ˆr.

Ac os wyt ti’n un am dy gerddoriaeth fyw, dyma’r lle i ti. Central Station yn cynnig

www.wrexhammusic.co.uk www.centralstationvenue.com 15


cefn gwlad a’r pentrefi Perthi toreithiog, toeau gwellt, bythynnod bach tlws, hen dafarnau hudolus. Mae’n swnio fel un o setiau Midsomer Murders, ond siarad ydym ni am rai o’r pentrefi swynol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Hefyd – a bydd clywed hyn yn rhyddhad mawr i ti – maen nhw’n byw’n hirach yno fel arfer nag yn y ddrama dditectif ffuglen ar y teledu. Un o’r pethau sy’n wych ynglyˆn â Wrecsam yw bod gennym y gorau o fywyd y dref a bywyd y wlad. Mae hi’n dref gyfoes llawn bwrlwm yng nghanol cefn gwlad hyfryd a phentrefi dymunol braf. Ac mi fedri di fynd o un pen i’r llall mewn chwinciad.

gresffordd Mae gan Gresffordd un o’r eglwysi mwyaf godidog yng Nghymru, sef Eglwys yr Holl Saint o’r 15fed ganrif. Hefyd mae pwll y pentref yn ddigon mawr i’w alw’n ‘Llyn’ ganddyn nhw yn aml. Ychydig i lawr y ffordd ger Rhos Gresffordd, neu Gresford Heath, mae cofeb i’r diwrnod mwyaf trist yn hanes Wrecsam, sef Medi 22, 1934, pan gafodd 266 o ddynion eu lladd mewn trychineb yn y pwll glo. www.gresford.org.uk

Dyma olwg bach sydyn ar rai o’n trefi a phentrefi gwledig. 16

Y Llyn, Gresffordd


Castell y Waun

holt D’wyt ti ddim yn mynd drwy Checkpoint Charlie, chwarae teg, ond dos am dro o Holt dros yr Hen Bont ar Afon Dyfrdwy a byddi mewn gwlad arall – Lloegr.

Y Felin Uchaf, Yr Orsedd

yr orsedd Efallai y bydd pobl sy’n hoff o gelfyddyd yn adnabod y Felin Uchaf ar Afon Alun yn Yr Orsedd. Gwnaeth JMW Turner fraslun ohoni ym 1795.

Mae adeiladau hynafol nodedig eraill yno hefyd, fel adfeilion Castell Holt ac Eglwys St Chad – sy’n un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi parhau o wneud smonach o gynllunio yn yr oesoedd canol. Ond eto, mae golwg hyfryd arni serch hynny. www.holtvillage.co.uk

Roedd ychydig yn rhy gynnar i alw am damaid yn yr Ystafelloedd Coco, yr adeilad hanner ffrâm bren o oes Fictoria. Cafodd y rhain eu codi i ddenu dynion ifainc o dafarnau’r pentref, sydd, byddwch yn falch o glywed, yn dal yno ac yn dal yn brysur iawn. www.rossett.org.uk Pont Holt

17


owrtyn Mae Owrtyn yn llawn dop o adeiladau hanesyddol, cymaint felly ei bod hi wedi ei dynodi’n ardal gadwraeth.

canol. Maen nhw’n pysgota yn yr afon, golff gerllaw a rasio ceffylau dim ond ychydig gannoedd o lathenni o ganol y pentref. www.bangorondeecommunitycouncil.co.uk

Chwilia am Res y Fferyllfa - rhes o fythynnod Neo-gothig gyda bwâu ar bennau’r drysau a’r ffenestri. Mae yno hefyd Stryd Fawr arbennig o lydan, wedi ei hailwampio wedi i’r pentref gael ei ddyrchafu’n fwrdeistref gan Iorwerth y Cyntaf. www.overton-on-dee.co.uk bangor is-coed Mewn lleoliad syfrdanol ar lan Afon Dyfrdwy, rwyt ti’n mynd i mewn i Fangor tros bont gerrig gefngrom o’r oesoedd

18

y waun a dyffryn ceiriog Tref fach yw’r Waun ond mawr o ran yr hyn y gall ymfalchïo ynddo – traphont ddwˆr o waith Thomas Telford, traphont o waith Henry Robertson, castell mawreddog a godwyd gan Iorwerth y 1af a maes golff pencampwriaeth. Mae hi hefyd ar drothwy un o’r dyffrynnoedd harddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog (mwy o wybodaeth ar dudalen 58) www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

Rhes y Fferyllfa, Owrtyn

Bangor Is-coed

Castell Y Waun

Pont Owrtyn


Traphont Ddwˆr a Thraphont Y Waun

rhiwabon Dyma bentref â hanes hir iddo. Mae tystiolaeth o anheddiad oes yr efydd ac mae’r Tyˆ Crwn neu’r Hen Garchar ar Stryt y Bont yn un o dri yn unig o garchardai neu dai cloi canoloesol sydd wedi parhau yng Nghymru. Ac os ei di ar grwydr i lawr y Stryd Fawr, mi wnei di sylwi bod tai o oes Fictoria wedi eu gwneud o frics coch Rhiwabon sy’n adnabyddus trwy’r byd yn grwn. Ac mae’n rhaid yn wir i ni sôn am y Bridge End – a gafodd ei henwi rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl yn dafarn orau ym Mhrydain gan y wybodusion y cwrw go iawn, CAMRA. Maen nhw’n bragu cwrw yn y dafarn hefyd, un sydd wedi ennill gwobrau. www.ruabon.com hanmer Yn yr eglwys yn Hanmer ym 1383 y priododd Owain Glyndwˆr, efallai’r Cymro mwyaf

erioed. Cafodd honno ei llosgi, ond paid â siomi. Mae’r un a godwyd yn ei lle yn y lleoliad mwyaf trawiadol yn y fwrdeistref sirol i gyd. Rwyt yn dod ati o lyn rhewlifol, lle mae heidiau o wyachod copog, elyrch a gwyddau Canada. Rwyt ti’n mynd i mewn trwy giatiau haearn addurnol a thrwy fynwent fawr sy’n ymestyn i fyny’r allt at yr eglwys. Bydd yn barod i gael dy syfrdanu. erbistog A llonyddwch y lôn goed gul o Bont Owrtyn heibio i’r Garden House “i lan na thref nid arwain ddim” – heblaw i un o’r pentrefi mwyaf godidog yn Wrecsam. Mae lleoliad Erbistog ar lannau Afon Dyfrdwy wedi ysbrydoli arlunwyr a ffotograffwyr ers canrifoedd. Mae tafarn a thyˆ bwyta hardd o’r enw The Boat, cyn hyned â’r 13eg ganrif ac eglwys Neo-gothig annisgwyl o fawreddog. 19


cariad www.wrexhamsayshello.co.uk 20


Maen nhw’n dweud y gwir, bod cariad uwchlaw popeth. Ac mae llawer iawn i’w garu yn y lle yma, ei hanes, ei bersonoliaeth, diwylliant. Wrecsam yn dy galon!

Traphont Ddwˆr Pontcysyllte

21


Portread wedi ei engrafu o Thomas Telford a gyhoeddwyd ar glawr blaen yr ‘Atlas to the Life of Thomas Telford - Civil Engineer’ ym 1838. Wedi ei engrafu gan W. Raddon oddi ar baentiad gan S. Lane.

22

hanes a threftadaeth Pan orffennodd Thomas Telford ei draphont ddwˆr ym Mhontcysyllte ym1805, hon oedd y groesfan uchaf yn y byd ar gyfer cychod camlas. Mae’n dal yno hyd heddiw. Mae’n dal i fynd â theithwyr cychod y gamlas ar daith orau eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y byd. Yn 2009, gwnaeth UNESCO’r campwaith hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd – ynghyd ag 11 o filltiroedd o gamlas, yn cynnwys Traphont Ddwˆr y Waun a Rhaeadr y Bedol ger Llangollen. Erbyn hyn mae hi’n swyddogol yn un o safleoedd treftadaeth mwyaf y byd, a’r un mor bwysig â lleoedd fel y Pyramidiau, y Ta Mamal a’r Acropolis. Pan weli di hi, mi weli di beth wedi ei gyffwrdd gan law athrylith. Oherwydd roedd Telford yn wir weledydd. Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond


roedd i fyny ar y brig efo pobl fel Steve Jobs, sefydlydd Apple, Bill Gates o gwmni Microsoft neu unrhyw feddyliwr blaengar yn yr oes fodern. Roedd yn ddyn o flaen ei amser. Nid gormod o gwbl fyddai dweud bod y dulliau a’r syniadau a gafodd eu datblygu ym Mhontcysyllte wedi helpu i lunio’r byd trwy eu dylanwad ar beirianneg. Ond yr hyn sy’n rhyfeddod go iawn yw’r modd y mae’r adeiladwaith yn dal i gipio

dychymyg pobl, mwy na 200 o flynyddoedd wedi ei godi. Mae’n dal i fod yr un mor hudolus ag erioed. Gelli lawrlwytho copi o’n Micro-arweiniad i Draphont Ddwˆr Pontcysyllte a’r Gamlas. Neu sbïa ar y wefan swyddogol, tudalennau Trydar a Gweplyfr. www.issuu.com/wxmsayshello www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk www.twitter.com/pontcysyllte www.facebook.com/pontcysyllte

23


eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol Y tro nesaf y byddi di’n tocio dy wrych, paid ag anghofio’r pen garddwr yng Nghastell y Waun. Mor anferthol yw’r gwrychoedd yw bod eisiau tua wyth wythnos ar dîm o ddynion i’w twtio nhw, pob un wrthi efo tociwr trydan ac yn creu tunelli o ddail a brigau. 24

Dychmyga roi hynny i gyd yn dy fin olwynion gwyrdd. Ond mae’n werth bob tamaid, cofia. Cafodd y gerddi eu pleidleisio’r gorau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol un tro. Mae’r castell ei hun yn un o gadarnleoedd y Gororau, a godwyd ym 1310. Ond nid hen furddun mo hwn. Y gwir yw ei fod yn gartref ers 700 o flynyddoedd. Mae’r rhandai bonheddig mawreddog o’r 18fed


Erddig

Castell y Waun

Ac yn yr ystafell de maen nhw’n gwneud bara brith cartref bendigedig.

Os wyt ti’n un o ddilynwyr y gyfres deledu Downton Abbey, byddi di’n deall yn iawn os dywedwn ni bod Erddig yn lle ‘i fyny ac i lawr y grisiau’. Mae gan y cartref bonedd hwn gymaint i’w ddweud am fywydau’r gweision ag am y perchnogion.

Ein heiddo arall gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (dydyn ni ddim am frolio, ond oes - mae gennym ni ddau) yw Erddig.

Castell y Waun 01691 777701 Erddig 01978 355314 www.nationaltrust.org.uk

ganrif yn llawn dop o waith plastr cywrain, dodrefn yn null Adam, gwaith tapestri a phortreadau.

25


amgueddfa bwrdeistref sirol wrecsam

rhyngweithiol newydd sy’n dod â’r arddangosfeydd yn fyw, gan adrodd hanes Wrecsam efo’r dechnoleg newydd.

Beth am ein plesio ni rw ˆ an? Dychmyga dy fod yn ôl yn yr ysgol (oni bai dy fod yn dal yn yr ysgol). Maen nhw’n gofyn i ti ysgrifennu traethawd am hanes Wrecsam o’r dechrau at heddiw.

Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod beth f yddai preswylydd hynaf yr adeilad yn ei feddwl o’r newidiadau i gyd. Un distaw braidd yw hwn, ond wedyn mae’n 3,500 oed.

Rw ˆ an ’te, mi allet ti estyn am y gliniadur a chael sgwrs fach efo Mr Google (neu unrhyw beiriant chwilio dibynadwy arall). Ond mi fuasai mynd am dro i lawr i amgueddfa’r fwrdeistref sirol yn llawer mwy o hwyl i ti.

Wedi ei gloddio allan gan weithwyr oedd yn torri ffos ym Mrymbo ym 1958, dim ond sgerbwd o fri oedd ‘Dyn Brymbo’ am blwc. Wedyn, wnaethon ni ofyn i’r Dr Caroline Wilkinson o’r rhaglen Meet the Ancestors ary BBC a fyddai hi’n ail-greu ei wyneb. Mae hi’n ddynes fedrus iawn.

Bu’r adeilad yn ffodus o gael ei ailwampio yn 2010, efo estyniad trawiadol o wydr yn cynnig adran gaffi fendigedig, derbynfa a siop. Mae digonedd yno hefyd o daclau a geriach

Beth am y traethawd ’na? Siw ˆ r o gael marciau llawn. 01978 297460

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

26


Gwaith Haearn y Bers

gwaith haearn a chanolfan dreftadaeth y bers Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterth yn y 18fed ganrif, enw’r perchennog yno oedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson. Rw ˆ an, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’n ddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn un oedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wedi ffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannau ager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efo cymorth silindrau wedi eu gwneud yn y Bers). Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygodd broses chwyldroadol a oedd yn fodd iddo dyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet. Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfau

i’r ddwy ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America a chafodd canonau’r Bers eu tanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydain ac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn. Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yng ngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un o feibion mwyaf arloesol – a hynod – Wrecsam. Dos yno i weld. A thra’r wyt ti yno, dos i weld y ganolfan dreftadaeth yn ymyl. Yno mae pob un o gasgliadau treftadaeth ddiwydiannol Wrecsam ac mae’n egluro’r modd y gwnaeth haearn, glo a phlwm weddnewid tref farchnad fach i fod yn un o bwerdai economaidd y 18fed a’r 19eg ganrif. 01978 318970 www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth 27


Cofeb y Glowyr, Gresffordd

glo a dur Fel y gwaeth rhannau helaeth o Gymru, treuliodd Wrecsam y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf yn cloddio am lo, glo i gynnal tân rhawd ddiwydiannol Prydain Fawr. Ni fydd Wrecsam byth yn anghofio ei balchder yn ei gwreiddiau glofaol, ond bu’n rhaid talu am hynny. Medi 22, 1934. Ffrwydrad anferthol yn nyfnderoedd pell y ddaear yng Ngwaith Glo Gresffordd. 266 wedi eu lladd, yn wyˆr, tadau, meibion a brodyr. Nid yw Wrecsam erioed wedi eu hanghofio. Roedd dur hefyd yn un o gonglfeini economi’r dref. Yn ei anterth yn ystod y 60au a dechrau’r 70au, byddai Gwaith Dur 28

Brymbo yn goleuo’r gorwel efo’i fetel tawdd. Efo mwy na 2,000 o weithwyr yn llafurio nos a dydd a rhai o’r dulliau cynhyrchu dur mwyaf cyfoes, roedd yr holl beth yn debyg i olygfa o’r Metropolis gan Fritz Lang ond ar lethrau bryn yng Nghymru. Caeodd y safle ym 1990, ond os cerddi di i lawr Stryt yr Arglwydd yng nghanol tref Wrecsam mi weli di fwa cerfiedig wedi ei lunio ar ffurf glöwr a gweithiwr dur. Mae Wrecsam wedi credu erioed yn y dyfodol (byddwn yn rhoi gwybod mwy i ti am hynny ar dudalen 40) ond rydym yn falch o’n gorffennol hefyd. www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

exploring churches


o gwmpas hen eglwysi Mae tw ˆ r Eglwys San Silyn yn Wrecsam yn gan troedfedd a phymtheg ar hugain i’w ben uchaf ac yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Dos yno i weld. Ac wedyn, pan fyddi di wedi gorffen, dos i weld rhai o’n heglwysi eraill ni. Yn ogystal â bod yn lleoedd i weddïo a myfyrio, mae’r trysorau pensaernïol hyn yn dod â hanes ein trefi a’n pentrefi, sydd wedi bod yn ddigon cythryblus o bryd i’w gilydd, yn fyw eithriadol. Dyna i ti eglwys y Santes Fair yn Rhiwabon. Y tu mewn iddi, mi weli di furlun o’r 15fed ganrif a bedyddfaen o’r 16eg ganrif. Y tu allan, mi weli di Borth Mynwent addurnol, rhan ohono wedi ei gerfio o bren derw lleol Wynnstay ac wedi ei gysegru’n Gofeb Ryfel i’r Plwyf ym 1920 (pan oedd Prydain yn dal i geisio

dygymod â’r holl golli bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf). Yn Eglwys St Chad yn Holt mae tyllau bwledi i’w gweld a ddigwyddodd mewn sgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ac yng Nghadeirlan y Santes Fair yn Wrecsam, mae capel wedi ei gysegru i’r merthyr Richard Gwynne a gafodd ei grogi, ei dynnu a’r chwarteru ym 1584 – a’i wneud yn sant ym 1972. Mae pymtheg o’n heglwysi wedi dod at ei gilydd i greu Rhwydwaith yr Eglwysi Agored. Mae gan bob un ei hanes ysgogol ei hun i’w adrodd ac mae pob un wedi ymrwymo i roi croeso i ymwelwyr.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 Rhwydwaith yr Eglwysi Agored www.openchurchnetwork.co.uk Eglwys San Silyn, Wrecsam

29


diwylliant

barod i dorchi dy lewys. Rydym ni’n meddwl y dylai celfyddyd fod yn rhyngweithiol.

Rydym yn hoff o ddiwylliant yn Wrecsam.

Hefyd mae mudiad lleol o’r enw Prosiect THIS yn llwyfannu pethau gwych yn y dref - yn cynnwys lleoedd celf tros dro sy’n llawn dop o ddawn greadigol. Sbïa ar thisproject.co.uk am y pethau diweddaraf.

Celfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn, ffilm a hoffterau creadigol eraill. Lle’r ei di felly am dipyn o hyn? Rho gynnig ar hyn.

celfyddyd

30

Mae Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndwˆr yn arddangos gwaith gan artistiaid o fri rhyngwladol, a gan rai a allai’n wir fod yn enwog un diwrnod – ei myfyrwyr ei hun.

Nid edrych yn unig ar gelfyddyd y byddwn ni’n ei wneud yn Wrecsam (er bod hynny’n ddifyr iawn). Rydym yn hoff o faeddu ein dwylo hefyd.

Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu ymdrwytho yn yr arddangosfeydd sy’n newid byth a beunydd yn Oriel Goffa Coleg Iâl am ychydig o oriau bob diwrnod o’r wythnos.

Mae Oriel Wrecsam yn un o’n prif ganolfannau celfyddyd ac yn lle gwych i weld celfyddydau a chrefftau gorau ein cyfnod. Ond os byddi di’n dod i unrhyw ddosbarth y byddwn yn ei gynnig, bydd yn

Oriel Wrecsam 01978 292093 Prosiect THIS www.thisproject.co.uk Oriel Sycharth www.glyndwr.ac.uk Oriel Goffa Coleg Iâl 01978 311794


Côr Meibion Y Fron

cerddoriaeth Byd gwyn yw byd a gano. A phob mis Ebrill – dan ni’n wyn ein byd ac ar ben ein digon, diolch i Ffocws Cymru. Mae’r digwyddiad ‘cwˆl’ iawn yma yn gweddnewid canol tref Wrecsam a’i throi’n baradwys i bobl sy’n caru cerddoriaeth, gyda mwy na 150 o fandiau yn chwarae gigiau am dri diwrnod mewn llawer o wahanol leoliadau. Ond paid â phoeni. Does dim rhaid i ti aros tan fis Ebrill cyn mwynhau cerddoriaeth fyw yn Wrecsam. Yn Neuadd William Aston, efo’i 890 o seddi – ym Mhrifysgol Glyndwˆr, mae gennym ni leoliad efo’r modd i arddangos y gorau sydd i’w gael. Popeth yma – clasurol, swing, motown a pop. Ac mae mwy eto o gerddoriaeth ar

y campws gerllaw yng Nghanolfan Catrin Finch. Wrth gwrs, fyddai hi ddim yn iawn petai gennym ni ddim ychydig o gorau o’r radd flaenaf yma yn Wrecsam, a ninnau’n Gymry ac yn falch o hynny. I ddechrau, mae gennym gorau Brymbo, Y Rhos, Orffiws y Rhos a Dyffryn Ceiriog, wedyn y band bechgyn hynaf yn y byd – Côr Meibion y Fron. Mae’r hogiau wedi dod braidd yn enwog ers i’w record hir Voices of the Valley chwipio i ben y siartiau. Mae ein corau yn canu mewn nifer o leoliadau trwy gydol y flwyddyn. Weithiau mi gei di hyd yn oed fynd i eistedd yn yr ymarferion - heb orfod talu’r un ddimai goch. Côr Meibion y Fron www.fronchoir.com Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 31


Theatr y Stiwt

theatr Mae Rhosllannerchrugog, ychydig allan o Wrecsam, yn lle nodedig am lawer o resymau. Maen nhw’n dweud mai hwn yw’r pentref mwyaf yng Nghymru. Mae nifer o gorau gwych yno ac yno hefyd mae Theatr y Stiwt. Mae’r lleoliad, sy’n cynnal pob math o gerddoriaeth a dramâu, yn gymaint o ganolfan i ddiwylliant Cymru heddiw ag yr oedd yn ôl ym 1926, pan agorodd yn gyntaf. Mae’r Theatr Stiwdio fach gartrefol yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam, a’i 150 o 32

seddau, yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, tra mae Theatr Stiwdio Glan yr Afon - cartref Cymdeithas Theatr Gerddorol Wrecsam yn fwy fyth o ‘dyˆ bach twt’ efo lle i 120. Ymysg cedyrn eraill y byd amatur mae Theatr y Gelli neu’r Grove Park Theatr, y mae ei chynyrchiadau wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedd ers 1925. Theatr y Stiwt 01978 841300 www.stiwt.co.uk Theatr y Stiwdio 01978 311794 Theatr Stiwdio Glan yr Afon 01978 261148 Theatr y Gelli (Grove Park) 01978 351091 www.groveparktheatre.co.uk


diwylliant wrecsam Rydym yn hoffi diwylliant. Rydym yn hoff o gelfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn a phopeth arall. Ond fel pob man arall, mae gan Wrecsam ei diwylliant ei hun hefyd, y pethau bychain hynny sy’n rhoi iddi ei chymeriad. Weithiau mae hynny’n beth anodd i roi dy fys arno. Ond os ei di i sefyll ar derasau stadiwm pêl-droed y Cae Ras, efo’n cefnogwyr ni, yn cefnogi’n tîm ni, efallai y byddi di’n deall. Os ei di i mewn i dafarn a gweld pethau

cofiadwy ar hyd a lled y waliau sy’n deyrnged i’r hen Lagyr Wrecsam gwreiddiol, efallai y byddi di’n deall. Ac os byddi di’n eistedd yng nghefn neuadd bentref yn gwrando ar gôr meibion yn ymarfer - a chlywed y blew yn codi ar dy wâr - efallai y byddi di’n deall. Ac os gweli di'r llanciau a’r merched yn rhydd-redeg ar lawnt y Llwyn Isaf – yn neidio a throelli, heb fentro gwneud camgymeriad – neu gerddorion ifanc efo uchelseinydd gitâr wedi torri yn rhyddhau eu breuddwydion creadigol ar y byd, mae’n siwˆr y byddi di’n deall.

33


enwogion

Mae llawer o bobl sy’n agos at galon Wrecsam, gormod i sôn amdanyn nhw yma, yn cynnwys enwogion sy’n falch o’u gwreiddiau a phobl ‘gyffredin’ sydd wedi gwneud rhywbeth anghyffredin. Fyddem ni wrth ein bodd yn rhoi gwybod i ti amdanyn nhw i gyd. Ond am y tro, dyma un neu ddau y gallet ti fod wedi clywed amdanyn nhw.

robbie savage Roedd yn un o ddynion caled pêl-droed oedd yn codi ofn. Mae ganddo’r gwallt delaf ar y teledu. Ac mae’n reit hoff o siglo’i ddoniau ar y llawr dawnsio hefyd. Mae cyn seren yr Uwch Gynghrair yn un o hogiau Wrecsam o’i gorun i’w sawdl. Llwyddodd i ysgubo’r genedl yn 2011 yn y sioe Strictly Come Dancing ar y BBC. Yn sylwebydd chwaraeon blaenllaw erbyn hyn ar y teledu a’r radio, byddai Robbie yn gallu brolio hefyd bod ganddo nifer anferthol o ddilynwyr ar y Trydar. www.twitter.com/RobbieSavage8

Robbie Savage

34


Tom James

mark hughes

tom james

Dyma gyn beldroediwr arall a ddaeth yn enwog drwy’r ddaear a’r nefoedd yn ystod ei yrfa o chwarae efo Manchester United, Barcelona, Bayern Munich a Chelsea.

Un gair: chwedlonol. Enillodd y dyn hwn o bentref Coedpoeth yn Wrecsam y fedal aur Olympaidd ddwy waith, Beijing 2008 a Llundain 2012.

Dysgodd ‘Sparky’ ei sgiliau sgorio goliau ar gaeau chwarae Rhiwabon, lle cafodd ei fagu, ac mae wastad wedi bod yn llysgennad gwych ar ran Wrecsam a Chymru.

Mae’r gw ˆ r hwn o fyd chwaraeon yn llawn ysbrydoliaeth ac yn llysgennad gwych i’w dref enedigol. Da iawn ti, Tom. www.twitter.com/TomJames

Mark Hughes

35


cynhyrchion lleol Ffaith. Mae bwyd da yn rhoi blas gwell ar fywyd. Mae bwyd da lleol yn rhoi blas gwych ar fywyd. Felly, os nad wyt ti’n gwybod yn barod am y bwydydd a’r diodydd sy’n cael eu cynhyrchu yma yn y fan a’r lle yn y fwrdeistref sirol, mae’n hen bryd i ti glywed.

bwydydd lleol yn gyntaf Mae Robert Didier yn ddyn sydd yn ei gynefin yn y gegin. Dysgodd ei grefft o dan y chwedlonol Raymond Blanc ac mae wedi coginio at ddant Sean Connery, neu James Bond wrth ei enw arall. Felly, pan ddaeth Robert i Ogledd Cymru yn 2003 i gychwyn busnes yn gwneud pasteiod cartref, roedd y gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneud. Ac mae ei bastai arbennig ei hun, y Bastai Olwyn Tractor, yn ennill cryn dipyn o fri yn yr ardal. Yn wir, mae peth wmbreth o bobl ddawnus iawn yn cynhyrchu pob math o fwyd a diod ardderchog yn Wrecsam, y math o fwyd sy’n codi gwên ar eich wyneb.

Erbistog. Y sawsiau a surop temtlyd sy’n cael eu gwneud gan Guy a’i deulu yn eu cartref o’r 16eg ganrif yn Llys Bedydd - i gyd wedi eu gwneud efo’r llus y mae’n eu tyfu. A dyna i ti’r sosej fuddugol y mae Mark yn eu gwneud ar ei fferm yn Eyton. Mae yna fragwyr, gwneuthurwyr caws, tyfwyr llysiau, gwneuthurwyr mêl, cynhyrchwyr jeli o waith llaw, ffermwyr wyau buarth, gwneuthurwyr peli-siocled. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae gennym hyd yn oed werthwr te o’r enw Kim sy’n gwerthu cyfuniad arbennig o ‘De Wrecsam’ yn ei siop ar y Stryd Fawr yng nghanol y dref (enw’r siop yw ‘Just Tea and Coffee’, sy’n enw hollol gall iddi, chwarae teg). Y pwynt yw, rydyn ni’n meddwl mai ar fwyd lleol y mae’r blas gorau. Dyna pam rydyn ni wedi llunio cyfeirlyfr bwyd bach cyfleus ar lein a fydd yn dy helpu di i weld beth fedri di ei brynu a lle medri di ei brynu. Estyn ato.

Dyna i ti’r hufen ia mwyaf hufennog sy’n cael ei wneud gan Richard ar Fferm

36

www.bwydlleolgyntafwrecsam.co.uk


Mae’n ôl. Yn wir i ti. Mae’r enw a wnaeth gymaint, mae’n debyg, i roi Wrecsam ar y map ag unrhyw beth arall yn ystod y ganrif ddiwethaf, wedi dod yn ôl o’r diwedd.

Wedi ei fragu gan y cwmni newydd Wrexham Lager Beer Company efo rysáit o’r dyddiau pan oedd y cwrw yn ei anterth yn y 1970au, mae’r gwybodusion wedi rhoi adolygiadau ffafriol i’r lagyr euraid cyfandirol ei naws.

Wrth gwrs, mae’n llymaid tipyn bach yn wahanol i’r ddiod y gwnaeth CarlsbergTetley ganu’r gloch olaf arni yn 2002.

Ond cofia di. Mae modd cael gormod o rywbeth da. Yfa’n gall a dos i weld www.drinkaware.co.uk am y canllawiau

Ond wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mi fedri di unwaith eto ofyn am ‘beint o Wrecsam’ yn nhafarnau’r fro.

diweddaraf ynglyˆ n ag yfed alcohol.

lagyr wrecsam

www.wrexhamlager.co.uk 37


creu

www.wrexhamsayshello.co.uk 38


Mae angen ‘rhywbeth’ ar bawb. Rhyw ddawn neu fedr y mae’n adnabyddus amdano. Rhywbeth sy’n gwneud iddo fo neu hi sefyll allan. “Dyna ’mhethau i. Dyna be’ dwi’n wneud.” Felly, beth yw’r ‘rhywbeth’ arbennig hwnnw sydd gan Wrecsam? Dyma un syniad. Dawn Greadigol.

39


“ein busnes ni yw creu” Mae Wrecsam bob amser wedi chwarae ei rhan wrth hybu’r byd yn ei flaen efo syniadau a thechnoleg newydd. Fedrwn ni ddim peidio. Mae’r peth yn ein gwaed. O’r technegau sylfaenol newydd a fu’n fodd i Thomas Telford godi Traphont Ddwˆr Pontcysyllte mwy na 200 o flynyddoedd yn ôl, i’r gwaith arloesol sy’n digwydd yma ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Glyndwˆr.

syniadau newydd, meddwl o’r newydd. Dydyn ni ddim yn dweud y bydd pawb yma yn gwibio o gwmpas y lle ar fyrddau hofran erbyn 2025, ond paid â synnu o gwbl os bydd y taclau newydd weli di yfory yn rhai gafodd eu dyfeisio yn Wrecsam. Fel y dywedodd y bardd Arthur O’Shaughnessy, “…rydym yn freuddwydwyr breuddwydion”.

y rhai disglair

Eisiau enghraifft? Mae’r brifysgol yn helpu i ddatblygu telesgop mwyaf y byd, yn helpu i ddatgelu cyfrinachau’r bydysawd, ymysg llawer o bethau eraill.

Mae pobl ym mhob agwedd ar fywyd sy’n ‘weledyddion’. Maen nhw’n gweld pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld. Mae problemau yn bosibiliadau. Mae newid yn gyfle.

Ti’n gweld, mae Wrecsam wastad wedi bod â rhyw fath o chwilen yn ei phen ynglyˆn â’r dyfodol, wedi mopio ar

Mae gan Wrecsam fwy na’i dogn deg o bobl ddisglair, yn unigolion a sefydliadau. Does dim lle i bob un yma, ond dyma flas.

Prifysgol Glyndwˆr

40


thomas telford

elihu yale

Adeiladodd Traphont Ddw ˆ r Pontcysyllte ym 1805 gan ddefnyddio dulliau sylfaenol newydd a ddylanwadodd ar beirianwyr ledled y byd. Yn syml iawn, Telford oedd ‘y boi’.

Ganed ym 1649. Roedd hwn yn fentrwr ac addysgwr dawnus a fagwyd yn ymyl Wrecsam ac a wnaeth gyfraniad hael i Ysgol Golegol Connecticut, UDA.

john wilkinson

Roedden nhw’n ddiolchgar iawn. Mae copi o dw ˆ r Eglwys San Silyn yn dal yno i’w weld ar diroedd yr hyn oedd i fod nes ymlaen yn Brifysgol Yale.

Dyfeisiodd ddulliau newydd o dyllu canon tua chanol y 18fed ganrif a oedd yn chwyldro ym maes rhyfel. Aeth yr Arglwydd Nelson â nhw i’r môr ar ei long HMS Victory. Mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes. william low Peiriannydd sifil oedd yn byw yn Wrecsam oedd hwn a wnaeth y cynlluniau ymarferol cyntaf ar gyfer twnnel o dan y sianel yn yr 1860au. Peiriannydd disglair. Dyn busnes gwael. Does neb yn berffaith.

ysbyty maelor wrecsam Un o’r ysbytai mwyaf blaenllaw ym maes ymchwil feddygol ac wedi ymrwymo i ddatblygu ‘gofal iechyd y dyfodol’. Yn 2010 roedd 135 o brosiectau yn ymwneud ag arbrofion gyda chleifion, datblygu dyfeisiadau a thriniaethau meddygol.

Traphont Ddwˆr Pontcysyllte Thomas Telford

41


Prifysgol Glyndwˆr

prifysgol glyndw ˆr

cytec engineered materials

Lle fedrwn ni ddechrau? Datblygu drychau ar gyfer telesgop mwyaf y byd yn Ne America. Gweithio efo prifysgolion yn Tsieina i estyn ffiniau bio-beirianneg. Mae’r rhestr yn ymestyn. Mae hi’n un o arloeswyr prysuraf Wrecsam heddiw.

Rhan o’r cwmni mawr byd-eang Cytec Industries Inc. Mae’n datblygu defnyddiau i’w defnyddio mewn awyrennau uwchberfformiad, cerbydau ffordd a llawer o bethau eraill, hyd yn oed ceir rasio fformiwla un. www.cytec.com/engineered-materials

www.glyndwr.ac.uk moneypenny

nu instruments

Enghraifft wych o weledigaeth a menter. Wedi ei sefydlu yn 2000, dyma’r cwmni cyntaf yn y DU i ddarparu gwasanaethau ateb galwadau proffesiynol. Cafodd Wobr y Frenhines am Fenter yn 2008. Erbyn hyn mae’n cyflogi mwy na 300 o bobl ac yn trin mwy nag 8 o alwadau’r flwyddyn.

Wedi ei sefydlu ym 1995. Maen nhw’n dyfeisio offer gwyddonol gyda’r diweddaraf yn y maes i’w defnyddio gan wyddonwyr ledled y byd. Maen nhw’n arbenigo mewn mas-sbectrometreg. Stwff anodd ar y naw.

www.moneypenny.co.uk 42

Nu Instruments www.nu-ins.com Wikipedia www.wikipedia.org/wiki/Mass_spectrometry


plant yr haul Pw ˆ er. Mae gennym ni ddiddordeb mewn rhywbeth felly. Ddim yr un fath â Gengis Cân ers talwm. Nid concro’r byd sy’n mynd â hi yn Wrecsam â dweud y gwir. Mae ein diddordeb ni mewn helpu i ddatrys problemau ynni’r byd. Mae pobl yn defnyddio mwy o ynni, ond mae’r tanwydd ffosil fel nwy naturiol yn gorffen. Felly, mae hynny’n broblem fawr.

Os cymerwn ni hefyd y llygredd sy’n dod o losgi tanwydd ffosil a’r pryderon ynglyˆn ag ynni niwclear, mae’n ddigon i dy ddychryn di. Felly mae’n fater digon syml. Ond nid yw’r ateb mor syml ychwaith. Ond mae dau beth i’w gweld yn gall i’w gwneud: datblygu technoleg ynni glân a llosgi llai o danwydd ffosil. Mae Wrecsam yn mynd ati o ddifrif efo’r ddau beth ac yn chwarae ei rhan i gadw’r goleuadau ymlaen i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Nu Instruments 43


Os gyrri di o gwmpas Wrecsam mae’n debyg y gwnei di sylwi bod gan lawer o gartrefi baneli solar newydd sbon danlli ar y to. Mae Cyngor Wrecsam wedi eu gosod ar 3,000 o dai cyngor, yn rhan o gynllun gwerth £20 miliwn, un o’r mwyaf o’i fath yn y DU.

dunelli o ollyngiadau CO2 bob blwyddyn (yr un fath â chlirio 1,000 o geir oddi ar y ffordd) a bydd yn helpu i wneud ôl troed carbon Wrecsam yn llai. Ar ben hynny, bydd yn rhoi biliau trydan rhatach i denantiaid y cyngor. www.wrecsam.gov.uk

Bydd y prosiect yn arbed oddeutu 3,000 o

44


diffodd y golau cyn mynd Dyma ni felly yn gwneud ein rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond nid defnyddio technoleg solar ydi’r unig beth o dan sylw. Rydyn ni hefyd yn gwneud yr holl newidiadau bach hynny yn ein ffordd o fyw bob dydd er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. O beth syml iawn fel berwi dim ond hynny o ddwˆr sydd ei angen arnat ti yn y tegell, diffodd y golau mewn ystafelloedd gwag, i bethau anoddach fel tyfu dy fwyd dy hun a defnyddio llai ar y car. Efo’r prosiect arloesol Pwˆer Pobl, wnaethon ni ofyn i bawb yn Wrecsam wneud llw ar-lein i ddefnyddio llai o ynni yn y cartref a’r gwaith. Wnaeth Steve Connor, prif weithredwr efo’r asiantaeth farchnata Creative Concern, ein helpu ni i guro ar drwm. “Gofynnodd yr ymgyrch i bobl Wrecsam ddefnyddio llai o ynni eu hunain trwy

ddulliau syml ac ymarferol,” mae’n dweud. “O ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect bydd llawer o filoedd o dunelli o CO2 yn cael eu harbed a bydd ôl troed carbon cyfan y fwrdeistref dirol yn lleihau.” www.pwerpoblwrecsam.org

adeiladu ar gyfer y dyfodol Rw ˆ an ’te, mae ar le dyfodolaidd angen adeiladau dyfodolaidd. Iawn? Ac mae hynny’n golygu adeiladau fydd ddim yn costio’r ddaear. Mae’r cynlluniau i ddatblygu Mynedfa Orllewinol y dref yn barc busnes carbon isel a defnydd cymysg yn mynd o nerth i nerth. Ac nid yr amgylchedd yn unig fydd yn elwa ar hyn. Bydd y parc busnes uwch-fanyleb ac uwch-dechnoleg hwn yn gymorth hefyd i Wrecsam ddenu mwy o weithwyr o’r radd flaenaf. A bydd cwmnïau o’r radd flaenaf yn dod â swyddi o’r radd flaenaf. Canlyniad. 45


teigr teigr llewyrchus, ffyniannus Napoleon ddywedodd un tro mai ‘cawr cwsg’ oedd Tsieina. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r cawr wedi deffro ac mae’n un o rymoedd economaidd mwyaf y byd, os nad y mwyaf o’r cwbl. Ac mae ei chymydog, India, yn ail go agos. Mae’r ystadegau yn frawychus. Er enghraifft, mae Tsieina ac India yn cynhyrchu miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd o raddedigion mewn peirianneg, o’u cymharu â dim ond 170,000 yn UDA ac Ewrop.

Y ddwy economi deigr yma yn Asia yw’r dyfodol. Mae’n beth da felly ein bod yn eithaf da am feithrin cyfeillgarwch efo gwledydd eraill. Mae Prifysgol Glyndwˆ r wedi gweithio’n barod efo’r Coleg Bio-beirianneg ym Mhrifysgol Dechnoleg Hubei yn Wuhan. Ar ben hynny, mae Cyngor Wrecsam bob amser yn awyddus i siarad efo busnesau o Tsieina sy’n ystyried buddsoddi a chreu swyddi yn y DU. Y neges yma? Rho dy bres yn Wrecsam. Fyddi di ddim yn edifar.

mae gwybodaeth yn rym “Y gofod. Y ffin olaf.” Iawn. Anodd braidd oedd bod gormod o ddifrif ynglyˆn â’r Capten James T Kirk a’i ffrindiau Star Trek – yn y gwisgoedd tyn yna. Ond roedd ganddo bwynt. Ac mae

Techniquest Glyndwˆr

46


Wrecsam yn gwneud ei rhan i helpu dyn i fentro’n ddewr lle’r aeth neb erioed o’r blaen. Yn rhan o hyn oll, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Glyndw ˆ r yn helpu i ddatblygu drychau ar gyfer ‘Telesgop Mwyaf y Byd’ sy’n enw eithaf addas arno - a fydd wedi ei osod yn Ne America.

Mae hynny’n cynnwys myfyrwyr yn gwneud ceir ynni solar a gwyddonwyr yn gwthio ffiniau bio-beirianneg trwy weithio efo prifysgolion Tsieina.

cariad at wyddoniaeth Mae gwyddoniaeth yn gallu bod yn hwyl. Yn wir.

Ond nid drychau cyffredin mo’r rhain. Maen nhw’n 1.5 metr o led ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi eu caboli o fewn biliwnfed rhan o fetr, sy’n llai na 1000fed rhan o flewyn gwallt dynol.

Dos i weld Techniquest Glyndwˆr ar gampws y brifysgol ac mi weli di sut mae hyn yn wir. Mae mwy na 60 o gemau rhyngweithiol ac arddangosiadau i ysgogi meddyliau’r hen a’r ifanc fel ei gilydd.

Bydd y drychau hyn yn gydran hanfodol bwysig yn y telesgop, felly bydd Wrecsam yn chwarae rhan hollol allweddol o ran helpu’r byd i dreiddio i ddirgelion y bydysawd. Digon i wneud argraff arnat ti?

Mae hyn yn cynnwys pelen droi efo crisialau’n llifo a ‘wal gysgodion’ frawychus sy’n dod yn fyw ar ei phen ei hun.

Un enghraifft yn unig yw’r telesgop o’r brifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectau arloesol. Mae llawer o bethau eraill yn digwydd hefyd, pethau efo naws ‘byd newydd dewr’ go iawn iddyn nhw.

Mae’r hysbysebion yn brolio mai hyn yw’r diwrnod allan mwyaf heriol yng Ngogledd Cymru. Nod Techniquest yw archwilio dirgelion gwyddoniaeth – trwy gyfrwng ergydion mawr a llysnafedd llithrig. 01978 293400 www.tqg.org.uk

47


eich busnes: ein busnes Mae gwneud busnes yn Wrecsam yn rhoi gwefr go iawn i ni. Ac mae gennym ddigonedd o fentrwyr sydd wedi tyfu syniad dawnus yn rhywbeth mawr. Dyna Moneypenny i ti. Wedi ei enwi ar ôl hoff gynorthwyydd personol 007, mae gan y cwmni Wobr Fenter ac Arloesedd y Frenhines, ac mae wedi llwyddo tair gwaith i fod ar restr ‘100 Lle Gorau i Weithio’ y Sunday Times. Ddim yn rhy ddrwg i rywbeth gychwynnodd yn fusnes bach lleol ac a dyfodd i fod yn un o’r gwasanaethau ateb galwadau proffesiynol mwyaf blaenllaw yn y DU. Ac os byddi di’n gofyn i’r cyd-sefydlydd Rachel Clacher beth yw eu cyfrinach, un gair fydd ei hateb: pobl.

“Mae adnodd ardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’n gweithio’n galed yma ar stepen ein drws.” Rachel Clacher Cyd-sefydlydd Moneypenny 48

“Wnaethon ni sefydlu ein hunain yn Wrecsam ac rydym yn dal i fod ag ymrwymiad i’r dref oherwydd bod adnodd ardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’n gweithio’n galed yma ar stepen ein drws. “Bob dydd maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn cynrychioli ein busnes a’r miloedd hefyd o fusnesau cleient rydyn ni’n gweithio efo nhw ym mhob rhan o’r DU.” Ac nid oherwydd y bobl yn unig mae Wrecsam yn lle gwych i gynnal busnes. Mae llawer o resymau eraill. Nid y lleiaf o’r rhain yw tîm pwrpasol Cyngor Wrecsam o arbenigwyr busnes. Maen nhw’n cynnig pob math o gymorth cyngor a gwybodaeth, o gynllunio a marchnata busnes i godi arian a dod o hyd i’r adeilad neu safle iawn. Maen nhw’n griw dawnus iawn.


Felly, os wyt ti’n dechrau busnes o’r cychwyn cyntaf neu’n ystyried symud i rywle arall ac ehangu, ddylet ti roi galwad iddyn nhw. Mae siarad yn dda. Fedri di hefyd lawrlwytho Micro-arweiniad y Buddsoddwyr Busnes i Wrecsam neu wylio Ffilm Dau ar ein sianel YouTube. Gwna fo rwˆan - i weld beth mae busnesau eraill yn ei ddweud. Cymorth Busnes Cyngor Wrecsam 01978 667000 www.wrecsam.gov.uk

Yr Arglwydd Sugar nesaf? Mae’n siwˆr dy fod yn gwybod ein bod braidd yn llawn o’r dyfodol yma yn Wrecsam. Dim syndod felly bod gennym ddiddordeb yn y genhedlaeth nesaf o sêr byd busnes, arglwyddi Sugar y dyfodol. Mae pobl ifanc Wrecsam yn fwrlwm o egni menter. Wyt ti’n un ohonyn nhw efallai? Wyt ti? Wel, rydyn ni wedi sefydlu fforwm busnes arbennig i dy helpu di ar dy ffordd.

Micro-arweiniad y Buddsoddwyr Busnes i Wrecsam www.issuu.com/wxmsayshello

Mae Lansio Wrecsam yn fodd i ti siarad efo mentrwyr ifainc eraill, rhannu syniadau a hyd yn oed gwneud cais am grantiau i danio dy uchelgeisiau busnes. Mi fyddi di’n gyrru’r Bentley ’na cyn i ti wybod.

Ffilm Dau www.youtube.com/wxmsayshello

www.launchwrexham.co.uk www.twitter.com/LaunchWrexham

49


chwarae www.wrexhamsayshello.co.uk 50


Maes chwarae yw’r byd. Gwna’n fawr ohono. Dos allan drwy dy ddrws ffrynt a mwynha dy hun. Byw dy fywyd. Teimla’n rhydd. Wrecsam ydi’r fan yma.

51


chwaraeon

hefyd yw’r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, sy’n dal i weithredu.

Ychydig iawn o bethau sy’n ennyn cymaint o angerdd a greddf y tylwyth â chwaraeon. Rhyfel yw chwaraeon … heb y canlyniadau.

Hwn hefyd yw’r stadiwm fwyaf yng Ngogledd Cymru (oddeutu 10,000 o seddau) a’r pumed o ran ei faint yng Nghymru.

Lle cystadleuol yw Wrecsam, nid caled ac ymwthgar, ond cystadleuaeth dawel. Dim syndod bod chwaraeon yn beth mawr yma, eu chwarae a’u gwylio.

Mae’n lle sydd wedi profi gogoniant chwaraeon a lle a welodd dorri calonnau hefyd tros y blynyddoedd. Buddugoliaeth a gorchfygiad. A dyna sy’n ei wneud yn rhan mor arbennig o Wrecsam.

pêl-droed a rygbi Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndwˆr. O bwys aruthrol i chwaraeon yn lleol, hwn

52

Dyna i ti Glwb Pêl-droed Wrecsam er enghraifft. Mae’r ‘Dreigiau’ wedi chwarae eu stori ar laswellt y Cae Ras ers


blynyddoedd maith. Rydyn ni’n dal i gofion fel ddoe yr adegau wnaethon ni ladd cewri fel Arsenal Middlesbrough, Tottenham, West Ham, FC Porto, dim ond rhai o’r dreigiau y gwnaethon ni eu trechu. Wedyn y boen o gael ein darostwng yn y blynyddoedd a aeth heibio. Mae bod yn ddilynwr pêl-droed yn golygu profiad o’r eithafion. Mae’r stadiwm yn gartref hefyd i fath arall o bêl-droed, un efo pêl o fath gwahanol. Mae Rygbi’r Gynghrair wedi bod yn denu

mwy a mwy o ddilynwyr yn yr ardal yn y blynyddoedd diweddar, ac mae’r diolch am hynny’n bennaf i’r Crusaders. Canolfan y Clwb ers 2011 yw’r Cae Ras ac mae angerdd Wrecsam ynglyˆn â Rygbi’r Gynghrair wedi bod yn tyfu ers hynny. Paid â cholli dy gyfle.

Clwb Pêl-droed Wrecsam www.wrexhamafc.co.uk North Wales Crusaders www.northwalescrusaders.co.uk

53


rasio ceffylau Dechreuodd rasys ceffylau ym Mangor Is-coed mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl pan garlamodd dau ddyn o blith yr helwyr lleol ar draws y dolydd am wobr o £50. Hyd heddiw, dydyn nhw ddim wedi mynd ati i godi prif stand. Oherwydd bod golygfeydd mor ysgubol oddi ar lethrau glaswelltog yr amffitheatr naturiol hon, go brin fod angen hynny. Hwn hefyd oedd hoff gae rasio’r awdur nofelau cyffro a chyn joci Dick Francis, er bod pethau wedi newid tipyn ers iddo farchogaeth ei enillydd cyntaf erioed yma yn ôl ym 1947.

Cae Rasio Bangor Is-coed

54

“Yn yr 20 mlynedd a aeth heibio mae’r cae rasio wedi dod yn ei flaen o fod yn adeiladau pren i gyd i fod yn un efo cyfleusterau gwych – nid yn unig ar gyfer dyddiau rasio, ond hefyd ar gyfer partïon preifat, priodasau a chynadleddau,” eglura’r rheolwr cyffredinol Jeannie Chantler. Beth, felly, sy’n denu? Adloniant pur. “Does dim byd cystal â’r holl sioe a lliw o weld y ceffylau a’r jocis o agos, y berw o gwmpas y cylch betio a rhuthr adrenalin y ras ei hun,” dywed Jeannie. www.bangorondeeraces.co.uk Dos i www.twitter.com a dilyn @BangorOnDeeRace


golff Dywedodd yr awdur PG Wodehouse un tro: "I weld gwir gymeriad dyn, dos i chwarae golff efo fo.” Dan ni ddim yn gwybod am hynny, ond mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam gyfleusterau hyfryd ar gyfer pobl sy’n chwarae’r gêm fawr. Mae maes pencampwriaeth 18 o dyllau yng Nghlwb Golff Wrecsam, a meysydd 9 twll hardd yn Narland, Dyfroedd Alun, Dyffryn Moss a’r Plasau. Ac os nad wyt ti’n ei tharo hi’n hollol syth, efallai y bydd teclyn bach dechau yng Nghanolfan Golff Clays yn Wrecsam yn

gymorth i ti. Mae’r chwaraewyr proffesiynol yng Nghanolfan Ffitio Genedlaethol Mizuno yno yn defnyddio system radar gwerth £20,000 i ddadansoddi dy swingiad di. Maen nhw hyd yn oed yn gallu gweithio allan dy ‘ffactor taro’ di. Canolfan Golff Dyfroedd Alun (naw twll) 01978 855131 Clwb Golff Clays (18 twll) 01978 661406 Canolfan Golff Darland (naw twll) 01244 579282 Clwb Golff Dyffryn Moss (naw twll) 01978 720518 Canolfan Golff y Plasau (naw twll) 01978 780020 Clwb Golff Wrecsam (18 twll) 01978 351476 55


beicio mynydd Rwyt ti’n gorfod gweithio go iawn am dy frecwast yng Nghoed Llandegla yn Sir Ddinbych gyfagos. Mae eu llwybrau beic mynydd efo’u codau lliw mewn 650 o aceri o goetir sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy. Mae’r llwybr gwyrdd yn wych ar gyfer teuluoedd a’r llwybr glas yn berffaith ar gyfer dechreuwyr - ac mae beiciau yno i’w llogi os nad oes gennyt ti un dy hun. Ond mae Llandegla yn denu’r selogion hefyd. Mae’r llwybr coch 11 o filltiroedd yn cynnwys llwybr sengl heb wyneb arno, ffigyrau wyth ysgafellog a chroesfannau dw ˆ r. Ond beth am y llwybr du? Digon yw dweud y bydd arnat ti angen coesau cadarn a nerfau dur. 01978 751656 www.oneplanetadventure.com

antur awyr agored Mi fyddai’n hen dro gwastraffu’r holl awyr iach hwnnw. Mae Wrecsam yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau llawn cyffro i droi ein mannau agored yn un maes chwarae antur anferthol. Mae Motor Safari yn cynnig popeth a mwy, rali-sgrialu, oddi ar y lôn, cychod pwˆer, heboga, rafftio dwˆr gwyn – ac mae wedi bod ar raglenni teledu fel Top Gear, Blue Peter a’r Holiday Programme. Dylai’r wal ddringo hefyd ym Mhlas Power Adventure bwmpio tipyn o adrenalin i mewn i ti. Mae’n fawr - mwy na 6,000 o droedfeddi sgwâr. Ac mae’n boblogaidd iawn gan y plantos, sydd yn aml yn curo eu rhieni’n racs, yma ac ar y cyrsiau rhaffau – lle mae gwifren sipio 100 troedfedd, llwyfan abseilio a rhywbeth efo’r enw pryderus ‘naid ffydd’. 01978 754533 www.motor-safari.co.uk 01978 754747 www.plaspoweradventure.com

56


canolfannau hamdden

tennis

Eisiau cadw popeth yn dwt – yn cynnwys dy gyfrif banc? Does dim ond rhaid i ti chwipio dy gerdyn Pur allan yn un o’n canolfannau hamdden cyhoeddus.

Rydyn ni’n hoff iawn o’n tennis, ac nid yn ystod pythefnos Wimbledon yn unig. Mae’r chwe chwrt dan do a’r 10 o gyrtiau awyr agored yng Nghanolfan Tennis Wrecsam yn rhai o safon ryngwladol.

Bydd yn arbed arian i ti ar y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn cynnwys nofio, sesiynau yn y gampfa a’r dosbarthiadau ffitrwydd. Mae’r Byd Dwˆr yn ganolfan ddw ˆ r (mae’r enw yn dy helpu di i ddeall), efo pwll nofio cystadleuaeth 25 metr o hyd, cafn 65 metr o hyd a reid afon wyllt. Yn y Morlyn Trofannol ym Mhlas Madoc, mi fedri di gerdded yr ewyn, mynd ar gefn y crocodeil, sglefrio i lawr y neidr a chwarae yn y tonnau. Ac mi fedri di adael i’r plant roi cynnig arni hefyd, os oes rhaid i ti.

Bydd ein hyfforddwyr yn dy helpu di i fod yn ddigon da iddyn nhw. Ac unrhyw amser y bydd arnat ti awydd taro’r bêl o gwmpas tipyn, mi fedri di chwarae yn y cyrtiau ym Mharc Actyn a Pharc Bellevue yn Wrecsam neu Barc y Ponciau yn y Rhos – a hynny’n rhad ac am ddim. Canolfan Tennis Wrecsam 01978 265260 www.wrexhamtenniscentre.co.uk.co.uk

Mae gan y Waun bwll hefyd. Y lle perffaith i oeri tipyn wedi bod yn y sawna neu’r ystafell stêm, gêm o sboncen, neu dipyn o Tai Kwon Do. www.wrecsam.gov.uk Byd Dw ˆ r 01978 297300 Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Plas Madoc 01978 821600 Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun 01691 778666

Canolfan Tennis Wrecsam

athletau Mae prif athletwyr yn dod i Stadiwm Heol y Frenhines, yn cynnwys sêr Olympaidd fel Colin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomas a Christian Malcolm. Ond mae hefyd yn cynnal dyddiau mabolgampau ysgolion a rasys hwyl lleol. Mae’n gartref hefyd i Glwb Athletau Wrecsam, sy’n helpu sêr y dyfodol o wyth oed ymlaen i gael trefn ar bethau.

Byd Dwˆr

01978 355826 57


cerdded

y dyffryn dirgel

Paid â gadael i’r cwbl wibio heibio i’r car fel niwl gwyrdd. Pa un a wyt ti’n byw yn y fwrdeistref sirol neu ddim ond yn ymweld, mae dull gwell o lawer o glosio mewn modd mwy personol efo cefn gwlad Wrecsam.

Mae’r B4500 yn ffordd arbennig iawn, er na fyddai neb yn meddwl hynny o edrych ar y map. Mae’n dechrau oddi ar yr A5 yn nhref y Waun ac mae’n diflannu dim ond tua 18 milltir ymlaen mewn rhwydwaith o lonydd bach gwledig.

Cerdded. Mae milltiroedd lawer o lwybrau cerdded ym mhob twll a chornel o Wrecsam, ym mhob math o dirwedd y gallet ti ei ddychmygu o goetir a dyffryn afon i weunydd yn y gwynt a mynyddoedd grugog. Dos allan i archwilio.

arweinwyr cylchdeithiau Awydd tipyn bach o gwmni wrth gerdded o gwmpas Wrecsam? Mae gennym ddigonedd o arweinwyr cylchdeithiau cymwysedig sy’n adnabod pob twll a chornel o’r fwrdeistref sirol. 01286 677059 www.northwalestouristguides.com

Mae hi’n arbennig oherwydd ei bod yn mynd ar hyd Dyffryn Ceiriog i gyd, trwy amrywiaeth nodedig o dirweddau – tir pori tawel, coetir, clogwyni serth ac ambell i gipolwg ar gefnen o fynydd uchel a gweunydd breuddwydiol. Mor odidog yw’r dyffryn, yn wir, bod Lloyd George wedi ei alw’n “ddarn bach o’r nefoedd ar y ddaear”. Ac mae mor wyrthiol o ddigyffwrdd bod naws taith i’r gorffennol pell wrth ddod ar hyd y B4500 gyda glannau Afon Ceiriog a’i brithyllod toreithiog . Dyna’r effaith oedd ei heisiau, ac yn wir yr effaith a gafwyd ar Patricia Somerset, a ymwelodd o Dde Llundain am ychydig o ddyddiau. Bu ychydig o gerdded, marchogaeth a gweld golygfeydd ein treftadaeth yn fodd i sicrhau egwyl fach o hamdden ac ymlacio. “Mae fy ngwaith yn llawn o straen a dwi’n gweithio llawer o oriau, felly roedd y gwyliau yma yn berffaith,” dywed Patricia. “Y penderfyniad mwyaf yr oedd rhaid i mi ei wneud oedd pa le hardd yr oedd arna’ i eisiau ei weld y diwrnod hwnnw. Roedd harddwch y lle yn syndod i mi – doeddwn i ddim yn gallu meddwl sut y gwnes i fethu’r dyffryn o’r blaen. Mae wedi bod yn ddarganfyddiad go iawn.” www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

y teithiau cerdded gorau taith gerdded dyffryn ceiriog

Dyffryn Ceiriog

58

Taith gerdded hyfryd dros ben sy’n dechrau yng ngorsaf reilffordd y Waun ac yn gorffen wrth odre mynyddoedd y Berwyn ym mhentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog.


Traphont Ddwˆr Pontcysyllte

llwybr maelor 24 o filltiroedd o daith gerdded trwy neu ger pentrefi fel Bronington, Hanmer, Llannerch Banna ac Owrtyn – sy’n gallu bod yn lle da i orffwys am dipyn, heb sôn am beint bach. llwybr clawdd offa Llwybr Cenedlaethol wedi ei enwi ar ôl clawdd syfrdanol Offa Brenin Mersia a godwyd yn yr wythfed ganrif. Mae’r darn

sy’n mynd drwy Wrecsam yn cynnwys Traphont Ddwˆr anferthol Pontcysyllte. www.nationaltrail.co.uk/offasdyke llwybr clawdd wat Yn fyrrach a llai enwog na Chlawdd Offa, mae’r llwybr 61 o filltiroedd hwn yn dod i mewn i Wrecsam yn Owrtyn ac yn dod allan ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun cyn mynd i Sir Y Fflint. www.watsdykeway.org 59


bywyd y parc

dyfroedd alun, gwersyllt

Mae digonedd o fannau agored yn Wrecsam. Yn wir, mae 90% o’r sir yn wledig. Ond nid yw hynny wedi ein rhwystro rhag creu dewis mawr o barciau i bobl eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Teimla’r llosgiad ym mharc gwledig mwyaf Wrecsam, efo chwech o deithiau cerdded efo’r calorïau wedi eu cyfrif, pob un yn wahanol o ran dringo a phellter. Neu mi fyddet ti’n gallu gwneud dim mwy nag edrych ar y cerfluniau.

Mae gan rai amgueddfeydd tymhorol, canolfannau ymwelwyr a chaffis. Mae rhai yn dangos Gwobr y Faner Werdd am ragoriaeth mewn mannau agored cyhoeddus. Ac mae rhai wedi codi o weddillion ein treftadaeth ddiwydiannol. Mae pob un yn unigryw, efo’i raglen ie hun o ddigwyddiadau i’r teulu i gyd, yn cynnwys gwneud barcut, trochi yn y pwll a fforio am ffwng (neu hel madarch i ti a fi). Mae arweiniad i’w lawrlwytho oddi ar www.wrecsam.gov.uk/countryside

01978 763140 pyllau plwm y mwynglawdd Ym mhen uchaf Dyffryn Clywedog, dyma’r lle perffaith i ddechrau archwilio un o afonydd prysuraf y Chwyldro Diwydiannol. Mae olion yr hen byllau plwm yn dal yno i’w gweld – tyˆ ’r injan drawst wedi ei adnewyddu, yr injan weindio a’r tai bwyler. 01978 763140

Tyˆ Mawr

60


dyffryn moss

tyˆ mawr, cefn mawr

Arferai glowyr ddefnyddio’r rheilffyrdd a’r tramleiniau sy’n croesi’n ôl a blaen yn y dyffryn ffurf ‘v’ hwn. Heddiw, wrth gerdded yn hamddenol gyda glannau’r llynnoedd neu drwy goetir derw a ffawydd, byddi’n gweld beicwyr, pysgotwyr gwialen a gwylwyr adar.

Defaid, asynnod, moch, cwningod, ieir a llawer o anifeiliaid eraill i’w gweld sy’n byw yno. Hefyd, mae taith gerdded hyfryd gyda glan Afon Dyfrdwy efo golygfeydd ysgubol o draphont Cefn.

01978 763140

01978 822780

melin y nant, coedpoeth

bellevue, wrecsam

Trafferth efo’r hen dwrch daear yn codi pridd ar dy lawnt odidog? Efallai y byddi di’n deall yn well wedi i ti fod i Felin y Nant. Mae’r twnnel twrch daear anferth sydd yno yn fodd i ti weld pethau o’u safbwynt nhw. Gelli wylio mwy o fywyd gwyllt o’r guddfan adar, a hyd yn oed hurio hwyaid rhai rwber - ar gyfer ras hwyaid.

Parc Edwardaidd wedi ei adfer, efo rhodfeydd o bisgwydd yn ymestyn allan o lwyfan y band. Gyda’r hwyr mae lampau o’r cyfnod yn goleuo’r llwybrau. Dyma werddon gain dim ond chwarter milltir o ganol y dref.

01978 752772

01978 264150

Llwybr Clywedog

Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Dyfroedd Alyn

Llwyn Isaf

61


gwarchodfa natur Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Llys Bedydd yn rhan o’r drydedd gyforgors ym Mhrydain o ran ei maint. Mae hi mor fawr yn wir, bod modd ei gweld o’r gofod. Efallai na fydd y syniad o gors anferthol yn apelio llawer ar yr olwg gyntaf. Dyna pam, efallai, bod cyn lleied o bobl y cychod sy’n dod heibio ar Gamlas Llangollen yn aros i gerdded llwybrau’r Fawnog.

62

Eu colled nhw yw hynny. Ers achub y fawnog rhag difrod y gwaith torri mawn, mae wedi dod yn enwog am ei nadroedd, madfallod a madfallod dw ˆ r, heb sôn am weision y neidr, llygod y dw ˆ r, y gylfinir a’r ehedydd. Ac os wyt ti’n medru gweld yn glir iawn, efallai y gweli di gopyn dwˆr hyd yn oed. www.ccgc.gov.uk www.naturalengland.org.uk


digwyddiadau Mae rhywbeth yn digwydd o hyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. O ddigwyddiadau mawr blynyddol i adloniant a gweithgareddau llai mawreddog (ond yr un mor ddifyr). Rhai o’r uchafbwyntiau? Mae Gwˆ yl Afalau Erddig Apple yn denu miloedd bob blwyddyn ac mae’n andros o barti mawr i anrhydeddu’r afal cyffredin. Mae Ffocws Cymru yn troi canol tref Wrecsam yn nefoedd i bobl sy’n caru cerddoriaeth fyw am dri diwrnod ym mis Ebrill. Ac mae ein Marchnad Nadolig Oes Fictoria yn denu pobl o bell ac agos, heb or-ddweud o gwbl. Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015 Fedri di lawrlwytho’r app wrexham says hello oddi ar iTunes neu Google Play www.wrecsam.gov.uk www.eventsnorthwales.co.uk

pontfest 2014 Mae Traphont Ddw ˆ r Pontcysyllte yn fwy na dim ond rhyfeddod Treftadaeth Byd. Mae erbyn hyn yn lleoliad hefyd i un o’r digwyddiadau cerddoriaeth fyw awyr agored gorau yng Ngogledd Cymru. Maen nhw’n gweddnewid y cae o dan y draphont yn faes gig ar gyfer un noson pob mis Gorffennaf, gyda phrif fandiau lleol yn mynd i fyny ar y llwyfan i daro’r tonau allan i’r gynulleidfa hafaidd braf. Ac wrth i’r haul fachlud, mae colofnau anferthol y draphont yn goleuo yn erbyn yr awyr sy’n tywyllu. Dyna i ti olygfa fendigedig. Felly bydd yno. Ffilm o BontFest 2013 www.youtube.com/wxmsayshello Gwybodaeth am BontFest 2014 – ffonia Ganolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015

63


hwyl fawr

apps Chwilia am yr app ‘wrexham says hello’ ar iTunes neu Google Play. Mae’n rhad ac am ddim ac yn llawn o wybodaeth am ganol tref Wrecsam. www.apple.com

cyfryngau cymdeithasol Fedri di’n dilyn ni ar Trydar, Gweplyfr neu Instagram. Beth am ein twitio ni neu bostio ar ein tudalen? www.facebook.com/wxmsayshello www.twitter.co.uk/wxmsayshello www.instagram.com/wxmsayshello

gwefan Neu edrych o gwmpas ein gwefan ni. Mae’n go dda. www.wrexhamsayshello.co.uk 64

Hed amser. Diolch yn fawr am ddarllen y daflen hon. Ond cofia di, dim ond y dechrau yw hyn. Mae gan Wrecsam lawer mwy i’w ddweud. Mae gennyt ti hefyd, felly ymlaen â’r sgwrs.

canolfan croeso wrecsam, stryt y lampint Er bod y gair ‘tourist’ ar yr arwydd uwchben y drws, yn Saesneg, fel mae’r arwydd Cymraeg yn ei awgrymu, mae croeso yma i bawb. Yn wir, mae hanner cwsmeriaid CG Wrecsam yn bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol. Mae ein pedwar cynorthwyydd yn y Ganolfan Croeso mor llawn cymorth, fuaset ti ddim yn coelio, ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 70 o flynyddoedd o brofiad. Os oes rhywbeth nad ydyn nhw’n ei wybod am Wrecsam, go brin ei fod yn werth ei wybod. Coda’r ffôn neu dos yno am syniadau defnyddiol a gwybodaeth am bethau i’w gweld a’u gwneud. Popeth o ddosbarthiadau celfyddyd a sioeau theatr i wyliau a chyngherddau. O amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth i dai bwyta a thafarnau gwledig.


awyren… Maes Awyr Manceinion www.manchesterairport.co.uk Maes Awyr John Lennon Lerpwl www.liverpoolairport.com trên… Trenau Arriva Cymru (Caer – Wrecsam – Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk Lein y Gororau (Borderlands) (Wrecsam – Bidston) www.borderlandsline.com Virgin Trains (Wrecsam – Llundain Euston) www.virgintrains.co.uk bws…

Ac os wyt ti’n ymweld ac eisiau gwely am y noson, maen nhw hyd yn oed yn gallu dy helpu di i ddod o hyd i le i aros.

Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166 www.wrecsam.gov.uk Bysiau Arriva www.arriva.co.uk

01978 292015 tic@wrexham.gov.uk www.facebook.com/wrexhamtic www.twitter.com/wrexhamtic

mewn lle da Yn olaf, os nad wyt ti’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a heb fod yn hollol siwˆr lle mae - neu sut i fynd yno dyma gyngor defnyddiol i ti. Rydym ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae gennym Sir Gaer a Sir Amwythig un ochr ac Eryri ac arfordir Gogledd Cymru’r ochr arall. Rydym 45 o funudau o waith gyrru o brif feysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl a 90 o funudau o Birmingham. Yn wir, dydyn ni ddim yn bell o gwbl o’r rhan fwyaf o’r DU – wedi ein cysylltu gan ffyrdd a rheilffyrdd da, yn cynnwys gwasanaethau trên yn syth i Lundain ac yn ôl. 65


helo byd

66


i deimlo’r wefr

trowch y

dudalen

ein busnes ni yw

creu hello world

helo byd

ffwrdd â ni wrecsam


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. I’R HELEDD WEN

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes. Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

1 2

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

15

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

9 10 11 12 13

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

14

★ ★

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. I'R EGLWYS WEN

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

67

68


canol tref wrecsam Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Allwedd GWESTY RAMADA PLAZA

Toiledau Parcio

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam. I’R HELEDD WEN

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes. Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

1 2

★ 1 2 3 4 5 6 7 8

15

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

9 10 11 12 13

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

14

★ ★

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda. I'R EGLWYS WEN

Mae Wrecsam yn dweud ‘sut ma’i’.

15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25

Gorsafoedd Trên Gorsaf Gyffredinol Wrecsam Gorsaf Wrecsam Ganalog Atyniadau Llyfrgell/Oriel Byd Dw ˆr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes Fair Eglwys San Silyn Theatr Parc y Llwyni Mecca Bingo Parc Bellevue Marchnadoedd Dan Do/Arcêdau Marchnad y Bobl Arcêd Canolog Marchnad y Cigyddion Arcêd Owrtyn Marchnad Gyffredinol Shopmobility Shopmobility (Gorsaf Fysiau) Arall Galw Wrecsam Neuadd y Dref Adeiladau’r Goron Swyddfeydd y Cyngor, Stryt y Lampint Gorsaf Heddlu Llysoedd Barn Swyddfa Gofrestru Canolfan Croeso Sqwâr y Frenhines Coleg Iâl Gorsaf Fysiau

www.wrexhamsayshello.co.uk 2

67

68


i deimlo’r wefr

trowch y

dudalen

ein busnes ni yw

creu hello world

helo byd

ffwrdd â ni wrecsam


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.