6 minute read

Newydd ar y Sin Newydd ar y SÎn

Ffatri Jam

Hanes

Advertisement

Band roc ag aelodau o Arfon a Môn yw ‘Ffatri Jam’, sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd o grŵpiau Calfari, Y Galw a Terfysg. Bryn Hughes Williams ac Aled Sion Jones ddechreuodd y cyfan pan gawson nhw lond bol ar berfformio cyfyrs, ac wedi hynny daeth Sion Emlyn Parry a William Coles i ffurfio pedwarawd. Bellach, â’u sŵn yn “rhy fawr i’w ail-greu’n fyw”, mae pumed aelod wedi ymuno, sef Huw Owen.

“O’ddan ni gyd wedi stopio creu cerddoriaeth am gyfnod ac o’ddan ni gyd wedi colli fo oherwydd y pandemig neu bod i ffwr’ dramor,” esbonia Bryn, y prif leisydd.

Er mai dim ond am ychydig fisoedd maen nhw wedi bodoli, maen nhw eisoes wedi rhyddhau tair sengl sydd wedi ennyn cryn ymateb, gan ymddangos ar restrau chwarae BBC Introducing, BBC Radio 1 a Spotify, yn ogystal â dod y grŵp Cymraeg cyntaf i gael eu chwarae ar Planet Rock Radio.

“Ma’n hollol sioc rili; do’ddan ni ddim yn disgwyl dim byd fel hyn ‘chos nathon ni ddisgyn fewn i’r sŵn [roc trwm] ‘ma. Ond ‘dan ni wedi treulio dipyn o amser yn ‘sgwennu a trio creu

Dafydd Owain

Hanes

Bydd llawer o ddarllenwyr Y Selar yn gyfarwydd â rhan Dafydd Owain ym mandiau Palenco, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco yn y gorffennol, ond bellach mae wedi penderfynu lansio’i hun fel artist unigol. “’Nes i gyflwyno un neu ddwy o’r caneuon sydd ar fy albwm i rai o’r bandiau dw i wedi bod yn rhan ohonynt ond doedden nhw ddim yn gweithio [i’r bandiau] rywsut,” esbonia. “Roedd ‘na gasgliad go helaeth o’r caneuon oeddwn i’n gwybod na fyddai’n gweithio i’r bandiau oeddwn i ynddyn nhw hefyd, felly dda’th hi’n weddol amlwg erbyn diwedd fod yna le i roi’r caneuon mewn un ‘prosiect’ annibynnol.”

’wbath sydd ddim fel ‘wbath dwi ‘di sgwennu dros nos.

“[Dan ni’n] rili falch fod pobl wedi ymateb a bod y sîn yng Nghymru a UKwide wedi mwynhau be’ dan ni ‘di greu hyd yn hyn; ma’n reit sbeshal.”

Sŵn Fel y mae Bryn yn cyffwrdd arno uchod, nid sŵn trwm oedd y bwriad gwreiddiol. “‘Na’thon ni ddechra’ sgwennu cerddoriaeth country rock a ‘nath o newid rywsut neu’i gilydd pan ‘nathon ni fynd i ymarfar yn y stiwdio yn Penmynydd yn sir Fôn.

“Dwi’n meddwl bod pobl yn sylwi bod roc yn dod yn ôl. Ella be’ sy’n unique am y sŵn ydi bod o bach yn Americanaidd dechrau 2000s hefo twist modern arno fo.

Gigs Cefn Car

“Yn amlwg ma’ ca’l Siôn sy’ di byw yn LA yn America yn dipyn o ddylanwad, a dwi bach hŷn na gweddill yr hogia’ so dwi ‘di tyfu ‘fyny efo stwff mwy trwm.

References ni ydi bandia’ fath’a Rage Against The Machine a Monster Truck.”

Beth nesaf?

 hwythau eisoes wedi cael dechrau cynhyrchiol gan greu cryn argraff, beth sydd ar y gweill i Ffatri Jam?

“’Dan ni ‘di bod yn ffodus iawn o ga’l [arian] launchpad gan Gorwelion ‘leni o’dd yn annisgwyl am bo’ ni ond yn actif ers mis Medi.

“Plania’ ni mwy na dim ydi mynd nôl i’r stiwdio i recordio gweddill [ein] EP ni felly fydd hwnna allan gobeithio erbyn diwadd mis Ebrill.

“Ma Lŵp (S4C) yn mynd i fod yn ffilmio fideo ar gyfer ‘Geiriau Ffug’, dan ni’n mynd i fod yn chwara’n fyw, ond y prif beth ydi dal i sgwennu a parhau i fynd o nerth i nerth efo be’ ‘dan ni’n rhyddhau.”

Hanes

Un o artistiaid ifainc prysuraf y sîn, Dafydd Hedd, oedd yn gyfrifol am y syniad o greu Gigs

Cefn Car, ac yntau’n awyddus i gigio gyda’i gyd-gerddorion. Ar ôl trefnu un gig yn The Moon, Caerdydd, esblygodd y syniad a daeth yr angen am frand. Ers y dechrau, mae wedi cyd-weithio ag eraill i greu’r gyfres, ac erbyn canol Mawrth maent wedi cynnal pum digwyddiad, gan serennu artistiaid megis skylrk a Morgan Elwy.

“Ddaru’r brand gael ei eni ar gae Maes B yn Nhregaron ar ddiwrnod braf a phoeth gyda ffrindiau. Mae Iestyn yn ardderchog gyda gwaith graffeg, Lewis yn sbarduno syniadau unigryw, yn dod i fyny efo’r enw, ac Osian yn ‘neud o’n bosib i ni redeg gigs ar draws y wlad,” eglura Dafydd.

Mae’n ddiwydiant anodd, ac mae’n cydnabod hynny. “Mae trefnu gigs yn broses hwyl ond [mae ‘na] straen. Weithiau mae’r ansicrwydd sy’n dod efo creu, rheoli a bod yn gyson wrth farchnata [yn] gallu bod yn anodd.”

Sut mae mynd ati i drefnu, a rhoi llwyfan i artistiaid newydd ac amrywiol? “Rydym yn dechrau drwy darganfod lleoliad priodol ar gyfer yr artistiaid. Mae pawb yn gweithio reit agos at bobl newydd yn y sîn felly mae wastad artistiaid i’w ystyried.”

Bwriad

Mae’r pwyslais ar gefnogi artistiaid newydd i ddod o hyd i’w traed yn glir yma, ac wrth gynnal gigs yng Nghaerdydd, Bangor, Caernarfon a Wrecsam, ceir elfen o gynrychioli ardaloedd gwahanol o Gymru wrth drefnu. Y cysylltiad rhwng y ddau sy’n greiddiol i’r prosiect.

“Er mwyn cynnal a chreu sîn gerddorol iachus sy’n ffynnu, mae angen i bobl wthio ein sîn byw. Mae hi’n gallu bod yn anodd i dorri allan o dref ddechreuol a cael gigs ar draws y wlad pan yn dechrau,” esbonia.

“Rydym yn ceisio pontio rhwng artistiaid newydd a lleoliadau gigio ledled y wlad, a drwy hynny creu cyfleoedd i artistiaid ddarganfod cynulleidfa newydd.”

Beth nesaf?

Parhau i fynd o nerth i nerth, mae’n ymddangos. “Rydym yn sôn gyda Neuadd Ogwen i roi noson acwstig ymlaen yn Y Fic yn yr haf. Rydym yn gobeithio cynnal sioe yng nghanolbarth Cymru. Fysa

Aberystwyth yn hwyl, a mae angen i ni drefnu noson yn Nhregaron rhywbryd, gan [mai] yno oedden ni pan greon y brand yn y lle cyntaf.”

Ac o gofio’r pwyslais ar roi cyfle i artistiaid ddarganfod cynulleidfa newydd, does dim bwriad i osod cyfyngiadau arnyn nhw’u hunain o ran lleoliadau. “Rydym yn gobeithio rhoi sioeau ymlaen tu allan i Gymru hefyd, yn Llundain, Bryste, Manceinion a Lerpwl a hyd yn oed pellach er mwyn rhannu ein diwylliant gyda’r byd.”

Eitem fach newydd wrth i ni ddethol senglau sydd wedi cael eu rhyddhau gan artistiaid sy’n newydd i’r sîn...

‘Golau’ – Alis Glyn

O le? Caernarfon

Beth? “Dwi’n hoff o roi negeseuon positif gan fy mod yn sylwi bod mwyafrif y caneuon sydd nawr yn cael eu cyfansoddi yn rhai trist a lleddf,” meddai.

‘Cefnogi Cymru’ – Dadleoli O le? Caerdydd Beth? Dim ond y dechrau oedd y trac Cwpan y Byd i’r band pop ifanc, sy’n barod wedi chwarae yng Nghlwb Ifor ac ar y Noson Lawen.

‘Sgen Ti Awydd?’

– Maes Parcio O le? Arfon a Môn Beth? Trac bywiog gan y band pync sydd wedi’i ffilmio ar gyfer ‘Curadur’ Lŵp S4C, a hwythau’n dymuno dilyn trywydd trymach eleni.

‘Tywod’ – Melda Lois

O le? Penllyn

Beth? Er fod Melda Lois yn enw cyfarwydd â hithau wedi serennu ar Cân i Gymru yn y gorffennol, dyma’r sengl gyntaf iddi hi ei rhyddhau.

‘Dewch Draw’

– Pixy Jones

Mae eisoes wedi rhyddhau dwy sengl i’n cyflwyno ni i’w brosiect a’i sain, ac wedi creu fideo i gyd-fynd â nhw. Pam fod hynny’n bwysig iddo? “Yn ystod fy nghyfnod mewn bandia’ fath’a Eitha Tal Ffranco, doedd y cyfrynga’ cymdeithasol ddim yn bodoli yn y ffordd maen nhw heddiw. O’dd hi’n ddipyn o beth cael camera ar ffôn heb sôn am gael camerâu ffôn fel sy’ gynnom ni heddiw. Ro’dd hyrwyddo miwsig yn rhywbeth o’dd yn digwydd drwy’r radio, teledu a gigs.

“Bellach, y cyfrynga’ cymdeithasol ydi’r brif ffordd o hyrwyddo cerddoriaeth. Ond cyfrynga’ ‘gweledol’ ydyn nhw. I gymryd enghraifft fel Instagram, platfform sydd wedi ei hadeiladu ar ddelweddau ydi hi, a’r ddelwedd sy’n ‘taro’ gynta. Felly ma’ hyrwyddo miwsig, sy’n gyfrwng

‘anweledol’, ar blatfform o’r fath yn gallu bod yn trici. Dyna pam mod i’n dwtsh o ffan o’r ‘fideo miwsig’ achos ma’n ychwanegu haen arall.”

Sŵn

“Dw i wedi rhywsut dod fyny efo’r genre o ‘melancolipop’ ar gyfer fy ngherddoriaeth; ‘pop’, yn yr ystyr fod lot o’r caneuon efo riffs bachog, sy’n seiliedig ar felancoli bywyd,” dywed. Mae’n credu fod ‘Uwch Dros y Pysgod’, ei sengl gyntaf, yn enghraifft dda o’i gerddoriaeth yn fwy cyffredinol; un sy’n “swnio’n ddigon hapus a hyfryd ar y glust, ond ma’r geiriau yn delio efo profiadau reit drist a thywyll. Dw i’n meddwl mod i’n defnyddio’r gerddoriaeth i ddweud wrth fy hun, a phawb, y bydd bob dim yn iawn yn diwadd.”

Pwy a beth yw’r dylanwadau ar ei gerddoriaeth? “Mae’na fandiau ac artistiaid fel Wilco, Tom Waits, Bitw a H Hawkline sy’n dylanwadu ar y gerddoriaeth o ran sŵn a theimlad.

“Ond, gan fwyaf, y geiriau dw i’n ysgrifennu sy’n dylanwadu’r gerddoriaeth. Oni bai am rai achlysuron yma ac acw, dw i’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar eiriau caneuon a’r rheini sy’n strwythuro’r gân i mi erbyn diwedd. Dw i’n hoff o gael y miwsig i ‘ffitio’ o amgylch y geiriau yn hytrach na chael y geiriau i ‘ffitio’ o amgylch y gerddoriaeth.”

Beth nesaf?

“Rhyddhau cwpwl mwy o sengla oddi ar yr albwm, weeeedyn* rhyddhau’r albwm, weeeeedyn* gigs lansio albwm a weeeedyn*…albwm arall ia?

[*I’w ynganu yn llais Syr Wynff ap Concord y Bos a/neu Plwmsan y Twmffat Twp.”]

O le? Caerdydd

Beth? Gitarydd El Goodo, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pum mlynedd, yn lansio prosiect unigol; dyma drac bachog ac anthemig o’i albwm cyntaf, Bits n Bobs

‘Golau’ – Popeth ft.

Martha Grug

O le? Caerdydd

Beth? Prosiect pop sy’n anelu i fod yn gynhwysol ac yn flaengar, sydd hefyd wedi cydweithio gyda Bendigaydfran a Kizzy Crawford ar senglau.

‘Cwestiynau’

– Tesni Owen Hughes

O le? Môn

Beth? Er yn brofiadol wrth berfformio a rhyddhau, “dwi byth ‘di rhyddhau cân mor serious a hyn,” meddai. Dyma’i sengl gyntaf ar label INOIS.

This article is from: