2023IIB080 COP 27 We Still have a Chance Welsh

Page 1

GreenFutures

Mae gennym gyfle o hyd

COP27 Stories Translated into Welsh by Rhian Hutchings


Copyright LEGAL NOTICE: All rights reserved. No part of this book may be reproduced, or stored in a retrieval system, or transmitted in any form, or by any means without prior permission from the editors or The University of Exeter and other copyright holders. www.exeter.ac.uk/greenfutures

ISBN: 978-1-3999-3844-0 Front cover image credit: ESO/M. Kornmesser NOT FOR REPRODUCTION

2


We Still Have a Chance was born in translation, of art and science, of planetary health and activism, and of course of the stories themselves. Storytelling is part of all languages and languages have their own stories to tell about people and places. That is why We Still Have a Chance also has translation at its heart: experience and understanding of climate change is felt differently in different languages. To explore how other languages tell the stories, a team of undergraduate student interns recruited from Exeter’s Department of Languages, Cultures and Visual Studies have translated into languages studied for their degrees or in which they were already bi- or trilingual, from Afrikaans to Welsh. We’re sharing their translations here, to open We Still Have a Chance to new readership in other languages, to celebrate our students’ work, and to provide an example of how translation can give hope that we do indeed still have a chance.

Translations into: Afrikaans, by Anthony de Carlile French and Italian, by Emily Cooper and Anthony de Carlile Polish, by Zuzanna Bialas Spanish, by Emily Cooper and Paula Berriel Welsh, by Rhian Hutchings

1


Mae gennym gyfle o hyd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 3 Oed rheswm . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 4 Crac yn y nen . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 6 Byw ar yr afon . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 12

2


Mae gennym gyfle o hyd Casgliad unigryw o feicro-llên i’n huno ni wrth i ni ddychmygu a ffurfio byd cynaliadwy, iach a chymdeithasol gyfiawn. Cafodd y casgliad ei greu ar y cyd gan wyddonwyr hinsawdd, arbenigwyr yn y maes iechyd, ymgyrchwyr cynhesu byd eang ifanc, ysgrifenwyr, cyfieithwyr ac artistiaid yn yr Aifft ac yng Nghaerwysg, ar gyfer lansio cynhadledd Cynhesu Byd Eang COP27 yn Sharm El-Sheikh yn yr Aifft yn Nhachwedd 2022.

3


Oed rheswm

Karim El Hayawan

4


D

ydy plant ddim yn adnabod y byd yr ydym ni’n ei adnabod. Mae ganddynt ffyrdd eu hunain o godio a dehongli. Maent yn ail-enwi’r pethau a ddarganfyddwyd ganddynt ac yn eu donio â dimensiwn gwahanol. Yn hwyrach, pan maent yn hŷn ac yn gorfod addasu eu hymddygiad fel ei bod yn un â’n hymddygiad ni, maent yn derbyn nad anadl cawr yw’r cymylau uwchben ac nid pinnau yw’r sêr yn nüwch melfedaidd yr awyr. Roedd Hashem yn wahanol. Roedd Hashem yn blentyn realaidd hyd at bwynt eithafol. O’r diwrnod gyrhaeddodd tir y byd yma a gysylltai dwy daith, nid oedd Hashem o dan gamargraff ac fe welai bywyd yn ei wir ffurf. “Fe ddwedaist ti wrtha i nad yw adar y tô yn troi mewn i frain, yn do fe, Mam?” dwedodd Hashem, fy mhlentyn saith blwydd oed. “Na, cariad; adar tô yw adar tô a’r brain yw’r brain.” “Odi’r adar yn gallu gildio eu lliwiau a throi’n ddu a gwyn?” “Na, Hashem. Mae brain yn ddu on fe fydd adar eraill yn cadw eu lliwiau hyd at ddiwedd amser.” “Wyt ti’n siwr, Mama?” “Ydw, Hashem.” Roeddwn i’n siŵr. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd beth oedd fy mhlentyn saith blwydd oed yn gwybod. Roedd e eisiau fy nghredu i. Fi oedd ei fam. Ond fe ysgwyddodd ei ben. Roedd sail pob rhith cysurlon wedi torri ac ni allai Hashem ddim beidio â gweld drwy’r rhwyg. Fe ddwedodd e, “Na, Mam.” Mae hi’n anodd nawr i gofio disgleirdeb y lliwiau yna. Yn awr, maent yn frith gofion. Yn awr mae’r brain yn teyrnasu.

5


Crac yn y nen

Karim El Hayawan

6


B

ananas melfedaidd yn toddi ar ei thafod, mor felys a blasus. Cannoedd ohonynt yn dawnsio uwch ei phen, clystyrau euraidd yn hudo’r llygaid. Mae’r freuddwyd mor ddisglair yn nychymyg Shamsi bod blas y ffrwyth yn parhau wrth iddi ddeffro, er ei hymdrechion i aros ym myd ei breuddwydion ac ymwrthod rhag agor ei llygaid. Roedd y freuddwyd wedi gosod hi nôl ar fferm bananas ei phlentyndod, yn treulio oriau yn rhedeg trwy lwybrau’r planhigion tal, ei thraed fel pe baent yn arnofio uwchben arwyneb llyfn y tir oddi tani. Taniai’r atgof rhyw deimlad ynddi a oedd bron wedi’ diffodd yn llwyr, y cyffro a’r addewid a ddaeth ar ôl glaw, pan oedd popeth wedi’u hadnewyddu. Wrth iddi geisio glynu wrth yr atgofion sy’n chwyrlio o amgylch ei phen daw’r amser iddi wynebu’r ffaith bod y freuddwyd wedi diflannu ynghyd â’r lliwiau llachar, yr aroglau llu a’r disgleirdeb. Hiraethai Shamsi am sicrwydd y dyddiau cynt. Y dyddiau a gydweddai i roi strwythur a phendantrwydd i fywyd bob dydd, y gorffennol a’r dyfodol yn un. Mae’r gwacter yn ei stumog fel cwlwm. Wrth iddi eistedd a rhwbio’i llygaid gwelai’r freuddwyd yn diflannu at orwelion ei chydwybod ynghyd â’r atgofion. Breuddwydiai’n aml am blât twym o fwyd ar ôl colli pryd. Yr unig beth sydd ar ôl yn gysur iddi yw’r aflonyddwch, fel pe bai rhywbeth ar fin digwydd.

7


Arferai fyw ar fferm bananas, tir gwyrddlas a ffresni’r porfeydd yn llenwi’r lle. O i ddychwelyd at yr aroglau nefolaidd. Anrheg gorau’r byd fyddai i weld y fferm yn ei holl ysblander. Nid fel oedd hi heddiw, gyda’r bananas yn pydru a’u duwch yn taflu cysgod dros y tir. Ffrwythau caled, di-siap a oedd byth yn aeddfedu yn yr un ffordd. Ffrwythau a oedd methu ymdopi â’r gwres tanbaid a’r diffyg glaw a oedd yn blino Shamsi a’i theulu. Nawr roedd yn rhaid iddynt fyw ar gyrion y ddinas, ac ar gyrion diogelwch a newyn. Mae rhieni Shamsi yn cymryd gwaith pan yn bosib ond yn aml mae’n rhaid iddynt golli pryd o fwyd a gwyddai fod mam yn gorfod mynd heb fwyd er mwyn i bawb arall gallu bwyta. Yna daw rhyw gyfle’r diwrnod nesa’ a chant fwyta eto. Dyna ewyllys Duw mae’n debyg, wel dyna beth wedodd ei rhieni. Roedd y bywyd goddefgar yma yn gwylltio Shamsi. “Ond pam?” gofynnai. “Pam newidiodd y tywydd ? Odi Duw yn mynd i newid e nôl? Odych chi’n siŵr mai Duw achosodd hyn? Pa fath o Dduw fyddai’n gwneud y fath beth? Beth wnaethon ni’n anghywir? Ife cosb yw hon? Oes cnydau eraill ar gael a fyddai’n gallu gwrthsefyll y tymheredd ‘ma?” “Dim ein lle ni yw cwestiynu ewyllys Duw. Rhaid i ni barhau, i ddioddef.” dyna’r ateb rhoddodd ei mam. A phan nad oedd yr ateb yna’n tawelu’r cwestiynau, “dim plentyn wyt ti Shamsi, i fod yn gofyn pam drwy’r amser.” Ond ni wnaeth Shamsi rhoi terfyn ar y cwestiynau. Yn gyntaf, gofynnodd i’w cymdogion newydd yn y dref sianti, llawer ohonynt â straeon tebyg- y glaw wedi pallu a’r cnydau’n gwrthod tyfu, yr anifeiliaid yn llwgu. Roeddent wedi dianc i’r dinasoedd ac yn byw 8


o un diwrnod i’r llall. Breuddwydion o ddyfodol gwell. Roedd y cwestiwn ‘pam’ wedi staenio’i gwefusau â’r un ymateb yn siomi bob tro. Sgleiniai’r tristwch yn llygaid eu cymdogion gyda’r un hen gwestiwn ‘pam ni?’. Gofynnodd i’w Mamgu a oedd llawn doethineb cenedlaethau cynt ond nid oedd yr atebion ganddi. “Os daw pobl at ei gilydd a chyd-dynnu mae’n bosib trwsio’r crac yn yr awyr”. A dyna beth sy’n rhaid i ni wneud, meddyliodd Shamsi, ond yn gyntaf rhaid i ni ddarganfod beth sy’n achosi’r crac. Gofynnodd i bawb, boed yn athrawon, pregethwyr, yr ifanc a’r hen, ffrindiau a dieithriaid. Yng nghanol yr holl chwilota dyma hi’n dod ar draws Fatma, ymgyrchydd ifanc oedd yn barod i gynnig atebion. Swydd Fatma oedd cwblhau ymchwil ar ran sefydliad mawr. Gwisgai benscarff porffor ac roedd ymrwymiad Fatma i’r achos yn pefrio yn ei llygaid er y ffeithiau arswydus y rhannai. Pan siaradon nhw am y tro cyntaf roedd e’n anodd i Shamsi ddeall. “Ydych chi wedi colli tir o ganlyniad i gynhesu byd eang?” gofynnodd Fatma. Mynnodd Shamsi i gwestiynu ac atebodd Fatma. Cynhesu byd eang. Newid hinsawdd. Lefelau carbon deuocsid yn cynyddu. Pob term newydd fel ergyd a gyda phob darn newydd o wybodaeth daeth mwy o anobaith a thristwch. “Sut nad wyt ti wedi dy gywasgu ag ofn?” gofynnodd Shamsi. “Wrth weithredu, wrth ddweud wrth bobl, wrth rannu’r baich. Rhaid i ni yrru’r newid.” atebodd Fatma. Ond nid dyna oedd cynllun rhieni Shamsi. Roeddent am ddianc o’r newyn parhaol yma wrth drefnu priodas i Shamsi. Priodas oedd yn golygu bod Shamsi yn priodi dyn cyfoethog. Mae geiriau ei rieni wedi’u hargraffu ar gof Shamsi: 9


“Rwyt ti’n brydferth. Mae gennyt edrychiad sydd yn gallu hudo dynion ac mae’n rhaid i ti ei ddefnyddio. Yn wylaidd ond yn ddoeth. Un ar bymtheg yw’r oedran orau i briodi a’n rôl ni yw dod o hyd i ŵr cyfoethog i ti. Fe fydd y dyn cyfoethog yma yn dy chwantu er dy dlodi. Fe fydd y ffaith dy fod ti’n ifanc ac yn brydferth yn ddigon. Nodwedd bwysicaf y dyn hwn bydd ei gyfoeth. Ar ôl i ti briodi bydd digon o fwyd gyda ni i fwyta. Bydd dim rhaid cysgu’n newynog. Gelli di fwyta halva a cardamon o leiaf unwaith yr wythnos. Ti yw ein dyfodol ni Shamsi. Mae’r cenedlaethau i ddod yn dibynnu arnat ti.” Wrth gwrs hoffai Shamsi wella bywydau ei theulu, ond dim ar draul ei rhyddid hi. Dyw priodi ddim yn opsiwn. Dyw Shamsi ddim am fod fel y menywod ifanc ugain mlwydd oed sydd wedi eu llethu gan fywyd. Eu baich yw llafur a does dim dewis ganddynt ond i dderbyn eu sefyllfa. A dydyn nhw ddim yn ysgogi newid. Mae’n rholio ei mat a’i osod yn erbyn y wal. Wrth iddi ymolchi yn yr un diferyn o ddŵr sydd ar ôl, dyma’r teimlad o aflonyddwch yn dychwelyd ati. Heddiw mae’n bwriadu cyfaddef i’w rhieni heddiw na fydd hi’n priodi’r dyn cyfoethog maent yn chwennych iddi. Dim eto. Mae ganddi gynlluniau eraill ar y gorwel. Ymladd dros yr achos yw ei ffawd hi- bod yn ecoryfelwr.

10


Mae Shamsi’n ddi-hid ynglŷn â’i phrydferthwch. Dyw prydferthwch ddim yn rhywbeth mae wedi haeddu. Nodwedd arwynebol, fyrdymor yw prydferthwch. Yr ymennydd yw’r arf orau, ei gallu i ddysgu. I ddarganfod llwybr gwahanol ac ymladd dros newid. Dywed ei Mamgu bod rhaid bod yn graig neu i bwyso ar graig, bwriadai Shamsi fod yn graig. Angen perswadio ei rieni sydd rhaid…

11


Byw ar yr afon

Karim El Hayawan

12


D

wi’n dihuno cyn y wawr, cyn i dwristiaid ymddangos fel clêr yn chwilio am ddomen. Fy swydd i yw lansio bad bach o’r lanfa wedi’i llwytho gyda rhwydi mewn amryw o feintiau fel fy mod i’n gallu gwagio’r sbwriel sy’n arnofio ar yr afon. (Dydy pobl ddim am gael eu hatgoffa eu bod yn llygru’r byd). Heddiw, mewn ond ychydig o fetrau, dwi’n darganfod caniau cwrw, boteli plastig a bagiau, olwyn beic, esgid plentyn. Dwi’n ailgylchu’r hyn rwy’n darganfod, yn ôl canllawiau’r awdurdodau, ond mae yna ddiwrnodau pan dwi’n teimlo fel pe bai fi yw’r unig berson sy’n casglu’r sbwriel, ar ben fy hun mewn brwydr sydd yn cael ei golli. Fe fyddech chi’n meddwl byddai pobl am gadw’r dŵr yn lân, yn glir ac yn llifo. Wythnos diwethaf fe achubais i ŵydd arall a oedd wedi’i rhwydo yn y cyrs, plastig wedi dal yn ei big. Yn awr maent yn dweud wrthym am beidio â chyffwrdd unrhyw aderyn i osgoi dal ffliw adar. Stopiwch y lledaenu- oherwydd mae dŵr yn gallu cario clefydau. Dwi wedi hudo gan lif dŵr erstalwm. Pan oeddwn yn ddeg mlwydd oed, fe brynodd fy rhieni glôb i mi, a gyda fy mysedd, roeddwn yn arfer dilyn trywydd yr afonydd mwyaf gyda fy mys. O’r mynyddoedd, trwy’r cymoedd, wrth iddynt ledaenu a chulhau, nes eu bod yn cyrraedd y môr. Dwi’n dal yn berchen â’r glob yna, ond fe stopiodd droi degawdau yn ôl ac mae’r lliwiau wedi pylu. Mae hi’n anodd gwahaniaethu rhwng y môr a’r tir.

13


Nawr dwi’n ymddeol mewn ychydig wythnosau a dwi methu aros. Mae’r modur sgleiniog brynais i’n ddiweddar yn aros i gael ei gyrru. Rwyf am deithio i berfeddion cefn gwlad, dilyn yr afon, a darganfody tarddiad. Fe fydd yn rhyddhad i beidio â gorfod delio gyda sbwriel pobl eraill. Rwyf wedi rhentu fy nhŷ allan am swm anferthol o arian. Mae teuluoedd yn ysu am gartrefi. Teimlaf yn flin dros y bobl ddigartref sydd yn byw o dan y bont. Y rhai a wnaeth oroesi’r llifogydd o drwch blewyn. Mae angen i mi ddod i adnabod yr afon yn well, pob tro, pob codiad, a phob disgyniad er mwyn darganfod lle mae’i chalon yn curo. Mae afonydd yn debyg i rydweli a gwythiennau, yn cylchredi ocsigen, yn ceisio gwaredu ar wenwyn. Nawr mae’r afon ger lle dwi’n byw yn troi’n goch o ganlyniad i’r ffatrïoedd a’r ffermydd sydd yn gwaedlifo eu gwastraff, mae’n debyg bod gwaed a dŵr hyd yn oed yn fwy cymysg. Fel nifer o’r pysgod, nid wyf yn gallu nofio yno rhagor, gan fod yr algae yn lledaenu fel clytiau olew lle mae’r dŵr yn symud yn araf. Dwi eisiau gweld rhaeadrau a nentydd gloyw- i ddarganfod beth sy’n digwydd ym mhen ucha’r afon oherwydd ar ddiwedd ei siwrnai mae fy afon i’n sâl. Mae hi’n ysu am law. Mae’r tegeirianau gwyllt angen glaw, mae’r coed ewcalyptws angen glaw. Neu efallai bod rhywbeth neu rywun yn dargyfeirio’r afon. Yn ystod fy niwrnod olaf yn y gwaith does dim parti oherwydd dyw pobl ddim yn gallu cymysgu â’i gilydd. Felly dwi’n gyrru. Heibio’r bachgen yn chwistrellu paint graffiti ar hysbysfyrddau’r rheilffyrdd, heibio pobl yn siopa yn ciwio gyda’u mygydau, nes bod yr hewlydd yn glir a dwi’n anelu am y mynyddoedd, tuag at yr awyr, yr afon yn culhau wrth i mi ddringo. Dwi’n parcio, gadael y car and yn edrych nôl dros doeon y dref. Mae’r synau yn wahanol

14


yma- ehedydd efallai, y pryfed yn hedfan, ac mae sŵn y dŵr yn llifo’n araf dros y creigiau. Rwy’n cael fy nenu gan y nant, yn trochi fy nwylo yn y dŵr ac yn sblasio fy ngwyneb pan glywaf lais.” Wyt ti’n iawn?” Dydw i ddim yn bwriadu ymuno â Melissa a John i fwyta’r swper maent yn coginio dros stôf gampio. Dim ond oherwydd ei bod hi’n amlwg eu bod nhw’n caru’r afon sydd yn fy nenu i i siarad gyda nhw. Ac maen nhw’n deall pam fy mod i’n teithio ar ben fy hun- oherwydd bod fy swydd wedi dod i ben- oherwydd bu farw fy ngwraig yn ddiweddar. “Covid”- gofynnai Melissa. Dwi’n llwyddo ymateb gyda “Clotiau gwaed.” Mae’r nant yn parhau i fyrlymu a disgleirio fel pe bai’n golchi trwy ein meddyliau. “Dere gyda ni fory. Rydym ni’n mynd i lanhau’r traeth. Mae gennyt ti’r wybodaeth arbenigol. Mae yna grŵp ohonom ni.” Y diwrnod nesaf cerddais i fesul dau gyda’r lleil, ger yr arfordir, pob un ohonom gyda bag ag offer er mwyn pigo lan sbwriel. Dwi’n teimlo’r môr yn codi, a’r afon yn cilio. Dwi’n meddwl am y dyfodol ac am beth sydd angen ar bobl, ac yna dwi’n meddwl am beth sydd angen ar y byd. Cyn i ni sylweddoli mae popeth yn dywyll. Rydym ni’n dod ynghyd o flaen y tân gyda gitarau a blancedi. Mae’r lleuad yn disgleirio dros y tonnau wrth i rywun i ganu “Fe fyddwn ni’n achub y byd prydferth yma.”

15


GreenFutures


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.