7 minute read

Ymaelodwch â’r Clwb

Ydach chi’n aelod o Glwb Selar eto? Os felly, pam ddim!

BETH YN UNION YDY CLWB SELAR DWI’N CLYWED RHAI’N HOLI?

Advertisement

Wel, mae o’n gyfle chi gefnogi’r gwaith mae’r Selar yn gwneud yn y cylchgrawn (rhad ac am ddim) yma, ar ein gwefan selar.cymru, ac hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes trwy gydol y flwyddyn.

BETH SYDD YNDDI I CHI?

Yn syml iawn – llwyth o bethau cerddorol ecsgliwsif gwych gan Y Selar!

Gan ddibynnu ar eich lefel aelodaeth, byddwch yn derbyn anrhegion arbennig a chynigion ecsgliwsif yn rheolaidd trwy’r flwyddyn.

Am ddim ond £5 y flwyddyn gallwch ddod yn ‘Roadie’ a derbyn copi o’r cylchgrawn print trwy’r post bob tro, ynghyd â chylchlythyr misol Clwb Selar gyda chynigion gan Y Selar a’n ffrindiau yn y sin.

Neu beth am fod yn ‘Gitarydd Blaen’ am ddim ond £30 y flwyddyn a chael y pethau yma ynghyd ag anrhegion hael fel crys T, copi o flwyddlyfr Y Selar, anrheg Nadolig a chopi o’n record feinyl aml-gyfrannog cyfyngedig.

Isio gwybod mwy neu ymaelodi â’r Clwb? Ewch draw i gael cip ar yr holl lefelau aelodaeth ar wefan Y Selar.

selar.cymru/ aelod/lefelau

Tydi’r sin gerddoriaeth Gymraeg ddim yn sefyll yn ei unfan yn hir, ac fel un o’r cyfryngau sy’n adlewyrchu’r sin mae’n bwysig fod Y Selar yn parhau i ddatblygu a symud yn ei flaen hefyd. Cofiwch, mae croeso i chi ymuno â ni ar y daith wrth i ni barhau i groesawu cyfranwyr newydd – rhowch waedd os ydach chi ffansi.

Owain S

Rogue Jones

Sgwrs Sydyn Hap a Damwain

Enillwyr Gwobrau’r Selar 2022

10 Uchaf Albyms 2022

Dadeni Tara Bandito

Newydd ar y Sin

Cip rhwng y cloriau

Geiriau’r Gân

Adolygiadau

Colofn Hedydd Ioan

UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

DIRPRWY OLYGYDD Gruffudd ab Owain

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

HYSBYSEBION yselar@live.co.uk

CYFRANWYR

Tegwen Bruce-Deans, Lois Gwenllian, Gruffudd ab Owain, Bethan Williams, Elain Llwyd, Nel Thomas, Hedydd Ioan

@y_selar facebook.com/cylchgrawnyselar selar.cymru

Diolch yn fawr gyfeillion Y Selar (aelodau Rheolwr a Prif Ganwr Clwb Selar): Ywain Gwynedd, I KA CHING, Targed, Antoni a Dawn Schiavone, Gruffydd Davies, Illtud Daniel, Chris Roberts, Gethin Griffiths.

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’

Does dim llawer o fandiau mwy unigryw na Rogue Jones yng Nghymru ar hyn o bryd. A hwythau newydd ryddhau eu hail albwm, wyth blynedd ar ôl y cyntaf, Tegwen Bruce-Deans fu’n sgwrsio gyda dau aelod craidd y band ar ran Y Selar.

Caewch eich llygaid a gadewch i un o fandiau mwyaf creadigol ac unigryw’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru afael yn eich llaw a’ch tywys chi hyd lonydd troellog bywyd. Efallai y gwnewch chi ganfod eich hun yn troi corneli annisgwyl ar y ffordd, ond yn union fel crefftwriaeth gyffrous yr haenau o genres a hanesion sy’n ymblethu trwy’r albwm yma, diau y gwnewch chi ganfod pleser yn y llanast prydferth hwnnw. Er mai dyma yw’r ail faban i Rogue Jones ryddhau fel record i’r byd, fel mae enw’r albwm yn awgrymu, nid yw byd bach eclectig Bethan Mai ac Ynyr Ifan yr un fath ag yr oedd hi wyth mlynedd yn ôl, ar drothwy rhyddhau eu halbwm début, VU. Bellach yn rhieni i ddau o blant, mae Dos Bebés yn teimlo fel ymgais gan yr artistiaid i fynegi’r newid yma trwy ddathlu bywyd a’i holl feiau, ac yn y bôn gwerthfawrogi’r gallu i brofi hyn i gyd. Y gallu i fod yn fyw. Ond faint yn wir sy’n gallu newid o fewn wyth mlynedd, ers i Rogue Jones ddatgan eu hunaniaeth i’r byd am y tro cyntaf? Bethan sy’n esbonio.

“Natho ni’r albwm cyntaf heb rili recordio unrhyw beth o gwbl o’r blaen,” meddai.

“O’dd e’n fyd newydd i ni. Roedd e’n lot fwy amrwd. Felly fi’n credu erbyn hyn, ni’n gwybod tamaid bach yn fwy am sut i neud e! Er bod y geiriau a’r cynnwys dal yn teimlo’n amrwd ar yr albwm newydd, ni ‘di gallu cael mas ohono fe y math o sŵn bydde ni’n gobeithio amdano.” Mae Ynyr yn cytuno.

“Dwi’n meddwl bod yr albwm cyntaf yn eitha’ amrywiol o ran y mathau o ganeuon ac offerynnau sydd arno fe, ond fi’n credu efo’r record hwn ni ‘di gallu cymryd hynny hyd yn oed ymhellach i’r pegynau yna, yn swnio hyd yn oed yn fwy eclectig o ran sain.”

Cipolwg o brofiadau teuluol

Er gwaetha’r pegynau cerddorol mae Rogue Jones yn estyn amdanynt, mae’r albwm yn parhau i deimlo fel cyfanwaith diolch i linyn cyswllt sy’n rhedeg trwy’r traciau i gyd, sef ymgorffori’r profiad o ddod yn rhieni, a bywyd fel rhieni yn ei holl annibendod.

Rhwng ysgafnder twyllodrus ‘155 bpm’ sy’n gân wedi’i hysgrifennu yn dilyn clywed curiad calon eu plentyn am y tro cyntaf, a’r sengl ‘Fflachlwch Bach’, sy’n adrodd hanes Bethan yn ceisio cyfansoddi cân ac yn derbyn ychydig o ‘gymorth’ gan frwdfrydedd ei phlentyn hynaf, cawn gipolwg o brofiadau teuluol y cerddorion wrth iddyn nhw barhau i greu celfyddyd.

Er bod ehangder y sŵn ei hun yn gallu teimlo’n ddryslyd ar adegau, o ystyried gwirionedd rhai o’r hanesion agos-atoch sydd ar yr albwm, gellid dadlau bod yr anhrefn sonig yn adlewyrchu’r ffaith nad yw perffeithrwydd yn bod pan rwyt ti’n rhiant. Maen nhw’n dal i ddysgu a ffeindio’r ffordd.

Yn wir, mae rhai o draciau’r albwm yn llawer llai amlwg yn eu cysylltiad i’w bywyd teuluol. Ond fel mae Ynyr yn esbonio, mae hyd yn oed caneuon mwyaf dychmygol yr albwm wedi’u cyfansoddi’n anymwybodol trwy lens rhiant.

“Mae rhai caneuon - ‘Triongl Dyfed’ fi wastad yn meddwl am – sy’ falle’n fwy o outlier o ran themâu, ond mae hyd yn oed hwnna dal gyda cysgod o fod yn rhiant drosti. Er bod ‘Triongl Dyfed’ yn gân rili sili am aliens a llosgi tai haf, fi’n meddwl taw gwraidd e yw fi’n poeni am sefyllfa tai yng Nghymru ac am ddyfodol ein plant ni.”

Diau nad oes ‘na lawer iawn eraill o draciau yn yr iaith Gymraeg yn ymdrin ag un o ymgyrchoedd mwyaf eiconig yr 80au trwy lygaid estroniaid! Ond o wrando’n agosach ar y trac hwn a nifer o ganeuon eraill ar yr albwm, mae Rogue Jones hefyd yn benthyg ac yn cyfeirio at fwy o ddiwylliant a thraddodiad Cymreig na sy’n amlwg ar yr olwg gyntaf.

Edward H. Dafis sy’n rhoi benthyg ei eiriau i uchafbwynt diweddglo ‘Triongl Dyfed’, ac mae gwreiddiau’r gân olaf mewn alaw ychydig yn fwy traddodiadol.

“’Nath y gân ‘R Williams Parry’ ddechrau fel rhywbeth wnathon ni ar gyfer Emyn Roc a Rôl ar Radio Cymru, lle wnaethon ni cover version o’r emyn ‘Blaenwern’,” meddai Ynyr.

“Mae tôn ‘Blaenwern’ dal yn y gân derfynol, ond o’n i jyst isie trio ’neud e’n rhywbeth bydden i’n fwy cyfforddus yn canu amdano.”

“Ni’n cyfeirio at bethau fel crefydd a pethau a bywyd yn ein caneuon ta beth,” ychwanega Beth.

“Felly roedd y fersiwn newydd o ‘Blaenwern’ yn fath o fan cychwyn ar gyfer trywydd gwahanol o’n profiadau ni fel rhieni.”

O’r emynau i’r eclectig

Er gwaethaf pa mor unigryw, creadigol a chyffrous yw sŵn Dos Bebés, mae Bethan yn mynd ymlaen i esbonio cymaint mae emynau fel ‘Blaenwern’ ac alawon gwerin traddodiadol wedi gadael argraff arni hi a’r ffordd mae hi’n mynd at gyfansoddi cerddoriaeth.

“Er doeddwn i ddim o reidrwydd yn gwrando lot arnyn nhw ar y pryd tra roedden ni’n cyfansoddi’r albwm (o’dd e siŵr o fod lot mwy o Cyw yn lle!), fi’n credu maen nhw wastad yna ac yn dylanwadu’r ffordd mae lot o bobl Cymreig yn ysgrifennu. Dydy emynau ddim yn dal yn ôl! Big emotions, big hitters, yr holl harmonis a’r holl fawredd - eto, y pegynau ma! Dwi’n lico meddwl bod ni’n cofleidio hyn i gyd ar ein albwm ni hefyd”

O faledi piano i anthemau disgo, o bop cerddorfaol i dirweddau sain ffilmig; er mwyn llwyddo i greu seinwedd mor eclectig ag sydd ar Dos Bebés, mae’n siŵr ei fod yn anodd pinio lawr un neu ddau enw i’w galw’n dylanwadau artistig. I Ynyr, daw’r dylanwad mwyaf yn hytrach gan feddylfryd un artist yn benodol.

“Er bod dim un cân yn swnio fel Arthur Russell ar yr albwm, fi’n meddwl achos o’n i’n gwrando i dipyn ohono fe tra’n cyfansoddi, a’r ffordd mae e’n plethu lot o offerynnau cerddorfaol, electronig arbrofol, disco, ac arddull singer songwriter, fi’n meddwl o’dd hwnna’n rhywbeth ’nath rhyddhau fi eitha’ lot rhag teimlo fel bod ni’n gorfod sticio i un genre wrth greu’r albwm.”

Rhwng yr holl genres mae Rogue Jones yn plethu at ei gilydd ar yr albwm hwn, mae’r offeryniaeth ei hun yn gyfoethog ac amrywiol, gyda dylanwadau synth pop ac adrannau cerddorfaol ill dau yn hawlio’u lle ar y record. Er bod rhai o’r traciau yn teimlo’n fwy naturiol yn eu lle ar albwm o gerddoriaeth gyfoes, mae eraill fel ‘Gwaed’, er enghraifft, yn teimlo llawer tebycach i drac sain ffilm.

Mynd â rhywun i rywle Gyda’r ddau ohonyn nhw’n gweithio yn y byd celfyddydau gweledol tu hwnt i endid Rogue Jones, dichon fod y ffordd mae Bethan ac Ynyr yn dehongli’r byd cerddorol yn wahanol o ganlyniad.

“Ni yn dod at bethau o le lle ti moyn dweud stori a chyfathrebu teimlad,” cyfaddefa Bethan.

“Dyna beth mae o gyd amdano ar draws y celfyddydau, trio ennyn y teimlad yna yn rhywun arall a mynd â rhywun i rywle.”

“Fi’n gweld lot o wahanol delweddau o fewn y caneuon, mae’n nhw’n eitha gweledol yn fy mhen i,” cytuna Ynyr. “Mae’r caneuon yn ffilmig iawn, mae ‘na stori iddyn nhw gyda chymeriadau sef ni rhan fwyaf o’r amser, a dwi’n meddwl byddet ti’n gallu mynd â phob cân a gwneud ffilm bach mas o nhw.”

Mae’n amlwg bod Bethan wedi cael ei dylanwadu gan y byd ffilm ychydig yn fwy uniongyrchol, hefyd!

“Mae cân ‘Babette’ wedi cael ei ddylanwadu gan y ffilm ‘Babette’s Feast’, ac mae rhywbeth yn y ffilm wedi treiddio mewn i meddwl fi. Ar un adeg, o’n i’n trio recordio breuddwydion fi. Dim exaggeration, dihunais i lan a recordio yn y nos, a phan nes i wrando nôl yn y bore o’n i ‘di ‘sgwennu cân! O’n i’n gorfod neud un neu dau tweak, ond dyna oedd ‘Babette’ wedyn.”

Felly gyda chaneuon sy’n ennyn cymaint o synnwyr gweledol ag ydyn nhw’n bleser i’r clust, y cam naturiol nesaf fyddai disgwyl gweld mwy o Rogue Jones ar y llwyfan yn y flwyddyn nesaf yn dilyn lansiad eu halbwm hirddisgwyliedig.

“Ni’n gobeithio chwarae’n fyw...” dechreua Ynyr.

“Ni’n mynd i chwarae’n fyw!” ychwanega Bethan yn benderfynol.

“Y gig diwethaf ’nes i oedd bola beichog gyda fi! Ac ers hwnna mae plentyn arall gyda ni ac mae pandemig wedi bod. Mae shwt gymaint wedi newid felly fi’n credu bod ni rili angen cefnogaeth ein band bach biwtiffyl newydd ’ma sydd gyda ni i dynnu Ynyr a fi mas o’n bybl bach ni hefyd.”

Yn wir, mi fydd camu i’r llwyfan unwaith eto yn gam anodd i Rogue Jones, ond un fydd yn talu ar ei ganfed hefyd. Gyda chymaint o goctels o sŵn ar yr albwm newydd, dichon fydd rhai o’r cysyniadau cymhleth yn anodd i gyfleu yn fyw. Ond edrychwn ymlaen at weld traciau Dos Bebés yn cael eu hail-ddychmygu a chymryd ar ffurfiau newydd, amrwd a naturiol ar lwyfan yn fuan, gobeithio.

This article is from: