17 minute read

Cip rhwng y cloriau ‘Circa 21/22’ gan Rhys Grail

Ddiwedd mis Chwefror fe gynhaliwyd lansiad arbennig ar gyfer cyfrol newydd oedd yn cynnwys lluniau amrywiol o artistiaid Cymraeg a Chymreig gan y ffotograffydd Rhys Grail.

Bydd Rhys yn gyfarwydd i lawer o’r darllenwyr fel aelod o’r band Gwilym, ac mae wedi manteisio ar ei adnabyddiaeth o gerddorion a bandiau Cymraeg eraill i greu cofnod ffotograffig unigryw o gyfnod arbennig yn hanes y sin gerddoriaeth Gymreig.

Advertisement

‘Circa 21/22’ ydy enw llyfr cyntaf y ffotograffydd ac fel mae enw’r gyfrol yn awgrymu, mae’n cynnwys lluniau o fandiau ac artistiaid Cymreig wedi eu tynnu’n ystod 2021 ac 2022.

Roedd Y Selar yn falch iawn i gefnogi lansiad y gyfrol mewn parti arbennig yng nghaffi Braf, Dinas Dinlle gyda’r bandiau Alffa, Y Cledrau a skylrk. yn perfformio. Roedd arddangosfa o luniau Rhys hefyd i’w gweld yn y digwyddiad.

Mae’r llyfr bellach ar gael i’w brynu ar wefan Rhys, ond mae’r ffotograffydd wedi bod yn ddigon caredig i gynnig cip ecsgliwsif rhwng y cloriau i ddarllenwyr Y Selar trwy ddewis rhai o’i hoff luniau o’r casgliad, ynghyd ag egluro pam ei fod mor hoff ohonynt.

Dion a Sion - Alffa

Dyma ddau bortread nes i dynnu o Dion a Sion o’r band Alffa jyst cyn iddyn nhw fynd i chwarae ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod

Tregaron llynedd. Odd hi’n gig ar ddydd Mawrth y ‘Steddfod lle oedd

Gwilym ac Alffa ar yr un bill y gig cynta i’r ddau fand mewn w’sos llawn gigs. Nes i dreulio’r w’sos cyfa’ really yn dogfennu Dion a Sion achos oddan ni’n chwara pretty much bob un noson efo’n gilydd.

Y Cledrau (Du a Gwyn)

Dyma un o’r llunia gora dwi erioed ‘di dynnu dwi’n meddwl. Shot o Y Cledrau ar Ilford HP5 yn chwara’ ar noson FREEEEEZINGGGGG!!!!! ym Maes B Tregaron.

Zac - Chroma

Mis Tachwedd 2022 ges i’r cyfla’ i dynnu llunia o Chroma tra odda nhw’n chwarae gig draw yn Wrecsam. Ma’r band i gyd yn gwisio dillad gan y designer Adam Jones… sydd hefyd yn wreiddiol o Wrecsam! Ma dillad Adam yn hollol class a odd hi’n braf gallu cyfuno’r byd cerddoriaeth Gymraeg efo llunia’ fashion photography!

Y Cledrau (Lliw)

Llun o Y Cledrau yn chwara ar ryw nos Iau randym yn Y Glôb ym Mangor. Dwi’n cofio piciad draw ar ôl gwaith un noson i’w gwylio nhw! Yr unig gamera odd gena’i arna fi odd ryw point and shoot tiny odd yn gallu ffitio yn pocad fi!

Elan - Plu

Ges i’r fraint o saethu’r llunia odd yn cydfynd ag album newydd Plu yn 2021. Un o’r shoots mwya chill erioed. Diwrnod braf, couple o bed sheets combination symbol a dwi’n meddwl bod yr llunia yn grêt.

Geiriau’r Gân

Olion yr Hen Hualau

Artist newydd sydd wedi dod i amlygrwydd dros y misoedd diwethaf ydy Ffos Goch. Dyma brosiect newydd y cerddor profiadol, Stuart Estell, sydd ddim ond wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers 2019. Bu Stuart yn perfformio mewn bandiau ers blynyddoedd, gan gynnwys The Fall, a gyda cyn-aelod y grwp enwpg hwnnw, Julia Adamson. Er hynny, Ffos Goch ydy ei ymgais gyntaf I gyfansoddi yn y Gymraeg ac fe ddaliodd ei sengl Nadolig, “Dim Eira, Dim Sioe (Sion Corn yn y Carchar)” sylw Y Selar, ymysg eraill, fis Rhagfyr.

Nawr, mae nôl gyda sebngl newydd ‘Olion yr Hen Hualau’, a ysbrydolwyd gan ymweliad â Chapel Celyn. Gan bod hanes difyr, a neges glir i’r geiriau, roedden ni’n meddwl ei bod yn berffaith ar gyfer Geiriau’r Gân. Dyma Stuart i ddweud mwy...

“Daeth syniad y gân o weld y graffiti ar olion waliau’r capel (ac sydd ar glawr y sengl). I fod yn hollol onest wedd y gair “hualau” yn un newydd i fi ar y pryd - ond mae’n gwneud synnwyr perffaith yn y cyd-destun hwnnw.

Caleb ac Iwan

- Kim Hon

Di dal moment fach rhwng

Caleb ac Iwan o’r band Kim Hon yn y gig Gigs Tŷ Nain yn Pontio. Cofio gweld Iwan yn trio cal w’bath allan o ddant Caleb. Wrth i fi scannio’r negatives nes i hollol anghofio bod fi di tynnu’r llun yma.

‘Olion yr Hen Hualau’

“Ges i sawl sgwrs gydag ymwelwyr eraill — ac roedd yr amgylchedd tamaid bach fel oedfa capel. Sobr, parchus. Ers i fi recordio’r gân a siarad amdani, dwi wedi dechrau meddwl - ai dyna pam cafodd yr ymweliad effaith mor fawr arna i?

Wedi treulio shwt gymaint o amser fel organydd mewn capel Cymraeg yn Birmingham, yng nghwmni pobl a ddaeth yn deulu i fi - teulu go iawn - dros y blynyddoedd gwyliais i’r gymuned yn diflannu yn raddol wrth iddyn nhw farw fesul un. Sa i’n gallu dychmygu pa mor echrydus teimlodd y colled llwyr yn Nhryweryn ar y pryd.

Loetran ger olion yr hen hualau, fe glywaf rhyw sisial o dan y cymylau mewn iaith ddiethrgelyn pennaf fy llonnydd yn awr yw’r awel sychaf.

Bachwch gopi o ‘Circa 21/21’ ar wefan Rhys Grail - rhysgrail.co.uk

“O’n i wedi meddwl bod geiriau’r gân yn dod o safbwynt un o’r rhai sydd yn dal i fod o dan y concrit, ond erbyn hyn dwi’n meddwl - falle bod y capel ei hun yn canu.”

Euraidd bydd yr haul, gwyrddlas bydd y gwair, ond gwaetgoch yw amlinell pob un gair. Nid wyf yn byw, ni gana ddim o’r clychau — does dim ond olion yr hen hualau.

Seren

Angharad Rhiannon

Dyma glamp o record – yn 57 munud o hyd - nad oeddwn yn ymwybodol ohoni cyn iddi ddod i’r brig yng Ngwobrau’r Selar. Mae’n ffitio siwrne awr yn berffaith, a dwi’n gwrando arni â meddwl agored.

Un peth sy’n fy nharo’n syth yw ei harddull wrth ganu; mae’n pwysleisio’i chytseiniaid caled mewn ffordd sy’n teimlo’n

Gymreig iawn - nid à la Cerdd

Dant, ond mewn modd sy’n ffitio’r gerddoriaeth. Yn y pum trac cyntaf, dwi’n teimlo ‘mod i wedi mynd yn ôl mewn amser – mae sain 80au amlwg ar sawl un o’r traciau. Dwi ddim yn meddwl mai bwriad yr albwm yw bod yn arbrofol, ac yn hynny o beth, mae ‘na rywbeth cysurus am yr arddull a’r sain.

Wedi dweud hynny, pan ddelo trac rhif chwech mae ‘na ryw ysgwyd yn y drefn a phethau’n bywiocáu. Rhywfaint o siom mai cân am Siôn Corn yw hon, sydd ddim cweit yn taro tant ar noson wleb o Fawrth, ond mae’n nodi, serch hynny, peth newid o ran tempo ar gyfer gweddill y record.

Gellir rhannu’r record yn dri; mae’r pedwar trac cyntaf yn ddehongliad o ‘Seren’ sy’n creu naws

‘gofodol’, a’r pedwar trac olaf yn rhai Saesneg. Yn y canol, mae dehongliad o ‘Seren’ fel person arbennig, ac mae llawer o’r rhain yn sicr yn disgyn i gategori caneuon serch; rhai pop-aidd, 80au-aidd sydd ddim yn faledi epig.

Mae’r geiriau’n adlewyrchu hyn; y defnydd cyson o ragenwau personol ‘fi’ a ‘ti’ yn llinyn drwy’r record. Fedrai’m peidio â theimlo efallai ei bod hi wedi ildio i clichés wrth ysgrifennu’r geiriau... ‘enfys ar ôl y glaw... dal fy llaw’ er enghraifft. Ond eto, mae apêl i hynny fel mae apêl i’r gerddoriaeth; mae’n saff yn sicr, ac fel mae’r wobr yn profi – i ddwyn teitl un o’r traciau mwyaf poblogaidd – mae hynny’n ‘Taro

Deuddeg’ i sawl un.

Gruffudd ab Owain

Ni Neu Nhw Hap a Damwain

Mae Hap a Damwain yn enw addas ar gyfer band sy’n creu cerddoriaeth sy’n amrywio cymaint o drac i drac, a hyd yn oed o fewn trac, fel ‘Am y tywydd’, sy’n dechrau fel cân roc yn ac y gorffen yn rhywbeth hollol wahanol. Trwy gadw’r riff a’r gitâr wrth i’r naws newid a symud ymhellach oddi wrth hynny mae’r newid yn ddisymwth. Un peth cyson drwy’r albwm yw bod curiad y bît yn sylfaen cryf ac yn amlwg iawn, yn cynnal y gân. Fel Cyflawn Cyflawn sy’n gân stripped back ond mae’r bît cryf yn ei chynnal.

Mae’r albym yn mynd â ni o ganeuon chwareus, hwyliog fel ‘Adran Llywelyn’, sy’n drac agoriadol cryf, yn syth i gân futuristic, leddf, ‘Cyfrifydd Creadigol’, sydd yn dechrau’n eitha

Swnamii

Sŵnami

Does dim dadl fod yr albwm hwn yn athrylithgar. Mae’r 11 trac yn mentro ar y sialensau o fod yn ifanc ac yn eich 20au, ac yn rhoi awgrym o dopigau perthnasol iddynt fel galar, perthnasoedd, prysurdeb, a hunan-ddarganfyddiad. Credaf fod y cerddorion wedi gallu rhoi golau ar sefyllfaoedd mwy dwys drwy gadw gwir ystyr negeseuon y caneuon. Defnyddir llawer o samplu a thechnegau electronig sy’n rhoi cyffro a naws fodern i’r albwm. Yn amlwg dydyn ni methu anwybyddu’r campwaith sy’n glawr i’r albwm; wedi ei greu gan Gruff Ywain. Mae’r 11 ’stafell yn y gwesty, a phob ’stafell yn cysylltu gyda chân ar y casgliad. Mae’r lliwiau neon yn amlinellu’r ieuenctid a’r egni sy’n dod ar yr albwm.

Mae’r albwm yn agor gyda champwaith ‘Theatr’ sy’n sicr yn rhoi argraff anhygoel i’r gwrandäwr ac yn gosod y bar yn uchel iawn am weddill y record; mae’r naws sinematig yn plethu gyda’r teitl a’r syml, ac yn adeiladu ar y sylfaen nes bod sawl haen o sŵn yn plethu i’w gilydd i greu cyfanwaith.

Wrth fynd drwy’r albym mae’r amrywiaeth yn parhau, mae gan ‘Cynghorydd’ neges wleidyddol sy’n cael ei chyfleu drwy sŵn heriol, pendant a llais crac, lyn lawn agwedd.

Un o uchafbwyntiau’r albym yw Seibanterliwt. Mae’r sain yn chwareus eto ac yn adlewyrchu’r chwarae â geiriau. Mae’r teitl ei hun yn amwys - ond yn agosach at “banterliwt” na saib-anterliwt. Mae chwarae ar eiriau yn amlwg mewn caneuon eraill, fel ‘Llai nag Un’, â’r geiriau: “Yn ôl y mathemateg o’n i’n chwilio am yr ateb. Oedd o’n llai nag un.”

Rhwng y gerddoriaeth a’r geiriau mae’r cyfan yn dod at ei gilydd, ond nid ar Hap a Damwain, mae’n amlwg fod popeth yno am reswm.

Bethan Williams

Tara Bandito

Tara Bandito

O un Nancy ymhlith miloedd, i’r un a’r unig Tara Bandito: dyma albwm sy’n ddatganiad personol o hunaniaeth a bwriad, a does dim dwywaith amdani fod Tara wedi dod o hyd i’w swigen unwaith eto ar ôl teimlo ar gyfeiliorn am flynyddoedd.

Mae perfformio yn ei gwaed, ac o ddychwelyd i’r llwyfan mae’n amlwg bod y wreichionen yn ôl yn ei llygad ac yn barod i danio. Rhywbeth arall yng ngwaed

Tara sydd wedi gadael argraff fawr ar yr albwm hwn yw ei diweddar thad, El Bandito. ‘6 Feet Under’, trac tyner yn deyrnged i un o’i hysbrydoliaethau mwyaf, sy’n agor yr albwm. Mae arddull foel y curiadau mawr yn cyferbynnu gyda melystra melfedaidd llais

Tara sy’n gweu barddoniaeth Cynan i felodïau, wrth iddi rannu ei theimladau ddeuddydd wedi marwolaeth ei thad.

Hawdd fyddai disgyn ar y bai o fod yn or-bersonol wrth ymdrin â themâu mor sensitif, ond mae

Tara yn llwyddo ar yr un pryd i’n tywys ni drwy brofiadau cyffredin y Cymry cyfoes. Mae dathlu canfyddiad personol yn troi mewn i ddathliad o Gymreictod yn ei holl ehangder, gyda thraciau fel ‘Croeso i Gymru’ a’r deyrnged ‘Datblygu’ yn crisialu’n berffaith cymaint y mae’r sîn cerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymreig wedi ehangu ei ffiniau a chofleidio’r newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn union fel mae Tara wedi crybwyll ei hun, diau na fydd cyfeirio at unicorns a’r holl theatr o amgylch perfformio traciau’r albwm at ddant pawb. Ond yn yr un ffordd gellid dadlau nad yw unrhyw berson at ddant pawb chwaith, ac nid yw hynny’n rheswm i deimlo’n wylaidd dros ddatgan yn falch pwy wyt ti eisiau bod. Trwy ei hysgrifennu cathartig mae Tara yn arllwys ei hun i’w thraciau, ac mi ydw i’n falch iawn o weld y fath hunanymbweru sy’n agenda i Tara Bandito yn digwydd yn yr iaith Gymraeg yma yng Nghymru o’r diwedd.

Tegwen Bruce-Deans

thema o ieuenctid. Yn ffodus ac yn anffodus gall y gytgan chwarae drosodd a throsodd yn fy mhen am ddyddiau.

Mae’n arbennig iawn gweld y cydweithrediad gydag Alys Williams ar ‘Slowplay’; mae ei llais a thechnegau yn dod â chyfoeth ychwanegol i’r gân. Edmygaf y defnydd o linynnau yn ‘Uno, Cydio, Tanio’, sy’n ychwanegu dyfnder i’r gân ac yn rhoi defnydd modern ac ifanc i offerynnau sydd efallai’n fwy traddodiadol. Hoffais y newid yn naws yr albwm yn y gân ‘Anghyfarwydd Haul’ ac mae dylanwad Thallo yn amlwg yn y gân yma, a’i llais yn ychwanegu hud i’r albwm. Gwelaf y cyfuniad o Gymraeg a Saesneg yn ddiddorol iawn, ac yn denu mwy o wrandawyr i’r gân a’r albwm.

Credaf bod yr albwm yn cadw’n driw i wir sain Sŵnami, ac yn denu cynulleidfa eang a mawr iawn, drwy arbrofi gyda sain dydyn ni erioed wedi ei glywed o’r blaen yn y sîn roc Gymraeg.

Nel Thomas

Mae Mali Hâf yn byrlymu â syniadau sy’n tarddu o ddylanwadau hynod amrywiol. Mae hi wedi creu cryn argraff ar y gofod electronig/RnB amgen/pop o fewn y sîn wrth ryddhau senglau’n araf bach, ond mae EP yn gam sylweddol ymlaen i unrhyw gerddor. Daw angen i feddwl yn fwy am gyfanwaith, a dw i’n credu ei bod hi wedi llwyddo yn hynny o beth.

Ar draws y pum trac mae digon o amrywiaeth; mae’n dechrau gyda thri trac sy’n fwy ymlaciol, yn fwy chill ac yna dw i’n cael y teimlad yn y ddau drac olaf, sef ‘Llygaid Tara’ a ‘Pedair Deilen’, fod newid bach yn y naws; mae ‘na sŵn bas grŵfi ofnadwy a thempo bywiocach. Dwi’n ffàn o’r caneuon i gyd, ond yn enwedig o’r grŵf ar ddiwedd y record, sydd dwi’n teimlo’n rhywbeth newydd i’w cherddoriaeth, o fod wedi dilyn dechreuadau ei gyrfa. Dyma artist sy’n barod i arbrofi; dywedodd hi wrth Y Selar yn ddiweddar nad ydy hi cweit wedi diffinio’i cherddoriaeth eto. Mae elfennau o natur a diniweidrwydd ac ysgafnder yn glir drwy’r record yn ei chyfanrwydd, ac awgrym bron o wreiddiau mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Un peth sy’n sicr, dyma record ac artist sy’n chwa o awyr iach.

Gruffudd ab Owain

EP Crescent

Thallo

Mae’r EP tri trac yn dechrau hefo ‘Carry Me’ sy’n agor hefo sain cerddorfaol cyn torri i steil atmosfferig a llais unigryw Thallo. Mae Thallo wastad yn darganfod balans mor hyfryd drwy gymysgu steiliau cerddorol gwahanol. Mi wnes i wirioneddol fwynhau’r gymysgfa o sŵn electroneg gyda’r offerynnau chwyth yn rhoi prif thema’r gân i ni drwyddi. Cawn adegau cryfach, hefo lot o ddyfnder sain, cyn symud i wagle cerddorol i roi lle i’r geiriau.

Yn yr ail drac Crescent’ cawn sain dechnolegol hefo’r piano a’r offerynnau chwyth yn gymysg gyda kit drymiau, sy’n rhoi darn fwy rhythmig y tro yma. Mae ei cherddoriaeth yn llawn rhythmau jazz, sy’n cadw’r gân mor ddiddorol tan y nodyn olaf un sy’n gadael i chi hongian.

Y trac olaf ydi Pluo’ sy’n ailadrodd themâu cerddorol yn y Piano ac yn cadw diddordeb gyda rhythmau Jazz a thrwmped yn y gwead y tro yma, sy’n ychwanegu i’r llun a’r teimlad mae Thalo’n ei greu i ni.

Be sy’n uno y tri trac ydi llais lledrithiol Thallo sy’n creu lluniau a theimladau drwy gerddoriaeth glyfar a chynnes. Edrych ymlaen am fwy – barus de?!

Elain Llwyd

Ynys Ynys

Mae’n bosib dweud fod cyhoeddi eu halbwm cyntaf yn benllanw ar gyfnod i Ynys; prosiect diweddaraf Dylan Hughes (Race Horses, Radio Luxembourg gynt). Cyfnod lle maen nhw wedi bod yn cyflwyno’u hunain i’r sîn a diffinio’u lle arni, gan greu cryn argraff. Dros gyfnod o ambell flwyddyn, daeth cyfle i ni ymgyfarwyddo â’u sain nhw, wrth iddyn nhw’n temptio ni â senglau fel ‘Caneuon’ a ‘Mae’n Hawdd’. Wrth gwrs, mae albwm yn teimlo fel cam naturiol ymlaen ar lwybr y prosiect felly, ac ydi, mae’r sain cyfarwydd hwnnw’n llifo’n gyfoethog drwy’r record. Mae rhywbeth eithaf melancolig am y sain a’r harmonïau’n enwedig; mae rhywbeth cynnes amdano ond eto rhyw dinc chwareus. Mae’n bosib fod enw ambell un o’r traciau fel ‘Môr Du’ a ‘There’s Nothing

The Sea Doesn’t Know’ - ac enw’r albwm a’r band ei hun hefyd - wedi dylanwadu ar y modd mae rhywun bron yn gallu teimlo’r môr yn y sain;

Adolygiad Circa 21/22

Rhys Grail

Wrth chwilio am ddyfyniad bachog (er crinji efallai) i gychwyn yr adolygiad yma, mi ddois i ar draws un yn cyfeirio at ffotograffiaeth fel tocyn i foment fyddai fel arall wedi diflannu. Dyma’n union mae Rhys Grail wedi’i wneud rhwng dau glawr ‘Circa 21/22’ – rhoi tocyn yn ôl i ambell ennyd mewn gig, a’i gamera’n dod â’r cyfan yn fyw.

Rhwng y ddau glawr, y ddelwedd gyhoeddus sydd i’w gweld gan fwyaf; yn naturiol, am mai lluniau o gerddorion ar lwyfan yn perfformio sy’n llenwi’r rhan fwyaf o’r tudalennau. Rhy docyn sy’n fwy na hynny, fodd bynnag, gan fod yma docyn y tu ôl i’r llen, ac un sy’n mynd â ni gefn llwyfan – sy’n galluogi cip o’r ddelwedd breifat. mae’n sain cartrefol. Ond ar yr un pryd, mae ‘na elfennau - fel effaith fuzzy’r gitârs sy’n creu rhyw deimlad niwlog i’r sain - sy’n sicr yn creu ymdeimlad cryf o ddihangdod i’r gerddoriaeth.

Mae ‘na ambell enghraifft sy’n aros yn y co’; setlist a’r beiro’n sychu wrth fynd i lawr y rhestr, delwedd o’r Cledrau’n ffilmio fideo gerddoriaeth, a’r llun sy’n cloi’r cyfan – criw mewn stafell gefn â brechdanau a chaniau pop a bagiau plastig, a Rhys yn defnyddio’r drych yn effeithiol.

Roeddem ni wedi’n paratoi ar gyfer yr albwm hwn, dwi’n credu; y llond llaw o senglau wedi llwyddo i fynegi hanfod Ynys. Mae’r traciau gafodd eu rhyddhau’n flaenorol ymysg y rhai mwyaf bachog ar yr albwm, y rhai mwyaf pop-aidd, y rhai mwyaf anthemig, o bosib. Daw’r traciau eraill â dyfnder sylweddol i’r record, a digonedd o amrywiaeth hefyd. Er hynny, mae’n gasgliad cydlynus, peth digon anodd ac anghyffredin mewn albwm cyntaf.

Mae pob un o’r traciau’n ffitio’n dda, sy’n deillio, mae’n debyg, o’r modd y maen nhw wedi diffinio’u sain yn eithaf pendant yn eu cynnyrch cynnar.

Mae’n record hyfryd iawn, a chyda phob penllanw daw cyfnod newydd, felly bydda’ i’n dilyn trywydd y prosiect hwn yn eiddgar.

Gruffudd ab Owain

Yr hyn sy’n fy nharo i fwyaf am y casgliad, fodd bynnag, yw’r modd y mae wedi llwyddo i bortreadu perthynas. Y berthynas rhwng y cerddorion a’u cynulleidfa, a thrwy hynny berthynas cynulleidfaoedd â cherddoriaeth. Gwelir yma ddawnsio, yfed a gwenu; yn aml fodfeddi’n unig i ffwrdd o’r perfformwyr. Hoffwn pe gallwn osgoi’r cliché, ond mae’n anochel felly sôn am bortread o ddychweliad i normal yn y byd cerddoriaeth yn dilyn cyfnod y pandemig. Mae portread yma o berthynas rhwng unigolion mewn grŵp, a darlun o hwyl yn hynny o beth. Mae portread yma hefyd o berthynas rhwng y cerddorion a’u hofferyn a’u cerddoriaeth; enghraifft sy’n sefyll allan yw ennyd sy’n dal Ifan Pritchard (Gwilym) fel pe bai ar ganol dod â syniad yn fyw wrth biano.

Drwy blethu hyn oll, llwydda i gynnig portread byw, real, lliwgar, amrwd a byrlymus. Tocyn oes i ennyd ar sîn sy’n ffynnu. Gruffudd ab Owain

Zine Klust: 01

Mae adolygu yng Nghymru yn gallu bod yn fusnes anodd. Gyda nifer cyfyngedig o bobl mae’n gallu teimlo weithiau fel fod yna echo chamber eitha mawr o fewn y celfyddydau, efo neb eisio pechu ei gilydd. Ac o ganlyniad i hynny, ddim adolygiadau onest yn cael ei rannu sydd yn ceisio gwella y gwaith gaiff ei ryddhau. Dyma oedd fy mhryder wrth ddechrau darllen y zine Klust. Casgliad o 10 adolygiad byr gan griw o awduron ar draws Cymru, hanner yn y Gymraeg ac hanner yn y Saesneg. A dau ddarn ffotograffiaeth gan Rhys Grail ac Aled Victor. Mae yna gasgliad gwych o albyms yn cael eu trin yma, a ddim jest o gerddoriaeth Gymraeg, ond cerddoriaeth o Gymru. Mae’n teimlo fel adlewyrchiad lot mwy clir o’r sîn fodern, lle mae’r iaith yn ganolog i’r gwaith, ond ddim yn yn dal y sîn yn ôl rhag dathlu bob darn o waith Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu, dim bwys am yr iaith. Mae’r dewis o awduron a cherddoriaeth wir yn plesio, er fod y darnau weithiau yn teimlo fel ei bod drosodd cyn iddynt allu cael gafael iawn ar drafod yr albwm. Ond yn hytrach na adolygiadau pytiog mae’n teimlo lot mwy fel casgliad o albyms y flwyddyn wedi ei guradu mewn i ddarn cryno a stylish. Mae’r clawr yn dangos hyn yn amlwg, y logo Klust yn fawr ar y blaen ar y cefndir gwyrdd nodweddiadol i’r wefan. Mae’n amlwg fod hwn yn collectors item i selogion y sîn yng Nghymru.

Y peth gwaethaf am y zine ydi bod yna ddim mwy yma. Ond mae’r clawr minimal yn ateb ein gofynion, ar waelod cornel dde y clawr mae ‘01’ wedi ei argraffu. Y dechreuad ydi hwn, a dwi methu disgwyl i weld y rhifyn nesaf.

Hedydd Ioan

Colofn Hedydd Ioan

Bydd enw Hedydd Ioan siŵr o fod yn un cyfarwydd i lawer o ddarllenwyr Y Selar. Mae’n wneuthurwr ffilm llwyddiannus, yn creu cerddoriaeth rap dan yr enw skylrk. a bellach hefyd yn rhedeg label recordiau – boi prysur. Yn ein golofn i’r Selar mae’n trafod y camau cyntaf at ffurfio label Inois gyda’i gyfaill Osian Cai...

Mewn byd ymhell i ffwrdd mae gormodedd. Gymaint o stwff i ddeud y gwir, fel fod bob dim angen ei gyfiawnhau. Hyd yn oed cerddoriaeth. Dyma pam yn y byd yma fyswn i angen gwneud cais cyn cychwyn label gerddoriaeth. A fyswn i’n cyflwyno’r maniffesto cerddorol yma i chi ar ffurf potel fach wydr.

Dwi’n rhedeg yn syth o’r drws lle dwi di bod yn casglu tocynnau i’r haid o bobl sy’n mynd yn wyllt yn nhu blaen y ‘stafell. Lot o’r bobl yma’n anghyfarwydd er mawr syndod i mi. Mae’r haid byddarol yma’n symud ac yn neidio’n wyllt i gân olaf set Maes Parcio. Wrth iddyn nhw gyrraedd y gytgan dwi’n dal llygaid Gwydion, y prif leisydd. Y ddau ohona’ ni yn gegrwth ac yn feddw ar yr egni oedd yn y ‘stafell ar yr eiliad yna. Os fysa angen unrhyw faniffesto ar gyfer rheswm i gychwyn label gerddoriaeth, dyma fysa fo. Potel fach wydr efo’r cemegion i ail greu yr ecstasi llwyr o’r foment yna.

Fe ddaeth y label i fodolaeth o reidrwydd i ddeud y gwir. Odda ni isio cychwyn rhyddhau ein cerddoriaeth o ddifri, ac yn lle torchi llewys a cheisio cael ein harwyddo gan label, dyma fi a’n ffrind gora’ yn penderfynu gneud y dewis diog a jyst cychwyn un ein hunain. Roedd Osian a fi wedi bod yn ffrindia gora ers amser maith, a’r ddau ohona’ ni’n chwara i fandiau ein gilydd, felly odd o’n no brainer i ddeud y gwir.

Ond i gychwyn unrhyw label llwyddiannus mae angen artistaid, ac er ein bod ni’n rhyddau cerddoriaeth ein hunain roedden ni’n awyddus iawn i allu cydweithio efo artistiaid newydd eraill. Da ni’n lwcus iawn o fewn wyth mis i allu rhyddhau chwech sengl yn barod gydag chwech artist o begynau hollol wahanol. O dirluniau sain abstract Sachasom ac Alaw i tiwns bachog Maes Parcio a Tesni Hughes. Doddan ni’n methu credu’r peth i ddeud y gwir, yn sydyn reit oddan ni’n teimlo fod yna rywbeth yn digwydd. Y momentwm yma arweiniodd at y foment anhygoel dwi wedi ei chyflwyno i chi. Ar ddechrau mis Mawrth penderfynon ni gynnal ein gig cyntaf. Y foment o ecstasti cerddorol llwyr. Moment sydd mond yn bosib wrth ddod a pobl at ei gilydd drwy gerddoriaeth. Ewch amdani, fydd yna byth gormod o gerddoriaeth yn y byd.

Seren - Angharad Rhiannon

Y lle amlwg i edrych am destun Trac i Drac y rhifyn yma oedd yr albwm a ddaeth i frig y bleidlais yng nghategori Record Hir Orau 2022 Gwobrau’r Selar. Efallai nad Angharad Rhiannon oedd yr enw amlycaf ar y rhestr fer eleni, ond wrth i Seren gipio’r wobr, yn sicr mae pawb yn gwybod amdani bellach! Cyfle perffaith felly i ni ddod i adnabod traciau’r casgliad yn well, ac i Angharad ymgymryd â’r her o gyflwyno’r albwm mewn dim ond brawddeg yr un, Drac Wrth Drac

1. Diau Daw yr Awr Gobaith yn sgleinio trwy dywyllwch y gân hon.

2. Seren Dilyna dy freuddwyd, be bynnag yw hi.

3. Talgryf (Gydag Alistair James)

Pob yn ail llinell wedi’i chydgyfansoddi gydag Alistair James yn ystod y cyfnod clo.

4. Rhedeg Atat Ti Gem o “Stuck in the mud”.

5. Ti yw’r Un Er bo na biliynau o bobl ar y ddaear, mond un person mae’n cymryd i newid dy fyd.

6. Mae Santa ar ei Ffordd Cyffro noswyl Nadolig mewn cân.

7. Wrth Dy Ochr Di Gyda bach o help, mae unrhywbeth yn bosib.

8. Addewidion Dyma’r math o gân gei di os ti’n gwylltio fi.

9. Tryboli

Pan ti methu cysgu yn y nos a dy feddwl yn troi a throi.

10. Taro Deuddeg Y peth dwi mwya balch ohoni yn y byd i gyd – fy merch.

11. Tra Bod Un Y gân gyntaf i mi recordio.

12. Rhwng Meddwl ac Ysbryd

Os ti byth di brwydro mewn rhyfel di-baid yn dy ben dy hun, ti’n arwr.

13. A Different Me Fersiwn Saesneg, ond nid cyfieithiad, o ‘Diau Daw yr Awr’.

14. Coming Back for You Fersiwn Saesneg o ‘Rhedeg Atat Ti’.

15. Only Me Fersiwn Saesneg o ‘Tra Bod Un’.

16. Warrior Queen Fersiwn Saesneg o ‘Rhwng Meddwl ac Ysbryd’.

This article is from: