RHANNU AC YSBRYDOLI 2018

Page 1

RHANNU AC YSBRYDOLI

HAF

ADDYSGU A DYSGU YM MHRIFYSGOL BANGOR

LLWYDDIANT AM Y BEDWAREDD FLWYDDYN YN Y STUDENT CHOICE AWARDS!

ENWEBWYD PRIFYSGOL BANGOR AR GYFER GWOBRAU YN Y CATEGORÏAU CANLYNOL: LLETY, CLYBIAU A CHYMDEITHASAU, CYRSIAU A DARLITHWYR, RHOI’N ÔL, RHYNGWLADOL, RHAGOLYGON SWYDDI, CEFNOGI MYFYRWYR, CYSYLLTIAD GORAU Â DARPAR FYFYRWYR A PHRIFYSGOL Y FLWYDDYN YN GYFFREDINOL.

Ar sail adolygiadau a barn ein myfyrwyr, dewiswyd Prifysgol Bangor fel y gorau yn y DU ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â Llety Myfyrwyr yn WhatUni.com Student Choice Awards. Roedd y Brifysgol hefyd yn drydedd yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am Gyrsiau & Darlithwyr. Dywedodd yr Athro John G Hughes Is-ganghellor y Brifysgol

Rwy’n falch iawn bod y Brifysgol wedi ennill gwobrau mewn dau gategori, ac mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ein perthynas waith agos gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr i ddarparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.

Dywedodd Mair Rowlands Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor

Mae’r myfyrwyr yn rhan greiddiol o bopeth a wnawn, ac rydym yn ennill y gwobrau hyn trwy wrando, a thrwy weithio mewn partneriaeth â nhw i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd gorau posibl.

bangor.ac.uk

01


The History of Witches and Wizards, 1720 (Wellcome Trust Collection)

NEGES GAN YR ATHRO OLIVER TURNBULL DIG Bu hon yn flwyddyn ardderchog arall ar gyfer addysgu a dysgu ym Mangor, ac mae’r ddogfen hon yn dangos y gwahanol resymau am hyn: staff brwdfrydig iawn, addysgu ysbrydoledig a gofal bugeiliol cefnogol. Yn dilyn ein Gwobr Aur TEF yn 2017 (yr unig wobr Aur i brifysgol yng Nghymru), rydym eto wedi cael dros 90% ar gyfer boddhad myfyrwyr (yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, NSS), gan ein gosod eto yn y 10 uchaf yn y DU. Ni yw’r unig brifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n cael sgôr cyson o dros 90%. Gwnaethom yn hynod o dda yn y WhatUni Student Choice Awards, lle roeddem yn 1af yn y DU am Glybiau a Chymdeithasau, a hefyd yn 1af yn y DU am Lety. Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ennill y wobr Efydd am Brifysgol y Flwyddyn.

Yn y ddogfen hon, gwelwch nifer o enghreifftiau o’n harloesedd, rhagoriaeth ac ysbrydoliaeth. Bu Bangor yn sefydliad unigryw ers dros 130 o flynyddoedd, a gobeithio y gall darllenwyr weld pam ein bod mor falch o’r profiad addysgu a dysgu a ddarparwn i’n myfyrwyr.

Wrth gwrs, nid boddhad myfyrwyr yw’r unig ffordd o fesur ansawdd. Cefnogwyd ein llwyddiannau hefyd gan werthusiad y rheolydd cenedlaethol, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), a oedd â llawer o bethau cadarnhaol i’w ddweud am ein “trefniadau cadarn i sicrhau safonau academaidd a rheoli ansawdd academaidd”. Rwy’n hynod falch o ddweud eu bod wedi cael argraff mor dda o’n darpariaeth fel eu bod wedi llunio adroddiad nad oedd yn cynnwys unrhyw argymhellion ffurfiol ynglŷn â sut y gallem wella, sy’n rhywbeth eithriadol.

CANMOLIAETH GAN Y QAA Nid oedd unrhyw feysydd a argymhellwyd ar gyfer gwella ym Mhrifysgol Bangor, ac ar ben hynny, canmolwyd 3 maes yn benodol gan y panel: Y ffordd y mae Bangor yn defnyddio dull seiliedig ar ddata i gynllunio ac i wella profiad myfyrwyr. Ein partneriaeth gyda myfyrwyr sydd wedi ei gwreiddio’n ddwfn, yn eang ac yn gweld gwerth mewn diwylliannau. Y ffaith bod dwyieithrwydd wedi’i sefydlu ac yn cael effaith gadarnhaol ar bob agwedd ar brofiad y myfyrwyr.

YR ATHRO OLIVER TURNBULL DIRPRWY IS-GANGHELLOR ADDYSGU A DYSGU

DEWINIAETH YM MHRIFYSGOL BANGOR Bydd myfyrwyr yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol newydd yn awr yn gallu astudio dewiniaeth! Mae’r modiwl, ‘Magic and the Supernatural’, yn ystyried credoau mewn gwrachod, diafoliaid a hud, yn ogystal â ffenomenau fel angylion, ysbrydion, breuddwydion a phroffwydoliaeth. Roedd syniadau am hud a’r goruwchnaturiol yn gyffredin ym meddyliau llawer o ddiwylliannau Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar. Roeddent yn hanfod credoau crefyddol a gwyddonol yn y 15fed a’r 16eg ganrif. Cafodd y trawsnewid crefyddol a’r newid gwleidyddol yn yr adeg

hon effaith ddramatig ar ddiwylliant Ewrop, ac ar gredoau ac arferion poblogaethau Ewrop. Roedd cysyniadau achos ac effaith sydd y tu hwnt i allu dynol yn rhan greiddiol o’r diwylliant hwn. Roedd llawer o’r ofnau, newidiadau a’r credoau yn y diwylliant poblogaidd wedi achosi’r twf mewn ‘gwrachdwymyn’ gan arwain at gannoedd o filoedd o bobl - yn bennaf menywod - yn cael eu llosgi wrth y stanc ar draws Ewrop ac America Mae’r modiwl hwn yn ystyried y berthynas ddeinamig ac, ar brydiau, angheuol, rhwng yr Eglwys, y Wladwriaeth, a chredoau poblogaidd. Mae’r myfyrwyr yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol fel cofnodion treialon, cytundebau hela gwrachod a delweddau ac yn astudio gwaith ysgolheigaidd am hanes a thu hwnt er mwyn deall y syniadau a’r cysyniadau sy’n sail i gredoau yn y goruwchnaturiol a’r ymgais i’w cynnwys.

CYNNWYS Dewiniaeth ym Mangor

03

Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

04

Menter trwy Ddylunio

06

Trydedd Gynhadledd CELT

07

Gwobrau’r Academi Addysg Uwch

08

Project Llwybr Sidan

10

Cymrodoriaethau Dysgu Prifysgol Bangor

11

Llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad

12

Dywedodd TREFNYDD Y MODIWL DR AUDREY THORSTAD

Mae astudio hud a’r goruwchnaturiol yn ffordd wych o gael myfyrwyr i feddwl mewn termau damcaniaethol am ddiwylliant a chred boblogaidd yn y byd cyn-fodern. Rydym yn trafod nifer o bynciau, yn cynnwys rhyw a materion economaidd, cymdeithasol a chrefydd. Mae’n ymddangos bod myfyrwyr yn mwynhau astudio hanes, ac edrych ar y gorffennol, o safbwynt hud. 03


GWOBRAU DYSGU DAN ARWEINIAD MYFYRWYR Unwaith eto, mae Undeb Myfyrwyr Bangor, wedi bod yn dathlu rhagoriaeth ein staff trwy’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr. Cyhoeddir yr enwebiadau sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mis Ebrill bob blwyddyn mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd PJ, a chyflwynir Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs hefyd. Bob blwyddyn, rhoddir y cyfle i fyfyrwyr enwebu aelodau staff am wobr, ar draws ystod o gategorïau. Derbynnir cannoedd o enwebiadau o ysgolion ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol. Mae’r Gwobrau dan Arweiniad Myfyrwyr wedi’u sefydlu i fod yn uchafbwynt o’r flwyddyn academaidd, ac mae’r staff yn hynod falch ohonynt. Mae’r enwebiadau wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf sy’n dangos bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd y dysgu ar eu haddysg. Yma rydym yn dathlu ein henillwyr yn 2017 a 2018.

Dywedodd HELEN MARCHANT yr Is-lywydd dros Addysg a Lles yn Undeb y Myfyrwyr, ac un o drefnwyr y noson

Mae’n brofiad gwych i fod yn rhan o’r Gwobrau. Mae’r gwobrau’n dathlu’r bartneriaeth sydd gan staff a myfyrwyr, a dylai fod yn rhywbeth y dylai pob Prifysgol anelu at eu cael.

GWOBR AELOD STAFF CEFNOGI’R FLWYDDYN

IWAN DAVIES

GWOBR ADRANNAU GWASANAETHAU MYFYRWYR

FIONA ZINOVIEFF

GWOBR ARWR DI-GLOD

PAUL MACLEAN

GWOBR GORUCHWYLIWR TRAETHAWD HIR/THESIS Y FLWYDDYN

GWOBR RYNGWLADOL

GWENDA BLACKMORE

GWOBR YSGOL Y FLWYDDYN

KAREN POLLOCK

NIA GRIFFITH

ALAN EDWARDS

GWOBR CEFNOGAETH FUGEILIOL EITHRIADOL

AWEL VAUGHANEVANS

PETER SHAPELY

GWOBR TÎM CEFNOGI’R FLWYDDYN

JOSHUA ANDREWS

CAROLINE BOWMAN

LUCY HUSKINSON

REBECCA JONES

GWOBR ATHRO/ ATHRAWES Y FLWYDDYN

GRAHAM BIRD

DYLAN WYN JONES TÎM GWEINYDDU’R YSGOL PEIRIANNEG ELECTRONIG A CHYFRIFIADUREG

YSGOL Y GYMRAEG

GWOBR ATHRO/ ATHRAWES NEWYDD Y FLWYDDYN

REBECCA SHARP TÎM GWEINYDDU’R YSGOL PEIRIANNEG ELECTRONIG A CHYFRIFIADUREG

LUCY HUSKINSON

THOMAS CASPARI

REBECCA JONES

Mae Rebecca wedi bod yn hollol wych i mi a myfyrwyr eraill yn ystod ein cyfnod yn y brifysgol. Mae gan Rebecca wastad amser i bob myfyriwr, darlithydd a staff. Mae hi’n ased go iawn i’n hysgol ac mae wedi helpu i wneud fy mhrofiad yn y brifysgol yn un llawer gwell

YN YSTOD Y GWOBRAU DAN ARWEINIAD MYFYRWYR, RHODDWYD CYDNABYDDIAETH HEFYD I WAITH RHAGOROL A GWERTHFAWR EIN CYNRYCHIOLWYR CWRS:

GWOBR DEWIS YR IS-LYWYDD GWOBR ATHRO ÔL-RADD Y FLWYDDYN

GWOBR ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG

ALI KHAN

GWOBR AGORED Mae Paul yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm diogelwch ac rydym fel wardeiniaid yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth a’r amser y mae’n ei roi i ni. Mae Paul yn arwr i gymaint ohonom ni yn y tîm wardeniaid, ac mae’n arwr di-glod i lawer o fyfyrwyr sydd wedi cwrdd ag ef yn ystod eu hamser yn y brifysgol

GWOBR CYDNABYDDIAETH ARBENNIG

ALISON MOYES

GWOBR ENNYN DIDDORDEB MYFYRWYR

ANDREW DAVIES

MANDY ANGHARAD

NAOMI COULTON

CYSTADLEUAETH FFAU’R DDRAIG AR GYFER CYNRYCHIOLWYR CYRSIAU

GWYDDORAU CYMDEITHAS

GWOBR DEWIS MYFYRWYR

AMY GREENLAND

OLIVIA FLETCHER

GWOBR DEWIS STAFF

MARK BARROW

ERROL GRANT

LUKE BIDDER

CYFRANIAD EITHRIADOL I LAIS Y MYFYRWYR

OLIVIA YOUNG

MANDY DAVIDSON

SOFIA TARTAGLIA

NATALIE EVANS

GWOBR ARLOESI EDE & RAVENSCROFT

05


ARLOESEDD AMLDDISGYBLAETHOL MEWN TWRISTIAETH ANTUR YM MHRIFYSGOL BANGOR: HYRWYDDO IECHYD DA YNG NGOGLEDD CYMRU Mae’r cwrs Menter trwy Ddylunio yn ei seithfed blwyddyn erbyn hyn ac yn enghraifft allweddol o astudiaeth amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bangor, gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr gydweithio â myfyrwyr mewn adrannau eraill na fyddent yn cael y cyfle i weithio gyda nhw yn ystod eu cyrsiau arferol. Mae’r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch, ac Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau at ei gilydd i gydweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth i fusnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos. Mae Twristiaeth Antur yn ffynnu yng Ngogledd Cymru. Mae’n ddiwydiant sydd yn tyfu’n gyflym i gwmnïau lleol ac yn sector sydd ddim yn aros yn eu hunfan. Fel mae atyniadau antur newydd yn ymddangos mewn parciau cenedlaethol eraill, mae cwmnïau’n gofyn “Ar wahân i antur, pa brofiadau o werth uchel eraill all sicrhau fod ein rhanbarthau’n parhau i fod ar y blaen?” Mae’r diwydiant Lles wedi cael ei nodi fel cyfle o werth uchel sydd yn

blaguro ar hyn o bryd ac a fyddai’n ategiad i weithgareddau antur. Roedd y myfyrwyr yn ffodus i gael y cyfle i weithio gyda dau gwmni sydd yn ffynnu yn y sector leol, sef Rib Ride a Zip World. Nid yn unig roeddent yn cael y cyfle i gael profiad ymarferol o weithio gyda chleient a defnyddio’r wybodaeth a gawsant drwy eu cwrs gradd, ond hefyd y cyfle i ddysgu am sefyllfa wirioneddol gweithio mewn timau creadigol, rhyngddisgyblaethol.

Meddai ANDY GOODMAN Cyfarwyddwr Arloesi Pontio, am y broses 8 wythnos

Rydym yn efelychu dechrau busnes newydd yn greadigol, ac ni allwch chi ddysgu hyn mewn modd didactig traddodiadol. Mae’n rhaid canolbwyntio ar brofiad Dywedodd NICK MCCAVISH Pennaeth Gweithrediadau Zip World

mae wedi bod yn wych ymwneud â’r myfyrwyr yn y Brifysgol, ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i’w barhau dros y blynyddoedd nesaf.

Y tîm buddugol oedd: Tom Owen, Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau; Loizos Vasileiou, Cyfrifiadureg; Christos Tsangaris, Seicoleg; (gyda Nick McCavish, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Zipworld;) ac Aaron Owen, Ysgol Fusnes Bangor. Roedd yr enillwyr, ‘Team Benchwarmers’, wedi cyflwyno eu syniad a chreu prototeip o App, ‘Camu tu allan’, sy’n annog defnyddwyr i ddefnyddio bwytai, atyniadau a gweithgareddau awyr agored lleol. Roedd gan y tîm bedwar munud i gyflwyno eu syniad ac ennyn diddordeb y beirniaid i ymweld â’u stondin fasnach, lle wnaethant daro’r fargen; gan ddangos eu prototeip yn gweithio, ynghyd â brand effeithiol a chysyniad busnes oedd yn argyhoeddi.

CYNHADLEDD CELT

DATHLU RHAGORIAETH MEWN ADDYSGU A DYSGU Cynhaliwyd trydedd gynhadledd CELT yn y Brifysgol ar 15 Medi 2017 i ddathlu’r amrywiaeth o fentrau dysgu cyffrous a gynhelir ym Mangor. Roedd hefyd yn nodi lansiad ein Strategaeth Addysgu a Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, datblygiad cyffrous sef y cyntaf o’i fath yn y sector, sy’n cael ei yrru gan flaenoriaethau a osodir gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Mae’r strategaeth hon yn ddim ond un enghraifft o’r bartneriaeth lwyddiannus iawn rhwng Prifysgol Bangor a’r myfyrwyr, sy’n gryfder pendant yn ein hagwedd at ddysgu ac addysgu.

Roedd y gynhadledd wedi’i llunio o gwmpas tair thema o’r Strategaeth Addysgu a Dysgu, i ddangos y ffyrdd y gellir cymhwyso uchelgeisiau strategol i wahanol ddisgyblaethau ar draws y sefydliad.

ENNYN DIDDORDEB MYFYRWYR Roedd yr elfen hon yn archwilio’r gwahanol ddulliau o fesur ennyn diddordeb myfyrwyr, gan gynnwys presenoldeb mewn darlithoedd, cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a chyfraddau dychwelyd ffurflenni’n gwerthuso modiwlau. Trafodwyd y gwahanol ddehongliadau o “ennyn diddordeb myfyrwyr” a chyflwynwyd dulliau arloesol o gynyddu cyfranogiad myfyrwyr yng nghymuned y brifysgol.

Wrth gymryd ychydig o funudau i adfyfyrio ar y digwyddiad, euthum am dro heibio rhai o’r ystafelloedd addysgu a sylwais ar nifer o bosteri’n ymwneud ag ennyn diddordeb myfyrwyr yn ehangach. Roedden nhw ym mhobman! Roedd yr ymrwymiad llwyr i ddysgu, yn hytrach na dim ond addysgu, yn glir iawn ar y diwrnod. Roedd yn enghraifft dda i sefydliadau eraill, felly tynnais lawer o luniau a byddaf yn awr yn eu defnyddio wrth roi cyflwyniadau mewn lleoedd eraill! “ Yr Athro Gwen Van der Velden

ATHRO GWEN VAN DER VELDEN

Agorwyd y gynhadledd gan y prif siaradwr Athro Gwen Van der Velden o Brifysgol Warwick, a rannodd ei phrofiadau am sut i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn ymchwil. Cyflwynodd Gwen rai o’r arferion a ddefnyddir yn Warwick a mannau eraill, sydd wedi llwyddo i annog myfyrwyr i ymddiddori mewn ymchwil.

CYNLLUNIO’R CWRICWLWM A CHYFLOGADWYEDD Roedd yr elfen hon yn ystyried dulliau creadigol o ymgorffori datblygiad sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr o fewn y cwricwlwm ac archwilio ffyrdd o ennyn diddordeb myfyrwyr wrth ddatblygu rhaglenni gradd presennol ac yn y dyfodol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion.

ATHRO GWEN VAN DER VELDEN

Yn debyg iawn i’r gynhadledd gyntaf y bum ynddi ym Mangor, roedd y gynhadledd eleni eto yn llwyddo i ysbrydoli. Wrth siarad â chydweithwyr yn ystod yr egwyl roedd ymrwymiad a ffyddlondeb cadarnhaol y cyfranogwyr i Fangor yn creu argraff arno. Rwyf wedi gweithio gyda llawer o brifysgolion lle mae staff yn teimlo eu teyrngarwch mwyaf i’w disgyblaeth, yn hytrach na chymuned y brifysgol y maent hefyd yn rhan ohoni. Ond yma, cyfeiriodd y cyfranogwyr at gefnogaeth sefydliadol ar gyfer arloesi fel ffactor, tra bod eraill yn canmol eu cydweithwyr a sut yr oeddent wedi herio eu haddysgu. Ond yr elfen gyson trwy gydol y trafodaethau oedd y bartneriaeth gyda myfyrwyr. Mewn rhai o’r sesiynau, roedd yn glir pa mor gryf yw’r ymrwymiad hwn, yn enwedig o weld myfyrwyr yn cydgyflwyno ar arloesi pedagogaidd ac roedd eu cyfraniad yn amlwg wedi arwain at adfyfyrio ac ailgynllunio o ansawdd cadarn.

ASESU AC ADBORTH AR GYFER CADW MYFYRWYR Yn y drydedd elfen, roeddem yn ystyried sut y gall newidiadau bach mewn asesu ac adborth gael effeithiau enfawr ar lwyddiant myfyrwyr, trwy gynyddu eu dealltwriaeth o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud. Gwnaethom ystyried metrigau mewn perthynas â chyrhaeddiad myfyrwyr, ac yna ystyriwyd sut y gellid gwella’r gefnogaeth i wella perfformiad myfyrwyr.

SESIWN LAWN Y PRYNHAWN: SYSTEM DADANSODDI GWYBODAETH YN YMWNEUD Â DYSGWYR

Cafodd system dadansoddi gwybodaeth y Brifysgol ei lansio’n swyddogol yn y gynhadledd yn ystod y prynhawn. Cynlluniwyd y system i fod yn dryloyw a hawdd ei defnyddio. Edrychwyd ar nodweddion y system, a’r ffyrdd y gellid ei ddefnyddio i nodi myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol.

Daeth y diwrnod i ben gyda chinio bywiog gyda’r nos, gyda chyflwyniadau i ddilyn lle rhoddwyd cydnabyddiaeth i aelodau cyswllt CELT am eu cefnogaeth dros y deuddeg mis diwethaf.

07


CYMRODORION YR ACADEMI ADDYSG UWCH Am y chweched blwyddyn yn olynol, mae staff academaidd Bangor wedi ennill Cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch trwy gynllun Aberystwyth-Bangor i gydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu. Mae’r cynllun cydnabyddiaeth hwn yn seiliedig ar Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF) a dyfarnwyd cymrodoriaethau gan y Panel Achredu mewn nifer o gategorïau’r Academi Addysg Uwch.

SARAH COOPER (IEITHYDDIAETH AC IAITH SAENEG) CYMRAWD

ATHRO OLIVER TURNBULL Meddai Cadeirydd y panel

Mae Bangor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran Cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch a ddyfarnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd y rownd diweddaraf yn cynnwys nifer o geisiadau o ansawdd uchel unwaith eto, ac maent yn dyst i arloesedd ac angerdd ein staff

Meysydd Gweithgaredd

Gwybodaeth Graidd

CYMRODORION

ARMELLE BLIN-ROLLAND, Ieithoedd Modern EVA BRU-DOMIGUEZ, Ieithoedd Modern RUDI COETZER, Seicoleg JENNIFER COONEY, Gwyddorau Chwaraeon SARAH COOPER, Ieithyddiaeth SUSAN CRITCHLEY, Coleg Llandrillo CAMERON DOWNING, Seicoleg CRISTNOGOL DUNN, Gwyddorau Biolegol AMA EYO, Y Gyfraith MIKE GARNER, Coleg Llandrillo GEMMA GRIFFITH, Seicoleg JESSICA MEE, Gwyddorau Chwaraeon DEBBIE MILLS, Seicoleg JOSH PAYNE, Seicoleg BEN PEPLER, Coleg Llandrillo CLAIRE SZOSTEK, Seicoleg AUDREY THORSTAD, Hanes SANDY TOOGOOD, Seicoleg SHASHA WANG, Ieithoedd Modern

Gwerthoedd Proffesiyol

UWCH GYMRODORION

CHRIS BAINBRIDGE, Coleg Llandrillo STEPHEN CLEAR, Y Gyfraith TANYA HERRING, Y Gyfraith DEBBIE ROBERTS, Gwyddorau Gofal Iechyd LEILA SALISBURY, Gwasanaethau Myfyrwyr SARAH TROTMAN, Gwyddorau Chwaraeon ANDREW WALKER, Gwyddorau Gofal Iechyd JOANNA WRIGHT Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau

PRIF GYMRAWD

SUSAN BUSH, Coleg Llandrillo

Rwyf yn hynod falch o dderbyn y dyfarniad Cymrawd yr Academi Addysg Uwch. Roedd y broses o wneud cais am y gymrodoriaeth yn ddefnyddiol i mi wrth adfyfyrio ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud dros y blynyddoedd i ddatblygu fy ngwaith dysgu a chefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr. Mae’r dyfarniad yn cadarnhau bod y gwaith hwn yn bodloni’r safonau a amlinellir gan yr Academi ar lefel genedlaethol. Credaf yn gryf mewn defnyddio ymchwil wrth addysgu, ac rwyf wedi datblygu modiwlau sy’n cynnwys myfyrwyr yn cynnal eu projectau ymchwil eu hunain ac yn rhannu eu canfyddiadau gyda’u cyd-fyfyrwyr.

Fel rhan o’r cais am gymrodoriaeth, bum yn adfyfyrio ar fy ngwerthoedd proffesiynol a’n gwaith yn ein hysgol yn annog myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd i gymryd rhan. Rwy’n gwybod bod rhai myfyrwyr yn cael trafferth i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer astudio neu gyflogaeth yn y dyfodol. Ers cwblhau’r cais i’r Academi, rwyf wedi bod yn adfyfyrio ar hyn ac yn awr byddaf yn sicrhau fy mod yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir yn fy dosbarthiadau, a sut y gallant gysylltu’r rhain â cheisiadau am swyddi neu astudio pellach yn y dyfodol.

STEPHEN CLEAR (YSGOL Y GYFRAITH) UWCH GYMRAWD Mae addysgu effeithiol yn seiliedig ar ymchwil, yn defnyddio gwybodaeth am addysgeg ac wedi’i wreiddio mewn dealltwriaeth o’r dysgwyr yn y dosbarth. Yn fy marn i mae’r tair agwedd hon yn bendant yn gysylltiedig â’i gilydd, ond fel academyddion, rydym yn aml yn gweld ein cyfrifoldebau addysgu, ymchwil a gweinyddol fel blaenoriaethau sy’n cystadlu. Mae’r cyfle i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi, ochr yn ochr â gweithgareddau CELT, wedi fy ngalluogi i adfyfyrio ar fy ngwaith addysgu a chefnogi myfyrwyr, ac arbrofi â gwahanol ddulliau’n seiliedig ar addysgeg i sicrhau arfer gorau

fel darlithydd yn y Gyfraith ac fel Uwch Diwtor. Drwy’r profiadau hyn, rwyf wedi gallu ymchwilio a chyhoeddi gwaith mewn meysydd fel: disgwyliadau myfyrwyr; adborth effeithiol i fyfyrwyr; canfyddiadau myfyrwyr y gyfraith ynghylch effeithiau Brexit; a chyflogadwyedd myfyrwyr y gyfraith. Er bod y broses DPP hon wedi cael y budd uniongyrchol o ddarparu’r sylfeini i mi fabwysiadu golwg fwy cyfannol tuag at fy nghyfrifoldebau academaidd, yn ogystal â gwella fy mhroffil ymchwil; yn anuniongyrchol, mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi adolygu a chanolbwyntio o’r newydd ar fy nulliau dysgu, er budd fy myfyrwyr.

ANDREW WALKER (GWYDDORAU GOFAL IECHYD) UWCH GYMRAWD Mae fy agwedd tuag at addysgu yn efelychu’r dull a ddefnyddiais i weithio gyda phlant a phobl ifanc fel Nyrs Iechyd Meddwl, ac mae’n canolbwyntio ar feithrin perthynas, bod yn greadigol, a herio myfyrwyr i feddwl yn wahanol. Nid yw popeth yn gweithio bob tro, ond gall ymddiriedaeth, brwdfrydedd, bod yn ddiffuant ac weithiau ychydig o hiwmor greu mwy o ddiddordeb a gwneud gwir wahaniaeth. Roedd y gwerthoedd hyn yn rhan greiddiol o fy nghais am Uwch Gymrawd, proses a wnaeth i mi gymryd cam yn ôl, adfyfyrio, ac olrhain naratif llwyddiannau fy ngyrfa hyd yma.

Astudiais Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mangor yn 2006, ac rwyf wrth fy modd bod yn ôl yma, 11 mlynedd yn ddiweddarach, yn dysgu gweithlu gofal iechyd y dyfodol ar yr un rhaglen ac mae’n fraint gennyf fod yn rhan o’u siwrnai cyffrous a heriol. Mae fy rôl ychwanegol fel Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol yn fy ngalluogi i helpu i greu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol a bywiog. Mae Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn gydnabyddiaeth o’m gwaith caled ac mae hefyd wedi cryfhau fy nghred yn fy agwedd at ddysgu, sy’n rhoi ffocws a hyder i mi roi cynnig ar syniadau newydd.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun yma: www.bangor.ac.uk/celt/recognition-tandl.php.en

09


© STEPHEN PRICE

Y PROJECT LLWYBR SIDAN: CYMDEITHAS SWOLEGOL GENEDLAETHOL CYMRU YN SW MYNYDD CYMRU

CYMRODORION ADDYSGU PRIFYSGOL BANGOR

Dyfernir Cymrodoriaethau Addysgu’r Brifysgol bob blwyddyn i hyrwyddo, gwobrwyo a dathlu rhagoriaeth mewn addysgu a gweithgareddau cysylltiedig sy’n cefnogi a chryfhau profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae’r cymrodoriaethau’n cydnabod pwysigrwydd dysgu ardderchog, gwella profiad dysgu myfyrwyr, a’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr. Trwy’r cymrodoriaethau hyn rydym yn dathlu ymrwymiad y brifysgol i ragoriaeth dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr.

Dr Clair Doloriet Ysgol Busnes Bangor

Nod y Project Llwybr Sidan yw creu pont ddiwylliannol unigryw gyda China, yn arddangos amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid o China. Bydd lle caeedig newydd ar gyfer llewpartiaid yr eira yn ganolbwynt i’r project, ond mae llawer mwy iddo na hynny. Mae bywyd gwyllt, cynefinoedd a natur yn symbolau cenedlaethol cryf sy’n cynrychioli balchder diwylliannol China a Chymru. Mae’r persbectif hwn a rennir yn gyfle delfrydol i baratoi’r ffordd fel y gall economi Cymru elwa, trwy adeiladu cyswllt gyda’r wlad a fydd y pŵer mawr nesaf yn y byd. Y cynllun yw creu profiad unigryw i’n hymwelwyr, gan greu cyswllt diwylliannol gydag un o’r llefydd mwyaf prydferth, amrywiol a bregus yn y byd - sef China, y prif gynefin i lewpartiaid yr eira yn y gwyllt.

Mae addysgu a chefnogaeth Clair wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a’r sesiynau goruchwylio. Mae Clair yn un sy’n hawdd iawn mynd ati a gallwch fod yn agored ac yn onest â hi. Mae hi’n deall sut i ryngweithio â myfyrwyr mewn ffordd ddiddorol, cofiadwy ac effeithiol gan adael argraff barhaol ar ei myfyrwyr. Mae ganddi wybodaeth eang am ei maes pwnc ac mae bob amser yn ceisio datblygu myfyrwyr i’r eithaf.

Yr Athro Raluca Radulescu Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Amgaead newydd Llewpard yr Eira. Sŵ Fynydd Gymreig.

Mae gan Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn, bartneriaeth sydd wedi ei hen sefydlu gyda Phrifysgol Bangor. Ein bwriad yw datblygu App symudol i wella ymhellach y wyddoniaeth, y dysgu a’r dehongliad am gadwraeth llewpartiaid yr eira a chadwraeth ecolegol China. Bydd yr App yn darparu hyd yn oed mwy o gynnwys a gwybodaeth am ecoleg China a galluogi cynulleidfa ehangach i weld a deall y gwaith yr ydym yn ei wneud.

Ar hyn o bryd mae’r ysgolion Astudiaethau Creadigol a Chyfrifiadureg yn edrych ar ddatblygu’r App rhyngweithiol a fydd yn defnyddio adrodd straeon i arwain pobl o amgylch y sw ac a fydd hefyd yn hwyluso cyfleoedd i ddefnyddwyr gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol, naill ai fel cyfranogwyr neu fel gwyddonwyr o blith y cyhoedd. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith i fyfyrwyr hefyd, yn ogystal â chael mynediad at gyfleuster addysgu ac ymchwil gwych.

Mae Raluca yn un o’r athrawon sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy mywyd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Bangor. Mae hi’n fentor a goruchwyliwr eithriadol ac unigryw. Mae ei hamynedd, ei gallu i ddatrys problemau (fel hud a lledrith), a’r gefnogaeth a’r anogaeth werthfawr y mae’n ei rhoi i bob myfyriwr, yn ei gwneud hi’n gymaint o hyrwyddwr yn yr Ysgol, a’r gymuned academaidd yn ehangach.

Dr Hayley Roberts Y Gyfraith

Mae Dr Hayley Roberts yn ddarlithydd wirioneddol arbennig a dyma’r unig reswm a ddewisais i wneud astudiaethau ôl-radd: mae ei hymrwymiad i fyfyrwyr heb ai ail. Mae ei harddull dysgu arloesol a diddorol a’i gwybodaeth fanwl ac eang o’r pwnc yn goleuo meysydd anodd iawn mewn cyfraith gyhoeddus ac wedi ysbrydoli myfyrwyr i barhau i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Dr Marie Parker Y Gyfraith

Dr Eben Muse Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau

Dr Lyle Skains Uwch Darlithydd mewn Ysgrifennu

Dr Dave Perkins Darlithydd mewn Cyfrifiadureg

Dr Panagiotis D. Ritsos Darlithydd mewn Delweddu

Mae Dr Parker yn ased gwerthfawr i Ysgol y Gyfraith Bangor ac i’r Brifysgol; mae hi bob amser wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i’w rôl fel naill ai tiwtor personol neu arweinydd modiwl. Roedd yn hawdd gweld ei hangerdd am y pwnc pan yr oedd yn dysgu Cyfraith Teulu ac roedd hi’n llwyddo i ysgogi’r meddwl a gwneud y pwnc yn ddiddorol, a hefyd yn ei wneud yn hynod berthnasol i gymdeithas heddiw.

11


LLWYDDIANT PRIFYSGOL BANGOR YNG NGEMAU’R GYMANWLAD! Gareth Evans

Tesni Evans

Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor yn llongyfarch chwech aelod o garfan llwyddiannus Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol. Dywedodd yr ATHRO JOHN HUGHES

YR IS-GANGHELLOR WRTHYNT Mae Cymru’n falch ohonoch ac mae Prifysgol Bangor yn falch ohonoch.

Rydych chi’n fodelau rôl gwych ar gyfer cymuned y Brifysgol ac rwy’n eich llongyfarch i gyd ar eich llwyddiannau.

Enillwyd y Fedal Aur gyntaf i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad gan y codwr pwysau, Gareth (Gaz) Evans, aelod staff sy’n gweithio yng Nghanolfan Brailsford y Brifysgol, gyda’r chwaraewr sboncen, Tesni Evans, enillydd Bwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, yn ychwanegu Medal Efydd at gasgliad Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia.

Mae Codi Pwysau Cymru wedi symud i Ganolfan Brailsford a meddai’r Cadeirydd, BARRY EATON: Mae’r cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn ddiguro, a’r gorau yng Nghymru ar gyfer codi pwysau. A rhagwelodd...

Yn ychwanegol at lwyddiant Gareth yn ennill medal aur, yr hyn sydd gennym yma yw llif o dalent, ac rwy’n sicr y byddant yn ennill rhagor o fedalau i Gymru yn y dyfodol .

Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi athletwyr elitaidd trwy gynnig Ysgoloriaethau Chwaraeon blynyddol i’w myfyrwyr ac athletwyr lleol dawnus. Mae Seth Casidsid (sydd â gradd mewn Seicoleg ac sy’n gweithio yng Nghanolfan Brailsford), Hannah Powell (a raddiodd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac sy’n gweithio i Godi Pwysau Cymru yng Nghanolfan Brailsford) Catrin Jones (Myfyriwr Seicoleg ac enillydd gwobr BBC Cymru Carwyn James Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn 2017) a Harry Misangyi (myfyriwr Gwyddor Chwaraeon) wedi elwa o’r Ysgoloriaethau hyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai CATRIN JONES:

Mae’r gefnogaeth a gefais gan Brifysgol Bangor dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel! Mae’r Ysgoloriaeth Chwaraeon a gefais fel bwrsariaeth leol tra roeddwn yn yr ysgol, ac yn awr fel myfyriwr ym Mangor, wedi bod o fudd aruthrol i mi gan ei fod yn caniatáu imi ganolbwyntio ar fy astudiaethau a’r hyfforddiant hyd eithaf fy ngallu.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.