Wrexham 2025 - town centre prospectus - cymraeg

Page 1

cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

1


2

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

cynnwys 04 y weledigaeth 07 the posibilrwydd 10

y presennol

13

y dyfodol

16

the cyfleoedd


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

“ Mae ffyrdd o fyw yn newid. Ac mae’n rhaid i ganol trefi newid hefyd.” Am flynyddoedd lawer, y grym y tu ôl i esblygiad canol trefi oedd manwerthu. Roedd bywyd ar y stryd fawr yn hawdd. Ond mae pethau wedi newid. Mae siopa ar y rhyngrwyd, archfarchnadoedd a datblygiadau y tu allan i’r dref wedi newid y ffordd rydym ni’n siopa. Er bod manwerthu yn parhau i fod yn rym o bwys, fedrwch chi ddim erbyn heddiw adeiladu canol tref ar sail siopa yn unig. Dydi’r 1970au ddim yn dod yn ôl. Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen. Mae’n rhaid i ni ail-lunio rôl canol y dref, a sut y mae modd iddo esblygu fel man busnes, tai, addysg a hamdden.

3


4

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

y

weledigaeth


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

Mae’r ddogfen hon yn egluro ein gweledigaeth ar gyfer canol tref Wrecsam dros y ddegawd nesaf. Canol tref sydd - heb golli ei hunaniaeth - yn esblygu gyda bywyd yr unfed ganrif ar hugain. Wrth gwrs, ni fydd gwireddu’r weledigaeth hon yn hawdd. Bydd arnom ni angen prif gynllun manwl, ac rydym ni’n gweithio ar hwnnw ar hyn o bryd. Ond, am y tro, gadewch i ni osod yr olygfa ac esbonio sut y gallwch chi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd. Beth yn union ydi’r weledigaeth? Yn syml...

“ Canol tref o’r unfed ganrif ar hugain sy’n ddeniadol, nodedig a hygyrch a chanol tref y mae ar bobl eisiau byw ynddo, ymweld ag o, a buddsoddi ynddo” Mae’n swnio’n dda. Ond sut ydym ni’n mynd i gyflawni hyn? Dyma sut...

5


6

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

physical regeneration

homes

jobs & skills

Byddwn yn helpu i greu cartrefi newydd a gwell yn y dref er mwyn denu mwy o bobl i fyw yma. Ac wrth i fwy o bobl fyw yma, bydd mwy o alw am nwyddau a gwasanaethau dydd i ddydd. Siopa. Adloniant. Ac yn y blaen. Bydd hynny’n ysgogi twf busnesau, yn creu cyfleoedd swyddi a sgiliau newydd, yn cynhyrchu incwm, yn lleihau tlodi ... ac yn gwella ansawdd bywyd pobl leol. Hawdd. Byddwn hefyd yn datblygu cyfleusterau celfyddydol a diwylliannol, ac yn ehangu’r economi gyda’r nos. Felly, bydd mwy o bobl yn dod yma ar gyfer ystod amrywiol o resymau. Nid ar gyfer siopa yn unig.

income

reduction in poverty

increased quality of life

Breuddwyd gwrach? Ddim o gwbl. Mae gan bob tref a dinas weledigaeth. Fodd bynnag, dydi hynny ddim yn golygu ei fod yn mynd i ddigwydd. Ond rydym ni’n bell ar y blaen.

“Mae Wrecsam wedi derbyn £10.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wireddu’r weledigaeth hon.

Mae’r arian yma’n rhan o brosiect adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac mae’n dangos ein bod ni o ddifrif. Mi fedrwn ni wneud hyn. Ac i roi hyder i fuddsoddwyr, rydym ni’n ymgorffori’r weledigaeth hon yn fframwaith cynllunio’r Prif Gynllun Canol y Dref a’r Cynllun Datblygu Lleol.


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

y

posibilrwydd Dal yn ansicr ynghylch potensial canol tref Wrecsam?

Ystyriwch hyn...

“ Rhagwelir y bydd ein poblogaeth yn tyfu mwy na gweddill gogledd Cymru efo’i gilydd rhwng rwan a 2025.” A meddyliwch am hyn... •

Bydd rhwng 10,000 a 13,000 o dai ychwanegol yn cael eu hadeiladu yn y fwrdeistref sirol erbyn 2028.

Mae poblogaeth ein myfyrwyr yn cynyddu pob blwyddyn (mae Prifysgol Glyndwr yn epig).

Mae’n debyg mai ein heconomi gyda’r nos ydi’r mwyaf yng ngogledd Cymru.

Mae un o wyliau cerddorol mwyaf Cymru - Focus Wales - yn cael ei chynnal yma, gan ddenu dros 5,000 o bobl i’r dref. Swît.

Disgwylir i Wrecsam ddenu hyd at £1 biliwn o fuddsoddiad yn y tair blynedd nesaf

7


8

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

Lle mae Wrecsam? Gogledd Cymru. Ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y DU. Ydi o’n lle hawdd ei gyrraedd? Yndi tad. Mae ffordd osgoi’r A483 yn mynd i syth i mewn i draffyrdd yr M56, yr M53 a'r M6. Ac mae traean o boblogaeth y DU yn byw o fewn dwy awr mewn car i’r dref A....? Mae meysydd awyr Lerpwl a Manceinion yn daith 45 munud mewn car. Grêt. Mae’n lle hawdd ei gyrraedd. Ond ydi Wrecsam yn fawr? Yndi. Y dref fwyaf yng ngogledd Cymru. Ac mae oddeutu 135,000 o bobl yn byw yn y wrdeistref sirol. Rho i mi faith ddiddorol am Wrecsam. Mae gennym ni’r trydydd clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yn y byd.

Diolch

O...


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

Mae pob un o’r pethau yma’n golygu pobl. A bydd llawer o’r bobl yma - os ydym ni’n gwneud pethau’n iawn - yn dibynnu ar ganol y dref. Ar gyfer gwaith, tai, hamdden a llawer o bethau eraill. Ar gyfer y buddsoddwyr masnachol cywir, mae hyn yn golygu marchnad. Mae yna bosibiliadau di-ri yn Wrecsam.

9


10

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

y

presennol


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

Mae Wrecsam wedi gweld buddsoddiad anhygoel dros y ddegawd ddiwethaf. Ers 2003 mae mwy na 485,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu wedi ei greu yng nghanol y dref. Mae hyn yn cynnwys parc siopa Dôl yr Eryrod – a agorwyd yn 2008 gyda siopau poblogaidd fel Debenhams, Next ac M&S. Mae celf yn boblogaidd hefyd. Mae mannau creadigol fel Un-Deg-Un a Galeri 3B wedi rhoi pwrpas newydd i safleoedd manwerthu gwag, gan chwistrellu bywyd ac egni newydd i’n strydoedd mawr. Mae prosiectau tai yn Stryt y Twtil, Maes Caxton a Ffordd Grosvenor wedi creu cartrefi newydd smart. Ar ben hyn, mae datblygiad £15 miliwn yn Hightown wedi trawsnewid ardal breswyl bwysig.

11


12

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

“ Felly rydym ni eisoes wedi gweld datblygiadau masnachol mawr a mannau ac adeiladau yng nghanol y dref yn cael eu defnyddio fel gofodau creadigol.” Er bod y ddogfen hon yn ymwneud â chanol y dref, mae buddsoddiadau mawr wedi eu gwneud ar gyrion y dref hefyd. Yn 2013 adeiladwyd Premiere Inn newydd sbon 83 ystafell wely wrth ymyl Prifysgol Glyndwr, yn ogystal ag unedau manwerthu newydd trawiadol ar Ffordd yr Wyddgrug. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni hefyd wedi gweld buddsoddiad mawr ar gampws y brifysgol, gan gynnwys datblygiad llety myfyrwyr £40 miliwn a gwelliannau mawr i’r Cae Ras sydd bellach ym meddiant y brifysgol. Buddsoddiad mawr arall oedd agor archfarchnad Morrisons, gwerth £25 miliwn, oddi ar Ffordd Rhuthun yn 2011. Ac mae’r buddsoddiadau yma i gyd yn dangos potensial Wrecsam.


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

y

dyfodol

13


wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

Fel rydym ni wedi dweud eisoes, mae gennym ni weledigaeth. Mae arnom ni eisiau creu canol tref sydd wedi ei adeiladu ar gyfer bywyd yr unfed ganrif ar hugain. Ardal lle gall pobl weithio, byw, dysgu a mwynhau eu hunain. Byddwn yn gwneud hyn drwy annog datblygiadau newydd yn Wrecsam. Ond lle yn union? Rydym ni’n siarad efo perchnogion tir ac eiddo allweddol i gael gwybod beth yw eu dyheadau ac i weld a fedrwn ni eu cynnwys yn ein cynlluniau. Fodd bynnag, rydym ni eisoes wedi nodi rhai safleoedd allweddol.

Safle Bodhyfryd Safle Stryd y Bont

Neuadd y Dref

34 A5

CANOL Y DREF

Y

FA AD RH

BO NT

Dôl yr Eryrod

N SA L SI

ST RY D

A GL HA

GR OS VE NO R

YR

BODHYFRYD

D RY ST W

DDU D RHOS FFORD

Gorsaf Fysiau

FF OR DD

14

YN


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

Y peth hanfodol i sicrhau llwyddiant fydd cyfathrebu da a chyd-drefniant rhwng Cyngor Wrecsam a datblygwyr masnachol a pherchnogion eiddo diriaethol.

“ Y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn cydweithio? Rydych chi’n llygad eich lle. Mae hynny’n gwneud synnwyr.” Os fedrwn ni adeiladu’r berthynas honno, bydd tref Wrecsam yn derbyn y buddsoddiad sydd ei angen arni. A bydd datblygwyr a pherchnogion eiddo diriaethol yn gwneud yr adenillion sydd eu hangen arnyn nhw i wneud elw.

15


16

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref

y

cyfleoedd


cyngor bwrdeistref sirol wrecsam

Rydym ni ar ddechrau’r daith hon. Ond os hoffech chi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd – a’n helpu ni i lunio ein cynllun - cysylltwch â ni. Efallai eich bod chi’n ddatblygwr neu’n berchennog eiddo diriaethol iawn ac eisiau siarad efo ni. Efallai bod gennych chi eisoes fusnes yng nghanol y dref? Neu’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb? Beth bynnag eich diddordeb, rydym ni’n awyddus i sicrhau eich bod chi’n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. e: economicdevelopment@wrexham.gov.uk ff. 01978 298752

17


18

wrecsam 2025 prosbectws canol y dref


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.